Neidio i'r cynnwys

Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Williams, William John, 18 Frondeg Street

← Williams, Williams John, 11 Union Stree Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18

gan William John Owen (Afallon)

Heb Ddarluniau →

PRIVATE WILLIAM JOHN WILLIAMS. (2)

Dyma ddarlun eto o fab annwyl Mr. a Mrs. Williams, 18 Frondeg St., o'r ddinas hon. Ymunodd William ieuanc â'r R.W.F. Mediterranean Expeditionary Force, Medi 9, 1914, cyn bod yn 18 oed. Cyfarfu â'i ddiwedd ym mrwydr y Sulva Bay, Awst 21, 1915, yn 18 mlwydd oed.

"'Roedd angel yn ei angladd ef
A ddaeth o'r cwmwl draw;
Fe glodd y bedd, ac ymaith ffodd
Ar allwedd yn ei law."

—Islwyn.


Nodiadau

[golygu]