Cofiant David Davies, Bermo/Mynediad i mewn i dragwyddol deyrnas
| ← Codi ymaith y maen | Cofiant David Davies, Bermo gan William Jones, Lerpwl |
Y Cynghor → |
PREGETH XII.—Mynediad i mewn i'r dragwyddol deyrnas.[1]
"CANYS felly yn helaeth y trefnir i chwi fynediad i mewn i dragwyddol deyrnas ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist."—2 Pedr i. II.
DYMA ail reswm yr Apostol dros yr anogaeth a roddir ganddo i fod yn ddiwyd gyda chrefydd. Y rheswm cyntaf ydyw, mai trwy fod yn "ddiwyd i wneuthur ein galwedigaeth a'n hetholedigaeth yn sicr," y cedwir ni rhag llithriadau gofidus a niweidiol. Canys tra fyddoch yn gwneuthur y pethau hyn, ni lithrwch chwi ddim byth." Ac nid yn unig fe'n cedwir rhag llithro yn waradwyddus, ond hefyd "fe drefnir i ni fynediad helaeth i mewn i'r dragwyddol deyrnas." "Chwanegwch at eich ffydd rinwedd," &c., yna fe drefnir, neu fe chwanegir i chwithau—fe'n cynysgaeddir â mynediad helaeth, fe drefnir yn oludog i ni ddigonol fynediad. Gofalwn ni am chwanegu, fe ofala Duw am chwanegu ar ein cyfer. Gwelwn oddiwrth eiriau y testyn:
I.—Fod gan yr Arglwydd Iesu Grist deyrnas yn y byd tu draw i angau. Yr Iesu ydyw Brenin y deyrnas, ac y mae Ef yn "Frenin tragwyddol, anfarwol, anweledig." Y mae teyrnas y tywyllwch yn bod, ond ni sonir am frenin ar hono. Fe ddywedir am "benaeth y cythreuliaid," a " thywysog llywodraeth yr awyr," ond nid oes son fod y diafol yn frenin, ac nid ydyw yn dywysog ond yn y byd yma—"duw y byd hwn ydyw. Iesu Grist ydyw y brenin tragwyddol, ac Efe ydyw yr unig Frenin yn y byd mawr, a'i deyrnas Ef ydyw yr unig deyrnas dragwyddol. Gwrandewch ar y prophwyd yn dweyd hanes y Brenin a'r deyrnas, "Canys bachgen a aned i ni, mab a roddwyd i ni, a bydd y llywodraeth ar ei ysgwydd ef; a gelwir ei enw ef Rhyfeddol, Cynghorwr, y Duw cadarn, Tad tragwyddoldeb, Tywysog tangnefedd. Ar helaethrwydd ei lywodraeth a'i dangnefedd ni bydd diwedd, ar orseddfa Dafydd ac ar ei frenhiniaeth Ef i'w threfnu hi, ac i'w chadarnhau â barn ac â chyfiawnder o'r pryd hwn a hyd byth. Sêl Arglwydd y lluoedd a wna hyn" (Esaiah ix. 6, 7). Yr ydym hefyd yn cael un arall o'r prophwydi yn traethu am y frenhiniaeth mewn hwyl hyderus—"Ac yn nyddiau y brenhinoedd hyn, y cyfyd Duw y nefoedd frenhiniaeth, yr hon ni ddistrywir byth; a'r frenhiniaeth ni adewir i bobl eraill; ond hi a faluria, ac a dreulia yr holl frenhiniaethau hyn, a hi a saif yn dragywydd" (Daniel ii. 44). Pan y mae yr angel yn hysbysu genedigaeth Iesu y Brenin, dywed, "Hwn fydd mawr, ac a elwir yn Fab y Goruchaf: ac iddo y rhydd yr Arglwydd Dduw orseddfa ei dad Dafydd." "Ac efe a deyrnasa ar dŷ Jacob yn dragywydd; ac ar ei frenhiniaeth ni bydd diwedd" (Luc i. 32, 33). "Canys, rhaid iddo deyrnasu hyd oni osodo ei holl elynion