Cofiant David Davies, Bermo/Adgofion
| ← Cadw Noswyl | Cofiant David Davies, Bermo gan William Jones, Lerpwl |
Cydgynorthwywyr i'r Gwirionedd → |
PEN. XV.—Cadw Noswyl.
Anesmwythder am symud.—Llythyr o eglwys Nazareth.—Symud i'r Penrhyn.—Ymlyniad wrth yr eglwys yn yr Abermaw.—Dechreu gweithio yn ei faes newydd.—Dymuno cael peidio ei gornelu.—Pregethu yn Nhalysarnau.—Oedfa rymus nos Sabboth.—Diwrnod ei farw.—Ei gladdedigaeth.—Pregethwr ar ei ben ei hun.—Angen am rai tebyg.—Ei briod.—Nodiad o'r Drysorfa.
Er ei fod wedi ymgartrefu yn dda yn yr Abermaw, ac wedi bod yno yn agos i dair blynedd ar hugain, ac yn dra chymeradwy yn mhlith lluaws ei frodyr yn y dref; yn niwedd y flwyddyn 1886, yr oedd rhyw anesmwythder am symud wedi ymaflyd ynddo, ac yr oedd Rhagluniaeth, oherwydd rhyw gyfnewidiad yn nglŷn â'i breswylfod, yn ei barotoi i hyny; a phenderfynodd yn dra disymwth i fyned i drigo i Penrhyn Deudraeth. Yr oedd Llys Ifor—cartref y gweinidog—ar y pryd yn wag, a'r eglwys yn Nazareth yn unfrydol yn ei gymhell yn daer i'w gymeryd ac i ddyfod i breswylio i'w plith; ac yr oedd yntau, fel yn ei holl symudiadau blaenorol, yn credu fod y Golofn ei arwain.
Pan yr ysgrifenai un o flaenoriaid yr eglwys ato i'r amcan hwn, dywedai mewn llythyr dyddiedig Rhagfyr 16, 1886:
NIS gallaf wneud haner y chwareu teg â'r desgrifiad o eglwys Nazareth neithiwr. Buasai yn dda gan fy nghalon pe buasech yno eich hunan, neu yn rhywle yn nghyrhaedd clyw. Yr oeddwn bob amser yn falch o eglwys Nazareth; ond ni bu erioed mor uchel yn fy ngolwg ag ydyw yn awr. Gwelais roddi llawer achos i'w barn cyn neithiwr, ond ni welais yr un erioed yn cael ei dderbyn â breichiau mor agored a'r achos o'ch dyfodiad i'n plith. Yr oedd yno yr unfrydedd a'r brwdfrydedd mwyaf a welais gyda dim byd erioed, a buasai yn iechyd i'ch hyspryd i fod yno, a diau na fuasai ynoch y pryder lleiaf i roddi y cam hwn. Gwyddwn fod i chwi le cynes yn serchiadau yr eglwys hon bob amser; ond rhaid i mi ddweyd heddyw ei fod yn rhagori ar yr hyn a wyddwn. Yr wyf yn meddwl na chamgymeraf wrth ddweyd mai anfyuych y ceir dim achos yn pasio mewn un eglwys yn unman gydag unfrydedd hollol; ond yr oedd yr achos hwn, nid yn unig yn unfrydol, eithr y brwdfrydedd mwyaf drosto. Rhoddwyd y mater i lawr a gwahoddwyd sylwadau o amryw gyfeiriadau, a phawb yn ateb yn galonog eu bod yn credu fod Rhagluniaeth yn y peth yn sicr—mai yr Arglwydd oedd yn eich danfon atom. Wedi troi at y chwiorydd am eu barn hwy, dyma un hen chwaer mewn eiliad yn dweyd, "Yr hyn a ddaeth i fy meddwl i wedi clywed hyn ydoedd y darn penill hwnw
O'r nef mi glywais newydd,
Fe'm cododd ar fy nhraed.
