Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau/Atgofion Mr John Morgan ''(Rambler)''

Oddi ar Wicidestun
Ei Gofadail Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau

gan John Owen, Yr Wyddgrug

Sylwadau'r Parch. Ellis Edwards, M.A


ADGOFION AM DANIEL OWEN

(Gan Mr John Morgan (Rambler), yr Wyddgrug.)

YR wyf yn cofio'n dda am y tro cyntaf y deuais i gyffyrddiad â fy nghyfaill Daniel Owen, sef mewn cyfarfod Pernny Readings a gynhaliwyd yn y British School-(yn awr y Board School), diwedd y flwyddyn 1869, union ddeg mlynedd ar hugain yn ôl. Yr oeddem ill dau ar y rhaglen i gymryd ein rhan yn y cyfarfod, myfi gydag adroddiad, ac yntau gydag anerchiad. Yr oedd fy adroddiad i yn un ddigrifol, a derbyniais lawer o gymeradwyaeth er mor ynfyted y peth a ddwedais; derbyniodd efe lai o gymeradwyaeth, ond mwy, ynghyd â gwell gwrandawiad. Testun ei anerchiad y noson honno ydoedd, - "The Sisters, the Misses Comedy and Tragedy, their nature and parts. Dangosai mai swydd y ddwy ydoedd addysgu, un trwy lefain "gochel!" ond, a mynd ymlaen y ffordd yna, mai dinistr y llall a amcanai ei ddifyrru a gwneud i ffordd â'i ddiffygion trwy eu chwerthin ymaith, oblegid hyn, Miss Comedy ydoedd y mwyaf poblogaidd o lawer, ac amheuai pa un ai hi ynte ei chwaer ydoedd y ffrind cywiraf i ddyn. Yr ydoedd dyn yn greadur rhesymol, ac am hynny yn un cyfrifol, a da oedd iddo gael ei sobri weithiau. Ai nid oedd cyfarfodydd y Penny Readings yn rhedeg i ormod rhysedd, gan aberthu addysg a phwyll i chwerthiniad heb ddim amcan iddo ond chwerthiniad cildarddach drain dan grochan ? Teimlwn wrth wrandaw fy mod yn myned i le bach iawn, ac ofnwn i neb fy ngweled. Dywedai fod dyn wedi ei eni i'r byd yma i fyw, nid i chware, y cai chware ar y ffordd wrth fynd ymlaen, ond byw oedd amcan ei fywyd; ac wrth fyw i chware yr ydoedd y dyn yn colli amcan ei ddyfodiad i'r byd. Yr un fath gyda mwynhad, nid oedd mwynhad i'w gyrhaeddyd wrth wneud hynny yn amcan bywyd, ond yr oedd i'w gymryd ar y ffordd - i'w gael wrth deithio—wrth i ddyn wneud ei waith, ac i'w gael felly gyda rhyw foddhad ag ydoedd yn ei wneuthur yn werth i'w gael. Wedi'r cyfarfod, dywedais wrtho fod ei anerchiad wedi peri i mi gywilyddio, ac atebai yntau nad oedd wedi amcanu hynny, a rywsut neu'i gilydd dechreuodd cyfeillach rhyngom a barhaodd hyd weddill ein hoes ac ni chyfododd dim trwy gydol yr amser i darfu ar ein cyfeillgarwch. Nis bum yn hir heb ddeall ei fod yn ddyn o gydymdeimlad llydan iawn, ac mor ddwfn ag ydoedd o lydan. Ni fyddai yn arfer a dweud rhyw lawer am ei gydymdeimlad, ond pan fyddai dyn ar lawr, byddai gwasgiad ei law ac edrychiad ei lygaid yn dweud mwy ac yn dweud yn well nag araith o awr o hyd. Nid oedd gwendidau chwaith yn rhwystro dim arno, ond pan welai ddyn yn ymysgwyd ac yn treio codi, rhedai ei gydymdeimlad ato'n fwy. "Mae e' wedi pechu; ydyw, y mae o, ond mae e'n ceisio codi, a throi ei wyneb tuag adref," a dyna oedd yn penderfynu y mater gydag efe. Rhyfedd mor