Neidio i'r cynnwys

Cofiant D Emlyn Evans/Gwasanaeth

Oddi ar Wicidestun
Cartref a Chyfeillion Cofiant D Emlyn Evans

gan Evan Keri Evans

Fel Cyfansoddwr a Cherddor

Y Trydydd Cyfnod, 1880-1913.

XIII.
GWASANAETH

CROESWN i gyfnod newydd yn hanes ein gwrthrych tua'r flwyddyn 1880. Wrth gwrs, nid yw'n bosibl tynnu llinell glir a sicr rhwng cyfnod a chyfnod ym mywyd dyn. Fel y ceir llygedyn o sirioldeb gwanwyn, a glesni gwybr a mwynder awel Mai yn aml yn Chwefrol, felly'r ymwthia cyfnod y dyn i fywyd y llanc yn wyrgam a thoredig: nid yn unig "mae'r llanc am fod yn ddyn," ond y mae'r llanc yn ddyn ar brydiau, cyn cyrraedd oedran gŵr.

Dechreuodd Emlyn wasanaethu fel beirniad mor fore ag 1867, yng Nglyn Ebwy. Yn 1868 ymddengys ei feirniadaeth gyntaf yn y Cerddor Cymreig ar y dôn yng Nghefn Cribwr, pryd y rhannwyd y wobr rhwng John Thomas a Dd. Lewis. Yr un flwyddyn cawn Eos Morlais yn cystadlu tano yn Nhredegar—y pryd hwnnw fel arweinydd Côr Dowlais—ac yn cael hanner gwobr. Parhaodd i ennill tir fel beirniad ar hyd y blynyddoedd, hyd 1879—80, pan roddwyd iddo'i le fel un o feirniaid cyson yr Eisteddfod Genedlaethol.

Y pryd hwn hefyd rhoddodd gystadlu heibio, er ei fod yn graddol addfedu i hyn ers blynyddoedd, fel y dengys y llythyr a ganlyn o'i eiddo at Mr. Lewis, Llanrhystyd:—
Newtown,
I Ion, 1870.

Fy Hynaws Gyfaill,
Ychydig linellau yn frysiog gan ddymuno i chwi yn gyntaf 'flwyddyn newydd dda, dda. Gobeithio i chwi dreulio gwyliau llawen a diddan yn Abertawe y Nadolig. Gwelais hanes tra ffafriol o'r Eisteddfod yn un o bapurau Saesneg y dywysogaeth.

Cawsom gynulliad a chystadleuaeth ragorol yn y Drill Hall, Merthyr. Bum mewn cryn benbleth rhwng Ton Johann Seb. Bach un Alaw Ddu: yr oedd cedyrn eraill yn yr ymrysonfa, ond y ddwy a nodais oedd oreu, debygwn. Mawr hoffwn arddull y flaenaf, ond ag ystyried y ddwy dôn yn gyfanbeth, gogwyddais ychydig bach i'r olaf.

Gadewch i mi gael gair o'ch helynt cyn hir. A ydych yn cyfansoddi rhywbeth yn neilltuol y dyddiau hyn Neu yn astudio mewn rhyw gyfeiriad arbennig? Nid wyf yn gwybod am un gystadleuaeth o werth wrth law. Yr wyf fi fy hun wedi llwyr benderfynu cyfyngu'm maes cystadleuol a beirniadol; ac, yn wir, bron a phenderfynu rhoddi'r blaenaf i fyny'n hollol.

A gawsoch chwi yr ychydig sylltau o Gefncribwr?

Rhowch air o'ch helynt.

Byth yr eiddot,

D. EMLYN E.

O.N. Cyfarfyddais a Gwilym a Blaenanerch trannoeth y Nadolig yn Aberdâr.

Ymhen blwyddyn agos (ddiwedd Rhagfyr 1870) ysgrifenna eto at Mr. Lewis:— "Yr wyf fy hun wedi llwyr roddi fyny fân gystadleuaethau."

