Cofiant D Emlyn Evans (testun cyfansawdd)
← | Cofiant D Emlyn Evans (testun cyfansawdd) gan Evan Keri Evans |
→ |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Cofiant D Emlyn Evans |
Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

COFIANT D. EMLYN EVANS.

COFIANT
D. EMLYN EVANS
GAN EI FRAWD
Y PARCH.
E. KERI EVANS, M.A.,
Caerfyrddin.
Lerpwl:
Argraffwyd gan Hugh Evans a'i Feibion, Swyddfa'r "Brython,”
356 358 Stanley Road.
1919
CYNNWYS
I. Rhagolwg
II. Cerddoriaeth Gymreig ddechreu'r Ganrif
Ei Gyfnod Cyntaf: 1843—1860
III. Yr Amgylchfyd agos
IV. Dydd y Pethau Bychain
V. Morgannwg
Yr Ail Gyfnod: 1860—1880.
VI. Y Deffroad: Y Ganig
VII. Ei Feistri
VIII. Ei Gymdeithion
IX. "Mae'Nghalon yng Nghymru"
X. Masnach:Y Gan
XI. Pan fyn y daw
XII. Cartref a Chyfeillion
Y Trydydd Cyfnod: 1880—1913
XIII. Gwasanaeth
Ffrydiau ei Wasanaeth:—
XIV. Fel Cyfansoddwr a Cherddor
XV. Y Banergludydd
XVI. Ei Ddelfryd Cerddorol
XVII. Yn y Cysegr
XVIII. Y Salmydd a'r Caniedydd
XIX. Cerddoriaeth Genedlaethol
XX. Yr Eisteddfod
XXI. Y Beirniad
XXII. Y Llenor a'r Hanesydd Cerddorol
XXIII Y Golygydd a'r Gohebydd
XXIV. Y Gohebydd Cyfeillgar
XXV. Y Dyn
CYWEIRIADAU.
Yn y Rhagair ac ar tud. 230, Mr. H. R. Daniel yn lle Mr. D. R. Daniel.
Ar tud. 59, cwmni yn lle cmwni, a gwlatgar yn lle gwladgar.
(nid yw'r gwallau yn ymddangos yn yr argraffiad hwn)
RHAGAIR
Y MAE gennyf ddau fywgraffiad i Dr. Bushnell yn fy llyfrgell, y naill gan ei ferch yn rhoddi hanes y dyn, a'r llall gan Dr. Newman Smyth yn ei drafod fel diwinydd. i'r dosbarth blaenaf y perthyn y Cofiant hwn yn bennaf. Ac eto ni ellid cadw'n ddiystyr safle Emlyn fel cerddor, er gorfod cael eraill i ymdrin ag ef. Yn hynod iawn, pasiodd y pedwar y gallwn ddibynnu fwyaf arnynt am yr help hwn y tu fewn i'r llen yn fuan ar ei ol, sef Harry Evans, Emlyn Jones, P. J. Wheldon, a Dd. Jenkins, yr hwn a deimlai ddiddordeb mawr yn y Cofiant. A ffodus, cefais help pencerddiaid eraill o fri, a'i hadwaenent yn dda. Heb ysgrifau gwerthfawr Dr. Dan Protheroe a Mr. Tom Price, ni fuasai'r Cofiant agos mor ddigonol ag ydyw. Cefais y fantais, ymhellach, o ddefnyddio a fynnwn o ddwy ddarlith ar Emlyn, y naill gan Mr. Dd. Jenkins, drwy garedigrwydd ei nith, a'r llall gan Mr. Owen Jones. Yn ffodus hefyd, datganodd Mr. Harry Evans, cyn ei farw, ei farn amdano fel Cerddor a Chyfaill, mewn ysgrif yn y Brython, a chefais ganiatad caredig Mri. Hugh Evans a'i Feibion i'w defnyddio yn y Cofiant.
Gyda golwg ar weddill y Cofiant ysgrifennwyd ef yn unol â'r gelygiad mai prif ddiben llyfr ar y fath yw croniclo gweithrediadau'r dyn a'i ddelfrydau—nid rhyw nodweddion naturiol a berthyn i faes Hanesiaeth Naturiol (Natural History), er fod i'r rheiny eu lle. Am y rheswm hwn, caniatawyd iddo ef ei hunan siarad mor bell ag yr oedd modd. Ac fel y digwyddai, gadawodd ddefnyddiau helaeth ar ei ol—yr unig anhawster oedd dethol. Rhoddai hyn fantais bellach i'r Cofiannydd osgoi'r perygl yr oedd yn agored iddo pan yn ysgrifennu hanes brawd.
Ceisiasom ddilyn orgraff safonol ac awdurdodedig y dydd drwy'r gyfrol, ac eithrio'r dyfyniadau. Barnwyd yn oreu adael y rhai hynny fel yr oeddynt ar y cyfan, heb ymyrryd â'u anghysonderau o ran sillafu a chystrawen.
Y mae y rhan fwyaf o'r dyfyniadau o'r Cerddor, ac yr wyf yn ddyledus i Mri. Hughes a'i Fab, Wrecsam, am ganiatad i'w defnyddio. Dymunaf eu cydnabod hefyd am fenthyg y bloc o Emlyn, ac o Fron y Gân. Y mae ysgrif Mr. W. M. Roberts—o swyddfa'r Cerddor yn ychwanegiad diddorol at werth y Cofiant. Yr oeddwn yn dibynnu ar help Mr. John Thomas, Llanwrtyd, i ymdrin â chyfnod 1860-70. Er fod y ffeithiau gennyf, ni wyddwn sut i adgynhyrchu awyrgylch y cyfnod. Cefais na allai Mr. Thomas fy helpu oherwydd henaint a phall cof. Yn y cyfyngder hwn, derbyniais sypyn o lythyrau Emlyn at Mr. D. Lewis, Llanrhystyd, oddi wrth nai yr olaf, —y Parch. Wyre Lewis, Rhos—llythyrau aiff â ni'n ol i ganol y cyfnod: ac am y rheswm hwn gwnaed defnydd tra halaeth ohonynt. Cefais fenthyg cannoedd o'i lythyrau gan eraill, megis Mrs. Herbert Emlyn, Miss Nellie Jenkins, Mri. D. W. Lewis, Tom Price, John Price (Beulah), H. R. Daniel, Ernest Jones, M.A. (Llandudno), Tom Jones, Y.H. (Abertawe), ac eraill.
Yr wyf yn ddyledus i Mr. D. Jones, Van, Llanidloes, am fenthyg ei draethawd arobryn ar Hanes Cerddoriaeth yng Nghymru yn ystod 1860—1910, a'i ysgrif ddiddorol ar ddyfodiad Emlyn i'r Drenewydd ; ac i Mr. E. Jenkins, Y.H., Llandrindod, am lawer o ddefnyddiau heblaw'r ysgrif o'i eiddo. Cefais fenthyg llyfrau a fu o gynhorthwy pwysig, gan Mr. J. Ballinger, Aberystwyth, y Parch. J. J. Williams, Treforris, a'm chwaer.
Yn olaf, y mae fy nyled yn fwy nag y gellir ei chyfrif i Mr. J. H. Jones, Golygydd Y Brython, am ddarllen y MS. a'm helpu gyda'r iaith, drwy symud meflau Seisnigaidd, a'i llyfnhau a'i chaboli mewn llawer man a modd.
COFIANT
D. EMLYN EVANS.
I.
RHAGOLWG.
PE E gofynnid i'r cyfeillion sydd wedi bod yn galw am Gofiant i Dafydd Emlyn Evans pa beth ynddo ef yn arbennig sy'n haeddu rhoddi'r sylw hwn iddo, diau yr atebent gyda'i ddiweddar gyfaill, Mr. P. J. Wheldon, mai'r cyfuniad o nodweddion a'i gwnaeth o wasanaeth arbennig i gerddoriaeth ei wlad:
(1) Meddai ar ddawn gerddorol gynhenid, yr hon, o ran ansawdd, a nodweddid gan arbenigrwydd a gwreiddiolder, ac a fu'n offeryn, nid yn unig i gymhathu cyfoeth y byd cerddorol, ond hefyd i ychwanegu ato; ac o ran graddau a grym oedd yn ddigon cryf, fel ffrwd fyw, i wneuthur gwely iddi ei hunan drwy ganol anawsterau a fuasai'n llethu talent neu dueddfryd lai meistrolgar. Y cryfdwr hwn yn y ddawn, a'i thaerineb am ddod i lawn sylweddoliad a hunan- fynegiant, mewn cydweithrediad â'r penderfyniad di-ildio a'i nodweddai, a'i galluogodd i fanteisio ar bob moddion addysg y tu fewn i'w gyrraedd, nes rhoddi i'r ddawn fin, a gloewder, a disgyblaeth eithriadol.
(2) Nid oes wahaniaeth barn gyda golwg ar ar ei allu a'i fedr fel beirniad cerddorol.
(3) Yr oedd ganddo dalent lenyddol a greddf hanesyddol y tuhwnt i'r cyffredin, a'i galluogai i ysgrifennu'n fedrus a diddorol ar faterion cerddorol, ac i gyfrannu ysgrifau o werth i hanes cân, yn gystal. yn ei hamddiffyn a'i hyrwyddo. Yr oedd yn hyn yn ddilynydd teilwng i Ieuan Gwyllt.
(4) Perthyna'r nodweddion uchod i ochr y "don- iau," ond yr oedd iddo hefyd nodweddion moesol amlwg. Yr oedd ganddo syniad mor uchel am swyddogaeth cerddoriaeth fel dawn o'r Nef, fel na fynnai wneuthur cyfaddawd o gwbl â'r rhai a geisial ei darostwng i amcanion neu lefel is. Mynnai gadw'r faner i fyny pa mor gryf bynnag y byddai'r gwynt. Meddai nid yn unig lygad a chalon i weld a theimlo anian, ond gwroldeb a feiddiai gydfyned â hi, yn wyneb pob gwrthwynebiad.
(5) Yr oedd ei ffyddlondeb i gydwybod a gonestrwydd ar y fainc feirniadol lawn cymaint a'i eiddo i burdeb cerddorol: ni ellid gwyro'i farn yn allanol, na phrynu ei ddyfarniad.
(6) Edmygir ef gan ei gydnabod ar gyfrif ei benderfyniad di-ildio i ddisgyblu ei feddwl, a gwasanaethu ei genhedlaeth yn wyneb anfanteision ar bob math o'r tu allan, a llescedd a dioddefaint o'r tu fewn na wyddai dynion yn gyffredin ddim am ei angerdd a'i gysondeb. Dylasai y llinell hon yn ei gymeriad fod yn gymaint symbyliad a dim i'r Cymry ieuainc sydd yn cael eu codi ymhlith manteision ar bob math mewn cerddoriaeth a'r celfyddydau'n gyffredinol.
Y mae y cyfeiriad cyffredinol hwn at y nodweddion uchod yn ei gymeriad o angenrheidrwydd yn rhoddi iddynt wedd sy braidd yn ddiamodol (absolute). Ni faentumir eu bod ynddo ef uwchlaw diffygion natur ac ymyriad amgylchiadau ; ond bydd digon o gyfleusterau yng nghwrs y Cofiant i ddwyn i fewn bob cymedroliad angenrheidiol yn wyneb ymyriadau ar y fath.
Ymran ei fywyd yn naturiol i dri chyfnod, y gellir eu galw y rhagbartoawl, y cynhyddol (cystadleuol) a'r addfed (beirniadol)—nid yn yr ystyr, bid siŵr, nad oedd yna gynnydd yn yr olaf a beirniadaeth yn yr ail, ond yn yr ystyr fod ansawdd y cyfnodau, ar y cyfan, yn gwahaniaethu yn y modd uchod. Ymddengys fod yna gyfnodau cyffelyb yn hanes pob un sydd yn ymroi i unrhyw waith mawr mewn bywyd: sef cyfnod pan y mae'n ceisio dod o hyd i'w waith, cyfnod pan y mae'n cael ei feddiannu ganddo ac yn ymroi i'w feistroli, a chyfnod pryd y gellir dweyd ei fod bellach yn feistr ynddo. Dengys yr Athro Starbuck fod hyn yn wir hyd yn oed ynglŷn â chanu'r piano, sef cyfnod o gysylltiad allanol â'r offeryn, cyfnod perthynas fywydol gynhyddol, a chyfnod pryd y teimla'r offerynnydd mai nid ef sydd yn ei ganu mwyach, ond ysbryd cerddoriaeth, fel petae, yn canu drwyddo. Dechreua'r ail o'r cyfnodau hyn yn hanes Emlyn tua'r flwyddyn 1860 (wedi, yn fwy na chyn) ; a'r trydydd tua'r flwyddyn 1880— (cyn, yn fwy nag wedi). Arwead ddigwyddiadol ar yr ail gyfnod oedd cystadleuaeth (gwêl Pennod VI) ; ac o safbwynt moesol, yn hytrach na cherddorol, gellid galw y trydydd cyfnod yn gyfnod gwasanaeth, am nad oes dim yn fwy amlwg ynddo nag awydd Emlyn i fod o wasanaeth i'w genhedlaeth —ynglŷn â cherddoriaeth yn bennaf.
Yn y Cofiant hwn, gwneir ymgais i gysylltu ei hanes â datblygiad a chynnydd cerddoriaeth yng Nghymru ; ac fel y mae'n digwydd, noda ef ei hun gyfnodau yn y datblygiad hwn yn dechreu tua 1840, 1860, ac 1880 (mewn un ysgrif o'i eiddo gwna 1850 yn safbwynt mwy cyffredinol i edrych yn ol a blaen ar hanes cerddoriaeth y ganrif). Yr ydym yn ddyledus i'r diweddar Athro D. Jenkins, Mus.Bac., am yr awgrym fod gan bob cyfnod hefyd ei arweinwyr —dynion brig y don fel tae—rhyw bump ohonynt ; ac, ymhellach, fod prif gystadleuwyr un cyfnod (yn y byd eisteddfodol) yn dod yn feirniaid y cyfnod nesaf. Fel hyn, yn y cyfnod 1840-1860, cawn y pumawd J. Ambrose Lloyd, Owain Alaw, Ieuan Gwyllt, Tanymarian, a Phencerdd Gwalia ar y blaen. Perthyn Brinley Richards i'r un cyfnod, ond ni fu ei berthynas ef â'i genedl mor uniongyrch ag eiddo'r lleill. Gyda 1860, daeth pump arall i sylw, y naill ar ol y llall, sef Gwilym Gwent, Alaw Ddu, John Thomas, Joseph Parry, a D. Emlyn Evans—yr ieuengaf ohonynt.
Yr ydym wedi cyfeirio'n arbennig at yr Eisteddfod, ac y mae'n amlwg ei bod hi wedi gwneuthur ei rhan yn natblygiad cerddoriaeth yn ein plith, yn gystal ag yn natblygiad cerddorol gwrthrych ein Cofiant ; ar yr un pryd, rhaid i ni dreio dilyn hanes y datblygiad hwn yn y naill a'r llall ar hyd llinellau ereill yn ogystal, sef eiddo Caniadaeth y Cysegr, yr Uchelwyl a'r Cyngerdd, ynghyda Chyfansoddiadaêth a Llenyddiaeth Gerddorol. Bu ef yn weithgar yn y cwbl o'r rhai hyn yn ol ei allu a'i gyfleusterau.
Wedi ysgrifennu'r uchod, daeth i'm llaw, drwy garedigrwydd yr awdur,[1] draethawd arobryn Eisteddfod Meirion ar Gerddoriaeth yng Nghymru yn ystod yr hanner canrif diweddaf (1860—1910). Y mae'r traethawd o ddiddordeb arbennig i'r ysgrifennydd— a gall fod i'r darllenydd—am ei fod, yn rh?i o'i brif linellau, yn cydgordio â'r golygiad a gymerasom uchod, sef (1) yn y safle a ddyry i Emlyn yn sgîl y cyfuniad o alluoedd a feddai, ac (2) yn ei waith yn rhannu'r cyfnod uchod i ddau yn t88o, gan alw y cyntaf (1860-1880) yn Gyfnod y Deffroad (neu Gyfnod Ieuan Gwyllt), a'r ail (1880-1910) yn Gyfnod y Cynnyrch (neu gyfnod D. Emlyn Evans). Dyma'r hyn a ddywed ynglŷn â'r pwynt cyntaf:
"Symudwn ymlaen at yr olaf, ond nid y lleiaf, o wŷr mawr Cyfnod y Deffroad, Mr. D. Emlyn Evans."
Yna wedi cyfeirio at rai ffeithiau yn ei hanes bore, ychwanega:
"Dyna fe wedi dringo i'r dosbarth blaenaf ers dros ugain mlynedd, ac y mae yn aros yn y dosbarth blaenaf o hyd: a dywedwn fwy: a chymryd popeth i ystyriaeth, ei safle fel Cyfansoddwr, Beirniad (Cyfansoddiadaeth a Datganiadaeth), Trefnydd, Hanesydd, a Llenor cerddorol, dywedwn yn ddibetrus, y blaenaf oll"
Cysyllta enw Emlyn â Chyfnod y Cynnyrch
"am yr ystyriwn ei fod ef i gyfnod y Cynnyrch yr hyn oedd Ieuan Gwyllt i Gyfnod y Deffroad—yn weledydd i'w genedl, weithiau yn hyfforddi, bryd arall yn ceryddu, fel y bo'r achos. Y mae ei graftter diarhebol, ei onestrwydd a'i dalent, ei awydd angerddol i buro a dyrchafu ein cerddoriaeth ym mhob cyfeiriad, a'r cyfleusterau sydd wedi bod at ei law, trwy y tri chylchgrawn a olygodd—yn naturiol yn ei osod yn y safle bwysicaf yng Nghyfnod y Cynnyrch."
II.
CERDDORIAETH GYMREIG DDECHREU'R GANRIF.
GAN fod ei hanes yng nghlwm wrth hanes cerddoriaeth ei wlad, a chan y cydnabyddir fod ganddo hawl i siarad ar y mater, caiff ef ddisgrifio sefyllfa gerddorol ei wlad yn ystod hanner cyntaf y ganrif ei ganed ynddi:—
Y mae rhai ohonom yn ddigon hen i gofio sefyllfa cerddoriaeth yn ein plith tua hanner canrif yn ol,[2] ac felly yn medru sylweddoli y gwahaniaeth rhwng yr hyn ydyw yn awr a'r hyn ydoedd yr adeghonno. Ni fydd hynny yn gynhorthwy uniongyrchol iddynt ffurfio barn fanwl am yr hyn ydoedd hanner canrif arall cyn yr adeg honno, ond gall fod o help,acnid oedd y gwahaniaeth a'r cyfnewidiadau yn scfyllfa cerddoriaeth, fel ag mewn popeth trwy y wlad a'r deyrnas, yn agos cymaint yn yr hanner canrif cyntaf ag yn yr hanner olaf. Yn wir, mor belled ag y mae a fynno â cherddoriaeth Gymreig, gellir dneyd fod cyfnod ein dadeni yn dechreu gyda'r hanner olaf o'r ganrif.
"Ond i droi yn ol i'w dechreu, yr oll o gerddoriaeth Gymreig argraffedig a feddem i wynebu'r ganrif oedd ychydig alawon coralaidd oeddent wedi eu cyhoeddi gyda Salmau Edmwnd Prys (1621), ac o waith Ifan Williams mewn Llyfr Gweddi Cyffredin, o'r hwn y cyhoeddwyd ail argraffiad yng Nghaergrawnt yn 1770. Dyna swm a sylwedd ein cerddoriaeth gysegredig hyd ag y gwyddis. Nid oedd ein sefyllfa yn llawn mor anghenus o barthed i'n cerddoriaeth genedlaethol, gan fod Parry ddall, o Rhiwabon, wedi anrhegu ei wlad ag Ancient British Music yn 1742; am yr hwn gariadus lafur—er na chynhwysa'r gyfrol ond 24 o alawon—bydded ei goffadwriaeth am byth yn fendigedig gan bob cerddor Cymreig. Yn 1752 dygodd allan gyfrol arall, ac eto y drydedd yn 1781. Ac yn 1784 cyhoeddodd Bardd y Brenin ei Relicks—cyfrol dra phwysig, yr hon a ddilynwyd gan eraill yn 1794 (helaethiad o'r un flaenorol), 1802, ac 1820.
"Mae'n anodd gwybod pa sut y cafwyd ni yn y sefyllfa dlodus hon ynglŷn â'n cerddoriaeth gysegredig; ac hyd yn hyn y mae y cwestiwn yn un nad ydym wedi cael un math o oleuni boddhaol arno. Efallai y datguddir y peth ryw ddydd, ond am y presennol rhaid ymfoddloni ar y ffaith fel y mae uchod.
"Ar ddechreu y ganrif, hefyd, nid oedd gennym, hyd ag y gwyddom, na gramadeg cerddorol yn yr iaith, nac unrhyw fath o draethawd neu erthygl yn ymdrin ag egwyddorion y gelfyddyd. Gwyddom, bid siwr, am lyfr John Dafydd Rhys, a'r hyn a geir yn y Myryrian am ysgrif-lyfr Robert ab Huw o Fodwgan, ac eraill, ond nid yw hyn oll nac yma nac acw, cyn belled ag y mae a fynno â ni yn awr.
"Yn 1816 cyhoeddodd John Ellis, Llanrwst, ei Fawl yr Arglwydd yn cynnwys rhai cyfarwyddiadau; Owen Williams o Fôn, ei Gamut—cyfieithiad o Dibdin—yn 1817; yn 1828, John Ryland Harries, Abertawe, Grisiau Cerdd Arwest; a William Owen, Drenewydd, y Caniedydd Crefyddol, yr hwn hefyd a gynhwysai gyfarwyddiadau yn y wyddor. Credwn mai dyma ein rhai cyntaf, ac er mor brin y wybodaeth a gyfrannent, ac er mor hynod o ddilun a gwallus oeddent o ran cynllun, cynhwysiad, a phopeth, yr oeddent yn well na dim, ac yn rhyw rag-arwydd fod gwawr well ar dorri. A'r un fath y gerddoriaeth a geid ynddynt; fel ag yn Brenhinol Ganiadau Seion Owen Williams, a gyhoeddwyd yn 1819. Yn wir, wrth edrych dros Mawl yr Arglwydd, er engraifît, mae'n anodd gwybod pa sut y gellid gwneud dim o'r darnau—os y cenid hwy hefyd o gwbl fel yr oeddent.
Yn perthyn i'run cyfnod yr oedd John Williams, Dolgelley, David Harris, Carno, a D. J. Morgan, Llechryd; dynion yn ddiau a lafuriasant yn galed, ac i oreu eu gallu. Y mae rhai o donau ac anthemau y tri, yn enwedig eiddo J. Williams a D. J. Morgan, yn parhau yn eu blâs gyda ni hyd heddyw, a'r un fath, rai gan John Ellis, er yr ymddengys fod D. Harris yn llawn cymaint, os nad mwy, o gerddor a'r un ohonynt.
"Yn y cyfnod boreol hwn yr oeddyn arfer gyffredin i gyhoeddi tonau mewn cyfnodolion fel Seren Gomer; a gwnaeth rhai o'r goreuon (o ran eu hawenyddiaeth) eu hymddangosiad cyntaf drwy gyfryngau felly; ond yr oeddent fel rheol yn boenus o wallus a diamcan. Gwnaeth Ieuan Glan Geirionydd wasanaeth buddiol drwy ei ysgrifau gwyddorol yn y Gwladgarwr (Caerlleon). Ond pan gyrhaeddwn 1838 daeth 'anadliad o Lanidloes' â Gramadeg John Mills, yr hwn a ddilynwyd yn 1842-3 gan Arweinydd Cerddorol Richard Mills; tra yr oedd Caniadau Seion wedi gwneud eu hymddangosiad yn 1840— yr Atodiad yn canlyn yn 1842. Bellach dechreuwyd cyfnod newydd, ac er nad oedd y Gramadegau a'r Casgliadau hyn mewn un wedd yn berffaith, yr oeddent yn anhraethol uwch na dim a feddem o'r blaen, pwyntient i'r cyfeiriad priodol, a buont yn foddion i roddi ysgogiad na fu ei gyffelyb cyn hynny i gerddoriaeth Gymreig . . . . . .
"Y mae un arall o weithwyr difefl Llanidloes yn hawlio cymeradwyaeth a chrybwylliad, sef Hafrenydd, yr hwn a wnaeth wasanaeth diamheuol drwy gyhoedd' y Salmydd Cenedlaethol (1845) a'r Ceinion (1852), drwy y rhai y dygodd y genedl i ymgydnabyddiaeth â nifer o gorawdau y prif feistri, Handel, Haydn, Mozart, etc.
"Amhosibl cofnodi yn agos yr oll o'r casgliadau o bob math a maint a gyhoeddwyd yn y blynyddau hyn. . . . . Amhosibl hefyd crybwyll enwau chwarter y rhai fuont yn fwy neu lai gweithgar a blaenllaw fel athrawon ar hyd y wlad, ac fel cyfansoddwyr . . . . . .Y mae rhai o'r casgliadau (a gyhoeddwyd wedi 1850) yn perthyn o ran eu cynnwys a'u teilyngdod i'r oes flaenorol, megis Y Blwch Cerddorol (1852). Am gyffelyb reswm gosodir J. D. Jones yn y cyfnod nesaf, er iddo gyhoeddi y Perganiedydd yn 1847; a Gramadeg Alawydd yr hwn a gyhoeddwyd (argraffiad cyntaf) yn 1848.
"Yn yr hanner gyntaf o'r ganrif ymddanghosodd nifer o gasgliadau o'n halawon cenedlaethol, heblaw eiddo Bardd y Brenin, megis Casgliad Russell yn 1808—adargraffiad gan mwyaf o alawon cyhoeddedig eisoes gan Bardd y Brenin; casgliad Thornsen, Edinburgh, yn 1809 ac 1811 (gyda chyfeiliannau gan Haydn, Beethoven, etc.); amryw gan John Parry (Bardd Alaw) yn dechreu yn 1809 ac yn cyrraedd i 1839 ac 1848, pryd y dygodd allan ei Welsh Harper (Cyfrolau I a II). Yn yr un flwyddyn cyhoeddwyd British Melodies gan Master Joseph Hughes pan nad oedd ond 9 mlwydd oed. Yr oedd Richard Roberts wedi cyhoeddi Cambrian Harmony yn flaenorol i hyn (1829), ac ymddanghosodd casgliad gan Hayden, Caernarfon, yn 1833. Dyna fraslun o'r prif gasgliadau hyd nes y cyrhaeddwn 1844, pryd y daeth Miss Williams, Aberpergwm, a'r Ancient National Airs of Gwent and Morganwg allan—y pwysicaf yn ddiameu er ymddangosiad cyfrolau Parry Ddall, a Bardd y Brenin, ac i raddau llai rai o eiddo Bardd Alaw. Yn 1845 cyhoeddodd ieuan Ddu, Merthyr, Y Caniedydd Cymreig—' The Cambrian Minstrel.' ***** "Yr Eisteddfod gyntaf o bwys a gynhaliwyd yn y ganrif oedd un Caerfyrddin yn 1819, yn yr hon y llywyddai Dr. Burgess, Esgob Tyddewi, ac yr oedd yn bresennol yr hen fardd Iolo Morganwg. Mewn ystafell yng Ngwesty yr Ivy Bush y cynhelid hi, ac yr oedd y gweithrediadau cerddorol yn gyfyngedig, yn ol yr hanes sydd o'n blaen, i bedwar o delynorion cyflogedig, y rhai a chwareuent ar brydiau 'rhag blino y gynulleidfa â gormod o undonaeth'—barddol a thraethodol fel y casglwn, gan y dajrlIenid y farddoniaeth a'r traethodau buddugol yn y cyfarfod! Cafwyd 'Duw Gadwo'r Brenin' gan y telynorion, ac wedyn canwyd yr unrhyw gan dri o aelodau Cymdeithas Gyngherddawl Caerbaddon,' a chaed cystadlu ar y delyn am delyn arian, Bardd y Brenin yn beirniadu. Yn Eisteddiod Cadair Merthyr, 1825, yr oedd ariandlws i'r datganydd goreu, ac eto i'r telynor cyntaf ac ail oren. Dyma'r datganydd wedi gwnead ei ymddangosiad bellach; ac yn Eisteddfod Gadeiriol Gordofigion Lerpwl 1840, yr oedd y cyfansoddwr yn dechreu dod i'w eiddo ei hun, yn ychwanegol at ei faeth—frodyr, y telynor a'r datganydd, gan y cynhygid gwobr go hael am 'Amrywiadau' ar dôn a roddid, ac eto am y 'dôn Gymreig newydd' oreu, Bardd Alaw yn beirniadu. Dylem fod wedi crybwyll Eisteddfod Caerdydd yn 1834—un hytrach nodedig i ni yma, gan mai ynddi hi y daeth Brinley Richards allan gyntaf—yntau am "Amrywiaethau" (ar Llwyn Onn) o dan feirniadaeth yr un beirniad a'r blaenorol.
"Ond prif Eisteddfodau y cyfnod hwn oedd eiddo Cymreigyddion y Fenni a gychwynwyd yn 1834,— enaid a bywyd y rhai oedd Arglwyddes Llanofer,— er yn ddiau fod eu dylanwad, fel yr ymddanghosant yn y presennol, yn fwy mewn cyfeiriadau llenyddol na cherddorol.
"Yn y Gogledd yr oedd eisteddfodau clodus Bethesda yn ein cyfoethogi ag anthemau Lloyd, Cyndeyrn, Alawydd, Eos Llechid, ac eraill; ac ar adeg ychydig yn ddiweddarach, Gymdeithas Gerddorol Ddirwestol Aberdâr, gyda chyfres o gyfansoddiadau baddugol yn anthemau, canigau, etc."
Dywed fod J. Ambrose Lloyd, "blaen—redegydd. eneiniedig y Gymru gerddorol oedd i ddod ar y maes ers blynyddau" ond heb "ddyfod i'w lawn. dŵf."
Mewn ysgrif arall o'i eiddo darllenwn : Gydag ymddangosiad J. Williams, J. Ellis, ac eraill yn y Gogledd, a D. J. Morgan yn y De, yr oedd arwyddion cynhyddol o adfywiad cerddorol drwy y wlad. . . . .
"Pan y deuwn at y Millsiaid o Lanidloes yn y Gogledd, a Ieuan Ddu, Rosser Beynon, ac eraill. o hen ysgol Merthyr yn y De, yr ydym yn cael y wlad yn myned rhag ei blaen mewn ystyr gerddorol yn gyflymach fyth. . . .
"Yn fuan ar ol hynny (1848) cyhoeddodd Alawydd, Bethesda, ei Ramadeg-un o'r gweithiau bychain. egwyddorol goreu a feddwn hyd y dydd hwn; ac heblaw hyn gwnaeth wasanaeth pwysig mewn cyfeiriadau eraill, drwy ffurfio dosbarthiadau, sefydlu cymdeithasau, perfformio oratoriau, a chynnal eisteddfodau fuont yn foddion i ddwyn rhai o'r cerddorion blaenaf i'r amlwg.
"Wrth daflu golwg yn ol ar yr ad-ddeffroad (renaissance) cerddorol tua diwedd yr hanner gyntaf o'r ganrif bresennol, bydd i ni, fel un, edrych bob amser gyda diolchgarwch tuag at Lanidloes, Merthyr, a Bethesda, fel y tri chanolbwynt y daeth ein goleuni pennaf ohonynt."
Ei Gyfnod Cyntaf, 1843—1860.
III.
YR AMGYLCHFYD AGOS.
DYNA'r amgylchfyd cerddorol cyffredinol yng Nghymru pan anwyd Emlyn, ac ymlaen i dymor ei blentyndod—amgylchfyd dan oleuni gwan ond cynhyddol oedd yn treiddio o ganolbwyntiau mwy disglair mewn ardaloedd a phersonau, ac yn cael ei groesawu a'i fwyhau gan feddyliau cydnaws a derbyngar mewn mannau eraill. Ond rhaid i ni fwrw trem ar ei deulu a'i amgylchfyd neilltuol cyn gweld pa fodd ac i ba raddau y manteisiodd ar y cyfleusterau oedd yn ei afael.
Ganwyd ef Medi 21ain, 1843, ym Mhen'ralltwen, ffermdy bach ar y bryn uwchlaw dyffryn Ceri, yn ymyl lle'r ymgyll yn nyffryn mwy y Teifi. Gwneir y fferm i fyny o fryndir uchel, iach, mwy cyfarwydd â chân yr uchedydd nag eiddo'r fronfraith, ag eithrio dwy "fron " sydd yn disgyn yn dra serth i'r cwm islaw, a dôl ar waelod y cwm, lle gyrrid y gwartheg yn yr haf, pan fyddai'r dŵr yn brin ar y bryniau. Y mae'r olygfa o ymyl y tŷ, ac yn arbennig o gaeau uchaf y fferm, yn dra swynol ac amrywiol, ac yn rhoddi cipolygon ar gyrion dyffryn Teifi yn ymyl, a golwg fwy agored ac ehangfawr yn y pellter, o'r Foelfre i'r Frenni Fawr a mynyddres Preseli. Yn yr amgylchfyd naturiol hwn, gyda'r uchedydd a'r awel "awel o'r mynydd ac awel o'r môr"—y treuliodd Dafydd bach flynyddoedd cyntaf ei fywyd "ymhell o sŵn y dref." Yn wir, nid oedd tref ddi—sŵn Castellnewydd Emlyn i'w gweld, lai fyth i'w chlywed oddiyno, ag eithrio sŵn y Ffrwdwen dan ei chastell pan fyddai'r tywydd yn braf—fel y deuai sŵn "ffrydiau Cenarth" o gyfeiriad arall ag addewid am law—fel y tybid.
Enwau ei dad a'i fam oedd Evan a Mary Evans; ond dadcu a'i famgu (o ochr ei fam), sef Dafydd a Mary Jones, oedd yn byw yn y fferm; yn unig arhosai ei fam, yr hon oedd y ferch hynaf, yn ei hen gartref wedi dydd ei phriodi. Yr oedd ei famgu— a alwai ef y pryd hwnnw yn "Mam"—yn orhoff ohono, gymaint felly fel y cafwyd ei deganau chware bychain wedi eu trysori ganddi wedi dydd ei chladdu. Clywsom ddweyd fod yr Iberiad yn gryf yn Emlyn. Os oedd, yr oedd wedi ei amhuro gryn lawer— efallai ei wella—gan elfennau eraill. Yr oedd gwaed Ysgotaidd, yn ol yr hanes teuluaidd, drwy ei "famgu Pen'ralltwen," yn rhedeg yn ei wythienau. Yr oedd mam ei famgu yn ferch y "Dinas"—y fferm nesaf at Dolgoch yn Emlyn yn nyffryn Ceri, a phan ddaeth Ysgotyn o'r enw James yn arolygwr (supervisor) i Gastellnewydd Emlyn, syrthiodd y ddau mewn cariad â'i gilydd. Yr oedd ei rhieni hi yn dra anfodlon i'r gyfeillach, a gwrthodasant eu cydsyniad briodas; ond yr oedd ei chariad hi yn gryfach na bygythion a chloion, a'r canlyniad fu iddi gael ei dadwaddoli. Wedi i'r ddau symud i Fryste, bu hi farw, a thynherodd calon hen wraig y Dinas—y hi, mae'n debyg, oedd yn gwisgo'r llodrau—yn ddigon i dderbyn ei hwyrion i'w haelwyd, ac i ymgymryd â'u dwyn i fyny. Eu henwau oedd James, Dafydd a Mary. Daeth James i gael ei adnabod yn ddiweddarach. ym myd llên fel "Iago Emlyn": bu'n weinidog gyda'r Annibynwyr yn Park St., Llanelli, ac yna yn Clifton, lle y bu farw.
Yr oedd "John Jones, Pontceri," brawd ei dadcu, yn dra adnabyddus fel gwleidydd lleol—yn Radical o flaen ei oes. Ef, a'i frawd o Ben'ralltwen, oedd prif adeiladwyr yr ardal—cyfuniad o amaethu ac adeiladu a erys yn y teulu o hyd.
Yr oedd ei fam yn wraig ragorol, yn fam dda, dduwiolfrydig ei hysbryd a dichlyn ei chymeriad; perchid a cherid hi gan bawb o'i chydnabod. Ond oddiwrth ei dad yr etifeddodd ei alluoedd meddyliol—y tu allan i gerddoriaeth. Yr oedd ef yn un o gynheddfau cryfion uwchlaw'r cyffredin; ac er na chafodd ond rhyw chwarter blwyddyn o ysgol (yn y Betws, Glynarthen), ac nad oedd ond gweithiwr caled yn y gweithfeydd dur ym Mynwy, ymrôdd i ddisgyblu ei feddwl yn ei oriau hamdden, nes medru siarad ac ysgrifennu Saesneg yn gystal â Chymraeg, a dod i feddu gwybodaeth gyffredinol eang mewn Ieithyddiaeth, Rhifyddeg, Hanesiaeth, Gwleidyddiaeth, Gwyddoniaeth boblogaidd, a Diwinyddiaeth. Casglodd lyfrgell dda,——a mwy na hynny, yr oedd ei gydnabyddiaeth â hi yn fwy cyfartal â'i chynnwys nag ydyw gyda llawer ohonom. Ei werthfawrogiad ef o fanteision addysg, yn wyneb ei anfanteision ei hun, sydd yn cyfrif am y ffaith fod ei fab hynaf wedi cael gwell addysg na'r cyffredin o werin Cymru'r amser hwnnw. Deilliai ef, ar ochr ei fam, o'r Peregrines a ddaeth i fyny o Benfro; wele amhuredd arall eto yn y gwaed Iberaidd!
Pan oedd Dafydd bach yn bedair oed, gadawodd ei dad a'i fam hen aelwyd Pen'ralltwen, ac aethant i fyw i'r Drewen, er y treuliai ef wedyn lawer o'i amser ym Mhen'ralltwen gyda'i famgu. Pan yn chwech oed, dechreuodd fynd i'r ysgol i Fryngwyn, pellter dair milltir o'r Drewen; sêl y tad dros addysg fore, ac absenoldeb cyfleusterau agosach, a barai fod plentyn mor ieuanc yn gorfod cymryd taith ddyddiol mor bell; a mawr oedd pryder a helynt y fam i'w hebrwng ran o'r ffordd bob bore, ac eilwaith i'w gyfarfod yn yr hwyr. Yn ffodus, yr oedd Pen'ralltwen ryw dri lled cae o ochr y ffordd wedi pasio'r tyle. cyntaf, ac felly'n torri'r daith i'r teimlad pan na fyddai amser yn rhoddi cyfle i alw, er mai nid yn aml y byddai'n ddigon annhrugarog i hynny. Ond wedi peth amser cafwyd gwaredigaeth oddiwrth yr helynt. dyddiol hwn i draed a chalon drwy gychwyniad ysgol yn y Drewen. Bu dan dri ysgolfeistr yno na feddent ar un cymhwyster arbennig i'r swydd: ond arhosodd clod un ohonynt, o'r enw Wheeler, yn hir yn y fro fel un a allai ysgrifennu "fel copperplate." Ar ol bod nifer o flynyddoedd yno, symudwyd ef i "ysgol yr Eglwys" yng Nghastellnewydd, lle'r oedd ysgolfeistr o allu a medr—yn neilltuol fel rhifyddwr— O'r enw William Williams ("Wil y Cwm "). Bu Herber Evans hefyd yn yr un ysgol; ac er mai braidd yn ddiystyrllyd y sieryd ef amdani oherwydd ei stŵr, yr oedd gan Emlyn barch calon i'w hen feistr; ymwelai ag ef, a gyrrai anrhegion iddo hyd y diwedd. Yr oedd yn ffasiwn y dyddiau hynny i adysgrifio y problemau rhifyddol a weithid allan mewn ysgriflyfrau, i ddangos olion cynnydd y disgybl i'r rhieni synfawr, gellid meddwl, a chroniclo ei gampau i'r oesoedd i ddod yn absenoldeb arholiadau a graddau. Y mae eiddo Emlyn ar gael, a dangosant raddau o ysgolheigdod a threfnusrwydd sydd yn hynod mewn un mor ieuanc (nid oedd ond deuddeg oed yn gadael yr ysgol). Profant hefyd fod yr ysgolfeistr yn gallu cyfrannu addysg a mynnu trefn feddyliol, gan nad faint o stŵr oedd yn yr ysgol. Dangosant, ymhellach, mai nid wedi mynd allan i fyd busnes y dysgodd Emlyn y destlusrwydd a nodweddai ei holl waith.
Y mae un yn fyw heddyw[3]—Mr. J Lloyd Davies, Casnewydd ar Wysg—oedd nid yn unig yn yr ysgol honno yr un pryd ag Emlyn, ond oedd hefyd yn dra chyfeillgar ag ef, ac a barhaodd felly hyd y diwedd— buont gyda'i gilydd " ar y ffordd " (fel Commercial Travellers) am flynyddoedd wedyn. Y ddau beth a saif yng nghof Mr. Davies amdano yw ei fywiowgrwydd direidus a chyflymder ei ddeall. Yr oedd Mr. Davies beth yn hŷn na'i gyfaill; ond hwynthŵy ill dau oedd top boys yr ysgol. Eto nid rhwydd credu i'w feistr ddweyd amdano, pan yn ddeuddeg oed, nad oedd ganddo ddim pellach i'w ddysgu iddo—ond dyna'r stori. Pan oedd ef yn ysgol y dref, yr oedd draper o'r enw Denis Lloyd yn cadw "Siop y Bont" — y tŷ nesaf ond un at bont Emlyn—ac wedi braidd ymserchu yn y llanc fel prentis dymunol, wrth ei weld yn pasio'n ol a blaen i'r ysgol. Ac er yn llawn nwyf a chware, nid oedd yn rhyw gryf iawn pan yn hogyn, a diau fod ei fam—a'i famgu, bid siŵr— yn ei ystyried yn rhy lednais i fod nac yn amaethwr nac yn adeiladydd, fel ei dadcu. Felly prentisiwyd ef yn Siop y Bont, lle y bu am dair blynedd. Amser caled gafodd yma —oriau hirion, yn fwy felly o lawer nag a geir ar hyn o bryd, alluniaeth anghydnaws â chylla gwan, tra nad oedd pawb mor garedig iddo a'i feistr. Ond treuliai ei Suliau yn y Drewen, a Phen'ralltwen a Phontgeri, lle'r oedd ganddo gartref arall a chroeso mor gynnes ag un o'r lleill gan ei ewythr, John Jones, a'i ddwy fodryb. Dyddiau gwynion oedd y rheini pan gaffai ei draed yn rhydd o flin gaethiwed y siop, a pharhaodd y gwynder ar yr atgof amdanynt hyd y diwedd.
Yr oedd yn awr yn aelod yn eglwys y Drewen, ac yn canu yn y côr, fel y cawn weld. Y gweinidog rhwng 1840 ac 1850 oedd Robert Jones,—dyn a barodd gryn lawer o ymrafael yn yr eglwys, ac a fu farw ar dir gwrthgiliad. Nid oedd yr awyrgylch yn ffafriol i ffyniant gwir grefydd, a gadawodd llawer yr eglwys —tadcu Pen'ralltwen yn eu mysg. Eto, araf iawn y ciliai'r gogoniant oedd yno yn amser Benjamin Evans a John Phillips (mab Dr. Phillips, Neuaddlwyd) pan ddeuai y cannoedd ynghyd o bob cyfeiriad, hyd yn oed dros afon Teifi. Codwyd y llanc o leiaf yn adlewyrch y gogoniant hwn, er mai cymylog a chymysglyd oedd yr awyrgylch agos. Cyn ei ddilyn i Forgannwg, geilw ei ogwydd a'i fanteision cerddorol fel plentyn a llanc am sylw byr.
DYDD Y PETHAU BYCHAIN.
ER i Iago Emlyn ddweyd, pan fu farw'i fab, fod yr awen farddonol wedi cymryd ei haden o'r teulu, nid oedd hynny'n wir, a dweyd y lleiaf, mewn perthynas â'i chwaer-awen gerddorol. Cafodd Emlyn y ddawn yn gynysgaeth drwy'i fam. Yr oedd yn y teulu, ac y mae yn y teulu. Er nad oes gennym hanes am gyfansoddwr cerddorol arall o fri ymhlith ei berthynasau, y mae nifer ohonynt yn meddu ar allu uwchraddol i ddehongli cerddoriaeth, ac ar leisiau mwy soniarus na'r cyffredin i'w datganu. Dywedid am Dd. James—brawd Iago Emlyn—a drigail mewn ffermdy anghysbell o'r enw Penalltycreigiau—ei fod yn hoff o ganu ar hyd y meysydd, a bod y bechgyn yn sefyll gyda'u herydr, a'r merched gyda'r godro, i wrando arno, gan mor bêr y canai! Gallwn yn ddiogel gychwyn gyda'r ragdyb fod gan Emlyn ddawn gerddorol gynhenid gref—pa mor gryf, ei hanes, yn wyneb cyfleusterau ac anghyfleusterau, a ddengys. Er pob ymchwil yn yr hen ardal, ni lwyddasom i ddod o hyd i unrhyw wybodaeth bendant ynghylch ei sefyllfa gerddorol pan oedd ef yn blentyn. Ym Mhennod II cawsom ei ddisgrifiad ef ei hun o sefyllfa gerddorol Cymru'n gyffredinol, ond beth am ei amgylchfyd agos? Tystiolaeth Mr. Tom Jones—brawd Mr. Emlyn Jones, a cherddor da ei hun—yw, nad oedd yna nemor ddim cyfleusterau i ddysgu cerddoriaeth. Ond rhaid fod yna gyfleusterau i ysbrydoedd parod a derbyngar: heb hyn, ni fuasai cerddorion a chantorion fel Emlyn Jones a'i frawd, Dr. Saunders, Tomy Morgan, Eos Gwenffrwd, ac Emlyn erioed wedi cychwyn ar eu cwrs cerddorol. Ymddengys fod llafur D. Siencyn Morgan yn dwyn ffrwyth, ac fel y gwelsom, yr oedd yna ddeffroad cerddorol drwy'r wlad rhwng 1840 ac 1850, ac nid oedd ardal Emlyn, lle y cyhoeddid Y Byd Cymreig, o gwbl y tu allan i redlif y bywyd cenedlaethol.
Dyry ei atgofion ef ei hun gynhorthwy mwy pendant i ni. Yn y Musical Herald am Ebrill, 1892, ysgrifenna:
"Dywed Giraldus Cambrensis (1146—1220) am Gymry ei ddyddiau ef, eu bod yn aml i'w clywed yn gwmnïau yn canu mewn rhannau (in parts) nid yn unsain (in unison) fel mewn gwledydd eraill. Derbynnir hyn gan Sir F. Ouseley a Sir George Macfarren; ac y mae 'n wir am ein pobl heddyw. Ddeugain mlynedd yn ol a rhagor, yr oedd, i'm gwybodaeth i, yn wir am rannau pellennig Sir Aberteifi. Mewn capeli gwledig bychain, mewn ysgoldai, ffermdai, ac ar y croesffyrdd, torrai y bobl allan, ohonynt eu hunain. (spontaneously) mewn cynghanedd, oblegid y mae'n sicr na allai un o bob cant ohonynt ddarllen nodau. Ni fyddai'r gynghanedd yn berffaith, ond yr oedd braidd yn ddieithriad yn seinber a hyfryd."
Darllenwn ymhellach mai ychydig gerddoriaeth oedd yn yr ardal ei magwyd ynddi, ond fod ei deulu—ei fam yn neilltuol—yn gerddgar, a'i fod yntau'n uno yng nghaneuon a thonau'r aelwyd o'r crud. Gallesid ychwanegu fod ganddo o leiaf un ewythr—tad Herbert Emlyn—a fedrai ddarllen cerddoriaeth, a mwy nag un oedd yn gantor da.
Yn ei atgofion am "hen arweinwyr canu" yn Y Cerddor cawn a ganlyn—
"Yr arweinydd cyntaf sydd ar ein cof yw un a ddeuai i fyny i'r Drewen o'r enw Josi Bwlch-melyn.' Yr oedd hyn tua 40 mlynedd yn ol (1854). Dyn tal o gorff ydoedd, yn ddigon rhadlawn, yn arwain y prif lais a rhyw offeryn gwynt—clarinet o bosibl. Gan ei fod yn ymwel'd yn swyddogol â'r lle—ac â lleoedd ereill yn ddiau—yr oedd, bid siwr, yn derbyn rhyw fath o dâl am ei lafur." [Arweinydd y gân ym Mryn Seion, Pontseli, oedd Josi].
'Arweinydd y gân yn y capel (Trewen) tua'r un adeg oedd 'Daniel Teiliwr.' Yr ydym yn cofio mai byr oedd ei bwerau lleisiol, ac y byddem yn methu'n lân a deall, yr adeg honno, paham y byddai'n dodi ei law ar ei gern wrth ganu, pan yn arwain y dôn o'r cor mawr, ond sylwem fod y swn. a gynhyrchai yn fwy aflafar. Nid ydym yn meddwl y gallai ef wneud llawer uwchlaw arwain y dôn yn y capel, nac y gwyddai rhyw lawer am lyfr. Ni welid llyfr canu yn nwylaw neb yno y pryd hynny, na llyfr emynau chwaith; ac y mae arnom ofn i ni fod yn llygad-dyst, fwy nac unwaith, o wr y pulpud yn treio dwyn gwr y gân i'r fagl.
"Isel iawn oedd sefyllfa y canu yn ardaloedd gwledig Ceredigion, Caerfyrddin, a Phenfro yr adeg honno—tua hanner y ganrif, a mawr oedd y llafur a gymerid i ddysgu anthem gogyfer a'r Sulgwyn pan fyddai nifer o ysgolion Sabothol yn cyfarfod i adrodd y pwnc." . . .
"Eto yn y dref gyfagos (Castellnewydd Emlyn) yr oedd pethau yn dra gwahanol, a hyd yn oed y dyddiau hyn anfynych y clywir canu gwell nag a geid yn Bethel—capel y Methodistiaid—y pryd hwnnw, ac yn sicr nid yn fynych y cyfarfyddir ag arweinydd galluocach na Tomy Morgan.' Yr oedd hyn flynyddau cyn i ni ddod i ymgydnabyddiaeth bersonol ag ef, ac i ffurfio y cyfeillgarwch hwnnw na ddatodwyd ond gan y gelyn a wahana y cyfeillion goreu. Yn yr adeg y cyfeirir ati uchod y daethom i adnabyddiaeth gyntaf ag 'Ystorm Tiberias' ac anthemau penigamp Ambrose Lloyd ac Owain Alaw; a'n pleser mwyaf ar nos Sul fyddai dringo i fyny'r oriel yn yr hen gapel, mor ddistaw a llygoden eglwys, oherwydd nid gwr i chware ag ef oedd Tommy.
"Tua'r adeg fore uchod yn ein tipyn hanes darfu i ni breswylio am ychydig amser yn y dref wrth enau yr afon a ymddolena o amgylch hen ddinas Emlyn, sef Aberteifi; ond yr oedd y canu yno mewn ystad fwy isel o lawer. . . . Eto os eid allan i'r wlad ychydig, deuid o hyd i bentref bychan o'r enw Blaenanerch, lle yr oedd sefyllfa pethau yn dra gwahanol. Dyna le genedigol un o'n prif gerddorion presennol. Nid ydym yn gwybod a fu ein cyfaill Benjamin Thomas ( Bensha' fel y gelwid ef), tad Mr. John Thomas, Llanwrtyd, erioed yn arwain y gân yno, ond gwyddom ei fod yn un o flaenoriaid, os na fu yn gapten, y llu.
"Athro cerddorol, yn fwy nac arweinydd, yn ystyr gyffredin y gair, oedd Hughes Llechryd,' yr hwn a ddoi i fyny i'r Drewen i gynnal 'ysgol gân '—neu ddosbarth i ddysgu canu. Yr oeddem wedi pendroni cryn lawer uwchben Gramadeg Richard Mills, ac yn gallu ymlwybro yn weddol hyd nes y deuem at y Raddfa Leiaf, wedyn—y fagddu, ac os aem am eglurhad at un o oleuadau. cerddorol yr ardal, âi, y tywyllwch yn fwy fyth; o ganlyniad yr oedd ein hawydd yn fawr iawn i fod yn un o'r dosbarth, a hynny fu; ac aelod arall ohono oedd ein cyfaill, y Parch. W. Emlyn Jones.
Yn Hen Nodiant yr athrawiaethai Mr. Hughes, a chredwn ei fod yn athro deallus ac eglur, ond gwaetha'r modd, er nad oedd yn ymdrin ond ag A.B.C. y wyddor, yr oedd yn hedfan ymhell uwchlaw cyrhaeddiadau y mwyafrif o'i ddosbarth, er fod dau ohonom yn orawyddus i roddi'r cloadur ar bethau plentynaidd felly—plentynaidd i y ni. Y canlyniad oedd i'r ddeddf fynd allan yr ail noson nad oedd W.E.J.a D.E.E. i ateb cwestiynau ond pan ofynnid iddynt. Felly fe aeth yr hanner coron hwnnw—yr unig un a wariwyd ar ein hysgoliaeth ym myd y gân—i wastraff, oherwydd cyn i'r dosbarth gyrraedd pwnc y Raddfa Leiaf, yr oeddem ni wedi troi ein hwyneb at Forganwg a'i thai gwynion . . . Yn un o'r cyfarfodydd hyn y daethom i gyffyrddiad gyntaf ag Ap Herbert (Moses Davies y pryd hwnnw) yr hwn oedd yn yr ysgol yn Llechryd, ac a ddaethai i lanw lle ei feistr am noson. Ar y pryd nid oedd ond dyn ieuanc, golygus a rhadlon, yn meddu llais cyfoethog iawn." Cawn atgofion pellach mewn ysgrif o'i eiddo ar Hafrenydd (1895):—
"Y mae deugain mlynedd a rhagor wedi gwneud eu cyfrifon i fyny er pan y daethom i wybod gyntaf am Hafrenydd, a thrwyddo ef rywbeth am Handel, a Haydn, a Mozart, ac ereill o'r prif feistri, a thrwy gyfrwng y Ceinion y bu hynny. Collasom ein oegolwg ar y casgliad hwnnw yn fwy neu lai cynnar yn ein hanes, ond coleddem deimladau cynnes. tuag ato, ac atgofion tyner o'r oriau dreuliwyd yn ei gwmpeini o dan goed y Wenallt, ac ar lannau'r hen Deifi. . . Y cyntaf o'r cyhoeddiadau i ddod allan oedd y Salmydd. Cynhwysa rai o donau goreu Lloegr a'r Cyfandir, a rhai gan Ambrose Lloyd ac eraill, a darnau gan Bach, Haydn, Mozart, Beethoven, Mendelssohn, Farrant, Richardson, a Kent—dim un gan Handel."
Prawf yr hanesion a ganlyn ei hoffter at gerddoriaeth pan yn hogyn
Yr oedd yn arferiad gan aelodau'r Ysgol Sul bartoi "pwnc," neu, yn fwy cywir, ddysgu nifer o atebion i gwestiynau ar ryw bwnc diwinyddol,—atebion a ategid yn wastad ag adnodau o'r Beibl, ac i fynd i ryw gapel cymdogaethol i brofi eu meistrolaeth o'r "pwnc," a dangos eu medr cerddorol mewn anthem. Yr oedd Ysgol Sul y Drewen yn ymweled felly un tro â chapel Bryn Seion (Pontseli)—rhyw bum milltir o ffordd heibio Penwenallt (hen gartref Theophilus Evans) a Chenarth. Yr oedd Emlyn yn y côr, ac yn arweinydd yr alto. Ni wyddom pwy oedd arweinydd y côr, ond tybiwn mai "Daniel Teiliwr." Drwy ryw anffawd torrodd y côr i lawr, ag eithrio'r Alto; canai Emlyn ymlaen fel petae dim wedi digwydd, nes i'w ewythr—a adroddai'r hanes wrthyf yn gymharol ddiweddar—ei brocio, a dweyd "Taw, fachgen." Dengys yr hanesyn hwn, o leiaf, ei fod yn gwybod ei waith y pryd hwnnw, a'i fod hefyd yn ymgolli yn y gân nes anghofio pawb a phopeth arall. Gan ei fod yn adrodd hanes mewn man arall, gellir ef ei hun yr ei dderbyn fel un dilys.
Dengys hanesyn arall ei gariad cynnar at y "drawyddol gân." Pan yn siop y Bont, ac yn dod gartref dros y Sul, arferai fynd ar ol yr oedfa fore Sul gydag ewythr neu ddau (meibion Pen'ralltwen) a mab Felin-geri, a meibion Pantglas hyd waelod yr Alltwen, a dwyn y gyfeillach i derfyn gyda'r geiriau, "Nawr, tôn, boys "—y llanc rhwng deuddeg a phymtheg oed yn arwain, wrth gwrs! Y mae hen wraig o'r enw Anne Davies—dros ei phedwar ugain oed erbyn hyn[4] —yn byw ym mhentref Cwmcoy, sydd yn ei gofio'n aml ar fore Sul yn mynd i lawr y "lôn fach" i'r Drewen, dan ganu a chwifio'i gadach poced fel un yn arwain côr naturiol casglu mai dychwelyd yr oedd o hebrwng ei gyfeillion i waelod yr allt, a bod y tân oedd wedi ei ennyn yno heb ddiffodd eto yn ei enaid! Ymddengys mai ei hoff rodfeydd yng nghwmni'r gân oedd yr un i gyfeiriad yr Alltwen—tua'r gogledd, a'r un "dan goedydd y Wenallt "—tua'r de.
Nid oedd na phiano nac harmonium yn y wlad dyddiau hynny; ond cawn ei fod wedi dysgu canu'r chwibanogl (fute). Y mae'n beth hynod, ond eithaf gwir, fod y chwibanogl yn offeryn tra phoblogaidd yn yr ardal, a rhai yn medru ei ganu gyda llawer o fedr. Yr oedd Eos Gwenffrwd yn un o'r cyfryw, a chofiwn yn dda mai gyda'i help hi yn aml y dysgai'r anthem i'r sopranos, cyn i'r Tonic Solffa ddod yn boblogaidd yn y lle. Treuliai Emlyn lawer o'i oriau hamdden, nid yn unig i ganu'r chwibanogl, ond hefyd i gopio miwsig, yr hyn sydd yn cyfrif, i fesur efallai, am ei ddestlusrwydd a'i fedr gyda'r gwaith hwn yn ddiweddarach. Cafodd Ramadeg Richard Mills yn rhodd gan ei dad, ac yn ddiweddarach (pan yn 14eg oed) Cassell's Popular Educator, yn cynnwys gwersi cyntaf John Curwen yn y Tonic Solffa; ond ymddangosai'r ddwy gyfundrefn mor anghyson iddo ar y pryd nes peri iddo roddi'r astudiaeth i fyny mewn diflastod. Tebig mai'r Solffa a roddodd i fyny, neu ynteu na pharhaodd y "diflast od yn hir, oblegid cawn ef yn mynychu ysgol gân "Hughes Llechryd" pan ar fedr cychwyn i Forgannwg.
V.
MORGANNWG.
PAN yn 15eg oed—yn 1858—wedi gorffen tymor ei brentisiaeth, cymerodd ei aden o'i ardal enedigol a'i gartref, i wynebu ar y byd. Nid oedd trên yng Nghastellnewydd, ac aeth ef a'i fam, os nad ei famgu, i'r orsaf nesaf yng Nghaerfyrddin, lle y gwelodd y trên am y tro cyntaf. Ei gyrchfan oedd Penybont ar Ogwy, at draper genedigol o bentref cyfagos Cwmcoy—Ap Daniel, New York wedi hynny. Ag eithrio dau doriad byr i dreio'i ffawd yng Nghaerdydd ac Aberteifi, yma y treuliodd bump o flynyddoedd mwyaf derbyngar a pheryglus bywyd dyn, mewn gwaith caled ac oriau hirion, ond hefyd ynghanol llawer o bleser gwaith a chyfeillgarwch. Yr oedd yn llawn ynni ac uchelgais, ac ymroddai i'w waith fel masnachydd, tra y rhoddai ei oriau hamdden i gerddoriaeth, ac i wasanaeth y delfryd o ddiwylliant ehangach oedd yn wastad o flaen ei lygain. Heblaw cylch y faelfa, daeth i gyffyrddiad â chylchoedd eraill o gymdeithas yn y dref a'r eglwys, yn y cyngerdd a'r eisteddfod. Ar y cyfan, yr oedd yn amser egniol, cyfoethog, a hyfryd. Soniai ef gyda serch am fro Morgannwg hyd y diwedd, ac nid oedd yn ail yn ei galon i'r un fro ond Glan Teifi.
Bu'n ffodus yn ei gysylltiadau eglwysig. Gweinidog yr Annibynwyr ym Mhenybont ar y pryd oedd y Parch. J. B. Jones, B.A., gan yr hwn y cafodd bob cynhorthwy a chefnogaeth. Saif "J.B." allan fel un o'r rhai yr hoffai ddatgan ei ddyled iddynt hyd y diwedd. Bu'n fath ar frawd hynaf iddo (yn yr ystyr goreu), yn anogydd a chefnogydd, yn gystal ag yn addysgydd ac arweinydd, yn feddyliol a moesol, ac i fesur yn gerddorol. Yr oedd y ddau'n edmygwyr mawr o'i gilydd, er yn gwbl ymwybodol o ddiffygion y naill y llall.
Yr oedd y manteision a'r cymhellion i gerddor ieuanc yn llawer lluosocach ym Morgannwg nag oeddynt ar lan Teifi. Ei dystiolaeth ef ei hun (yn y Musical Herald, Ebrill, 1892) yw fod yr awyrgylch yn llawn canu. Yn y pentrefi, yn gystal â'r trefi, yr oedd yr Eisteddfod yn dod i fri cyffredinol; perfformid oratoriau mewn mannau; a gloewid doniau a phurid chwaeth y cerddorion drwy gyfathrach gyson. Cawn atgofion mwy manwl Y Cerddor:—
"Ym Morgannwg daethom i awyrgylch gerddorol dra gwahanol, er nad yn gymaint parthed caniadaeth y Cysegr a chaniadaeth gorawl. Ond dyma'r tro cyntaf i ni ddod i ymgydnabyddiad â'r eisteddfod; ni wyddem ddim am oratoriau y prif feistri, nac am ganigau ac anthemau yr ysgrifenwyr Seisnig, ond yr ychydig ddetholion a threfniadau a geid mewn casgliadau fel y Ceinion; nid oeddem wedi gweld na chlywed organ erioed, na pherdoneg ychwaith ond un tro yn un o gyngherddau Owain Alaw.
