Cofiant David Davies, Bermo/Ffydd Noe
| ← Y Gronyn Gwenith | Cofiant David Davies, Bermo gan William Jones, Lerpwl |
Un peth eto yn ol → |
PREGETH IX.—Ffydd Nое.[1]
"TRWY ffydd Noe, wedi ei rybuddio gan Dduw am y pethau nis gwelsid eto, gyda pharchedig ofn a ddarparodd arch i achub ei dŷ: trwy yr hon y condemniodd efe y byd, ac a wnaethpwyd yn etifedd y cyfiawnder sydd o ffydd." Hebreaid xi. 7.
HANES ffydd Noe a gawn ni yma, a'r ffydd hono yn rhoi ufudd-dod i orchymyn Duw ac yn adeiladu arch i gadw ei fywyd naturiol. Nid gwneud arch oedd yn cadw ei enaid. Yr un peth sydd yn cadw enaid pechadur o ddechreu y byd hyd ei ddiwedd, a dyna ydyw hyny—ffydd mewn Cyfryngwr, mewn Aberth, mewn Iawn, neu, yn ol iaith ein goruchwyliaeth ni erbyn hyn, credu yn yr Arglwydd Iesu Grist; dyna y peth sydd yn cadw.
Y mae yn ddiamheu i'r Arglwydd ddatguddio y drefn o gyfryngdod i'r byd yn foreu iawn. Gallem feddwl iddo amlygu yr iachawdwriaeth trwy Gyfryngwr yn fuan iawn wedi i ddyn gwympo. Yn Eden, pan y pechodd ein rhieni gyntaf, cawsant siomedigaeth, a phrofedigaeth, a gofid, a helbul, a chywilydd, a gwaradwydd na fedr neb ohonom ddychymygu am ei faint. Y mae yn anmhosibl desgrifio y teimladau a brofwyd ganddynt y munyd hwnw, wedi pechu yn erbyn Duw—tad y celwydd wedi dweyd y caent rhyw ddaioni, ond yn lle hyny dyma yr amddiffyn dwyfol yn cael ei dynu a'i daflu ymaith fel mantell oddiwrthynt. A dyna a ddywedir, "A hwy a wybuant eu bod yn noethion." Y maent yn gweled eu hunain yn noethion i bob drwg, i bob profedigaeth a gofid yn y byd hwn, ac i uffern dragwyddol yn y byd arall, yn noeth i'r holl angylion drwg, fel y maent yn cywilyddio i godi eu penau. Nis gallent edrych yn wynebau eu gilydd oherwydd y gwaradwydd. Ac yn eu gofid a'u gwarth, dacw nhw yn myned at rhyw bren—nid oedd ganddynt ddim gwell—rhyw goeden oedd a'i dail dipyn yn lletach na'r lleill, ac yn y fan hono yn treio gwneud arffedogau rhag cywilydd: ond wedi eu gwneud nid oeddynt yn ateb y dyben. Pan y clywsant lais yr Arglwydd yn yr ardd ni wyddent yn y byd pa le i fyned, ac y maent yn dianc i gysgod y twmpath yma a'r twmpath arall; ond yn y diwedd yn gorfod anturio yn noethion, yn euog, mewn cywilydd a gwarth, gerbron y Duw yr oeddynt wedi pechu yn ei erbyn. Ac fe ddatguddiodd Duw yr adeg hono yr hen feddyliau oedd ganddo am y ffordd i gadw dyn. Fe'i gwisgodd hwy mewn peisiau crwyn—gwell gwisg na'r dail. Croen pa greadur oedd defnydd y wisg a wnaeth Duw i'n rhieni, tybed? Y mae yn bur sicr, debygem, mai nid crwyn bwystfilod ysglyfaethus—nid crwyn eirth, na llewod, na llewpariaid a chreaduriaid felly. Na, mwy tebyg o lawer ei fod wedi eu gwisgo mewn crwyn defaid a gwartheg—rhyw greaduriaid glân. Wel, o ba le y daeth y croen? Ond odid nad oedd yr un creadur wedi marw mor foreu a hyny. Tebyg yw fod yr Arglwydd yn datguddio iddynt mai trwy aberth—cael person diniwed, glân, a dihalog i ddyoddef a marw yn eu