Cofiant David Davies, Bermo/Heulwen a Chwmwl
| ← Fyddlawn yn yr holl dу | Cofiant David Davies, Bermo gan William Jones, Lerpwl |
Ymddatod oddiwrth ofal bugeiliol → |
PEN. VIII.—Heulwen a Chwmwl.
Ymroddi i lafur yn mhob cylch.—Ei lyfrgell.—Ei farn am lyfrau.—Yn ymgais i gyrhaedd y bobl mewn ffordd deg.—Gwneud cyfamod.—Dysgyblu ei hun yn barhaus.—Cyfamod arall.—Adduned a gweddi.—Myned am daith i Leyn.—Cyfarfod â damwain.—Ei brofiad yn ei gystudd.—Ei adgofion am hyny.—Yn methu cerdded fel cynt.—Yn siriol er y cwbl.
LLAFURIAI yn galed, a llafuriai yn barhaus, yn mhob cylch. Prynai lawer o lyfrau newyddion i gadw ei feddwl yn fyw a darllenai hwynt, a synid y rhai mwyaf craff pan y byddai yn son am gynwys rhyw lyfr newydd a ddarllenwyd ganddo gan mor afaelgar oedd ei feddwl, a hyny wrth ystyried nad oedd wedi cael ond ychydig o fanteision pan yn ieuanc.
Yr oedd ei lyfrgell yn yr Abermaw yn ystafell hir gul, a'r parwydydd oddiamgylch wedi eu llenwi â llyfrau; ac os oedd tuedd ynddo i falchio mewn rhywbeth, yn ei lyfrau y dangosid y duedd hono gyntaf. Cadwai hwy yn hollol drefnus, ac ni fyddai dim yn ei anfoddloni yn fwy nag i rywun symud llyfr a pheidio ei roddi yn ei le drachefn. Arferai ddweyd pe buasai yn myned i mewn i'r ystafell yn y tywyllwch y gallasai daro ei law ar unrhyw lyfr a ddymunai.
Er fod yn mhlith ei lyfrau rai o weithiau y tadau, a rhai o'r prif Buritaniaid, a'i fod yn edmygydd mawr o hen lyfrau Cymreig, eto arferai ddweyd fod dynion yn ysgrifenu i'w hoes eu hunain, a'i fod yn credu mai y llyfrau mwyaf cymhwys i bob oes oeddynt y llyfrau a gyfansoddid yn yr oes hono. Yn nghanol yr ystafell yr oedd bwrdd a desg arno, ac yn ei ymyl gadair dairongl lled uchel, ar yr hon yr eisteddai ef bob amser; ac ar y bwrdd byddai Beibl âg ol darllen mawr arno ac ambell i farc ar ymylon ei ddail, a llyfr neu ddau arall a ystyrid ganddo fel cynorthwyon i astudio y Beibl, a dywedai mai llyfrau i fod ar y bwrdd bob amser oedd y rhai hyny ac nad oeddynt i'w symud. Cafodd Mynegair Dr. Young fod yn y sefyllfa hon am gyfnod maith. Byddai yn darllen llyfr trwyddo ac yn gosod rhyw farciau a ddeallid ganddo ef ar yr ymylon yn lled fynych, ac ysgrifenai ei farn weithiau am gynwys y bennod ar ei diwedd mewn un frawddeg.
Bu ar un adeg yn hoff iawn o ddarllen gweithiau y diweddar Barch. Samuel Cox, D.D., er nad oedd yn cydolygu âg ef ar lawer pwynt, ac yn un gyfrol o'i weithiau fe geir brawddegau fel hyn wedi eu hysgrifenu ar ddiwedd y gwahanol bregethau, "Dim neillduol," "Mympwyol ac ynfyd," "Dyn yn cymeryd arno fod yn fwy grasol a thrugarog na Duw ei hunffei yr ynfyd," "Gwyrdroi y gwirionedd ei hun y mae y dyn hwn," "Da iawn, da iawn, yn wir," "Purion traithawd ydyw yr uchod, ac eto heb rhyw gymaint ynddo, ond yn bur gyson â rhediad yr Ysgrythyr yn y peth y mae." "Pregeth lled dda; ond y mae yn y rhan gyntaf o'r tir yn annyben ac amgylchog, fel dyn yn ysgrifenu er mwyn ysgrifenu, er hyny y mae yn dda ar y cyfan." "Un o'r traithodau sydd yn werth yr holl lyfr." "Pregeth yn werth y llyfr i gyd a mwy na hyny." "Pregeth ardderchog," &c., &c. Gallesid ysgrifenu pethau cyffelyb o lyfrau eraill a ddarllenwyd ganddo; ond gwasanaetha yr hyn a nodwyd eisoes i ddangos ei fod yn darllen y llyfrau ac yn ffurfio ei farn ei hun am danynt, a'i fod gyda'i lyfrau, fel gyda'i gyfeillion, yn canmol neu yn ceryddu fel y ffurfiai ei farn yn ol gonestrwydd ei galon; er, hwyrach, oherwydd bywiogrwydd ei deimladau, nad ystyrid ei farn mor ddyogel bob amser.