"Yr oedd cryn lawer o dalent gerddorol ym Mhenybont. . . . Bu'r perfformiadau o weithiau y prif feistri a gaed yno ar y pryd o les diamheuol i'r lle, ac o leiaf i rai personau unigol. Agwedd ddigon di—lun oedd i gerddoriaeth y cysegr yno ar y pryd, ac efallai mai yng nghapel yr Annibynwyr lle y gweinidogaethai y Parch. J. B. Jones y blodeuai oreu. Yn yr hwyr âi y cantorion i'r galeri gyferbyn a'r pulpud, a busnes mawr y cyfarfod, o'n tu ni, oedd yr anthem a genid bob nos Sul. . .
"Dyddiau dedwydd oedd y rheiny. Siarad am ddydd o orffwys! Nid oedd dydd caletach o weithio yn yr holl wythnos [na'r Sul]. Yn ychwanegol at y cyfarfodydd cyhoeddus, yr Ysgol, etc., cenid yn y bore ar hyd y dolydd, cenid yn y prynhawn ar ol yr Ysgol, cenid yn yr hwyr cyn ac ar ol y cyfarfod, a chenid wedyn yn nhai cyfeillion hyd y deuai yn bryd i gysgu; ac y mae hen draddodiad yn y lle fod rhai ohonom yn chware'r ffidyl (a gorchudd drosti i ddofi ei sain) yn lle cysgu! Ond y mae prif ddiddordeb y cyfnod hwn yn ei hanes yn gorwedd yn y ffaith mai'n awr y dechreuodd gyfansoddi. Nid oes gennym wybodaeth bendant iawn am ddechreu cwrs ei ddatblygiad fel cyfansoddwr; ond saif dau enw allan yn glir fel rhai a fu'n Prif gynorthwywyr iddo fynd i fewn i deml y gân (o'r cynteddoedd), sef Alawydd ac Ieuan Gwyllt. Alawydd a roddodd yr allwedd yn ei law i agor y drws, ond gan Ieuan y cafodd anogaeth i fynd at y drws, ac arweiniad athrawus wedi mynd i fewn.
Cof gennyf i'r Parch. J. B. Jones ddweyd wrthyf un tro mai ef a ddysgodd Emlyn i gynganeddu. Pan ddywedais hyn wrth yr olaf, chwarddodd yn iach, gan ddweyd nad oedd J.B. yn deall cynghanedd ond yn fesuronol, ac fod ystyr mewnol cynghanedd a lliwiadaeth gerddorol yn gyfrinion clôedig rhagddo. Ymddengys fod perthynas y mesuronydd a cherddoriaeth yn debig i eiddo'r uwchfeirniad â'r Beibl, ac fod "dyfnion bethau" cerddoriaeth yn ddeimensiwn anhysbys i'r naill fel y mae "dyfnion bethau Duw" i'r llall. Y gwir oedd hyn, meddai ef: iddo fynd â Gramadeg Alawydd yn ei logell un dydd gŵyl (Nadolig, os wy'n cofio'n iawn) i Gastellnewydd, gan ymdynghedu ei feistroli cyn dychwelyd i Benybont, ac felly y bu: pan adawodd Forgannwg yr oedd sanctum cynghanedd ynghlo, er ei fod yn cael mawr hwyl yn y cynteddoedd; ond pan ddychwelodd ar ol ei wyliau, yr oedd y cylch cyfrin wedi agoryd iddo. Nid ydwyf am dynnu dim oddiwrth y clod sydd yn ddyledus i Alawydd am ei wasanaeth sylweddol a sicr i gerddoriaeth a cherddorion Cymru Ymddengys fod ei Ramadeg yn un llawer mwy meistrolgar a hyfforddiadol na dim oedd wedi ymddangos yn flaenorol. A chaniateir mai Alawydd oedd yr athro pan agorodd y drws. Gall hyn fod yn wir, heb fod y gwir i gyd. Clywais ddweyd "nad yw Duw'n rhoddi enaid cyfan i neb." Siaradwyd hyn mewn perthynas â chrefydd, er mwyn pwysleisio'r lliaws o weithrediadau a gweithredyddion sydd yn cydgwrdd yng ngwaith trôedigaeth dyn. Ond y mae'r un mor wir am gerddoriaeth, a phopeth arall. Yn sydyn y dargenfydd yr eneth sydd yn dysgu canu'r piano, a'r llanc sydd yn dysgu iaith, eu bod wedi meistroli eu "pwnc," er fod y gwaith yn mynd yn ei flaen yr holl amser. Rhyw air neu syniad, rhyw lygedyn o ysbrydoliaeth, sydd yn dwyn gwahanol rannau cyfundrefn o ddysg yn y meddwl—asgwrn at asgwrn—i ffurfio cyfanwaith trefnus, ond yr oeddynt yno o'r blaen. Ni wyddis—ni wyddai ef ei hunan—pa faint o help a gafodd gan Richard Mills a Curwen, na pha elfennau a drysorid yn ei is-ymwybyddiaeth gan ei ymarferiadau a'i astudiaeth yr holl ffordd i fyny o ganeuon yr aelwyd hyd Handel; ac ni ddylesid dibrisio ymgais "J.B." i esbonio cynghanedd yn fesuronol iddo—yr oedd hynny'n help mor bell ag yr elai. Os "dyfal donc a dyr y garreg" rhaid inni gofio nad yr ergyd olaf effeithiol, yn unig sydd yn ond mai honno sydd yn effeithioli'r lleill ac yn eu galluogi i gyrraedd adref.
Ond ni byddai ef byth yn osgoi cyfleustra i ganu clod Alawydd a datgan ei ddyled ei hun a dyled cerddorion Cymru iddo; edrychai ar ei Ramadeg fel rhagredegydd cyfnod newydd yn natblygiad cerddorol ei wlad ac o werth arbennig am ei fod yn gafaelyd yn llaw ei oes i'w helpu ymlaen at hwnnw. "Cyhoeddwyd Gramadeg Alawydd" (meddai) "yn agos i ddiwedd yr hanner gyntaf o'r ganrif, ond i'r hanner ddilynol y cariodd ei ddylanwad, ac er efallai nad hollol gywir fyddai dweyd fod y gramadeg hwn gymaint uwchlaw gramadegau y Millsiaid ag ydoedd yr olaf yn uwch na'r rhai a'u blaenorai, y mae'n eithaf gwir ei fod yn tra rhagori arnynt, ac yn rhoddi i'r Cymro wybodaeth a chyfarwyddyd mewn pynciau na chyffyrddid â hwy o'r blaen o gwbl yn ei iaith ei hun. Caed ail-argraffiad diwygiedig ohono yn 1862, ac y mae'n amhosibl mesur y gwasanaeth a fu y Gramadeg bychan ond cynwysfawr ac eglur hwn i gerddorion Cymru." Mewn man arall rhydd iddo glod uwch na hyn hyd yn oed:
"Pa mor uchel bynnag y rhoddir Alawydd fel cyfansoddwr fe gymylir y gogoniant hwnnw gan y bri a berthyn iddo mewn cysylltiad â'i Ramadeg. Ni chyhoeddwyd ond yn anaml Ramadeg mor gynwysfawr a'r gwaith bychan hwn nac yn sicr mo'i hafal yng Nghymru na chynt na chwedyn
Yr unig bwynt ar ba un yr ydym yn cweryla ag ef yw y defnyddiad diangenrhaid a wneir ynddo o dermau tramor am yr erwydd, y nodau," etc.
Ei athro arall y pryd hwn oedd Ieuan Gwyllt. Daeth Ieuan i Ferthyr i olygu'r Gwladgarwr yr un flwyddyn (1858) ag yr aeth Emlyn i Benybont, a diau i'r olaf ddod dan ddylanwad symbyliadol yr ysgrifau ar gerddoriaeth yn Y Gwladgarwr, a'r darlithiau a draddodid gan y golygydd yn nhrefi Morgannwg. Ym mis Mawrth, 1861, cychwynnwyd Y Cerddor Cymreig—cyhoeddiad a ddatblygodd ac a ddisgyblodd (ac yr oedd llawn cymaint o eisieu disgyblu ag oedd o eisieu datblygu) y deffroad cerddorol drwy Gymru benbaladr. Ni ellir byth fesur ei ddylanwad ar gerddoriaeth a cherddorion ieuainc Cymru yr amser hwnnw. Tra yr oedd Gwilym Gwent, Alaw Ddu, John Thomas, Dd. Lewis, ac Emlyn, fel ei gilydd, dan ddyled ddifesur iddo, yr olaf sydd wedi cydnabod y ddyled honno gliriaf mewn geiriau. Wele rai sylwadau o'i eiddo o fysg llawer:—
"Saif Ieuan Gwyllt ar ei ben ei hun ymysg Cerddorion Cymreig, heb yr un cymhar, ac mewn amryw ystyriaethau heb ei hafal. Hyd at y gwyddom, ni chyfansoddodd nac oratorio, na chantawd, na chytgan, na chanig, na chân; dim ond un anthem (neu, efallai, ddwy), ychydig emyn-donau, salmdonau, a darnau i blant, ynghyd a threfnu a chynganeddu nifer o hen donau, a rhai anthemau; er hynny, ystyrir ef yn un o brif gerddorion y genedl (a hynny yn ei chyfnod cerddorol euraidd cyn belled ag y mae a fynno â'r gorffennol) a hynny yn gywir yn ein barn ni, nid oherwydd dim a gyfansoddodd, ond oherwydd ei wasanaeth i gerddoriaeth mewn cyfeiriadau eraill fel diwygiwr ein caniadaeth grefyddol, fel casglydd a golygydd, fel beirniad manwl a gonest, fel elfennydd a gramadegydd trwyadl, ac fel ysgrifennydd Cymraeg cywir a choeth. Y mae y cyfeiriadau yna yn llawn mor bwysig a'r un gyfansoddiadol, y mae y meysydd yn helaeth a lluosog, a'r llafurwyr yn anaml. Gadawodd Ieuan Gwyllt fwy nag un bwlch yn wâg pan y'n gadawodd ni, a byddai wasanaeth i'r wlad, ac yn llesol iddynt hwythau, pe bae rhai o'n cerddorion ieuainc yn ymdrechu dilyn ol ei gamrau ef: nid yw hoffder o gerddoriaeth ac awydd i gyfansoddi yn un prawf fod dyn wedi ei eni i fod yn gyfansoddwr. Gwyddai Ieuan Gwyllt hynny o'r goreu, ac yr oedd yn ddigon call a gonest i weithredu yn unol â hynny. Gadawodd gyfansoddi i'r rhai hynny a deimlent fod neges wedi ei hymddiried iddynt ag yr oedd yn rhaid iddynt ei dweyd yn eu cyfansoddiadau." "Creodd ei Lyfr Tonau chwyldroad yn ein caniadaeth gynulleidfaol. Gwnaeth i ffwrdd â'r hen dônau ehedganol, cymysgedig, gan fabwysiadu yn eu lle arddull y gorale ddefosiynol.
Caniateir yn gyffredin, bellach, iddo ddefnyddio'r gyllell hytrach yn rhy ddiarbed, ond dyna ydyw hanes pob diwygiad, ac os y gwnaed ychydig gamwri, yr oedd y da a effeithiwyd yn ei orbwyso yn ddirfawr." Am Y Cerddor Cymreig, dywed ei fod
"Yn gyhoeddiad cerddorol o deilyngdod uchel a olygwyd ganddo am amryw flynyddau, a thrwy gyfrwng yr hwn y gwnaeth yn adnabyddus i'w gydwladwyr nid yn unig nifer o'r cyfansoddiadau Cymreig goreu, ond hefyd amryw o eiddo'r prif feistri; heblaw gwellhau tôn gerddorol y wlad, a datblygu talentau ein cyfansoddwyr, trwy ei erthyglau a'i feirniadaethau, y rhai a nodweddid gan dderchafiaeth eu syniadau, a phurdeb eu hiaith."
Nid oes wybodaeth sicr pa bryd yr enillodd Emlyn ei wobr gyntaf am gyfansoddi tôn gynulleidfaol. Ysgrifenna y Parch. T. G. Jones (Tafalaw) ato ym Medi, 1890, fel hyn:
"Nid wyf yn gwybod fy mod erioed wedi eich gweld, ond yr wyf yn eich adnabod yn dda, er hyn oll. Os iawn hysbyswyd fi, chwi a enillasoch eich gwobr gyntaf am dôn gynulleidfaol dan fy meirniadaeth i mewn eisteddfod wledig fechan yn Ffordd-y-gyfraith, yn agos i Pyle—ddeng-mlynedd-ar-hugain yn ol."
Yn ol yr hanes o'i fywyd a ymddangosodd yn y papurau adeg ei farw, enillodd ei wobr gyntaf yn 1863 dair blynedd ar ol yr uchod. Efallai nad yw Tafalaw yn siarad yn fanwl, nac, efallai, wedi cael yr hanes yn gywir am ei wobr gyntaf (fel y gwelir, nid yw'n sicr); ond y mae braidd yn sicr iddo fod yn llwyddiannus cyn 1863, oblegid ymadawodd am Cheltenham y flwyddyn honno, ac yr oedd wedi ennill am y dôn oreu mewn amryw eisteddfodau lleol cyn mynd, gan i mi ei glywed ef ei hun yn dweyd, wrth sôn am gerddor oedd wedi arfer cipio'r wobr yn gyffredin am y dôn yn ardal Penybont, ei fod yn credu na faddeuodd iddo ef (Emlyn) byth am ddod i fewn i'w preserves ef. Ond nid yw'r mater o bwys, nac, efallai, o ddiddordeb neilltuol, ond fel y dengys inni ymgais wylaidd yr awen ieuanc i dreio'i haden yn y cylch llai cyn mentro allan i awyr gylch helaethach yr Eisteddfod Genedlaethol, yr hyn a gawn yn ei gyfnod nesaf.

D. EMLYN EVANS
(15 OED).
Yr Ail Gyfnod, 1860—1880.
VI.
Y DEFFROAD—"Y GANIG."
WRTH geisio olrhain perthynas Emlyn ag Ieuan Gwyllt, yr ydym eisoes wedi croesi i ail brif gyfnod ei hanes, pryd y daeth allan i fyd mwy yr Eisteddfod Genedlaethol a Chyfansoddiadaeth Gerddorol, ac i gwmni (drwy astudiaeth) pencerddiaid yr oesoedd a'r gwledydd.
Yr oedd y cyfnod hwn—yn dechreu tua 1860—yn un o ddadebru cyffredinol, y tu allan yn gystal â'r tu fewn i Gymru, a hynny yn holl diriogaethau bywyd, yn grefyddol, cenedlaethol, gwleidyddol, llenyddol, a cherddorol. Ond y mae i ddeffroadau ar y fath eu hamodau hanesyddol fel yr oedd Hiraethog ac eraill o ysgrifenwyr Y Faner wedi bod yn arwain i fyny at y deffroad cenedlaethol a gwleidyddol, yr oedd blaengloddwyr eraill wedi bod yn gweithio yn nhiriogaeth y gân. Yn awr—a newid ein ffugr—y torrodd y don o fywyd cerddorol a fu'n symud a chynhyddu o 1840 ymlaen mewn grym ac effeithiau a gerddodd drwy flynyddoedd i ddod.
Daw'r hanes ym Mhennod II a ni hyd 1850, ond rhwng 1850 ac 1860 ymddangosodd nifer o " sêr bore " y cyfnod newydd uwchlaw'r gorwel. Fan yma, y mae'n rhaid i ni gofio mai nid cyfnodau mewn amser yw cofnodau'r ysbryd yn gymaint ag mewn ansawdd. Tra y gesyd Emlyn rai llyfrau (megis Y Blwch Cerddorol, a gyhoeddwyd wedi 1850) yn y cyfnod blaenorol, gesydweithiau eraill (megis Gramadeg Alawydd a'r Perganiedydd gan J. D. Jones) yn y cyfnod newydd. Am y rheswm hwn geilw'r cyfryw yn flaen-redegwyr (heralds). Yr oedd Ambrose Lloyd, "blaen-redegydd en einiedig y Gymru gerddorol oedd i ddod," er yn adnabyddus fel awdur uwchraddol ers blynyddoedd, yn awr wedi dod i'w lawn dwf gyda'i gantawd Gweddi Habaccuc, yn Eisteddfod Madog 1851. Dilynwyd hon gan Teyrnasoedd y Ddaear (ym Methesda) 1852, ac Anthem Manchester yn 1855.
Yn 1851 daeth awdur arall i'r amlwg yn dra sydyn ym mherson Owain Alaw, pan enillodd ar yr anthem Can Deborah a Barac Eisteddfod Rhuddlan; tra yn yr un flwyddyn dechreuodd y Parch. E. Stephen, Tanymarian, gyfansoddi Ystorm Tiberias, a gyhoeddwyd yn 1855, ac a gododd yr awdur i safle nad oedd yn ail i eiddo'r un o'r lleill.
Ond prif offeryn y deffroad cerddorol—y baner-gludydd, y proffwyd, a gariai faich y deffroad ar ei ysgwyddau ddydd a nos, ac a feddiennid yn llwyr gan ei ysbryd cyn iddo dorri allan yn gyffredinol, gan deithio i ddarlithio i bob cwr o'r wlad ar ei ran, a defnyddio'i ysgrifell ddiwyd yn ei achos, a'r hwn wedyn a gychwynnodd r Cerddor Cymreig i'w arwain, a'i buro—oedd Ieuan Gwyllt. Heblaw hyn, rhwng 1850 a 1859, bu'n partoi ei Lyfr Tonau, gan felly ieuo'r deffroad cerddorol â'r un crefyddol, a chynhyrchu chwyldro yn ein caniadaeth gysegredig. Y mae'r ffaith fod dwy fil ar bymtheg o gopïau wedi eu gwerthu ymhen pedair blynedd yn profi ei fod yn llyfr cyfaddas i'r amser.
Yr oedd prif ddiddordeb Ieuan yn ddiau mewn Cerddoriaeth gysegredig, er ei fod yn arbennig fel beirniad yn feistr ar ei holl ffurfiau; ond yn nhiriogaeth Cyfansoddiadaeth Gerddorol—a dyma'r peth mwyaf amlwg yn y cyfnod yr oedd y deffroad yn fwy canigol na dim arall. Cyfnod gwanwyn cerddoriaeth Cymru ydoedd; a ffurf fwyaf naturiol hunan-fynegiant yr ysbryd gwanwynol a gerddai drwy'r tir oedd y ganig i'r cerddor, a'r delyneg i'r bardd. "Daeth yr amser i'r adar ganu a chlywyd llais y durtur yn y tir." Yr oedd yn amser o nwyf a ffresni ieuanc, pryd y cenid heb ymdrech am ganu clych a tharo tant, am wanwyn a gwlithyn, am haf a rhosyn, am glws loer a swyn y nos, a nant y mynydd a hud y coedydd, a phopeth syml a swynol, ieuanc a hardd; pan oedd y meddwl wedi dod yn ol at burdeb a symlrwydd elfennol anian.
Cyrhaeddodd y deffroad gylch yr Eisteddfod, yn neilltuol ar ei hochr gerddorol, a chafodd Emlyn ei dynnu i'r cylch. Eto ni fyddai'n deg galw'r cyfnod hwn yn ei hanes yn un cystadleuol o ran ei brif nodwedd, er ei fod yn gystadleuol, ac yn ogyhyd â'i fywyd cystadleuol. Nid oedd cystadleuaeth ond arwedd ddigwyddiadol arno, yn dibynnu nid yn gymaint ar ei hanfodion a'i ysgogyddion mewnol ag ar y ffaith ei fod ef ei hun wedi ei eni yng Nghymru, ac wedi ei ddwyn, yn neilltuol ym Morgannwg a Cheltenham, y tu fewn i gylch apeliadau'r Eisteddfod at uchelgais cerddor ieuanc. Nid yw mor gywir dweyd ei fod ef wedi dewis yr Eisteddfod oherwydd ei hoffter at gystadleuaeth, ag yw dweyd fod yr Eisteddfod wedi ei alw drwy ei hoffter at gerddoriaeth i faes ei gornestau hi am yn agos i ugain mlynedd, ac yna i'w sedd feirniadol.
Y mae'r Eisteddfod yn feistres ddrwg yn hytrach nag yn forwyn dda, pan y mae uchelgais y cystadleuydd yn dechreu ac yn dibennu gyda'r wobr. Ond nid yw hyn yn wir am Emlyn hyd yn oed yn ei ddyddiau mwyaf uchelgeisiol a phybyr. Y mae'n ddiau ei fod, fel dynion ieuainc eraill, eisieu rhagori ac "ennill y dorch"; ond dengys ei lythyrau at gyfeillion, yn gystal â'n gwybodaeth am ehangder ei ddarlleniad a'i astudiaeth, fod ei uchelgais yn llawer uwch na hyn. Dengys ei gyfansoddiadau nad oedd ei burdeb cerddorol yn caniatau iddo goginio'r gân i foddio chwaeth y beirniad er mwyn gwobr, fel y sonnir fod beirdd y dyddiau hyn yn gwneuthur, drwy flasu eu cynhyrchion â sawyr o'r hen awduron. Gwyddom fod hyn yn ei olwg yn llygriad ar farddas a chân.
Ymddengys oddiwrth ei lythyrau hefyd na chyfansoddai ond tan ddylanwad ysbrydoliaeth. Dengys llythyrau ei gyfeillion cerddorol yr un peth. Am y rheswm hwn, tra na fyn Awen fawr yr oesoedd arddel y rhan fwyaf o gynhyrchion celfyddydol (made-to-order) yr Eisteddfod, y mae y rhan fwyaf o weithiau cerddorol y dyddiau hynny yn fyw o hyd. Help pwysig i hyn, yn ddiau, oedd y ffaith fod y cystadleuwyr yn cael dewis eu testunau a'u geiriau eu hunain, tra nad oedd ond y math ar gyfansoddiad a ofynnid yn cael ei nodi!
Symbyliadol ac hyfaddas i gyfnod twf y cystadleuydd mewn llên a chân yn unig oedd yr Eisteddfod yn ei olwg; felly pan gyrhaeddodd oedran gŵr (mewn cerdd) rhoddes heibio ei bethau bachgennaidd. Nid iawn dweyd ei fod yn coleddu syniadau addfed ei gyfnod olaf (Pennod XX) am swyddogaeth yr Eisteddfod o'r cychwyn; ond gyda bod ei brofiad yn ehangu, a'i ganfyddiad moesol yn ymloewi, fe ddaeth i'w coleddu, ac yn y diwedd gweithredodd yn unol â hwy.
Gwelir cwrs ei ddatblygiad yn y cyfeiriad hwn yn rhai o lythyrau ac ysgrifau y cyfnod hwn. Y mae'r llythyr borêaf o'i eiddo sydd gennym wedi ei ysgrifennu at ei gyfaill Mr. Dd. Lewis, Llanrhystyd, â'r hwn y daeth i gyffyrddiad yn Eisteddfod Caerfyrddin yn 1867.
Fy Hynaws Gyfaill,
Dyma fi eto, ers rhai wythnosau bellach, ymhell o "wlad mam a thad," a'm can o hyd "O! na chawn fy mhwrs yn llawn," etc. (fe wyr Talhaiarn y gweddill). Wel, ynte, i ddechreu,—a dechreu dipyn yn Largo ydyw, onide ?—gobeithio eich bod yn iach a chalonnog, ac yn cyfansoddi ei chalon hi (chwedl ni yr Hwntws). Mae'n debig eich bod yn ysgrifennu Canig i Porthmadog—felly finnau, ac y mae'n barod ers dyddiau, ond ei chopio—a dyna'r dasg drymaf gennyf. Yr wyf hefyd wedi newydd ysgrifennu anthem fechan i gystadleuaeth arall, a thua hanner dwsin o donau cynulleidfaol er pan ddychwelais. Ysgrifennais i Gaernarfon am rifyn o'r "Herald" yn cynnwys manylion cystadleuaeth "Y Chwarelwr," ond nid oedd un yn weddill—gadewch i mi gael y manylion oddiwrthych, ac efallai y gwnaf gyfansoddi Unawd a Chytgan bach. Mae defnyddiau Rhangân fechan Saesonaeg yn rhedeg yn fy mhen yn awr, fel nas gallaf wneud nemawr o ddim nes eu rhoddi ar ddu a gwyn. Anfynych iawn yr wyf yn ysgrifennu i eiriau Seisnig; yn wir, anaml iawn y mae barddoniaeth Seisnig yn fy nharo o gwbl: wedi'r holl ddwndwr, nid oes feirdd fel beirdd hen Walia!—eu coll pennaf yw prinder cyfaddasrwydd cerddorol eu cynyrchion, onide?
**** Ychydig iawn o'ch cyfansoddiadau chwi ydwyf wedi weld, yn enwedig eich Salm donau—dim ond un neu ddwy ar y goreu; hoffwn gael golwg ar ragor yn fawr.
Yr wyf wedi addaw beirniadu y ganiadaeth (a'r gerddoriaeth) yn Glyn Ebbwy y Nadolig nesaf, ac wedi hanner addaw, druan o honwyf, am y Nadolig dilynol, mewn man arall. Chwi welwch y caf ddigon i wneud o hyn i'r Nadolig: byddai yn dda iawn gan fy nghalon (a'm corfl) fod dipyn yn llonydd.
Rhowch air yn ol pan yn gyfleus, a faint fyd a fynnoch o'ch helynt chwi eich hun. Na fydded i ni fod yn ddieithr i'n gilydd. Mae gennyf atgofion pleserus o'n cydnabyddiaeth yng Nghaerfyrddin yr ydych yn cofio chwedl y "Cheltenham Chap"![5]
Eich cyfaill,
Dd. Emlyn Evans.
Dengys y llythyr hwn ei fod yn y dwymyn gystadleuol, ond nad oedd yn gallu ysgrifennu cerddoriaeth i eiriau heb gael ei "daro " ganddynt, ac fod meddylddrychau yn "rhedeg yn ei ben" ac yn ei orfodi i'w gosod i lawr ar "ddu a gwyn." Ac mor gyfeillgar yw'r llythyr nid llythyr un am ennill gwobr yn bennaf ydyw, gan nad yw'n celu dim oddiwrth ei gyfaill, nac yn disgwyl i'w gyfaill gadw dim oddiwrtho yntau. Ef enillodd ar y Ganig ym Mhorthmadog allan o 20 (gyda'i Wanwyn) ac ar Y Chwarelwr yn Nhalysarn. Cyhoeddwyd y ddau yn Y Cerddor Cymreig. Yr un lle a roddir i gystadleuaeth yn y cyfnod yn ol atgof ei gyfaill John Thomas amdano mor ddiweddar a'r flwyddyn 1902:—
Annwyl Emlyn,
Nis gallaf ddweyd pa mor dda oedd gennyf gael gair oddiwrthyt. Y mae gweled dy lawysgrif ar amlen llythyr yn gyrru rhyw deimlad drwy fy nghalon nad oes dim arall yn ei gynhyrchu. Yr oeddwn ar fedr ysgrifennu atat o hyd ac o hyd, ond fel y gwydaost bellach, nid yw hynny ond fy hen hanes. Teiniais yn fawr pan welais am farwolaeth dy annwyl dad. Daeth hen atgofion am yr oriau hyfryd a dreuliasom yn Cwmcoy (Pontgeri) yn fyw i'm cof—oriau melus odiaeth oedd y rheiny. Fel mae'r byd yn newid, onide? Ac mor werthfawr yw fod rhai o hyd yn aros. Onid oedd amser cystadlu ac ymgodymu mewn ysbryd cariadlawn yn felusach rywfodd na'r amser addfetach hyn? Amser oedd hwnnw pan yr oedd pethau cerddorol yn ymagor ac yn ymagor yn ogoneddus i'n meddyliau, a ninnau yn cael nefoedd o fwynhad yn yr olwg arnynt. Y mae rhyw swyn wedi mynd ar goll erbyn hyn.
****
Yr eiddot,
John.
Os rhannwn yr ail gyfnod yn hanes Emlyn i ddau (1860-69 ac 1870-79), yr oedd y blaenaf o'r rhain, yn neilltuol y blynyddoedd a dreuliodd yn Cheltenham o 1863 ymlaen, y mwyaf tyfol a phybyr yn ei hanes. Ond gorweithiodd ei hunan: ymdaflodd gyda'r fath eiddgarwch, nid yn unig i gyfansoddi, ond hefyd i astudio a darllen, gan gwtogi oriau cwsg, nes amharu ei iechyd yn fawr. Y pryd hwn yr ymaflodd y gastralgia blin ynddo, yr hwn a'i dilynodd weddill ei oes.
Yr oedd ei wir fywyd yn guddiedig; ac nid oedd ei gystadleuaethau eisteddfodol ond ymgyrchoedd i fyd hanes allan o'r byd dirgel lle'r oedd ei brif ddiddordeb; ac os am gael syniad cywir amdano y mae'n rhaid i'r darllenydd feddwl, nid am ei lwyddiant fel cystadleuydd, ond am ddyn ieuanc o draper, wedi oriau hirion y siop, yn treulio'i oriau hamdden—os iawn sôn am "hamdden," pan âi i gysgu am un ar gloch y bore, gan godi eilwaith am chwech—yng nghwmni prif feistri cerdd Cymru, Lloegr, yr Eidal a'r Almaen. Dywed yr athronydd Hegel mewn un man fod ein bywyd allanol o bwys nid yn gymaint ynddo'i hunan, gan mai peiriannol, ac felly ar-wynebol ydyw o ran ei natur, ond am ei fod yn dangos y fath ydyw ein cyflwr mewnol. Yn yr un modd, y mae'n rhaid cysylltu y cyfnod yma yn hanes ein gwrthrych yn neilltuol â'r Eisteddfod, am mai ar ei maes hi y caffai gyfle i ddangos ei gynnydd yn y dirgel a'r dwfn—nid am ei bod, mewn modd yn y byd, yn dihysbyddu holl gyfoeth ac ystyr ei egnion. Estynnodd ei gysylltiad â'r Eisteddfod Genedlaethol dros dri chyfnod yn ei hanes hi, sef y gyfres a gychwynnwyd yn Aberdâr yn 1861, dan yr enw "Yr Eisteddfod" y gyfres a gynhaliwyd yn y Gogledd rhwng 1870 ac 1880, dan yr enw "Yr Eisteddfod Genedlaethol "; a'r gyfres a ddechreuwyd ym Merthyr yn 1881, pan ail—unodd De a Gogledd i gynnal yr Eisteddfod ar yn ail. Cystadleuydd ydoedd yn y cyfnod cyntaf a'r ail, a beirniad yn yr olaf.
Ond fel na ellir deall myfyriwr yn llawn ond yn amgylchfyd ei athrawon a'i gydysgolheigion, i'w weld yntau yn iawn yn ystod y cyfnod hwn, y mae'n rhaid rhoddi sylw yn y fan hon i'w feirniaid a'i gyd-ymgeiswyr.
VII.
EI FEISTRI.
YN ei erthygl ar ddatblygiad cerddoriaeth yng Nghymru, enwa bedrawd o gerddorion Cymreig oedd fwyaf blaenllaw yn ystod dechreu cyfnod cerddorol yr Eisteddfod "wrth draed y rhai yr eisteddai y nifer fwyaf o'n prif gerddorion presennol" (1890), sef Ambrose Lloyd, Owain Aaw, Ieuan Gwyllt, a Thanymarian. Yn ffodus y mae gennym ei sylwadau ef ei hunan arnynt—sylwadau sydd yn mynegi ei werthfawrogiad ohonynt, ac, yn anuniongyrchol, ei ddyled iddynt.
Yr ydym eisoes wedi cael ei sylwadau ar Ieuan Gwyllt, a gyfrifai'n fwy o athro na'r lleill, a'i brif athro ei hunan.
Am Ambrose Lloyd, dywed:—
"I bawb sy'n caru Cymru nid oes berygl yr â ei enw yn anghof, na'i gyfansoddiadau tra parhao'r Gymraeg, ac, ysywaeth, tra y cenir cerddoriaeth bur a choeth. . . .
"Yn nosbarth y Dôn (gynulleidfaol) y mae'n ddiamheuol ei fod uwchlaw neb o'i gydoeswyr yng Nghymru, os nad Lloegr hefyd, nid yn unig yn rhif ei gyfansoddiadau, ond hefyd yn eu gwerth. Nid ydym yn meddwl ein bod yn euog o ormodaeth pan y traethwn ein cred y bydd canu ar y Groeswen, Wyddgrug, Eifionydd, ac eraill, tra y bydd moli'r Goruchaf mewn Salm ac Emyn. Saif ar ben y rhestr hefyd fel anthemydd, a chanigydd. Anodd, os nad amhosibl, fyddai rhagori ar "Y Blodeuyn Olaf" ym mhurdeb ei harddull, llyfnder a thlysni ei melodion a'i chynganeddion, a hapusder ei theimlad cerddorol."
Mewn cyfeiriad o'i eiddo at gofgolofn Ambrose Lloyd dywed:—
"Yn ein gwibdaith ar y cyfandir y llynedd (1874) llwyddasom ar ol llawer o drafferth, ac mewn cryn lesgedd, i ddyfod o hyd i gladdfa neilltuol yn Vieana, ac yn y gladdfa honno, o hyd i feddfaen, ar yr hwn yr oedd yr enw Beethoven"; a braidd. na chredwn mai dilyn yr un llwybr—dim mwy na dim llai fyddai fwyaf priodol ynglyn a'r dyn a'r cerddor John Ambrose Lloyd."
Fe sylwa'r darllenydd ar y lle a ddyry i'r "dyn." Wele rai o'i eiriau ar Owain Alaw:—
"O bosibl mai Owain Alaw, yr hwn oedd yn gerddor proffeswrol, oedd y cyntaf i ddanfon i fewn ei gyfansoddiadau i'r cystadleuon eisteddfodol gyda chyfeiliant offerynnol iddynt.
"Torrodd dir newydd, ac unwaith y dengys y blaengloddiwr y llwybr iawn, y mae eraill yn bur sicr o'i ganlyn, fel ag yn yr amgylchiad hwn. I Owain Alaw hefyd y perthyn yr anrhydedd o fod yn awdwr ein Cantawd fydol gyntaf, Tywysog Cymru' os nad yn wir, y Gantawd briodol gyntaf oll, gan y cyfranoga Gweddi Habaccuc' J. A. Lloyd yn fwy o ffurf y Motett, neu yr Anthem eglwysig ddatblygedig. O ran purdeb arddull y mae anthemau eglwysig Owain Alaw ymysg ein goreuon, tra y dengys rhai ohonynt—' Y Ddaeargryn' e.g.—fod yr awdur yn meddu ar wythien ddramayddol o gryn nerth."
"Yr oedd anthemau y ddau awdwr hyn (A. Lloyd ac O. Alaw), a thonau y blaenaf, yn anfesurol uwch na dim a feddai Cymru o'r blaen; yr oeddynt yn ddatguddiadau newydd i'r wlad, a buont o gynhorthwy mawr yn ein diwylliad cerddorol, gan mai yr unig un o'r cyfansoddwyr blaenorol, gweithiau yr hwn a ddeuai yn agos atynt, oedd Richard Mills."
Tanymarian eto:—
"Y mae yr olaf hwn yn sefyll ar ei ben ei hun yn hanes ein cerddoriaeth, fel awdur y gwaith datblygedig cyntaf mewn ffurf o oratorio, gan mai ei draithgan Ystorm Tiberias oedd y gyntaf a feddem, a'r unig un o'r cyfryw ddosbarth am flynyddau lawer. Y mae y gwaith hwn yn un tra nodedig, pan ystyriwn yr amgylchiadau dan y rhai y'i cyfansoddwyd,—sefyllfa isel cerddoriaeth yn ein mysg ar y pryd (1851) a'r ffaith nad oedd yr awdur ond dyn ieuanc hunan-ddysgedig" (Dywed yn y Musical Herald nad oedd gwaith Charlotte Brontë yn cyfansoddi Jane Eyre' yng nghanol rhosdiroedd Yorkshire yn fwy hynod na hyn). Fel Beirniad, nid oedd yn proffesu bod yn fanwl—i drafferthu llawer gyda'r details (chwedl yntau)—ond gwelai bwynt awengar, mewn cyfansoddiad neu berfformiad ar darawiad amrant, tra ei gâs-beth oedd rhyw dead-level barchus, ddi-dda, ddi-ddrwg."
Wrth gymharu (neu gyferbynnu) Tanymarian ag Ieuan Gwyllt, dywed:—
"Gyda ni yng Nghymru nid oes neb wedi codi yn uwch na Ieuan Gwyllt, fel llenor a beirniad cerddorol. Mewn cyferbyniad iddo safai Tanymarian, yr hwn, er y gallai ysgrifennu erthyglau a beirniadaethau darllenadwy a doniol, oeddynt yn amddifad bron yn hollol o bopeth gwyddorol. Efrydydd diwyd a Beirniadydd manwl a fuasai Ieuan Gwyllt hyd y dydd hwn, pe arbedasid ei fywyd; ond Bardd y gan oedd ac a fuasai Tanymarian, yn byw ym myd darfelydd a chrebwyll, ac yn barod bob amser i ledu ei ddwylaw os y deuai 'deddfau dynol' ar ei ffordd, gan eu chwalu yn ddiseremoni. Efallai y gellir ystyried Ambrose Lloyd fel cyfuniad o'r ddau, y gwyddorydd a'r celfyddwr, ond pa un ai drwy natur neu astudiaeth nis gwyddom, ac nid oes gennym unrhyw ysgrifeniadau o'i eiddo ar gael i'n cyfarwyddo ar y cwestiwn. Ond diameu mai y cyfuniad hapus hwnnw yw y goreu a'r mwyaf diogel i'r cerddor ieuanc ymdrechu ei gyrraedd."
Wedi cael ei farn ef am ei feistri, nid anniddorol fyddai cael eu barn hwythau amdano yntau; ac y mae eu barn hwy am ei gyfansoddiadau yn well amlygiad o'u hansawdd yn gymharol i'r dyddiau hynny nag unrhyw brisiad ohonynt gan feirniaid diweddarach, pan mae'r safon wedi newid.
Yn ei ad-drem gerddorol ar y flwyddyn 1867 ysgrifenna Ieuan Gwyllt yn Y Cerddor Cymreig:
Yng Nghymru ni chaed dim pwysig o'r newydd; ond llwyddodd un cerddor ieuanc i sicrhau ei le yn y dosbarth blaenaf o gyfansoddwyr ein gwlad. Gwyr y craffus mai cyfeirio yr ydym at Mr. David Emlyn Evans (Dewi Emlyn)."
Wele ran o'i feirniadaeth ar y Ganig, a'r Gân a Chytgan, y cyfeiriwyd atynt yn y bennod flaenorol:—
"Y Ganig:—Brwynog.—Y mae hon yn ganig ddestlus, ysgolheigaidd, a gwreiddiol iawn. Testyn yr awdwr hwn eto yw 'Y Gwanwyn.' Y mae newydd-deb y cyfansoddiad hwn o ran ei felodedd, ei amrywiaethau mydryddol, ei gyfuniadau a'i liwiadau cynghaneddol yn dra hudoliaethus. Ac ar gyfrif y pethau hyn, yr ydym yn rhestru 'Brwynog' ym mlaenaf yn y gystadleuaeth galed, orchestol hon.
"Ar ol mynd trwy y cyfansoddiadau gyda gofal a manylrwydd, gallwn ddweyd na fuom yn beirniadu mewn un gystadleuaeth fwy gorchestol erioed. Yn wir nid yw y blaen a enillodd Brwynog ar y rhai hyn ond ychydig: ond nid ychydig o gamp oedd enill y flaenoriaeth o gwbl pryd yr oedd cewri mor rymus yn y rhedegfa."
Cân a Chytgan "Y Chwarelwr ":—
Franz Schubert.— . . . Mae yr awdur yn ymafaelyd yn ei waith fel un ag sydd yn deall ac yn teimlo ei destyn. . . . Heblaw y dewrder a'r gwroldeb sydd yn nodweddu y chwarelwr, mae y cyfansoddiad hwn yn arliwio yn helaethach a mwy llwyddiannus nag un o'r lleill y boddineb y mae ynddo yn a chyda'i waith. Mae y tair elfen yn cydredeg mewn modd tra hapus trwy yr holl gyfansoddiad, ac ymddengys nad ydyw llaw gyfarwydd y cerddor ddim un amser mewn diffyg am ddefnyddiau i ddwyn allan ddelweddau ei ddarfelydd."
Y mae hyn yn glod uchel i gerddor ieuanc 24ain oed.
Symudwn ymlaen bedair blynedd a chawn feirniadaeth Tanymarian a Phencerdd Gwalia ar ei Ymdeithdon fuddugol yn Eisteddfod Madog:—
"Teimlir ynni milwrol ac ysbryd gwronaidd ymhob brawddeg; yn sicr, dyma y cyfansoddiad llawnaf o arwedd ymdeithdon, y mwyaf cyfoethog a chlasurol ei gynghanedd, y mwyaf fresh a melodaidd ei beroriaeth, a'r mwyaf hudolus a gorthrechol ei ddylanwad o'r oll ohonynt."
Ym Mhwllheli cawn y triawd, Owain Alaw, Pencerdd Gwalia ac Ieuan Gwyllt, yn gwobrwyo ei Rangan yn y geiriau hyn
"Dyma waith cerddor diwylliedig, meddwl a darfelydd barddonol, gwreiddioldeb neilltuol. Y mae y miwsig wedi ei uno a chân fechan dlos gan ein cydwladwr talentog Mynyddog, yn dwyn y teitl, Mae natur lan yn gân i gyd' gyda chyfieithiad hynod farddonol gan Mr. Titus Lewis. Y mae y cyfansoddiad hwn mor bell uwchlaw unrhyw un o'r lleill, fel nad oes gennym unrhyw amheuaeth i ddyfarnu y wobr iddo."
Gwelir mai'r nodweddion a gymeradwyir yw gwreiddioldeb, newydd-deb melodedd, a chyfoeth clasurol y gynghanedd. Yr oedd y pryd hwnnw, y mae'n amlwg, yn cyfuno dawn wreiddiol i greu â llawer o ddiwylliant a choethder.
Yn ei ddarlith ar Emlyn gwna Mr. Dd. Jenkins y pedrawd a enwir uchod yn bumawd, drwy ychwanegu Pencerdd Gwalia atynt. Dyna'r hyn a ddywed Emlyn am yr olaf:
"Er nas gellir dweyd i'w gyfansoddiadau effeithio ar Gerddoriaeth Gymreig yn uniongyrchol, gwnaeth. lawer er mwyn gwneud ein halawon cenedlaethol yn adnabyddus i'r byd, ac yr oedd yn Gymro twymgalon," Daeth Emlyn dan ei ddylanwad ef a Mr. Brinley Richards yn fwyaf neilltuol drwy eu gwaith ynglŷn â'n halawon cenedlaethol, a bu'n gohebu â hwy am flynyddoedd.
Y mae y llythyr a ganlyn oddiwrth y Pencerdd, a ddewisir o fysg amryw oddiwrtho, yn dangos eu perthynas gyfeillgar â'i gilydd,—dengys hefyd fod y cyn-ddisgybl erbyn hyn yn cael ei gyfrif yn frawd.
Fy Annwyl Emlyn,
Y mae fy sylw wedi ei alw at eich nodiadau caredig ar fy nghwrs cerddorol yn y South Wales Weekly News; ac yr wyf yn brysio i ddiolch i chwi yn galonnog am natur gyfeillgar a chanmoliaethus eich sylwadau.
Yr ydym wedi bod yn gyfeillion am lawer o flynyddoedd, ac er mai anaml y cwrddwn yn awr, yr wyf yn gwerthfawrogi eich cyfeillgarwch gymaint ag wyf yn edmygu eich talent fawr.
Y mae ein cydoeswyr (contemporaries) yn pasio ymaith un ar ol y llall, ond hyderaf y cewch chwi a minnau ein harbed i lafurio yng ngwasanaeth ein celfyddyd, ac annwyl wlad ein genedigaeth.
Gyda chofion cynnes atoch chwi a Mrs. Evans,
Yr eiddoch fyth yn ffyddlon,
John Thomas.
Dengys ei ysgrifau ei fod hefyd yn mawr werthfawrogi gwasanaeth J. D. Jones, Hafrenydd, Tavalaw, ac eraill, i gerddoriaeth Gymreig; ond nid oeddynt hwy yn gallu rhoddi nemor gymorth iddo yn y moroedd newydd yr ymwthiai iddynt yn awr.
Ond cafodd yr help a'r ysbrydoliaeth bellach a geisiai, mor bell ag y gallai astudiaeth galed eu dwyn iddo, yng ngweithiau y prif feistri Ellmynig. Gwelsom ei fod wedi ei ddwyn i gyffyrddiad â rhai o'u gweithiau yng nghasgliadau Hafrenydd, a'i fod wedi clywed rhai o'r prif oratorïau—eiddo Handel yn bennaf —yn cael eu perfformio ym Morgannwg;—yn wir, ei fod wedi cymryd rhan yn y perfformiad ei hunan; ond yn awr y daeth i fod yn astudiwr deallus a chyson ohonynt.
Ni ellir bod yn sicr ynghylch cwrs ei astudiaeth; ond y mae'n amlwg fod amgylchiadau yn peri iddo gychwyn gyda Handel. Tebig y gelir edrych ar a ganlyn fel yn cynnwys elfen hunan-fywgraffyddol:
"Diolch i lafur y Millsiaid, a'u cyd-drefwr Hafrenydd, ac o bosibl eraill, yr oedd nifer o gyd-ganau Handel, gyda geiriau Cymraeg, wedi eu gwneud yn adnabyddus i'r genedl yn y bedwaredd ddeng-mlwydd o'r ganrif; tua'r un adeg daeth y Mri. Novello a'u hargraffiadau o'r oratoriau; yr hyn a gafodd ddylanwad eglur ar ein cantorion yn gystal a'n cyfansoddwyr, fel y profir yn amlwg gan weithiau Lloyd, Owen, Stephen, ac eraill. I raddau helaeth yr ydym wedi bod yn byw am flynyddau ar yr hen Sacson gogoneddus, ac wedi pesgi hefyd, os gallwn farnu oddiwrth ymddangosiadau."
Geilw Mozart:—
"Y cerddor mwyaf nefanedig a welodd y byd erioed," "un o ymherawdwyr y gelfyddyd ddwyfol," "gweithiau anfarwol yr hwn sydd mewn ystyr mor newydd ac mor ddigyffelyb yn awr ag oeddynt ganmlynedd yn ol."
Gallem feddwl mai'n ddiweddarach y daeth i werthfawrogi Beethoven a Bach. Y mae Beethoven hefyd. yn "brif ganiedydd yr oesau "; a chyda golwg ar Bach, ai nid yw a ganlyn yn ddarn o hunangofiant?
"Yn Bach y mae y sylfaen fwyaf cadarn i chwaeth gerddorol dda i'w chael. Fe all fod ychydig yn anodd i'w hadeiladu; ond unwaith yr adeiledir hi nis gall un ymdrech o eiddo y gelyn syth ei thynnu i lawr a'i malurio. I'r cyhoedd, efallai, y mae Bach yn fath o beth 'sa' draw,' eto ar ol ychydig efrydiaeth, y mae unrhyw efrydydd cerddorol sydd o ddifrif gyda'i wersi yn dysgu ei hoffi uwchlaw ymron bopeth. Hwyrach yr aiff blynyddau heibio . . . (ond) unwaith daw y cariad hwn at Bach i fodolaeth, y mae diddanwch sylweddol i'w gael bob amser gan y gweithiwr, yn y wybodaeth nas gall nac amser na defod byth ddwyn oddiarno na llwydo yr amrywiaeth di—ddiwedd sydd yng ngweithiau y gwrth—bwyntydd mawr. . . . Bydd i efydydd doeth, neu un a gafodd addysg dda, astudio gweithiau Bach o'r dechreu i'w diwedd." . . .
Eto, ar y cyfan, cafodd Mendelssohn gymaint o ddylanwad ar ei ddelfryd cerddorol a'r un edmygai ef—fel Ambrose Lloyd ac Ieuan Gwyllt—fel dyn yn gystal ag fel cerddor.
Ni weithiodd neb yn fwy llwyr a mwy dihunanol yn y winllan gerddorol na Mendelssohn, a hynny pan yr oedd cymaint yn ei sefyllfa a'i amgylchiadau i'w ddenu i gyfeiliorni. Er ei fod yn un o'r ychydig gerddorion a aned a llwy arian yn eu genau, ni syflodd yr un foment oddiwrth y pur a'r perffaith; ond gwnaeth ei oreu teg i ddilyn ei hoff gelfyddyd yn ysbryd iselfrydig y gwir awenydd, gan droi allan waith oedd yn onest a thrwyadl bob amser." Pe gofynnid iddo am eu safle gymharol, ei ateb fyddai "fod gwahanol bersonau wedi eu cynysgaeddu â gwahanol ddoniau ac fod yn y byd le i'r naill fel llall." Ymddengys ei fod yn dyfynnu gyda chymeradwyaeth yr hyn a ddywed Rubinstein:
"Heulwen dragwyddol cerddoriaeth dy enw yw Mozart! ond y mae dynoliaeth yn sychedu am ystorm; teimla y gall fynd yn sych a chraslyd yn nhesni parhaol Haydn-Mozart; y mae yn awyddus am draethu ei theimladau o ddifrif, hiraetha am wneud gwaith; â yn ddramataidd; clywir adseiniau y chwyldroad Ffrengig: ymddengys Beethoven!
"Aeth Beethoven a ni yn ei ehediadau i fyny at y ser, ond oddi isod y mae cân yn adseinio. "O deuwch yma, y mae y ddaear hefyd yn hyfryd' —cenir y gan hon gan Schubert."
Eto, prin y tybiwn ei fod yn fodlon i waith Rubinstein yn cymharu Bach i Eglwys Gadeiriol tra nad yw Handel ond Plas Brenhinol.
Yr oedd y pryd hwn hefyd—a pharhaodd i fod—yn edmygwr mawr o'r Canigwyr a'r Anthemwyr Seisnig. Yr oedd yn dra chydnabyddus ag ysgol yr Eidal, ond nid ymddengys fod ei gydrywdeb (affinity) â hi yn gymaint ag ydoedd ag eiddo'r Ellmyn. Dengys y daflen o'r gweithiau a adawodd i'r Llyfrgell Genedlaethol ei fod yn gyfarwydd â holl ysgolion a ffurfiau cân, ond nid oes gennym ddefnyddiau i ddilyn ei lwybrau na'i amserau'n mhellach yn ystod y cyfnod hwn.
Nid oes gan ei hen gyfaill John Thomas ddim i'w ddweyd yn bendant ynghylch meysydd ei astudiaeth, yn unig cofia fod ei gyd—gerddorion, ar ymddangosiad ei gyfansoddiadau cyntaf yn r Cerddor Cymreig, yn teimlo'i fod wedi pori mewn meysydd dieithr iddynt hwy.
VIII.
EI GYMDEITHION.
AR faes yr Eisteddfod, daeth i gwmni arall heblaw un ei feirniaid, sef un o gerddorion ieuainc o allu eithriadol, oedd fel yntau yn ymwthio i mewn i gyfrinion Cerdd, ac fel yntau yn "flaen ffrwyth y Gymru gerddorol oedd i ddod"; rhai fu'n cyfoethogi cerddoriaeth eu gwlad am flynyddoedd wedyn, ac a ddaethanti fod feirniaid ac arweinwyr yr oes nesaf.
Fel hyn y sieryd yr Athro Dd. Jenkins amdanynt —
"Ystyriwn mai adeg euraidd yr hen Gerddor Cymreig oedd yr adeg honno pan oedd cyfansoddiadau Gwilym Gwent, Alaw Ddu, John Thomas, Dr. Parry, ac Emlyn Evans, yn dod allan y naill ar ol y llall. Fe fu'r pump cyfansoddwr hyn yn cadw y maes iddynt eu hunain, naill ai yn y cylch cystadleuol, neu yn Y Cerddor Cymreig heb neb yn dod i ymyraeth a'u safle. Yr oedd Ambrose Lloyd, Owain Alaw, Tanymarian, D. Lewis, Llanrhystyd, ac Fos Llechid, wedi ymddangos o'u blaen. Credwn mai yn adeg y pump hyn y daeth canu corawl Cymru yn boblogaidd; ac y mae yn glod i'r arweinyddion oedd yn flaenllaw yr adeg honno eu bod wedi cymryd i fyny y darnau a gyfansoddwyd ganddynt, yn ganigau, rhanganau, ac ambell i anthem a chytgan.
"Yr oedd awyddfryd yr adeg honno i ddysgu darnau newyddion, ac y mae gennym gof byw, fel yr edrychem ymlaen at r Gerddor er mwyn gweled gwaith pwy a pheth fyddai nodwedd y darn; ac mor aiddgar y cymerid ef i fyny at eisteddfod neu gyngherdd. Dim ond yn Y Cerddor yr edrychid am, ac y ceid, cerddoriaeth newydd yr adeg honno, a daeth y pump allan fel 'twr o ser' yn y ffurfafen, bron yr un pryd, ac i ganlyn eu gilydd, fel na lwyddodd neb am flynyddau lawer i ddringo i fyny atynt. Aml i ymgais wnaed i'w curo mewn cystadleuaeth, neu gynhyrchu rhywbeth a fuasai'n deilwng i'w osod ochr yn ochr a'u cynyrchion. Gwir eu bod yn amrywio rhyw gymaint, ac i rai ohonynt daro allan i gyfeiriadau newyddion, eto, hwy oedd yn teyrnasu yn y byd cerddorol yr adeg a nodwyd, a chwith gennym fod tri o'r pump wedi ein gadael (1904), ond da gennym fod dau yn aros i oleuo r llwybr, ac i gyfarwyddo y rhai sydd yn dilyn, a hir y caffont iechyd barhau yn y gwaith.
"Buom yn edmygydd mawr ohonynt am flynyddau, ac yn eu canlyn 'megis o hirbell' a gobaith gwan oedd dod yn agos atynt, hyd nes i'r ganig a'r rhangan ddechreu mynd allan o arferiad, ac i'r cytganau i leisiau meibion a'r cantawdau ddod i fwy o fri. Nid yw o bwys yn awr pa rai ohonynt ddechreuodd droi at y ffurfiau hyn, ond yn raddol y gwnaed hynny. Byth ar ol y cyfnod yna, y mae ein cyfansoddwyr o ryw werth wedi dod ger bron yn anniben ac heb drefn, ambell i seren yma a thraw ac ymhell oddiwrth ei gilydd."
Emlyn oedd yr olaf a'r ieuengaf i ymddangos yn y "twr sêr." Yr oedd Gwilym Gwent, Alaw Ddu, a John Thomas wedi codi dros y gorwel ers rhai blynyddoedd. Yn Eisteddfod Abertawe yn 1863, fflachiodd Joseph Parry i'w plith gyda disgleirdeb mawr, ac wedyn yn Llandudno yn 1864.
"Yr oedd hyn," meddai Emlyn, "cyn ein cyfnod eisteddfodol ni." Cyfeirir bid siwr at yr Eisteddfod Genedlaethol. Ond yn Eisteddfod Aberystwyth yn 1865 ymddengys yntau. Yno cynygid gwobr am y tair Canig goreu. Enillwyd y wobr flaenaf gan Gwilym Gwent allan o 27 o ymgeiswyr, a rhannwyd yr ail rhwng Gwilym ac Emlyn (Dewi Emlyn Cheltenham yn ol y Cerddor Cymreig). Yr oedd yno wobr hefyd am y Dôn Gynulleidfaol oreu. Ymddengys fod cyfansoddi tôn y pryd hwnnw yn cael ei gyfrif yn beth mor rhwydd a gwau englyn yn awr, canys cystadleuodd 148! Enillwyd y wobr flaenaf gan Dd. Lewis, Llanrhystyd, a'r ail gan Emlyn. Yn Eisteddfod Castellnedd yn 1866 rhannwyd y wobr am y Gytgan oreu i bum llais rhwng Gwilym Gwent ac yntau, tra y daeth ef allan ymlaenaf am y Ganig oreu yng Nghaerfyrddin y flwyddyn ddilynol. Yma y daeth i gyffyrddiad personol gyntaf â'i gyd-gystadleuwyr, ag eithrio John Thomas, yr hwn a adwaenai o'r blaen. Yr oedd ei ymddangosiad ieuanc a bachgennaidd braidd yn fraw i'w frodyr. Yn y cysylltiad hwn y mae'r nodyn a ganlyn oddiwrth Dafydd Morgannwg yn ddiddorol:—
5 Llantwit St.,
Cardiff.
31/8/1902.
"Anwyl Emlyn,
"Yr wyf yn wir ddiolchgar i chwi am eich llythyr caredig a chyflawn.
"Fe ddichon eich bod yn gwybod fod Telynog, SymudoddGwilym Gwent a minnau, fel tri brawd. mudodd Gwilym o Rhymni i'r Cwmbach, Aberdâr, cyn diwedd 1861; ac yno yr oedd Telynog yn byw. Yr oedd Gwent yn beirniadu cyfansoddiadau cerddorol mewn Eisteddfod Nadolig 1861; ac y mae ei feirniadaeth yn fy meddiant, wedi ei dyddio Cwmbach Rhag. 17eg, 1861.' Yr wyf fi dan yr argraff mai yn 1862 y cyfansoddodd 'Yr Haf,' ond ni wnawn lw ar hynny. Lled debig ei fod, fel y dywedwch, yn y gystadleuaeth yn Abertawe yn 1863.
"Yr wyf yn cofio yn dda ei fod ef, a'r Cymro Gwyllt, a minnau, gyda'n gilydd yn Eisteddfod Caerfyrddin; ac os nad yw'm cof yn pallu, cafodd Gwilym ei faeddu gennych chwi. Modd bynnag, yr wyf yn cofio ei frawddeg wrthyf am danoch gystal a phe buasai yn ei dweyd yn awr yn fy nghlyw, a bydd hyn yn newydd i chwi: Wir, Dafydd, un bach da yw'r Emlyn yna, ond lled ifanc yw e' eto, i ymladd a hen geilogod.' Dyna hi, fel ag y dywedwyd hi. Wrth gwrs, nid yw y gair 'bach' yn yr 'un bach da' yn golygu un bychan, ond gwyddoch yr arferir ef o anwyldeb a pharch mewn ymadroddion cyffredin ym Morganwg a Mynwy; a dyna yr ystyr roddai Gwilym iddo.
Cofion anwyl a pharchus,
Dafydd Morganwg."
Pa ffugr bynnag a ddewiswn—"sêr" neu "geiliogod" —cafodd ef ei hun yn eu plith yn dra ieuanc; fel y dywed Mr. Jenkins, nid camp bach mo hynny. Gelwir ambell i flwyddyn yn ein prif golegau yn "flwyddyn fawr," pan y mae nifer o'r ysgolheigion yn gwbl deilwng o fod yn flaenaf ac yn rhai a fuasai'n flaenaf flynyddoedd eraill; a chyfnod "mawr" yn hanes cyfansoddiadaeth gerddorol yr Eisteddfod oedd y cyfnod hwn. Nid amcanwn ddilyn ei gwrs cystadleuol ymhellach na dweyd iddo ennill tua 66 o wobrwyon yn ystod rhyw ddwsin o flynyddoedd. Y mae'n deg cofnodi hyn, megis ag y rhoddir hanes llwyddiant athrofâol gwŷr eraill wedi cael manteision gwell cystadleuaeth eisteddfodol oedd yn ffurfio agwedd arholiadol cwrs y cerddor ieuanc yng Nghymru y pryd hwnnw, ac y mae'n eglur iddo basio'i arholiadau'n llwyddiannus a chydag anrhydedd, gan ennill cymrodoriaeth (fellowship) ymysg y goreuon. Y mae'n iawn cofnodi hyn; ond dyma'r hyn y dymunir ei bwysleisio: iddo gael ei alw i amlygrwydd arbennig mewn cwmni cydnaws gan gyfnod neilltuol o adfywiad yn hanes cerddoriaeth Cymru; iddo dreulio tymor ei brentisiaeth yn selog ac egnïol, ac felly bartoi ei hun ar gyfer cyfnod o wasanaeth lletach i'r oes nesaf; ac fel y dilynwyd J. Williams, J. Ellis, a D. S. Morgan, gan Mills a'i gyfoedion, a hwythau gan Ambrose Lloyd, Owain Alaw, Ieuan Gwyllt, —a Thanymarian, felly iddo yntau ddod yn y cwmni uchod—yng ngeiriau Mr. Harry Evans—yn "faner-gludydd" cerddorol ei oes.
Un o'r pethau hyfrytaf, ynglŷn â'r cmwni hwn o fechgyn athrylithgar, oedd y wedd gyfeillgar—yn gystal â gwladgar a cherddgar—oedd iddo. Parai cynhesrwydd y cyfnod, a'u hyblygrwydd ieuanc hwythau, eu bod yn cael eu hasio wrth ei gilydd—lle nad oedd hunanoldeb a balchter yn ormod i ystwythder cyfeillgar. Y mae hyn yn beth hyfryd iawn, pan gofiwn eu bod yn cyson gystadlu â'i gilydd.
Gwelir ysbryd y cwmni a'r cyfnod yn y llythyrau a ganlyn at Mr. Dd. Lewis, Llanrhystyd. Er y gesyd yr Athro Jenkins Mr. Lewis yn y cyfnod blaenorol, safai mewn gwirionedd rhwng y ddau: bu'n gystadleuydd llwyddiannus ym mlynyddoedd cyntaf y deffroad a pharhâodd ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth, a'i ohebiaeth ag Emlyn, hyd y diwedd. Dengys y llythyrau hyn ei fod yn un diymhongar iawn, heb fwy o hunan-hyder yn ei ysbryd nag o iechyd yn ei gorff.
Ysgrifennwyd yr un a ganlyn o fewn pythefnos i'r un a roddwyd yn y bennod flaenorol:—
126 High St.,
Cheltenham.
