Cofiant David Davies, Bermo/Fyddlawn yn yr holl dу
| ← Symudiadau | Cofiant David Davies, Bermo gan William Jones, Lerpwl |
Heulwen a Chwmwl → |
PEN. VII.—"Fyddlawn yn yr holl dу."
Ei drigiad yn yr Abermaw.—Ei ymdrechion yn y cylch.—Adgofion brawd o weinidog.—Yn boblogaidd gydag enwadau eraill.—Y Ddeddf Gladdu.—Ei sêl gyda Dirwest.—Gyda'r Ysgol Sabbothol.—Yn feirniad mewn Cyfarfod Llenyddol.—Ei boblogrwydd yn y tai.—Pob dosbarth yn hoffi ei gymdeithas.—Ei farn am fugeiliaid llwyddianus.—Y tŷ coed yn yr ardd.—Adgofion y Parch. R. H. Morgan, M.A.—Cyfansoddi pregethau newyddion.—Sabboth dilewyrch.—Effeithiau ei weinidogaeth.—Yn weddiwr mawr.—Ei weddi dros y morwr.—Ei anerchiad i'r morwyr.—Ei haelioni a'i gymwynasgarwch.
Bu mewn cysylltiad bugeiliol âg eglwys yr Abermaw am ddeng mlynedd, a bu yn preswylio yno wedi ymddatod oddiwrth y gofal hwnw am ddeuddeng mlynedd, yr hyn a wna dymhor ei arosiad yno yn ddwy flynedd ar hugain. Bu yn ymroddgar iawn yn ystod yr holl dymhor hwnw, nid yn unig gyda phregethu a goruchwylion eraill a berthynent i'w swydd yn uniongyrchol fel gweinidog, ond mewn amryw gylchoedd; ond er ei ymroddiad mewn gwahanol gyfeiriadau, nid oedd yn anhawdd gweled ei fod yn cadw ei olwg trwy y cwbl ar ei swydd fel gweinidog. Dyma oedd uchelgais ei fywyd, a pharai i bobpeth arall fod yn is-wasanaethgar i'r un amcan mawr hwn, a llwyddodd yn hyny hyd nes llwyr argyhoeddi pawb mai "gŵr Duw" ydoedd mewn gwirionedd. Enillodd safle uchel a phwysig yn y dref a'r holl gylch sel gweinidog cymhwys y Testament Newydd.
Pan y byddai y gwahanol enwadau crefyddol yn cynal eu cyfarfodydd blynyddol, os byddai gartref, ni welid ei le ef byth yn wag ynddynt; a chymerai ran ynddynt gyda'r parodrwydd mwyaf, a gwnaeth trwy hyny, yn nghyda'i sirioldeb a'i ryddfrydigrwydd, lawer tuag at ladd y ddallbleidiaeth ffol a ffynai yn rhy aml yn y naill enwad a'r llall, ac i ddwyn oddiamgylch fwy o undeb agos a brawdol rhyngddynt. Yr oedd yn "gymeradwy yn mysg lluaws ei frodyr," ac yn ddwfn iawn yn serchiadau gweinidogion y gwahanol enwadau a gyfaneddent yn y dref yr adeg hono.
Bydd yn dda gan y darllenydd gael yr ychydig eiriau canlynol a ysgrifenwyd gan y Parch. Z. Mather, gweinidog parchus yr Annibynwyr, yr hwn a fu yn gydweithiwr âg ef am flynyddoedd yn y cylch:
Yr oedd efe yn un o'r rhai mwyaf difyrus ac adeiladol i fod yn ei gymdeithas, ac ni fyddwn un amser yn dyfod oddiwrtho heb deimlo yn well, yr hyn yn ddiau sydd yn un o'r profion goreu o dduwiolfrydedd. Cofus genyf ei fod yn gwneud sylw wrthyf un tro na fydd llawer o lewyrch ar grefyddwyr os na fydd cynydd yn nodweddu eu crefydd. "'Rydw i yn cofio," ebe fe, "am ffarmwr yn Mhenmachno yn deud wrth fachgen oedd gyda. fo yn was am fyn'd i godi darn o glawdd ceryg oedd wedi syrthio. ‘Gofala di,' medde fo wrth y bachgen, 'wedi i ti godi y bwlch, am gasglu tipyn o geryg ffres i roi arno fo, mae o yn siwr o fod beth yn is nag oedd o wedi i ti ei ail godi o.' Felly y mae dynion gyda chrefydd, welwch chi, fydda nhw ddim llawer o werth os na fydda nhw yn ychwanegu at eu crefydd. Yn wir yr oedd acw gyfarfod gweddi rhagorol yn y capel acw nos Lun diwedda', 'roedd gan bob un o'r brodyr rywbeth newydd yn eu gweddiau. Yr oedd hen ŵr
yn gweddio, a'r un adnodau wedi eu gosod wrth eu gilydd fydd ei weddi ef bob amser; ond 'roedd o wedi dysgu adnodau newydd erbyn nos Lun diwedda'—adnodau na chlywes i monu nhw gyda fo 'rioed o'r blaen, ac 'roedd rhywbeth neillduol o afaelgar yn ei weddi o. Yr oedd rhywbeth anarferol yn ngweddi M. W. hefyd; 'roedd o yn deud yn rhywle ar ei weddi, "Ryda ni yn y byd yma, Arglwydd Mawr, yn nghanol y tonau yn cael ein lluchio o dòn i dòn. O pâr fod i'r i'r dòn ddiwedda ein taflu i'r làn."
- Abermaw, Tach. 17, 1893.
Gweithiai yn egniol dros bob symudiad daionus. Efe oedd y prif symudydd i gael ariandy i'r dref. Pan ddaeth y ddeddf newydd gladdu i rym, bu yn ymdrechgar i egluro ei darpariadau ac i gael gan yr Ymneillduwyr i wneud defnydd ohoni. Bu yn gweini yn yr angladd cyntaf o dan y ddeddf hono yn y lle, a chofir gan bawb oedd yn bresenol am yr effeithiau dwysion a ddilynent ei eiriau a'i weddi ar yr achlysur hwnw. Yn mlynyddoedd cyntaf y ddeddf, fe gymerid mantais fwy cyffredinol arni gan Ymneillduwyr yn yr Abermaw nag odid un lle arall yn Nghymru, a hyny er gwaethaf yr anhawsderau a osodid ar y ffordd gan wŷr eglwysig, ac y mae yn dra sicr fod hyny, fel y dywedai gwr craff o'r ardal hono, i'w briodoli yn benaf i'w ymdrech ef yn egluro y ddeddf, a hefyd y dull effeithiol gyda pha un y cyflawnid y gwasanaeth claddu ganddo.
