Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau/Sylwadau am ei Nodweddion fel Ysgrifennydd

Oddi ar Wicidestun
Hanes Ei Weithiau Llenyddol Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau

gan John Owen, Yr Wyddgrug

Enoc Huws a Gwen Thomas


DANIEL OWEN

FEL

YSGRIFENNYDD

YN y sylwadau dilynol ceisiwn nodi allan rai o nodweddion Daniel Owen fel ysgrifennydd, a thrwy hynny ateb y cwestiwn, - Pa beth sydd yn cyfrif am boblogrwydd ei weithiau? ac ymhellach, ceisiwn ymofyn, - Beth yw dylanwad ei ysgrifeniadau ar y wlad? Diamau y rhaid priodoli graddau o'i boblogrwydd i'r ffurf ffug-chwedleuol yr ysgrifennai ynddi Gwestiwn eang yw hwn, - Beth sydd yn cyfrif am boblogrwydd y dull hwn o ysgrifennu? yn enwedig yn y ffurf o ddisgrifiad o gymeriadau. Gwelir fod y ffurf hon yn boblogaidd ymhob gwlad wareiddiedig lle y maent wedi cyrraedd diwylliant meddyliol lled uchel Efallai y rhaid i wareiddiad gyrraedd aeddfedrwydd neilltuol cyn y rhoddir bri arbennig i'r ffug-chwedl. Gellir dweud mai yr hyn yw arluniaeth mewn celf, dyna yw y ffugchwedl ddisgrifiadol mewn llenyddiaeth. Rhaid i genedl ddod yn ymwybodol o honni ei hun cyn y gall y math hwn o lenyddiaeth flaguro. Diau mai un o nodweddion amlycaf ein dyddiau ni yw hunanymwybyddiaeth. Y mae dynion yn fyw iawn iddynt eu hunain; ac yn chwilfrydig i wybod am eu gilydd. Y mae yn sicr hefyd fod yna fwy o dynerwch a chydymdeimlad ' yng ngwahanol gylchoedd cymdeithas. Diau fod yr amser yr ymddangosodd Daniel Owen yn fanteisiol i'r dull hwn o ysgrifennu. Nid oedd neb wedi ceisio disgrifio bywyd Cymru, yn enwedig bywyd crefyddol ein gwlad, oddieithr drwy fywgraffiadau, a rhaid cydnabod mai ychydig iawn o Gofiantau gwir lwyddiannus oedd wedi ymddangos cyn ymddangosiad " Hunangofiant Gweinidog Bethel." Credwn y buasai yn amhosibl i'w ysgrifeniadau ymddangos lawer cyn hyn. Y mae yn sicr, pa fodd bynnag, na fuasai ysgrifeniadau o'r natur yma yn cael derbyniad genhedlaeth yn ôl. Yn y deffroad mawr crefyddol yn y ganrif ddiweddaf, ac yn wir yn y blynyddoedd dilynol pan yr oedd y diwygiad hwnnw yn cymryd ffurf arhosol, nis gellid disgwyl cael disgrifiad ohono; yr oedd dynion yn bwy yn rhy agos ato; yn rhan ohono. Nid oeddynt eto wedi cael digon o amser ac o brofiad i'w galluogi i ddisgrifio eu bywyd eu hunain. Yn wir, ni oddefai angerddoldeb eu teimlad crefyddol iddynt i wneud hynny. Erbyn i Daniel Owen ymddangos yr oedd canrif wedi myned heibio er y Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru. Yr oedd y genhedlaeth gyntaf o grefyddwyr yn y rhannau hyn o Gymru wedi myned i orffwys. Yr oedd atgofion am yr hen bobl yn llenwi lliaws o feddyliau eu holynwyr pan yr oedd awdur Rhys Lewis yn fachgennyn. Yr oedd man preswylfod yr awdur yn fantais iddo hefyd. Yr oedd yn byw yn agos i Glawdd Offa, yn ymyl y terfynau lle mae bywyd Seisnig a Chymreig yn cydgyfarfod. Cymreig, yn ddiau, ydoedd haen isaf bywyd tref yr Wyddgrug pan oedd ef yn ieuanc, eto yr oedd yr ysbryd Cymreig yn cael ei fywhau a'i symbylu gan y dylanwadau Seisnig a lifant i'r lle drwy fasnach a'r gweithfeydd glo a mwynol. Tra na chafodd y rhanbarth hwn o Gymru ei orlifo gan y llanw Seisnig, megis Maesyfed a rhannau o Maldwyn, eto, daeth yr ysbryd â'r bywyd Cymreig i gyffyrddiad, os nad gwrthdrawiad â syniadau a theimladau gwahanol iddo ei hun, a thrwy hynny daeth y Cymry, efallai, yn fwy ymwybodol o'u nodweddion arbennig eu hunain. Diau y gwelid y duedd hon yn fwy cyffredin yn y rhannau hyn nag yn y siroedd pellaf o derfyn Lloegr. Yr un modd ceir fod yr Ysgol Ysgotaidd o nofelwyr yn disgrifio cymeriadau oeddynt yn byw yn rhannau isaf Scotland, ar y terfyn rhwng y ddwy wlad, ac y mae rhai o'r cymeriadau cryfaf, mwyaf trawiadol a ddisgrifir yn rhai oeddynt wedi dod i lawr o rannau mwy Celtaidd o'r Alban. Heblaw bod yr amser, ac hyd yn oed lle ei breswylfod yn fanteisiol iddo, dylid ychwanegu fod amgylchiadau bywyd yr awdur ei hun yn gyfryw ag i ddyfnhau ynddo y duedd i ddarlunio cymeriadau â bywyd crefyddol ei wlad Yr oedd wedi ei orfodi gan afiechyd i gilio, bron yn hollol, o bob gwaith cyhoeddus; anfonwyd ef i "dir neilltuaeth," a phriodol y galwai y pregethau a ymddangosent yn y Drysorfa yn "Offrymau Neillduaeth." Sylwa Froude, mai wedi i Bunyan ymneilltuo o'i waith cyhoeddus i dawelwch carchar Bedford, y daeth i ysgrifennu y darlun anfarwol a roddodd o fywyd crefyddol y Piwritaniaid yn Nhaith y Pererin. Yr un modd yn ein dyddiau ni. Wedi i rai o'r ysgrifenwyr Ysgotaidd, megis Stevenson a Ian Maclaren ymadael o'u gwlad, y cafwyd ganddynt y disgrifiadau o'r cymeriadau a welsant yn eu hen gartre. Y mae yn amheus iawn gennym pe buasai iechyd Daniel Owen wedi parhau yn gryf, fel ag iddo allu myned ymlaen gyda gwaith y Weinidogaeth, y cawsem y Dreflan a Rhys Lewis. Pan yr ydoedd yn hanner ei ddyddiau gwanhawyd ei nerth, ac i fesur mawr edrychodd a sylwedydd a fu am y gweddill o'i fywyd, a ffrwyth y cyfnod hwn yw y llyfrau sydd wedi gwneud ei enw yn un teuluaidd drwy Gymru.

