Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands/Sylwadau rhagflaenol—Ei haniad, dygiad i fynu, a'i ymarweddiad yn ei ieuenctid
| ← Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands/Rhagfynegiad | Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands gan John Owen, Thrussington |
Ei droedigaeth a dechreuad ei weinidogaeth → |
COFFHAD AM Y PARCHEDIG DANIEL ROWLANDS, &c.
RHAN I.
Sylwadau rhagflaenol—Ei haniad, dygiad i fynu, a'i ymarweddiad yn ei ieuenctid.
MAE awydd ynom yn gyffredin am wybod yr hyn a gymerodd le yn y dyddiau blaenorol. Y rhai nad oes ynddynt y fath awydd, ydynt dra gwael a dirywiedig, wedi colli y reddf a berthyn i ddyn fel creadur rhesymol. Mae meddwl y cyfryw wedi ei ddaearoli gymaint, fel nad oes fawr wahaniaeth rhyngddynt a'r anifeiliaid mud a diystyr. Tra byddo dynion yn y cyflwr hwn, nid oes un gobaith y bydd iddynt gynnyddu mewn gwybodaeth, nac un tebygolrwydd y bydd iddynt ddiwygio mewn un peth buddiol tu hwnt i ystod fer y bywyd hwn. Pan y mae pethau presenol, megis gofalon, trafferthion neu fwyniant y byd, yn cyflawn lenwi y meddwl, ac yn llwyr berchenogi y galon, mae y pethau a aethant heibio, yn gystadl a'r pethau i ddyfod, yn cael eu hollol esgeuluso. I'r cyfryw ddynion nid yw cyhoeddi llyfrau o un defnydd, gan na fyddant o un lles iddynt, mwy nag i'w hanifeiliaid. Gormod o'r fath sydd ym mhob oes. Pe byddai y byd yn gyfan fel y rhai hyn, llen-gaddug anwybodaeth a orchuddiai y ddaear cyn nemawr o amser. Ond nid felly y mae pawb, gan y chwennych am ryw edrych o'u hol, yn gystadl ag o'u blaen. Y mae ganddynt ddymuniad i wybod y pethau a ddigwyddasant yn amser eu henafiaid a'n cyndadau, yn enwedig y pethau mwyaf hynod ac addysgiadol. Da yw chwennych gwybod helyntion y byd yn gyffredin, hanesion a digwyddiadau gwledydd pellenig. Ond os carwn ein gwlad ein hunain, fel y dylem, yn benaf, byddwn yn chwannog o fod yn gydna byddus â'r pethau a ddigwyddasant ynddi yn fwyaf neillduol. Po agosafy berthynas, mwyaf addylai fod y cariad. Y mae ein gwlad ein hunain yn perthyn i ni yn fwy agos nag un wlad arall: dylai gan hyny fod ein cariad a'n serch tuagati yn gryfach ac yn wresocach nag at un ran arall o'r byd. Ei lles a'i budd a ddylem olygu a'i geisio, nid yn wir, yn unig, ond yn benaf; nid er niwed i eraill, ond er ei daioni hi yn arbenig. Yr hwn ni theimla wresogrwydd tuagat ei wlad ei hun, ac ni phrydera am ei llesâd a'i ffyniant, sydd wedi colli un o'r pethau mwyaf rhagorol mewn dynoliaeth: y mae ei serch a'i gy neddf fabol wedi ei hysu gan falchder, neu fydol.. rwydd, neu gan ryw nwyd warthus arall neu gilydd. Nid da i ddim ydyw y fath ddyn, gan ei fod wedi suddo i'r diraddiad mwyaf. Ymae mawr wahaniaeth yn y pethau y rhoddir hanes amdanynt: