Neidio i'r cynnwys

Cofiant David Davies, Bermo/Bore ei oes

Oddi ar Wicidestun
Rhagymadrodd Cofiant David Davies, Bermo

gan William Jones, Lerpwl

Ymddadblygiad

COFIANT Y PARCH. DAVID DAVIES.


PEN, I.—Bore ei oes.

Ardal ei enedigaeth.—Adeg ei ymddangosiad yn y byd.—Ei rieni.—Y blaenoriaid eglwysig.—Ei fedydd.—Diwygiad crefyddol.—Dylanwad ei fam a'r golygfeydd o amgylch ei gartref yn ffurfiad ei gymeriad.

GANWYD y Parchedig DAVID DAVIES ar yr 16eg o Gorphenaf, 1815, yn nghymydogaeth dawel phrydferth Penmachno. Ardal neillduedig ydyw, yn ymwthio i fynu i gilfachau y mynyddoedd, fel i ymguddio o wydd y byd; ond er yr ymddengys braidd yn wylaidd, ac nad ydyw yn dewis gwneud swn mawr, na'i safle ddaearyddol yn fanteisiol i dynu sylw y byd, y mae iddi er hyny ei hanes. Yn annibynol ar yr hynafiaethau pwysig a gwerthfawr a berthyn i'r plwyf, a lluaws o draddodiadau swynol sydd yn enwogi rhai llanerchau ohono, fe gymerodd amgylchiad le, er's mwy na thri chan' mlynedd yn ol, ar ei gwr gorllewinol sydd yn gosod neillduolrwydd mawr arno, ac yn gosod y gymydogaeth, yn hanes Cymru grefyddol, uwchlaw holl gymydogaethau y wlad. Yn yr adeg hono, mewn lle o'r enw y Tŷ Mawr, Wybrnant, yr ymddangosodd William Morgan cyfieithydd y Beibl i'r Gymraeg—cymwynaswr penaf ei genedl. Am y mynydd a'r fangre gysegredig hon—pellder o filldir neu filldir a haner i'r dwyrain—y mae tyddyn bychan a dinôd o'r enw Y Gorlan, lle yr ymddangosodd gwrthrych ein Cofiant.

Daeth i'r byd ar flwyddyn aflonydd iawn yn hanes teyrnasoedd Ewrop—y wlad yn un berw trwyddi, a'r dinystr oedd wedi bod yn ymgrynhoi am flynyddoedd yn tori allan yn hylif poeth, hyd nes yr oedd teyrnasiad braw yn gyffredinol ac nes disgynodd gogoniant Ffrainc falch i'r llwch. Nid oedd ardal Penmachno, er ei phellder o'r byd, yn rhy bell i'r ystorm ei hysgwyd. Clywais hen bobl yn dweyd fod enw Napoleon y pryd hwnw—"Boni," fel e'i gelwid—yn ddychryn yn mhob tŷ. Pan y deuai dyeithrddyn ar ymweliad â'r lle, edrychid arno gan luaws o'r preswylwyr gyda drwgdybiaeth, a byddai y plant yn rhedeg i ymguddio i'r tai, mewn braw, rhag ei ofn; ac nid oedd mamau y lle yn gwybod am yr un enw a allasai fod yn fwy o ddychryn i weithredwyr drygioni yn mhlith y plant nag enw "Boni." Fe droid tai y gymydogaeth yn fath o gestyll, a chynysgaeddid hwy â'r arfau mwyaf priodol y gellid taro arnynt i'w hamddiffyn, ac i wrthsefyll ymosodiad y Ffrancod, pe y digwyddasent ddyfod yn ddisymwth.

Mewn adeg fel hyn y ganwyd y Parch. David Davies. Ei rieni oeddynt Evan a Jane Davies, ac yr oeddynt yn hiliogaeth hen deuluoedd parchus a chyfrifol. Hanai Evan Davies o deulu cryf o gorph, ac ystyrid rhai ohonynt yn gewri mewn maint a nerth. Yr oedd iddo frawd o'r enw Richard yn un o'r dynion talaf a grymusaf yn yr ardal; a phan yr holid y plant yn y Rhodd Mam, ac y gofynid y cwestiwn hwnw, "Pwy oedd y dyn cryfaf?" ac yr atebent "Samson," ystyrid presenoldeb Richard Davies—yr hwn a fyddai bob amser yn nghanol y plant yn eu dysgu ac yn eu llywodraethu—fel mantais i gadarnhau ac egluro y pwnc. Yr oedd Evan Davies yn ddyn byrach o gorpholaeth, ond yr oedd wedi ei fendithio â chorph cydnerth iawn, a chafodd fyw i'r oedran teg o 89ain mlynedd. Bu yntau o wasanaeth mawr gydag addysgu y plant yn Ysgol Sabbathol y Methodistiaid yn yr ardal am gyfnod maith.

