Cofiant David Davies, Bermo/Adnewyddiad yn y gwaith
| ← Ymarfogi at waith | Cofiant David Davies, Bermo gan William Jones, Lerpwl |
Ymryddhau oddiwrth ofalon bydol → |
PEN. IV. Adnewyddiad yn y gwaith.
Diwygiad crefyddol grymus.—Cymydogaeth Penmachno yn cael tywalltiad mawr.—Yntau yn profi yn helaeth ohono.—Gweinyddu yr ordinhadau sacramentaidd.—Ei ddull o fedyddio.—Swper yr Arglwydd.—Taith yn sir Ddinbych.—Ysbryd pregethu.—Cyfansoddi pregethau newyddion.—Ffyddlawn yn yr holl dŷ.—Yn y cyfarfodydd eglwysig.—Yn parotoi i ymryddhau oddiwrth ofalon bydol.—Ei sel dros fugeiliaeth eglwysig.—Yn dyner a gofalus o bregethwyr ieuainc.—Yn ymroddi i lafur.—Yn parhau yn ieuanc ac yn newydd yn ei waith.—Cyfarfod yn Nhrawsfynydd.—Cyfarfod Misol Llidiardau.—Y blynyddoedd 1856 ac 1857 yn flynyddoedd y colledion i'n Cyfundeb.—Yn teithio llawer i Gymdeithasfaoedd a Chyfarfodydd Pregethu. Yn ymadael i Gorwen. Yn ysgrifenu gair o adgofion.—Ei haelioni.—Ү cybydd a'i gi.
YN y blynyddoedd 1859 ac 1860, profwyd gan Ogledd Deheudir Cymru un o'r ymweliadau crefyddol mwyaf grymus. Torodd allan yn yr America, ac ymledodd dros y gwledydd. Yr oedd ei effeithiau ar bob dosbarth yn yr eglwysi—yr hynafgwyr yn breuddwydio breuddwydion, a'r gwyr ieuainc yn gweled gweledigaethau, ac yr oedd y plant hefyd yn chwareu yn heolydd y ddinas sanctaidd.
Cedwid cyfarfodydd gweddiau yn yr addoldai bron bob nos o'r wythnos; ac nid oedd neb yn eu mesur wrth y cloc. Tyrid hefyd i dai anedd ac i gonglau y meusydd. Yr oedd cymoedd Cymru, am fisoedd, yn llawn o adsain hyfryd rhai yn molianu ac yn gorfoleddu. Profodd y gawod drom hon yn fendith fawr i'n gwlad. Ychwanegwyd lluaws at yr eglwysi, ac er i lawer fyned yn eu hol a pheidio rhodio mwyach gyda'r Iesu ar ol i'r cynhwrf laesu, ni fynai llu o'r rhai a ddilynasant yr Iesu y pryd hwnw ymadael. Y mae rhai ohonynt yn amlwg mewn defnyddioldeb gyda'r deyrnas hyd heddyw, ac aeth lluaws i ogoniant yn nghanol y gwres mawr a brofid ganddynt ar y pryd.
Teimlodd cymydogaeth Penmachno nerth y dòn sanctaidd a ymdaflai dros y wlad. Bu dwysder a difrifwch yr eglwys yn amlwg am wythnosau, cyn i bethau mawr a rhyfedd gymeryd lle. Ond yn nghyfarfod gweddi y bobl ieuainc, yr hwn a gynelid ar ol cyfarfod gweddi, y gwawriodd y Pentecost. Disgynodd yr Ysbryd Glân ar bawb oedd yn y lle. Aeth y swn ar led y pentref, a daeth y lluaws yn nghyd hyd nes y llanwyd yr adeilad—rhai yn synu gan ddweyd mai llaw yr Arglwydd yn ddiau oedd hyn, eraill yn amheu; ond yr oedd pawb yn y lle yn gorfod teimlo fod yno rywbeth na welwyd mohono ganddynt erioed o'r blaen—" y peth hwn," nas gallent ei esbonio—a daliwyd amryw oedd yn tueddu, ar eu dyfodiad i mewn, i watwar gan yr un ysbryd. Disgynodd ysbryd prophwydo ar lawer Saul a ddeuai i fysg y prophwydi, a gwnaed llawer cablwr yn weddiwr. Cyfranogodd gwrthrych y Cofiant yn helaeth o'r ysbryd. Arferai fyned gyda'r bobl ieuainc i gynal cyfarfodydd gweddiau ar hyd tai anedd a beudai y gymydogaeth, ac yr oedd ei sel a thanbeidrwydd ei ysbryd yn cyneu yn fflam gref.
Fe gofir byth gan luaws am rai o'i weddiau gafaelgar a'i anerchiadau tanllyd, yn y cyfarfodydd gweddiau a gynelid yn y tai anedd; ac y mae yn sicr fod yr Iesu wedi cyfarch llawer tŷ y pryd hwnw gan ddywedyd, "Heddyw y daeth iachawdwriaeth i'r tŷ hwn." Yr oedd y gwres a'r eneiniad oedd ar ei bregethau yn y cyfnod hwn yn hynod rymus, ac yr oedd y llewyrch yn nodedig o danbaid yn y Cyfundeb ar brydiau. Wrth weinyddu yr ordinhadau sacramentaidd, byddai fel rheol yn neillduol o hwylus. Byddai y rhieni yn yr holl gylchoedd yn gwneud ymdrech i ddwyn eu plant ato i'w bedyddio. Rhoddai anerchiad brwd ar fedydd yn y dechreu, ac yna cymerai y baban yn ei freichiau, gan ei siglo yn ol ac yn mlaen, a rhoddai y penill hwnw i'w ganu:—
Bugail Israel sydd ofalus
Am ei dyner anwyl ŵyn;
Mae'n eu galw yn groesawus,
Ac yn eu cofleidio'n fwyn.