I ba beth y priodolir ei boblogrwydd fel ysgrifennydd? Nid oes amheuaeth na chafodd Rhys Lewis y derbyniad mwyaf awchus a chyffredinol o'r un llyfr Cymraeg ar ei ymddangosiad cyntaf. Daeth y Drysorfa oedd yn gyfyngedig i aelwydydd Methodistaidd yn hysbys drwy yr holl wlad. Cododd rhif ei derbynwyr yn fawr; ac wele drydydd argraffiad o'r llyfr yn ymddangos, a hynny o fewn ychydig flynyddoedd. Diau fod mwy nag un ateb i'r cwestiwn,—Pa fodd y rhoddir cyfrif am y derbyniad roddwyd iddo? Nodwn yma rai atebion. Tybiwn y rhaid priodoli rhyw gymaint o'r poblogrwydd hwn i'w arddull; tra yr oedd arddull ysgrifenwyr Cymreig y rhai a ddarllenid gan liaws ein gwlad - yn tueddu i fod yn drymaidd, os nad clogyrnaidd, neu ynte yn rhy glasurol i gydio yn meddwl darllenwyr cyffredin. Yn y nofelau hyn, o'r tu arall, wele Gymraeg yn cael ei ysgrifennu mewn modd syml a hynod digwmpas. Pe gofynnid, - Beth yw nodwedd arbennig ei arddull? Buasem yn ateb - uniongyrchedd (directness.) Gellir, yn sicr, gymhwyso ato ef y dywediad " yr arddull yw y dyn;" yma gwelir cymeriad dirodres yr awdur yn llewyrchu drwy ei arddull. Ysgrifennai fel y byddai yn siarad, a phan mewn cywair lled dda, ac mewn cylch bychan, llefarai yn dra effeithiol. Yr hyn a hynodai ei siarad, yn ddiau, ydoedd priodoldeb; yr oedd yn siarad i'r pwynt; yr oedd ei ymadroddion " fel hoelion wedi eu sicrhau;" felly hefyd pan yn ysgrifennu. Yr oedd wedi ennill y feistrolaeth hon ar ysgrifennu Cymraeg drwy fod yn ffyddlon iddo ei hun, a thrwy ymarferiad lled gyson ag ysgrifennu a siarad er pan ydoedd yn llanc Ni phetrusai ddwyn i mewn hen eiriau Cymraeg cryfion - geiriau a blas Cymreig arnynt. (Pan ofynnwyd iddo gan gyfaill, - Pa le yr oedd i wedi dod o hyd i'r hen eiriau hyn? Atebai mai gan ei f am y clywodd hwy. Diau ei bod hithau wedi eu clywed yn ei chartref yn Nyffryn Clwyd, yn ogystal ag yn yr hen ganeuon Cymreig ydoedd mor hoff o drysori yn ei chof. Darfu iddo hefyd roddi lliw lleol ar ei arddull drwy ddwyn i mewn lliaws o eiriau ac ymadroddion a ddefnyddid yn bennaf yn Sir Fflint Y mae yn hysbys fod disgrifiadau o gymeriadau gwahanol rannau o Brydain, pan wedi eu hysgrifennu ym mhriod-ddull y rhan honno o'r wlad, megis Lancashire, yn dra phoblogaidd gyda'r darllenwyr. Nid oes amheuaeth nad yw poblogrwydd nofelau Scotaidd i’w briodoli, i raddau, i waith yr awdwyr yn dwyn i mewn geiriau ac ymadroddion sydd allan o'r ffordd gyffredin. Yr ydym wedi clywed llawer yn ystod y blynyddoedd diweddaf am Gymraeg Rhydychen, a gwyddys pa mor boblogaidd y mae wedi dod er gwaethaf yr ysgwyd pen gan geidwaid y Gymraeg; y mae dull Mr O. M. Edwards, ac eraill o ysgrifennu, yn wrthweithiad amlwg oddi wrth yr ' hen ddull trymaidd. Y mae yr ysgol newydd hon wedi llwyddo i ysgafnhau yr arddull Gymreig, a theg yw cofio mai Daniel Owen ydoedd un o'r rhai cyntaf o'n hysgrifenwyr adnabyddus i dorri tir newydd yn y cyfeiriad hwn. Wrth ddarllen llyfrau Daniel Owen, teimla y gwerinwr ei hun gartre, tra y teimla ei hun yn fynych yn gyffelyb i un yn darllen iaith ddieithr wrth ddarllen aml i lyfr Cymraeg. Y mae ei weithiau yn hawdd eu deall, bron na ddywedem nas gellir camgymryd y meddwl; y mae felly, nid yn unig o herwydd y geiriau syml a chartrefol a ddefnyddir, ond o herwydd chlirder yr arddull - y bare style fel ei gelwir. Gwelir grym ei arddull os cymharwn y cyfieithiad Saesneg o'i weithiau â'r Gymraeg; hyd yn oed yn y rhannau hynny lle y mae y cyfieithiad yn hollol gywir a phriodol, teimlir fod yna rhyw elfen wedi ei cholli oedd yn ein swyno yn y gwreiddiol. Efallai y tybir ein bod yn rhoddi gormod o bwys ar arddull yr awdur ond dylid cofio fod ei ddull arhennig ef o ysgrifennu yn llawer llai cyffredin bymtheng mlynedd yn ôl nag ydyw heddiw. Y mae ei weithiau hefyd yn ffrwyth sylwadaeth; nid creadigaethau wedi eu nyddu o ymysgaroedd ei ddychymyg ei hun ydynt Yr oedd Daniel Owen wedi ei ddonio â gallu eithriadol i sylwi, gwelai y digwyddiadau lleiaf; ac er nad oedd yn hynod am ei allu i gofio ffeithiau, eto cadwai afael tyn yn yr argraffiadau a wnaed ar ei feddwl; yr oedd yn un y gellid dweud am dano ei fod yn man of observation, chwedl y diweddar Richard Humphreys o'r Dyffryn, a medrai gyfleu ffrwyth ei sylwadaeth gyda y cywirdeb mwyaf. Treuliodd ei fywyd mewn cylch hynod gyfyng - ac eithrio'r ddwy flynedd a hanner y bu yn Athrofa y Bala - yn yr Wyddgrug y treuliodd ei holl fywyd. Sylwa George Eliot, yn un o'i gweithiau, mai mantais fawr i ddyn yw cael ei gau i mewn i gylch cyfyng yn dechrau ei fywyd, ei fod drwy hynny yn dod i adnabod y byd yn well, ac hefyd ' fod ei wybodaeth am y cylch bychan y dygir un i fynnu ynddo yn agoriad i'r oll o fywyd. Pa fodd bynnag am hynny, yr oedd y nofelydd yn un hynod o gartrefol, fel y dywedir mai rhan neilltuol o Lundain ydoedd byd Dr Johnson, felly, yn sicr, y gellir dweud mai yr Wyddgrug ydoedd byd Daniel Owen; y mae delw y dref bron ar bob tudalen a ysgrifennwyd ganddo yn y Dreflan a Rhys Lewis. Nid oedd ynddo nemor o awydd teithio; yn wir, nid oedd gan olygfeydd nemor o swyn iddo. Wrth ddarllen ei weithiau ni chyfarfyddwn braidd byth a disgrifiadau o brydferthwch natur; bron nad ymddengys yn ddall iddynt; plant dynion ydoedd ddiddorol iddo ef. Darllenai braidd yr oll o'r papurau Cymreig yng Ngogledd Cymru, a rhai o newyddiaduron Cymreig y Deheudir a'r Unol Daleithiau. Anfynych y gwelwyd neb yn mwynhau cymdeithas eu cyd-ddynion yn fwy; er hynny, ni chymerai fantais ar ei gyfeillion i awyro ei syniadau ei hun. Medrai wrando; a hoff iawn oedd ganddo glywed newyddion; yr oedd pob math o ddynion yn ddiddorol iddo. Er nad ellid dweud ei fod erioed wedi gwneud llawer o gyfeillion mynwesol, yn enwedig ar ôl blynyddoedd ieuenctid[1] eto yr oedd ganddo gydnabyddiaeth eang o fewn cylch ei gartre. Y fath ydoedd ei ddiddordeb mewn eraill, fel yr ymddiriedai llawer iddo eu cyfrinion. Gwnelai i'r mwyaf cyffredin ei gyraeddiadau deimlo yn gartrefol yn ei gwmni, a chymerai ddiddordeb byw yn amgylchiadau pawb o'i amgylch; ac y mae yn sicr gennym fod ei ymadawiad wedi peri gwacter ym mywyd llaweroedd. Canfyddai yr elfennau da, a hynny mewn cymeriadau amhoblogaidd neu ddiffygiol; a gallai ddisgrifio yr hyn a welai. Prin, hwyrach, y gellid dweud fod ei farn yn gryf; yr oedd yn ddiffygiol mewn cydbwysedd, a chai ei gario ymaith gan ei deimladau fel y cyffredin ohonom. Yr oedd yna rywbeth human iawn ynddo yn yr ystyr hon. Ffrwyth ei sylwadaeth, gan hynny, yw llawer o'r hyn ysgrifennwyd ganddo - "y pethau a welodd dan haul," - a dyma un rheswm am y swyn sydd yn ei weithiau i liaws ein gwlad. Disgrifia gymeriadau tebyg i'r rhai yr ydym oll yn eu hadwaen. Cyfeiria y diweddar Barch. Roger Edwards at y nodwedd hon yn ei Ragymadrodd i'r Dreflan. Meddai:—