Dechreuodd ei waith fel golygydd yn 1872, pryd y cychwynnwyd y Gerddorfa dan olygiaeth Dewi Alaw ac yntau; ond oherwydd gwaeledd ei iechyd (a'i ddyletswyddau masnachol) gorfu arno roddi'r swydd i fyny ymhen y flwyddyn; ac er ail-ymaflyd ynddi drachefn ym Mehefin 1875, ni allodd ddal ymlaen ymhellach na Medi 1876. Oherwydd ystad ei iechyd treuliodd aeaf 1877-78 yn Ventnor, Isle of Wight.

Yn rhai o'r ysgrifau gwelwn y "banergludydd " yn ymddangos, a dechreuad yr ymgyrchoedd yn erbyn cystadleuaeth (pan yn feistres i gerddoriaeth ac nid yn forwyn) ac ar ran delfryd uchel a phur ynghyd ag ehangiad y cylch cerddorol mewn cyfansoddi a chanu. Cymerer a ganlyn o erthygl arweiniol Medi 1872:—

"Ystyriwn fod dyledswydd arnom fel cenedl gerddorol i feithrin mwy ar wahanol arddulliau o gerddoriaeth. Ni welir ac ni chlywir ond y ganig fyth a hefyd. Beth yw y rheswm?

"Efallai y gellir rhoddi mwy nag un rheswm; yn un peth, am fod tuedd yn ein prif gerddorion i foddloni y dosbarth iselaf ei chwaeth a mwyaf eu hanwybodaeth, yn hytrach na boddloni eu hunain, yr hyn ni wnaeth gwir athrylith erioed o’i bodd. Fel rheol ni cheisiodd Handel, Bach, Mozart, Beethoven, Mendelssohn, etc., ddarostwng eu hunain, er boddio chwaeth a theimladau y werin a gyd-breswyliai â hwynt: boddloni eu chwaeth a'u teimladau eu hunain a wnaent hwy, gan ddiystyrru gwawd y rhai hynny na allent werthfawrogi peroriaeth uwchraddol,—ond prif bwnc y Cymro fynychaf yw gwneud ei hunan yn boblogaidd.

"Rheswm arall yw mai am ganigau y cynhygir gwobrwyon ym mhob Eisteddfod, ac y mae'r awydd am gystadlu wedi mynd mor gryf fel nad oes dim ond canigau'n cael eu cynhyrchu o'r naill flwyddyn i'r llall."


Ynglŷn â Chaniadaeth, dan y teitl "Y Twelfth Mass" yn Aberdar (Nadolig 1874) ysgrifenna:—

"Er ys cryn amser, drwy y wasg ac yn bersonol, yr ydym wedi cymeryd yn ddigon rhydd ar ein cyfeillion cerddorol yn y lle uchod i ddweyd wrthynt fod maes eang iawn o wneud daioni ynglyn a cherddoriaeth glasurol heb ond prin ei gyffwrdd yng Nghymru, a'n bod yn ei hystyried yn ddyledswydd arbenigol arnynt hwy—the heroes of many a fight—i lafurio yn y maes gogoneddus hwn. Nid ydym yn y fan hon yn mynd i ddweyd dim dros nac yn erbyn cystadleuaeth Eisteddfodol, ond yn unig barnwn fod dyledswyddau uwch at gerddoriaeth gan gorau galluog Aberdar, Glyn Ebbwy, Merthyr a Dowlais, nac ymgystadlu fyth a hefyd a small fries yn yr hyn nas gellir eu galw yn bresennol ond music-fights, a llawer ohonynt er cywilydd a gwarth ein cenedl a'i hen sefydliad cenedlaethol." O'r tu arall, y mae ei sêl dros burdeb eisteddfodol—lle byddo cystadleuaeth—yn peri iddo arwain cad o'i gyd-gerddorion yn y De—Eos Rhondda, John Thomas, Alaw Ddu, Dewi Alaw, Dd. Lewis a Frost—yn erbyn gwaith pwyllgor Eisteddfod Bangor yn caniatau—os nad trefnu—fod y wobr am gyfansoddiad cerddorol yn cael ei dyfarnu heb fod un o'r beirniaid, sef Joseph Parry, yn cael gweld y cyfansoddiadau o gwbl. Eu cŵyn yw fod Mr. Parry wedi ei enwi'n feirniad; fod y cyfansoddiadau wedi eu gyrru i fewn yn unig ar y dealltwriaeth hynny; nad oeddynt am ddweyd dim yn erbyn y beirniaid eraill, yn unig nad oeddynt yn meddu ar ymddiriedaeth y protestwyr. Y mae y nodyn hwn, y gellir ei alw'n Burdeb cystadleuol (ar ran pwyllgor, beirniad, a chystadleuydd) yn un sydd i'w glywed yn glir drwy ei holl gyfnod nesaf.