6 Tach., 67.
Gyfaill Hynaws,
Diolch lawer am eich llythyr llawn diddordeb. Peidiwch a disgwyl gormod wrthyf fi efo cerddoriaeth, ond bydded gennych fwy o ffydd yn eich galluoedd eich hun, y rhai, yn sicr, ydynt fwy nac ychydig o lawer. Digon gwael yw'm iechyd innau er pan ddychwelais yma: mae fy meddyg caredig yn dymuno arnaf beidio astudio na chyfansoddi dim am dymor o leiaf. Pa fodd mae copio y darnau wyf wedi gyfansoddi erbyn y Nadolig nis gwn. Mae anthem a thôn yng Nghwmafon, ond ni wobrwyir yr absennol: bob tro yr wyf wedi cystadlu yno yr wyf wedi bod yn fuddugol, ond dim o'r gwobrau a gefais erioed!
Tôn gynulleidfâol sydd yng Nglyn Ebbwy, ond gan mai fi yw y beirniad, esgusodwch fi am roddi ond cyfeiriad yr Ysg.
Methusalem Lewis, etc.
Ysgrifennwch air ataf pan y caffoch hamdden a thuedd, ac ar ol y Nadolig mi a yrraf linnell atoch eto.
Bachgen rhagorol, caredig, talentog, a diymffrost yw ein cyfaill o Blaenanerch, ond rhaid i chwi ei ddwrdio am ymhel â Barddoniaeth, a gadael Cerddoriaeth ar ei hanner!
Llwyr wellhaed eich iechyd yn fuan,
Eich cyfaill
D. Emlyn Evans.
Y mae'r nesaf yn ddiddorol ar amryw gyfrifon:
Cheltenham,
10 Chwef., 68.
Fy Hynaws Gyfaill,
Yr wyf wedi addaw i mi fy hun ysgrifennu gair neu ddau atoch ers dyddiau, ond hyd yn hyn wedi methu hepgor amser—nid am fy mod wedi bod rhyw brysur iawn chwaith, canys oddiar y Nadolig nid wyf wedi cyfansoddi dim yn neilltuol oddieithr rhyw fân feddyliau' yma ac acw (ag eithrio yn wir Ranganau erbyn Rhuthyn). Efallai fod ychydig ddiogi arnaf hefyd!
Wel, yn gyntaf, chwi wyddoch, mae'n debig, mai Blaenanerch aeth a'r Dôn yng Nglyn Ebbwy—'W. T. Best' yn ail. Hoffem i chwi yrru at y cerddor o Blaenanerch am gopi o'r Dôn. Yr oedd symlrwydd ac arddull Eglwysaidd W. T. Best' yn fy moddio yn fawr, ond yr wyf yn gryf o'r farn y cydunwch a mi—pan welwch un Brand yn A fwyaf '—mai efe wedi'r cyfan oedd y goreu.
Yr wyf wedi penderfynu ers amryw wythnosau ymadael a Cheltenham, gan nad yw awyr dwymn y lle yn cytuno â mi o'r dechreuad. Gobeithiaf fod yng Nghymru ymhen tua pythefnos. Byddaf yn myned i fyny i Aberystwyth yn fuan wedyn, ac onid yw Llanrhystyd yn rhywle ar y ffordd? A chan fy mod wedi addaw wrth fy rhieni yr arhosaf gartref am tua dau fis, rhaid i Blaenanerch a ninnau gwrdd yn rhywle y pryd hwnnw—beth debygwch chwi? Pryd hwnnw cewch weld y farn' ar y Tonau os ewyllysiwch. Aeth popeth drwodd yn hwylus iawn yn yr Eisteddfod y Nadolig: yr wyf wedi hanner addaw myned yno y Nadolig nesaf os byw fyddaf—ac wedi llwyr gytuno myned i feirniadu mewn Eisteddfod gerddorol o bwys yno Mai nesaf—20 yn brif wobr, ond nis gwn eto a fydd yno gyfansoddi.
Chwi wyddoch mai yma y daeth y wobr am Ganig Porthmadog, gan fod y rhan gyntaf ohoni yn y Cerddor hwn: pan gwrddwn y mis nesaf, mi gaf air o'ch barn am dani. Derbyniais lythyr maith a diddorol oddiwrth John Thomas yr wythnos ddiweddaf: efe oedd 'Dafydd Jones' a 'Macdonald.' Oeddech chwi yn y pentwr? Bum hefyd yn fuddugol ar anthem angladdol yn y Gogledd—Beirniad y Parch. E. Stephan.
Nid wyf wedi cyfansoddi i'r 'Chwarelwr' eto, ond y mae rhyw symudiadau bychain yn fy mhen yma a thraw. Onid ydynt yn gynnil hynod efo testynau cerddorol Yr Eisteddfod' eleni? Serch hynny, y maent wedi nodi'r Beirniaid, ac hefyd ddau ddarn Cymreig (!!) i'r gystadleuaeth leisiawl.
Ffarwel, fy nghyfaill—rhowch air yn ol o hyn i naw niwrnod. Gobeithiaf eich bod yn iach.
Yr eiddoch hyd byth,
D. Emlyn Evans.
Y mae ei lythyrau nesaf—o Chwef. 26ain hyd ddiwedd Awst—yn cael eu gyrru o Gastellnewydd Emlyn. y cyntaf dywed ei fod yn mynd i Aberystwyth drannoeth, pryd y bwriada alw gyda'i gyfaill. Mewn un arall, dyry wahoddiad iddo i aros yng Nghastellnewydd am ddiwrnod neu ddau adeg Eistedd fod Aberteifi; ac anoga ef i "beidio bod yn ddioglyd" nad oes ond eisieu iddo i "ledu ei adenydd "—eu bod i'w cael. Erfynia am gopi o'r hen alaw "Eos Lais " (o'r Cambrian Minstrel). Dywed fod ganddo ganig yn barod ar gyfer yr Eisteddfod, a datgana ei ofn "fod y dduwies farddonawl wedi rhibo ein cyfaill talentog" o Flaenanerch, am na fwriada gyfansoddi canig ar gyfer Aberteifi.
Tebig na "chyfansoddodd" Mr. Thomas ganig ar gyfer yr Eisteddfod, ond ef gafodd y wobr am ganig a fuasai'n gystadleuol ym Mhorthmadog, pan wobrwywyd "Gwanwyn" Emlyn. Fel hyn yr ysgrifenna at Mr. Lewis yn Awst (1868):—
Hynaws Gyfaill, ***** Mae gennyf ganig' Ser y Nos' yn y wasg: dylasai fod allan ers pythefnos. Yr wyf wedi edrych dros proofs tua hanner o honi. Bydd tua hyd dau Gerddor (o gerddoriaeth) mewn amlen, a'i phris yw pedair ceiniog. Yr oedd gennyf yng nghystadleuaeth Aberteifi, ond gallwn wneud fy llw na fuasai yn fuddugol yno; cafodd yr anrhydedd' o fod yn ail o dan farn Tydfilyn. Yn ol fy marn i, y mae yn un o'r canigau mwyaf effeithiol a gorffennol ag wyf wedi gyfansoddi—chwi gewch farnu. Gwerthais y copyright i Mri. Hughes & Son, Wrecsam, a bydd gennyf rai cannoedd i werthu fy hunan— efallai y gellwch chwi droi rhai ohonynt yn brês tua Llanrhystyd yna? Tybia rhai, efallai, mai am i'm cyfaill o B'anerch gael y wobr ac i minnau ei cholli, yr wyf wedi ei chyhoeddi, ond camsyniad yw hynny. Pe yn fuddugol, yr oeddwn wedi dweyd wrth un o'r ysgrifenyddion yr hoffwn ei phrynu, fel y gallwn ei chyhoeddi. Yr oedd gan Blaenanerch dair Canig i mewn—y 'Dafydd Jones' ym Mhorthmadog yn fuddugol. Yr oedd Tôn o'r eiddof yn fuddugol heb fod ynddi ddim yn hynod yn ol fy nhyb i. Yr oedd gennyf un arall yn y cywair mwyaf yn ail. Derbyniais ddwy neu dair gwobr fach arall o fannau eraill, a dyna'r oll yn ddiweddar. ***** Dechreu y mis nesaf, lled debig y byddaf yn ym—adael oddiyma: y mae fy iechyd yn awr gryn dipyn yn well. Gobeithio eich bod yn iach a dedwydd,
Yn gynnes,
D Emlyn Evans.
O.N. Mawr ddiolch am y copi o 'Eos Lais.' Ysgrifenna yn yr Hydref o Cheltenham. Y mae a ganlyn yn deilwng le yn y fan hon:—
4 Warwick Place,
Cheltenham,
17 Chwef, 69.
Fy Hynaws Gyfaill,
Tra bo amser yn caniatau wele atebiad i chwi ar unwaith. Can diolch am eich lith ddiddorawl, ac wrth gwrs am y prês. Mae'n dda gennyf iod y 'Ser' yn eich boddio. Yr wyf wedi gwerthu y nifer ddaeth i'm rhan i ers talm. Am y byd cerddorol, ychydig iawn o'i helynt sydd yn fy ngwybodaeth i; allan o wlad mam a thad,' lle 'gwena pob gwyneb '—rhyw si yn awr ac yn y man o'i hanes hi yw yr oll o'm bendith, boed gerddorol neu arall; ac am Loegr, ychydig iawn o hi honi a'i gweithrediadau sydd yn gydnaws a theimladau Cymro.
Ynghylch cyfansoddi: nid wyf wedi bod yn hollol segur—mae rhywfath o rywbeth yn y wê fynychaf. Dwy Anthem, dwy Ganig, Madrigal Seisnig, Rhangan, gydag ambell i Dôn neu Alaw, yw yr oll wyf wedi ysgrifennu yn ddiweddar, 'rwy'n meddwl. Rhaid i chwithau, o ddifrif, gyfaill, ymysgwyd! Onid ydych yn meddwl yn fynych gyda' Mayfly' Dr. Callcott,—
"Then, insect, spread thy shining wing,
Hum on thy busy lay,
For man like thee has but his spring,
Like thine it fades away!"?
*****
Unwaith y clywais oddiwrth Blaenanerch er pan ddychwelais. Nid wyf wedi clywed oddiwrth Alaw Ddu yn ddiweddar iawn chwaith yr oedd ef a minnau wedi addaw cwrdd a Phencerdd America ym Merthyr drannoeth y Nadolig, ond methodd Alaw a dyfod mewn pryd o Abertawe lle yr oedd yn beirniadu. Cyfarfyddais ym Merthyr a Dewi Alaw am y tro cyntaf: Taffy right wreiddiol yw o—mwy felly, tybiaf, na'i ganig newydd 'Clywch yr Eos bach.' Yno, hefyd, y cyfarfyddais am y tro cyntaf a Frost y Telynor, un o'r bechgyn anwylaf erioed. Yr ydym wedi ymrwymo i fod efo'n gilydd yn yr un lle y Nadolig nesaf eto, os byw ac iach.
Mi ddywedaf i chwi fy marn am y pa fodd y mae y fath ddynion a [Conway] Brown yn ein curo, sef, yn y finish a'r destlusrwydd. Y mae y Beirniad yn adnabod ar unwaith darn yr un sydd wedi cael addysg athrofaol oddiwrth yr hunan-ddysgawl. Y mae y cyntaf (er nad hanner mor awenawl efallai) yn gwneud y goreu o feddylddrych, gan ei weithio allan yn y modd tlysaf, tra y mae'r olaf pentyrru ei feddyliau ar ei gilydd fel afradlon; ac nid heb lafur caled blynyddoedd—os byth—y daw i lwyr orchfygu y gwendid hwn: beth dybiwch chwi ***** Y 'Gwanwyn' sydd yn dyfod allan yn y Cerddor yn awr oedd yr ail-fuddugol ym Mhorthmadog feddyliem. Ydych chwi yn cofio barn Ieuan Gwyllt (drwg genyf glywed o Wrecsam ei fod yn anhwylus) am dani? 'Dipyn yn henaidd '—onid eithaf gwir? Wedi'r cyfan ysgrifennwr rhagorol yw Gwilym pe bae dipyn bach yn fwy gofalus i beidio ysgrifennu pethau cyffredin, ac, yn fynych, broddegau o ddarnau poblogaidd eraill esgeulusdod yn unig yw'r achos. ***** Yr oedd gennyf bump cyfansoddiad yn fuddugol yn America y Nadolig a'r Calan diweddaf—rhyw 53 o ddoleri i gyd, ond fod y doleri yn lleihau' wrth ddod dros y mor: dyna'r tro cyntaf i mi gystadlu yn y wlad bell. Yr wyf hefyd newydd werthu 12 Rhangan, Canig fuddugol a Song & Chorus (un o'r 3 goreu yn Rhuthyn) i gyhoeddwr.
Dyma i chwi lith, machgen i! Gwell i chwi adgyfnerthu eich hun a thraflwnc o Home Brew'd cyn dechreu.
Gair cyn bod yn hir iawn, a'ch meddwl ar bopeth.
Byth yr eiddoch, D.E.E.
Er eu gwahanu gan dir a môr, ac er gwahaniaethu ohonynt ar lawer o bethau, parhaodd y bechgyn hyn—a "bechgyn" oeddynt fyth i'w gilydd yn un ac ynghlwm yn yr hen gymdeithas hyd y diwedd. Dengys llythyr John Thomas a ddifynnwyd fod yr hen amser yn para'n ei ffresni yn y dwfn, ac nad oedd ond eisieu llawysgrif ei gyfaill i'w godi fel swyn i wyneb y presennol llwyd. Yn yr un dôn of anwyldeb y sieryd Emlyn am ei "hen ffrynd John," pan gyferfydd ag ef yn 1901.
Nid oes eisieu ychwanegu mai pleser digymysg oedd treulio orig yn ei gyfeillach hyfryd ef unwaith eto—cyn i'r cnoc bach ar y drws' glywodd Ceiriog yn ei freuddwyd anghofadwy, gael ei daro."
A phan ddaeth y "cnoc bach ar y drws " i nol y cyntaf o'r cwmni, sef Gwilym Gwent, fel hyn y cyfeiria at yr amgylchiad:—
"Er fod Cymru wedi colli ymron yr oll o'r gwyr cerddorol fu yn ei gwasanaethu cystal yn ystod yr ymddeffroad a gymerodd le yn ein plith yn hanner gyntaf y ganrif, eto y mae y cerddorion blaenllaw a'u dilynasant—plant y dadeni eisteddfodol trwyadl—wedi cael eu harbed i raddau hynod ymron hyd yn awr; ond bellach, y mae y cylch a fu yn ddifwlch cyhyd wedi ei dorri, un ddolen o'r gadwyn wedi ei cholli, un gadair ar Aelwyd y Gân yn wag, a ninnau'n gorfod ysgrifennu y geiriau anodd a chwithig y diweddar Gwilym Gwent uwchben ein hen gyfaill mynwesol, didwyll, ac awengar o Fynwy."
Teimla'n sicr fod yr hen gyfeillgarwch wedi bod yn drech na threigliad amser a helyntion cystadleuol:
"Bu i ni gyfarfodydd lawer ar feysydd cystadleuaeth am flynyddau, ac yn y blynyddau diweddaf fel beirniad a chystadleuydd; a pha un bynnag ai i Fynwy ai yma yr äe y gwobrwyon, neu pa un ai dyfarnu y wobr iddo ef neu arall a wnaem, gwyddem fod yr hen deimladau yn para yr un mor gynnes fyth."
Yna myn roddi'r lle blaenaf i'w hen gyfaill yn nhiriogaeth y Ganig:
"O ran poblogrwydd a thoreithder, dyma yn ddiameu y cerddor goreu a welodd Cymru hyd yn hyn. Gwir ei fod yn ailadrodd ei hun yn fynych; gwir hefyd ei fod yn fynych yn afler a gwallus; ond er hyn oll y mae wedi ysgrifennu llawer iawn o ddarnau sydd ymhlith y goreuon a feddwn. . . Y Ganig a'r Rhangan yw ei fannau cryfaf o lawer; y mae ei awen yn rhy ysgafn i'r Anthem, ac y mae heb erioed feistroli rheolau yr Ehedgan, etc.; ond ym maes y Ganig nid oes neb a'i trecha."
Bydd yn dda gan y darllenydd gael y llythyr a ganlyn o eiddo Gwilym sydd yn dangos yr un peth—ei ffyddlondeb i'r "hen foys"—heblaw bod yn nodweddiadol iawn ohono: nid yw'r flwyddyn i lawr—manylu dibwys yw hynny i Gerddor!
Plymouth, Pa,
America,
June 7fed.
Fy Anwyl Anwyl Gyfaill Emlyn,
Daeth dy lythyr caredig i law yn ddiogel, a da iawn oedd gennym ei gael, a chael cymaint o hanes yr hen wlad. Yr oeddet yn dweyd y gwir. Ië, Rascaliwns yw hanner y Boys sydd yn codi yn awr. Mae llawer ohonynt wedi dyfod yma a'u Do, Rey, Mi, Sol, Fa, wrth gwrs, ond ychydig allant wneud wedi'r cyfan. Da iawn oedd gennyf glywed fod yr hen foys yn gysurus, felly yr wyf fy hun.
Gyda hwn yr wyf yn anfon tri Darn Dirwestol, meddyliaf eu bod yn dda er yn rhwydd. (Gwnant) Marches ar yr heol ydynt. Byddai yn well i chwi eu cyhoeddi yn llyfryn bychan. Cant werthiant da gan y Riband Glas Boys. Os gwel Mr. Jones eu bod yn werth 30/—da iawn. Teimlwn yn ddiolchgar am iddo anfon y Pres erbyn y 1af o September, gan yr wyf yn myned i New York, y pryd hwnnw er fy iechyd, ac i gael clywed cerddoriaeth dda. Ni fydd gennyf ddim yn Dinbych: testynau gwael. Derbyniais dy Tylwyth Teg—diolch. Mi gefais y Times.
Ydyw Young Musicians yn yr hen nodiant, wys? Nis gallaf ddodi fy llaw ar y Quartett ar hyn o bryd, danfonaf ef eto.
Mawr ganmolir dy lythyr yma, pan ddaeth i mi, gan y Callcott Society, a dywedant ei fod yn wir bob gair.—O, mae twll tragwyddol yn llogell D——; felly, yn wir. Clywais fod O—— wedi myned i yfed yn ddrwg, gobeithiaf nad ydyw. Boneddwr yw O——.
Terfynaf gan fod y Mail ar fyned; danfon lythyr eto yn fuan,
Yr eiddot hyd dranc,
Gwilym Gwent, Box 248.
Derbyniais Trio y Lark. Mae R. T. Williams yma ac yn cofio atat, cei Lythyr oddiwrtho yr wythnos nesaf.
IX. "MAE 'NGHALON YNG NGHYMRU"
DENGYS llythyrau Emlyn yr adeg hon fod "ei galon yng Nghymru." Drwy Y Cerddor Cymreig a'r Eisteddfod parhaodd mewn cyffyrddiad â hi yn ystod ei arhosiad yn Cheltenham. Ni allodd mursendod y dref honno ddiffodd y tân Cymreig oedd yn ei galon; heblaw hyn, yr oedd yno Gymry twym-galon eraill, a chymdeithas gymrodorol, i'w helpu i'w gadw yn fyw. Y peth cyntaf o'i eiddo sydd gennym mewn argraff yn Y Cerddor Cymreig yw hanes dau gyngerdd—un o alawon Cymreig yn gyfangwbl—a gynhaliwyd yno i ddathlu dydd Gŵyl Ddewi, pan oedd Edith Wynne, Owain Alaw, Pencerdd Gwalia ac eraill yn cymryd rhan. Y mae'r hanes yn ddiddorol yn bennaf ar gyfrif ei nodiadau beirniadol ar y datganiadau y critic ieuanc yn ymddangos. Yr oedd "Young Wales" mor hyf y pryd hwnnw ag ydyw'n awr ni phetrusai osod ei linyn mesur ar gerddor mor brofiadol ag Owain Alaw.
"Gwnaeth ef ei ran," medd y beirniad," mewn arddull pur; rhagor o fywyd a'i gwnelai yn well." Yr oedd Emlyn yn "fyw" hyd y diwedd; tebig ei fod yn fyw iawn y pryd hwnnw, a rhwydd gennym gredu fod Owain yn rhy hamddenol o lawer i wŷr ieuaincy Deffroad. Dywedir wrthym hefyd fod y rhannau offerynnol yn dda, ond mai "tlawd, aneglur, a dieffaith" oedd y cytganau lleisiol. Y bachgen yw tad y dyn yn amlwg, a thad ei ansoddeiriau hefyd!
Cafodd ei ddymuniad o'r diwedd, a gadawodd Cheltenham yn derfynol yn 1869. Dychwelodd i Benybont, gan feddwl ymsefydlu mewn partneriaeth. â'i hen feistr. Ond yn union wedi gorffen y ffurfiau angenrheidiol i hyn, dyma'r busnes yn deilchion, a'i bartner—ac arian Emlyn!—yn dianc dros y Werydd. Yr oedd yn siomedigaeth dost iddo. Yn ffodus, digwyddodd yn rhy fuan ar ol ei ddychweliad i anafu ei gymeriad masnachol, ond cafodd ei hun a'i fwriad yn faluriedig, ac edefyn ei fywyd wedi ei dorri am y pryd. [6]
Wedi peth seibiant, ac amser i "gasglu ei hun at ei gilydd," ac i edrych oddiamgylch o o fysg gweddillion ei amcanion toredig, ymunodd â firm wlanen-wneuthurol Jones Evans & Co. yn y Drenewydd. Yr oedd yn ieuanc, yn meddu ar ewyllys gref, a galluoedd ymadferol (recuperative) eithriadol, fel y cawn ef, yn fuan wedi ei fynd yno yn 1870, yn arweinydd Cymdeithas Gorawl y lle.
Hyd yn hyn y mae ei gysylltiad â'r Eisteddfod a Chyfansoddiadaeth Gerddorol wedi tueddu i guddio o'n golwg ei berthynas â Chaniadaeth gorawl ac arall, a'i wasanaeth i'r eglwys a'r dref y perthynai iddynt. Yn wir, ychydig o fanylion a feddwn ynglŷn â'r agwedd hon ar ei weithgarwch ym Mhenybont a Cheltenham. Gwyddom ei fod yn aelod o gôr yr eglwys Annibynnol yn y ddau le, ac yn arweinydd am ryw gymaint o amser, ond pa hyd ni wyddom. Yn ol y Musical Herald, bu'n tenor soloist mewn datganiad o'r Messiah pan yn ddeunaw oed; a rhaid ei fod wedi. cael cryn brofiad fel arweinydd corawl, oblegid ynglŷn ag Eisteddfod Aberteifi yn 1868, gorfu iddo ef dderbyn baton o law ei gyfaill Tommy Morgan, i arwain y corau a ganai yn y cyngerdd.
Yn ffodus ynglŷn â'i ddyfodiad i'r Drenewydd a'i gysylltiad a'r Côr Undebol yno, y mae gennym gofnod—ion llawnach, diolch i gof cyfeillion a charedigion cerdd perthynol i'r lle. Yr wyf yn ddyledus i Mr. Jones, Van, am yr hanes a ganlyn, a bydd yn dda gan y darllenydd ei gael ar gyfrif y goleuni a deifl ar gymeriad Emlyn fel dyn yn gystal â cherddor:—
"Pan sefydiodd Mr. Emlyn Evans yn y Drenewydd, ymaelododd ar unwaith yn y Capel Cymraeg, capel bychan yr ochr arall i'r bont—capel bychan a ddiystyrrid gan bawb ond Cymry twym-galon. Yr oedd eglwys fawr Saesneg gan yr Annibynwyr ynghanol y dref, ond yn yr eglwys fechan y tu allan i'r dref y dewisodd ef wneud ei gartref. Bron yn gyfamserol a'i ddyfodiad ef i'r dref, cychwynnwyd symudiad pwysig i godi côr undebol o'r dref a'r wlad oddiamgylch, gyda'r bwriad o berfformio rhai o Oratorios y prif Feistri.
"Yr oedd Mr. Hugh Davies (brawd Tafolog) yn gerddor gwych, ac yn un o bwyllgor y symudiad newydd. Wedi dewis y pwyllgor a'r swyddogion oll, y mater mawr oedd pwy i'w ddewis yn Arweinydd. Fel un a wyddai yn dda am alluoedd disglaer Mr. Emlyn Evans, ac am y safle uchel oedd eisoes wedi gyrraedd, teimlodd Hugh Davies ei fod yn ddyledswydd arno wneud yn hysbys iddynt, fod yna wr ieuanc galluog iawn wedi newydd ddod i'r dref, a'i fod yn sicr yn ei feddwl ei hun y byddai yn gaffaeliad mawr mewn ystyr gerddorol, a'i fod yn ei gynnyg i fod yn Arweinydd. Parodd ei eiriau syndod i'r holl bwyllgor, ac yr oedd mwy nag un yn gofyn: Pwy yw o'? Pwy yw o?' 'David Emlyn Evans,' meddai yntau. Ond nid oedd neb yn ei adnabod. Druan o y Drenewydd, y mae hi y tu allan i Gymru mewn mwy nag un ystyr. 'I b'le mae'Y Cerddor mawr yma yn mynd ar y Sul? meddai un ohonynt. 'I'r capel bach atom ni.' 'Wel, wel, dyna setlo'r mater! pwy gerddor mawr ai i'r Capel bach yr ochr draw i'r bont? Na, wnawn ni ddim mentro arweinyddiaeth y cor undebol i ddwylo dyn ieuanc na wyr neb ddim am dano ond Mr. Hugh Davies.' Ac yn eu golwg hwy yr oedd Mr. Davies fel un yn cellwair; a derbyniodd y gwr llednais hwnnw gryn dipyn o wawd y noson honno, am ei fod erioed wedi rhyfygu gwneud y fath gynygiad, ac yntau yn gwybod fod o leiaf bedwar (os nad chwech) o rai tra chymwys at y gwaith. Enwyd rhyw nifer fel rhai cymwys, ond ar Mr. Pearson y syrthiodd y coelbren. Ysgol—feistr oedd ef, a cherddor go lew ymhlith y rhai cyffredin. Ac am wn i nad oedd y dewisiad yn gorwedd yn bur esmwyth.
"Ni soniodd Mr. Davies ddim am helynt dewisiad yr Arweinydd wrth Emlyn; rhoddodd wybod iddo am ffurfiad y cor mawr, ac fod y practice cyntaf i fod fel a'r fel. Very good, meddai Emlyn, mae'n dda gen i glywed; idea gampus ydyw. Mi fydd yn bleser gen i ddod yn aelod o'r cor.'
"Daeth y noson gyntaf, a chafwyd cryn hwyl ar y canu. Yr oedd gan lawer ryw dipyn o grap ar y corws cyntaf. Ond hyd yn oed yn hwnnw, yr oedd ambell i gwymp yn cymryd lle, a'r gwr ieuanc dieithr yn y Tenor, wedi cael ambell i gyfle i helpu yma a thraw.
"Awd at yr ail gytgan yr ail noson. Yr oedd gwbl ddieithr i'r rhan fwyaf, a byddai Emlyn yn cychwyn ei lais ei hun, ac yna yn troi i helpu, weithiau y Bass, weithiau yr Alto, dro arall y Treble, er mawr ofid i'r rhai hynny a dybient eu hunain yn rhywrai; a chai Emlyn ambell i sên dros ysgwydd megis, ond yr oedd yn hollol barod oedd yr i roi sên yn ol. Yr oedd yn cario arfau miniog y pryd hwnnw. Ac fe wnaeth yr Arweinydd sylw tebig i hyn ei fod wedi clywed fod cryn dipyn o gwyno fod rhai o aelodau'r cor yn llawn digon parod i ymyrryd dan yr esgus o gynorthwyo rhai o'r lleisiau eraill. Ond yr oedd yn ofalus i beidio enwi neb. Cred y rhan fwyaf oedd fod Emlyn wedi bod yn dysgu y darnau yn rhywle arall, tua'r De neu Cheltenham neu rywle: onibai ei fod wedi eu dysgu ni fuasai byth yn medru eu canu yn straight off ar y geiriau.
"Ond dyma nhw'n dod at y Corws anhawddaf yn y llyfr, ac y mae'n amlwg fod Mr. Pearson wedi penderfynu dwyn y gwr ieuanc i brawf. Just ar ddechreu'r darn, wedi i un neu ddau o'r rhannau fethu dod i fewn, dyma'r arweinydd yn sefyll, ac yn troi ei wyneb i gyfeiriad y Tenor, ac yn dweyd, 'Os oes un ohonoch chwi yn y top yna yn proffesu eich bod yn deall y darn hwn, dowch i lawr yma i roi eglurhad i'r cor ar y mannau dyrus yma.' Ac meddai Emlyn wrth Hugh Davies, 'At bwy mae e'n cyfeirio'? Atoch chwi, 'ddyliwn.' Dyma Emlyn yn codi ac yn cerdded i lawr at yr Arweinydd. Beth yw eich anhawster, Mr. Pearson?' meddai. 'Wel, rhaid i mi gyfaddef nad wyf yn deall y trawsgyweiriadau dyrus yma.' Meddai Emlyn, 'A wnewch chwi i gyd droi i'ch llyfrau?' Yna dechreuodd egluro iddynt o far i far, ac o frawddeg i frawddeg, gan ganu y gwahanol frawddegau yn y gwahanol rannau. Ac nid egluro y traws—gyweiriadau a wnaeth yn unig, ond aeth i fewn i gyfansoddiadaeth y darn, gan ddangos fel yr oedd y naill frawddeg yn tyfu yn naturiol o'r llall. Ymgollai yn ei waith, a gwnaeth y cwbl mor ddiddorol, ac mewn ffordd mor ddidramgwydd i bawb—ni wnaeth gymaint ag un cyfeiriad personol at neb. Bu wrthi am ddeugain munyd. Edrychodd ar ei watch, a dywedodd, 'Mae'n wir ddrwg gennyf eich cadw gyhyd,' a chychwynnodd i'w le. 'Arhoswch yn y fan lle'r ydych, syr,' meddai yr Arweinydd, ac estynnodd y baton iddo. O na wna' i,' meddai yntau, chwi yw'r arweinydd, ond mi rof fi bob cymorth i chwi,' ac aeth i'w le. 'Pe bawn i yn gwybod' meddai Mr. Pearson, fod y fath gerddor yn ein plith, fuaswn i ddim yn cymryd y byd am geisio eich arwain. Ac fe fydd yn bleser o'r mwyaf gennyf gymryd fy lle yn y cor o dan arweiniad Mr. Emlyn Evans. Ac aeth yn full stop wnai Pearson ddim arwain ymhellach, a gwrthodai Emlyn gymryd ati.
"Awgrymodd rhywrai fod y pwyllgor i ymneilltuo ac i benderfynu y mater. Hynny a fu, a dyma'r pwyllgor yn ei ol ac yn mynegu Ein bod ni yn unfryd unfarn yn gofyn i Mr. Emlyn Evans i ymgymeryd a'r arweinyddiaeth.' Wedi cryn dipyn o gymell, cydsyniodd yntau; a pharhaodd i arwain tra bu yn y dref."
Enwyd y côr yn "Newtown Glee & Madrigal Union," a dywedir wrthym i Emlyn "wneud ei ol ar gerddoriaeth y dref, a'r trefi cylchynol." Cynhaliwyd cyngerdd o bwys yno yn Nhachwedd 1870, yn ol llythyr o'i eiddo at Mr. Dd. Lewis, dyddiedig Rhag. 13, 1870—
"Cawsom Oratorio a Chyngherdd fendigedig yma y mis diweddaf, 'Judas,' etc., gyda Edith Wynne, Cummings, Maybrick [Stephen Adams,] etc., a chorus o tua 80 o dan arweiniad dy humble friend D.E.E.: llwyddiant hollol. Bydd yma un arall yn y gwanwyn. Ond nid da rhy o ddim.' Mae yn lladd fy nghyfansoddi."
Tua'r un adeg buont yn rhoddi cyngerdd ym Machynlleth er budd clwyfedigion y rhyfel rhwng Germani a Ffrainc; ac ym mis Rhagfyr aethant i Aberystwyth i helpu Mr. Inglis Brown a'i gyngerdd. Ynglŷn â hwn ysgrifennodd at ei gyfaill o Lanrhystyd i ofyn iddo ddod yno er mwyn cael ymgom. Ymddengys na ddaeth, a derbyniodd Emlyn ei lythyr ar ei ddychweliad o Aberystwyth. Mewn ateb i hwn dywed:
"Byddai yn llawen iawn gennyf gael dy gwm—peini yn Aberystwyth neithiwr, ond 'doedd dim help. Cafodd y cyfaill gyngherdd rhagorol. Cafodd y llwch hwn ormod o ganu, gan fod yr encores tragwyddol yna yn arglwyddiaethu pob peth.—Byddai yn llon iawn gennyf dy gyfarfod di a'r frawdoliaeth gerddorol rywbryd yn yr haf yma—efallai y gallwn ei threfnu eto . . . Mae surplus yr oratorio yma (ar ol talu dros gan punt o dreuliau) wedi chwyddo'n awr i £108. Byddaf yn canu yn Llanidloes (efo Mynyddog) ar y 29ain, a Chyngherdd yma dydd Calan eto. Yr wfft i'r canu!"
Yr oedd ef y pryd hwnnw, meddai Mr. P. J. Wheldon, yn llawn ynni byw, a chyda chydweithrediad nifer o ysbrydoedd cydnaws cyffelyb, megis Mri. Gittins (a fu'n arweinydd y Côr wedi hyn), Wheldon, Hugh Davies, ac eraill, nid rhyfedd i'r Gymdeithas flaguro a dwyn ffrwyth lawer.
X. MASNACH: "Y GAN."
YN 1871 cawn ef yn cychwyn ar gwrs newydd ym myd masnach fel trafaeliwr masnachol (commercial traveller)—cwrs a barhaodd am lawn ugain mlynedd. Na thybied y darllenydd am foment ei fod allan o'i elfen yn y byd hwn, nac mewn hualau ar y ffordd." Ni fyddai mor gywir dweyd fod ei ymroddiad i'w fasnach yn fach ag a fyddai dywedyd fod ei gariad at gân yn fwy. Yr oedd yn ddyn busnes o'r iawn ryw,—yn fyw, yn ymroddus, yn bendant. Er ei eni gyda thueddfryd delfrydol cryf, nid gwannach mo'i ymhyfrydiad ym myd actau pendant, ym myd amser a lle. Ond os oedd y duedd yn gynhenid gryf ynddo, cafodd fantais i'w datblygu a'i disgyblu yn ei fusnes, yn gystal yn y safleoedd o gyfrifoldeb a lanwai yn Cheltenham a'r Drenewydd, a phan yn trafaelu o dref i dref ar ran y cwmni. Yr oedd yn rhaid iddo fod yn fanwl, yn brydlon, i'w air, neu ynteu fethu. Yn wir yr oedd ei ymagweddiad tuagat y byd masnachol, nid yn un o atgasrwydd na chŵyn hyd yn oed, ond yn un o ymhyfrydiad ac edmygedd; clodforai ei bwerau disgyblaethol, ac edrychai arno fel maes prawf talentau tybiedig, ac addysg ysgol a choleg. Bu'r ddisgyblaeth a gafodd yn ei fasnach o help mawr iddo yn ei waith arall yn ddiweddarach; ni allsai byth wneuthur y gwaith a wnaeth, a chyda'r fath effeithiolrwydd, onibâi am y trefnusrwydd a'r trylwyredd a ddysgodd gyda'i fasnach. Bid siŵr ni fedrai lai na chondemnio oriau meithion y faelfa yn ei amser ef. Ar y cyfrif hwnnw, yr oedd bywyd y trafaeliwr, gyda'i symud a'i amrywiaeth, a'i helynt hyd yn oed, yn un o waredigaeth iddo. Deuai y prif anhawster i mewn gyda newid llety'n gyson, byw mewn gwestai ddydd ar ol dydd, ofn afiechyd nos, yr haint a rodia yn y tywyllwch," ac ymgyfaddasu i'r deithriaid na allai osgoi dod i gyffyrdd—iad â hwy. Oblegid y mae'n rhaid inni gofio'i fod yn un o deimladau llednais, a'i fod wrth natur yn un o'r rhai mwyaf gwylaidd a neilituedig; eto, drwy benderfyniad di—ildio, gorchfygodd ogwydd natur a rhugl amgylchoedd anghydraws, nes dod bob yn dipyn i deimlo'n dra chartrefol yn y byd newydd, ac i sugno'i bleser heb ei boen. Daeth yr elfen yma o "boen" bywyd y trafaeliwr i fwy o amlygrwydd yn ddiweddarach gyda gwanychiad ei iechyd, a phan oedd nychtod yn gydymaith cyson, ac yntau'n mhell oddicartref.
Un elfen arbennig o swyn iddo ef yn y math hwn ar fywyd oedd y rhoddai gyfle iddo yn y blynyddedd cyntaf yn bennaf—i ymgydnabyddu â'r Gymru. a garai mor fawr. Oblegid fe deimlai ef ddiddordeb, nid mewn "gweld y wlad" yn gyffredinol, a chael golygfeydd newydd i gyson oglais ei lygaid a deffro cywreinrwydd arwynebol, ond, fel un yn meddu ar reddf hanesyddol gref, mewn taleithiau a threfi, a phentrefi, y byddai iddynt hanes a diddordeb gwladgarol, llenyddol, neu gerddorol. Yn y modd hwn, yn gystal â thrwy ei ymweliadau eisteddfodol, daeth yn gydnabyddus â gwahanol rannau o Gymru, ac yn dra hyddysg yn eu hanes.
Gyda'r eithriad a nodwyd (ar ei ddychweliad i Gymru) bu'n dra ffodus a dedwydd yn ei gysylltiadau masnachol. Yr oedd ganddo allu eithriadol i wneuthur cysylltiadau busnes yn rhai cyfeillgar. Yr oedd yn "bersonoliaeth ddiddorol," a chanddo ddoniau cymdeithasol o radd uchel. Y canlyniad oedd iddo'n raddol wneuthur llu o gyfeillion—ac wrth "gyfeillion" golygwn rywbeth mwy na chydnabod nid yn unig ymhlith ei gyd-drafaelwyr, ond hefyd ymysg y siopwyr. Yn ychwanegol at hyn rhoddai ei deithiau hefyd gyfle helaeth iddo ddod i gyffyrddiad personol â cherddorion a chantorion y parthau yr ymwelai â hwy. Y mae'n eglur felly mai nid bywyd llwyd a diflas oedd eiddo Emlyn yn ystod y blynyddoedd hyn, ond bywyd llawn o "fynd" ac o liwiau symudol; ac er ei fod mewn un ystyr heb gartref i ddychwelyd iddo'n gyson, yr oedd ganddo lawer o "gartrefi oddicartref" dros y rhan fwyaf o Gymru.
Yr oedd mantais arall yn perthyn i'r math yma ar fywyd galluogai ef i fod o wasanaeth ynglŷn â Chaniadaeth mewn gwahanol rannau o'r wlad. Cawn ef yn aelod o'r "Côr Mawr" yn 1872. Yr oedd yr bresennol yng nghyfarfod y pwyllgor cyffredinol yn Neuadd Ddirwestol Aberdâr, Awst 20fed, pryd yr etholwyd ef—gyda Charadog, Eos Rhondda, Alaw Ddu, D. Rosser, D. Francis, a Dl. Griffiths—yn aelod o'r Pwyllgor Y Cerddorol—pwyllgor oedd i arolygu holl aelodau'r Côr ar gyfer cystadleuaeth y flwyddyn ddilynol.
Y pryd hwn, cymerai ran fel datganydd yn gyson mewn cyngherddau—nid yn broffeswrol, ond gan mwyaf i helpu cyfeillion. Wedi gorffen ei fywyd arhosol yn y Drenewydd, cawn ef yn cymryd rhan yr unawdydd (tenor) mewn perfformiad o Samson gan ei hen gôr. Cyrchodd am flynyddoedd i gyngerdd blynyddol Bethel, Castellnewydd Emlyn, i gynorthwyo'i gyfaill Tommy Morgan. Ac felly drwy'r wlad fel y gellir galw y tymor hwn (1870-75) y tymor cyngherddol yn ei hanes. Ni ŵyr y rhai a'i hadwaenai yn ei amser diweddarach,—pan oedd yr anadl yn pallu—am ei allu a'i swyn eithriadol fel unawdydd. Onibâi am ei wendid corff, a'i gariad mwy at gyfansoddi, gallasai fod ymysg ein goreuon. Gwyddom am rai a garai ei glywed uwchlaw neb ar gyfrif rhyw dynherwch melfedaidd a hollol unique—Emlynaidd—oedd yn ei lais.
Cwyna ef yn ei lythyr at Mr. Dd. Lewis—fod y canu "yn lladd cyfansoddi." Eto, nid annaturiol casglu fod yna berthynas hanfodol rhwng y canu yn y blynyddoedd hyn â chyfnod "y Gân"a gychwynnwyd—yn bennaf—gyda Bedd Llewelyn yn 1874. Y mae yna gysylltiad bywydol rhwng yr hyn a ddarllenwn â'r hyn a gynhyrchwn: cais meddyliau ad-gynhyrchu eu hunain ond cael y cyfrwng priodol—meddwl cydnaws. A diau fod ei waith yntau'n canu caneuon fel The Death of Nelson a The Bay of Biscay wedi symbylu ei feddwl i weithredu ar yr un llinellau. Ar yr un pryd, credwn mai braidd yn or-feirniadol yw dweyd ei fod ef wedi copïo'r Sais o leiaf, ei gollfarnu am wneuthur hynny. Yn sicr, gwasanaeth yw copio'r blwch ond peidio â lladrata'r perl. Ai nid benthyca ffurfiau cân oddi ar ei gilydd y mae'r cenhedloedd wedi ei wneuthur yn gyffredinol, fel yr oedd yr angen? Ac ai nid gwas cenedl yw'r un sydd yn meddu ar y canfyddiad i wneuthur hyn wrth weld yr eisieu ? Ai nid llygad y genedl ydyw? Y peth pwysig yw llenwi'r "ffurf" â "chynnwys" cyfaddas i eisieu'r genedl ar y pryd.
Profodd Bedd Llewelyn—a datganiad diail Eos Morlais ohoni—fod cyflawnder amser "y Gân" wedi dod yng Nghymru cymerodd y wlad "by storm." Fod yna gyfnod fel hyn i'r Gân sydd amlwg, fel y dengys ef ei hun mewn ysgrif o'i eiddo'n ddiweddarach:
"Efallai nad oes un dosbarth o gerddoriaeth. ag y mae ein datblygiad wedi bod yn fwy cyflym ynddo na'r Gân; er nas gallwn ystyried ein bod eto wedi cyrhaedd tir mor uchel ynddo ag yn y Ganig, yr Anthem, a'r Dôn, ac efallai rai ffurfiau eraill.
"Nid yw hyn ond a ddisgwylid, oherwydd dim ond yn ddiweddar y cychwynwyd gyda'r Gân o'i chymharu a'r lleill; ac i hyn hefyd y mae esboniad parod. Y mae y Gân briodol yn gofyn rhyw gymaint o allu a gwybodaeth chwareyddol o du y cyfansoddwr, ond nid oedd cerddorion Cymreig cyfnod cyntaf ein hadenedigaeth gerddorol—yr un anthemol o Mills i Lloyd, etc.—yn chwareuwyr, nac fel dosbarth yn medru ysgrifennu cyfeiliant offerynol: ac y mae yr un sylw yn gymhwysiadol, er i raddau llai, at y cyfnod nesaf, yr un canigol—Gwilym Gwent, etc. Gwir y ceid eithriad yn Owain Alaw, er esiampl, ond cynnil iawn oedd hyd yn oed ei gyfeiliannau ef o'u cymharu ag eiddo y cyfnod caneuol presennol—ychydig oedd y mater gwir annibynnol a roddai i'r offeryn: bellach, o bosibl, y mae y rhan offerynnol yn trespasu gormod ar y llais, a theitl aml i ddarn ddylai fod, nid' Can i lais gyda chyfeiliant i'r piano,' ond yn hytrach, Pot—pourri i'r piano gyda brawddegau achlysurol i'r llais."
Yn hynod iawn, nid ei gyd-ganigwyr,—ag eithrio Dr. Parry—oedd ei gymdeithion mwyaf amlwg yn neffroad y Gân, ond triawd disglair arall, sef R. S. Hughes, William Davies, a D. Pughe Evans. Dilynwyd Bedd Llywelyn gan Can y Tywysog, a'r Gadlef, ac yn ddiweddarach, gan Hen Wlad y Menyg Gwynion, Gwlad yr hen Geninen Werdd, Y Gan a Gollwyd, etc., a chan doreth o ganeuon ar bob math nad oeddynt ond adgynyrchiadau, heb fod wrth gwrs yn adroddiadau. Y peth arall o bwys yn ystod y cyfnod hwn yw cyfansoddi a chyhoeddi ei gantawd Y Tylwyth Teg. Dengys ei lythyrau a'i ysgrifau (gwêl Pennod XI) ei fod yn dechreu blino ar gystadlu, ac nid yw'r gantawd hon—a'i ganeuon—ond mynegiant o'i awyddfryd cerddorol pan yn teimlo y cylch cystadleuol yn rhy gyfyng a chaeth. Yr oedd wedi cyfansoddi "Cantawd gysegredig o'r blaen (meddai ef wrth Mr. Dd. Lewis), ond nid oes gennym wybodaeth bellach am honno.[7] Mewn llythyr o'i eiddo at Alaw Ddu, dywed beth oedd ei nod wrth gyfansoddi hon:—
"Nid ymdrechais ysgrifennu gwaith llafurfawr, ond mewn gwirionedd, operetta fechan ysgafn; gan dalu, cyn belled ag y gallwn, gymaint o sylw i'r dramatic continuity ag a hawliai Wagner ei hun, ac heb esgeuluso, mi obeithiaf, y melodic form. Bernais mai doethach fyddai ei galw yn Dramatic Cantata nac yn Operetta—edrycha'r genedl hytrach yn ddrwgdybus ar y gair olaf hyd yn hyn."
Perfformiwyd y Gantawd yn Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead (1878) ac yn Llundain, Abertawe, a llawer o fannau eraill, gyda llwyddiant a chymerdwyaeth.
Eto, er ei fod wedi rhoddi mân gystadlu heibio, cystadleuai gyda llwyddiant yn y prif Eisteddfodau. Y mae'n debig i'w fywyd cystadleuol gyrraedd ei uchafbwynt yng Ngwrecsam yn 1876, pryd yr enillodd yr holl wobrwyon cynygiedig am gyfansoddi cerddoriaeth leisiol.
Pan geisiwn sylweddoli i ni ein hunain amgylchiadau allanol ei fywyd, y trafaelu mewn trên a cherbyd, y busnes a'r symud beunydd o siop i siop, cwmni cyfeillion yn yr hwyr, commercial room a gwely'r gwesty, y mae'n syndod y gwaith a wnaeth yn ystod y blynyddoedd hyn, gyda Chyfansoddiadaeth a Chaniadaeth, a Llenyddiaeth yn "Y Gerddorfa ", ac y mae ei allu i gyfansoddi yn ddirgelwch tu hwnt. Yn Cheltenham yr oedd amodau myfyrdod ac astudiaeth, ar waethaf orïau meithion y faelfa, gryn lawer yn fwy ffafriol; o leiaf yr oedd ei amser, ar ol yr oriau hynny yn eiddo iddo'i hun, a gallai ei dreulio mewn neilltuedd a thawelwch yn ei ystafell. Ond sut yr oedd cyfansoddi'n bosibl "ar y ffordd"?
XI.
PAN FYN Y DAW.
DYWEDIR wrthym i Gluck ysgrifennu rhai o'i brif weithiau ar ganol dôl, gyda phiano yn ei ymyl. Yr oedd Beethoven hefyd yn hoff o help dylanwadau natur, yn neilltuol y dymestl a'r mellt; a phan na chai y rheiny, cerddai drwy'r coedwigoedd a'r meysydd, nes y trwythid ei ysbryd â'u dylanwad. Ar y llaw arall, gallai Mozart ymgomio neu chware biliard ar yr wyneb pan fyddai ei greadigaethau godidocaf yn ymffurfio yn y dwfn. Dywed Wagner wrthym fod ystad o feddwl dangnefeddus a dirwystr yn ffafriol i waith crêol y cerddor, a'i fod yn anghenraid iddo ef ei hun, er y caffai'r anhawster mwyaf i'w sicrhau. Ond cawn ef wedyn, pan yn Marienbad, yn cymryd cwrs o feddyginiaeth, yn methu aros yr awr benodedig yn y dŵr, pan ddoi'r afflatus arall drosto, ac yn codi a gwisgo a rhedeg gartref i ysgrifennu Lohengrin.
Mater ydyw o ddod i'r ymgyfaddasiad iawn â ffynonellau ysbrydoliaeth—o roddi cyfle i ffynhonnau'r dyfnder lifo'n rhydd, drwy symud y rhwystrau amgylchiadol ar yr wyneb. Ymddengys eu bod yn rhedeg mor rhwydd ym Mozart fel nad oedd eisieu symud y pelau biliard pan yn cyfansoddi—dim ond pan yn ysgrifennu. Pryd bynnag y ceir gwaith cerddorol neu arall o werth, boed fawr neu fach, boed bennill neu bryddest, rhangan neu dreithgan, y mae yna berthynas organaidd rhwng ysbryd yr awdur a byd delfrydol gwir. Gall un fod mewn perthynas rwydd fel Mozart, ac un arall mewn un fwy afrwydd a chymleth fel Beethoven; ond y mae'n bod, yn wastad, gyda gwahaniaeth graddau'n unig. Lle na byddo'r berthynas hon,—pan fyddo'r cyfansoddwr, drwy ddysg, yn gwneuthur ar yr wyneb, ac yn cynhyrchu cyfuniadau o nodau yn unol â "deddfau dynol,"—yna nid yw'r gwaith o wir werth, ddim "o'r un waed a'r awen wir "—yn hytrach, perthyn y mae i'r byd sydd "a'i ddull yn myned heibio," nid i fyd "y dragwyddol gân."
Eto, gall y gwaith o gyfansoddi fynd ymlaen yn unigeddau'r dwfn pan fyddo yna lawer o grychni ar yr wyneb yn unig y mae'n rhaid i'r symudiadau ar yr wyneb beidio â chynhyrchu terfysg ac anhrefn. Dysgir ni gan feddyleg ddiweddar fod ein hisymwybyddiaeth nid yn unig yn ystordy, ond hefyd yn weithdy, ac fod yna weithio a dwyn i fod yn mynd ymlaen yno hyd yn oed yn ystod oriau cwsg. Yr oedd Wagner yn gyfarwydd â'r wedd feddylegol hon i'r mater. Mewn un man dywed "Yr oedd hyn oll yn suddo i'r meddwl ac yn addfedu'n raddol "; ac ymhellach: "Ymddangosodd syniad (conception) Lohengrin yn sydyn ger fy mron yn ei gyfanrwydd perffeithgwbl"-er y deuthai'r syniad dechreuol ohono iddo amser cyn hynny. Felly pan mae Islwyn yn canu
"Pan y myn y daw,
Fel yr enfys a'r gwlaw,"
rhoddai deall hyn yn llythrennol olygiad llawer rhy beiriannol a gwrth-fywydegol inni am weithrediadau ysbryd y gwirionedd ynddynt yw mai'n sydyn yn aml yr ymddengys yr hyn oedd yn bod ac yn tyfu o'r blaen yn y dwfn uwchlaw "trothwy" ymwybydd- ychydig o'r hyn a allent ac a deimlent." iaeth. Nid goddefol (passive) yw ysbryd dyn, ond derbyngar (receptive), a mwy gweithgar nag arferol pan dan ddylanwad yr awen wir "; ac er y gall y gwaith fynd ymlaen ar waethaf amgylchiadau amser a lle," y mae o fantais fawr sicrhau'r amodau mwyaf ffafriol a hyrwydd, yn allanol a mewnol. Ceir enghraifft dda o natur dibyniaeth—ac annibyniaeth—yr awen ar amgylchiadau yn hanes Mendelssohn.
Pan oedd ef a'i wraig yn y wlad hon yn 1833, ac yn aros gyda pherthynasau yn Denmark Hill, trefnwyd i gael picnic i Windsor ar y cyntaf o Fehefin. Yr oedd popeth yn barod, a'r cerbyd wrth y drws, ond ar y foment olaf esgusododd Mendelssohn ei hun rhag mynd gyda hwy. Ar y ffordd tua Windsor, gofynnodd un o'r cwmni i'r wraig pam na fuasai ef yn dod, ac atebodd hithau: "Lled debig fod ganddo rywbeth ar ei feddwl ac eisieu ei ysgrifennu i lawr." Ar eu dychweliad adref, yr oedd y cyfansoddwr yn llawn direidi yn eu cyfarfod yn y drive; ac ar ol iddynt fynd i'r ystafell, chwareodd iddynt Lieder A., No. 30; ac ar ol dibennu, dywedodd, "Dyna'r hyn y bûm yn ei wneuthur yr amser y buoch chwi yn Windsor."
Ym myd Awen nid oes nac Ellmyn na Chymro: yr un yw ei natur yng Nghymru ag yn yr Eidal. Gwyddom fod Dr. Parry, pan fyddai'r llif yn codi, ac amser hunan-fynegi yn dod, yn gorchymyn rhwymo nifer o gyfrolau yn drigfan leol (local habitation) i'w feddylddrychau. Yn ol Mr. Dd. Jenkins, yr oedd gan Gwilym Gwent lyfr mawr yn y tŷ, i drysori ei gynhyrchion ynddo. Cyfansoddai yn y gwaith, ac ar y ffordd i'r gwaith ac o'r gwaith; a chyfansoddai'r cwbl cyn gosod nodyn ar bapur. Wedi cyrraedd y tŷ, gofynnai am y llyfr, ac yna ysgrifennai y pedwar llais heb na blot na scratch arno."
Bydd yn llawenydd gan y darllenydd ddeall nad yw'r Awen wedi gadael John Thomas yn ei henaint. Fel hyn yr ysgrifenna at Emlyn yn 1912:
"Wedi gorffen honno (anthem) yr oedd geiriau 'Bendigedig yn hofran yn fy meddwl ar fy ngwaethaf, a rhyw frawddegau yn gwthio eu hunain arnaf, fel yr oedd yn amhosibl cael llonydd. O'r diwedd es ati i'w rhoddi i lawr, a bob yn dipyn yr oeddynt yn chwyddo, a'r diwedd fu ceisio eu rhoi at ei gilydd, a'u trefnu goreu gallwn."
Y mae'r darllenydd wedi sylwi fod Emlyn yn cyfeirio at brofiadau cyffelyb yn ei lythyrau—e.g.:
"Mae defnyddiau Rhangân fechan Saesneg yn rhedeg yn fy mhen yn awr, fel nas gallaf wneud nemawr o ddim nes eu rhoddi ar ddu a gwyn." Mewn un arall cyfeiria at "symudiadau bychain yn ei ben yma a thraw"—yr esgyrn heb ddod at ei gilydd eto; ac mewn ateb i gais ei gyfaill (Dd. Lewis) am anthem i blant, dywed fod ganddo un "yn ei feddwl" ac y "daw allan " yn fuan—nid allan o'r wasg bid siŵr, ond o'r gweithdy mewnol. Wele enghraifft arall o un o'i lythyrau at Mr. D. W. Lewis, Brynaman:—
"D oedd yr un anthem a ysgrifennais i'r llyfr newydd (y Caniedydd) yn fy moddio, nac un o'r tonau ysgrifennais ar Eisteddal teithiwr blin,' ond yr oedd y geiriau yn fy nilyn o hyd, a nos Sul—ganol y nos—y wraig yn cysgu, y forwyn yn chwyrnu, y gath yn mynd dros ei brwydrau llygodawl yn ei chwsg, a Phol y parret yn wincio a'r naill lygad (edrycha'n debig ofnadwy i Gladstone y prydiau hynny) daeth i'm meddwl ar unwaith Beth am Anthem ar y geiriau?' Wel, cewch ei gweld; dywed y wraig yma fod rhywbeth ynddi, ac un anodd iawn i'w boddio yw hi, fel y ladies yn gyffredinol."
Ond yr oedd hyn wedi cyfnod y trafaelu.
Yn ystod y cyfnod hwn gallwn feddwl amdano ef a'r gwaith creu yn mynd ymlaen yn y weithfa yn ystod y dydd mewn trên a cherbyd—ac yna'n cael ei osod i lawr "ar ddu a gwyn" yn yr hwyr yn ystafell y gwesty.
Yr oedd yntau'n hoff o natur, ac yn fyw i'w hapeliadau, a gwnai'r defnydd goreu o bob cyfle i gymdeithasu â hi. Gwyddai am y rhodfeydd hyfrytaf, tawelaf, oddeutu Henffordd a Chemaes,—a Chastell-newydd, bid siŵr. Hyd yn oed ar ei deithiau masnachol, nid oedd heb gryn lawer o hamdden. Yr oedd yn gyflym mewn meddwl a gweithred, ac âi drwy ei waith yn gymharol rwydd. Yr oedd awdurdodau'r Cwmni y gweithiai tano hefyd yn llawn cydymdeimlad a charedigrwydd, ac yn gwybod ei werth masnachol iddynt.
Fel hyn y cyfansoddwyd Y Gwanwyn meddai ef mewn llythyr at Mr. D. W. Lewis:
"Nid yn y dref y'm ganed, ond allan yn y wlad rhyw ddwy neu dair milltir, mewn ffermdy—un y trigai fy nhaid o barchus gof ynddo, ac a godwyd ganddo, o'r enw Penralltwen. Nid yw weledig o'r dref, gan fod bryn arall rhyngddo hi, a chwm cul y Ceri rhwng y ddau fryn. Yno ar gamfa yn y Cwmdu ac o dan Alltyfedw, yr ysgrifennais Y Gwanwyn' bob nodyn, rwy'n credu. Lle rhamantus iawn: dim ond y dolydd, yr afon, y bryniau, a'r coed."
A phan ofynnodd Mr. Lewis iddo, wrth sôn am Eirinwg: "Oes dim modd cael hanes pa fodd y daeth y dôn ardderchog hon i fod ?"
"Wel," ebe yntau, "tebig i hyn: daeth cais oddiwrth Mri. Hughes & Son, Gwrecsam, am dôn ar yr emyn
'O arwain fy enaid i'r dyfroedd—
Y dyfroedd sy'n afon mor bur.'
Ar brynhawn hyfryd yn yr haf gosodais lyfr emynau S.R. oeddwn wedi gael yn anrheg gan fy mam pan yn fachgen, yn fy llogell, ac aethum i gyfeiriad y wlad o dwrf y dref. Eisteddais ar gamfa, ac yno yng nghwmni cor y wig a golygfeydd natur, daeth y dôn Eirinwg' i fodolaeth. Ni newidiwyd yr un nodyn arni."
Ond er na newidiwyd nodyn o Eirinwg, nid oedd ef yn cyfrif ar hynny'n gyson—credai mewn caboli a pherffeithio (gyda Beethoven), fel y dengys y sylwadau a ganlyn o blith llawer o rai tebig (mewn llythyr at Mr. Lewis):—
"Credaf mai ein man gwan ni fel cenedl—mewn ystyr gelfyddol—yw diffyg amynedd i berffeithio ein gwaith, a'i brofi yng ngoleuni gramadeg a deddf, bob iod o hono. D'wedwn y gwna'r tro,' pan y gallwn wneud yn well gyda phenderfyniad, ac 'fe basith,' er ein bod braidd yn siwr na ddaliai gael ei ramadegu—ei barsio'n fanwl. Dywedodd rhywun mai ystyr genius yw an infinite capacity for taking pains'; nis gellir tanysgrifio i gywirdeb hollol y deffiniad yna ond cynhwysa gryn lawer o wir, ac o wir o werth neilltuol i ni. Pwnc arall gwerth i ni ei ystyried y dyddiau hyn yw eglurder a destlusrwydd, a byddai'n llawer o beth i rai o'n cerddorion, pe baent wedi eu geni mewn gwlad lle na sonid am Berlioz na Wagner, na neb o'r cyfryw! A byddai dogn lled helaeth o Mozart yn iechyd i'w hesgyrn—oherwydd gwyr yr esgyrn ydynt gan mwyaf, ac esgyrn sychion iawn hefyd!"
Eto, er ei fod yn gwneuthur y defnydd goreu o'i gyfleusterau i gyfansoddi, ac yn cael ffrwyth o'i lafur mewn mwy nag un maes, y mae'n ddiau fod y sylwadau a ganlyn o'i eiddo ar Ambrose Lloyd, a wnaed yr adeg hon (1875), yn datgan ei deimladau ef ei hun yn wyneb anghyfleusterau'i fywyd:—
"Lled debig fod hanes ei fywyd yn agos yr hyn yw eiddo'r cyfansoddwr Cymreig yn gyffredinol,—ymdrafferthu yn galed ynglyn â gorchwylion y byd fel mater o fywoliaeth, lladrata ychydig oriau mewn snatches yma a thraw at lenyddiaeth, a myned i orffwys heb fynegi mo'r hanner,' na gadael dim ar ol i'w anwyliaid ond ei enw ac ychydig weithiau gwasgaredig.
"Pe o dan amgylchiadau mwy manteisiol mae yn anodd dweyd pa nifer o geinion ychwanegol a fuasai y meddwl toreithiog a gynhyrchodd 'Gweddi Habaccuc,' 'Y Blodeuyn Oiaf,' etc. wedi ein anrhegu a hwynt; ac yn y fan hon nis gallwn lai na nodi ein cred fod Mr. Lloyd yn esiampl neilltuol o'r rhai a ffarweliant a'r esgynlawr ddaearol hon heb draethu ond ychydig o'r hyn a allent ac a deimlent."
XII.
CARTREF A CHYFEILLION.
HYD y flwyddyn 1878 bu ef heb gartref "iddo'i hun," ag eithrio ymgais a wnaed ganddo ef, a dau gyfaill ar y ffordd," sef Wm. Owen ac Owen Owen, i gadw tŷ yn Abertawe, fel man canolog i'w teithiau. Yr oeddynt hwy'n gyfeillion cynnes a chydnaws, a pharhasant felly hyd y diwedd; ond wedi peth amser, meddyliodd un o'r tri fod dau'n well nag un (ac yn well na thri); dilynwyd ef yn fuan gan un arall o'r tri, a thorrwyd y cartref hwnnw i fyny. Bu Mr. Wm. Owen farw rai blynyddoedd yn ol; yr oedd Mr. Owen Owen yn un o'r rhai a gludai'r arch a'i gweddillion yn angladd Emlyn.