"Gwelir fod yr awdur yn sylwedydd craff ar y natur ddynol, ac ar gymdeithas grefyddol yn gyffredinol, fel, er nad oedd yn portreadu unrhyw bersonau neilltuol, fod ei ddisgrifiadau mor naturiol â phe buasai yn rhoddi hanes gwrthrychau byw oedd o flaen ei lygaid; yn wir, derbyniais fel golygydd y Drysorfa, lythyr difrifol, ym mha un y dywedai yr ysgrifenydd ei fod yn deall fod y cymeriadau a bortreedid yn y Dreflan wedi eu cymryd o'r plwyf yr oedd efe yn byw ynddo, ac felly, fod yr awdur 'yn ceisio pardduo un o'r llanerchau mwyaf moesol a chrefyddol ' yn ein gwlad, a'i waith o'r herwydd yn 'sothach enllibgar tra yr oedd y plwyf a nodid, a'r wlad o'i amgylch, yn hollol ddieithr i'n cyfaill. Wrth ddarllen y llythyr achwyngar hwn, nis gallaswn lai na meddwl am eiriau Solomon, - ' Megis mewn dwfr y mae wyneb yn ateb i wyneb, felly y mae calon dyn i
ddyn,' ac fel hyn rhaid bod y Dreflan yn darlunio egwyddorion a theimladau sydd yn gyffredin i ddynolryw mewn byd ac eglwys." Tra y mae y cymeriadau a ddisgrifir mor wirioneddol â phe buasent yn fywgraffiad, eto y maent yn enyn diddordeb mwy cyffredinol, o herwydd nad ydynt yn gyfyngedig i bersonau, lle, a'r amgylchiadau sydd yn arwahanol oddi wrth fywgraffiad.

