Neidio i'r cynnwys

Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands/Rhagfynegiad

Oddi ar Wicidestun
Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands

gan John Owen, Thrussington

Sylwadau rhagflaenol—Ei haniad, dygiad i fynu, a'i ymarweddiad yn ei ieuenctid


RHAGFYNEGIAD.

NID anaddas, fel y tybiaf, yw gosod, o flaen Coffhad o fywyd Rowlands, fynegiad byr am y rhai mwyaf enwog yn achos Gwir Grefydd yn Nghymru o amser y Diwygiad mawr oddiwrth Babyddiaeth hyd ddechreu y canrif hwn. Dylai eu henwau fod mewn coffadwriaeth parhaus, am y daioni a'r lles a wnaethant i'w cydgenedl. Gwedi rhoi hysbysiad byr amdanynt, gosodaf Daflen, a ddengys yr amser y buant byw, ac yspaid bywyd pob un, fel y canfydder y pethau hyn ar yr un golwg. Y rhai canlynol a dybiaf yn fwyaf enwog:

1. William SALESBURY, Yswain.

Ganwyd y gwr rhagorol hwn yn y Plas-isaf, yn agos i Lanrwst, tua dechreu y canrif unfed ar bymtheg. Cafodd ei ddysgeidiaeth yn Rhydychain; ac aeth wed'yn i Lundain er cael hyddysgrwydd yn y gyfraith wladol. Nid arosodd yno yn hir; ond dychwelodd i'w wlad enedigol. Cyfaneddodd, fel y dywedir, yn y Cae-du, Llansannan, Sir Ddinbych. Ei fryd neillduol oedd ar ddysgu ieithoedd, a gwyddai, meddir, naw ohonynt, heblaw y Saesneg a'r Gymraeg. Cyhoeddodd amryw lyfrau yn iaith ei wlad. Y rhai canlynol a briodolir iddo yn y 'Gwyliedydd' am y flwyddyn 1826, tudalenau 194, 195. Y trydydd Llythyr o eiddo Garmon ydyw:

1. Geirlyfr Saesneg a Chymraeg, yn y flwydddyn — 1547
2. Calender o fisoedd a dyddiau y flwyddyn
3. Dymchweliad allawr uchel y Pab — 1550
4. Arweinydd hawdd ac eglur i'r iaith Gymraeg — 1550
5. Cyfieithad o'r Epistolau a'r Efengylau — 1551
6. Rhetoreg,neu Egluryn Ffraethineb
7. Cyfieithad o'r Testament Newydd — 1567


Y cyntaf, ac fe allai, y ddau gyntaf, a gyhoeddodd yn nheyrnasiad Harri yr wythfed. Y tri canlynol, 3, 4, 5, a ddaethant allan o'r wasg yn amser Edward y chweched. Y nesaf, sef y 6, a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth, gan y Parchedig H. Perri; a dywedir i'r gwr dysgedig hwn ei ddiwygio, a chwanegu ato.

Ond y gwaith penaf, a ymafaelodd ynddo, ydyw y diweddaf yn y rhestr hon, sef, Cyfieithad o'r Testament Newydd; a'r hyn yn ddiau a fythola ei enw. Cynhorthwyid ef yn enwedig gan ddau eraill, sef, y Doctor R. Davies, Esgob Ty Ddewi, a'r Parchedig Thomas Huet, cantor Ty Ddewi. Ond ei gyfieithad ef yw y cwbl

oddieithr y rhanau hyn:

Gan yr Esgob Davies,
Epistol cyntaf at Timotheus,
Epistol at yr Hebreaid,
Epistol Iago,
a dau Epistol Pedr

Gan Parch. T. Huet,
Llyfr y Datguddiad.

2. Richard DAVIES, D.D. Esgob Ty Ddewi. Mab i uchelwr yn sir Ddinbych ydoedd y gwr hwn. Cyfoedol oedd a Wiliam Salesbury, a ganwyd ef, fel y dywedir, ynghylch y flwyddyn 1501.—cafodd ei ddygiad i fynu yn Rhydychain. Rhoddwyd iddo yn gyntaf Fywioliaeth Burnham a Maidsmerton yn sir Buckingham; a gwnaed ef yn Ganon yn Eglwys Llanelwy. Yn amser Mari waedlyd gorfu arno ymalldudo i'r Cyfandir. Dychwelodd i'w wlad ei hun ar dderchafiad y frenhines Elisabeth' yn y flwyddyn 1558; a gwnaed ef, y flwyddyn ganlynol, yn Esgob Llanelwy: ond ymhen dwy flynedd sef yn 1561, symudodd i Dy Ddewi, a bu yno ugain mlynedd, sef hyd ei farwolaeth, yn y flwyddyn 1581.

Cyfrifid ef yn ddyn dysgedig. Yr oedd yn un o'r dysgedigion a ddiwygiasent y Cyfieithad Saesneg o'r Bibl yn y flwyddyn 1568. Rhanesid y Bibl yn bymtheg rhan, a'r rhan, a gyfieithiasai yr Esgob Davies, a gynhwysai Lyfrau Josua, Barnwyr, a Ruth. Dywedwyd yn barod pa lyfrau o'r Testament Newydd a gyfieithodd i'r Gymraeg. Ysgrifenodd hefyd Lythyr at y Cymry, a osodwyd oflaen y Testament hwn. Dengys y Llythyr hwn ddysgeidiaeth helaeth, a brydedd gwresog a difrifol dros achos gwir grefydd. Dywed ynddo i " Weddi yr Arglwydd, y Credo, a'r deg Gorchymyn," gael eu cyfieithu a'u cyhoeddi o'r blaen gan un Syr John Prys.

3. Y Parchedig Thomas HUET.

Pa amser y ganwyd ef, nis caf allan. Bu farw yn y flwyddyn 1591. Yr oedd yn gantor Ty Ddewi, a Pheriglor Cefnllys a Diserth, yn sir Faesyfed. Ei gymeradwyaeth fwyaf yw, bod o hono yn gynhorthwyol yn nghyfieithad cyntaf y Testament Newydd.

4. Wiliam MORGAN, D.D. Esgob Llanelwy.

Dyma y gwr i'r hwn y perthyn yr anrhydedd a'r hynodrwydd canmoladwy, o argraffu yr holl Fibl gyntafyn Gymraeg; ac i'r hwn y dylai y Cymry oll deimlo y rhwymedigaethau mwyaf diolchgar. Ganwyd y gwr rhagorol hwn yn Ewybrnant, Penmachno, sir Gaernarfon: ond cafodd ei ddwyn i fynu yn Nghaergrawnt (Cambridge). Yroedd yn Ficar Llanrhaiadr-yn-Mochnant, pan oedd wrth y gwaith o gyfieithu y Bibl. A chymaint oedd grym pabyddiaeth yn y wlad, fel y darfu rhai o'i blwyfolion, am ryw achos crefyddol neu gilydd, ei wysio i ymddangos gerbron llys yr Archesgob i ateb drosto ei hun. A hyn a wnaeth rwyddhau ei waith, canys darfu hyn ei ddwyn i adnabyddiaeth a'r archesgob. Pan wybu Whitgift, yr archesgob, ei fwriad, anogodd ef i fyned yn mlaen. A thrwy ei gymhorth ef ac eraill, cyhoeddodd yr holl Fibl yn y flwyddyn 1588,—blwyddyn a ddylai pob Cymro gofio amdani gyda'r diolchgarwch mwyaf. Yr Hen Destament a'r Apocrypha, oeddynt ei gyfieithad ef ei hun; a diwygiodd y Newydd, a gawsai ei gyhoeddi o'r blaen gan Salesbury.

