Neidio i'r cynnwys

Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych (testun cyfansawdd)

gan Thomas Jones, Dinbych

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Thomas Jones, Dinbych
ar Wicipedia





REV THOS. JONES, Senr
Denbigh



Cofiant,

NEU

HANES
BYWYD A MARWOLAETH

Y

PARCH. THOMAS JONES,

GWEINIDOG YR EFENGYL

Yn ddiweddar o
DREF DDINBYCH.

HANES EI FYWYD A SGRIFENWYD GANDDO EF EI HUN, AR
DDYMUNIAD EI GYFAILL PARCHEDIG Mr. CHARLES,
HYD AMSER MARWOLAETH Y GWR ENWOG
HWNW, YN 1814:

A orphenwyd gan

JOHN HUMPHREYS,
A
JOHN ROBERTS, LLANGWM.




A gyhoeddwyd, trwy Gydsyniad ac Annogaeth y Brodyr
cynnulledig yn
NGHYMDEITHASFA CAERNARFON,
HYDREF 1, 1820.




"Y Cyfiawn fydd byth mewn Coffadwriaeth."—Salmydd.




DINBYCH,
ARGRAFFEDIG AC AR WERTH GAN THOMAS GEE,
Ac i'w gael gan MR. SAUNDERSON, ARGRAFFYDD, BALA.
1820.

AT Y DARLLENYDD.

UN o orchymynion yr Apostol ir Hebreaid (Heb. 13. 7.) ydyw, Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw: ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt. Lle byddo blaenoriaid ysprydol a theilwng yn yr Eglwys, yn cael lle mawr yn meddyliau'r bobl, tra byddont yn myned i mewn ac allan yn eu plith, nis gallant lai na chofio am danynt ar ol eu hymadawiad. Er cystal, ac er mor ffyddlon y byddo gweision Crist tros eu tymmor ar y maes, nid ydyw eu hamser ond byr iawn:—gyd â'u bod megis yn dechreu ar eu defnyddioldeb gyd â'r gwaith, y maent yn cael eu galw oddiwrtho; i roddi cyfrif. Er hynny, y rhai a dderbyniasant yr efengyl drwyddynt, ac sydd yn dal yn eu côf â pha ymadrodd yr efengylasant iddynt, nis gallant beidio meddwl am danynt ar ol eu myned i orphwys: gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt.

Llawer sydd yn dal yn eu côf yr ymadroddion, a pha rai y du ein Parchedig Frawd Mr. Jones yn efengylu iddynt, am hynny nis gallant lai na meddwl am dano, ar ol i'w gorph fyned i dŷ ei hir gartref, a'i enaid i'r breswylfa lonydd. Oddi ar y meddwl sydd gan laweroedd am dano, a'r parch iddo, y mae eu dymuniad am gael ychydig o hanes am dano. Yr ydym gan hynny yn awr, trwy gydsyniad ac annogaeth ein Brodyr cynnulledig mewn Cymdeithasfa, yn ceisio rhoi ychydig hanes am dano ger bron ein cydwladwŷr a'n cyfeillion. Am y rhan flaenaf o hono nid oes gènym ddim i ddywedyd ond ei fod wedi ei ysgrifenu ganddo ef ei hun; oddieithr nodiad neu ddau. Ond am y rhan olaf y mae'n rhaid i ni fod yn rhwymedig am dano, fel casgliad. Ond, gobeithio yr ydym, pa faint bynag o waeledd sydd ynddo o'n hachos ni, na bydd i hynny wneuthur mo'r llyfryn yn annerbyniol.

Nis gallwn lai na galaru pan yn ysgrifenu hyn, wrth feddwl am lawer o Dadau enwog sydd wedi myned i ffordd yr holl ddaear; a bechgyn wedi eu gadael yn eu lle—Derw cedyrn wedi eu cwympo, a blagur gweiniaid wedi eu gadael ar ôl—Cedrwydd cryfa'r goedwig, y rhai a gysgodent y manwydd, wedi eu torri i lawr, a'u cymmeryd ymaith; a gadael y myrtwydd man yn agored i'r dymhestl, &c.--Ond, dyma ein calondid, a'n cysur, ac, gobeithio a gaiff fod, er cymmeryd yr îs fugeiliaid ymaith, gan angau du, fod Bugail mawr y defaid, yr hwn a lyngcodd angau mewn buddugoliaeth, etto yn fyw; ac wele byw ydyw efe yn dragywydd: Ac y mae wedi addaw bod gyd a'i bobl bob amser hyd ddiwedd y byd:-pwy bynag a'u gadawo, Ein hymddibyniad a fyddo arno, a'n dysgwyliad wrtho, yn ol ei addewid rasol, am bob gras, dawn, a chymmorth ysprydol, yn, a chyd a'i waith mawr. Oblegid hebddo ef nis gallwn ni wneuthur dim.

JOHN HUMPHREYS.
JOHN ROBERTS, Llangwm

DINBYCH, Tachwedd 9, 1820.

COFIANT, &c.

A chofia 'r holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd dy Dduw di.—Rhag ymddyrchafu o'th galon, ac anghofio o honot yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a'th ddug allan o wlad yr Aipht, o dŷ y caethiwed: Yr hwn a'th dywysodd di trwy'r anialwch mawr ac ofnadwy, lle yr ydoedd seirph tanllyd, ac ysgorpionau, a syched lle nid oedd dwfr; yr hwn a ddygodd i ti ddwfr allan o'r graig gallestr: Yr hwn a'th fwydodd di yn yr anialwch â manna, yr hwn nid adwaenai dy dadau, er dy ddarostwng, ac er dy brofi di, i wneuthur daioni i ti yn y diwedd.... Deut. 8. 2,-14, 15, 16.

Cofiaf drugareddau'r Arglwydd.... Esay 63. 7.

YR ymofynion canlynol a ddanfonwyd attaf fi, oddiwrth fy anwyl a'm hanrhydeddus Gyfaill, y Parch. T. Charles, o'r Bala.

"Pa bryd, ac y'mha le y'ch ganwyd?—O ba alwad a sefyllfa yr oedd eich Rhïeni?—Pa fath oedd eich dygiad i fynu o'ch mebyd?—Pa bryd, a thrwy ba foddion, yr ymwelodd yr Arglwydd â chwi âg argyhoeddiadau am eich cyflwr fel pechadur colledig?—Pa gynhaliaeth a weinyddwyd i chwi, a thrwy ba foddion, dan yr argyhoeddiadau hynny?—Pa bryd, a thrwy ba foddion, y datguddiodd Duw ei Fab ynoch? —Pa droion neillduol, o gyfyngderau a gwaredigaethau, a gyfarfuant â chwi ar eich taith trwy yr anialwch hyd yn hyn?—Pa gymhelliadau a'ch tueddodd tu ag at waith Gweinidogaeth y gair?—Pa rai a fuant yr anhawsderau a'r profedigaethau mwyaf?—hefyd, pa gysuron, a pha lwyddiant, a gawsoch, yn eich gwaith yn gyhoeddus?—Pa bethau hynodol a ddaliasoch sylw arnynt yn eich dyddiau, yn y dull, a'r moddion trwy ba rai, y dygodd yr Arglwydd ei achos gogoneddus y'mlaen?—Pa ddichellion ac ymosodiadau o eiddo'r gelyn a sylwiasoch arnynt, yn tueddu i attal y gwaith, yn yr Eglwysi, ac yn y byd? a pha fodd, er holl ddyfais y gelyn, yr aeth yr achos y'mlaen, ac y gorchfygwyd Satan a'i offerynau?—Beth yw eich grym a'ch cysur presennol yn y Weinidogaeth? a pha beth yw sail eich gobaith am fywyd tragywyddol yn wyneb angau a barn?

Derbyniais y Gofyniadau uchod yn y gwanwyn, 1800, ac yr wyf yn dymuno eu hateb mewn symledd, er na's gallaf, fe allai, mewn trefn fanwl.

Fe'm ganwyd yn Nghaerwys, yn Sir Flint, o ddeutu diwedd Chwefror, 1756. Fy rhieni oeddynt mewn sefyllfa ganolig; yn byw ar dreftadaeth fechan oedd yn eiddo fy Nhad.—Un o'r pethau cyntaf wyf yn ei gofio am danaf fy hunan, yn fy mebyd, yw, fod ymddyddanion, neu grybwylliad, a glywn am y nef, neu uffern, ac weithiau breuddwydion hefyd yn cael effaith gryn ddwys arnaf. —Cefais fy rhoddi mewn ysgol cyn bod yn bedair oed; ac yr oedd ynof duedd ac athrylith i ddysgu tu hwnt i blant yn gyffredin. Fy rhieni, wrth weled hyn ynof, a fwriadasant, ac a addawsant wrthyf, fy nwyn i fynu i fod yn Eglwyswr; yr hyn a'm boddlonodd yn fawr.

Rhyngodd bodd i'r Arglwydd ddwyn ymaith fy Mam, trwy farwolaeth, pan oeddwn yn saith oed: a'r cyfryw oedd ei hoffder a'i mawr dynerwch tu ag attaf, fel y bu arnaf hiraeth am dani tros hir amser. Fy Nhad a briododd eilwaith: ac yr oedd yn fy Llysfam rywfaint o ogwyddiad i wrando ar y Methodistiaid. Mi aethum gyda hi unwaith neu ddwy i'r Cyfarfodydd, ac a synnais beth wrth weled rhai o'r merched yn wylo, a chlywed y. Pregethwr yn dywedyd yn niwedd y bregeth, na's gwyddai efe, yn y dechreu, pa fodd i agoryd ei enau; ond fod yr Arglwydd wedi rhoddi iddo ddrws ymadrodd, ac wedi ei gynnorthwyo i draethu'r gwirionedd: Ond er hyn nid oeddwn yn gwneuthur nemmawr gyfrif o honynt, am nad adwaenwn, y pryd hynny, nemmawr un o'r rhai a'u gwrandawent yn rhodio mewn harddwch a duwioldeb buchedd. Yr oedd gwylltineb natur un neu ddwy yn dramgwydd i fy meddwl.

Fel y cynnyddais mewn oedran, fy llygredigaeth a gryfhäodd, ac a dorrodd allan mewn grym mwy. Mi a ymhyfrydais, fel ereill o'm cyfoedion, mewn pob pleserau gwael a diriaid a'r a allai fy oedran i gyrhaedd; yn enwedig mynnwn ddilyn chwareyddiaethau ar y Sabbath, er cael ceryddon mynych yn fy nghydwybod, ac weithiau ddwrdiad a gwïalen fy nhad hefyd. Un tro, yr wyf yn cofio, wedi ymddïosg i chwarau, daeth y fath ddychryn arnaf, fel y bu raid im' wisgo am danaf, ac ymlithro ymaith yn dra phoenus yn fy meddwl; etto dan gymmeryd arnaf fy mod yn sâl o gorph, er mwyn cael fy esgusodi gan fy nghyfeillion. Bu amryw beryglon a'm cyfarfuant, a gwaredigaethau a gefais, yn foddion mewn rhyw radd i chwanegu ynof ystyriaeth am fy nghyflwr. Y rhai y deliais fwyaf o sylw arnynt yw'r rhai a ganlyn.—Yr oedd ynof arswyd mawr rhag nadroedd; ond heb weled un, hyd pan oeddwn y'nghylch un ar ddeg oed. Ar ganolddydd, wrth chwilio am bêl a gollasid ar ein chware, clywn sŵn chwythiad dan fy nhroed: edrychais, a gwelwn ran o'r neidr oedd yn gorwedd yn dorchog; ond heb allu i'm niweidio, am fod fy nhroed ar ei phen a'i chynffon. Llemmais ymaith mewn dychryn; a'm cyfeillion, oedd hynach nâ mi, a'i lladdasant.—Dro arall, wedi codi seldrem o ŷd ar y maes, gwelwn neidr, oedd yn gorwedd dani, yn ymlusgo ymaith.—Drachefn, wedi tynnu mefusen oddi ar ochr clawdd, gwelwn fy mod wedi rhoi fy llaw o fewn torch neidr frêch fawr oedd yn gorwedd yno.—Dro arall, pan oeddwn yn Ysgol Treffynnon, wedi blino yn chwarau, ar ganolddydd gwresog, gorweddais ar lechwedd serth sy yn ochr ddwyreiniol y fynwent honno, gan feddwl hepian yno: ond, cyn i gwsg fy llwyr-ddal, clywn rywbeth yn ymgynhyrfu dan fy mhen; yn cyffwrdd â'm gwallt, ac a'm clust. Erbyn codi fy mhen, a'i droi i edrych, neidr oedd yno, wedi ei deffroi, mae'n debygol, gan bwys fy mhen, ac yn ymlusgo i'w thwll.—Pan oeddynt yn ail-adeiladu rhannau o'r Eglwys, yr oedd y plwm, i'w thoi, yn cael ei doddi mewn darn o'r hen Gapel Pabaidd sy uwch ben y ffynnon, a elwir Ffynnon Gwenfrewi. Yno hefyd yr oedd yr Ysgoldý: A chan fod y gweithwyr wedi gosod rhaff dros un o'r trawstiau cryfion sy yn nen yr adeilad (ac wedi bod gynt yn cynnal ei tho plwm) yr oeddym ninnau, yr ysgolheigion, yn defnyddio honno i chware sigl-hongian. Ar un tro, fel yr oeddwn i, a bachgen arall, yn brysur ar y dyfyrwch hwn, un o'r hen gyffiau cerfiedig, oedd wedi eu gosod dan groes-gyssylltiadau'r trawstiau, a ddaeth i lawr yn ddisymmwth, trwy fod y rhaff yn gwasgu arno o bob ochr, ac yntau yn hen a holltedig: Syrthiodd yn ddau ddarn o gryn bwysau, yn ein hymyl ni ein dau; ond trwy ragluniaeth dirion, ni a ddïangasom heb niwed.—Yr oeddym yn arfer myned ambell waith i ben y clochdŷ. Ar un diwrnod, mi a aethum ac a sefais ar uchaf un o adwyau ei fur-gaullaw: Ac nid digon oedd hynny genyf; ond, i ddangos ychwaneg o'm gwihydri rhyfygus, mi ddringais ar uchaf y grib (ond yn unig fod yno un garreg wedi colli) ac yno y sefais ar fy un-troed; ïe, edrychais i lawr, ac o'm deutu; tynnais fy het hefyd, a bloeddiais o orfoledd gwag. Ond yn fuan, ar floedd arswydławn hen wr oedd ar y fynwent mewn dychryn o'm hachos, minnau a ddechreuais arswydo, a phen-ysgafnhâu; a phrin y gwyddwn pa ochr yr oedd fy nisgyniad, neu yn hytrach fy nghodwm: Ond, trwy ddaioni Duw, ar y to plwm oddi mewn y disgynais, heb gael niwed. Yn agos ir un amser (o ddeutu'r flwyddyn 1771) yr oedd cymdeithas o Chwareyddion yn y dref: ac, am na fedrent gael lle arall wrth eu bodd, hwy a gytunasant âg un Mordecai Edwards i wneuthur iddynt Chwareudŷ, tros yr amser, o goed. Hwn a wnaed mewn gardd, lle yr oedd y pridd yn lled feddal: a chan fod fy awydd yn gryf am weled y Chware yn fynychach nag yr oedd gènyf arian i dalu, ymroddais gydâ dau neu dri ereill o'm cymdeithion, i grafu twll tan astyllen isaf yr adeilad; ac felly, o'r diwedd, ymwthiasom i mewn. Ond, gan fod y meingciau ar radd—esgyniad, y naill yn uwch nâ'r llall, nid oeddym ni, er ein hymdrech ladradaidd, ond mewn gwagle tywyll, is law y bobl, ac allan o olwg y Chware. O'r diwedd, wedi bod yno dro hir yn ymddifyrru fel y gallem, cawsom sisial wrth rại o'n cydnabyddiaeth, a thyciasom i gael ganddynt wneuthur lle, a'n helpio i fynu i eistedd yn eu mysg: a'u caredigrwydd hynny, mewn iawn bryd, a fu'r moddion i gadw ein bywydau. Pe buasem oddi tanodd ychydig funudau, neu fe allai un munud yn hŵy, cawsem ein llethu i farwolaeth. O herwydd yn fuan iawn ar ol i ni gael eistedd, y meingciau a ymollyngasant (am fod ystlysau'r adeilad yn egwan) ac a gyd-syrthiasant, y'nghyd â'r edrychwyr lliosog oedd arnynt, i'r gwagleoedd tanodd. Yr oedd yno ddychryn mawr; ond nid llawer o friwiau na niwed, oddieithr ar ddau neu dri. Am dana finnau, bum dros ychydig, mewn braw a syndod dwys, yn cydnabod mai llaw Duw a gadwodd fy mywyd, ïe, a'm henaid hefyd allan o uffern: ond och! buan yr anghofiais, neu y collais effaith y tro; ac felly rhedais ar ol gwag bleserau mor awyddus ag o'r blaen.

Yn y blynyddoedd hynny, sef o 1769 hyd 1772, bu llawer o gyfnewidiadau arnaf o ran agwedd fy meddwl, a dull fy ymddygiad: weithiau yn ofni, yn addunedu, ac yn ceisio ymdrechu yn erbyn fy nhueddiadau ynfyd a drwg;—weithiau yn ymollwng, ac yn ymroddi yn awyddus i fwynhau fy mhleserau. Gyda bodd hynod mi a addunedais lawer gwaith, y byddwn yn ddyn duwiol ar ol dyfod i oedran; ac y byddwn yn Weinidog deffröus, ymdrechgar a ffyddlawn: Ië, oddi ar y teimladau oedd gènyf, dychymmygais lawer y modd yr argyhoeddwn, y ceryddwn, ac y rhoddwn siamplau da i'm plwyfolion; ac addunedais y gwasanaethwn Dduw â'm holl galon. Ond hyn ni wnaeth y tro: yr oedd fy ofnau, o radd i radd, yn dychwelyd arnaf yn fynychach, ac yn drymach. Meddyliais y gallwn farw yn ieuangc; ac hefyd, er i mi gael fy arbed hyd henaint, y byddai yn llawer anhaws i mi y pryd hynny fyw yn dduwiol, os na ddechreuwn yn gynt. Yn y nos hefyd byddwn yn cael fy nychrynu trwy freuddwydion; yn enwedig un tro y breuddwydiais fod y ffwrn danllyd dragywyddol yn ymagoryd i'm derbyn, ac yn cael ei chau am danaf. Gan yr helynt flin oedd arnaf, mi a rodiais yn syn-ddifrifol tros ryw ambell yspaid, ac a roddais aml gais at wellhâu fy muchedd. Byddwn ofalus na thyngwn ddim (nid oedd hynny yn arferiad cyffredin gènyf, er y byddwn yn mynych-gwympo iddo yn nghyfeillach y rhai a'i harferent) ni's gallai fy nghydysgolheigion chwaith dynnu cymmaint a gwên oddi wrthyf; mi a'u cynghorwn yn sobr; diangwn i'm lletty i ddarllen; ac wedi hynny syrthiwn ar fy ngliniau, a dywedwn hyn a hyn o weddïau. Mewn tymmerau o'r fath yma barnwn fy hun yn ddyn duwiol: ond nid hir y parhai fy nghrefydd; y'mhen ychydig ddyddiau fe laesai'r awel, a minnau a syrthiwn at fy hen arferion yn ol.

Fel hyn y treuliais lawer o fisoedd; weithiau yn rhedeg gyda'r blaenaf ar ol pob ynfydrwydd Lachgenaidd; ac weithiau yn cael attaliad dwys, trwy'r dychrynfeydd a'r ceryddon yr oedd yr Arglwydd yn eu rhoddi arnaf. Ond o'r diwedd, math o anobaith a ddechreuodd orchuddio a sarnu fy enaid: Meddyliais ei fod yn beth llwyr-anmhosibl i mi garu duwioldeb, na gadael fy mhechodau: (er na wyddwn nemmawr fod dim uwchlaw ymarferiadau allanol mewn duwioldeb; nac am ddim pechodau i'w gadael, heblaw fy chwareyddiaethau, hela, cardiau, a'r cyffelyb, ar y Sabbath, a dyddiau'r wythnos:) Meddyliais hefyd am y nef, fod y gwaith sy yno yn berffaith groes i'm harchwaeth a'm hanian i; gan hynny, nad oedd dim well i mi nag ymorchestu i gael fy rhan yn helaeth o bleserau daear a phechod, ac anghofio'r gosp, hyd oni orfyddai arnaf, yn un o lawer iawn, ei goddef. Dyma'r feddyginiaeth dlawd, resynol, a gynnygiodd Satan a'm calon druenus i mi: ond gan fy mod yn gweled fy ngresyni i radd fawr, weithiau, ac yn dra anesmwyth o'r achos, cynnygiodd y gelyn i mi feddyginiaeth arall, nid llai gresynol ac ofnadwy, etto yn tueddu'n fawr i roddi esmwythdra i fy meddwl yn y cyflwr truenus yr oeddwn ynddo: Cefais fy llithio i feddwl, neu yn hytrach, i obeithio yn gadarn, nad oes na Duw, na Diafol; na nef, nac uffern —Fel hyn yr ymdrybaeddais yn fy ngwaed: Etto ni adawodd yr Arglwydd mo honof; ond dilynodd fi â'i ymrysonau; a'r rhei'ny weithiau yn fy nal mewn modd mwy tyner a thoddawl. Yr wyf yn cofio rhai amserau, pan y byddwn, ar fy mhen fy hun, yn cael fy ngorddiwes yn ddisymmwth a thristwch am fy mhechodau, a hunan—ffieiddiad, y'nghŷd â meddyliau gobeithiol am iachawdwriaeth, nes y byddai fy serchiadau yn toddi, fy llygaid yn llifo gan ddagrau, a'm tafod hefyd ar waith mewn ymbiliau a dïolch Dymunaswn dreulio fy oes yn y fath le, ac yn y fath agwedd meddwl."