Elfen arall a nodwn yw ei ysmaldod (humour). Nid oes a fynnom â deffinio beth yw humour Dadleua rhai bod yr elfen hon yn brin yn llenyddiaeth Cymru, ac mai nid yr un ystyr yn hollol a roddir i'r gair ysmaldod ag a roddir i'r gair Saesneg humour. Efallai fod rhywbeth yn hanes ein cenedl, yn wladol a chrefyddol, yn rhoddi cyfrif am hyn. Dichon hefyd nad yw yr iaith Gymraeg yr un mor gyfaddas i'r pwrpas hwn ag ydyw rhai ieithoedd eraill. Teimlir, pa fodd bynnag, fod yr elfen hon yn treiddio drwy ysgrifeniadau Daniel Owen, ac y mae yn elfen iachus ac adfywiol; nid oes yma chwerwedd gwawdlyd ar un llaw, tra hefyd y mae wedi ymgadw, ar y cyfan, oddi wrth ymadroddion di-chwaeth. Teimlir yr ysmaldod hwn, nid yn unig yn y cymeriadau digrifol, megis Wil Bryan, ond yn nisgrifiadau yr awdur o gymeriadau yn ymylu ar fod yn hurt, megis Thomas a Barbara Bartley, a Marged, ac yn arbennig yn ei wawl-luniau o John Aelod Jones, Jones y Plismon, ac Eos Prydain. Ysmaldod iachus a chwareus a geir yn y disgrifiadau hyn. Teimla y darllenydd fod llygaid yr awdur yn twinklo yn siriol arno mewn llawer man. Un wedd ar ei ysmaldod ydyw, drwy orliwio yr amgylchiadau, a hynny yn y fath fodd ag i adael y darllenydd wybod fod yr awdur yn ymwybodol o hynny. Nis gellir dweud fod ei ysmaldod bob amser yn berffaith naturiol; teimla un yn awr ac eilwaith oddi wrth ymgais yr awdur i fod yn ddoniol; y pryd hynny nid yw yn ffyddlon i'w arddull ei hun. Yr ydym yn dyfalu fod dylanwad Dickens i'w ganfod arno yn y rhannau hynny o'i waith, canys yr oedd yn edmygydd a darllenydd mawr o Dickens; a thra yr ydym yn barod i gyfaddef fod darllen Dickens wedi bod yn foddion i aeddfedu ei alluoedd fel ysgrifenydd, eto nid oedd yn efelychydd ymwybodol ohono. Nid efelychiad yw Rhys Lewis.

