Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau/Materion Cyhoeddus a Threfol

Oddi ar Wicidestun
Yn gadael Coleg y Bala Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau

gan John Owen, Yr Wyddgrug

Ei Gystudd a'i Farwolaeth


flaenllaw yn materion gwleidyddol y sir a'r dref. Yn nechrau y flwyddyn 1874 cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Dref i gyd-lawenhau am fuddugoliaeth Syr Robert Cunliffe yn yr etholiad cyffredinol oedd newydd derfynu,[1][2] a phan y caed brwydr dair-onglog ym Mwrdeisdrefi Fflint, yr oedd amryw o brif arweinwyr y Rhyddfrydwyr yn y rhanau hyn o'r wlad yn bresennol, megis Syr George Osborne Morgan, A.S., Mr. Samuel Holland, A.S., Mr. Thomas Gee, ac eraill. Galwyd ar Mr Daniel Owen i anerch y cyfarfod fel cynnrychiolydd y gweithwyr. Nid heb bryder yr edrychai ei gyfeillion arno yn sefyll i fynu mewn lle mor bwysig. Ond aeth drwy ei waith yn dra llwyddiannus. Yr oedd wedi paratoi anerchiad campus, yr hwn a draddodai gyda hunanfeddiant a dylanwad mawr, a'r teimlad cyffredin ydoedd mai efe a wnaeth yr araith orau y noswaith honno, er y gwŷr grymus oedd ar y llwyfan. Testun ei araeth ydoedd "Bonedd a Gwerin ein gwlad." Dangosodd ei ddoethineb arferol yn y dewisiad o'r testyn, ac yn ei ddull yn ymdrin âg ef. Nid aeth i mewn i gwestiynau y dydd, gadawodd y rhai hynny i'r gwŷr mwy cyfarwydd oedd i gymeryd rhan yn y cyfarfod; ond dangosodd berthynas dibyniad y gwahanol ddosbarthiadau ar eu gilydd, a'u rhwymedigaeth tuag at eu gilydd, mewn dull clir a chartrefol, gan wneyd defnydd o'i arabedd a'i ysmaldod chwareus. Teimlodd pawb fod yna ryw elfenau arbenig yn y gŵr ieuanc diymhongar oedd wedi ei fagu yn eu plith. Cymmerai dyddordeb arbenig yn yr etholiadau canlynol, ac er na cheisiodd anerch cynulleidfa yn gyhoeddus, eto gweithiai ei ran gyda'i blaid. Cododd o'i wely ychydig fisoedd cyn ei farw i bleidleisio dros Mr. J. Herbert Lewis. Yr oedd yn Rhyddfrydwr, ac yn Ymneillduwr cryf. Nid oedd ei chwaeth lenyddol wedi oeri na gwanhau dim ar ei zel Rhyddfrydol nac Ymneilltuol. Gellir dweyd am dano yntau fel y canwyd am ei hen feistr, Angell Jones,—

Yr oedd yn bur i'r bôn i'w blaid.

Yr oedd ynddo gydymdeimlad dwfn â'r teimlad Cymreig o'r cychwyn. Ynglŷn â bywyd trefol, yr oedd wedi ei ddewis er's rhai blynyddoedd yn aelod o'r Bwrdd Lleol, a phan newidiwyd y bwrdd hwn i fod yn Gynghor Dinesig, dychwelwyd ef yn anrhydeddus. Yr oedd ei anerchiad at yr etholwyr yn un o'r pethau mwyaf ffel a ymddangosodd yn yr etholiad. Llwyddodd i osod allan deimladau Thomas Bartley mewn ffurf chwaethus a llenyddol. Anrhydeddodd y Cynghor Dinesig ei hun drwy ei ddewis i fod ei gadeirydd cyntaf, ac yn rhinwedd y penodiad hwn gwnaed ef yn Ynad Heddwch. Ychydig o weithiau y gallodd eistedd ar y faingc. Cyflawnai ei waith fel Cadeirydd gyda deheurwydd a natur dda. Er nad oedd yn meddu gwybodaeth fanwl, nac hwyrach yn meddu llawer o flas ar fanion, eto yr oedd ei synnwyr cryf, a'i ysmaldod diniwed yn llawer o gymhorth iddo yn ei swydd. Os nad oedd yn deall yn drwyadl bob mater a ddeuai ger ei fron, gellid bod yn sicr ei fod yn deall ysbryd a nodweddion ei gyd-aelodau yn drwyadl.

Yn ystod y flwyddyn y bu yn ei swydd, sef 1895, dioddefai lliaws o dlodion y dref oddiwrth galedi. Cymmerwyd y mater i fynu gan y Cynghor Dinesig, a phenderfynasant ofyn am gydweithrediad holl eglwysi y dref — yn Eglwyswyr, Ymneillduwyr, a Phabyddion. Cafwyd cynrychiolaeth gyflawn o'r holl eglwysi, a gwnaed trefniadau i gasglu tuag at ddarparu lluniaeth i blant tlodion y dref — llawer o ba rai a ofnid oedd mewn eisiau. Llywyddid y pwyllgor a benodwyd i ofalu am hyn gan Mr. Daniel Owen, fel cadeirydd y Cynghor Dinesig. Trwy ei fedr a'i natur dda yn benaf llwyddwyd i gael cydweithrediad hollol, a daeth cynrychiolwyr y gwahanol eglwysi i adnabod eu gilydd yn well. Profodd ei adnabyddiaeth drylwyr o'r dref a'i thrigolion, gwyddai am enw, ïe, llysenw y cymmeriadau y gwneid ymholiad yn eu cylch, a bu hyn, ynghyd â'i fedrusrwydd i roddi olew ar olwynion y peirianwaith, yn fantais arbenig yn y cyfwng hwn.

    1. hwn ##
    2. far ##

Ei Gystudd a'i Farwolaeth

Yr oedd yn amlwg fod ei iechyd yn gwanhau ers dros flwyddyn; ond rywfodd, nid oedd hyn yn peri pryder i'w gyfeillion, yr oedd wedi bod i raddau yn wanaidd ei iechyd er's blynyddoedd. Pan ffurfiwyd y Cynghor Dinesig gyntaf, ac y ceisid ganddo fod yn gadeirydd, teimlai yn anhueddol i gydsynio, o herwydd sefyllfa ei iechyd, ond cymmerodd ei berswadio, pa fodd bynnag, i gymmeryd yr anrhydedd a gymhellid arno gan deimlad cyffredinol yr holl dref, a chyflawnodd ei ddyletswyddau newydd gyda yni a bywiogrwydd neillduol; ond dydd Gwener y Groglith cyntaf ar ol hyn, cymmerwyd ef yn glaf, a gorfu iddo ymgadw i'w ystafell; ond o dan ofal ei feddyg ffyddlawn gwellhaodd ddigon

Nodiadau[golygu]

  1. Mae'r wybodaeth yma yn anghywir, colli bu hanes Cunliffe, oherwydd ei fod wedi pechu anghydffurfwyr fel Thomas Gee a Daniel Owen trwy wrthwynebu datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd. Peter Ellis Eyton, Rhyddfrydwr oedd yn gefnogol i ddatgysylltu bu'n fuddugol. Cyfarfod i roi tysteb i Cunliffe, fel diolch am ei wasanaeth ac i geisio ail uno'r blaid rhwygedig oedd y cyfarfod yn yr Wyddgrug ar ôl yr etholiad
  2. TYSTEB I SYR ROBERT CUNLIFFE - Baner ac Amserau Cymru 1874 adalwyd 21 Rhagfyr 2021