Cofiant David Davies, Bermo/Mynediad i mewn i'r dragwyddol deyrnas
| ← Codi ymaith y mae | Cofiant David Davies, Bermo gan William Jones, Lerpwl |
Un peth eto yn ol → |
PREGETH XI.—Codi ymaith y maen.[1]
"CODWCH ymaith y maen." Ioan xi. 39.
MAEN rhyfedd oedd hwn, yr oedd y marw un ochr iddo a'r bywyd yr ochr arall. Y marw oedd Lazarus, brawd Mair a Martha, a'r bywyd oedd yr Arglwydd Iesu. Ogof oedd y bedd a maen ar y drws. Ni a sylwn oddiwrth y geiriau
- I.—Y Marw.
- II.—Y Bywyd.
- III.—Y Maen oedd rhwng y byw a'r marw.
I.—Y marw. Y mae cyflwr dyn fel pechadur yn debyg i'r cyflwr yr oedd Lazarus ynddo, pan yn gorwedd yn y bedd, ac y mae yr Ysgrythyr yn golygu y pechadur yn farw mewn camweddau a phechodau.
1. Dygwyd ef i'r sefyllfa hon gan amgylchiadau, a dyna y gwir am ddyn fel pechadur. Y mae holl deulu dyn wedi eu dwyn i gyflwr pechadurus a thruenus. "Am hyny, megys trwy un dyn y daeth pechod i'r byd, a marwolaeth trwy bechod; ac felly yr aeth marwolaeth ar bob dyn, yn gymaint a phechu o bawb;" "oblegyd pawb a bechasant, ac ydynt yn ol am ogoniant Duw." Dyna yr amgylchiadau a'u dygasant i'r cyflwr hwn—cyflwr o farwolaeth ysprydol, ac o dan gondemniad marwolaeth dragwyddol. Mae dyn yn y carchar, a'i achos wedi ei setlo gan y gyfraith, ac y mae o dan ei chondemniad hi. "Mae yn cael rhodio yn rhydd," meddai rhywun. Ie, ie, ond yn nghwrt y carchar y mae yn rhodio, ac y mae arogl y condemniad ar bob cam a gerdda. Ni waeth yn y byd pa ddillad a rowch am dano, y mae marc y condemniad arno, ac arogl trwm y condemniad ar ei fwyd, a'i ddiod, a'i bobpeth. Mae y dyn fel y marw yn y bedd, a maen condemniad deddf Duw yn gorwedd arno.
2. Sefyllfa ydoedd hefyd ag yr oedd y marw ei hun yn analluog i'w gwella. Felly ninau, y mae ein sefyllfa, o'n rhan ein hunain, yn anobeithiol. Er fod dynion yn amcanu ac yn ceisio gwella eu hunain, nid ydynt yn llwyddo. Pa faint bynag a drefnir ar y bedd ac a blenir o fiodeu arno, bedd a'r marw yn gorwedd ynddo heb ei gyffro ydyw. Y mae y waredigaeth o'i gyrhaedd am byth o'i ran ei hun. Nid oedd neb o'i berthynasau a allasai wneud lles iddo. Er iddynt dristau a wylo, ni ddaw ef i fynu. Y mae llawer yn ceisio adfer y pechadur, ond yn medd pechod y mae yn gorwedd er pobpeth.
3. Sefyllfa ag y mae yr hwn sydd ynddi yn rhwym o fyned yn waeth. Tybiai Martha fod ei brawd wedi myned yn rhy bell mewn llygredigaeth fel na buasai yn weddus codi y maen. Cyflwr felly ydyw eiddo y pechadur. Nid oes neb yn myned yn fwy gobeithiol wrth aros mewn pechod; na, y mae awdurdod pechod yn ymaflyd yn dynach, a'r llygredigaeth yn enill tir bob dydd.
4. Y mae yn sefyllfa ag y mae pawb sydd yn hoffi yr hwn sydd ynddi yn galaru o'i herwydd ac yn tosturio wrtho. Galar mawr oedd yn Bethania, ac yr oedd rhai o Jerusalem wedi dyfod yno i gyd alaru â Mair a Martha am eu brawd. Swn galar sydd o bob cyfeiriad ar ol i ddyn fyned ar goll. Y mae y ddaear yn gruddfan o'i herwydd, ac y mae y nefoedd yn wylo o'i blegyd. Dywedir yn foreu yn hanes y byd, "A'r Arglwydd a welodd mai aml oedd drygioni dyn ar y ddaear, a bod holl fwriad meddylfryd ei galon yn unig yn ddrygionus bob amser. Ac edifarhaodd ar yr Arglwydd wneuthur ohono ef ddyn ar y ddaear, ac efe a ymofidiodd yn ei galon;" a hanes gofid Duw am dano a'i dosturi tuag ato ydyw pob datguddiad a rydd ohono ei hun. Ac am Dduw mewn cnawd fe ddywedir, "Ac wedi iddo ddyfod yn agos, pan welodd efe y ddinas, efe a wylodd drosti." Daeth i Bethania y ddaear yma i wylo ac i chwysu ac i farw o gariad at y pechadur. Gofid o'i herwydd a dorodd ei galon.