Cymmerwyd fi allan o'r Ysgol, yn agos i ddyddiau'r Nadolig, 1771, pan oeddwn yn nghylch pymtheng mlwydd a naw-mis oed. Yr oeddwn y pryd hynny yn gryn hyddysg yn yr ieithoedd Lladin a'r Groeg: gan hynny bwriadodd fy nhad i mi aros gartref tros beth amser, oblegid ei bod yn rhy fuan ganddo fy rhoi yn y Brif-ysgol. Yn fuan ar ol hynny, heb i mi fod yn profi yr un radd o drallod ac ofnau ag a fuasai o'r blaen yn fy ngwasgu, dechreuais roddi lle i ryw ddymuniad gwan am fyw yn dduwiol; gan feddwl (oddiwrth yr ofnau, ac hefyd y llawenydd hedegog, a deimlaswn) mai hynny a'm gwnâi yn wir ddedwydd, yn y bywyd hwn, ac i dragywyddoldeb. Ymroddais i gilio yn fynych i'r dirgel, lle y darllenwn amryw ffurfiau o weddi; megis, am edifeirwch, am ffydd, &c. yn enwedig am y gras o barhad; am fy mod yn mawr-ofni y syrthiwn yn ol, fel y darfuasai i mi amseroedd ereill.—Yn y mis Mawrth canlynol, daeth un o'r bobl a elwir yn Fethodistiaid at fy nhad, i geisio ganddo osod tŷ iddynt bregethu ynddo yn Nghaerwys. Yr oedd gènyf feddyliau go dda am danynt er's peth amser, wrth weled rhai a fuasai yn hynod ddrygionus yn cael eu hynnill trwyddynt i fucheddu'n hardd: hefyd, yr oedd pregeth a glywswn gan yr hen wr syml, Robert Llwyd, o Blas Ashpool, (oddi ar Esay 40) wedi cael peth effaith arnaf. Gan hynny dymunais ar fy nhad adael iddynt gael y lle. Fe synnodd wrthyf: ond, er ei fod yn lled-wrthwynebus, cytunwyd am dano. Yr oedd y gwr ar ei ffordd yn myned i wrando pregeth, oedd i fod yn Ffynnon Feuno: fy mrawd, iau na mi, ydoedd awyddus i fyned gyd âg ef; a'n Llysfam a'm lled-gymhellodd innau. Yr oedd arnaf ofn a chywilydd; ond er hynny cydsyniais i fyned. Robert Evans, o Lanrwst, oedd yn cynghori (ei destun, Salm 86. 11.) ac fe gafodd yr odfa gymmaint o effaith arnaf, fel yr aethum yno drannoeth drachefn, i wrando Edward Parri, Brynbugad, Llansannan.—Wedi hynny, mi a geisiais gyfleusderau i wrando amryw bregethwyr ereill, ac a'u gwrandewais gyd âg awyddfryd, a rhyw radd o flas a budd. Ychydig wythnosau wedi hyn, fel yr oeddwn efo gorchwyl yn y maes, rhedodd gair fel hyn yn ddisymmwth, ac yn rymus, i fy meddwl; "Mi a'th gerais â chariad tragywyddol." Nid oedd fy nghydnabyddiaeth â'r Ysgrythyrau ond bychan iawn; ac ni chlywswn am y fath beth yn mhrofiad neb arall: etto meddyliais fod y geiriau yn y Bibl; ac mai yr Arglwydd a'u hanfonasai attaf: Ac yn wir hwy gawsant effaith fawr arnaf; oblegid y pryd hyn mi a adewais fy mhleserau gynt, nid o anfodd, ond o wir ddewisiad; ac fe a'm nerthwyd hefyd, i oddef y groes oddi allan, yr hon, erbyn hyn, oedd yn dechreu gwasgu yn lled ddwys arnaf. Mi a chwiliais lawer am y geiriau, oedd wedi swnio mor hyfryd yn fy meddwl, ac a'u cefais o'r diwedd (yn dra thebyg i'r modd y rhedasent i fy nychymyg) yn Jer. 31. 3. Ond er hyn yr oeddwn, trwy'r holl amser, yn dra anwybodus o'm cyflwr euog dan y ddeddf, yn nghŷd â phla fy nghalon: ïe, yr oedd yn rhyfedd gènyf pa fodd nad oeddwn i (ar ol gwellhâu cymmaint ar fy muchedd) yn fwy teilwng o iachawdwriaeth na'm hen gyfeillion, oedd etto yn byw yn eu pechodau.—Yn mhen ychydig ar ol hyn, gwelais beth o'm trueni a'm drygioni tufewnol, trwy fod fy nghalon (dy bygwn) yn ymgaledu, a'r hen ddidduwiaeth meddwl yn dechreu ail-ymddangos: a hyn fu'r achlysur cyntaf. i mi feddwl yn ddwys am bla fy nghalon..

Y'nghylch yr amser hwn, neu ychydig ar ol hyn, bu arnaf, tros rai wythnosau, gryn helbul yn achos Arfaeth Duw, ac Etholedigaeth; nid am fy mod yn ammau pa un a oedd athrawiaeth Rhagluniaethiad yn unol a'r Ysgrythyrau, ai nid oedd: (yr oeddwn yn cwbl—farnu ei bod; yn enwedig, wrth edrych ar Eph. 1. a Rhuf. 8. a 9 pen:) Ond fy mhrofedigaeth oedd, Pa fodd y mae Duw yn gyfiawn, yn rasol, ac heb fod yn dderbyniwr wyneb, yn ei waith yn ethol rhai, ac yn gadael ereill i'w dinystr, gan beri'r fath wahaniaeth diderfyn yn eu cyflyrau? Wrth geisio dattod y cwlwm trwy rym fy rheswm a'm synwyr, nid oeddwn yn tycio nac yn llwyddo dim, eithr yn hytrach yn ymddyrysu fwyfwy: ond wrth geisio ymbil am oleuni ac addysg gan yr Arglwydd, gwelais, fy mod i, a holl hil Adda, yn greaduriaid gwenwynig, sarphaidd o anian; a hynny, nid trwy weithrediad Duw; yn ganlynol, eb fi, Yr wyf fi yn sicr yn haeddu fy namnio: ac os arfaethodd Duw ogoneddu ei gyfiawnder yn fy namnedigaeth i, a myrddiynau o'm bath, ni wnaeth efe â mi ddim cam. Trwy ystyriaethau o'r fath yma y dystawyd, y pryd hynny, ddadłeuon chwerwon y gelyn a'm calon wrthryfelgar.

O ddeutu dechreu'r haf (1772) fy nhad, wrth weled fel yr oeddwn yn tueddu, a'm cymhellodd i ddychwelyd i'r Ysgol. Sylwedd fy atebion oedd, "Nad oeddwn yn gwrthod myned wrth ei orchymyn ef; ond fy mod yn meddwl nad atebai hynny ddim i'r dyben oedd yn ei olwg."—Yr oedd genyf y fath olwg ar fucheddau'r Offeiriaid, fel y llwyr-gaseais, ac y dychrynais rhag, y meddwl am fod yn un o honynt. Yr oedd arnaf ofn hefyd yr anghofiwn gyflwr fy enaid, ac y dychwelwn at fy hen bleserau, trwy rym y deniadau a'r croesau a gawn eu cyfarfod yn yr Ysgolion. Mewn gair, daeth y fath yspryd caethiwed arnaf, fel y rhoddais heibio fy holl lyfrau ysgol; a phrin y gallwn edrych ar un o honynt drwy'r saith mlynedd a ganlynodd. Yr oeddwn hefyd yn ddyfal ar lafur—waith ddyddiau'r wythnos; a'r ychydig amser a gawn y nosweithiau, a'r Sabbothau, gwell oedd gènyf ei dreulio yn darllen y Bibl, a llyfrau crefyddol ereill.—O ddeutu diwedd yr haf hwn, cefais glywed am gyd-gynnulliad neillduol, gan ychydig gyfeillion crefyddol, yn Nghaerwys; a, thrwy gael peth cymhelliad, aethum yno—cefais dderbyniad, fel aelod eglwysig: ac nid hir y'm gadawyd heb gael gweled peth o'r fraint o fod â'm coelbren yn eu mysg. Yr oeddwn yn teimlo fod arnaf eisiau bendithion ysprydol, nad oeddwn etto wedi eu cyrhaeddyd; ac yr oedd rhyw fesur o gri yn fy yspryd am gael eu mwynhau.

Yr oeddwn, erbyn hyn (oddi ar y dewisiad a wnaethwn) yn gorfod ymarfer â phob gorchwyl hwsmonaidd, er fy mod yn dyner a gwan o gorph, a goddef peth gŵg yn fynych, ïe, yn feunyddiol. Cefais nerth i ymostwngi'r pethau hyn gyda boddlonrwydd: ond fy ngofid trwm oedd, bod fy mhla oddi mewn yn chwanegu. Ar ol aml frwydr galed (a minnau weithiau yn colli, weithiau yn ynnill y dydd, fel y meddyliwn) fy hen ddidduwiaeth talgryf a gasglodd ei fyddinoedd, ac a ddaeth i mewn fel afon. Nid oedd dim, tybygwn, y'ngair Duw, nac yn ei natur, ei brïodoliaethau, na'i hanfod, nad oeddwn i yn cael fy nwys-demtio i'w ammau, a'i wrthod, ïe, i'w ddiystyru, a'i gablu. Yr oeddwn yn wir yn mawr-chwennych ymdrechu yn erbyn y fath feddyliau, ac yn taer-lefain am faddeuant, a goruchafiaeth arnynt; ac ambell waith mi a fyddwn mewn gobaith cryf am gael gwaredigaeth, trwy Dduw yn unig, oddi wrthynt. Ond er hynny ymgryfhâu yr oeddynt, i'm teimlad i; a thrymhâu yr oedd fy maich, tros rai wythnosau a misoedd;—lliaws o wrthresymiadau yn ymgodi ynof beunydd; a minnau yn llwyr-ddigalòni. Rhyfedd oedd gènyf fy mod heb gablu Duw a'm tafod, ac heb wallgofi: ïe, tros beth amser mi a roddais le i'r meddwl, fy mod wedi pechu'r pechod anfaddeuol; a bum i ryw radd, fel un condemniedig o'r achos yn fy ngydwybod.

Ar ddydd Sabbath, yn agos i ddiwedd Medi, yr oedd y Parch. D. Rowlands i bregethu yn y Bont Uchel. Wrth glywed am ei ddoniau ardderchog, mi a ymroddais i fyned yno; ac a roddais le i ryw ddysgwyliad y cawn yno ymwared oddiwrth fy maich. Ei destun oedd yn Gen. 49. 18. Wrth dy iachawdwriaeth di y dysgwyliais, Arglwydd: ond, er i mi gael ychydig gysur, fy maich oedd yn aros. Yr oeddwn yn rhy ddi-galon i fyned i'w wrando drannoeth, er ei fod yn llawer nés attaf (yn y Berthen gron) ond gan fod cynnulliad neillduol y noswaith honno yn Nghaerwys, mi aethum yno, yn ofidus iawn, ac yn ofni mynegi am fy nghyflwr wrth neb. Un o'r chwiorydd a adroddodd ddaioni'r Arglwydd, yn ymweled â hi, y diwrnod hwnw, trwy'r bregeth yn y Berthen gron, gan ei chodi o'i dwfn ddigalondid. Yn fy meddwl yr oeddwn yn ei hateb, "Yr wyf finnau hefyd yn y pydew dwfn; a gwn mai dyna'r lle y byddaf." Cyn diwedd y cyfarfod, dechreuodd rhai ganu, canmawl, a llawenhau. Tra yr oeddwn innau wedi cilio i'r naill du, ac mewn myfyrdod poenus, yn edrych arnynt, rhedodd meddwl fel hyn, yn rhyw fyfyr dwys, o'm mewn, "Y mae'n dra thebygol fod rhywbeth mewn crefydd, goruwch dychymmygion: onid oddiwrth yr Arglwydd y mae llawenydd y rhai'n yn deillio?" Yna, yn ddisymmwth, cododd meddwl arall gyda grym mawr (ni's gwn pa fodd i adrodd y peth; ond yr oedd megis pe buasai Duw yn ymresymu â mi) "A wyt ti yn barod i goelio tystiolaeth y rhai'n, dy gydgreaduriaid gwaelion? ac ai ni chredi di mo dystiolaeth fy ngair i? Gyd a'r meddwl tywynodd goleu ar fy yspryd; ystyriais, a gwelais y gair, fel gair Duw: fy nghalon a gydnabu fod dwyfoldeb yn argraffedig yn yr Ysgrythyrau, mor amlwg a goleuni yn yr haul: fy nghadwyn a syrthiodd oddiwrthyf; cywilyddiais a ffieiddiais fy hunan; dychwelais at fy nghyfeillion, a chyda hwynt, i dalu diolch. Yr wyf, rai gweithiau ar ol hynny, wedi cael prawf o lymder amryw biccellau o eiddo'r fall: ond, o'r amser hwnw (Medi, 1772) hyd heddyw (Tach. 26, 1800.) ni chafodd y brofedigaeth honno, yn ei grym cyfan, ddim cènad i ruthro ar fy enaid gwan.

Bum yn dra chysurus am rywfaint o amser wedi hyn; ond nid yn hir heb gael fy argyhoeddi, dybygwn, mewn rhyw fesur, fod yr hyn a gawswn yn fy ngadael yn fyr o brofi heddwch yr efengyl; ac fod arnaf eisiau nerth, nid yn unig i gredu bod Duw, a bod yr Ysgrythyrau yn air Duw, ond hefyd i dderbyn Crist yn ol y gair; ei dderbyn, trwy ddatguddiad a chymhwysiad yr Yspryd Glân, yn Iachawdwr imi bechadur euog. Yn y caethiwed hwn, a than ryw fesur o deimlad o hono, mi dreuliais yn agos i saith mlynedd yn ychwaneg; heb wybod dim i foddlonrwydd beth yw cael gorphwysfa enaid yn Nghrist, a heddwch tu ag at Dduw yn y gydwybod. Yr oeddwn agos trwy'r holl amser hynny, megis â llaw gènyf ar fy nolur; ac rai gweithiau yn drallodus iawn. Pan adroddwn fy nghyflwr wrth fy nghyfeillion, neu ryw Weinidog, yn gyffredin hwy a'm hannogent i ddysgwyl am yr Arglwydd, ac a'm cysurent: a llawer gwaith y danfonwyd megis rhyw belydr o oleuni efengylaidd i fy enaid, ac y cefais ryw gip—olwg ar ogoniant Crist: ond credu ei fod yn iachawdwriaeth i mi ni's gallwn.

Yn yr yspaid hwnw o amser, heblaw fy maich a'm croesau cyffredin, yr wyf yn cofio'r amgylchiadau canlynol, a fuant im' er rhyw fesur o brawf; ac yn mha rai y cefais arwyddion o ofal tirion yr Arglwydd am danaf.—Yn mhen blwyddyn, neu lai, ar ol im' ymuno â chyfeillion crefyddol, y gelyn a ddangosodd rai o'i ddichellion; ei efrau a gyfodasant eu pènau; tramgwyddiadau ac ymrafaelion a rwygasant ein cymdeithas fechan. Deallais hefyd rywfaint am yr amrafeiliaeth o ran barnau sydd rhwng yr amryw Sectau crefyddol. Terfysgais a thramgwyddais innau, yn fy meddwl, wrth y pethau hyn; a chollais yr olwg agos oedd genyf ar fy nghyflwr: Ond yr Arglwydd, mewn iawn bryd, a gymhwysodd y gair hwn at fy meddwl, Pa beth yw hynny i ti? canlyn di fyfi. Iöan 21. 22.

Daeth i'm cyfarfod amryw gynnygion i wellhâu fy nghyflwr yn y byd, a diangc oddi tan y groes, trwy ymddyeithro oddiwrth y bobl ddirmygedig yr oeddwn yn ymlynu wrthynt, fel fy athrawon a'm cyfeillion: Cadwodd yr Arglwydd fi rhag rhoddi lle i un o'r rhai'n. Ond o'r diwedd daeth cynnyg oedd yn ymddangos yn deg iawn, gan fod rhyw radd o ryddid crefyddol (etto o fewn terfynau gosodedig) yn ei ganlyn. Ennillodd hwn fy serch ar ei ol: etto rhagflaenodd yr Arglwydd fi yn rasol ar y ffordd. Rhoddodd ynof, y'nghanol fy ffrwst, ryw fesur o ddymuniad am ei gyfarwyddyd; ac yna y gair hwn a redodd fel cleddyf i fy meddwl; Demas a'm gadawodd, gan garu'r byd presennol. 2 Tim. 4. 10. Cefais fy argyhoeddi mai esmwythder ac elw daearol oeddwn yn edrych am danynt; a'm bod, wrth ei dderbyn, yn debygol i gael llwybr teg, i foddio fy anian lygredig, taflu ymaith groes Crist, ac ymwrthod â'i achos. Ystyriaeth syml a'm meddianodd; meddyliais mai fy nyledswydd oedd gwrthod y cynnyg: cefais nerth ac ymroddiad i hynny; a gwelais achos i ryfeddu daioni Duw o'r herwydd.

Yn y rhan olaf o'r flwyddyn 1778, a dechreu'r ganlynol, yr oedd fy nghyflwr yn pwyso arnaf yn drymach nag o'r blaen, ac hyd nes oeddwn yn colli blas ar fwyd a diod, a phob mwyniant daearol. Yr oeddwn yn gorfod edrych ar anghrediniaeth mewn lliw du, ac yn teimlo ei rym gorthrwm yn fy enaid tlawd. Geiriau'r Apostol (Yr hwn nid yw yn credu i Dduw a'i gwnaeth ef yn gelwyddog, 1 Iöan 5. 10.) a llawer o'u cyffelyb, a fyddent yn fynych yn peri im' archollion ac ocheneidiau dwys. Er cynhaliaeth dan fy maich, yr oedd ynof ddysgwyliad, weithiau yn gryfach, weithiau yn wannach, am waredigaeth; ac, rai prydiau, wrth geisio tywallt fy nghyflwr ger bron yr Arglwydd, byddai y gair hwnw, Os erys y weledigaeth, dysgwyl am dani, (Hab. 2. 3.) ac amryw Ysgrythyrau ereill, yn adseinio megis o'm mewn, er cysur a chynhaliaeth i fy yspryd gwan.

O ddeutu diwedd Mai, 1779, cefais fy nharo â dolur lled ysgafn yn fy nghorph; etto fel y bu raid i mi orwedd tros rai dyddiau. Yn yr yspaid hwn gadawodd yr Arglwydd, i ffynhonnau dyfnder fy nghalon gael, megis, eu rhwygo yn agored: Yn lle calon ddrylliog yn ceisio Duw, ac yn ymbil am ei heddwch (meddyliaswn fod hynny gènyf o'r blaen) nid oeddwn yn profi, y pryd hyn, ond ymchwydd a gwrthryfel calon yn erbyn yr Arglwydd, ei gyfraith, a'i efengyl: Fy llygredigaethau oeddynt yn cyd-ymgynhyrfu ynof, nes oeddwn yn barnu fy hunan yn dra phell oddiwrth iachawdwriaeth, ac, o ran fy nheimlad, yn nesâu i anobaith: fy mywyd oedd yn boen, a marwolaeth yn ddychryn.— Mi wellheais o'r clefyd hwn, heb brofi dim iachâd i'm henaid: ond, i'r gwrthwyneb, euogrwydd, anghrediniaeth, gelyniaeth i Dduw, a gwrthodiad o'i iachawdwriaeth, oeddynt i'm teimlad i, megis yn gorfoleddu arnaf. Etto yr oedd ystyriaeth am y fath Ysgrythyrau a'r rhai'n yn rhyw radd o gynhaliaeth i fy meddwl; Pan ddaeth y gorchymyn, yr adfywiodd pechod, a minnau a fum farw: A'r gorchymyn yr hwn ydoedd i fywyd, hwnw a gaed i mi i farwolaeth, Rhuf. 7. 9, 10: Hefyd, Rhuf. 3. 19. Fel y cauer pob genau, &c. Meddyliais y gallai fod eu cynnwysiad yn cael ei wirio ynof, trwy'r pethau chwerwon oeddwn yn eu profi. Ond wedi i mi fod, tros rai wythnosau ar ol hynny, yn rhodio yn alarus, ac yn cael (fel pe buasai) fod yr eglwys, a'r byd, ïe, nefoedd a daear, mewn cynghrair na roddent i mi ddim cysur; gwelodd yr Arglwydd yn dda roddi ei law arnaf eilwaith trwy lycheden (fever) drom; yr hon a'm dygodd, yn ol fy meddwl, i byrth angau. Pan oeddwn yn y cyflwr hwn, ac yn llawn o ddychryn, daeth y gair hwnw, gyda goleu a grym neillduol, i fy meddwl; Os, pan oeddym yn elynion, y'n heddychwyd â Duw trwy farwolaeth ei Fab ef. Rhuf. 5. 10. Yna meddyliais fel hyn; "Yn sicr er i mi feddwl nad oedd un gair, o fewn y Bibl, a ddygai i'm henaid i nac ymwared na chysur, etto y mae hwn yn rhoi sail o obaith i minnau: Gan fod gelynion wedi cael eu heddychu a Duw, y mae lle i minnau gael fy achub; nid wyf ddim yn rhagor nag un o'r cyfryw, er fy mod yn dduaf un ag sy'n bosibl ei fod, tu yma i uffern." Yn y modd hwn y codwyd fy enaid, tybygwn, megis o'r daeardy dwfn. Yn lle euogrwydd ac ofn, a blin gynhyrfiad fy llygredigaethau, dechreuais brofi meddyliau tyner am Dduw, a chysur gobeithiol yn llifo i mewn arnaf; a chefais ryw radd o nerth i gredu, yn wyneb fy nhrueni mawr, fod marwolaeth y groes, marwolaeth Mab Duw, yn llawn ddigon rhinweddol i'm hachub, ac i'm hachub yn gyfiawn, ïe, i'm gwaredu hyd byth oddiwrth bechod a digofaint. Wedi i'm fod, tros rai dyddiau, yn wyneb angau o ran grym clefyd, a'm henaid yn glynu yn obeithlawn wrth iachawdwriaeth Crist, dechreuais wellhau ychydig: ond fy meddwl a dywyllodd, a'm cysur a giliodd. Yna amheuaeth, ïe ofn, a ddaeth arnaf, nad oedd yr hyn a gawswn ond twyll a siomedigaeth: etto yr oedd llef hiraethlawn yn cael ei chadw ynof am iachawdwriaeth fy Nuw.

Pan oeddwn, ar un diwrnod, yn dechreu rhodio ychydig allan, ac yn myfyrio ar fy nghyflwr, gan ddymuno gwir-adnabod y sail y gallai fy enaid gwan, terfysglyd, bwyso arni, a chael fy sefydlu ar y graig honno, rhedodd y gair hwn gyda goleu a grym i fy meddwl, Wedi iddo wneuthur heddwch trwy waed ei groes ef, Col. 1. 20; a thrachefn y gair hwn, Wedi eu cyfiawnhau yn rhad trwy ei ras ef, trwy'r prynedigaeth sydd yn Nghrist Iesu, Rhuf. 3. 24. Daeth goleuni gyda'r rhai'n i'm hyspryd, nes gwelais yn eglur fod yn Nghrist yn unig gyfiawnder cwbl berffaith, yn cael ei gynnyg a'i roddi yn gwbl rad, i wneuthur y fath bechadur a myfi yn ddifeius ger bron Duw. Ar hyn dychwelais i'm 'stafell mewn syndod a llawenydd mawr; ac yn y man agorais y Bibl, gan feddwl darllen rhyw gyfran o hono. Y gair a ymgynnygiodd yn gyntaf i'm golwg oedd hwn; Ni lwydda un offeryn a lunier i'th erbyn; a thi a wnei yn euog bob tafod a gyfodo i'th erbyn mewn barn. Dyma etifeddiaeth gweision yr Arglwydd, a'u cyfiawnder hwy sydd oddiwrthyf fi, medd yr Arglwydd, Esay 54. 17. Nid oeddwn am ddefnyddio geiriau y Bibl mewn ffordd ofer-goelus; ond yr oedd matter y testun hwn yn ddigon gènyf, a'i adsain yn llenwi fy enaid: Fy nghalon a ehangwyd, a chefais brofi peth o orfoledd yr iachawdwriaeth. Syrthiais ger bron yr Arglwydd, gan ddymuno diolch iddo; a dywedais fy mod yn anturio yn hyderus fy oll i dragywyddoldeb ar gyfiawnder yr Emmanuel, Duw gyda ni; gan ddymuno gras i'w dderchafu mewn calon a buchedd, a rhodio yn ol ei gynghor tra byddwn yn y byd.

Tros ryw dalm o amser ar ol hyn, cefais fy nghadw nid yn unig yn effro, ond yn profi rhyw. fesur o heddwch a rhyddid ysprydol; yn cael golygiadau a blas ar yr Ysgrythyrau na wyddvn o'r blaen am danynt; a chysur boddlonawl, wrth fyfyrio ar ryfeddodau'r prynedigaeth, yn mynych-lifo i fy enaid. Etto pan gollwn y, eimlad o gysur, byddwn nid yn unig yn dralldus, ond yn dra thueddol i syrthio i amheuaeth am y cwbl a brofaswn. Mewn amgylchiadau o'r fath, cefais ambell ymweliad cynnorthwyol a dyddanus, trwy amryw foddion gras. Y gair hwn yn neillduol, Cyfammod fy hedd ni syft, a fu un tro yn dra effeithiol i chwalu ofnau ac amheuon trymion, ac i'm llenwi o orfoledd a diolchgarwch. Mewn gair, yn y dyddiau hynny, yr oedd rhywbeth o ogoniant, sicrwydd, ac addasrwydd yr addewidion, y'nghŷd ẩ'm hawl innau ynddynt, yn cael, tybygwn, eu cyd-selio ar fy yspryd. Yr oedd addewidion Duw, a thrysorau grasol ei gyfammod, yn rhy anhawdd i mi eu gwrthod: Er fy anghrediniaeth cryf a greddfol, yr oedd yn rhy anhawdd i mi anghredu.