Ymddengys iddo gymeryd y gwaith pwys fawr hwn mewn llaw yn unig o ewyllys da, ac nid trwy orchymyn y llywodraeth, na thrwy gais nac anogaeth uchelion yr Eglwys. Yn y bumed flwyddyn o deyrnasiad Elisabeth, sef, 1563, gwnaed deddfiad gan y Senedd ynghylch cyfieithu y Bibl i'r Gymraeg. Rhoddwyd gorchymyn ar bedwar Esgob Cymru, ynghyd ag Esgob Henffordd, i ddwyn hyn i ben, erbyn Mawrth, yn y flwyddyn 1566, dan y perygl o dalu deugain punt o ddirwy bob un, os methent gyflawni y gwaith. Beth bynag a ddaeth o'r ddirwy, y gwaith a esgeuluswyd. A thebyg fod cymaint o reddf babyddol yn y wlad, ac, efallai, yn yr Esgobion eu hunain, neu yn rhai ohonynt, fel na anturiasant, neu, na chwenychasant gymeryd y gwaith mewn llaw. Yr oedd calon at y gwaith yn eisiau. Y mae y Doctor Llywelyn, yn ei "Hanes," yn Saesneg, "o gyfieithiadau ac argraffiadau o'r Bibl yn y Gymraeg," yn gwneuthur ei oreu, yn ei garedigrwydd, i esgusodi yr Esgobion hyn; ond nid, fel y tybiaf, yn unol a'r hyn a ddywed y Doctor Morgan, yn ei gyflwyniad i'r Frenhines, a osododd o flaen ei Fibl. Y geiriau y cyfeiriaf atynt ydynt y rhai canlynol:—

Quod idem nostram ignaviam et segnitiem si mul prodit; quòd nec tam gravi necessitate mo veri, nec tam commodâ lege cogi potuerimus, quin tam diu res tanta (quâ majoris esse mo menti nihil unquam potuerit) intacta pene re manserit.—"Yr unrhyw beth [sef, deddfiad y senedd] a amlyga, ar yr un amser, ein seguryd, a'n diogi; am na allem gael ein cynhyrfu gan angenrheidrwydd mor fawr, na 'n cymhell gan ddeddf mor fuddiol; ond darfu i orchwyl cymaint (na'r hwn nis gallasai fod un yn fwy) aros cyhyd heb neb ymron i gyffwrdd ag ef." Seguryd a diogi, oeddynt rai o'r achosion, fel y dywed y Doctor Morgan. Yr oedd difrawder o ran yr ysgrythyrau yn gyffredin yn y wlad, ac yn llawer, wrthwynebiad llwyr iddynt.

Gallwn feddwl oddiwrth yr hyn a ddywed y Doctor yn ei gyflwyniad, fod peth arall hefyd yn achos o'r esgeulusdod hyn. Yr oedd chwenychiad o ran amryw uchelion, esgobion ac eraill, i beidio rhoi y Bibl yn Gymraeg i'r Cymry, gan feddwl y byddai iddynt mewn amser arferyd yr un Saesneg. At hyn y cyfeiria yn y geiriau a ganlynant:—

Si qui, consensûs retinendi gratiâ, nostrates, ut Anglicum sermonem ediscant, adigendos esse potiùs, quàm scripturas in nostrum sermonem vertendas esse volunt; dum unitati student, ne veritati obsint, cautiores esse velim; et, dum concordiam promovent, ne religionem amoveant, magis esse sollicitos optc—"Os ewyllysia neb, er mwyn cadw cydsyniad, i'n cenedl ni gael ei gyru i ddysgu yr iaith Saesneg, yn hytrach nag i'r Ysgrythyrau gael eu troi i'n hiaith, ewyllysiwn iddynt fod yn fwy gochelgar, rhag rhwystro ohonynt y gwirionedd, wrth fod yn awyddus am undeb; a dymunaf arnynt fod yn fwy gofalus, rhag, wrth ddwyn ymlaen gyduniad, y gyront ymaith grefydd." Mor addas ac mor ddoeth hefyd yw y geiriau hyn:—

Non dubium est, quin religionis quàm sermo nis ad unitatem plùs valeat similitudo et consen sus. Unitatem prætereà pietati, utilitatem religi oni, et externam quandam inter homines con cordiam eximiæ illi paci, quam Dei verbum humanis animis imprimit, præferre, non satis pium est.—"Nid oes amheu, na lwydda tebygolrwydd a chydsyniad crefydd, yn fwy nag iaith, tuag at undeb. Heblaw hyny, nid peth llwyr dduwiol, yw dewis undeb o flaen duwioldeb, buddioldeb o flaen crefydd, a rhyw gyduniad allanol o flaen y tangnefedd rhagorol hwnw, a argraffa Air Duw ar feddyliau dynion."

Y mae cywirdeb, helaethrwydd deall, ac ucheledd hynod yn perthyn i syniadau y gwr duwiol hwn. Rhagora lawer, fel y tybiaf, yn y pethau hyn, ar yr Esgob Parry; yr hwn, fel yntau, a osododd gyflwyniad o flaen y Bibl a gyhoeddodd. Yr oedd gan yr Esgob Morgan, yn amlwg, gyrhaeddiadau mwy, ehangach golygiadau, ac amgyffredion mwy goruchel, urdd asol a mawreddus. Prawf eglur o hyn a gan fyddir yn ei gyflwyniad, wrth ei gydmaru ag eiddo yr Esgob Parry.

Dywed y Doctor Morgan am amryw a'i cefnogent ac a'i cynhorthwyent yn ei waith. Sonia am Whitgift, yr Archescob, yn barchus iawn, fel un a'i cynhorthwyodd "a'i haelioni, awdurdod, a'i gynghor (liberalitate, auctoritate, et con silio)". Dywed am Esgobion Llanelwy (W. Hughes), a Bangor, (H. Bellot), iddynt " ganiatau iddo y llyfrau a geisiodd," ac iddynt edrych dros y gwaith (examinare) ei ddwys ystyried (perpendere), a'i gymeradwyo (approbare). Crybwylla am Gabriel Goodman, deon Westminster, yr hwn a fu garedig ac haelionus iawn iddo, yn nhŷ yr hwn y bu yn cartrefu dros y flwyddyn gyfan y bu yn arolygu y wasg. Enwa hefyd y tri canlynol, y rhai a "roddasant help nad oedd i'w ddirmygu," sef, "Dafydd Powel, D.D.,—Edmund Prys, Archddiacon Meirionydd,—a Richard Vaughan, periglor Lutterworth."

