Neidio i'r cynnwys

Cofiant David Davies, Bermo/Tŵr y Pridd

Oddi ar Wicidestun
Y Wialen a'r Ffon Cofiant David Davies, Bermo

gan William Jones, Lerpwl

Y Ddau Dŷ

PREGETH II.—Tŵr y Praidd.

"A THITHAU, tŵr y praidd, castell merch Seion, hyd atat y daw, ïe, y daw yr arglwyddiaeth benaf, y deyrnas i ferch Jerusalem."—Micah v. 8.

Yr oedd y prophwyd hwn yn cydoesi âg Esaiah, ac yn prophwydo yn nyddiau Jotham, Ahas, a Hezeciah. Y mae o ganol tywyllwch yr amser adfeiliedig hwnw yn gweled goleuni mawr goruchwyliaeth yr Efengyl a dyfodiad y Messiah.

Y prophwydi oedd yn byw mewn amser isel sydd wedi rhagfynegu y pethau mwyaf goleu a mwyaf gogoneddus. Nid oedd dim i'w cysuro yn y presenol, ac, am hyny, y mae yr Arglwydd yn eu cysuro â phethau dyfodol.

Byddai yr Arglwydd Iesu yn ymgysuro weithiau yn y bwriadau tragwyddol cyn bod y byd, a phryd arall sugnai ei gysur o'r pethau sicr yn y dyfodol. "Yr hyn oll y mae y Tad yn ei roddi i mi a ddaw ataf fi." Yn y fan hon yn nghanol blinder ac ansefydlogrwydd, y mae yn edrych yn ol ar y rhoddi yn y cyfamod, ac yn gweled yno sicrwydd y llwyddiant. Y mae yn taflu ei olwg yn mlaen ac yn ymgysuro yn y dyfodol, pan y dywed, "A minau os dyrchefir fi oddiar y ddaear a dynaf bawb ataf fy hun." Y mae gan yr Arglwydd ddefnydd cysur i'w bobl yn mhob amgylchiad, ac o ganol nosweithiau duaf trallod y clywir yn fynych y gân fwyaf orfoleddus. Nid oes neb ag sydd wedi ysgrifenu yn fwy cysurus am lwyddiant achos crefydd na'r enwog John Howe, er ei fod yn byw mewn amser blinder mawr. Y mae crefydd yn hyfforddio i ni olwg y tu hwnt i'r cymylau, ac nid oes yr un cwmwl a all godi nad all ffydd yn addewidion Duw weled awyr glir y tu draw iddo. Felly yr oedd y prophwyd Micah, a'i gydoeswr enwocach, Esaiah.

Y mae rhan o brophwydoliaeth Micah wedi ei chyflawni, a llawer darn ohoni heb ei chyflawni eto. Y mae y doraeth o'r brophwydoliaeth yn y bennod hon eto yn ol. Fe gyflawnir y ddwy adnod o flaen y testyn o hyd yn barhaus, ac eto deil yr addewidion sydd ynddynt heb eu gwaghau. Y mae rhai o brophwydoliaethau y Beibl ag yr ydym yn edrych arnynt fel pydewau wedi eu dihysbyddu ac heb ddwfr ynddynt. Buont yn diwallu llawer, ond erbyn hyn yn hesp. Y mae eraill fel ffynonau yn llawn dwfr, a chymaint i ni gael ohonynt a neb, a gadewir hwynt genym ninau yn ffynonau llawn i'r oes a ddel. Fe geir eraill fel potelau heb erioed eu hagoryd; ond beth bynag ydyw cynwys y costrelau sydd o dan sêl, y mae yma ddigon o rai agored i'n diwallu ni yn ein hoes.

Ond dylem gofio fod pob addewid sydd wedi ei chyflawni yn dwyn elw i ni; y mae yn gwneud ein hafon ni yn lletach ac yn ddyfnach. Fel y mae pob ffrwd sydd yn dyfod i lawr y bryn yn chwyddo dwfr yr afon wedi ymgolli ynddi, felly y mae pob addewid a gyflawnwyd wedi cryfhau dyfroedd yr afon sydd â'i ffrydiau yn llawenhau dinas Duw. Mae hyd yn nod yr addewidion a gyflawnwyd i Abraham yn y cynfyd pell yn chwanegu at ein cyfoeth a'n cysur ninau. Yr ydym ni yn manteisio ar gyflawniad y prophwydoliaethau iddo ef.

