Neidio i'r cynnwys

Cofiant David Davies, Bermo/Cytuno ar y Ffordd

Oddi ar Wicidestun
Y Ddau Dŷ Cofiant David Davies, Bermo

gan William Jones, Lerpwl

Y ceryg hyn

PREGETH IV.—Cytuno ar y Ffordd.1[1]

"CYTUNA â'th wrthwynebwr ar frys, tra fyddech ar y ffordd gydag ef; rhag un amser i'th wrthwynebwr dy roddi di yn llaw y barnwr, ac i'r barnwr dy roddi at y swyddog a'th daflu yn ngharchar."—Mat. v. 25.

Y MAE swn cyfraith a chosp yn y geiriau hyn, ac y maent yn briodol a chymhwys i rai ar fedr ymgyfreithio â'u gilydd—"Cytuna." Nid oes yr un cynghor gwell i'r ddwy ochr, fel y dywed yr hen air Cymraeg, fod y "cytundeb gwaelaf yn well na'r gyfraith oreu."

Y mae yn air priodol hefyd i ddyn mewn achos o gynen ac ymryson—"Cytuna." Gwna frys i hyny rhag i'r achos a thithau syrthio i law Duw, y Barnwr cyfiawn. Mae yr Arglwydd yn cashau dynion digllon, llidiog, ac yn cymeryd yr achos i ddial i'w law ei hun, "Nac ymddielwch, rai anwyl, ond rhoddwch le i ddigofaint: canys y mae yn ysgrifenedig, I mi y mae dial; myfi a dalaf, medd yr Arglwydd." A phan y mae dyn yn myned i ddial ar ei gyd-ddyn, y mae yn yspeilio Duw o'r hyn sydd yn hawlfraint iddo Ef ac yn ymaflyd mewn arf nas gall ei drin.

Ond gallem feddwl fod ystyr ddyfnach i'r geiriau na hyn, ac nad oes un meddwl yn llenwi y geiriau heb gymeryd y syniad o Dduw fel gofynwr, a dyn fel dyledwr heb fodd i dalu ac yn graddol neshau at lys barn; ac yn yr olwg yma, y mae y geiriau yn ymddangos yn eu pwysigrwydd a'u difrifwch. Anogaeth ydyw hon o enau Gwaredwr a Barnwr y byd—Cytuna â Duw, ac o bob cytuno dyma y pwysicaf oll; a'r bobl sydd wedi cytuno â Duw, nid ydyw mor anhawdd cael y rhai hyny i gytuno â'u gilydd. Nid ydyw cytuno mewn cylchoedd bychain ond dibwys i'r dyn sydd wedi cytuno yn y cylch mawr. Y mae y dyn dderbyniodd faddeuant mawr gan Dduw yn fwy parod i estyn ei faddeuant bach, ar sail hwnw, i'w gyd—ddynion. Yn y geiriau yn y wedd hon ni a gawn:—

I.—Y gwirionedd sylfaenol.
II.—Yr anogaeth ddoeth ac amserol.
III. Y perygl i ni golli y cyfle.

I.—Y gwirionedd sylfaenol. Fe gymerir y gwirionedd sydd yn sail i'r cynghor yn y geiriau yn ganiataol, ac yn y gwirionedd yma y gosodir allan ein sefyllfa gerbron Duw. Y mae ein cysylltiad â Duw yn un annhraethol bwysig.

1. Fod gan Dduw ofyn cyfiawn ar ddyn fel ei greadur. Pan y gwelodd yr Arglwydd yn dda greu creadur moesol ac ysbrydol o'r fath ag ydyw dyn, yr oedd yn angenrheidiol ei greu yn sanctaidd a glân. Ac y mae yr un mor angenrheidiol i Dduw ofyn iddo barhau yn y sancteiddrwydd a'r purdeb hwnw, "Yr Arglwydd cyfiawn a gâr gyfiawnder."