5. Y mae yn sefyllfa isel a darostyngol iawn hefyd. Dyma sefyllfa isaf creadur o ddyn, yn farw yn ei fedd. Y mae afiechyd yn darostwng y dyn yn fynych, gwneud y dyn cryf yn wan, gosod marc y caethiwed ar y dyn rhydd ac ymlid ei harddwch ymaith; ond yn ei fedd y mae yn cyrhaedd y step isaf. Dyma gyflwr pechadur yn mhwll llygredigaeth. Yr ydym yn adnabod ambell un ag y mae pawb wedi ei roddi i fynu; dyn marw ac yn ei fedd ydyw gan ei holl gydnabod. Y mae mewn annuwioldeb ac anystyriaeth fel wedi ei gladdu yn nheimlad pawb, ac wedi ei roddi yn y lle y gadewir y meirw i lygru. Mae rhyw adeg claddu ar ddyn yn ngobaith ei gydnabod a'i berthynasau crefyddol; a phan y mae yn myned dros rhyw farc a rhyw derfyn, y mae pawb yn ffarwelio âg ef. Y mae lluaws yn eu beddau nad oes neb yn disgwyl dim tro na chyfnewidiad arnynt, nac yn medru gobeithio am eu dychweliad.
6. Hefyd y mae yn sefyllfa bell oddiwrth fywyd. Dyma y tir pellaf oddiwrth fywyd. Bywyd â marwolaeth ydynt y ddau eithaf, ac y mae lled mawr rhwng y ddau begwn. Darlunir y pechadur yn y Beibl yn y sefyllfa bellaf oddiwrth Dduw, ffynonell bywyd a goleuni—yn elyn, yn dywyllwch, ac yn farw.
II.—Y bywyd. Er mor bell mewn ystyr naturiol ydyw bywyd oddiwrth farwolaeth, ni a welwn yma ei fod wedi dyfod yn agos. Y mae yr "Adgyfodiad a'r Bywyd" wrth ddrws y bedd, fel nad oes ond y maen rhyngddynt. Dyma yr enw sydd gan Iesu Grist arno ei hun yn nghanol byd y beddau—y fynwent fawr—yr "Adgyfodiad a'r Bywyd."
1. Y mae yn un sydd yn meddu bywyd ynddo ei Hun—"Ynddo ef yr oedd bywyd;" "Hwn ydyw y gwir Dduw a'r bywyd tragwyddol." Efe ydyw ffynon bywyd, a ffrydiau ohono Ef a welir yn mhawb arall. Bywyd dibynol ydyw bywyd creadur ar y goreu; ond dyma fywyd yn ei wreiddyn—hunanfodol a thragwyddol.
2. Efe a roddes fywyd i bobpeth, ac Efe sydd yn ei gynal—"Hwn oedd yn y dechreuad gyda Duw. Trwyddo ef y gwnaethpwyd pob peth; ac hebddo ef ni wnaethpwyd dim ar a wnaethpwyd. Ynddo ef yr oedd bywyd; a'r bywyd sydd oleuni dynion." Efe ydyw Gair y Bywyd a Thywysog y Bywyd a Bara y Bywyd; ac y mae yn faen bywiol ac yn ffordd newydd a bywiol. Efe sydd yn cynal bywyd yn y nefoedd a'r ddaear. Efe sydd yn rhoddi "bywyd ac anadl a phob peth oll," ac Ef sydd "yn cynal pob peth trwy air ei nerth." Y mae Efe yn abl i roddi bywyd drachefn i'r neb sydd wedi ei golli. "A chwithau, pan oeddych yn feirw mewn camweddau, a dienwaediad eich cnawd, a gydfywhaodd efe gydag ef, gan faddeu i chwi yr holl gamweddau." Efe ydyw yr adgyfodiad mawr, efe yw gwawr y bywyd." Y mae yn rhaid cael y meddyg i geisio helpu y bywyd cyn i ddyn ei golli, a'r helynt fawr a wneir i'w gyrchu cyn iddi fyned yn rhy ddiweddar. Y mae terfyn ar allu a dysgeidiaeth ac ymdrech y meddyg. Ond dyma hanes y Meddyg mawr, "A chwithau a fywhaodd efe, pan oeddych feirw mewn camweddau a phechodau." A wellhaodd Efe pan oedd yn afiach gan glefyd pechod. Na, anfeidrol fwy, "A fywhaodd ese, pan oeddych feirw." Diolch iddo; ni raid i ni gerfio y geiriau "rhy ddiweddar" ar feddau dynion "meirw mewn camweddau a phechodau."