Cofus genyf iddo un tro ddarllen cyfrol o ddetholion o weithiau Cardinal Newman, ac wedi ei gorphen yr oedd wedi syrthio allan ag ef gymaint, fel na allai oddef gweled ei enw heb fyned yn ddoniol mewn ymosod arno; ond bob tro y deuai i lyfrgell brawd o weinidog ag yr oedd pregethau Newman ganddo, ni fedrai beidio a thynu cyfrol ohonynt i lawr a'i darllen, a bob yn dipyn, wrth ymgydnabyddu âg ef, daeth yn edmygydd mawr ohono. Darllenai luaws o gofiantau, a phrin yr wyf yn tybio y ceir un cofiant Cymreig o bwys nad oedd yn ei feddiant. Gwnai y cwbl gydag awch pregethwr, a darllenai bob llyfr er mantais i'w bregethu, a dyma yn ddiau a'i cadwodd yn îr ac yn newydd hyd ddiwedd gweinidogaeth o dros dair blynedd ar ddeg a deugain.
Er, fel y sylwyd, ac fel y tystia y rhai a'i clywsant, fod ganddo lais godidog, eto nid oedd am ddibynu ar hwnw yn unig, eithr byddai am i'r gwirionedd gario dylanwad ar wahan i hyny a thrwyddo; ac os rhoddai rhywrai awgrym mai ei lais oedd yn effeithio ar y bobl, fe deimlai yn ddwys yn y fan. Ceir a ganlyn wedi ei ysgrifenu ganddo mewn llyfr nodiadau sydd yn dangos ei deimlad ar y pwnc mewn modd syml iawn:—" Daeth gwraig ataf ganol dydd ddoe ar ol i mi fod yn pregethu y boreu ac a ddywedodd wrthyf, 'Chwi fuoch yn hir iawn yn dyfod iddi heddyw." Codais fy llais am ddau fynud neu dri yn y diwedd, ac yr wyf yn tybio mai y pryd hwnw yr oedd y wraig yn meddwl fy mod wedi 'dyfod iddi hi,' a minau wedi pregethu un o'r pregethau goreu a fu genyf erioed, ond nid oedd y wraig wedi gweled dim hyd nes y darfum i ddyrchafu fy llais."
Yn nechreu cosnodlyfr y mae cyfamod wedi ei ysgrifenu ganddo:
"Tachwedd 23ain, 1869.—Yr wyf y Sabboth diweddaf wedi dechreu ar ddull newydd i mi o bregethu, ac yr wyf yn ymgyfamodi, trwy gymhorth yr Arglwydd, i barhau ac ymberffeithio yn y dull hwn trwy dywyll a goleu hyd ddiwedd fy oes. Mae y diwedd bellach yn agos; ond yr wyf yn dymuno gan yr Arglwydd, ac yn ymgyfamodi am y dull hwn am y gweddill o'm gyrfa weinidogaethol. Felly dysged yr Arglwydd fi trwy Ei Ysbryd. Os bydd eithriadau nas gellir eu hosgoi, bydded felly yn eithriad ac yn beth annghyffredin. Dan dystiolaeth fy llaw y dydd hwn gerbron yr Arglwydd.
DAVID DAVIES."