Y mae dyn yn greadur i fod o dan ddeddf, ac, yn wir, nid oes dim yn y greadigaeth wedi ei adael yn ddiddeddf. Mae deddf i'r môr a deddf i'r gwynt; ac y mae deddf i bob peth yn ol ei natur ei hun. Felly i greadur moesol ac ysbrydol, fe roddir deddf foesol; a buasai yn wrthwyneb i natur foesol yr Anfeidrol i'w adael heb ddeddf, a hono yn ddeddf gyfaddas i'w natur. Nid allasai Duw cyfiawn a sanctaidd greu dyn o tan lywodraeth tuedd ac anian bechadurus a llygredig. Ac y mae angenrheidrwydd am i'r hwn a grewyd yn uniawn i fod yn barhaus mewn ufudd—dod a sancteiddrwydd, yn byw yn ol gofynion deddf Duw. Y mae gan y Duw mawr ofyn fel hyn ar ddyn.

2. Mae dyn yn fyr o ateb i ofynion cyfiawn ei o Greawdwr. "Wele, hyn yn unig a gefais; wneuthur Dduw ddyn yn uniawn: ond hwy a chwiliasant allan lawer o ddychymygion;" "Gwyrasant oll, aethant i gyd yn anfuddiol; nid oes un yn gwneuthur daioni, nac oes un;" "Nyni oll a grwydrasom fel defaid; troisom bawb i'w ffordd ei hun." Dyna y darlun du a thywyll a dynir ohonom gan ysbrydoliaeth, ac y mae yn ddarlun cywir a gonest.

Gan fod dyn yn y cyflwr hwn, wedi myned yn ol am ogoniant Duw ac yn ddyledwr iddo, y mae Duw yn wrthwynebwr iddo. "Oni ddychwel yr annuwiol, efe a hoga ei gleddyf." Ac y mae yr achos yma yn achos o gyfiawnder, ac nis gellir ei osgoi. Y mae egwyddorion sefydlog ac annghyfnewidiol yn dyfod i mewn i'r achos hwn, ac y maent yn egwyddorion sylfaenol a digyfnewid gorsedd. Pethau sefydlog ydyw egwyddorion, yn debyg fel y mae yr elfenau mewn natur. Nid all yr elfenau ddim bod ond yr hyn ydynt. Y tân, y dwfr, yr awyr, a'r goleuni. Nis gellir newid eu natur. Felly am egwyddorion yn y byd moesol ac ysbrydol, y maent yn annhyblyg, ac achos o egwyddorion tragwyddol ac annghyfnewidiol ydyw ein hachos ni gerbron Duw. Y mae yr Arglwydd "yn ddigllawn beunydd wrth yr annuwiol." Y mae yn wrthwynebwr iddo o angenrheidrwydd ei natur. Mae pechod a sancteiddrwydd yn egwyddorion hollol wrthwyneb, ac y mae y naill o angenrheidrwydd yn erbyn y llall, "Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylaw y Duw byw." Ac fel y dywedodd Samuel wrth Saul, "Paham, gan hyny, yr ydwyt ti yn ymofyn â mi, gan i'r Arglwydd gilio oddiwrthyt, a bod yn elyn i ti?" Fel hyn y mae dyn yn ol o ateb i ofynion têg yr Anfeidrol, ac am hyny y mae Duw yn wrthwynebwr cyfiawn iddo.

3. Y mae llys barn wedi ei sefydlu, a'r Barnwr wedi ei osod, a'r diwrnod wedi ei benderfynu. Fe dystiolaethodd "Enoch, y seithfed o Adda," am hyn gan ddywedyd, "Wele, y mae yr Arglwydd yn dyfod gyda myrddiwn o'i saint i wneuthur barn yn erbyn pawb." Nid Efe a ddaw, ond " y mae yr Arglwydd yn dyfod." Y mae holl gyfnodau ac amgylchiadau a theimladau bywyd a goleuni y farn fanwl yn disgyn arnynt, "Gwna yn llawen, wr ieuanc, yn dy ieuenctyd, a llawenyched dy galon yn nyddiau dy ieuenctyd, a rhodia yn ffyrdd dy galon, ac yn ngolwg dy lygaid: ond gwybydd y geilw Duw di i'r farn am hyn oll." Y mae y parotoadau ar gyfer y llys pwysig wedi eu gwneud, "Oherwydd iddo osod diwrnod, yn yr hwn y barna efe y byd mewn cyfiawnder trwy y Gwr a ordeiniodd efe."