Tros fwy na dwy flynedd wedi hyn, yr oedd fy meddyliau yn cael gwaith ymdrech a phrawf oddiwrth y pethau canlynol, heblaw oddiwrth fy nghyflwr ysprydol.

1. Newidiad cyflwr yn y byd. (Nid oeddwn, trwy'r holl flynyddoedd o'r blaen, wedi gallu cynnwys un meddwl am hyn, gan y teimlad oedd gènyf o'm caethiwed ysprydol, a'r meddwl am y gair hwnw, a'i gyffelyb, Ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw, &c. Math. 6. 33.)

2. Gwendid corphorol, gan radd o boen yn fy aelodau. Yr oedd hyn yn groes ar fy ngwarr, nid yn unig am fy mod yn magu afiechyd mewn ieuengctyd, ond hefyd fy mod yn boenus wrth ddilyn gorchwyl fy sefyllfa, a [1] cherdded wedi hynny i foddion gras.

3. Gogwyddiad oedd ynof (neu, cymhelliad a ddywedaf!) i ddywedyd gair tros yr Arglwydd wrth fy nghyd-greaduriaid. Yr oedd rhywbeth o hyn yn fy nilyn, ar amserau, trwy'r blynyddoeddo'r blaen, er y tywyllwch a'r caethiwed oeddwn yn ei deimlo ar fy enaid: ond y dyddiau hyn yr oedd gyda mi yn fynychach ac yn fwy ei rym; nes y byddwn ambell waith yn gorfod meddwl, "Rhaid i mi fyned at y gwaith mawr hwnw."

Bu y pethau hyn (y'nghŷd â pheth teimlad o wendid fy ffydd a phob gras) yn foddion i'm cadw rhag cysgu yn hollol, ac i beri fod gènyf neges at orsedd trugaredd: A chefais, tybygwn, ychydig nerth i fwrw fy meichiau ar yr Arglwydd, ac hefyd beth profiad o'i ddaioni mewn amryw ddyryswch a chyfyngderau、

Am y peth cyntaf, ac hefyd yr ail, cefais wybod nad oedd fy nychymygion a'm dymuniadau i, a meddyliau Duw, ddim yn cyd-fyned cefais brofi, er i'r swmbwl yn y cnawd fod heb fy ngadael, ac er i'm beichiau drymhâu, fod ei ras ef yn ddigonol i'm cynnal a'm cadw: a chefais radd o nerth i ymfoddloni i'w drefn ddoeth.

Am y trydydd, sef gogwyddiad fy meddwl i bregethu'r gair, rai gweithiau mi a'i gwrthwynebwn yn hollol, gan ei gyfrif yn unig yn ffrwyth balchder ac ynfydrwydd fy nghalon, ac a daer weddïwn yn ei erbyn: rai gweithiau, gan ammeu hyn, dymunwn i'r Arglwydd fy ngoleuo yn yr achos, a'm cyfarwyddo. Ond trwy'r cwbl ni's gallwn feddwl fod gènyf gymhwysderau i'r gorchwyl, o ran profiad na doniau, ac nid oeddwn yn teimlo grym i fyned yn ei gylch, mwy nag i godi mynydd.

Heblaw y pethau hyn, a holl amryw lygredigaethau fy nghalon, yn feunyddiol yn rhyfela yn erbyn fy enaid, cyfarfuais, y'nghylch yr amser hwnw, âg un brofedigaeth chwerw iawn, o eiddo'r fall, mae'n debygol: etto ni chafodd fod yn hir ei pharhad. Pan oeddwn wedi colli'r mwynhad cysurus a fuasai ambell waith gènyf, a'm meddwl hefyd wedi ymlithro i ddïofalwch a chysgadrwydd, cefais gyfarthiad hyll y pryd hyn i'm deffro: daeth haid o amheuon, am wirioneddau gogoneddus yr efengyl, i ddwys aflonyddu fy enaid: nes ofnais fy mod ar gael fy llenwi â'r holl gableddau, a fuasai megis yn gorfoleddu arnaf amryw flynyddau o'r blaen. Holiadau fel hyn oedd yn cael ei cymhell arnaf; Pa fodd y gall dyn euog gael ei wneuthur yn wir gyfiawn trwy gyfiawnder un arall? Pa fodd y dichon rhoddiad un i farwolaeth ddwyn bywyd a bywyd tragywyddol, i fyrddiynau? Pa fodd y gall un person fod yn Dduw, ac yn ddyn? a Nawer o'r cyffelyb. Bum yn drallodus gan y pethau hyn tros rai dyddiau; ond rhoddodd yr Arglwydd i mi rym i ymdrechu âg ef ei hun yn eu hachos: ac fel yr oeddwn ar un diwrnod yn tywallt fy nghwyn ger ei fron, cafodd y gair hwnw ei gymhwyso, gydâ grym neillduol, at fy meddwl, Crist gallu Duw, a doethineb Duw, 1 Cor. 1. 24. Yn fuan iawn bu raid i'm hamheuon ddystewi a ffoi. Cefais olwg gogoneddus ar berson a dyoddefiadau'r Emmanuel, nes oedd fy enaid yn gorfoleddu ynddo, gan gydnabod fod yr iachawdwriaeth sydd trwyddo yn bènaf o weithredoedd Duw hollalluog a holl-ddoeth, ac yn rhoi y sail gadarnaf o obaith a chysur i bechadur. Parhäodd yr archwaeth felus o hyn ar fy meddwl tros lawer o ddyddiau: a chefais fy arwain, gydâ hyfrydwch, i ddal manwl sylw ar y modd y mae'r Hen Destament, yn ei brophwydoliaethau a'i gysgodau, yn cyhoeddi'r un Crist a'r Testament Newydd yn ei adroddiadau eglur. Bu y golygiadau hyn er maeth a chryfhâd ysprydol i'm henaid.

Yn nechreu'r haf, 1782, cefais fy nharo drachefn â [2]llycheden, (fever) yr hon a'm dygodd, yn ol fy meddwl, i byrth angau. Wrth feddwl am farw, yr oeddwn, trwy lewyrchiad grasol, mi a feddyliwn, yn dawel a hyderus am fy nghyflwr tragywyddol; etto yr oedd arnaf faich nid bychan mewn perthynas i waith y Weinidogaeth: ei bwys, ac angenrhaid am fyned iddo, oedd yn cyd-wasgu arnaf. Bernais, os estynai Rhagluniaeth rywfaint ar fy oes, y byddai raid i'm' (ie, addunedais y gwnawn hefyd) bregethu Crist i'm cyd-bechaduriaid, er mor anghymwys, yn mhob ystyriaeth oeddwn at y gwaith. Ond wedi'r cwbl mi a dreuliais bymtheng mis yn chwaneg (a misoedd gofidus fu amryw o honynt) heb fedru rhoddi un cynnyg ar ymaflyd yn y gorchwyl.

Pan gryfhëais ychydig o'r clefyd, fel ag i allu rhodio allan, gan fod Cymdeithasfa (Association) y Bala i'w chynnal yn y dyddiau hynny, mi a fwriedais fyned iddi, ac a ddymunais nerth gan yr Arglwydd. Yr oeddwn yn myned yno mewn mawr wendid corph, a than groes oddi allan drymach nag arferol: ond fy ngofid oedd y dyryswch meddwl yr oeddwn ynddo, gan yr hyn a adroddais yn awr am dano, a phethau ereill oedd megis yn ymgynnyg o'm blaen. Ar y ffordd, darfu i'r Arglwydd, mewn iawn bryd, gymhwyso y gair yma at fy meddwl, Arweiniaf y deilliaid ar hyd ffordd nid adnabuant. Esay 42. 16. bu yn atteg gref i mi; ac nid y pryd hynny yn unig, ond amryw weithiau o hynny hyd heddyw. Yn y Cyfarfod, er fy mod mewn amryw brofedigaethau, cefais fy ngwneuthur yn foddlon: a phregeth y Brawd J. Pierce, ar y berth yn llosgi, ac heb ei difa, (Ecs. 3. 3) a fu i mi yn un o thai melusaf a gefais eu gwrando erioed. Dychwelais adref yn gysurus iawn, ac mewn mwy o iechyd corph nag a allaswn ddysgwyl.

O ddeutu Calan gauaf ar of hynny dechreuais syrthio megis i ryw fôr o anıryw ofidiau. Yr oedd yr Arglwydd wedi fy rhybuddio (tybygaf) yn mlaen llaw am danynt, trwy ryw argraffiadau dyfnion ar fy meddyhau, ddydd a nos: y rhai (er nad oeddwn yn sicr-wybod yr achos o honynt, er hynny) oeddynt yn peri i mi ddysgwyl am gyfnewidiau chwerwon; am angau, neu ryw groesau trymion. Yn y misoedd hyn yr oedd cyfyng-fyfyrdodau y'nghylch pregethu gair Duw yn fy nilyn yn barhäus: Ar y naill law, yr oedd gennyf olwg ogoneddus ar y gwaith (fel y meddyliwn) er ei fwyn ei hunan; yr oedd arnaf ofn cuddio fy nhalent fechan yn y ddaear; ac yr oeddwn yn meddwl hefyd, fod achos a gogoniant Duw, a chyflwr eneidiau yn gwasgu peth arnaf. O'r ochr arall yr oeddwn yn amınau fy ngalwad, yn ofni twyll a balchder fy nghalon, ac yn gorfod cywilyddio wrth edrych ar fy anghymwysder i'r gwaith y'mhob ystyriaeth. Yn yr ymrysonfa hon dechreuodd y meddyliau am fyned yn Weinidog yn Eglwys Loegr ail-fywiocâu ynof, ar ol bod yn gladdedig, fel y tybiaswn, er's llawer o flynyddoedd. Yr achlysuron iddynt oedd y pethau canlynol.

1. Meddyliais, os oedd yr Arglwydd yn fy ngalw i bregethu, fy mod yn debygol i fod yn llai anaddas mewn Eglwys Blwyfol, nag yn mysg y Methodistiaid, o herwydd fy ngwylder a'm diffyg o ddawn ymadrodd.—2. Meddyliais hefyd fod angen trymmach yn yr Eglwys wladol, o herwydd y nifer fawr o eneidiau tywyll, rhagfarnllyd, na fywnant ddyfod i leoedd ereill i glywed y gwir.—3. Annogaeth a gefais gan Weinidog duwiol, neu ddau.—4. Pan oeddwn mewn petrusder rhwng hyn a pheth arall, cefais, fel pe buasai, fy arwain i ddewis urddau Eglwysig, trwy fod cynnorthwywŷr yn ymgynnyg, oedd yn debygol o gael hynny i ben.—Hyd yr oeddwn, neu yr wyf, yn fy adnabod fy hun, nid oedd y parch, na'r elw, sy' y'nglýn wrth yr Eglwys yn pwyso ond ychydig iawn, os dim, yn fy meddwl.

Wedi gogwyddo fel hyn, ymgynghorais a'm brodyr yn eu cynnulliad chwarterol; lle ni chefais ddim gwrthwynebiad, eithr yn hytrach annogaeth, Etto rhyngof a'r Arglwydd yr oedd yn dywyll a chyfyng arnaf; nid oeddwn yn gallu cyrhaeddyd dim hyder boddlonawl yn yr achos: ïe, yr oedd amheuaeth ac ofn yn wastadol yn fy meddwl, na byddai'r Arglwydd gyd â mi; yr hyn a'm gwnai yn fynych fel un soddedig mewn trallod. Yn gysur cynhaliol yr oedd hyn genyf; sef, y gallwn dystio fy mod yn cael fy ngogwyddo a'm nerthu i weddïo am i'r Arglwydd fy arwain a'i gynghor, a'm rhagflaenu'n rasol yn y llwybr yr oeddwn arno, os oeddwn wedi myned iddo yn groes i'w gynghor. Da oedd i mi, ambell waith, gofio'r addewid honno, Arweiniaf y deilliaid, &c. a'i dadleu o flaen ei orsedd rasol. Fel hyn y bu arnaf tros rai wythnosau: ond yn mis Ionawr, 1783, pan oeddwn oddi cartref ar yr achos (a phobpeth oddi allan yn debyg i fyned y'mlaen yn hwylus, etto yn helbulus oddi fewn) mi a freuddwydiais un noswaith fel y canlyn; Gwelwn fy hun yn eistedd mewn tŷ, gyd âg amryw ereill; clywn guro wrth y drws; a, phan agorwyd, daeth i mewn farch o liw gwelw-las; ar ei ol daeth ei farchogwr hefyd â gwnn yn ei law; daeth yn ebrwydd hyd attaf fi, ac annelodd â'i ddryll at fy nwyfron. Ar hyn deffröais yn frawychus; ond cyn hir mi hunais ychydig drachefn: Yna gwelwn fy hun mewn tŷ fel o'r blaen; daeth attaf wr â chanddo ddau bistol, un y'mhob llaw; ac a'u hannelodd attaf ar unwaith: yr hyn a'm deffrôdd mewn braw eilwaith. Meddyliais yn ebrwydd (fel ac yr wyf yn meddwl hyd heddyw) er mor ddisylwedd yw llawer o freuddwydion, etto fod rhyw-beth o law yr Arglwydd yn y rhai'n; ac a syrthiais i'w dehongli. Oddiwrth y cyntaf dechreuais feddwl (wrth gofio am a march gwelw-las, yn Dat. 6.8.) fod angau, neu ddwys fygythiad o honno, yn agos attaf: oddi wrth y llall (heblaw cadarnhâd i'r cyntaf) meddyliais y gallwn fod yn cael fy rhybuddio am ddwy brofedigaeth oedd yn, neu ar, ymosod arnaf. Pa fodd bynnag, fel byn y bu: o'r noswaith honno dechreuodd afiechyd fagu ynof; y mae heb fy ngadael hyd yn [3]hyn; ac nid oes argoel y symmudir ef y tu yma i'r bedd. Etto nid heb ail-achosion yn gwneuthur eu rhan; oblegid aethwn i'r gwely yn oer a rhynllyd; a chan ei fod yn ysgafn o ddillad, a'r hin yn oer hefyd, ni chynnesais yn dda ar hyd y nos.

Ar ol bod yn y fan honno dridiau y'mhellach, dychwelais adref yn ofidus iawn yn fy meddwl; ac ni wnaeth fy maich ond myned drymach drymach ar hyd yr wythnos a ganlynodd. Yr oeddwn yn cael cymmorth i weddio yn ddyfal, gan ddymuno i'r Arglwydd roddi nerth i fyned y'mlaen, neu fy rhagflaenu a'm troi yn ol, fel y gwelai efe ei hun yn dda. Fel hyn yr oedd fy erfyniad yn barhäus: a gwelodd Duw yn dda fy ateb trwy bethau ofnadwy, yn ei gyfiawnder. (Salm 65.5.). Ar yr wythfed dydd wedi fy nyfod adref, wrth weled fy afiechyd yn parhau, a phrofi y fath gwmwl tew rhyngof a wynebpryd cysurol yr Arglwydd, syrthiodd arnaf yn drallod mor ddwys, fel na fedraf ei ddarlunio. Pan na, fedrwn sefyll ar fy nhraed yn hwy, nac y'ngwydd neb dynion, ymlusgais i'm 'stafell, a syrthiais ar y gwely; lle y bum tros rai oriau mewn cyflwr, o ran teimlad fy meddwl, na ddymunaswn fod un creadur yn ei gyffelyb. Yr oedd y fath deimlad o absennoldeb Duw ar fy enaid, nes oeddwn yn meddwl fod rhyw ran o boen yr ysprydion y'ngharchar arnaf. Ac fel yr wyf yn dueddol i gredu teimlad o flaen yr Ysgrythyrau, darfu i gôf am hyn, rai gweithiau wedi hynny, fy arwain i feddwl, mai peth ofnadwy yw syrthio yn nwylaw y Duw byw: hefyd, Os oedd cerydd tadol yr Arglwydd mor anhawdd i mi ei oddef, beth a ddywedaf, neu a feddyliaf, am ysgwydd gadarn, a chariad anorchfygol yr hwn a ddyoddefodd ddigofaint dwyfol, a fuasai yn ddigon i soddi mil o fydoedd i wae annherfynol? Myfi, pe gallaswn, a wrthodaswn ychydig ddefnynau o physygwriaeth o'i law ef; ond ni wrthododd Efe gwppan o ddigofaint llawn-gymmysg; ïe, yfodd waddod y cwppan erchyll, yn ewyllysgar yn lle y fath bechadur a myfi! Ond yr ymwared a gefais oedd hyn: Meddyliais o'r diwedd yn hollol, mai oblegid y bwriad oedd gènyf yr oedd gwg yr Arglwydd fel hyn arnaf, a'r ystorm yn y modd hwn wedi codi i'm herbyn; ac yna ymroddais i fwrw fy Jona tros y bwrdd: gwneuthum hynny hefyd; a'r ystorm aeth yn dawel: cefais brofi ychydig gysur, a rhyddhad o'm baich trwm. Felly cyn hir mi a gyfodais i fynu, gan lwyr—fwriadu na letteuwn feddwl mwyach am y fath beth, a chan ymroddi i oddef pa groesau bynag a ddeuai i'm rhan o'r achos: Ond ni bu y rheiny ond llawer ysgafnach na'm dysgwyliad.

Wedi hyn daeth y brofedigaeth arall i ymgynnyg; sef yr achos yr oeddwn mewn petrusder yn ei gylch, cyn fy ngogwyddo i geisio urddau Eglwysig. Câr agos oedd yn cynnyg fy rhoddi mewn sefyllfa dda i gael bywioliaeth. Ar y cyntaf meddyliais, gan fod yr Arglwydd wedi gwrthwynebu fy nychymmygion am fyned i'r Weinidogaeth, fod hynny yn llais oedd yn fy ngalw i dderbyn y cynnyg hwn. Ond rai dyddiau wed'yn, wrth geisio taenu'r matter o flaen Duw, ac wrth ystyried ei fod yn gwbl o'r un natur a hwnw y cawswn nerth i'w wrthod rai blynyddoedd o'r blaen, (hefyd, wrth deimlo fy afiechyd, a barnu fod rhyw-beth o lais yr Arglwydd yn y breuddwydion a adroddais) cefais fy ngogwyddo i wrthod y cynnyg hwn hefyd ar ol y llall; a hynny a wnaethum. Ond wedi'r cwbl trymhâu a wnaeth fy afiechyd, a chynnyddu arnaf, i'r fath radd, mewn ychydig ddyddiau, nes oeddwn yn meddwl fod ynof arwyddion amlwg o ddarfodedigaeth: angau oedd megis yn syllu yn fy wyneb, a minnau yn anewyllysgar i'w groesawu. Yr oeddwn yn teimlo fy hunan, o ran fy nghyflwr ysprydol, yn debyg i ddyn wedi ysigo ei holl esgyrn, yn anhawdd gènyf oddef un cyffyrddiad yn ychwaneg; yr oedd arswyd a dychrynedigaethau yr Hollalluog, mewn rhyw fesur, arnaf: a mynych yr ofnais fod angau yn dyfod arnaf mewn ffordd o farn, fel ar Uzza, (2 Sam. 6. 7.) am estyn ei law at arch Duw heb alwad. Mewn gweddi a moddion ereill yr oeddwn yn cael peth cynnaliaeth a chysur. Etto rhaid i mi gyd â chywilydd gyfaddef ddarfod im', yn wyneb rhybuddion tirion yr Arglwydd, redeg at feddygon a meddyginiaethau mewn gormod o frys aflonydd ac awydd anianol am iachad: a bu hynny, fel yr wyf yn cwbl—goelio, yn achlysur ac yn foddion i ddwyn arnaf arteithiau trymion y[4] Garreg. Etto, trwy'r cwbl ni adawodd yr Arglwydd mo'nof; a gallaf ddywedyd yn ychwaneg, mynnodd dorri fy ngafael, mewn rhyw fesur, o'm henw, o'm hewyllys fy hunan, ac o'm bywyd. Gallaswn, gyd â gradd o ryddid boddlonus, ddywedyd, Gwneler dy ewyllys—ar y ddaear megis y mae yn y nefoedd, a bod yn well genyf gael fy malurio i'r pridd na bod yn y cyflwr uchaf ar y ddaear yn groes i feddwl fy Nuw, ac heb ei gymdeithas. Yn misoedd yr haf cafodd fy natur ei chryfhâu, a'i hadferu'n agos i'w nerth arferol: ond yn nechreu Awst y rhód a drôdd. Cefais fy nharo yn ddisymmwth a gwasgfa drom o'r dolur a enwais uchod, yn fy lwyn ddehau; a bum tros rai oriau yn goddef poen dwys, etto heb wybod yn sicr natur fy afiechyd.

O ddeutu diwedd yr un Mis (Awst) neu ddechreu Medi, y bu i mi anturio ymaflyd yn y gwaith o bregethu. Nid oedd, y pryd hynny, y fath ymryson a therfysg yn fy meddyliau ag a fuasai'n arferol o fod yn yr achos: Yr oeddwn wedi cael, mewn rhyw fesur, fy ngwneuthur megis yn farw i'r peth, ac yn dawel-ddysgwylgar wrth yr Arglwydd. Fel yr oeddwn, ar brydnawn Sabbath, yn dychwelyd adref, ar ol bod yn gwrando dwy bregeth, daeth i fy meddwl fyned i gyfarfod oedd i fod am yr hwyr yn Nghaerwys. Gan na ddaethai'r Pregethwr yno, rhai o'm cyfeillion a fuant daerion arnaf i roddi iddynt air o gynghor. Minnau a gydsyniais i ddarllen pennod a myned i weddi; ac ychwaneg nid oeddwn yn bwriadu ei wneuthur, Ond wrth ddarllen yr unfed bennod ar ddeg at yr Hebreaid, a chael peth blas ar ei chynhwysiad, mi a anturiais ddywedyd rhywfaint oddi wrthi; ond yn wan iawn a chywilyddgar, pan ystyriais beth yr oeddwn arno, a a phwy oeddwn.

O'r dydd hwnw allan yr oedd fy nghyfeillion y rhai mwyaf deallgar y'nghyd â'r gwannaf eu deall a'u profiad, yn rhoi galwad i mi arfer y doniau a roisai'r Arglwydd i mi mewn modd cyhoeddus, yn eu plith: ac yr oeddwn innau, yn raddol, yn cael fy nghryfhâu mewn ymroddiad i'r gwaith mawr: ond cyn diwedd y flwyddyn (1783) cefais ail wasgfa, gan boen oddiwrth y garreg, yn fy lwyn ddehau. Bum tros dridiau a their nos heb gael ond ychydig seibiant a llinariad oddiwrth boen dwys; a'r bedwaredd noswaith ymaflodd yr un fath boen yn fy lwyn aswy; ac nid oedd dim arwydd na gobaith ymwared yn ymddangos. Ond y bore canlynol, cefais ymadael â dwfr yn helaeth; ac mi a deimlais ddisgyniad carreg allan o'm dwy lwyn ar unwaith, i'r bledren; ymadewais yn rhwydd ag un; ond y llall yn fwy o faint, wedi taro yn erbyn genau y bledren, a wnaeth ei harosfa o'i mewn. Ar ol hyn (tan wybyddiaeth sicr am y dolur oedd arnaf) mi a gryfhawyd yn fuan, mewn rhyw radd, yn fy nghorph a'm hyspryd: ac yn y misoedd canlynol (gwanwyn y flwyddyn 1784) mi a ymroddais yn fwy i roi gair o gynghor i'm cyfeillion a'm cymmydogion, ac o fewn cylch helaethach.