Bu ei fam farw pan yr oedd David yn ieuanc. Yr oedd yn wraig dra synwyrol a chrefyddol; ac wedi cael addysg uwchlaw y cyffredin y pryd hwnw—yn deall yr iaith Saesneg yn dda, yr hyn a ystyrid yn yr ardal yn y cyfnod hwn fel medru dewiniaeth.

Meddai ei dad ddawn lithrig, naturiol, a hyfryd i weddio a chanu. Yr oedd dau frawd ar y pryd yn perthyn i eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Mhenmachno, a ystyrid gan y plant yn y ddau eithafion pellaf oddiwrth eu gilydd fel gweddiwyr. Ystyrid un yn boblogaidd iawn, tra yr ystyrid y llall yn dra anmhoblogaidd. Byddai Evan Davies yn fyr, yn llithrig, yn swynol ac yn newydd; ac yn arwain defosiwn y gynulleidfa bob amser â'i lygaid yn llawn agored. Byddai y llall yn ddwfn, yn hir, ac yn tueddu at fod yn ystrydebol; ac yr oedd y gwahanol wersyllfaoedd yn ei weddiau yn llawer haws i'w dilyn na'r gwersyllfaoedd yn nhaith cenedl Israel yn yr anialwch. Arferai hwn hefyd weddio llawer dros y teulu brenhinol, a byddai enwi gwahanol aelodau y teulu yn ei weddiau yn meddu cryn swyn iddo. Bu yn gweddio tros Sior y Trydydd am amser maith ar ol ei farwolaeth. Ceryddid ef yn drwm gan Evan Davies am hyny, ac hefyd am fanylu cymaint gyda'r teulu brenhinol. "Paham yr wyt ti yn gweddio tros Sior y Trydydd o hyd," meddai, "ac yntau wedi marw. Ni wnaiff dy weddiau di ddim lles iddo bellach. A phaham yr wyt ti yn trafferthu i enwi y teulu brenhinol bob yn un ac un; byddai yn well o lawer i ti eu lympio hwy."

Cafodd eglwys y Methodistiaid, yn yr ardal, ei breintio â chymeriadau neillduol iawn fel blaenoriaid. Y rhai a lanwent y swydd, pan yr oedd gwrthrych ein cofiant yn fachgen, oeddynt Huw Rolant, Rhys Gruffydd, Owen Jones, Hugh Davies a Matthew Roberts. Yr oedd y tri blaenaf yn y swydd, er pan ydoedd ef yn blentyn, ac y mae yn debyg mai dyma y blaenoriaid cyntaf a ddewiswyd yn eglwys Penmachno. Huw Rolant ydoedd gymeriad gonest, unplyg, ac yn meddu dawn neillduol at lenwi y swydd. Ni fedrai ddarllen llythyren ar lyfr, ond yr oedd llawer o'r Llyfr Dwyfol wedi ei drysori ganddo yn ei gof; a phan yr ymgymerai â dechreu y cyfarfodydd, adroddai un o'r Salmau—y Salm gyntaf yn fynychaf —gydag eneiniad. Pan yn gwrando ar eraill yn siarad, ac weithiau pan yn siarad ei hunan, ysgydwai ei ben a rhoddai ei fawd yn ei safn, mewn dull arwyddocaol iawn. Gwir ofalai am yr achos; a phan y byddai rhyw fater dyrys yn yr eglwys ni fyddai ef yn gallu cysgu na bwyta hyd nes y ceid glàn gydag ef. A phan y gwelai ei briod ef yn methu bwyta, neu y deallai ei fod yn methu cysgu, dyna a ddywedai,—" Beth ydi yr helynt sydd tua'r capel yna 'rwan? Y mae Huw yn cario y capel ar ei gefn o hyd." Dywedir ei fod yn un cyfarwydd a llwyddianus mewn rhoddi terfyn ar gynhenau ac ymrafaelion.

