Cofiant David Davies, Bermo/Symudiadau
| ← Ymryddhau oddiwrth ofalon bydol | Cofiant David Davies, Bermo gan William Jones, Lerpwl |
Fyddlawn yn yr holl dу → |
PEN. VI.—Symudiadau.
Galwadau arno i symud o Gorwen.—Ei anmharodrwydd i wrando arnynt.—Cyfarfod Misol Aberdyfi.—Cyfarfod Misol Maentwrog.—Galwad o'r Abermaw,—Myned i edrych Hendre'r Coed.—Cymeryd y tŷ.—Trefnu gydag Eglwys Abermaw.—Ei deimlad ar y pryd.—Ei brofiad wrth adgofio hyny.—Cyfarfod Misol Rhydlydan. Cyfarfod Misol Seion.—Yn llwyddianus a chymeradwy yn ei gylch newydd.—Llythyr cyflwyniad yn Aberllefeni.—Ei bryder. Ei weddiau a'i addunedau.—Yr achos yn llwyddo.Adeiladu Capel newydd,—Cymhorth Mr. Williams o Ddolgellau.—Adgofion Mr. Lewis Lewis.
PAN nad oedd wedi bod yn Nghorwen am ddwy flynedd, ceisid ei ddenu oddiyno. Yr oedd amryw o gyfeillion y pen gorllewinol i'r sir yn ei gymhell yn daer i symud i gylch y Cyfarfod Misol hwnw; ond gan ei fod wedi symud i Gorwen mor ddiweddar teimlai gryn anmharodrwydd i gydsynio â hyny am amser. Yn nghofnodau Cyfarfod Misol y pen gorllewinol o'r sir, yr hwn a gynaliwyd yn Aberdyfi Chwefror 2il a'r 3ydd, 1863, ceir fod yr hyn a ganlyn wedi cytuno arno:—"Penderfynwyd ein bod fel Cyfarfod Misol i anfon at y Parch. David Davies, Corwen, yn deisyf arno wrando ar y gwahoddiad a roddir iddo gan amryw o eglwysi yn perthyn i'r Cyfarfod Misol hwn i ddyfod i'w harolygu. Ymataliai y cyfarfod rhag rhoddi barn ar pa un ohonynt y byddai ddoethaf iddo wrando, ond taer erfyniai arno gydsynio â chais y naill neu y llall ohonynt."
Bu hyd wanwyn y flwyddyn ganlynol heb wrando ar eu cais. Fodd bynag, pan yr oedd yn Nghyfarfod Misol Maentwrog, yn ngwanwyn y flwyddyn hono, daeth y Parchn. Edward Morgan, R. Parry, a Griffith Williams, yn nghyda Mr. Williams, Dolgellau, ato i'r tŷ lle yr arosai; ac fel y dywed ef ei hun, "Ymosodasant o ddifrif arnaf, gan ofyn, 'A ddeuwn i ddim os byddai Rhagluniaeth yn fy symud?' Dywedais inau, 'Pe byddai Rhagluniaeth y nef yn fy symud y byddwn yn foddlawn i hyny.' Erbyn y bore ddydd Gwener canlynol yr oeddwn wedi derbyn pedwar o lythyrau yn fy nghymhell yn daer i ddyfod i'r Abermaw. Yn ngwyneb y cwbl, er nad oedd ynwyf fy hun awydd cryf i symud, a bod y teulu yn wrthwynebol i hyny, eto yr oedd rhyw deimlad dystaw o ofn yn fy mynwes rhag fy mod, trwy ddyfod i Gorwen i fyw, wedi argymhell fy hun ar yr eglwysi, er na chefais ond y caredigrwydd mwyaf a gefais yn y byd yma yn y tri lle. Y mae yn rhaid i mi ddweyd fy mod wedi cael mwy o diriondeb a serchogrwydd yn y tair eglwys hyn nag a gefais na chyn hyny nac wedi hyny. Efallai eu bod yn bobl oeddynt yn deall pa fodd i ddangos serch a charedigrwydd yn fwy na llawer. Dydd Sadwrn ar ol derbyn y llythyrau, anogai fy ngwraig i mi fyned ddydd Llun i Ddolgellau a'r Abermaw rhag ofn mai Rhagluniaeth yr Arglwydd oedd yn gweithio, ac y mynai Ef i mi symud. Aethom ein dau ddydd Llun i Ddolgellau, ac oddiyno i'r Abermaw ac i Hendre Coed—lle oedd yn cael ei gymhell i ni fyw ynddo. Daeth Mr. a Mrs. Williams, Dolgellau, gyda ni; a phan oeddym newydd gyrhaedd y lle ac yn dechreu edrych o amgylch, pwy a welem yn dyfod i fynu at y tŷ ond y Parch. Edward Morgan. Cymerwyd y lle am saith mlynedd, ac yr oeddwn inau yn llawnodi y cytundeb, a hyny braidd o'm hanfodd. Y noson hono, daeth Mr. Morgan i'r Abermaw i drefnu pobpeth gyda'r blaenoriaid a chyda'r eglwys, a chadarnhawyd y trefniant hwnw yn y Cyfarfod Misol cyntaf ar ol hyny. Fy nheimlad ar y pryd ydoedd y buasai yn dda genyf gael lle i gilio ond yn methu. Erbyn hyn er's blynyddau yr wyf yn gweled fod pobpeth yn iawn. Yr oedd rhoddi y ffarm i fynu a symud o Benmachno i Gorwen ac o Gorwen i'r Abermaw, yr wyf yn credu, o dan arweiniad y Golofn. Gallaf ddywedyd erbyn hyn wrthyf fy hun, 'Nid myfi ond Duw,' ac wrth bawb arall, 'Nid chwi ond Duw a'm hebryngodd' i'r man lle yr ydwyf, a hyny i'w amcan doeth a da ei hun. Mae ei ofal Ef wedi bod am danom yn fawr ac am y plant bob un fel y rhaid i ni gydnabod 'O'r Arglwydd y daeth hyn,' a diolch am gael ei wasanaethu; ond 'O, fy nghulni.' Rhyfeddu yr wyf i'r Arglwydd wneud mor fawr o was mor wan, eiddil, gwael, ac anffyddlon."