Yn 1878 priododd â gweddw ei gyfaill Mynyddog, merch y Parch. Aaron Francis (Aaron Mochnant) —un a fu, drwy ei hanianawd gerddorol, ei doniau cymdeithasol, a'i rhinweddau eraill, yn gymar ffyddlon iddo am 35 mlynedd. Buont fyw am ddwy flynedd. yn yr Amwythig, ac yna symudasant i Hen ffordd, lle yr arosasant hyd 1894. Penderfynid eu dewisiad o fan i fyw gan ystyriaethau masnachol yn bennaf—yr oedd eisieu man canolog i'w gylchdaith ef lle y gallai ddychwelyd o leiaf unwaith yn yr wythnos; ac i fesur hefyd, gan ystyriaethau eraill—naws a theimlad tuagat y lle.
Er na chynhyddodd rhif y teulu, ni fu erioed dŷ'n dioddef llai oddiwrth unigrwydd neu lonyddwch, gan faint y rhai a alwai neu a arhosai yno. Yr oedd ganddynt ill dau allu eithriadol i ymdaflu ac ymdoddi i gwmnïaeth gydnaws—i roddi eu hunain i fyny i'r gwaith o fod yn ddiddorol a defnyddiol i eraill, gan wneuthur y defnydd goreu ohonynt hwythau, mewn ymgom neu gân, stori neu ddadl ddifyr, fel y byddai'r awel yn chwythu.
Yn eu tŷ yn Henffordd arhosai yn wastad yr Joseph Parry a Dd. Jenkins yn ystod eu hymweliadau â'r dref adeg gŵyl gerddorol y Tri Chôr. Cawn ryw gipolwg ar natur y gwmnïaeth gan Mr. Jenkins
"Meddai galon hael, mewn ystyr ariannol, oherwydd lle gwelai angen, rhoddai yn ewyllysgar o'r ychydig oedd ganddo, ac yr oedd y croesaw i'w gyfeillion pan o dan ei gronglwyd yn ddibrin, a gwyddai y ffordd i'w gwneud yn hapus a dedwydd. Treuliasom lawer i orig ddedwydd dan ei gronglwyd pan yn ymweled â Gwyl Gerddorol y Tri Chôr yn Hen ffordd. Buom yno mewn pedair gwyl, a Dr. Parry ddwywaith gyda ni. Rhyfedd iawn, ni ddeuai i fwy nag un o'r cyfarfodydd allan o'r deu-ddeg gynhelid, pan yr ai Parry a ninnau i rai o'r rehearsals, cystal a'r perfformiadau. Unwaith llwyddasom i'w gael gyda ni i glywed Albani yn y 'Creation,' a'r noson hono gwahoddwyd Proffeswr Prout a Mr. Barrett, y Flautist, i'n cyfarfod i gael swper yn ei dŷ, ac yr oedd hono yn noson fawr yn ein hanes i gyd,—' big night,' ys dywedai yntau. Fel hyn, ychydig o gyngherddau ai iddynt hyd yn nod yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac os ai, nid arosai byth i'r diwedd, os na fuasai gweithiau rhai o'i ffryndiau yn cael eu perfformio. Gadawai feirniadaeth y rhai hyn, yn nghyd a rhai y gwyliau cerddorol yn gyfangwbl i ni bob amser. Yr ydym wedi cyfeirio mewn lle arall at un ymweliad o Dr. Parry â Henffordd, pan y daeth a full score Saul o Tarsus' gydag ef, ac ni chaed dim ond sôn am 'Saul' hyd nes i Emlyn fygwth mynd i'r gegin, a Parry fel plentyn yn addaw na wnai sôn rhagor, ond boreu tranoeth yn dod a'r gyfrol fawr a'i gosod ar y bwrdd o'i flaen yn llawn direidi. O ddedwydd ddyddiau! mae hiraeth calon arnom ar eu hôl. Ni ddychwelant byth mwy, ac y mae'r ddau gyfaill talentog a dyddorol yn gorwedd yn ddigon tawel, ond mae'r gân ganwyd ganddynt eto'n fyw, ac a fydd am oesau fel adsain pêr rhwng bryniau'n gwlad."
Cefais y pleser o fod yno unwaith yr un pryd a Dr. Parry yn ystod yr ŵyl, a dyna'r tro y gwelais ystyr yr ymadrodd "y dragwyddol gân." Yr oedd gan Parry ryw waith mawr mewn llaw y pryd hwnnw yn ogystal, a chofiaf yn dda am faintioli a phwysau'r cyfrolau; ond yr hyn oedd hyfrytaf yng ngolwg dyn ieuanc nad oedd yn gallu eu dilyn i gyfrinion y gân oedd y dull syml a brawdol o ganu a beirniadu y gwahanol rannau. Gwir fod Parry'n llawn o'i waith a'i syniadau ei hun, a chlywais hyn yn cael ei gondemnio fel myfiaeth, ond myfiaeth oedd, o leiaf yn y cysylltiadau hynny, heb ddim yn foesol atgas o'i chylch—myfiaeth yr eos yn ymgolli yn ei chân mewn anghof o bopeth arall. Dangosir nad oedd dim yn fombastaidd a thrahaus o'i chylch gan ei waith yn cludo'i gopiau trymion i Henffordd er mwyn cael barn a chydymdeimlad ei gyfeillion yno. Un noson gwahoddwyd arweinydd y gerddorfa i fewn, ac yr oedd honno'n "noson fawr" hefyd, os canu hyd oriau mân y bore sy'n gwneuthur noson yn fawr.
Gwir fod yr adegau hyn yn rhai eithriadol, ond ar raddfa lai digwyddent o hyd ac o hyd. Dyma enghraifft o'i ddull arferol o roesawu cyfeillion, o un o'i lythyrau at yr Athro Jenkins
"Yn awr, gyda golwg ar ddod yma: pam na ddenwch yr wythnos nesaf? Y mae'r tywydd yn hyfryd yn awr, ac yr ydym yn cael ein te prynhawnol allan ar y lawnt, tan y goeden onnen sy'n awr yn llawn dail. Cyn hir tyr y tywydd i fyny, ac unwaith y gwna, gallwn gael tymor hir o wlaw ar ol yr holl heulwen yma. Os deuwch cyn cychwyn eich cwrs (yn y Coleg) fe a'ch adnewydda ar ei gyfer. Fedrwn i ddim dal y stwr dychrynllyd sydd yn yr ystryd yna yn y bore, a byddai'r crowd ar y Terrace ac ymhobman yn gwneud bywyd yn boen i mi."
Yr ydym yn ddyledus i Dr. Protheroe am yr atgofion a'r nodiadau a ganlyn ar Emlyn fel cyfaill:—
"Pan ar dro yn yr Hen Wlad, cefais fy hun, yng nghwmni y diweddar Proffeswr David Jenkins yng Ngorsaf Glandovey Junction, ar ein ffordd i'r Eisteddfod Genedlaethol gynhelid y flwyddyn honno yn Ffestiniog. Meddai fy nghyfaill: "Yr wyf yn disgwyl Mr. Emlyn Evans i'n cyfarfod yma, ac yna awn yn gwmni diddan i'r wyl.' Dyna fy nghyfarfyddiad personol cyntaf â'r awenydd hyfryd, er fod llawer gohebiaeth wedi pasio rhyngom. Yr oeddwn wedi cael y pleser o'i wel'd cyn hynny, gan ei fod ef yn un o feirniaid Eisteddfod Abertawe yn 1880, a minnau yn llwyddo i ennill y wobr ar ganu'r unawd Alto Onid oes balm yn Gilead' (Owain Alaw). Yr oedd y cyfarfyddiad hwnnw yng Nglan Dyfi yn ddechreu cyfnod o gyfeillgarwch pur; a bydd i mi, tra bwyf byw, gael aml i orig felys wrth atgofio llawer tro hapus yn ei gwmni diddan yr ymweliadau â Chemmes—y tro doniol pryd yr euthum, ar ddamwain, drwy preserves rhyw ŵr bonheddig yn agos i Ddinas Mawddwy. Mawr yr ysmaldod a'r miri—fel y dywedai: 'Fe fyddai yn ddoniol o beth pe bai y plismon a'r cipar yn ein cymryd i fyny fel poachers—a'r newydd yn cael ei yrru i'r Amerig.'.
"Fe gofiaf yn dda am y croesaw cynnes, a'r amser diddorol gafwyd yn ei gartref ym 'Mron y Gân. Mor nodweddiadol yr enw! Yr oedd yno galon dan y fron, calon a gurai yn llawn o garedigrwydd diymffrost. Yr oedd amgylchoedd Bron y Gan yn ddeniadol, ac nid rhyfedd i rywun ganu—
'O! mae'r ardd o flaen y drws
Yn arlun tlws o Eden,
Hawdd yw gwel'd oddeutu'r lle
Ei fod yn gartre'r awen;
Yn y gwrychoedd gylch y ty
Cerddoriaeth sy'n mhob deilen.'
Yr oedd Emlyn yn gyfaill sylweddol—nid un ar yr wyneb. Nid oedd dim yn ormod iddo wneuthur, os byddai drwy hynny yn gallu bod o wasanaeth. Credai mai y ffordd sicraf i ennill serch ydoedd drwy roddi serch. Nid pawb, er hynny, fedrai gael mynd i mewn i gysegr santeiddiolaf ei gyfeillgarwch. Ond i'r rhai a anrhydeddid â'r agoriad o'r cyntedd, yr oedd y cymundeb yn llawn swyn a'r gymdeithas yn felys. Rhoddai i mi gipolwg ar agwedd gerddorol Cymru Fu.' Aed dros hanes lawer, ac fel yr ysgrifennai ef ei hun ryw dro: 'Am yr ystorïau a adroddwyd, a'r chwedlau a ail gyfodwyd, y barnedigaethau ar bob peth a phawb mewn llên a chân, byd ac allan o'r byd, a draddodwyd, a'r oll heb falais na sèn, a maent yn ysgrifenedig ar lechau y côf yn unig, ac i aros yno yng nghudd oddiwrth allanolion fodau.
'If happy be myself and mine,
What matters that to thee and thine.'
Cymerai ddiddordeb yng ngwaith ei gyfeillion, holai'n fanwl am eu hynt, ymgynghorai â hwynt, rhoddai awgrym parth y tebygolrwydd o lwyddiant yr anturiaeth hyn, neu'r ymgais arall;
rhoddai gyfarwyddiadau clir sut i gyhoeddi gweithiau,—mewn gair, yr oedd yn bopeth i'w gyfeillion. Pan yn gohebu â mi, cai symudiadau y byd cerddorol le pwysig yn ei lythyrau, a thrwy hynny yr oeddwn, er yn byw ymhell o'r Hen Wlad, drwy ei garedigrwydd yn cael fy nghadw yn bur gynefin â'r hyn a ddigwyddai ar lwyfannau eisteddfodau a chyngherddau Cymru. Ymhyfrydai mewn rhoddi cyfarwyddyd i gerddorion ieuainc. Os byddai angen help llaw ar neb teilwng, gellid apelio at Emlyn, mewn llawn hyder y ceid yr hyn ofynnid ganddo. Yr oedd yn hollol ddidderbynwyneb, a dywedai'r gwir wrth ffrynd yn ogystal a gelyn. Yr oedd yn Gymro trwyadl, carai ei wlad yn angerddol, a'i deimlad oedd
'Mewn adfyd a hawddfyd, mewn gaeaf a haf,
Mae 'nghalon yng Nghymru ple bynnag yr âf.'
Un tro, ar ol i mi ymweled â Glannau'r Teifi, ysgrifennai ataf:—
'I am very glad you enjoyed your visit to my old neighbourhood. If I had been there, I could have shown you many an Eldorado of a spot, but I nowadays, like Peri at the Gates of Paradise, only see it from afar. Altho' some of my relatives are still there, my old friends are dead and gone, sleeping quietly under the daisies near the murmuring Ffrwd Wen.'
Y mae yntau bellach, gyda'i awen barod, ei farn aeddfed, a'i galon fawr a hael, yn gorffwys yn dawel dan lygaid y dydd, a'r Teifi swynol yn murmur ei galargan fel y llifa'n hamddenol heibio Llandyfriog. Bydd i Gymru Fydd edrych yn ol ar fywyd a llafur David Emlyn Evans, a rhoi iddo ei le dyladwy fel un o feibion mwyaf athrylithgar y gerdd yng Nghymru—Gwlad y Gân." Y mae yna arwedd ar ei berthynas â'i gyfeillion (cerddorol yn bennaf) na bydd y darlun ohono'n llawn heb gyfeiriad ati, sef yr arwedd fachgennaidd. Ymddengys fod hon yn arwedd ar bob hen gyfeillgarwch yn neilltuol felly os bydd yr hen gyfeillion ar eu gwyliau, heb bwysau'r byd brwnt i ddofi eu hafiaith. Ond hyd yn oed ar wahân i wyliau y mae hen gyfeillion, a chyfeillion hen o ran hynny, yn tueddu i droi'n hogiau'n union yng nghwmni ei gilydd. Ymryddhânt o lyffetheiriau cymdeithas gelfyddydol a full-dress y bywyd swyddogol, a chant eu gïau moesol a meddyliol o leiaf yn rhydd—pan fo'r corff yn pallu—i chware a neidio, a phaffio fel cynt, mewn direidi ac ysmaldod, mewn difyrrwch ffansi, a rhialtwch sgwrs a stori.
Ond ymddengys fod artists yn fwy o hogiau, ac yn para'n hogiau'n hwy, nag eraill yn gallu ymdaflu i ddigrifwch di-faich yn fwy llwyr. Hogiau felly, heb erioed dyfu allan o'r cyfnod hwnnw, oedd Joseph Parry a Gwilym Gwent. Nid oedd Emlyn a John Thomas a Dd. Jenkins felly'n gyson; ymollyngent i'r berthynas hon â'i gilydd yn rhwydd iawn. Ar un adeg yn ei fywyd (wedi 1880!) ceisiodd yr elfen hon wneuthur lle mwy sicr a chyson iddi ei hun yn ei hanes. Bu Gwalia, Llandrindod, yn "gartref oddicartref" iddo am lawer o flynyddoedd; ac yn ystod y cyfnod y cyfeiriwn ato, bu ef a nifer o gyfeillion eraill Hughie Edwards, Llwydwedd, Lucas Williams, R. S. Hughes a Dd. Jenkins ar brydiau yn cydgyrchu i Landrindod bob blwyddyn pan fyddai'r lloer yn llawn. Mr. Ed. Jenkins (Ap Ceredig) oedd y whipper-in gan amlaf. Gelwid hwy "y fflamawg gad," am eu bod yn cydymdaith, ac yn gwisgo ties flamgoch, mae'n debig.
Wele enghraifft o'r "whips" a yrrid allan:—
"O! mor braf, O! mor braf
Yn yr hwyr yw lloer yr haf:
Anadl hon yw'r awel fwyn
Sydd yn suo yn y llwyn;
Dywed wrthyf, 'Dos ar frys
I Landrindod, hwn yw'r mis;
Yno bydd y fflamawg gad,
Nid gwiw rhoddi un nacâd.
Rhaid cael Emlyn yno'n wir,
Rhaid, os yw yn gyfaill pur,—
Cyfaill pur! pwy fyth a'i gwad ?
Y lloer a'i gŵyr, a'r fflamawg gad!"
Awst 8fed, 1884.
"Un o'r troion mwyaf rhyfedd yn hanes 'y fflamawg gad' oedd ei hymweliad a Llanwrtyd i weled John. Wrth gwrs, yr oedd yn ofynnol gwneuthur rhagbarotoad cerddorol, a dysgodd Emlyn i ni ddarn newydd spon: ei deitl oedd, We are going down to Egypt to see Benjamin. Yr oedd cystadleuaeth newydd fod yn rhywle, lle y beirniadai Emlyn, a darn o'r gystadleuaeth honno oedd We are going down to Egypt.
Wedi cyrhaedd Llanwrtyd, hysbyswyd ni fod Martha Harries, yr hon oedd yn gantores boblogaidd ar y pryd, yn aros mewn ty ar ein ffordd i'r Post Office; a than gysgod y gwrych yn ffrynt ei llety, rhoisom donc ar Wyt ti'n cofio'r lloer yn codi '—dewis gân Martha.
"Wedi cyrhaedd y Post Office, lle cartrefai John, ymrestrodd y parti, a chydag ymdrech anarferol datganwyd We are going down to Egypt to see Benjamin: dychrynwyd John, a diangodd o'r golwg, ond tynnodd y swn, neu y sain, yr ymwelwyr yn dyrrau o'u tai. Dyna un o ddifyr droion 'y fflamawg gad "
Er i "John" ddianc y tro hwn, yr oedd ef yn gymaint hogyn a'r un, fel y gŵyr ei gyfeillion. Ai Dafydd" yn hogiau'n union yng nghwmni ei gilydd ac yn aml yn eu gohebiaeth. Diau y cafodd Emlyn lawer o ddifyrrwch uwchben y pictiwr a ganlyn o'i gyfaill John, a ddiogelwyd ymhlith ei drysorau:—Fy Anwyl Gyfaill,
Derbyniais yr eiddot yn Llundain, a'r darnau i blant a'th lythyr yma. Da gennyf ddweyd i mi allu myned drwy y daith a'r gwaith yn bur lew; ond taith ofnadwy oedd honno i Penmachno. Mi groesais y mynydd o Dolyddelen, ac yr oedd hi yn gwlawio yn ofnadwy, a'r grug yn wlyb, nes yr oeddwn yn wlyb hyd odreu y got yn bur fuan. Nid oedd yno ond llwybr anodd iawn ei ddilyn, a dim ond ambell i ddafad a grugieir yn fy nghyfarch yr holl ffordd. Pan ar y very top daeth awel o wynt a chymerodd fy umbrella i ffwrdd gyda hi, ac yr oedd yn myned mor gyflym, ac yn twmblo mor ofnadwy, a minnau yn rhedeg nerth traed ar ei ol ac yn methu yn deg a dyfod yn agos iddo—yr oeddwn wedi rhedeg cyhyd ag oddi yma i'r Station yma neu ragor drwy y brwyn a'r grug a'r pyllau, heb edrych ym mha le yr oeddwn yn gosod fy nhraed i lawr, oblegid nid oedd waeth gan nad allwn fyned yn wlypach-fel yr oedd golwg ddoniol arnaf, ac ni wyddwn pa un ai llefain ai chwerthin, ai rhegu (a wnawn). O'r diwedd, dyma fo dros ryw ddibyn o'm golwg, ac yr oeddwn wedi ffarwelio ag ef yn fy meddwl, ond erbyn cyrraedd i'r fan, dyna lle'r oedd yn dawel ei wala islaw y clogwyn yn y cysgod, ac yn ddianaf Helynt ryfedd wir—a'r hen grugieir yn tarfu i ffwrdd o'm blaen ac yn gwneud swn tebyg iawn i "Ha, Ha, Ha, Jack, Jack, Jack." Ond tase gen i ddryll mi roiswn i Jack i rai ohonynt. Wedi cyrhaedd ol i'r llwybr a cherdded cryn dipyn ar hyd-ddo, mi gollais y llwybr, ac ar ol teithio rhyw gymaint daethum yn erbyn rhyw wal uchel yn groes i'r mynydd—ond wedi aros a cheisio guessio ple'r oedd Penmachno, mi lwyddais i gael y llwybr drachefn. Yr oeddwn yn y capel tua haner y cyfarfod cyntaf, wedi cael pob ymgeledd yn y ty Capel. Wel dyna i ti yr helynt—ond yr oedd yn dda i mi nad aethum yno nos Sadwrn, oblegid cor Penmachno gafodd y wobr.
. . . . . . . . . .
Cofion fyrdd,
Gwaith rhwydd fyddai ychwanegu; ond nid ydym am roddi mwy o le i'r agwedd hon yn y Cofiant nag sy'n gymhesur â'r lle oedd iddi ym mywyd gwrthrych y Cofiant. Yn hwnnw yr oedd yn hollol is-wasanaethgar; ond yn y safle honno chwareodd ran dra phwysig yn ei hanes yn ddiau, drwy lacio tipyn ar dyndra gewynau meddyliol a moesol, a chadw peirianwaith y giau rhag treulio allan gan egni'r ysbryd a bres—wyliai yn y corff gwan.

BRON-y-GAN.
Y Trydydd Cyfnod, 1880-1913.
XIII.
GWASANAETH
CROESWN i gyfnod newydd yn hanes ein gwrthrych tua'r flwyddyn 1880. Wrth gwrs, nid yw'n bosibl tynnu llinell glir a sicr rhwng cyfnod a chyfnod ym mywyd dyn. Fel y ceir llygedyn o sirioldeb gwanwyn, a glesni gwybr a mwynder awel Mai yn aml yn Chwefrol, felly'r ymwthia cyfnod y dyn i fywyd y llanc yn wyrgam a thoredig: nid yn unig "mae'r llanc am fod yn ddyn," ond y mae'r llanc yn ddyn ar brydiau, cyn cyrraedd oedran gŵr.
Dechreuodd Emlyn wasanaethu fel beirniad mor fore ag 1867, yng Nglyn Ebwy. Yn 1868 ymddengys ei feirniadaeth gyntaf yn y Cerddor Cymreig ar y dôn yng Nghefn Cribwr, pryd y rhannwyd y wobr rhwng John Thomas a Dd. Lewis. Yr un flwyddyn cawn Eos Morlais yn cystadlu tano yn Nhredegar—y pryd hwnnw fel arweinydd Côr Dowlais—ac yn cael hanner gwobr. Parhaodd i ennill tir fel beirniad ar hyd y blynyddoedd, hyd 1879—80, pan roddwyd iddo'i le fel un o feirniaid cyson yr Eisteddfod Genedlaethol.
Y pryd hwn hefyd rhoddodd gystadlu heibio, er ei fod yn graddol addfedu i hyn ers blynyddoedd, fel y dengys y llythyr a ganlyn o'i eiddo at Mr. Lewis, Llanrhystyd:—Fy Hynaws Gyfaill,
Ychydig linellau yn frysiog gan ddymuno i chwi yn gyntaf 'flwyddyn newydd dda, dda. Gobeithio i chwi dreulio gwyliau llawen a diddan yn Abertawe y Nadolig. Gwelais hanes tra ffafriol o'r Eisteddfod yn un o bapurau Saesneg y dywysogaeth.
Cawsom gynulliad a chystadleuaeth ragorol yn y Drill Hall, Merthyr. Bum mewn cryn benbleth rhwng Ton Johann Seb. Bach un Alaw Ddu: yr oedd cedyrn eraill yn yr ymrysonfa, ond y ddwy a nodais oedd oreu, debygwn. Mawr hoffwn arddull y flaenaf, ond ag ystyried y ddwy dôn yn gyfanbeth, gogwyddais ychydig bach i'r olaf.
Gadewch i mi gael gair o'ch helynt cyn hir. A ydych yn cyfansoddi rhywbeth yn neilltuol y dyddiau hyn Neu yn astudio mewn rhyw gyfeiriad arbennig? Nid wyf yn gwybod am un gystadleuaeth o werth wrth law. Yr wyf fi fy hun wedi llwyr benderfynu cyfyngu'm maes cystadleuol a beirniadol; ac, yn wir, bron a phenderfynu rhoddi'r blaenaf i fyny'n hollol.
A gawsoch chwi yr ychydig sylltau o Gefncribwr?
Rhowch air o'ch helynt.
Byth yr eiddot,
D. EMLYN E.
O.N. Cyfarfyddais a Gwilym a Blaenanerch trannoeth y Nadolig yn Aberdâr.
Ymhen blwyddyn agos (ddiwedd Rhagfyr 1870) ysgrifenna eto at Mr. Lewis:— "Yr wyf fy hun wedi llwyr roddi fyny fân gystadleuaethau."
Dechreuodd ei waith fel golygydd yn 1872, pryd y cychwynnwyd y Gerddorfa dan olygiaeth Dewi Alaw ac yntau; ond oherwydd gwaeledd ei iechyd (a'i ddyletswyddau masnachol) gorfu arno roddi'r swydd i fyny ymhen y flwyddyn; ac er ail-ymaflyd ynddi drachefn ym Mehefin 1875, ni allodd ddal ymlaen ymhellach na Medi 1876. Oherwydd ystad ei iechyd treuliodd aeaf 1877-78 yn Ventnor, Isle of Wight.
Yn rhai o'r ysgrifau gwelwn y "banergludydd " yn ymddangos, a dechreuad yr ymgyrchoedd yn erbyn cystadleuaeth (pan yn feistres i gerddoriaeth ac nid yn forwyn) ac ar ran delfryd uchel a phur ynghyd ag ehangiad y cylch cerddorol mewn cyfansoddi a chanu. Cymerer a ganlyn o erthygl arweiniol Medi 1872:—
"Ystyriwn fod dyledswydd arnom fel cenedl gerddorol i feithrin mwy ar wahanol arddulliau o gerddoriaeth. Ni welir ac ni chlywir ond y ganig fyth a hefyd. Beth yw y rheswm?
"Efallai y gellir rhoddi mwy nag un rheswm; yn un peth, am fod tuedd yn ein prif gerddorion i foddloni y dosbarth iselaf ei chwaeth a mwyaf eu hanwybodaeth, yn hytrach na boddloni eu hunain, yr hyn ni wnaeth gwir athrylith erioed o’i bodd. Fel rheol ni cheisiodd Handel, Bach, Mozart, Beethoven, Mendelssohn, etc., ddarostwng eu hunain, er boddio chwaeth a theimladau y werin a gyd-breswyliai â hwynt: boddloni eu chwaeth a'u teimladau eu hunain a wnaent hwy, gan ddiystyrru gwawd y rhai hynny na allent werthfawrogi peroriaeth uwchraddol,—ond prif bwnc y Cymro fynychaf yw gwneud ei hunan yn boblogaidd.
"Rheswm arall yw mai am ganigau y cynhygir gwobrwyon ym mhob Eisteddfod, ac y mae'r awydd am gystadlu wedi mynd mor gryf fel nad oes dim ond canigau'n cael eu cynhyrchu o'r naill flwyddyn i'r llall."
Ynglŷn â Chaniadaeth, dan y teitl "Y Twelfth Mass" yn Aberdar (Nadolig 1874) ysgrifenna:—
"Er ys cryn amser, drwy y wasg ac yn bersonol, yr ydym wedi cymeryd yn ddigon rhydd ar ein cyfeillion cerddorol yn y lle uchod i ddweyd wrthynt fod maes eang iawn o wneud daioni ynglyn a cherddoriaeth glasurol heb ond prin ei gyffwrdd yng Nghymru, a'n bod yn ei hystyried yn ddyledswydd arbenigol arnynt hwy—the heroes of many a fight—i lafurio yn y maes gogoneddus hwn. Nid ydym yn y fan hon yn mynd i ddweyd dim dros nac yn erbyn cystadleuaeth Eisteddfodol, ond yn unig barnwn fod dyledswyddau uwch at gerddoriaeth gan gorau galluog Aberdar, Glyn Ebbwy, Merthyr a Dowlais, nac ymgystadlu fyth a hefyd a small fries yn yr hyn nas gellir eu galw yn bresennol ond music-fights, a llawer ohonynt er cywilydd a gwarth ein cenedl a'i hen sefydliad cenedlaethol." O'r tu arall, y mae ei sêl dros burdeb eisteddfodol—lle byddo cystadleuaeth—yn peri iddo arwain cad o'i gyd-gerddorion yn y De—Eos Rhondda, John Thomas, Alaw Ddu, Dewi Alaw, Dd. Lewis a Frost—yn erbyn gwaith pwyllgor Eisteddfod Bangor yn caniatau—os nad trefnu—fod y wobr am gyfansoddiad cerddorol yn cael ei dyfarnu heb fod un o'r beirniaid, sef Joseph Parry, yn cael gweld y cyfansoddiadau o gwbl. Eu cŵyn yw fod Mr. Parry wedi ei enwi'n feirniad; fod y cyfansoddiadau wedi eu gyrru i fewn yn unig ar y dealltwriaeth hynny; nad oeddynt am ddweyd dim yn erbyn y beirniaid eraill, yn unig nad oeddynt yn meddu ar ymddiriedaeth y protestwyr. Y mae y nodyn hwn, y gellir ei alw'n Burdeb cystadleuol (ar ran pwyllgor, beirniad, a chystadleuydd) yn un sydd i'w glywed yn glir drwy ei holl gyfnod nesaf.
Erfynnir am sylw'r darllenydd —yn neilltuol y darllenydd sydd yn teimlo diddordeb mewn datblygiad moesol—at y dyfyniad a ganlyn—
Yr ydym wedi bod o'r farn ers tro mai goreu peth i'n cyfansoddwyr fyddai cymeryd ychydig anadl gyda'r dwymyn ganigol, a pheidio gwastraffu eu nerth, ac anaddasu eu hunain at weithiau o bwys drwy gyfansoddi mân ganigau, anthemau etc., a hynny to order eisteddfodol. Rhoddir i bersonau eu gwahanol safleoedd yn nheml awen, nid yn ol rhif eu cynyrchion, ond eu pwysigrwydd.
"Ni a hoffem yn fawr gael ein cyfeillion i'r dull hwn o feddwl, ond ymddengys fod deniadau cystadleuaeth yn rhy gryf iddynt."
Y mae yma (1874)—yn wahanol i ysgrif Medi 1872 —yn pwysleisio delfryd mawr yn hytrach na delfryd uchel, annibynnol ar chwaeth y lliaws.
Gwelir cysgod yr un delfryd ar ei adolygiad ar Rangan Rhyfelgan y Myncod Joseph Parry:—
"Mae y wlad yn naturiol yn disgwyl oddiwrth un sydd wedi cael manteision cerddorol mor uchel, a'r hwn sydd yn bresennol a'i holl feddwl yn rhydd at feddyliaeth gerddorol mewn rhyw ffurf neu gilydd, gynyrchion o radd tra uchel. Efallai fod Mr. Parry yn teimlo fod myned i'r borfa am dymor yn llawn mor angenrheidiol i'r meddwl ag ydyw —i'r corff, neu hwyrach ei fod yn gweithio yn ddistaw ynglyn a rhyw chef d'œuvre ag sydd i'n synnu yn fuan! Pa fodd bynnag y mae yn ffaith mai dim ond prin dal i fyny ei reputation mae wedi wneud drwy y darnau bychain ag ydym wedi dderbyn o'i law ers amryw flynyddau bellach, ac o ganlyniad yr ydym yn croesawu ymddangosiad y rhangân hon fel rhywbeth uwch a theilyngach o'r awdur." Tebig fod atsain hiraeth am "feddwl yn rhydd at feddyliaeth gerddorol" yn y dyfyniad hwn, ond yma eto y mae'r syniad o rhyw waith. yn ymwthio i'r golwg. Cyfeiriwn at hyn am ei fod yn raddfa (stage) yn hanes uchelgais dyn ieuanc —yr awydd i wneuthur rhywbeth mawr fyddo'n taro'r dychymyg ac yn tynnu sylw'r byd nes dod i weld, ac ar y ffordd i ddod i weld (os bydd yna dwf) fod gwir fawredd yn fater o ansawdd yn hytrach nag o faintioli. Mae'r pregethwr ieuanc uchelgeisiol eisieu'i "gwneud hi" mewn pregeth fawr, cael eglwys fawr, bod yn bregethwr mawr—neu fynd at y Saeson, ac i Lundain—ac yna daw i weld, os gweld a wna, os "achubir" ef, mai gwasanaeth syml sydd yn fawr, ac mai "false Infinite" yw'r llall.[8] Teimlai Emlyn fod byd cystadleuaeth eisteddfodol, a byd canig a thôn, yn rhy gyfyng i'w uchelgais ef y pryd hwn, a hiraethai am awyrgylch fwy eang a rhydd; yn raddol y daeth i weld fod y rhyddid hwn iddo ef mewn gwasanaeth syml i'w genedl a'i oes—ond fe ddaeth i weld, ac yna i wneuthur.
Mae'r nodyn a darewir yn yr ysgrif sydd yn nechreu Cronicl y Cerddor (1880) yn dra gwahanol i'r uchod:—
"Bwriadwn i'r darnau (cerddorol) fod gan mwyaf yn rhai newydd, o awduraeth ein prif ysgrifenwyr; nid yn rhy anodd, hir, a llafurus, nac ychwaith yn blentynaidd a diddim. Ymddengys i ni fod angen mawr am Anthemau gwasanaethgar, defosiynol, a syml, yng nghyfansoddiad y rhai ca y fugue, er mor barchus yw, fyned i'r borfa' am dymor. Teimlwn hefyd fod ein cyfansoddwyr wedi esgeuluso'r Rhangân—ac yn enwedig i leisiau gwrywaidd i raddau hynod, a gobeithiwn lanw rhyw ychydig o'r bwlch hwn. Am y Ganig, credwn y gallwn i bwrpas fforddio iddi hithau fyned gyda'r fugue am ysbaid. Nid ydym yn hollol anobeithiol y deuwn o hyd i ambell Dôn Gynulleidfaol dda yn awr ac yn y man, ac ni fydd i ni anghofio y plant, serch na fydd a fynnom a phethau plentynaidd."
Defnyddir y gair "gwasanaeth" i ddisgrifio ysbryd a chyfeiriad cyfnod 1880-1913, nid am na fu ei fywyd o wasanaeth o'r blaen, ond am i'r nodwedd hon, oedd i fesur yn eilradd cyn hynny, ddod yn fwy ymwybodol a llywodraethol—i ymwybyddiaeth mwy clir yn ei feddwl, ac i ymsylweddoliad mwy llawn yn holl gylchoedd ei weithgarwch. Rhodd ei hunan i fyny gyda thrylwyredd ac ymroddiad oedd yn drech na'i fynych wendid (a'i fynychach gwendid fel yr âi ymlaen mewn dyddiau) i wasanaeth cerddoriaeth ei wlad, i'w phuro a'i chodi, i'w chyfoethogi a'i chyffredinoli.
Gellir adrodd hanes amgylchiadol ei fywyd yn ystod y cyfnod hwn mewn ychydig eiriau. Parhaodd yn drafaeliwr hyd 1891, gan wneuthur Henffordd yn ganolfan o hyd; ond wedi rhoddi'r busnes i fyny, nid oedd galw neilltuol dros aros yno, ac yn 1894 symudodd gyda'i briod i Gemmaes, i'r tŷ lle y treuliasai hi flynyddoedd cyntaf ei bywyd priodasol, "Bron y Gân." Yma treuliodd yn agos i ugain mlynedd olaf ei fywyd, heb ddim i dorri ar rediad tawel, ac allanol undon y dyddiau ond ymweliadau cyfeillion a groesawid fel cynt—yn fwy fel angylion na chynt, efallai, am fod yr ardal mor neilltuedig—ac ymweliadau â chyfeillion, a chryn lawer o deithio i Eisteddfodau, draw ac yma.
O'r pryd hwn y mae ei fywyd yn ymganghennu mewn llinellau o wasanaeth amlwg, a bydd yn well i ni, o hyn allan, geisio dilyn y rheiny na chario'r hanes ymlaen yn ei grynswth o flwyddyn i flwyddyn. Yn wir, pan feddyliwn amdano yn y cyfnod llawndwf hwn, yr hyn a'n tery yw nid dilyniad amgylchiadau drwy gwrs o flynyddoedd—dros ddeng mlynedd ar hugain—ond y gwahanol arweddion hyn ar ei lafur—y gwahanol ddorau na cheuid mohonynt nemawr byth yng ngweithdy ei wasanaeth prysur fel cyfansoddwr, beirniad, athro, hanesydd, golygydd a gohebydd.
Yn y fan hon, rhaid i'r cofiannydd ymneilltuo am ychydig, a rhoddi ei le i rai cynhwysach i farnu Emlyn fel cerddor a beirniad. Fel arweiniad i mewn i'r rhan hon, ac fel braslun o wahanol gyfeiriadau ei weithgarwch cerddorol, anodd cael dim gwell na'r ysgrif a ganlyn gan ei gyfaill Mr. Harry Evans, a ymddangosodd yn Y Brython adeg ei farw:—
BLODYN AR FEDD" EMLYN BACH."
Dyma'r Angau cas wedi cipio'n banergludydd oddiarnom yn y gad dros Gerddoriaeth Gymreig; a dyma'r genedl felly'n dlotach oherwydd colli Mr. Emlyn Evans. Er iddo gario'i groes—sef croes afiechyd corfforol—ar hyd ei oes bron, ni wyrai yr un fer oddiar lwybr dyletswydd, ac nid oedd yr un demtasiwn mewn bod a allai ei hudo ef rhag ymgyrraedd at ddelfryd ucha'i Gelfyddyd a'i Gân. Arweiniodd ar hyd y ffordd yn ddewr ac yn ffyddlon, ac er mai ychydig fu nifer ei ddilynwyr —yr oedd Mamonaeth yn rhy gryf i'r lliaws—fe ddeil ei waith, ac fe sylweddolir gwerth ei gyfarwyddyd yn y dyfodol.
Cefais i y fraint o'i adnabod yn dda ac yn fynwesol am lawer blwyddyn, a golygai ei adnabod ef fy mod nid yn unig yn ei garu, ond yn ei edmygu am ei alluoedd mawrion a'i gywirdeb dilychwin. Yr oedd yn drwyadl ymhopeth a wnai. Yr oedd taclusrwydd, cywirdeb, a barn ddiwyrni yn gwbi gyfystyr â'r enw "Emlyn Bach." Byddai bob amser yn barod ac ewyllysgar i gynorthwyo'r efrydydd ieuanc; cymerai'r drafferth fwyaf oedd fodd i roi'r cyngor a'r cyfarwyddyd goreu; hynny'n ddieithriad heb ddimai o dâl.
Yn ei lwyddiant cynnar fel cystadleuydd a chyfansoddwr, safai'n hollol ar ei ben ei hun yn hanes yr Eisteddfod. Gwnaeth lawer o'r gwaith hwn dan yr anhawsterau mwyaf. Yr oedd ei wybodaeth am farddoniaeth bron gyfled â'i wybodaeth am gerddoriaeth; a'r cwbl, wrth gwrs, wedi ei gael drwy ei ymroddiad e'i hun. Bu ei brofiad masnachol o gryn gynhorthwy iddo, megis y dangos—ai boneddigeiddrwydd a phrydlondeb ei holl lythyru a gohebu. Safai'n uchel fel cyfansoddwr Cymreig, a gadawodd amryw drysorau a ddaliant yn hir, yn enwedig mewn cerddoriaeth gysegredig. Y mae ei emyn-donau mor ddillyn eu ffurf ag ydynt o ddyrchafedig eu teimlad; a rhai ohonynt yn gydradd â gemau Ambrose Lloyd. Am ei ranganau —rhai ohonynt wedi eu hysgrifennu ers llawer blwyddyn bellach—ni chaed mo'u gwell gan yr un cyfansoddwr Cymreig; ac am ei waith gyda'n halawon cenedlaethol y mae hwnnw'n aruthrol. Ac nid y peth lleia'i ddiddordeb o'r cwbl a wnaeth ydoedd adolygu ac offerynnu (orchestrating) ein horatorio Gymreig gyntaf—Ystorm Tiberias Tanymarian.
Ond dichon mai ei waith mwyaf i gyd ydoedd fel beirniad. Ef, heb os nac onibâi, oedd y beirniad cerdd mwyaf a gododd Cymru, ac yr oedd y reddf feirniadu ynddo i raddau helaeth anarferol. Ef oedd y beirniad medrusaf a gwrddais i. Yr oedd yn effro, yn sicr ei feddwl, ac yn gyflym i brisio gwerth perfformiad; ac fel beirniad ar gyfansoddi, 'doedd mo'i hafal yn ein mysg.
Am ei waith fel golygydd y llyfrau tonau cyfundebol, enynnai edmygedd pawb; a bu ei ysgrifau godidog i'r Cardiff Times bob wythnos, heblaw y lleill o'i eiddo yn y Cerddor, o wasanaeth anfesuradwy i Gerddoriaeth Cymru. Yr oedd ei lawysgrif mor dwt a del ag oedd ei iaith o gryf a phenodol. Nid byth yr afradai'r un gair, ac yr oedd ei lythyrau'n batrwm o berffaith o ran eu harddull a'u broddegu. Yr oedd yn hollol onest a diofn fel beirniad, nid byth y meddalid ef gan deimlad y dyrfa, ac nid byth y twyllid ef gan na rhwysg na rhagrith neb pwy bynnag. Blinwyd ac erlidiwyd yntau, megis y blinwyd ac yr erlidiwyd eraill ar ei ol, gan arweinyddion siomedig a chysetlyd; ond yn y diwedd ef fyddai'n iawn, a'r gau-dduwiau'n siwrwd a' drylliau dan ei draed. Ni allai aros dim i chwydd a mawredd gwag, a daliai'n dyn dros "burdeb" mewn canu, ac nid dros yr hyn a elwir yn rym neu ryferthwy. At ei gilydd, yr oedd yn bur obeithiol am Gerddoriaeth Cymru, er yn gresynu am rai o'i gweddau presennol. Oherwydd ei afiechyd, a'i fod ar encil ers cyd o flynyddoedd, ni allodd gadw'n wastad â datblygiadau diweddar Cerddoriaeth, ond yr oedd ei feddwl yn gydnaws a phob amser yn agored. Yr oedd yn edmygydd mawr o Mendelssohn, a fo oedd ei fodel ar lawer peth.
Meddai lais tenor da pan yn llanc, ond yr oedd yn rhy wan a gwachul ei gorff i ddod byth yn ganwr ar goedd. Un nos Sul yn haf 1907, yn ei drigfan dawel, ramantus yng Nghemaes perswadiais ef i ganu, a dyna'i ymgais olaf. Er fod ei anadl yn fyr, eto i gyd yr oedd peth o'r hen burdeb tenoraidd yno o hyd, a rhyngom ein dau, deuthom trwy "Comfort ye, my people" ac "Every valley shall be exalted."
Yr oedd ei ddawn at ddigrifwch (sense of humour) yn ddihysbydd, yr un fath a'i gof, a 'doedd neb a'i trechai mewn dadl, canys nid byth y dadleuai heb fod ganddo'r ffeithiau wrth gefn; a gwae'r gwrthwynebydd hwnnw a ddadleuai'n unig er mwyn dadlu. Ac mewn dadl neu ymgom, yr oedd yn barod ei bwyth ac yn ddeifiol a ffraeth ei ateb, ac yn gyffredin ef a gaffai'r gair olaf.
Gweinyddodd ei weddw arno ag amynedd a thiriondeb diball ar hyd ei waeledd mynych a thrwm. Carodd Gymru; ac felly heddwch fo i'w lwch,
FEL CYFANSODDWR A CHERDDOR.
A.—Gan DR. PROTHEROE.
XIV.
Y MAE cyfnodau ar fyd y gân fel ar bob celfyddyd arall. Weithiau fe gawn gyfnod y rangan; bryd arall caiff y chwaraegerdd le amlwg. Wedi hynny dyma ddydd y tone-poem a'r symffoni. Yn ein byd bach ni yng Nghymru, nid rhyw lawer o le a gawsom i yshoncio, gan mai ychydig o dir a feddiannwyd hyd yn hyn gan ein cyfansoddwyr. Eto, fe gawn gyfnodau hyd yn oed yn ein hanes cerddorol ni.
Lai na chanrif yn ol tipyn yn dywyll ydoedd hi ar ein ffurfafen gerddorol—nid oedd yna na lloer na seren yn y golwg, a phur amrwd a dilun oedd y cyfansoddiadau a gyhoeddid. Gwir fod ein halawon gwerin yn ddihafal, ond yr adeg y synnid y byd cerddorol gan symffonïau y cawr Beethoven, y gogleisid cerddgarwyr gan awen nef-anedig Mozart, neu y swynid hwy gan ganeuon bytholwyrdd Schubert, tawel ydoedd hi yng "Ngwlad y Gân." Ymhen tipyn, dacw oleu i'r cwmwl, ac wele "sêr goleu, eglur" yn ymddangos yn John Ambrose Lloyd a Stephen Tanymarian. Tywynnai seren arall ar yr un adeg, er nad o'r un disgleirdeb —Owain Alaw. I'r cyfnod yna yr ydym yn ddyledus am y "Blodeuyn Olaf," "Teyrnasoedd y Ddaear," a'n horatorio gyntaf —"Storm Tiberias." Sonia'r hen bobl yn aml am y deffroad crefyddol hwnnw a adnabyddir erbyn hyn fel Diwygiad '59. Cafwyd deffroad arall—yn y blynyddoedd dilynol—yn y '60s, ond mai un cerddorol ydoedd. Dyma efallai gyfnod aur y rangan yng Nghymru. Dyma'r adeg y daeth Dr. Joseph Parry a'i Don o flaen gwyntoedd; John Thomas, Llanwrtyd, a'i Nant y mynydd Gwilym Gwent a'i Haf; Alaw Ddu a'i Wlithyn, ac yn olaf oll, ond nid y lleiaf, Emlyn a'i Wanwyn.
Nodweddid y rhanganau gan dlysni a swyn: gwelid prydferthwch natur yn y cwbl. Nid oedd yno ddim ymgais at y mawreddog, ond canai'r cwbl mor naturiol a
"Nant y mynydd, groew loew
Yn ymdroelli tua'r pant."
Credaf fod a wnelo amgylchoedd (environment) lawer â theithi meddwl, ac y mae'n rhaid fod golygfeydd arddunol Castellnewydd Emlyn a'r wlad oddiamgylch wedi gwneuthur argraff annileadwy ar feddwl y cerddor, gan fod yn hawdd canfod adlewyrchiad ohonynt yn ei weithiau. Y cain a'r pur, y swynol a'r prydferth ddaw i'r golwg amlaf.
Yn fore iawn yn ei hanes yr oedd gan Emlyn allu i ganu melodi bur,—melodi a ganai; melodi a roddai ddarluniad o'r geiriau. Gyda hyn meddai grebwyll i ddal ar y pethau goreu, ac er na chawsai wersi gan neb, hyd y gwyddom, eto astudiodd y gweithiau clasurol, a thra'n byw yn Cheltenham achubodd lawer cyfle i roi tro i'r Brifddinas i wrando'r clasuron ac i goethi ei feddwl drwy wrando ar rai o brif gantorion y cyfnod.
Pan oedd yn dechreu "trwsio'i adenydd" fel y gallai ehedeg yn ddiofn yn y ffurfafen gerddorol, yr oedd y rangan a'r ganig yn boblogaidd. Edmygai ranganau swynol Mendelssohn yn fawr, a mynych, ymhen blynyddoedd wedi hynny, cymhellai efrydwyr ieuainc i astudio Mendelssohn fel model yn y gelfyddyd o ran-weithiadaeth. Ond er poblogrwydd y rangan nid arhosodd Emlyn gyda'r ffurf hon, ond ymgeisiodd at ffurfiau uwch; a chawn ef yn cyfansoddi Y Tylwyth Teg. Hefyd torrodd dir newydd yn ei ganeuon. Efallai y dywed rhai iddo efelychu rhai o'r Caneuon Saesneg yn eu ffurf, ond wedi'r cyfan, i'r Cymro yr oedd popeth yn newydd. Bu'n gystadleuydd hynod lwyddiannus, ac y mae amryw o'i ganeuon goreu yn rhai arobryn. Mewn amryw ohonynt, agorai y gân gydag adroddgan fel ym Medd Llewelyn a Chan y Tywysog. Pa ganeuon Cymreig, mewn unrhyw gyfnod, sydd yn anadlu mwy o nwyd a dyhead y Cymro? Yr oedd yr alawon yn ganadwy, y ffurf yn ogleisiol, a'r cyfeiliannau yn chwaraeadwy ac effeithiol. Y mae yn syndod ei fod yn gallu ysgrifennu cyfeiliannau mor bwrpasol i'r piano, gan nad oedd ef ei hun yn honni bod yn bianydd! Pan ymwelodd Eos Morlais â'r Amerig, caneuon Emlyn a daniai'r cynulliadau Cymreig. Yr wyf mewn aml i fan wedi dod ar draws llu a gofiai am ymweliad y prif ganwr. Ar unwaith try'r siarad at y caneuon a genid, a chofir gan bawb am y brwdfrydedd a'r hwyl a geffid gyda chanu'r Eos o Hen Wlad y menyg gwynion. Os efelychiad ydyw'r ganmoliaeth uchaf, yna'n sicr yr oedd cyfansoddwyr Cymreig yn meddwl llawer ohonynt, gan i lawer cyfansoddwr eu hefelychu—yn eu ffurf o leiaf. Gwelir hyn yn hawdd ond cymharu amryw ganeuon a ymddangosodd rhyw bymtheg a deg ar hugain o flynyddoedd yn ol. Yr oedd ei chwaeth yn rhagorol wrth ddewis geiriau. Yn hyn cafodd lawer o help yn ddiau gan Mynyddog, —awdur geiriau rhai o'i ganeuon mwyaf poblogaidd. Ychydig o weithiau cyflawn a gyfansoddodd, ond y mae'r ychydig hynny'n llawn swyn a melodedd. Pan yn edrych dros ei waith cyflawn cyntaf—Y Tylwyth Teg—fe'n swynir gan lyfnder y felodi a'i hystwythder canadwy.
Dengys ei hoffter o'r hen alawon, a gwyddai sut i'w defnyddio heb eu camddefnyddio. Mor firain a thlws y tarawiad o Hob y deri dando yn y corawd cyntaf o'r Tylwyth Teg. Dyma law gelfydd mewn gwirionedd, dim ond rhyw awgrym—fel rhyw arlunydd yn gwneuthur i'r edrychydd weld ymhell tuhwnt i'r darlun. Mor llawn o hiwmor ac o'r cellweirus, fel yr arferid y gair yng Nghwmtawe—yw'r unawd i fariton "Brenin y Tylwyth teg wyf fi." Mae'r mydr a'r seiniau yn llawn asbri, a swynir ni gan bertrwydd y brawddegau. Gan fod ei edmygedd o Mendelssohn mor fawr, nid yw'n anodd canfod fod Midsummer Night's Dream yr Iddew cerddgar wedi gwneuthur argraff ddofn arno. Ei weithiau cyflawn eraill ydyw Gweddi'r Cristion a'r Caethgludiad. Yma eto, ni wnaeth yr un ymgais i "synnu'r doethion," nac ychwaith i foddio "duwiau'r galeri," ond ysgrifennai'n goeth, yn ganadwy ac yn effeithiol. Yr oedd ganddo galon ddigon mawr i greu melodi. Ac wedi'r cyfan, onid dyna hanfod gwir gerddoriaeth? Dywedai Schubert un tro: "Rwyf yn credu fod yr engyl yn canu yng ngherddoriaeth Mozart." Paham? Ai am y rhanweithiadaeth celfydd, a'r cyfuniadau cynghaneddol? Nage, yn wir, ond oherwydd y felodi nef-anedig sydd ynddi. A dyna'r gerddoriaeth fydd byw. Mawr yr asbri am gordiau dieithr sydd yn meddiannu llawer o gyfansoddwyr y dyddiau hyn—ond y maent yn amddifad hollol o'r wir awen, a gellir yn hawdd weddio am i'r "anadl" ddod i chwythu ar y lladdedigion hyn, a rhoi bywyd yn eu hesgyrn sychion. Yr oedd awen Emlyn yn aml-ochrog, ac nid yn ei ganeuon a'i weithiau cyflawn yn unig yr ymddisgleiriai, ond hefyd yn ei ranganau a'i donau. Gallai lunio tôn cystal â neb; ac er efallai nad ydynt wedi cyrraedd poblogrwydd un neu ddwy o donau ei gydoeswyr, eto y maent yn sicr o ddal eu tir ochr yn ochr â'r rhai goreu o'n tonau Prydeinig. Pa well esiampl o'r emyn—don na Threwen, yn enwedig pan ei cenir ar eiriau anfarwol David Charles:
"O! Gariad, O gariad mor rhad,
O! foroedd o gariad mor fawr."
Y mae Eiring ac eraill o'i eiddo yn batrwm o'r hyn a ddylai tôn gynulleidfaol fod. Yr oedd yn llwyddiannus iawn gyda'i ranganau. Yr oedd y rhan-weithiadaeth yn glir a chryno, y felodedd yn llawn swyn, ac yn rhedeg yn rhydd a naturiol, fel afon ddofn, heb yr arwydd lleiaf o drai ar y dyfroedd melodawl. Gem ei ranganau yn ddiau ydyw How sweet the moonlight sleeps. Dioddefai lawer gan ball cwsg, ac yn nhrymder nos hir y canodd ei rangan hyfryd ar eiriau y Bardd o Stratford. Mae geiriau'r Prif-fardd wedi cael dehongliad perffaith, a braidd na thybiwn fod Emlyn o ran dychymyg yn ei hen ardal, ac yn canfod ei hun yn sylwi ar y Teifi yn rhoi ei thro heibio'r Castell, y lloer yn gwenu'n swynol ar yr olygfa, a rhyw gariadon, a fu'n sibrwd eu serch dan gysgod yr hen furiau, ac wedi ymgolli yng nghyfaredd yr olygfa, yn torri allan i ganu "How sweet the moonlight sleeps upon this bank." Nid ydym yn synnu dim i gerddoriaeth mor odiaeth o dlws gipio'r wobr oddiar lu o gyd—ymgeiswyr pan ei danfonwyd i gystadleuaeth. Yr ydym yn dyfynnu barn[9] un o ddynion mwyaf poblogaidd yr Amerig—un o'i phregethwyr mawr, ar ol gwrando datganiad o'r rangan:—
On hearing Central Church Chorus present Emlyn Evans' interpretation of Shakespeare's conclusion of The Merchant of Venice,' beginning 'How sweet the moonlight sleeps pon this bank,' the entire body of singers being under the direction. of Emlyn Evans' friend and fellow—artist, Daniel Protheroe, I was taken into a realm of enchantment. The friendship of these two men, Emlyn Evans and Daniel Protheroe, wrought with imaginativ quality as with threads of gold, shot here and there throughout the tapestry. I could then understand why the great Hallam pronounced these words the most eminently Shakespearian music of thought, which all such poetry is and must be. The greatness of Shakespeare as an artist abides in the scene itself, where naturalism and classicism commingle in the heart's glorious realm. That Emlyn Evans should have risen to such harmonious description as we find in this work of his, shows the Shakespearian quality of his own mind in its response to the unsurpassed melody of Shakespeare's thought and word. I doubt if there is a song in all the history of music in which the senses are so lured into unity and force of delightful experience. The imagination creates an object of sight in which the heart throbs in love's unison with Lorenzo and Jessica. The sense of hearing is ravished with an experience in and through tones equal to the pattines of fine gold,' and musically it is all carried farther than even Shakespeare's words can bear the thrill of ecstasy, because music alone like this may intimate the largeness of Shakespeare's thought of immortality which concludes the play."
Cenir alawon hyfryd Emlyn gan genedlaethau i ddod, ac atseinia eu hacenion cyfareddol rhwng Bryniau Cymru tra pery'r Cymro i garu "cerdd yn angerddol."
B.—Gan TOM PRICE.
Ar wahan i gyfansoddiant cerddorol, ystyriaf mai'r ddau a gyflawnodd fwyaf o wasanaeth i gerddorion a cherddoriaeth Gymreig oedd Ieuan Gwyllt a D. Emlyn Evans; y cyntaf gyda cherddoriaeth y cysegr a'r olaf yn gyffredinol. Yr oedd Mr. Emlyn Evans yn gerddor arbennig i gerddorion, am fod ei saerniaeth mor goeth a dillyn, a hynny mewn cyfnod pan nad oedd gwybodaeth gerddorol a chwaeth bur mor gyffredin ag ydynt yn awr. Cofiwn ymddangosiad y canigau cyntaf, megis "Y Gwanwyn," "Dewch tua'r coedydd," "Mor swynol ydyw'r nos," etc., a gallaf yn ddibetrus fynegi nad oes gennym eto, fel canigau, ddim i'w gymharu â hwynt, mewn pert—rwydd rhan—weithiadaeth, gloewder y gynghanedd, a symudiad mydryddol (rhythmical). Gwyn fyd na chenid hwynt gan ein corau heddyw; ond credaf yn ddibetrus eu cenir yn y dyfodol. Ym myd y dôn gynulleidfaol, saif yn y rheng flaenaf. Yn wahanol i Dr. Parry, mae tonau goreu Emlyn yn y Cywair Mwyaf, ac yn dra thebig o ddal yn iraidd 'am ragor o amser. Credodd Dr. Parry oherwydd poblogrwydd Aberystwyth, mai'r minor oedd bron y cyfan i'r Cymry. Camsyniad oedd hynny, canys y Cywair Mwyaf sydd yn para hwyaf yn hanes cerddoriaeth yr Eglwys. Ar wahân i gyfansoddi tonau, ychydig o'r genedl a ŵyr am ei waith ardderchog ynglŷn â llyfrau tonau'r Eglwys, y Wesleaid, heblaw llyfrau'r enwad y perthynai ef ei hun iddo. Edrychid arno fel y pen cynghorydd parthed cyfaddasu a dewis tonau cynulleidfaol. Ceidwadwr oedd yn y byd cerddorol,—nid rhyw lawer o gydymdeimlad oedd ganddo â'r ysgol ddiweddaraf, a phan fyddem yn cystadlu, mawr ein hofn rhag ei sylwadau miniog, os byddem a chwant dewr rodio tiroedd gwaharddedig y gerdd, fel rhyw drawsgyweiriad gwyllt a direol, neu fympwy am oddity cynghaneddol. Byddai'r inc coch bob amser ar y mannau gwahanglwyfus.
Yr oedd yn artist cynhenid, ac ni wn am un cyfansoddwr Cymreig a fedrai wneuthur cymaint defnydd o motif, wrth droi a throsi, a gwisgo mewn gwahanol liwiau, a'r cwbl yn y diwedd mor daclus a chryno. Yr oedd yn llawdrwm iawn, er yn dyner, pan welai gyfansoddwr ieuanc yn gwastraffu defnyddiau wrth ddwyn gormod o fater i'w waith, a rhy fach o ddatblygiad.
Faint bynnag a ddywedir amdano fel cerddor a beirniad, fel dyn yr oedd fwyaf y bersonoliaeth eiddgar sydd yn aros, y llygaid treiddgar, a'r siarad chwareus a miniog. Dygai i'n cof bob amser yr hyn a ddarllenem am bobl athrylithgar, yn neilltuol am R. L. Stevenson, etc. Mawr oedd ei garedigrwydd i gerddorion pan yn dechreu blaguro,—cynghori, treulio dyddiau i edrych dros eu cyfansoddiadau, a'r cyfan am ddim. Yn ddiau ni fu ei gyffelyb yn y wlad erioed am dro caredig, yn ogystal ag ambell i ergyd tost. Hawdd i mi ydyw ysgrifennu'n gynnes iawn amdano; darllen ei wahanol feirniadaethau oedd yr unig goleg a gefais i; ac fel yr ysgrifennais flynyddoedd yn ol, ef, o'r holl gerddorion Cymreig y deuthum i gysylltiad â hwy, a adawodd yr argraff ddyfnaf ar fy meddwl. Mae ei goffa yn annwyl iawn gennyf, a charwn weld rhagor o'i debig yn codi yng Nghymru.
XV
Y BANERGLUDYDD.
GYDA golwg ar gyfansoddi, gallesid meddwl ei fod wedi cael ei ddymuniad bellach, ac yn mwynhau'r hamdden (o leiaf o 1891 ymlaen), y bu'n sychedu amdano gyhyd, i ddangos ei allu mewn rhyw waith gorchestol—cyfanwaith mawr—fyddai'n goron ar ei greadigaethau llai. Credai ei gyfeillion yn ei allu, a cheisient ei symbylu i gyfansoddi, fel y buont ddiweddarach yn ei annog ysgrifennu llyfr safonol ar Hanes Cerddoriaeth Gymreig. Ond er fod yr ysbryd yn barod, ni wyddent hwy fod y cnawd mor wan. Rhwystr arall oedd yr un ariannol. "Llosgodd ei fysedd" drwy gyhoeddi Y Tywyth Teg ar ei gyfrifoldeb ei hun; a rhwng popeth ni fuasai wedi gorffen Cantawd Y Caethgludiad oni buasai i Mr. D. Jenkins addaw ei chyhoeddi. Yr oedd y geiriau—o waith Goldsmith —wedi bod yn ei feddwl oddi ar amser Henffordd, ac yr oedd wedi dechreu cyfansoddi. Yn ddiweddarach, gyda help y cymhellydd uchod, ymrodd i'w gorffen, a pherfformiwyd hi gyda chymeradwyaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Rhyl, a llawer o fannau eraill. Ond y gwir yw, er y rhoddid canmoliaeth uchel i'r gwaith, nad oedd ganddo mo'r grym nerfol i losgi fel cynt. Gwir fod amryw o'r prif gerddorion wedi cyfansoddi rhai o'u prif weithiau ar ol pasio canol oed; ond y mae hyn yn aml yn fater o dymheredd (temperament) ac yn wastad yn fater o gryfder ac iechyd. Ni ddisgwyliai Emlyn fyw i fod yn hanner cant oed, a chyn cyrraedd yr oedran hwnnw bu'n gorfod ffoi rhag gerwinder y gaeaf o'i froydd ei hun i wlad yr haf. Heblaw yr anhawster cynhyddol gyda'r anadi, yr oedd ymosodiadau y gastritis a ymaflodd ynddo adeg dyddiau ei orlafur yn Cheltenham yn mynd yn fwy ffyrnig a phoenus gyda threigl y blynyddoedd; fel erbyn 1893 yr oedd ei gorff yn dra bregus, a dim ond nerth ewyllys eithriadol gref, a llawer o hunan-reolaeth a threfnusrwydd, a'i galluogodd i gyflawni'r gwaith a wnaeth yn rhannau olaf ei fywyd.