Tra'r oeddwn megis wedi fy nghloffi gan amryw ofidiau, heblaw y garreg oedd o fewn fy nghorph, yr oeddwn yn cael rhyw fesur o brawf fod yr Arglwydd yn fy nerthu i fyned y'mlaen yn fy nhaith a'ın gorchwyl, a'i fod yn gosod ynof air y cymmod, ac yn bendithio fy llafur i ambell Gristion gwan, ac ambell bechadur hefyd. Ond yma tra gweddus i mi dewi, ac ymgywilyddio'n fawr gan yr ystyriaethau, O, fy nghulni! O, fy anfuddioldeb!

Yn y gwanwyn hwn, wrth gerdded i'r Bont Uchel, gerllaw Rhuthyn, cefais brawf nad oeddwn yn addas i deithio mor bell, ar fy nhraed, a hynny nid yn unig am fy mod yn rhy wannaidd o ansawdd corph, ond am fod fy nwfr megis wedi ei droi yn waed, trwy ymrwbiad y garreg yn y bledren: ac ambell waith, yn lled fuan ar ol hyn, cefais yr un prawf yn adnewyddol, ar ol i'm corph fod mewn ysgogiad mwy na chyffredin, wrth gerdded, neu farchogaeth.

Yn yr haf (1784) anturiais i rai teithiau, yn fwy pell oddi cartref, er fy mod yn fynych, ar duth fechan fy anifel, mewn poen oedd yn peri i chwys ddyferu oddi wrthyf: Ac, o ran ansawdd fy nghorph, lled afiach a methiantus oeddwn yn barhäus. Ymarferais â dwfr calch, a meddyginiaethau ereill rhy aml i'w henwi, yn y blynyddoedd canlynol; a bu amryw o honynt yn llesol mewn gradd, i liniaru fy mhoen, trwy leihau poethder fy nwfr, &c. ond etto, wrth arferyd defnyddiau cryfion i attal rhwymiad y corph, a theithio hefyd ar dywydd oer, mi a feddalwyd yn holl ansawdd fy natur, fel y bum, yn analluog i oddef dim o awel y gauaf, tros dri, pedwar, neu bump o fisoedd, yn amryw o'r blynyddoedd canlynol: Ymarferais ag ymdrochi mewn dwfr hallt a chroyw; yr hyn a fu yn llesol mewn cryn radd i adgryfhau fy nghorph tra thyner; a hynny, weithiau yn y gauaf a'r gwanwyn; ond yn gyffredin yn yr haf, am gryn nifer o flynyddoedd.

Yn, neu o ddeutu, y flwyddyn 1792, mi anturiais fyned oddi cartref yn nechreu'r haf, gan fwriadu cylchdaith fer, trwy ran ddwyreiniol Sir Ddinbych; a phan oeddwn gerllaw'r Mwyn-glawdd, yn mhlwyf Gwrecsam, gwelodd yr Arglwydd yn dda fy nharo a chlefyd, Llycheden y Gymmalwst (Rheumatic Fever) yr hon a'm dygodd i wendid a gwaeledd mawr. Yn nhref Gwrecsam trefnodd Rhagluniaeth i mi gael lletty ac ymgeledd dda gan gyfeillion tirion a charuaidd, Mr. R. Jones, a'i wraig. Daeth Mrs. Jones mewn cerbydan i'm cyrchu i'w thŷ, yn nechreu fy nghlefyd; anfonwyd am feddyg attaf, yr hwn a fu yn edrych ar fy ol tros lawer o wythnosau. Ond y clefyd a ymdaenodd o aelod i aelod; a bum, am ryw yspaid, heb allu i symud un o'm haelodau; ac ar ol iddo gael dechreu ei symud oddi arnaf, bum tan ofid a gwasgfa ddwys, am rai dyddiau a nosweithiau, gan effaith y garreg, yn poethi'r dwfr, &c. A'r pryd hyn oedd y tro cyntaf i mi gael prawf o'r boen boethlem honno yn y chwysigen neu'r bledren. Etto, trwy 'r cwbl, gwelodd yr Arglwydd yn dda beri estyniad ar fy oes, adferiad nerth, a llinariad ar boen y garreg: Ac yn mis Awst mi a ddychwelais adref i dŷ fy nhad, tan ddymuno cydnabod rhyfedd ddaioni Duw tu ag attaf, yn achos fy enaid a'm corph. Yn amser fy nghystudd hwn, ac ar fy adferiad o honno, mi a feddyliwn fod iechydwriaeth Duw yn Nghrist yn werthfawr yn fy ngolwg, a rhyw fesur o fwynhad o'i bendithion yn dra effeithiol i dawelu a dyddanu fy yspryd, gan fy ngwneyd yn foddlawn i ewyllys yr Arglwydd, ac yn awyddus mewn rhyw fesur i dreulio fy amser byr ar y ddaear yn ei wasanaeth, ac er ei ogoniant ef. Mi a bregethais rai gweithiau, gydâ gradd o felusder profiadol oddi ar y geiriau, I chwi y danfonwyd gair yr iachawdwriaeth hon. Act. 13. 26.

O hynny hyd y flwyddyn 1795, cefais ryw fesur mwy o gryfhâd yn fy nghorph; ac ni bu poen drom iawn arnaf oddiwrth y garreg, er ei bod beunydd yn peri i mi deimlo ei bod ynof, ac er nad oedd fy nghorph ond meddal a thyner. Yn mis Hydref y flwyddyn honno, pan oeddwn yn agos namyn un deugain oed, mi a aethum i'r 'stâd briodasol, efo E. J. o'r Wyddgrug: ac i'm tueddu at hynny, yn ngwyneb gwaeledd fy iechyd, yr oedd y pethau canlynəl yn pwyso, neu megis yn fy annog a'm galw.

Yr oedd rhyw faint o gydnabyddiaeth neillduol, yn tueddu at gyd-ymrwymiad, wedi bod rhyngom er's cryn nifer, ïe, wyth o flynyddoedd; ac, ar ol i amryw achlysuron attaliadol gyfarfod â phob un o honom, ac i'r bwriad gael ei lwyr-roddi i fynu, tros gryn yspaid o amser, cawsom le i farnu fod rhagluniaeth yn dwyn i ben yr hyn a roisom ni i fynu, o ran dysgwyliad a bwriad. Ond cyn i lawer o fisoedd fyned heibio cawsom arwyddion, trwy brawf chwerw i natur, na fynnai'r Arglwydd i ni ddysgwyl am lawer o wynfyd daearol, a galwad uchel i ymofyn am y cysur cryf oddi uchod, yn lle cysuron gwael y ddaear isod. Trymhau a wnaeth dolur y garreg a'i effeithiau poenus gyd â mi; a hithau (oedd yn lled wannaidd a gwael o'i mebyd ac o ansawdd corph) a aeth yn fwy afiach a nychlyd. Am danaf fy hun, wedi i mi ddyoddef llawer o ddyddiau a nosweithiau poenus, mi a benderfynais ar adael i feddyg ein tref yrru am law-feddyg (Mr. Morrall, o Gaerlleon) i dynnu'r garreg, trwy dorri i'r tu fewn i'r bledren. Am hyn yr oeddwn wedi gofyn a chaffael gradd o gydsyniad fy ngwraig: etto nid oeddwn wedi medru hyspysų fy llwyr ymroddiad, a'r diwrnod pennodedig iddi yr hwn oedd, Mawrth 20, 1797. Yn ganlynol, pan ddaethant i'n tŷ, yr oedd ei dychryn a'i gofid hi yn ddwys, a'm gofid a'm profedigaeth innau yn ddeublyg. Ond wedi i ni efo'n gilydd blygu ein gliniau, a chyd-ymbil ger bron yr Arglwydd, hi a gafodd nerth i ymdawelu; a chan fy ngorchymyn i'r Arglwydd, hi a aeth i 'stafell o'r naill du, tra yr oedd y llawfeddyg a'i gynnorthwywyr yn myned trwy eu gorchwyl. Tan ei ddwylaw cefais nerth gan yr Arglwydd, er ei bod yn galed arnaf, yn enwedig ar ei waith yn tynnu ymaith y garreg oedd mewn ymlyniad wrth y bledren: a chyd â hynny, hyd y medraf ddirnad, bu raid iddo wnëyd rhwygiad yn ychwaneg yn y bledren, heblaw y torriad gan ei gyllell, tu ag at gael y garreg allan. Wedi hynny efe a gynnygiodd wneuthur chwiliad y'mhellach, rhag ofn bod carreg arall ar ol : ond ni chydsyniais â hynny, gan ofn fy mod yn rhy wan i oddef ychwaneg, a chan nad oedd ynof ddim amheuaeth am y fath beth. Yn mhen llai na mis o amser, pan oeddwn wedi dechreu gwellhau (etto heb gyfodi o'm gwely) mi a gefais brawf teimladol a gofidus, fod carreg arall wedi ei gadael ar ol. Yn ngwyneb y prawf hwn yr oedd eisiau cymhorth, a chymhorth neillduol, gan y Duw grasol, oedd a'i law ddoeth a galluog yn gwasgu arnaf: ac nid y rhan leiaf o'm gofid oedd profedigaeth a gwaeledd cynnyddol yr hon oedd yn nesaf attaf. Ei gwendid a'i hafiechyd hi a gynyddodd hyd foreu yr ail dydd o Tachwedd, 1797, pan y gwelodd yr Arglwydd yn dda roi iddi ryddhad oddiwrth faich y cnawd, a mynediad i mewn, fel yr wy'n hyderu, i gymdeithas nefol ei Harglwydd a'i Hachubydd; tra yr oedd hi yn profi ei dywediad dwys, Peth mawr ydyw marw, yr oedd cynnaliaeth cyfatebol yn cael ei roddi iddi yn y dwys-brawf hwnw. O ddeutu wyth o oriau cyn ei hymadawiad yr oedd ei hewyllys diweddaf wedi ei orphen; ac ynddo hi a fynnodd ddangos ei gofal caredigol attaf fi, tu hwnt i ammodau oedd rhyngom o'r blaen; ac heb fy ngais i yn y radd leiaf, ïe, ac mewn rhan yn groes i'm dymuniad. Gwelais achos wedi hyn i gydnabod llaw fanwl a thirion yr Arglwydd yn darparu at fy angen, pryd nad oeddwn i yn gofalu drosof fy hun, a phryd nad oedd yn gweddu i mi geisio bod yn ddarparydd imi fy hunan. Ac yn wir bu'n gysur i mi lawer gwaith fod gènyf dystiolaeth fy nghydwybod, nad oedd bydol serch ddim yn arweinydd im' o'r dechreuad, ac yn yr ymroddiad a gymmerais, at gyfnewidiad cyflwr.

Wedi hyn, hyd Ebrill, 1801, cynnyddu yn raddol wnaeth yr ail garreg, a'm poen innau o'i hachos: a'r pryd hynny yr oeddwn wedi ymroddi i fyned eilwaith tan ddwylaw meddygon. Ond wedi i law-feddyg (Mr. G. Rowland) a'i gynnorthwywyr ddyfod attaf, a'm bod yn rhwym tan eu dwylaw, efe a wrthododd dorri at y garreg, am na fedrai ei theimlo â'i offeryn chwilio (staff) ac am mai croes i reolau meddygwaith ydyw torri i'r bledren, heb deimlo yn gyntaf fod yno garreg yn gorwedd. Erbyn hyn nid oedd ond gobaith gwan am fy mywyd, a dim mewn ystyriaeth ond am fyr amser, nes y byddai i amlder a dwysder fy mhoenau yrru'r einioes i ddiweddiad. Yn yr haf canlynol cefais fwy o seibiant, a phoenau llai nag yr oedd i mi le i'w ddysgwyl: yn ganlynol mi ellais deithio i amryw fannau, (er mai mewn rhyw radd yn waelach nag ar amserau o'r blaen) gan lafurio, yn ol fy mesur a'm dawn bychan, yn ngweinidogaeth y gair, a gwasanaeth eglwysi Crist. Ond cyn diwedd y flwyddyn yr oedd fy mhoenau wedi trymhau i radd mawr, fy nghnawd wedi curio, fy nghylla wedi gwanhau, rhyw naws crawnllyd yn dyfod yn fynych o'r bledreu, a holl ansawdd natur wedi gwanhau ynof, hyd onid oedd pawb a'm hadwaenent yn dysgwyl fy marwolaeth yn fuan. Ac am danaf fy hun, yr oedd dysgwyliad cryf ynof, yn yr un ffordd; ac yr wyf yn meddwl fod rhyw fesur o nesad at orseddfaingc y gras, a grym i ofyn ac i ddysgwyl trugaredd Duw i fywyd tragywyddol, trwy Grist, yn cael eu rhoddi yn gynnaliaeth im' yn fy nghyfyngder a'm gofidiau. Ond er hyn oll, ac megis heb yn waethaf im' byddai yn fynych, trwy amryw foddion, neu achlysuron, ryw gymhelliad yn fy meddwl, i ddysgwyl estyniad ar fy oes. Trwy y cwbl fy neisyfiad oedd am i'r Arglwydd ogoneddu ei ras ywof, mewn bywyd a marwolaeth, a thrwy farwolaeth yn y pryd a'r modd y gwelai efe yn dda.

Yn y gwanwyn, 1802, trefnodd Rhagluniaeth i foddion meddygol fod er rhyw fesur o linariad i'm poenau, a chryfhad i'm natur wan; heb yr hyn ni buasai dim gobaith rhesymol am iddi allu goddef y meddygwaith o dorri drachefn i'r bledren, &c. os ceid gan y llawfeddyg gynnyg ar y gorchwyl. Ebrill, 20, Efe a ddaeth attaf, gyd â phedwar neu bump o gynnorthwywyr: ond ar ol i bob-peth fel o'r blaen fod yn barod at y gwaith efe a betrusodd ei gyflawni, am na fedrai, â'i offeryn, gyffwrdd â'r garreg, ddim mwy nag o'r blaen. Yr oeddwn i, trwy ei symudiad y'mlaen ac yn ol, filoedd o weithiau, yn gwybod yn dra sicr ei bod yn y bledren, ac yn dirnad hefyd fod ei offeryn ef yn myned heibio iddi; yn ganlynol mi a ddeisyfais arno fyned y'mlaen ar ei orchwyl. Yntau, ar ol peth myfyrdod yn yr achos, a throi ei olwg wedi hynny ar ei gynnorthwywyr (fel un yn dymuno iddynt sylwi ar fy nhystiolaeth a'm deisyfiad) a anturiodd at ei orchwyl. Ni bu efe ddim yn hir cyn teimlo'r garreg; ond bu raid iddo arfer amryw ymgeisiadau, poenus a maith i mi, cyn medru ei chael allan. Cafodd ddau fath o afael ynddi, ond â'i hŷd mwyaf hi yn wynebu'r agen a dorrasai; ac felly yr oedd yn ormod iddo ei chael allan: ond o'r diwedd, pan oeddwn i ar ddiffygio gan barhad y boen a rhediad llawer o waed, ac yntau hefyd mewn peth digalondid, a'r llaw-feddyg pènaf oedd gyd âg ef wedi cilio ymaith (yn sal gan yr olwg) trefnwyd llwydd ar ei ymdrech; cafodd afael addas ynddi [5] a thynnodd hi allan. Wedi hyn bum mewn ffordd oedd yn tueddu at wellhâd, am ugain niwrnod, neu beth ychwaneg; ond ar un noswaith, yn lled ddisymmwth, ymaflodd poen ddwys ynof, mewn rhan dyner o'r corph yn agos i'r archoll. Galwyd attaf y meddyg oedd yn y dref; ac efe a fu'n ymdrechgar tros amryw oriau, hyd y bore, gan arferu amryw dwym—olchiadau, &c. ond chwanegu yr oedd fy mhoen heb ddim seibiant; yr oedd wedi fy nhaflu i boethder twymyn; ac nid oedd dim argoel y gallasai fy einioes barhau ond am ychydig oriau. Yn y bore, meddyliodd y meddyg am wneyd prawf o wasanaeth gelod, i sugno ymaith y poeth-waed afiach; ond er ymofyn yn y tai y dysgwylid eu bod ynddynt, o fewn tref y. Wyddgrug, nid oeddynt i'w cael. Etto, o'r diwedd, yn agos i'r dref, cafwyd un, a dim ychwaneg; a thrwy'r aingc a'r grym mwy na chyffredin, a roddodd rhagluniaeth yn y dwfrbryfyn gwael hwnw, y bu achubaeth rhyfedd i'm bywyd. Nid oeddwn i ddim mewn amgylchiad i rifo a chadw cyfrif, pa sawl gwaith y bu i'r gele ymlenwi, a chwydu'r gwaed i fynu. Ond y meddyg, ar ol dal sylw a chyfrif, a arwiriodd, ei bod wedi gwnëyd hynny chwech o weithiau olynol, ac mi dybygaf, mewn dwy awr, os nid llai, o amser! Tra yr oedd y gele ar ei gwaith, yr oedd fy mhoen yn lleihau yn raddol; ac erbyn iddi ymlenwi y tro olaf yr oedd fy ngofid dwys wedi troi yn esmwythdra ac ymwared mawr.

Bellach, gweddus oedd, a gweddus yw heddyw, i mi lefain, Pa beth a dalaf i'r Arglwydd am ei holl ddoniau i mi? i mi y pechadur duaf a gwaelaf, annheilyngaf o'i blant, ïe, ac i mi y gwas anffyddlonaf a mwyaf anfuddiol o fewn ei dy a'i winllan? Yn ddiau, wrth feddwl am y trugareddau a'r gwaredigaethau aml a rhyfedd a ddangosodd fy Nuw tu ag attaf, ped ystyriwn ond cynnaliaeth bywyd fy nghorph yn unig, a'r gwaredigaethau fu'n amlwg i mi (heb sôn am y rhai nad oes gényf ddirnadaeth am danynt) y mae i mi achos i ryfeddu a chlodfori Duw yr holl ddaear, am ei amynedd maith, ei ddaioni manwl a thyner, ei rhagluniaethau ryfedd, a'i waredigaethau mawrion ac aml, a'm dilynasant hyd yr awr hon. Ac wrth ystyried ond ychydig (hyd hynny mae fy nghyrhaeddiad mwyaf) am ei ras ymgeleddol, a'i holl drugareddau rhad yn Nghrist, y rhai ni's gallaf lai na bod yn obeithiol am eu cyfraniad arnaf, yr wyf yn wir tan orfod a gorfod melus a hyfryd ydyw, i ddywedyd, Nid i mi, nid i mi, O Arglwydd, ond i'th enw dy hun dod ogoniant. Ond mewn golygiad arnaf fy hun, a'm ffrwythau goreu, neu fy mywyd tra anffrwythlawn yn hytrach, y mae i mi fawr achos i gywilyddio a galaru: O, na buasai, ac O, na byddai i mi etto ddwyn ffrwythau gwell a mwy helaeth o lawer, er clod iddo ef, fy Nghreawdwr, fy Nghynnaliwr, fy Rhagflaenydd, a'm Hachubydd. Etto, oni weddai i mi chwanegu tan olygu a chydnabod fy ngradd isel, Trwy ras Duw yr ydwyf yr hyn ydwyf? Iddo ef y Yn mhen o ddeutu saith wythnos, o'r dydd yr aethum dan driniaeth y llaw-feddyg a dynnodd y garreg olaf, yr oeddwn yn gallu rhodio allan; ac yn lled fuan wedi hynny yr oeddwn yn gallu cerdded, a marchogaeth yn ddi-boen, er fod gradd o wendid o ddeutu genau'r bledren, a bod rhyw achlysuron bychain yn peri peth ofn weithiau, am weddillion yn aros, neu ynte am adfywiad, o'm hen ddolur: ond hyd[6] yma achos diolch sy genyf am arbediad. Cyn diwedd Medi, yn y flwyddyn honno, yг oeddwn wedi cael y fraint o deithio cannoedd o filltiroedd, gan lafurio i ryw radd gartref ac oddi cartef yn ngwasanaeth yr Arglwydd: ond fel y nesäodd y gauaf, yr oeddwn yn cael prawf fod fy hen feddalwch yn aros ynof, fel na fedrwn oddef nemawr o dywydd gwlyb nac oer. Yn y mis Medi, 1803, mi aethum trwy gymhelliad fy mrodyr, i bregethu i gynnulleidfa o Gymry yn Llundain. Wedi bod yn eu mysg hwy yn agos i bedwar mis, ac yn pregethu ambell waith hefyd i gynnulleidfa neu ddwy o Saeson (er mor anhawdd ac afrwydd oedd hynny gènyf) mi a ddychwelais adref yn nechreu y gwanwyn canlynol. Erbyn hyn yr oeddwn wedi meddwl am newidiad cyflwr yr ail waith; ac yn mhen ychydig meddyliais y byddai achos neu raid arnaf i newid fy nhrigfan ddaearol hefyd. Am hyn rhaid i'm ddywedyd ychydig.

Yr oeddwn wedi barnu, trwy olygiadau ar fatterion crefyddol a daearol hefyd, na byddai hyd ddiwedd fy oes nemawr o achos gènyf, na gogwyddiad ynof, i symud o'r fan lle yr oeddwn, trwy ragluniaeth Duw, a thirion ofal fy ngwraig oedd yn y priddle; ac yr oeddwn wedi cael lle i feddwl nad oedd yr Arglwydd wedi gadael i'm llafur yno fod yn gwbl ofer. Yr oedd, o bryd i bryd, o ddeutu tri ugain o aelodau wedi ymuno â'r gymdeithas fechan oedd yno; ac amryw o honynt yn fy nghyfrif fel eu tad ysprydol. Etto, erbyn hyn yr oedd cryn nifer o honynt wedi ymwahanu, gydâ llawn fodd y corph a minnau hefyd, i ddechreu cymdeithasau bychain mewn dau le gwahanol (Cilcen a Rhosesmor) ereill wedi marw, a rhai wedi ein gadael. Ond amryw achlysuron ereill, na ddylwn eu henwi, oedd wedi effeithio ar, a gogwyddo, fy meddwl i, nes oeddwn wedi barnu mai fy nyledswydd ydoedd chwilio am drigfan arall. Yn hyn yr oeddwn yn gofidio cyfeillion mewn modd na fynaswn; etto, hyd y dydd hwn nid wyf wedi deall fod fy symudiad yn groes i ewyllys yr Arglwydd. Ond am lygredd pechadurus, yn rhy gryf-gynhyrfiol ynof, y mae'n gweddu i mi ei addef gyd a chywilydd a gofid dwys, mewn golygiad ar fy amgylchiad a'm profedigaeth y pryd hwnw, megis ar bob prawf a fu arnaf o ddechreu fy ngyrfa hyd yr awr hon.

Tra bum yn y Wyddgrug, cefais y fraint o gyhoeddi y drydedd Ran o Waith Mr. Gurnal, a gyfieithaswn i'r Gymraeg cyn hynny; a bum yn gyfrannog o'r llafur gyd â'r Parch. T. Charles, yn cyhoeddi chwe' Rhan o'r Drysorfa. Yn ganlynol, y mae ynddynt ddwy Bregeth ar 2 Cor. 2. a rhai darnau ereill, o'm hysgrifenwaith.

Yn y mis Mawrth, 1804, aethym i'r 'stâd brïodasol yr ail waith, efo A. M. oedd y pryd hynny yn cartrefu yn mhlwyf Llanelidan, ac yn y Mai canlynol yr oedd ein trigfa yn Nhref Ruthyn. Ond yno, y'mhen llai na blwyddyn, bu iddi hi, trwy anwyd trwm, gael dechreuad nych marwol, ac i minnau gael prawf buan drachefn, o ofid a phrofedigaeth ddwys: ond etto mi ddylwn chwanegu, fod yr un llaw ddoeth ag oedd yn cystuddio, yn rhoi i ni ryw fesur o ras a nerth cyfatebol, i ddyoddef ac ymostwng. Ac yma, mi dybygwn y dylwn grybwyll, mewn diolchgarwch i Dduw, a pharch i'w was ffyddlawn y Parch. T. Charles (sydd yn awr yn gorphwys oddiwrth ei lafur) fod ei ymweliadau a'i lythyrau wedi bod yn yr amser adfydus hwn, megis hefyd yn fy ngofidiau y blynyddoedd o'r blaen, er cynnaliaeth a dyddanwch neillduol i fy yspryd yn y prawf helbulus oedd arnaf.

