Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands/Attodiad G
| ← Attodiad F | Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands gan John Owen, Thrussington |
Attodiad H → |
ATTODIAD G[1]
Cof yw gan yr awdwr am ymddiddan a fu rhyngddo unwaith â'r diweddar odidog Robert Hall. Wrth alw arno un bore, cafodd ef yn darllen "Hanes Cyfodiad a chwymp Ymerodraeth Rhufain, gan Gibbon."
"Wel," meddwn wrtho, " yr ydych yn darllen gwaith Gibbon." "Ydwyf," meddai yntau, "ond Robert Hall gyda golwg ar wrthddrych neillduol fy swydd: ymderchaf wneuthur pobpeth a ddarllenwyf yn wasanaethgar i'r weinidogaeth, yn ddefnyddiol i'r areithfa." Dyma fel y dylai fod gyda phob gweinidog, sef casglu pobpeth a allo i ateb dyben ei swydd. Pa le bynag y byddo, bethbynag a wnelo, neu a sylwo arno, dylai olygu y cwbl gyda chyfeiriad at ei waith fel gweinidog efengyl Duw. Dyma y drefn a ddylynai Rowlands, ac a fu yn ddiau yn ddefnyddiol i'w wneuthur mor odidog.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Tu dalen 69.