Bu yn wasanaethgar iawn hefyd i'r achos dirwestol yn mhob gwedd arno yn ystod ei oes. Yr oedd yn un o'r rhai cyntaf i ymuno â'r Temlwyr Da, a pharhaodd i roddi ei bresenoldeb a'i gymhorth yn nghyfarfodydd y deml; a phan gymerodd dirwest y ffurf o Gymdeithas y Ruban Glâs, ceid ef yn ymaflyd yn dyn ynddi yn y wedd hono arni. Dywed Mr. L. yn ei adgofion am dano o dan y pen hwn:—"Gellid dweyd am Mr Davies fel y dywedodd ef am un o hen ffyddloniaid yr achos dirwestol yn yr Abermaw, 'Y mae R.M. wedi myn'd i bob mould sydd yn perthyn i ddirwest—o'r clwb du hyd at gario y faner ddirwestol yn y gorymdeithiau blynyddol.' "
Byddai ar adegau yn y cyfarfodydd dirwestol yn rhoddi y ffrwyn i'w ddawn ac yn ysgubo pobpeth o'i flaen. Nid buan yrannghofir ei araith yn un o'r cyfarfodydd hyn, yn yr hon y darluniai y cythreuliaid yn y moch—y gwahanol rywogaethau o gythreuliaid, y meddw, a'r aflan, a'r mud, &c., wedi meddianu y moch a'u gyru "ar ras wyllt dan wichian yn bendramwnwgl i'r môr." Yna desgrifiai hwynt yn boddi, y cythreuliaid eisieu i'r moch droi yn eu hol i'r làn a'r moch wedi rhisio yn mynu myned yn mhellach i'r dwfn! Dro arall, pan yn canmol y ffurf demlyddol ar ddirwest ac yn dangos y berthynas oedd rhwng dirwest âg eglwys Crist, dywedai, "Y mae gan rai boneddigion sydd yn meddu palasau mawrion lodge yn ymyl y fynedfa. Y mae gan Iesu Grist ei balas yn y byd yma, a phaham na chaiff y Brenin Iesu lodge yn ymyl ei balas yntau?"
Ceir yn mhlith ei bapyrau y sylwadau a ganlyn ar ddirwest, y rhai a ysgrifenwyd ganddo yn y flwyddyn 1865. Er nad ydyw yr ysgrif yn cynwys y pethau * mwyaf doniol a ddywedid ganddo, nac ychwaith y gwres yn mha un y llefarai hwynt, efallai y gall y rhai a fu yn ei wrando mewn cyfarfodydd dirwestol adgofio a llenwi i fynu wrth ddarllen yr amlinelliad hwn o'i barotoad ar gyfer un o'r cyfarfodydd hyny!
RHESYMAU DROS BEIDIO ARFER DIODYDD MEDDWOL.
"1. Y mae y rhai sydd a'u hamcan i wneud daioni i eraill, yn ddirwestwyr yn gyffredin, er mwyn eraill, er fod yn anmhosibl i ddyn wneud daioni i eraill heb wneud daioni iddo ei hun. Ac y mae y dyn sydd heb fod yn ddirwestwr mewn gradd fawr o anfantais i wneud daioni i eraill.
"2. Y mae y rhai mwyaf gofalus am eu teuluoedd eu hunain yn gyffredin yn ddirwestwyr, ac y mae difaterwch gyda hyn wedi bod i lawer un fel yr ephod yn ninas Gedeon, ag y dywedir am dani, 'A hi a fu yn dramgwydd iddo ef ac i'w dy.'
"3.—Y mae y rhai sydd yn meddu mwyaf o barch iddynt eu hunain yn gofalu am fod yn ddirwestwyr. Yr oedd y rhai sanctaidd i Dduw felly o dan yr Hen Destament—yn Nazareaid i Dduw. Natur lân iawn ydyw hono sydd heb ei halogi erioed â'r diodydd meddwol. Yr oedd y Nazareaid hyny gynt felly, ac y mae yn hyfryd meddwl fod lluaws yn gwbl lân yn yr ystyr hwn eto.
"4.—Y mae cwmni y ddiod yn aml yn llygredig, ac nid oes yr un cwmni yn rhy lygredig iddi hi. Er y gall y cwmni fod yn rhy isel i ddim arall i fod yno, eto bydd y ddiod feddwol yno yn ychwanegu at bob drygioni. Diod y tywyllwch ydyw.
"5.—O ymarfer yn gymedrol â'r diodydd meddwol, y maent yn myned yn ddiddefnydd i'w hamcan priodol fel meddyginiaeth. Nid ydynt ac nis gallant fod yn feddyginiaeth i'r neb sydd yn eu harfer. Y maent fel y pethau y dywedir y cynhyrfir y ddaear o'u herwydd Gwas pan deyrnaso, ac un ffol pan lanwer ef o fwyd: gwraig atgas pan brioder hi: a llawforwyn a elo yn aeres i'w meistres,' yna nid ydyw na gwraig na morwyn.
"6. Y mae tuedd yn y diodydd hyn i ymlid ymaith yr archwaeth at fwyd. Nid ydynt yn ymborth eu hunain, ac y maent yn dinystrio y chwant at yr hyn sydd yn ymborth—rhwystro bwyd y maent.
"7. Y mae yn anmhosibl troi annghymedroldeb allan tra y bydd cymedroldeb i mewn am fod y ddau law yn llaw, a'r naill yn rhoddi ei le i'r llall. Cymedroldeb ydyw y fam sydd yn magu y cenawon. Cedwch chwi y domen yna dros yr haf, bydd genych luaws mawr o nadroedd wedi eu magu erbyn yr haf canlynol. Nid chauodd neb erioed feddwdod allan yn ddyogel a chadw cymedroldeb i mewn. Os mynwch ladd meddwdod, y mae yn rhaid gwneud hyny yn nglasiad y cymedrolwr. Yn haner peint y cymedrolwr y mae hadau meddwdod, ac nid oes lladd ar feddwdod oni wneir hyny yn mynwes y dyn cymedrol. Saethwch at feddwdod nis gellwch byth ei hitio heb ostwng y gŵn a'i saethu ar ei nyth yn nghesail y dyn cymedrol. Nis gallwch ei ddal oni ddeliwch ef yn ei ddaear—yn ei ffau—a hono ydyw glass dyn yr haner peint. Os mynwn ni godi sobrwydd, y mae yn rhaid rhoddi y gareg sylfaen yn îs na chymedroldeb. Yr un peth mewn effaith ydyw dadleu dros gymedroldeb a dadleu dros feddwdod.
"8.—Y cymeriad uwchlaw amheuaeth ydyw cymeriad y dyn nad ydyw yn yfed dim o'r diodydd hynNa enwer chwaith yn eich plith.' Ond bydd enwi tra bydd yfed, a bydd rhywun yn cael ei gyhuddo o fod wedi meddwi. Yr unig ffordd i fod uwchlaw amheuaeth ydyw peidio cyffwrdd ynddi.