Yn yr haf bu rhyw fesur o arwydd gobeithiol, fod awel glan y môr er cryfhâd i'm gwraig: etto yn fuan ar ol ein dychweliad adref, hi a ddihoenodd yn gyflym ac a ymadawodd â'r byd hwn mewn tangnefedd, Awst 14, 1805. Wrth fod llaw yr Arglwydd fel hyn yn fy nghuro, ac yn fy nwys-brofi, mi a feddyliwn ei fod yn peri i mi ddeall mewn rhyw fesur, ei lais ai alwad arnaf, i blygu iddo, a galw arno, heb ddymuno dim yn fwy nag iddo ef fy rheoli, fy nghynnal, fy arwain, a'm dysgu, fel y byddwn yn dyst am ei ras, yn y byd hwn, ac hyd byth. Ond er hyn, achos parhaus oedd, ac sydd gènyf, i alaru a chywilyddio am fy mod cyhyd megis yn ei ysgol ef, ac wedi derbyn cyn lleied o'i addysg, yn enwedig yn y wers dra rheidiol honno, Ymddarostyngwch, &c. Ië, wedi i mi feddwl fy mod yn cael fy nysgu ynddi, megis yn y bore, nid llai fydd fy niffyg o galon i dderbyn yr un addysg, cyn y nos.

Yn y rhan olaf o'r flwyddyn honno, a dechreu y ganlynol, yr wyf yn cofio, fod yr Arglwydd wedi dangos i mi fy eisiau o galon ymddarostyngol iddo, mewn amryw ffyrdd, a thrwy amryw o'i ragluniaethau, yn ol ei air daionus, Na fyddwch fel march neu ful heb ddeall—Ac a'm llygaid arnat y'th gynghoraf. Yn yr haf cefais y fraint o deithio a llafurio, i radd fwy nag oedd gyffredin i mi, yn ngwaith y weinidogaeth, trwy law dirion Duw yn ei ragluniaeth, tu ag attaf, a llais ei eglwysi yn galw arnaf, er mor anfuddiol yn y gwasanaeth ardderchog.

Hydref 6, 1806, mi a brïodais fy nhrydedd gwraig, M. L. o Lanrwst, a threfnodd yr Arglwydd i ni gael o hynny hyd y pryd hwn (Tach. 1814,) ein cynnal yn mhob modd yn gysurus tan yr iau, er mai nid heb brofedigaethau, yr hyn nid ydyw i'w ddysgwyl yn y byd a'r bywyd hwn. Yn agos i ddiwedd y flwyddyn o'r blaen, ar yr achlysur o fod Sectwyr Arminaidd yn amlhau yn Nghymru (a rhai o honynt yn eu pregethau, a thrwy amryw fân lyfrau, yn drygliwio'n anwireddus yr athrawiaeth a alwant yn Galfiniaeth, ac weithiau yn Antinomiaeth) yr oeddwn trwy annogaeth gan fy mrodyr wedi cyhoeddi Traethodyn byr tan yr enw Drych athrawiaethol, ac wedi addaw Traethawd helaethach ar yr un achos. Yn y rhai'n, fy ymgais oedd am ddangos y wir athrawiaeth, yn ei gwedd syml ei hunan, yn ol yr Ysgrythyrau, ac yn ol golygiad y wir eglwys, neu y rhan gywiraf o honi, o'r oes Apostolaidd hyd amser y Diwygiad Protestanaidd, ac ar ol hynny. Chwanegais hefyd beth dangosiad o'r anghysonedd tra amlwg ag ef ei hun sydd i'w gael yn amryw o lyfrau y diweddar Mr. J. Wesley. A chan fod y rhai'n wedi cael rhyw fath o atebion gan Mr. O. Davies, bu raid i mi gyhoeddi trydydd llyfryn (sef Sylwadau, &c.) a chwanegiad byr at hynny hefyd. Yr oedd galwad arnaf, (hyd y medrwn ddeall) i, ddal y ddadl hyd gymmaint a hyn o feithder, o herwydd y nifeiri mawrion o ddywediadau disail ac anghywir a gyhoeddodd fy ngwrthwynebwr yn ei atebion. Ond gan fod y pethau a 'sgrifenasom ger bron y rhai a chwennychant eu darllen ni wnaf fi yma ond ardystio hyn yn y modd dwysaf. Yr wyf yn cyhoedd- ddatgan ger bron y byd, ïe, a cher bron y Duw anfeidrol, a'r Barnydd cywir yr wyf yn fuan i ymddangos ger ei fron, na ddarfu i mi erioed, yn y dadleuon hyn, arfer twyll na dichell, na dadlyddiaeth ystrywgar; ond fy mod wedi amddiffyn y gwir, o ran athrawiaeth ac hanesiaeth mewn modd didwyll, yn ol cyrhaeddiad fy ngwybodaeth.[7] Etto yr wyf yn ammau fy hun, gan feddwl fod poethder yspryd, fel y mae'n rhy debygol, wedi ymgynhyrfu ynof, a'i effeithiau i'w gweled mewn rhai o'm hymadroddion, oddi ar achlysuron trymion ac aml, yn nywediadau y blaid a wrthwynebais. Er yr holl annogiadau annhirion a gefais, yn argraffedig, ac yn mhob modd arall, mae'n debygol y dylaswn arfer addfwynder mwy at fy nghwrthwynebwr, ond fe allai y'nghŷd â llymder mwy at ei gyfeiliornadau mawrion ac enbydus. Yn ngwyneb fy holl golliadau, dymunaf erfyn ar Dduw pob gras am faddeuant a meddyginiaeth. Ac os bydd i ryw-rai gael bendith oddiwrth fy llafur, bydded y gogoniant iddo ef, yr hwn a'i pïau, yn gwbl ac hyd byth.

Yn y flwyddyn 1808, wedi cael argraffwasg, &c. i'm tŷ, mi a gyhoeddais y Bedwaredd Ran o Waith Mr. Gurnal, a Chatecism mwyaf Eglwys Loegr (wedi ei gyfieithu o argraffiad o hono yn y Ladiniaeth) gan ddymuno iddo fod er budd i'r Cymry, na chawsent olwg arno, hyd y medraf ddeall, erioed o'r blaen.

Yn Ebrill, 1809, nyni a symudasom o Ruthyn, gan ddyfod i anneddu yn Ninbych: ac yn fuan ar ol hyn mi a ddechreuais ar Waith mwy, o ran 'sgrifenu ac argraffu, sef, Hanes y Merthyron yn Lloegr, &c. y Diwygwyr Protestanaidd, a Chrynodeb o Hanes Eglwys Crist. Ac er amryw anhawsderau a phrofedigaethau, cefais y fraint o'i orphen yn Awst, 1813. Ac am hwn, a'r pethau ereill a 'sgrifenais, nid oes gènyf ond eu gorchymyn i'r Arglwydd, a'u gadael at wasanaeth y rhai a'u darllenant. Fy nyben a'm dymuniad ynddynt oedd gwasanaethu a lleshau fy nghyd-wladwyr. Yr Arglwydd o'i anfeidrol ddaioni a faddeuo fy meiau, a'r anmherffeithrwydd sydd ynddynt, ac yn mhob rhan o'm gwaith.

Yr oeddwn, yn Ruthyn, wedi cael y fraint o weled rhyw fesur o gynnydd ar y gynnulleidfa yr oeddwn yn eu mysg; ac ar ol fy symudiad i'r lle hwn, nid yw'r Arglwydd wedi fy ngadael heb ei diriondeb yn fy nilyn, yn hynny, ac aneirif ereill o'i drugareddau; er nad oes i mi yn ddïau ond achos i ymostwng ac ymgywilyddio, wrth edrych ar fy holl waith; neu, ai ni ddylwn yn hytrach ddywedyd, fy holl ystod o anfuddiolrwydd? Yma mi a ddylwn grybwyll, fod amryw o'm brodyr, a minnau gyd â hwy, wedi bod â'n hymgais er's blwyddyn neu ddwy cyn hyn am weinyddiad yr ordinhad o Fedydd yn y corph, o'r hwn yr ydym yn aelodau, ac am weinyddiad y Swpper sanctaidd yn fwy mynych, ac, os byddai modd, yn fwy cyson o ran amserau. O'r blaen yr oedd ein pobl yn gyffredinol yn arfer bedyddio eu babanod yn Eglwys Loegr, a chryn nifer wedi bod yn arfer cymmuno yno hefyd; ond yr oedd nifer y rhei'ny yn myned lai-lai. Yn ein mysg ni ein hunain yr oedd yr ychydig Eglwyswyr a ymunasant a'r corph, yn gweinyddu'r ordinhad hon, mewn amryw fannau. Ond gan anamled eu nifer, a chan fod y corph hefyd, trwy fawr ddaioni Duw, wedi amlhau yn Nghymru, yr oedd nifeiri o gynnulleidfaoedd heb fod yn gyfranogion o honi, am flwyddyn neu ychwaneg o amser; a chryn nifer hefyd heb ei chael erioed. Fel yr oedd yr achlysuron a'r amgylchiadau hyn yn chwanegu cŵynion y corph, yr oedd rhai Eglwyswyr, oedd yn Dadau enwog yn y corph, yn petruso ac yn methu cydsynio yn hwydd, i ddwyn y'mlaen y cyfnewidiad, a farnai ereill yn rheidiol;[8] sef, neillduo rhyw nifer o'r pregethwyr ereill, i gynnorthwyo'r Eglwyswyr, a chyflawni anghen yr eglwysi, o ran gweinyddiad y ddwy ordinhad. Yn y cyfrwng hwn dygwyddodd, yn y modd canlynol, i mi gael fy nhynnu i fyned o flaen ereill o'm brodyr, oedd o'r un llais a thueddiad yn yr achos. Wedi i blentyn gael ei eni i un o'n cyfeillion, efe a geisiodd help rhai brodyr i ddeisyf arnaf fi, a olygent fel gweinidog y gynnulleidfa, ymroddi i fedyddio'r plentyn. Efe a chwanegodd amryw ddadleuon a rhesymau o blaid ei gais, ac yn erbyn myned â'i faban i un gynnulleidfa arall i'w fedyddio. Minnau, wedi dwys-ystyried yr achos, a cheisio erfyn cyfarwyddyd gan yr Arglwydd, a benderfynais, ac a addewais y gwnawn weinyddu'r ordinhad, os. byddai i gorph yr eglwys, neu y gynnulleidfa, fy ngalw i hynny, ar ol cyd-erfyn ar yr Arglwydd am iddo eu cyfarwyddo a'u harwain yn ol ei air a'i ewyllys. Wedi iddynt gyd-gyfarfod, hebof fi, ac ystyried yr achos gyd âg ymbiliau ar Dduw, hwy a hyspysasant im' eu bod oll, hyd at un aelod, oedd mewn gradd o ofn. a phetrusder, yn galw arnaf i wneuthur felly.

Yr oedd yr achos cyn hyn wedi bod gyd â dwysder ar fy meddyliau, ddydd a nos; a thrwy ymarfer a gair Duw a gweddi, yr oeddwn yn ymofyn am addysg ac arweiniad. Wedi i gyfaill neu ddau, oedd yn lled agos atom, fy ngwrthanog gyd â math o ddwysder, os nid poethder hefyd, mi a aethum yn drallodus fy helynt: etto, wrth ystyried eu dadleuon, gar daer-ymbil ger bron yr Arglwydd, yr oedd y clorian yn troi yr un ffordd ag o'r blaen. Yr oeddwn yn deall fy mod yn groes (os nid i ordeiniad a gorchymyn) etto i arferiad y corph o bobl yr ymunaswn o galon a hwynt: ac y'r oedd yn ddrwg gènyf, ac y mae'n ddrwg gènyf hyd heddyw, dristâu neb o'm brodyr. Ië, yr oedd yn dra gofidus gènyf feddwl am dristau un brawd a thad yn enwedigol; yr hwn yr oedd, ac sydd â'i goffadwriaeth heddyw, yn fwy parchus yn fy meddwl nag ungwr y bu i mi gymdeithas neillduol âg ef ar wyneb y ddaear. Ond trwy y pethau hyn i gyd, myned y'mlaen a wnaethum, neu a fu raid i mi, gan adael y canlyniad yn llaw yr Hollwybodol a'r Hollalluog Dduw. Yr oeddwn yn gorfod meddwl, os oedd efe wedi fy ngalw i bregethu ei air (yr hyn ni's medrwn ei lwyr-ammau) yna, fod ei alwad hwnw, y'nghyd â'r galwad oedd arnaf gan gynnulleidfa Grist'nogaidd, y'nghyd âg amgylchiadau ereill, yn ddigon o alwad arnaf i weinyddu'r ordinhad o Fedydd. Felly, gyd âg ofn a chryndod, a rhyw fesur o ymdaweliad hefyd yn yr Arglwydd, fel yr wyf yn meddwl, mi a anturiais at y gwaith. Yn lled fuan ar ol hyn, darfu i nifer o'm brodyr mewn Cyfarfod Misol, adael neu oddef i'r gynnulleidfa ac i minnau, gael canlyn rhyddid ein cydwybodau, mewn golygiad ar yr ordinhad arall, Swpper yr Arglwydd. Yn ganlynol, ni a dderbyniasom y fraint honno, ac a gawsom y mwynhad o honi gyd â gradd o ofn duwiol, llawenydd, a diolchgarwch. Ac, erbyn y cyfarfod chwarterol a ganlynodd, yn y Bala, (Mehefin, 1810) yr oedd yr Arglwydd wedi gogwyddo meddyliau ei was, yr hwn yr oedd gan y corph oll y parch mwyaf, a mwyaf teilwng iddo, a'r ofn mwyaf rhag ei ofidio: ac, er mawr lawenydd i'r brodyr oedd yno yn gynnulledig, efe a ymroddodd yn ewyllysgar a llawen i ddwyn yr amcan y'mlaen mewn modd araf a graddol, fel yr oedd pawb o'r brodyr yn cydfarnu, ei fod yn fwyaf cymhwys.

Yn mhen blwyddyn ar ol hyn, y bu i wyth o honom gael ein neillduo (ar alwad, a dewisiad yr Eglwysi oll, yn ol y drefn sydd i'w gweled yn argraffedig) i weinyddu y ddwy ordinhad sanctaidd ynghŷd â phregethu'r gair, yn mha le bynag y byddai i'r corph, neu ryw gangen o hono, alw am ein gwasanaeth. Bu wedi hyn neillduad cyffelyb ar amryw frodyr yn y Dehau a'r Gogledd.

Ond i ddychwelyd at fy helynt fy hun, yn y flwyddyn 1812, gwelodd yr Arglwydd yn dda i mi gael fy mhrofi mewn modd dwys, trwy achlysur bychan, fel na'm tra derchafid, ac fel y dysgwn weled a chydnabod fy ngwaeledd mawr. Wedi i wr boneddig anfon ei gais at weinidog neu weinidogion yn ein tref i ofyn iddynt ar y Sabbath alw ar eu cynnulleidfäoedd i roi eu henwau wrth Erfyniad at y ddau Dŷ o Barliament, yn llym bennodol yn erbyn un gradd o chwanegiad rhyddid a breintiau gwladol i'r Pabyddion, mi a betrusais gyhoeddi a gwahodd, yn ol y cais, mewn rhan, am nad oeddwn yn'edrych arno fel gwaith addas i mi, yn enwedig ar y Sabbath, ac mewn rhan am fy mod yn barnu fod gormod o lymder afreidiol yn yr Erfyniad, fel yr oedd wedi cael ei lunio gan rai gwŷr yn y Şîr hon, a'r nesaf ati. Yn ganlynol mi a gyhoeddais Bapuryn,[9] yn mha un yr oeddwn yn datgan fy marn yn onest yn erbyn y gau grefydd, a'm parodrwydd i gyduno â'r Erfyniad cyn belled ag i ddeisyf na roddid iddynt un fraint na swydd, trwy ba un y gallent beryglu y sefydliad Protestanaidd a threfn llywodraethiad y deyrnas: Yna mi a roddais fy llaw wrtho. Oddiwrth hyn ni ddeallais hyd heddyw fod neb deallgar oddi allan i gymdeithasau neillduedig, wedi cymmeryd un gradd o dramgwydd: ond darfu i rai o'r werin anwybodus a chyfeiliornwŷr rhagfarnllyd, ollwng eu tafodau, ac ergydio eu saethau mewn amryw ffyrdd i'm herbyn. Hyn, yr oeddwn yn meddwl y gallaswn ei oddef heb ddigaloni tan y baich: ond wrth weled amryw o'm brodyr yn dangos parodrwydd i daro arnaf, effeithiodd eu hymadroddion arnaf er gofid dwys, a wanhäodd fy natur tros amryw fisoedd: Ië, yn y pummed mis ar ol i'r awel fechan hon ddarfod chwythu oddi allan, yr oedd ei heffeithiau yn fy nghorph bregus, a meddal; fy nghnawd wedi curio, a'm cylla wedi gwanhâu i gryn radd. O'r dechreuad yr oeddwn yn meddwl nad oeddwn yn cael fy ngadael i lettŷa na llochesu digter nae anghariad yn fy mynwes: ac yn fynych mi a feddyliwn fy mod, trwy weddi a myfyrdod am fawredd Duw a gwaeledd dyn, yn cael goruchafiaeth ar fy nigalondid ffol a phlentynaidd, Er hyn yr un cawodydd a ddychwelent eilwaith ac eilwaith arnaf. Etto, yn raddol, trwy ddaioni Duw, cafodd fy yspryd ei adnerthu, a'm corph ei gryfhau, Yn yr haf canlynol, gan fod fy ngwaith efo 'sgrifenu Hanes y Merthyron, &c. wedi ei orphen, mi a ymdeithiais fwy i ryw radd, nag a allaswn yn y tymmorau hafol o'r blaen, O, na buaswn, ac na byddwn yn fwy ffyddlawn a ffrwythlawn yn ngwaith y weinidogaeth, ac yn mhob gorchwyl perthynol i winllan a chynauaf fy Arglwydd a'm Hachubydd!

Yn nechreu y flwyddyn ganlynol mi a gyhoeddais lyfryn bychan o Hymnau, &c. gan ddymuno peidio bod yn hollol ddiffrwyth, ond defnyddio mewn ryw fesur, fy nhalent fechan yn y ffordd honno. Yn yr haf a'r cynhauaf, cefais y fraint o deithio mwy na fy rhan gyffredinol yn amryw barthau o'r Gogledd, ac i un Gymmanfa (Llangeitho) yn y Deau. Ond ar fy ffordd yno, cefais y gofid o weled fy anwyl am Parchedig frawd (neu oni ddylwn ddywedyd fy nhad) Mr. Charles mewn gwendid corphorol oedd yn peri achos i ddysgwyl ac ofni clywed y newydd am ei ymddatodiad, tra yr oedd agwedd nefolaidd ei yspryd yn achos o fawr lawenydd a diolchgarwch, ac yn galw arnaf fi i ymgywilyddio ac ymostwng ger bron yr Arglwydd. Wedi hyn yn ein cyfarfod Cymmanfaol yn Nghaernarfon, (Medi 29) cefais i a'm brodyr glywed newyddion oedd yn peri gobaith am ei wellhâd, ar ol dyoddef tan law y Meddygon o herwydd dolur neu ysigtod yn y bledren.

Hydref 3, mi a gyrhaeddais i'r Bala (ar fy ffordd adref) a chefais ei weled y prydnhawn hwnw mewn sirioldeb oedd yn peri ynof obaith cryf am ei adferiad tros amser i'r fuchedd wael hon: ond yr oedd ei amser yma, a'i lafur ar gael eu terfynu, a'i enaid wedi cael ei addfedu, i fyned oddi yma, i'r Jerusalem nefol.

Tranoeth, Hydref 4, ar fy nghodiad o'm gwely, cefais y newydd gofidus ei fod yn dra phoenus ar hyd y nos, ac yn debygol o fod yn nesâu i angau. Wedi prysuro i'w dŷ, ac at ochr ei wely, mi a'i gwelais tan arwyddion o wanychiad trwm yn ei wedd a'i lais. Deisyfodd arnaf fyned i weddi; yr hyn a wnaethum, gan geisio ei orchymyn i law ei Brynwr a'i Achubydd, a chan ymbil yn achos ei deulu, ac yn neillduol tros yr eglwysi a'r ardaloedd y buasai efe mor fendithiol iddynt yn ei ddyddiau o iechyd, ac yr oedd yn ei farwolaeth yn debygol o'u gadael mor amddifad.

Pan grybwyllais wrtho am fy ofn ar y pen hwn, ei ateb hyderus oedd, fod yr Arglwydd yn llawn alluog i gyfodi ugeiniau, neu filoedd, o weision mwy ffyddlawn, a rhagorach yn mhob ystyr nag efe. Mewn amryw ymadroddion ereill dangosodd ei ffydd a'i ymroddiad i ewyllys yr Arglwydd: a thranoeth o ddeutu'r 'un awr, deg o'r gloch, yr ymadawodd o'r byd â'r geiriau hyn yn ei enau " Y mae noddfa."

Llythyrau Thomas Jones

Y mae y cwbl o'r Hanes hyd yma, oddieithr nodiad neu ddau, wedi ei ysrifgenu gan ein diweddar Gyfaill, parchedig ac anwyl, a'i law ei hun. Ond o hyn allan y mae'r gorchwyl adrodd ychydig hanes am dano, wedi disgyn arnom ni, sydd wedi ein gadael ar y maes dros ryw encyd ar ei ol ef. Y mae'r Hanes i gael ei gasglu oddiwrth yr hyn sydd mewn. côf gan ei Gyfeillion am dano; o'r amrywiol lythyrau ato, a'r eiddo yntau at amryw ereill: yn enwedig oddiwrth yr hyn sydd ac a fydd yn hir, mewn côf gan ei anwyl Weddw; yr hon a adawyd i alaru ei cholled am dano.

NYNI a welwn mai'r peth olaf a 'sgrifenoedd ein diweddar Gyfaill hybarch o'i hanes ei hun, oedd hyd farwolaeth y Parchedig Mr. Charles. Mae'n sicr fod marwolaeth y gwr tra enwog hwnw wedi effeithio yn drwm iawn ar feddwl Mr. Jones; a thebygol yw, gan fod ysgrifenu Hanes bywyd Mr. C. wedi dyfod i'w rain ef i'w gyflawni, i hynny beri iddo esgeuluso 'sgrifenu Hanes ei fywyd ei hun ddim pellach.

Ionawr 3, 1816, yn mhen y pymtheng mis ar ol marwolaeth Mr. Charles, y gorphenodd Mr. Jones ysgrifenu ei Gofiant ef. Yn y mis Mai canlynol y bu iddo symmud ei drigfa, o Ddinbych i Syrior, yn agos i'r Bettws, ger llaw Abergele, yn yr un Sir.

Trefnodd rhagluniaeth i Mr. Jones newid ei drigfan. amryw weithiaus eithr clybuwyd ef yn dywedyd, lawer gwaith, ei fod yn cael boddlonrwydd i'w feddwl, mai yn ol trefn ddoeth rhagluniaeth yr oedd ei symmadiadau oll.—Y symmudiad cyntaf a fu yn y flwyddyn 1795. Yn Hydref y flwyddyn honno y darfu iddo brïodi (fel y crybwyllwyd tu dal. 51 ganddo ef ei hun) a symmud o'r Penuchaf, gerllaw Caerwys, ei dreftadaeth ei hun, a'r lle y magesid ef, i'r Wyddgrug; lle yr oedd ei wraig ef yn preswylio. Er iddo symmud o Gaerwys, lle ganwyd ef, a'r lle y dechreuodd ar ei yrfa grefyddol, ac ar ei weinidogaeth, ni bu i'w gariad cyfeillaidd, a'i ofal gweinidogaethol ef tuag at y Gymdeithas honno, ddim oeri tra y bu efe byw yn y byd; nac ychwaith eu cariad hwythau tu ag ato yntau; fel y tystia' y llythyrau canlynol attynt: y rhai, fel ychydig o lawer, y tybir yn addas eu dodi i mewn yma. Y cyntaf a 'sgrifenodd efe yn fuan ar ol ei ymadawiad oddi yno; yr ail, ar ei ymadawiad o'r Wyddgrug i Ruthyn; a'r trydydd ychydig cyn ei ymadawiad o'r byd trangcedig hwn, i wład a thrigfa lle ni bydd arno chwant ymadael o honi byth mwyach. Er fod y cyntaf yn argraffedig eisoes, yr ydym yn barnu ei fod yn deilwng o le yma; yn enwedig am nad yw'r Drysorfa, lle y mae hwnw, yn nwylaw ond ychydig nifer mewn cymhariaeth.