Pa faint bynag o ddiffygion oedd ynddo fel pregethwr, gwelir ei fod yn cyrchu yn barhaus at y nôd o fod yn bregethwr perffaith, ac fe barhaodd yn ffyddlawn i ddysgyblu ei hun ar gyfer hyny ar hyd ei oes. Fe geir cofnod arall wedi ei ysgrifenu ganddo yn mhen tua haner blwyddyn ar ol yr ymgyfamodiad uchod:
Heddyw yr wyf yn hynod boenus sy meddwl ac isel fy ysbryd. Duw a drugarhao wrthyf; a thywyned Ei wyneb arnaf. Rhodded Ei gymhorth, a thrwy ei gymhorth Ef yr wyf yn llwyr benderfynu newid fy null o bregethu a disgyn i ddull mwy syml, agos, a naturiol. Yr wyf wedi blino arnaf fy hun—y gormodedd o eiriau, amser a llais. Llai ohonof fy hun i Ysbryd Duw gael lle yw fy nymuniad.—Mai 12fed, 1870."
Y mae yn dra thebyg mai at yr un peth y cyfeirir yn y ddau gofnod. Gwneud cyfamod yn y cyntaf, ac yn yr ymdrech yn methu ei gadw yn yr ail, a'i fod yn credu y buasai ysgrifenu ei deimlad fel hyn yn help iddo i ymberffeithio ac enill buddugoliaeth ar yr hyn a ystyriai oedd yn dramgwydd, ac yn anfantais i'r efengyl drwyddo. Ond prin y credwn ei fod wedi gadael maes y frwydr gyda hyn ar hyd ei oes. Fodd bynag, y mae swn y frwydr i'w glywed yn mhen mwy na phum' mlynedd ar ol hyn. Yn niwedd llyfr o nodiadau ceir y geiriau a ganlyn:—
AMOD DIWEDD SASSIWN Y DREFNEWYDD,
MEHEFIN 15, 1876.
"1.—Y bydd i mi lefaru yn y dôn a'r dull y llefarais wrth ddechreu pregethu heno. 2.—" Na bydd i mi eto bregethu yn hwy na deugain munyd.
GWEDDI.
"O Arglwydd, dyro gymhorth Dy Ysbryd i gadw yramod hon; dan bob temtasiwn i beidio, er gogoniant Dy enw Di, a lleshad eneidiau dynion, a daioni i mi fy hun yn mhob ystyr. Trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen ac Amen."
Yn Medi, yn y flwyddyn 1871, aeth ef a'r Parch. Samuel Owen, Tanygrisiau, ar daith i Leyn ac Eifionydd; ac ar yr ail ddydd o Hydref, pan yn cael eu danfon mewn cerbyd at oedfa y nos, yn agos i Rydyclafdy, gwylltiodd y ceffyl a dechreuodd redeg yn ddilywodraeth.
Wrth weled y perygl, fe neidiodd Mr. Davies i lawr o'r cerbyd; a chan ei fod yn drwm, yn y disgyniad fe anafodd asgwrn ei glun yn ddrwg, fel y bu am fisoedd heb allu llanw ei gyhoeddiadau. Yn mhen ychydig o wythnosau ar ol yr amgylchiad hwn, ysgrifenodd ychydig o hanes y ddamwain a'i brofiad ei hun wedi myned trwyddi; ac y mae yn dra sicr y bydd cael yr hanes, fel yr ysgrifenwyd ef ganddo, yn hyfrydwch mawr i'r darllenydd.
"Tachwedd 20fed, 1871.—Wedi brifo yr ail Hydref, y tu draw i Bwllheli, yn Rhydyclafdy, a bod yn gorwedd yn Llanbedrog, yn nhŷ'r capel, wedi tori fy nghlun, am dair wythnos a thridiau, a chartref bellach er's mis i ddydd Iau nesaf, ond heb wneud dim—methu eistedd i ddarllen nac ysgrifenu, methu pobpeth bron. O ba ley daeth hyn i mi? Ar gyhoeddiad cysurus yr oeddwn; a'r dydd Llun hwnw yr oedd genym dair oedfa, a rhwng dau a'r nos, camu o'r cerbyd, pan yr oedd y ceffyl wedi gwylltio, a thori fy nghlun, a methu myned i'r oedfeuon yn y daith hono rhagllaw, a phob Sabboth a chyfarfod o hyny hyd yma, ac nid oes tebyg y gallaf fyned hyd ddechreu y flwyddyn 1872, os gwel yr Arglwydd yn dda i mi gael bywyd ac iechyd.