dan ei draed." A dyna ei waith ar hyd yr oesoedd: sefydlu ei frenhiniaeth, datguddio ei hawliau fel brenin, a darostwng ei holl elynion. Pan yr ymddangosodd ar y ddaear, y mae holl allu y tywyllwch wedi ymfyddino yn ei erbyn. Y mae gwlad Canaan, gallem dybio, yn fwy llawn o ysbrydion aflan y pryd hwnw nag y bu erioed, na chyn hyny nac wedi hyny. Pa gyfrif a roddir am hyny? A oes rhyw reswm dros fod yr ysbrydion drwg wedi cymeryd meddiant mor neillduol mewn cynifer o ddynion yn Ngwlad Canaan y pryd hwnw? Ai er mwyn poeni y Brenin yn unig y daethant? A oedd arnynt arswyd yn nghylch y diriogaeth y meddent rhyw gymaint o awdurdod ynddi? Ynte a oedd pethau yn waeth arnynt yn y byd arall, pan y mae y Mab wedi ymddangos yn ein byd ni, a hwythau oherwydd hyny yn ffoi oddiyno yn heidiau? Pa reswm bynag a allasai fod, yr oeddynt yn ymgynull yma yn dyrfaoedd: llechai cynifer a thua deuddeng mil ohonynt yn mynwes rhyw greadur truenus yn ngwlad y Gadareniaid, ac yr oedd yno luaws o ogofeydd heblaw hon yn mha rai y llechent. Fodd bynag, gwr bach ydyw y diafol yn ei wlad ei hun; mewn cadwynau, o dan dywyllwch, y mae ef a'i holl bleidwyr yn y byd hwnw. Yr Arglwydd Iesu Grist ydyw y brenin yno. Hyny o deyrnas sydd gan y diafol, yr ochr yma y mae hono; ond yn y byd y tu draw i angau, y mae tiriogaeth fawr y Brenin Iesu: yno y mae y ddinas a'r llys brenhinol a'r orsedd a'r goron. Teyrnas y gogoniant ydyw y deyrnas, a Brenin y gogoniant ydyw y Brenin, a gweled ei ogoniant y bydd ei bobl dros byth.
II.—Teyrnas dragwyddol ydyw. "I dragwyddol deyrnas." Mae pobpeth y deyrnas hon yn dragwyddol. Y mae bywyd y deyrnas yn fywyd tragwyddol, "Ac efe a ddywedodd wrthynt, yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a'r a adawodd dŷ, neu rieni, neu frodyr, neu wraig, neu blant, er mwyn teyrnas Dduw, a'r nis derbyn lawn cymaint yn y pryd hwn, ac yn y byd a ddaw fywyd tragwyddol" (Luc xviii. 29, 30). Etifeddiaeth dragwyddol yw ei hetifeddiaeth—"Y cai y rhai a alwyd dderbyn addewid yr etifeddiaeth dragwyddol" (Heb. ix. 15). Tragwyddol bebyll" sydd yn y deyrnas hon. Tŷ tragwyddol, sef "Tŷ nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd" (2 Cor. v. 1). Iachawdwriaeth dragywyddol, "Ac wedi ei berffeithio, efe a wnaethpwyd yn Awdwr iachawdwriaeth dragwyddol i'r rhai oll a ufuddhant iddo" (Heb. v. 9). A gogoniant tragwyddol, "Am hyny yr ydwyf yn goddef pob peth er mwyn yr etholedigion, fel y gallont hwythau gael yr iachawdwriaeth sydd yn Nghrist Iesu, gyda gogoniant tragwyddol" (2. Tim. ii. 10). Tragwyddol deyrnas"—yr un awel wenwynig yn ei hawyr, yr un pren crin yn ei daear, yr un fynwent na bedd o'i mewn. Y mae pobpeth crefydd Mab Duw â stamp tragwyddol arnynt,—
Tragwyddol Sabboth gyda'r Oen,
Heb friw, na phoen, na gofid.