"ANWYL GYFEILLION,
"YR wyf oddi yma yn eich annerch â hyn o linellau, fel arwydd bychan o ryw garedigrwydd wyf yn ei deimlo atoch, er fy ngwahanu oddi wrthych; Yn wir, er oered ydwyf, ni fedraf lai na dymuno ac erfyn am eich llwyddiant yn mhob ystyr; yn enwedig eich cynnydd mewn gras a phob dawn ysprydol. Er pan adawais chwi, yr ydych wedi bod aml waith ar fy meddwl, ag yr wyf yn gobeithio fy mod innau ar eich meddau chwithau, o flaen gorsedd gras. Os dywedaf ddim wrthych mewn ffordd o gynghor, dyma'r pethau sy'n fwyaf ar fy meddwl Llafuriwch a gweddiwch am i chwi iawn-barchu, derbyn a defnyddio gwerthfawr air Duw. Heb y gwirionedd o hyn ni's gallwn gael diangfa gyfreithlon oddi wrth gyhuddiadau Deddf a Chydwybod, ac oddiwrth ofn drwg. Ac heb hyn, ni's gall ofn mabaidd a pharch duwiol i orchymmynion Duw, gael na sail na lle dyladwy yn ein heneidiau. Ië, oddieithr i hyn gael ei feithrin a'i chwanegu ynom, nid ydym yn debygol o fod yn gyson mewn egwyddorion na rhodiad. Cymmwysiad ysprydol a sylweddol o wirioneddau'r gair at yr enaid, yw'r feddyginiaeth oreu rhag pob afiechyd ysprydol; megis balchder, deddfoldeb, daearoldeb, anfoddlonrwydd, anystyriaeth, digalondid, digter, rhagfarn, ysgafnder Hygredig, a phob chwantau. O'm rhan i, yr wyf yn addef fod yr awel leiaf o hawddfyd, neu adfyd, o ŵg, neu wên, pa un bynag ai o'r Nef neu'r ddaear, os cysur, os croes, iechyd, neu afiechyd, parch neu anmharch. pob un o honynt yn fy nhaflu i, oddieithr bod yr Arglwydd yn dwyn fy meddwl at ei air, ac awdurdodi y gai lywodraethu ynof. Dymuniad fy enaid frosoch chwithau, fel trosof fy hunan, yw, ar i'r Arglwydd eich dal uwch ben matterion a gwirioneddau'r gair; ac i chwi gael profi bod awdurdod hwnw yn ynnill y dydd ar eich ofnau a'ch llygredigaethau oll; a'i fod megis balast yn eich llestri, yn wyneb awelon haf a gauaf, deniadau a rhuthriadau byd, cnawd, a Satan, cyfnewidiadau a phrofedigaethau bywyd a marwolaeth. Edrych y byddoch hefyd, yn fynych ac yn ffyddiog i fynu at y Duw sydd yn Awdwr pob gwir lwyddiant a rhodd ddaionus, yn llenwi pob diffyg a gwagle, yn amlhâu cryfder i'r dirym, yn gwneuthur yr anmhlantadwy yn llawen fam plant, ac yn dwyn goleuni allan o niwl a thywyllwch. Efe, sydd yn Dduw pob gras, a'ch cryfhäo, a'ch amlhäo, a'ch sefydlo chwi, yn, a thrwy ei wirionedd. Na foed gènych ymrafael, ond gan bawb âg ef ei hun; nac ymdrech, ond tros y gwirionedd; na chasineb, ond at bechod: ac na cheisied neb yr eiddo ei hun, ond yr eiddo Crist Iesu. Gras a gorfoledd ei iechydwriaeth a ymaflo, a drigo, ac a gynnyddo ynoch hyd y diwedd. Y mae fy ymysgaroedd yn wir mewn peth helaethiad tu ag atoch, a throsoch; er fy mod, dybygwn, gan law rhagluniaeth, wedi fy symmud oddi wrthych; ac heb wybod pa bryd, os ryw-bryd etto, y caf fod yn eich plith yr ochr yma i'r bedd. Pa fodd bynag, hyn yw fy nhystiolaeth am danaf fy hun; Yr Arglwydd a fu dda wrthyf yn mhob modd hyd yn hyn; am hynny, frodyr, diolchwch: Yr wyf hefyd yn wan yn wyneb fy ngwaith a'm profedigaethau; am hynny gweddïwch trosof, ar i weddill fy nyddiau byrrion fod yn fwy i ogoniant yr hwn a'm carodd, ac am neillduodd at ei waith mawr.

"Hyn oddiwrth eich gwael, etto caredig gyfaill,
W—g, Tach. 21, 1795. "Т. Ј."

Pan oedd Mr. J. yn ymadael o'r Wyddgrug, yn y flwyddyn 1804. Gwel am hyn tu dal. 62, bu y Brodyr yn Nghaerwys yn taer ymbil arno i ddychwelyd yno atynt hwy i gyfaneddu; i'w

dreftadaeth ei hun. I'r hyn y mae'r llythyr tirion, gostyngedig, sy'n canlyn, yn ateb. Er nad yw y dyddiad yn eglur wrtho, etto y mae ei gynnwysiad yn dangos y pryd yn ddigon hyspys.

Wyddgrug, Mercher y boreu.

"ANWYL GYFEILLION,
"YR ydwyf yn teimlo y caredigrwydd ydych yn ei ddangos attaf, trwy eich taer wahoddiad arnaf i anneddu etto yn eich mysg: Ac yr wyf yn ddiau, tybygwn, yn gweled fy hun yn annheilwng o'ch neillduol sylw chwi, a phob cangen o Eglwys Dduw: Ond, yn ateb i'ch galwad, nid oes genyf ond mynegi fod amryw bethau wedi gogwyddo fy meddwl at Dref Ruthyn; y'nghŷd a gradd o annogaeth amryw o'm Brodyr yn y weinidogaeth. Yn ganlynol, os bydd yr Arglwydd yn gweled yn dda roi rhywfaint etto o estyniad i fy oes, y mae'n debygol mai yno yr af.

"Bu'n dda gènyf feddwl cyn hyn, fod cyfeillion yn fy nghofio yn eu gweddïau: A'm dymuniad yn bresennol yw, fy mod yn cael y dysttiolaeth hon o'ch caredigrwydd yn ychwaneg: Gweddïwch ar i'r Arglwydd fy rhagflaenu, fy arwain, a'm llywodraethu yn ol ei feddwl ei hun, ac i glod ei anfeidrol ras.

"Dagènyf glywed am eich llwyddiant: A'm gobaith a'm herfyniad a gaiff fod, ar i'r Arglwydd eich cynnal, eich amlhâu, a'ch dwyn ar gynnydd; ar i chwi allu sefyll y'nghwbl o ewyllys Duw, yn rhwymyn cariad a thangnefedd, gan ddwyn ffrwyth yn mhob gweithred dda. Y mae gènym drysorau anchwiliadwy. a diderfyn o'n blaen yn iechydwriaeth ac efengyl Crist; a gorchwyl o'r anrhydeddusaf yn ei dŷ a'i wasanaeth, tan ei iau, a than ei groes hefyd. Mewn symledd a deffröad duwiol y byddo'n heneidian a'n cyrph, yr hyn a feddom ac ydym yn offrymedig ac ymroddgar yn y gwaith.

"Hyn yn fyr, Anwyl Gyfeillion,
"Oddiwrth eich brawd a'ch Cyfaill gwael,

"THOMAS JONES."

Yma y canlyn, rhan o Lythyr a 'sgrifenodd Mr. J. at un o'r Cyfeillion yn Nghaerwys, yn y mis Mai, 1819: Yn yr hwn y gellir gweled ei ofal tirion ef am achos Duw yn yr ardal honno.

"ANWYL FRAWD,
"NID wyf etto wedi cael fy Ewyllys o law y Cyfreithiwr; ond gallaf ei ddysgwyl yn fuan; ac felly (os bydd y Cyfarfod Misol yn dewis hynny) mi a roddaf fy llaw wrth Lease ar y Capel, a'r tir sydd i mi y tu cefn iddo, am fil o flynyddoedd, ac am y Rhent o ronyn haidd os gofynir. Ond yr wy'n gobeithio na bydd gwrthwynebiad i mi na'm hetifeddion adeiladu tŷ, os chwennychir hynny, a'i bwys ar dalcen isaf y Capel, a hyn gyd â llawn ryddid i'r rhai a fyddo yn ofalwyr am dano, fyned trwy y ty neu'r ardd, ar bob achos rheidiol. Wyf mewn cryn waeledd gan anwyd a pheswch trwm,

"Eich Cyfaill,

"THOMAS JONES."

Derbyniodd y Cyfarfod Misol y cynnygiad uchod gyda diolchgarwch; a chafwyd y Lease ychydig cyn marwolaeth Mr. Jones.

Yn y flwyddyn 1806, y darfu i Mr. J. adeiladu lle iddo ei hun breswylio yn Nhref Ddinbych; ac yn y mis Ebrill, 1809, y symmudodd efe o Ruthyn yno i fyw.

Yn y flwyddyn 1816, yn y mis Mai, y symmudodd Mr. Jones o Ddinbych i Syrior. Gan fod rhyw ddynion yn cymmeryd achlysur oddiwrth symmudiadau Mr. J. i farnu fod rhyw "anwastadrwydd yn nhymmer ei feddwl," nid ydyw ond cyfiawnder i'w goffadwriaeth, i nodi'r pethau a fuont yn achos o'r symmudiad hwn. Hyspys i bawb a'r a adwaenai Mr. J. neu a wyddai am dano, mai nid gwr iachus o ran ei gorph oedd efe, dros y rhan fwyaf o'i oes; ond ei fod yn ei flynyddoedd olaf, a holl ansawdd ei natur wedi llesgâu i raddau mwy na chynt. Mewn golygiad ar waeledd ei iechyd, annogwyd ef, gan amryw gyfeillion, i ymofyn am drigfan yn y wlad, gan ddysgwyl y byddai i hynny fod er cryfhâd ac adfywiad i'w natur: Ac, y byddai iddo drwy gael lle i gadw ei geffyl, allu teithio rhyw-faint chwaneg yn ngwaith y weinidogaeth, er llês ei gyd-wladwŷr. Gwedi gwneuthur prawfo hynny, dros ddwy flynedd, gwelodd nad allai ddal i deithio ond ychydig, yn enwedig yn y gauaf. Hefyd, yr oedd dymuniad cyffredinol arno, gan ei gyfeillion i gyhoeddi gwaith yr enwog Mr. Gurnal; yr hyn nid oedd yn gweled mor gyfleus ganddo ei wneuthur, tra fyddai yn byw yn mhell oddiwrth yr Argraff-wasg. Erbyn pwyso pob peth y'nghŷd, barnodd mai ei ddyledswydd oedd gwerthu ei geffyl, a dychwelyd i'w dŷ ei hun i Ddinbych yn ol. Felly y gwnaeth, yn y mis Mai, 1818; wedi bod yn Syrior ddwy flynedd.—Ymdrechodd Mr. J. i deithio, hyd y goddefai ei iechyd ef, tra fu yn Syrior; ac ni adawodd yr Arglwydd mo hono heb arwyddion amlwg o lwyddiant ar ei weinidogaeth yno, mwy nag yn y manau ereill y bu efe.

Yn y mis Mai, 1817, pan oedd yn byw yn Syrior, y galwyd ef i fynu i Lundain, i bregethu o flaen y Gymdeithas Genhadawl; ac y pregethodd ar Esay 52. 15. Argraffwyd y bregeth gan y Gymdeithas. Y mae hi yn awr wedi ei chyfieithu, ganddo ef ei hun i'r Gymraeg, ac wedi ei gadael mewn trefn barod i'r Wasg. Byddai hyfryd genym ei gweled wedi ei chyhoeddi; er mwyn y Cymry. Enwad y bregeth ydyw," Y MESSIAH YN TAENELLU CENHEDLOEDD LAWER.'

Yr oedd Mr. Jones yn gefnogwr cadarn i'r Gymdeithas Genhadawl, o'i dechreuad; y mae anmryw lythyrau gwresog a serchus a fu rhyngddo ef âg ysgrifenydd y Gymdeithas honno, i'w gweled yn mysg ei bapurau ef. Yr ydoedd hefyd yn gynnorthwywr ffyddlon a haelionus i'r Gymdeithas hon; y'nghyd ag amryw Gymdeithasau a sefydliadau erei'l; yn enwedig Cymdeithas y Biblau: I'r olaf hon yr ydoedd yn Ysgrifenydd, sef y Gymdeithas Gynnorthwyol yn Sir Ddinbych.

Athrawiaeth Thomas Jones

Gan fod Mr. Jones wedi ysgrifenu cynnifer o Lyfrau, ar byngciau dadleuol, ni's gellid llai na dysgwyl fod iddo lawer o wrthwynebwyr; y rhai, ar brydian, y'ngrym yspryd dadleugar, a gymmerent eu rhyddid i ddywedyd am dano bethau dros ben y gwirionedd. Er, gobeithiwn, mai mewn anwybodaeth, ac nid gyd â bwriad maleisus i dduo ei enw da ef, yr oeddynt yn gwneuthur hynny. Prysured yr amser ag y byddo gwylwyr Sion yn dyfod i weled lygad yn llygad, Esay 52.8.

Nid ein gorchwyl ni, yn bresennol, ydyw myned i gynnal dadl â neb, ar y naill bwngc. na'r llall; ond yr hyn sydd yn gorphwys arnom ydyw, amddiffyn y gwirionedd o berthynas i enw da ein Parchedig Frawd; yr hwn, nid yw mwyach gyd â ni, yn nyffryn wylofain, i'w amddiffyn ei hun; eithr y mae efe wedi esgyn i'r wlad dawel, a'r breswylfa lonydd, uwch y sêr; lle mae

"Pawb o'r brodyr yn gyttun,
Heb neb yn tynnu'n groes."

Y mae rhai o wrthwynebwŷr Mr. J. yn dywedyd, Fod ei farn ef ar Brynedigaeth yn wrthwynebol i farn y Corph y perthynai iddo, &c. Nad ydoedd mewn undeb â'i Gorph ei hun, &c. ond ei fod yn derfysgwr ynddo: a llawer o ymadroddion cyffelyb. Yn ateb i'r camgymmeriadau uchod, (a rhoi'r enw goreu arnynt) ni cheisiwn ni ddim ond gosod o flaen ein darllenwŷr, rhai llythyrau, a rhan—lythyrau, oddiwrth Gymdeithasfaoedd y Corph yn Ngogledd a Deau; y'nghŷd ág oddiwrth rai personau neillduol, o Enwogion a Blaenoriaid y Corph.

Ni a gawn fod Mr. J. yn dyddio llythyr, Rhagfyr 26, 1815, at Gymdeithasfa Llanrwst; lle mae efe, ar ol cyfarch y Brodyr, mewn modd syml a charedig, yn achwyn y cam, yn ol ei farn, a'i feddwl ef, ag oedd y gwirionedd yn ei gael; ac yntau ei hun hefyd wrth geisio amddiffyn y gwirionedd. Derbyniwyd, ac ystyriwyd, y llythyr hwn mewn modd teilwng a charedig; ac anfonwyd y llythyr canlynol yn ateb iddo; y'nghyd a dwylaw chwech o'r Brodyr yn y Weinidogaeth wrtho: sef un o bob Sîr yn Ngwynedd.

Llanrwst, Rhagfyr 29, 1815.

"FRAWD CAREDIG,
"MAE 'n ddrwg gènym fod eich meddwl yn cael ei derfysgu, gyd â'r peth a soniasoch; ac y mae'n dra drwg gènym fod dywediadau neb o honom yn achlysur o'ch gofid. Nid ydym yn eich cyfrif yn gyfeiliornwr, nac yn foddlon bod neb yn eich galw felly. Nid ydym yn anfoddlawn eich bod yn dywedyd yn helaeth am fawredd, a gwerth Person y Cyfryngwr; ac yr ydym yn meddwl, er i ni oll ddywedyd, hyd eithaf ein dawn byr, na, ddywedwn byth y filfed ran o'i fawredd na'i werth. Nid ydym ychwaith yn anturio gosod mesur ar ei ddyoddefiadau a'i angau; ond yn credu bod gwerth anfeidrol yn ei holl ddyoddefiadau a'i angau: A'i fod yn Aberth, ac Iawn perffaith ddigonol, dros yr holl rai y gosodwyd ef yn eu lle, ac er bod eu pechodau yn aneirif, a drwg eu pechodau yn anfeidrol, etto bod yr Iawn anfeidrol yn ddigonol. Ac nid ydym yn rhyfygu dywedyd, nad oedd yr Iawn yn ddigonol dros filoedd aneirif yn ychwaneg: Pe buasai Duw yn ei osod drostynt, ac yn eu lle.—Frawd caredig, caru gwirionedd a heddwch yr ydym: am hynny gochelwn bob geir-ddadl diangenrhaid. Tangnefedd i chwi Frawd.

Ydym eich Brodyr yn yr Efengyl

J. E.J. R.
J. D.R.E.
J.H.J.J.

Derbyniodd Mr. Jones y llythyr uchod gyd â gradd o sirioldeb, fel y gwelwn wrth y llythyr canlynol; a anfonodd efe at gyfaill, wedi ei ddyddio Chwefror 28, 1816, ychydig cyn Cymdeithasfa Dinbych.

"ANWYL FRAWD
"Ar ol im' fod mewn profedigaethau dwys, cefais gryn radd o gysur trwy y Llythyr a anfonodd amryw o'm brodyr ataf o Lanrwst. Bernais mai fy lle ydoedd dangos i'm brodyr y golygiad sy genyf ar Brynedigaeth (a sicr yw gènyf fod hynny yn ol barn ein hen Dadau yn Nghymru, a'r Eglwysi a'r Duwinyddion iachusaf;) a'm bwriad, wedi argraffu nifer bychan, yw ei gynnyg i ystyriaeth a barn fy mrodyr, neu nifer o'r henuriaid, a gadael iddynt hwy wneyd âg ef fel y gwelont yn addas. Yr wyf yn anfon Copi anmherffaith, gan obeithio na bydd fy ngwaith gwael er tramgwydd i'm hanwyl frawd J. E. i neb o'm brodyr yn Ngs, nag yn un lle arall. Cyfeiried yr Arglwydd ein traed i ffordd gwir dangnefedd.

"Hyn, mewn brys, oddiwrth
"Eich cyfaill gwael, helbulus,

"THOMAS JONES."

Dinbych, Chwef. 28, 1816.

Y dydd cyntaf o Fawrth, yn Nghymdeithasfa Dinbych, yn y Cyfarfod neillduol, am wyth ar gloch yn y boreu, darfu i'r brodyr ag oedd wedi bod yn edrych dros Lyfryn Ymddyddanion Mr. Jones, ar Brynedigaeth, Ddatgan eu barn, a'u tystiolaeth, o'i blaid; a'i gyhoeddi i'r Corph, fel Traethawd yn cynnwys athrawiaeth iachusol a chymmeradwy.

Yn mhen o ddeutu saith mis, anfonodd Mr. Jones Lythyr at y Brodyr oll, yn Nghymdeithasfa Caernarfon, yr hon a gynnaliwyd ar y dyddiau cyntaf o Hydref, yn yr un flwyddyn. Y mae efe yn y Llythyr hwn, yn cwyno yn drwm iawn, o achos rhai ymadroddion ag oedd yn cael eu harferyd, gan rai yn y wlad; Eu bod yn tueddu er dianrhydedd i'r Cyfryngwr mawr. Gwnaed sylw teilwng ar y llythyr uchod, ac anfonwyd yr ateb canlynol iddo..

Caernarfon, Hydref 4, 1816.

"BARCHEDIG FRAWD,
"Derbyniasom, a darllenasom, eich caredig a chwynfanus lythyr. Gofidus gènym glywed fod eich iechyd yn anmharus, a'ch meddyliau yn anghysurus. Ymdrinasom ar y matter, cynnwysedig yn eich llythyr, mor fanwl ag y gallasom; a methodd genym ddeall, er chwilio, fod y Corph, yn gwyro, mewn un mesur oddiwrth iawn synied am anfeidroldeb Person, ac Iawn y Cyfryngwr. Ac os darfu i rai, arfer rhai geiriau annoeth, ac anaddas, ryw amser a fu, fe ymrwymodd pawb, yn ein cyfarfod presennol, na byddai iddynt o hyn allan, arfer un dull o ymadroddi ag a fyddai yn debyg o fagu un terfysg; gan hyderu y gwnewch chwithau yr un modd: Ac os clywch, o hyn allan, fod rhyw berson, neu bersonau, yn arfer geiriau anaddas am Iawn y Cyfryngwr, na roddwch hynny yn erbyn y Corph: Ond nodwch y cyfryw, fel y galler eu galw i gyfrif, naill ai mewn Cyfarfod Misol, neu Association. Yr y'm o'n calon yn dymuno i chwi bob llwyddiant, ac yn deisyf arnoch, gyd â phob hynawsedd, na dderbynioch, ac na choelioch mo bob chwedlau a glywoch am eich brodyr; gan rai a ddrwg-liwiant bethau yn waeth nag y b'ônt. Ni oddef brŷs ychwanegu; —Yr ydym oll, yn un—llais, yn cyd-garedig gofio atoch, gan ddifrifol ddymuno eich llwyddiant. Ydwyf, dros y Corph,

"Eich anheilwng Gyfaill,
"Tra b'wyf,

"ROBERT JONES."

Anfonodd Mr. Jones Lythyr drachefn, yn mhen blwyddyn, lled debyg i'r hwn a anfonasai i Gaernarfon, at y Brodyr yn Nghymdeithasfa Pwllheli: Yn yr hwn yr ydoedd arwydd o'i fod mewn profedigaeth a gofid chwerw, o eiddigedd dros yr Athrawiaeth; rhag ofn ei bod yn cael cam; oddiwrth rai ymadroddion y clywsai efe fod yn cael eu harferyd. Anfonwyd y Llythyr canlynol oddiwrth y Brodyr yn ateb i Lythyr Mr. J.

Pwllheli, Hydref 1af, 1817.

"ANWYL FRAWD,
"Derbyniasom eich Llythyr, yr hwn a ddarllenasom yn y Commitee am wyth ar gloch y boreu. Fe a'i gwrandawyd, ac ystyriwyd ei gynnwysiad gyda phwyll; arwyddwyd hefyd y' tiriondeb, a'r caredigrwydd mwyaf tu ag atoch, yn eich profedigaeth.