"Yr wyf wedi derbyn yr amlygiadau helaethaf o diriondeb gan yr Arglwydd, a charedigrwydd nas gallaf ei annghofio oddiwrth bawb o'm hamgylchmwy o diriondeb a chydymdeimlad nag a feddyliais a gawsai neb oddiar law brodyr a chwiorydd crefyddol. Ac y mae tiriondeb yr Arglwydd a'i bobl yn brawf i mi, i ryw fesur, mai nid yn ei lid y gwnaeth yr Arglwydd hyn â mi, gan y credaf yn ddiysgog nas gallasai hyn ddigwydd heb ei oddefiad Ef, a'i fod yn Ei ragluniaeth ddoeth a da fel wedi trefnu pobpeth yn barod a chyfleus ar gyfer i'r ddamwain gymeryd lle—cerbyd isel ac esmwyth yn barod i'm cludo, a gwr â digon o nerth a deheurwydd i'm codi i hwnw, a digon o deimlad i'w yru yn araf a gofalus rhag fy mrifo wrth iddo fyned dros y ceryg. Ac, er syndod i bawb, yr oedd y lletty yn Pig Stryd fel wedi ei barotoi ar gyfer dyn yn fy amgylchiad—gwely wedi ei wneud yn bwrpasol mewn amryw bethau ar gyfer dyn a'i esgyrn briw, a gwraig y tŷ yn brofiadol o weini ar ei hanwyl briod—pan yn fyw—mewn gwendid a gwaeledd, ac yn llawn teimlad da, fel pe buaswn yn berthynas agos iddi. Nid oedd dim yn ormod ganddi ei wneud, ac yr oedd yn dychymygu rhyw ymgeledd newydd i mi o hyd i'm cysuro y noson anesmwyth a'r diwrnod tywyll a gofidus ar ol i mi frifo, ac yr oedd yn awyddus i'w merch—geneth tuag un ar bymtheg oed—i gael gwneud rhyw gymwynas i mi. Heblaw y ddwy Catherine oedd yn byw yn Nhŷ'r Capel—y fam a'r ferch—yr oedd John Williamsblaenor yn byw gerllaw—yn barod o'i galon i wneud a allai i mi; ac yr oedd yntau wedi bod yn gweini ar ddyn methiantus yn Four Crosses, a thrwy hyny wedi ei gymhwyso yn rhyfedd at fy amgylchiad inau. Bu ef ar ei draed am bum' noswaith yn gweini arnaf.
"Hefyd yr oedd yno luaws o gymwynaswyr eraill, ac yn eu plith yr oedd Mr. Elias Hughes a'i briod; Mr. William Jones, y Plas, a'i wraig; gwr a gwraig y Crugan; gwraig Castellmarch; Mrs. Hughes, Ty'nypwll, a'i merch; a theulu y Felin; ac nid annghofiodd Mr. John Griffith, Saethon, a Mrs. a Miss Evans—y rhai oedd gyda mi pany syrthiais—mohonof tra y bum yno.
"Daeth fy anwyl briod ataf nos Fawrth, ac yr oedd ei dyfodiad yn gysur mawr imi; a nos Fercher daeth Laura, fy merch, o Gorwen, a Winifred o'r Rhyl, a Kate o'r Abermaw, ac mor dda oedd genyf eu gweled. Mynasant feddyg arall i'm gweled, yr hyn a fu yn fendith fawr i mi, sef Dr. Roberts, Penygroes. Arosodd Winifred yno am fwy nag wythnos gyda'i mam i weini arnaf. Yn mhen tair wythnos, daethum adref gyda'm hanwyl briod o dan ofal y meddyg, a gwnaed y daith yn hynod o lwyddianus a diofid ac ystyried. fy amgylchiad.
"Pan yn y lletty yn Lleyn, daeth pregethwyr a blaeniaid o sir Gaernarfon a sir Feirionydd yn lluoedd i ymweled â mi, fel yr oedd y cerbydau yn rhedeg bob dydd o Bwllheli i Pig Stryd, i gludo rhai i edrych am y pregethwr oedd wedi tori ei glun, ac yr oedd cyfeillion Pwllheli hefyd yn dylifo yno a phawb â'u rhoddion i'm cysuro.
