Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands/Attodiad E
Gwedd
| ← Attodiad D | Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands gan John Owen, Thrussington |
Attodiad F → |
ATTODIAD E.[1]
Gwr o Lanllyfni, yn sir Gaernarfon, fel y clywais, ydoedd Robert Roberts: a chof genyf ei glywed ychydig o weithiau, yn fy ieuenctid. Hynod oedd egni a thanbeidrwydd ei lefaru. Yn hyn yn neillduol, y meddyliaf, y tebygai i Rowlands: ond yr oedd yn ddiffygiol yn yr ucheledd a'r godidowgrwydd a berthynent i'r diweddaf; ac hefyd yn yr arddeliad rhyfedd a ganlynai ei weinidogaeth. Yr oedd amryw ag a feddianent rai pethau yn gyffelyb iddo; ond nid oedd neb yn perchenogi y cyflawnder o ddoniau a gyfranasid iddo ef. Y cyfander hwn oedd yn gwneuthur i fynu ei ragoriaeth neillduol.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Tudalen 60.