Y mae yr Arglwydd, yn y geiriau o flaen y testyn, yn addaw ymweled â'i bobl, a hyny er eu mawr gysur a'u hadnewyddiad. Ac y mae yn cofio y rhai sydd wedi colli, ac y mae yn eu marcio.

1. "Y gloff"—un wedi troi o'r ffordd wedi myned o'r neilldu, fel dafad gloff wedi colli o'r gyr. Y mae aml un fel hyn. Y mae yr Arglwydd yn eu cofio eto, a pheth mawr i ninau ydyw cadw yn ein cof y rhai y mae yr Arglwydd yn eu cofio. Nid yw y gloff heb addewid.

2. "Yr hon a yrwyd allan." Yr oedd gyru allan o dan yr Hen Destament allan o'r gwersyll ac o gysegr Duw. Nid oes llawer o werth mewn eglwys nad oes bwrw allan ohoni ar amserau; ac nid ydyw yn anrhydedd nac yn fantais i fod mewn eglwys sydd yn rhy wan, o dan bob amgylchiadau, i yru allan. Ond y mae yma addewid am gynull yr hon a yrwyd allan.

3. "Yr hon a ddrygais," neu a gystuddiwyd. Un wedi ei tharfu gan rhyw anfanteision, ond nid ydyw hon eto mor ddrwg arni nad oes addewid iddi. Er ei chystuddio aiff yr addewid i lawr ar ei hol i'r dyfnder.

Dyma addewid am gasglu "y gloff" a chynull yr "hon a yrwyd allan," ac nid hyny yn unig. Na, y mae yna lawer mwy, ac ni fuasai hyny yn unig ddim yn gysur cryf iddynt; ond y mae yna gyfnewidiadmwy na chasglu a chynull—"A gwnaf y gloff yn weddill;" ar ol yr oedd o'r blaen, ac felly y collodd hi; ond yn awr y mae yr Arglwydd yn addaw ei gwneud dros ben—yn weddill—hyny yw, yn un fydd yn dal pan y bydd pawb yn methu. "A'r hon a daflwyd yn mhell, yn genedl gref." Dyma fwy na chynull yn y fan hon eto. Gwan, eiddil, a diffrwyth oedd o'r blaen, ac am hyny y taflwyd hi allan; ond y mae yn yr addewid ei gwneud yn gref ac yn ffrwythlawn iawn. Ond er fod yr Arglwydd yn crybwyll y rhai hyn yn gyntaf, nid hwy ydyw yr unig rai sydd yn cael lleshad a daioni. Onid yw braidd yn rhyfedd fod yr Arglwydd yn son am y rhai hyn yn hytrach na'r rhai sydd heb gychwyn gyda'i bobl erioed? Ond gwelwn ei fod wedi nodi y rhai hyny hefyd yn nechreu y bennod—" pobloedd lawer a chenedloedd cryfion hyd yn mhell;" ac yna y mae yn cofio yn rasol am y gloff a adawyd ar ochr y ffordd, wedi methu canlyn, a'r hon a yrwyd allan, gan faint y boen a'r helbul oedd gyda hi yn barhaus, a'r gystuddiol drallodedig, yr hon y mae olion yr ystormydd arni.

Yna fe ddaw y testyn i mewn yn addewid o ddaioni i'r ffyddloniaid "A thithau tŵr y praidd, castell merch Seion, hyd atat y daw, ie, y daw yr arglwyddiaeth benaf, y deyrnas i ferch Jerusalem." "Tŵr y praidd," neu Dŵr Edar, yr hwn oedd yn meusydd Bethlehem, lle i'r gwyliwr—y bugail—i esgyn i'w ben i weled y praidd yn mhell ar y gwastadedd. Y pen bugail, fel rheol, a fyddai yn gwneud hyn, yr hwn oedd yn gofalu am gasglu y diadelloedd ganol dydd a'r hwyr, ac yr oedd yno gorlan ddyogel i'w casglu hefyd.