"Gwnaethum gynydd hefyd mewn adferiad hyd yma yn llawer cynt nag y meddyliodd neb. Siomwyd y doctor yn fawr yn hyny gan mor gyflym yr oeddwn yn dyfod i fynu o ddyfnder mor isel. ‘Beth a dalaf i'r Arglwydd am ei holl ddoniau i mi?' Yn ngwyneb yr holl diriondeb hwn, a llawer mwy nag a allaf ei adrodd na'i gofio, yr wyf yn meddwl yn dra sicr mai nid yn ei lid y gwnaeth yr Arglwydd hyn â mi. Yr oedd y diwrnod y digwyddodd yr anffawd yn ddiwrnod hyfryd dros ben—yr oedfa am ddeg yn yr Efail Newydd a'r oedfa am ddau yn Rhydyclafdy. Diwrnod oedd hwn ag yr oedd yr haul yn tywynu arnaf, a dyma y diwrnod y tywyllodd fy haul am dri mis y mae yn debyg iawn.
"Tybied yn gryf yr ydwyf mai nid yn ei lid y gwnaeth Duw hyn a mi. Paham ynte?
"1.—Ai yn gerydd oblegyd rhyw gamwedd? Nid wyf yn gwybod am yr un camwedd neillduol y pryd hwn mwy nag amser arall. Gwn fod ynof gamweddau lawer, ond paham yr amlygai yr Arglwydd ei anfoddlonrwydd yn erbyn y camweddau hyny y pryd yma ar ganol taith yn pregethu, ac heb gael yr un arwydd o'i anfoddlonrwydd na'i annghymeradwyaeth ond yn unig y mynud hwnw? Nid yw yn amlwg fod hyn oblegyd anfoddlonrwydd neillduol yr Arglwydd tuag at fy nghamweddau cyffredin. Er, yn ddiau, y dymunwn yn fawr gael bendith ar y tro yma i'm glanhau ac i ddarostwng llygredigaethau sydd wedi bod yn orthrymder mawr arnaf ar hyd fy oes. Rhodded yr Arglwydd ras a nerth i orchfygu yr Anaciaid bryntion hyn.
"2.—A oedd yr Arglwydd trwy hyn yn rhagflaenu rhyw brofedigaeth fwy? Nid oes dim wedi ymddangos hyd yma i brofi fod y tro hwn wedi effeithio i'm gwaredu rhag unrhyw beth gwaeth; er, efallai, y gwna yr Arglwydd roddi bendith arno i beri hyn.
"3.—A ydyw yr Arglwydd, trwy yr oruchwyliaeth hon, yn bwriadu fy anrhydeddu â rhyw ffafr yn ei ras a'i drugaredd ? Nid oes dim neillduol wedi ymddangos eto i'r cyfeiriad yma. Byddai yn dda iawn genyf gael bendith newydd gan yr Arglwydd. Bum yn meddwl am y geiriau, 'Eithr os heb gerydd yr ydych, o'r hwn y mae pawb yn gyfranog, yna bastardiaid ydych, ac nid meibion.' Erbyn hyn, yr wyf yn cael fy hun o dan law geryddol Duw, er nad ydwyf yn gwybod am unrhyw fai mwy na'i gilydd yn galw am hyn; ond yr wyf yn addef mai goruchwyliaeth i'm dwyn i hunanymholi ac ymostwng ydyw yr oruchwyliaeth hon, a byddai yn dda genyf allu dyfod i fynu yn well â'r adnod hono, 'Ymddarostyngwch gan hyny dan alluog law Duw. fel y'ch dyrchafo mewn amser cyfaddas.' Dymunwn inau ras i ymostwng yn dawel, addfwyn, a dirwgnach, ac aros mewn amynedd am amser cyfaddas Duw i'm dyrchafu. Dywed yr Apostol, 'Ni a gawsom dadau ein cnawd i'n ceryddu ac a'u parchasom hwy,' a hwy yn ffaeledig yn eu ceryddon fel yn mhobpeth arall, ‘Eithr hwn er lleshad i ni, fel y byddem gyfranogion o'i sancteiddrwydd Ef." Rhodded yr Arglwydd y fendith werthfawr hon i minau 'i gael bod yn gyfranog o'i sancteiddrwydd Ef.' Y mae yn werth dyoddef unrhyw beth er meddu y fendith fawr hon.
