Neidio i'r cynnwys

Cofia'n gwlad, Benllywydd tirion

Oddi ar Wicidestun
Arglwydd Dduw teuluoedd Israel Cofia'n gwlad, Benllywydd tirion

gan Howell Elvet Lewis (Elfed)

Molwn Di, O! Dduw ein tadau
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

718[1] Gweddi dros ein Gwlad
87.87. 67.

COFIA'N gwlad, Benllywydd tirion,
Dy gyfiawnder fyddo'i grym:
Cadw hi rhag llid gelynion-
Rhag ei beiau'n fwy na dim:
Rhag pob brad, nefol Dad,
Taena d'adain dros ein gwlad.

2 Yma mae beddrodau'n tadau,
Yma mae ein plant yn byw;
Boed pob aelwyd dan dy wenau,
A phob teulu'n deulu Duw:
Rhag pob brad, nefol Dad,
Cadw Di gartrefi'n gwlad.


3 Gwna'n Sabbathau'n ddyddiau'r nefoedd,
Yng ngoleuni d'eiriau glân;
Dyro'r gwlith i'n cymanfaoedd—
Gwna ein crefydd fel ein cân:
Nefol Dad, boed mawrhad
Ar d'efengyl yn ein gwlad.

—Howell Elvet Lewis (Elfed)


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 718, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930