"9.—Llwyrymwrthodwr ydyw y dyn all ddweyd wrth ei blant a'i gymydogion, 'Deuwch ar fy ol i;' a dyma yr hwn a all ddweyd hefyd, 'Oherwydd paham yr wyf fi yn dyst i chwi heddyw fy mod i yn lân oddiwaed pawb oll.' "
Er fod y llinellau uchod yn cynwys sylseini ei araith, yr oedd ei ddychymyg mor nwyfus a'i gydymdeimlad â'i bwnc ac a'r gynulleidfa mor fyw fel mai yn y traddodiad y llanwai y pethau mwyaf tarawiadol ac y gwnai i esgyrn sychion lamu i fynu yn fyw.
Clywsom ef unwaith mewn hwyl fawr yn ysbrydoli Temlyddiaeth Dda ac yn edrych arni yn ngoleuni gwahanol ddodrefn teml Solomon. "Gellir dweyd," meddai, " mai temlyddiaeth ydyw dinas noddfa sobrwydd a dirwest, a dinas noddfa i'r cymedrolwyr a'r meddwon i ffoi iddi. Dyma yr arch ag y mae llechau y cyfamod dirwestol yn nghadw ynddi. Yr oedd yn y deml yn Jerusalem ddeg noe ar olwynion yn llawn o ddwfr at wasanaeth yr offeiriaid. Noeau ar olwynion ydyw y cyfarfodydd cyhoeddus yma, ac y mae y môr o'r tu cefn yn nghymeriadau a doniau y brodyr a'r chwiorydd yma tuag at lenwi yr holl noeau. Dyma halen y ddaear gyda golwg ar lygredigaeth diota. Dyma oleuni sobrwydd a moes—goleuni y byd gyda golwg ar ei ddwyn o dywyllwch cyfeddach a meddwdod. 'Ac ni oleuant ganwyll a'i dodi o dan lestr ond mewn canwyllbren,' &c. Canwyllau o dan lestr ydyw dirwestwyr yn bresenol heb fod yn Demlwyr Da. Os mynwch gael canwyllbren i ddal y goleu, dyma foTemlyddiaeth Dda. Y mae rhai yn son am rhyw hen ganwyllbren pren, ond y mae wedi gwasanaethu ei dymhor a darfod. Dyma y canwyllbren sydd yn gwasanaethu yn y dyddiau hyn, ac y mae yn llawer gwell na'r hen ac wedi goleuo yn fwy cyson. Y mae y canwyllbren o leiaf yn un pres."
Y mae llawer yn cofio am dano yn cyfarch cyfarfod dirwestol yn Nghymdeithasfa Bangor er's rhai blynyddoedd yn ol, ac mewn araith ddoniol a thanllyd dygid y gynulleidfa ymaith gan ruthrwynt ei hyawdledd. Dywedai yn niwedd ei gyfarchiad, "Yr ydych yn son am local option; hyd nes y cewch hwnw gwnewch local option i chwi eich hunain; ac os ydyw y Senedd yn hwyrfrydig i basio deddf i leihau yr ymyfed a'r meddwi byddwch yn 'ddeddf i chwi eich hunain.' Chwi a gewch hono heb ofyn i'r un Senedd."
Gwnaeth gryn lawer o waith gyda'r Ysgol Sabbothol yn y cyfnod hwn. Ni welid ef byth yn ymwrthod â dim gwaith a benodid iddo. Bu yn holi yr ysgolion laweroedd o weithiau. Pan y cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus o holl ysgolion y dosbarth yn yr Abermaw i ddathlu Canmlwyddiant yr Ysgol Sabbothol, trefnwyd iddo ef roddi anerchiad yn nghyfarfod y prydnawn, i'r plant yn benaf, a chofir yn hir am y dylanwad oedd yn cydfyned â'i eiriau y pryd hwnw. Pwnc ei anerchiad ydoedd "Nodweddion plant duwiol." Rhanai ei fater fel y canlyn:—"Y maent yn rhai1. Yn parchu Gair Duw. 2. Yn parchu enw Duw. 3. Yn parchu dydd Duw. 4. Yn parchu Tŷ Dduw. 5. Yn parchu pobl Dduw." Y mae lluaws o'r plant oedd yn y cyfarfod hwnw yn parhau i gofio yr effeithiau rhyfedd a ddilynai ei anerchiad.
Penodid ef hefyd i feirniadu traethodau, &c., mewn cyfarfodydd llenyddol yn nglŷn â'r Ysgolion Sabbothol, a chymerai lawer o drafsferth i gyrhaedd barn onest a chywir ar y cynyrchion hyny; ac er mai wrth bregethu y byddai yn ei elfen, nid oedd gwaith fel hyn yn achlysurol yn beth ag y cwynai yn ei erbyn, ac nid oedd ychwaith heb feddu craffder a medr i'w gyflawni yn effeithiol. Hwyrach mai nid annyddorol i'r darllenydd a fyddai cipdrem ar ei feirniadaeth at un o'r cyfarfodydd hyn a gynaliwyd yn y Dyffryn. Yr ydym yn ei rhoddi i mewn yma, nid am yr ystyriwn hi yn meddu rhagoriaeth neillduol, ond y mae wedi ei hysgrifenu yn mhlith ei bapyrau, ac y mae ynddi, i'r cyfarwydd ag ef, rai pethau nodweddiadol jawn ohono ef.
BEIRNIADAETH CYNLLUN WERS AR SALM XXIII.
"Derbyniwyd pump o gynlluniau, sef yr eiddo ymgeisydd ieuanc, Un hoff o'r praidd, Un ar frys, Jonathan, a B. Ac os gallwn gymeryd y 'gwersi' hyn fel dangoseg o'r gwersi a roddir gan athrawon ac athrawesau ysgolion y Dyffryn ac Egryn i'w dosbarthiadau, y maent yn rhoddi golwg gysurus iawn ar bethau. Y mae yn y 'gwersi' hyn fedr ac amcan i ddwyn y dyn at y gwirionedd, i'w ddeall a theimlo ei awdurdod ar y gydwybod. Y maent yn edrych i bob cyfeiriad a berthyn i'r Salm, ac yn amcanu agoryd y gwirionedd fel ag yr ydym yn dra sicr eu bod yn cydsynio â'r Salmydd pan y dywed, 'Agoriad dy eiriau a rydd oleuni.'