Erfynnir am sylw'r darllenydd —yn neilltuol y darllenydd sydd yn teimlo diddordeb mewn datblygiad moesol—at y dyfyniad a ganlyn—

Yr ydym wedi bod o'r farn ers tro mai goreu peth i'n cyfansoddwyr fyddai cymeryd ychydig anadl gyda'r dwymyn ganigol, a pheidio gwastraffu eu nerth, ac anaddasu eu hunain at weithiau o bwys drwy gyfansoddi mân ganigau, anthemau etc., a hynny to order eisteddfodol. Rhoddir i bersonau eu gwahanol safleoedd yn nheml awen, nid yn ol rhif eu cynyrchion, ond eu pwysigrwydd.

"Ni a hoffem yn fawr gael ein cyfeillion i'r dull hwn o feddwl, ond ymddengys fod deniadau cystadleuaeth yn rhy gryf iddynt."

Y mae yma (1874)—yn wahanol i ysgrif Medi 1872 —yn pwysleisio delfryd mawr yn hytrach na delfryd uchel, annibynnol ar chwaeth y lliaws.

Gwelir cysgod yr un delfryd ar ei adolygiad ar Rangan Rhyfelgan y Myncod Joseph Parry:—

"Mae y wlad yn naturiol yn disgwyl oddiwrth un sydd wedi cael manteision cerddorol mor uchel, a'r hwn sydd yn bresennol a'i holl feddwl yn rhydd at feddyliaeth gerddorol mewn rhyw ffurf neu gilydd, gynyrchion o radd tra uchel. Efallai fod Mr. Parry yn teimlo fod myned i'r borfa am dymor yn llawn mor angenrheidiol i'r meddwl ag ydyw —i'r corff, neu hwyrach ei fod yn gweithio yn ddistaw ynglyn a rhyw chef d'œuvre ag sydd i'n synnu yn fuan! Pa fodd bynnag y mae yn ffaith mai dim ond prin dal i fyny ei reputation mae wedi wneud drwy y darnau bychain ag ydym wedi dderbyn o'i law ers amryw flynyddau bellach, ac o ganlyniad yr ydym yn croesawu ymddangosiad y rhangân hon fel rhywbeth uwch a theilyngach o'r awdur." Tebig fod atsain hiraeth am "feddwl yn rhydd at feddyliaeth gerddorol" yn y dyfyniad hwn, ond yma eto y mae'r syniad o rhyw waith. yn ymwthio i'r golwg. Cyfeiriwn at hyn am ei fod yn raddfa (stage) yn hanes uchelgais dyn ieuanc —yr awydd i wneuthur rhywbeth mawr fyddo'n taro'r dychymyg ac yn tynnu sylw'r byd nes dod i weld, ac ar y ffordd i ddod i weld (os bydd yna dwf) fod gwir fawredd yn fater o ansawdd yn hytrach nag o faintioli. Mae'r pregethwr ieuanc uchelgeisiol eisieu'i "gwneud hi" mewn pregeth fawr, cael eglwys fawr, bod yn bregethwr mawr—neu fynd at y Saeson, ac i Lundain—ac yna daw i weld, os gweld a wna, os "achubir" ef, mai gwasanaeth syml sydd yn fawr, ac mai "false Infinite" yw'r llall.[1] Teimlai Emlyn fod byd cystadleuaeth eisteddfodol, a byd canig a thôn, yn rhy gyfyng i'w uchelgais ef y pryd hwn, a hiraethai am awyrgylch fwy eang a rhydd; yn raddol y daeth i weld fod y rhyddid hwn iddo ef mewn gwasanaeth syml i'w genedl a'i oes—ond fe ddaeth i weld, ac yna i wneuthur.

