Neidio i'r cynnwys

Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands/Y Pregethau a Gyhoeddodd

Oddi ar Wicidestun
Sylwadau Gorphenol Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands

gan John Owen, Thrussington

Attodiad A


ADCHWANEGIAD.
Y Pregethau a Gyhoeddodd.

Nid ysgrifenu, ond pregethu, ydoedd gwaith arbenig Rowlands, gan ei fod wedi ei gymhwyso yn fwy i hyny. Nid oes ond deuddeg pregeth wedi eu hargraffu. Cyhoeddodd hwynt oll yn ei ddydd, oddieithr yr olaf; a rhai ohonynt amryw weithiau. Y gyntaf a bregethodd ohonynt yw yr un a elwir, Llaeth Ysprydol: a chyfansoddodd hon yn agos i ddechreuad ei weinidogaeth. Dywedodd ei Fab, Nathaniel, wrthyf, ddarfod iddo barotoi pregeth chwanegol i'r wasg, yr hon a dybiai ef eihun yn rhagorach nag yr un o'r rhai a gyhoeddasai o'r blaen: ac felly hefyd y barnai ei Fab. Ond mewn rhyw fodd neu gilydd aeth ar goll, ac nid ellid fyth ei chael drachefn. Y testun oedd 1 Cor. xv. 32, "Os yn ol dull dyn" &c. Ei dyben, yn ol a ddeallais, oedd dangos yr orchest fawr sydd rhwng y cristion a'i elynion, yn ewedig, â'r gelyn mwyaf, sef y Diafol. A dywediad yr hen wr yn ei chylch, yn ol mynegiad ei Fab, ydoedd hyn, "Mi a heliaf rai cannons allan etto yn erbyn y cythraul." Y mae yn beth go hynod, ddarfod i ryw beth tebyg i'r hyn a ddigwyddodd i'r bregeth hon, ddigwydd, fel y dywed hanesydd ei fywyd, i bregeth o eiddo y diweddar enwog Robert Hall. Ysgrifenodd bregeth yn benodol ar weithrediadau yr Yspryd syrthiedig: ond mewn rhyw fodd neu gilydd, efe a'i collodd; ac nis gallodd, trwy bob chwilio, ei hadferyd mwy. Digwyddiadau gwir yw y rhai hyn, gwneled y darllenydd eu golygu fel ag y myno.

Cyhoeddwyd cyfieithad o wyth o'i bregethau yn Saesneg yn y flwyddyn 1774. Y Cyhoeddwr ydoedd Thomas Davies, Haverfordwest, yn sir Benfro. Nis gwn ddim am enw y Cyfieithydd. Gwna y Cyhoeddwr gyfaddef ei rwymedigaethau i Beriglor Estcourt, fel un a wnaeth fwyaf yn y gwaith. Y mae yn debyg, cyfieithiad wrth hyn, fod ychwaneg nag un â llaw ynddo. Nis gellir dweud llawer mewn cymeradwyaeth o'r cyfieithad hwn, gan nad yw mor gywir a llythyrenol ag y gallasai fod. Ymdrechir ynddo i wisgo Rowlands mewn dillad gwychion, yn ol dull newydd. Gwell, pe gadawsid iddo ymddangos mewn dillad yn unol a'i ddull gwladaidd, cryno a diledryw eihun. Cyfnewidir y modd byr, eglur a dwysaidd o lefaru; a defnyddir y drefn o arfer geiriau mawrion ac ymadrodd llawn a chwyddedig. Y mae yr eirwedd (style) yn hollol wahanol; yr hyn a niweidia y Pregethau yn fawr, trwy wanhau grymusder yr ymadrodd, a'u hamddifadu o'r yspryd bywiog ac egnïol sydd ynddynt.

Yr hyn sydd yn canlyn ydynt gynhwysiadau y Pregethau a'r adnodau y sylfaenir hwynt arnynt: ni chyfieithwyd y pedair olaf:

i. Newydd da i'r Cenhedloedd.—Math. ii. 8,9
ii. Crist oll yn oll.—Heb. i. 9.
iii. Cerydd a chariad brawdol.—Math. xviii. 15.
iv. Rhad Ras yn wir.—Luc. xxiii. 42, 43.
v. Hapusrwydd y duwiol.—Rhuf. vii. 28.
vi. Llais y Durtur.—Dat. iii. 20.
vii. Trech y gostynedig na 'r balch.—Judas 9.


