Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands/Attodiad A
| ← Y Pregethau a Gyhoeddodd | Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands gan John Owen, Thrussington |
Attodiad B → |
ATTODIAD. A.[1]
SONIR mewn dau fan yn hanes bywyd Howel Harris, a gyhoeddwyd yn Saesneg yn Nhrefecca, yn 1791, am Rowlands, yn yr amser hwn. Y son cyntaf sydd yn y cofnodiadau a rydd am y flwyddyn 1738, yn y geiriau a ganlynant:— "By this time the Rev. Mr. Rowlands, and some other young clergymen, were called in Wales to preach the gospel in the same extemporary manner as I was.—Erbyn yr amser hwn gelwid y Parchedig Mr. Rowlands, a rhai offeriaid ieuainc eraill yn Nghymru, i bregethu yr Efengyl, heb ragddarparu,[2] fel y gwnaethym fy hunan."[3]
Y lle arall y crybwylla am Rowlands sydd mewn Llythyr at y Parchedig G. Whitfield, a ddyddiwyd, Ion. 8, 1739. Dengys y lle hwn fod Rowlands wedi dechreu ei waith mawr, o leiaf, yn y flwyddyn 1738, gan y sonia H. Harris am ddiwygiad mawr trwyddo yn nechreu y flwyddyn 1739, nid yn unig yn ei Sîr ei hun ond yn sîr Gaerfyrddin. Ei eiriau ydynt fel y canlyn:—"There is a great revival in Cardiganshire through one Mr. Rowlands, a church Clergyman; and he has been much owned and blessed in Caermarthenshire also. Y mae adfywiad (neu ddiwygiad) mawr yn sir Aberteifi, trwy un Mr. D. Rowlands; a chafodd ei arddel a'i fendithio yn fawr hefyd yn sir Gaerfyrddin".[4]—Tebyg yw, mai nid mewn blwyddyn yr ymledodd y diwygiad hwn, a darfod i Rowlands gael ei droedigaeth yn gynharach na'r flwyddyn 1738, a hyny o gryn amser, ef allai, ddwy neu dair blynedd. Os felly, cafodd Harris a Rowlands eu goleuo am y gwirionedd yn agos i'r un pryd. Amser troedigaeth Harris oedd 1735; ac yn yr haf, 1737, y dechreuodd bregethu yn deithiol, flwyddyn neu ddwy oflaen Whitfield a Wesley yn Lloegr.
Gwedi ysgrifenu y sylwadau uchod, darllenais yr hyn sydd yn eu cadarnhau yn "Hanes y Bedyddwyr, gan Joshua Thomas," a gyhoeddwyd yn y flwyddyn 1778. "O gylch yr un amser," medd yr awdwr, neu yn fuan wed'yn, dechreuodd Mr. Daniel Rowlands, gweinidog o eglwys Loegr yn sir Aberteifi, bregethu mewn ffordd anghyffredin iawn yn Eglwys Loegr. Yr wyf yn cofio i mi ei glywed o gylch 1737 yn sir Gaerfyrddin."[5]—Dyma efe wedi dechreu flwyddyn cyn yr amser a nodir gan Howel Harris, ac yr oedd yn pregethu y pryd hyn mewn "ffordd anghyffredin iawn." A chwanega yr awdwr y geiriau hyn:—"Yr oedd yno luaws yn gwrando; ac mi a glywais rai o'r Ymneillduwyr yn son am y bregeth wrth ddychwelyd adref. Yr wyf yn cofio mai rhan o'r ymadrodd oedd hyn (tebyg mai ieuanc oedd yr awdwr eihun y pryd hyn):—"Ni chlywsom erioed ei gyffelyb yn Eglwys Loegr, ond Mr. Griffith Jones. Ni bu yn ein dyddiau ni y fath oleuni ymhlith pobl yr Eglwys."