Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau/Ei Gofadail

Oddi ar Wicidestun
Ei Gystudd a'i Farwolaeth Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau

gan John Owen, Yr Wyddgrug

Atgofion Mr John Morgan (Rambler)


Cofadail i Daniel Owen.

Yr oedd amryw o newyddiaduron wedi cyfeirio at y dymunoldeb o wneud tysteb i'r ymadawedig ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth. Pan y soniodd ei gyfaill llyfr-bryf am hyn, pan yn edrych am dano ychydig amser cyn ei farwolaeth, dywedai, "Mi fyddai i wedi myn'd, yn ôl pob tebyg, cyn y gwneir hynny," ac felly y bu. Ar ôl ei farwolaeth ceid fod yna deimlad cyffredinol dros roddi amlygiad o edmygedd cenhedlaethol ohono. Ar wahoddiad cyffredinol cyfarfu nifer o wŷr dylanwadol, y rhai oeddynt yn cynrychioli gwahanol ddosbarthiadau, yn Nghaerllion, o dan lywyddiaeth Mr. J. Herbert Lewis, A.S. — yr aelod dros Fwrdeistrefi Fflint — a phenderfynwyd gosod i fyny Gerflun o Daniel Owen mewn lle amlwg yn ei dref enedigol, a derbyniwyd amryw o addewidion tuag at yr amcan hwn yn y fan a'r lle, a thrwy lythyrau o wahanol barthau o Gymru. Dewiswyd Mr. Llywelyn Eaton, yr Wyddgrug, yn ysgrifenydd yn Ngogledd Cymru, a'r Parch. J. A. Jenkins, B. A, Coleg Caerdydd, yn ysgrifenydd yn y Deheudir.

Derbyniwyd cyfraniadau oddi wrth bob dosbarth a phlaid yn ein gwlad, ac erbyn dechrau y flwyddyn hon [1] yr ydym yn deall fod yn agos i £300 wedi eu casglu. Penderfynwyd ar Mr. W. Goscombe John, y cerflunydd Cymreig enwog i wneud y gwaith, a thêg yw cydnabod ei fod yntau wedi ymgymryd a'i wneud yn rhad, gan nad oedd y swm a dderbyniwyd ond prin ddigon i dalu am y defnyddiau tuag at wneuthur y cerflun.

Y mae y cerflun, yr hwn sydd mewn pres, yn barod, a gosodir ef i fynnu ymhen ychydig fisoedd mewn lle amlwg yn y dref. Cawn fod pob dosbarth o fewn ein gwlad, " gwrêng a bonheddig," wedi cyfrannu tuag at y gof-golofn. Y mae y Duke of Westminster wedi rhoddi yn rhad y carreg i fod yn sylfaen i'r cerflun. Nis gallwn fynd heibio heb gyfeirio at lafur dyfal yr ysgrifenydd, Mr. Llywelyn Eaton, ynglŷn â'r gwaith hwn.

Er pan yr ysgrifennwyd yr uchod, y mae ysgrifenydd y gofadail, "yntau wedi marw," a hynny heb weled gosod i fynnu y cerflun yr oedd wedi gosod gymaint o'i fryd arno. Yr oedd Mr. Llywelyn Eaton, fel Mr. Daniel Owen, yn un o blant yr Wyddgrug, ac wedi yfed i fesur o ysbryd llenyddol y cyfnod y magwyd ef ynddo.

Nodiadau[golygu]

  1. Sef 1899