lleied a feddyliai o'r dynion "duwiol dros ben" yma, sydd a'u dwy droedfedd bob amser yn barod i fesur cwympiadau pawb, gan anghofio i'r Arglwydd "ewyllysio trugaredd, ac nid aberth, a gwybodaeth o Dduw, yn fwy na phoeth-offrymau." Llawer a gondemniodd erioed ar y cyfeillion hynny nad rhaid iddynt wrth feddyg, nac edifeirwch, na dim. Ryw fore, pan oeddwn gydag ef yn yr ystafell y tu ôl i'r shop, daeth brawd a adwaenem ein dau i mewn, ac wedi peth siarad, aeth hwnnw at ei hoff bwnc gan ffeindio bai ar y ddiod, tra y gallasent eu rhoddi at achosion da yn gyffredinol, yn enwedig achosion crefyddol, megis yr Achosion Cenhadol a'r Beibl Gymdeithas. Cydolygai Mr Owen â'r brawd yn yr oll a ddywedai, ac wedi gwrando ar y cyfaill yn dweud yr oll oedd ganddo am y wedd druenus yna ar bethau, dechreuai ddweud fod y dirwestwyr, fel y gwyddai pawb, yn nodedig am eu haelioni, ac yn wir, hawdd y gallent fod yn haelionus, gan y gwybyddai bawb nad oeddynt hwy yn gwario dim ar felys-chwantau. Yna gan droi at y silff gerllaw, gofynnai i'r brawd, " Faint ydach chi'n ei roi at yr Achosion Cenhadol ac at y Beibl Gymdeithas?" Estynnai yr Adroddiadau i lawr, a chan edrych ar yr Adroddiadau ai ymlaen i ddweud,—" Wela i mo'ch enw ch'i i lawr am ddim, dim at y Genhadaeth, a'r un faint yn union at y Beibl Gymdeithas." Ymesgusodai y brawd gan ddweud ei fod ef yn dlawd, fel y gwyddai Mr Owen, ac na ellid disgwyl llawer oddi wrtho ef. "Tlawd!" ebe Daniel, " sut y darfu i chwi brynu'r fferm fechan acw, a rhoi saith cant a hanner o bunnau am dani hi, a does mor blwyddyn er pan ddaru i chi brynu'r tŷ 'r ydech chi'n byw ynddo, ac fe roesoch dri chant o bunnau am hwnnw. Dyma enw David Davies o'r ------- yn cael deunaw swllt yr wythnos, a chanddo saith o blant, mae ei enw fo i lawr am hanner coron; gwir fod Dafydd yn cymryd glasied weithiau, a dyna y rheswm pam ei fod yn rhoi hwyrach; ond y chwi, nad ydych yn gwario dimau ar eich melys-chwantau, yr ydych yn rhy dlawd i roddi dim, ac yr ydech chi'n gwario mil o bunnau yn y flwyddyn i chwanegu at eich ystâd ! Yr ydech chi'n grefyddwr hefyd, a 'dydi Dafydd Dafis ddim yn y seiat, hwyrach fod gan hynny rywbeth i wneud â'r cwestiwn!" "Yr ydech chi'n myned yn rhy bell yrŵan, Mr. Owen, cofiwch ch'i beth 'rydech chi'n ei ddeud." "Rhy bell!" atebai Daniel. "Rhy bell a ddeutsoch ch'i, 'rydech chi'n pydru yn eich pres---,"ar hyn, allan a'i gyfaill cynted ag y gallai,—" Dyna," meddai Daniel, "ddaw hwnna ddim yma i ragrithio eto. Mi rois hi iddo yn go hallt hefyd, ond pan aeth i gwyno nad oedd pobl yn rhoi dim at achosion crefydd, gan faint oeddent yn ei gwario ar ddiod, mi gollais i fy amynedd ag e. Ei sort o yn siarad am roi at achosion da !" " Mi es innau yn 'mhellach nag y bwriadwn hefyd." "Ie,"' meddwn innau, "satan yn condemnio pechod oedd yna yn siŵr." Eto, yr oedd Mr. Owen yn teimlo ei fod wedi dweud gormod, a theimlai hefyd fod yna wir yn yr hyn a ddywedai y cyfaill, ond na ddylasid ei ddweud ganddo ef.