Fel yr oedd Tŵr Edar i'r praidd yr oedd "castell merch Seion" i'r saint. Castell merch Seion oedd gorseddfa teulu Dafydd, a meddylia rhai fod yma gyfeiriad at y Messiah, am ei fod ef o dŷ a thylwyth Dafydd. Yr oedd teulu Dafydd y pryd hwn yn isel ac Ahas yn teyrnasu—y brenin gwaethaf a mwyaf drygionus o holl frenhinoedd Judah. Yr oedd gorsedd Dafydd oherwydd hyny yn siglo, ond y mae yr Arglwydd yn addaw ei chadarnhau a'i sefydlu yn Nghrist.

Diau fod yn y geiriau gyfeiriad at y rhai oedd yn parhau yn ffyddlawn i'r Arglwydd, yn sefyll dros ei achos a'i enw, ac yn amddiffyn ei gyfraith a'i ogoniant. Dyma "Dŵr y praidd, castell merch Seion," yn mhob oes; ac y mae yr Arglwydd yn cofio yn anwyl am y rhai hyn ac yn addaw yn helaeth ar eu cyfer hwy yn anad neb. Yr oedd gan Dduw y pryd hwnw ei ffyddloniaid, ac y mae rhai felly yn mhob oes.

I.—Yn mha le bynag y mae achos yr Arglwydd Iesu, y mae yno ryw rai yn blaid ac yn nawdd iddo. Yr Arglwydd ei hun sydd yn cynal yr achos trwy ei Ysbryd, eto mae yn gwneud hyny trwy offerynau, ac y mae yr Ysbryd Glân yn codi rhywun yn blaid iddo yn mhob man. Y mae gan yr Arglwydd ei 'Dŵr praidd, castell merch Seion," yn mhob lle. Y ffyddloniaid ydyw y tyrau a'r cestyll, a'r bobl sydd yn derbyn yr Iesu ac yn ei wasanaethu a anrhydeddir. Un ydyw yr Iesu sydd yn gogoneddu ei letty bob amser. Anrhydedd penaf tŷ Mair a Martha oedd. fod yr Iesu yn troi i mewn yno ac yn cael croesaw. Gogoniant ac iachawdwriaeth tŷ Zacheus oedd fod yr Iesu wedi galw i mewn yno. Y mae coffadwriaeth Mair yn fendigedig wedi iddi dori y blwch enaint ar ei ben Ef—" Pa le bynag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, mynegir yr hyn a wnaeth hi hefyd, er coffa am dani." Ac y mae cymwynaswyr ei achos yn sefyll gogyfuwch a chymwynaswyr ei Berson—" A. phwy bynag a dderbynio gyfryw fachgenyn yn fy enw i, a'm derbyn i." Nis gall y Meistr Mawr annghofio y gweision ffyddlawn. Mor barchus y mae y rhai sydd wedi bod yn gymhorth i'r apostolion ac eraill yn cael eu hanerch yn niwedd llythyrau yr Apostol Paul. Nid ydyw cofgolofnau ymherawdwyr Rhufain yn ddim i'w cydmaru mewn bri ac anrhydedd i'r colofnau mewn ffyddlondeb a sêl sydd yn cynal gair y bywyd" yn y byd—"Tŵr y praidd, castell merch Seion."

II.—Maent yn mhlaid achos yr Arglwydd o gymhelliad eu meddwl eu hunain. Nid caethweision ydynt ond gwirfoddolwyr; rhai wedi cael blas ar y Gair ac yn gweled gwerth yn yr efengyl, fel Lydia hono gynt, " yr hon yr agorodd yr Arglwydd ei chalon i ddal ar y pethau a leferid gan Paul." Wedi i'r Arglwydd agor ei chalon y mae hithau yn agoryd ei thy, "Os barnasoch fy mod i yn ffyddlawn i'r Arglwydd, deuwch i mewn i'm tŷ ac aroswch yno." Y mae eto rhyw dŷ yn Bethania, ac yn Capernaum, a thŷ Lydia yn agoryd eu drysau i arch Duw. Mae rhywrai yn gefn i'r achos, ac nid rhai yn cael eu cymhell gymaint gan eraill ydynt, ond yn myned yn mlaen yn ngrym eu meddyliau eu hunain wedi eu llanw gan gariad Crist.

Gyda'r achos mawr ni a gawn weithiau ein cefnogi, a phryd arall ein digaloni gan eraill. Yn debyg fel y mae y gwynt i'r llong: y mae llawer o wynt croes ar gyfer yr awel dêg, ond y mae y morwr a'i ddymuniad am y porthladd ac yn gwneud y goreu a allo o bob gwynt i gyrhaedd hwnw.