Clywn acen ing anallu yn y geiriau a ganlyn mewn ateb i ymgais ei gyfaill o Aberystwyth ac eraill gael ganddo ysgrifennu hanes Cerddoriaeth yng Nghymru:—
"Nid ydyw yn ymddangos eich bod yn deall sut y mae gyda mi o ran ystad fy iechyd. Yn sicr, nid wyf am wthio y mater yma o iechyd ar sylw neb; ond pan y mae un yn siarad mor ysgafn am ddechreu cyfres o erthyglau ar destyn sydd mewn ystad hollol hylif (fluid)—os yw felly hyd yn oed a gorffen llyfr nad yw eto wedi ei ddechreu, y mae'n bryd galw allan am sobrwydd a synwyr. Byddai'n dda gennyf pe buaswn wedi ymgymeryd a'r gwaith flynyddau'n ol; byddai'n well fyth gennyf tae Gwyllt wedi ei ddechreu; a buaswn yn falch tae'r N.E.A. wedi derbyn fy awgrymiadau ynghylch y fath waith flynyddau'n ol—er nad oedd gennyf syniad pwy a'i hysgrifennai, ac yn sicr ni chystadleuwn i fy hunan. Ond y mae hyn oll yn hen hanes erbyn hyn, ac ymhlith y pethau a fu. Os caf iechyd a chryfder i hynny, efallai y gwnaf rywbeth eto, ond rhaid iddo fod yn waith o bleser a hamdden yn hollol, nid yn dasg beiriannol."
Ac os oedd hyn yn wir ynglŷn â gwaith nad oedd ond yn gofyn meddwl clir, ymchwiliad gofalus, a gallu i ffurfio a mynegi barn, beth am fynd i'r ystad eirias y mae'n rhaid wrthi cyn ysgrifennu gwaith creadigol o unrhyw werth?
Gall yr ymadrodd uchod "Nid yw yn ymddangos eich bod yn deall sut y mae gyda mi" esbonio pam yr oedd, yn wahanol i'w gyfeillion, yn cadw draw o gyfarfodydd yr Wyl Gerddorol yn Henffordd, ac o gyngherddau'r Eisteddfod—yr oedd y draul mewn ynni nerf yn ormod; yr oedd ef dan yr angenrheidrwydd o gynhilo hwnnw i gwblhau'r gwaith y tybiai ef ei bod yn rhaid ei wneuthur. Drwy ofal a chynhildeb felly yn unig y gallodd fynd drwy waith ei flynyddoedd olaf. Ar y llaw arall, pan daflai'r ffrwyn ar war ysbryd y gân ambell i waith—fel уг oedd temtasiwn i wneuthur gyda chyfeillion—ei dâl, fel eiddo'r meddwyn, fyddai gwely drain a gŵyl drannoeth." Gwyddom am eraill y tu allan i fyd y gân—rhai llai llednais eu giau a mwy prin eu teimladrwydd nag ef—sydd yn gorfod ymgadw rhag yr ysu a'r difa nerth hwnnw a ymyrrai â'u gwaith a'u heffeithiolrwydd yn ol llaw.
Yn wir, gallesid meddwl fod cyfansoddi 30 o anthemau (24 yn gyhoeddedig), 50 o ganigan a rhan-ganau (30 yn gyhoeddedig), 40 o ganeuon (33 yn gyhoeddedig), 80 o donau cynulleidfaol, 20 o ddarnau i blant, 6 deuawd, 6 cân a chytgan, nifer o gorawdau a madrigalau—heblaw'r gwaith arall cyn bod yn 50 oed, yn ddigon o gynnyrch o safbwynt maint a rhif, os hynny sydd eisieu. Wrth gwrs, i'r rhai sydd yn plygu o flaen bwgan un cyfanwaith mawr, nid yw hyn yn ddigon; ond methwn weld pam y mae'n rhaid i'r safon fod yn fwy anianol ym myd Cerdd nag ym myd Barddas. Cydnebydd pawb ei fod yn llawn gymaint camp cyfansoddi telyneg berffaith ag yw cyfansoddi arwrgerdd, a bod y delyneg fach yn fwy o hanfod ym myd yr awen wir, os ydyw'n codi'n uwch mewn perffeithrwydd. Hyd yn oed ymysg athronwyr—gyda chynnydd eu gwyleidd-dra—y mae cyfnod y systemau mawrion wedi mynd heibio. Gellid dangos yr un peth oddiwrth gwrs datblygiad yn gyffredinol, onibâi mai ysgrifennu Cofiant yr ydym. Daeth Emlyn i weld hyn, nid yn unig yn ei berthynas ag ystyr ac amcan bywyd (gwêl Pennod XIII), ond hefyd y tufewn i fyd Cyfansoddiadaeth, fel y dengys y dyfyniad hwn:
"A thing of beauty is a joy for ever," eithr nid oes dim a fynno maint y peth â'i hyfrydwch di-ddarfod. Amcan y gwir gelfyddwr ymhob celf yw cyflawni ei waith yn y dull goreu, ac nid yw byth yn ymgymeryd â'r hyn sydd y tuhwnt i'w alluoedd i'w gyflawni yn y dull hwnnw."
Ymddengys hefyd oddi wrth yr hyn a ganlyn ei fod yn mabwysiadu safbwynt Rubinstein:—
"Adrodda Rubinstein hanesyn am Benvenuto Cellini, yr hwn pan yn brin o ddefnyddiau i wneud cerflun mawr i Frenin Ffrainc, a orfu doddi ei holl gerfluniau eraill i'r perwyl, ond pan y daeth at un cawg bychan petrusodd—nis gallai ddistrywio yr un bychan ond gwerthfawr hwnnw. Ac y mae y Wohltemperirte Clavier (gan Bach) yn gyffelyb' meddai Rubinstein; 'pe bae—yn anffortunus—i holl Gantodau Bach, ei Fotettau, ei Offerennau, ie, hyd yn oed ei Ddioddefaint, i gael eu colli, ac nad oedd dim yn aros ond yr un trysor hwn, ni fyddai i ni ddigalonni—ni fyddai i gerddoriaeth gael ei llwyr ddinystrio."
Ymdrinia â'r un mater yn ei ysgrif ar "Berwi Lawr" yn Y Cerddor am Tachwedd, 1903. Gwelir ei bwynt yn y cyfeiriad a ganlyn at y bardd, wedi siarad am y pregethwr:—
"Yn gyffelyb gyda'n cyfeillion y beirdd, yn enwedig y rhai a 'chwenychant y prif gadeiriau.' Y milltiroedd o linellau awdlyddol sydd wedi eu cyfansoddi—a'u cyhoeddi o ran hynny—pa le y maent? Pwy sydd yn eu darllen a'u cofio? Pe bae eu hawdwyr wedi cyflwyno eu galluoedd tuag at gynhyrchu ychydig linellau fel Bedd y Dyn Tylawd,' neu Ti wyddost beth ddywed fy nghalon,' buasent wedi gwneud llawer uwch gwasanaeth i'r byd, ac wedi codi iddynt eu hunain ragorach cof-golofnau yr un pryd."
"Cyflwynodd ef ei alluoedd i gynhyrchu" rhai o bethau perffeithiaf yn y cyfnod hwn, megis Trewen, Eirinwg, ac Adgyfodiad ymhlith ei donau, y gân O Holy man of Sorrows, a'i rangan, How sweet the moonlight sleeps, y sylwyd arni eisoes. Eto, nid ym myd Cyfansoddiadaeth y gwnaeth ef waith mwyaf ei flynyddoedd olaf. Y mae dyn yn fwy na cherddor; ac y mae'n amlwg fod eisieu'r dyn ym myd y gân. Y mae rhai fel yn cael eu galw i ganu'n unig, fel adar, heb na chyfrifoldeb na chof am fuddiannau eraill; ond i ddal i fyny draddodiadau goreu'r gorffennol, a chynhyrchu eraill gwerth eu trosglwyddo i'r dyfodol, heb feddwl am lês hunanol, na gwrando ar faldordd y llu, y mae'n rhaid wrth y dyn. Os yw'r gair "dyn" yn awgrymu'r elfennau o ddewrder a ffyddlondeb yn unig sydd yn angenrheidiol i'r gwaith, gan adael allan yr elfen o ganfyddiad delfrydol sydd hefyd yn anhebgor i ddwyn y dyfodol a'r gorffennol i'r berthynas iawn â'i gilydd yn y presennol, efallai y byddai'r gair "proffwyd" yn well, os caniateir ei ddwyn i fewn i'r cylch cerddorol yn yr ystyr o un yn siarad dros a chynrychioli delfryd. Yr ydym wedi galw'r cyfnod olaf hwn yn Gyfnod Gwasanaeth; ond pan daflwn ein golwg dros wahanol gylchoedd ei wasanaeth i chwilio am ryw nodwedd gyffredinol ynddynt, cawn ei fod ef wedi gwasanaethu ei oes a'i wlad drwy ffyddlondeb di-ildio i ddelfryd cerddorol uchel. Safodd fel y dur dros burdeb cerddorol, purdeb beirniadu a chystadlu, a phurdeb addoli, mewn storm a thês, drwy ddŵr a thân, drwy air ac esiampl, ar hyd y blynyddoedd. Dyna pam, mae'n debig, y geilw Mr. Harry Evans ef faner-gludydd." Prun bynnag ai fel golygydd cyfnodolyn, neu ohebydd drwy lythyr at gyfaill ieuanc, ai ar lwyfan yr Eisteddfod, neu'n siarad ar Ganiadaeth y Cysegr, y mae'r faner yn wastad i fyny, ac ni fyn ei llychwino na'i gostwng er dim. Ac fel yr êl y blynyddoedd heibio, mae ei sêl yn mynd yn fwy yn hytrach nag yn llai; serch llygru ei ddyn oddiallan, er hynny ei ffyddlondeb i'w ddelfryd a adnewyddid o ddyddi ddydd ac a gryfhâi ac a loewai hyd y diwedd.
XVI.
EI DDELFRYD CERDDOROL.
CANIATAWN fod y termau y "delfryd cerddorol," "purdeb cerddorol" braidd yn amhenodol; ond gan mai ysgrifennu Cofiant yr ydym, ac nid llawlyfr, rhaid i ni adael i'r hanes dilynol eu llenwi â chynnwys mwy pendant. Dechreuwn yn y fan hon drwy gyflwyno i sylw'r darllenydd rannau o ysgrif o eiddo Emlyn ar Gerddoriaeth y rhannau hynny'n unig a deifl oleu ar ei syniad uchel amdani hi a'i swyddogaeth. Pe bâi marchog ffugr yn help, byddai'r teitl "Arwyddair ei Faner" yn gyfaddas i'r bennod hon.
Wedi cychwyn gyda natur fewnol (subjective) Cerddoriaeth o'i chymharu â Cherfluniaeth, Paentyddiaeth a Barddoniaeth, a gwrthod y ddamcaniaeth mai efelychiadol ydyw o ran ei dechreuad, drwy ofyn "I ba beth mewn natur y gellir cyffelybu'r hyn a eilw'r anwar yn Gerddoriaeth?" "Diau y canai yr adar yn bur debig yn y 9fed ganrif ag a wnant yn y ganrif hon, ac os felly, rhaid mai efelychwyr dirmygedig o sâl oedd yr hen gerddorion!" â ymlaen:—
"Yn ddiweddar iawn mewn cymhariaeth, y darfu i gerddorion feddwl am efelychu natur—gorchwyl cerddoriaeth yw awgrymu meddyliau, a chynhyrchu teimladau, ac nid dynwaredu; ac er fod gennym eithriad nodedig yn Symphoni Fugeiliol Beethoven, yn gynnil iawn y gwnaed hyn—ac y gwneir, mwy na thebig. Nid oes neb na wâda na fyddai'r symphoni hyfryd uchod nemawr gwaeth, pe heb yr ychydig nodau dynwaredol a geir mewn un symudiad; a'r un fath am fannau neilltuol yn y "Creation," lle yr â papa Haydn yn bur agos at y ffin sydd yn gwahaniaethu y coeth oddiwrth y cyffredin. Lled debig fod rhyw gyfatebiaeth rhwng natur alawon cenedl â dyheuadau a theithi mewnol y cyfryw genedl, ond y mae yn rhy ddwfn i'w olrhain i ddim pwrpas. Diau hefyd fod i gerddoriaeth gwahanol genhedloedd nodweddion fwy neu lai arbennig—yr Eidalaidd, lyfnder ac arwyneboldeb; y Ffrangcaidd, ysgafnder a phertrwydd; yr Ellmynnaidd, ddyfnder a thrymdra; a'r Saesnigaidd, eglurder a sylweddoldeb; ond nodweddion cenedlaethol yw y rheiny wed'yn. Efallai fod a fynno golygfeydd naturiol â'r pwngc i ryw raddau—gwastadeddau, neu fynyddau uchel, &c.; ond y mae gwastadfeydd yn Ffraingc ac yn Lloegr, a mynyddoedd yng Nghymru ac yn yr Eidal? Nid oes dim, pa fodd bynnag, yn alawon cenhedlaethol unrhyw genedl ag y gellir ei olrhain i sŵn naturiol nac afonig na choeden nac aderyn yn y wlad honno. Nid oes dim yn "Duw gadwo'r Czar" i'n hadgoffa am unigeddau rhewol Rwssia, mwy nag sydd yn "Nglâs-glychau Ysgotland" am gilfachau creigiog yr Alban, neu yn "Hen Wlad fy Nhadau " am fynyddau rhamantus ein hen—wiad ni."
Wedi siarad am gerddoriaeth ymhellach fel gwyddor, gofynna—
"Beth all cerddoriaeth gyflawni wedi'r cyfan? A yw'r ffrwyth yn gyfartal i'r moddion a ddefnyddir? Ydyw hi yn goleuo ein golygiadau, ac yn eangu ein meddyliau? Yn ein gwneyd yn fwy deallus, neu yn fwy doeth, yn fwy ymarferol neu yn fwy moesol? O bosibl na ellir rhoddi atebiad cadarnhaol di-amododol i'r cwestiynau yna; ond gallwn ddweyd fod cerddoriaeth rhoddi i ni bleserau nas gallwn eu hesbonio, ac yn codi ynom deimladau nas gallwn ymresymu yn eu cylch; gall ein diddanu a chydymdeimlo a ni pan yn drist, a'n difyru a'n diddori pan yn llawen; a medr ein trosglwyddo i awyrgylch lle nad oes le i fydolrwydd, na hunanoldeb, na thrachwant. Nid yw yn apelio at reswm, nac at egwyddorion. Nis gall bwyntio moeswers, mwy nag y gall baentio darlun; ac nis gall ymresymu mwy na phregethu. Ni fedr fod yn bersonol, yn duchanol, nac yn ffraethbert—nid oes le ganddi i Hogarth nag i Punch; ond ar yr ochr arall, anmhosibl iddi glwyfo na diwyno neb, canys cydymaith priodol yw i bob peth ag sydd yn gariadus, yn ddiniwaid, ac yn raslon. Y mae yn bur, nid i'r rhai pur yn unig, ond i bawb. Nis gall fod yn niweidiol ond pan yr ieuir hi â geir—iau anheilwng o'i phurdeb cynhenid—drwy ei phriodi yn anghymarus yn unig y gellir ei gwneyd yn foddion er drwg. I gerddoriaeth, pan y saif ar ei phen ei hun, y perthyn yr anrhydedd uchel ymysg yr holl gefyddydau, o fod yn anmhosibl iddi roddi mynegiant i un meddwl gwael, nac i awgrymu yr un dim ag sydd yn llygredig. Yng ngeiriau Ceiriog:—
'Addfwyn Fiwsig, Addfwyn Fiwsig, Gwenferch Gwynfa ydwyt ti!"
Yna cawn fras hanes o ddatblygiad cerddoriaeth; ac wedi cydnabod ein dyled i'r Troubadours am roddi cerddoriaeth ar y llwybr a ddylai gymryd,—nid fel math ar conundrum mesuronol sych, ond fel moddion i gyffwrdd â theimladau ac i fynegi dyheadau y galon ddynol, a'n dyled yn ddiweddarach i Galileo (tad y Serydd) a'i gyfeillion yn Florence, am bwyntio allan y ffordd at y gwir a'r aruchel—daw at y "prif feistri":—
"Gyda dyfodiad y prif feistri i'r maes—y meistri ymhob oes a gwlad wareiddiedig—dangosodd cerddoriaeth y fath adnoddau dihysbydd a feddai; efallai nad mewn dim yn fwy, nag yn yr amrywiaeth cyweirnodol di-bendraw ymron sydd at ei wasanaeth, i ddesgrifio a lliwio y gwahanol deimladau sydd yn perthyn i'r galon ddynol. I'r hen gerddorion, yr oedd y dirgelwch yma heb ei ddatguddio, i raddau pell; yn un peth, yr oedd offerynnau cerdd—orol heb eu datblygu a'u perffeithio i'r un graddau; er engraifft, cyn i'r organ gael ei chywiro yn ol tymheredd gyfartal (equal temperament), yr oedd rhai cyweirnodau mor aflafar arni, fel ag i fod yn amhosibl mewn ystyr ymarferol. Ond fel yr ymddatblygodd celfyddyd a gwyddor, y gallu i gyflawni ac i gynnyrchu yn raddol, law yn llaw, daeth tynerwch haner pruddaidd A leddf, neu danbeidrwydd llachar F lon, yn gymaint at alwad y cerddor â chyweirnod naturiol gonest a hoenus C, neu londer ieuengaidd G. Gall ddefnyddio cyweirnod gorfoleddus fel y gwna Handel yn ei "Hallelujah" a llawer darn arall, un herfeiddiol C leiaf megis ag y gwna Weber yn allegro yr overture i "Der Freischütz," un calon-doredig G leiaf gyda Schubert yn ei "Erl King," neu y dyner-riniol G leddf fel yn y bedrawd, "Blest are the departed" gan Spohr."
Yn y rhan olaf ymdrin â swyddogaeth cerddoriaeth:—
"Nid mewn llun dim sydd yn y nefoedd uchod, yn y ddaear isod, na'r dwfr sydd odditan y ddaear, y gellir profi y galluoedd cerddorol uchaf.
"Nid yn y frawddeg sydd yn rhoi'r meddylddrych am donnau ymddyrchawl y môr, wrth y geiriau' The floods stood upright,' nac yn ffurf grwydredig y nodau yn All we like sheep have gone astray,' y mae gwel'd Handel yn ei lawn fawredd, o herwydd er mor hyfryd yw y cyfryw froddegau, ac er mor ddelweddol ydynt i'r glust a'r llygad (Hen—nodianol!), y maent yn dangos eu saerniaeth dipyn yn rhy eglur; ond cawn ef yn y nodau syml tawel sydd yn agor yr unawd gyntaf yn y Messiah,' y rhai a ddisgynant fel gwlith nefol ar ein hysbrydoedd, ac a'n harweinia at y cysur nad yw o'r ddaear, a fynegir yn y geiriau bendigaid 'Comfort ye.' Y gallu hwn i fynegi drwy gyfryngwriaeth nodau, deimladau dyfnaf y galon, i'n diddanu â phrofiadau eneidiol nas gall byd nac amser gymeryd oddiarnom, ac a'n harwain i fyny at yr aruchel a'r anfarwol, sydd yn gwneyd creadigaethau Bach a Handel, Haydn a Mozart, Beethoven a Mendelssohn, a Schumann a Schubert, yn eiddo nid i unrhyw oes na chenedl, ond i holl oesau y byd, a oleuwyd ac a addysgwyd yn ddigonol i'w gwerthfawrogi. Pan awn i wrando ar y Messiah, yr ydym yn teimlo ar ol dychwelyd, fel pe baem wedi ysgwyd ymaith gyfran fawr o'r llaid a'r sorod sydd yn cydfyn'd â'r byd a'r bywyd hwn; ac ar ol bod ar fynydd Carmel gyda'r prophwyd yn 'Elijah,' llawer un a gryfhawyd ac a galonogwyd i lynu wrth y gwir ac i wrthsefyll y gau, ac a lonychwyd yn ei galon gan froddegau cysurlawn "O rest in the Lord."
Terfyna gyda'r hyn a eilw'n gerddoriaeth arbenigol (absolute music). Yn raddol y daeth y gerddorfa lawn i fod—a'r dyn ar ei chyfer, sef "papa Haydn "; ac wele'r llong gerddorol bellach yn nofio ym môr y symffoni a'r sonata:—
"Nis gall dim fod yn fwy diddorus na sylwi ar ddull ymddiddanol Beethoven gyda'r gerddorfa; fel y crwydra oddiar y llwybr, ac y colla ei hun i bob ymddangosiad gyda phethau dieithr ac amherthynasol, hyd nes yr ydych yn rhyfeddu pa sut y gall byth ddychwelyd at ei bwnc gwreiddiol; weithiau dringa i fyny i'r nenfwd a'r offeryn hwn, ac erlidia ef ag un arall; wedyn daw a hwy yn ol, i ymgymysgu blithdraphlith a'u brodyr, gan eu gadael yno yn ol pob ymddangosiad, i wneud dim ond ymraf-lio ac i ddinistrio pob rheol a threfn. Ond yng nghanol y cythrwfl daw tawelwch; ni chlywir namyn un yn dal pen llinyn rheswm—efallai y clarinet ofnus ond ffyddlon; wedyn hwyrach daw y bas ŵn i gefnogi ei chwaer ieuengach, a phob yn dipyn y gerddorfa, hyd nes y bydd yn un hwre wyllt. Weithiau drachefn, rhydd yr un chware-teg i'r oll o'r offerynnau, ac yna cydia yn yr offeryn hwn a'r offeryn arall, gan eu trin a'u troi, eu boddio a'u siomi, nes y collant eu tymer; ac yna ymdrecha un i roddi gair i fewn yn y fan hon, arall fan hon, arall yn y fan acw; un yn gariadus a'r llall yn ddigllawn, nes y byddarant chwi o'r diwedd a'u gwahanol ofynion a'u taeru.
"Daearol ddigon oedd ef mewn llawer ystyr, ond yr oedd ei fyfyrdodau eneidiol yn myn'd ag ef i uchelderau lle nas gallai golygon cyffredin ei gyd-ddyn dremio. Ac y mae hyn i'w deimlo fwy neu lai ei gerddoriaeth; y mae ei offerynnau yn siarad gyda hyawdledd difesur, ond nid iaith dyn a siaredir ganddynt. Yr ydym yn gwrando arnynt gyda'r mwynhad dyfnaf, ond nid gyda'r un cydymdeimlad perffaith ag y gwrandawn ar symphoniau Mozart. Er cymaint yw yn uwch na ni, y mae Mozart yn rhoddi i ni bob amser yr hyn a ofynwn ac a ddeallwn. mae Beethoven yn ein synnu beunydd, ac weithiau yn ein cythryblu; Mozart yn ein diddanu a'n digoni. Nid ydym yn teimlo ychwaith fod Beethoven yn ein hysbrydoli â'r teimlad uchaf oll—crefyddolder. Y mae ei Engedi' yn hyfryd odiaeth, ac yr ydym yn ddiolchgar am y gwaith fel y mae; ond gallasai fod wedi ei gyfansoddi i ddathlu coroniad rhyw ymherawdwr, onibae ein bod yn gwybod ei bod yn amhosibl i Beethoven ysgrifennu unrhyw waith gyda'r cyfryw ddyben. Nid oes y fath tableau ryfeddol o arliwiaeth gerddorol mewn bod, a'i Missa Solennis, ond cyn belled ag y mae a fynno â'r teimlad o ddefosiwn a chrefyddolder, nid yw yno; nid ydym yn syrthio yn addolgar ar ein gliniau fel gyda Mozart, mwy nag yr ydym yn esgyn ar adenydd i fyny i'r nef gyda Handel.
"Y mae ein gorchwyl ar derfynu; nid ein bwriad mewn un modd oedd dihysbyddu ein testun—cymerai gyfrolau i gyflawni hyny—ond yn hytrach ym—gomio â'r darllenydd, heb gadw'n fanwl at unrhyw gynllun neillduol. Y mae cerddoriaeth wedi gwneyd brasgamiadau nodedig y blynyddau diweddaf; pa beth sydd yn weddill sydd gwestiwn nas gall neb ei ateb yn awr. Fel y dywedodd Reichardt, darfu i Haydn adeiladu iddo ei hun dŷ hardd, adeiladodd Mozart balasdy urddasol uwchben iddo, a chododd Beethoven dŵr gorwych uwchlaw hwnnw; ond pwy bynag a anturiai i esgyn yn uwch, diau mai tori ei wddf a wnae. Y mae Weber, Spohr, Mendelssohn, Schubert a Schumann bob un wedi ychwanegu ei gyntedd, ac efallai eraill ar eu holau, o herwydd yn nhŷ y gân y mae llawer o drigfannau.' Nid ydym am ymrestru ymysg y proffwydi, ac amser yn unig a benderfyna safle derfynol pob dyn. 'Nis gwyddom eto pa beth a fyddwn,' ddylai fod ein harwyddair pan yn ymwneyd â'r cwestiwn. Efallai y ceir fod Wagner, fel y myn rhai o'i edmygwyr, wedi codi iddo ei hun arsyllfa ar ben tŵr Beethoven; efallai na cheir. Bu yn galed ar Handel tra yn ymladd â'r wrthblaid gref oedd yn ei erbyn yn Llundain, a Buononcini fel ei harwr; dim ond o ychydig, hyd yn oed gyda help y frenhines, y darfu i Gluck fuddugoliaethu ar y Picciniaid yn Paris; bwyta ei ginio gyda'r is-wasanaethyddion, a chael ei ddianrhydeddu'n anhygoel ymron, yn mhalas yr Archesgob yn Salzburg oedd tynged Mozart; ail-adroddiad i raddau pell o hanes Handel a Buononcini, Gluck a Piccini oedd eiddo Weber a Spontini; o brin y caed gan gyhoeddwyr Vienna i brynu caneuon Schubert am ychydig geiniogau: a dim ond dibrisdod ac oerfelgarwch a dderbyniodd Mendelssohn oddiar law ei gyd-ddinasyddion yn Berlin. Yn mha le yn nheml y gerdd y saif Buononcini, Piccini, a Spontini yn awr, heb siarad am y fath bobl ag Archesgob Salzburg, cyhoeddwy Y Cerddor ol Vienna, a dilettanti Berlin? Dengys yr ysgrif hon mor aruchel a chyfoethog yn olwg oedd byd y cerddor, ac mor urddasol oedd ei swydd, ac ni all neb fod yn broffwyd neu fanergludydd heb ei feddiannu gan weledigaeth felly. Yr unig gŵyn ag y gellir ei dwyn—a'r gŵyn, yn wir, a ddygir—yn ei erbyn yw, nad oedd ei fyd cerddorol, er yn fawr, yn ddigon mawr i gynnwys Wagner, Berlioz, &c. Y mae hyn yn wir i fesur,—yn wir yn yr ystyr nad oedd ef wedi ei feddiannu ganddynt hwy fel yr oedd gan y meistri eraill, o Bach hyd Mendelssohn. Negyddol oedd ei ymagweddiad at y lleill yn hytrach na gwrthwynebol; yr oedd yn wrthwynebol yn unig i'w haddolwyr, y rhai "wrth osod i fyny eu hallorau delw-addolol oeddynt ar yr un pryd yn dorwyr delwau di-ail eu hunain." Yr hyn a ddywed am Wagner ei hun yw: "Diameu fod Richard Wagner yn gerddor galluog iawn; un o'r galluocaf, ar rai ystyron o leiaf, a gynhyrchodd y ganrif bresennol"; ac eto, "Nid ydym yn dweyd gair yn erbyn astudio Wagner a'i ysgol; i'r gwrthwyneb, ein cyngor yw, darllener, gwrandawer, ac astudier hwy yn fanwl; ond nid ar draul esgeuluso'r cyfryw lwybr gyda chyfansoddwyr eraill. Yn nhy y gân y mae trigfannau lawer, a'r hyn a wna yr efrydydd call yw eangu ei feddwl a gloewi ei amgyffredion drwy fynnu cydnabyddiaeth a'i breswylwyr oll."
Eto i gyd ni ellir dweyd ei fod yn eu hedmygu hwy fel yr edmygai ei " feistri "—enw. na roddai iddynt; ac y mae'n ddios na chaniataodd ei iechyd iddo wneuthur chware teg â'u gweithiau. Gosodir ei ddelfryd effeithiol ef allan yn ngeiriau'r Tywysog Albert am Mendelssohn a ddyfynna Emlyn:—
"Y Celfyddwr uchelryw, yr hwn, ynghanol Baal-addoliaeth celf lygredig, sydd wedi bod yn alluog, drwy ei athrylith a'i wyddor, fel Elias arall, i ddiogelu Celf wir, ac unwaith eto i gynefino ein clustiau, ferwinwyd yn chwildro dawns gwag o nodau, i nodau pur cyfansoddiant ystyrlawn, a chynghanedd gyfreithlon:—y meistr mawr sydd yn ein gwneyd yn ymwybodol o unoliaeth ei syniad drwy holl wead—waith ei greadigaethau, o sibrydiad esmwyth hyd at gynddaredd aruthr yr elfennau"!
Yr oedd ganddo ef, fel pawb arall, ei gyfyngiadau, a chymhwysai ato'i hun fel cerddor yn fynych y gwirionedd sydd yn y geiriau, "un genhedlaeth a â, a chenhedlaeth arall a ddaw." Ni ellir disgwyl i neb fod ffyddlon i weledigaeth y byddo hebddi, ond i'r hon fyddo ganddo. Ac nid gwasanaeth bach mo wasanaeth y dynion cryf hynny sydd, drwy eu ffyddlondeb a'u cadernid, yn diogelu yr hyn sydd oreu yn eu gorffennol (a fu unwaith yn bresennol iddynt hwy) fel ag i roddi mantais i rai ieuengach i ychwanegu ato, a gwneuthur hwnnw eilwaith yn rhan—os deil farn amser—o gynysgaeth y dyfodol.
XVII.
YN Y CYSEGR.
DAW ei syniadau am burdeb cerddorol i'r amlwg yn bennaf efallai—ynglŷn â Cherddoriaeth a Chaniadaeth y Cysegr. Rhoddai'r lle uchaf i'r math yma ar gerddoriaeth, a dyma'n ddiameu brif faes ei ddiddordeb, yn neilltuol fel y treiglai'r blynyddoedd. "Nid ydym," meddai, yn ei ysgrif ar gerddoriaeth, yn teimlo fod Beethoven yn ein hysbrydoli â'r teimlad uchaf oll, sef Crefyddolder." Yr oedd ganddo deimladau addolgar cryfion; meddai syniadau uchel am Wrthrych addoliad, ac yr oedd ganddo syniadau cyfatebol uchel am gyfryngau addoli —Cerddoriaeth yn eu plith.
Er na chymerai ran flaenllaw yn Hereford ynglŷn â'r côr, fel y gwnai yn Nhrewen a Chastellnewydd, Penybont a Cheltenham a'r Drenewydd, yr oedd ei galon gyda'r gwaith, fel y dangosodd pan ddaeth yn ol i Gymru, oblegid pan gaed harmonium i'r Capel bach yn
i'w chanu hyd Cemaes Road, aeth yno y gallodd. Pan na allai fynd i'r addoliad, neu pan nad âi—fel yn Hereford—am na chaffai ynddo "foddion gras "—hoffai fynegi ei deimladau addolgar wrth yr American Organ yn y tŷ, ac felly y cyfansoddodd rai o'i donau goreu. Felly y daeth Adgyfodiad i fod yn Llandrindod, pan gaed ef wedi ymgolli ynddi gan Mri. D. Jenkins a H. Edwards, ar eu dychweliad o'u rhodio ar y bryniau, ac Emlyn yn rhy lesg i'w dilyn, ond yn mynd am daith gyda'r gân i fryniau gwell. Felly hefyd y cyfansoddwyd Abergynolwyn—yn yr un lle a thŷ; a phan ganwyd hi i Dr. Saunders ar ol gwasanaeth y dydd, yr oedd ei swyn gymaint ar ei enaid nes ei ddwyn yn ol eilwaith ar ol swper i'w chanu.
Ond yr oedd ei addolgarwch yn ddyfnach na theimlad: yr oedd ganddo syniadau ac argyhoeddiadau dyfnion parth ffurf Cerddoriaeth Gysegredig. A chan fod y frwydr yn parhau yn ein dyddiau ni, ac yn debig o barhau cyhyd ag y byddo uchel ac isel mewn bod, nid yn unig rhwng dwy ffurf o gerddoriaeth a chaniadaeth yn y Cysegr, ond hefyd rhwng dwy lefel o addoliad, sef y math teimladol, arwynebol, gyda'r ffurf faledaidd o dôn, a'r math meddylgar, ystyrlawn gyda ffurf fwy pur' ac aruchel a llai sensuous o gerddoriaeth, bydd yn werth gadael iddo ef wneuthur ei safbwynt ar y mater yn glir. Cymerer a ganlyn o'i eiddo ar y Dôn Gynulleidfaol:—
"Tua hanner y ganrif ddiweddaf ni chaed yn y wlad fel rheol ond tonau gwyllt a dichwaeth yn perthyn i ysgol ddadwrddus ymhlith y Saeson; a'r rhai oedd mor anghysegredig eu harddull a'u teimlad, ag o anghynulleidfaol ac anaddas o ran eu cynllun. Dechreuodd pethau wella gyda chyhoeddiadau a chyfansoddiadau y Millsiaid—Caniadau Seion, &c., a chasgliad cyntaf J. A. Lloyd. Yr oedd y tonau yn llai baledaidd ac anefosiynol; yn fwy rhydd oddi-wrth doriadau ehedganol a dybliadau dibwrpas; ac yn fwy syml a phriodol i'r amcan. . . . Gyda chyhoeddiad Llyfr Tonau Ieuan Gwyllt, pa fodd bynnag, a'r casgliadau eraill a'i dilynodd gan Tanymarian, J. D. Jones, Ambrose Lloyd, ac eraill, nid yn unig torodd y wawr, ond daeth y dydd; er nad ar unwaith. . . .
"Eto y mae rhai fel yn troi eu llygaid hiraethus fyth yn ol; rhai o hyd yn edrych drach eu cefnau ar hudoliaethau y gwastadedd yn lle dianc i awyrgylch bur y mynydd; rhai o hyd yn blysio am grochanau cig Aifft eu caethiwed. Y gwyn a glywid gan y teulu yma yn erbyn casgliadau Ieuan Gwyllt ac eraill cyffelyb oedd, fod y tonau yn rhy drymaidd ac unffurf; fod yr hen donau Cymreig wedi cael eu llurgunio neu eu gadael allan; ac fod eisieu mwy o amrywiaeth, ac o dân, yn enwedig y peth arbennig hwnnw a alwent yn dân Cymreig.". . .
"Am y canu unffurf a difywyd sydd wedi bod yn ffynnu, ac sydd yn parhau i ffynnu, nid y tonau fel rheol sydd ar fai, ond ein difaterwch a'n cysgadrwydd ni gyda'r gwaith o'u dysgu a'u datganu. Y mae pob ton dda yn werth ei hastudio a'i meistroli'n drwyadl; ac nid y tonau ellir ganu ' ar yr olwg gyntaf' fel pe tae, na'r rhai sydd yn rhedeg fel tân trwy y wlad yw'r rhai sydd yn aros gyda ni yn y cof, yn drysor parhaus a digyfnewid. Y mae tuedd ynddynt hwy i losgi eu hunain allan yn dra buan—fel y mae yn ffodus.
"Nid condemnio naturioldeb a symlder ydym, ond yn hytrach o lawer eu cefnogi. Y mae gwahaniaeth dirfawr rhwng yr hyn sydd yn syml a naturiol, a'r hyn nad yw ond masw ac arwynebol; rhwng yr 'Hen Ganfed', 'French', ac 'Wyddgrug,' er engraifft, a'r tonau diddim nad oes eisieu eu henwi, sydd yn gynwysedig o ychydig felusion wedi eu sefydlu ar gordiau y Tonydd, y Llywydd, a'r Is-lywydd; neu o ddilyniadau gwylltion na sydd na thôn, na chytgan, na chanig. Mae y wir don gynulleidfaol yn naturiol ei melodi, ei diweddebau a'r chynghanedd yn amrywiaethus a chyfoethog, a'r teimlad fydd yn rhedeg drwy yr oll yn ddefosiynol ac addolgar.
*** "Ein perygl ni yn awr yw llithro'n ol, mynd i'r anialwch ar ol asynod gwylltion. . Trueni fyddai i ni yn y dyddiau hyn ddadwneud yr hyn gyflawnwyd mewn cyfeiriadau diwygiadol gan ein rhagflaenwyr; os felly bydd, nid yn unig —daw yr ysbryd drwg a daflwyd allan yn ol, ond daw a rhai eraill gwaeth gydag ef, a bydd ein sefyllfa yn fwy gresynus nac erioed."
Sieryd hyd yn oed yn fwy cryf a phendant na hyn mewn ysgrif ar Diadem, yr hon, medd ef, a gamenwir yn fawr drwy ei galw'n "dôn gynulleidfaol":—
Nid hi yw yr unig hoeden yn y teulu—ac y mae eraill o'i chwiorydd yn dechreu dangos eu hwynebau anhudolus—ond hi yw y fwyaf cynrychiadol, coegaidd a phres-wynebog hyd yn hyn. Ynglŷn âg emyn-doniaeth, nid ydym, yn sicr, yn perthyn i'r blaid or-geidwadol na cheidwadol; ddim mewn ymarferiad bid a fynno, bydded yr argyhoeddiad y peth y b'o. Mewn mater o'r fath, fel ag mewn gwleidyddiaeth, credwn mewn cymmodlonedd—egwyddor y give and take, am mai dyna'r llwybr mwyaf ymarferol, lle y mae cymaint o amrywiaeth mewn chwaeth a barn. Ar yr egwyddor honno yr ydym yn barod, er engraifft, i gydoddef â darnio cân er mwyn ei chlytio i fyny mewn ffurf o dôn, a'i galw yn Brooklyn,' i gydio tameidiau o 'Then round about the starry throne' â'i gilydd, a'u bedyddio â'r enw 'Gilead' neu 'Samson,' ac hyd yn oed i drawsffurfio 'If with all your hearts,' un o'r unawdau hyfrytaf yr esgorodd y meddwl dynol arno erioed, i wedd y mae'n sicr na adnabyddid mohoni gan yr awdur ei hun, a'i galw yn 'Dusseldorf,' &c. Gwir, y mae'n ffodus i rai o honom fod Handel a Mendelssohn, ac eraill, yn ddigon pell oddiwrthym; ond er mwyn yr ystyriaethau a enwyd, ac eraill cyffelyb, yr ydym yn foddlon myn'd ran o'r ffordd i gyfarfod pobl yn hyn o fater. Er hyny, y mae ffin yr hon na chroeswn, hyd yn oed er mwyn 'cym'dogaeth dda,' heddwch na dim arall. Tu draw i'r ffin honno y mae tônau fel 'Weber,' o gytgan agoriadol yr elffiaid, a gwŷr y tylwyth teg yn yr opera Der Freischütz,' a'i bath; alawon cenhedlaethol, megis 'Ar hyd y nos,' 'y Gwenith gwyn,' 'Last rose of summer,' a'u cyffelyb; ac yn olaf, ond nid lleiaf, dônau fel Lingham, Helmsley, Deemster, Lovely, a Diadem. Ond nid yr un na'r cyffelyb yw ein rhesymau dros wrthwynebu yr oll o'r hyn a grybwyllir uchod.
"Gallwn nodi yma ein bod yn anghytuno yn y modd llwyraf â'r rhai a fyntumiant nad oes y fath beth mewn bod a cherddoriaeth dda a gwael, chwaethus ac isel, clasurol a chyffredin; ac ond i chwi chware neu ganu, dyweder yr Hen 100fed, yn gyflym ac ysgafn, a "Pop goes the weasel" yn araf a phwysig, fod y naill gystal â'r llall—dim gwell na dim gwaeth. Nid yw yn ddigonol i wrth-ddadlu fod gwahaniaeth effaith, fwy neu lai, yn cael ei gynhyrchu drwy amseriad ac arddull araf âg un gyflym, &c.; cydnebydd pawb hyny, ond nis gall un math o arddull nac amser wneyd yr hyn sydd yn goeth yn isel, na'r hyn sydd yn wael yn dderchafedig, a gall ein darllenwyr brofi hyny drwy geisio canu tôn fel 'French' yn gyflym, neu un o fath 'Calcutta' yn araf.
"Fel hyn, tra y gwrthwynebwn ddygiad ein hen alawon cenhedlaethol i fewn i'r gwasanaeth cysegredig, yn ogystal a thônau o ddosbarth Lingham a Diadem, gwnawn hynny am resymau gwahanol. Fel cerddoriaeth, h.y, ynddynt eu hunain, y mae nifer fawr o'n halawon cenhedlaethol yn bur ac uchel—hyd yn oed 'Glân meddwdod mwyn,' 'Megan a gollodd ei gardas,' 'Bugeilio'r gwenith gwyn,' &c. —a gwrthwynebwn hwynt yn unig o herwydd eu cysylltiadau a'u hatgofion, ac am nad ydym yn credu o gwbl fod unrhyw alwad i'r cysegr i'w hechwyna, pa un ai gwir ai peidio i Rowland Hill, neu rywun, ddweyd 'fod y gerddoriaeth oreu gan y diafol.' Gwrthwynebwn y tônau a berthynant i'r dosbarth olaf, am eu bod yn waelion wrth natur, o arddull isel ac iselhaol, yn anfri i ni fel cenedl gerddorol a chrefyddol, yn cael eu condemnio er's blynyddau bellach. gan gerddorion goreu pob cenedl ddiwylliedig, yn hollol anaddas i'r amcan, ac yn anheilwng o'r urddas a'r parch sydd yn unig yn gweddu i fawl y cysegr."
Am donau Emlyn ei hun, dywed Mr. Jenkins:— "Gellir dweyd ei fod yn nes ei arddull yn ei dônau i Ambrose Lloyd ac Ieuan Gwyllt nac i Dr. Parry neu rai o'r cyfansoddwyr Cymreig eraill. Nid oes dim o'r elfen fasweddaidd neu faledaidd ynddynt fel sydd yn rhai o donau Parry a rhai o'r cyfansoddwyr ieuainc. Nis gwyddom am gymaint ag un dôn o'i eiddo a genir yn y trên, neu mewn cerbydau, wrth fynd a dod o Eisteddfodau a Chymanfaoedd Canu, ac y mae hynny'n brawf lled dda mai tônau i'r Cysegr ydynt ac nid i'r dafarn. Wrth gwrs mae yna dônau rhagorol gan Dr. Parry ond fod gormod o'r elfen faledaidd ynddynt, a'u bod yn rhy debyg i'w gilydd. Fel cynganeddwr alawaidd i'r holl leisiau yr oedd Parry yn ddiguro—gweler ei gynghaneddiad o'r dôn 'Alexander' a thonau eraill—mae yr holl rannau mor ganadwy (vocal) ac nid yn offerynnol, er hyn llithrodd i efelychiadau plentynaidd Wm. Owen, Prysgol, &c.; ond cadwodd Emlyn yn glir oddiwrth yr elfen hon."
Ac am ei anthemau dywed Mr. Owen Jones:—
"Mae ei anthemau yn fodels o'r hyn ddylasai anthem fod: maent yn glasurol eu dullwedd, eto i gyd yn ddefosiynol; maent yn aruchel eu harddull eto'n gyfaddas i'w pwrpas ac yn hollol gynulleidfaol; a gresyn, meddaf, na fuasent mewn mwy o ymarferiad yn ein capeli nac ydynt yn bresennol—byddent yn foddion i ddyrchafu y meddwl ac i gynhyrchu gwir ysbryd addolgar."
Yr hyn, nid ar dir cerddorol yn unig y safai na thir addoliadol hyd yn oed, ond ar dir daioni dyn yn ogystal; credai fod gan gerddoriaeth uchel ddylanwad gwaredol a dyrchafol ar y meddwl.
"Nid oes eisieu i ni ddweyd," meddai, "ein bod yn ystyried Cerddoriaeth yn un o'r pwerau blaenaf a hawlia sylw yr Eglwys Gristionogol; nid oes neb bellach, a amheua ei nheges ddaionus hi; ac fel y mae dylanwad y bregeth a'r seiat yn lleihau, credwn mai yng nghyfeiriad y gan y ceir ymwared." "Pe y cefnogid cerddoriaeth yn y Cysegr mewn ysbryd hael, yn lle ei phrin oddef, a phe y ceid datganiadau teilwng o weithiau teilwng yn ein haddoldai yn achlysurol, teimlaf yn gryf na fyddai yr ieuenctyd mor chwannog i fynd i wrando y Seindorf ar y Sul, nac i fynd i'r chwareudy yn yr wythnos."
Am yr un rheswm yr oedd yn bendant iawn yn erbyn cymysgu'r cysegredig a'r secularaidd, prun ai drwy fynd â'r olaf i'r addoldy, neu ynteu i brogram cyfunedig o'r ddau, neu eto drwy lusgo'r blaenaf i amgylchoedd anghydnaws:—
"Nid yw cyfran fawr o'r Cyngherddau a gynhelir yn ein capeli a'r darnau a genir yno, yn deilwng o gwbl o'r lle, ei gysylltiadau a'i atgofion. . . . Nid yn fuan yr anghofiwn yr ias oer a aeth trwom pan yn un o brif gapeli y De, yn gwrando perfformiad o un o weithiau cysegredig y prif feistri, a phryd fel overture y cafwyd gan y Seindorf 'The funeral march of a Marionette'! O bosibl mai ychydig o'r dorf a wyddai ddim am y darn, ond yr oedd ynddo ei hun, fel cerddoriaeth per se yn sarhad i grefydd, ac i'r rhai oedd gynefin ag ef, yr oedd annioddefol. Ar adeg arall merwinwyd ein clustiau a digiwyd ein hysbryd gan gôr o blant Ysgol Sul yn canu am 'Bobby Bingo—plant y Beiblau yn canu am gi! Ond nid ar y plant, druain, yr oedd y bai, ond ar bwyllgor Undeb Ysgolion Sul yn dewis y darn."
Mewn man arall cwyna fel y
"Cymysgir y darnau a genir yn y dull mwyaf gwrthun. Ar brogram sydd o'm blaen, cawn a ganlyn: 'Yr Yswain Dime,' 'Cwynfan y Gŵr Gweddw,' 'Ar lan yr Iorddonen.' Wedyn, cawn efallai: 'Do, taw ni'n marw! fe gollais y tren' yn gymysg ag alaw o'r Messiah neu'r Elijah. A all hacrwch fynd ymhellach na hyn yna?"
Mewn ysgrif ar "y Chwareudy a'r Capel," dywed:
"Rhaid dechreu gartref, a chofio am gysondeb: ni wiw collfarnu cantodau a gwrando yn ddigon boddus ar ganeuon iselwael yn ein capeli, na chondemnio myn'd i'r Chwareudy, tra ar yr un pryd yn caniatau afreoleidd—dra yn ein tai o addoliad mewn cysylltiad a Chyngherddau, Eisteddfodau, &c., na oddefid mewn unrhyw Chwareudy trefnus."
Cawn yr un gŵyn yn ei lythyrau. Mewn llythyr at Mr. D. Jones, Commercial Road, Llundain, gofynna:
"A oes gysegredigrwydd y fath beth y dyddiau hyn hogiau (a llancesau!) hanner meddw a thrythyll yn bloeddio 'Bydd myrdd o ryfeddodau,' yn gymysg a chaneuon Seisnig iselwael yn ein haddoldai ac wrth fynd a dychwelyd yn y tren!"
Dengys yr hanesyn a ganlyn ei fod yr un mor bendant yn erbyn cyffredineiddio pethau cysegredig mewn ffordd arall; a'i fod yn ffyddlon i'w argyhoeddiadau. Mr. Jones, Van, sydd yn ei adrodd:
"Dyma ddigwyddiad bychan ag y bum i fy hun yn llygad—dyst ohono, ymhlith miloedd eraill yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno. Yr oeddwn i yn eistedd wrth fwrdd y Gohebwyr, ac felly yn gyfleus i weled a chlywed y cwbl. Dydd Iau, diwrnod y Cadeirio, ydoedd, a phan yr oedd y Pavilion dan sang i weled y seremoni, gwelwn rywun yn estyn nodyn i Cynonfardd yr Arweinydd. Daeth a'r nodyn yn ei law i'r ffrynt, a darllenodd ef, 'Cais oddiwrth nifer o Gymry o'r America am i'r holl gynulleidfa gytganu Aberystwyth a Crugybar o dan arweiniad Mr. Emlyn Evans' (cymeradwyaeth hir—faith). Ar hynny, gwelwn Mr. Emlyn Evans yn codi o'i sedd ymhlith y Beirniaid, a thybiai pawb mai dod ymlaen i arwain yr oedd, a pharotoem i ganu gyda'n holl egni. Ond yn lle hynny, meddai, Mr. Cadeirydd, ar hyd fy oes, trwy'r wasg, ac yn gyhoedd, yr ydwyf wedi gwrthdystio yn erbyn yr arferiad o ganu Emynau a Thônau y Cysegr yn yr Eisteddfod. Nid dyma y lle i'w canu. Popeth yn ei le ei hun. Os oes eisieu i'r gynulleidfa ganu o gwbl, y mae yna ddigonedd o bethau eraill—hen alawon Cymreig, megis Gwyr Harlech, Llwyn Onn ac eraill sydd yn gwbl gyfaddas i'r Eisteddfod. Yr wyf unwaith eto'n protestio yn erbyn i ni ganu Tônau ac Emynau Crefyddol yn yr Eisteddfod. Nid yn unig arweinia i mohonoch chwi, ond arhosa i ddim yn y Pavilion tra byddoch yn canu.' A chymerodd afael yn ei het, a cherddodd allan. 'Dr. Parry,' 'Dr. Parry,' meddai rhywrai, a than ei arweiniad ef canwyd y ddwy dôn. Dengys y digwyddiad fod ganddo argyhoeddiadau cryfion, a'i fod yn ddigon gwrol i'w dilyn yn wyneb miloedd o'i gydwladwyr."
Gwnaeth lawer, yn ol ei allu a'i gyfleusterau, dros Ganiadaeth y Cysegr. Teimlai'n fawr am nad oedd y Canu Cynulleidfaol drwy ein gwlad yr hyn a ddylai fod fel cyfrwng addoli, hyd yn oed pan fyddai'r hyn a genid yn deilwng, fel y dengys y dyfyniad a ganlyn—
"Nid oes ond prin eisieu sylwi, fel y tybiwn, nad oes yr un dyn syber o gerddor a â i'r addoliad gyda'r amcan o bigo beiau a chwilio am wendidau yn y canu—digon o faich yw cyflawni y gwaith diddiolch o feirniadu pan fydd raid! Serch hynny, amhosibl yw i un gau ei glustiau, hyn yn oed pe y mynnai, oherwydd y mae i bechadur o feirniad ddiddanwch meddwl ac ysbryd mewn gwasanaeth gwir addoliadol; er o bosibl, y bydd boneddiges ieuanc o'i flaen yn canu 'thirds' ag alaw y dôn, heb hidio ffaeen pa anghydsain ddychrynllyd a wna a'r rhannau eraill; neu, efallai, frawd o ddwbl bass y tu ol iddo yn mwngial y cyfryw alaw ddwy wythawd yn is na'i sain briodol; neu, drachefn, frawd arall o faritonydd wrth ei ochr yn ei rhuo mewn wythawd ganol, gyda'r arwyddair, fel yr ymddengys, 'Llefa a'th lais, ac nac arbed.' Nid ydym yn gwybod pa fodd y mae y bobol hyn a'u cyffelyb yn gallu cyfiawnhau eu hunain wrth offrymu pethau o'r fath yn Nhŷ yr Hwn sydd a'i fawl yn ogoneddus; ond gwyddom na freuddwydient wneud hynny pe yn ymddangos o flaen tipyn o deyrn, neu dywysog, neu hyd yn oed feirniad daearol; ac ni wiw dod ymlaen a'r hen esgus parth 'canu a'r ysbryd' ac mai 'ar y galon yr edrycha'r Anfeidrol.' Ie, ar y galon yn ddiau, ond sonia y Llyfr am 'ganu a'r deall hefyd'; a dyledswydd dyn yw cyflwyno ei oreu oll a gwneud y goreu o'r hyn a ymddiriedwyd iddo—dwy wers a ddysgir y naill mor gynnar a hanes offrwm gwrthodedig Cain, ac un derbyniedig Abel, a'r llall yn nameg y talentau."
Ac eto:—
"Hyd nes y dihuna arweinwyr ein Cyfundebau Crefyddol i'r ffaith fod cerddoriaeth yn elfen bwysig a hanfodol yn y gwasanaeth; fod organau a harmoniau yn uwch na phethau i'w thympio gan bob rhyw anwybodusion; fod yn rhaid dyfod i'r allor hon hefyd â 'blaenffrwyth y defaid a'u brasder hwynt' . . . hyd hynny ofnaf na cheir gwelliant, ac fe ddylifa y bobl i fannau eraill ar brynhawn a nos Sul am y gerddoriaeth honno nas gallant ei chael mewn ty addoliad—yr hwn ddylai fod yn dŷ hefyd i'r oll sydd yn oreu yn y goreu ag sydd yn bosibl yn y gelfyddyd gerddorol, sef, cerddoriaeth cysegredig." Wedi gadael y Drenewydd, ni wnaeth lawer yn uniongyrch gyda Chaniadaeth y Cysegr nes dod yn ol i fyw i Gymru eilwaith. Pan yng Nghemes, a'i iechyd a'r tywydd yn caniatau iddo gerdded i Nebo, nid yn unig canai'r harmonium yno, ond ni allai lai na chymryd baich y canu ar ei gefn llesg ei hun. "We have had a charming day," meddai wrth ei gyfaill Dd. Jenkins, "and I was able to walk to and from our little Nebo, as well as thump, shout, and carry some cart-horse tunists on my back when there; however, a cup of coffee, a smoke, and a little rest have put me 'as we were' once more."
Bu'n arwain nifer o Gymanfaoedd Canu; ond y mae'n amlwg nad allai un a ysid yn gorfforol gan brynhawn yn 'Nebo fechan' ddal pwys a gwres y Gymanfa'n dda. Heblaw hyn, deuai i wrthdarawiad â'r corau parth y modd i ganu. Gwyddis ei fod ef—fel y dywed Mr. Harry Evans—yn ffafrio 'purdeb' mewn canu yn fwy na 'rhyferthwy,' tra mai tuedd y Cymro yw ffafrio'r olaf—" hwyl at any price." Nid ei fod yn ceisio gwneuthur i ffwrdd â theimlad, bid siwr, yn gymaint a rhoddi iddo ei le—fel gwas da yn hytrach na meistr drwg.
Mwynhai'r awel pan ddeuai hi i lenwi'r hwyl a helpu'r gân—nid i gipio'r bad cerddorol o'i blaen.
"Caed hwyl ar Dref—hedyn," meddai, "o dan fy nyrnau: dywedais wrth y bobl mai arnynt hwy yr oedd y bai—mai nid fy arfer oedd mynd i lawer o hwyl uwchben fy ngwaith fy hun; a chwerthinwyd yn iachus. Deallais wedyn y gosodent y cap i ffitio ar ben,—er nad oedd ef na neb arall yn fy meddwl ar y pryd." Dro arall, pan aeth yr awel yn rhyferthwy, a phan gollwyd meddwl mewn 'mynd' y ganmoliaeth a gafodd y Côr oedd Dyna hwyl, beth bynnag!'
Yr oedd ynddo ormod o deimladrwydd, a rhy fach o'r hyn a alwai Mr.W. T. Stead yn "beef"—i'w alluogi i ddioddef annibendod ac esgeulusdod ac anallu—i fod yn arweinydd da. Un tro—droeon hwyrach—ar ol datganiad sâl, gofynnai, "Ai dyna'r hyn y'ch chwi'n alw'n ganu mawl i'r Goruchaf?"
Dro arall, gadawodd y Gymanfa wedi oedfa'r prynhawn, am nad oedd y corau wedi partoi ymlaen llaw'n briodol—tebig fod oedfa'r bore a'r prynhawn yn gymaint ag a allai ei gorff a'i ysbryd ddal.
Gyda golwg ar yr hyn a genid, fel hyn yr ysgrifenna at Mr. D. W. Lewis, parth Diadem druan, oedd yr ochr arall i'r ffin na fynnai ei chroesi:
'Ydych chwi'n dod ar draws yr anferth-beth yna, 'Diadem' weithiau? Dylem yn wir streicio yn erbyn peth fel hyn—y mae'n warth i ni yn y flwyddyn 1894. Gomeddais arwain Cymanfa yn Llundain os dodid hi i fewn—er mai gweinidog a'i cynhygiodd, a dodwyd 'Blaenhafren' yn ei lle. Yn awr, dyma'r hên filain ar brogram arall na chefais mo'r proof ohono'n mlaenllaw: wel, ni wiw cadw fuss yn awr, pan y mae y program wedi ei argraffu, ond arweinia i ddim o honna!"
XVIII.
Y SALMYDD A'R CANIEDYDD.
WRTH offerynnu, Y'storm Tiberias, Tanymarian, daeth braidd yn sydyn i faes arall o wasanaeth. Cafodd fantais oedd wrth ei fodd i wasanaethu Cerddoriaeth Gysegredig yng Nghymru pan ofynnwyd iddo ymgymryd â golygu gwahanol Lyfrau Tonau Cynulleidfaol. Dechreuodd gyda'r gwaith pwysig hwn yn 1890, pan ddaeth y syniad am lyfr newydd—yn hynod iawn,—i'w feddwl ef ac eraill yr un pryd. Fel hyn yr ysgrifenna ei lythyr cyntaf ar y mater at Mr. Emlyn Jones, wrth ateb un o'r eiddo ef:—
Tach. 4ydd, 1890.
Fy Hen Gyfaill,
Yn hynod iawn, yr oeddwn yn meddwl am danoch ychydig amser yn ol, gan wedi i mi ddarllen hanes y Cwrdd Chwarterol at yr hwn y cyfeiriwch, y fflachiodd i'm meddwl y gallech chwi a minnau, ond i ni roddi'n pennau gyda'u gilydd, droi allan Lyfr Tonau fuasai'n cwrdd a phob gofynion teg. Felly, chwi welwch fy mod i, braidd yn anymwybodol i mi fy hunan, yn barod i gydweithredu a chwi, ac yr wyf felly'n awr, ond am fwy nag un rheswm, ni allwn ymgymeryd a'r gwaith fy hun." Mewn llythyr diweddarach (Tach. 16) dywed (1) ei fod ar y cyfan yn wrthwynebol i gyfaddasiadau (adaptations) ond y gellid eithrio rhai oedd eisoes yn boblogaidd, megis dechreuad Twelfth Mass Mozart, ac Oberon Weber; ac (2) fod ganddo wrthwynebiad cryfach i ddefnyddio alawon bydol (secular airs) megis Y Fwyalchen, ond y gellid cynnwys Cwynfan Prydain, am ei bod yn cyfranogi o ysbryd mwy defosiynol, ac heb ei hieuo yn y cof ag unrhyw eiriau arbennig.
Felly y cychwynnwyd Y Salmydd, dan ei olygiaeth gerddorol ef, Emlyn Jones, a D. W. Lewis. Cyhoeddwyd ef heb nac awdurdod na nawdd enwad y tu cefn; ond pan gafwyd ei fod yn cwrdd ag angen yr amserau, penderfynwyd dwyn allan lyfr Y Caniedydd Cynulleidfaol dan nawdd yr enwad, gyda Mri. Emlyn Jones, M. O. Jones, D. W. Lewis ac yntau yn olygyddion cerddorol.
Y mae'n addysgiadol iawn sylwi—yng ngoleuni ei ohebiaeth â'i gyd-olygyddion—gymaint o gydwybod a ddwg i'r gwaith, ac fel y myn osod i lawr linellau clir ar y cychwyn i symud yn unol â hwy wrth ddewis tonau, &c. Myn gadw'r safon yn uchel fel arfer; ond y mae yn ffafr "amrywiaeth o bopeth ond y gwael." Y maent i gofio mai gweision yr enwad ydynt, ac fod hawliau gwahanol adrannau felly i'w hystyried —hyd yn oed adran y "tân Cymreig"; ar yr un pryd, y maent i feddwl am addysgu'r bobl a dyrchafu eu chwaeth yn raddol.
Fel hyn yr ysgrifenna at Mr. Lewis yng Ngorffennaf 1893—
"Fy amcan i, fel gyda'r Salmydd, yw sicrhau amrywiaeth o bobpeth ond yr hyn sydd yn wael a diflannol."
Yna wedi cyfeirio at ddosbarth o donau fel "canu pen rheffyn i blesio chwaeth y werin am dymor, a dim ond hynny," ac fel rhai a fydd feirw'n fuan, dywed:
"Ond y mae y llyfr yma i fyw 20 mlynedd o leiaf. Tebig mai tonau fel Blaenhafren fydd yn mynd â hi ar y cyntaf; ond rhaid i ni addysgu a chodi pobl i fyny yn eu chwaeth, i fawrygu tonau fel Aurelia a Regent Square; a beth yw ein neges ni yn y byd yma, frawd—ei adael fel y mae (neu fynd yn ol ag ef yn hytrach), neu ynteu ei adael yn well? Profa llwyddiant y Salmydd ein bod yno ar linellau iawn." Eto, yn Awst:
"Y mae rhywun wedi dweyd wrth W.E.J., mai callach ini beidio dodi gormod—neu yr oll' 'dwy' ddim yn cofio p'run—o donau y Salmydd i fewn Wel, os awn ni i wrando ar opiniwn pob dyn, wnawn ni lyfr byth; ac i beth—i beth yn bennaf—y prynwyd y Salmydd (am arian go dda, pe caem ddod o hyd iddynt) ond i'w ddodi i fewn, nid yr oll efallai, ond yn sicr y rhan fwyaf ohono. Nid yw hyn mor wir am yr Aberth' gan na ddisgwylir i ni ond lloffa o hwnnw. Y mae'r pwyllgor wedi mynd i gryn gost gyda'r ddau hyn eisoes, ac os awn ni ar ol llawer iawn o dônau Seisnig copyright uchelbris, â rhai ugeiniau o bunnau'n rhagor, ac yr wyf yn bur sicr na chymeradwyir hynny. Yr wyf fi yn barod i aberthu rhai o'r tonau yn y Salmydd fel y gwyddoch ac yn barod fel y gwyddoch hefyd, i fynd yn rhesymol ar ol tonau Seisnig; ond rhaid i ni gadw o'n blaen mai 300 o donau yw y rhif uchaf allwn gael; a rhaid i ni gofio am hawliau yr adran a'r teimlad Cymreig. Nid yw yn debig y bydd i ni ein pedwar anghytuno o gwbl, ond y mae'n angenrheidiol i ni gadw y gofynion uchod mewn golwg er cyrhaedd ein hamcan, ac er cyflawni y dasg a ymddiriedwyd i ni'n foddhaol. "Eto dywedir "—(meddai ym Medi)—"na ddylid dodi gormod o dônau minor i fewn, ac yr wyf yn cyduno ein bod yn rhy dueddol fel Cenedl i'r minor; ond os na fydd yr hên dônau poblogaidd yma i fewn, fe'u gofynir oddiarnom cyn sicred a hynny. Y llwybr canol, rhesymol, a sicr, yw yr un i ni. Pe gwneud llyfr ar ein risk ni ein hunain fuasem, wel, ni cholledid neb ond y ni pe missiem y nod; ond gan mai gweision yr enwad ydym, credaf mai ein dyledswydd yw cario allan ewyllys yr enwad cyn belled ag y gallwn. Yr wyf o'r farn o hyd y gallwn ac y dylem adael allan ryw hanner dwsin o'r Salmydd gan y gellir eu gwell erbyn hyn."