Gwedi deddfiad y senedd, na chafodd ei gyflawni, yn y flwyddyn 1563, ni fu un ymdrech ar ran y Llywodraeth, er cyfieithu neu argraffu y Bibl yn y iaith Gymraeg; na fu, hyd yn nod hyd yn bresenol. Y cyfieithad sydd genym, ni wnaed yn ol unrhyw awdurdod seneddol neu frenhinol; ond gwaith rhydd-ewyllysiol y Doctor Morgan yw, wedi ei ddiwygio ar ol hyny, heb un awdurdod, ond o ewyllys da, gan yr Esgob Parry, ac wedi hyny gan yr Esgob Llwyd.

Cafodd Doctor Morgan ei wneud yn Esgob Llandaff yn y flwyddyn 1595, saith mlynedd wedi iddo gyhoeddi y Bibl; ac yn y flwyddyn 1601, symudwyd ef i Lanelwy, ac i well lle, fel y dywed y Doctor Llywelyn, yn ddiau ar sail dda, yn y flwyddyn 1604.

5. DAFYDD POWEL, D.D.

Ganwyd ef, fel y dywedir, yn sir Ddinbych, tua ' r flwyddyn 1552; ond ni chaf allan, pa le: a bu farw yn y flwyddyn 1598. Ficar Rhiwabon ydoedd; a bu, fel y gwelsom, yn un o gynhorthwywyr y Doctor Morgan yn y gwaith o gyfieithu y Bibl. Cyfrifid ef yn ddyn dysgedig, a hyddysg yn henafiaethau y Cymry.

6. John DAVIES. D. D.

Lle genedigol y gwr dysgedig hwn ydoedd Llanferas, yn sir Ddinbych. Cafodd ei ddwyn i fynu yn ysgol Ruthin, ac yna yn Rhydychain. Mallwyd, yn sir Feirionydd, a fu ei breswylfod dros ei oes. Ganwyd ef yn y flwyddyn, 1570; a bu farw yn y flwyddyn, 1644. Meddylir iddo fod yn gynhorthwy i Doctor Morgan, er na sonia amdano. Ieuanc oedd yr amser hyny. Gwna yn wir, ei hun, ddywedyd cymaint a hyn yn ei Ragymadrodd i'w Ramadeg o'r iaith Gymraeg, fel y crybwylla y Doctor Llywelyn. Addefa y buasai yn anheilwng weinyddwr (indignus administer) i'r ddau gyfieithydd o'r Bibl Cymraeg. Ond y cymhorth mwyaf a roddodd i'r Esgob Parry, pan gyhoeddodd argraffiad diwygiadol o'r Bibl yn y flwyddyn 1620. Y mae lle i feddwl iddo fod yn gynhorthwyol iawn i'r Esgob yn y gwaith hwn. Cyhoeddodd rai llyfrau, ond y penaf, oeddynt Ramadeg Gymraeg yn Lladin, a geir lyfr Lladin a Chymreg, a ddarperid gyntaf gan un Doctor Thomas Wiliams, physygwr o Drefriw, yn agos i Lanrwst. Dywedir mai y Dr. John Davies, ydoedd cyfieithydd "Y namyn un deugain Articlau crefydd." a gyhoeddwyd gyntaf yn 1664. 7. Y Parchedig Edmund PRYS.

Ganwyd y gwr hwn yn y Gerddi-bluog, Llandecwyn, sir Feirionydd, yn y flwyddyn 1541. Dygwyd ef i fynu yn Nghaergrawnt; a chafodd fywioliaeth Maen-Twrog. Yr oedd hefyd yn archddiacon Meirionydd. Bu farw ynghylch y flwyddyn 1621, tua 80 oed. Gwelsom eisoes y cydnabyddiaeth a wna y Doctor Morgan o'r cymhorth a gafodd ganddo. I'r gwr prydyddol a dysgedig hwn yr ydym yn rhwymedig am y Salmau cân; y rhai a fuont o ddefnydd mawr i'r wlad yn gyffredin. Wrth feddwl mai yr ym drech cyntaf oedd, o leiaf mewn mesurau a ellir ganu, efe a lwyddodd yn hynod yn ei waith; er bod llawer o fanau ag ydynt yn dra chlogyrnaidd ac annealladwy. Nid annhebyg yw y gwaith, o ran ei deithi, i'r eiddo Sternhold a Hopkins yn Saesneg.

8. Richard PARRY, D.D.

Rhuthin ydoedd ei le genedigol; achafodd ei ddysgeidiaeth yn ysgol Westminster, tan yr enwog hanesydd Camden. Aeth oddiyno i Rydychain. Gwnaed ef yn Ganghellwr Bangor yn 1592, ac yn Ddeon Bangor yn 1599. Efe a wnaed yn brif-athraw Ysgol fawr Rhuthin, a sylfaenwyd yn 1595 gan Gabriel Goodman, Deon Westminster, a chynhorthwyydd y Doctor Morgan yn ei waith o gyhoeddi y Bibl yn 1588. Efe oedd yr ail' athraw o'r Ysgol hono, y cyntaf oedd y Parchedig Richard Griffith. Cysegrwyd ef yn Esgob Llanelwy, ar farwolaeth y Doctor Morgan, yn 1604. A bu farw yn y ffwyddyn 1624.

Cyhoeddodd yr ail argraffiad o'r Bibl yn 1620, wedi ei gyfnewid mewn amryw fanau, ac wedi ei ddiwygio mewn rhai. Llai ei ddysg, ei synwyr, a'i gyrhaeddiadau, oedd yn ddiau, na'i ragflaenydd yn y gwaith; ond cafodd gynhorthwy gwerthfawr y dysgedig Doctor John Davies, o Fallwyd. Gellir dywedyd i'r argraffiad hwn gael ei Saesnigo, gan fod eiddo y Doctor Morgan yn fwy Hebreaidd a Chymreigaidd. Haera rhai mai o'r Saesneg y gwnaeth y Doctor Morgan ei gyfieithad, ac eraill, mai o'r Hebraeg. Darfu ef yn ddiau, fel pawb eraill yn y fath orchwyl, ddefnyddio pob cymhorth o fewn ei gyrhaedd. Darfod iddo ganlyn geiriadwedd yr Hebraeg mewn amryw fanau, sydd gyflawn eglur; ac iddo ganlyn geiriadwedd y Saesneg mewn lleoedd eraill, sydd ddiamheuol. Pe canlynasai yr Hebraeg yn fwy, buasai y cyfieithad yn well, ac, yn ol a feddyliaf, yn fwy cydunol a geiriadwedd a theithi y Gymraeg.