Yr oedd Rhys Gruffydd yn uwch ei gyrhaeddiadau na Huw Rolant, ac wedi cael graddau o fanteision addysg. Ar ei ysgwyddau ef y bu prif waith yr ysgol a'r eglwys, mewn gofalu, am rai blynyddoedd. Bu yn ffyddlawn yn yr holl dŷ, a chyflawnodd waith ei swydd gyda chymeradwyaeth y saint.

Owen Jones ydoedd ewythr frawd ei fam i David Davies, ac yn ddyn oedd wedi teithio cryn dipyn ar y byd, ac wedi enill cryn wybodaeth. Meddai ddoniau ystwyth, ac yr oedd wedi ei fendithio â natur a llawer o dynerwch ynddi. Yr oedd yn hoff o ganu, a bu am un cyfnod yn ddechreuwr canu; ond nid oedd ei ddawn at y gwaith yn rhy helaeth, mwy na lluaws oedd yn ymgymeryd â'r swydd o arwain cân y cysegr y pryd hwnw. A phan y byddai yn camgymeryd y mesur, nid ydoedd mor barod i gydnabod ei ddiffyg ei hun; ac, yn gyffredin, ciliai oddiwrth gyfrifoldeb y camgymeriad gyda gair felly:—"Tôn Saesneg oedd hona, gyfeillion, ni a dreiwn un arall," gan briodoli y cyfeiliornad i anwybodaeth y gynulleidfa o bethau Seisnig. Yr oedd i'r Owen Jones hwn frawd o'r enw Robert Jones—gwr ag yr edrychid arno fel cynghorwr yn ei ardal. Efe oedd cyfreithiwr cyffredinol y gymydogaeth, a byddai bron bob mater dyrys yn cael ei benderfynu o'r llys, trwy ei fedrusrwydd a'i gallineb ef. Nid ydoedd hwn yn aelod eglwysig, ond bu yn llawn ymroddiad a sêl gydag Ysgol Sabbothol a gynelid mewn Ty Rhisgl gerllaw ei gartref, o pa un y tarddodd yr eglwys sydd yn awr yn ymgynull yn Ebenezer, yn mhen isaf y plwyf. Bu yn llenwi pob swydd yn yr ysgol hono, a byddai yn cymhell rhai i ddechreu a diweddu yr ysgol gyda thaerineb. Wrth gymhell un dyn ieuanc, am y tro cyntaf, i gyflawni y gwasanaeth dywedai, "Tyr'd fy machgen i, goreu po cyntaf i ti ddechreu ar waith da fel hyn."

Dewiswyd y ddau flaenor eraill a enwyd pan yr oedd D. Davies tuag wyth mlwydd oed. Matthew Roberts oedd ddyn cywir. Anrhydeddodd ei swydd gyda ffyddlondeb mawr a chyda bywyd dilychwin. Yr oedd iddo air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun.

Bu Hugh Davies yn cadw y Ty Capel. Symudodd i Dŷ Capel Bettws-y-coed, ac oddiyno i'r America; ac y mae wedi ei gladdu yn naear y Gorllewin, oddeutu pymtheng mlynedd yn ol, ar ol bod yn swyddog eglwysig defnyddiol yno hefyd am flynyddoedd. Enw ei wraig ydoedd Alice, a meddai dalentau cryfion. Cyfansoddwyd amryw o ddarnau barddonol ganddi; ac y mae lluaws o'i phenillion yn y Llyfr Hymnau a arferir gan y cynulleidfaoedd Cymreig yn yr America. Yr oedd y cwpl hwn yn wahanol i'w gilydd o ran eu tymherau naturiol,——Hugh yn fywiog a phrysur, ac Alice yn araf a phwyllog. Gwnai y naill i fynu ddiffyg y llall mewn llawer cyfeiriad. Os oedd y naill yn dân yr oedd y llall yn ddwfr i atal ei ddinystr. Gwnai hi sylw un tro, pan yn methu cael y ddau ben i'r llinyn yn nghyd mor hwylus ag y dymunasai—"Y mae Hugh o flaen y byd, ac yr wyf finau ar ei ol, ac felly y mae yn dianc rhyngom." Ond yn yr Unol Daleithiau fe lanwodd y byd y bwlch rhwng y ddau. Gwenodd Rhagluniaeth y nef yn fawr arnynt; fel, ar ol rhai blynyddoedd o amaethu y tir, cawsant fodd i ymneillduo oddiwrth drafferthion y byd ac ymgysegru yn hollol i wasanaeth crefydd.