"Amlygwyd hefyd yr anfoddlonrwydd mwyaf, tu ag at y rhai sydd wedi arfer ymadroddion megis "Pe buasai chwaneg i'w hachub, y buasai raid i Grist ddyoddef ychwaneg, &c." a phob ymadroddion ereill ag sydd yn tueddu i osod terfyn i ANFEIDROLDEB Y PERSON, ei ABERTH a'i Iawn. — Ac yn y Cyfarfod ddeg ar gloch, fe alwyd i gyfrif rai personau, ag oedd wedi bod yn euog o arfer y cyfryw ymadroddion; a derbyniasant y rhybudd mewn tiriondeb, gan addaw eu gadael heibio, rhag llaw.—Y'mhellach, fe ddarllenwyd, allan o'r Drysorfa, yr hyn a gydunwyd arno mewn Association, er ys naw mlynedd yn ol: A barnwyd fod yr ymadroddion hynny, ar Brynedigaeth, fel canol-bwynt; neu gynllun o'r modd y dylid gosod allan yr Athrawiaeth o Brynedigaeth, wrth lefaru am dani: Ac os oes gradd o wahanol olygiadau gan rai arno, rhoddwyd gorchymyn na byddai i neb ei osod allan mewn dull i ddangos fod dim dadleuaeth yn ein plith. —Gan gydnabod fod pawb, yma, yn ddarostyngedig i lawer o anmherffeithrwydd, rhoddwyd taer annogaeth i oddef ein gilydd mewn cariad.

"Ydwyf dros yr Association,
"Eich annheilwng Frawd,

"GABRIEL DAVIES."

Anfonodd Mr. Jones Lythyr at y Gymdeithasfa yn Neheubarth Cymru; cynnaledig yn Llangeitho, Awst 18 a'r 19, 1819, yn achos ei ysgrifeniadau, &c; a chafodd yr ateb tirion canlynol oddiwrth y Brodyr yno: Yr hyn sy'n profi, tu hwnt i bob dadl, ei fod mewn undeb serchus a'r Corph, drwy Gymru oll.

Rhan o Lythyr Gymdeithasfa Llangeitho, at Mr. Jones.

Tref Caron, Medi, 1af, 1819.

"ANWYL A PHARCHEDIG FRAWD,
Derbyniwyd eich Llythyr brawdol a charedig, at y Gymdeithasfa yn Llangeitho, a darllenwyd ef ger bron yr holl Bregethwyr a'r Henuriaid; ac wedi cymmeryd ei gynnwysiad dan ddwys ystyriaeth, penderfynwyd yn un llais,

"Bod yr oll o'r hyn ydych wedi ei gyhoeddi yn dra chymmeradwy ganddynt, fel Corph, trwy Ddeheubarth Cymru.

"Ar ol amryw ymadroddion yn rhagor, nad oes angenrhaid eu gosod i lawr yma, y mae'n dybènu yn y modd serchiadol, parchus, canlynol, Gyda charedig annerch at anwyl Mrs. Jones a chwithau,

"Ydwyf, dros y Corph,
"Gyd â'r parch mwyaf diffuant,
"Eich gwas gwael, a'ch Brawd annheilwng,

"EBENEZER RICHARDS. "
Ysgrifenydd y Gymdeithasfa."

Gosodwn ger bron ein darllenwŷr ran o lythyr Gweinidog parchus, o'r Dëau; yn yr hwn y mae efe yn dwyn ei dystiolaeth o blaid Llyfr Mr. Jones ar Brynedigaeth.

Blaen-anerch, Mai 20, 1820.

AR ol cyfarchiad Cristnogol, a Brawdol, y mae'n dywedyd fel y canlyn,

"Am eich llyfr am anfeidrol werth Aberth Crist, yr wyf yn ei gyfrif yn odidog, ac yn gwbl iachus o ran yr athrawiaeth; ac yn werthfawr iawn o ran ei gyfansoddiad, drwyddo oll; i raddau mawr yn deilwng i'r gwirionedd y mae yn ei amddiffyn; Ac yn addas i'r person gogoneddus y mae yn dywedyd am dano. Yr wyf yn gwybod am amrywiol o'r Brodyr, wedi cael pleser mawr, a budd sylweddol wrth ei ddarllen; ac effeithiau daionus ar ei meddyliau:—a gallaf finnau ddywedyd yr un peth. "Eich annheilwng Frawd,

"Ε. Μ."

Rhanau o lythyr oddiwrth Weinidog arall, o Lundain, yn dangos ei barch diffuant i Mr. Jones; —y boddlonrwydd, a'r hoffder, oedd ganddo yn ei Lyfr ef ar Brynedigaeth—a'r buddioldeb a gawsai efe wrth ei ddarllen.

Ar ol cyfarch Mr. Jones yn y modd mwyaf caredig, gostyngedig, a syml; y mae yn myned y'mlaen fel y canlyn,

"MEWN perthynas i gywirdeb a theilyngdod eich llyfr, Syr, rhyfygus a fyddai i math i ddywedyd dim. Gallaf weled eich bod wedi hwylio, gyd â medrusrwydd a chynhildeb mawr, rhwng [10]Charybdis a Scylla: C. Evans, a J. Roberts wyf yn feddwl; a diammau gényf —y'ch bod chwi yn nes i'r gwirionedd nag yr un o'r ddau Am danaf fy hun, Syr, rhaid i mi addef fy mod yn tueddu at yr hyn a elwir Uchel-Galfiniaeth: (Hyper-Calvinism) ac fel y cyfryw, fy mod yn dal Prynedigaeth neillduol yn lled frwd. Yr wyf yn benderfynol yn credu, mai personau, ac nid pethau, a brynwyd: ac 'mai personau ei bobl etholedig a brynwyd gan Grist, ac nid neb arall. Yr oeddwn yn ystyried hefyd fod pechodau ei bobl yn gyfrifedig ar y Prynwr megis dan rif; a bod y dyoddefaint yn gyfatebol i'r swm, neu y rhif dirfawr hynny. Ac y gallasai y Cyfryngwr mawr fyw yn hwy, a dyoddef ychwaneg ar y groes, pe buasai achos am hynny: Heb ystyried, (mi welaf) fod anfeidroldeb ei berson, yn gosod anfeidroldeb o werth ar ei ddyoddefiadau anrhaethol. Yr wyf o hyd yn barnu, Mai nad marw a wnaeth Iesu, pan y bu farw, am na allasai fyw yn hwy; ond marw a wnaeth am fod y gwaith wedi ei ORPHEN.—Iawn wedi ei wneyd: ac felly nad oedd achos byw yn hwy. Wedi darllen eich Llyfr chwi, yr wyf yn sicr yn gweled yn amlycach nag o'r blaen, mai "oddiar ddwyfoldeb y Person a ddyoddefodd, yr oedd gwerth yr aberth yn tarddu; yn fwy nag oddi ar fawredd a meithder y dyoddefiadau. Y mae sylwiad P. Bains, tu dal. 81, o eich Llyfr, am ddigonoldeb camwedd Adda i gondemnio byd yn 'chwaneg pe deilliasai o hono, wedi rhoddi i mi foddlonrwydd mawr, a golygiad newydd ar Iawn y Cyfryngwr wrth ei gymharu ef â'r Adda cyntaf.

Maddeuwch i mi, Barchedig Syr, y rhyddid a gymmerais arnoch, i adrodd y pethau uchod yn blentynaidd wrthych. Fy nymuniad yw adnabod a gwybod y gwirionedd megis y mae yn yr Iesu. Ni fynwn i er y byd feddwl, na llefaru, am bethau mawrion Duw, oud mewn cysondeb ag anffaeledig air Duw. Bydded i ei Yspryd ef fy nhywys i bob gwirionedd. Gan i mi fod mor hyf ag ysgrifenu atoch chwi, byddwch chwithau mor dadol ag anfon un llythyr ataf finnau. Y mae'n ddiau y gellwch chwi roddi llawer o gynghorion buddiol i mi, sydd yn bur amddifad yn y fan annghysbell hon.

"Wyf eich annheilwng,
"Frawd yn yr Efengyl,

"JAMES HUGHES"

Deptford, Mai 11eg, 1820.

"O.S. Mi a gyfansoddais bennill rhydd ar brynu'r bendithion, o gylch un mlynedd ar ddeg yn ol; ac nid ydwyf wedi newid fy marn am hynny etto. Fel hyn y mae,

Nid y nefoedd, na'r bendithion,
Brynodd Iesu ar y groes;
Ond fe brynodd fyrdd o ddynion,
Pan ddyoddefodd angau loes:
Yr oedd e'n ffynon pob bendithion,
Nid oedd achos prynu y rhai'n;
Prynu wnaeth e'r etifeddion,
Pan goronwyd ef a drain. —"J. H."

Rhan o Llythyr oddiwrth gyfaill arall i'r un perwyl.

G——m, Mai 12, 1820.

"ANWYL SYR,
"Yr wyf yn ddiau yn meddwl y bydd yr Athrawiaeth yr ydych yn ei hamddiffyn yn eich "YMDDYDDANION AR BRYNEDIGAETH," yn gymmeradwy, ac amddiffynadwy, gan brif gorph yr Eglwys, yn mhob rhan o'r byd, hyd ddiwedd amser: ïe, ei bod yn Athrawiaeth anhebgorawl o ran anfeidroldeb gwerth Aberth ein hanwyl Arglwydd Iesu Grist. Bydd hefyd gan yr Eglwys yn Nghymru achos diolch i Dduw am yr Eglurhad a'r Amddiffyniad, hwn o'r eiddoch o honi, hyd ddiwedd amser: Ac hefyd achos rhyfeddu, fod yn rhaid wrth Amddiffyniad iddi! Pwy fuasai yn meddwl bymtheng mlynedd yn ol, y buasai un dyn, tu yma i Ffraingc, yn dychymygu am derfyn i Anfeidroldeb! Yn ddiffuant, yr wyf yn deall fod eich llafur hwn wedi bod eisoes yn fendithiol i amryw. I Dduw y bo'r clod.

"Y gwaelaf, &c.

"D. J."

Gobeithiwn fod y Llythyrau uchod oddiwrth Gymdeithasfäoedd, ac oddiwrth bersonau neillduol hefyd, yn ddigonol i ddangos, i foddlonrwydd, i bob dyn diduedd, fod Mr. Jones yn Aelod derbyniol, yn Weinidog parchus, ac yn Ysgrifenydd cymmeradwy yn Nghorph y Methodistiaid Calfinaidd hyd ddydd ei farwolaeth: Er i rai oi wrthwynebwŷr ddywedyd yn groes i hynny.—Gallesid dwyn ger bron lawer chwaneg o dystiadau ar y matter; ond rhag blino'n darllenwyr, a chan gwblfarnu fod hyn yn llawn ddigon, nyni a ymattaliwn.

Thomas Jones fel Dyn, fel Cristion, fel Pregethwr

Bellach ceisiwn ddywedyd ychydig am dano fel Dyn, fel Cristion, fel Pregethwr, &c.

Yr oedd Mr. Jones yn Ysgolhaig da, mewn pedair neu bump o ieithoedd; yn enwedig mewn pedair, sef Cymraeg, Saesoneg, Lladin, a Groeg: fel y gellir gweled yn eglur wrth ei Ysgrifeniadau. Gwyddai efe yr Iaith Hebraeg hefyd; er nad oedd yn gwneuthur cymmaint defnydd o honi ag o'r lleill. Un arwydd neillduol o gryfder cynneddfau, ac athrylith Mr. J. ydyw, ei fod wedi dysgu Gramadeg yr iaith Hebraeg mewn pythefnos o amser, a hynny hefyd pan oedd efe uwch law deugain mlwydd oed. Y mae ysgrifenydd hyn o hanes, o'i wybyddiaeth ei hun, yn gallu ardystiaw. gwirionedd y peth; ei fod wedi gwneuthur hynny. Er ei fod yn ysgolhaig da, yr oedd mor ostyngedig, fel nad oedd nemawr un yn pwyso llai ar ei ddysgeidiaeth, nac yn sôn llai am dano, nag efe; oni byddai rhyw achos neillduol yn galw am hynny.

Yr oedd Mr. Jones fel Gwladwr yn dra chymmeradwy yn ei ardal a'i wlad: Yr oedd ei wybodaeth, ei synwyr, a'i ras, yn peri iddo. dderbyniad parchus yn meddyliau pob dynion da. Ei ffyddlondeb i'r Brenin a'r Llywodraeth, oedd bob amser, yn goron hardd ar ei ben. Yr ydoedd yn Sylwïedydd, craff a manwl, ar oruchwyliaethau Duw yn nhrefn ei ragluniaeth tu ag at y byd yn gyffredinol, a thu ag at ei wlad ei hun yn neillduol. Er ei fod cystal gwladwriaethwr a nemawr.un yn ei: fro, mor wybyddus yn amgylchiadau achosion ei wlad; pan ddygwyddai rhyw drychineb iddi, nid oedd neb yn llai am feio ar Lywyddión a Chynweision y deyrnas nag efe.. Beth bynag fyddai y dygwyddiadau, byddai efe yn canfod Haw'r Arglwydd heibio i bawb, a phob peth:—mai efe sydd yn teyrnasu.

Yr oedd Mr. Jones yn Fardd. enwog, yn Saesoneg a Chymraeg; ond yn bènaf yn Gymraeg. Y mae yn ei waith prydyddawl yn dangos ei fod yn Sylwïedydd manwlar Ragluniaeth yr Hollalluog. Y mae "Cywydd Trugaredd a Barn;;," a ddechreuodd efe tu a dechreu rhyfel Ffraingc, yn brawf amlwg o hynny. Y mae rhanau o hono eisoes wedi ei argraffu yn y Drysorfa Ysprydol; a rhan fawr o hono heb ei gyhoeddi etto; y'nghyd ag amryw darnau ereill o Farddoniaeth cywrain. Y mae un darn, sef, "Awdl ar Farwolaeth ein diweddar Frenin Sior y Trydydd," a gyfansoddodd efe ychydig cyn ei farwolaeth, yn ddarn o Waith awenyddol a dysgedig. Y mae efe yn yr Awdl hon yn dangos yr yspryd rhagorol, y parch, y cariad, &c. oedd ynddo, yr hyn a weddai fod mewn pob Cristion, tu ag at ei Frenin a'i wlad. Byddai ddywenydd gènym weled yr Awdl hon, gyd ag amryw ddarnau ereill o'i Waith prydyddawl ef, yn cael ymddangos drwy'r argraff-wasg.

Yr oedd Mr. Jones, fel Cyfaill, yn dirion, mwynaidd, a ffyddlon:—Yn hawdd nesu ato, a chyfeillachu âg ef.—Ei gynghorion, pan fyddai achos am danynt, fyddent ddifrifol a synnwyr-lawn: â'u tueddiad at ogoniant Duw, cysur a llwyddiant y dyn.

Tyner iawn hefyd oedd efe at y tlodion; yn hawdd ganddo roddi a chyfranu. Bydd llawer yn teimlo eu colled am ei elusen, cystal ag am ei gynghorion a'i weinidogaeth.

Fel priod, yr oedd efe yn ffyddlon, caredig, a thyner iawn o'i wraig; gan roddi parch iddi, fel y llestr gwanaf, &c. Er nad ydoedd mor fywiog ei dymherau ag ambell un, etto yr oedd ganddo ffordd tra gweddaidd, caruaidd, a chrefyddol, i ddangos ei serch prïodasol.

Fel meistr, a phenteulu, yr ydoedd wedi ei ddysgu gan yr Arglwydd i wybod ei ddyledswydd, a'r rhwymedigaeth oedd arno yn y sefyllfa honno. Nid fel meistr caled, ond fel tad tirion i'w deulu, y byddai efe yn ymddwyn: Gan roddi bwgwth heibio; a chan wybod fod ei Arglwydd ef a hwythau yn y nefoedd.

"Fel pregethwr, yr oedd ei ddull o bregethu yn ysgrythyrol, eglur, a buddiol.—Nid llawer y darfu iddo erioed astudio cywreinrwydd cyfansoddiad yn ei bregethau: oblegid nid cywreinrwydd addurniadol y dull, oedd y peth mwyaf ar ei feddwl syml ef, ond sylweddolrwydd ac ysprydolrwydd y defnydd. Wedi iddo egluro yn fyr y rhan o'r gair a gymmerai efe mewn llaw i lefaru arno, byddai yn treulio y rhan fwyaf, o lawer, o'r amser i gymhwyso, cynghori, a gwasgu y gwirionedd at ei wrandawyr.

O ran ei ddull yn traddodi ei weinidogaeth: Yr oedd ei lais yn eglur a phêrseiniol:—Ei olwg yn dreiddiol, difrifol ac ynnillgar; a'ï agwedd yn sobr a dirodres:—Ië, ei holl ddulliau yn naturiol, syml a gweddaidd. Gallesid darllen yn ei wynebpryd ef, yn y pulpud, fod achos eneidiau dynion yn beth pwysig ar ei feddwl. Ië, yr ydoedd yn ei holl ymdriniaeth â gwaith mawr yr Arglwydd, fel un yn teimlo ei bwys a'i ysprydolrwydd ac nid fel cellweïriwr gwag..

Tyner a thirion iawn oedd efe yn ei holl ymdriniaeth âg achosion yr eglwys. Pan y byddai rhyw fatter dysgyblaethol, heb fod yn gwbl oleu ac eglur, i gael ei drin, llawer gwaith y clybuwyd ef yn dywedyd, ar y cyfryw achlysuron, "Os bydd i ni gamgymmeryd, gwell i ni gamgymmeryd yn yr ochr mwyaf tyner; bydd yn haws gan yr Arglwydd hefyd faddeu i ni ein camgymmeriad.".

Deuwn yn awr i fwrw golwg ar ein hanwyl gyfaill yn ei ddyddiau a'i glefyd olaf. Noswaith neu ddwy cyn iddo fyned yn glaf i orwedd (ond yr oedd efe yn glaf iawn cyn myned i orwedd) dygwyddodd fod dau neu dri o gyfeillion gyd âg ef yn y Llyfrgell, efe a ddywedai, "Wel gyfeillion, nid hwyrach y'ch bod chwi yn dysgwyl rhyw bethau mawrion genyf fi:—Nid oes gènyf fi ond yr un peth yr awr hon, IESU! ag oedd genyf yn fy ymdriniaeth a'r gwaith; yn ol y llafur bychan oedd genyf—yn pregethu ac yn cadw society, fy nyben oedd ceisio bod o lês i bechaduriaid. Ac am y pethau a 'sgrifenais, nid wyf yn edifarhau; er fod gènyf achos edifarhâu am fy meiau: Fy amcan i yn y cwbl oedd sefyll dros wirionedd Duw. Ond yn y cwbl y mae ynof lawer o anmherffeithrwydd. Ond nid yn ol fy mhethau goreu i, na fy mhethau gwaethaf, y gwna'r Barnwr." Yna fe wylodd! —Hyn gan un o'r brodyr (E. L—s) oedd yn bresenol.

Oddiar ymddyddan rhyngddo a'r Brawd J. W—s, M—m, ar ol iddo fyned i orwedd, efe adroddodd y llinellau canlynol, gyda phwyslais nid bychan,

"Pan welir gwaith yr Arglwydd ne,'
Fe'i molir E'n dragywydd.".

Y mae Brawd arall (J. R—s) yn adrodd yr hyn a ganlyn, am gyfeillach a fu rhynddo ag ef ychydig cyn iddo ymadael. "Pan aethum gyntaf i'w gyfarch, gwnaeth arwydd ei fod yn llawenhau, ac yn dda iawn ganddo fy nyfod i ymweled âg ef: Ond nis gallai ymddyddan llawer gan lesgrwydd. Yn mhen ychydig gofynodd i mi ddarllen Salm 23. ac annogodd fi i fyned i weddi. Yna, wrth ymddyddan, dywedodd yn hynod o gysurus am y geiriau yn 2 Tim. 1. 12. Miawn i bwy y credais, &c.—Dymunodd ar y rhai oedd yn yr ystafell ganu mawl, ac adroddodd y geiriau canlynol i'r perwyl,

D'ai i ymofyn haeddiant byth na nerth,
Na ffafr neb na'i hedd;
Ond hwnw yn unig a gwyd fy llwch,
Yn fyw i'r làn o'r bedd.

Gwedi hyn yr oedd megis yn ceisio canu y geiriau hynny,

Yn ymchwydd yr Iorddonen,
Ac yn y farn a ddaw;
Dïangol yn y diwedd,
A fyddaf yn ei law.

Nid oedd yn gallu aros yn effro ond ychydig; gan effeithiau cyfferi meddygol: Ond hyd ag y byddai yn effro, yr oedd yn barod iawn i ymddyddan. Ar ddiwedd yr ymddyddan y tro hwn dywedodd,—"Gweddiwch am i mi gael gras i ddyoddef,—"Ymddarostyngwch dan alluog law Duw, &c." Y mae'n ddigon o ras i mi yn bresennol gael grym i ymostwng, a dyoddef, a chael gweled llaw Duw yn y cwbl; a bod y cwbl yn llaw Tad."—" Wedi iddo fy mhrofi mi a ddeuaf allan fel aur; a bydd hynny yn rhyfedd byth; cael bod yn bur."—Y bore dranoeth, dymunodd arnaf ddarllen pennod, a myned i weddi. Yna adroddodd ei ddiolchgarwch am ei fod wedi esmwythâu llawer, o ran gofidiau ei gorph.—Wrth ymddyddan am ei waith yn ysgrifenu ar y Prynedigaeth, dywedodd, "Yr wyf fi yn marw mewn heddwch, ac yn hollol o'r un meddwl; ac heb ddim trallod meddwl am ddim o ran matter: ond ei fod yn waith gwael iawn. Ac nid wyf yn matteru llawer pa faint a geblir arnaf gan bleidiau ereill, yn enwedig gan y Bedyddwyr, os bydd yn dderbyniol gan fy mrodyr, &c."

Cyn i mi ymadael, Dymunodd arnaf ei gofio yn garedig at y Brodyr yn Nghymmanfa'r Bala: a'i ddymuniad am i bresennoldeb yr Arglwydd fod yn eu plith:—ac am i ni weddio ar Arglwydd y cynhauaf, anfon gweithwyr i'w gynhauaf: Ac am i'r Arglwydd gyfodi rhai ag y byddai iddo Ef eu harddel mewn modd neillduol; er mwyn dal i fynu achos mawr Duw. Dangosodd fod achos yr Arglwydd yn fawr ar ei feddwl, a'i gariad ato yn fawr iawn, &c."—Aml y dywedai, "Gwyliwch i'r achos mawr fyned i lawr gènych.—Ymrowch i weddio, &c.—Rhodiwch mewn cariad, a gostyugeiddrwydd:—Ymdrechwch i fod yn fuddiol yn mhob lle, a chyd â phob rhan o'r Gwaith; ac yn fwy-fwy manwl am Athrawiaeth a Dysgyblaeth."—Yn mhen ychydig adroddodd y llinellau canlynol,

"Pan ballo ffafr pawb a'i hedd,
Duw o'i drugaredd odiaeth;
Yn dad, yn frawd, yn ffrind a fydd,
Ar gyfyng ddydd marwolaeth."

Yna eb efe, "Y mae gyda thi faddeuant fel y'th ofner. O fy Nhad, gollwng fi mewn tanguefedd yn ol dy air. Byr ysgafn gystudd sydd odidog ragorol.—Pallodd fy nghawd a'm calon, ond y mae genyf obaith, mai nerth fy nghalon a'm rhan yw Duw yn dragywydd. Wrth fesur pan el allan—y mae'n attal ei wynt garw yn nydd y dwyrein—wynt. Byw i mi yw Crist, a marw sydd elw."—Allef uchel y dywedodd, "O angau pa le mae dy golyn?

I Dduw y bo'r diolch, am roddi'r fuddugoliaeth i'r fath bryfyn mor wael."—Pan oedd yn dra, phoenus, efe a ddywedai, "Y mae fy mhechod i yn haeddu can mil miliwn, mwy na hyn—os edrychi di yn dirion arnaf, pob peth yn dda,—O, fy Ebenezer, hyd yma y cynnorthwyodd yr Arglwydd fi."

Ar nos Sadwrn, gofynodd beth oedd hi ar gloch? Atebwyd iddo ei bod yn ddeuddeg: dywedai yntau yn Saesoneg, "Shall I, a poor sinner, commence an eternal Sabbath?"—" Y cyfiawn a obeithia pan fyddo yn marw. wyf fi yn marw mewn tangnefedd:—A'th dangnefedd a fyddo ar dy eglwys."