3. Daeth i'r byd sydd yn llawn marwolaeth gyda'r amcan o gyfranu bywyd. "Myfi a ddaethum fel y caent fywyd, ac y caent ef yn helaethach." Dyma amcan mawr ei ddyfodiad. Y mae dynion yn cael gwneud pob peth a allant i'w gilydd, perarogli cyrph y meirw, ac adeiladu a gwyngalchu eu beddau; ond nis gall neb roi bywyd ond hwn. A welwch chwi y bobl yna yn myned i'r fynwent. Y mae yna rhyw lanerch gysegredig iddynt yno. Beth ydyw amcan eu taith i'r fangre dawel? I eneinio bedd rhyw un hoff â'u dagrau ac i harddu y lle â blodeu, a dyna yr eithaf; nis gallant gyrhaedd mwy, er gwneud eu goreu. Ond daeth yr Iesu yma, nid i wylo yn unig, nid i drefnu y beddau yn unig, ond i roddi bywyd i'r meirw—i ddatod dorau hen garcharau angau, "A hon yw y dystiolaeth; roddi o Dduw i ni fywyd tragwyddol: a'r bywyd hwn sydd yn ei Fab ef. Yr hwn y mae y Mab ganddo, y mae y bywyd ganddo." Credwn yn amcan mawr ei ddyfodiad i'r byd, a chredwn yn ei allu a'i awdurdod i gyflawni y gwaith.
4. Hefyd, y mae bywyd yn ei gyflawnder mwyaf yn ei feddiant. Y mae yn llawn bywyd. Y mae bywyd yn mhob peth yr Iesu. "Geiriau bywyd tragwyddol" ydyw ei eiriau; ac y mae bywyd yn ei lais, "Pan glywo y meirw lef Mab Duw, y rhai a glywant a fyddant byw;" ac y mae bywyd o gyffwrdd ynddo; pan y mae yn cyffwrdd yn elor y gŵr ieuanc o Nain, dacw y bachgen yn fyw yn y fan. Yr oedd mor llawn o fywyd fel na fedrai symud heb wasgaru bywyd ar fin ei lwybr; mor llawn o fywyd, fel nad allai angau ddim dal gafael yn ei ysglyfaeth yn ei bresenoldeb. Pan y mae yn cyfarfod claddedigaeth ar y ffordd, y mae bywyd yn llenwi y ffordd o glawdd i glawdd, fel nad oes lle i'r angladd fyned heibio.
Iesu, ti wyt ffynon bywyd,
Bywyd dedwydd i barhau.
III.—Y maen oedd rhwng y byw a'r marw. Gorchymyn yr Iesu ydyw, "Codwch ymaith y maen." Y mae Lazarus farw un ochr i'r maen, a'r Iesu byw yr ochr arall; ac o ochr y bywyd y daw y dymuniad am godi ymaith y maen. Cawsai orwedd yno am byth o ran y marw. Felly y mae pechaduriaid, y mae yna rhyw faen rhyngddynt ag efengyl Crist, ac y mae eisiau ei godi. Y mae yr Iesu yn gwaeddi arnom ninau heddyw, "Codwch ymaith y maen." Symudwn y meini sydd rhwng y byw a'r marw; yr Iesu fedr godi y meirw, ond y mae yn gofyn i ni dreiglo llawer o feini ymaith. Beth yw y meini yma?