Canai yntau gyda'r gynulleidfa gyda gwên siriol ar ei wyneb, gan barhau i hwian yr un bychan hyd nes y byddai pawb yn y lle yn teimlo yn fynych fod y Bugail Mawr yn bresenol, ac yn cofleidio y plentyn. Rhoddai y penill hwnw i'w ganu hefyd yn aml :
Cyflwynwn ni y baban hwn
I'th ofal, Iesu mawr,
Ac yn dy goron boed yn berl
'R ol darfod dyddiau'r llawr.
Yr wyf yn gwybod am luaws o rieni a gredant byth fod eu plant wedi eu cyflwyno i ofal yr Iesu mewn gwirionedd yr adeg hono, ac wedi eu derbyn ganddo. Os byddai ambell i faban yn dyfod i mewn yn flin ac yn ymrwyfus, er mawr brofedigaeth i'w fam, anfynych y byddai ef yn methu tawelu yr ystorm pan y cymerid ef ganddo yn ei freichiau. Cofir byth hefyd am rai o'i weddiau taerion a gafaelgar ar achlysuron felly.
Er nad oedd yn orselog dros ddull bedydd, yr oedd yn dra aiddgar dros fod hâd yr eglwys yn eu babandod yn ddeiliaid priodol yr ordinhad. Clybuwyd ef yn dweyd amryw o weithiau y buasai yn myned gydag aelod, a fuasai yn dewis hyny, i'r afon i'w suddo os heb ei fedyddio o'r blaen; ond pan y gwelai rai yn rhoddi gormod o bwys ar ddull bedydd, gan daeru yn gyndyn fod suddo mewn cyflawnder o ddyfroedd yn hanfodol angenrheidiol, nid ymataliai rhag dweyd pethau miniog. Aeth un noson waith i bregethu i le ag yr oedd achos lled gryf gan y Bedyddwyr, a dadleu poeth yn fynych rhyngddynt â'u brodyr o enwadau eraill ar y pwnc o fedydd. Digwyddai fod yno ddau neu dri o blant wedi eu dwyn, i'w bedyddio ganddo o flaen y bregeth. Cyn myned i mewn i'r capel dywedai y blaenoriaid wrtho, "Bydd yma luaws o Fedyddwyr yn gwrando arnoch heno, Mr. Davies, a chan fod yma fedydd y mae yn ddiau y bydd yma ddadleu brwd y dyddiau nesaf. Byddai yn dda i chwi," meddynt, "ddweyd yn gryf ar y pwnc, gan y dywedir ganddynt nad ydyw ein bedydd ni yn fedydd o gwbl." "A ydynt yn dweyd peth felly?" meddai yntau, gan roddi ysgydwad arwyddocaol ar ei ben. Dweyd nad ydyw yn fedydd," meddai ddwywaith neu dair pan yn codi i fyned i gyfeiriad y capel, a'i ysbryd yn amlwg wedi ei gynhyrfu gan sylwadau y cyfeillion yn y tŷ. Yn ei anerchiad ar fedydd y noson hono dywedai, "Sêl ydyw bedydd, a chwi a wyddoch i gyd mai arwydd o gadarnhad ar weithred gyfreithiol ydyw sêl. Nid maint y sêl sydd yn bwysig, ond cynwys y weithred a selir. Yr wyf yn cofio 'stalwm y byddai y cyfreithwyr yn defnyddio sêl gŵyr fawr fel pisyn coron ar weithredoedd, ond erbyn hyn y mae sêl fach, ddim mwy na chwe' cheiniog, yn gwneud y tro, ond ni chlywais i am yr un cyfreithiwr erioed yn ddigon ynfyd i gymeryd gweithred a'i throchi dros ei phen mewn cŵyr. Sêl yr Arglwydd ar ei bobl ydyw bedydd. Nôd ydyw bedydd. Diwrnod mawr fyddai diwrnod nodi y defaid yn Mhenmachno. Byddai holl blant yr ardal yn casglu yn nghyd. Yr oedd yno wahanol fathau o nodau hefyd—nôd coch a nôd du, nôd clust, nôd cynffon, nôd gwlân—ambell i ffarmwr yn gosod dwy lythyren ar ochr y ddafad, un arall yn rhoddi nôd coch ar ei thalcen, ac un arall yn rhoddi nôd coch ar draws ei gwar; ond ni welais i yr un ffarmwr erioed yn ddigon ffol i drochi y ddafad mewn nôd coch. Nôd ydyw bedydd."
Pan y cynhyrfid ef, yr oedd llifeiriant ei ddawn y sath fel y dygid ef yn mlaen yn anwrthwynebol ganddo. Yr oedd y geiriau mwyaf cymeradwy mewn cyflawnder at ei alwad, a chydmariaethau cartrefol cryfion o bob cyfeiriad yn cynyg eu gwasanaeth iddo. Byddai rhyw urddas ar Swper yr Arglwydd hefyd pan fyddai ef yn arwain yn y gwasanaeth. Yr oedd ef yn arbenig felly yn adeg y Diwygiad. Amrywiai yn fawr yn ei ddull o ddwyn y gwasanaeth yn mlaen ; weithiau llefarai yn wresog pan yn cymeryd yr elfenau oddiamgylch, bryd arall rhoddai emynau allan i'w canu, gan wneud sylw felly, "Gallwn ni hyfforddio canu heno. Yr oedd ein Iesu bendigedig yn canu cyn ymladd y frwydr fawr, gallwn ninau ganu wedi iddo Ef ei henill." Ar brydiau eraill—ac felly yn fwyaf mynych yn yr adeg y cyfeiriwn ati—elai o amgylch mewn dystawrwydd. Cofir byth am un cymundeb a gaed felly, yn hen gapel Penmachno, pan yr oedd y dystawrwydd yn annyoddefol, a rhyw ofnadwyaeth wedi meddianu pawb yn y lle. Clywid swn y cloc yn tipian, ac nid oedd dim swn arall i leddfu y tawelwch dwfn oddieithr ochenaid, yn awr ac yn y man, a fynai ddianc o ambell i fynwes oedd wedi myned yn rhy lawn. Yny man dacw hen frawd duwiol iawn, a eisteddai ar risiau y pwlpud, yr hwn a ystyrid yn un o'r rhai mwyaf hunanfeddianol a gwylaidd yn y gynulleidfa—fel pe heb fod yn ymwybodol o neb yn y lle, yn tori ar y dystawrwydd trwy furmur wrtho ei hunan eiriau y penill, —
Cofio'r nos bradychwyd Iesu,
O mor ryfedd cofio'r ardd.
