Neidio i'r cynnwys

Cofia'n gwlad, Benllywydd tirion

Oddi ar Wicidestun
← Arglwydd Dduw teuluoedd Israel Cofia'n gwlad, Benllywydd tirion

gan Howell Elvet Lewis (Elfed)

Molwn Di, O! Dduw ein tadau →
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

718[1] Gweddi dros ein Gwlad
87.87. 67.

COFIA'N gwlad, Benllywydd tirion,
Dy gyfiawnder fyddo'i grym:
Cadw hi rhag llid gelynion-
Rhag ei beiau'n fwy na dim:
Rhag pob brad, nefol Dad,
Taena d'adain dros ein gwlad.

2 Yma mae beddrodau'n tadau,
Yma mae ein plant yn byw;
Boed pob aelwyd dan dy wenau,
A phob teulu'n deulu Duw:
Rhag pob brad, nefol Dad,
Cadw Di gartrefi'n gwlad.


3 Gwna'n Sabbathau'n ddyddiau'r nefoedd,
Yng ngoleuni d'eiriau glân;
Dyro'r gwlith i'n cymanfaoedd—
Gwna ein crefydd fel ein cân:
Nefol Dad, boed mawrhad
Ar d'efengyl yn ein gwlad.

—Howell Elvet Lewis (Elfed)


Ffynhonnell

[golygu]
  1. ↑ Emyn rhif 718, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930