Neidio i'r cynnwys

Cofiant David Davies, Bermo/Rhagymadrodd

Oddi ar Wicidestun
Cofiant David Davies, Bermo Cofiant David Davies, Bermo

gan William Jones, Lerpwl

Bore ei oes

RHAGYMADRODD.

Y MAE y rheswm dros ymddangosiad y Gyfrol hon yn codi o'r penderfyniad sydd yn canlyn, yr hwn y cytunwyd amo mewn Cyfarfod Misol yn Ngorllewin Meirionydd, a gynaliwyd yn Bethania, Corris, Awst 1 a'r 2. 1887:—

Penderfynwyd ein bod fel Cyfarfod Misol yn rhoddi anogaeth daer i'r Parch. W. Jones, gynt o'r Penrhyn, i ddwyn Cofiant allan i'r Parchedig DAVID DAVIES, Abermaw, a hyny yn brydlon.

Y mae geiriau diweddaf y penderfyniad yn peri gradd o gywilydd arnaf, gan y gwelir fod bellach bron ddeng mlynedd er pan y pasiwyd ef, a gweddus i mi ydyw dadgan fy ngofid oherwydd yr oediad. Gallaswn nodi amryw bethau a ystyriwn yn rhesymau am yr annybendod gyda'r gorchwyl. Bu'm'am rai blynyddoedd yn anufudd i'r alwedigaeth gan deimlad o annghymwysder personol i'r gwaith, ac hefyd oherwydd cysylltiadau perthynasol; a bu'm yn ceisio yn awyddus gan frodyr eraill i'w gymeryd mewn llaw, ond yn aflwyddianus. Yr oecdd amgylchiadau hefyd, nad ydyw yn weddus efallai erbyn hyn eu codi i sylw, yn fy llesteirio. Fodd bynag ar ol hir oediad, ymdrechais, yn yr ychydig oriau hamddenol a feddwn, i gasglu pethau at eu gilydd a'u gosod yn nghyd yn y drefn sydd yn dilyn. Nid oes neb a wêl fwy o anmherffeithrwydd yn yr ymgais na'r awdwr ei hun; ond wrth feirniadu bydded y darllenydd yn bwyllog, gan gofio fod y drafferth i'w gael, fel y mae yn fawr, ac amser gweinidog mewn dinas brysur fel hon yn brin at ddim ond dyledswyddau uniongyrchol ei swydd.

Yr wyf yn mhob man lle y gellid, wedi gadael i'r gwr y ceisir ei bortreadu fod yn amlwg, yn ei wisg a'i ddullwedd ei hun, ac wedi ymatal rhag ysgrifenu fy syniadau fy hunan yn aml er mwyn iddo ef fod yn y golwg ac yr wyf wedi talu cryn sylw i farn pobl eraill am dano, ac fe wel y cyfarwydd ar unwaith y rheswm naturiol am hyny.

Derbynied y cyfeillion a roddasant eu cynorthwy parod fy niolch gwresog, yn enwedig Mr. Lewis Lewis, Y. H., a Mr. E. R. Jones, Abermaw, y naill am ei adgofion gwerthfawr, a'r llall am y pregethu a ysgrifenwyd ganddo wrth eu gwrando. Hefyd dymunwn gydnabod y Parch. R. Owen, M.A., am ganiatau i mi ddyfynu o'i lyfr gwerthfawr ar "Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd", a'r Parch. R. H. Morgan, M.A., am ganiatad i wneud defnydd o'r ysgrif ddyddorol a ymddangosodd yn y Drysorfa.

Buasai yn dda genyf allu rhoddi i mewn rai Pregethau eraill and buasai hyny yn chwyddo gormod ar y Gyfrol, yr hon sydd eisoes yn fwy nag y bwriadwyd ar y dechreu iddi fod.

Cyflwynaf fy offrwm hwn ar allor gwasanaeth Pen yr Eglwys, gan ddymuno ei fendith Ef arno,

WILLIAM JONES.

6, PELHAM GROVE,
LIVERPOOL, Gorphenaf 8, 1897

Nodiadau

[golygu]