A dyna floedd fawr gan rhyw frawd gwresog a eisteddai gerllaw iddo. Torodd yr argae, ac y mae y teimladau cryfion oeddynt yn croni er's amser yn rhuthro allan yn ddiluw anwrthwynebol. Cafodd y gynulleidfa, oedd yn mron llewygu gan ofnadwyaeth y dystawrwydd, ei hanadl ati. Buwyd yn y lle am rai oriau yn molianu ac yn gorfoleddu.
Yn adeg y diwygiad bu ef a'r diweddar Barchedig Robert Williams, Aberdyfi, ar daith trwy sir Ddinbych. Buasai yn dda genym pe y cadwesid hanes y daith hon; ond er ymofyn methasom a chael ond ychydig o gofnodion yn ei chylch, ac efallai na ddylesid disgwyl llawer o ffeithiau, wedi eu gosod i lawr mewn trefn a manylwch, am gyfnod ag yr oedd y cyffro mor angerddol ar deimladau y bobl. Dywedir gan y rhai sydd yn fyw, ac yn cofio y daith hono, na ellid cyffelybu pregethu y ddau ond i ruthr corwynt trwy yr holl wlad. Yr oedd y Parch. Robert Williams yn wr difrifol iawn ei ysbryd, a bu ei weinidogaeth yn hynod. o effeithiol a llwyddianus, ac yn neillduol felly yn mlynyddoedd olaf ei oes. Mewn llythyr a dderbyniwyd oddiwrth y diweddar Mr, John Price—yr hwn oedd flaenor parchus yn eglwys y Pandy, ger Llanrwst—mewn atebiad i gais a anfonwyd ato am ychydig o hanes y daith, ysgrifenir fel y canlyn:—"Bum yn holi yn nghylch pregethau Mr. Davies a'i gydymaith yn Nghwytherin. Methais a chael y testynau; ond yr ydys yn cofio yn dda fod y pregethau yn nodedig o effeithiol—dan arddeliad amlwg yr Ysbryd Glân. Dywedid fod oddeutu deuddeg wedi ymuno â'r eglwys yn niwedd yr oedfa hono. Yr oeddynt yn y Pandy am ddeg boreu dranoeth. Pregethai Mr. Davies oddiar Salm xliv. 3, 'Canys nid â'u cleddyf eu hun y goresgynasant y tir, nid eu braich a barodd iachawdwriaeth iddynt ; eithr dy ddeheulaw di, a'th fraich a llewyrch dy wyneb, oherwydd i ti eu hoffi hwynt." Cafwyd pregeth nerthol ac o dan arddeliad neillduol. Nid yn aml y clywais y fath bregeth. Yr oedd yr effeithiau uwchlaw desgrifiad. Arosodd lluaws yn ol yn yr eglwys o dan deimladau dwysion iawn—amryw ohonynt wedi myned dros ganol oed, a rhai ohonynt wedi bod yn agos at grefydd, ond wedi cydio yn y traeth, ac fe gafwyd dyfroedd digon cryfion y boreu hwnw i'w nofio. Fe ymunodd rhai ugeiniau âg eglwys y Pandy yn yr adfywiad hwnw, ond yr wyf yn meddwl yn sicr mai ffrwyth yr oedfa hon a ddaliodd eu tir oreu o lawer. Nid wyf yn gwybod i neb ohonynt.
lwyr adael crefydd hyd y diwedd, ac y mae hyny wedi cyfarfod yr oll hyd y gallaf gofio."
Mewn adroddiad a roed yn Nghyfarfod Misol y sir am y daith hon yn mhen ychydig amser ar ol hyny, dywedid fod y ddau weinidog wedi derbyn tros bum' cant i'r eglwysi ar ddiwedd eu hoedfeuon, ac ychwanegwyd lluaws mawr am fisoedd lawer ar ol eu hymadawiad hwy. Dilynid y pregethwyr o'r naill gapel i'r llall, a gorlenwid hwy. Ar eu taith yr oeddynt mewn cyfarfod pregethu yn y Groes, ger Dinbych, a dywedai un oedd yn bresenol yn y cyfarfod hwnw na bu erioed mewn, ac na welodd erioed yr un adeilad wedi ei lanw mor dyn. Safai dyn yn nghanol y llawr, ac oherwydd fod y gynulleidfa yn pwyso mor drwm arno, yr oedd yn methu annghofio ei hunan ac annghofio fod amser yn bod i gael dianc o'r caethiwednid oedd y blinder hwn yn ymwybodol ychwaith i ond ychydig yn y lle gan fod y mawr ragorol ogoniant yn peri iddynt annghofio y cwbl. Fodd bynag, gwelid y dyn yn y canol yn ceisio yn aflwyddianus i droi ei lygad i gyfeiriad y cloc, ac ar ol hir ymdrech llwyddodd i wneud hyny; ond bu yn rhaid iddo aros yn y sefyllfa hono—â'i gefn ar y pregethwyr a'i wyneb ar y cloc—hyd ddiwedd y gwasanaeth gan nad allai droi yn ol. Cafwyd arwyddion sicr o ddylanwad goruwchnaturiol yn y cyfarfod hwn. Dilynid yr oedfeuon dranoeth yn Nantglyn, Tanyfron, a Llansannan âg effeithiau rhyfedd. Nid oedd yr un oedfa yn myned heibio heb i amryw ymuno o'r newydd â'r eglwysi. Arosodd pymtheg y noswaith hono yn Llansannan, ac yr oedd yn eu plith rai annuwiol iawn, a dywedai Mr. Davies wrth eu derbyn, "Wel, dyma bobl yn newid eu meistr am byth." A bu rhai ohonynt mor amlwg ymroddgar a chryf yn ngwasanaeth yr Iesu o hyny allan ag y buont yn ngwasanaeth eu hen feistr cyn hyny. Yr oeddynt yn y Garnedd am ddeg dranoeth, a Mr. Davies yn pregethu oddiar 1 Pedr iv. 18, "Ac os braidd y mae y cyfiawn yn gadwedig, pa le yr ymddengys yr annuwiol a'r pechadur?" a'r "gwynt nerthol yn rhuthro" yn y lle. Yn un o'r capeli yn y dosbarth hwn yr oedd dyn wedi aros ar ol i gynyg ei hun i'r frawdoliaeth, yr hwn oedd yn cael y gair o fod yn lladrata defaid a dofednod ei gymydogion. Adwaenid ef gan Mr. Davies a chyfarchai ef, gan roddi ei law ar ei ben ef, fel hyn, " Y mae yr Iesu yn achub lladron. Fe achubodd y lleidr ar y groes."