'Ac er fod yn hyfryd iawn genyf gydnabod fod y pump yn gynlluniau da, eto y mae gwell a goreu ohonynt. Barnwyf fod tri o'r cynlluniau yn lled gyfartal, sef yr eiddo ymgeisydd ieuanc, Un hoff o'r praidd, ac Un ar frys. Mae y cwestiynau yn dda gan y tri; ond pan y mae y naill yn rhagori mewn un man y mae y llall yn rhagori mewn man arall, ac felly y trydydd; ac y mae naws grefyddol, i raddau mwy neu lai, yn mhob un ohonynt. Er fy mod yn cydnabod fod y 'corph yn fwy na'r dillad,' ac nad ydwyf yn credu yn ol yr hen ddiareb, "Y dillad ydyw y dyn a'r dyn ydyw y truan,' eto caraswn weled y cynlluniau hyn mewn dillad mwy destlus a chryno; ac y mae y fath feddyliau yn teilyngu eu gwisgo yn well o ran sillebiaeth gywir a llawysgrifen drefnus. Ac yr wyf yn gobeithio y bydd pob un o'r tri hyn erbyn y tro nesaf wedi llafurio fel ag i allu sillebu yn fwy cywir a gosod eu meddyliau ar bapyr yn fwy rheolaidd. Ychydig o sylw ac ymarferiad sydd yn eisieu i gyrhaedd yr amcan. Y nesaf a ddaw ger ein bron ydyw Jonathan. Y mae ef wedi ffurfio cwestiynau ac atebion, a phrawf hyn nad ydyw yn gofyn cwestiynau heb fod yn alluog i'w hateb i'w foddlonrwydd ei hun. Y mae yr atebion, yn ol barn y pedwar eraill, dros ben yr hyn sydd yn ofynedig mewn 'cynllun—wers,' ac felly yr wyf finau yn deall. Yr un pryd, nid wyf yn meddwl fod Jonathan yn gwneud fel y gwna rhai o'r Pabyddion. Y mae ganddynt hwy weithredoedd dros ben yr hyn sydd yn eisiau ar amserau, ac y mae y rhai hyny yn gwneud i fynu am eu diffygion mewn amserau eraill. Nid wyf yn meddwl fod Jonathan yn amcanu gwneud felly, oblegyd y mae ei gwestiynau yn dda, fel nad oes eisiau iawn am y diffygion, ac yr wyf yn barnu ei fod yn teilyngu gwobr yn ol amodau y cyfarfod. Y mae hefyd yn ysgrifenwr rheolaidd a gofalus. Ond B. ydyw y goreu, ac y mae yn tra rhagori. Y mae cynllun—wers B. yn cynwys pedwar ugain o gwestiynau, a'r rhai hyny yn sylweddol ac i bwrpas. Y mae yr ysgrif hon yn barod i fyned i'r wasg o ran trefn a destlusrwydd. Ymddengys fod B. wedi arfer ysgrifenu, a'i fod yn llaw dda, yn llaw fedrus, ac yn 'hen law. Yr un pryd, y mae yn bleser genyf, gan mor fedrus y cyfansoddodd ei gynllun—wers, gael y fantais i nodi ychydig wallau ynddi, rhag iddo feddwl ei bod yn fwy difrychau na'r haul. Y mae wedi rhoddi y yn lle u yn y gair cynllun. Yn y 14eg o'r cwestiynau, gofyna 'Pwy briodoldeb sydd mewn galw yr Arglwydd yn fugail?' Yr wyf yn meddwl mai y gair 'Pa'a fuasai yn fwyaf rheolaidd gan nad ydyw
priodoldeb' yn berson. Ond pe gellid wrth chwilio gael gwallau yn yr ysgrif hon—o'r fath yına, beth bynag—byddent o ddiofalwch yn hytrach nag o anwybodaeth. Y mae B. yn haeddu yn gyfiawn y wobr gyntaf, a dylai Jonathan gael yr ail wobr. Y mae y tri eraill wedi derbyn eu gwobr eisoes yn eu llafur, ac yr wyf yn dymuno iddynt wobr o'r nefoedd yn y byd hwn a'r hwn a ddaw. Bendith y Duw Hollalluog a fyddo ar y pump hyn ac ar holl athrawon ac athrawesau yr ysgolion."
Byddai, oherwydd ei sirioldeb a'i ysbryd rhyddfrydig a chymwynasgar, yn hynod o boblogaidd yn y tai lle y llettyai ar ei deithiau. Gwnai ei hunan yn gartrefol yn y fan gyda holl aelodau y teulu. Byddai y gweision a'r morwynion yn y tai ffermydd yn edrych yn mlaen yn awyddus at y Sabboth y byddai ef yn y daith. Clywais am un gwas a fyddai yn cadw Dyddiadur y Corph, er heb gael trwydded i hyny gan y Cyfarfod Misol, a byddai yn cael blas ar fyned trwy restrau y pregethwyr ynddo, ac o dan enw pob un cymeradwy ganddo rhoddai linell goch; a byddai ganddo rai yn y dosbarth blaenaf yn ei gymeradwyaeth a dwy linell goch amlwg odditan eu henwau. Yr oedd gwrthrych ein hanes yn nosbarth y llinell goch ddwbl yn Nyddiadur y cyfaill hwn; ac yr oedd felly yn ddiau yn marn canoedd o weision a morwynion trwy y wlad. Nid ydyw yn anhawdd esbonio y teimlad hwn a goleddid tuag ato yn y dosbarth a nodwyd. Yr oedd ei bregethau y fath ag a fyddai yn eu swyno; ac, fel y sylwyd, yr oedd ei sirioldeb cymdeithasol a'i garedigrwydd yn elfen bwysig yn ei boblogrwydd yn eu mysg.
Ni fyddai byth yn ymadael âg un o'r tai y byddai yn aros ynddynt heb roddi rhyw ddarn bychan o arian yn llaw y wasanaethyddes gyda gair caredig. Heblaw ei fod o duedd naturiol gymdeithasgar a siriol, credai yn ddiysgog fod ymweliadau ac ymddyddanion personol yn bethau anhebgorol i weinidogaeth lwyddianus. Ni fyddai ef byth yn cerdded ar hyd yr heol heb gyfarch gwell neu ysgwyd llaw â phob un yn mron a'i cyfarfyddai; ac nid yn unig gwnai hyny yn ei dref ei hun, ond byddai yn gwneuthur yn gyffelyb, i raddau pell, yn ngwahanol bentrefi a threfi y wlad. Ar ol bod ar daith yn Sir B dywedai mewn Cyfarfod Misol ar y pwys o blanu eglwysi yn mhob cŵr o'r wlad a gofalu am ymgeledd fugeiliol iddynt, ac hefyd y dylai y bugeiliaid fod yn ddynion cymdeithasgar, ac y gwnai dyn bychan, heb ddawn fawr fel pregethwr, lawer iawn tuag at lwyddiant yr achos trwy fyned at y bobl a sylwi arnynt. " Y mae y Methodistiaid," meddai, " wedi bod yn cysgu ar hyd y blynyddoedd mewn ambell i gymydogaeth, a'r Bedyddwyr a'r Annibynwyr yn effro yno ac yn llwyddo, a'r fugeiliaeth fach yma sydd yn ei gwneud hi ganddynt. Y maent yn gosod bugail ar bob deadell fechan. Y mae yn wir fod y bugail yn un bach mewn llawer amgylchiad, ond y mae yn gweddio am lwyddiant, ac ni fedr y Brenin Mawr ddim peidio gwrando arno, oblegyd y mae tamaid bara y dyn yn y cwestiwn; ac y mae ein Tad ni yn gofalu nid yn unig am eryrod, ond hefyd am adar y tô yn mhlith bugeiliaid. Dywedid fod ein gweinidog ni yn B yn gallu myned ar hyd yr heol hir heb gymaint a rhoddi nod ar neb. Yn wir, ni ddylai neb basio buwch heb ddweyd 'Ow, druan,' wrthi."