Yr oedd rhodres yn ei gynhyrfu yn wastad, a phob ymdrech ar fod yn rhywbeth ar gost rhy w un arall. Nid oedd neb a edmygai haelioni yn fwy nag ef, ond casâi yr hwn a fynnai fod yn haelionus ar gost eraill â chas perffaith. Yr oedd y gau, beth bynnag a fyddai, yn rhwym o'i gynhyrfu. Un tro, daeth yno i'r un ystafell ag y soniais am dani o'r blaen, hen frawd a berchid yn fawr gennym ein dau, ond hen frawd a oedd yn berchen nifer o wendidau, y rhai nis gallai Mr. Owen lai na bod yn llawdrwm arnynt pan ga'i y cyfleustra. Rywbryd yn yr ymddiddan dyma'r hen frawd yn estyn ei droed ymlaen, gan ddweud,—"Does ddim yn well gen i na hen esgid; 'does dim welwch chi'n gwisgo yn esmwythach." Yr oedd amryw o glytiau ar yr esgid, a theimlai Daniel mai awydd i ni weld y clytiau, a chael ei ganmol am ei gynildeb, a barai iddo estyn ei droed a sôn am yr esgidiau; ac meddai, "Ie, mae bod yn ofalus am hen bethau —dillad ac esgidiau—yn beth i'w ganmol yn fawr. Wyddoch ch'i beth, pan af i'n gyfoethog, mi fynnaf innau glytio fy esgidiau." Teimlodd yr hen frawd yr ergyd, ac ebe, "onid yw yn ddiwrnod braf iawn," a heb aros am ateb, ymaith âg ef

Yr ydoedd Mr. Owen wedi ennill enw da iddo ei hun ym marn y cyhoedd, cyn iddo fynd i gadw siop o'i eiddo ei hun, a chyn iddo ysgrifennu llinell o'i nofelau. Yr oedd ei ofal am ei fam ac am ei chwaer hefyd wedi ei anwylo yn meddwl pawb. Daeth adref o'r Bala yn gynt o lawer nag y dylasai, ac yn gynt o lawer nag y bwriadasai unwaith, yn unig am ei fod yn bryderus ynghylch ei fam. Llawer a feddyliodd am dani hi, ac yn helaeth y talodd hithau yn ôl iddo Yr ydoedd yn hynod dyner hefyd o'i chwaer.

Braidd nad wyf yn tybied mai ei afiechyd a achlysurodd ehangiad ei gyhoeddusrwydd. Bu yn sâl iawn, agos iawn hyd farw; yr oeddem oll wedi anobeithio y byddai fyw, a bu llawer o weddïo trosto, ac yr wyf yn cofio, yn arbennig am un bore Saboth, pan oedd yn hofran rhwng byw a marw, fod yna ryw weddi hynod yn cael ei hoffrymu gan weinidog oedd yn byw yng Ngwrecsam y pryd hwnnw, ac o'r dydd hwnnw allan trodd Daniel i wella, a gwella yn raddol a wnaeth hyd nes yr adferwyd ei iechyd; ac yr wyf i wedi bod yn meddwl, byth er hynny, fod ei adferiad yn atebiad uniongyrchol i'r weddi hono, oblegid er mai un oedd yn ei hoffrymu, eto yr oedd yr holl gynulleidfa yn uno yn y gwasanaeth, ac fe'n dysgir mai " llawer a ddichon taer weddi y cyfiawn." Ond, wedi gwella, nid oedd modd i'w gael i'r pulpud, ofnai siarad yn gyhoeddus, hyd yn oed yn ei gartref, a chiliai i'r cefn, y tu ôl i bawb, lle yr arhosodd hyd y diwedd, er pob cymell fu arno. Yr oedd ei afiechyd wedi ei analluogi—neu o'r hyn lleiaf, yr oedd efe yn credu ei fod—i wneuthur dim mwy yn y cyhoedd; aeth yn ddiegni ac yn ddiysbryd, fel yr oedd rhai ohonom yn ofni mai gorwedd i lawr a marw a wnâi dan ein dwylaw. Dyna'r pryd y aeth y diweddar Barch. Roger Edwards ato i'w ysgwyd, ac i geisio ganddo ysgrifennu ychydig i'r Drysorfa. Wedi hir gymell cydsyniodd, a pharatôdd nifer o'i bregethau, y rhai a ddaethant allan dan y teitl o Offrymau Neillduaeth. Wedi dechrau cafodd flas ar y gwaith, ac wedi gorffen y pregethau ysgrifennodd y Dreflan, a hynny hefyd ar gymhelliad Mr. Edwards. Bu yn dweud wrthyf fy hun ei fod dan rwymedigaeth neillduol i Mr. Edwards am ei gymhellion yn gystal ag am ei awgrymiadau. Am a wn i, nad ydy w yr hyn a grybwyllwyd am guddiad ei gryfder yn ddangosiad pur deg ohono, ac yn index cywir o'i garitor. Yr oedd y gallu i ddisgrifio yn amlycach ynddo na'r gallu i ddadansoddi ac i farnu. Yr oedd ei natur unplyg a dioced yn ei arwain yn fynych i gasgliadau, os casgliadau hefyd, a phenderfyniadau na chyfiawnhaid mohonynt gan ddim o'r tu allan i'w fynwes ei hun. Aml iawn y byddai ei deimladau yn rhedeg gan ei gymryd gyda hwynt, tra y byddai ei farn yn gofyn- " Pa le yr wyt ti." Mewn gwirionedd, creature of impulse perffaith ydoedd, ac o herwydd hynny yr oedd ei nerth a'i wendid yn gorwedd yn yr un lle. Hefyd, ac am yr un rheswm, yr ydoedd ei argraffiadau cyntaf , fel rheol, yn debycach o fod yn gywir na'i ail, am y byddai y rhai hynny yn cael dylanwadu arnynt yn eu ffurfiad gan dueddiadau ei feddwl gymaint â chan ffeithiau; yn wir, dyna fyddai yn andwyo ei farn, cymryd tueddiadau yn lle ffeithiau, a gweithredu ar y rhai hynny.