Fe anfonodd yr Arglwydd Iesu ei ddeuddeg dysgybl bob yn ddau, heb na llaw—ffon nac ysgrepan nac arian yn eu pyrsau na dwy bais; ond fe roddodd. iddynt awdurdod ar ysbrydion aflan ac i iachau clefydau. Yr oeddynt i dderbyn eu croesaw ar eu teilyngdod. Felly i barhau y mae achos yr Arglwydd i gael ei gynal ar ei deilyngdod beunyddiol heb gymaint o ragddarpar, a chynaliaeth ei weision i fod fel y byddont yn teilyngu. Nid oedd ganddynt ddim wedi ei ddarparu i'r daith rhag newyn, a syched, a noethni, ond awdurdod eu Harglwydd. Y gwaith a wneid ganddynt trwy allu eu Meistr oedd yn agoryd y drysau o'u blaen ac yn rhoddi iddynt bob derbyniad a chroesaw. Dallineb y byd sydd yn peri iddo ymddwyn yn wahanol i hyn. Mae yn debyg y bydd yr eglwys yn dychwelyd yn fwy eto at y cynllun yma. pan ddaw tywalltiadau mwy grymus o Ysbryd yr Arglwydd.

III.—Addewid sydd yn y geiriau hyn i'r rhai sydd yn ffyddlawn eisoes i fod yn fwy effeithiol nag o'r blaen. Nid addaw gwaith newydd, ond bod yn fwy buddiol yn y gwaith yr oeddynt gydag Ef eisoes. Nid cymaint o fendith a welir ar y rhai sydd yn newid eu gwaith, ond addaw bendith ar y rhai sydd yn ffyddlawn eisoes gyda'r gwaith sydd ganddynt.. Gwneud y rhai ffyddlawn yn fwy ffyddlawn y mae yr Arglwydd hyd nes i'r "arglwyddiaeth benaf ddyfod yn eiddo iddynt. Y mae yr egwyddor hon yn gref gydag achos yr Arglwydd, "I'r hwn y mae ganddo y rhoddir;" "Da, was da a ffyddlawn, buost ffyddlawn. ar ychydig, mi a'th osodaf ar lawer."

Dechreu yn fychan y mae crefydd yn gyffredin. Ac y mae lluaws yn oedi dechreu am eu bod yn gweled ganddynt rhy fach i ddechreu—disgwyl mwy cyn dechreu ac yn marw cyn ei gyrhaedd. Y dyn eisiau rhyw ddechreu mawr, llawer i gychwyn. Na, ychydig yn y dechreu ydyw y rhan amlaf. Y mae pethau mawr Duw yn dechreu yn fychain ac yn cynyddu yn ddirfawr, fel yr hâd mwstard, "yr hwn yn wir sydd leiaf o'r holl hadau," ac eto " y mwyaf un o'r llysiau ydyw," ac y mae yn myned yn bren; fel "y mae adar y nef yn dyfod ac yn nythu yn ei gangau ef." Yr ydym ni yn rhoddi gormod o bwys yn aml ar y dechreu a rhy fach ar y cynydd; yn ei gynydd y mae yn rhagori, a'r cynydd sydd yn glod i enw yr Arglwydd. Dyma yr arwyddion o dduwioldeb, "Bod yn ffyddlon ar ychydig," " fel y goleuni yn llewyrchu fwy—fwy hyd ganol dydd," "Er bod dy ddechreuad yn fychan, eto dy ddiwedd a gynydda yn ddirfawr."

Dyfod i fynu yr oedd Joseph er yn dechreu yn y swydd fach ddistadl. Pe buasai Dafydd wedi gadael i'r llew a'r arth ysglyfio y ddau oen, ni fuasai nerth ynddo i wynebu y cawr. Na, dysgyblaeth a fu arno yn y cylch llai i'w gymhwyso i lenwi y cylch mwy. "Y neb sydd ffyddlawn yn y lleiaf sydd ffyddlawn hefyd mewn llawer," ac yn ei ffyddlondeb a'i lwyddiant yn gwaredu yr wyn yr enillodd Dafydd ei gymhwysder a'i hawl i fentro y cawr. Felly yma, y mae yr Arglwydd yn addaw i'r ffyddlon fodd i wneud ychwaneg o'r gwaith yr oedd a'i galon ynddo, "A thithau tŵr y praidd, castell merch Seion, hyd atat y daw, ie, y daw yr arglwyddiaeth benaf, y deyrnas i ferch Jerusalem."