Adroddai brawd a fu byw flynyddoedd yn ymyl Hugh Davies, yn y Gorllewin, am dano yn cyfarfod â brawd o weinidog ar y ffordd i Gyfarfod Dosbarth, ac yn cyd-deithio âg ef ar y reilffordd. Wedi teithio rhyw gymaint, y mae Hugh Davies yn dadguddio i'r gweinidog ei fod yn rhwym i ddeddf Alice yn y fan hono. Ymddengys iddi hi gael ei hysbysu rhyw fodd fod pont a groesai yr afon, ar y ffordd, yn beryglus, a rhoddodd orchymyn caeth i'w phriod i ddisgyn yn yr orsaf agosaf i'r bont, a cherdded yn mlaen. Fodd bynag, cadwodd y gweinidog yr ymddyddan i fynu yn fywiog, hyd nes yr oeddynt wedi croesi y bont, heb iddo ef sylwi dim arni. Pan y deallodd ei fod wedi ei chroesi, dywedai yn frawychus, "Wel, wel, Mr. J. bach, beth a ddaw ohonof pan af adref at Alice?"

Yn mhen deg neu ddeuddeng mlynedd ar ol dewisiad y ddau flaenor a enwyd ddiweddaf, fe etholwyd brawd arall, sef David Davies, Ty'n-y-Coed. Yr oedd. y dewisiad hwn felly tua'r adeg y dechreuodd gwrthrych ein Cofiant bregethu, neu yn fuan wedi hyny. Yr oedd hwn yn ddyn, oherwydd ei safle fydol, ag yr edrychid arno uwchlaw y cyffredin, am ei fod yn oruchwyliwr ar etifeddiaeth fechan; ac hefyd yr oedd yn ddyn o synwyr a gwybodaeth eang, ac wedi ei egwyddori yn fanwl yn yr Ysgrythyrau. Efe ydoedd prif gychwynydd yr Ysgol Sabbothol y crybwyllwyd am dani o'r blaen, yn y Ty Rhisgl, yr hwn a berthynai i'w dyddyn. Ceid yno hefyd bregethu yn achlysurol. Y mae ei goffadwriaeth yntau yn arogli yn hyfryd.

Olynwyr y rhai hyn, ac olynwyr teilwng iddynt hefyd, oedd William Williams, Solomon Jones, William Roberts, William Evans, William Ellis, David Jones, Hugh Davies, a Robert Jones, y rhai sydd oll wedi myned at eu gwobr rhai ag y buasai yn hyfryd ysgrifenu rhai o'r gorchestion a gyflawnwyd ganddynt trwy ffydd, ond ni chaniateir helaethu yn y cyfeiriad hwn yn bresenol. Buasai traethu am danynt, bob yn un ac un, yn rhwym o fod yn ddyddorol ac yn adeiladol iawn. Y mae gwythien gref a gwerthfawr mewn cymeriadau fel hyn y dylid ei chloddio i fynu yn gyfoeth i'w plant a'u holynwyr. Ac yr oedd lluaws o wragedd hynod dduwiol yn Mhenmachno yn y blynyddoedd sydd o dan ein sylw, y rhai oeddynt yn dilyn yr Iesu yn agos ac yn ffyddlon ac yn gweini arno, gyda hyfrydwch, o'r pethau oedd ganddyntrhai ag y mae eu henwau yn "Llyfr y Bywyd," a rhai ag y dylesid cadw eu henwau ar y ddaear yn Llyfr y Brenhinesau.