Prynodd ardd fechan y tu cefn i'w dŷ er mwyn ei chael yn benaf i ymneillduo iddi i ddarllen a myfyrio; a phan yr oedd y saer maen yn gwneud y grisiau i fyned iddi, dywedai wrtho, "Wel, G, gofalwch am ei gwneud yn esmwyth i'w cherdded oherwydd byddaf yn ei thramwy yn synych iawn i'r fan acw [gan gyfeirio at dŷ coed bychan a adeiladwyd ganddo.] Yn y fan acw y mae fy ngweithdy i, ac yno yr wyf am geisio gwneud pregethau, pa rai, o dan fendith Duw, a fyddant yn foddion i droi pechaduriaid." Treuliodd lawer iawn o'i amser yno, a phe buasai y coed yn gallu llefaru hwy a ddywedasent am ei weddiau taerion a'i ymdrechion dwysion ar y llanerch hono. Er mor syml a diaddurn oedd y caban coed, yr oedd yn sicr yn cael ei anrhydeddu gan bresenoldeb angylion. Cynwysai y tŷ fainc a chadair neu ddwy a desg uchel, yn yr hon yr oedd Beibl bras, Mynegair Peter Williams, a rhyw lyfr arall y byddai yn ei ddarllen ar y pryd. Cai ei frodyr yn y weinidogaeth a ddigwyddent ymweled âg ef eu gwahodd yn roesawgar ganddo i'w fyfyrgell yn yr ardd. Eisteddai yno am oriau wrtho ei hun i fyfyrio a gweddio a chyfansoddi pregethau.
Yn yr adgofion difyr a ysgrifenwyd am dano gan y Parch. R. H. Morgan, M.A., i'r Drysorfa am Mehefin, 1890, dywedir a ganlyn:
NI cheisiaf yn y llinellau dilynol roddi hanes ei fywyd, ond fy amcan ydyw cyfleu gerbron y darllenydd fy adgofion personol am dano a thynu darlun ohono fel y gwelwn ac yr adnabyddwn ef yn ystod deuddeng mlynedd olaf ei oes—darlun o Mr. Davies fel yr oedd neu fel yr ymddangosai i un a fu yn cydfyw âg ef am amser hir, a'i gwelodd mewn llawer amgylchiad a thymher, a dderbyniodd lawer iawn o wir garedigrwydd oddiar ei law yn mhob cylch, ac un sydd yn teimlo chwithdod a hiraeth wrth feddwl na cheir eto weled ei wynebpryd na mwynhau ei gymdeithas ar y ddaear. Fy nghôf cyntaf am Mr. Davies, o Benmachno y pryd hyny, ydyw ei wrando yn pregethu y noswaith olaf mewn cyfarfod a gynaliwyd yn Nghwmnancol, cymydogaeth wrth droed y Moelfre, uwchlaw Dyffryn Ardudwy—nis gwn yn mha flwyddyn. Cynaliwyd yno gyfarfod pregethu cyn hwnw hynod o lewyrchus ar ddechreu haf, rhyw dro yn ystod blaenllanw y diwygiad mawr diweddaf; yn hwnw cafodd y Parch. John Davies, Nerquis, oedfa hynod rymus ar y geiriau "Issachar sydd asyn esgyrnog, yn gorwedd rhwng dau bwn," oedfa a fu yn foddion troedigaeth i luaws o'r gwrandawyr. Yn yr ail gyfarfod trodd yr hîn yn anffafriol erbyn yr hwyr, ac felly yr oedd pregethu, yn ol yr hen ddull, yn ffenestr y capel yn anmhosibl fel y gwnaethpwyd y boreu a'r prydnawn. Yn y capel pregethai y Parch. Joseph Thomas a rhywun arall; ac yn Hendrewaelody ffermdy mwyaf gerllaw, lletty y fforddolion y pryd hwnw—yr oedd Mr. Davies yn pregethu, a'r bobl yn llenwi yr hen gegin fawr a'r siamber. Safai ar ben cadair wrth ben y bwrdd â bord gron o bren ffawydd gwyn wedi ei gosod ar ben y bwrdd i ddal y Beibl a'r Llyfr Hymnau. Nid wyf yn cofio dim am y testyn na'r bregeth, ond fod y pregethwr yn cael hwylusdod rhyfedd a'r gynulleidfa yn mwynhau. Tybiwn na chlywswn erioed y fath bregethwr yn meddu llais mor anwyl ac yn gallu ei drin mor fedrus: weithiau esgynai i'r uchelder mewn tôn beraidd, nid bloedd aflafar; ac wedi parhau am enyd yn y cywair hwn nes swyno pawb a'i beroriaeth, disgynai i'r dyfnder a llefarai mewn llais bass oedd yn llawn mor effeithiol yn ei ddylanwadau a'r llall. Yr oedd ganddo lais godidog; a phan fyddai anmhariaeth ar hwnw, torai ei galon yn lân a gosodai ei dŷ mewn trefn. Eto, camgymeriad dybryd a fyddai i rywun dybied nad oedd ganddo ddim ond llais. Yr oedd yn feddianol ar feddwl cyflym a chraff iawn mewn rhai cyfeiriadau, synwyr helaeth, arabedd a dawn diball, ysbryd gwresog, a natur danbaid.
Credai yr hyn a gredid ganddo â'i holl galon. Parai y nodweddion hyn iddo fod yn bregethwr ar ei ben ei hun yn un a wnaeth gymaint o ddaioni yn ei gylch ag odid neb, a bu yn hynod o lwyddianus, yn neillduol ddeg ar hugain a deugain mlynedd yn ol, yn nyddiau yr hen ddiwygiadau. Cyrhaeddai efe ddosbarth y mae llawer pregethwr yn eu colli, sef y gweision a'r morwynion, yn enwedig mewn ardaloedd amaethyddol. Swynai hwy i'w wrando â'i hyfryd lais ac â'i ddawn dihafal pwyai y gwirionedd hyd adref i'w meddyliau. Achubwyd canoedd, mae'n sicr, trwy ei weinidogaeth yn ngwahanol siroedd Cymru. Pregethai y gwirionedd fel y mae yn yr Iesu bob amser, ac yr oedd i'r "gwaed a redodd ar y groes" le amlwg yn ei weinidogaeth. Teimlai yn dra eiddigeddus dros ei lais a'i floeddio. Yr wyf yn cofio cael prawf diymwad a lled ddigrif o hyny. Mewn rhydd—ymddyddan âg ef, darfu i mi rywdro, yn hollol ddifeddwl ac heb un bwriad i'w glwyfo, adrodd y penill hwn:—
Ti roddaist imi udgorn mawr,
Wel d'od dy gymhorth i mi'n awr;
Canys ar fy ffordd i'r Amen,
'Rwy'n meddwl bloeddio nerth fy mhen.