lle—mai dyna y ffordd iddynt gael eu gwisgo, ac nid yn unig hyny, ond mai dyna y ffordd hefyd am ffafr a chymod â'r Duw yr oeddynt wedi ei ddigio, Mae yn bur debyg fod yr Arglwydd wedi dysgu i'r dyn cyntaf aberthu a chymeryd croen yr aberth i'w wneud yn fantell i guddio ei noethni. Wedi hyny bu y dyn yn aberthu lawer gwaith—dyna y ffordd oedd ganddo i addoli ac i gyfarfod y Duw yr oedd wedi pechu yn ei erbyn. Yn y man, yr ydym yn cael fod y gwr a'r wraig gyntaf wedi magu dau o feibion, a'r rhai hyny wedi tyfu i'w maint yn myned i aberthu fel y gwelsant eu tad yn gwneud laweroedd o weithiau, y mae'n sicr. Fel y mae yr hanes yn dangos i ni, yr oedd yr ieuengaf wedi cymeryd ei ddysgu yn well na'r hynaf, a dywedir fod yr Arglwydd wedi dangos ei gymeradwyaeth o aberth yr ieuengaf, ond ni chymeradwyodd aberth Cain; a gwyddoch oll y canlyniad. Dyna y ffordd oedd gan ddynion i addoli am filoedd o flynyddoedd addoli Duw mewn aberth. Yn bur fuan yn Llyfr Genesis, yr ydym yn cyfarfod â geiriau felly, " Dechreu galw ar enw yr Arglwydd." Y mae yn lled siwr mai nid dechreu gweddio oedd hynyna. Yr oedd Adda, y mae yn sicr, yn gweddio am fendith yr Arglwydd, ac felly ei deulu. Ond wrth "alw ar enw yr Arglwydd" yn y fan hon y golygir—dechreu y cyfarfod gweddi—teuluoedd wedi cyfarfod â'u gilydd i weddio am i Dduw faddeu iddynt a thrugarhau wrthynt, a'u bendithio yn rhinwedd Aberth ac Iawn, yn ol fel yr oedd wedi eu dysgu. Felly yr oedd Enoc yn addoli, ac felly Noe cyn y diluw, ac ar ol dyfod allan o'r arch y gwaith cyntaf a gyflawnodd oedd aberthu; a gŵyr pawb fod y defnyddiau yn brinach nag o'r blaen. Nid oedd dim ond saith o'r rhai glân yn yr arch, a'r rhai hyny eto i fyned tros wyneb yr holl ddaear; ond er mor brin oedd desnyddiau aberth, cymerth Noe rai ohonynt a lladdodd hwynt yn aberth ar yr allor, a chymerodd yr Arglwydd hyn yn garedig iawn oddiar ei law. Dywedir fod yr Arglwydd wedi "arogli arogl esmwyth ar yr aberth, a dangosodd Duw ei gymeradwyaeth, a gwnaeth gyfamod âg ef a bendithiodd ef. Y mae Duw yn parhau i gofio y cyfamod hwn: cawsom brawf o hyny eleni. Fe gofiodd yr Arglwydd yn ei drugaredd am hen gyfamod Noe y flwyddyn hon eto: diolch iddo.
Wel, dyna oedd am gymod a heddwch â Duw o ddechreu y byd. Yr ydym yn cael hyn yn myned yn mlaen yn nyddiau Abraham, ac yn enwedig yn nyddiau Moses, ac ar ol hyny. Ffydd mewn aberth am gyfiawnhad, a heddwch am gymod a maddeuant a derbyniad i ffafr Duw—ffydd mewn Cyfryngdod ac iawn a gawn yn sylfaen a hanfod addoliad trwy yr oesoedd. Nid oes dim yn cadw enaid ond ffydd yn yr Arglwydd Iesu Grist. Cynifer á gadwyd o feibion a merched Adda i fywyd tragwyddol, dyma y ffordd y cadwyd hwy, a chynifer ag a gedwir eto fe wneir hyny trwy yr un ffordd. Ac os cedwir chwi a minau, yr un modd yn union y rhaid gwneud, sef trwy gredu yn Iesu Grist. Nid un ffordd o lawer ydyw hon, ond dyma yr unig ffordd. Dyma ffydd Noe yn y cynfyd pell.