IV.—Gwelwn y gwerth o barhau gydag achos yr Arglwydd. Mae Duw yn galw y rhai pell, yn casglu y gloff, ac yn cynull yr hon a yrwyd allan ac a ddrygwyd; ond "Tŵr y praidd, castell merch Seion, a gaiff y bendithion penaf o bawb," "hyd atat y daw, ie, y daw yr arglwyddiaeth benaf." Y mae yr Arglwydd yn cofio y rhai hyny mewn modd neillduol yn ei ymweliadau. Yr oedd rhyw rai "yn sefyll yn nhŷ yr Arglwydd y nos," yn cadw gwyliadwriaeth yr Arglwydd, ac yn dal y goleu dros yr holl nos. Dyna y bobl a anrhydeddir uwchlaw pawb yn nydd yr ymweliad. Pan y daeth y mab afradlon adref, yr oedd holl deulu y tŷ yn mwynhau y wledd a'r rhai agosaf oedd yn llawenychu fwyaf. Pan y mae yr Arglwydd yn addaw y "bydd y llesgaf ohonynt y dydd hwnw fel Dafydd, y mae yn addaw hefyd y bydd "tŷ Dafydd fel Duw, fel angel yr Arglwydd o'u blaen hwynt." Gwir fod y rhai olaf yn myned yn flaenaf a'r rhai blaenaf yn olaf; ond pan y mae y rhai blaenaf heb gael yr ymweliad y mae hyny. Pan y mae y rhai blaenaf yn cael y fendith, y mae y rhai blaenaf yn enill mwy na'r rhai olaf, "A thŷ Dafydd fel Duw, fel angel yr Arglwydd o'u blaen hwynt." Y mae yn ddigon ar y blaen eto. "A bydd llewyrch y lleuad fel llewyrch yr haul, a llewyrch yr haul fydd saith mwy, megys llewyrch saith niwrnod." Ni fydd y lleuad ddim cymaint a'r haul am y bydd pob un wedi cynyddu y naill fel y llall. Copa y mynydd uchel a wisgir a gogoniant gyntaf pan y mae yr haul yn codi yn y boreu, felly y bobl sydd yn gwylio ac yn disgwyl am gyfodiad Haul y Cyfiawnder a gaiff dderbyn o'i belydr gyntaf. Y mae rhyw rai yn disgwyl—rhyw wyliedyddion ar y mur. Dyma y rhai a wel y wawr yn tori ac a siriolir yn fwyaf ganddiFy enaid sydd yn disgwyl am yr Arglwydd yn fwy nag y mae y gwylwyr am y boreu."

V.—Fe wnaeth Dafydd ei Seion yn "dŵr y praidd." Y mae enill dyn da gyda'r byd hwn yn enill i achos Mab Duw. Os bydd iddo enill rhyw Seion yn ddinas iddo ei hun, hi a fydd hefyd yn "dŵr y praidd" a "dinas ein cyfarfod" i bobl yr Arglwydd. Mae lle i ninau i adeiladu tŵr yn rhywle i braidd Iesu Grist.

Gwael ydyw ein bod am ddim ond am nefoedd i ni ein hunain. Na, meddyliwn am wneud tipyn o gastell i ferch Seion yn rhywle ag y byddo yn gyfleus i ni. Y mae yr Arglwydd yn cymeryd yn garedig iawn ar y rhai sydd yn gofalu am gysgod i'w achos. Pe na byddai ond rhyw dŵr pur gyffredin fel tŵr Edar digon tebyg y daw rhyw Jacob ar ei daith, fel Jacob gynt, ac y bydd yn dda ganddo gael lledu ei babell gerllaw iddo.

Gwnawn y peth a allom; os na allwn wneud tŵr mawr fel tŵr Babel, mynwn adeiladu rhyw dipyn o gysgod a noddfa i braidd Iesu Grist. "Yr hyn a allodd hon hi a'i gwnaeth," a hi a wnaeth fwy o lawer nag a feddyliodd hi na'r dysgyblion.