"Ie," meddai yntau, mewn tôn ddifäol o sychlyd,. "rhywun digon diras wnaeth y penill yna. Gwaeddi fyddaf fi yn clywed pawb yn ei wneud os gallant. Chwi floeddiech chwithau pe buasai genych chwi lais."
Fy syniad fel plentyn am Mr. Davies oedd ei fod yn ddyn duwiol, ac ni chefais ar ol adnabyddiaeth agos ohono, achos i newid fy marn. Nid oedd amheuaeth am ei grefydd. Gallasai efe fenthyca geiriau Paul, "Eithr trwy ras Duw yr ydwyf yr hyn ydwyf; a'i ras ef yr hwn a roddwyd i mi ni bu yn ofer." Oni buasai am waith gras barnai pawb a'i hadwaenai y buasai yn un o'r dynion mwyaf annuwiol. Yr oedd ei natur yn gyfryw fel nas gallasai fod yn guddiedig mewn drygioni mwy na daioni. Nid gras prin a dderbyniodd; nid digon i'w gadw yn unig yn y diwedd, ond cafodd grefydd a dalodd ei ffordd yn y byd hwn. Meddai lawer a nodau dyn duwiol iawn. Ceisiai wisgo y dyn newydd yn wastadol. Nid oedd yr Adda cyntaf wedi ei ladd, mae yn wir; gwingai yn enbyd ar adegau, ond eto yr oedd wedi ei groeshoelio. Arferai ddarllen llawer ar ei Feibl bob amser er pan yn fachgen; ac mae yn ddiddadl fod Mr Davies, er na ddywedodd hyny wrthyf, yn weddiwr mawr yn y dirgel. Wrth edrych yn ol ar y blynyddoedd hyny, nis gallaf amheu na fu ei weddiau taerion drosom yn foddion i'n gwaredu fel eglwys rhag llawer helynt, ac i roddi i ni lwyddiant a llewyrch yn mhell y tu hwnt i'n haeddiant. Pregethu oedd gwaith mawr ei fywyd. Siarad am bregethu a llyfrau oedd ei ddewis—ymddyddan. Cyfansoddai bregethau newyddion yn barhaus—pedair neu bump mewn mis weithiau, er na byddai raid iddo wrth ond un newydd yn ystod yr amser. Ni arferai ysgrifenu y bregeth allan yn gyflawn, ond ysgrifenai amlinelliad manwl ohoni gan nodi y penau a sylw byr neu ddau dan bob pen. Ymhelaethai yntau yn y pwlpud ar y sylwadau hyn yn ol fel y byddai yr hwyl. Un o'r pregethau olaf a gyfansoddodd oedd ar y testyn "Codwch ymaith y maen" (Ioan xi. 39). 1 Drychfeddwl y bregeth oedd fod eisiau symud y meini sydd yn gwahanu rhwng yr Iesu byw a'r pechadur marw. Cafodd amryw oedfeuon hynod ar y testyn, a'r bregeth hon ar y maes oedd yr unig un y cafwyd ychydig lewyrch arni yn Nghymdeithasfa Bangor yn 1866, pryd y dyfethwyd oedfeuon y dydd dilynol gan yr hîn wlyb ac ystormus.
Cyfansoddodd ganoedd lawer o bregethau. Arferwn ei brofocio weithiau trwy ddweyd nad oedd ei bregethau newyddion ond yr hen rai wedi eu hail bobi. Gwadai yntau y cyhuddiad yn bendant, a haerai fod y testyn a'r rhaniadau yn hollol newydd. Credaf eto fod fy sylw yn lled wir, ond gwn hefyd ei fod ef yn tybio yn onest mai pregethau cwbl newydd—"newydd spon," ys dywedai—oeddynt. Trwy y llafur diwyd hwn llwyddodd i gadw ei feddwl yn iraidd ac ieuengaidd. Rhyw dro ar ol dyfod i'r Abermaw, pan mewn tymher lled isel a digalon gyda golwg ar ei bregethau, cymerodd ugeiniau o'r hen bregethau a chladdodd hwynt yn yr ardd. Yn mhen peth amser ar ol y claddedigaeth, daeth un o'i feibion—yn—nghyfraith yno ac adroddodd Mr. Davies yr hyn a wnaethai. Gresynai ei ddaw at ei weithred, a boreu dranoeth aeth yntau yn lladradaidd i'r ardd i'w hadgyfodi, ond erbyn hyny yr oedd yr hen bregethau wedi dechreu pydru, a bu raid eu dychwelyd i'r pridd.
Y mae yn rhaid ymatal rhag dyfynu ychwaneg yn bresenol o'r adgofion hyn, ond cawn wneud defnydd ohynynt eto cyn y diwedd. Delid ef weithiau, fel y dywedir uchod, gan ddigalondid mawr gyda'i bregethu, ond elai y cwmwl hwnw heibio yn fuan, a deuai awel glir ar ei feddwl, ac yn gyffredin byddai y cwmwl yn drwchus iawn neu yr awyr yn glir hollol. Nis gellir dweyd fod ei brofiad, ond lled anfynych, yn gymysg o oleuni a thywyllwch. Nis gellid dweyd am dano yn ngeiriau y prophwyd, "Nid dydd ac nid nos;" na, byddai yn ddydd goleu neu yn nos dywell arno ef bron bob amser. Pan y byddai wedi cyfansoddi pregeth newydd ac wedi cael tipyn o hwyl gyda'r gwaith, ni roddai dim fwy o foddhad iddo na chael adrodd y bregeth wrth ei gyfeillion mwyaf mynwesol yn mhlith ei frodyr yn y weinidogaeth.