Mae'r nodyn a darewir yn yr ysgrif sydd yn nechreu Cronicl y Cerddor (1880) yn dra gwahanol i'r uchod:—

"Bwriadwn i'r darnau (cerddorol) fod gan mwyaf yn rhai newydd, o awduraeth ein prif ysgrifenwyr; nid yn rhy anodd, hir, a llafurus, nac ychwaith yn blentynaidd a diddim. Ymddengys i ni fod angen mawr am Anthemau gwasanaethgar, defosiynol, a syml, yng nghyfansoddiad y rhai ca y fugue, er mor barchus yw, fyned i'r borfa' am dymor. Teimlwn hefyd fod ein cyfansoddwyr wedi esgeuluso'r Rhangân—ac yn enwedig i leisiau gwrywaidd i raddau hynod, a gobeithiwn lanw rhyw ychydig o'r bwlch hwn. Am y Ganig, credwn y gallwn i bwrpas fforddio iddi hithau fyned gyda'r fugue am ysbaid. Nid ydym yn hollol anobeithiol y deuwn o hyd i ambell Dôn Gynulleidfaol dda yn awr ac yn y man, ac ni fydd i ni anghofio y plant, serch na fydd a fynnom a phethau plentynaidd."

Defnyddir y gair "gwasanaeth" i ddisgrifio ysbryd a chyfeiriad cyfnod 1880-1913, nid am na fu ei fywyd o wasanaeth o'r blaen, ond am i'r nodwedd hon, oedd i fesur yn eilradd cyn hynny, ddod yn fwy ymwybodol a llywodraethol—i ymwybyddiaeth mwy clir yn ei feddwl, ac i ymsylweddoliad mwy llawn yn holl gylchoedd ei weithgarwch. Rhodd ei hunan i fyny gyda thrylwyredd ac ymroddiad oedd yn drech na'i fynych wendid (a'i fynychach gwendid fel yr âi ymlaen mewn dyddiau) i wasanaeth cerddoriaeth ei wlad, i'w phuro a'i chodi, i'w chyfoethogi a'i chyffredinoli.

Gellir adrodd hanes amgylchiadol ei fywyd yn ystod y cyfnod hwn mewn ychydig eiriau. Parhaodd yn drafaeliwr hyd 1891, gan wneuthur Henffordd yn ganolfan o hyd; ond wedi rhoddi'r busnes i fyny, nid oedd galw neilltuol dros aros yno, ac yn 1894 symudodd gyda'i briod i Gemmaes, i'r tŷ lle y treuliasai hi flynyddoedd cyntaf ei bywyd priodasol, "Bron y Gân." Yma treuliodd yn agos i ugain mlynedd olaf ei fywyd, heb ddim i dorri ar rediad tawel, ac allanol undon y dyddiau ond ymweliadau cyfeillion a groesawid fel cynt—yn fwy fel angylion na chynt, efallai, am fod yr ardal mor neilltuedig—ac ymweliadau â chyfeillion, a chryn lawer o deithio i Eisteddfodau, draw ac yma.