Yr achosion a barasant yr argraffiad hwn a noda yr Esgob yn ei gyflwyniad ohono, o flaen y Bibl, i'r brenin Iago y cyntaf. Dywed, nad oedd Biblau mewn rhai Eglwysi, a'u bod mewn eraill, ymron wedi treulio allan; a dywed ymhellach, na wyddai am neb a fwriadai argraffu rhai newyddion. Llyfr mawr, unplyg, oedd yr un a gyhoeddodd y Doctor Morgan, mewn llythyrenau duon: a chyfelyb un ydoedd yr ar graffiad hwn. Nid oedd gan y Cymry eto un Bibl yn eu teuluoedd, nac hyd yn nod yn yr holl Eglwysi. Yr oedd y pryd hwn, sef 1620, fel y sylwa y Doctor Llywelyn, yn agos i gant o flynyddau er amser yr ymwadiad a Phabyddiaeth; ac eto yr oedd y Cymry yn cael eu gadael yn amddifaid o'r Ysgrythyrau yn eu teuluoedd! A buont felly hyd ryw amser wedi hyn, oherwydd ni olygai yr Esgob Parry ddim yn chwaneg na chyflawni yr eisiau ag ydoedd yn yr Eglwysi. Da hynod ydoedd hyn, ond gwell fyth a fuasai, pe buasai y dyben yn helaethach. Yr anrhydedd hyn a berthyn i'r ddau wr a enwaf nesaf:—

9. Rowland HEYLIN, henadur (Alderman) Llundain, a Syr Thomas MIDDLETON, henadur Llundain.

Yr oedd y cyntaf, fel y dywedir, wedi deillio o deulu Cymroaidd; a Chymru oedd lle genedigol yr ail, sef, Castell y Waen, sir Ddinbych. Amser penodol eu genedigaeth a'u marwolaeth, nid yw yn adnabyddus i mi. Trwy eu haelioni a'u dyngarwch hynod, y cafodd y Cymry y Bibl gyntaf o fewn eu cyrhaedd ac yn eu meddiant eu hunain, a hyny, yn y flwyddyn 1630, yn nheyrnasiad Charles y cyntaf. Bibl wythplyg ydoedd hwn, addas, o ran maintioli, i deuluoedd a phersonau unigol; a gwerthid ef am bris isel. Gwedi dechreu y gwaith da, aeth ymlaen: cafodd TRI argraffiad o'r un plygiad, eu dwyn allan o'r wasg cyn diwedd y canrif hwn, y rhai a gynhwysent ynghyd, tua deng mil ar hugain o Fiblau. Ni wyddir pa nifer oedd yn yr argraffiad hwn, sef yn y flwyddyn 1630. Nis gallwn ni yn awr ddim dychymygu cyflwr y wlad, ddau cant o flynyddau yn ol, pan nad oedd Biblau i'w cael ond yn yr Eglwysi!

Dau cant ac wyth, yn gywir, ydyw yr amser, er pan y gallasai ein cyndeid gael y Bibl, yn eu hiaith eu hunain, yn eu teuluoedd. Pa faint mwy ydyw breintiau yr oes bresenol, pan y gall, nid un o bob teulu gael y Bibl, ond pob un trwy y wlad, hyd yn nod y tlotaf. Nac anghofiwn fawr ddaioni rhagluniaeth ddwyfol.

10. Y Parchedig Rees PRICHARD.

Llanymddyfri, yn sir Gaerfyrddin, fel y tybir, oedd y lle y ganed y dyn duwiol hwn, yn gystal a'r lle yn benaf y bu efe yn gweinidogaethu ynddo. Ei enedigaeth oedd ynghylchy flwyddyn 1579, naw mlynedd cyn cyhoeddi yr holl Fibl yn Gymraeg. Cafodd ei ddysg yn Rhydychain. Ychydig amser wedi ei swyddogi yn offeiriad, rhoddwyd bywioliaeth Llanymddyfri iddo gan Esgob Ty Ddewi; a chyflwynwyd ef gan y brenin Iago i Eglwys Llanedi, yn 1612. Tra annuwiol oedd yn ei ddechreu, yn ymroddi i feddwdod; ond efe a gafodd droedigaeth, a hyny, fel y dywedir, trwy ymagweddiad bwch gafr. Dylynai hwn ef 'i'r Tafarn-dy; ac o oferedd a digrifwch rhoddodd iddo ddiod ar un tro nes ei feddwi: ond ni ellid mwy ddwyn y bwch i'r tafarn-dy. Effeithiodd hyn yn fawr ar feddwl Prichard; a thrwy ragluniaeth radol, trodd yn ddyn arall: a bu wed'yn yn dra ymdrechgar yn ngwaith ei swydd oruchel. Bu farw, Tachwedd, 1644.

Dyma y pregethwr poblogaidd cyntaf yn Nghymru (ynghyda'r ddau a enwir isod) ag y mae hanes amdano. Cwyna yn chwerw am ball llwyddiant yn Llanymddyfri; ond yn Llanedi yr oedd iddo lwydd mawr. Cymaint y lluoedd oedd ar brydiau yn ei wrando yno, fel y gorfyddai arno bregethu iddynt allan yn y fynwent. Ond yr hyn a fythola ei enw yn Nghymru, yw ei waith prydyddol, ei Ganiadau, tan yr enw, "Canwyll y Cymry," neu "Llyfr Ficar." Y maent mor adnabyddus fel na raid dangos eu rhagoriaeth. Maent wedi eu cyfansoddi yn iaith gyffredin y wlad, ac yn cynhwys gwirioneddau pur ac eglur yr Efengyl. Dywediad un gwr duwiol a chyfrifol iawn amdanynt oedd, a dywediad cywir yw hefyd,—"Y cynhwysant hufen yr Ysgrythyrau." Eu defnyddioldeb yn barod a fu yn ddiau tu hwnt i'r hyn a ellir yn hawdd amgyffred: a diamheu y parhaa eu defnyddioldeb tra parhao yr iaith Gymraeg. Rhoddwyd hanesiad byr, cynhwysfawr, at hra pharchus am Prichard yn Rhifyn vi. o'r "Drysorfa Ysprydol." Yr ysgrifenydd, y mae yn debygol, oedd y diweddar Barchedig Thomas Charles, o'r Bala.

11. Y Parchedig - WROTH.

Nid oes dim hysbysrwydd am ei le genedigol. Ei ddygiad i fynu oedd yn Rhydychain, lle yr arosodd bedairarddeg o flynyddau. Cafodd Eglwys Llanvaches, yn sir Fynwy, tua 'r flwyddyn 1620. Yr oedd yn haner cant oed cyn iddo gael ei droedigaeth. Dyn hoff iawn oedd o gerddoriaeth, a difyrai ei blwyfolion ar ol y gwasanaeth ar y Sul, trwy chwareu iddynt ar offeryn cerdd yn y fynwent. Marwolaeth ddisymwth cyfaill iddo a fu yn ddefnyddiol tuag ei ddadebru o'i gyflwr pechadurus ac annuwiol. Pan welodd werth crefydd ei hun, chwenychai ddwyn eraill i feddiant ohoni. Dechreuodd ar y gwaith, anghyffredin yn y dyddiau hyny, o bregethu yn fynych. Nid oedd y Bibl y pryd hyn i'w gael ond yn yr Eglwysi: anwybodaeth mawr oedd trwy y wlad. Cyrchodd lluoedd nifeiriol i'w wrando, a llwyddiant mawr a fu ar ei weinidogaeth. Deuai rhai i'w wrando o siroedd Brycheiniog, Morganwg a Chaerloyw, ac o fanau pellach fyth.