Yr oedd mor boblogaidd yn ei ardal ei hun ag yn unman, a phan y cyhoeddid ef i bregethu ar noson waith, yr hyn a wneid yn fynych, deuai cynulleidfa fawr yn nghyd i'w wrando bob amser. A phan y byddai gwr dyeithr yn cael ei ddisgwyl i'r ardal i bregethu am noswaith ac yn cael ei luddias gan amgylchiadau i ddyfod, ni byddai y gynulleidfa yn siomedig os byddai ef yn bresenol i gymeryd ei le. Gwnaeth hyny lawer gwaith heb ond ychydig o funydau o rybudd. Clywsom am dano un tro wedi cyrhaedd tŷ'r capel ar achlysur felly, a'r blaenoriaid yn disgwyl yn bryderus am dano oherwydd fod y pregethwr dyeithr wedi eu siomi, ond nid oedd mor barod i bregethu y noson hono. Dadleuai nad oedd ganddo bregeth ac nad oedd ei ysbryd ychwaith yn barod i feddwl am hyny. "Nid oes genyf," meddai, "gymaint a thestyn." Yr oedd hen chwaer graff a chrefyddol yn digwydd bod yn nhŷ'r capel ar y pryd, ac meddai " Y mae gen i destyn i chwi, pregethwch arno—'Trwy ffydd Noe, wedi ei rybuddio gan Dduw,' &c." Aeth i fynu i'r pwlpud ar y gair, a phregethodd un o'r pregethau mwyaf gafaelgar ac esseithiol.
Byddai wrthi yn barhaus yn cyfansoddi pregethau newyddion. Credai yn gryf yn hyny pe na byddai arno eisiau pregeth ar gyfer amgylchiad neillduol. Cynghorai wyr ieuainc unwaith mewn Cyfarfod Misol i wneud felly. Peidiwch," meddai, "a gadael i'r un wythnos fyned heibio heb fod genych bregeth newydd ar y gweill. Edrychwch gyda llygad pregethwr ar bobpeth, a chesglwch ddefnyddiau eich pregethau ar eich ehediad yn mhob man fel y wenol. Nid gwneud pregeth unwaith yn y chwarter, a gwneud hono am fod yn rhaid ei chael, ond meithrin ysbryd y gwaith hyd nes y bydd pregethu wedi myned yn rhan ohonoch fel nad allwch fod yn llonydd heb bregethu mewn amser ac allan o amser. Nid parotoi ei gân ar gyfer concert y mae yr aderyn, ond canu am fod canu yn ei natur-canu am nad all beidio canu." Yr oedd ef ei hun yn gwneud y cynghor, ac nid allasai fyw heb ei wneud. Yr oedd yn barhaus yn cyfansoddi pregethau newyddion. Bernid gan rai o'i frodyr ei fod yn gwneud gormod, ac y buasai yn well iddo gyfansoddi llai a chyfansoddi yn fwy manwl; ond credwyf mai camgymeriad a fuasai hyny i'w ddawn a'i natur ef. Cadw ei ysbryd yn fyw oedd y peth pwysicaf iddo ef, a gwnai hyny yn effeithiol trwy weddio a darllen a gwneud pregethau newyddion yn ddiorphwys. A byddai y bregeth oedd wedi ei hysgrifenu gyda mwy o fanylwch a gofal na'r cyffredin yn troi yn siomedig ganddo yn fynych.