O'r pryd hwn y mae ei fywyd yn ymganghennu mewn llinellau o wasanaeth amlwg, a bydd yn well i ni, o hyn allan, geisio dilyn y rheiny na chario'r hanes ymlaen yn ei grynswth o flwyddyn i flwyddyn. Yn wir, pan feddyliwn amdano yn y cyfnod llawndwf hwn, yr hyn a'n tery yw nid dilyniad amgylchiadau drwy gwrs o flynyddoedd—dros ddeng mlynedd ar hugain—ond y gwahanol arweddion hyn ar ei lafur—y gwahanol ddorau na cheuid mohonynt nemawr byth yng ngweithdy ei wasanaeth prysur fel cyfansoddwr, beirniad, athro, hanesydd, golygydd a gohebydd.

Yn y fan hon, rhaid i'r cofiannydd ymneilltuo am ychydig, a rhoddi ei le i rai cynhwysach i farnu Emlyn fel cerddor a beirniad. Fel arweiniad i mewn i'r rhan hon, ac fel braslun o wahanol gyfeiriadau ei weithgarwch cerddorol, anodd cael dim gwell na'r ysgrif a ganlyn gan ei gyfaill Mr. Harry Evans, a ymddangosodd yn Y Brython adeg ei farw:—

BLODYN AR FEDD" EMLYN BACH."

Dyma'r Angau cas wedi cipio'n banergludydd oddiarnom yn y gad dros Gerddoriaeth Gymreig; a dyma'r genedl felly'n dlotach oherwydd colli Mr. Emlyn Evans. Er iddo gario'i groes—sef croes afiechyd corfforol—ar hyd ei oes bron, ni wyrai yr un fer oddiar lwybr dyletswydd, ac nid oedd yr un demtasiwn mewn bod a allai ei hudo ef rhag ymgyrraedd at ddelfryd ucha'i Gelfyddyd a'i Gân. Arweiniodd ar hyd y ffordd yn ddewr ac yn ffyddlon, ac er mai ychydig fu nifer ei ddilynwyr —yr oedd Mamonaeth yn rhy gryf i'r lliaws—fe ddeil ei waith, ac fe sylweddolir gwerth ei gyfarwyddyd yn y dyfodol.

Cefais i y fraint o'i adnabod yn dda ac yn fynwesol am lawer blwyddyn, a golygai ei adnabod ef fy mod nid yn unig yn ei garu, ond yn ei edmygu am ei alluoedd mawrion a'i gywirdeb dilychwin. Yr oedd yn drwyadl ymhopeth a wnai. Yr oedd taclusrwydd, cywirdeb, a barn ddiwyrni yn gwbi gyfystyr â'r enw "Emlyn Bach." Byddai bob amser yn barod ac ewyllysgar i gynorthwyo'r efrydydd ieuanc; cymerai'r drafferth fwyaf oedd fodd i roi'r cyngor a'r cyfarwyddyd goreu; hynny'n ddieithriad heb ddimai o dâl.

Yn ei lwyddiant cynnar fel cystadleuydd a chyfansoddwr, safai'n hollol ar ei ben ei hun yn hanes yr Eisteddfod. Gwnaeth lawer o'r gwaith hwn dan yr anhawsterau mwyaf. Yr oedd ei wybodaeth am farddoniaeth bron gyfled â'i wybodaeth am gerddoriaeth; a'r cwbl, wrth gwrs, wedi ei gael drwy ei ymroddiad e'i hun. Bu ei brofiad masnachol o gryn gynhorthwy iddo, megis y dangos—ai boneddigeiddrwydd a phrydlondeb ei holl lythyru a gohebu. Safai'n uchel fel cyfansoddwr Cymreig, a gadawodd amryw drysorau a ddaliant yn hir, yn enwedig mewn cerddoriaeth gysegredig. Y mae ei emyn-donau mor ddillyn eu ffurf ag ydynt o ddyrchafedig eu teimlad; a rhai ohonynt yn gydradd â gemau Ambrose Lloyd. Am ei ranganau —rhai ohonynt wedi eu hysgrifennu ers llawer blwyddyn bellach—ni chaed mo'u gwell gan yr un cyfansoddwr Cymreig; ac am ei waith gyda'n halawon cenedlaethol y mae hwnnw'n aruthrol. Ac nid y peth lleia'i ddiddordeb o'r cwbl a wnaeth ydoedd adolygu ac offerynnu (orchestrating) ein horatorio Gymreig gyntaf—Ystorm Tiberias Tanymarian.