III.—Teyrnas i fyned i mewn iddi ydyw hefyd. Y mae lluaws a adwaenech chwi wedi myned i mewn; ac y maent wedi gadael bylchau mawrion ar eu hol yma. Ofer edrych am danynt yn y lleoedd yr arferid eu gweled, oblegyd y maent wedi myned i mewn; ac y mae eraill ar y ffordd. Canys, yr ydym ni, y rhai a gredasom, yn myned i mewn." Y mae llawer o deyrnasoedd y byd nad oes neb i gael myned i mewn iddynt heb pass o'r deyrnas y byddant yn myned ohoni, a hono ar amodau heddychol â'r deyrnas y byddant yn myned iddi. Y mae yn rhaid cael pass i fyned i mewn i'r dragwyddol deyrnas, a hwnw o dan law ac yn enw Brenin y deyrnas; a dyma gynghor yr Apostol yn yr adnodau o flaen y testyn, "Byddwch ddiwyd i wneuthur eich galwedigaeth a'ch etholedigaeth yn sicr"—mynwch y pass. "Yn mysg y rhai," medd yr Apostol wrth y Rhufeiniaid, "yr ydych chwithau yn alwedigion Iesu Grist"—pobl wedi eu trwyddedu gan y Brenin i fyned i mewn. Bydd yn rhaid i ambell long weithiau, er ei bod wedi cyrhaedd i ymyl y porthladd, a hawl i fyned i mewn ganddi, i aros mewn quarantine,—bod am ddeugain niwrnod yn disgwyl y cyhoeddiad o ryddhad. Y mae yn rhaid i ambell ddyn duwiol, er fod y pass ganddo, aros ar y tonnau i'w brofi fod pobpeth yn iawn. Fe gaiff rhai o ddeiliaid teyrnas Iesu Grist "gystudd am ddeng niwrnod," ac am ddeugain niwrnod, i'w profi; ond nid oes dim damnedigaeth yn y quarantine, " Eithr pan y'n bernir y'n ceryddir gan yr Arglwydd, fel na'n damnier gyda'r byd."
IV.—Mae yn bosibl cael mynediad helaeth i mewn i'r deyrnas hon. Nid ydyw pawb sydd yn myned i mewn yn cael mynediad helaeth. Na, "o'r braidd " y mae gyda rhai—rhai yn cyrhaedd yno "megys trwy dân," a'u gwaith wedi ei losgi. "Efe ei hun a fydd cadwedig; eto felly megys trwy dân, tân poeth cystuddiau a phrofedigaethau—"eto felly cadwedig megys trwy dân" o brofiad llym a chaled. "Mynediad helaeth i mewn" fydd yn gysurus; nid fel un wedi ei orchfygu mewn brwydr, yn dianc yn lladradaidd i'r ddinas, ac yn diolch i leni'r nos am ei guddio; ond fel tywysog wedi enill buddugoliaeth ardderchog, ac yn myned i mewn â'i ben i fynu, yn nghanol croesaw pawb. Neu fel llong marsiandwr yn dychwelyd o wlad bell, wedi bod allan am fisoedd lawer, ac ar ol mordaith lwyddianus—y morwyr ar gael bob un, a'r llestr yn llawn o drysorau gwerthfawr—y mae yn myned i mewn i'r porthladd gyda rhwysg, a phawb yn llawen ar y bwrdd Y mae y mynediad helaeth yma yn cael ei drefnu gan y nefoedd, a braidd na thybiem mai â'r gair trefnu y cysylltir yr helaeth yn y fan yma,—y trefnu yn helaeth, ac yn nglŷn â hyny y mae pob peth yn helaeth. Y mae Duw yn trefnu yn helaeth ar gyfer y pethau nad ydyw y byd yma yn medru trefnu dim ar eu cyfer. "Canys felly y trefnir," &c., "wrth wneuthur y pethau hyn," a thra fyddoch yn eu gwneuthur. Y mae y dyn yn ychwanegu, yn myned rhagddo, yn tyfu, ac y mae y nefoedd yn trefnu yn helaeth ar ei gyfer. Nis gall y rhai sydd yn dyfod at grefydd, ac yn sefyll yn eu hunfan, byth gael hyn. Na, y dyn sydd yn tyfu hyd ei farw, i hwnw y trefnir yn helaeth y mynediad i'r deyrnas. Y mae ambell un yn cychwyn ar ol yr Iesu, y maent fel cawod o eira, yr olwg gyntaf ydyw yr oreu arnynt; ond am y dyn all edrych yn mlaen am gynwys y testyn, un diwyd ydyw, ac un a rhyw ychwanegu yn ei grefydd yn barhaus. Dywedir am y crocodile ei fod yn tyfu hyd ei farw, ac wrth wneud sylwadau coffadwriaethol ar ol y diweddar Barch. Richard Jones, y Wern, gwnai rhywun ddefnydd o'r gydmariaeth wrth son