4. Mae pob dyn ar y ffordd yn myned i gyfarfod â'r Barnwr. Gerbron y barnwr y mae y gofynwr a'r dyledwr yn dyfod i wrthdarawiad penderfynol. Gall eu bod gyda'u gilydd cyn hyny, yn cydfyned i'r llys, yn byw yn y ddau dy agosaf i'w gilydd, neu hwyrach yn yr un tŷ, a dim gair gan y naill yn erbyn y llall; ond erbyn i'r achos ddyfod gerbron y barnwr, y mae y ddau yn dyfod i wrthdarawiad penderfynol. Mae y gofynwr yn wrthwynebwr nerthol yno o un tu, a'r dyledwr yn euog o'r tu arall, a'r barnwr cyfiawn rhwng y ddau. Wedi i'r achos fyned i'r llys y mae goleuni yr orsedd i ddisgyn arno. Nid oes gan y barnwr ddim dewisiad ar ran yr euog; na, cyfraith yr orsedd sydd yn penderfynu cospedigaeth yr euog.

Dyn ar y ffordd i'r llys ydyw dyn ar y ddaear, yn prysuro at y Llywodraethwr. Byddi yn ngoleuni tanbaid y farn rai o'r dyddiau nesaf, ac fe ddaw gofyn Duw i'r golwg yno yn ei fanylwch eithaf, a dy ddyled dithau gerbron yn ei hofnadwyaeth arswydus. Rhaid i'r gwrthwynebwr gael ei ofyn neu y dyledwr euog ei garchar.

II.—Cynwysa y geiriau anogaeth ddoeth ac amserol, "Cytuna a'th wrthwynebwr ar frys, tra fyddech ar y ffordd gydag ef."

I. Cytuna ar unrhyw amodau. Dyma yr unig obaith am osgoi carchar ydyw cytuno. Nid oes genyt ddim i'w golli trwy gytuno, ond pobpeth i'w enill; ac y mae telerau yr efengyl y telerau mwyaf manteisiol. Fe gaiff y pechadur gytuno heb ddim yn y cytundeb yn taflu dirmyg ac anmharch arno. Cytundeb ydyw hwn tebyg i gytundeb y mab afradlon gyda'i dad. Yr oedd pobpeth yn y tad yn anrhydeddu y bachgen. Fe guddiodd ei warth â'i gyfoeth ei hun, ac fe gusanodd ei gywilydd ymaith â gwefus tad maddeugar. Fe gaiff y llô pasgedig ei barotoi i wneud gwledd, ac fe gaiff coffrau y palas eu trethu i barotoi yr afradlon ar gyfer y wledd. Cytundeb mewn Iawn yn un anrhydeddus.

2. Cytuna ar frys. Dyma beth i'w wneud ar frys, fel diffodd tân ac achub bywyd. Nid oes neb yn edifarhau am ei wneud ar ormod brys. Gwaith brys ydyw hwn. Os na wneir ef ar frys, ni wneir ef o gwbl. "Brysia, dianc yno"—brysia, bu oedi yn ddinystr i filoedd.

3. Cytuna ar y ffordd. Paid ag aros i gyrhaedd y tŷ agosaf. Gwaith i'w wneud ar y ffordd ydyw hwn. Os na wneir ef ar y ffordd nis gellir ei wneud o gwbl. Gwaith mawr a phwysig i'w wneud ar y ffordd ydyw hwn. Llawer a soniodd yr Apostol Paul am "Haner dydd ar y ffordd."