Byddai yn dra amrywiol ei deimladau yn y cyfarfodydd eglwysig-weithiau yn arw iawn a phryd arall yn dyner iawn-ond yr oedd bob amser yn newydd. Byddai yr ystorm gref yn newydd, a phelydrau dystaw yr haul â rhyw newydd-deb yn perthyn iddynt. Pan y ceryddai ni chamgymerid ef byth, a phan y canmolai fe roddai sain digon hyglyw. Yr oedd y grediniaeth oedd yn meddwl y bobl ei fod yn onest i'w argyhoeddiadau yn ei gadw rhag cwympo dros yr ymyl yn eu golwg, er myned i eithafion yn fynych; ac er y byddai ambell un o dan y fflangell yn digio wrtho, byddai wedi maddeu iddo cyn i swn y cerydd ddiflanu. Diarddelwyd gwraig o'r eglwys oherwydd rhyw gweryl, a chaed cryn drafferth gyda hi. Cynygiodd ei hunan i'r eglwys cyn hir drachefn, a chodai y blaenoriaid a'r pregethwyr i'w chroesawu ar ei dychweliad, ond eisteddai ef a'i ben i lawr gan omedd dweyd gair. Yn y man, yn ngonestrwydd ei ysbryd, wrth weled y brodyr yn myned yn rhy bell yn eu croesaw i'r bechadures, ac yntau yn credu nad oedd arwyddion yr edifeirwch yn ddigon amlwg, cododd i fynu yn sydyn a dywedai, "Yr ydych yn dweyd fod yn dda genych weled y chwaer, ond nis gallaf fi ddweyd hyny. Os nad ydyw wedi newid yn fawr, buasai yn llawer gwell gen i heb ei gweled. Pan y bu gyda ni o'r blaen ni a gawsom drafferth flin gyda hi, a phan y diarddelwyd hi ni fynai ein gadael eithr mynai aros er gwaethaf pobpeth. Ond wedi ei bwrw allan, fe gafodd yr eglwys lonydd, a bu tangnefedd ar Israel. Y mae ambell un yn fwy tawel allan nag i mewn. Fe geir rhai yn cweryla yn barhaus yn yr eglwys, ond nid oes fawr o son am eu cweryla pan y maent allan; ac yr wyf yn meddwl fod gwell siawns i'r rhai hyn fyned trwy y byd yma yn fwy cysurus iddynt eu hunain ac yn fwy diboen i eraill heb fod yn aelodau eglwysig. Buasai yn well genyf weled arwyddion amlycach o edifeirwch yn D cyn codi fy llaw i'w derbyn er ei mwyn ei hunan ac er mwyn yr eglwys."
Er fod y sylwadau hyn yn rhai llymion, buont yn dra llesol. Yr oedd yn onest ei hun ac yn caru gonestrwydd yn mhawb arall, ac yr oedd hefyd yn graff iawn i adnabod rhith onestrwydd a rhagrith yn mhob man. Mewn cyfarfod eglwysig, pan yn myned oddiamgylch i wrando profiadau y saint, meddai wrth eneth ieuanc, "Beth sydd ar dy feddwl di, J?" "Nid oes dim byd ar fy meddwl i," meddai hithau. "Y mae yn dda iawn genyf dy glywed yn dweyd y gwir, J. Daw llawer yma gan ddweyd yr adnod hono, 'Am hyny byddwch chwithau barod, canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y Dyn,' nad ydyw ar eu meddwl mwy nag 'Yn y dechreuad y creodd Duw y nefoedd a'r ddaear;' ond er ei fod yn wir, cofia nad ydyw yn wir y dylet ti fod yn foddlawn arno. Dylem wneud ymdrech i roddi rhywbeth teilwng yn y meddwl."
Medrai rybuddio yr afreolus, dyddanu y trallodrus, cynal y gweiniaid, a chryfhau a sefydlu yr amheus yn hynod o fedrus, a theimlid bob amser fod athraw doeth a meddyg profedig wrth y gwaith. Ar gychwyniad gwr ieuanc oddicartref i Lerpwl dywedai, " Y mae yno lawer o bethau newydd a llawer o bethau hardd a llawer o bethau gwerthfawr yn Lerpwl; ond nid oes yno ddim mor newydd, mor hardd, ac mor werthfawr â chrefydd yr Arglwydd Iesu Grist. Cadw dy olwg ar hyn yn nghanol y cwbl, a gofala na fydd dy grefydd di ddim yn tori i lawr yn ei phris yn nwndwr marchnad fawr Lerpwl." Clywais gyfaill yn dweyd ei fod yn cofio am dano yn cadw seiat yn hen gapel Bedford Street, Lerpwl, rhyw noson, rhwng dau Sabboth y digwyddai fod yn y ddinas yn gwasanaethu yr eglwysi. Nid oedd y cyfaill yn cofio ond yn unig fod yno gyfarfod rhyfedd iawn. Llefarai y pregethwr yn wresog a dywedai gydag eneiniad neillduol, "Os oes yma ddail surion, y mae yr Oen yn y canol." Torodd allan yn orfoledd mawr trwy y lle.
Bu yn pregethu ac yn cyflawni y gwaith bugeiliol yn nglŷn âg eglwysi Penmachno am flynyddoedd lawer yn ffyddlon a llafurus heb yr un geiniog o gydnabyddiaeth, a theimlai, tra yr oedd y fasnach a'r ffarm ganddo, na ddylasai gymeryd arian yr eglwysi am eu gwasanaethu. Er hyny, yr oedd yn credu yn gryf fod ymryddhau oddiwrth ofalon bydol, ac ymroddi i waith y deyrnas, yn ddyledswydd ar weinidog wedi ei ordeinio i'r gwaith. A pha amcan sydd mewn ordeinio dyn gan eglwys Crist i fasnachu ac i ffarmio?
Ar ol ei ordeiniad dwyshaodd y syniad hwn; ac yn ngrym gwres y diwygiad, pan yr oedd mor llawn o ysbryd pregethu, penderfynodd roddi pobpeth i fynu ac ymroddi i'r gwaith o bregethu, yr hyn yr oedd ei feddwl yn gogwyddo tuag ato er's rhai blynyddoedd bellach. Gwnaeth ei feistr tir ei oreu i'w atal, a chynygiodd y tir iddo am yr ardreth a farnai ef oedd gymhwys, os oedd yn ystyried y swm a delid ganddo yn ormod; ond yr oedd wedi gosod ei feddwl ar ymryddhau.
Rhoddwyd y cwbl i fynu yn Nghalangauaf y flwyddyn 1860. Fel hyn y dywed ef ei hun ar hyn:—"Arosasom hyd Galanmai y flwyddyn ganlynol i edrych o amgylch am rywle i fyned, a rhywfodd i Gorwen yr aethom. Yr oedd yno dŷ i'w gael, ac amryw o gyfeillion yn galw am i ni ddyfod yno, er nad oedd galwad ffurfiol gan yr eglwys i mi. Aethom yno â chwech o blant megys ar haner eu magu. Anturiaeth fawr oedd hon; ond gwnaethom hi yn y grediniaeth, os oedd yr Arglwydd wedi meddwl am i mi bregethu, mai hyny a ddylaswn ei wneud; a chan y cefais brofiad nad oedd yn bosibl trin y byd, a chyflawni gyda gweinidogaeth yr efengyl hefyd i bwrpas, teimlwn mai fy lle oedd rhoddi y byd heibio ac ymddiried yn yr Arglwydd am foddion cynaliaeth i mi a'm teulu. A'n cred oedd y byddai chwech neu wyth mlynedd yn brawf ar ein gweithred, naill ai y byddwn wedi methu yn fawr a rhyfygu i wneud fel y gwnaethum, neu ynte y byddwn yn ddedwydd yn y weithred."