I.—Ffydd yn nglŷn â gwaith ydyw y mae ufudd-dod yn tarddu ohoni. Y mae y dyn sydd yn ei meddu yn barod i ufuddhau i bob gorchymyn o eiddo yr Arglwydd. Ewyllys ei Dduw ydyw ei reol yn mhob peth a wna, mor bell ag y mae yn ei deall. Fel yna yr oedd Noe: credu am ei fywyd mewn Cyfryngwr, ac yr oedd yn nglŷn â hyny yn barod i wneud pobpeth a orchymynir gan ei Arglwydd iddo, ac felly y gwnaeth yr arch. Y mae ffydd yn dweyd wrth y bobl sydd yn ei meddu, fel y dywedodd Mair yn y briodas yn Cana, "Beth bynag a ddywedo efe wrthych, gwnewch." Pobl ufudd ac ewyllysgar ydyw perchenogion ffydd, ac y maent wedi enill y caritor o fod yn weithwyr ardderchog.
II.—Ffydd yn nglŷn â phrawf tanllyd ydyw hefyd. Ni a gawn yma hanes y prawf a fu ar ei ffydd. Dyma grefydd wedi ei phrofi, a rhywbeth yn gweithio trwy brawf ydyw duwioldeb. O, Arglwydd, dyro hi ini! Y mae hi yn sicr o goncro ei ffordd ond ei chael hi. Y prawf a fu ar ffydd Noe ydoedd, "Wedi ei rybuddio gan Dduw am y pethau nis gwelsid eto." "Y pethau nis gwelsid eto"—dyma rym y prawf, y peth na chlywodd neb erioed son am dano o'r blaen, rhyw lifeiriant mawr a rhyw ryferthwy ofnadwy yn chwyddo i fynu nes cuddio penau y mynyddoedd uchaf, difodi y tai a chwalu y coedwigoedd, a dinystrio yn mhob cyfeiriad—gorchuddio pob man a boddi pob cnawd. Ni chlybuwyd am y fath beth a hyn o'r blaen. Nid oedd Enoc wedi cael yr un awgrym am hyn, ac nid oedd y bobl dduwiol oeddynt yn cydoesi â Noe wedi clywed yr un gair yn ei gylch. A dyma yr Arglwydd yn dweyd wrth Noe. Rhan bwysig o'r prawf hefyd ydoedd nad oedd y peth ddim i fod wedi hyny am chwech ugain mlynedd, ac y mae oedi cyflawni yn brawf caled i ffydd. Gwyddom fel y mae peth yn heneiddio yn ein meddwl yn ystod ugain mlynedd, ac yn colli ei afael a'i awdurdod arnom. Ond beth a wnawn ni yn son am ugain mlynedd; dacw ddau ugain yn pasio—y gair heb gael ei wirio; a dacw ben y triugain mlynedd wedi d'od, a'r peth mor annhebyg ag erioed. Dyna bedwar ugain mlynedd wedi myned, ie, a chan' mlynedd. Dyna gant a phedwar ar bymtheg wedi treiglo yn mlaen; ond er na chlybu Noe ddim ond unwaith, yr oedd y peth mor fresh yn ei feddwl ag oedd yn mhen pedair awr ar ol ei glywed. Ffydd sydd yn cadw y rhybudd am y "pethau nis gwelsid eto" yn bren îr ar hyd y blynyddoedd, ac yn atal i'w ddalen grino; ond fe aeth trwy brawf tanllyd iawn. Rhoed yr Arglwydd ffydd i ninau a fyddo yn gweithio yn mlaen trwy bob anhawsder, ac yn credu ei Air yn ngwyneb pobpeth.