Ond ni adawyd iddo fyned ymlaen yn ei waith nefolaidd, heb wrthwynebiad. "Llyfr y chwareuon" a fu y tramgwydd mwyaf iddo. Nacaodd ei ddarllen ar y Sul: a hyn fu yn achos iddo gael ei wysio gerbron y Llys a sefydlid, i drin pethau o'r fath hyn, gan y pabaidd Archesgob Laud, a'i blaid annuwiol. Yr oedd hyn ynghylch y flwyddyn 1635: ond ni chafodd ei daflu allan o'r Eglwys y pryd hyny; er, y gwnaed hyn iddo ychydig o flynyddau gwed'yn. Wedi ei droi allan, fel y dywedir, gan yr Archesgob Laud, aeth ymlaen yn ei waith o bregethu: ac efe oedd y cyntaf yn Nghymru a Gasglodd gynulleidfa o Ymneillduwyr. Bleiddiaid oeddynt wedi trawsfeddianu yr Eglwys, ac ni oddefent i'r defaid aros ynddi. Nis gallent eu difrodi, o wall awdurdod; onide, gwnaethent hyny ynddiau, yn ol arfer y pabyddion. Dyma ddechreuad ymneillduaeth, wedi ei achosi gan ormes y rhai a ddringent i leoedd nad oeddynt yn perthyn iddynt. Tebyg yr un driniaeth a gafodd Rowlands. Cawn hanes fer am ryfedd lwyddiant Wroth yn y "Drysorfa Ysprydol," Tud. 154-156. Bu Wroth farw yn y flwyddyn 1640.

12. Y Parchedig Robert POWEL.

Yr oedd y gwr hwn yn cydoesi a Mr. Wroth. Cafodd ei ddwyn i fynu yn Rhydychain; chyflwynwyd ef i fywioliaeth Cadegstone, yn Sir Forganwg, ynghylch y flwyddyn 1620. Yr oedd yn bregethwr diwyd a doniol yn yr oes dywyll hono; a llwyddiant helaeth a ganlynodd ei weinidogaeth. Yr oedd ef a Rees Prichard yn gydnabyddus, ac yn dra chynorthwyol i'w gilydd. Bu Powel farw yr un flwyddyn aWroth, sef, 1640.

13. Y Parchedig Wiliam ERBURY.

Gwr oedd hwn o Sir Forganwg, a chafodd ei ddysgeidiaeth yn Rhydychain. Daeth yn Ficar St. Mary, yn Nghaerdydd. Yr oedd yn byw ynghylch yr un amser a'r tri blaenorol. Oddeutu y flwyddyn 1634 gorfu arno ymddangos o flaen Laud, yr archesgob, am wrthod darllen "Llyfr y chwareuon." Ceryddwyd efyn gyntaf; a chafodd wed'yn, gan na ddarllenai y Llyfr annuwiol hwn, ei droi allan: ond parhaodd i bregethu gydag arddeliad helaeth ar ei waith. Efe oedd ddechreuydd ymneillduaeth yn Nghaerdydd. Y Pabydd, Laud, oedd yr achos, a Llyfr y chwareuon oedd yr achlysur. Wrth ddrws Laud y gorwedd y bai o ymneillduaeth yn Nghymru. Bu farw y gwr hwn yn y flwyddyn 1654.

14. Y Parchedig Walter CRADOC.

Ganwyd efyn Nhrevela, Llangwm, yn agos i Lanvaches, Sir Fynwy, ynghylch y flwyddyn 1600. Yr oedd o deulu parchus, a meddianai etifeddiaeth go olygus. Ei ddygiad i fynu oedd yn Rhydychain. Gweinidogaeth ddeffrous Mr. Wroth, o Lanvaches, a fu yn foddion ei droedigaeth, a hyny, pan oedd yn ieuanc. Daeth yn gurad i Mr. Erbury, yn Nghaerdydd. Pan rybyddiwyd Erbury, oherwydd peidio darllen ar y Sul Lyfr y chwareuon, amddifadwyd Cradoc o'i guradiaeth am yr un bai. Trwy ryw fodd neu gilydd, cafodd wed'yn guradiaeth Wrexham. Ei bregethu deffrous a barodd na adewid iddo aros ynoynhir: ond llwyddwyd ei waith er daioni i lawer. Ei weinidogaeth wed'yn a fu, y rhan fwyaf, yn deithiol. "Tramwyodd," fel y dywedir yn "Hanes crefydd yn Nghymru," Tud. 516, "trwy siroedd Brycheiniog, Maesyfed, a Threfaldwyn, gan bregethu Crist pa le bynag y caffai gyfleusdra." Tan lywodraeth Cromwel, bu dros amser yn Llundain; ac yno y, bu farw yn y flwyddyn 1659. Gwel Hanes am y gwr hwnyny"Drysorfa Ysprydol," Tud. 170-174.

15. YParchedig Vavasor POWEL.

Gwr o sir Faesyfed ydoedd hwn; a chafodd ei ddwyn i fynu yn Rhydychain. Yr oeddyn gurad i'w ewythr, Erasmus Powel, pan y cafodd olwg newydd a chywir ar grefydd trwy wrando Walter Cradoc, ynghylch y flwyddyn 1640. Ymhen ychydig unodd a Chradoc yn ei weinidogaeth deithiol, a llafurus iawn a fu dros flynyddau lawer; a thrwyddo ef, yn fwyaf neillduol, ymdaenodd yr efengyl trwy barthau eang o'r Dywysogaeth, yn enwedig trwy sir Drefaldwyn, a siroedd deheuol Cymru. Dyma y dystiolaeth a ddygir iddo yn "Hanes Crefydd yn Nghymru," gan D. Peter, Tud. 529:—"Cymaint oedd sel a diwydrwydd Mr. V. Powel, fel ag yr oedd yn aml yn pregethu dwy a thair gwaith y dydd. Ac anaml y treuliai efe ddau ddiwrnod o'r wythnos, trwy y flwyddyn, heb bregethu. Rhai troion efe a deithiai gan milldir yr wythnos, ac a bregethai ym mhob man lle y caffai gyfleusdra. Nid oedd nemawr o eglwysi trwy holl Gymru, nad oedd efe wedi pregethu ynddynt. Pregethai hefyd yn aml mewn ffeiriau a marchnadoedd, ar fynyddoedd ac mewn pentrefydd; a Duw a lwyddodd ei lafur i fesur helaeth, fel y cafodd llawer eu dychwelyd at yr Arglwydd trwy ei weinidogaeth."—Cartrefai, ogylch 1650, yn mhlwyf Ceri, yn agos i'r Dref-newydd, sir Drefaldwyn.