Elfen arall ydyw ei dynerwch (pathos). Diamau gennym mai dyma un o'r haenau dyfnaf yn ei weithiau, a'r elfen hon yn ei ysgrifeniadau sydd yn cyffwrdd dwysaf â chalon y darllenwyr a dyma a rydd gyfrif hefyd am yr afael gafodd rhai o'i weithiau, yn enwedig Rhys Lewis, ar liaws nad oeddynt erioed wedi teimlo unrhyw swyn mewn llenyddiaeth, yn enwedig yn ffurf o ffug-chwedl. Yr oedd yna elfen leddf a dwys yn gynhenid yn yr awdur, oblegid yr oedd yn Gelt trwyadl; ac yr oedd amgylchiadau trallodus ei febyd, ac yn enwedig ei afiechyd peryglus, wedi dwysau yr elfen hon ynddo. Y mae yna elfen o brudd-der yn treiddio drwy ei ysgrifeniadau islaw yr elfen chwareus. Teimlir yr un elfen yn Stevenson, y nofelydd Scotaidd, y mae y ffurfafen yn tueddu at fod yn bruddaidd, ac ar yr adegau mwyaf golau, ni adawir i ni anghofio yn llwyr fod yna gymylau tywyll ar y gorwel. I bresenoldeb yr elfen hon yn ei weithiau yr ydym yn priodoli poblogrwydd ei weithiau gyda'r canol oed, a'r oedrannus, — y rhai sydd wedi gorfyw breuddwydion mebyd ac ieuenctid, ac wedi profi troeon chwith yr yrfa. Yr oedd y nodwedd hon — y nodwedd gysurol y gellir ei galw — yn cyfodi o gydymdeimlad yr awdur â phobl dlodion ein gwlad, y profedigaethus a'r adfydus; yr oedd profiad ei fywyd ef ei hun wedi ei ddysgu i ddisgrifio treialon y dosbarth hwn— "They learn in sorrow what they teach in song". Yr oedd ar Gymru angen neilltuol am lenyddiaeth o natur gysurol, yr oedd llaweroedd yn dioddef mewn unigrwydd ar hyd a lled ein gwlad, ac yn sychedu am gydymdeimlad. Gwelsom amryw enghreifftiau o hyn; clywsom hen gwpl, rhai fuasent yn sefyll yn lle y gwreiddiol o Thomas a Barbara Bartley, yn dweud iddynt eu dau wylo llawer uwchben ei ddisgrifiadau; ac y mae rhai wrth anfon eu rhoddion at osod i fynnu y cerflun ohono yn cydnabod eu dyled iddo am y cysur a weinyddodd ei lyfrau iddynt Nis gellir dweud fod yn ei weithiau gyd-drawiadau hynod; nid yw yn enyn chwilfrydedd yn y darllenydd i wybod beth fydd y diwedd. Rhaid cydnabod nad oedd yn gelfydd yn ngweithiad allan ffug-chwedl, yr hyn a elwir yn gudd-amcan (plot); yr oedd ef ei hun yn ymwybodol o hynny, a chamgymeriad, ni chredwn, ydoedd iddo geisio at ddwyn i mewn rai o nodweddion y nofelau Saesneg i'w weithiau. Ei ymgais yn y cyfeiriad hwn sydd yn cyfrif am y ffaith nad yw rhannau diweddaf y Dreflan a Rhys Lewis yn gyfartal i'r rhan flaenaf. Diau ei fod yn fwy llwyddiannus yng ngweithdai allan y stori yn Enoc Huws a Gwen Thomas, er nas gallwn gydnabod eu bod yn gyfartal mewn gwir werth i'r nofelau cyntaf a nodwyd. Fel disgrifiad o gymeriadau Cymreig, ni chredwn y saif clod gweithiau Daniel Owen. Yn ei gyfarchiad i'r darllenydd yn dechrau Rhys Lewis, dywed yr awdur, "Os oes rhyw rinwedd yn y llyfr, Cymreigrwydd ei gymeriadau yw hwnnw." Yn y Dreflan cawn ddisgrifiad o'r cymeriadau oedd yn byw yn yr Wyddgrug pan ydoedd ef yn ieuanc. Yn Rhys Lewis drachefn, nid oes amheuaeth nad oedd rhai o gymeriadau y dref o flaen ei feddwl pan yn tynnu darlun o Abel Hughes, y mae ar gael yn ysgrifen Daniel Owen ei hun mai ei fam ydoedd y gwreiddiol o Mari Lewis, er bod serch a thalent ei mab wedi ei hamwisgo â nodweddion na chanfyddid hwynt gan y cyffredin. Dywedir hefyd fod yna amryw o chwiorydd, "Mamau yn Israel," yn byw yn yr Wyddgrug yr amser hwnnw, a awgryment i'r awdur amryw o'r nodweddion a ddisgrifir mor fyw yng nghymeriad Mari Lewis; ac y mae y gafael cryf y mae y darlun hwn o fam Rhys Lewis wedi ei gael ar feddwl y darllenwyr yn brawf pa mor unol ydyw y disgrifiad ag atgofion cysegredig lliaws drwy Gymru. Y ddau gymeriad mwyaf adnabyddus, efallai, ydynt Wil Bryan a Thomas Bartley, er na ddylid anghofio Barbara Bartley.