Ac wele amryw o'r chwiorydd o wahanol ranau o'r capel yn ei dilyn gan ddweyd, "Y mae pawb yn y cwr yma yn falch o'u calon o'r newydd." Wedi rhoddi yr achos i farn yr eglwys, trwy godiad llaw, dyma bob llaw i fynu ar unwaith ac un yn gwaeddi allan, "Mi godwn i y ddwy pe y cawn i." Yr oedd nifer fawr yn bresenolllawn mwy nag arfer ac yr wyf wedi clywed eisoes heddyw amryw yn cwyno na chawsent fod yno i fwynhau y wledd. Dyna i chwi ddesgrifiad gwan o'r hyn a fu yma, ac ernes fechan o'r croesaw sydd yn eich aros yn ein plith. Hoffwn gael gair oddiwrthych os cewch gyfle, er mwyn i mi hysbysu y frawdoliaeth nos Sabboth. Gallwch feddwl fod yma dipyn o anesmwythder rhag i rywbeth ddigwydd i'ch rhwystro, ac felly beri ini siomedigaeth.
Dydd Mercher, Ionawr 19, 1887, gadawodd yr Abermaw yn nghanol tristwch yr holl frawdoliaeth, ac ymsefydlodd yn ei gartref newydd; ond ni ddychymygai neb fod y nefoedd wedi darparu cartref gwell iddo, ac mai i hwnw y gelwid ef mor ebrwydd. Nid oedd yn werth i un lle ymollwng i wylo oherwydd ei golli na'r lle arall i lawenychu oherwydd ei gael, "am fod yr amser yn fyr." Yn mhen ychydig dros bythefnos ar ol ei ymadawiad—rhyw bedwar diwrnod cyn ei farwolaeth ysgrifenodd lythyr byr at un o flaenoriaid yr eglwys yn yr Abermaw oedd yn dangos ei ymlyniad wrth yr achos a'r bobl y bu yn eu plith am ran mor fawr o'i oes. Y mae rhan o'r llythyr fel y canlyn:
Fy Anwyl, Gyfaill,—Y mae eich cyfarfod pregethu bellach yn agoshau, ac yr ydym yn dymuno yn dda i chwi fel eglwys, yr un modd a phe buasem yna. Gobeithio y bydd wyneb yr Arglwydd arnoch yn amlwg iawn, a gwlith bendith yn disgyn yn helaeth ar yr holl gynulleidfa. Hyn ydyw ein dymuniad a'n gweddi. Dodaf o fewn hwn P.0.0. am Ios. tuag at y Cyfarfod Pregethu. Cofion serchog iawn atoch.Ydym, eich cyfeillion cywir,
DAVID AC ELLENOR DAVIES."
Dechreuodd ymroddi i waith yn y Penrhyn. Ymwelai â'r aelodau, a chadwai holl gylch y cyfarfodydd fel pe buasai yn ddyn ieuanc llawn nwyfiant a bywyd. Cynlluniai lawer o waith, ac addawai iddo ei hun luaws o flynyddoedd i'w gyflawni. Cafodd ei alw gan y Meistr Mawr at ei wobr pan yr oedd ei lwynau wedi eu gwregysu a'i ganwyll yn oleu. Dymunai bob amser gael marw heb lawer o gystuddio a chornelu, a chaniatawyd hyny iddo, ac fe gyflawnwyd yr adnod hono yn ei hanes, "Efe a wna ewyllys y rhai a'i hofnant: gwrendy hefyd eu llefain ac a'u hachub hwynt." Ni adawodd i'w dalent rydu, a chlywsom ef yn dweyd laweroedd o weithiau, "Byddai yn well i bregethwr dreulio allan na rhydu." Cysegrodd ei alluoedd yn gwbl a chydag ymroddiad y gweithiwr difefl ar allor gwasanaeth ei Geidwad, a chafodd ei gymeradwyaeth amlwg Ef ganoedd o weithiau mewn llwyddiant ar ei lafur. Ac yn y diwedd fe'i galwyd i dderbyn coron y bywyd yn sydyn. Ni fu raid iddo rodio ar hyd y glyn, ond cafodd fyned ar draws ei gèr; ac yr oedd wedi agor ei lygaid ar y gogoniant mawr ar y làn draw cyn iddo prin eu cau ar wrthrychau y byd hwn. Hunodd yn dawel yn yr Iesu Chwefror 9, 1887.