Gosododd ei law ar yr aradr ac nid edrychodd yn ol, ac yr oedd yn cael y fath gysur yn y gwaith fel y mae yn sicr na theimlodd yr iâs wanaf o edifeirwch erioed oherwydd y cwrs a gymerwyd ganddo. Acer na fu yn fugail ffurfiol ar eglwys neu eglwysi am y gweddill o flynyddoedd ei einioes, ni chafodd y fugeiliaeth erioed bleidiwr mwy gwresog nag ef. Anogai bregethwyr ieuanc, os gwelai gymhwysderau ynddynt, i benderfynu ymroddi i waith mawr y weinidogaeth a pheidio meddwl o gwbl am edrych yn ol. Fel hyn y dywedai wrth un gwr ieuanc ar ddechreuad ei yrfa weinidogaethol:—" Ymroddwch i bregethu a pheidiwch a phryderu. Peidiwch a myned i bysgota hefyd. Pan yr aeth y dysgyblion oddiwrth eu gwaith at eu hen rwydau heb yr Iesu, methiant a fu yr hanes. Ni ddarfu iddynt ddal dim er treio. Gwelais amryw o bregethwyr yn myned i bysgota, ond nis gwelais yr un ohonynt yn dal dim." Yna nodai lu o bregethwyr oedd wedi myned i geisio trin y byd ac yn aflwyddo, neu, yn ol ei ddameg ef, i bysgota ond yn methu dal dim.
Dywedai wrth un arall oedd yn dechreu pregethu ac yn myned trwy y dosbarth gydag ef ac yn cwyno iddo gael oedfa galed yn un o'r lleoedd yn y cylch :"Wel, ie, ti gei lawer oedfa galed, a phaid a disgwyl yn amgen; ond pregethwr a fyddi di bellach, neu bregethwr wedi methu. Yr wyt ti wedi rhoddi cam nas gelli ei roddi yn ol yn anrhydeddus." Byddai yn hynod o dyner wrth, a chalonogol i, wŷr ieuainc ar ddechreuad eu gyrfa bregethwrol. Pan ar y daith yn y dosbarth gyda'r brawd ieuanc y cyfeiriwyd ato, gan y gwyddai nad oedd gan y brawd ieuanc ond tair pregeth, er mwyn bod yn gefnogaeth iddo cadwodd yntau ei hunan ar dair pregeth drwy yr holl gylch; ond byddai ef, fel rheol, yn hoff iawn o amrywio a dwyn i mewn bregethau newyddion yn barhaus. Yr oedd yn barod i fyned o'i ffordd er mwyn cynal y gwan ac amddiffyn yr ieuanc. Y tair pregeth oedd ganddo yn y daith hono oeddynt ar y geiriau—" Ac Obadaiah oedd yn ofni yr Arglwydd yn fawr;" "Oherwydd nad adnabuost amser dy ymweliad;" ac "Oblegyd ni a gawn ei weled ef megys ag y mae."
Cynghorai frawd ieuanc arall i wneud pregethau newyddion o hyd, ond am iddo fod yn ofalus yn mha le i dreio pregeth newydd y tro cyntaf. "Mi sum i," meddai, " yn treio cryn lawer o bregethau newyddion yn C, ond methiant bob tro. Byddent yn gwywo ac yn trengu gerbron y gynulleidfa, ac mi gleddais rai o'r pregethau goreu yno heb obaith adgyfodiad mwy." Parhai yn amddiffynwr dewr a gwrol i ddynion ieuainc ar hyd ei oes, a chaed gan luaws ohonynt ynddo gysgod cryf a diddos i lechu hyd nes yr elai llawer aflwydd heibio. Yr oedd Mr. Morgan, Dyffryn, ac yntau yn dadleu mewn rhyw Gyfarfod Misol yn nghylch cymhwysderau dau ddyn ieuanc oedd yn codi i bregethu ar y pryd. Ymddengys fod Mr. Morgan yn nodi rhinweddau un ohonynt ac yn son am ddiffygion y llall, ac yn dywedyd fod y naill yn rhy annibynol o lawer tra y ceisiai y llall wrando yr hyn a ddywedid wrtho a'i wneud. "Ie,” meddai yntau, "pe bawn i yn dweyd 'Agorwch y ffenestr,' fe ddywedai yntau ar fy ol; ond dyna ei ddrwg ef. Dyn a dýr lwybr iddo ei hun yn y byd yma yw y goreu."
Er maint ei ofalon bydol pan yn Mhenmachno, fe lafuriodd lawer mewn darllen a meddwl. Clywais ŵr, a fu ar daith yn Ngwlad Canaan, yn dweyd ei fod yn gofyn cwestiynau iddo ef yn nglŷn â daearyddiaeth y wlad hono a barent syndod iddo oherwydd eu manylwch, ac oeddynt hefyd yn arddangos craffder mawr a gwybodaeth drwyadl am arferion ac arwynebedd y wlad. Gofynai y gŵr hwnw iddo pa fodd y cyrhaeddasai y fath fanylwch yn ei wybodaeth yn y cyfeiriad hwn. Atebai yntau ei fod yn y Parc, gerllaw y Bala, pan yn lled ieuanc yn pregethu gyda Dr. Edwards, noson gyntaf y Cyfarfod Misol, ac iddo wneud rhyw gamgymeriad yn nglŷn â daearyddiaeth ac arferion Gwlad Canaan, ac i'r doethawr parchedig ddweyd hyny wrtho yn niwedd yr oedfa. Penderfynodd ddarllen pob llyfr a gaffai ar y pwnc, a chyrhaeddodd wybodaeth fanwl a thrwyadl trwy gyflawni y bwriad hwnw. Wrth adrodd yr hanes, dywedai yn chwareus, "Dyna gymaint o athrofa a gefais yn fy oes."