"4.—A oes gan yr Arglwydd ryw genadwri benodol tuag ataf yn hyn? Nid ydwyf wedi deall hyd yma fod. Er fy mod yn credu fod ei lais yn galw arnaf yn yr amgylchiad hwn, eto nid ydwyf yn gwybod am ddim yn benodol ag y mae yr Arglwydd yn llefaru wrthyf am dano. Y mae yn dra sicr fod hyn yn rhybudd difrifol o beryglon mawrion yn nghanol iechyd a chryfder, ac y mae yn ddiau fod yma amryw o wersi i'w dysgu i mi. (a) Y mae yma rybudd i mi mor agos i'r geulan yr ydym ar bobawr. Fel y dywed gwaasnaeth Eglwys Loegr, Yn nghanol ein bywyd yr ydym mewn angau.' Yn ngolwg hyn yr wyf finau yn awyddus i arwain bywyd mwy pur a sanctaidd, mewn meddwl a gair. (b). Fe'm dysgir hefyd trwy hyn i roddi pris ar garedigrwydd fy anwyl gyfeillion. Y fath sel a ddangoswyd gan luaws ohonynt yn eu hymweliadau pell a chostus. Mor dyner y dylwn inau fod ohonynt hwythau. Yr wyf mewn dyled o gariad tra y byddaf ar y ddaear. Yr wyf wedi fy rhoddi mewn dyled yn y tro hwn i garu fy mrodyr yn fwy nag erioed o'r blaen. Dylwn fod yn fwy gostyngedig nag o'r blaen, ac yn fwy marw i mi fy hun a'm teimladau, a bod heb geisio yr eiddof fy hun—llai o'r hunan—llai o lawer o'r hunan, ac yn fwy yn y teimlad yr oedd yr apostol ynddo, y llai na'r lleiaf'—heb eisiau cael fy ngweled yn mhob man. (c). Dymunwn y fendith yma hefyd, 'I'r Arglwydd fy nghadarnhau â nerth yn fy enaid' i feddwl—i feddwl yn glir, ac i weled yn mhell ac yn graff yn y gwirionedd, fel y gallwyf fod yn abl, yr hyn sydd yn ol o'm taith, i 'ddwyn allan bethau newydd a hen' o drysorau gras—y cwbl yn cael eu dwyn allan o'r tu mewn a'u dwyn allan yn amlwg ac heb eu llychwino.
"5.—A oddefodd yr Arglwydd i'r diafol wneud hyn er mwyn fy ngwneud yn fwy teimladwy o'i elyniaeth tuag ataf, ac o'r gwaith oedd genyf i ymladd yn ei erbyn a dryllio ei deyrnas? Nid wyf yn amheu nad allasai hyn fod. Yr oeddwn wedi colli golwg arno fel gelyn er's amser; a gall fod yr Arglwydd wedi goddef hyn iddo er mwyn dwyn y gelyn i olwg fy meddwl, i wylio rhagddo, ac i ymdrechu yn ei erbyn, ac i dynu ei deyrnas i lawr yn meddyliau dynion. Y mae Gurnal, pan yn son am gyfrwysdra Satan, yn gwneud sylw fel hyn: "Pan fo y Cristion yn nghylch rhyw orchwyl nodedig tros ogoniant Duw, yna bydd Satan fel sarph ar y ffordd a neidr ar y llwybr, yn brathu sodlau y march fel y syrthio ei farchog yn ol. Fel hyn y safodd ef ar ddeheulaw Josuah i'w wrthwynebu ef. Y llaw ddehau yw y llaw weithio, ac y mae ei safiad yno yn arwyddo ei ymgais am rwystro Josuah yn ei orchwyl. Yn wir, ni bu y diafol erioed yn garwr gwaith teml. Ni bu ef erioed yn caru y gwaith o bregethu Crist ar hyd a lled y wlad, ac nid yw yn rhyfedd fod ambell i brofedigaeth i'w chael gyda'r gwaith. Ac nid wyf yn meddwl yn amgen nad oedd gan Satan law yn fy nghodymu ar y ffordd ac yn tori fy esgyrn. Bydd genyf fwy o feddwl a sylw o hyn allan ar ei gyfrwysdra a'i elyniaeth ef.