Ond pan anwyd Dafydd bach nid oedd ei rieni wedi ymrestru gyda'r fintai oedd yn ymladd brwydrau yr Arglwydd, ac yn meddwl am ei enw Ef. Bedyddiwyd ef yn yr Eglwys Wladol, ond pan yr oedd ef tua thri mis ymunodd ei fam â'r eglwys fechan, berthynol i'r Methodistiaid yn y lle, ac aeth â'i baban yno gyda hi; a phan y byddai ef yn son am hyny, mewn blynyddoedd diweddar, arferai ddweyd yn siriol, “A derbyniwyd ni ein dau." Ac yn mhen dwy neu dair blynedd ymunodd ei dad â'r un gymdeithas. Efe ydoedd yr unig fachgen oedd ganddynt, a mawr oedd eu pryder yn ei gylch, a'u gofal am dano. Bu chwaer iddo, ond collwyd hi yn ei babandod.

Pan oedd ef oddeutu dwy flwydd oed, y daeth un o'r diwygiadau crefyddol mwyaf grymus a welodd Cymru erioed, sef yr hwn a adnabyddir fel " Diwygiad Beddgelert." Goddeithiwyd y wlad gan y tân sanctaidd, mewn modd anwrthwynebol. Ychwanegwyd llaweroedd at yr eglwysi, a llonwyd y saint yn fawr. Profodd cymydogaeth Penmachno rym y tywalltiad mewn graddau helaeth iawn. Ceir peth o'i hanes gan un sydd yn galw ei hun "E. ab R." yn Nhrysorfa 1858, o dan y penawd "Ychydig o Hanes yr Adfywiad Crefyddol yn Mhenmachno ddeugain mlynedd yn ol." Ysgrifena fel y canlyn:

WEDI clywed gan y Parch. Daniel Jones, Llanllechid, y modd y torodd yr adfywiad grymus hwn allan pan yn pregethu yn Mhenmachno, yn 1818, a chlywed gan amryw eraill o bregethwyr y Methodistiaid Calfinaidd a fyddai wedi bod yno yn pregethu, am yr effeithiau rhyfe idol a fyddai y pregethau yn ei gael ar y gwrandawyr, tueddwyd fi i ymweled â pherthynasau yn Nghapel Garmon fel y gallwn fyned gyda'r pregethwr a fyddai yn y daith y Sabboth canlynol i Benmachno. Y pregethwr oedd yn y daith y Sabboth hwnw ydoedd y diweddar Mr. Enoch Evans, o'r Bala, yr hwn a bregethodd y boreu yn Nghapel Garmon, yn Mhenmachno am ddau, ac yn yr Yspytty am chwech. Gofynwyd i mi ddechreu yr oedfa yn Mhenmachno; ac nid oedd yn anhawdd, canys yr oedd yno rhyw sugndyniad rhyfedd yn y gynulleidfa; ond yr oeddynt yn hynod ddwys a dystaw o'r dechreu. Yr oeddynt wedi dweyd wrth E. Evans cyn i ni gychwyn i'r capel os byddai iddynt dori allan i orfoleddu cyn diwedd y bregeth, am iddo droi i'r ffenestr i bregethu i'r rhai a fyddai wedi myned allan i wrandaw.