Pregethai gydag arddeliad yn Nhalysarnau y Sabboth blaenorol, a dywedir iddo gael oedfa lewyrchus iawn nos Sabboth oddiar y geiriau, "Canys felly yn helaeth y trefnir i chwi fynediad i mewn i dragwyddòl deyrnas ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist;" a chyn saith o'r gloch nos Fercher yr oedd y mynediad helaeth hwnw wedi ei drefnu yn ei hanes ef ei hun.
Y diwrnod y bu farw elai o amgylch yn siriol a bywiog. Gwasanaethai mewn angladd am dri o'r gloch y prydnawn hwnw; ac ar ol y claddedigaeth aeth ef a'i briod yn nghwmni Mr. Pritchard—un o'r blaenoriaid—i Brithwernydd, yr hwn sydd ffermdy cyfagos. Ar y ffordd y maent yn pasio y fynwent, a safai yntau, gan gyfeirio at dorlan ynddi ychydig yn uwch na'r gweddill o'r tir, a dywedai, "Yn y fan acw yr ydw i am gael fy nghladdu." "Nid ar ben y dibyn acw, aie?" meddai Mr. Pritchard. Ychwanegai yntau yn chwareus, " Ie, y mae y pwlpud dipyn yn uchel, ac yn y fan hono yr ydw i wedi byw cryn lawer, ac mi leiciwn i gael fy nghladdu ar dipyn bach o godiad tir hefyd."
Wedi treulio rhyw awr neu ddwy yn siriol gyda'r cyfeillion, cychwynasant adref tua chwech o'r gloch er mwyn parotoi yn brydlon ar gyfer y seiat, yr hon a gynelid y noson hono. Ond daeth gwŷs o fyd arall ato ar y ffordd. Ymosodwyd arno gan glefyd y galon. Bu raid iddo orphwys; ond wedi eistedd am ychydig o funydau, gallodd gerdded i'r tŷ yn mraich cyfaill. Gorweddodd ar y sofa, a dywedai "Mi fydda i wedi gwella erbyn dechreu'r seiat;" ond yn lle gwella i fyned i gadw seiat i Nazareth, cyn saith o'r gloch yr oedd wedi ymuno â'r Seiat Fawr na welir diwedd byth arni—Seiat nad oes neb yn cwyno gan brofiad isel o'i mewn—dim cwmwl ar ei ffurfafen, dim dagrau yn llygad neb, ond
Pawb mewn hwyl yn moli'r Oen
I dragwyddoldeb mwy.
Claddwyd ef y dydd Sadwrn canlynol yn y fynwent gerllaw Nazareth, yn ol ei ddymuniad. Yr oedd y diwrnod yn un mawr a phwysig i'r holl ardaloedd, ac arwyddion nad ellid eu camgymeryd fod rhywun wedi cwympo ag y mynai y bobl anrhydeddu ei lwch. Gwelid tyrfaoedd yn dylifo o bob cyfeiriad, yn awyddus i fwrw deigryn hiraeth ar fedd un a anwylid mor fawr. Cafwyd trên neillduol o'r Abermaw i gludo y nifer fawr oeddynt yn chwenychu bod yn bresenol i dalu eu parch i goffadwriaeth eu hen weinidog, yr hwn a gerid yn angerddol ganddynt. Yr oedd y dagrau yn llifo yn afonydd ar ganoedd o wynebau wrth feddwl na chaent weled ei wyneb ef mwy. Mae y tafod tân wedi ei gloi gan rew y glyn—y llais arianaidd a swynol wedi ei ddystewi gan ddyfroedd yr Iorddonen, y llygad byw wedi diffodd yn yr angau. Yr oedd calonau canoedd o bobl y diwrnod hwnw yn rhy lawnion i'w tafodau lefaru; ond yr oedd yr ochenaid isel a'r deigryn lladradaidd a glywid ac a welid yn dweyd yn effeithiol, "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."