Yn nghofnodau Cyfarfod Misol Dwyrain Meirionydd, yr hwn a gynaliwyd yn Rhydlydan Ebrill 27ain a'r 28ain, 1864, ceir yr hyn a ganlyn:—"Dywedwyd gair gan y Parch. D. Davies, Corwen, ar ei ymadawiad o'r pen hwnw i'r pen arall o'r sir. Datganwyd teimladau dwysion iawn gan amryw o'r gweinidogion a'r blaenoriaid oherwydd colli Mr. Davies o'r pen hwn." Ac yn hanes Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd, yr hwn a gynaliwyd yn Seion yr ail a'r trydydd o Fai canlynol, ceir yr hyn a ganlyn:—"Penderfynwyd ein bod fel Cyfarfod Misol yn datgan ein llawenydd oherwydd dyfodiad y Parch. D. Davies, Corwen, i'n mysg, gan gredu y bydd ei lafur yn dra chymeradwy a defnyddiol, a'n dymuniad hefyd am ei fod yn gysurus a llwyddianus yn mhob ystyr." Cafwyd arwyddion amlwg yn fuan ar ol ei ddyfodiad i'r Abermaw fod y teimlad a ddatganwyd yn y Cyfarfod Misol yn cael ei sylweddoli yn llawn. Yn y Drysorfa am y flwyddyn 1865, ysgrifenai brawd o'r Abermaw ychydig o hanes yr achos a dywedai:
DYMUNEM ddatgan ein bod fel enwad crefyddol yn nhref Abermaw yn mwynhau cysuron anmhrisiadwy mewn cysylltiad â gwasanaeth y brawd anwyl a'r gweinidog ffyddlawn, y Parch. D. Davies. Mae y wedd siriol a'r cynydd eglur sydd i'w weled ar yr achos crefyddol gyda y Methodistiaid yma yn peri ein bod yn edrych ar ei ddyfodiad atom, nid fel peth mympwyol o'r eiddom ni, ond yn oruwchnaturiol, yn ofal y Jehofah Mawr am ei braidd bychan "yn rhoddi iddynt fugail wrth fodd ei galon." O'r Arglwydd y daeth hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni.
Nid wedi ei alw yn ffurfiol yn weinidog ar eglwysi y daeth yn bleidiwr i'r drefn hono, fel rhai o'i frodyr. Ceir ambell un ag y ganwyd ei sel fugeiliol y diwrnod y cafodd alwad at y gwaith ei hunan; ond yr oedd ef, pan nad oedd mewn cysylltiad bugeiliol âg eglwysi, yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth, yn teimlo ac yn datgan sel danllyd dros fugeiliaeth; ac yn ystod y blynyddoedd hyny yr oedd yn fugail egwyddorol ac ymarferol er nad yn ffurfiol, a bu yn gyfaill calon i fugeiliaeth eglwysig ar hyd ei oes. Ac megys mai nid ar adeg ei sefydliad ef ei hun yn fugail y ganwyd ei sel fugeiliol, felly nid pan y lluddiwyd ef, oherwydd amgylchiadau, i barhau yn y cysylltiad hwnw y tynodd ei sel ef dros hyny ei thraed i'r gwely i farw. Na, bu yn gyfaill calon i fugeiliaeth eglwysig trwy yr holl gyfnewidiadau.
Yn Nghyfarfod Misol Aberllefeni, Gorphenaf, 1864, darllenwyd y llythyr cyflwyniad hwn iddo oddiwrth Gyfarfod Misol y rhan ddwyreiniol o'r sir:
ANWYL FRODYR,—Yr ydym yn ystyried mai peth rheolaidd, er nad mor angenrheidiol, ydyw rhoddi llythyr o gyflwyniad i'n brawd anwyl, y Parch. David Davies, ar ei ymadawiad â ni fel Cyfarfod Misol, a'i ymsefydliad yna. yn eich plith chwi. Yr oedd colli Mr. Davies yn golled. y teimlir yn ddwys o'i herwydd genym fel Cyfarfod Misol, ac yn neillduol gan yr eglwysi ag yr oedd ef yn dwyn cysylltiad mwy neillduol â hwynt. Nid oes genym ond ymdawelu a goddef y brofedigaeth, gan, geisio credu ei fod tan arweiniad oddiuchod yn y symudiad hwn, a. gweddio am ei gysur ef a'i deulu yn ei drigfa newydd, a'i lwyddiant yn ngwaith yr Arglwydd yn eich plith.Yr eiddoch, dros y Cyfarfod Misol,
JOHN WILLIAMS, Ysgrifenydd.
Ymddengys ei fod ef yn dra phryderus yn nghylch y symudiad; ac yr oedd ei awydd i ymroddi i bregethu y pryd hwn yn angerddol a'i bryder yn ddwys iawn am fod o wasanaeth i deyrnas Crist.