Cymerodd E. E. ei destyn yn Matth. vii. 24-27. Dechreuai yn bwyllog ac arafaidd gan esbonio ac agor ychydig ar ranau blaenorol y bennod, a sylwi yn fwyaf neillduol ar y porth cyfyng. Yn mhlith pethau eraill crybwyllai am y gwr ieuanc a ddaethai at yr Arglwydd Iesu i ofyn pa beth oedd raid iddo wneuthur i etifeddu bywyd tragwyddol, a'r ateb a roddasai yr Arglwydd Iesu iddo, ond fod y porth yn rhy gyfyng iddo, a'i fod wedi myned ymaith yn athrist. Ond dywedai fod genym hanes am rai pechaduriaid mawrion yn dyfod at y porth ac yn myned trwodd, megys Ceidwad y Carchar, wedi gofyn beth i wneud i fod yn gadwedig, a dywedyd o'r Apostol wrtho, ‘Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist a chadwedig fyddi, ti a'th deulu' -efe a gredodd, a dacw ef drwodd. Felly tithau, bechadur, er amled dy bechodau, ac er adgased dy gamweddau, os cei di y fraint o gredu yn Mab Duw, CADWEDIG A FYDDI. Yr oeddynt hyd yn hyn yn gwrando yn ddifrifol a dwys-ddyfal dros ben; ond gyda bod y gair 'Cadwedig a fyddi' dros enau y pregethwr, dyna floedd fawr gan luaws o'r gwrandawyr megys ar darawiad amrant nes synu y pregethwr, ac iddo droi ataf a gofyn yn ddifrifol iawn, 'Beth a wnaf yrwan, dywedwch?' Dywedais inau wrtho mai troi i'r ffenestr, megys ag y dywedwyd wrtho cyn myned i'r capel. Felly y gwnaeth, gan ddisgyn ar ei destyn yn uniongyrchol, yn gyson, ac effeithiol, i'r rhai a ddaethai allan, o swn y gorfoledd, i wrando; ond yr wyf yn meddwl iddi dori oddiallan drachefn cyn diwedd yr oedfa. Yr oedd Duw yn ddiau yn y lle hwn. Cefais alwad i ddyfod i aros am rai wythnosau i'r ardal hon yn mhen tua mis ar ol hyn, pan oedd yr adfywiad yn ei lawn nerth, pryd y gwelais y dylanwadau mwyaf grymus ac effeithiol yn disgyn ar y gwrandawyr, fel y gwelais amryw wrth geisio ymatal rhag llefain allan yn syrthio i'r llawr ar unwaith megys yn feirw; eraill yn cael eu llenwi â gorfoledd yr iachawdwriaeth nes y byddai sain cân a moliant yn dadseinio y pentref. Yn wir, yr oedd yn fath o nefoedd ar y ddaear i dreulio ychydig wythnosau yn eu mysg, pan yn tynu dwfr mewn llawenydd o ffynonau iachawdwriaeth. Y noswaith cyn fy ymadawiad o'r ardal, cadwasant gyfarfod gweddi ar yr achlysur, yr hwn nad annghofir amser maith. 'Rhoddaist lawenydd yn ein calon mwy na'r amser yr amlhaodd eu hŷd a'u gwin hwynt.' Ar yr achlysur myfi a gyfansoddais y penillion canlynol:—

Wrth fyned trwy'r anialwch, ar fy nhaith, &c.,
Ac ymdaith mewn diffaethwch, ar fy nhaith,
Ac yfed dyfroedd Mara
Mewn manau ar fy ngyrfa,
Ces ffynon Elim yma, ar fy nhaith, &c.,
A ffrwythlon goed afalau, ar fy nhaith.

Ces wledd o basgedigion, ar fy nhaith, &c.,
A gwin y gwaredigion, ar fy nhaith:
Y bwrdd sydd wedi ei hulio,
A minau'n cael bod wrtho,
Yn nhŷ y Brenin Seilo, ar fy nhaith, &c.,
Yn gwledda gyda'i eiddo, ar fy nhaith.

Rhaid gadael Elim hyfryd, ar fy nhaith, &c.,
Ei choed a'i dyfroedd hefyd, ar fy nhaith:
'Rwy'n awr ar dori'n nghalon,
Wrth adael fy nghyfeillion;
Ond gwneled Duw fi'n foddlon, ar fy nhaith, &c.,
Mae'r Iesu i mi'n d digon, ar fy nhaith.

Os rhaid o Elim gychwyn, ar fy nhaith, &c.,
Duw Israel ddelo i'm dilyn, ar fy nhaith:
Ei Ysbryd yn Arweinydd
Ac hefyd yn Ddyddanydd,
I'm cynal yn mhob tywydd, ar fy nhaith, &c.,
A rhoed im' ganiad newydd, ar fy nhaith.