y mae rhai o honynt yn hynod, a rhai yn gyffredin; rhai yn odidog, a rhai yn waradwyddus; rhai yn ddyledus o gael eu canlyn, a rhai o gael eu gochelyd. O bob math o hanesion y mwyaf hyfrydus a defnyddiol yw darluniadau o fucheddau dynion enwog yn eu dydd: ac o bob enwogion, ymwyaf teilwng o gael eu coffhau yw y rhai a fuont offerynol yn ygwaith nefolaidd o achub eneidiau dynion. Tra difyr ac addysgiadol yw hanes cefnogwyr dysgeidiaeth, amaethyddion, ac olrhein wyr anian yn ei hamrywiol ganghenau, ynghyda hanes dyngarwyr hyglod a gwladyddion cywir. Ardderchogir ac anrhydeddir y cyfryw yn gyffredin mewn modd dyledus, er i rai o'r fath gael eu hanghofio yn dra annheilwng, a hyny er colled i'r byd. Ond yr esgeulusdod mwyaf, ymron mewn pob oes, a fu oranyrhai a ymdrechent yn eu dydd i leshau eu cydgreaduriaid yn y pethau o'r pwys mwyaf, yn achos yr enaid anfarwol. Ymae dyn, yn amlaf, yn fwy craffus o'r hyn a berthyn i'r bywyd hwn, nag o'r hyn a berthyn i'r bywyd a ddaw. Mae llawer yn gofalu mwy am bethau presenol, nag am bethau tragwyddol, ganbryderu yn fawr pa fodd i fyw dros funud, heb feddwl dim pa fodd i fyw dros byth ! Oh ! pa faint yw ffolineb ac ynfydrwydd dyn pechadurus a llygredig ! Ni fu, ond odid, neb yng Nghymru, mewn un oes, o gymaint defnydd, yn achos yr Efengyl, a'r Parch edigDANIEL ROWLANDS, gynt o Langeitho. Ac eto ni roddwyd i ni un coffhad teilwng amdano. Y mae hyn yn golled nid bechan i'r oes hon ac i'r oes oedd a ddeuant, gan i Uchel-drefnydd y byd weled bod yn dda wneuthur pethau tra hynod trwyddo, y cyfryw a barhant eto yn eu heffeithiau, ac ynt yn debyg o barhau dros hir amser. Mae adfywiad crefydd yng Nghymruyn fwy dyledus iddo ef, fel offeryn, nag i neb arall. Dechreuwyd y gwaith o'i flaen, gan GRIFFITH JONES; ond efe yn benaf a'i dygodd yn y blaen, ac a'i sylfaenodd trwy amryw barthau o'r dywysogaeth. Trwy ei ddoniau hynod, a'r arddeliad dwyfol a fu arnynt, ymledodd crefydd yn rhyfedd; gostegwydmewn rhan fawr dymhestl erledigaeth, ac ardderchogwyd achos yr Efengyl i raddau helaeth, Dros haner cant o flynyddau efe oedd y blaenor yn y gorchwyl dwyfol, ag oedd yn cael ei ddwyn yn y blaen, trwy ba un y cafodd canoedd, ïe, miloedd lawer eu dwyn " o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw. " A'r flaenoriaeth hon a gafodd nid trwy hunanymgais, uchel sefyllfa yn y byd, neu drais lywodraeth, ond trwy ragoroldeb ei ddoniau, ei ddoethineb, ei ddefnyddioldeb, ac effeithiau bendithiol ei weinidogaeth. Yr oedd, mewn cydmariaeth i bawb eraill o'i gydlafurwyr, wedi derbyn megis dwy ran o'r yspryd: a chydnabyddid hyn trwy ei oes gan ei holl ganlynwyr. Er hyn oll, ni throsglwyddwyd i ni un cyfrif trefnus a neillduol o'i fuchedd a'i lafurwaith llwyddiannus.