Yr adeg hon ysgrifenai yn nechreu a diwedd un o'i lyfrau pregethau fel y canlyn:—"Gorphenaf y 4ydd, 1864, y dechreuais ysgrifenu y llyfr hwn, a Mawrth 14eg, 1865, y gorphenais ef. Mor ddiafael a di-awch ydyw fy mhregethau ynddo. Mae arnaf gywilydd ohonynt, ac y maent wedi bod yn aneffeithiol i ddychwelyd ond ychydig iawn o'r newydd i broffesu yr Arglwydd Iesu. Yr wyf wedi newid llawer ar fy nghynlluniau gyda phregethu, ac ymofyn â phawb, a darllen gwaith pob dyn a ysgrifenodd ar hyny, hyd y gellais eu cael; ac eto yr wyf yn teimlo fy hun heb ddechreu dim ond curo awyr. Er fy mod wedi bod yn pregethu am un mlynedd ar ddeg ar hugain, eto nid wyf ond dim a llai na dim. Y mae yn ffiaidd genyf fi fy hun wrth ystyried fod yr enw o bregethwr arnaf. O! bedyddied yr Arglwydd fi â'i Ysbryd bellach, fel y gallwyf ddechreu pregethu ei Anwyl Fab o ddifrif."
Ac yn niwedd yr un llyfr ysgrifenai fel hyn:—
Mawrth 15fed, 1865.—Dyma flwyddyn fawr wedi myned heibio. Blwyddyn i ddoe yr oedd fy mhriod a minau yn Hendre y Coed yma, gyda Mr. a Mrs. Williams, Dolgellau, a Mr. Morgan, Dyffryn, yn cymeryd y lle am saith mlynedd. Mae llawer o gyfnewidiadau wedi cymeryd lle er hyny. Ar yr un pryd, y mae genyf fi, a'm hanwyl deulu, achos diolch parhaus i'r Arglwydd am ei ofal am danom a'i amddiffyn drosom. Yn bresenol, y mae genyf y fantais fwyaf a fu genyf er pan wyf yn y byd i fod yn ddefnyddiol yn ngwasanaeth yr Arglwydd. Y mae genyf eglwys i ofalu am dani nad oes yr un fwy dymunol yn y byd, debygaf. Mae yma bob cyfleustra i fod o wasanaeth i'r Arglwydd Iesu; ond nis gallaf ddim heb ei gymhorth Ef. Y mae yn amser difrifol gyda chrefydd. Mae dylanwadau Ysbryd yr Arglwydd fel yn cilio, a'i bresenoldeb, mewn rhai ystyriaethau, yn llai amlwg; ac y mae yn amser i weddio a gweddio yn daer. O tywallted yr Arglwydd arnaf ysbryd gweddi ac ysbryd Ei holl waith. Diolch am yr addewid o dywallt ysbryd gras a gweddiau. Tywallted hwnw arnaf fi a'm teulu a'r eglwys yr wyf mewn undeb â hi, a holl eglwysi sir Feirionydd, fel y gallwn ddywedyd y dyddiau hyn, "Yr hwn a dywalltodd Ef arnom ni yn helaeth." Pe y deuai, fe'n hadnewyddid—"Fy Ysbryd I pan ddel." Dyma y cyhoeddiad mawr. O, deued Ef i lawr ar hyd y flwyddyn hon yn y seiat a'r cyfarfod gweddi a'r cyfarfod darllen, ac yn enwedig gyda phregethu yr efengyl. “O deued Ef i lawr." Dyma ddymuniad
DAVID DAVIES.
Cyflawnodd yr Arglwydd ei ddymuniad trwy amlygu Ei hun iddo a pheri llwyddiant ar yr eglwys. Ymdaflodd i'r gwaith yn ei holl ranau, a chafodd weled cynydd, nid yn unig yn rhif yr aelodau a'r gwrandawyr, ond hefyd mewn bywiogrwydd a nerth ysbrydol. Bu ei bregethu gafaelgar ac effeithiol yn foddion i ddeffro ac adnewyddu y saint ac i ddychwelyd llawer o bechaduriaid, a bu ei ofal a'i lafur fel arweinydd craff a bugail gofalus yn effeithiol i gadarnhau a threfnu yr achos yn mhob gwedd.
Cyn pen ychydig o fisoedd ar ol ei sefydliad yn yr Abermaw, daeth Cwmni Reilffordd y Cambrian i ymofyn am y capel, am fod yn eu cynllun y pryd hwnw i wneud y ffordd trwy y llanerch ar pa un y safai. A thrwy benderfyniad yr eglwys ac awdurdodiad y Cyfarfod Misol, gwerthwyd ef iddynt am y swm o £850, ac yr oedd yn rhaid ei gyflwyno i fynu i'r cwmni ar fyrder, fel nad oedd ganddynt ond ychydig o amser i gael y capel newydd yn barod i fyned iddo pan yn colli yr hen. Fodd bynag, ymroddodd i lafurio gyda hyn, a chafodd gymhorth gwerthfawr y diweddar William Williams, Ysw., Ivy House, Dolgellau—gwr ag oedd yn llygad i'r gwersyll yn Ngorllewin Meirionydd ar y pryd, ac un ag y mae ei goffadwriaeth byth yn fendigedig yn y cylch. Yr oedd yn wr o gynghor yn mhlith ei frodyr, ac yr oedd trwy ysbryd cariad a phwyll a mwyneidd—dra doethineb wedi enill iddo ei hunan radd dda; ac ni feddyliai bron yr un gymydogaeth yn y sir am wneud yr un symudiad pwysig heb yn gyntaf ymgynghori a Mr. Williams, a chael ei gyfarwyddyd. Bu felly yn yr Abermaw yn nglŷn â gwerthu yr hen gapel ac adeiladu yr un newydd; ond er derbyn cymhorth gwerthfawr a pharod gan Mr. Williams, nid oedd gweinidog yr eglwys yn llechu yn nghysgod hyny yn ddilafur, eithr yn hytrach ymroddai â'i holl egni i ddwyn pethau oddiamgylch yn y modd mwyaf manteisiol a threfnus gan deimlo y cyfrifoldeb oedd arno i'r Pen Bugail ac i'r ddeadell oedd o dan ei ofal.