Diau fod yr adroddiad syml uchod yn ddangosiad cywir o agwedd grefyddol y gymydogaeth y pryd. hwnw, ac o effeithiau yr adfywiad grymus. Cafodd yr achos gwanaidd yn Mhenmachno ei anadl ato, ac enillodd lawer o nerth trwyddo. Treiddiai Yspryd y peth byw trwy yr ardaloedd, a delid pechaduriaid wrth y canoedd, a thoddai ymaith y difaterwch a fu yn blwm wrth odreu yr eglwysi am lawer o flynyddoedd; ac yr oedd y tân sanctaidd yn cyneu yn gryf ar wahanol aelwydydd y cymydogaethau, a " Phob teulu wrtho ei hun" yn mwynhau y gwres. Ac yr oedd y teulu ag yr oedd y bachgen dwy flwydd oed ynddo wedi profi y dylanwad, a chafodd yr effeithiau hyny eu defnyddio, gan y tad a'r fam, yn nerth ac yn gymhwysder i feithrin eu hunig blentyn yn "addysg ac yn athrawiaeth yr Arglwydd." Ac er nad ydoedd ef ei hun mewn oedran i gofio y diwygiad nerthol hwnw, bu yn fantais fawr iddo, yn nhynerwch ei flynyddoedd cyntaf, i gael ei ddwyn i fynu mewn ardal a brofodd ei ddylanwad mor rymus, ac mewn teulu a drwythwyd mor llwyr ganddo. Yn y gwres hwnw, dysgodd ei fam grefydd gartref i Dafydd bach, ac y mae yn ddiau fod y ddysgeidiaeth, o dan y fath amgylchiadau, yn un effeithiol iawn. Cyflwynwyd ef i'r Arglwydd o'i febyd, megys y cyflwynwyd Samuel gan Hannah. Wrth adgofio am ei fam, yn mhen blynyddoedd lawer, dywedai:—"Crefydd oedd ei phrif beth hi, a'm dwyn inau i fynu yn fachgen crefyddol oedd ei phrif wasanaeth; ond nid wyf yn meddwl iddi amcanu i mi fod yn bregethwr, er fod ganddi syniadau uchel iawn am bregethwyr." Y mae yn amlwg ei bod, er hyny, yn anymwybodol iddi ei hun, yn ei barotoi i waith mawr dros ei Arglwydd. Arferid ef i ofyn bendith ar y bwyd, ac hefyd i gymeryd rhan yn y ddyledswydd deuluaidd, er cyn iddo gofio hyny; ac yr oedd y gofal a ddangosid ganddo am y dyledswyddau, yn ei deulu ei hun, ar hyd ei oes, yn dangos yr afael gref a gawsant ar ei feddwl. Nid ymadawodd â chyfraith ei fam tra y bu byw.

Y mae Cymru, fel pob gwlad, yn fwy dyledus am ei dynion defnyddiol i famau nag i bob dylanwad daearol arall yn nghyd. Pe y dilynid cwrs yr afonydd mwyaf i'w cychwyniad yr afonydd ag y mae prydferthwch a ffrwythlondeb ein gwlad, mewn ystyr ysprydol, yn dibynu arnynt, fe geid o hyd i'w tarddiad mewn llanerch unig a thawel o olwg y byd fel hyn yn mhellach yn ol na dylanwad athrofa—yn nghynt nag addysg yr un ysgol elfenol—yn nirgelion dystaw yr aelwyd a sancteiddir gan fam yn ofni yr Arglwydd yn fawr. Y mae dylanwad rhieni ar gymeriad plentyn y nesaf mewn pwysigrwydd ddylanwad yr Yspryd Glân ei hun. Iddynt hwy yr ymddiriedir ef gyntaf, yn yr adeg fwyaf tyner ar ei fywyd yr adeg y gwneir argraffiadau dyfnion ac annileadwy ar ei feddwl, a thrwyddynt hwy y ffurfir ei syniadau cyntaf. Ei gartref ydyw yr ysgol, lle y derbynia yr addysg fwyaf effeithiol; a'r deml, lle y cyflwyna yr addoliad mwyaf syml a mwyaf pur.

Diau fod gan y golygfeydd yr agorodd ei lygaid arnynt gyntaf ddylanwad mawr hefyd yn meithriniad ei ddawn. Y mae y fangre lle y ganwyd ac y magwyd ef yn meddu cyfuniad o'r rhamantus a'r prydferth, y gwyllt a'r swynol. Y tu cefn i'r tŷ y mae llechweddau ysgythrog—natur yn ei gwylltineb cynhenid heb ond ychydig iawn o ôl ymyriad llaw dyn; tra i lawr o flaen y tŷ y mae dolydd gwastad teg, a'r Fachno loyw risialaidd yn ymlusgo yn dawel wrth ei phwys ar hydddynt; ac, os nad ydym yn camsynied, yr oedd cyfuniad y ddwy olygfa wedi gadael eu hargraph ar ddawn y Parch. David Davies mewn modd amlwg.

Nodiadau

[golygu]