Llawer o ddyfalu sydd wedi bod gyda golwg ar y gwreiddiol o "Wil Bryan." Y mae rhai wedi myned mor bell a nodi personau oedd yn cyfateb i'r disgrifiad. Y mae yn sicr, pa fodd bynnag, nad yw yr awdur wedi ceisio rhoddi portread o unrhyw un arbennig yn Wil Bryan cawsom ei dystiolaeth ef ei hun ar y pen hwn; ar yr un pryd, nis gellir dweud mai creadigaeth ei ddychymyg ef ei hun ydy w y carictor, yn hytrach, ffrwyth ei sylwadaeth a'i atgofion ydyw; yr oedd y cymeriad yn gynnyrch amgylchiadau neilltuol. Gwelir yn Wil Bryan wrthweithiad yn erbyn bywyd manwl a Phiwritanaidd, mewn un na allasai ymddiosg yn llwyr oddi wrth ddylanwadau crefyddol; ceid amryw, meddir, o'r type hwn yn y dref pan oedd yr awdur yn ieuanc. Dygwyd Wil Bryan i fyny mewn teulu ydoedd yn proffesu crefydd; yr oedd ei dad yn gwneud honiadau uchel yn gyhoeddus, eto nid oedd yna ddidwylledd crefyddol yng ngartre y bachgen cyflym ei gyraeddiadau; gwelodd anghysondeb rhwng proffes ei dad a'i ymddygiadau yn ei fasnach,; ac fel canlyniad tyfodd i fynnu, i raddau, yn wawdiwr o bethau cysegredig. Ceir yn ei gymeriad gyfuniad o wybodaeth am grefydd, ynghyd â hyfdra a dibristod wrth sôn am dani, ac eto, o dan y cwbl, yr oedd yna haen o onestrwydd yn ei gymeriad; yn wir, y gonestrwydd ' hwn, heb fod arweiniad priodol, a'i gwnaeth yn wawdiwr. Meddai Wil Bryan graffter a synnwyr i wahaniaethu, a daw yr ochr orau i'w natur i'r golwg yn ei barch gwirioneddol i'r fath gymeriadau ag Abel Hughes a Mari Lewis.