III.—Peth arall a welwn yma ydyw yr ansawdd neu y ffurf oedd ar ei ffydd a'i ufudd-dod. "Gyda pharchedig ofn." Credu a gweithio "gyda pharchedig ofn." Dyma elfen ag y mae arnaf fi a chwithau eisiau ychwaneg ohoni—"parchedig ofn." "Gallwn fod yn hyfion, ddiofn, meddai rhywun, "yn y dirgel." Na, enaid anwyl, myned gerbron Duw "gyda pharchedig ofn" sydd yn weddus. Yn y teulu, er nad oes yno ond perthynasau agos, agoshau at Dduw "gyda pharchedig ofn." Yn y cyfarfod gweddi, lle nad oes ond rhyw ddeg ar hugain (nid ydyw y nifer yn un gwahaniaeth gan fod Duw yno) y mae yn rhaid plygu "gyda pharchedig ofn." Ac y mae yr ansawdd hon i fod ar ein hysbryd, a'r ffurf hon i fod ar ein crefydd, yn mhob man. "O," meddai rhywun, "yr oedd galw am hyny yn arbenig o dan yr Hen Destament, am y cymerai pethau ofnadwy le," megys y diluw a'r farn ar ddinasoedd y gwastadedd, a'r barnau ar Pharaoh a gwlad yr Aipht, a'r meirch a'r marchogion yn cael eu taflu i'r môr yn y diwedd. A dacw feibion Israel yn cael eu harwain, ganoedd o filoedd ohonynt, yn wersyll trwy yr anialwch sych, lle nad oedd llysiau na dwfr, dim ond tywod gwyn heb yr un gwelltyn yn tyfu trwyddo; ac arweinir hwynt am filldiroedd nes iddynt ddyfod at fynyddoedd mawrion, daneddog, a chribog, a myned rhyngddynt i wastadedd bychan a gwersyllu yno. Dyma rybudd oddiwrth Dduw, trwy Moses, atynt yn yr amgylchiad hwn am iddynt wneud eu hunain yn barod erbyn y trydydd dydd i gyfarfod a'r Arglwydd; ac y maent yn dechreu arni gyda'r fath ymroddiad, na welwyd mwy o barotoi erioed, gan wneud eu hunain mor drefnus ag y gallent. A dyma wawr y diwrnod mawr yn tori, a rhyw gwmwl du ar gopa y mynydd, ac mae y mellt yn gwibio a'r taranau yn rhuo, a'r tân byw yn dyfod trwyddo hyd ei waelodion, a'r mynydd yn crynu, a swn udgorn i'w glywed oddiar ei ben, ac hefyd lais na chlywsant ei fath yn llefaru, hyd nes yr oedd y miloedd ar filoedd yn disgyn mewn gwasgfeuon ar y ddaear; dynion cryfion yn gwaeddi, "Llefared Moses, ac na lefared Duw, rhag i ni feirw;" "Pwy a ddichon sefyll?" Beth oedd yno? Duw wedi ymddangos ar Sinai, ac yr oedd yn lle i'w gofio. Yr oedd pethau fel hyn o dan yr Hen Destament, a gweddus iawn yw y "parchedig ofn." Ond y mae y mae y gwylder a'r parch a'r ofn i fod o dan y Testament Newydd hefyd, a dyma a ddywedir, Oherwydd paham, gan ein bod yn derbyn teyrnas ddisigl, bydded genym râs, trwy yr hwn y gwasanaethom Dduw wrth ei fodd, gyda gwylder a pharchedig ofn; oblegyd ein Duw ni sydd dân ysol." Y Duw oedd ar Sinai, ag yr oedd meibion Israel yn methu sefyll ger ei fron, "ein Duw ni" ydoedd. Rhoed yr Arglwydd i ni, gan hyny, lawer o'r elfen yma—"parchedig ofn." O, mechgyn anwyl i, a'r genethod siriol yma, wedi i chwi ddyfod i bresenoldeb neillduol yr Arglwydd yn ei gynteddau, gostyngwch eich penau mewn gwylder a chuddiwch eich wynebau mewn parch gan ddisgwyl ei fendith a'i drugaredd Ef. Rhoed y Duw Mawr yr arswyd priodol a theilwng yn ein meddyliau ac ar ein hagweddau yn mhob man gyda'i waith a'i achos –" gyda pharchedig ofn."