Yr erledigaeth a gafodd ydoedd fwy nag a ddigwyddodd braidd i neb arall yn ei ddydd. Or amser y dechreuoedd, tua 'r flwyddyn, 1640, hyd yr amser y goresgynwyd Cymru gan Cromwel, ynghylch y flwyddyn 1648, cafodd ei garcharu amryw weithiau, a'i gamdrin yn dra chreulon, a hyny, nid am un peth, ond am bregethu yr efengyl i'r dyben i achub eneidiau dynion. Y mae rhyw ddallineb hynod yn perthyn i erlidwyr crefydd! Cafodd ychydig seibiant tra parhaodd llywodraeth Cromwel, ac hyd yn nod annogaeth yn ei waith llafurus a chlodfawr. Beth bynag a feddylir am ymddygiad Cromwel, o ran amryw bethau, bu y trefniadau a ddefnyddiodd yn nghylch Cymru, yn foddion tra defnyddiol er tori i lawr gaerau cedyrn annuwioldeb a choel grefydd babyddol, a lanwent y wlad yn gyffredin. Wedi dychweliad Charles yr ail, yn 1660, cyfarfu eilwaith ag erledigaeth greulon, a threuliodd y rhan fwyaf o weddill ei fywyd yn y carchar. Bu farw yn y flwyddyn 1670, yn 53 o'i oedran. Dywedir iddo fod trwy ei oes, mewn dim llai na thriarddeg o garcharau, nid am un bai arall, ond pregethu yr Efengyl. Rhyw greadur afresymol a rheibus yw dyn, gwaeth na gwyllt anifeiliaid y maes, pan fyddo yn byw mewn anwybodaeth, neu dan lywodraeth yspryd pleidgar y byd, a choelgrefydd. Er bod pabyddiaeth wedi ei diddymu, eto yspryd pabyddiaeth oedd eto yn llwyr berchenogi goreuon y wlad. Nid oedd goleuni yr Efengyl wedi ymdaenu, ond ychydig iawn ymhlith y mawrion.

Y tir blaenorol, ynghyda Wroth, sef, Erbury, Cradoc a Phowel, oeddynt y rhai cyntaf, ag y mae hanes amdanynt, a bregethasant yn deithiol trwy y wlad: a Deheudir Cymru, yn fwyaf enwedig, ydoedd maes eu llafur. Cafodd y pedwar eu dwyn i fynu yn Rhydychain, a'u hurddo yn offeiriaid yn yr Eglwys; a pharhasent ynddi yn ddiau oni buasai i Laud a'i blaid eu taflu allan am nacau gwneuthur gwaith y Diafol.

16 Y Parchedig Thomas GOUGE.

Ganwyd y gwr da a haelionus hwn yn Llundain, yn y flwyddyn 1605; a bu farw yn 1681. Cafodd ei ddysg yn gyntaf yn athrofa Eton, ac wed'yn yn Nghaergrawnt; a daeth yn gyd-aelod Dysgeidfa y Brenin (fellow of Kings college) Rhoddwyd iddo Eglwys St. Sepulchre, yn Llundain yn 1638; yr hon a wasanaethodd yn ddiwyd ac yn ffyddlon iawn hyd amser Charles yr ail. Ydeddfiad unffurfiol a barodd iddo golli ei Eglwys: ac wedi hyny bu yn ymdrechgar iawn i led-daenu gwybodaeth o wir grefydd yn Nghymru. Sonir am dano yn barchus iawn yn "Hanes Crefydd yn Nghymru," tud. 586, yn y geiriau canlynol:—

"Nid oedd ganddo wedi claddu ei wraig a sefydlu ei blant, ond cant a haner o bunau yn y flwyddyn gwedi eu gadael: ac efe a roddai gant punt bob blwyddyn allan o hyny at weithredoedd a gariad ac elusen. Dywedir iddo gyfyngu ei elusen dros y naw neu y deng mlynedd diweddaf o'i fywyd, ymron yn hollol i Gymru. Pan oedd Mr. Gouge rhwng triugain a thriugain a deg oed, yr oedd, yn arferol o deithio i Gymru, i ddosbarthu yr arian a allasai efe hebgor ei hun, neu gasglu oddiwrth eraill, rhwng gweinidogion llafurus, trallodedig ac anghenus. Efe a sefydlodd yn nhrefydd penaf Cymru rhwng tri a phedwar cant o ysgolion i ddysgu plant i ddarllen, ac a ymrwymodd i dalu am ddysgeidiaeth cant o blant ei hun. Mynodd argraffu hefyd wyth mil o Fiblau Cymraeg, mil o ba rai a roddodd i'r tlodion; ac anfonodd y saith mil eraill i'r trefydd penaf yn Nghymru, i'w gwerthu am bris rhesymol. Fr fod gan Mr. Gouge fraint-lythyr i bregethu yn achlysurol yn Nghymru, cafodd ei erlid o le i le.. Ac er ei fod yn myned yn ddyfal i'r Eglwys, ac yn cymunoyno ar droion, cafodd ei ysgymuno, tra yr oedd yn gwneuthur yr holl ddaioni hyn i'r Cymry. Ond o gariad at Dduw ac eneidiau dynion, efe a ddyoddefodd yr holl bethau hyn gyda llawer o amynedd, ac ni ddiffygiodd yn gwneuthur daioni, nes iddo orphen ei yrfa mewn llawenydd a gorfoledd."

17 Y Parchedig Stephen HUGHES.

Lle genedigol y gwr dyniongar a llafurus hwn ydoedd Caerfyrddin. Ganwyd ef yn 1623; a bu farw yn 1688. Taflwyd ef allan o Eglwys Meidrim, yn y sir y'i ganwyd, ar ddychweliad Charles yr ail, a dyoddefodd lawer o driniaeth greulawn wedi hyny. Pregethai yn dra' eglur a thoddedig, ac ymgadwai at "bethau mawrion." a sylweddol crefydd. Yr oedd y dagrau a dywalltai yn aml, yn tynu dagrau o lygaid eraill. Byddai yn myned i bregethu i'r lleoedd tywyllaf yn y wlad, a chafodd gymeradwyaeth gan amryw o ddynion cyfrifol oherwydd ei gymhedroldeb a'i ddull bywiog o lefaru. Bu ei weinidogaeth, er yr holl rwystrau a gafodd, o fudd helaeth trwy y wlad. Anogai benau teuluoedd i ddysgu eu plant a'u gweision a'u morwynion, a chymdogion eu gilydd. A chafodd gan rai ddysgu darllen pan oeddynt yn ddeugain ac yn haner cant oed, neu ychwaneg. Yr oedd, mewn ffordd, yn pregethu pa le bynag y byddai, gan gynghori dynion am achos eu heneidiau ymron ar bob cyfle a gaffai i ymddiddan a hwynt. Yr un peth angenrheidiol oedd megis yn gorphwys yn wastadol ar ei feddwl. Ymddengys ei fod yn ddyn tra duwiol, o dymherau serehog a charuaidd, o yspryd haelionus a diduedd, ac yn dra diwyd a ffyddlon yn ei waith. Gwel Hanes Crefydd, tud. 561. Bu yn gynhorthwy i Gouge yn y gwaith o argraffu y Bibl: a chyhoeddodd, ar ei gost ei hun, a thrwy haelioni eraill, ddim llai nag ugain o wahanol Lyfrau, y rhan fwyaf ohonynt yn gyfieithiadau, o'i eiddo ei hun ac eraill; ymhlith y rhai'n, enwir y rhai canlynol:—

  • Galwad i'r Annychweledig, gan Baxter
  • Yn awr, neu Byth, gan yr Un.
  • Traethawd ar Droedigaeth, gan Joseph Allein
  • Eglurhad ar Weddi yr Arglwydd, gan W. Perkins.
  • Ymarfer o Dduwioldeb.

