Neidio i'r cynnwys

Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Roberts, James

← Roberts, Cadwaladr Glyn Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18

gan William John Owen (Afallon)

Roberts, David John →

PRIVATE JAMES ROBERTS.

Dyma ddarlun o fab Mr. a Mrs. Hugh Roberts, 55 Well Street, Bangor. Ymunodd y cyfaill hwn â'r Royal Welsh Fusiliers, ond symudwyd ef i'r Rifle Brigade. Aeth drosodd i Salonica, ond gafaelodd rhyw anhwyldeb mewnol arno, dygwyd ef drosodd i ysbyty ym Manchester, lle y bu farw yn 42 mlwydd oed. Cafodd gladdedigaeth filwrol ym mynwent Glanadda, Meh. 30, 1917.

"Rhwygir hen fynwentydd daear,
I gael hyd i'r perlau glân,
Perlau brynwyd ar Galfaria,
Perlau brofwyd yn y tân."


Nodiadau

[golygu]