Darllenwyd a gweddiwyd wrth y tŷ cyn cychwyn gan y Parch. D. Roberts, Rhiw, ac yna aed i'r capel. "Yno fe roddodd y Parch. R. Roberts, Dolgellau, benill i'w ganu. Dywedodd fod y gorchwyl pruddaidd o arwain y cyfarfod wedi disgyn i'w ran ef. Ychydig amser yn ol, yr oedd ei enw ef yn olaf yn y Dyddiadur yn mhlith gweinidogion Gorllewin Meirionydd; ond erbyn hyn, ar ol ymadawiad ei anwyl a pharchedig gyfaill, ei enw ef (Mr. Roberts) oedd y cyntaf. Tua saith mlynedd ar hugain yn ol yr oedd pethau nerthol iawn yn cymeryd lle yn ein plith—Ysbryd yr Arglwydd yn gweithio yn ein mysg mewn modd amlwg iawn. Yr adeg hono yr oedd Mr. Davies yn offeryn amlwg iawn yn ei law Ef i wneud daioni, ac fe barhaodd felly. Yn mhob cylch yr oedd yn cydfyned â'i frodyr ac â'i oes. Yr oedd rhai yn darfod â'r byd yma yn mhell cyn myned ohono. O ran eu hysbrydoedd a'u defnyddioldeb, dylasent fod wedi myned o'r byd er's talm; ond nid felly Mr. Davies. Parhaodd yn ei ddefnyddioldeb hyd y diwedd; ac er mewn galar yn ei gladdu, teimlai awydd diolch, er mai ei gladdu yr oeddynt, am ei fod yn uwch ei gymeriad nag y bu erioed. Byddai ef ei hun yn son am un o frenhinoedd Israel wedi ei daraw â'r gwahanglwyf ac yn cael ei roddi o'r neilldu am weddill ei oes; ond yr oedd Mr. Davies ei hun yn iach a bywiog i waith hyd y diwedd. Yr oedd yn drefnus yn ei dŷ ac yn mhob man, ac yn credu yn hyny, ac felly yr oedd yn barod i'r alwad sydyn. Cafodd groesi y glyn. ac nid myned ar ei hyd, fel y sylwai. O'i galon. dywedai ef (Mr. Roberts), 'Marw a wnelwyf o farwolaeth yr uniawn' hwn."
Y Parch. Hugh Barrow Williams, Gwrecsam, a ddywedodd:—" Yr wyf yn teimlo fy mod wedi colli y cyfaill goreu a gefais erioed trwy farwolaeth Mr. Davies. Yr oedd bob amser yn garedig wrthyf, fel yr wyf yn credu, pe buaswn yn blentyn iddo, nis gallasai arddangos mwy o garedigrwydd tuag ataf nag a wnaeth. Rhoddodd amryw gynghorion i mi, ac y mae y rhai hyny yn gynghorion a gofiaf tra fyddaf byw. Yr oedd Mr. Davies yn un nodedig iawn am roddi cynghorion: gallai eu rhoddi yn y ffordd fwyaf tyner, ac ar yr un pryd yn y modd mwyaf tarawiadol. Clywais ef yn dweyd lawer gwaith ei fod yn dymuno marw fel y gwnaeth. Cafodd farw yn nghanol ei waith, ac felly yr oeddwn yn dymuno iddo gael. Y tro diweddaf y cefais y fraint o'i weled, dywedodd wrthyf, 'Gobeithio y cawn ni, Barrow bach, y fraint o farw yn nghanol ein gwaith.' Cafodd efe hyny yn ol ei ddymuniad. Mae yn bur chwith genyf na chaf ei weled byth mwy ar y ddaear hon, a gwrando ar ei gynghorion caredig a gwerthfawr; ond er yr holl chwithdod, mae yn dda genyf feddwl ei fod wedi ei symud i fyd sydd well i fyw, a'i fod heddyw yn mhlith y rhai sydd yn dysgleirio yn nheulu Duw a'r Oen."