Ond dichon mai ei waith mwyaf i gyd ydoedd fel beirniad. Ef, heb os nac onibâi, oedd y beirniad cerdd mwyaf a gododd Cymru, ac yr oedd y reddf feirniadu ynddo i raddau helaeth anarferol. Ef oedd y beirniad medrusaf a gwrddais i. Yr oedd yn effro, yn sicr ei feddwl, ac yn gyflym i brisio gwerth perfformiad; ac fel beirniad ar gyfansoddi, 'doedd mo'i hafal yn ein mysg.

Am ei waith fel golygydd y llyfrau tonau cyfundebol, enynnai edmygedd pawb; a bu ei ysgrifau godidog i'r Cardiff Times bob wythnos, heblaw y lleill o'i eiddo yn y Cerddor, o wasanaeth anfesuradwy i Gerddoriaeth Cymru. Yr oedd ei lawysgrif mor dwt a del ag oedd ei iaith o gryf a phenodol. Nid byth yr afradai'r un gair, ac yr oedd ei lythyrau'n batrwm o berffaith o ran eu harddull a'u broddegu. Yr oedd yn hollol onest a diofn fel beirniad, nid byth y meddalid ef gan deimlad y dyrfa, ac nid byth y twyllid ef gan na rhwysg na rhagrith neb pwy bynnag. Blinwyd ac erlidiwyd yntau, megis y blinwyd ac yr erlidiwyd eraill ar ei ol, gan arweinyddion siomedig a chysetlyd; ond yn y diwedd ef fyddai'n iawn, a'r gau-dduwiau'n siwrwd a' drylliau dan ei draed. Ni allai aros dim i chwydd a mawredd gwag, a daliai'n dyn dros "burdeb" mewn canu, ac nid dros yr hyn a elwir yn rym neu ryferthwy. At ei gilydd, yr oedd yn bur obeithiol am Gerddoriaeth Cymru, er yn gresynu am rai o'i gweddau presennol. Oherwydd ei afiechyd, a'i fod ar encil ers cyd o flynyddoedd, ni allodd gadw'n wastad â datblygiadau diweddar Cerddoriaeth, ond yr oedd ei feddwl yn gydnaws a phob amser yn agored. Yr oedd yn edmygydd mawr o Mendelssohn, a fo oedd ei fodel ar lawer peth.

Meddai lais tenor da pan yn llanc, ond yr oedd yn rhy wan a gwachul ei gorff i ddod byth yn ganwr ar goedd. Un nos Sul yn haf 1907, yn ei drigfan dawel, ramantus yng Nghemaes perswadiais ef i ganu, a dyna'i ymgais olaf. Er fod ei anadl yn fyr, eto i gyd yr oedd peth o'r hen burdeb tenoraidd yno o hyd, a rhyngom ein dau, deuthom trwy "Comfort ye, my people" ac "Every valley shall be exalted."

Yr oedd ei ddawn at ddigrifwch (sense of humour) yn ddihysbydd, yr un fath a'i gof, a 'doedd neb a'i trechai mewn dadl, canys nid byth y dadleuai heb fod ganddo'r ffeithiau wrth gefn; a gwae'r gwrthwynebydd hwnnw a ddadleuai'n unig er mwyn dadlu. Ac mewn dadl neu ymgom, yr oedd yn barod ei bwyth ac yn ddeifiol a ffraeth ei ateb, ac yn gyffredin ef a gaffai'r gair olaf.

Gweinyddodd ei weddw arno ag amynedd a thiriondeb diball ar hyd ei waeledd mynych a thrwm. Carodd Gymru; ac felly heddwch fo i'w lwch,

Nodiadau

[golygu]
  1. Y mae gan George Macdonald stori "Home Again" yn ymdrin â'r mater.