Efallai mai priodol a fyddai rhoddi i mewn yn y fan hon yr adgofion a ganlyn, y rhai a ysgrifenwyd gan Mr. Lewis Lewis, un o flaenoriaid yr eglwys yn yr Abermaw. Dodir hwynt i mewn yma fel yr ysgrifenwyd hwynt gan yr ystyrir hwynt yn cynwys manylion dyddorol iawn:
"Yn mhlith y lluaws o fanau yr ymwelodd yr Arglwydd â hwynt yn niwygiad 1859 ac 1860—yr adfywiad a elwid ac a adnabyddid yn Ddiwygiad Dafydd Morgan—yr oedd yr Abermaw yn un ohonynt. Yr oedd achos crefydd gyda'r Methodistiaid Calfinaidd mor isel a digynydd yn y lle hwn yn ystod y blynyddoedd a ragflaenent yr ymweliad hwnw fel y dywedai rhai o weinidogion y sir ei fod yn rhwym o farw, a hyny yn fuan; ond mae yn llawenydd mawr i ni na sylweddolwyd eu hofnau, ac na chyflawnwyd eu prophwydoliaethau. Na, yr oedd Duw yn rhagweled pethau gwell am ei achos yn y dref hon; ac yn y blynyddoedd uchod fe gofiodd am ei waith mewn modd rhyfedd, ac yn y tymhor hyfryd hwnw, fe ychwanegwyd at yr eglwys laweroedd o rai a fyddant byth yn gadwedig.
"O adeg marwolaeth yr hen gynghorwr John Ellis, yn y flwyddyn 1810, hyd ddyfodiad y Parch. David Davies yma i fugeilio yr eglwys, ymddengys nad oedd ond dau o bregethwyr wedi bod yn byw yn y dref ar hyd yr holl flynyddoedd, sef y diweddar Barch. Rees Jones, o'r Felinheli, yn nghyda Mr. Thomas Williams, yr hwn ydoedd bregethwr ac ysgolfeistr. O ymadawiad yr olaf hyd adeg y Diwygiad, yr oedd amryw o flynyddoedd; a chan nad oedd genym yr un pregethwr i'n harwain yr oedd y gwaith o fugeilio ac ymgeleddu y praidd yn gorphwys ar y blaenoriaid; a phan y digwyddai rhywbeth annghysurus yn mhlith y frawdoliaeth fel ag i alw am ddysgyblaeth, naill ai y diweddar Barch. Humphrey Evans, Bwlch, neu ynte y diweddar Barch. Daniel Evans, Harlech, a anfonid gan y Cyfarfod Misol i dawelu yr ystorm ac i roddi yr ysbrydion i lawr.
"Oherwydd yr ychwanegiad mawr yn nifer yr aelodau yn adeg y Diwygiad, teimlai y blaenoriaid, oherwydd prinder amser yn nghyda diffygion eraill, nas gallasent gyflawni y gwaith pwysig o arolygu yr eglwys yn effeithiol. Yn eu cyfyngder penderfynasant gyflwyno yr achos i'r Cyfarfod Misol, ac mewn canlyniad i ymgynghoriad yno fe drefnwyd i'r diweddar Barch. Edward Morgan, Dyffryn, i fyned atynt yn fisol i'w cynorthwyo i ddwyn yr achos yn mlaen a chynal y cyfarfod eglwysig. Bu yntau yn ufudd i'r trefniant hwnw, a pharhaodd i ymweled â hwynt hyd nes y gorfu iddo, oherwydd llesgedd corph a mynych alwadau arno o gyfeiriadau eraill i roddi y gofal hwnw i fynu. Erbyn hyn, yr oedd teimlad cyffredinol yn mhlith y swyddogion a'r aelodau mai eu dyledswydd bellach ydoedd cael gweinidog sefydlog i fyned i mewn ac allan yn eu plith. Mewn Cyfarfod Misol a gynaliwyd yn y flwyddyn 1863, a Mr. Davies ar y pryd yn weinidog yn Nghorwen, yr oedd wedi ei wahodd i gymeryd rhan ynddo. Addawodd ddyfod, a chyflawnodd ei addewid. Yn y moddion cyhoeddus cafodd wedd wyneb ei Feistr mewn modd amlwg a neillduol iawn, yn enwedig pan yn pregethu oddiar Salm xxiii. Er fod yr adfywiad grymus erbyn hyn o ran y teimladau a ddangosid ynddo wedi oeri i raddau helaeth, eto arosodd ol a dylanwad y bregeth hon ar gof a buchedd lluaws am amser maith. Yr oedd yr argraph mor arosol fel y gwelwyd rhai yn mhen blynyddoedd wrth droi eu hwynebau i Dŷ Dduw yn dweyd mai yn yr oedfa hono y profasant rywbeth a arosodd gyda hwynt i'w hanesmwytho, hyd nes iddynt o'r diwedd benderfynu rhoddi eu hunain i'r Iesu ac i'w bobl; a chredwn yn sicr fod rhai yn y nefoedd heddyw sydd yn dyddio eu genedigaeth yn nheulu Duw o'r oedfa hono.