am dano yn ddyn oedd yn tyfu hyd y diwedd. Fe gafodd y dyn mawr hwnw fynediad helaeth i mewn i'r deyrnas. Dywedai dau ŵr, a gredid gan bawb yn Nhalysarnau, eu bod wedi clywed rhyw ganu na chlybuwyd ei fath o amgylch y tŷ yr elai y gŵr sanctaidd ohono i ogoniant. Yr oedd yr hynod William Ellis o Faentwrog, wedi clywed yr hanes, yn taeru mai angylion oedd yno, a'u bod wedi dyfod ychydig yn rhy fuan, ac wedi rhoddi tune allan i'w chanu i aros i Richard Jones ddyfod gyda hwy. Fodd bynag, fe gafodd fynediad helaeth i mewn. Ο! beth pe y gwelem y croesaw mawr y mae y rhai diwyd yn ei gael ar eu mynediad i mewn. "A bu i'r cardotyn farw," medd yr Iesu yn y ddameg, a dyna y swn i gyd yr ochr yma, ond y mae yr Un a wyddai am yr ochr draw yn ychwanegu, "a'i ddwyn gan angylion i fynwes Abraham." Y mae y pyrth yn ymddyrchafu, a'r dorau yn cael eu hagoryd o led y pen, i'w dderbyn mewn sain cân a moliant. Carwn wneud rhai sylwadau ar hyn yn mhellach:
1. Fod yn rhaid cael pass gan deyrnas sydd mewn heddwch. Nid yw teyrnas Satan a gwasanaethu pechod mewn heddwch â'r nefoedd, ac nid ydyw y naill deyrnas yn ymddiried dim i'r llall. Y mae y byd annuwiol a'r deyrnas fawr yr ochr draw yn rhy bell, yn rhy annghymodlawn â'u gilydd i roddi hawl i groesi drosodd. Ond y mae rhai wedi llafurio llawer yn mhlaid teyrnas ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist," ac y mae yn hawdd iddynt gael y pass.
2. Mae adnabyddiaeth o ddyn weithiau mewn gwlad arall yn sicrhau iddo groesaw ar ei fynediad yno. Mae ganddo berthynasau yn ei ddisgwyl i lanio yn y wlad. Efallai ei fod wedi bod yn gwneud gwasanaeth i'r deyrnas y bydd yn myned iddi, ac y mae hyny yn sicrhau iddo fynediad helaeth i mewn. Felly am aml un o'r saint, y maent wedi gwneud gwasanaeth i'r deyrnas yma yn yr Ysgol Sabbothol a'r cyfarfodydd gweddiau ac mewn bywydau sydd yn canmol egwyddorion mawr y deyrnas, ac, o ganlyniad, y mae eu croesaw yno yn rhwym o fod yn fawr. Y mae cymaint o ddelw ac ysbryd gwlad arall—gwlad well ac un nefol—ar ambell un fel y mae pawb o'r ochr yma ac o'r ochr draw yn foddlawn iddo ymfudo. Y mae ei serch ar y wlad hono, a'i ymadroddion yn ei chylch, fel y mae wedi myned yn annghymhwys i bob gwlad ond un nefol, "Canys ein hymarweddiad ni sydd yn y nefoedd." Y mae pobpeth yn eu gweithio i son am ac i ymserchu yn y nefoedd, "Canys ein byr ysgafn gystudd ni sydd yn odidog ragorol yn gweithredu tragwyddol bwys gogoniantini; Tra na byddom yn edrych ar y pethau a welir, ond ar y pethau ni welir," 2 Cor. iv. 17, 18.
Ystyriwn, cyn terfynu, fod yn rhaid i ni fyned oddiyma. A oes genym le i fyned? I ba le yr ydym yn gymhwys? Faint o gydnabyddiaeth sydd genym â'r nefoedd? Faint o ddelw ac ysbryd y wlad a feddwn? Pa beth a wnaethom o blaid y wlad? Ac, yn enwedig, a ydyw y deyrnas yr ydym yn byw ynddi yn awr mewn heddwch a chyfamod â'r nefoedd? Y mae yn rhaid cael lamp a hono yn oleu i fyned i mewn gyda'r priodfab i'r briodas. Gan hyny, frodyr, byddwch ddiwyd, "Canys felly yn helaeth y trefnir i chwi fynediad i mewn i dragywyddol deyrnas ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist."
Penrhyn, Ionawr 28, 1887.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Cafwyd y crynodeb o'r bregeth hon yn mysg ei bapyrau wedi ei ysgrifenu ganddo ef ei hun ychydig amser cyn ei farwolaeth. Yr ydym yn ei ddodi yma am mai hon oedd y bregeth a draddodwyd ganddo yn Nhalysarnau, nos Sabboth, Chwefror 6, 1887—y diweddaf iddo ar y ddaear.