Yn ddiweddarach (Mehefin, 1898) ynglŷn â Chaniedydd y Plant, ysgrifenna:
"Rhaid i ni fod yn ofalus—y mae llyfr fel hwn yn wahanol i gyfresau a rhifynau, &c., gan. ei fod yn un sefydlog, ac a ddylai bara am o leiaf 10 mlynedd. Felly, nid oes le ynddo i rubbish, neu bethau cyffredin, os gallwn mewn un modd eu hosgoi."
Y mae ei ohebiaeth yn llawn o'i ddywediadau ffraethlym ond di-wenwyn arferol. Cwyna'n aml oherwydd arafwch y Golygyddion Emynol:
"Y set bregethwrol yma! maent yn clebran llawer am y Nefoedd o Sul i Sul, ond yn arwain rhai ohonom i brofedigaethau mynych gyda'u hannibendod. 'Order is the fist law of Heaven,' onide?"
Y mae ganddo'i farn hefyd ar yr orgraff newydd, a'i safonau:
"Y mae y Salmau a'r geiriau i'r Anthemau fel ag yn y Beibl. Barn Mr. Emlyn Jones a minnau oedd fod yr orgraff honno'n ddigon da i ni: nid oes yno 'wobor' na 'bobol' na 'temel' na'u cyffelyb, ac hyd o fewn y dyddiau diweddaf hyn, nid oedd un Cymro deallus o bulpud nac allan ohono a ddywedai y fath eiriau; ac ni phenderfynodd Elfed a Dewi Mon ar y fath orgraff benchwiban hyd y foment ddiweddaf—yn wir, ar ol i'r emynau gael eu danfon i Novello yn y lle cyntaf. Bid siwr, y mae y geiriau uchod, a 'sicr', 'deigr' &c., yn ymarferol yn rhai deusill, ac i'w canu felly: sic—r, deig—r (neu dei—gr) fel ag y cenir ac y canwyd hwy erioed gan bob canwr chwaethus; ac os daw neb, nac unawdydd na chor, o'm blaen i, i ganu 'bobol', 'temel' gwnant hynny ar eu perygl."
Tebig ei fod yn tybied fod tric wedi ei chware ag ef ynglŷn ag orgraff y Caniedydd cyntaf, ond ni chymerai ei ddal yr ail dro. Yng Ngorffennaf 1899 ysgrifenna:
"Y mae gan Elfed grank newydd yn awr—Beibil. Hysbysais ef nas gallaf ganiatau hyn—rhaid i ni arwain a beirniadu y rhai hyn eto; ac nid sillebiaeth ac ynganiaeth plwyfiaid anllythyrenog sydd i fod yn safon. Ni cha'r profleni hynny fynd oddiyma hyd nes y setlir y peth yn foddhaol.
Yr oedd Bol (Bo—bol) yn llyfr I. yn bur gryf, ond y mae Bil yn hwn eto yn ormod o ddogn i'w lyncu!" Y mae'n werth rhoddi ei eiriau olaf ynghylch dewis a mabwysiadu Tonau Cynulleidfaol ar gof a chadw—geiriau a ysgrifennwyd yn ei fisoedd olaf at Mr. Emlyn Jones—nid yn unig am eu bod yn dangos ei degwch ato'i hun a thuag at eraill, ond hefyd am eu bod yn mynegi ei olygiad—a gaiff ein sylw eto—fod deddf "Goroesiad y Cymhwysaf" (Survival of the Fittest) i weithredu ym myd cerddoriaeth:—
"Cymeraf hi yn ganiataol y bydd y farn yn unfrydol parth gadael allan nifer o'r tônau, a rhai o'r anthemau sydd yn y casgliad presennol; ac fod yn eu plith (a) y tônau, hên a diweddar, dybliadau ac ail-adroddiadau nad ydynt yn cwrdd â chwaeth yr oes; ond (b) mai dymunol fyddai cadw i fewn rai o'r cyfryw ydynt yn adnabyddus a phoblogaidd dros y wlad yn gyffredinol.
"Yn y 'Caniedydd' gwreiddiol (fel ag yn y 'Salmydd ') dodwyd nifer o dônau newydd i fewn, y rhai, erbyn hyn, ydynt wedi cael eu siawns. Y mae nifer wedi dal eu tir, ac wedi dyfod yn wasanaethgar a derbyniol gan yr enwad a'r wlad. Y mae eraill wedi methu, a theimlwn mai eu lle hwy yw cilio o'r neilltu. Y mae nifer o'r cyfryw yn ffrwyth yr ysgrifell hon, ac nid yn unig cytunwn â'r telerau hyn, ond ein dymuniad yw fod y gyfraith yn cael ei rhoi mewn gweithrediad cyn belled ag y mae a fynno â ni; a chaffed eraill y cyfle a'r gofod at eu gwasanaeth.
"Ystyriaf y byddai 'o 20 i 30' o dônau yn fwy na llawn ddigon gan yr un awdwr—mewn unrhyw lyfr, yn neilltuol un cymharol fychan. Byddai y cyfartaledd hwnw braidd yn eithafol hyd yn oed i Lloyd, awdur tônau sydd wedi dal prawf dwy neu dair cenhedlaeth, ac yn cynhyddu yn eu nerth a'u blas. Bydd yn ofynol, yn wir, ystyried hawliau rhai o dônau yr 'Aberth' adawyd allan o'r 'Caniedydd' oherwydd diffyg lle ar y pryd, megis Cynddelw," &c.
"Nid wyf yn gweld fod dim yn erbyn cael allan 'lais y Cyfundebau'—yr enwad—ond yn unig (sicrhau) fod y llais hwnw yn fynegiad trwyadl a gonest o farn yr enwad yn gyffredinol, ac nid rhyw beth wedi ei fforsio yn anheg i foddio plaid neu adran, yn hytrach na llesoli yr enwad."
Am yr Anthemau dywed:
"Tybiaf mai ychydig yw nifer yr Anthemau Cymreig a deilyngant le parhaol mewn casgliadau." Credaf y byddai rhai o Anthemau byrion Dr. Jos. Parry yn rhai priodol i'w hychwanegu mewn casgliad."[10]
Ac nid ei enwad ei hun yn unig a wasanaethodd fel Golygydd ei Lyfr Tonau: yn ddiweddarach (1904) gweithredodd gyda Mr. Wilfrid Jones ac eraill ar bwyllgor Golygyddol Llyfr Tonau y Wesleaid Cymreig.
XIX.
CERDDORIAETH GENEDLAETHOL.
DENGYS y nodyn a ganlyn o'i eiddo, at Mr. D. W. Lewis, berthynas y teimlad cenedlaethol â'r un crefyddol yn ei galon:
25:10:1901.
Anwyl Gyfaill,
Gair neu ddau yn fyr mewn atebiad i'r eiddoch i law heddyw. . . .
Ynglyn a chwestiwn yr achosion Seisnig yma, nid wyf yn gallu gweld fy ffordd yn glir o gwbl. Y mae yma ddyledswydd i'w chyflawni, ond yr anhawster yw gwybod y llwybr iawn ynglyn a hyny.
Y mae dyn o dan ddylanwad ei deimladau i raddau helaeth, ac y mae'r teimlad cenedlgarol ac iaithgarol yn gryf yn mynwes pob gwir Gymro. Wedyn y mae ganddo—fel pob dyn gonest pob cenedl—deimlad cryf yn erbyn pob coegni, balchder, a ffûg. Wrth gwrs y mae nifer o Saeson, Ysgotiaid, &c., wedi ymsefydlu yng Nghymru, yn enwedig yng Ngwent a Morganwg; ac y mae hefyd yn ddiau, nifer o Gymry wedi ac yn codi i fyny yn Saeson hollol o ran iaith; ac mewn perthynas a'r ddau ddosbarth hyn, y mae lles enaid yn anrhaethol fwy pwysig na llwyddiant a pharhad iaith. Ond yr wyf yn ddig wrth y bobl hynny (1) na wnant ymdrech o un math i ddwyn eu plant i fyny yn iaith eu tadau—nac yn fynych yn wir (yn y dosbarth hwn) mewn unrhyw iaith teilwng o'r enw; ac (2) wrth y rhai lluosog hynny sydd mor goegfalch â thybied fod rhyw respectability rhyfedd o gysylltu eu hunain a'r 'Inglis Côs' rhagor yr un Cymraeg. Yr wyf wedi bod yn treio cydaddoli â'r bobl hyn cyn yn awr, ac nis gallswn yn fy myw lai na theimlo mai fraud oedd y peth o'r top i'r gwaelod, a'u bod hwy yn ymwybodol o hyny, ac yn mynd o flaen y Brenin Mawr hyd yn oed ag iaith ffugiol ar eu gwefusau. 'Roedd y pregethwr yn y pulpud, y gweddiwr ar ei liniau, a'r bobl gyda'u 'How d'ye do' y naill i'r llall wrth y drysau, yn dedfrydu eu hunain i boenyddiaeth ddigymysg trwy actio y ffug o addoli eu Crewr mewn iaith nas adwaenent. A'r peth rhyfedd yw fod canoedd o blant Cymry Llundain, Lerpwl, Birkenhead, Birmingham, &c., yn codi fyny yn berffaith hyddysg yn y Gymraeg. Ardalydd Bute yn siarad Cymraeg glân gloew, a phlant Shonis a mân Siopwyr Dowlais a'r Rhondda, &c., yn cydnabod dim ond " ticyn bach" o gydnabyddiaeth, &c., &c.! Wedi'r cyfan, mae y llanw Seisnig yn rhy gryf a dylid cyfarfod ag ef. Fel y gwyddoch, mae yr Hen Gorff wedi cyhoeddi eu llyfr Saesneg, ac felly Bedyddwyr y Deheudir. Nid ydym ni yr Annibynwyr mor ffyddlon i'n henwad ag yw y blaenaf, a thebig fod y 'Dŵr' yn gyfrwng cysylltiol rhwng yr olaf; ond dylai fod lle i gasgliad hylaw fyddai yn cynwys cynrychioliad boddhaol o'r elfen Gymreig ymysg ein pobl ieuainc.
Fyth fel arfer,
D. EMLYN EVANS.
"Y mae lles enaid yn anrhaethol fwy pwysig na llwyddiant a pharhad iaith." Ond ail yn unig i safle Cerddoriaeth y Cysegr oedd eiddo Cerddoriaeth Genedlaethol Cymru yn ei galon. Go brin y tybiwn fod y teimlad gwlatgar ymysg cerddorion y deffroad, a'u gwasanaeth i'r teimlad cenedlaethol drwy eu cerddoriaeth, wedi cael y sylw dyladwy, fel y cafodd eiddo'r beirdd. Wele deitlau rhai o weithiau Emlyn ar y llinell wlatgar cyn 1880: "Ardderchog Wlad y Bryniau," " "Hen Walia Ddigymar," "Hen Gymru Wen," "Cymru," "Rhyfelgan Gwalia," "Y Ddau Awenydd," "Bedd Llewelyn," "Cân y Tywysog," "Y Gadlef." Yna ychydig yn ddiweddarach, cawn "Hen Wlad y Menyg Gwynion," "Gwlad yr hen Geninen Werdd," &c.
Dechreuodd deimlo diddordeb yn ieuanc yn ein halawon cenedlaethol, a daliodd ei serch atynt i gynhyddu hyd y diwedd. Prisiai hwynt yn uchel, ac ymhyfrydai ynddynt; synnai na chawsent fwy o sylw gan ysgrifenwyr a chantorion Cymreig.
"Dylai y Cymry fod yn falchach nag yr ymddangosant fod, o'r mwnglawdd cyfoethog hwn o gerddoriaeth sydd yn eiddo iddynt, ac yr wyf yn ystyried y dylai yr alawon cenhedlaethol hyn ffurfio cyfran bwysig o'r gerddoriaeth a ddysgir ymhob ysgol yn y Dywysogaeth. Fel ag yn hanes personau, felly yr eiddo cenhedloedd, y mae'n debig, y mae adegau penwan—llewygfeydd o amhwylledd; ac i'r cyfryw achosion, neu ynteu fel penyd am ryw bechod ydym wedi gyflawni, y rhaid i ni briodoli ein hesgeulusdod presennol o'r alawon hyn, a'n bod yn rhedeg ar ol gwag-bethau Americanaidd a'u cyffelyb, ac yn canu'n ddiorffen y fath gynyrchiad a 'Hen Wlad fy nhadau,' nid yn unig ymron ymhob cyfarfod, ond weithiau ddwywaith a theirgwaith yn yr un cyfarfod.
"Y mae ysgrifenwyr Seisnig pan yn ysgrifennu ar gerddoriaeth Gymreig, yn cyfeirio'n ddieithriad at ein halawon cenhedlaethol, ac i'r gwrthwyneb, os trown i'n cyhoeddiadau Cymraeg—Geiriaduron, &c., ni gawn ein hysgrifenwyr ein hunain, yn anwybyddu y rhai hyn ymron yn hollol, a'r rhai a ffurfiant gyfran mor helaeth o'n ystoc gerddorol gyfyngedig.
"Ar ben y rhestr yn ein Cerddoriaeth Fydol," meddai, " y mae ein halawon cenhedlaethol, o ba rai y mae yn awr yn gyhoeddedig mewn gwahanol gasgliadau, o gasgliad cyntaf John Parry, Rhiwabon (Parri Ddall) 1742, hyd gasgliad y diweddar Nicholas Bennett, 1896, ryw 1,200 yn yr oll; rhai wedi eu trefnu i offerynnau yn unig, eraill i leisiau yn unig, neu i leisiau gyda chyfeiliant i'r delyn neu'r berdoneg. Ac nis gwyddom am unrhyw wlad ag sydd yn meddu ystoc gyfoethocach yn y gangen bwysig hon—cangen nodweddiadol o genhadaeth gerddorol—o ran eu rhifedi, eu teilyngdod, neu eu hamrywiaeth; nid ym marn yr ysgrifennydd yn unig, ond yn eiddo rhai o brif feirniaid cerddorol y deyrnas. Y mae y gangen hon yn bwysig nid yn unig yn rhinwedd yr alawon ynddynt eu hunain, ond yn eu dylanwad ar gerddoriaeth y genedl; un o brif deithi yr alawon hyn o'n heiddo yw eu naturioldeb a'u melodedd, a dyna hefyd deithi dynodol ein cerddoriaeth oreu yn bresennol yn ei hanfod."
Cyfeiria uchod at gasgliad Mr. Nicholas Bennett: ynglŷn â hwnnw daeth i'w ran yntau y fraint o wneuthur rhywbeth i ddiogelu a phartoi rhai o alawon ei wlad ar gyfer gwasanaeth. Wedi gorffen y Caniedydd Cynulleidfaol, ymgymerodd â golygu'r casgliad o tua phum cant o alawon a gynullasai Mr. Bennett yng nghwrs blynyddoedd o chwilota. Yr oedd yn waith enfawr gosod trefn ar y fath nifer, ac ysgrifennu cyfeiliant iddynt; golygai dreth drom ar farn ac amynedd; ond yr oedd yn waith wrth ei fodd, yn unol â'i anianawd hanesyddol a'i serch at yr hen Gymry, ac ar yr un pryd yn rhoddi mantais iddo fod o wasanaeth i Gymry ieuainc. Gwnaeth ei waith â'i drylwyredd a'i ddestlusrwydd arferol, ac enillodd gymeradwyaeth y beirniaid goreu.
Heblaw hyn, golygodd a threfnodd gasgliadau llai o'r alawon,—i blant, at wasanaeth ysgolion, &c. Bu ei drefniadau o alawon ar gyfer Corau Merched yn neilltuol boblogaidd.
Y mae o bwys mabwysiadu'r safbwynt iawn er mwyn gwerthfawrogi ei drefniadau a'i gyfeiliannau. Wrth eu hysgrifennu, y mae'n dra sicr na cheisiodd arddangos ei hun a'i allu yn gymaint a bod yn ffyddlon i deithi'r alawon. Fe gytuna pob gwir feirniad â'r hyn a ddywed Dr. Protheroe oedd dirgelwch ei lwyddiant wrth eu trin:—
"Ni chredai Emlyn mewn gorwisgo ein hen alawon. Gwir, y mae rhai cerddorion Cymreig wedi gwneuthur i lawer hen alaw, hollol wladol—ac un brydferth a naturiol, i ymddangos fel rhyw lances dramor. Ond trefnai Emlyn hwynt gyda chynganeddion cyfaddas, cynghanedd a gyfranogai o anianawd a theithi y felodi, nes byddai'r cwbl yn ymddangos yn eu prydferthwch cynhenid, heb yr un andwyaeth oddiwrth ribanau celfyddyd."
Ond nid fel golygydd a threfnydd yn unig y cafodd ef fantais i ddangos ei gydnabyddiaeth â'r hen alawon hyn; yr oedd yn wastad yn barod i'w hamddiffyn, ac amddiffyn hawliau ei wlad iddynt, yn wyneb ymgais y Sais i'w dwyn oddiarnom fel ei eiddo ef ei hun. Bydd yn werth rhoddi hanes ei ymgyrch olaf ar y maes hwn yn y Musical Times (Tach. 1910-Ebrill 1911). Yn yr argraffiad newydd o Eiriadur Grove (Dictionary of Music and Musicians), y mae yna erthygl ar Gerddoriaeth Gymreig, yn yr hon yr honnir mai gwaith Sais o'r enw Dibdin yw Clychau Aberdyfi. Cymer Emlyn yr erthygl hon—ac yn arbennig yr honiad hwn—i fyny; gan mai â Sais y mae y ddadl, ni a'i gwrandawn am y tro yn siarad Saesneg. Yn gyntaf cliria'r ffordd:
"No Welsh musical critic of any note credits the fables promulgated by Blind Parry, Edward Jones, &c., in their collections." "The Welsh people have no desire to annex as their own, melodies which can be proved to be the bona fide property of another nation. Each claim, however, should be thoroughly examined and tested."
Yna â ymlaen:
Priority of publication is not at all times a sufficient and fair proof of ownership, however strongly it may appear so at first sight. Anyone versed in Welsh history, and acquainted with the adverse conditions under which the country laboured for long generations, will not be in any way surprised at the paucity of Welsh musical publications, and musical data generally. The first Welsh printing-press in Wales was not set up until the year 1719; and, so far as is known, the first book of Welsh music (or part of it) was not printed there until nearly a century later—1816.
Printing music was beyond poor little Wales's resources. It should also be borne in mind that oral teaching was the traditional bardic method of imparting knowledge."
Am hawl y Sais i'r Clychau, dywed:
"No evidence whatever is brought forward in support of this, beyond certain assumptions based upon negative inferences;"
a noda y rhesymau cadarnhaol dros ei hystyried yn Gymreig:
Fortunately, the preservation of the words, doggerel though they are, provides us with strong internal evidence in support of its Welsh origin. It is quite conceivable that the parody could have been evolved out of a proper Welsh version; but to imagine the converse—that the charming Welsh lyric which has been handed down to us is the outcome of that parody—is unthinkable." Yn Opera Dibdin cedwir y geiriau yn y ffurf a gan—lyn—
"And os wit I yng carrie i
rui fy dwyn dy garrie di
As ein dau tre pedwar pimp chwech go
the Bells of Aberdovey."
Etyb Mr. Frank Kidson fel hyn:
"It is refreshing that such men as Dr. Lloyd Williams and Mr. Emlyn Evans have taken a saner view of Welsh National Music than others."
Wedi rhoddi enghreifftiau eraill o gerddladrad ar ran hen olygyddion cerddorol Cymru, daw at Glychau Aberdyfi:
"Mr. Emlyn Evans regards the facts that Dibdin put the air forth in 1785 as his own composition, and that it was never inserted in any Welsh collection before 1844, or earlier Welsh claim made for it, as 'negative inference',"
a gofynna,
"If the air be Welsh, why was it not included in any Welsh collection prior to 1844?"
Yn fwy cadarnhaol dywed:
"The proveable facts are these: In 1785 Dibdin produced an opera at Drury Lane called 'Liberty Hall.' In this opera he introduced a comic character, being a Welshman who speaks a mixture of Welsh and English. This is quite an old wheeze'; Shakespeare did it, D'Urfey did it and a hundred others. He makes the Welshman sing a song in broken English, interlarded with Welsh words (these no doubt, obtained from a Welsh friend) relating to the Bells of Aberdovey. The song with music was published-in oblong folio by John Preston, in 1785 or 1786, and the title-page, to distinguish the opera from those made up of odds and ends, expressly states that the whole composition is by Mr. Dibdin, thus,—Liberty Hall: or The test of goodfellowship,' a comic opera as performed with universal applause at the Theatre Royal, Drury Lane, being entirely an original composition by Mr. Dibdin." Cafodd Mr. Kidson fod y tir "cadarnhaol" y mentrodd iddo yn un twyllodrus iawn—yn rhoddi ffordd dan ei draed, fel y dengys yr ateb a ganlyn:—
"The Bells of Aberdovey' has figured some—what prominently in this discussion, and in support of the contention that the air was Charles Dibdin's own composition Mr. Kidson advances the argument that it was quite opposed' to Dibdin's practice to use existing tunes in his operas (vide Grove)—emphasizing the statement in the Musical Times for February, by quoting the title-page of the opera Liberty Hall' which expressly' states that the whole work was entirely an original composition by Mr. Dibdin.' As a theory that looks fair enough, and only requires to be supported by facts; and here I beg to record my deep indebtedness to Mrs. Mary Davies, whose observant eye has discovered another Welsh travesty in the self-same 'entirely original' opera, sung by the same comic character, Ap Hugh, 'Were patience kind to me,' a song containing the refrain Oh, he, de, nos' an evident parody of Ar hyd y nos' (All through the night'). Here we find the following

that reproduces the middle part of 'Ar hyd y nos' note for note, practically speaking, and no further comment is needed to demonstrate how effectually it demolishes the little theoretical structure put together above. It may be as well to add, perhaps, that 'Ar hyd y nos' had been previously published—in Edward Jones's Musical Relicks,' 1784.
"In regard to the 'Bells of Aberdovey' itself, an examination of the Dibdin copy shows that there is absolutely no resemblance between the two airs; excepting the last two lines (four bars) which are repeated, besides a few chordal suggestions."
Cydnebydd Emlyn yn Y Cerddor (Gorff. 1911) fod pwysau y profion" yn erbyn ein hawl i "Ymdaith y Mwnc"; a chydnebydd hefyd fod yr hen olygyddion—a rhai diweddar—yn gwneuthur honiadau afresymol, megis fod "Nos Galan" o leiaf rhwng 2,000 a 3,000 mlwydd oed. Cyfeiria at gamsyniad arall:
"Yn y fan hon y mae gair o rybudd yn angenrheidiol mewn cysylltiad âg un o hoff arferion rhai o'n hysgrifenwyr Cymreig, y rhai a ruthrant i'r penderfyniad fod teitlau llawer o'n caneuon yn fynegai sicr, naill ai i'w hawduraeth, neu yr amser a'r amgylchiadau pryd ac o dan ba rai y cawsant eu hysgrifenu. O herwydd, er engraifft, fod genym dôn o'r enw "Morfa Rhuddlan," cymerir yn ganiatâol ar unwaith iddi gael ei chyfansoddi ar yr adeg, ac mewn cysylltiad âg amgylchiad arbenig a gymerodd le yno, fel y dywedir, ganoedd lawer o flynyddau yn ol; ac o herwydd i Dafydd ab Gwilym ysgrifenu Cywydd i'r Gaingc 'Symlen,' a Chywyddau dirifedi i un Morfudd, y mae y cyfeillion gorwresog hyn o'n heiddo yn tystio mai at ein Symlen pen bys' bresennol y cyfeiriai yn y flaenaf, ac mai efe oedd cyfansoddwr yr alaw 'Rhiban Morfudd' adnabyddus i ni y dyddiau hyn. Nis gall dim fod yn llawer mwy anathronyddol na'r dull yma o ymresymu, ac y mae haeriadau o'r fath, os na ategir hwy gan rywbeth tebyg i brawf, yn waeth na difudd. Ar yr ochr arall, y mae ysgrifenwyr nad ydynt yn meddu ond adnabyddiaeth arwynebol o'n hen gerddoriaeth, yn cael eu harwain i'r eithafion gwrthgyferbyniol o ystyried yr oll o'n melodion cenhedlaethol, o herwydd rheoleidd-dra eu cyfansoddiad, a'u graddfa ddiatonaidd berffaith, fel cynyrchion cymhariaethol ddiweddar, gan anghofio y ffaith fod ein meddianiad o offeryn fel y delyn, yr hon sydd yn hanfodol ddiatonaidd, yn rhwym o fod wedi effeithio ar arddull ein cerddoriaeth, yr hon hefyd sydd yn hanfodol ddiatonaidd, a'r hon sydd yn dra gwahanol i'r anwastadrwydd, a'r anghyflawnrwydd graddfa a welir yng ngherddoriaeth genhedlaethol Ysgotaidd a Gwyddelig." Credai fod y fath beth yn bod a Cherddoriaeth Gymreig yn y presennol, ac i fod yn y dyfodol, am fod y genedl yn gerddorol. Dyma'r ffynhonnell—anianawd y genedl—y daw yn ol ati wrth geisio cyfrif am y ffrwd:—
"Pe bae y cwestiwn 'paham y mae cerddoriaeth wedi cymeryd gafael mor gryf yn ein cenedl' yn cael ei ofyn, nid ydym yn sicr y gellid ei ateb yn hawdd ac i foddlonrwydd. Rhai a briodolent y ffaith i ffurf a natur ramantus y wlad—" ei glynoedd teg a'i bryniau ban;" eraill i'r anianawd, y ddawn gynhenid â pha un y doniwyd y Cymro gan Roddwr pob da; ac eraill â ant cyn belled a'i pharabliad unffurf ac agored, &c. Ond y mae y nodweddion hyn i'w canfod yn fwy neu lai amlwg yn yr Alban a'r Iwerddon, eu preswylwyr, a'u hieithoedd; ac er fod y gwledydd hyny wedi cynyrchu cerddorion galluog o bryd i bryd—wedi cynyrchu yn wir gyfansoddwyr uwch nag y mae Cymru wedi wneud hyd yn hyn—nid oes neb a fyntumia fod cerddoriaeth wedi ymgartrefu ymhlith pobl yr Iwerddon neu Ysgotland yn debig i'r fath raddau ag yn ein gwlad fechan ni.
"Y mae'n sicr fod Cymru wedi bod ar ei hennill drwy yr offerynau cerddorol a fabwysiadodd fel ei rhai cenedlaethol, yn bur foreu yn ei hanes—sef y delyn a'r crwth yn benaf; a'i gwrthodiad o'r bibgôd grâs ac ystwrllyd a dderbyniwyd i ffafr gan yr Ysgotyn a'r Gwyddel. Ond effeithio'n fwyaf ar natur a ffurf ein cerddoriaeth wnaeth hyny—ei gwneud yn felodaidd ac amrywiaethus, ac nid creu yr awyddfryd at gerddoriaeth ynddi ei hun; rhaid fod y duedd a'r gallu i ddewis yr offerynnau goreu a gwrthod y rhai israddol yno eisoes. Rhaid cymeryd y ffaith fel y mae o'n blaen sef fod y ddawn gerddorol yn meddiant y genedl, ac wedi ei hachlesu a'i hymgeleddu ganddi i raddau mwy neu lai am oesau ac hyd yr amser presennol."
Gwelsom uchod mai prif nodweddion ein halawon cenedlaethol yw "eu naturioldeb a'u melodedd," "a dyna hefyd deithi amlwg ein cerddoriaeth oreu yn bresennol yn ei hanfod." Ni chaniata mai "dash and go"—tân a mynd—yn ol barn cerddor Seisnig enwog, yw prif nodweddion ein cerddoriaeth genedlaethol: "rhaid fod ei gydnabyddiaeth â hi," meddai, "yn gyfyngedig i'n tonau milwrol, oherwydd yn ychwanegol at rai gyda' thân a mynd' y mae gennym lawer o engreifftiau gwych, o'r teimladol, bugeiliol, teuluaidd, serchiadol, &c."
Ar y llaw arall nid cerddoriaeth o nodwedd alarus ydyw:
"Hynodrwydd perthynol i'n hen gerddoriaeth gysegredig yw y ffaith ei bod ymron yn hollol, neu o leiaf gryn gyfran o honi, yn y cywair lleiaf, a phan yr awn trwy dudalen ar ol tudalen o'n hen Dônau ac Anthemau, o brin y cyfarfyddwn â dim ymron, ond rhyw gwynfan diddiwedd o amgylch ychydig nôdau o'r raddfa leiaf—rhywbeth nid annhebyg i'r 'hwyl' bregethwrol adnabyddus; effeithiol iawn mewn cerddoriaeth yn gystal ag mewn pregethwriaeth, pan yn apropos a diragrith, ond nid pan yn cael ei throtian allan er mwyn arddangosiad, mewn tymer ac allan o dymer. Ystyria rhai fod уг ansawdd alarus yma yn nodwedd a berthyn i gerddoriaeth Gymreig yn gyffredinol, ond yn sicr nid ydyw felly, ac os archwilir ein halawon cenedlaethol, ceir fod ein cyn-deidiau yn llawer mwy tueddol yn eu cerdd—wead i'r cywair mwyaf gwrol a happus, nag i'r lleiaf prudd a chwynfanus. Eraill a dybiant ei fod i'w briodoli i'r ffaith ein bod yn genedl orchfygedig, ' yn griddfan dan iau galed y Saeson,' yng ngeiriau Ieuan Brydydd Hir; on yr ydym wedi bod yn gwneud y griddfan' hyr er's 600 mlynedd a rhagor, ac eto yn ystod yr amser hwnw yr ydys wedi cynyrchu peth o'r gerddoriaeth fwyaf bywiog a fedd y byd! Ymddengys i mi nad yw y neillduoldeb hwn ond un o dyfiad cymhariaethol ddiweddar, i'w briodoli efallai i'r Buritaniaeth eithafol a gymerodd y fath afael ar y bobl ar adeg neillduol, a'r hon pa mor ddaionus bynag a allai fod mewn ystyr grefyddol, nas gallai lai nag effeithio andwyol ar y gelfyddyd gerddorol, a'r hon sydd ryddfryd ledan ei breichiau hyd yn oed yn y mater o weiriau a moddau."
yn
Ymfalchiai hefyd yn y ffaith fod cerddoriaeth ei wlad yn graddol ymgyfoethogi:
"Yn ychwanegol at yr alawon cenedlaethol hyn, yr ydym yn meddu nifer luosog a chynyddol o alawon neu ganeuon diweddar, ac yn eu mysg lawer nac ydynt yn annheilwng o'u cymharu â chynyrchion goreu gwledydd eraill. Hefyd ddarnau cydrannol megis dwyodau, teirodau, a phedrodau; ac yn neillduol ganigau a rhanganau. Yn y ddwy ffurf olaf y mae cerddoriaeth Gymreig wedi ymgyfoethogi i raddau eithriadol yn y blynyddau diweddaf, ac yn y ganig nid yw ond ail i Loegr ei hun i'r hon y perthyn y ffurf yn arbenigol. Mewn gweithiau eangach fel y gantawd, yr operetta, a'r opera, ond y gantawd yn bennaf, y mae ein hystor yn addawol o leiaf. Nid yw ein cyflenwad o gerddoriaeth i offerynau yn unig mor helaeth, ac y mae'n gynwysedig yn bennaf o drefniadau o'n hen alawon ac o rai darnau gwreiddiol i'r berdoneg a'r delyn.
Gyda golwg ar "Gerddor Newydd" y dyfodol, ymhawl yn ofnus:
"Y cwestiwn bellach yw, pa fath ddyn fydd y cerddor newydd hwn? Ai Cymro Cymreig fydd, yn ffyddlawn i deithi goreu ei genedl, ac yn awyddus i roddi llais i'w dyheuadau arbennig, aiynte rhywbeth nondescript na fydd na 'flesh, fowl, nor good red—herring'? A fydd iddo ymgolli mewn rhyw arddull dramoraidd—i hud-lewyna ar ol Wagner, neu Berlioz neu Dvorak, neu ynteu ymdoddi yn y Sais materol a chlaiar? Tuedd i fynd i anialdiroedd pellennig, ar ol asynod gwylltion a dieithr, sydd yn hytrach yn ganfyddadwy yn rhai o'n cyfansoddiadau diweddar, ond ai ni wna y cerddor newydd aros yn agosach gartref gyda phraidd ei fryniau ei hun?"
XX.
YR EISTEDDFOD.
DAETH Emlyn y tu fewn i gylch swyn yr Wyl Genedlaethol yn gynnar, ac arhosodd yno. Ni flinai ddweyd mai plentyn yr Eisteddfod ydoedd. Yr oedd yr anianawd genedlaethol yn gryf iawn ynddo, a hyn i raddau pell oedd yn cyfansoddi swyn yr Wyl iddo—cai'r anianawd hon anadlu ei hawyrgylch ei hun yno'n fwy na nemor un man arall.
Ond yn raddol yr addfedodd ei olygiadau ynghylch lle a swyddogaeth yr Eisteddfod, ac ni fydd ei Gofiant yn llawn heb inni daflu brasolwg ar y rhain—yn neilltuol ar eu perthynas â Chaniadaeth Genedlaethol. Ar esgynlawr yr Eisteddfod, ac yna yn ei feirniadaethau a'i ysgrifau, y deuai ef yn ei flynyddoedd olaf i gyffyrddiad â chaniadaeth fydol ei gydgenedl. Yr oedd ei pherffeithiad hi fel cyfrwng datblygiad y ganiadaeth hon yn ddiameu yn un o brif fuddiannau cyfnod olaf ei fywyd. Profir hyn gan ei gyfeiriadau cyson yn Y Cerddor.
Iddo ef yr oedd y fath beth yn bod a dyletswydd Eisteddfodol:
"Y mae'r Eisteddfod wedi ei throsglwyddo i ni fel sefydliad, gan ein blaenafiaid; a'n dyledswydd ninnau yw bod yn ffyddlon i'r ymddiriedaeth drwy ei chadw yn ei phurdeb cynhenid, a'i throsglwyddo felly, heb un ystaen ar ei chymeriad i'r rhai ddeuant ar ein holau. Bradwr ei wlad yw'r enw atgas ar yr hwn a wertha ei genedl, neu na wna yr oll fydd o fewn ei allu i'w hamddiffyn, ac a ymochra o du ei hymosodwyr; a drwg-weithredwr yng ngolwg y gyfraith yw yr ymddiriedolwr sydd yn euog o gamwri o barth i'r hyn a ddodwyd dan ei ofal. A ydym ni yn y dyddiau hyn yn rhydd yn y cysylltiad hwn mewn perthynas â'r Eisteddfod? Y mae arnom ofn nas gallwn bob amser roddi atebiad cadarnhaol i'r cwestiwn.
"Hwyrach y myntumir gan rai ein bod yn cymeryd tir rhy uchel yn hyn o fater; ein bod yn edrych ar yr Eisteddfod mewn dull rhy gaeth a cheidwadol. Efallai hynny, a rhaid i ni gyfaddef mai byr yw ein hamynedd erioed wrth y rhai a wnant yr Eisteddfod fel math o ffair; os nad ffair ffyliaid, ffair i ymwageddu a chael jolly fun ynddi. Ar yr ochr arall, yr ydym bron mor wrthwynebol pan wneir ymgais i'w gwneyd yn fath o gwrdd gweddi, neu bregethu, gan ddwyn pethau y cysegr i mewn i'w gweithrediadau. Y mae iddynt hwy eu lle a'u gwaith priodol, ac ystyriwn eu bod yn llawer rhy santaidd i'w defnyddio i unrhyw bwrpas arall. Honnwn y dylai yr Eisteddfod fod yr hyn fwriadwyd, sef, yn fyr ac yn syml, sefydliad diwylliadol—mewn llenyddiaeth, barddoniaeth, celfyddyd, a chân; dim mwy, a dim llai. Bid siwr, nid ydym mor gul-feddwl a digynyddol a honni nad yw i ymddatblygu, ac y rhaid iddi aros am byth yn yr un man; ond nid yr un peth yw dadblygiad â gŵyrdroad neu iselhad."
Wrth amddiffyn yr Eisteddfod, hoffa gyfeirio at ei ffrwythau. Er enghraifft:
"Tua chanol y ganrif bresennol yr ydym yn dyfod i gyffyrddiad agos a'r hyn a ystyriaf y prif allu yn hanes ein datblygiad cerddorol—yr Eisteddfod. . . .Nis gall unrhyw fesur o fychanu wneud ymaith a'r ffaith ei bod yn y deugain mlynedd diweddaf (1850—1890) wedi bod yn famaeth i gerddoriaeth yng Nghymru, ac nad oes nemawr i gyfansoddwr, canwr, neu offerynwr Cymreig o bwys nad yw yn ddyledus iddi am ei ddyrchafiad cyntaf yn y gelfyddyd."
Nid hawdd cael gwell amddiffyniad i gystadleuaeth na hyn:—
"Cwynir yn fynych y dyddiau presennol fod gormod o arholi, a gormod o redeg ar ol urddau a graddau yn ein plith, mewn cysylltiad ag addysg gyffredinol yn gystal a cherddoriaeth; ac yn wir, rhaid addef fod golwg chwerthingar ar aml i baragraff newyddiadurol, rhwng y teitlau a'r rhesi o briflythrennau a addurnant eu perchenogion trwmlwythog. Os mai enill yr hawl i wisgo y mân deganau a'r ffriliau yma oedd amcan pennaf yr arholiadau a basiwyd a'r ysgoloriaethau a enillwyd, yn hytrach na chynyrchu dynion deallgar a gwybodus, meddiannol ar feddwl a chymeriad uwchraddol, yna o brin y gellid honni fod y dybenion uchaf wedi eu cyrhaedd. Ac yn gyffelyb gyda chystadleuaeth yr Eisteddfod. Fel moddion i ddangos ei safle gymharol i gystadleuydd, a'i wneud i sylweddoli sefyllfa wirioneddol pethau y tu allan i'w gylch bychan ei hun, o leiaf, nis gall cystadleuaeth lai na bod yn ddaionus ac addysgol cyn belled ag yr â, h.y., a chymeryd yn ganiataol, bid siwr, fod y sawl a ânt trwy y prawf yn feddiannol ar y peth hanfodol hwnnw a elwir synwyr cyffredin. Ond fel ag yr awgrymwyd uchod, os nad yw y cystadleuydd, pa un ai cânwr, chwareuwr, awdwr, neu gôr a fydd, yn teimlo unrhyw gymhelliad uwch na'r awydd i ennill gwobr a chlod, a goruchafiaeth ar arall, yna y mae'r Eisteddfod yn cael ei chamddefnyddio yn resynus." Ond dyma fel y condemnia bla gwibed y gelain (parasites) ynglŷn â'r ŵyl—
"O'r cyfryw y mae yr arweinyddion a'r corau a dyrrant yn llu i gystadlu, os mai hen ddarn tra adnabyddus er's blynyddau fydd yn destun cystadleuol, ond a gadwant yn ddigon pell os mai rhywbeth newydd fydd—nid yw diwydrwydd nac ymgais y corau hyn, mwy na gallu a thalent eu harweinwyr, yn ddigon i'w harwain yn uwch na'r llwybrau ydynt yn gochion eisoes gan draed y rhai a'u gwnaethant yn hen gynefin flynyddau lawer yn ol. Dyma'r sefyllfa a achosodd un o'r beirniaid Eisteddfod y Fenni, ddydd Llun y Pasc, i ddweud wrth gyfeirio at y nifer gymharol fechan o gorau (tri) oeddynt yn cystadlu am y brif wobr, eu bod trwy eu datganiad rhagorol o ddarnau da, ond anystrydebol, wedi gwneud llawer pwysicach gwaith dros Gymru a cherddoriaeth Gymreig, na phe bae tri-deg o gorau yn canu darnau oeddynt wedi eu canu i farwolaeth eisoes.' O'r cyfryw ddosbarth dynwaredol hefyd y mae unawdwyr y champion solo' neu yr herwobr,' pa rai, gyda'r pwyllgorau digydwybod—serch eu phylacterau llydain yn fynych—ydynt yn eu porthi, a roddant ddyrnodau trymion rhyngddynt i gerddoriaeth eu gwlad enedigol. Cyfarfyddir â'r crwydriaid hyn ar eu 'hapus heldir' yn eu gwahanol feusdiroedd, De, Gwynedd a Chanolbarth; a phan esgynnant y llwyfan, prin angenrheidiol yw gofyn enw y gân, oherwydd bychan i'w ryfeddu yw stoc y cyfeillion yma—rhyw un neu ddwy o ganeuon ar y goreu, ar y rai a ystyrir yn 'sure shot,' ac a drotienir allan ar bob amgylchiad. Mae'n ddrwg gennym am amryw yn y dosbarth hwn. Buont yn ganwyr da, ac yn addaw tyfu a datblygu yn uchel yn y gelfyddyd. Ond aeth yr ysfa gystadleuol â'u bryd, ymwerthasant i'r fusnes o gystadlu, ac yn awr nis gallent pe y mynnent wneud dim yn well na bod yn hafog i'r gwaith."
Yn ei ysgrifau y mae ei ymdrech yn gyson a di-ildio yn erbyn y rhai hyn, a'i apêl agos mor gyson at bwyllgorau i wneuthur y fath gamddefnydd o'r Eisteddfod yn amhosibl, drwy ddewis testunau newydd, ac felly ehangu cylch yn gystal â datblygu gallu Caniadaeth Gymreig.
Yr oedd ei sêl dros gynnydd a datblygiad Cerddoriaeth yng Nghymru lawn cymaint a'i sêl dros Gerddoriaeth Gymreig. Yn wir, ymddengys mai dwy ochr yr un peth oeddynt yn ei feddwl. Ef fyddai'r olaf i geisio cau allan gerddoriaeth gwledydd eraill: ni cheisiodd ac ni phleidiodd erioed dorri cwrs hollol wahanredol i'r Awen Gymreig. Er na wyddom fod ganddo olygiad athronyddol ar y cwestiwn, yr oedd ei safle'n hollol gyson â'r athroniaeth a ddeil fod y bywyd unigol cyfoethocaf yn dibynnu ar y byd cymdeithasol mwyaf sydd yn bosibl. Y mae y planhigyn byw yn gallu cymhathu elfennau o'i amgylchfyd, a'u gwneuthur yn is-wasanaethgar i ddatblygiad a chyfoethogiad ei fywyd ei hun, heb golli—ond datblygu a chyfoethogi—ei nodweddion gwahaniaethol drwy hynny. Ac os yw Cerddoriaeth Gymreig yn meddu ar nodweddion arbennig sydd yn werth eu cadw ni raid iddi ofni dod i gysylltiad â cherddoriaeth y byd, a gwneuthur y defnydd goreu ohoni—ei darostwng i'w gwasanaeth heb blygu'n wasaidd iddi.
Yr un modd gyda Chaniadaeth: yr oedd byth a hefyd yn annog, rhybuddio ac ysbardynu pwyllgorau a chystadleuwyr i fwy o ehangder. Cymer fantais hyd yn oed ar lwyddiant y corau Seisnig ac Eistedd—fodau'r Saeson i wneuthur hyn:
"Bu rhai o'n beirniaid yn cyhoeddi rhybuddion am flynyddau, ac yn dweyd wrth bobl mai nid curo ar y lleisiau, heb nemawr os dim disgyblaeth a chyfarwyddyd, oedd canu; ac mai nid rhygan ar yr un darnau yn dragyfyth, heb ymgydnabyddu a gwahanol weithiau pob arddull a chyfnod oedd y llwybr arweiniai i wir gynnydd."
Yr hyn sydd i'w ddysgu oddiwrth Eisteddfodau'r Saeson yw hyn:
Yn gyntaf, ac yn bennaf peth, nid yw maint y wobr ond mater hollol ail-raddol. Yna, nid ydynt yn cyfyngu eu testynau i Ysgol neillduol o'r prif feistri, na gweithiau neillduol o'r eiddynt, megis y 'Messiah,' Elijah,' &c.; ac i ychydig anthemau, canigau, neu ranganau mwy neu lai arwynebol, a mwy neu lai ystrydebol, a hen, hen adnabyddus. Ond ant am eu dewis i fysg cerddoriaeth hen a diweddar, Prydeinig a thramor, pa le bynnag y ceir mater a fydd o'r safon a'r teithi a gyfarfyddant a'u gofynion. Telir sylw arbennig i gerddoriaeth offerynnol, unawdol a cherddorfaol. . . . Ac hynod iawn! y maent mor ddysyml a hen ffasiwn ag i ystyried nas gellir disgwyl neb i ddarllen yn briodol heb iddo ddysgu ei lythyrennau yn gyntaf, ac felly, nid ydynt yn esgeuluso dodi testynau ar ddarlleniadaeth gerddorol ddifyfyr yn eu rhagleni." Y mae yn y dyfyniad hwn gyfeiriad at bwynt arall yr hoffai'i bwysleisio, sef trylwyredd, a'r ffordd ato— astudiaeth. Cwyna ef a'i gyd—olygydd yn aml am ein cantorion:
"Y maent yn barod i ganu faint fyd a fynnir; ond beth am y deall? Y mae naw o bob deg o'r cantorion yn lleisio'n anghywir; nid yw hanner ein harweinyddion yn gwybod cymaint ag i guro'r amser yn briodol, nac i gywiro gwallau amrywiol eu corau; ac nid yw nifer o'n cyfansoddwyr 'trwyddedig' hyd yn nod, yn medru ysgrifennu cynghanedd syml yn ddifai."
Geilw sylw'n aml hefyd at y ffaith fod mewn Cerddoriaeth ochr gyffredinol (universal) sydd yn fwy na chwaeth, nac arddull, na safon:
"Nid mater o chwaeth, nac arddull, na safon ydyw, ond o ofynion sylfaenol a hanfodol y gelfyddyd, am y rhai y mae holl gerddorion yr holl fyd gwareiddiedig yn rhwym o fod yn unfryd unfarn—mor unfryd unfarn ag yw mesuronwyr parth celfyddyd rhif a mesur. Rhaid i'n harweinwyr fod yn gerddorion—nid yn beiriannau i chwifio ffon, &c., o flaen y côr, a dim ond hynny; a rhaid i'n cantorion ddysgu yn gyntaf peth, pa sut i gynhyrchu tôn bur, gyfoethog, a soniarus; mai ansawdd (quality), nid maint sain a benderfyna ei gwerth; mai nid pethau cyfystyr yw 'piano' a mynd yn ddim; ac mai nid ystyr 'forte' yw rhuo a gwaeddi 'nerth braich ac ysgwydd.' Rhaid iddynt hefyd gofio nad yw'r gwir gorawdydd byth yn colli arno ei hun, byth yn dihysbyddu ei nerth, a'i fod bob amser dan lywodraeth lwyraf yr arweinydd; ac yn olaf, rhaid iddynt fod yn foddlon i fesur helaeth o hunan-aberth drwy ffyddlondeb cyson, difwlch, a diflino, nid er mwyn dybenion cystadleuol yn unig nac yn bennaf, ond er mwyn amcanion uchaf cerddoriaeth ei hun."
Dwg y dyfyniad yna ni at fater arall sydd wedi bod yn destun llawer o siarad a dadlu, sef y gwahaniaeth rhwng canu pur ac amhur, a rhwng Corau Seisnig a rhai Cymreig. Ynglŷn â chystadleuaeth Casnewydd yn 1897, dyfynna gyda chymeradwyaeth yr hyn a ddywed y Musical Herald: "It is not a question of loud singing as against fine singing, but of impure as against pure singing; and not a question of enthusiasm v. Celtic fire,' but of exaggeration and lack of self-control": geiriau Mr. Joseph Bennett, "Noise, forced emphasis, double underscoring of every direction, singing in large capitals and italics will not satisfy any true musicians." Gwir fod y naill yn naturiol yn fwy grymus a brwdfrydig, a'r llall yn fwy meddyliol a chelfyddol; ond y delfryd yw cyfuno'r ddau gwneuthur teimlad a brwdfrydedd yn iswasanaethgar i fynegiant celfyddol.
Ni thalai warogaeth i'r "Orsedd"; yn wir, yr oedd yn wrthryfelwr a gwatwarwr agored. Efallai ei fod yn ei chymryd yn ormod o ddifri, ond y mae'n amlwg mai'r hyn a'i poenai oedd ei choegni. Yr ydym yn ddyledus i gyfaill cerddgar[11] am yr hanesyn a ganlyn ynglŷn â chyhoeddi'r Eisteddfod ym Mangor yn 1901:
"Yr oedd y beirdd yno'n llu yn eu gwisgoedd gorsedd; ond nid oedd rhyw arddangosiadau felly'n boddio Emlyn—cashâi rodres â châs perffaith. Digwyddai fod yn beirniadu yn y cylch ar y pryd, ac yr oedd yn bresennol wedi i'r orymdaith ddod yn ol, ac fe'i perswadiwyd i fynd i Gylch yr Orsedd; ac wedi llawer o gymell, i siarad oddiar y Maen Llog. Caed araith ragorol ganddo; ond tua'r diwedd, dywedodd, Cafwyd gorymdaith drefnus, ac yr oedd llawer o bobl ar hyd ochrau'r heolydd, a miloedd o blant y mae plant yn hoffi gweld turn-out circus."
Eto, ynglŷn â'r bwriad o ddefnyddio'i Lawlyfr Cynghanedd yn yr arholiadau, ysgrifenna at yr Athro Jenkins, gan amgau llythyr sydd a'i "draed brain" yn curo hieroglyphics yr Athro,—i ofyn ei farn, ai ni fyddai, drwy gydsynio â'r cais, yn gallu gwneuthur rhyw ddaioni, petae ond ychydig, drwy helpu i'w chodi i lefel uwch, ac felly fod o wasanaeth i gerddoriaeth? Dengys hyn ei fod o'r farn nad oedd yr Orsedd ond ymddangosiad, ac nad oedd ei harholiadau yn golygu nemor o ddim.
Er ei fod yn meddwl yn uchel am lawer o'r beirdd yn unigol, ni chredai fod eu seremoniau—mwy na'u gwisgoedd—nac yn addurnol nac yn wasanaethgar, ond yn hytrach yn rhwystr i wir waith yr Eisteddfod. Rhoddir yr hanesyn a ganlyn gan Mr. Jenkins yn ei ddarlith:
"Yn Eisteddfod Wrecsam, cyn y gystadleuaeth olaf, yr oedd Emlyn wedi hen flino, a chyn i'r corau ddod ymlaen, cysgodd rhwng Mr. Caldicott a minnau, a chadd lonydd am hanner awr; a phan oedd y côr yn barod, rhoddais nudge iddo, a galwais ei sylw at y ffaith fod y beirdd ar y ffordd ar y llwyfan. 'Are they there still,' meddai, 'Yes,' meddwn innau. Yna gwaeddodd 'I lawr a'r beirdd, ac ewch ymlaen a'r gystadleuaeth,' a gwaeddodd y gynulleidfa ar ei ol, a digri oedd eu gweld a'u 'plâts dimeiau,' ys dywedai, yn clirio o'r platform. Dyma y floedd fwyaf effeithiol a glywais mewn Eisteddfod erioed, ac awd ymlaen yn hwylus gyda'r gystadleuaeth gorawl i'r diwedd, ac yntau yn hynod o fresh ar ol cael ei gyntun a'i gynhyrfu gan y beirdd."
Er ei fod yn Gymro trwyadl, nid oedd yn ddyn llai am hynny, a dygai hyn ef i wrthdarawiad ambell i waith â phenboethiaid cul a waeddent "Cymraeg!" "Cymraeg!" pan nad oedd lle i Gymraeg—mewn beirniadaeth ar gorau Seisnig. Felly y bu yn Eisteddfod Rhyl, ac at ddigwyddiad felly y cyfeiria pan ddywed yn Y Cerddor:—
"Dywedwn eto, mai nid cwestiwn o Seisnigeiddio'r Eisteddfod yw, ond un o ddefnyddioldeb, o'r hyn sydd yn ymarferol, o gymhwyso ein hunain at sefyllfa sydd wedi cyfnewid yn unol â deddfau uwch na'n heiddo ni, ac o foneddigeiddrwydd a chwrteisrwydd at y Saeson a'r Cymry Seisnig hynny ydym yn wahodd i'n mysg, a'r rhai ydynt yn ein cynorthwyo â'u presenoldeb, eu talent, a'u harian. Nid oes lôwr yng Ngwent a Morgannwg, chwarelwr yn Meirion ac Arfon, na hwsmon yn Môn a Cheredigion, yr hwn a wahoddai Sais i'w dŷ, na actiai y gwr boneddig tuag ato yn y mater o iaith, cyn belled ag y gallai; a'r hyn yw y Cymro gartref, hynny yw efe hefyd yn y cyhoedd, ond cael chwareu tég."
Ond pan yn siarad Cymraeg, ceisiai roddi'r hen iaith yn ei phurdeb: ei gasbeth ynglŷn â hyn eto oedd coegni ac ymddangosiad.
"Hyd yn nod yn awr, nid â Young Wales i gyngerdd, ond i goncert, a phan ddaw yn ol, ac y gofynnir ei farn am y canu, yr oedd yn beautiful, a'r execution a'r expression yn splendid. Os ceisir ganddo roddi gwers i ddosbarth o blant, fe eilw sylw neillduol y class at y modulator, ac esbonia iddynt ddirgelion y major a'r minor scale, a'r pwysigrwydd a roddir i mental effect y gwahanol notes yn y system. Pan yn beirniadu, cyfeiria yn fynych at intonation gwallus y côr cyntaf, condemnia attack yr ail, a dywed fod y balance of parts a'r lights and shades yn y trydydd yn first rate. Nid diffyg darllen yn Young Wales yw yr achos o'r cymysgedd yna a'i gyffelyb o bosibl, eithr diffyg darllen i bwrpas da, gan dreulio yr hyn a ddarllenir, a'i wneyd yn eiddo, yn rhan o hono ef ei hun." "Yn ffodus," meddai, "mewn papur Cymraeg (ym Morgannwg) yr ymddangosodd y peth ysblennydd yma [Adolygiad Cerddorol]:
Agora gydag unawd yn C i soprano, neu, fe ddichon, yr oll o'r sopranos, o ryw 16eg o fesurau gyda chyfeiliant yn hollol yn y martiale style (sic). Yna ceir yr un melody yn y gytgan. Wedi'r gydgan hapus, ceir two period (sic) o 16eg o fesurau yr un yn amrywio ychydig.
Yn nesaf ceir relief march yn F., y subdominant key yn y legato style. Mae hwn yn relief mewn gwirionedd heblaw musical form o nodwedd dyner iawn, &c.'
A ymlaen i gondemnio un o'n "cywion colegawl" "faldorddian am grand symphonies y cread, ac orchestras y bydysawd."
"Yr ydym yn hawlio," meddai, "i'r Gymraeg yr un rhyddid ag a roddir i ieithoedd eraill, sef defnyddio gair o iaith arall pan na fydd ei gyfwerth neu ei gystal i'w gael yn y Gymraeg, fel y defnydd—ia'r Sais programme, oratorio, sonata, &c.; ond condemniwn, a pharhawn i gondemnio yr arferiad wrthun sydd yn ffynnu yn ein mysg, o lusgo i mewn blithdraphlith eiriau a brawddegau mewn iaith estronol, nad oes gysgod o esgus drostynt, gan fod yn yr hen iaith eisoes eu cystal, ac o bosibl eu gwell."
A gofynna:
"Pa angenrhaid sydd i ddefnyddio y fath eiriau a staff, clef, dot, sharp, flat, slur, &c.? Onid yw erwydd, allwedd, mannod, llonnod, lleddfnod, llithren, &c., yn llawn cystal geiriau, ac yn rhai dealledig gan y bobl?"
Byd bach iawn yw byd Eisteddfod, fel byd Pregethu Cymreig, i'r rhai sydd yn byw iddynt heb fynd trwyddynt, y naill i ehangder gwir Gelfyddyd a'r llall i ehangder Gwirionedd a Bywyd, a'r ddau i'r Cyffredinol (Universal) a'r Tragwyddol. Ceisiai ef, o leiaf, wneuthur yr Eisteddfod yn foddion, nid yn amcan.
Ei safle olaf yn 1890 mewn perthynas â'r Eisteddfod o'i chymharu â moddion eraill i ddatblygu Cerddoriaeth yng Nghymru, oedd hwn:
"O ran fy hun, fodd bynnag, tra yn parhau yn ddisigl yn fy ffydd Eisteddfodol, nid wyf yn edrych at y sefydliad hwnnw yn unig, nac yn bennaf—mewn ystyr uniongyrchol o leiaf—am ein cynnydd dyfodol mewn Cerddoriaeth; ond yn hytrach at berfformiadau o weithiau cyflawn gan ein cymdeithasau corawl a cherddorfaol. . . . a rhyw ddydd—rhyw ddydd!—yr wyf yn hyderu y bydd Coleg Cenedlaethol i Gerddoriaeth Gymreig, nid yr hyn ydyw yn awr yn freuddwyd, ond yn ffaith."
XXI.
Y BEIRNIAD.
MAE eisieu cyfuniad arbennig o alluoedd i wneuthur beirniad da; a galluoedd arbennig wedyn i wneuthur beirniad da ar ddatganu. Mewn erthygl o'i eiddo ym mywgraffiad Tanymarian—ymysg y galluoedd hyn—noda wybodaeth, a honno'n ymarferol; y gallu i weled pwynt darn; clust deneu; pen clir (ar y pryd); gallu i ffurfio barn bendant; ac yna y gallu i'w mynegi gydag awdurdod ac eglurder.
Mewn llythyr o'i eiddo at Mr. D. W. Lewis, geilw sylw at y ffaith fod cynheddfau meddyliol y gwir feirniad (wrth feirniadu) ar lawn waith:
"Yr wyf wedi cael deugain mlynedd o feirniadu erbyn hyn, ac wedi dod yn groendew er's peth amser. Nid yw yn debygol fod pedwar neu bump ohonom wedi mynd ar gyfeiliorn yn ein barn. Heblaw hynny, y mae yna wahaniaeth mawr rhwng barnu oddiallan—heb gerddoriaeth efallai—a barnu'n swyddogol, pan y mae eich holl alluoedd mewnol ar lawn waith."
Cawn yr un gyferbyniaeth yn yr hyn a ganlyn:—
"Ar y cyfan, tueddir ni i feddwl mai yr un sydd yn derbyn y mwynhad mwyaf oddiwrth wrando ar gerddoriaeth, a hyny gyda lleiaf o drafferth, yw y gŵr nad yw yn gwybod nemawr yn feirniadol am gydsain nac annghydsain, am ffurf na dosbarth, am lais nac offeryn, ond sydd yn eistedd trwy y perfformiad gan wrando ar unawd, a chytgan, overture, a symphoni, gyda llygaid cauedig, a synwyrau yn nofio mewn dedwyddwch, yn sirioli wrth gyweirnodau llon, ac yn pruddhau wrth rai lleddf, yn gwenu wrth draws-gyweiriadau—er na ŵyr paham—ac yna a â allan i'w waith fore trannoeth gyda llaw ddiysgog a wynebpryd siriol, i ail-fwynhau eto yn ei feddwl y pleser a dderbyniodd neithiwr, neu hwyrach i hymian neu chwibianu darnau o'r alawon fedr gofio, yn ei ffordd ei hun—ac un ddigon amherffaith lled debig, mewn ystyr gelfyddol, ond un ddigon boddhaol iddo ef serch hyny. Bid siwr, nid dyma'r mwynhad uchaf ag sydd yn ddirnadwy—y mwynhad hwnnw a syrthia i ran y cerddor diwylliedig, coeth ei chwaeth, teneu ei glust, effro ei feddwl, ac eang ei ddeall, i'r hwn y mae dirgelion pob cord, ansoddau pob offeryn, a nodweddion pob ffurf ac arddull wedi eu gwneyd yn hysbys; ond tra nas gellir rhifo y rhai hyn ond yn unigol, gellir cyfrif y lleill wrth eu canoedd a'u miloedd."
Ymddengys fod y galluoedd hyn, a'r gallu i'w defnyddio—i'w gosod ar "lawn waith "—ym meddiant Emlyn i raddau eithriadol.
"Ef," ebe Harry Evans, "heb os nac onibâi, oedd y beirniad cerdd mwyaf a gododd Cymru, ac yr oedd y reddf feirniadu ynddo i raddau helaeth anarferol. Ef oedd y beirniad medrusaf a gwrddais i. Yr oedd yn effro, yn sicr ei feddwl, ac yn gyflym i brisio gwerth perfformiad; ac fel beirniad ar gyfansoddi, 'd oedd mo'i hafal yn ein mysg." "Gallaf ddweyd gyda'r sicrwydd mwyaf," meddai Mr. Owen Jones, "mai ef oedd y beirniad medrusaf a gododd ein cenedl," a dyfynna ran o lythyr a gawsai'n ddiweddar oddiwrth Dr Macnaught, lle y dywed: "I had a great regard for Mr. Emlyn Evans. He was a penetrating critic, and had the command of an interesting literary style. He was such a well-read man."
"Yr oedd wedi ei eni yn critic," meddai Mr. Dd. Jenkins; " meddai lygad craff i weled, a chrynhôai ei sylwadau mewn geiriau clir a miniog yn y ddwy iaith. Pleser oedd cydfeirniadu ag ef ar gyfansoddiadau, ac anaml y byddem yn ymgynghori gwbl cyn anfon ein beirniadaethau, oherwydd byddai ein sylwadau yn sicr o gymeryd cwrs gwahanol, er cytuno am y goreu."