Yr oedd i bregethu gartref un Sabboth, ac wedi bod wrthi hi yn ddiwyd trwy yr wythnos yn parotoi dwy bregeth; a chan ei fod wedi cael cryn rwyddineb ysbryd yn ei lafur, yr oedd yn teimlo yn dra sicr y cawsai Sabboth llewyrchus, a methodd ag ymatal rhag dweyd hyny wrth rai cyfeillion nos Sadwrn. Fodd bynag, digwyddodd y Sabboth fod yn hollol groes i'w ddisgwyliad, gan ei fod braidd yn rhwyfo yn erbyn y llif trwy y dydd. Pan y daeth i lawr o'r pwlpud a chanfod nad oedd neb wedi aros ar ol o'r newydd, suddodd ei ysbryd. Gomeddai ddweyd gair yn y seiat, ond eisteddai ar y gadair fawr a'i bwys ar ben ei ffon, ac wedi i'r gynulleidfa ymadael, a neb ond y blaenoriaid ac yntau ar ol, clywid ef yn dweyd wrtho ei hun "Wel! wel! wel!" "Beth sydd arnoch chwi, Mr. Davies?" meddai un o'r blaenoriaid. " Beth sydd arnaf?" meddai yntau, "ond aflwyddiant fy nhipyn pregethu sydd yn faich trwm arnaf," ac ychwanegai, "Ni chysgaf ddim heno." Ar hyn dyma un o'r hen flaenoriaid yn gwenu, a chanfu yntau ef, a throdd ato yn sydyn gan ofyn iddo, " Ai chwerthin yr ydach chi, R. J.?" "Ie," atebai y blaenor, " meddwl yr oeddwn y buasai yn fwy rhesymol i chwi fethu cysgu neithiwr na heno." Siriolodd yr atebiad ei feddwl yn y fan, a dywedodd, "Yn sicr, R. J., ni ddwedsoch chi 'rioed well gwir."
Byddai yn anfoddlawn i'r un Sabboth fyned heibio heb arwyddion amlwg fod y gwaith wedi ei fendithio; a byddai yn dra isel o ran ei feddwl os na chaffai rhyw lewyrch i'w deimlad ei hun yn mhob oedfa fel prawf fod y gwirionedd yn dylanwadu ar eraill, ond byddai yn cylymu ei hun yn rhy dỳn wrth yr arwydd hwn ac yn camfarnu llawer pregeth—llawer oedfa wedi gwneud y gwaith ac yntau heb gael y dystiolaeth o hyny mewn cymaint o rwyddineb a gwresogrwydd ysbryd ag arfer. Credwn fod ei ddifrifwch a'i dduwiolfrydedd yn ddigon o sicrwydd mai nid gofal am ei enw da ei hun oedd yn cynyrchu hyny, ond gofal cywir am anrhydedd y gwirionedd a gogoniant ei Feistr Mawr. Bu ei weinidogaeth, y mae yn ddiamheu, yn foddion i ddychwelyd llaweroedd at yr Arglwydd, a chafodd ef ei hun fod yn llygad—dyst o effeithiau mawrion llawer pregeth o'i eiddo; ond er cymaint a welwyd ganddo o hyny, y mae effeithiau ei weinidogaeth yn llawer eangach a dyfnach nag y meddyliodd ef erioed yn ei fynudau mwyaf gobeithiol a siriol.
Er cymaint o gyfnewidiadau a fu yn ei syniadau am bregethu, yn ei ddull o gyfansoddi pregethau ac yn nhymheredd ei ysbryd, ni fu cyfnewid o gwbl ar amcan ei weinidogaeth—cael dynion at yr Arglwydd—a rhoddwyd iddo, fel gwobr ei ddifrifwch a'i lafur, ganoedd o eneidiau i'w cyflwyno i'r Arglwydd Iesu. Yr oedd y ffrwyth hwn yn amlwg ar ei weinidogaeth, yn ddiamheu, oherwydd fod gwraidd ei fyfyrdod yn naear fras cymundeb â Duw. Gweddiai lawer mewn dirgel—fanau. Dechreuodd ar hyny yn foreu iawn, pan yn fachgen ieuanc yn Mhenmachno, a glynodd yn dyn wrth y gwaith hyd ddiwedd ei oes; ac yr oedd ei " Dad, yr hwn a wêl yn y dirgel," yn talu iddo yn yr amlwg. Yr oedd ei weddiau cyhoeddus a rhyw eneiniaid rhyfedd arnynt yn fynych iawn. Ceir yn adgofion Mr. Morgan, yn y Drysorfa, ar y pen hwn, y sylwadau canlynol:—
PERTHYNAI neillduolrwydd nodedig i Mr. Davies fel gweddiwr cyhoeddus. Nid oedd bob amser mor hapus ar amgylchiadau penodol, oblegyd mae'n debyg na byddai yn teimlo yn hollol 1ydd, neu y byddai yn ymwybodol o rywfaint o ymdrech i weddio yn dda. Yr oedd. ganddo ddwy arddull. Un pan na byddai awel, ychwanegai yntau nerth llais ac egni corphorol, a bloeddiai yn helaeth; a'r llall pan elai ar ei union i'r nefoedd gyda'r frawddeg gyntaf, ac yr arosai yno hyd ddiwedd y weddi. Nis gallaf ddesgrifio y gweddiau hyn a glywais ganoedd o weithiau ganddo. Byddai ei lais yn fwyn a hynod felus, y geiriau yn dyferu fel diliau mêl; adnodau wedi eu cymhlethu â'i ymadroddion yn y dull mwyaf meistrolgar a swynol; gafaelai mewn rhyw addewid a dadleuai hi "gan ymaflyd yn fy nerth." Oddiwrth ei weddiau yr oedd yn amlwg fod y geiriau hyny yn wir am dano:
A gwraidd fy nghysur fyth gaiff fod
Mewn dwyfol farwol glwy'.
Yr wyf yn ei gofio yn chwareu ar y geiriau, "O enau plant bychain a rhai yn sugno y perffeithiaist foliant," wrth ddechreu un o gyfarfodydd cymanfa ysgolion, lle yr oedd llawr y capel yn llawn o blant, nes oedd y dagrau yn dysgleirio yn llygaid pawb.
Credid yn ddiysgog fod rhai o'i weddiau dros bersonau mewn amgylchiadau neillduol wedi eu hateb yn uniongyrchol. Dywed Mr. L. am un engraipht arbenig o hyny. Cymerwyd un o forwyr yr Abermaw yn yr India yn glaf o'r dwymyn felen. Cyrhaeddodd y newydd am dano adref ar foreu Sadwrn, ac yr oedd Mr. Davies ar gychwyn i'w gyhoeddiad pan y clybu yr hanes. Teimlai yn ddwys iawn dros y teulu yn eu pryder. Yr oedd i bregethu yn Nhrawsfynydd y Sabboth hwnw, ac yn nechreu oedfa y boreu gweddiai yn afaelgar annghyffredin dros y morwr ieuanc oedd yn glaf yn yr hospital yn yr India bell. Adferwyd y claf a daeth adref yn mhen rhai misoedd; ac wrth iddo adrodd hanes ei wellhad, cafwyd allan mai yr awr y gadawodd y clefyd ef ydoedd yr awr y gweddïid mor daer drosto yn Nhrawsfynydd.