Yng nghanol ei feirniadaeth, a'i ddiffyg barn yr ydoedd yn gymeriad noble iawn, llawn o natur dda ac o gydymdeimlad, gwelai rinweddau yn arall, ogystal â'i golliadau, ac nid oedd dim yn fwy gwrthun ganddo nac un a lawenhâi yng ngwendid eraill, a chaeai â châs perffaith yr un a geisiai ddyrchafu ei hun ar draul tynnu i lawr eraill, ac yr ydym oll wedi gweled rhai felly. Dylwn ddweud, hefyd, fod y disgrifiadau a roddid ganddo yn ei nofelau wedi costio llawer iddo; nid ysgrifennai ond yn afrwydd, ac y mae rhai o'i bethau gorau wedi eu hysgrifennu ganddo lawer o weithiau trosodd[1] a hynny bob tro yn araf iawn, wedi ystyried pob brawddeg drosodd a throsodd drachefn- ond wedi eu hysgrifennu maent agos yn berffaith. Rhaid eu bod yn dda, onide ni fuasai yn gallu ysgrifennu fel ag i ddal i fynnu y ddiddordeb yn ei nofelau hyd y diwedd, oblegid ar ragoriaeth y disgrifiadau y maent oll yn dibynnu. Ni fedrai greu plot, ac nid oes yna yr un plot yn yr oll o'i weithiau, ond dywedai yr hanes yn ddigyffelyb, gan ei fod yn teimlo i'r byw bopeth a ddisgrifiai. Yr ydwyf yn cofio mynd i edrych am dano un noswaith pan ymddangosai Rhys Lewis gyntaf; y noswaith honno, "Seth," mab Thomas Bartley, oedd ganddo; ysgrifennai frawddeg, yna gosodai ei ben ar ei fraich, ac wylai dan ochain dros y lle; ciliais o'r golwg, a deuais yno drachefn, ond cefais Daniel yr un fath, a bu wythnos gyfan cyn gorffen yr hanes rhyfedd hwnnw am Seth a'r capel mawr. Mewn cysylltiad â hyn, dywedais wrtho wedyn fod llawer o golli dagrau wedi bod wrth ddarllen am Seth. "Wel," meddai yntau, "wylodd neb wrth ddarllen gymaint ag y gwnes i wrth ysgrifennu," a chredaf yn sicr bod ei holl greadigaethau wedi eu cysegru, iddo ei hun beth bynnag, trwy ddagrau.

Buasai yn dda gennyf ychwanegu, ond ni chaniatâ gofod, a dibennaf trwy fynegi fy hiraeth am dano a'm hanwyldeb o'i goffadwriaeth—coffadwriaeth sydd eto'n fendigedig yn ei dref enedigol, ac ymysg y bobl a'i hadwaenai orau.

Nodiadau[golygu]

  1. Nis gellir dweud hyn am ei nofelau diweddaf