4. Cytuna dy hun. Y mae yn fater personol a neillduol. Cytuna trosot dy hun. Paid ag aros tad na mam, gwr na gwraig na phlentyn—cytuna. Nid ydyw yn bosibl i ti fethu wrth wneud y cytundeb yma. Dy achos di dy hun ydyw hwn, ac nid oes neb a all wneud y cytundeb hwn drosot. Y mae pobpeth yn gyfleus i gytuno. Mae y Meichiau a dalodd y cwbl yna gyda thi, ac y mae pobpeth yn barod, fel na raid i ti aros munyd wrth neb. Dyma gyfle i gytuno, tra y mae pobpeth cytuno ar y ffordd gyda thi.

III.—Y perygl i ni golli y cyfle. Fe wesgir y cynghor arnom gan yr ystyriaeth yna. Rhag un amser i'th wrthwynebwr dy roddi di yn llaw y barnwr." Y mae yna berygl oedi rhag i'w amynedd fyned i'r pen.

1. Mae yn gyfle manteisiol iawn. Yr wyt ti "ar y ffordd gydag Ef." Gyda'i was Ef? Nage, gydag Ef ei hun, ac y mae eto heb roddi yr achos o'i law i'r Barnwr. Y mae yn cadw yr achos yn ei law ei hun hyd yr eithaf. Nid oes arno ddim eisiau dy gospi, onide gallaset fod eisoes yn y carchar. Yr wyt ti heddyw "ar y ffordd gydag Ef," ac Efe ydyw yr agosaf atat o bawb. Y mae yna lawer ar y ffordd, ond nid oes neb mor agos atat. O! mor fanteisiol, "Ceisiwch yr Arglwydd, tra y galler ei gael ef; gelwch arno, tra fyddo yn agos;" "Mae y gair yn agos atat yn dy enau ac yn dy galon." Nid yn y nef ac nid yn y dyfnder ac nid dros y moroedd, ond ar y ffordd yn dy ymyl.

2. Cyfle byr ac ansicr ei barhad ydyw. "Tra fyddech ar y ffordd." Y mae yna swn gadael y ffordd, "tra fyddech." Ac y mae y gwrthwynebwr gyda thi hefyd. Gelli fod ar y ffordd, a'th galon ar ymdori am wneud cytundeb, ond y gwrthwynebwr ddim gyda thi— "tra fyddech gydag Ef." Y mae drws gobaith yn agored tra y bydd Ef gyda thi; ond os bydd Ef yn mlaen neu yn ol, bydd y cyfle i gytuno wedi colli. Aeth Mair a Joseph daith tridiau gan dybied fod y bachgen Iesu yn y fintai ar y ffordd, ac wedi iddynt ei gael yn Jerusalem, meddai ei fam, mewn tôn dipyn yn geryddol, "Wele dy dad a minau yn ofidus a'th geisiasom di." Ac er ei golli Ef ar y ffordd hwy a'i cawsant Ef; ond os colli di Ef oddiar y ffordd, colli pob gobaith am byth fydd hynw.

3. Y cyfle olaf ydyw. Ar y ffordd yn myned at lywodraethwr yr ydwyt. Nid oes ond y cyfle ar y ffordd yn aros, ac nid oes un cyfle gwell i'w ddisgwyl byth. Gyda'r Barnwr y bydd y ffordd yn terfynu, ac y mae y llys barn wrth ochr y ffordd yn mlaen. Y cam cyntaf i gytuno ydyw y goreu. Na, nid oes yn y geiriau yr un awgrymiad y gallwn oedi munyd awr. Dyma air ein hiachawdwriaeth ni, "Wele yn awr yr amser cymeradwy." Bydd Duw yn lân oddiwrth waed y bobl sydd yn rhedeg dros y geulan heb ei disgwyl. Felly y mae miloedd yn yr oes yma. "Heddyw," meddai Duw; a'r dyn ei hun a'r diafol sydd yn gwaeddi "Yfory." "Ac yfory," meddai Haman—yfory yr oedd ef ar y crogbren.