Y Parch. W. Jones, Porthdinorwig, a ddywedodd:"Fel y cyfeillion eraill, yr wyf yn teimlo yn anhawdd siarad pan yn meddwl fod ein hanwyl frawd yn y bedd. Cefais i y fraint o gael fy magu am dros ugain mlynedd yn yr eglwys yr oedd efe yn fugail arni. Yr wyf yn cofio yn dda mai ganddo ef y derbyniais Swper yr Arglwydd am y tro cyntaf. Gydag ef y dechreuais bregethu, a gallaf eich sicrhau y bydd ei enw yn gysegredig genyf tra fyddaf byw. Clywais ef yn pregethu ganoedd o weithiau, a byddai yn fynych iawn yn pregethu gyda nerth a difrifwch mawr. Sylwais ei fod yn weddiwr mawr yn y dirgel, ac yr oedd effaith hyny i'w weled yn amlwg ar ei weinidogaeth. Bu am ysbaid yn cadw siop, wedi hyny yn ystiward ar goedwigoedd; ond pregethwr oedd yn y siop a phregethwr oedd yn y coed hefyd; ac yr wyf yn credu fod ôl pregethu i'r coed, ar lethrau Coed y Ffynon, yn parhau ar ei weinidogaeth hyd y diwedd. Newidiodd lawer ar ei ddull o bregethu, ond yr un oedd ei amcan o hyd. Rhoddodd Mr. Davies anrhydedd ar Benmachno. Bu yn Nghorwen a'r Abermaw, ond fel 'Dafydd Dafis, Penmachno,' yr adnabyddir ac y cofir yn hir am dano. Ei brif gyfeillion a'i gydlafurwyr cychwynol oeddynt y Parchn. Cadwaladr Owen, Dafydd Rowland, Robert Williams Aberdyfi, a Mr. Morgan. Ei nodweddion amlycaf oeddynt, darllen llawer ar y Beibl a gweddio yn y dirgel. Cofiai Mr. Jones am rai o'i destynau cyffrous a'r pregethau tanllyd a gafwyd, megys 'Bydd barod Israel i gyfarfod â'th Dduw,' 'Y rhai oedd barod a aethant i mewn . . . a chauwyd y drws', 'Syrthio yn nwylaw y Duw byw,' &c. Bu yn offeryn i droi llawer at yr Arglwydd.
Y Parch. W. Davies, Llanegryn, a ddywedodd:—"Yr wyf yn teimlo ein bod wedi colli un o'r pregethwyr goreu a mwyaf gwasanaethgar a feddem fel Cyfundeb. Yr oedd ei wasanaeth yn werthfawr, nid mewn rhyw gylch bychan, ond trwy Gymru i gyd. Yr oedd Mr. Davies wedi ei feddianu gan ysbryd pregethu. Pregethu oedd ei unig nôd ef, a llwyddodd i gyrhaedd y nôd yna mewn modd amlwg iawn. Buasai yn dda i ni weddio ar yr Arglwydd am iddo godi pregethwyr eto wedi eu meddianu gan yr un ysbryd, ac ond i ni wneud hyny, cawn yn fuan weled Ilwyddiant mawr ar grefydd yn ein gwlad."
Canwyd y penill "Daw dydd i'r cyfiawn, tranoeth teg," &c., a dybenwyd y cyfarfod trwy weddi gan y Parch. D. Jones, Garegddu, Ffestiniog. Yna ffurfiwyd gorymdaith ac aed at y bedd. Ar lan y bedd, darllenwyd rhanau o'r Gwirionedd gan y Parch. R. H. Morgan, M.A., a rhoddodd allan yr hen benill "Bydd myrdd o ryfeddodau," &c. Canwyd ef yn hynod o effeithiol. Diweddwyd trwy weddi daer a thoddedig gan y Parch. W. Thomas, Dyffryn.
Gorphwysed y gwas ffyddlawn mewn hedd, a bydded ei hûn yn dawel; a thra y bydd rhai o'i hen wrandawyr yn fyw, fe felus gofir am dano ar y ddaear, ac yr ydym yn dra sicr fod iddo groesaw cynes yn y nefoedd gan y rhai y bu yn offeryn i'w troi at Dduw, ac y mae y dyrfa hono yn chwyddo yn barhaus.