"Yn y flwyddyn 1863, fe ddechreuwyd ymohebu â Mr. Davies gyda golwg ar roddi galwad iddo i ddyfod i'r Abermaw yn weinidog ar yr eglwys. Rhoddodd y diweddar Barch. Edward Morgan bob cymhorth a chefnogaeth i ddwyn hyn oddiamgylch, a diau genyf mai iddo ef yn benaf y gellir priodoli y llwyddiant a fu ar y cais. Wedi cael atebiad cadarnhaol oddiwrtho, mawr oedd y disgwyliad bellach am ei weled yn ymsefydlu yn eu plith, ac yn mis Ebrill, yn y flwyddyn 1864, yr oedd peth mor newydd a dyeithr a dyfodiad gweinidog Methodistaidd i'r Abermaw yn ffaith yn mherson y Parch. David Davies. Bu yr eglwys ac yntau, yn flaenorol i'w symudiad, mewn pryder oherwydd methu a chael tŷ cymhwys iddo ef a'i deulu i fyw ynddo, ond yn ddisymwth fe symudodd Rhagluniaeth y rhwystr hwn o'r ffordd, fel y cafodd le dymunol a chydnaws a'i chwaeth yn Hendre Coed oddeutu milldir o'r dref—lle yr oedd tŷ cyfleus ac ychydig dir yn perthyn iddo, ac yno y bu ef a'i deulu am oddeutu pedair blynedd. "Blaenoriaid yr eglwys y pryd hwn oeddynt Mri. Edward Williams, Llwyngloddallt; Owen Williams, Gwastadagnes; John Timothy, Richard Jones, a David Williams, o ba rai y mae tri erbyn hyn wedi gadael yr eglwys filwriaethus ac ymuno â'r eglwys orfoleddus. Yn fuan, ychwanegwyd Mr. Owen Griffith atynt; a chan i angeu wneud bylchau yn rheng y swyddogion yn y flwyddyn 1870, fe ychwanegwyd tri eraill atynt, sef, Mri. William Williams, Lewis Lewis, a John Evans.
"Yn fuan ar ol dyfodiad Mr. Davies i'r cylch yr oedd y trigolion yn cynyddu, mewn canlyniad i ddyfodiad y reilffordd i'r lle, a chynyddodd yr eglwys yn gyfatebol, a chynhyrfid yntau gan awydd angerddol i gyflawni ei weinidogaeth yn gydwybodol i'w Feistr. Ymroddai i'r gwaith yn mhob cylch, mewn ymweled â'r cleifion a'r esgeuluswyr, mewn cynal cyfarfodydd wythnosol gyda'r plant a'r bobl ieuainc, &c.
"Gan fod y gwaith yn ymeangu ac yn trymhau ac yntau yn gydwybodol i'w gyflawni, teimlai mai ei ddyledswydd oedd symud i fyw i'r dref fel y gallai hefyd fyw yn nghanol praidd ei ofal, a gwnaeth hyny yn y flwyddyn 1868. Wedi gosod ei dŷ yn Hendre Coed mewn trefn, dechreuodd ar ei ddyledswyddau fel bugail yn ddiymdroi, ac yr oedd llwyddiant yr achos yn ei gylch newydd yn cael lle amlwg ganddo. Yn wir, dyrchafiad y preswylwyr mewn dysg, moesoldeb, a chrefydd oedd prif amcan a gwaith penaf ei fywyd, a bu ei ddyfodiad i'r Abermaw yn foddion i roddi bywyd a chyfeiriad newydd i bob cymdeithas o'r bron. Yr oedd ei gysondeb a'i brydlondeb yn moddion gras yn ddiarhebol, a bu hyny yn foddion i ddwyn eraill i wneud yn gyffelyb ac i ddilyn ei esiampl.
"Yr oedd newydd—deb neillduol arno fel gweddiwr, yr hwn a gadwodd hyd y diwedd. Byddai pobl ei ofal yn prysuro i'r cyfarfodydd yn brydlon pan y byddai ef yn gwasanaethu er mwyn ei weddiau. Gwelid ef weithiau wrth bregethu fel yn rhwyfo yn erbyn y llif mewn blinder; ond dywedid nad oedd byth arwyddion methu arno pan yn cyfarch gorsedd gras. Ai i'r nefoedd ar unwaith ac ar ei union. Un mawr diamheuol mewn gweddi ydoedd, ac y mae yn dra sicr mai dyma gryfder ei nerth ac mai dyma a'i cadwodd i oleuo mor danbaid am gynifer o flynyddoedd. Gan fod yn yr Abermaw borthladd, yr oedd, ac y mae, lluaws o'r trigolion yn forwyr, a chymerai yntau ddyddordeb mawr ynddynt, a gweddiai lawer trostynt yn ddirgel a chyhoeddus. Y mae yn ffaith na chyfarfyddodd odid un o forwyr y lle â dyfrllyd fedd tra y bu ef yn aros yn eu plith, a phriodolid hyny gan luaws i waith Mr. Davies yn gweddio mor fynych trostynt.
"Yn ei ddyfodiad rhoddodd fywyd newydd i'r cyfarfod eglwysig, yr hwn oedd yn isel, ac, i raddau, yn ddilewyrch cyn hyny; ac yr oedd ganddo allu neillduol i wneud y cyfarfodydd hyny yn ddyddorol ac yn fuddiol: tynai yr ieuainc fel yr hen i adrodd yr hyn a deimlent, ac ni fyddai un amser wrth ofyn profiadau yn ceisio at bwyso a mesur y brawd neu y chwaer wan, ond amcanai eu cael i ddweyd yr hyn a geid ganddynt yn a thrwy yr adnodau a adroddent, a buan iawn y ceid ef a hwythau i ddeall eu gilydd ac i deimlo yn hollol gartrefol gyda'u gilydd. Byddai yn newid ei ddull o dreulio y cyfarfod eglwysig yn fynych, oblegyd credai mewn amrywiaeth. Ambell dro ceid ef o'r sêt fawr yn gofyn i'r aelodau yn gyffredinol a fyddai rhywbeth neillduol ar feddwl rhai ohonynt ag y carent ei ddweyd, a bu y dull hwn ar lawer adeg yn hynod o effeithiol, a chafwyd aml seiat wlithog pan y byddai yr hen chwiorydd ac yntau wrth eu bodd a'r aelodau eraill yn cael gwledd.