Ychydig o flynyddau yn ol, darfu i mi ymweled a'i Fab, y diweddar Barchedig NATHANIEL ROWLANDS; a bum yn ymddiddan ag ef amryw ddiwrnodau ynghylch ei dad. Fy mwriad oedd casglu pob peth a allwn gael gwybod am dano. Yr ateb a roddodd i'r ymofyniad 'Pa'm nad ysgrifenasid ei fywyd '—oedd i'r perwyl hwn:—Pan fu farw Rowlands, gwnaeth Lady Huntingdon ddanfon am bob hysbysrwydd amdano, a ellid ei gael, gyda bwriad o ysgrifenu ei hun hanes ei fywyd a'i weinidogaeth. Danfonwyd iddi bob hysbysiad a ellid ei gasglu. Ond cyn iddi wneuthur un defnydd o'r hyn a dderbyniodd, cafodd ei galw i fyd arall. Yr oedd, fel y dywedai ei Fab, un ysgrifen neillduol ymhlith y pethau a drosglwyddwyd, wedi cael ei darprau gan wr llŷg dysgedig, a adwaenasai Rowlands dros flynyddau lawer. Yr oedd yn yr ysgrifen hon ddarluniad arbenig a manwl o'i ddawn ryfedd fel Pregethwr. Enw y gwr cyfrifol hwn ni chefais wybod. Esgeuluswyd ymofyn am y defnyddiau hyn dros amryw flynyddoedd: a phan fu ymholiad amdanynt, methwyd eu cael. Bu ym ofyniad amdanynt hyd yn nod yn ddiweddar; ond ni lwyddwyd eu hadferyd. Fel hyn gohiriwyd y gwaith o hanesu ei fywyd, nes i amser beri anhawsderau, na ellid yn hawdd eu goddiweddu. Yr oedd hefyd deimlad, yn gyffredin, o analluogrwydd, i gyflwyno i'r byd draddodiad teilwng o offeryn mor hynod ac ardderchog. Hyn, y mae yn debyg, oedd yr achos na anturiodd y diweddar Barchedig Thomas Charles, o'r Bala, ysgrifenu coffhad amdano,—y mwyaf cymhwys, ef allai, o neb i gymeryd y fath orchwyl mewn llaw. Yr oedd ei olygiadau o ragoriaethau Rowlands, yn dra godidog, fel y cawn weled ymhen gronyn.
Rhwystrwyd, dros hir amser, yr ysgrifenydd presennol gan yr un teimlad o fod yn analluog i wneuthur iawnder i wr mor rhagorol. Er fod y teimlad hwn o hyd yn parhau yn ei rym, eto gwnaeth anturio cymeryd y gorchwyl mewn llaw. Cafodd ei ddarbwyllo a'i gymhell gan yr ystyriaethau hyn:—Gwell rhoi y cyfrif goreu a ellir am dano, na gadael ei enw yn ddigoffhad. Peth arall hefyd a gafodd effaith ar ei feddwl:—Rhoddwyd crybwylliadau byrion eisoes am Rowlands mewn rhai o'r Cyhoeddiadau misol; ac yr oedd gan yr ysgrifenydd ddefnyddiau lawer helaethach na dim a ymddangosodd yn barod. Gwedi ei eni a'i fagu ar gyffiniau cymdogaeth Llangeitho,—gwedi ymddiddan llawer ag amryw o hen wrandawyr Rowlands, ac â rhai o'i gydnabod a'i gyfeillion,—gwedi casglu yr hyn oll a allai oddiwrth ei fab, ac oddiwrth y diweddar Barchedig David Griffiths, o Nevern, ac offeiriaid eraill a adwaenent Rowlands,—gobeithia yr awdwr, na chyfrifir iddo yn fai neu yn rhyfyg i anturio ar y fath waith. Nid enw dyn, ond lles dynolryw, a ddylai gael ei olygu. Y grediniaeth, y bydd hanes un a gynysgaeddwyd gymaint gan Dduw er budd i filoedd, yn debyg o fod eto yn foddion o fudd parhaus i lawer, sydd yn ddigon i beri y fath ymdrech a hwn: ac os etyb y fath ddiben, y mae hyn yn ddigonol dâl am y poen a'r llafur a gymerwyd. Cafodd Rowlands ei eni a'i fagu yng nghymydog aeth y lle y bu yn benaf yn gweinidogaethu gyda y fath lwyddiant anarferol. Nid peth cyffredin ydyw hyn. Anaml y mae y lle y genir ac y megir enwogion yn cael derbyn lles eu hymdrechiadau. Ganwyd ef ym mhlwyf Llancwnlle, sydd yn ffinio ar blwyf Llangeitho, mewn lle a elwir Pant-y-beudy, yn y flwyddyn 1713; ond nis gwn pa amser o'r flwyddyn. Offeiriad oedd ei dad, o'r un enw ag yntau, a chanddo y ddwy Eglwys, Llancwnlle a Llangeitho, tan ei ofal, ac hefyd, fel y clywais, yn ei feddiant. Efe oedd ei ail fab. Nid oes un hysbysiad fod ei dad yn brofiadol gydnabyddus ag egwyddorion gwir a bywiol grefydd. Tebyg yw ei fod fel llawer, yn enwedig yn y dyddiau hyny, yn ddieithr i wir dduwioldeb. Pa fodd bynag, cafodd ei fab Daniel ei ddwyni fynu i'r weinidogaeth heb fod ganddo, yn y cyfamser, ddim golygiadau cywir o bwysfawrogrwydd y swydd. Ei ymarweddiad cyn ei droedigaeth oedd brawf digonol o hyn. Ac nis gellir meddwl y gwna un tad duwiol gefnogi plentyn, ag arno nodau eglur o annuwioldeb, i fod yn weinidog yr Efengyl. Nid oes un arwydd mwy o ddallineb ysprydol na dwyn i'r Eglwys y cyfryw ag a amlygant, trwy eu buchedd a'u hyspryd, eu bod yn amddifaid o wir grefydd. Geill Duw yn wir uniawnu y gwyrni mwyaf a wnelom ni: ond nid ein rheol ni yw hyny. Ac os gwna Duw gywiro yr hyn a wnelom ni ar gam; nid yw hynny yn lleihau dim o'n bai a'n pechod ni.