Y " parchedig ofn" yma a symudodd Noe at yr anturiaeth fawr o wneud arch. Am a wyddom ni, na fu yr un cais at wneud llong o'r blaen; ac yr oedd yr anturiaeth nid yn unig yn un newydd spon, ond yn un fawr iawn hefyd. Yr oedd i fod yn llestr eang, ei gwaelod i gludo creaduriaid mawrion a thrymion, llawr yn uwch i osod rhai ysgafnach ynddo, a'r uchaf i gario adar, ac yno yr oedd Noe a'i deulu. Darparwyd hi ar gyfer rhyferthwy y diluw. Sut yr anturiodd? Pa le y cafodd ddefnydd yr ystyllod i'w gwneud? Heblaw hyny yr oedd yn wrthrych gwawd ei oes. Yr oedd y bobl wrthi hi yn bwyta ac yfed ac mewn gloddest hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i'r arch. Yr oeddynt yn ddynion cryfion—un ohonynt cyn gryfed a haner cant o'r dynion cryfaf a fedd y wlad yma—ac yn ddynion celyd, anystyriol, ac annuwiol iawn—yn gablwyr enw Duw o'r fath waethaf a fu ar y ddaear erioed. Yr oeddynt yn planu ac yn adeiladu, ac yr oeddynt yn ddiamheu yn adeiladwyr medrus, ac yn eu hymffrost yn planu gelltydd o goed; a Noe yn eu golwg yn greadur mympwyol, penfeddal, yn tori coed y wlad i lawr, ac yn eu llusgo i'r fan yma, ac yn eu defnyddio i wneud y llestr fawr. Sut y darfu iddo gychwyn? "Gyda pharchedig ofn?" Parchedig ofn" a roes nerth iddo fyned yn mlaen gyda'r gwaith trwy gawodydd o wawd ac erledigaeth nes ei orphen yn mhen chwech ugain mlynedd.
Byddai gwell llun arnom ninau pe y caem fwy o'r elfen yma. Mae rhai ohonoch yn addaw rhoi eich hunain i'r Arglwydd Iesu, ac felly bob nos Sabboth bron. Teimlad cryfaf ambell un wrth fyned allan o'r oedfa ar lawer nos Sabboth ydyw, " Y mae fy nghalon ar ol," ac eto, rywfodd, myn'd a myn'd. Beth sydd arnom ei eisiau? Y "parchedig ofn yma. Rhoed yr Arglwydd y gras yma i ni, ac se'n dygai hyn ni i roi ufudd—dod i lais ein cydwybodau a llais Duw. Gwnai ninau hefyd yn well crefyddwyr, yn ddynion mwy sanctaidd o lawer, a byddai ein crefydd yn fwy cyflawn yn mhobpeth. O Arglwydd! dyro Di ef.
Gwaith ei ffydd ydoedd darparu arch. A oes dim byd arall a wnaiff y tro os daw y rhyferthwy mawr? Oni allwn fyned i fynu i ben y mynydd uchel? Na, fe guddir y mynydd gan y dyfroedd—pymtheg cufydd goruwch yr uchaf. Onid oes digon o amser i gludo meini mawrion, trymion, a gwneud tŵr â'i nen hyd y nefoedd? Na, nid mynydd, nid tŵr, arch neu foddi, Duw sydd yn trefnu, ac arch mewn ufudd—dod i'w orchymyn a raid gael, neu golli bywyd. Yr un fath i ninau, crefydd neu ddim; nid oes a wna y tro yn ei lle. Byddaf cystal hebddi a'r rhai sydd yn ei meddu. Na, enaid anwyl, arch i tithau neu golli. Y mae crefydd, mae yn wir, yn talu am dani ei hun bob dydd, fel na wn i pa lun a fuasai arnom onibae hyny o grefydd sydd genym. Y mae ganddi y "can cymaint" yn y byd sydd yr awr hon. Beth bynag a ddaw arnom eto, yr ydym wedi cael yn dda: ni fydd y nefoedd byth yn ein dyled. Ond er fod crefydd yn talu fel hyn yn awr, mae yn darparu yn mlaen; y mae ynddi beth sydd yn edrych hwnt at y diwrnod du sydd i'n cyfarfod—diwrnod cymylog a niwliog— diwrnod na welsom yr un tebyg iddo erioed. Y mae y dydd hwnw i gyfarfod pob un ohonom, pan fydd y ddaear yn suddo i lawr o dan ein gwadnau, a ninau yn cael ein hunain mewn byd mawr dyeithr, dyeithr. Beth a wnei y diwrnod hwnw, enaid anwyl! Y mae yn nghrefydd yr Arglwydd Iesu Grist ddigon ar ein cyfer erbyn hyny, ac i fyned yn mlaen, i'r tragwyddoldeb pell: y mae ganddi "Addewid o'r bywyd sydd yr awr hon, ac o'r hwn a fydd."