Ac ebe Dr. Protheroe:—
"Yn ystod y deugain mlynedd diweddaf bu Emlyn yn un o'r prif feirniaid. Yr oedd wedi ei eni'n critic-a chofier, ni ellir gwneud' beirniad mwy na rhyw gelfwr arall. Ac nid yn unig y mae yn rhaid iddo fod to the manner born, ond hefyd fod wedi ei drwytho yn y gwaith drwy ymarferiad a phrofiad mynych fel cystadleuydd, rhaid iddo fod wedi 'gweithio allan ei iachawdwriaeth' yn fynych drwy 'lawer o ofn a dychryn.' Fel rheol, nid oes neb hafal i'r Cymro fel beirniad eisteddfodol. Fe ŵyr yn dda beth yw cystadlu, ac edrycha ar unwaith am y pethau hanfodol hynny a wahaniaetha'r gwahanol gystadleuwyr. Cafodd Emlyn yrfa lwyddiannus fel cystadleuydd eisteddfodol o'r dydd yr enillodd wobr am dôn ym Mhen-y-bont-ar- Ogwy hyd Eisteddfod Genedlaethol Gwrecsam 1876, pryd y 'cliriodd y bwrdd,' ac y cipiodd yr holl wobrwyon a gynhygid am gyfansoddiadau lleisiol. Felly yr oedd wedi dysgu ei grefft drwy brofiad. Yr oedd cylch ei waith fel critic yn un eang, a chymerai i fewn feirniadu ar y cystadleuaethau ar lwyfan yr eisteddfod, beirniadu cynyrchion cyfansoddiadol, ac am flynyddoedd, ef oedd y prif feirniad ar y gwobrwyon a gynhygid gan Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu'n ddiwyd a ffyddlon fel adolygydd yn y cylchgronau cerddorol. Ni chredai mewn beirniadaethau hirwyntog ar lwyfan yr Eisteddfod, ond datganai farn mewn iaith glir, yn wastad i'r pwynt, a chyda digon o awdurdod tu cefn i'w ddyfarniadau. Nid un o'r beirniaid 'ffigyrol' mohono fo, gan y credai (ac yn gywir fel y barnaf fi) na ellir dwyn celfyddyd lawr i wyddor ffigyrol.
"Yr oedd ei farn yn gyflym a diwyro, a pharai aeddfedrwydd ei brofiad cerddorol fod beirniadu'n beth rhwydd iddo. Byddai dipyn yn llawdrwm weithiau ar rai cystadleuwyr hunanol, ond y rhai hynny a ddangosai dalent ac awydd am wrtaith, caent bob cymeradwyaeth ganddo a llawer o hyfforddiant yn eu llwybrau cerddorol. Ni chredai mewn gor-ganmoliaeth. Tuedd rhai beirniaid ydyw codi canwr neu gôr i'r fath safle o berffeithrwydd fel nad oes modd eu trechu. Y mae hyn yn gam â hwynt, ac yn rhy dueddol i fagu tô o gerddorion heb uchelgais i fynd ymlaen a chyrraedd nod uwch na chael gwobr mewn cystadleuaeth.
"Yr oedd gan Emlyn gyfoeth o iaith goeth wrth law, ac y mae hyn yn anghenraid i bob beirniad llwyddiannus. Y mae'n rhaid iddo fod yn abl i gyfleu ei resymau dros ei ddyfarniad—ni wna'r tro iddo fyn'd i ddyfalu. Gwelai Emlyn ragoriaeth cystadleuydd ar unwaith. Yr Eisteddfod Genedlaethol olaf y cymerodd ran gyhoeddus ynddi oedd un Caerfyrddin (1911) a hyfryd iawn i mi oedd yr anrhydedd o gydweithio ag ef yn yr ŵyl honno.
"Er pwysiced ei waith cyhoeddus, yr oedd ei lafur fel adolygydd yr un mor bwysig, os nad yn fwy felly. Ymhyfrydai yn y gwaith hwnnw, ac nid oes ond y dyfodol a ddengys y dylanwad mawr oedd ganddo ar ddatblygiad Cerddoriaeth Gymreig drwy ei ysgrifau a'i adolygiadau yn Y Cerddor, ac yn ei golofn wythnosol yn y South Wales Weekly News. Nodweddid ei adolygiadau gan ysbryd teg, diwenwyn; gwybodaeth drylwyr o'r hyn a adolygai; llygad i ganfod rhagoriaethau; a chydwybod a feiddiai ddweyd y gwir. Edrychid ymlaen gan bob cyfansoddwr at yr hyn a ddywedai Emlyn am ei weithiau, neu fel yr atgoffai ef yn chwareus, am rywun wedi cyfeirio at ei gyfansoddiadau a anfonid i'r adolygydd, ei weithfeydd.' Yr oedd aml i adolygiad o eiddo Emlyn yn drysor llenyddol, gan goethter yr iaith a dillyndra'r brawddegau."
Y mae Dr. Protheroe, yn y dyfyniad uchod, yn cyffwrdd â phwynt y cysylltai Emlyn bwys mawr ag ef, sef yr angen am brofiad yn y beirniad:
"I gyfarfod â'r alwad am feirniaid i'r gwahano gyfarfodydd hyn fe ddylai fod rhyw foddion mewn bod er partoi dynion cymwys at waith mor bwysig. Ca barnwyr ein llysoedd barn y ddysgeidiaeth oreu pan yn blant, prentisiaeth faith er meistroli ein cyfreithiau, ac yna flynyddoedd o ymarferiad ychwanegol mewn achosion cyfreithiol cyn y codir hwy i'r sedd farnol; ond i eistedd yng nghadair y barnwr Eisteddfodol rhoddir yn fynych berson anwybodus a difoes, ac weithiau bersonau o gymeriadau brycheulyd, ac o gydwybodau rhidyllog iawn. Yn lle dysgeidiaeth, moesgarwch, gonestrwydd, ac unplygrwydd, daw y rhai hyn a bombastiaeth haerllugrwydd, ac ar brydiau flug-ostyngeiddrwydd i chware eu cardiau."
"Os cyhoedda dyn ddarnau, a'u galw wrth ei enw ei hun, gall feirniadu; os arweinia gôr, gall feirniadu; os datgana gân, gall feirniadu; ac y mae'n ofidus meddwl am y camwri a wneir i gerddorion ieuainc ein gwlad gan y rhain—dynion nad ydynt yn alluog i roddi i lawr hanner dwsin o gordiau cywir wrth ei gilydd yn barod i ymgymryd â beirniadu Tônau, Anthemau, Oratoriau pe bâi cyfle, gyda'r nonchalance a'r difaterwch mwyaf!"
Ond y mae'n rhaid hefyd wrth burdeb moesol i fod yn feirniad teilwng. Os oes yna rwystrau yn ffordd y cyfansoddwr cerddorol i fod yn ffyddlon i'w gelfyddyd yn wyneb "gwên a gwg" y byd, y mae, efallai, yn fwy anodd fyth i'r beirniad eisteddfodol fod yn ffyddlon—o leiaf, y mae i wên a gwg y byd cystadleuol ffurfiau neilltuol. Un ffurf ar ei "wên" yw gyrru at feirniaid o flaen Eisteddfod y bwriadant gystadlu ynddi i ddweyd fod yn eu bryd ddatganu rhai o'u gweithiau, &c., y pryd a'r pryd, dan amodau neilltuol ynghylch y rhai y proffesant ymholi. Mynegant eu "gwg " drwy fygythion ar wahanol fathau, drwy greu cynnwrf ar ol y dyfarniad, drwy foycotio'r beirniad yn ol llaw, a gwneuthur ei absenoldeb yn amod cystadlu ar eu rhan hwy. Y mae pwyllgorau ariangar yn chware i ddwylaw y bobl hyn, ac i ddwylaw dirywiad cerddorol ac anonestrwydd cystadleuol yr un pryd, pan geisiant eu sicrhau fel cystadleuwyr drwy ohebiaeth. Tystiolaeth pawb a adwaenai wrthrych y Cofiant hwn yw na hudwyd ef gan wên, ac na yrrwyd mohono gan wg, oddiar lwybr uniondeb beirniadol, a ffyddlondeb i'r gân a garai ac a wasanaethai.
Mewn llythyr at Mr. D. W. Lewis yn 1896 ysgrifenna—
"Cicio o hyd y mae gwyr y South am eu gorthrechiad gan y Bualltwyr yn Llandudno. Y tro hwn Jenkins sydd o dan y wialen—fel pe gallai, neu pe mynnai, un dyn orthrechu ar farn tri neu bedwar o feirniaid cyfuwch ag yntau! Wel, pob un yn ei dro, y mae fy nhro innau wedi bod, a hwyrach y daw eto, ond, OND! Cyfiawnder a saif byth, er gwaethaf hyd yn oed mân arweinyddion prin eu gwybodaeth wirioneddol, ond mawr eu bost a'u hystwr."
Ac yn Ebrill 1899:
"Cais ddoniol arall hefyd a dderbyniais o B
: fy nhelerau am ddau ddiwrnod fel prif feirniad,' a nodi rhai o'm darnau anwyl fy hun. Cyn Eisteddfod ddiweddaf Llundain 'roedd hynny. Nid cor B enillodd yno, ac nid tebig y clywaf air ymhellach am hynny oddiwrth y gwir anrhydeddus frodyr."Math arall ar amhurdeb beirniadol yw canmol yr annheilwng. Nid yw hyn, bid siŵr, yn uniongyrchol yn arwain i annhegwch ariannol, na gwyro barn yn ffafr un côr neu gystadleuydd rhagor un arall; ond y mae'n amhurdeb cerddorol, yn anffyddlondeb i safon. rhagoroldeb, ac yn cymysgu'r uchel a'r isel.
Yr oedd Emlyn lawn mor wrthwynebol i'r gwibed y gelain (parasites) beirniadol ag ydoedd i'r rhai cystadleuol:—
"Chwilennant allan bob manylion ynglyn a phwyllgorau, cynhygiant wobr fel math o abwydyn, ac os gofynnir am eu telerau bydd yn bleser o'r mwyaf ganddynt ddod o eithafion y ddaear am bris hynod o resymol i wasanaethu pwyllgor Eisteddfod mor odidog. Yn yr Eisteddfod y maent yn sebon i gyd—ni fu erioed y fath wyl, y fath bwyllgor, y fath ganu.
"Y mae y gweilch hyn yn llawer rhy ffals i anturio ar wir faes y Beirniad, beirniadu, gan y gwyddant yn dda mai trwy fanylu y datguddiant eu hanwybodaeth, a thrwy nodi beiau y peryglant eu siawns am boblogrwydd yn y dyfodol gyda chantorion a phwyllgorau. . . Canmolir y cystadleuwyr oll yn ddiwahaniaeth—dim beiau o gwbl os nad oedd yr E flat yng nghor y trydydd ryw fymryn yn rhy sharp, &c., a bod y cor goreu wedi gwneud gorchestwaith, a'r unig ofid yw nad oedd gwobr i bawb."
Yr oedd yn amhosibl iddo ef, ar dir gonestrwydd moesol, purdeb cerddorol a ffyddlondeb i'r swydd feirniadol, fynd i'r cyfeiriad hwn; i'r gwrthwyneb, y gŵyn yn ei erbyn oedd ei fod yn mynd yn rhy bell i'r cyfeiriad arall. Y mae yna gryn lawer o gymysgedd meddyliol yn codi o'r ffaith na fabwysiedir yr un safbwynt ynglŷn â'r ffordd o draddodi beirniadaeth. Tra y cyhuddir ef gan ei farnwyr o ormod llymder, os nad chwerwder, amddiffynnir ef gan ei gyfeillion ar dir ei afiechyd—neuralgia, gwendid gïau, &c. I'w farnu'n deg, y mae o bwys i ni gofio ei fod dal mai "maes y beirniad yw beirniadu." Credai mewn dweyd y gwir plaen er mwyn y cystadleuwyr. Mewn llythyr at Mr. Tom Price, Merthyr, ynglŷn â beirniadaeth Dr. Parry ar ei gantawd, ysgrifenna:
"Darllenais feirniadaeth Dr. Parry, ond braidd yn frysiog, ac nid wyf yn awr yn gallu galw i gof ei wahanol bwyntiau; yr oedd braidd yn llym, mae'n wir, ond fe wna beirniadaeth o'r fath lawer mwy o les i chwi nac wmbredd o wâg-eiriau. Y mae hefyd wedi mynd drwy'ch copi yn fanwl, ac nid pob beirniad sydd yn gwneuthur hynny y dyddiau hyn." Credai hefyd mewn defnyddio'r ffrewyll ar brydiau; ond, at ei gilydd, nid pan yn afiach y gwnai hyn, ond pan yn weddol iach. Dengys y ddau nodyn a ganlyn at Mr. D. Jenkins y teimlai fod eisieu nerth anianyddol yn gystal â moesol y tu cefn i'r ewyllys i wneuthur hyn:—
"Fe gaiff pobl Cerigydruidion glywed rhai gwirioneddau ynghylch yr her-gwpanau, os bydd fy iechyd yn weddol, ac os caniata amgylchiadau—amser, &c."
Ac yn ddiweddarach:
"Mewn perthynas a'r her-wobr a'r cwpanau, mi dd'wedais y gwir plaen wrth y pwyllgor a'r cystadleuwyr—wrth y blaenaf mai hel pres oeddynt, ac wrth yr olaf mai porthi diogi oeddynt, aed y gelf gerddorol, ac anrhydedd y wlad, a safon yr Eisteddfod lle y mynnont!"
Brydiau eraill fe'i cynhyrfid yn fewnol gan bwerau moesol a cherddorol gwahanol iawn yn eu tarddell a'u mynegiant i neuralgia. Mewn Eisteddfod yn Ffestiniog un dydd Nadolig, caffai drafferth i sefyll i fyny i draddodi ei feirniadaeth gan ei lescedd iechyd; ac ar ol cystadleuaeth y corau plant, gofynnodd am gael nodi'r goreu'n unig i'r ysgrifennydd; ond ni fynnai rhywrai yn y dorf mo hynny, a gwaeddent am feirniadaeth. Ceisiodd yr arweinydd eu darbwyllo, ond yn ofer. Erbyn hyn yr oedd Emlyn wedi cael ei anadl, a thraddododd ei feirniadaeth: "Ddwy flynedd yn ol," meddai, "yr oeddych yn dathlu canmlwyddiant yr Ysgol Sul drwy Gymru; ond heno dyma Gôr yr Ysgol Sul wedi bod yn canu i gi 'Bobbi Bingo'—you have gone to the dogs." Cafwyd hwyl fawr, ac ni raid dweyd na ofynnwyd am ragor o feirniadaeth y noson honno. Eto, i ddeall y cwbl, y mae'n rhaid inni gofio'r hyn a ddywed ef ar y mater: "Ar adeg arall, merwinwyd ein clustiau, a digiwyd ein hysbryd, gan gôr o blant Ysgol Sul yn canu am Bobbi Bingo —plant y Beiblau yn canu am gi! Ond nid ar y plant, druain, yr oedd y bai, ond ar y bwyllgor Undeb Ysgolion Sul yn dewis y darn." Dengys hyn nad oblegid ei wendid y siaradai mor llym; oherwydd ei wendid ceisiai ymesgusodi, gan nad oedd yn teimlo'n ddigon cryf i weinyddu'r cerydd a deilyngai'r amgylchiad; yr oedd llymder ei eiriau yn hytrach yn fynegiad i'r boen foesol a cherddorol a deimlai.
Yr oedd rhai pethau—triciau gwael, coegni, haerllugrwydd, anonestrwydd, yn ei wneuthur yn oddaith, a deuai'r goddaith hwnnw allan fel lava yn ei eiriau. Wrth ei farnu, dylem gofio'r gwahaniaeth rhwng eiddigedd moesol a thymer ddrwg. Dywedai'r Athro Edward Caird unwaith fod un mewn tymer ddrwg yn llai na dyn, ond fod hwnnw nad yw byth yn cael ei gynhyrfu gan eiddigedd moesol yn llai na dyn hefyd. Cynrychiolant ddau begwn yn ein profiad—gorthrwm nwyd a llywodraeth delfryd.
Yr hyn a ddymunwn bwysleisio yw nad ei afiechyd oedd tarddell ei ffrwydriadau fel rheol; yr hyn a ellir ddweyd am ei wendid yw ei fod yn ei wneuthur yn llai galluog i ddal gwrthdarawiadau rhwng ei ddelfryd a'r amgylchoedd heb ddangos hynny mewn ffordd mor ffrwydrol. Credwn y buasai ei feirniadaethau yn gryfach a mwy effeithiol pe'n llai brathog, heb fynd o gwbl, i eithafion cyferbyniol y "gwlanenni cerddorol sydd yn beirniadu ac arwain ein cymanfaoedd canu ac yn gwenhieithio i'r pwyllgorau a'r cystadleuwyr."
Ond gwerthfawrogid ei ddull yn gystal a'i fedr gan luoedd oedd yn ei ddeall, yn arbennig yn y Gogledd. Yr oedd ganddo yntau syniad llawer uwch am y Gogleddwr na'r Deheuwr Eisteddfodol, fel y dengys ei eiriau yn y Musical Herald:
"Nid wyf am gelu fy marn am ddiffygion yr Eisteddfod—Y mae yr un darnau yn cael eu dewis yn llawer rhy aml—diolch i ormes y corau ac anghenion ariannol y pwyllgorau. Dewisir y beirniaid, hefyd, yn rhy aml, nid oherwydd eu gallu, eu gwroldeb, a'u gonestrwydd, ond am eu bod yn ffafr y cystadleuwyr ar y pryd—ac, efallai i fesur ar yr un level mewn gwybodaeth gerddorol. Y mae hyn eto, yn gymhwysiadol at y De yn fwy na'r Gogledd, ac yn mynd ymhell i esbonio pam y mae'r De wedi ei orchfygu mor aml yn ddiweddar gan y Gogledd. Am bob tro yr wyf wedi gweithredu fel beirniad yn y De (er mai Deheuwr ydwyf) yr ydwyf wedi gweithredu ugain o weithiau yn y Gogledd. Y mae'n bleser beirniadu y bobl hyn—chwarelwyr lawer ohonynt, rhai cryf o feddwl, yn siarad yn blaen eu hunain, ac yn hoffi siarad cyffelyb gan eu beirniaid. Rhoddant hefyd fwy o le i wyddor, a llenyddiaeth yn gyffredinol, nac a wneir yn ymladdfeydd cerddorol y De. Eto y mae y Deheuwr yn anifail lleisiol gwych, ac yn abl i wneud pethau mawrion, tae e' ddim ond ymostwng i ddisgyblu ei hunan, a chymeryd ei ddisgyblu."
Y mae'r hanesion a ganlyn, agymerir o ysgrif a darlith Mr. Jenkins arno, yn cynrychioli llawer o bethau cyffelyb a ddywedai amdano fel beirniad:—
"Fu erioed ofn dyn arno, ac aml i dro wrth feirniadu, pan yr oedd teimladau gwrthwynebol wedi codi yn ei erbyn, medrai wynebu yr oll yn ddigryn. Unwaith, pan yn beirniadu yn Llundain, ni chai fyned ymlaen gan 'hissiau yr aflwyddianus, a dywedai mewn tarawiad,—Pe byddai holl wyddau y greadigaeth yn hisian, effeithiai hynny ddim arnaf fi.' Bu y saethyddion cystadleuol yn chwerw wrtho yntau, ond yr oeddynt yn sicr o'i chael hi yn ol gyda llôg.
"Yn Eisteddfod Criccieth cafodd hwyl neilltuol wrth ddweyd ei fod wedi derbyn postcard y bore hwnnw yn ei rybuddio i fod yn ofalus wrth feirniadu y Brass Bands, y byddai cerddor yno oedd yn deall rhywbeth am chware gwyr y cyrn pres.' Yn y reserved seats fe welai y diweddar
o Gaernarfon, a score fawr fawr o'i flaen ac yn lledu ei hun fel dyn pwysig, ac meddai Emlyn:—'Ar y cerdyn gefais, y mae postmark Caernarfon, dinas y mân dinceriaid cerddorol, lle mae'r Bashi Bazouks a'r Invincibles Cymreig yn byw,' a thaflai ei lygad llym i gyfeiriad y blaenseddau. Yr oedd wedi cael achos i geryddu y gŵr hwn o'r blaen ynglŷn â'r Cronicl Cerddorol. Anfonodd y 'boneddwr' hwn nodyn at Mr. Isaac Jones, Treherbert, y cyhoeddwr, i ymosod ar Emlyn (y Golygydd) trwy ddrws y cefn megis, ac, wrth gwrs, anfonodd y cyhoeddwr y llythyr i Emlyn, yr hwn a'i hatebodd yn y rhifyn dilynol fel hyn: Os ydyw y llwfrddyn geisiodd ymosod arnom yn ein cefn yn ddigon cyfarwydd fel cerddor a'r gerddoriaeth ganlynol, darllened y geiriau yn ofalus. Dim ond y nodau osododd ef oedd yn perthyn i'r geiriau Go baffled coward go!
"Bu hefyd yn amddiffyn Dr. Parry rhag ymosodiadau y brawd chwyddedig hwn, pan safodd Parry fel dyn, drwy beidio â gwobrwyo Cantawd o'i eiddo yn Eisteddfod Genedlaethol Merthyr.
"Yn Eisteddfod Môn, cyn beirniadaeth y prif gorau, dywedodd yr arweinydd am y dydd, oedd yn bur siaradus ei hun, am i Emlyn fod mor fyr ag oedd modd, a chadd yr ateb mewn eiliad: 'Y Meddyg, iacha dy hun.'
"Yn Eisteddfod Genedlaethol Ffestiniog, yr oedd ef a Mr. Wm. Davies yn dethol y Juveniles ar y piano, a minnau'n dethol y Sopranos. Ar oli mi orffen euthum i edrych am danynt i'r ystafell yn ymyl, gan ofyn iddynt yn ddireidus: I am only calling to see how the juveniles are getting on'; ac atebodd Emlyn ar unwaith: This Committee is wise enough not to allow the wolves with the lambs.'
"Ond rhoddodd fy nghyfaill tawel o Lanwrtyd ateb go dda iddo yn Gwalia, Llundain, adeg yr Eisteddfod Genedlaethol. Yr oedd Mr. Thomas a minnau yn cydfeirniadu â Syr George Macfarren ar y Solo Tenor, a chawsom drafferth gyda'r hen ŵr i beidio â gwobrwyo un a ystyriem ni ein dau yn ail yn y gystadleuaeth. Beth bynnag, llwyddasom i gael ein dyn i ganu'n gyhoeddus gyda'r llall, ac erbyn mynd i'r Neuadd anferth, yr oedd rhagoriaeth ein canwr ni yn fwy amlwg fyth. Ond ni syflai Macfarren; ac ar ol hir daeru, llwyddwyd i rannu'r wobr—yr oedd hynny yn well na dim yn ein golwg. Erbyn i ni ein dau gyrhaedd Gwalia, a mynd at y bwrdd, dyma Emlyn yn ein cyfarch yng ngwydd yr holl westiwyr Dyma feirniaid,' meddai, yn rhannu'r wobr, pan allasai pob ffŵl ddweyd prun oedd y goreu.' Fe'm tarawyd i yn fud, ond atebodd Mr. Thomas mewn eiliad, gan bwyntio at Emlyn: Gallasai pob ffŵl!' a mawr y chwerthin oedd drwy'r ystafell."
Rhoddir yr hanesion hyn am eu gwerth. Yr oedd yn ei siarad—fel yn ei lythyrau yn ffraethlym a pharod; eto diau fod ei ddawn yn y cyfeiriad hwn ar brydiau'n demtasiwn i'r "aelod bychan" sydd yn "gyrru troell naturiaeth yn fflam."
XXII.
Y LLENOR A'R HANESYDD CERDDOROL.
YR oedd yn hoff o lenyddiaeth gyffredinol, ac yn dra chyfarwydd nid yn unig â llenyddiaeth ei genedl ei hun, ond ag eiddo'r Saeson hefyd, yn arbennig gweithiau beirdd a nofelwyr. Ond ei hoff awduron oedd rhai fel Burns a Moore, Ceiriog, Mynyddog, a Thalhaiarn. Yr oedd hefyd yn edmygydd o Islwyn a Dafydd ab Gwilym. Llawenhâi fel un wedi dal ysglyfaeth pan ddeuai o hyd i fardd newydd o ryw wreiddioldeb—megis Eilir—yn neilltuol os byddai'n delynegydd.
Yr oedd iddo ddawn lenyddol arbennig ei hunan—dawn nid yn unig i dderbyn ond hefyd i ysgrifennu. Yr oedd yn feistr ar Gymraeg a Saesneg gloew esmwyth, a gafaelgar. Yr oedd ei feddwl at ei gilydd yn glir, a'i iaith yn ogystal. Gwerthfawrogai a meithrinai y ddawn hon, nid er ei mwyn hi ei hun yn unig nac yn bennaf, ond am y rheswm ei bod yn ei alluogi i fod o wasanaeth i gerddoriaeth. Ym myd llên, nid oedd ganddo uchelgais i fod yn fwy na cherdd-lenor.
Dengys ei werthfawrogiad o swyddogaeth llenyddiaeth gerddorol yn ei bryder ynghylch ei dyfodol yng Nghymru:— Nis gallwn ymryddhau oddiwrth yr argyhoeddiad sydd yn ein dilyn beunydd ac er's cryn amser, mai ychydig os dim gallu mewn llenyddiaeth gerddorol a ddangosir gan ein cerddorion ieuainc. Astudir hynny o reolau y gelfyddyd ag sydd raid, ond prin hynod yw yr awydd ganfyddwn ynddynt i dreiddio i athroniaeth a chyfrinion dyfnaf y mater, ac i fynegi eu meddwl—ffrwyth eu hastudiaeth a'u hymchwiliadaeth drwy y wasg neu ryw gyfrwng cyhoeddus arall. Os edrychwn yn ol am foment ar y gwyr a lafuriasant i wneud Cymru gerddorol yr hyn ydyw heddyw—y Millsiaid, Ieuan Gwyllt, Tanymarian, Alawydd, Eos Llechid, Tafalaw, &c.,—gwelwn eu bod oll yn llenorion da, yn gallu ysgrifennu Cymraeg eglur a chryf, a'u bod yn gwasanaethu eu cenedl heddyw drwy eu hysgrifau a'u llyfrau, er eu bod hwy wedi cael eu cludo i'r pell encilion."
Ac ebe fo parth darllen:—
"Nid oes eisieu dweyd wrth y darllenydd ein bod foddlon iawn i bobl ganu—a chanu cryn lawer hefyd; ond yr ydym hefyd am iddynt ddarllen rhyw gymaint, ac astudio yr hyny maent yn ei ddarllen; ac nid yn unig ddarllen llyfrau yn ymdrin ond â cherddoriaeth—oherwydd gŵr unllygeidiog iawn, fel rheol, yw yr hwn na ŵyr am ddim y tu allan i'w fusnes neillduol ei hun—eithr llyfrau a chyhoeddiadau da ar bynciau eraill, yn ychwanegol at y pwnc arbennig a gâ ein sylw yn bennaf yn y colofnau hyn.'
Y mae safle eithriadol Emlyn fel Beirniad wedi tueddu i guddio'i ragoriaeth fel Athro, yn neilltuol y tu fewn i gylch ei fywyd llenyddol. Clywsom ddywedyd mai dyma yw'r gwahaniaeth rhwng gwirionedd a gras: fod у blaenaf yn dangos i'r pechadur ei fod wedi syrthio i'r ffos, a'r olaf yn estyn llaw i'w godi. Y mae'r gwahaniaeth rhwng beirniad ac athro rywbeth yn debig. Gwir fod Emlyn yn athrawaidd fel beirniad, ac yn ymgais at fod felly. Yr oedd dan ddyled fawr i feirniadaethau Ieuan Gwyllt, Tanymarian, ac eraill, ac wedi etifeddu'r traddodiad oddiwrthynt hwy fod y swydd feirniadol nid yn unig i fod yn ddyfarniadol, ond yn addysgol hefyd, a hynny eilwaith, nid drwy nodi gwallau, ond drwy awgrymu gwelliannau'n ogystal. Yr oedd yn wastad nid yn unig yn gynrychiolydd delfryd ac yn edrych i lawr, ond hefyd yn gynorthwyydd y disgybl oedd am ddringo i fyny.
Ond y mae, ymhellach, yn wir ei fod y tu allan i'r sedd feirniadol yn awyddus am fod o help i eraill ar y maes cerddorol. Ni fu'n athro yn yr ystyr o fod yn llenwi'r swydd ynglŷn ag unrhyw sefydliad, nac yn wir, yn yr ystyr o ymgymryd ag addysg disgyblion a ddeuai ato, er iddo wneuthur ffafr ag un neu ddau. Yn wir, ni fu ganddo lawer o hamdden i hynny nes dod i Gemmaes; gwyddai hefyd ei gyfyngiadau ar ochr teimladrwydd ac amynedd. Ond bu'n athro yn ei ysgrifau i luoedd o'n cantorion ieuainc. Dywed Mr. Tom Price, er enghraifft, na fu ganddo athro arall, a phrofa ffrwyth o'i fath ef na fu'r hau yn ofer. Wrth fwrw golwg ar ei ysgrifau yn y gwahanol gyfnodolion yr ysgrifennai iddynt, cawn eu bod ar destunau fel hyn Llawlyfr i ddarllen Cerddoriaeth (cyfaddasiad at yr Hen Nodiant o un Mr. Eleazar Roberts), Cyfeiliant, Cynghanedd, Cerddorfâaeth, Rhanweithiad—aeth, Datblygiad, y Rhangan, y Fadrigal, a'r Ganig, y Salmdon, yr Emyndon, yr Anthem, yr Oratorio, a'r cyffelyb.
Ysgrifennodd Lawlyfr ar Gynghanedd, am yr hwn y dywed un adolygydd (Mr. J. T. Rees, Mus. Bac.):
"Dyma'r unig waith safonol—up to date—ar Gynghanedd a feddwn yn yr iaith. Dygir am y waith gyntaf i'r Cymro unieithog ystorfa lawn o ddefnyddiau a'i gwna, os myn, yn gerddor diwylliedig. . . . Ni chyffyrdda yr hen lyfrau ond yn ysgafn iawn â'r materion yr ymdrinir arnynt yn yr un sydd ger ein bron mor helaeth a manwl. Rhyw fynd o gylch y glannau megis y byddent hwy, ond egyr hwn y cyfandir ar ei draws. Difreinid y Cymro o adnoddau a swynion pennaf y gelfyddyd. Bellach y mae yntau'n rhydd ddinesydd o'r byd cerddorol a'i swynion anwylaf yn agored iddo."
Ac ebe Dr. Protheroe am yr un llyfr:—
"Ychydig, hyd yma, o lyfrau cerddorol safonol sydd gennym, ac yr oedd hyn yn golled fawr i aml Gymro uniaith. Prin iawn ydoedd y manteision i astudio cynghanedd a gwrthbwynt; ac eithrio rhyw ychydig o lyfrau pur elfennol, nid oedd dim yn yr iaith ar gyfer yr efrydydd. Ond yma eto dengys Emlyn mor amryddawn ydoedd, ac ef ydyw awdur yr unig waith safonol sydd gennym ar gynghanedd. Y mae ynddo ddigon o fater, ond ei astudio yn fanwl, i droi allan dô o gynghaneddwyr da, ac i roddi symbyliad i efrydwyr ieuainc i ymgyrraedd hyd risiau uchaf yr ysgol."
Er hyn oll, y mae'n ddiau fod y rhan fwyaf o gylch ei weithgarwch fel athro yn y dirgel. Ysgrifennodd gannoedd o lythyrau i gynorthwyo cerddorion ieuanc; ac yn ol Mr. Harry Evans "cymerai y drafferth fwyaf oedd fodd i roddi'r cyngor a'r cyfarwyddyd goreu." Da gennym inni fedru rhoddi enghreifftiau o'r llythyrau hyn ym Mhennod xxiv.
Yr oedd y cyfuniad ynddo o'r Llenor a cherddor yn ei wneuthur braidd yn hanfodol i'r sedd feirniadol pan gynhygid gwobr am libretto neu'r cyffelyb; ac y mae ei sylwadau a'i feirniadaethau ar libretti yn Y Cerddor ymhlith ei bethau mwyaf addysgiadol. Ond tra'r oedd prif ganolbwynt ei ddiddordeb yn y presennol a gwasanaeth y dyfodol, yr oedd iddo lawer o swyn yn y gorffennol. Rhoddai lawer o'i amser i hanesiaeth, a chyfrifid ef gan ei gydnabod yn awdurdod ar hanes Cerddoriaeth Gymreig; yn wir, buont yn daer arno yn ei flynyddoedd olaf i ysgrifennu gwaith safonol ar y testun, petae hynny'n bosibl. Wrth y gyfran o'i lythyr a ddyfynnwyd ym Mhennod XV. gwelir mor agos oedd y mater at ei galon—yn agosach, yn wir, nag unrhyw awydd myfiol i wneuthur y gwaith ei hunan. Ond ni theimlai'n alluog i gyfrannu mwy na 'rhywbeth' tuag at y gwaith. Efallai y gellir edrych ar ysgrifau o'i eiddo ar "Cerddoriaeth a Cherdd-offer yr hen Gymry," "Datblygiad Cerddoriaeth yng Nghymru o safbwynt hanesyddol," "Cerddoriaeth Gymreig yn ystod y ganrif ddiweddaf," a nifer o fywgraffiadau o hen gerddorion Cymru, fel rhagbartoadau o'i eiddo ar gyfer ysgrifennu gwaith mwy.
Meddai gymwysterau pwysig i'r gwaith. Yr oedd yn gerddor, yn hoff o hanes, ac wedi disgyblu ei feddwl i drafod ffeithiau. Yr oedd yn naturiol feirniadol, ac yn ymogel rhag mynd "ar ol ei ffansi" ef ei hun. Ar y llaw arall, cwynai nad oedd hen gerddorion Cymru'n feirniadol, na'r haneswyr yn gerddorol:—
"Ryw ddydd yr wyf yn gobeithio y gwna'r hanesydd cerddorol Cymreig ei ymddangosiad; hyd yn hyn yr ydym wedi gorfod dibynnu ymron yn hollol ar ysgrifeniadau Bardd y Brenin—cyfraniadau pwysig yn ddiameu, ond ysgrifennwyd hwy dros gan mlynedd yn ol, a thynnir oddiwrth eu gwerth i raddau gan y ffaith fod yr awdwr yn dueddol i gredu gormod, a'i fod yn amddifad o'r craffter beirniadol ag sydd mor hanfodol pan fydd yr ychydig wenith wedi ei gymysgu a chymaint o us. Y mae Carnhuanawc yn ei Hanes Cymru,' a Thos. Stephens yn ei 'Literature of the Kymry' yn ein cynysgaeddu a pheth mater diddorol, ond nid oedd y naill a'r llall yn gerddor, ac o ganlyniad nid yw eu hymdriniaeth a'r testun ond cyfyng ac amherffaith —sylw ag sydd yn fwy priodol fyth at Hanes Llenyddiaeth Gymreig' Gweirydd ap Rhys."
Rhydd Dr. Protheroe yr enghraifft a ganlyn o'i ofal am gywirdeb hanesyddol:—
"Byddai'n ofalus iawn am gywirdeb hanesyddol. ac ni chredai bob chwedl na damcaniaeth hyd yn oed am ein hen alawon, er cymaint ei serch tuag atynt. Edrychid i fyny ato fel ein prif awdurdod parth dilysrwydd llawer o'n halawon gwerin. Dengys y dyfyniad a ganlyn mor fanwl a chywir ydoedd: Tuedd gyffredin llawer o'n hysgrifenwyr ar gerddoriaeth yw credu pob peth—yn lle gwneyd ymchwiliad trwyadl, ac yna ffurfio barn ag y bydd sail iddi. Er enghraifft, caed gafael mewn hen ysgrif-lyfr sydd yn awr yn yr Amgueddfa Brydeinig—Llundain—yr hwn, y dywedir, oedd gopi gan Robert ap Huw o Fodorgan, Mon, yn amser Siarl I. o lawysgrif gan Gwilym Penllyn, cerddor enwog yn y ganrif flaenorol (16eg): ymha un y ceir nodiad mai ei gynnwys yw cerddoriaeth Brydeinig, fel ei mabwysiadwyd mewn Eisteddfod o dan awdurdod Gruffydd ab Cynan, &c. Ymysg y darnau y mae un a elwir 'Gosteg yr Halen,' pa un a berfformid, meddir, o flaen Marchogion y Brenin Arthur pan ddodid y blwch halen ar y Bwrdd—y ford; ac yn y Myvyrian —argraphiad Gee—myntumir fod y darn hwn yn myn'd a ni'n ol cyn belled a chanol y 6fed ganrif, pryd y blodeuai Arthur. Ond yn anibynol ar y ffaith fod nodiant cerddorol yr ysgrif-lyfr yn annealladwy ini yn bresennol, ac o ganlyniad, nad yw darlleniad mewn nodyddiaeth ddiweddar a roddir yn y Myvyrian ond damcaniaeth ar y goreu, rhaid cael profion mwy sicr o lawer na nodiad, heb iddo awdurdod nac ategiad, mewn tipyn o law-gopi, cyn y gellir ei gyplysu ag amser Arthur a'i farchogion.' Carai ein hen alawon yn angerddol, a gwnaeth wasanaeth mawr i'w wlad drwy ei waith yn golygu casgliad mawr Nicholas Bennett."
Heblaw hyn, er na wyddom iddo ddarllen athroniaeth erioed, yr oedd ganddo "yng nghefn ei feddwl" yr hyn a allwn ei alw'n ragdybiau hanner-athronyddol ynghylch unoliaeth hanes, perthynas ei orffennol â'i bresennol, a natur derfynol ei ddyfarniad—yn y cwbl o hono—ar gynyrchion ei wahanol oesau.
Pwysleisia ei bod yn angenrheidiol i'r hanesydd ymryddhau o'i fyfiaeth, ac o fyfiaeth ei oes ei hun:
"Un o anhebgorion hanesydd da, neu unrhyw un awyddus am gael golwg gywir ar y gorffennol, yw y gallu i anwybyddu ei hun; i edrych ar yr hyn a fu o safbwynt amhersonol—nid â llygad y presennol ond fel yr ymddangosent yn eu cysylltiadau ac o dan yr amgylchiadau a ffynnent ar y pryd."
Y mae'n ddiameu iddo yntau basio drwy'r cyfnod myfiol hwnnw yn hanes dyn ieuanc, pan fyddo wedi ei feddiannu gymaint gan ei ddelfryd a'i oes ei hunan nes ei chyfrif hi'n unig yn aur, a'r rhai o'r blaen yn bres a phlwm a chlai: cyfnod addoli moderniaeth, a'r oes dda bresennol. Ond yn ei gyfnod golygyddol, o leiaf, yr oedd ef wedi dianc o hualau y fyfiaeth hon—yn wir, ambell i waith, ymyla ar edrych ar yr hen feistri, nid yng ngoleuni eu hoes eu hunain, ond fel rhai uwch—law oes.
A chyda greddf hanesyddol gywir, gwna'r pre—sennol i ddibynnu ar y gorffennol. Hoffa ddyfynnu'r geiriau: "Eraill a lafuriasant a chwithau a aethoch. i mewn i'w llafur hwynt": "Un genhedlaeth a â, a chenhedlaeth arall a ddaw." Felly rhoddir ei le i bob un yn y cwbl—y peth pwysig yw fod un yn llenwi ei le yn ei gylch a'i oes ei hun, ac felly yn y cwbl. "Os oes neb o'r farn y buasai Gŵyl Gerddorol Caerdydd eleni yn bosibl onibâe am lafur ac ymdrech y gwyr a fu'n gwasanaethu gyda'r gelfyddyd yn ol eu gallu a'u cyfleusterau yn ystod yr hanner can mlynedd diweddaf neu ragor o'u hanes, yna rhaid na wyddant ddim am y mater. Yn fwy na thebig dyna'r sefyllfa o anwybodaeth, nid yn unig ymhlith ein beirniadwyr, ond, ysgatfydd, ymhlith rhai o gerddorion 'Young Wales' eu hunain—
'Cywion' cerddorion fel ag y mae'n lled debig y dwbiai Tanymarian rai o'r gwehelyth."
Mwy diddorol fyth yw ei ragdyb—neu ei gred—mai Hanes ar ei hyd, nid un oes "sydd a'i dull yn myned heibio," ond yr oesoedd yn eu crynswth—"the roll of the ages," chwedl y bardd—sydd i benderfynu lle dyn a cherddor, ac i draddodi'r farn derfynol ar ei weithiau. Wele rai enghreifftiau:—
'Rhaid i ni gofio bob amser fod yr ysbwriel wedi suddo i ddiddymdra mewn barddoniaeth yn gystal ag mewn cerddoriaeth; ac mai yr hyn sydd wedi goroesi a dod i lawr i aros gyda ni yw y pigion—yr hyn oedd yn rhagori,—yn unol a deddf "the survival of the fittest ".
Ynglŷn â chondemniad Weber o "Eroica Symphony" Beethoven, ysgrifenna fel hyn:—
"Dyn a helpo Weber! beth yw barn y byd cerddorol am Eroica' Beethoven erbyn hyn? Dyna dynged lliaws o gyfansoddiadau wrth gychwyn eu gyrfa, "er treio eu lladd: eto byw fyddant!" Felly am Wagner hefyd:—
"Efallai fod y goraddoliaeth hwn o un person, y dibrisiad o eraill, a'r foycotiaeth o bawb na pharablant ryw un shiboleth yn perthyn yn arbenigol i'r cyfnod presennol, o herwydd y maent i'w cyfarfod mewn cysylltiadau eraill heblaw yr un cerddorol. Bid a fynno am hyny, ac os yw felly, nid ydym yn gwylltio am foment; ond ymdawelwn yn y gred fod egwyddorion tragwyddol y gelfyddyd ddwyfol wedi eu gosod ar seiliau rhy gedyrn a llydain i unrhyw audeb a chulni partiol i effeithio arnynt; a chredwn hefyd fod yng Nghymru fwy nac un llanc na phlyga mo'r glin, nid yn unig i au-addoliaeth, ond i'r hyn sydd ar rai ystyron yn fwy andwyol fyth —person-addoliaeth. Egwyddorion, nid personau, yw arwyddair y gwleidiadwr doeth; a chelfyddyd fawr ei hun, nid rhyw agweddau personol, cul a chwaceraidd, o honi, yw arwyddair y gwir gerddor."
Ac am Elgar, yntau:
"Nid ydym yn anghofus o eilun presennol y genedl Seisnig, ond gyda'r edmygedd mwyaf o awdur "Gerontius" a gweithiau pwysig eraill yr ydym yn ddigon wyneb—galed o geidwadol i ddweyd na ysgrifennwyd mo hanes cerddoriaeth y dyddiau hyn eto." Cymhwysa'r un safon mor gynnar ag 1873 at donau Ambrose Lloyd, a'i fenter yn rhoddi 45 ohonynt yn Aberth Moliant:
Experiment cynnil i'r mwyafrif o'n cyfansoddwyr fyddai gwneud yr un prawf â'u tônau anwyl hwy. Mae y tonau ag sydd eisoes yn eiddo teuluaidd yng ngwir ystyr y gair—i'r holl genedl, yma bid siwr! ac ymhlith y rhai newyddion emau lawer rhai ohonynt 'o'r dwfr blaenaf,' a rhai, efallai, allan o'r fath nifer pa gyfansoddwr all obeithio yn amgen?—na fyddant yn ddim ond creatures of a day.
Teimlwn ein bod yn wyneb awel o fryniau uchel, yn arbennig pan gymhwysa egwyddor y paragraffau hyn ato'i hun, megis pan ddywed (Pennod xxiv.) wrth Mr. Tom Price ei fod yn llawenhau yn ei lwyddiant, fel tad yn eiddo mab, gan ein bod ni ar y ddaear i wneuthur ein rhan a ddigwydd i ni o waith, ac yna i roddi lle i eraill.
Ond er fod hyn yn fath o fyd—olygiad hanner-athronyddol yn ei feddwl, nid oes unrhyw brawf nac arwydd ei fod wedi ei feddwl allan a'i gyfundrefnu, fel ag i'w wneuthur yn gyflawn-athronyddol. Er enghraifft, ymddengys mai gan yr ymwybyddiaeth gyffredinol y mae'r ddedfryd ar deilyngdod neu annheilyngdod gwahanol weithiau cerddorol i gael ei chyhoeddi; ond, ar y llaw arall gan yr ymwybyddiaeth hon hefyd y mae tonau a chaneuon diwerth ac arwynebol yn cael eu derbyn a'u gor-werthfawrogi dros amser, nes peri eu bod yn mynd "fel tân " drwy'r wlad. Sut mae cysoni hyn? Ni ddywed ef ddim, ond fod y fath donau a chaneuon yn cynnwys elfennau eu dinistr ynddynt eu hunain.
Nid yw'n fanwl, ychwaith, mewn perthynas â "phrawf amser." Dywed am rai tonau—o'r eiddo ei hun ac eraill—eu bod "wedi cael eu siawns," ac yn awr i roddi lle i eraill. Ond i ba raddau y mae holl donau'r Caniedydd wedi "cael eu siawns"? A ydyw ugain mlynedd yn ddigon o amser prawf? Beth am wirionedd ei ddywediad arall: "Dyna dynged liaws o gyfansoddiadau wrth gychwyn eu gyrfa er treio eu lladd, byw fyddant "? Tebig. fod y ddedfryd yn fwy terfynol yn ol hyd yr amser, megis pan ddywed am donau Ambrose Lloyd eu bod wedi dal prawf nifer o genedlaethau.
Y mae'n wirionedd cysurlawn i'r gwir weithiwr, ond digysur iawn i'r rhai na wêl wahaniaeth rhwng "will o' the wisp" a'r sêr sefydlog, fod y rheiny sydd o'r Tragwyddol i gael eu hamddiffyn gan y Tragwyddol, ac mai "byw fyddant." Eto hoffem wybod beth yw perthynas "ysbryd yr oes" ag "Ysbryd yr oesoedd." Tebig yr atebasai mai nid ei fusnes ef oedd olrhain y terfynau rhyngddynt, ac fod y ffydd fod Ysbryd yr oesoedd yn bod yn ddigon da iddo ef.
Mewn nodyn o'i eiddo at Mr. D. Jones (Commercial Road) cymhwysa'r un egwyddor at emynau:
"Parth emynau newydd a hên rhaid cofio mai y goreu o'r hên sydd yn aros survival of the fittest. Fe chwyth y gwynt b'le y mynno, a dim ond amser a brawf be' sy', neu be' na sy'n deilwng o fyw. Diau fod Hiraethog yn fardd mawr, nid ydi hynny ddim yn profi y rhaid iddo fod yn emynwr da: dyna ddweda nhw—a rhaid i mi ddweyd fod tipyn o synwyr yn y peth hefyd."
XXIII.
Y GOLYGYDD A'R GOHEBYDD.
O HERWYDD afiechyd a dyletswyddau eraill, gwelsom mai bratiog fu ei gyfnod golygyddol cyntaf ynglŷn â'r Gerddorfa. Yn 1880, cychwynnwyd Cronicl y Cerddor dan ei olygyddiaeth ef gyda chynhorthwy Mr. M. O. Jones, Treherbert. Er mai byr fu hoedl y Cronicl bu'n ffyddlon i'w ddelfryd uchel. Yn ol un beirniad, nid oedd "ei gynhwysiad yn llenyddol a cherddorol yn ail hyd yn oed i'r hen Gerddor Cymreig." Safodd, fel y gallesid disgwyl, dros burdeb cerddorol a beirniadol. Cawn ychydig fewn-welediad i ysbryd yr olygyddiaeth yn y nodyn hwn oddiwrth Emlyn at Mr. D. Lewis, Llanrhystyd:—
"Fy Anwyl Gyfaill,—Da oedd gennyf gael gair oddiwrthych, a deall eich bod yn iach. Da gennyf fod y Cronicl' yn eich boddio; coeliwch fi, nid ychydig ydyw'r llafur a'r bother i'w gael hyd yn nod fel ag y mae. Am fusnes y Gantawd ym Merthyr, nid dewisiad oedd y peth, ond teimlad fod yn rhaid dod allan dros wirionedd yr hyn yn ddiameu oedd gyda Joseph Parry y tro hwn o leiaf—ac yn erbyn celwyddau
Ychydig a ddywedasom yn y Cronicl, ac y mae yr ychydig hynny ar ben, fel y nodasom eisoes yn y rhifyn presennol; er hynny, ni fynegwyd mo'r hanner o'r clicyddiaeth cwacyddol gwarthus hwn, a'r gwaradwydd y mae yn ddwyn arnom fel cerddorion Cymreig—poor but honest. Gyda llaw eto; ydych chwi wedi gweled 'Music Primers' Novello? Yn fy marn i, nid oes dim wedi ymddangos yn debyg i'r gyfres hon, ac y mae y pris yn chwerthingar o isel, 2/- ac felly yr un. Nid ydwyf wedi gweled dim erioed yn rhagori—o leiaf—ar 'Fugue,' 'Instrumentation,' a 'Double Counterpoint & Canon.' "
*** "Anthemau fydd eisieu fwyaf yn awr ar fwrdd y Cronicl—digon o Ranganau mewn llaw am lawn blwyddyn.
Cofion calon.
D. EMLYN E.
Ni pherthyn i ni fynd i fewn i hanes cystadleuaeth y "Gantawd" ym Merthyr: yr hyn a barai i'r "rheidrwydd i ddod allan dros wirionedd" fod yn boenus oedd y ffaith fod ei hen gyfaill Tanymarian yn gymhlethedig â'r helynt; ac y mae'r ffaith iddo "ddod allan yn dangos mor gydwybodol ydoedd, ac fod cyfeillgarwch yn ail yn ei olwg i wirionedd.
Yn 1880, cychwynnwyd Y Cerddor gan Mri. Hughes a'i Fab., Gwrecsam, dan ei olygyddiaeth ef a Mr. Dd. Jenkins, gyda chydweithrediad Mr. W. M. Roberts. Y mae Mr. Roberts yn gerddor gwych ei hun, a chanddo hawl i siarad ar nodweddion Emlyn fel Golygydd, Gohebydd, a Dyn, ar ol bod mewn cyfathrach mor agos ag ef am gynifer o flynyddoedd, —o 1889 hyd 1913. Wele'i dystiolaeth:
"Mewn cysylltiad o gynifer o flynyddoedd mae dyn yn dod i adnabod, i raddau mwy neu lai, ochr gyfrin cymeriad y sawl yr ymwneir ag ef, ac felly gydag Emlyn; ysgrifennodd gannoedd. lawer o lythyrau ataf, llawer ohonynt yn lled faith, weithiau ynglyn a'r cylchgrawn ac weithiau ar bynciau hollol amherthynasol a Y Cerddor, ond trwy'r cyfan fe redai delw eu hawdwr. Nid wyf yn cofio yn ystod yr holl amser iddo fod yn euog o wneyd tro gwael gyda'i gyd-ddyn. Gwnaeth gamgymeriadau am nad oedd, mwy na rhywun arall, yn anffaeledig, ond un peth ydyw hynny, peth arall yw bod yn llai na dyn. Yr oedd yn eofn pan yn dweyd ei farn, ac os byddai rheswm gan ei wrthwynebydd cai wrandawiad teg ac amyneddgar er y byddai'n dra chyndyn i roddi i fyny. Ond os byddai'r gwrthwynebydd, gohebydd neu beth bynnag fyddai ei safle, wedi ceisio cael y llaw ucha arno yn annheg, wel, gwae iddo! Gallai fod yn llym anarferol, ac nid arbedai pan fyddai cysgod o gamchware yn dod i'r amlwg.
"Heblaw llythyrau rif y gwlith ymron, ysgrifennai y rhan fwyaf o'r copi i Y Cerddor am lawer o flynyddoedd. Nid oedd dicgi'n cael un math o groeso ganddo; ac fel rheol yr oedd yn neilltuol o brydlon yn anfon ei gyfran; gwaeledd oedd yr unig reswm dros iddo fethu anfon mewn pryd, er yn aml ar yr adegau hynny, byddai ganddo dwysged o gopi wrth law.
"Hoff faes ganddo oedd hanesiaeth, chwiliai'n fanwl er sicrhau gwybodaeth am hen gyfansoddwyr, hen donau, anthemau, a phenillion. Fel hanesydd cerddoriaeth a chyfansoddwyr Cymru, diau ei fod yn sefyll ymhell ar y blaen i'w gyfoedwyr. Yr oedd bob amser yn awyddus am roddi'r clod dyledus i'r rhai fu'n llafurio yn ystod gwawr cerddoriaeth yn ein gwlad. Ysgrifennodd gyfres yn Y Cerddor yn cynnwys hanes y rhai mwyaf amlwg yn eu dydd. Nid oedd yn llawdrwm ar eu colliadau—" dydd y pethau bychain" oedd hi arnynt, ac yr oedd ei gydymdeimlad gyda hwynt.
"Nid wyf yn bwriadu cynnyg ei gloriannu fel cerddor, ond dywedodd y diweddar Dr. Joseph Parry wrthyf mai 'Schubert Cymru' oedd Emlyn.
Yr oedd yn ŵr o deimladau tyner; un boreu yr oeddwn newydd gael gair i ddweyd fod R. S. Hughes wedi marw y diwrnod cynt; ac ymhen ychydig digwyddodd i'm cyfaill ddod i'r Swyddfa, a phan dorrais y newydd iddo, yr oedd wedi ei lwyr orchfygu gan deimlad, methai ddweyd yr un gair, tra y treiglai ambell ddeigryn lawr ei ruddiau. Yr oedd yn hoff iawn o R.S.'
"Treuliais lawer awr ddiddan yn ei gwmni, ac mae'n chwith meddwl na cheir rhagor o ffrwyth ei ysgrifbin fel cyfansoddwr na golygydd."
Ynglŷn â golygyddiaeth Y Cerddor dywed yr Athro Jenkins, "nad oes dim un gwelliant ag sydd wedi cael ei ddwyn i sylw gan y cerddorion Seisnig sydd yn ymweled a'n gwlad nad ydyw wedi cael ei draethu yn eglur yn y Cerddor '—pa un ai yn offerynnol neu yn lleisiol, fel canu allan o diwn, a'r tremolo, a dysgu y bobl i ddarllen cerddoriaeth yn y ddau nodiant, a'u diffygion ynglyn a'r Gymanfa Ganu, a'r hen arferiad isel o ddewis yr un darnau, a'r 'her-unawd' niweidiol. Ond i chwi ddarllen Y Cerddor, chwi gewch fod yr holl bethau hyn wedi eu condemnio'n ddifloesgni drwy'r blynyddau."
Bu'n Ohebydd Cerddorol y Musical Times a'r South Wales Weekly News am flynyddoedd. Ysgrifennai bob wythnos i'r olaf, ac yn ol tystiolaeth rhai cymwys i farnu, buasai detholiad o'i ysgrifau yn y ffurf o lyfr yn drysor o werth arhosol i 'Y Cerddor Cymreig' a'r 'Hanesydd Cerddorol'. Yn yr erthyglau hyn, ymddengys yn y cymeriad o hanesydd neu feirniad, amddiffynnwr neu ddiwygiwr, fel y byddai'r galw. Tra'n wastad yn barod i amddiffyn ei genedl a'i heisteddfod a'i chân rhag beirniadaethau annheg, nid yw byth yn ddiystyr o'i diffygion.
XXIV.
Y GOHEBYDD CYFEILLGAR.
OND os oedd yn fedrus a galluog fel gohebydd newyddiadur a chylchgrawn, yr oedd ei barodrwydd a'i gydwybodolrwydd, ei fanylder a'i amynedd fel llythyrwr yn hynotach fyth. Yr oedd yn rhyfeddod cyson i'w gyfeillion, a pharhâ felly. Ac ystyried ei amgylchiadau, ystad ei iechyd, a'i ddiwydrwydd mewn cyfeiriadau eraill, y mae'n anhygoel braidd gymaint o lythyrau allodd ysgrifennu at ei gyd—olygyddion ynglŷn â'Y Cerddor , Y Caniedydd, &c., a phob un ohonynt yn fanwl a chlir a glân o ran ffurf ac ansawdd. Daeth ei gyd-olygyddion, —yr Athro Dd. Jenkins a Mr. D. W. Lewis—i synied mor uchel amdanynt nes eu trysori'n ofalus. Teimlent eu bod o werth, ac nad iawn eu dinistrio. Ni ddyry dyfyniadau ohonynt syniad teilwng am eu cynnwys a'u ffurf lenyddol a llawysgrifol. I gael hynny, byddai'n rhaid eu gweld gyda'i gilydd—pob un mor ddel a'r llawysgrif yn dwt a digryn hyd y dyddiau olaf.
Gan y cawsom eisoes enghreifftiau o'i lythyrau at y ddau, y mae'n rhaid bodloni ar a ganlyn, i ddangos ei fanylwch a'i gydnabyddiaeth â phob agwedd ar ei faes arbennig ei hun. Llythyr ydyw at Mr. D. W. Lewis ynghylch Deddf Hawlfraint (nid oedd eisieu yngynghori â chyfreithiwr ynghylch hon cyd ag y bu Emlyn byw):—
"Anwyl Gyfaill,—Nid oes byth eisieu i chwi wneud unrhyw ymddiheurad. Y mae 'Henryd' yn eiddo pwyllgor y Caniedydd, ac fe fydd am flynyddau eto—yn 1873 cyhoeddwyd hi. Yr unig donau di-hawlfraint o eiddo Lloyd yw ychydig o'r rhai hynaf; megis Mary' o'r Salmydd Cenedlaethol, 1846. I'w donau ef, fel eiddo eraill, ceir yn fynych flwyddiad adeg y cyfansoddiad; ond ni pherthyn hynny o gwbl i gwestiwn hawlfraint—adeg cyhoeddiad darn ydyw'r pwynt. Y mae llawer wedi tybio gan fod 'Wyddgrug' yn hên dôn, ac wedi ei chyhoeddi gyntaf 50 mlynedd neu felly yn ol, ei bod yn rhydd. Mae'r alaw felly, ond yn 1859 y cyhoeddwyd y trefniad presennol yn Llyfr Gwyllt—ac o ganlyniad ni ddaeth yn eiddo cyhoeddus hyd eleni.
"Y mae'r Corph, fel y tybiaf, yn hawlio awdurdod i gyhoeddi y tônau hynny gan Lloyd oeddynt yn Llyfr Gwyllt, gan eu bod wedi talu am y llyfr i weddw Gwyllt. Yn union yr un fath y mae Mri. Hughes a'i Fab. parth rhai o dônau Parry ('A'ystwyth etc.), a'm heiddo innau (Aber—gynolwyn' etc.) yn ail Lyfr Stephen. Mae'n berffaith sicr nad oedd gan deulu Gwyllt na Stephen hawl (title) yn yr oll o'r llyfrau gan na chafodd Lloyd, lled debyg, mwy na Parry a minnau geiniog am y tônau hynny. Mater anhawdd—a rhy gostus—fyddai profi cyfraith y cwestiwn. Ond teimlaf fi yn bur sicr nad oes gan y Corph un hawl tuallan i'w Llyfr (a'u Rhaglenni) eu hunain dros y cyfryw dônau, er, fel y gwyddoch, fod Mri. Hughes yn defnyddio yr hawl honno ac yn cael pris da am ganiatad i'w defnyddio. Yr oeddem ni yn falch, o dan yr amgylchiadau, i dalu 2 gini iddynt am 'A'ystwyth,' ond defnyddiais i 'Abergynolwyn' heb ofyn caniatad neb. Felly yr ydym yn y sefyllfa ddiddorol fod dwy hawlfraint ar Aberystwyth '—Parry a Hughes; ar' A'gynolwyn '—Hughes a'r Caniedydd.
"Y mae ein pobl ni wedi bod yn llawer rhy esgeulus ynglyn ag amddiffyn eu hawliau, ac edrych ar ol eu buddiannau. Y mae tua 10 neu felly o dônau yn llyfr yr Eglwyswyr, am ba rai ni thalwyd ceiniog, etc. Ai i'w cyfoethogi hwy y talwyd £450 am lyfr Lloyd, a'r Salmydd—oherwydd y mae' Glanceri' hefyd ganddynt? Yr wyf wedi dweyd ac ysgrifennu digon am hyn droion a throion. Dylid hefyd ddod i ddealltwriaeth, dawel a rhesymol, â phobl y Corph. Ond gallwch fod yn hollol sicr parth 'Henryd'—'does neb â'i piau. ond 'Y Ni.'
"Er i mi gael y cylch-lythyr ni fyddaf yn Maesteg —y ffordd yn rhy bell, yr hin yn rhy boeth, a minnau'n rhy brysur. Nid wyf ychwaith am gicio row; y mae clebar dibendraw y pregethwyr yma mewn pwyll(?)gor yn ormod i gig a gwaed pobl gyffredin; ac, fel ag yn y Senedd-dy, yr unig ffordd i gael trefn a dosbarth ar bethau yn fynych yw 'codi row.'
Cofion goreu atoch bawb, fel arfer,
D. EMLYN E.
Yr oedd ei ohebiaeth ar ochr Hanes Cerddoriaeth yn dra eang, a barnu wrth ei bapurau. Ysgrifenna Llawdden ato ynghylch Llyfryddiaeth Gerddorol y Cymry; ceisia Dewi Môn wybodaeth ar gyfer ei waith ar y Cambrian Minstrelsie fel cyd—olygydd Dr. Parry; ymhawl Mr. Lleufer Thomas am Alawon Cymru, "Hen Wlad fy Nhadau," &c.; ysgrifenna Mri. D. Lewis, Llanrhystyd, W. Emlyn Jones, ac Eos Gwenffrwd am hen donau cynulleidfaol; Hafrenydd, Asaph Glyn Ebbwy, Dafydd Morganwg, &c., am bobl a digwyddiadau cerddorol yn yr hen amser.
Wele ddau nodyn hanesiol—y naill oddiwrth gerddor bydenwog yn y Brifddinas, a'r llall oddiwrth deiliwr yng Nghwmcoy (ond oedd hoffed o gerddoriaeth a'r llall) i ddangos ehangder cylch ei ohebiaeth:
Kensington,
Awst 1af, 1884.