Cymerai ddyddordeb mawr yn y morwyr a gweddiai lawer drostynt, a byddai rhai ohonynt yn priodoli eu gwaredigaethau rhag dyfrllyd fedd i'w weddiau taerion ef ar eu rhan. Nid annyddorol i'r darllenydd gael amlinelliad o anerchiad a draddodwyd ganddo i'r morwyr—mewn cyfarfod ysgolion, yr wyf yn tybioac yr wyf yn ei roddi yma fel y ceir ef yn mhlith ei bapyrau:
COFIWCH Y MORWYR.
"Dyma eiriau sydd i'w canfod ar y pwlpudau ac ar furiau yr addoldai, mewn llythyrenau breision ac eglur, yn yr ardaloedd ar gyffiniau y môr yn Ngogledd a Deheudir Cymru. Nid ydym yn gwybod pa beth a fu yn achos o'r arfer hon, na pha beth yn benaf sydd yn peri ei bod yn parhau. Nid ydym yn meddwl fod y morwyr wedi bod un amser yn îs mewn crefydd a moesau na rhyw ddosbarth arall o'r genedl; ac nid ydym yn meddwl ychwaith fod morio yn llawer mwy peryglus i fywydau dynion na gweithio yn y glofeydd a'r gweithydd mŵn a'r cloddfeydd llechau. Efallai fod peryglon y morwyr yn fwy mynych a chyson, ond nid ydym yn tybio ei fod yn gymaint felly fel ag i beri fod y dymuniad yn mhob capel bron ar gyffiniau y môr. Ac nid oes byth y fath gais cyhoeddus a chyffredin ar ran neb arall sydd yn gweithio yn nghanol peryglon. Gwelsom yn argraphedig weithiau, Cofiwch y dall,' neu 'Cofiwch y mud a'r byddar," neu 'Cofiwch y weddw dlawd a'r plant amddifaid,' ond yr hyn a ddisgwylid yn benaf a fyddai elusen i'r gwrthrychau hyny. Eto, rhydd aml un ochenaid mewn gweddi trostynt yn ogystal â chyfranu iddynt. Ond pan y gwelir y geiriau, 'Cofiwch y morwr,' ni ddisgwylir i ni gyfranu dim o'n harian ar y pryd eithr yn hytrach cyfranu ein heneidiau mewn gweddiau taerion ar eu rhan. Y mae yn debyg fod y dymuniad hwn wedi codi oddiwrthynt hwy eu hunain, yn ddiau, yn y dechreu, a theimlad y morwyr eu hunain ydyw ei barhad. Y mae y dosbarth hwn o ddynion mewn mwy o anfanteision i fwynhau breintiau yr efengyl yn y moddion cyhoeddus nag un dosbarth arall.
"Ni ddywedir wrthym ychwaith yn y geiriau yn mha beth y dymunir eu cofio; ond gadewir y gair yn eang a phenagored, yr un modd ag y mae yr Apostol Paul yn ei arfer wrth ysgrifenu at yr Ephesiaid a'r eglwysi eraill, 'Nid wyf yn peidio a diolch drosoch gan wneuthur coffa am danoch yn fy ngweddiau.' Os mai oddiwrthynt hwy y tarddodd y dymuniad, fel y credwn, ac os mai eu teimlad hwy ydyw iddo barhau, fel y credwn hefyd, y mae hyny yn profi fod y morwyr yn meddu ffydd ddiysgog yn llywodraeth Duw ar bob peth—fod y 'gwynt a'r môr yn ufuddhau iddo' fel cynt, ac y gallent Ei gyfarch yn ngeiriau un o saint y Beibl, 'Ti wyt yn llywodraethu ymchwydd y môr, pan gyfodo ei donau Ti a'u gostegi.'
"Maent yn credu hefyd fod yr Arglwydd yn gwrando gweddiau; ac nid peth diweddar ydyw hyn a pheth yn perthyn i forwyr Cymru yn unig. Na, yr oedd y grediniaeth yma yn bod yn gref yn nyddiau y Prophwyd Jonah. Pan y cyfododd y gwynt mawr ac y bu tymhestl ofnadwy yn y môr, a'r morwyr mewn braw ac ofn, y maent bob un yn galw ar ei dduw er na wyddant am Dduw y nefoedd, yr 'Hwn a wnaeth y môr a'r sychdir.' Yr un ffunud yn nyddiau y Salmydd, pan y tawdd eu henaid gan flinder, ymdroant ac ymsymudant fel meddwyn, a'u holl ddoethineb a ballodd, 'Yna y gwaeddant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder, ac Efe a'u dwg allan o'u gorthrymderau. "
"Y mae y morwyr yn credu hefyd fod yr Arglwydd yn gwrando y naill ar ran y llall, a bod nerth gyda'r Arglwydd yn ngweddiau y lluaws, a'u dymuniad ydyw cael yr holl eglwys i weddio drostynt. ydym yn dra sicr mai y rhai sydd yn dymuno mwyaf am weddiau eraill ydynt y rhai sydd yn gweddio mwyaf eu hunain, ac yr ydym yn hyderu yn gryf y gallwn gyfeirio fel hyn at y morwyr. Credwn yn lled gryf yn ein meddwl, yn ol yr ychydig adnabyddiaeth sydd genym, fod cynifer o'r morwyr yn proffesu enw yr Arglwydd Iesu ag sydd o unrhyw ddosbarth ar gyfartaledd; a phan y mae diwygiad yn dyfod i'r eglwysi, y mae y morwyr yn cyfranogi ohono yn gymaint a neb. Nid ydyw y glowyr, mwnwyr, na chwarelwyr Cymru ar y blaen iddynt yn hyn; ac yr ydym yn tybied yn ddibetrus eu bod fel dosbarth o ddynion yn dyfod i fynu mewn crefydd a moesau yn llawn mwy prysur nag unrhyw ddosbarth arall o'r genedl. Yr ydym hefyd yn clustseinio a oes dim son fod y Brifysgol yn Aberystwyth yn dysgu Morwriaeth fel y gallo ein gwŷr ieuainc gael eu cymhwyso yn eu gwlad eu hunain i hwylio y llongau mwyaf a thramwy llwybrau y moroedd i'r gwledydd pellenig. A phe sefydlid y gangen hon o addysg, y mae yn fwy na thebyg y byddai i'r morwyr wneud ysgoloriaeth i'r dosbarth cyn pen tair neu bedair blynedd. Terfynwn y sylwadau gan ail adrodd y gair wrth drigolion canol y wlad yn ogystal ag wrth breswylwyr glan y môr, Cofiwch y morwyr.
Yr oedd ei haelioni i'r tlawd a'i gymwynasgarwch i'r rheidus a'i barodrwydd i gynorthwyo teuluoedd a phersonau mewn angen, yn hollol wybyddus yn y dref a'r cylchoedd, er y mynasai ef, fel ei Feistr Mawr, fod yn guddiedig yn hyn. Gwnai i galon llawer gwraig weddw lawenychu, a bendithion yr hwn oedd ar ddarfod am dano a ddisgynent arno.