IV.—Gwobr ei ffydd "Achub ei dŷ." Y mae hynyna yn bwnc go fawr. Nid oes yr un ohonom a fedr ddweyd sut y gallem fod yn ddedwydd yn y nefoedd a rhai o'n teulu heb fod yno. Byddaf fi yn ymgolli mewn dirgelwch pan yn ceisio esbonio y peth; ond nid oes eisiau i'r un ohonom ei ddeall, y mae crefydd yn lledu ei breichiau am y teulu, a diolch byth am hyny. Yr ydych yn cofio y noswaith fawr yn ngharchar Philippi, pan y mae y ddau bregethwr wedi eu dal; yr hen jailer yn cydio ynddynt gyda'i ddwylaw geirwon, a ffwrdd a hwy i'r gell fwyaf annghysurus oedd yno, a'u traed wedi eu rhoi yn sicr yn y cyffion. Ffarwel am danynt i ddyfod oddiyno byth; ond ar haner nos aethant i weddio a chanu mawl, a dyna yr hen garchar yn dechreu dawnsio i'w sylfeini a rhwymau pawb yn myned yn rhyddion. Deffrodd yr hen jailer, ac yn ei fraw a'i ddyryswch, gan dybied fod y carcharorion wedi ffoi, ymaflodd mewn cleddyf i ladd ei hun, a buasai wedi gwneud hyny onibae i Paul waeddi arno, "Na wna i ti dy hun ddim niwed; canys yr ydym ni yma oll." Yn y fan, dyna rhyw oleuni arall yn tywynu i'w feddwl, ac y mae yn llefain yn ei dristwch a'i ofid, "O, feistriaid, beth sydd raid i mi ei wneuthur, fel y byddwyf gadwedig?" Y mae wedi dyfod i deimlo ei hun yn ddyn colledig, yn ddyn euog gerbron Duw, ac uffern yn barod i'w dderbyn. Beth ydyw yr ateb? "Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist a chadwedig fyddi." A bu yn dda genyf ganwaith nad ydyw yr adnod yn dybenu yn y fan yna. Na, y mae yna ddarn arall, "ti a'th deulu." Dowch i mewn i'r arch gyda'ch gilydd, oblegyd "i chwi mae yr addewid ac i'ch plant." Y mae crefydd yn cymeryd gafael yn y teulu. Gwnewch gyfamod i gael y plant i mewn. Y mae yna rhywbeth difrifol yn y gair "achub ei dŷ"—achub y bachgen, achub yr eneth. Y bachgen i gael ei ddamnio o gartref yr arch, yr eneth i gael ei cholli oddiar yr aelwyd ag y mae son am y ddarpariaeth i gadw! Y mae yn bosibl eu hachub—"achub ei dŷ." O, Arglwydd, achub ein teuluoedd ni.
V.—Dylanwad ei ffydd—"Trwy yr hon y condemniodd efe y byd." Fe ddaw hen grefyddwyr y Bermo a manau eraill, a barhasant yn ffyddlawn, i fynu yn y farn i gondemnio pobl ddiweddi, pobl dreuliodd eu dyddiau heb geisio duwioldeb—y bobl, hwyrach, sydd wedi enill y byd, ond ni fydd y byd yma werth yr un botwm iddynt y diwrnod hwnw. Tra y mae ei ffydd yn condemnio y byd, y mae yn ei wneud ef yn etifedd, ac O! y fath etifeddiaeth. "A wnaethpwyd yn etifedd y cyfiawnder sydd o ffydd. Beth yw yr etifeddiaeth? " Y cyfiawnder sydd o ffydd "cyfiawnder haeddiant yr Arglwydd Iesu Grist yn ei fywyd a'i angau yn ein lle.
Cyfiawnder marwol glwyf,
A haeddiant dwyfol loes;
Y pris, y gwerth, a'r aberth drud
A dalwyd ar y groes.