Y gwaith ddaeth a'r enw yn y testyn, ac y mae yn enw ardderchog iawn, "Twŵr y praidd, castell merch Seion." Wrth wneud y gwaith y caed yr enw, er nad oedd y rhai hyn yn meddwl dim am yr enw, gwneud er mwyn yr achos; ond y gwaith oedd yn teilyngu yr enw gogoneddus hwn. Ac mor werthfawr i ni ydyw fod genym rhyw waith y mae y nefoedd yn rhoddi gair da i ni yn nglŷn âg ef. Am gasglu y byd a rhodio yn nghwmni mawrion y ddaear yma, nid ydyw y nefoedd yn meddwl dim o hyny; ond gweithio gyda thlodion ei bobl ef yn yr Ysgol Sabbothol a'r cyfarfodydd gweddi, canu, a darllen, ar hyny y mae yr Arglwydd yn gosod pris uchel.

Y mae yn gysur i ni ein bod gydag achos ag y mae egwyddorion llwyddiant mawr ynddo. Y mae rhai cyfundebau yn adfeilio; y mae defnydd adfeiliad ynddynt. Nid oes ganddynt ond y ffurf allanol; y mae yr ysbryd wedi cilio, ac am hyny y mae y rhai sydd yn perthyn iddynt yn myned i ddarogan diwedd y byd, a syniadau cnawdol y rhai sydd yn disgwyl Iesu i deyrnasu ar y ddaear. Teimlo eu cyfundeb eu hunain yn siglo odditanynt y maent, a meddwl, pan ddarfyddo y ffurf sydd ganddynt hwy, y derfydd achos yr Arglwydd Iesu.

Efallai fod yma rai nad ydynt heddyw yn meddwl y gallant hwy adeiladu tŵr o fath yn y byd i achos y Gwaredwr. Wel ynte, y mae yma le i chwithau, fel i Jacob gynt, i ledu eich pabell gerllaw Tŵr Edar. Ar ei daith i ymweled â'i dad yr oedd Jacob, a dyma yr arosfa agosaf iddo i dŷ ei dad hefyd. Gallaf finau ddweyd, yr un ffunud, fod yma le i chwithau i daenu eich pabell, ac nad oes ond taith fechan oddiyma i dŷ eich Tad.

Yr oedd Moses yn ysgrifenu yr hanes yn yr anialwch, ac fe ddywed fod Jacob wedi lledu ei babell "o'r tu hwnt i Dŵr Edar." Gan hyny, yr oedd Tŵr Edar—" tŵr y praidd "—rhwng pabell Jacob a'r anialwch. Mynwch chwithau, ddynion anwyl, eglwys Dduw—"tŵr y praidd "—rhyngoch a'r anialwch, a "Chastell merch Seion" rhyngoch a'r perygl.

Yn y fan yma y bu farw Rahel ac y claddwyd hi, a cherllaw y mae colofn bedd Rahel. Hi a fu farw mewn llanerch nad oedd dim eisiau symud llawer arni, oblegyd yr oedd wedi marw o fewn terfynau Gwlad yr Addewid.

Yr oedd Jacob wedi bod mewn gwlad arall, ac yr oedd symud mawr pan yn claddu y rhai a fuont feirw mewn gwlad bell. O! gyfeillion, dowch i fyw o fewn terfynau y wlad, fel na bydd arnoch eisiau rhyw symud mawr pan fyddwch yn myned i farw. Yn Ngwlad yr Addewid yr oedd y Patriarchiaid yn dymuno cael eu claddu. Y mae genym ninau rhyw ddymuniadau gyda hyn. Byddwn fyw mewn undeb â'r bobl y dymunem farw yn eu plith.

Wel, y mae gan yr Arglwydd rhyw gyfnesaf yn y byd yn wastadol. Fel yr oedd saig Benjamin yn yr Aipht yn fwy, a rhan Peninah yn rhan hardd, a manteision Pedr, Iago, a Ioan yn helaethach, felly yma, "A thithau, tŵr y praidd, castell merch Seion, hyd atat y daw, ie, y daw yr arglwyddiaeth benaf." Pan y mae yr Arglwydd yn gwasgaru bendithion, y mae y fendith fwyaf i'r ffyddloniaid. Y Duw mawr a'n gwnelo yn bobl ffyddlon gyda'i deyrnas. Amen.

Diwedd y flwyddyn 1864.

Nodiadau

[golygu]