"Nis gellir ymatal yn y fan hon heb enwi y rhai canlynol sydd bellach wedi huno er's blynyddoedd:—
Anne Dedwith, Ellen Roberts, Sian Morris (Cellfechan), Betty a Mari Ellis, Betty Edwards, Ellen Richards, ac amryw eraill o fendigedig goffadwriaeth. Byddai yn hawdd adrodd am lawer o ymddyddanion melus a nefolaidd yn y seiatau yn yr Abermaw y pryd hwn. Un tro, yn fuan ar ol dyfodiad Mr. Davies yno, mewn cyfarfod eglwysig gofynodd i Mari Ellis, yr hon y gallesid meddwl wrth ei hymddangosiad allanol nad ydoedd dim neillduol ynddi, Pa le yr ydych chwi yn pori y dyddiau hyn? A ydych chwi yn cael tipyn o flas ar ddarllen y Beibl? Y mae yn debyg nad oes genych yr un llyfr arall i'w ddarllen?' 'O oes,' meddai hithau, 'y mae genyf lyfrau heblaw y Beibl ag y byddaf yn cael pleser mawr wrth eu darllen, yn enwedig Athrawiaeth yr Iawn gan Lewis Edwards o'r Bala.' 'Beth,' meddai yntau, fel pe yn ei hamheu, 'Athrawiaeth yr Iawn a ddywedsoch chwi, aie?' Yna dechreuodd ei holi yn nghylch cynwys y llyfr gwerthfawr hwnw hyd nes yr aeth y ddau i hwyl fawr. Safai yntau yn syth ar ganol y llawr gan droi at y rhai oedd yn bresenol a dywedyd, 'Gall, fe all Mari Ellis ddarllen Athrawiaeth yr Iawn a chael bendith i'w henaid wrth wneud hyny; ac fe'ch cynghorwn i chwithau, ferched ieuainc, i ddilyn ei hesiampl hi.'
"Nid ydoedd ef mwy na'i frodyr yn anffaeledig; ond pan yr ystyriom yr oll a wnaeth, yn nghyda'r rhan bwysig a gymerodd yn y cyfarfodydd eglwysig, nid yn unig am yr ysbaid o ddeng mlynedd y bu yn weinidog ar yr eglwys hon, ond hefyd am y deuddeng mlynedd eraill ar ol iddo roddi y gofal hwnw i fynuy cwbl gyda'u gilydd yn dymhor o yn agos i dair blynedd ar hugain—rhyfedd ydyw iddo wneud mor ychydig o gamgymeriadau a bod ei ddiffygion mor ddibwys.
"Cymerai lawer o boen a thrafferth gyda phlant yr eglwys, a mynych y dywedai mai ei reswm dros hyny ydoedd, 'Mai hwy a fyddai y dynion yn fuan iawn, ac mai ar eu hysgwyddau hwy y cludid yr arch. Cyn eu derbyn yn gyflawn aelodau, byddai yn rhaid i bob un ohonynt ddysgu allan a meistroli cynwys y bedwaredd bennod ar ddeg o'r Hyfforddwr, a gosodai arbenigrwydd mawr hefyd ar iddynt deimlo rhywbeth neillduol pan yn cofio am angeu y groes y waith gyntaf. Byddai dyfodol hâd yr eglwys yn pwyso yn drwm ar ei feddwl, ac ni fu ei bryder a'i lafur gyda hwynt yn ofer, oblegyd o fysg y plant y bu yn cynal cyfarfodydd gyda hwynt, y mae amryw o flaenoriaid a phregethwyr wedi codi. Yr oedd yn dra awyddus bob amser i roddi pob cymhorth i fachgen y canfyddai fod ynddo ddefnyddiau at waith. Gwnaed llawer cais ato yn ystod y deng mlynedd y bu mewn cysylltiad bugeiliol â'r eglwys am gyhoeddiadau i gyfarfodydd pregethu, ac hefyd i fyned ar deithiau i wahanol siroedd Gogledd a Deheudir Cymru; ond gwrthodai hwynt bron yn ddieithriad os na fyddai yn gyfleus iddo allu bod gyda'i bobl yn y cyfarfod eglwysig, ac ni fyddai byth yn esgeuluso yr un cyfarfod a gynelid yn y capel ar nosweithiau yr wythnos.
Pregethu a gwneud pregethau newyddion, yn ddiau, ydoedd prif orchwyl ei fywyd; ac onid ellir yn ddibetrus ddweyd ei fod wedi cyfansoddi mwy o bregethau nag odid neb o'i gyfoedion yn y weinidogaeth. Ni fyddai un amser heb un neu ddwy o bregethau newyddion 'ar y blociau,' fel y dywedai; ac ni chlywyd erioed mohono yn ystod y deng mlynedd o 1864 hyd 1874, yn rhoddi ail edition o'r un o'i bregethau, nac yn wir wedi hyny. Yn ystod y deng mlynedd y cyfeirir atynt, pregethai ddeuddeg o weithiau bob blwyddyn yn ei gartref, heblaw ar achlysuron neillduol yn ystod nosweithiau yr wythnos. Byddai, o ganlyniad, o dan orfod i gyfansoddi dwy, os nad rhagor, o bregethau newyddion bob mis. Cawn felly iddo gyfansoddi yn agos i dri chant o bregethau yn ystod y deng mlynedd y bu mewn cysylltiad ffurfiol â'r eglwys. Wedi iddo ymddiswyddo oddiwrth y fugeiliaeth, mynodd yr eglwys ganddo addaw chwe Sabboth bob blwyddyn iddi, a bu yntau yn ffyddlawn i'w addewid, ac yr oedd mor gymeradwy y Sabboth olaf y bu yn pregethu yn ei hen gartref ag ydoedd y Sabboth cyntaf y daeth yno.