Ac y mae hon yn etifeddiaeth digon mawr i lenwi y nefoedd a'r ddaear, yn llon'd tragwyddoldeb maith ei hun. Cyfiawnder i ddieuogi y pechadur a gwneud y brwnt yn lân, ac i'w osod yn mhlith pendefigion ei bobl ef. Nid etifeddiaeth i'w rhanu ydyw hon, ond y mae yr oll ohoni yn eiddo i'r perchenog—holl haeddiant yr iawn a holl ras y drefn i gadw, a bendigedig fyddo y nefoedd ei bod yn rhad i bob un a gredo. Y mae etifeddion yn yr oedfa yma nad ydynt eto wedi gweled prin gŵr eu hystad; ond ni a gawn ei gweled, a bydd yno rhyw ganu a neidio a molianu heb ei fath yn yr olwg arni. Gair Duw wrth bawb ohonom—pob dosbarth a phob un yn mhob dosbarth—y bachgen a'r eneth ieuanc, y dyn canol oed, a'r hen wr—ydyw, "Gwna i ti arch." A dyna ydyw crefydd: gwneud arch. Beth ydyw gweddio yn y dirgel, yn y teulu, gwasanaethu yr Arglwydd a bod yn selog gyda'i achos yn mhob cylch? Gwneud arch. O! Arglwydd, dyro gymhorth i'w gwneud hi. Bydd y Duw Mawr yn dweyd gair arall yn o fuan—"Dos i mewn i'r arch." Hwyrach y gallasai Noe ddweyd fod ganddo lawer iawn o bethau i'w gwneud cyn myned i mewn. Beth a wyddom ni nad oedd ganddo balas ac ystâd; ond beth bynag oedd ganddo, erbyn y diwrnod hwnw nid oeddynt yn werth dim iddo—yr arch oedd y cwbl. Fel yna y bydd hi am danom ninau pan ddaw y diwrnod, ac nid ydyw yn mhell, hyny o grefydd sydd genym dyna fydd y cwbl. Yr oedd gan y dyn dai newyddion, yr oedd yn pentyru cyfoeth y byd yma, ond dacw yr alwad yn ei gyrhaedd. Beth a wnaiff? Beth sydd ganddo i'w enaid? Pa fodd y mae hi rhyngddo a Duw? Crefydd, cymod â Duw, heddwch trwy waed y groes, bywyd wedi ei guddio fydd o werth. Arch ydyw pobpeth. Ymofynwch, ddynion anwyl, am dani yn awr, ac mor felus fydd clywed Duw yn dweyd, pan y mae swn y ddrychin yn dechreu tori ar dy glust, "Dos i mewn i'r arch."
Dyma y gair olaf a ddywedaf, a gair i berchen arch ydyw hwn—"A'r Arglwydd a gauodd arno ef." Gallasai rhywun ddweyd, "Y mae yna ddrws mawr anferth yn ei hochr hi, a phwy a wnaiff gau hwnw pan y daw yr helynt?" Nid ydyw Noe yn pryderu yn nghylch ateb y cwestiwn. Beth pe bai y llong fawr yn myned ar ei thalcen i'r graig, neu ar draws rhyw bren mawr a myned yn ddrylliau? Na, nid ydyw Noe yn gofalu, am fod Duw wedi cymeryd yr holl gyfrifoldeb bellach. Duw gynlluniodd y llestr, a orchymynodd iddi gael ei hadeiladu, ac wedi ei gorphen y mae Duw yn cau y drws ac yn gwystlo ei gymeriad i ofalu am dani. Y mae ei gymeriad a'i anrhydedd rhwng y drefn a methu byth. Dyma y fan i'n bywyd ninau, "Gyda Christ yn Nuw," ac yna
Syfled iechyd, syfled bywyd,
Cnawd a chalon yn gytun,
Byth ni syfla amod heddwch,
Hen gytundeb Tri yn Un.
Dyma beth nad oes tori arno,
Dihangol byth heb soddi,
Am fod yr Arch yn Dduw.
Y mae Duw wedi cymeryd gofal am dani, odditani, ac oddiarni i'w hwylio yn mhob man. Pa un bynag ai gwan ai cryf oedd rhai o'r teulu oddifewn, y maent yn ddyogel yn y cysgod bendigedig. I'r dyogelwch heno, enaid anwyl,
I'r arch mewn pryd,
Fe lysg y byd yn lân;
O ddinas distryw brysiwch, ffowch,
Ar y gwastadedd nac ymdrowch.
Rhowch eich hunain i Dduw ac i'w bobl yn ol ei ewyllys Ef. Amen.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Traddodwyd y bregeth hon yn yr Abermaw, nos Sabboth, Medi 25, 1881, ac ysgrifenwyd hi mewn llaw fer, wrth ei gwrando, gan Mr. E. R. Jones.