Y ddysgeidfan yn yr hon y cafodd ei ddwyn i fynu ydoedd athrofa Henffordd (Hereford). Cynheddfau tra chyflym a disglaer oeddent ganddo; a chynnyddodd mor fuan mewn dysgeidiaeth, fel y tybid ef yn addas, o ran gwybodaeth, i gymeryd urddau pan yn ddeunaw oed; a chafodd, yn ol a glywais gan ei fab, ei ordeinio pan yn ieuengach o gryn amser nag yr urddir neb yn bresenol. Ei farn oedd, iddo gael ei urddo pan yn ugain oed: ac felly efe a fu dros rai blynyddau cyn cael ei gyflawn urddau. Dengys hyn barodrwydd ac addasrwydd ei gynheddfau tuagat gyrhaeddyd gwybodaeth: ac yr oedd yn berchenog, yn ddiau o gryn hyddysgrwydd yn y ieithoedd dysgedig; yr hyn y pryd hyny, (ac eto yn ormod) a dybid yn gymhwysder digonol tuagat waith y weinidogaeth. Anghenrheidiol yn ddiamhau yn y dyddiau hyn yw y fath ddysgeidiaeth, ond nid yn benaf, nac yn flaenaf, nac yn unigol. Y mae pethau eraill ag ydynt yn llawer mwy anghenrheidiol; heb y rhai y mae y cymhwysderau goreu a mwyaf yn eisieu. Rhaid cael ieithydd i ddysgu ieithoedd, a chelfydd i hyfforddi mewn unrhyw gelfyddiaeth; felly dylid cael cristion i ddysgu crist'nogrwydd, a dyn duwiol i hyfforddi duwiolion.
Yr hyn a draddodir yn ei gymydogaeth am Row lands yn ei ieuenctid, yw, ei fod yn llawn ofywiogrwydd cynhenid, ac yn gyfarwydd ym mhob rhyw gampiau a chwareuon ofer yr oes. Yr oedd yn dra heinif a gwisgi, o faintioli cyffredin, yn gadarn o wneuthuriad, ac yn rhagori ymron ar bawb mewn pob math o chwareuon a arferid yn y dyddiau hyny. Yr arfer y pryd hyny oedd myned ar y Sul i'r Eglwys neu i'r Llan yn y bore, a threulio y rhan arall o'r dydd mewn ofer gampiau, maswedd, diota, a meddwi. Yr oedd yn gyffredin ym mhob plwyf ryw fan neu le neillduol i ymgynull ynddo: ac yno ymhlith oferwyr y byddai Rowlands, yn flaenaf, a mwyaf bywiog ac egnïol o honynt, wedi bod yn yr Eglwys yn darllen, yn gweddio ac yn pregethu yn y bore! Meddwdod yn ddïau oedd yn canlyn; er na chlywais erioed ei fod yn hynod am hyny; ond ei fod yn euog o'r arfer ddrwg hon ar brydiau. Nid hawdd meddwl y gallai fod y fath anghysondeb: ond yn amser marweidd-dra crefydd, pa mor anghyson bynag a fyddo pethau, nis gwelir hwynt felly. Pany mae tywyllwch a chaledrwydd yn cyfan-berchenogi dynion, ymaent megis wedi colli eu deall a'u synhwyr cyffredin. Ond nid hir wedi dyfod yn offeiriad yr arosodd Rowlands yn y cyflwr hwn.