"Fel y crybwyllwyd mewn adgofion am dano yn Nhrysorfa Mehefin, 1890, nid oedd pall arno am brynu llyfrau newyddion, y nifer luosocaf o ba rai, wrth gwrs, oedd yn yr iaith Saesonaeg, eto yr oedd ganddo y fath feddwl o Esboniad y diweddar Barch. James Hughes, fel y darfu iddo y flwyddyn ddiweddaf y bu fyw bwrcasu copi newydd hardd ohono. Nid yn aml y gwelid gwell casgliad o lyfrau nag oedd ganddo, a byddai yn gwneud defnydd effeithiol ohonynt er cyfoethogi ei feddwl ei hun, ac hefyd teimlai yn falch o gael rhoddi llyfr yn fenthyg i'w gyfeillion darllengar. Bu yn dderbyniwr cyson am flynyddoedd o'r Expositor a'r Homilist. Anrhegwyd ef gan gyfaill â Hodge's Systematic Theology mewn tair cyfrol, a mawr oedd ei edmygedd ohonynt, a phregethodd lawer ar eu cynwys; ond nid ystyrid ef yn hollol gartrefol pan yn ymwneud â phynciau duwinyddol am mai nid dyna y dull oedd yn fwyaf cydnaws a'i ddawn. Pregethwr natur ydoedd, ac wrth ddesgrifio natur a'i chynwys y byddai yn ei elfen.
"Byddai yn dra hoff o'r cyfarfodydd darllen, ac er na thraethai lawer ynddynt ac na chymerai ran flaenllaw yn eu dygiad yn mlaen, eto yr oedd yn arweinydd dyogel ynddynt, a byddai yn estyn cymhorth parod i'r gwan bob amser. Dywedai weithiau wrth bregethu ei fod yn ddyledus i'r cyfarfod darllen am awgrymu mater ei bregeth iddo, a'i fod wedi cael gwell esboniad ar lawer adnod yn y cyfarfodydd hyn nag a gafodd gan Lightfoot, Liddon, nac Ellicot. Ymwelai yn gyson â'r cleifion a'r tlodion, a chyfranai lawer i'r annghenus, a gwnai hyny yn y fath fodd dystaw a diymhongar fel y gellid dweyd yn briodol am dano na wyddai ei law aswy yr hyn a wnai ei law ddehau.
"Yn ystod misoedd yr hâf, gan fod yr Abermaw yn ymdrochle, bydd nifer fawr o ddyeithriaid yn ymweled â'r lle, a hyny drachefn yn peri fod lluaws o ferched ieuainc yn dyfod yno i wasanaethu am y tymhor, ac yn eu mysg bydd amryw o aelodau gyda'r Methodistiaid. Pryderai Mr. Davies lawer yn nghylch y chwiorydd ieuainc hyn am fod rhai ohonynt yn gadael cartref mewn lleoedd gwledig am y tro cyntaf ac yn dyfod i'r dref. Cynghorai hwynt i fod yn wyliadwrus, yn onest, yn eirwir, ac hefyd am iddynt ofalu am beidio 'rhedeg y siopau,'—sef codi eiddo ar goel—a myned i ffwrdd heb dalu am danynt. Os ewch chwi i ffwrdd felly,' meddai, 'byddwch nid yn unig yn pechu yn erbyn Duw, ond bydd ogle inc ar eich shawls a'ch bonnets a'ch gownau a'ch esgidiau i b'le bynag yr ewch chwi. Cofiwch, da chwi, dalu i'r crydd am eich esgidiau ac i'r siopwyr am eich dresses; ac yn benaf oll, bydded i chwi ddychwelyd adref a'ch coron ar eich penau heb wyro dim.'
"Pan y daeth ef i'r Abermaw yr oedd y Cambrian Railway ar hyd y glanau yn cael ei gwneud yn brysur, a daeth lluaws mawr o ddynion i weithio arni ac i breswylio yn y lle, ac yn eu mysg yr oedd Saeson, Ysgotiaid, a Gwyddelod. Gan nad oedd moddion crefyddol yn cael ei gynal yn eu hiaith, teimlai Mr. Davies yn ddwys. Ac yr oedd eu gweled yn ymroi i yfed a meddwi, a hyny ar ddydd yr Arglwydd, yn dyfnhau ei bryder yn eu cylch a'i awydd am geisio eu gwaredu. Oherwydd fod nifer y pregethwyr a allent gyfarch cynulleidfa yn yr iaith Saesonaeg yn ychydig y pryd hwnw, nid oedd ganddo ddim i'w wneud ond cymhell fod dosbarthiadau Saesonaeg i fod yn yr Ysgol Sabbothol, ond oherwydd ansefydlogrwydd y gweithwyr, aflwyddianus a fu hyny i raddau. Pan y deuai cyhoeddiad un a fyddai yn gallu pregethu Saesonaeg, dymunid arno ddweyd ychydig yn yr iaith hono ac i'r swyddogion ymdrechu taenu y gair am hyny yn mlaen llaw. Yr ydym yn deall mai Mr. John Jones—y pryd hwnw o Aberystwyth, ond yn awr y Parch. J. Cynddylan Jones, D.D., goruchwyliwr y Feibl Gymdeithas yn y Deheudiroedd y cyntaf i wneud hyny.