1. Maen anwybodaeth. Gwnawn ymdrech i godi hwn ymaith. Dyma amcan pregethu ac yn enwedig felly yr Ysgolion Sabbothol, symud ymaith y maen hwn. Y mae y cyfrifoldeb o ddysgu y plant yn gorphwys arnom, eu dysgu am Dduw, am eu cyflyrau ger ei fron, ac am drefn Duw i'w cadw. Ymddiriedir hwy i'n gofal, ac yr ydym yn cael ein galw i "godi ymaith y maen" yn yr ystyr hwn. Priodol yw dweyd wrth rieini y plant, ac wrth swyddogion yr eglwysi, ac wrth athrawon ac athrawesau yr ysgolion, ac wrth eglwys Dduw yn gyffredinol, "Codwch ymaith y maen." Beth ydyw anfon gair y bywyd i wledydd paganaidd y byd? Codi ymaith y maen sydd rhwng y byw a'r marw.
2. Maen anystyriaeth. Dyma faen arall ag y mae llawer marw yn gorwedd odditano, fel y rhai hyny, "A hwy yn ddiystyr ganddynt, a aethant ymaith;" "A Pharaoh a drodd ac a aeth i'w dŷ, ac ni osododd hyn at ei galon." Nid oes dim, yn ein dyddiau ni, sydd yn fwy o rwystr i'r efengyl i ddylanwadu ar ddynion, nag anystyriaeth.
3. Maen annghrediniaeth. "Am nad ydynt yn credu ynof fi," dyna gŵyn yr Iesu am ddynion—y maen rhyngddo a'r meirw. Dyna hanes y byd yn mhob cenhedlaeth hefyd. Gwrthodai y cynddiluwiaid eu hiachawduriaeth, am na chredent air Duw trwy Noe, y maen ar eu beddau. Gwatwerid Lot gan ei ddawon, pan y ceisiai eu gwaredu, "Ac yn ngolwg ei ddawon yr oedd efe fel un yn cellwair." Pan y dywedai wrthynt am y gawod fawr oedd ar ddisgyn arnynt, ac mai yr unig ddiangfa rhag y brwmstan tanllyd oedd gadael y ddinas, ac mai amser byr oedd ganddynt i ffoi, ond ni chredent,—maen annghrediniaeth yn gorwedd yn drwm arnynt.
4. Maen rhagfarn. Dyma faen eto sydd rhwng llawer a bywyd tragwyddol. Y mae rhai yn coledd rhagfarn yn erbyn plaid o grefyddwyr, yn erbyn eglwys, yn erbyn swyddogion eglwys, neu yn erbyn rhai o'r aelodau, neu yn erbyn y pregethwr. Paham na ddaw y dyn i'r cyfarfodydd? O, rhyw ragfarn sydd yn ei barlysu. Paham na dderbynia fwy o fendith pan y daw? Y mae ei ragfarn am rywbeth yn ei wneud yn ddall ac yn fyddar i bob peth. Rhagfarn y dyn sydd yn difwyno y fendith iddo, ac yn ei gadw draw oddiwrth bob daioni; ac y mae yn rhaid codi ymaith y maen hwn, cyn y daw y marw a'r bywyd y naill at y llall. Y mae rhagfarn dyn yn tyfu o'r peth lleiaf, ac nid oes yr un soil fwy cynyrchiol iddo na dychymyg afiach y dyn ei hun.
5. Maen dirmygu crefyddwyr. Dynion hunanol, hyfion, ac "yn ddiserch i'r rhai da." Yn eu golwg y mae rhyw fai ar hwn, a rhyw fai ar y llall, a rhaid cael rhyw fai ar bob un. Ac nid oes ganddynt ddim parch i'r rhai goreu, a'r rhai mwyaf pur, a diniwed, a didramgwydd—gair bach am hwn, a gair bach am arall, ac nid oes dim gair da i neb. Maen ydyw hwn i gadw y marw yn ei fedd.
6. Maen moesoldeb yn lle crefydd. Y mae crefydd yn cynwys moesoldeb, ond nid yw moesoldeb arwynebol yn cynwys crefydd. Yr oedd y Phariseaid yn enwog yn y moesoldeb hwn: Golchent y tu allan i'r cwpan a'r ddysgl, ac adeiladent feddau yr hen brophwydi er mantais i labyddio y prophwydi presenol. Dyn yn hyderu fod pob peth yn dda am fod yr allanol yn weddol drefnus,—beddau wedi eu gwyngalchu—os ydyw y calch gwyn yn ymddangos oddiallan, esgyrn y meirw sydd yn pydru oddimewn. Esgus ambell un tros beidio dyfod at bobl yr Arglwydd ydyw ei fod cystal a hwythau, a beth sydd yn eisiau yn fwy na thalu i bawb bob dimai o ddyled, a chau pob llidiart. Y maent yn dda ynddynt eu hunain, ac nid oes crefydd hebddynt; ond pan yr aiff y dyn i bwyso ar y pethau hyn, yn lle bod yn gymhorth, y maent yn myned yn dramgwydd yn faen i gadw y dyn yn ei fedd. Y mae yn rhaid symud y maen hwn cyn y daw y cyfryw i afael â bywyd.