Y mae astudiaeth o gymeriad Wil Bryan yn awgrymu amryw o werai difrifol i'r darllenydd. Y mae yr hwn na wel ond yr elfen ddigrifol yn Wil Bryan, heb ganfod ond un ochr i'r cymeriad, a honno yr un fwyaf arwynebol Un peth, efallai, sydd yn taro y darllenydd, yn enwedig yn y rhannau mwyaf Cymreig o'n gwlad, yw cynefindra Wil Bryan â'r iaith Saesneg, fel eu gwelir yn y defnydd parhaus a wna o frawddegau Saesneg; nis gallasid gweled hyn ond mewn tref ar y terfynau rhwng Lloegr a Chymru; ac y mae Wil yn enghraifft o ddylanwad arwynebol bywyd Seisnig ar gymeriad Cymreig. Y mae yn amlwg fod gwybodaeth Wil Bryan o'r iaith Seisnig wedi bywiogi ei feddwl, a rhoddi iddo fath o hunanhyder nad allasid ei ddisgwyl mewn llanc o'r un safle yn y siroedd mwyaf Cymreig o'r Dywysogaeth. Credwn fod yr awdur yn dangos ei fedrusrwydd hefyd mewn dwyn cymeriad fel Wil Bryan i'w waith; y mae graddau o wit y cymeriad yn gysylltiedig â'r iaith. Diamau pe buasai y geiriau, ac yn enwedig y brawddegau Seisnig sydd yn britho ymddiddanion Wil Bryan yn cael eu gadael allan, y buasent yn colli llawer o'r awch a'r raciness sydd ynddynt.