Ymddengys mai efe agasglodd gyntaf ganiadau Rees Prichard, o Lanymddifri. Cyhoeddodd, o leiaf, ddau argraffiad ohonynt. Gwnaeth fwy tuag at anog dynion i geisio gwybodaeth grefyddol, a thuag at gynhorthwyo ei gydgenedl i gyrhaedd y wybodaeth hon, na neb a fu o'i flaen. Bu yn gynhorthwyol ac yn offerynol i gael allan ddau argraffiad o'r Bibl, a gynhwysent ddeunaw mil o lyfrau. Y Traethodau a gyfieithodd, a gyhoeddodd, ac a wasgarodd trwy y wlad, oeddynt luosog iawn. Y siroedd, a gawsant y budd yn fwyaf neillduol, oddiwrth ei lafur haelionus ef, a Gouge hefyd, oeddynt Gaerfyrddin, Brycheiniog a Morganwg. Gwel "Trysorfa": Llyfr ii, Rhif. 2. Tud. 49-58.

18 Y Parchedig Peregrine PHILIPS.

Ganwyd hwn yn Ambra, yn sir Benfro, yn yr un flwyddyn a Stephen Hughes, sef 1623. Dygwyd ef i fynu yn Rhydychain. Gwasanaethodd yn gyntaf Gydweli, sir Gaerfyrddin. Curad oedd i'w ewythr, y Doctor Collins. Oherwydd ei boblogrwydd a'i ddoniau helaeth, rhoddwyd iddo Mounton yn agos i dref Penfro; a chafodd hefyd Eglwys St. Mary a Choshestru. Pregethwr diwyd y thra doniol oedd, yn rhagori ar y rhan fwyaf yn ei ddydd. Yn amser Cromwel, pregethai yn gyffredin trwy y sir; a dywedir, nad oedd nemawr o eglwysi ynddi na fu ef yn pregethu ynddynt. Efe a bregethai yn rhwydd yn y ddwy iaith, Saesneg a Chymraeg. Ond ar ddychweliad Charles yr ail, cafodd, fel llawer eraill, ei daflu allan. Taflu ymaith yr aur, a chadw y sothach, oedd yr ynfydrwydd a wneid yr oes hono. Mochaidd hollol oedd tymher yr amser, gan y dewisid y cibau, a sathrid y perlau yn y llaid. Gorfu arno wed'yn gymeryd tyddyn er cynnal ei deulu; ond ni allai lai na phregethu yr efengyl: ac oherwydd hyn blinwyd ef yn fawr gan rai o swyddogion y wlad. Bu fyw hyd y flwyddyn 1691. Mwynhaodd ryddid i bregethu y rhan olaf o'i fywyd. Ei weinidog aeth a fu yn helaeth ddefnyddiol.

19 Hugh OWEN.

Bron-y-clydwr, yn sir Feirionydd, oedd lle genedigol a thrigfod y gwr duwiol hwn trwy ei oes. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1637, a bu farw yn 1699. Cafodd ei ddwyn i fynu yn Rhydychain tua dechre amser y chwyldroad yn y deyrnas. Oherwydd rhyw wrthwynebiad oedd ganddo i rai pethau yn yr Eglwys, ni chymerodd urddau ynddi. Bu byw ar ei dreftadaeth fechan, ac ymroddodd ei hun i bregethu yr efengyl yn rhad i dlodion diddysg. Yr oedd ganddo tua deuddeg o fanau y pregethai ynddynt, yn siroedd Meirionydd a Threfaldwyn: rhai ohonynt ddeg Ar hugain o filldiroedd oddiwrth ei le aneddol. Arferai hefyd deithio ar brydiau i sir Gaernarfon a pharthau eraill. Gorphenai ei gylchdaith mewn tri mis; yna dechreuai eilwaith. Gwr gostyngedig iawn oedd, hunan-ymwadol, hardd yn ei fuchedd, a hynod ymdrechgar yn achos gwir grefydd. Ond er mor heddychol a distaw yr oedd yn myned ymlaen a'i waith, cafodd yn aml ei aflonyddu a'i rwystro yn fawr gan erlidwyr a gelynion yr efengyl. Bu yn offeryn er troedigaeth llaweroedd, ac er eu hadeiladaeth yn y ffydd. Gwel "Trysorfa Ysprydol," tud. 216-218.

20 Y Parchedig Griffith JONES.

Fel y gwelir yn y Daflen a ganlyn, bu yn amser tywyll a difraw iawn ar grefydd dros amryw flynyddau cyn i'r gwr hynod hwn ymddangos. Yr oedd gwir grefydd megis wedi cymeryd adenydd a ffoi o'r wlad. Felly yr oedd yn Lloegr yn gystal ag yn Nghymru. Darfu uchelion yr Eglwys, yn ol cynllun y Pabyddion, arferyd braich ddynol, i'r dyben, fel y tybient, o amddiffyn a lled-daenu crefydd; ond yn wirioneddol, i erlid ymaith grefydd o'r deyrnas, ac i ddiogelu balchder, seguryd ac annuwioldeb. Ganwyd G. Jones yn mhlwyf Cilrhedyn, sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn, 1683. Cafodd ei ddwyn i fynu yn Ysgol Caerfyrddin. Yr oedd yn 25 oed pan y cymerodd urddau, sef, yn y flwyddyn 1708. Efe oedd y cyntaf o'r diwygwyr diweddar, nid yn unig yn Nghymru, ond yn Lloegr hefyd. Rhoddwyd iddo fywioliaeth Llandeilo Abercowyn yn 1711, a Llanddowror yn 1716. Yr oedd ei bregethu yn Efengylaidd er dechreuad ei weinidogaeth. Tra phoblogaidd oedd ei ddoniau, a diwyd iawn y defnyddiai hwynt. Dechreuodd yn y flwyddyn 1730 yr Ysgolion cylchynol, gwaith a hynoda ei enw trwy amryw genhedlaethau. Ymledasant yn fuan trwy barthau pell ac agos o'r wlad. Cyhoeddodd hysbysiad blynyddol ohonynt o 1737 hyd 1760. Yn y flwyddyn ddiweddaf hon, yr oedd yr Ysgolion yn 215, a'r ysgolheigion yn 8,687. Cynhaliai hwynt trwy elusen dynion duwiol yn Nghymru ac yn Lloegr.

