Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands/Attodiad H
| ← Attodiad G | Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands gan John Owen, Thrussington |
Attodiad I → |
ATTODIAD H[1]
Yr oedd Thomas Gray ar y cyntaf yn löwr o sir Forganwg. Ei ddechreuad oedd gyda'r Presbyteriaid, a daeth yn weinidog i Abermeirig, yn agos i Langeitho, ac i ddau le ereill. Ond ymunodd wed'yn â'r Trefnyddion. Dyn cryn fawr o faint, a chryf o gorph ydoedd; a chryf hefyd o ran syniadau ei feddwl, a thra charedig o ran ei serchiadau. Trwsgl oedd ei ymadroddi; ond cywir a thra efengylaidd oedd ei athrawiaeth. Diaddurn ac eglur iawn, a phrofiadol hefyd ac ymarferol, oedd ei bregethu; a diysgog a chadarn iawn oedd yn y ffydd. Nid yn ffurf, ond yn ngrym duwioldeb y rhagorai. Yr ydoedd yn llwyr onest, diragrith a difrifol, a chanddo fesur helaeth o gydymdeimlad, a chariad brawdol, ac o ddidueddrwydd yspryd. Yr oedd Rowlands yn ei hoffi yn fawr iawn: a phan ofynai ei bobl iddo, ychydig cyn ei farw, pwy a allent gael i lenwi ei le, ei ateb oedd, "Thomas Gray:" Y cyfryw oedd ei dyb amdano, oherwydd ei ddeall helaeth, synwry cryf, ac yn enwedig, ei fawr dduwioldeb. Er na ddirmygai Rowlands ddoniau mawr, eto gwerthfawrogai bur dduwioldeb yn fwy na dim arall.
Tebyg na adawodd neb ar ei ol a garai ei goffhau yn fwy na Thomas Gray. Mynych yn ei bregethau y cyfeiriai at ryw ddywediadau o eiddo Rowlands: ac enwai ef yn gyffredin yn y modd canlynol, "Fel y dywedodd yr hen Rowlands, yr hwn sydd yn awr yn nghwrt y nef." Ei bregethau oeddynt bob amser yn ddwys ac yn adeiladol, ond ar brydiau yn nerthol ac yn dra thoddedig; yn enwedig, pan y caffai ei draed dano, fel yr arferai ddywedyd. Yr oedd ei fuchedd a'i yspryd yn gyfryw, fel na allai, hyd yn nod gelynion crefydd, lai na chyfaddef ei ragoroldeb.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Tu dalen 74.