Cofia llawer am ysgrifau y diweddar Mr. John Griffiths (Gohebydd Llundain), i'r Faner. Ni wnaeth un ysgrifenydd gymaint i ennill sylw ac ennyn diddordeb amaethwyr Cymru yng ngwaith y Senedd a'r Gohebydd; ac ni fuasai ei ysgrifau ef yn agos mor fyw oni bai am y pertrwydd gyda pha un y defnyddiau dermau Seisnig nad oedd cyfystyron dealladwy iddynt yn y Gymraeg.

Cymeriad arall sydd yn cystadlu mewn poblogrwydd â Wil Bryan ydyw Thomas Bartley, ac efallai na fethem wrth ddweud mai dyma gampwaith yr awdur. Y mae yna fwy o naturioldeb yn y disgrifiad nag yn Wil Bryan; dyma y portread perffeithiaf o weithiwr tlawd, anwybodus o Gymro Gwelir ymhob brawddeg gywirdeb a manylder sylwadaeth yr awdur; yr oedd wedi sylwi ar holl fywyd ac ysgogiadau Thomas a Barbara Bartley. Rheda elfen nwyfus a chwareus, wedi ei thyneru gan gydymdeimlad, drwy y disgrifiad; gwelwn yn Thomas Bartley fywyd syml yn troi o fewn cylch bychan, arferion cartrefol, llawenydd plentynnaidd, galar mud, ynghyd â synnwyr da yn, nghanol ei anwybodaeth, yn ogystal â charedigrwydd a lletygarwch Cymreig. Hynod mor gywir hefyd yw ei disgrifiad yr awdur o ddeffroad bywyd crefyddol mewn un o gyraeddiadau Thomas Bartley. Y mae yn amheus a ydoedd yn abl i olrhain datblygiad meddyliol cymeriadau fel Bob, - un ydoedd wedi ei daflu i amheuaeth yn neffroad cyntaf ei feddwl; ac yr ydym yn gorfod teimlo nad yw yr awdur wedi taflu nemor o oleuni ar ddatblygiad teimladau Wil Bryan tuag at grefydd. Cawn Bob yn marw yn ieuanc, a'r goleuni yn tywynnu ar ei feddwl yn niwl y glyn, tra y mae Wil Bryan yn aros yn ei unfan, cyn belled ag y gwelir yn Enoc Huws. Ni cheir gan Daniel Owen yr elfeniad manwl o ddatblygiad cymeriad fel a geir gan George Eliot neu George Meredith, mae'n wir, eto y mae yn gartrefol hollol wrth olrhain teimladau syml Thomas a Barbara Bartley; gwelir rhai o elfennau dyfnaf meddwl yr awdur yn y serchogrwydd tyner gyda pha un y mae yn trin helyntion teuluaidd a chrefyddol y ddau "hen bar," ac yn enwedig yn ei ddisgrifiad o farwolaeth Seth. Cyfaddefai ei fod wedi ei orchfygu gan ei deimladau yn llwyr pan yn portreadu yr amgylchiadau ynglŷn â marwolaeth Seth. Credwn y gwelir yr awdur ar ei orau yn y disgrifiad o Thomas a Barbara Bartley. Gwelir mwy o ddyfnderoedd ei ysbryd yn y rhan hon nag yn un portread o'i eiddo; yr oedd Thomas Bartley wedi dod yn rhan o'i fywyd, yr oedd yn byw gydag ef; ac yn ei gystudd diweddaf, pan yn cael ei flino gan ddiffyg cwsg, tynnai ddarlun o'i hen gyfaill (a'r hwn sydd yn awr ger ein bron, sef y darlun sydd yn fy meddiant), fel yr ymddangosai i lygaid ei ddychymyg.

Nodiadau[golygu]

  1. Gwel ei gân " Forau y Nadolig " ar ddiwedd y gyfrol hon