Bernir yn fynych am ragoriaeth un fel pregethwr, wrth y pregethau a gyhoedda; ond nid yn uniawn y bernir felly. Gellir gweled yn ddiau wrth hyn pa fath athrawiaethau a draddoda, a pha drefn a arfera wrth eu trin. Ond ni ellir yn y modd hyn gymaint ag amcanu yn aml am hyawdledd a doniau yr areithydd. Ni chred rhai y pethau hynod a ddywedir am Whitfield, am na welant un peth rhagorol hynod yn ei bregethau. Felly y gall rhai farnu ynghylch Rowlands. Ond nid barn iawn ydyw. Dull, agwedd, nerth, yspryd a bywiogrwydd, ynghyda pharodrwydd ymadrodd, a grym a phereidd-dra y llais; ac yn enwedig, yr arddeliad dwyfol a fyddo yn cydfyned â'r cwbl, ydynt y pethau a wnant y rhagoriaeth mwyaf mewn Pregethwr: ac ni chanfyddir dim o'r rhai hyn mewn llythyrenau argraffedig.

Er nad yw rhagoroldeb ei bregethau ddim yn gyfatebol i'w ragoroldeb fel pregethwr, eto nid cyffredin yw eu rhagoriaethau. Y mae ynddynt nid yn unig athrawiaethau ysgrythyrol; ond gosodir hefyd y Nodwedd rhai'n allan mewn ffordd eglur iawn, dwysaidd iawn pregethau. a chynhyrfiol iawn. Nid yw efe ddim yn myned oddiamgylch ogylch y pethau sydd ganddo mewn llaw: ond gafaela ynddynt yn uniongyrchol, a dengys hwynt yn y geiriau amlycaf. Nid yw yn aros yn hir ar un peth, dim chwaneg na 'i wneud yn oleu ac yn eglur; ond â rhagddo at beth arall, gan gyfnewid yr hyn a gynhyg i'r golwg yn barhaus. Tra mae eraill yn cerdded yn araf, y mae efe yn rhedeg yn gyflym, neu megis yn ehedfan. Y mae hyn yn beth nodedig yn ei holl bregethau; a thuedda i wneuthur dynion yn esgud ac yn graffus: ac amlygrwydd ei syniadau a bar, na fydd eu dwysder yn flinderus i un meddwl a'r na fyddo y wamal ac yn ysgafn. Nodweddiad arall a gaf grybwyll, yw, y cymhwysiad a wneir o bob athrawiaeth at ymarferiad a phrofiad y Cristion, a thuagat argyhoeddi pechaduriaid. Nid yw byth yn anghofio, ei fod yn traddodi y gwirionedd er addysg, adeiladaeth a llesad dynion. Argyhoeddi, hyfforddi, neu diddanu, yw y dyben yn barhaus. Pethau angenrheidiol i iechydwriaeth, nid pethau amgylchiadol, a driniai trwy ei holl bregethau: a dwg bob gwirionedd adref at gyflyrau dynion, yn ol eu hamryw amgylchiadau a'u sefyllfaoedd. Cyfeiria ei ymadrodd at bob math ar eu tro, at yr anedifeiriol o bob rhyw a gradd, ac at wir Gristionogion o bob gradd a chyflwr. Dengys y pregethau hyn y gwirioneddau a draddodai yn gyffredin, er na amlygant yr awdurdod a'r yspryd, â pha rai y traddodai hwynt.

Y mae dywediadau o eiddo Rowlands yn cael eu coffhau yn yr argraffiad sydd genyf o'i bregethau; y rhai a osodaf i lawr yma. Crybwyllir, y byddai yn eu harferyd yn aml yn ei ddyddiau diweddaf, ac y dywedai, "fod ganddo bedair gwers, y rhai y buasai ar hyd ei fywyd crefyddol, yn ceisio eu dysgu; ond er hyny, nad oedd ef ond ysgolhaig dwl iawn yn ei henaint; sef dysgu

1. Edifarhau, ac heb anobeithio,—
2. Credu, ac heb ryfygu,—
3. Llawenhau, ac heb fyned i ysgafnder,—
4. Digio, ac heb bechu.


Dywedir hefyd yn yr un lle, yr arferai ddywedyd—

"Fod yspryd deddfol mewn dyn yn debyg i'w grys; yr hwn yw y dilledyn y mae efe yn wisgo gyntaf amdano, ac yn ddiosg ddiweddaf."

Clywais hefyd am ymadrodd arall a grybwyllai yn fynych, sef yr un canlynol:—

Taw di, dafod; llefara di, droed.

Nodiadau

[golygu]