Ymroddodd i lafurio wedi gadael Penmachno, a daliodd ati hyd ddiwedd ei oes, fel yr oedd ei ysbryd yn cael ei gadw yn dirf ac yn iraidd, a'i bregethau yn afaelgar iawn; ond fel David Davies, Penmachno, yr adnabyddid ef gan luaws ar hyd ei oes. Nid oedd dim ag y teimlai fwy o'i herwydd nag i rywun awgrymu ei fod yn pregethu yn well yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth nag yn y blynyddoedd diweddaf. Mewn Cyfarfod Misol yn Maentwrog yn mhen blynyddoedd wedi iddo ef symud i'r Abermaw, ymddyddenid â blaenoriaid a ddewiswyd gan yr eglwysi. Yr oedd yn eu plith frawd o Drawsfynydd, ac wrth adrodd hanes ei grefydd, dywedai fel hyn :"Eglwyswr oeddwn i hyd nes i mi fyned ar noson waith i oedfa a gynelid mewn ffarm gerllaw fy nghartref, a Dafydd Dafis o Benmachno yno yn pregethu. Ni fum i byth yr un fath ar ol y noswaith hono." Rhoddid cryn bwyslais ganddo hefyd, y mae yn ymddangos, ar Benmachno. Yn mhen rhai blynyddoedd ar ol hyn yr oedd yntau yn pregethu yn agoriad capel Trawsfynydd, ac mewn hwyl ar ganol pregethu dywedai: -" Y mae yma rai ohonoch yn meddwl fod Dafydd Dafis, Penmachno, yn well pregethwr na Dafydd Dafis y Bermo. Na, y chwi oedd yn well gwrandawyr y pryd hwnw."
Cof genyf glywed am y Parch. John Jones, Penmachno, ac yntau mewn Cyfarfod Misol yn Llidiardau, gerllaw y Bala. Ac am chwech o'r gloch y noson ddiweddaf, rhoed y ddau i bregethu gyda'u gilydd, a chafwyd oedfa annghyffredin o hwylus. Yr oedd efrydwyr y Bala wedi eu dal gan syndod, a phawb mewn teimlad a hwyl trwy y capel, ac yn eu plith yr oedd un hen wraig, yr hon a gafodd gymaint o ddwfr o dan ei llestr, fel yr oedd yn methu peidio a gorfoleddu wedi dyfod allan, ac ebai un gwr ychydig oerach na'r lleill wrthi, "Tewch, tewch bellach, modryb bach." "Ah," ebai hithau, "nid oes dim modd peidio diolch am Benmachno a phen Calfaria; ni bu y fath ddau Ben mewn bod."
Yr oedd y blynyddoedd 1856 ac 1857 yn flynyddoedd ag y cafodd Cymru grefyddol golledion mawrion yn marwolaeth pregethwyr adnabyddus a defnyddiol iawn. Yn y flwyddyn 1856 y bu farw John Williams, Llecheiddior—gwr ag y bu mellt a tharanau ei weinidogaeth yn peri i'r bobl fwyaf anystyriol ddychryn gan arswyd; John Jones, o Wrecsam—gwr o ddoniau hyfryd ac o ymddangosiad tywysogaidd; David Elias, o Bentraeth, Mon—ceidwad yr athrawiaeth yn y cyfnod hwnw; a Chadwaladr Owen, o Dolyddelen, yr efengylydd enwog—un ag y bu ei weinidogaeth fel gwlaw maethlawn yn disgyn ar y wlad am flynyddoedd. Yn y flwyddyn 1857 cwympodd i'r bedd rai eraill ag y mae eu henwau yn aros yn mhlith enwogion ein gwlad—dynion a adawsant eu hol ar Gymru, yn nglŷn â'r Methodistiaid, mewn gwahanol gylchoedd. Gallem enwi John Jones, o Dremadog—gwr o ddoniau chwim a phert, ac yn gwir ofalu am y deddfau a'r barnedigaethau; William Roberts, o Glynnog—un cadarn yn yr Ysgrythyrau ac a fawr hoffai geisio datod seliau y llyfr; a John Jones, o Dalysarn—pregethwr y bobl, yr hwn a greodd gyfnod newydd yn hanes pregethu Cymru.
Yr oedd y diweddar Barch. Cadwaladr Owen a gwrthrych yr adgofion hyn yn gyfeillion agos a chu wedi bod yn byw ar hyd y blynyddoedd yn y ddwy ardal agosaf i'w gilydd; a phan y cwympodd Cadwaladr Owen i'r bedd, fe deimlodd David Davies. i'r byw. Cymerai ran neillduol yn y gwasanaeth ar ddydd ei gladdedigaeth, fel y dywed yr hanesydd a ysgrifenai am yr amgylchiad i'r Drysorfa. Fel hyn yr ysgrifena:—"Ar ddydd Mercher, Mai 28, ymgynullodd tyrfa fawr Ο wahanol ardaloedd a siroedd i hebrwng ei gorph i'w fedd. Dechreuwyd y gwasanaeth wrth y ty gan y Parch. Robert Roberts, Llanrwst; yna pregethodd y Parch. David Davies, Penmachno, ar 2 Bren. ii. 12: 'Fy nhad, fy nhad, cerbyd Israel a'i farchogion,' a gwnaeth sylwadau hynod o effeithiol a phriodol at yr amgylchiad."