7. Maen bywyd penrhydd. Fe geir miloedd yn cashau pob cyfrifoldeb a rhwymedigaeth. Meibion Belial ydynt,—rhai di—iau—ac yn llefaru mewn balchder," Drylliwn eu rhwymau hwy, a thaflwn eu rheffynau oddiwrthym." Dywed yr Arglwydd Iesu Grist, "Cymerwch fy iau arnoch, a dysgwch genyf." Na, y mae y dyn yn caru bywyd penrhydd a diddysgyblaeth; yn caru teithio y ffordd lydan, a'r ffordd fer, sydd yn arwain i ddistryw. Anufuddhau i orchymynion Duw holl ddyddiau ei fywyd, ac eto yn disgwyl trugaredd Duw yn y diwedd. Enaid anwyl, yr wyt ti yn disgwyl trugaredd, yn union ar yr un tir ag y gallai y diafol ddisgwyl am dani. Nichlyw y marw lais ceidwad y byd hyd nes codi ymaith y maen hwn.
8. Annghysondeb bywyd proffeswyr. Dyn yn proffesu pethau gogoneddus ac yn gwneud pethau isel a gwael. Y mae hwn yn faen trwm ar fedd llawer marw. Bywyd afler a difater ac annghyson llawer crefyddwr ar y ffordd i ambell un marw i gael ei fywyd. Y mae yn rhaid symud y maen.
"Codwch ymaith y maen." Wel, pwy sydd i wneud hyn?" Ni waeth pwy ymgymer â'r gwaith— rhywun sydd yn ewyllysio yn dda i'r marw yn ei fedd. Y mae yn rhaid codi ymaith y maen sydd yn atal y fendith; a chymwynas werthfawr ydyw gallu tynu ymaith rywbeth sydd yn tori rhwng y byw a'r marw, yn anfantais i ddyn am ei fywyd. "Codwch ymaith y maen," y mae yr Iesu ei hun wrth ddrws y bedd. Efe sydd yn deisyf arnoch godi ymaith y maen, a gallwch chwi wneud hyn; ac ond i chwi wneud y peth a ellwch, fe wna yr Arglwydd Iesu yr hyn na ellwch. Ni chymer y Gwaredwr y gwaith a fedrwn ni ei gyflawni, ond pan yr aiff i'r pen arnom ni, fe ddaw y fraich fawr Hollalluog allan i weithio.
Wedi iddynt godi ymaith y maen, " Yr Iesu a lefodd â llef uchel, Lazarus, tyred allan." "Llef uchel" ydyw llef yr Iesu, digon uchel i fyned i waelod bedd, a digon treiddgar i gyrhaedd dros y terfyn i'r byd ysbrydol. Yr oedd y llef yn y fan hon mor uchel ac mor awdurdodol fel, onibae iddo ddweyd enw Lazarus," medd un hen esboniwr, fe ddaethai y meirw i gyd allan.
Fe gododd Lazarus yn chwyrn iawn yn ei ddillad bedd. "Gollyngwch ef yn rhydd," meddai yr Iesu, "a gadewch iddo syned ymaith." Chwi a gewch ei weled yn cerdded bellach. Y mae wedi codi, y mae yn fyw. "A gadewch iddo fyned ymaith "—ymaith oddiwrth y bedd, o olwg hen ddillad claddu, ymaith o gyrhaedd angau a'i holl gelfi. Bywyd yr adgyfodiad oedd ei fywyd ef. Yn mha le y cawn ni ef nesaf? Yn y wledd yn nhŷ Simon, lle yr oedd Mair a Martha a'r Iesu. Ac O! wledd ogoneddus fydd yn y nefoedd; yr hwn a gyfodwyd o'r bedd, a'r rhai a fu yn codi ymaith y meini a'r Adgyfodiad a'r Bywyd; yn mwynhau eu gilydd byth, a'r clod i gyd i'r Iesu. Cynorthwyed Duw ni i gyflawni ein gwaith, trwy Iesu Grist. Amen.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Traddodwyd y bregeth hon yn yr Abermaw, nos Sabboth, Ebrill 18, 1886, ac ysgrifenwyd hi mewn llaw fèr, wrth ei gwrando, gan Mr. E. R. Jones.