Neidio i'r cynnwys

Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Roberts, Benjamin, 13 Hendrewen Road

← Roberts, Benjamin, 18 Hughes Street Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18

gan William John Owen (Afallon)

Roberts, Cadwaladr Glyn →

PRIVATE BENJAMIN ROBERTS (2)

Wele ddarlun o fab i'r diweddar Mr. a Mrs. John Roberts, 13 Hendrewen Road, Bangor.

Do agorwyd ffordd i gadw
Euog a cholledig ddyn,
Trwy roi'r unig Fab i farw
Gwnaeth hwy'n eiddo iddo'i hun.

Holed dyn efe ei hunan
A yw Iesu iddo'n frawd;
All e sefyll heb ddim dychryn
O flaen wyneb Barnwr pawb.

Wedi credu yn yr Iesu
Hyfryd meddwl pan ddaw'r awr,
Gwelir hwy yn dod i fyny
Oll ar wedd eu Prynwr mawr.

A chant felly gyd-deyrnasu
Yng nghwmpeini Iesu byw;
Mwyach ni bydd arnynt eisiau
Eu digonedd hwy yw Duw.

—W. J. OWEN. (Afallon)


Nodiadau

[golygu]