Anwyl Mr. Emlyn Evans,—Y mae eich llythyr. —sydd heb ei gydnabod cyhyd—wedi bod ar fy nghydwybod, ac yr wyf yn awr yn ysgrifennu i ddatgan fy ngofid, gan y byddai'n ddrwg iawn gennyf pe priodolech fy nistawrwydd i ddifaterwch.
"A ydych chwi yn gweld 'Hanes Cerddoriaeth' Naumann, a sylwadau Syr Gore Ouseley ar Gerddoriaeth Gymreig, a llawysgrifau yr 11eg ganrif ynddo? Fel Macfarren, a llawer yn ac allan o Loegr, y mae'n eglur yn tybio eu bod yn ddilys.' Y mae ein haneswyr Cymreig—lled debyg yn anfwriadol—wedi camarwain y byd yn fawr, mewn cysylltiad â gwybodaeth gerddorol henafol ymhlith y Cymry mewn oesau blaenorol, ac y mae y canlyniad wedi bod yn dra niweidiol i Gymru ddiweddar'; oherwydd os y darfu i'r Cymry wneyd y fath gynnydd eithriadol cyn belled yn ol a'r unfed-ganrif-ar-ddeg, y casgliad naturiol yw eu bod wedi dirywio'n fawr, gan eu bod wedi methu cadw i fyny a chenedloedd eraill. Ond nid wyf yn mynd i'ch blino â phennod ar Hanesiaeth Gymreig ac felly 'rwy'n gobeithio y cawn ail-ymaflyd yn y pwnc ryw ddydd mewn ysgwrs.'
Ceisiwyd gennyf fod yn bresennol yng nghyfarfodydd Lerpwl—yr adran Gymrodorol yn fwyaf neilltuol—ond 'rwy'n ofni nas gallaf, gan y byddaf ymhell o Lerpwl ar adeg yr Eisteddfod—yng Nghaerdydd yn wir. Yr wyf yn ystyried fod fy ngwaith yn yr Eisteddfod yn awr drosodd, ac fy mod yn haeddu cael gorffwys.' Nid yw y cyfarfodydd bellach yr hyn a ddymunwn, neu, yn hytrach, y maent i raddau pell wedi colli eu nodweddiadau Cenhedlaethol, ac wedi mynd yn sensational, ac yn rhy fawr—i mi o leiaf.
Gyda phob dymuniadau caredig,
Gorffwysaf, yr eiddoch yn gywir iawn,
"BRINLEY RICHARDS."
Mawrth 19, 1888.
Anwyl Mr. Evans,—Mewn atebiad i'ch llythyr mewn perthynas a'r dôn 'Horeb,' dymunaf eich hysbysu mai yr awdurdod sydd gennyf i ddweyd mai D. J. Morgan ydyw ei hawdwr, ydyw hyn. Un tro wrth fyned i Aberteifi, aethum i mewn at yr hen gerddor, yr hwn oedd yn byw mewn bwthyn bychan yn Penllwyndu yr amser hynny. Yr oedd ynnwyf duedd gref am ymgomio ynghylch y canu yr amser hwnnw, ac y mae yn parhau byth. Wrth siarad popeth ynghylch y tônau, aethom ar draws y dôn 'Horeb,' yr hon oedd ganddo mewn llyfr yn y man hynny. Dywedodd wrthyf dan ba amgylchiadau y darfu iddo ei chyfansoddi.
Yr ydoedd yn byw y pryd hwnnw gerllaw Llangranog yn rhywle. Un diwrnod, medd efe, aeth allan i osod yr ardd, a phan yn myned at ei giniaw, cwrddodd â chymydog, yr hwn a ofynnodd iddo fel hyn:—(yr oedd y ddau yn hollol gyfarwydd a'i gilydd)—Deio, a wnei di un peth a geisiaf?' Gwnaf, os gallaf' oedd ateb yr hen gerddor. 'Wel, ti a elli,' meddai'r hen gymydog. Pa beth ydyw?? 'Cyfansoddi tôn ar y mesur ffeiliwyd ganu dydd Sul diweddaf.' Y peth a gynhyrchodd awen yr hen gerddor ar y pryd oedd y dôn 'Horeb.' Ffurfiodd yr alaw cyn dyfod allan oddiwrth giniaw. Dyna ei dystiolaeth ef ei hun yn yr un geiriau ag a ddywedodd wrthyf, ac nid oes un amheuaeth gennyf am ei geirwiredd. Yr wyf wedi gweld y dôn mewn gwahanol lyfrau heb enw yr awdwr wrthi ond y mae wedi cael ei throi upside down yn rhai o'r llyfrau—gormod o hyfdra!.
"Yr eiddoch yn serchus,
"THOS. JONES (Eos Gwenffrwd)."
"Mae'r llythyr a ganlyn o'i eiddo yntau at Mr. Emlyn Jones yn enghraifft dda o'i atebion hanesiol, ac yn dangos ei fod mor fanwl a gofalus yn ei ohebiaeth gyfeillgar ag ydoedd yn ei ohebu cyhoeddus.
[Yn haf 1902, ymddanghosodd llythyr oddiwrth Mr. Emlyn Jones yn Y Tyst, yn dweyd ei fod wedi derbyn "hysbysrwydd diddorol" oddiwrth y Parch. Lewis Williams, B.D., sef mai ei dad, Robert Williams, Rhydymain, a aeth i'r Amerig yn 1842, oedd awdur y dôn 'Erfyniad', ac yn datgan ei obaith y gwelid ei enw'n gysylltiedig â'r dôn o hyn allan, ac nid "Alaw Gymreig." Gyrrodd Mr. Jones gopi o'r Tyst i Emlyn, a'r llythyr hwn yw'r ateb.]
"Fy Anwyl Gyfaill,—Yr wyf yn ddiolchgar i chwi am y copi o'r Tyst. Yr wyf bob amser yn falch i ddod o hyd i bethau o'r fath, i'w rhoddi ar 'gof a chadw' yn Y Cerddor. Nid wyf yn amheu bona fides Mr. Lewis Williams ond cwestiwn sydd yn codi'n naturiol ac ar unwaith yw, lle y mae wedi bod holl amser hyn cyn dwyn ei hawl ymlaen, a'i dad o'i flaen. Nis gallaf olrhain y dôn yn ol ymhellach na llyfr cyntaf Ieuan Gwyllt—1859—ac yr oedd hynny 15 mlynedd cyn marwolaeth y tad. Y mae hefyd yn llyfr Stephen & Jones, 1868, ac, fel rwy'n gweld, yn 'Welsh Church Tune Book' y Parch. Thomas Jones, 1859. Yr oedd rhai, os nad yr oll o'r rhain —llyfr Gwyllt yn sicr—yn cylchredeg yn rhydd yn yr Amerig ymhell cyn 1874, ac nis gall un lai na rhyfeddu fod yr hawl yn cael ei dwyn ymlaen yn awr yn 1902 (28 mlynedd wedi marwolaeth y tad) ac nid y pryd hwnnw yn ystod ei fywyd.
"Yr ydych wedi eich cam—hysbysu ynghylch Caniadau Seión—o leiaf nid yw enw Robt. Williams, Rhydymain i'w weld yn y Caniadau na'r Atodiad. Yn y Caniadau y mae yna un dôn gan y 'Parch. Robt. Williams' (Gweinidog Wesleyaidd), a chan 'Robt. Williams'—Lerpwl fel y tybiaf—a adnabyddir yn awr wrth yr enw Robert H. Williams (Corfanydd)—awdwr 'Dymuniad' er y gwedir hynny gan rai. Y mae un dôn hefyd yn y Caniadau gan R.W.'—p'un ai Robt. Williams, Rhydymain, neu beidio, nis gwn. Os ganddo ef y mae 'Eliseus' (heb enw) yn yr un llyfr, y mae iddo groesaw iddi!
"Cofion goreu, yr eiddoch fyth fel arfer,
D. EMLYN E.
Fel enghraifft ragorol o'i lythyrau "athrawaidd," yn dangos gwirionedd yr hyn a ddywed Mr. Harry Evans, "y cymerai y drafferth fwyaf oedd fodd i roi'r cyngor a'r cyfarwyddyd goreu" i'r efrydydd ieuanc, da gennym allu rhoddi'r llythyr a ganlyn o'i eiddo at Mr. Tom Price, yn yr iaith yr hysgrifennwyd ef ynddi:—
Hereford,
March 25/91.
"My Dear Price,—I am always glad to do what little I can for a brother in mental adversity—a brother I say, for are we not all, i.e., all of us who seek after the true ideal in spirit and in truth' but members of the one family—veritably children crying in the night for more light.' Well, blessed is he that seeketh after truth, even if he succeed not wholly! I think the only advice I can give you re judging your own writings, is:—produce them in the first instance as quickly as you may, at 'fever heat' if you like and can; then lay them by for as long a time as will enable you to return to them in a critical mood—in 'cold blood,' when you will probably find some, or some portions will want burning, others amending or remodelling, and perhaps few others remain as they are a 'joy for ever.' I found that course to pay myself, and I find myself more and more disposed to it, now that my natural dislike to letting anything out of my hands, unless I am, comparatively speaking, satisfied with it, grows on me more and more also. I know that one of our composers, when he finds the afflatus on him, goes to his binder and orders a certain no. of volumes of music paper to be done up, and then proceeds forthwith to fill them up, orchestra and all, putting anything and everything in, be it 'flesh, fowl or fish,' ancient or modern, original or quoted, and we know the result—a great deal of clever and talented work, but unequal, and not the very best he could and should produce. Mozart, divinely gifted in this direction, was the only one we know of who could do this and afford it, but because he could, it is no reason why Tom (ahem! I don't mean that 'personal') Dick or Harry should. We know how Beethoven worked his notebooks shewing us what immense 'capacity for taking pains' he had; that even old Handel the giant (but who had some loose ideas on the matter of using other people's stuff) wrote and re-wrote his pieces; and we also know how the author of 'Elijah '—undoubtedly the most finished musician the world has seen—acted as regards his compositions. Your feelings of uncertainty about your own work are not by any means to be deprecated—they are healthy signs and I believe the lines I have suggested will assist you. The real musician, the true aspirant, will never be quite satisfied here—that feeling is for the fool and the mediocrist,
"Re Trinity': reminiscences will occur and it is very often only a question of degree, treatment and connection. I also know—from my own experience that the same, or very similar strains and combinations are suggested independently to different persons. A strain a man might have heard in his youth comes back to him more or less in its entirety in later years; it might be his own then as for that, but how far the world will so acknowledge it is a doubtful question; and it is useless in any case to say, as one has said to me, that he did not know it. . . .
"Some people see mares' nests perpetually in this connection, one of which I consider the Western Mail's reference (I mean their correspondent, the all—knowing Zetus') to a piece in Blodwen ' being an exact copy of one in Rossini's Stabat Mater' they are simply built on the same harmonic bases, which bases are common property. I have also been reminded of a tune of mine in the 'Ail-atodiad' opening with a strain from Sabath,' and so it is when I compare them—only 2 or 3 notes; but when a contrapuntist examines it he will see that it is absolutely original and suggested by the double counterpoint in which it is clothed. When, however, a whole movement breathes of another man's melodies, points, imitations, even absurdities, as a certain Duett (Italian) which was played and sung to me in a Drawing Room in N. Wales the other day did—and whose counterpoints. is found in one of the most popular Duetts in one of our most popular Welsh works—then I say, I would burn every copy of that work with that Duett in it and put it out of sight for ever. The opening strain from Trinity' is partly on a par—every note hits the cadence from a tune well-known for generations. Burn that too my friend!
"That others sin, won't justify our sinning, and to say that original melody is exhausted is nonsense my boy—undiluted nonsense! Mendelssohn might have said the same thing, after Handel and Haydn and Mozart had written, and so had never given us the undying melodies in 'St. Paul,' 'Elijah,' &c. So could Gounod, Dvorak, Sullivan and Cowen now. You are suffering from Wagnerism —same as I did once from Spohrism. Go in for an antidotal dose by studying Mozart and Mendelssohn and Schubert for 6 months; you will then feel despondent—not because no melody can be written evermore, but because you can never write anything like that. That will be healthy despondency and will produce its own reaction. I have often felt in examining your MSS.—and sometimes published works—almost in a temper at your not giving your melodic swing full play. No one can fairly say I am an advocate of melody simply, but I say that the art of Music is like all other arts not made up of some one essential, but of many,—melody undoubtedly being one as, undoubtedly, harmony is another one; the two, however, being still far from making up the whole.
Had I known, I would certainly not have undertaken this 'Ystorm' scoring. Some of the choruses produce very strong effects, but Stephen's habits of thought—melodic and harmonic—are so entirely different to what ordinary Musicians' are, that it is exceedingly difficult to lick them into a satisfactory orchestral shape.
"I have my Cantata Merch y Llyn' lying here unnoticed and uncared for these many months. I have not a moment to spare for it and will not have for some months yet. What will become of it finally I don't know. I have re-written it twice, Vocal and Pianoforte, and have practically scored it, but there is no doubt that I shall un-do or re-do all that once, at least, again, if I am spared. I have had some very pressing orders from London friends, but I shall think twice before burning my fingers with publishing it, or challenging a London verdict —it is better for us and for the 'cause' to begin at home.
'Jenkins writes me to—day that a copy of his David and Saul' is on the way.
"Dyma ddigon o lith am flwyddyn! I only meant to write a few words, but as someone aptly said, I had no time to say them more briefly. Go on and prosper—humbly, diligently, but still confidently, looking up to Heaven, and not to —Bayreuth!
"Byth fel arfer,
D. EMLYN EVANS.
Rhoddir y ddau friwsionyn a ganlyn, am eu bod yn ymdrin—nid, fel yr un blaenorol, â'r dull o weithio gyda chyfansoddi, ond â'r cymhellion i weithio, a'r angen am burdeb cystadleuol a cherddorol. Ysgrifennwyd y blaenaf yn 1887, ynglŷn â Chantawd Mr. Price:—
"Gwyn fyd y rhai' yw eich symudiad goreu yn fy marn i; ond yr wyf yn sylwi fod hwn gennych fwy neu lai yn Anthem Ffestiniog. A ydynt hwy (yn Ffestiniog) wedi trosglwyddo hawlfraint yr Anthem honno i chwi? Os nad ydynt, nid oes gennych unrhyw hawl i'w defnyddio eto, a hyd yn nod os ydynt, cynghorwn chwi i wneud peth fel hyn gyda chynildeb mawr. Yr wyf am i chwi fod uwchlaw pobpeth fo'n sawru o gast (dodge) yn eich gyrfa gerddorol! Chwi wyddoch fy mod yn ysgrifennu hyn o galon gywir, ac o ddiddordeb ynoch chwi, a'r dymuniad i'ch gweld yn un o wir 'Feib y Gân' yn ein hen wlad."
Y mae'r ail gryn lawer yn ddiweddarach (Tach. 1901):—
"Y mae'n hyfrydwch pur i mi i sylwi fel y mae bechgyn teilwng fel y chwi ac eraill a adnabyddais gyntaf yn nydd y pethau bychain, yn mynd rhagddynt ac yn ymddatblygu. Ac y mae yn rhaid i mi ddweyd nad wyf yn deall, o leiaf nad wyf yn gallu gwerthfawrogi y teimlad gwrthwynebol. Nid ydym yn y byd er mwyn ein hamcanion bychain ein hunain, ein hunanfuddiant, ond i wneud ein rhan o waith oreu medrwn, ac yna i roddi lle i eraill; os gallwn helpu yr eraill hynny i fynd ar gynnydd goreu i gyd iddynt hwy, i ni, ac i'r byd. Un a â, ac arall a ddaw' yw'r ddeddf fawr bob amser ac ymhob man—ar y llawr o leiaf; ac fel y mae y tad yn edrych ymlaen i'w fab ddod ar ei ol, felly y dylasem ni edrych at y rhai sy'n codi o'n hamgylch, a'r rhai, mi hyderaf, a wnant eu dyledswydd yn eu tro yn well ac yn effeithiolach na ni."
Dengys y llythyr hwn at Mr. John Price, Beulah, ei ffyddlondeb i'w gyfeillion, yn gudd ac yn gyhoedd:
Awst 28, 1900.
"Anwyl Mr. Price,
Yr eiddoch i law. Yr wyf yn hoffi eich Rhan-gân, ac mi a'i gyrraf ymlaen i Wrecsam mewn amser cyfaddas—y mae Mr. W. M. Roberts yn awr ar ei wyliau.
. . . .Gyda golwg ar Eisteddfod Builth, buaswn yn sicr wedi dweyd pethau llymach, ond nid yw yn ddoeth bob amser i daro'n rhy galed. A oeddech chwi'n bresennol ac yn clywed y 'Proffeswr' gwirion yna? Yn ol un o bapurau Aberhonddu a ddaeth i'm llaw, ymddengys ei fod wedi beirniadu 'Pererinion' Parry. O brin y mae'n deilwng o sylw, ond os gwir hyn, ni buaswn yn ei basio'n ddisylw. Nid yw hanesion newyddiadurol yn wastad yn ddiogel i'w dilyn, ac nid oedd hwn yn hollol glir. Pan y gall ef ysgrifennu rhywbeth tebyg i'r darn uchod—un o oreuon Parry yn fy marn i, ag eithrio'i derfyniad gwan—yna fe fyddwn yn fwy parod i roddi clust o ymwrandawiad iddo.
"Da gennyf fod y Llawlyfr Cynghanedd yn eich boddio.
Gyda chofion a dymuniadau goreu,
"Yr eiddoch yn gywir,
EMLYN EVANS.
Ysgrifenna at Mr. Price dair blynedd yn ddiweddarach:—
"Gyda golwg ar waith, yr wyf yn teimlo ar brydiau yn aml yn wir—nad wyf yn cwblhau ond ychydig; ond yr wyf yn dal ymlaen i 'bwnio arni,' ac, fel y dywed yr hen air, Y mae'n well treulio allan na rhydu.' Daethum yn ol i Gymru gan feddwl cael mwy o hamdden, ond nid felly y mae wedi bod. O'r diwedd, fodd bynnag, yr wyf wedi llwyddo i gael amser i orffen gwaith a ddechreuwyd yn Henffordd—ddeng mlynedd a rhagor yn ol. Cyhoeddir ef yn fuan gan ein cyfaill Mr. Dd. Jenkins."
Cyfeiriad sydd yma at Y Caethgludiad.
Ysgrifennwyd y nesaf at Alaw Ddu, pan ddigwyddasai marwolaeth yn y teulu:—
"Nos Sadwrn.
"Fy Nghyfaill trallodus,—Teimlais o'm calon drostoch y foment y gwelais y llythyr a'r garden ddu—ymylog oddiwrthych; 'dydi aml eiriau' ddim rhyw lawer yn fy ffordd mewn cyfyngderau o'r fath, ond medr un llinell o eiddo Ceiriog gynnwys yr oll:—
Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.
Rhyfedd fy mod tua'r adeg neilltuol hon pan yr oedd eich anwyliaid yn eu poen, yn ysgrifennu darn bychan i gyhoeddiad ar y geiriau tra phriodol sydd ar eich marw—gerdyn:—

Gad—ewch i blant bychain ddyfod attaf fi.
"Chwi welwch fy mod yn y major fel arfer, mediaf gânu yn y minor am yr hen ddaear yma, ond am Grist! am Dduw! ac am Nefoedd! ddaw hi ddim, gyfaill. Wel, y mae eich anwyliaid yn ddiogel, cysured hyny chwi a'ch priod yn eich dygn drallod, a bydded yn obaith i ninnau oll. Gobeithio fod y rhelyw o'r teulu yn gwella, ac yr arbedir chwi eich hun rhag y clefyd hwn a phob clefyd arall am flynyddau lawer.
"Ein cofion a'n cydymdeimlad dyfnaf,
"Yr eiddoch hyd byth,
"D. EMLYN E."
Ac y mae a ganlyn o'i eiddo at Mr. H. R. Daniel, er o ansawdd gwahanol, eto yn dra "cherddorol." Newydd ddychwelyd yr ydoedd Mr. Daniel o daith ar y Cyfandir gyda Mr. Tom Ellis ac eraill:—
Anwyl Mr. Daniel,—Dylaswn fod wedi ysgrifennu atoch amser lawer yn ol, ond y mae gwahanol bethau wedi fy lluddias nad gwerth myned ar eu hol yn awr. Cefais eich cerdyn o Salzburg, yng Ngheredigion—lle y bum i a'r wraig am ryw 5 wythnos ar ol y Rhyl, a Llandrindod, am yn agos i ddaufis. Hoff Salzburg! Wrth weld y darlun o'r Residenz Platz daeth atgofion lawer am yr hên amseroedd yn ol i fy meddwl. Bum yno fy hun; yr oeddwn yn wael iawn fy iechyd ar y pryd—y corph wedi rhoddi i fyny ymron, ond yr ysbryd yn pallu. Bum yn tario yno am ddeuddydd neu felly, yn rhy wael i gerdded; ond er hynny, bum yn prynu sebon yn y ty lle y ganed Mozart; yn ymweled â'r ty y bu yn byw ynddo—dros yr afon; yn gwrando ac yn chwerthin ar ben yr hen greadur oedd yn dangos creiriau y Mozarteum; ac yn yfed y "Mozart-wein " (tebyg o ran blas, a lliw, i faidd sur, o'r hwn y cefais fwy na yfwn am wythnos am ychydig geiniogau): dyna fwy nag a wnaeth Mr. Ellis, Daniel, a'u cwmni yn ddiau! Yr oedd y shanty hwn yn agosaf peth i ryw eglwys, ac am wn i nad oedd rhan ohono yn y fynwent. Pan gyrhaeddais yno, yr oedd yn ganol nos, ac yn noswaith oleu—leuad braf; rhedai fy meddwl o hyd ar ol golygfeydd neilltuol yn Don Giovanni,' prif opera prif feistr y byd. Ar ol myned i'r ystafell wely yn y gwesty, a chodi'r gorchudd oddiar y ffenestr, gwelwn gof-golofn o'm blaen; wel,' meddwn wrthyf fy hun, 'mi dynga i'r trwyn yna unrhyw amser,' a phan ddaeth y bore, gwelwn mai cof-golofn Mozart ydoedd. Meddyliais lawer gwaith wedyn y cawn weld Salzburg unwaith eto, ond bellach, byth ond hynny' raid iddi fod. O! Ie, nid yr Haydn (Joseph) fu yn byw yn Salzburg, ond ei frawd—Michael; cerddor diamheuol o dalentog, ond fod galluoedd uwch awdwr y 'Creation' wedi ei daflu i'r cysgod.
"Wel, digon am Salzburg ar hyn o bryd. Gwnes fy ngoreu i'r cyfeillion yna ynglyn a dewis y darnau cerddorol, er mai amherffaith ydoedd y mae arnaf ofn, gan fy mod oddicartref ar y pryd, ac felly yn analluog i gyfeirio at lyfrau, rhestri, &c. Nid wyf wedi clywed oddiyna ar ol hynny; ond y 23ain yw y dyddiad, onide? Felly byddaf yna D.V.:— os caf gopi o'r rhestr testynau yn y cyf-amser goreu i gyd.
"Gobeithio fod Peredur, ei fam a'i dad, yn iach a dedwydd fel arfer—felly cyfeillion y 'drws nesaf.'
Cofion goreu—mewn cryn frys, Fel erioed,
D. EMLYN EVANS.
Yr oedd yna ochr ysgafn a llawn chware yn aml i'w ohebiaeth â'i gyfeillion. Pan anwyd bachgen i Mrs. Harry Evans, anfonodd Mr. Evans y newydd i Emlyn gan ddefnyddio y frawddeg Handelaidd:—
s: d.d | f.f: f.f | f.m &c.
For unto us a child is born,
ac anfonodd Emlyn yn ol i'w longyfarch gan orffen gyda'r Alaw Gymreig
s|s:—:f|:m:—:r|d;—:l|s1:d &c.
Y Fam a'i baban bach sy'n cysgu
Dibennwn hyn o ddetholiad â'i lythyr at Mr. Jones, Commercial Road, Llundain, pan ydoedd wedi gwanychu'n fawr, a phan symudid i roddi tysteb genedlaethol iddo:—
"Anwyl Mr. Jones,—Gwnes addunedau lawer yw yr ystori yn nglŷn ag ateb eich llythyr caredig ymhell cyn hyn; ond tebyg eich bod wedi deall oddiwrth yr Emlyniaid yn Harringay sut y mae wedi bod yma er's tro; ac felly gobeithiaf eich bod wedi deall hefyd mai y corff oedd yn wan parth ysgrifennu—nid yr ysbryd yr ewyllys. Ychydig iawn fyddaf yn gallu ei ysgrifio ar y tro hyd yn hyn; ac ar ol myn'd trwy yr hyn. sydd yn rhaid ei wneud mewn dull—a hyny'n ddigon dilun yn fynych—mae'r ychydig nerth wedi ei ddysbyddu. Mae y tywydd hefyd hytrach yn milwrio yn erbyn dyn gwan—gwlaw a chymylau tew fynychaf; felly y cetais hi yn C. N. Emlyn, a Ll'd'dod, ac y cawn hi yn awr yma. Caed tipyn o haul ac awyr lâs ddoe; ond heddyw, gwlyb ac oer eto, a galw am dân ar yr aelwyd. Dyma ddydd Eistd. Powys hefyd (yn y Trallwm); a poor Harry Evans ynghanol anghysur pabell wleb yntau heb fod yn rhy iach er's peth amser. Disgwyliwn ef yma yforu.
"Parth y Caethgludiad," y mae pob tebygolrwydd am i mi gymeryd rhan yn y perfformiad awgrymedig wedi ei setlo bellach, i gryn raddau o leiaf. Ac hyd yn oed pe yn fy iechyd arferol, gofynnwn i chwi fy esgusodi, er fy mod yn dra diolchgar i chwi am eich teimladau da. Gwell gennyf fyddai i'r un gafodd y drafferth i ddysgu'r côr gael yr anrhydedd—hynny a fyddai—i'w arwain hefyd yn gyhoeddus. Felly y gwneuthum yn Rhyl; ac esgusodais fy hun i fyn'd i arwain mewn mannau eraill. Bydd Herbert [Emlyn] yn llawn ddigon galluog i wneud cyfiawnder a'r arweiniad o dan unrhyw amgylchiad.
Mewn cysylltiad a'r peth arall, y 'secret': diolch i chwi eto. Bu Vincent[12] yn siarad a mi fwy na blwyddyn yn ol, ond erfyniais arno i beidio gwneud dim ar y pryd. Er hynny bu Dd. Jenkins yma, ac yn Llandrindod y mis o'r blaen yr oedd y 'Governor' a Mrs. Jenkins yn pwyso arnaf i roi ffordd, fel y gorfu imi ddweyd o'r diwedd y gadawn y peth i benderfyniad y cyfeillion yn Llundain.
"Ein cofion unol atoch oll, Fyth yn ffyddlon,
D. EMLYN E.
XXV.
Y DYN.
WRTH ysgrifennu'r Cofiant hwn, bu'n rhaid arnom gyffwrdd nodweddion y dyn a'r cymeriad odditan yr hanes—gan mwyaf yn an-uniongyrch; ond y mae'n rhaid inni'n awr, er mwyn cyflawni'r hanes, gyfeirio at y cyfryw'n fwy uniongyrch a llai digwyddiadol. Dyma ddisgrifiad Mr. E. Jenkins, Gwalia, o'r "dyn oddiallan":—
'Rwy'n gweled yn dy wedd,
Er mor wanychlyd yw,
Fod yn dy gorffyn gwael
Breswylydd cryf yn byw;
Dau lygad gloew clir,
A thalcen lluniaidd hardd,
Ddynoda fod â'u medd,
Yn gerddor ac yn fardd;
A thrwyn—pa drwyn fel hwn?
Mae fel y cwlltyr dur,
Fe duria trwy bob trais
Mewn ymgais am y gwir;
Gwefusau teneu, llym,
Ddwed gyflym air mi wn,
Ond didwyll yw y gŵr
A fedd yr wyneb hwn.
Ar waelod y copi a gawsom gan Mr. Jenkins, y mae ymholiad gan Emlyn: "Ai baedd gwyllt o'r coed yw dy was?"
Dyma ddisgrifiad Miss Braddon ohono yn 1875, yn ei nofel Hostages to Fortune:—
"Daw Mr. Evan Jones, y beirniad, ymlaen i'r ffrynt. Dyn bychan a bywiog yr olwg ydyw, tywyll a chraff ei wyneb, a thalcen nid amhroffwydol o fri dyfodol. Dwg len o fiwsig yn ei law, ac yn hon, â manylrwydd didrugaredd, y mae wedi nodi gwallau'r corau cydymgeisiol. Sieryd yn gryno, a chyda math o irony natur dda, nid an-foddhaol i'r dorf, pa mor chwerw bynnag y gall fod i'r ymgeiswyr a feirniada."
Arferai ei fam ddweyd, gyda theimladau cymysg o ofid a balchter, ei fod pan yn ieuanc mor goch a'r rhosyn, ac mor syth a saeth. Ond yn anffodus, darfu i ddamwain drwy chware gyda'i ewythr daflu ei ysgwydd allan o'i lle, ac ymddengys na fu'r meddyg yn hollol lwyddiannus i'w chael yn ol. Mewn canlyniad i hyn, aeth i'r arfer pan yn derbyn sypynau o frethyn o'r silffoedd uchaf yn Siop y Bont, o wneuthur osgo neilltuol er mwyn osgoi'r boen a gynhyrchid yn yr ysgwydd gan y pwysau. Y diwedd fu i'r ysgwydd a'r war ymsefydlu mewn ymgyfaddasiad annaturiol, a barai i'r ysgwydd ar yr ochr dde ymgodi'n fwy a mwy gyda threigliad amser, ac i'r rhannau tan yr ysgwydd wasgu i mewn ar y cylla gan beri annhrefn yno trachefn. Yr oedd hon yn un o groesau'i fywyd, ac yn achosi cryn lawer o'i boenau corfforol hefyd yn ogystal a phoen meddwl. Oherwydd hyn, ynghydag effeithiau ei orlafur yn Cheltenham, fe gollodd ei wrid a'i sythdra. Bychan o gorff fuasai ar y goreu; ond diau ei fod yn un o'r rhai mwyaf byw a fu erioed: yr oedd ganddo ffynnon o ddurwch a barhâi i fwrlymu a llifo drwy bob anhwylder ac ing. Yr oedd hyn yn syndod i'w gyfeillion, ac i'w feddygon hefyd. Nid pwnc o iechyd ydoedd, yn yr ystyr arferol, nac o benderfyniad chwaith. 'By rights you ought to have been dead long ago,' meddai'i feddyg—gyfaill wrtho unwaith. He has enough spirit for the parish' ebe un arall. Yr oedd mor llawn o'r peth byw sydd yn gwrthweithio'n erbyn pob amgylchoedd anffafriol—naturiol a chymdeithasol—fel y dywedai ei briod adeg ei farw ei bod yn amhosibl credu ei fod wedi mynd—'wedi rhoddi i fewn i'r gelyn olaf.'
Dangosai'r vitality hwn ei hun mewn gweithgarwch diball, nid yn ystod ei flynyddoedd cyntaf yn unig, ond wedi iddo adael Cheltenham am y Drefnewydd. Dyna dystiolaeth Mr. Wheldon amdano yno—"he made things hum." Mewn gair, er iddo ddechreu dioddef yn Cheltenham, ni ddysgodd gynhilo ei adnoddau nerfol hyd ei flynyddoedd olaf. Yn ffodus, medrai, ar brydiau, gysgu'n dda, fel ag i adgyflenwi ystordy'r nerfau; onibâi am hyn, a'i allu i ymroddi i gwmniaeth a difyrrwch o wahanol fath—buasai wedi treulio allan lawer yn gynt.
Fel celfyddwyr yn gyffredin, meddai ar deimlad—rwydd byw iawn. Parai hyn lawer o brofedigaethau iddo'n ddiau yn gystal ag o bleserau uchel. Ymdrechodd ei reoli, a llwyddodd i wneuthur hynny fel y treiglodd y blynyddoedd. Ond yr oedd yn achlysur llawer mwy o bleser iddo nag o boen. Parai ei deimladau a'i serchiadau byw y tu allan i Gerddoriaeth hyd yn oed—fod yna fwy o heulwen a glesni nag o bruddder a tharth yn ei awyr. Yr oedd "ffrydiau'i orfoledd yn tarddu o ffynhonnau diball, ac yn glasu glannau anaddawol iawn. Peidied Y darllenydd â thybied mai bywyd llwyd a llwm tan chwythad cyson gwynt y dwyrain a dreuliodd—o leiaf, gwybydded fod lliw blodau yn gymhleth â'r llwydni, ac "awel fwyn y dehau" yn chwythu'n aml, aml. Yr oedd cartref, a chyfaill, a chân, a chenedl, natur fawr a'r Uwch-naturiol mwy, yn gwneuthur bywyd yn werth ei fyw ar waetha'r llescedd corfforol.
Ceir enghraifft dda o allu ymadferol ei natur, ac o barodrwydd ei ysbryd i orchfygu a gorlifo llescedd y cnawd, yn yr hanesyn a ganlyn gan Mr. Dd. Jenkins:—
"Côf genym am dano yn wael iawn yn y Gwesty yn Aberystwyth, ac iddo anfon am danom, ac aethom ag ef yn araf iawn ar hyd y grisiau i'w ystafell, ac ar ol cyrhaedd gorweddodd ar ei wely mewn poenau dirdynol; ond wedi ychydig seibiant dyma fe yn ymgomio, ac yn dywedyd,—David, Islwyn is the poet for us,' ac adroddai ddau o benillion Islwyn i'r Angel' mewn llais toredig ac anadl wan,:—
A gaiff fy ysbryd i,
Yng ngharchar defnydd du,
Fydryddu'th hanfod cu,
O Angel rhydd!
A gaiff carcharor tlawd
Trwy rydlyd farrau'r cnawd
Dy wel'd a'th alw'n frawd,
O wlad y dydd!
O'r braidd nad ydyw'n fai
I un sy gymaint llai,
O fewn ei gragen glai,
Dy enwi di!
Myfi mewn cyfyng gell,
A thi yn rhyddid pell
Y tragwyddoldeb gwell,
- Yn Nuwdod fry;
</poem>
yna llesmeiriodd i ychydig gwsg, a meddyliem na chaem ei weled byth mwy: gwelsom ef fel hyn ddwsinau o weithiau fel pe byddai ar ein gadael, ond troai yn ei ol yn sydyn i dir y byw, er llawenydd i ni i gyd."
Credwn mai serchowgrwydd ei natur, hyd yn oed yn fwy na'i arabedd a'i fywiowgrwydd meddyliol, a'i gwnâi'n gwmnïwr mor rhagorol. Dichon nad yw ei gyfeillion i gyd yn gwybod ei fod yn swil wrth natur, ond y mae'n ffaith ei fod pan yn hogyn yn mynd dros y gwrych yn aml i osgoi cyfarfod a siarad â phobl. Ond drwy ymrwbio â'r byd, yr oedd i bob diben wedi gorchfygu hyn, er i'r duedd barhau ynddo yn y dwfn o hyd. Yr oedd yn dra hoff o gwmni cydnaws serch hynny; yn gyflym ar fwrw ateb pert ac i'r pwynt; a bu yn nyddiau ei nerth yn dra meistrolgar mewn dadl. Eto credwn fod Mr. Harry Evans yn gwneuthur mwy na thegwch ag ef yn y cyfeiriad hwn, oblegid, er ei fod yn gryf ar ffeithiau, yr oedd mor chwim ei feddwl a'i air fel y byddai'n iawn dweyd amdano, fel y dywed Boswell am Dr. Johnson: pe digwyddai iddo fethu eich saethu, yr ymaflai ym maril y gwn i'ch taro i lawr.
Yr oedd ganddo ewyllys gref: drwy hon, ynghyd a'r durwch y cyfeiriwyd ato uchod, y gallodd ddal i fynd drwy'r gwaith a gyflawnodd yn wyneb y fath rwystrau. Ar ei gefn yn aml y caffai fwyaf o esmwythvd oddiwrth y boen yn y cylla, a phan ar ei hyd felly, a'i wefusau'n welwlas gan y boen, gwelsom ef yn mynnu ysgrifennu llith ag yr oedd galw amdani. Gwyddom, wrth gwrs, fod hon yn ffordd effeithiol i liniaru poen, os nad i'w orthrechu, a bod Gladstone, yn ol Arglwydd Morley, yn meistroli'r neuralgia drwy fynd i weithio ar Gyllideg yr Aifft; ond y mae eisieu un o ewyllys gref eithriadol i gymryd y ffordd hon o gwbl.
Yr oedd ei gryfder ar yr ochr hon, ynghyda'i wroldeb a'i ymladdgarwch naturiol, yn mynd yn wendid ar brydiau, yn unol â'r egwyddor "too far east is west." Y mae eisieu mwy o gryfder ambell i waith i roddi barn neu ymagweddiad i fyny nag i lynu'n gyndyn wrthynt. Yr oedd yn wrol wrth natur, ond credwn fod yna elfen foesol fel rheol elfen foesol fel rheol yn ei wroldeb, a'i fod yn cael ei ddal i fyny ynghanol cythrwfl, ac yn wyneb bygythion, gan y waedd ei enaid, yr hon a esyd mewn geiriau yn un o'i lythyrau: "Ond OND! Cyfiawnder a saif!" "Fu dim ofn dyn erioed arno," ebe Mr. Jenkins, "yr oedd y cryfaf ei nerve y deuthum i gysylltiad ag ef erioed. Ar ol cystadleuaeth galed, a'r corau'n berwi gan eiddigedd at eu gilydd weithiau, a'r excitement yn fawr, cerddai drwy y dorf ar ol darllen beirniadaeth ddeifiol ar rai ohonynt heb ofn na phryder; er mai bychan ac eiddil oedd o ran corff, eto yr oedd ei nerve fel steel."
Yr oedd iddo gynheddfau meddwl cryfion, a phe'i ganesid yn ddiweddarach, neu pe'r euthai am gwrs o addysg, gallasai raddio'n rhwydd yn y Gwyddorau a'r Celfyddydau yn gystal ag mewn Cerddoriaeth. Yr oedd yn ddarllenwr mawr, ac yn wleidydd craff; ond ei faes mwyaf cydnaws tu allan i Gerddoriaeth oedd Llenyddiaeth a Hanes. Nid oedd ei wybodaeth o Wyddoniaeth boblogaidd agos gymaint ag eiddo'i dad; ond credwn mai'r rheswm am hyn oedd ei gariad at drylwyredd. Meddyliai fwy am uchter a dyfnder nac am led mewn gwybodaeth. Yr oedd yn feistr ar ei gangen ef ei hun, ac yn well ganddo er mwyn hyn gyfyngu ei hunan mewn canghennau eraill. Yr oedd anian y specialist yn gryf ynddo.
Dywedwyd digon eisoes am ei gariad at drylwyredd, ac astudiaeth galed, a dyletswydd y cerddor i wneuthur ei oreu gyda'i waith,—nodweddion a'n harwain at ochr foesol ei fywyd. Gwyddom fod yr artistic temperament yn aml yn ddiffygiol mewn nodweddion moesol cryf. Er fod Emlyn, mewn ysgrif ar "Anfoesoldeb Cerddoriaeth," yn gwadu hyn, y mae yn ddiamheuol wir fod y celfyddwr yn aml yn cael ei gymryd i fyny gan ei gelfyddyd—ffrwd ei gariad yn rhedeg mor chwyrn i un cyfeiriad—nes peri ei fod naill ai'n diystyrru gofynion eraill, neu ynteu'n amddifad o'r gallu i'w canfod. Ond cafodd Emlyn ei gynysgaeddu â greddfau moesol cryfach na'r cyffredin,—yn neilltuol ar ochr gonestrwydd masnachol ac anrhydedd a ffyddlondeb cymdeithasol. Nid oedd dim a âi'n "dân ar ei groen "—a than ei groen hefyd, —fel ymgais i wyro barn, neu lygru sedd y beirniad; ac nid teimlad myfiol mo hyn am fod rhywrai'n ceisio ei brynu ef, canys cynheuai'r fflam yr un mor ffyrnig pan geisid prynu barn ei gydfeirniaid.
Dengys y dyfyniad o'i lythyr at Mr. Tom Price mor bur y mynnai i'r cystadleuydd hefyd fod. Yr oedd ynddo ormod o onestrwydd anrhydeddus hefyd i dynnu gwifrau, enwadol ac arall, i dreio sicrhau swydd iddo'i hun: y mae'n debig yr edrychai ar hyn fel math ar lwgrwobrwyo, am ei fod yn ymyrryd â barn pwyllgorau. Eu ffydd yn ei onestrwydd a'i anrhydedd a barai fod pwyllgorau Eisteddfodol yn aml yn ei gyflogi yn gynghorwr cerddorol iddynt. Nid un mohono ef i gymell ei nwyddau ei hun ar draul bychanu neu ddiystyru'r eiddo eraill. Ni fu'n euog erioed o dreio codi hwyl â'i donau ei hun yn y Gymanfa Ganu—nac o geisio marchog i boblogrwydd gyda'r dorf ar gefn unrhyw dôn hwyliog. Ac fel na fynnai wneuthuY Cerddor iaeth yn eilbeth i hunan—ogoniant, ni fynnai ei gwneuthur ychwaith yn is—wasanaethgar i hunan—elw. Gwnaeth lawer iawn o waith am ddim, neu am dâl bychan. Ar y llaw arall yr oedd yn anrhydeddus yn ei berthynas ag eraill. Ysgrifenna'r Prif—fardd Dyfed ato:
"Goddefwch i mi, heb ddim sebon, ddweyd fod mwy o anrhydedd yn perthyn i chwi nag i neb o'r cantwrs yma. Yr wyf wedi gwneud 'peth wmbreth' o ganeuon o bryd i bryd, i wahanol bersonau, y rhai sydd wedi cyfansoddi cerddoriaeth arnynt, ac yr wyf yn disgwyl tâl ardderchog yn adgyfodiad y rhai cyfiawn.' Y mae y ffaith hon yn peri fod eich llythyr sylweddol wedi disgyn arnaf gyda graddau o syndod boddhaus a minnau wedi arfer pesgi mor dda ar ddiolchiadau yn unig."
Ac ebe Tafalaw:
"Yr wyf yn diolch i chwi yn fawr iawn am eich Tônau (6) ac yn arbennig am eich haelfrydedd; y mae mor wahanol i'r 'boys' eraill sydd nid yn unig yn gofyn tâl am eu Tônau, ond hefyd yn gwneud sylwadau mean."
Dengys yr hanesyn a ganlyn gan Mr. Tom Price gydymdeimlad sylweddol Emlyn â cherddorion ieuainc:—
"Ar ddechreu fy ngyrfa gerddorol, ac ar y pryd mewn angen mawr am arian, gwelais hysbysiad Eisteddfod Llangurig yn cynyg gwobr am Ran—gan ar unrhyw eiriau. Anfonais gyfansoddiad i fewn, heb anfon enw priodol dan sel, na gofalu am gynrychiolydd. Ymhen ychydig gwelais yn Y Faner fod y Rhan—gan wedi ei dyfarnu yn oreu; ond am nad oedd y buddugwr ddim wedi llanw yr amodau uchod, penderfynodd y pwyllgor roddi y wobr i'r ail oreu, pa un oedd yn aelod o'r pwyllgor. Ffromais yn aruthr, a'r noson honno, ail—ysgrifennais y miwsig, ac anfonais ef i Emlyn, er mwyn cael ymddangos yn Cronicl y Cerddor (Treherbert). Ymhen yr wythnos cefais garden yn gofyn fy mhris am y cyfansoddiad; yna adroddais yr helynt uchod, ac er fy syndod cefais lythyr maith oddi—wrtho yn adrodd triciau cyffelyb ynglyn ag ef ei hun; ond diwedd y llythyr oedd yn fiwsig i mi, oherwydd yr addewid i roddi yr un faint a'r wobr yn dâl. Dyna y llythyr cyntaf a gefais oddiwrth Mr. Emlyn Evans, a dyna y tro cerddorol mwyaf caredig a gefais erioed yn fy mywyd."
Yng nghwt hyn edrydd Mr. Price hanesyn arall—"er mwyn amrywiaeth," gallwn feddwl,—a throsglwyddir ef i'r darllenydd yn yr un cysylltiadau, er nad yw'n egluro'r arwedd ar gymeriad sydd dan ein sylw'n awr:—
"Anfonodd ataf ryw dro am ysgrifennu tôn i'r Salmydd Cynulleidfaol. Anfonais dôn gyda'r troad; ond er galar i mi, cefais nodyn yn ol yn fy hysbysu os na allwn ysgrifennu gwell tôn na honno, am adael y grefft yn llwyr ac am byth—eto yn crefu am i mi wneyd un cynnyg arall."
Diau mai ei gasbeth, yn nesaf at anonestrwydd, oedd pob math ar hunandyb—bombast, coegni, mursendod a choeg—ymddangos. Nid oedd hyn yn ddiau ond ffurf ar ei gariad at y gwir a'r gonest. Yr oedd yn caru naturioldeb a symlrwydd mewn cerddoriaeth a llenyddiaeth, ymddygiad a gwisg, ac ysgrifennodd lawer ar hynny. Nid oedd ganddo wrthwynebiad i deitl, yn ei le; gwyddai ei werth, a cheisiai roddi iddo ei le yn ol ei werth; ond am y chwydd a'r gwyntowgrwydd sydd yn aml tu yn llechu tu cefn iddo, cashai hwnnw â châs perffaith. Ebe fo, wrth ysgrifennu at yr Athro Jenkins:—
"As to the 'Gowns,' I dont think I quite made it clear that my tilting is not against their bona fide use; for instance, it is quite right and proper that you or any other genuine Mus. Bac., or Mus. Doc., should wear them in an official capacity. But to put 'em on anywhere and everywhere; private photos, title pages of Music, &c., is but to play the mountebank—the 'ffwl pen ffair."
"I know nothing of this —man, but we draw the line at the American 'Professor' business anyhow he will have to put up with the plain British 'Mr.' as usual. It is amusing to note how the Yankee who professes to disdain the usual European courtesy title of 'Mr.', 'Monsieur', &c.; yet dubs any and every little singer, &c., 'Professor,' just as some of our people hanker after the same—freely used by Boxing masters, Sleight—of—hand men, &c., and our women after 'Madame '—à la circus riders, court milliners, &c." Gall yr un ysbryd coeg a foppish ddangos ei hun o bob tu i'r teitl—mewn gwisg ar y naill law a chyfansoddiadaeth ar y llall. Ynglŷn â'r blaenaf, dyfynna eiriau Syr Frederick Bridge wrth annerch Coleg y Drindod, Llundain: "Os ydych i lwyddo yn eich proffeswriaeth, rhaid i chwi roddi eich holl egni at hynny fel dyn—fel dyn, meddaf, am na adewch iddi beri i chwi ddod yn goegyn aesthetig a hirwallt." Ac am yr olaf, dywed nad oes yna "unrhyw rinwedd neu brawf o dalent mewn ymddangos yn hynod, pa un ai mewn gweithred, mewn gwisg, neu mewn gwedd,' . . . Mae y byd cerddorol y dyddiau hyn fel pe mewn gwewyr rhyfeddol i esgor ar rywbeth fydd yn wyrthiol o newydd, o anghyffredin, neu anghyfath; gyda'r canlyniad nad yw y mwyafrif o'r hyn gynhyrchir namyn anferthion cerddorol na enir ond i farw yr un foment." Ac wrth y "beirdd ieuainc" dywed: "Fy mhlant i, cyfansoddwch yn syml, mewn iaith a meddyliau agos atom—iaith y werin—gadawer y geiriau boliog ar ol i'r talcen slip, megis addien, rhaiadrawg, ffurfafenawg, taranfolltawg a'r cyffelyb."
Gyda golwg ar ei grefydd, ceisia rhai ei wneuthur yn fwy o Gristion nag ydoedd a rhai yn llai. Clywsom un o'i gyfeillion yn dweyd fod un a allai ymgolli fel y fo mewn mawl ac addoliad cerddorol yn mynd i mewn i'r cysegr santeiddiolaf. Ond anghofia'r brodyr cerddorol a sieryd felly mai nid drwy "ddawn" yr eir i mewn i'r Cysegr hwnnw, ond drwy aberth a ffydd, yr hon sydd yn weithgarwch o eiddo'r ewyllys yn ogystal. Dylasai'r mawl a ddyry'r lle canol i Dduw yn y gwasanaeth, fod yn gymorth inni roddi'r orsedd iddo yn y galon a'r bywyd, ond ni olyga hynny ynddo'i hun, am nad yw ond gweithgarwch yn y dychymyg. Gwir mai nid mater o gydnabyddiaeth gerddorol yn unig oedd ei gydnabyddiaeth o Dduw yr oedd yn eithriadol o ffyddlon a phur mewn materion o argyhoeddiad—uwchlaw budr-elw a myfiaeth, a hynny nid yn achlysurol yn awr ac yn y man, ond fel mater o egwyddor; ac wedi rhoddi ei hun ar allor gwasanaeth i gerddoriaeth a'r genedl. Ond gormod yw dweyd iddo ymgysegru i Grist a'i Groes fel y gwnaeth i'w gelfyddyd; fod Gweddi'n cael cymaint a chan uched lle a'r Gân yn ei galon a'i fywyd; a bod ei natur o ganlyniad mor fyw i apeliadau Santeiddrwydd a Chariad Duw ag ydoedd i wawr a chysgodion cerddorol. Pe buasai wedi byw'n fwy cyson yn awyrgylch y "Cysegr Gwir" hwnnw na fedr Cerddoriaeth wneuthur mwy nag awgrymu ei wynfyd a'i ogoniant, buasai wedi dod o hyd i ddisgyblaeth ysbryd mwy cyfartal i ddisgyblaeth ei ddawn gerddorol. Y pwynt a bwysleisiwn yw mai nid gwerthfawrogiad cerddorol—na deallol, bid siŵr—yw'r un mwyaf real a mewnol o Dduw; er y caniatawn fod ei werthfawrogiad moesol ef ohono, a'i ffyddlondeb ymarferol iddo, yn uwch nag eiddo naw o bob deg o'r rhai sydd yn arddangos mwy o grefyddolder nag a ddangosai ef.
Eto, nid iawn dywedyd ei fod yn ddibris o foddion crefydd mor bell ag y mae hynny'n wir, y mae'n fwy o'i du nag ydyw yn ei erbyn. Y gwir yw na allai ddioddef ffug a ffurfioldeb, "pwnio arni" a dyrnu gwellt. Nid byth y collai gyfle i wrando pregethwyr fel Evan Phillips, Castellnewydd. Eto ymddengys fod bywyd y commercial traveller, awyrgylch y gwesty, y treulio'r Sul mewn mannau gwahanol, ac yna ffurfioldeb oer y gwasanaeth yn yr Amwythig a Henffordd, wedi ymyrryd â'i grefyddolder os nad â'i grefydd. Pan aeth i'r Drenewydd yn 1870, yr oedd yn ffyddlon i ffurf crefydd ei dad a'i fam, ac yn ddigon o Gristion i fynd i'r capel bach Cymraeg, ac nid i'r capel Saesnig mwy coegwych. Ond o'r pryd hwn hyd ei ddychweliad i Gemmes ni fu ei gysylltiad â'r capel yn un cyson na defnyddiol, a'i brif "foddion gras" ar y Sul—ac eithrio Suliau'i ymweliadau â Chymru yng Nghastellnewydd, &c.,—oedd Cerddoriaeth. Ni adawodd ffydd ei dad a'i fam; ac ni wyddom iddo erioed gael ei flino gan amheuon. Teimlai ddiddordeb, er nad diddordeb dwfn iawn hwyrach, mewn symudiadau crefyddol a diwinyddol; ac y mae'n gof gennyf i mi—yn nyddiau'm "diwinyddiaeth newydd"—ddweyd wrtho fod goleuni newydd yn dod a datblygiadau newydd yn digwydd o hyd, a chael yr ateb swta: "The old is good enough for me." Eto nid yw glynu wrth athrawiaeth yn dwyn dyn i gyfathrach â'r ysbrydol—dichon ei fod yn help i'w gadw rhag mynd ar grwydr. Caffai ef y gyfathrach hon drwy gerddoriaeth; daliodd hon yn fyw drwy'r blynyddoedd, a phrawf o'r ffaith ei bod yn mynd yn fwy cryf ac effeithiol yw ei fod wedi cyfansoddi ei donau goreu yn rhan olaf ei arhosiad yn Lloegr cyn ei ddychweliad i Gymru. Ac ar ol ei ddychweliad i Gemmes, elai i gapel bach Nebo yn Cemmes Road nes iddo fethu, a chanai'r harmonium yno. Nid yn unig hynny, ond yn ol tystiolaeth un o'r hen frodyr yno (Evan Evans, sydd yntau wedi blaenu erbyn hyn) mynych y gofynnai i hwnnw, ar noson o haf, a ddeuai i lawr i'r cwrdd gweddi i Nebo. Gwir fod y canu oedd yno—a rhai o" saint ddiadell—yn gosod croes go drom ar ei ysgwydd wan; ond gallai ddal y cwrdd gweddi ar y cyfan yn well na "chlebar" y seiat, pryd y teimlai fod rhai yno'n treio "gwneud siarad"—un o'r pethau atgasaf gan Emlyn.
Dengys yr Anerchiad a ganlyn farn. ei gyfeillion amdano:—
"Ar ran lluaws o'ch cyfeillion (ac yr ydym yn ei ystyried yn anrhydedd i gyfrif ein hunain yn eu plith), y rhai sydd yn cynrychioli pob dosbarth o'ch cydwladwyr sydd wedi enwogi eu hunain mewn cerddoriaeth neu lenyddiaeth, ac yn cymeryd diddordeb yn lledaeniad diwylliant cerddorol yn y Dywysogaeth, a datblygiad adran gerddorol yr Eisteddfod Genedlaethol, dymunwn arnoch dderbyn y rhodd fechan hon o 500 gini fel arwydd o'n parch dwfn, a'n serch, a'n gwerthfawrogiad o'ch gwasanaeth cyhoeddus pwysig i Gymru. Llafurus ac ymdrechgar fu eich holl yrfa, a hynny yn wyneb poen a gwendid corfforol eithriadol yn fynych, ond dewr a di-ildio fu eich ysbryd drwy yr holl anawsterau. Clir a phendant fu eich neges fawr i'ch cydgenedl yn yr hyn sydd uchaf a gwerthfawrocaf mewn cerddoriaeth a llenyddiaeth ac yn ein bywyd a'n cymeriad fel cenedl. Mae eich cyfansoddiadau cerddorol yn parhau yn eu swyn a'u prydferthwch. Nodweddir eich ysgrifau a'ch beirniadaethau gan annibyniaeth meddwl, eglurder, a mynegiad miniog ac ergydiol, sydd yn foddion i'n harwain a'n goleuo, a phryd bynnag yr atgofir eich dewrder digymar, gwasanaetha fel esiampl ac ysbrydiaeth i ni.
Bydded i'ch nawnddydd gael ei oleuo a'i felysu gan yr ymwybyddiaeth eich bod wedi sicrhau lle cynnes ac annwyl yng nghalonnau eich cydwladwyr. Yr ydym ni, a'ch cyfeillion sydd yn absennol ac a gynrychiolir yma heddyw, yn llawenhau yn y cyfleustra i ddwyn tystiolaeth o'n rhwymedigaeth a'n cyfeillgarwch, a'n hanwyldeb tuag atoch."[13]
Cyflwynwyd yr anerchiad hwn gyda thysteb o bum can gini iddo yn Gwalia, Llandrindod, Rhagfyr 1907; a daeth cynrychiolaeth dda o'i gyfeillion o Dde a Gogledd ynghyd ar yr amgylchiad. Er iddo wrthod caniatau i'w edmygwyr symud yn y mater am gryn amser, diau i'r arwydd hwn o'u serch a'u hedmygedd fod yn galondid iddo am fwy nag un rheswm. Yr oedd yn amlwg erbyn hyn ei fod "mynd ar i lawr" o ran y bywyd naturiol, ac wedi cyrraedd "rhosydd Moab" yr hen bobol. Dengys y llythyr olaf a ddyfynnwyd fod arno ofn y gaeaf: yr oedd ei galon yn wan, a'r gwaed yn rhy lesg i wrthweithio'r oerfel. Ac felly y bu hyd y diwedd. Mewn llythyr o'i eiddo y flwyddyn ddilynol i'w gyfaill Mr. Tom Jones, Y.H., Abertawe, cwyna'i fod wedi ei ddal am fis gan chill yng Nghastellnewydd, a'i fod, wedi cyrraedd Cemmes, yn rhwym i'w ystafell am lawer wythnos. "My Christmases at home have been very few these many years, but this year I have had perforce to deputise what engagements I had made to other friends."
Eto âi oddiamgylch yn yr haf i rodio'r hen lwybrau (er nad mor bell a chynt); i ymweled â chyfeillion; ac i feirniadu mewn Eisteddfodau. Ond yn y rhain, yr oedd yn aml yn rhy wan i draddodi beirniadaeth. Yr Eisteddfod Genedlaethol olaf y bu ynddi oedd un Caerfyrddin yn 1911 (ac yn rhyfedd iawn yr un gyntaf bu ynddi oedd un Caerfyrddin yn 1867). Yr oedd yn rhy wan i draddodi beirniadaeth yn hon. Elai mewn cerbyd i'r Eisteddfod—bellter hanner milltir, ond cerddai'n ol ond cael help braich cyfaill.' Yr oedd yn dra hapus ac yn ddigon bachgennaidd i lawenhau yng ngwaith Siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin yn curo Morgannwg yn y cystadleuaethau corawl, ac i fwynhau ysmaldod ei ffrindiau fod Côr Castell-newydd wedi ennill am mai cefnder iddo oedd yn arwain, a nith yn cyfeilio!
Pan yn rhwym i'w dŷ, treuliai ei amser yn dra dedwydd a difyr gyda'i waith: os yr un, yr oedd yn fwy balch na chynt o weld ei gyfeillion yn galw. Ond yr oedd y nychtod a'r boen yn fwy, ac yn mynd yn fwy. Eto, ni roddai i fewn iddynt. Aml yr ysgrif—ennai ei lythyrau ar ei gefn ynghanol yr ing mwyaf. Parhâi i ysgrifennu i Y Cerddor a'r South Wales Weekly News yn dra chyson hyd yn agos i'r diwedd, a gwnaeth gryn lawer o waith golygyddol cerddorol yn ystod y blynyddoedd hyn, megis golygu'r Gem Selection o Alawon Cymru gyda Mr. Tomlyn, Mus. Bac., i Valentine & Sons (1907), a'r Treasury of Welsh Songs i Curwen (1909).
Ond hawdd gweld fod yr ynni naturiol yn cyson dreio, ac y byddai'r traeth heb don na murmur yn y man! Yn Hydref 1912 yr oedd arno awydd eithriadol i ymweld â'i fro enedigol a thŷ ei chwaer—eithriadol, am yr hoffai fynd yno bob amser. Cyn iddo allu mynd, gerwinodd y tywydd er mawr siom iddo ef a siom mwy i'w ffrindiau. Ond ni roddodd ei fwriad i fyny. Buwyd yn meddwl cael modur i'w gludo, gan gymaint ei hiraeth am fynd. Credai'n sicr y ceid tywydd gwell, a thipyn o des cynnar a mwynder yn Chwefrol. Daeth y tes a'r mwynder, ond ni ddaeth y nerth i'gymryd y daith fel y dis—gwyliai: aeth i'w henfro ac i dŷ ei chwaer yn ei arch.
Yr oedd yn dra hoff o rai o'r llinellau a ganlyn:—
Ar ddolau Glan Teifi mae 'falau prin Mai,
Ar ddolau Glan Teifi mae eirin a chnau,
Ar ddolau Glan Teifi mae rhos o bob rhyw—
Ar ddolau Glan Teifi mae 'nghariad yn byw.
Am ddolau Glan Teifi mae'r gwanwyn yn glaf,
Yn nolau Glan Teifi hir erys yr haf,
Drwy ddolau Glan Teifi daw'r hydre'n llawn lliw,
Ac yno mae eira y gaea'n fwy gwiw.
Ar ddolau Glan Teifi mae'r einioes yn hir,
Ar ddolau Glan Teifi mae henaint yn ir,
Yn nolau Glan Teifi mi hoffwn gael bedd,—
Yn sûon yr afon mi hunwn mewn hedd!
Cafodd yntau ddymuniad y pennill olaf—yr hwn oedd ei ddymuniad ef ei hun,—canys claddwyd ef ym mynwent Llandyfriog, ar lan Teifi, gyda sain cân llu o gyfeillion, oedd fel tyrfa'n cadw gŵyl, Ebrill 24ain, 1913.

Nodiadau
[golygu]- ↑ Mr D. Jones, Van, Llanidloes.
- ↑ Gwêl Y Cerddor ddechreu 1901.
- ↑ 1914
- ↑ 1914
- ↑ Dywed Mr. John Thomas fod llwyddiant un mor ieuanc wedi taro dychymyg y dorf yn Eisteddfod Caerfyrddin fel ag iddi wneud math ar arwr ohono dan yr enw uchod, gan ffurfio'n orymdaith i'r orsaf ar ei ymadawiad â'r dref.
- ↑ Teg yw dweyd i'r swm a dalodd am bartneriaeth, sef £4OO, gael ei dalu'n ôl iddo yn 1910, ond heb lôg.
- ↑ Os nad Gweddi'r Cristion ydoedd.
- ↑ Y mae gan George Macdonald stori "Home Again" yn ymdrin â'r mater.
- ↑ Dr. Gunsaulus.
- ↑ Y mae'n wybyddus erbyn hyn fod nifer mor fechan o Donau ac Anthemau Dr. Parry yn y Caniedydd cyntaf, am na fynnai'r Dr. weithredu fel un o bwyllgor, na derbyn pris y pwyllgor.
- ↑ Mr. W. O. Jones, Merthyr.
- ↑ Syr E. Vincent Evans.
- ↑ Wedi ei arwyddo gan Arglwydd Tredegar, Cadeirydd; Syr Marchant Williams, Trysorydd; Syr E. Vincent Evans, Mr. Edward Jenkins, Y.H., Mr. M. T. Morris, Y.H., Ysgrifenyddion.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1925, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.