"6.—A oes gan yr Arglwydd amcan i ogoneddu ei hun ynof yn y tro hwn mewn rhyw fodd sydd, ar hyn o bryd, yn anhysbys i mi? Yr ydwyf yn gobeithio fod, ac y mae fy meddwl wedi ei dueddu o'r dechreu i hyderu hyny. Boreu dranoeth wedi i'r ddamwain gymeryd lle, gofynais am y Beibl, yr hwn a estynwyd i mi. A'r man yr agorais arno oedd y geiriau hyny, 'Pwy a bechodd, ai hwn ai ei rieni, fel y genid ef yn ddall? Yr Iesu a atebodd, Nid hwn a bechodd na'i rieni ychwaith: eithr fel yr amlygid gweithredoedd Duw ynddo ef.' Yr wyf wedi fy nhueddu yn gryf i feddwl fod gan yr Arglwydd amcan cyffelyb yn yr anffawd hon. Nid fy iachau yn wyrthiol. Na, nid yn ffordd gwyrth, ond yn ffordd Ei ras, y mae yn amlygu ei weithredoedd ynof er gogoniant ei Enw, a hyny yn y ffordd y mae Ef yn gweled yn dda ei hun; ac nid oes dim yn fwy o foddhad i mi na chael bod yn achlysur gogoniant Duw mewn amlygiad o'i weithredoedd.
"Bellach, yr wyf yn terfynu hyn o air gan ddweyd o'm calon, 'Yr Arglwydd yw efe; gwnaed a fyddo da yn Ei olwg,' 'Ewyllys yr Arglwydd a wneler,' 'Ond nid wyf fi yn gwneuthur cyfrif o ddim, ac nid gwerthfawr genyf fy einioes fy hun os gallaf orphen fy ngyrfa trwy lawenydd a'r weinidogaeth a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu i dystiolaethu efengyl gras Duw.' Y geiriau a ymdroent yn fy meddwl y boreu y cyfarfyddais â'r ddamwain oeddynt, 'I dystiolaethu efengyl gras Duw.' A rhyw foreu, ddiwrnod neu ddau cyn i'r ddamwain ddigwydd, yr oedd y geiriau hyny yn cyffroi fy ysbryd pan yn deffro, 'A chan fod genym yr un ysbryd ffydd, yn ol yr hyn a ysgrifenwyd, Credais, am hyny y llefarais, yr ydym ninau hefyd yn credu, ac am hyny yn llefaru." Rhodded yr Arglwydd i mi a'm hanwyl briod a'm plant fod
Pob anadliad fyn'd i ma's
- I ganmol gras fy Nuw.
A'r gweddill o'm hanes fyddo 'I dystiolaethu efengyl gras Duw.' "Bu yr Arglwydd yn garedig iawn wrthyf fi a'm teulu trwy yr holl helynt. Ac hyd heddyw y mae yn rhaid i mi ddweyd fod 'pobpeth yn dda'—'tiriondeb trugaredd' ydym wedi ei fwynhau yn mhob man oddiwrth bobpeth a phawb. O! am ras i ymostwng ac i fyw yn y llwch. Pa rhyw fath deulu a ddylem ni fod, 'mewn sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb.' Mor ddiwyd, gofalus, a manwl y gweddai i ni fod gyda'n holl ddyledswyddau personol a theuluaidd. Terfynaf hyn mewn clod i enw yr Arglwydd troswyf fy hun a'm hanwyl wraig a'n plant a'n hwyrion.Tachwedd 21, 1871."
Byddai, wrth adgofio caredigrwydd y cyfeillion yn Llanbedrog y pryd hwnw, yn dweyd, " Y lle goreu i ddyn dori ei goes ydyw Llanbedrog." Er iddo gael ei anhwyluso yn fawr trwy y codwm, byddai, fel rheol, yn hynod o siriol, hyd yn nod pan yn cyfeirio at effeithiau y ddamwain, ac yr oedd yn amlwg ei fod yn medru cael mêl yn ysgerbwd y llew. Ar ol hyn nis gallasai fyned o'r naill fan i'r llall yn ei deithiau heb gael cerbyd i'w hebrwng neu i'w gyrchu, a phan y cludid pregethwr ieuanc yn y cerbyd gydag ef un tro dywedai, "Ydech chi yn gwel'd y fath fantais ydi cael canlyn hen wr cloff o'i glun?" Dywedai cyfaill ieuanc wrtho, "Yr ydych yn edrych yn dda, Mr. Davies, a buasech yn sionc a heinyf iawn onibai y cloffni yna." "Na," meddai yntau, "hwyrach onibai hwn y buaswn wedi cerdded fy hun i farwolaeth cyn hyn."