Pregethai yn aml mewn eglwysydd eraill, nid yn unig yn ei gymdogaeth ei hun, ond yn y siroedd amgylchol. Lluoedd mawrion a gyrchent ymron ymhob man i'w wrando. Bu yn offerynol tuag at ddwyn o'r wasg ddau argraffiad helaeth o'r Bibl. Cyfansoddodd ei hun amryw o lyfrau tra defnyddiol, ac argraffodd nifeiri mawr ohonynt. Ni ddarfu braidd neb, mewn un oes, yn Nghymru, ysgrifenu a chyhoeddi cynnifer o lyfrau defnyddiol ag ef, oddieithr, efallai, y diweddar Barchedig Thos. Charles o'r Bala. A pheth go hynod yw, eu geni ill dau yn yr un sir, ac yn agos yn yr un ardal ohoni. Bu farw yn y flwyddyn 1761.

Gan y crybwyllir, yn y tudalenau a ganlynant, amy rhai mwyaf nodedig yn y Diwygiad mawr diweddar, ni wneir eu henwi yma. Nid oes i'r darllenydd feddwl, na fu neb eraill o rai duwiol, a defnyddiol yn eu dydd, onid y rhai a enwyd. Y dyben oedd crybwyll am y rhai mwyaf enwog, a'r rhai a fuont yn offerynol i wneuthur daioni helaeth a chyffredin trwy y wlad.

Ymddengys, oddiwrth yr hanesiad byr uchod, pa fodd y dechreuodd Ymneillduaeth oddiwrth yr Eglwys, yn Nghymru; ac yn gyffelyb yr un modd y dechreuodd yn Lloegr. Cafodd ei achosi gan "Lyfr y chwareuon." Danfonwyd hwn allan gyntaf gan y brenin Iago y cyntaf, trwy anogiad uchel-eglwyswyr, neu Babyddion yn yr Eglwys. Gorchymyn oedd, o eiddo y brenin, i ddynion ac ieuenctyd i ymarferyd, ar brydnawnau y Sul, a phob math ymron o ddigrifwch a chwareuon, tan yr esgus o ymlid ymaith y prudd-der a'r dybyrdod (melancholy) a genhedlid, fel y dywedent, gan yr hyn a elwid yn Buritaniaeth, neu mewn geiriau cywir, gan wir grefydd. Chwareuaeth ar y Sul ydyw un o berthynolion Pabyddiaeth; gan mai arfer y Pabyddion, hyd yn nod yn bresenol, yn enwedig ar y Cyfandir yw myned i'r Eglwys yn y bore yn dra difrifol, mewn agwedd bruddaidd a santeiddlawn iawn, yn wynebdrist, ac yn "anffurfio eu gwynebau"; ac wed'yn, yn y prydnawn, yn ymarfer a chwareuon, ac yn cyrchu i leoedd difyrwch ac oferedd. Trwy anogaeth Laud a'i blaid, ailgyhoeddwyd Llyfr y chwareuon gan Charles y cyntaf: a rhoddid gorchymyn ar yr Offeiriaid ei ddarllen ar y Sul yn yr Eglwysi. Y rhai a chwenychent ddaioni ysprydol eu pobl a wrthodent: ac am y gwrthodiad hwn cawsant eu herlid a'u taflu allan o'u heglwysydd. Dyma ddechre ymneillduaeth yn Nghymru. Dyben Laud, fel y mae yn eglur oedd, nid sefydlu Pabyddaieth Rhufain, ond codi i fynu Babyddiaeth yn Eglwys Loegr,—nid addef awdurdod y Pab, ond gwneuthur ei hun yn Bab. Crefydd y defodau oedd ei grefydd ef a'i blaid, ac nid crefydd gwir dduwioldeb.

Yr hyn a led-daenodd yr ymneillduaeth hon yn fawr, ydoedd ymddygiad Uchelion yr Eglwys, ar ddychweliad Charles yr ail. Trwy ddeddf yr Unffurfiad gwnaed i'r Eglwys y niwed a'r drwg mwyaf, a ellid yn hawdd wneuthur; oherwydd trwy y ddeddf hono, taflwyd allan ymron yn gyfangwbl y wir Eglwys o'r Eglwys sefydledig. Marwaidd a digrefydd a fu wed'yn hyd amser y Diwygiad diweddar yn y ganrif ddiweddaf. Griffith Jones, o Llanddowror, oedd y cyntaf a gyfododd Rhagluniaeth ddwyfol er adfywio gwir grefydd yn y wlad. Bu ymgais i'w rwystro ef yn ei waith; eithr ni lwyddodd yr ymgais annuwiol. Ond ni oddefwyd i'w ganlynwyr, sef Rowlands a'i gyd lafurwyr, aros yn yr Eglwys, lle y dechreuasant eu gwaith nefol, a'r lle yr ewyllysient barhau. Dylem fod yn wir ddiolchgar fod yspryd gwell yn uchelion ac aelodau ein Heglwys yn y dyddiau hyn; a gweddiwn a'r iddo wellhau mwy eto.


D.S.—Yn nechreu y Rhagfynegiad blaenorol, addawyd rhoddi Taflen iddangos, ar un golwg, enwau Cefnogwyr enwocaf crefydd yn Nghymru o amser y diwygiad oddiwrth Babyddiaeth hyd y f. 1800—yr amser y buant byw, ac yspaid oes pob un o honynt.

Yr unrhyw Daflen a geir y tu arall i'r ddalen hon; ac er cynnorthwy i'w deall, sylwer-Bod yr yspaid crybwylledig wedi ei ddosparthu yn 4 canrif, sef 1500, 1600, 1700, a 1800; a phob canrif drachefn wedi ei ranu yn ddosparthiadau o 10 mlynedd bob un, megys 10, 20, 30, &c., yr hyn yw dyben y ffugyrau ar ddau ymyl y Daflen: ac yna y mae'r llinell ddu, sydd dan enw pob gwr, wedi ei chyfleu yn y fath fodd fel y mae ei phen aswy yn dechreu, mor agos ag y gellid, ar gyfer blwyddyn genedigaeth y gwr hwnw, a'i phen deheuol ar gyfer blwyddyn ei farwolaeth. A thrwy yr unrhyw dangosir hefyd pa rai o'r gwyr hyny oeddynt yn cydoesi, ac am ba yspaid o amser.—Mewn perthynas i'r gwyr hyn, nid anmhriodol yw sylwi, ddarfod i chwech o honynt gael eu geni yn sir Ddinbych—dau yn sir Feirionydd—un yn sir Gaernarfon—saith yn sir Gaerfyrddin—dau yn sir Aberteifi dau yn sir Benfro—un yn sir Fynwy—un yn sir Forganwg-un yn sir Faesyfed—ac un yn sir Frycheiniog. Rhai o honynt, nis gwyddir pa le y'u ganed. Gogleddwyr oll, ond Huet, oedd y rhai o'r oes gyntaf; a Deheuwyr oll, ond H. Owen, oedd y rhai o'r ddwy oes ganlynol.

Nodiadau

[golygu]