"Yn y blynyddoedd o 1864 hyd 1869, yr oedd manteision addysg yn ddiffygiol iawn yn yr Abermaw, fel mewn lluaws o leoedd eraill—yr ysgolion y pryd hwnw yn perthyn i'r Eglwys Sefydledig ac o dan nawdd ei gweinidogion, ac ychydig iawn o arolygiaeth a threfn arnynt. Boddlonid y gwŷr eglwysig os ceid y plant i synychu y llan ar y Sabboth a dyddiau gŵyl, ac os cyrhaeddid hyny ni elwid yr athrawon i gyfrif am esgeuluso rhanau pwysig o'u gwaith; ac yr oedd lluaws o'r athrawon yn ddynion o gymeriadau lled amheus. Mewn undeb âg ychydig o Ymneillduwyr—ac yn eu mysg y mae un yn deilwng o goffa, sef y diweddar Barch. James Jones, gweinidog yr Annibynwyr llwyddodd Mr. Davies i gychwyn Ysgol Frytanaidd yn yr ystafell o dan gapel newydd y Methodistiaid. Agorwyd yr ysgol gan Mr. Robert Williams, yn bresenol o Danygrisiau, Ffestiniog. Ac yn y flwyddyn 1870, pan ddaeth y ddeddf newydd i weithrediad, trosglwyddwyd hi i ofal Bwrdd Ysgol, a dyma yr ysgol gyntaf yn Nghymru i gymeryd mantais ar y ddeddf hon.
"Yr oedd poblogaeth yr Abermaw ar ol agor y reilffordd yn cynyddu yn brysur, a'r hen gapel yn myned yn annghyfleus yn mhob ystyr. Byddai swn y trains—gan fod y capel ar fin y llinell—yn anhwyluso rhai o'r cyfarfodydd a gynelid, ac fe wnaed cais at y cwmni am iddynt ei brynu, a buwyd yn llwyddianus yn y cais, a chafwyd swm priodol am dano. Wedi gwerthu yr hen gapel, y peth nesaf i'w wneud oedd ymofyn am le i roddi y newydd i lawr; ac nid hir y buwyd heb benderfynu ar le canolog a chyfleus a myned ati o ddifrif i'w adeiladu. Costiodd y capel hwn, yn nghyda'r tir y saif arno, yn agos i ddwy fil a haner o bunau, a chynwysa eisteddleoedd oddeutu saith gant. Agorwyd ef yn y flwyddyn 1866, ac yn y flwyddyn 1874—yr adeg y rhoddodd Mr. Davies ei ofal bugeiliol i fynu—nid oedd yn aros o'r ddyled ond £700.
"Yr oedd yn llawn o'r ysbryd cenhadol ac yn ymroddgar iawn i ddwyn moddion gras at y rhai nad ellid eu cael i'r capel. Mewn rhan o'r dref a elwir Penygraig, yr oedd amryw o deuluoedd yn byw, y rhai, oherwydd nad oedd amgylchiadau yn caniatau iddynt ymddangos yn y gynulleidfa yn y ddiwyg a ystyrient hwy yn weddus, a lwyr esgeulusent yr holl gyfarfodydd crefyddol yn y capel. Meddyliodd Mr. Davies mai ei ddyledswydd oedd myned a'r efengyl atynt; ac i'r amcan hwnw llogodd ystafell a chychwynwyd Ysgol Sabbothol ynddi, a byddai yntau yn pregethu iddynt ar nosweithiau yr wythnos, pryd y deuai nifer lluosog ohonynt i wrando arno. Fodd bynag, cyfododd gwrthwynebiad i'r ystafell a'r gwasanaeth, ac yn hytrach na bod yn achlysur i brofedigaeth ac i wahanu y pleidiau crefyddol oddiwrth eu gilydd, penderfynodd mai gwell ydoedd iddo ei rhoddi i fynu.
"Fel yr awgrymwyd eisoes, yr oedd, ac y mae canoedd o ymwelwyr Seisnig yn dyfod i'r dref yn ystod misoedd yr hâf, lluaws mawr o ba rai ydynt yn Ymneillduwyr. Penderfynodd Mr. Davies ddarparu moddion crefyddol cydnaws â'u hargyhoeddiadau iddynt hwythau. Yr oedd rhwystrau mawrion ar y pryd i ddwyn hyn oddiamgylch am nad oedd yr un lle cyfleus i'w gynal, oherwydd fod yr addoldai ar y Sabboth at wasanaeth y Cymry, ac nad oedd yr un neuadd gyhoeddus wedi ei hadeiladu yr adeg hono; ond i gyfarfod â'r amgylchiadau, llwyddodd i gael gan swyddogion yr achos Cymraeg i newid amser y gwasanaeth boreuol yn ystod misoedd yr haf fel ag i allu cael moddion yn yr iaith Saesonaeg i ddechreu am un ar ddeg o'r gloch yn y boreu a phedwar o'r gloch yn y prydnawn; ac ar Sabboth, y 27ain o Fehefin, yn y flwyddyn 1869, y dechreuwyd cynal gwasanaeth Saesonaeg gan y Trefnyddion Calfinaidd yn yr Abermaw, a gellir priodoli ei gychwyniad bron yn gwbl i ymdrechion Mr. Davies. Yn y dull a nodwyd y cynelid y gwasanaeth yn unig yn misoedd yr haf, a hyny am flynyddoedd lawer. Gan fod gradd o lwyddiant yn dilyn yr ymdrechion hyn a bod ambell i deulu o Saeson yn dyfod i fyw i'r lle, anturiwyd cymeryd yr Assembly Room—yr hon oedd newydd gael ei hadeiladu—i gychwyn yr achos yn ffurfiol, ac yno y buwyd yn addoli am amser hyd nes yr adeiladwyd y capel, yr hwn a saif mewn man cyfleus. Adeiladwyd ef yn y flwyddyn 1879."
Y mae yn ddiau y teimlir fod gwerth mawr yn y cofnodion uchod, gan eu bod wedi eu hysgrifenu gan un a gafodd fantais dda i'w adnabod yn ystod ei drigiad yn yr Abermaw.