Yr oedd ar ei ben ei hun yn mhlith ei frodyr, ac hwyrach na welir neb cyffelyb iddo; ond na wawried cyfnod ar hanes ein gwlad pan na fyddo genym luaws o bregethwyr yn perthyn i'w ddosbarth—rhai i arloesi y wlad ac i barotoi ffordd yr Arglwydd, fel Ioan Fedyddiwr—pregethwyr i gyffroi, i ddeffro, ac i argyhoeddi. Er cynydd dysg a gwybodaeth, nis gall ein gwlad hyfforddio bod heb ddynion fel hyn. Rhoddion yr Iesu dyrchafedig—Arglwydd y cynhauaf—ydynt. Gweddiwn am iddo beidio atal ei law, eithr eu rhoddi eto ac anfon eto weithwyr i'r cynhauaf.
Galwyd arno i gadw noswyl cyn iddo fod yn llawn 72 mlwydd oed; ond cafodd ddiwrnod wedi ei lanw hyd yr ymylon â gwaith. Bu yn pregethu am dros ddeuddeng mlynedd a deugain. Gadawodd briod ofalus a thyner ar ei ol, a bu hi yn teithio yr anialwch yn ei hunigedd am chwe' blynedd, hyd Chwefror, 1893, pryd yr ehedodd hithau ymaith i'r aneddle lonydd, lle na fydd ysgar byth rhyngddynt. Tueddir ni i roddi ychydig eiriau o nodiad a wnaed gan olygydd y Drysorfa yn rhifyn Mawrth, 1887:
AM nad oedd neb wedi gweled arwyddion llesghad nac argoel fod ei hoywder yn pallu, yr oedd y newydd am farwolaeth Mr. Davies yn peri syndod yn gystal a galar dwfn a chyffredinol. Enillasai efe sefyllfa mor amlwg yn mhlith henafgwyr parchus ac arweinwyr cyfrifol ein Cyfundeb yn y Gogledd, fel y teimlir fod ei ymadawiad wedi gwneud lle go fawr a phwysig yn wag. Yr oedd wrth natur yn ddyn dawnus iawn. Mae yn wir na chafodd ei alluoedd naturiol mo'r feithrinfa a'r diwylliant goreu; a dichon nad oedd yn ddigon doeth bob amser i adnabod y "ddawn oedd ganddo;" ond pan y digwyddai fod ei briod—ddoniau wedi taro ar destyn a mater cymharus, pregethai David Davies y pryd hwnw gyda'r fath nerth, dylanwad, ac effeithiau ag a barai i bawb ei gydnabod fel un o "golofnau" y pwlpud yn ei oes. Os nad oedd wedi graddio yn uchel mewn un athrofa ddysgedig, yr oedd efe, ys dywedai Dr. Cynddylan Jones am rywrai, wedi graddio yn anrhydeddus fel pregethwr yn marn cynulleidfaoedd y Methodistiaid. Tra yn tristhau wrth feddwl na chawn weled ei wyneb ef mwyach na chlywed ei lais miniog, treiddgar, yn murnio y diafol, ac yn tywallt dirmyg a melldith yn gymysg—raiadrau ofnadwy ar bechod, a thrachefn yn melysu ac yn rhoddi llawn swing i'w lais cwmpasog i hyfryd seinio odlau yr efengyl—os na chawn weled a chlywed David Davies, Penmachno, mwy—yr ydym yn cael rhywbeth i ddiolch am dano ac i ymgysuro ynddo wrth gofio ei ymroad a'i sêl diball i waith y weinidogaeth.
Beth bynag oedd y doniau naturiol a feddai, a pha ddefnydd bynag a wnaed ohonynt, y nodweddion mwyaf gwerthfawr yn ei gymeriad yn marn pawb a'i hadwaenai oeddynt ffyddlondeb i'r hyn a ystyrid ganddo yn wirionedd, gonestrwydd i'w argyhoeddiadau, a difrifwch mewn ymdrech i gyrhaedd amcanion uwchaf bywyd.