Ar un pryd efe a dorrodd allan fel hyn, "O Arglwydd, yr wyt ti yn rhoi pob ymgeledd i mi yma ar dy ddaear." Wrth edrych ar ei wraig yn ŵylo, dywedodd, "Y mae digon yn dy 'stêr di i fy ngwraig, a'm perthynasau, a'm cyfeillion, a'm caredigion: ïe, a'm gelynion.—Tynodd ei ddwylaw allan o'r gwely, a chan eu curo y'nghŷd, ac mewn llais gorfoledd dywedodd, Diolch, O diolch; fod digon yn dy 'stôr di."—Wrth un fe ddywedodd fel hyn, "This is a rough passage; but the end of it is everlasting glory."—Trachefn, "Yn dy drugaredd, yr hon sydd well na'r bywyd, ymgeledda fi, O Arglwydd—doeth a da wyt ti, a minnau yn annoeth a ffol.—Yr wyf yn hyderu na fwrw'r Arglwydd mo honof ymaith—da fu E, da ydyw Efe, a da fydd E byth, i mi bechadur." "Cerbyd go anesmwyth ydyw'r [11]Ig (hiccup,) ond er hynny efe a'm caria i dragywyddol lawenydd." Llawer iawn o ymadroddion cysurus, oedd yn disgyn dros ei wefusau tra fu yn ei glefyd olaf, y rhai a ddangosant fod ynddo hyder fywiol, a gobaith cryf yn yr Arglwydd Iesu: a'i fod yn mwynhau graddau helaeth o orfoledd yr iechydwriaeth. Rhy faith fyddai i ni adrodd yr hanner. Ond gobeithio yr ydym, y goddef amynedd ein darllenwyr i ni adrodd ychydig yn rhagor.

Un pryd pan ddeffrodd o'i gwsg, adroddodd y darn pennill canlynol a gyfansoddasai efe drwy hûn,

Some find the Lord on Christian ground,
May I among them all be found."

Wrth y rhai oedd yn sefyll wrth y gwely. dywedodd, "Peidiwch a digaloni, gwell gènyf fi farw na pheidio—mi gaf ei weled ef fel ag y mae; a bod yn debyg iddo."—Aml waith yr adroddodd y pennill canlynol, mewn agwedd hyderus a siriol.

"Mi welaf draw dros fryniau pell,
Dragywyddol babell Iesu;
A'r hyfryd wlad yr hon gaf fi,
Y'mhen ennyd ei meddiannu."

Tan guro ei ddwylaw, dywedai,

"Rho oleuni lhwylia'm henaid,
Dros y cefnfor garw draw."


Trachefn y dywedodd,

"Gad i'r wawr fod o fy wyneb,
Rho fy enaid llesg yn rhydd."


"Iesu, cyfaill pechaduriaid, &c. Mae'n Archoffeiriad yn sefyll yn daclus y'nghanol yr afon, nes y daw y gwanaf o'r llwythau drwodd —Gwna felly a minnau, O fy Arglwydd.Iesu, derbyn fy yspryd, er fy annheilyngdod a'm pechod mawr.—Beth bynag ydwyf fi, Achubydd wyt ti, Arglwydd. —O, Arglwydd, os yw yn unol â dy feddwl derfynu fy einioes yn bresennol:—Ond fel y gwelych di yn dda.—Yr wyf yn rhoi fy hunan yn dy law yn gwbl oll. Rho dy heddwch, rho dy heddwchGorchfyga, gorchfyga—I'r lan, i'r lan â mi, Arglwydd."

Ar ol gwasgfa drom, efe a lefodd glwydd, y mae dy wïalen a'th ffon yn fy nghysuro.—Fe ddyoddefodd Iesu Grist fwy o lawer—a thros bechadur hefyd—ac heb gwyno dim!—Rho di amynedd. Y mae arnaf chwant i'm dattod a bod gyd â Christ, canys llawer iawn gwell ydyw."

"Arwain fi i dal graig uwch na mi,"—
Ar ei ffyddlondeb ef,
Sydd noddfa gref i'r gwan,
Mi greda' y do'i mhen gronyn bach,
O'r tònau yn iach i'r lan."


"Dal fi, Iesu, yn dy law, yn dy law, yn dy law. O, Arglwydd, bydd yn Achubydd, bydd yn Achubydd, a digon yw!"

"Yr Arglwydd Iesu yw fy rhan,
Efe yw gobaith f' enaid gwan."


"Na ad fi yn difatter, Arglwydd; deued dy deyrnas, deued dy deyrnas ar y ddaear.—A gaiff y fath bechadur a myfi garu Iesu, yn dragywydd? yn dragywydd?—O, Arglwydd, cymmer fi i freichiau dy drugaredd rad."

Wrth ymddyddan âg un brawd, dywedodd y geiriau hyn, "A chariad trag'wyddol y'th gerais; am hynny y tynnais di â thrugaredd—Nid oes gènyf ddim am fy mywyd, ond rhoi fy hun yn bechadur tlawd, i'r hwn a fu farw dros bechaduriaid. Wele fi yn marw dan garu fy holl frodyr."

Sabbath yr 11eg, o Mehefin, efe ofynodd pa ddiwrnod oedd hi? Atebwyd mai Sabbath; dywedodd yntau, "O, a gaf fi ddechreu ar Sabbath tragywyddol?" Trachefn efe a lefodd, " Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was, mewn tangnefedd, yn ol dy air: Canys fy llygaid a welsant dy iechydwriaeth."—Ar y 12ed, "O, a gaf fi, y pechadur duaf, dy foli di, IESU, yn dragywydd? O, tragywyddol garu IESU, a'i foliannu:—O, a gaf fi hynny, Arglwydd? O, Achubydd pechaduriaid; yn dy law di mi allaf rydio'r afon.—O, na ad fi heb galon i obeithio ynot.—Yn dy ffordd, yn dy ffordd, yn dy ras, achub fi i fywyd tragywyddol. Y mae digon o rinwedd y'ngwaed y groes i fy nglanhau i bechadur."

Wrth chwaer a ddaethai i ymweled âg ef, y dywedodd, "Yr oeddwn i yn meddwl na buaswn i ddim yma yr awr hon. Ond da gwnaeth yr Arglwydd bob peth.—Yr ydwyf yn meddwl na fwrw'r Arglwydd mo honof ymaith yn hollawl oddi ger ei fron—Y mae wedi rhoi i mi olwg ar ogoniant ei Fab: Ac nid ydyw Efe ddim wedi fy ngadael hyd yr awr hon. Marwolaeth Iesu ydyw y cwbl a feddaf am fy mywyd:—Y pechadur annheilyngaf ydwyf o neb."

Wrth ei deulu efe a ddywedai, "Gweddïwch; peidiwch a digalòni; er nad yw hi yn orfoleddus, etto y mae yn gysurus, oblegid y mae fy ymddiried i yn yr Arglwydd.—Fy ngolwg i a fyddo ar waed y Testament newydd: yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell na'r eiddo Abel.—Oddi yno y mae peth yn dyfod i foddloni enaid euog:—Cyfammod tragywyddol a wnaeth Efe a mi; wedi ei luniaethu yn hollawl ac yn sicr.—O, Arglwydd, trugarhâ, y mae 'r gelyn yn agos; na fydd bell, ond bydd di yn agos.—Amynedd i ddysgwyl wrthyt ti am fy rhyddhâd, yn dy awr di;—nid wyf fi ddim yu deilwng o'th sylw lleiaf.—Mae arnaf chwant ymddired etto yn yr Arglwydd, am fy iechydwriaeth; a pheidio a gosod terfyn i Sanct yr Israel."

Trachefn y dywedodd, "Fy myr ysgafn gystudd i sydd odidog ragorol. Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd, yn ol dy air: canys fy llygaid a welsant dy iechydwriaeth. O, Arglwydd, dangos dy ryfedd drugaredd attaf, ac ynof, etto."—Wrth frawd arall a ddaethai i ymweled âg ef, y dywedodd, "A gewch chwi a minnau garu Iesu a'i foliannu; garu Iesu a'i foliannu; yn dragywydd, yn dragywydd? O, cawn! cawn!

Wrth ei wraig y dywedodd, y noswaith cyn ei ymadawiad, "Paid ag wylo, fy anwyl, mae 'r Arglwydd yn gan mil gwell i ti na mi."—Y geiriau diweddaf a ddywedodd efe, ag oedd ddealladwy, oedd y rhai hyn, "O, a gaf fi farw mewn heddwch â Duw anfeidrol? O hapus nefoedd! Hapus nefoedd!"

Diweddglo

Yr ydym yn copio, ac yn cyfieithu, yr hyn a ganlyn, am farwolaeth Mr. Jones, ac i derfynu hyn o hanes, allan o'r "EURGRAWN EFENGYLAIDD," am y Mis Awst, 1820.

"Dydd Gwener, Mehefin yr 16eg, 1820, y bu farw y Parchedig Thomas Jones, o Ddinbych, (yn ddiweddar o Syrior,) yn y bedwaredd flwyddyn a thrugain o'i oedran. Efe a fu yn bregethwr ffyddlon yn Nghorph y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru, dros y'nghylch dwy flynedd a deugain.[12] Efe a fwynhäodd ei gynefin iechyd, hyd o fewn tair wythnos i'w ymddattodiad. Efe a bregethodd yn Nghapel Dinbych, y Sabbath cyn iddo fyned yn glaf, ac a fynegodd yn deimladol, mai ei dro olaf fyddai. Claddwyd ef dydd Llun, 19eg, pryd y pregethodd y Parch. Daniel Jones, o Liverpool, oddiwrth Col. 3. 4. a'r Parch. John Davies, o Nantglyn, oddiwrth Heb. 13.7. Dywedir, fod mwy na thair mil o bobl yn canlyn ei gorph i'r tŷ rhagderfynedig i bob dyn byw."

ENGLYN

A wnaed gan y Cyhoeddwr, mewn tymher alarus, pan ar ei daith, y clywodd am Farwolaeth ei anwyl a pharchus Gyfaill. dm

Collais ŵr, call a siriol,—agorodd!!!!
Y gweryd ei geufol
Aeth i'r bedd, wr rhinweddol;
Yn eiddo' ni, ni ddaw'n ol!
—J. H.


Tybir nad yw anaddas dodi y llinellau canlynol i lawr yma: o herwydd gwiwdeb y testyn, teilyngdod y gwaith, ac hefyd fel golygyn o Farddoniaeth Gymraeg a Saesoneg Mr. Jones. Gobeithio na bydd raid crefu llawer ar y Cymro uniaith am ei amynedd, dd, a'i oddefgarwch, o herwydd hyn o beth.

BEDD-ARGRAFF.

I'r du-lwch, gwelwch, mewn gwaeledd,—daethym
O daith byd a'i annedd:
Rhôdd fy Mhrynwr haeddwr hedd,
Noswyl im' o'i hynawsedd.

Heb gur na dolur i'm dilyn—a rhof
Yr hyfryd ddydd dyfyn:
Cyfodaf, can's câf edyn,
I'r wyl o hedd, ar ol hyn.


A FUNERAL HYMN.

WEEP not for me, you standers by,
Which do beset me round;
For in the grave I now must lie,
Until the trumpet sound.

My life is like the dust and clay,
I must lie in the same:
My spirit hath return'd to rest,
The place from whence it came.

I am now gone for evermore,
And left you here behind;
Until the resurrection comes,
And judgment to mankind.

When Christ comes riding in the clouds,
To judge the world abroad;
Angels and Saints crying aloud,
"Rise, dead, and meet the Lord!"'

All men prepare, to God on high
Devoted Christians be;
Then we'll rejoice in Host of heav'n,
To all eternity.


EMYN AR GLADDEDIGAETH.
(Cyfieithiad o'r un flaenorol.)

ALARWYR, na wnewch waith di fael,
Wrth hebrwng llwch i'r llawr:
Rhaid myn'd i'm pridd—dŷ gwely gwael,
Nes seinio'r udgorn mawr.

Ail yw oes dyn i briddyn brau;
Yn hwnw bydd fy lle:
Ond enaid, fe gaiff byth barhâu,
Duw yw ei wreiddyn e'.

Gadewais chwi; fe'm rhoed yn rhydd;
Ni chewch fi'n ol i fyw;
Nes delo'r Adgyfodiad ddydd,
A barn i ddynol ryw.

Y dydd daw Crist ar gwmwl nef,
I farnu daear gron:
Archangel yn rhoi uchel lef
"Dowch, feirw, ger ei fron."

Pawb ceisient rad y Ceidwad cu,
(Crist'nogaidd weddaidd waith!)
Modd hyn cawn wleddoedd nefol lu,
drag'wyddoldeb maith.


BEDD-ARGRAFF,
(Yn Saesoneg.)

A LESSON take from me, O man,
And learn that life is but a span:
Seek grace instead of worldly pelf;
Love God, and trust him, not thyself.

The heavy stroke of death, you know,
Will rob you of your wealth below:
Then seek the pearl, whate'er it cost,
The treasure that will ne'er be lost.

How vain and fading are the toys,
On which vain man his life employs !
Seek then in time, who e'er thou art,
A better object for thy heart.

As I now lie in earth and dust,
So soon you may, ere long you must:
Remember now in healthful bloom,
Death opens man's eternal doom.

The message that grim death shall bring,
Will equal beggar, lord, and king:
But, of the souls that Christ do love,
The poorest will be kings above.


HYSPYSIAD.

Y mae amryw LYTHYRAU, a darnau ereill o waith Mr. Jones, y rhai y dymunem eu gweled yn argraffedig. Buasem yn chwyddo gormod ar y Llyfr hwn wrth eu dodi ynddo, a buasai hynny yn debyg o fod yn attaliad i'r rhai isel radd i'w gyrhaeddyd. Os deallir y bydd galwad cyffredinol am danynt, gellir dysgwyl rhyw gyfle etto i'w cyhoeddi.

DIWEDD.

THOMAS GEE, ARGRAFFYDD, DINBYCH.



Nodiadau

[golygu]
  1. Nid oeddwn, hyd yr amser hwn, erioed wedi cael anifel i'w farchogaeth, i foddion gras, nac ar un neges crefyddol: ond o'r diwedd fy nhad, wrth ddirnad ychydig am fy ngwendid a'm poen, a brynodd farch bychan, fel y byddai i mi ei gael ambell waith o leiaf at fy ngwasanaeth. Nid oedd ei bris ond £2. 10s. ac yn ganlynol nid oedd ei faint yn fawr na'i ystum ond lled—wael; ond rhaid i mi addef, gyd â chywilydd, er i mi gael wedi hynny anifeiliaid amgenach, a llawer iawn o roddion tymmorol, mai prin y bum mor ddiolchgar i'r Arglwydd am un o honynt, ag oeddwn am y creadur bychan hwnw. Bu yn wasanaethgar am gryn nifer o flynyddoedd; ac fe'm dygodd o fan i fan, a thrwy gryn nifer o deithiau oeddynt oll yn filoedd o filltiroedd. Wrth deimlo llesgedd, a phoen y cryd-cymmalan, yn fy nghorph, yr oeddwn yn ddiolchgar am dano, fel rhodd wrth raid, gan yr Arglwydd.
  2. Cryd poeth.
  3. Yr wyf yn 'sgrifenu hyn yn mis Rhagfyr, 1800; felly y mae yn agos i ddeunaw mlynedd er y tro. Rhyfedd y llaw fanwl, dirion, a galluog, a gynhaliodd fy nghorph tra thyner a bregus, ac a'm dygodd trwy'r holl gyfnewidiau a aethant dros fy mhen, o'r pryd hynny byd heddyw!
  4. Am fy mod yn wannaidd, ac yn dueddol i chwysu, cefais fy nghynghori gan gyfaill i gymmeryd Tincture of Bark, ac Acid Elixir of Vitriol: Yn fy anwybodaeth cymmerais ormodedd, ïe, fwy na gormod ddengwaith, o'r surddwfr olaf hwn; a'r canlyniad oedd Cerrig dwys yn magu yn fy lwynau,
  5. Yr oedd hon yn pwyso dwy wns a chwarter: y gyntaf yn un wns a thri chwarter.
  6. Tachwedd, 1814, o ddeutu deuddeng mlynedd a hanner ar ol yr ymwared uchod.
  7. Yr ychydig linellau mewn sylw-nod (Drych Athrawiaethol, ty dal. 69.) yn mha rhai y deallais ar ol hynny, fod tafliad tros ben yr hyn oedd wir, mi a'u gelwais yn ol: (Gwel y Rhagymadrodd i'm trydydd Llyfryn.)
  8. Y mae Mr. Jones yn ysgrifenu mewn llythyr at gyfaill ar y matter yma; gan adrodd ei resymau am yr angenrheidrwydd o weinyddiad yr ordinhadau yn y corph, gan ddywedyd, . Cyh.
    " Yr hyn sy'n taro fy meddwl i gyd â grym mawr ydyw cynnwysiad yr ystyriaethau canlynol:
    1. Y mae'r ysgrythyrau yn ymddangos i mi mor eglur a phendant yn gorchymyn yr arferiad o'r ddau Sacrament yn Eglwys Crist hefyd yn amlwg o blaid y gweinyddiad o Swpperyr Arglwydd yn fwy mynych, os nid yn fwy rheolaidd o ran aniser, nag y mae yn cael ei arfer yn ein plith ni.
    2. Nid ydwyf yn gallu galw i gof weled o honof Eglwys weledig yn cael ei darlunio gan neb rhyw ysgrif enydd, ond fel cynnulleidfa, &c. o bobl a chanddynt air Duw yn cael ei gywir bregethu, a'r Sacramentau yn cael eu dyladwy weinydda yn eu plith.
    3. Yr wyf yn sylwi nad yw bedydd, mewn dull cyff redin o ddywëyd, ddim yn cael ei weinyddu yn ein mysg. 4. Bod mewn amryw o'n cymdeithasau lawer o bobl, yn anewyllysgar iawn i gael bedyddio eu plant yn Eglwys Loegr, a chan ei Gweinidogion hi: ymddengys fod yr anewyllysgarwch hwn yn gystal a'r nifer o bobl yn tueddu ato, ar gynnydd yn barhäus; ac am gymmuno yn Eglwys Loegr, nid oes ond ychydig iawn o'n pobl yn tneddu at hynny.
    5. Bod, yn ol pob argoelion, lawer o'n cyd—aelodau yn ddïau yn cael eu dolurio yn eu cydwybodau wrth gael eu gwasgu i fedyddio eu plant yn Eglwys Loegr gan ei gweinidogion aneffröedig, &c,.
    6. Bod amryw yn ceisio'r ordinhad gan Weinidogion o gorph arall, er gyda meddwl anfoddlawn, drwy fwy nag un ystyriaeth.
    7. Bod cymmell neb o'n haelodau i geisio yr un o'r Sacramentau oddi allan i gylch ein Corph ein hunain yn beth na ddylem fod yn enog o hono, gau ei fod yn groes i air Duw, ac i arferiad cyffredinol Eglwysi Duw, yn mhob oes a gwlad..
    Y cyfryw ydyw'r ystyriaethau ag sydd yn taro yn eg. nïol ac yn argyhoeddi fy meddwl i: ac er pan ydwyf yn byw yn y dref hon, y tri olaf (trwy siamplau ag sydd yn phoi peth 'chwaneg o brawf) a wnaethant argraff mwy dwfn ar fy meddwl. Y mae fy ymgais yn fynych wedi bod i fy holi fy hun ac adnabod fy nybenion, gydâ gweddi ar fod i'r Arglwydd fy ngoleuo, fy attal, a'm llywodraethu, rhag i mi gael fy arwain gan un rhyw dueddiad hunanol neu bechadurus, a'm llithio i fod yn achos o ddim aflonyddwch i eglwys Dduw; ac yn awr er fy mod yn teimlo fy hun yn greadur tra llygredig a phech. adurus, ni's gallaf lai na dywedyd, hyd eithaf fy ngwy bodaeth, fod fy amcan yn gywir ac yn onest; y mae'r achos hefyd yn dda ac yn bwysfawr: Os darfu i mi gyfeiliorni mewn cynhyrfiad, defnydd, neu ddull, bydded i'r Arglwydd fy argyhoeddi a'm diwygio.
  9. Gan fod Mr. Jones yn crybwyll am y Papuryn Saesoneg a 'sgrifenasai efe, a'r gofid a gawsai o herwydd hynny, a bod y rhan fwyaf heb fodd i wybod pa beth allasai y Papuryn hwnw fod, tybiasom yn addas ei ddodi i mewn yma; heb nag Esponiad, Cyfieithiad, na Chyfnewidiad; fel y gallo y Darllenydd farnu drosto ei hun.
    To the Gentlemen who superintend the Signing of the DENBIGHSHIRE PETITION TO THE HONORABLE HOUSE OF COMMONS, respecting the Claims of the Roman Catholics,
    T. JONES, Minister, and an Inhabitant of the Town of Denbigh,
    PROTESTS,
    "THAT he, from his heart, detests the mass of errors "contained in what is called the Roman Catholic Religion, and is truly willing and ready to join in the use of every justifiable means of opposing it; at the same time, wishing to live, if possible, in peace with all men.
    That, with regard to the operation of the Test Laws, as affecting himself or his brethren, he feels no dissatisfaction, or anxiety for the repealing or altering of them, as long as our Legislature and Country in general shall deem them a necessary barrier for the defence of our most venerable and valuable Constitution.
    That, with respect to the claims of the Roman Catholics, particularly in Ireland, he is of opinion, that some further concessions may be made without endangering our Constitution: that promises from high authority have been made and held ont to them in various ways and at different times; and that whatever has a tendency to irritate should be studiously avoided, especially in the present alarming crisis of difficulty and danger.
    That he highly approves of the substance of the following sentence, which forms the concluding part of the Petition agreed upon by the Gentlemen, Clergy, and other Inhabitants of the County of Anglesey; Your Petitioners do most humbly pray, that your Lordships, in any measures which in your wisdom you may adopt for the further relief of the Roman Catholics of Ireland, will take especial care, that those measures be so framed as to preserve that Constitution, civil and religious, which your Petitioners have received from their ancestors, and which it is their anxious wish to transmit unimpaired to their posterity.
    That he humbly hopes his signature to the Petition lately agreed upon at Ruthin, may be accepted with or under the declaration, limitations, or concessions above expressed.
    DENBIGH, Feb. 2, 1820.
  10. Y geiriau hyn ydynt eiriau ffugurol yn cyfeirio at y ddiareb Lladin—Incidit in Scyllam, dum vult vitare Charybdim, Yn arwyddo un wrth geisio gochelyd perygl ar y naill ochr, yn syrtbio i berygl mwy yr ochr arall.
    Craig beryglus ydyw Scylla, ar y llaw ddehau, neu ar ochr Itali; a llyn tro dychrynllyd ydyw Charybdis, ar y llaw aswy neu ar ochr Sicili; yn union ar ei chyfer. Dywedir y bydd y llyn tro hwn yn llyngcu llongau yn eu "crynswth, ac ar ddychweliad y llanw, yn eu bwrw i fynu yn ddarnau.
    Bod un yn gallu hwylio ei lestr rhwng Charybdis, a Scylla, sydd yn arwyddo ei fod yn cadw cyfrwng rhwng dau bellder, neu ganol-barth rhwng dau eithafnod.

    "Nid da rhy o ddim."
    CYHOEDDWR

  11. Ei glefyd, o'r hwn y bu efe farw, a eilw'r meddygon Gall Stone, ac yr oedd yr Ig (hiccup) yn ei ganlyn; a hynny yn drwm iawn
  12. Y mae yma ychydig o gamgymmeriad y'nghylch nifer y blynyddoedd y bu Mr. J. yn pregethu. Os edrychir tu dal. 46, gwelir mai yn y Mis Awst, 1783, y dechreuodd efe; ac mai 37 o flynyddoedd sydd o hynny hyd Awst, 1820.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1925, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.