Yn ystod y blynyddoedd diweddaf y bu yn Mhenmachno, fe deithiodd lawer i Gymdeithasfaoedd a chyfarfodydd pregethu yn Ngogledd a Deheudir Cymru. Yr oedd ei ddoniau hyfryd a phoblogaidd yn peri fod y galwadau arno yn cynyddu yn barhaus; ac y mae yn ddiau iddo gael ei ddefnyddio yn offeryn i ddychwelyd llawer o bechaduriaid at yr Arglwydd. Er ei fod yn pregethu yn fynych iawn mewn Cymdeithasfaoedd, nid oes genym hanes am dano yn cael ei benodi i swydd o fath yn y byd yn nglŷn â'r Gymdeithasfa hyd flynyddoedd diweddaf ei oes. Paham? Ai damwain oedd hyn, ynte a oedd rhyw gylch cyfrin yn perthyn i lys uwchaf y Cyfundeb nad oedd ond yr etholedigion yn ei gyrhaedd? Ond, er y cwbl, ni chlywid ef yn cwyno; ac yr oedd ganddo ormod o gariad at bregethu i roddi ei "feddwl ar uchel bethau" y Cyfundeb yn y ffurf o ddeddfu a gosod mewn swyddogaethau. Fe gafodd y breintiau hyn yn weddol helaeth yn mlynyddoedd diweddaf ei fywyd, a dangosodd fod ganddo fedr i wneud y defnydd goreu ohonynt pe y cawsai hwynt ar adeg gynarach ar ei oes, Efallai fod yr esgeulusdra hwn yn codi ohono ef ei hun—fel yr awgrymwyd eisoes—y diffyg awydd naturiol oedd ynddo am swyddau, ac hefyd diffyg ymddiried ynddo ei hun fel ag i'w wneud yn un galluog i ymwthio i'r blaen.
Yn mis Mai, yn y flwyddyn 1861, yr ymadawodd i Gorwen, ac yr oedd ei ymadawiad yn amgylchiad o dristwch du a galar dwfn i'r gymydogaeth a'r ardaloedd yn y cylch lle yr oedd mor ddefnyddiol a'i wasanaeth mor dderbyniol a chymeradwy. Pan yn ysgrifenu ychydig o adgofion am Benmachno, yn ol cais cyfaill o'r lle, yn mhen llawer o flynyddoedd ar ol hyn, fel hyn y dywed:—" Gwelais lwyddiant mawr ar yr achos. Dau neu dri a phedwar ugain oedd nifer yr aelodau eglwysig pan y dechreuais bregethu, a phan yr oeddwn yn ymadael yr oeddynt dros bedwar cant. Un eglwys oedd y Llan a'r Cwm pan ddechreuais; ac nid oedd eglwys wedi ei sefydlu yn Ebenezer hyd ar ol fy ymadawiad. Gwnaethum amryw o gamgymeriadau mewn achosion o ddysgyblaeth; ond, debygaf, yn ngwydd y nefoedd, mai camgymeriadau oeddynt ac nid anonestrwydd na derbyn wyneb."
Bu yn haelionus iawn hefyd at wahanol achosion. Meithrinodd y rhinwedd hwn ar hyd ei oes, ac yr oedd bob amser yn barod i gyfranu yn ol ei allu. Pan yn trin y byd ni chai llwyddiant ddyfod i mewn na fyddai yn gweled rhyw ddrws i'w ollwng allan mewn haelioni crefyddol. Yr oedd casgliad gerbron tuag at dalu dyledion y capelau, ac ymddengys ei bod yn flwyddyn lled gnydfawr ar yr amaethwyr, a chofus gan amryw am dano yn traethu yn ddoniol a gwresog ar y pwnc ar nos Sabboth:—"Y mae y Brenin Mawr," meddai, "yn ein bendithio yn hynod, a dylai pawb ohonom gydnabod hyny mewn diolchgarwch a rhoddi, fel y llwyddodd y nefoedd ni, i gael yr Iesu yn rhydd o garchar y ddyled yma. Y mae y flwyddyn wedi ei choroni â daioni, a'r ydlanau wedi eu gorlenwi. Beth a fyddai i ni roddi pob tâs sydd oddiallan i'r ydlanau tuag at hyn. Marciwn y teisi sydd oddiallan fel eiddo yr Arglwydd." Yr oedd ganddo dri felly y flwyddyn hono, a rhoddodd hwy trosodd at ddyledion y capelau.
Nid oedd y drwg o ariangarwch a chybydd—dod yn cyffwrdd ynddo. Ac ar brydiau byddai yn annyoddefol o hallt wrth gybyddion. Cofir am dano un tro mewn Cyfarfod Misol yn cymhell y bobl yn ddoniol i roi at ryw achos da, ac yn adrodd hanesyn am hen frawd llaw—gauad a adwaenid ganddo :—" Yr oedd ganddo bwrs mawr lledr," meddai, "i gadw ei aur, a chludai hwnw gydag ef i bob man, a gorweddai a'i ben arno bob nos. Pan yn croesi clawdd ar ei ffarm unwaith collodd y pwrs, ond cyn myned onid ychydig latheni oddiwrth y lle, canfu ei golled, ac aeth yn ol yn ebrwydd i chwilio am ei drysor, pryd, er ei ddychryn, y gwelai gi melyn mawr wedi cael y blaen arno ac yn rhedeg ymaith a'r pwrs yn ei safn." Desgrifiai y ci melyn mawr, yn rhedeg ar draws y ffriddoedd, a phwrs a chalon y cybydd yn ei feddiant, ac yntau yn ei ymlid ac yn methu ei oddiweddyd hyd nes yr oedd y gynulleidfa fel yn y fan a'r lle yn canfod yr olygfa gyffrous. "Gwelais lawer o ddynion," meddai, "yn arbed mwy nag a weddai iddynt gan gyfyngu ar deyrnas y Gwaredwr, yn gorfod rhedeg yn aflwyddianus ar ol rhyw gi melyn mawr i geisio gwaredu eu heiddo o'i safn."