4. Mae y Barnwr yn agos iawn. Rhag un amser ith wrthwynebwr dy roddi di yn llaw y barnwr." Gall hyny fod unrhyw adeg, ganol dydd neu ganol nos, yn nghwsg neu yn effro. "Wele, y mae y Barnwr yn sefyll wrth y drws." "Felly y daw dydd yr Arglwydd fel lleidr yn y nos. Canys pan ddywedant, 'Tangnefedd a dyogelwch; yna y mae dinystr disymwth yn dyfod ar eu gwarthaf." Nid oes un amser yn ddyogel i oedi cytuno. Gwelwn fod gan Dduw fodd i gytuno â ni ar y ffordd. "A phryd nad oedd ganddynt ddim i dalu, efe a faddeuodd iddynt." Nid oes genym ninau ddim i dalu; ond y mae Mab y Gofynwr wedi talu trosom, a bellach dim ond credu yn ei Fab Ef, byddwn mewn heddwch âg Ef yn y fan. Trefn ydyw hon sydd yn ogoniant i'r gofynwr ac yn ogoniant i'r dyledwr hefyd

'Nawr dim heb dalu, rhoddwyd iawn
Nes clirio llyfrau'r nef yn llawn,
Heb ofyn dim i mi.

Nid oes gan y Barnwr ddim ond un peth i'w wneud â'r troseddwr euog. Nid oes ar ei law Ef ddim dewis; nid ei ewyllys Ef fydd yn penderfynu y mater; na, cyfraith, cyfiawnder, ac egwyddorion tragwyddol annhyblyg a didroi sydd ganddo Ef. Y mae pob gobaith i'r euog wedi darfod wedi cael ei roddi yn llaw y barnwr. "Rhoddi at y swyddog" y mae ef, a hwnw yn "taflu yn ngharchar." Taflu, taflu. O! mor chwith i ni fydd cael ein taflu. Derbyn sydd wedi bod yn ein hanes hyd yma, ni chawsom erioed ein taflu—ein derbyn ar fronau ein mam, a'n derbyn gan Ragluniaeth yn barhaus, a derbyn ydyw cenadwri yr efengyl atom; ond taflu mae swyddog y Barnwr, a thaflu i garchar hefyd, Dyma garchar, ffarwel am danom byth, os tefiir ni i hwn, "Nid äi di ddim oddiyno, hyd oni thelych, ie, yr hatling eithaf," a thi a fyddi wedi myned o gyrhaedd modd i dalu i dragwyddoldeb. Rhwym heb obaith dyfod yn rhydd. "Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân yn diffodd."

Mor dawel fydd y dyn wedi cytuno. Dywedai y diweddar Barch. William Morris, "Mi fydda i yn wr boneddig yn y farn, yr un cŵyn yn fy erbyn, dim achos yn y llys, ac yn ffrynd â'r Barnwr." Bydd y cwbl wedi eu setlo cyn myned yno. Ofnadwy fydd carchar wedi oedi cytuno ar delerau yr efengyl. Nid oes ar law y Barnwr gospi neb wedi cytuno. Cytundeb yn Nghrist ydyw, ac fe ddeil ymchwil y farn fawr. Y cytundeb ar y ffordd, dyma yr un a ddeil; y mae holl awdurdod y gyfraith o blaid y cytundeb yma. "Pwy a rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw?" Pwy yw yr hwn sydd yn damnio?" Dyma gwestiynau na atebir byth mohonynt. Na, nid oes yna ddim yn erbyn o un cyfeiriad—dim defnydd damnio i ymddangos byth; y mae y dyn wedi myned. "trwodd o farwolaeth i fywyd." Mae marw o'i ol, y mae wedi ffarwelio â'i feiau, ac myned allan o gyrhaedd carchar a chosp ac yn ddyn rhydd ar dir yr Iawn.

Cyfiawnder marwol glwyf
A haeddiant dwyfol loes.


Tachwedd 9, 1877.

Nodiadau

[golygu]
  1. Y mae amryw o'r rhai a fuont yn gwrando y bregeth hon wedi datgan eu hawydd am ei gweled yn argraphedig, ac yr ydym yn rhoddi yr amlinelliad hwn ohoni fel y cafwyd ef yn mysg ei bapyrau.