Cofiant David Davies, Bermo/Tymor o neillduaeth
| ← Yn Wyliedydd craff | Cofiant David Davies, Bermo gan William Jones, Lerpwl |
Yn y Cyfarfodydd Misol → |
PEN. XII.—Tymor o neillduaeth.
Yn ddyn cryf.—Yn llafurio yn ddiymarbed.—Arwyddion palldod ar ei nerth.—Ei atal i bregethu gan y meddyg am dri mis.—Yn cyfansoddi pregethau yn y cyfnod hwnw.—Pregethau neillduaeth.—Y brasluniau yn anmherffaith—Oedfa yn Llanwyddyn.—Stori y pot mêl.—Oedfa yn Nghyfarfod Misol Pennal.
Yr oedd yn ddyn cryf, ac wedi ei fendithio a phabell gadarn a hardd, ac nid oedd wedi arbed dim arno ei hun. Llafuriai yn galed yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth. Rhoddai dreth drom arno ei hun pan yn preswylio yn Mhenmachno trwy gerdded llawer i deithiau pell, a phan yn traddodi ei bregethau cyflawnai yn llythyrenol y cynghor, "Llefa—nac arbed, dyrchafa dy lais fel udgorn," ond yn ystod blynyddoedd diweddaf ei oes, yr oedd yn cerdded yn fwy araf ac yn fwy gwyliadwrus. Nid oes genym le i feddwl ychwaith fod llafur mawr blynyddoedd boreuol ei yrfa fel gweinidog wedi dweyd fawr arno hyd nes y cyfarfyddodd â'r ddamwain yn Lleyn. Diau i'r tro hwnw gael effaith ar ei gyfansoddiad cryf; nid yn unig fe gloffodd ei glun, ond fe gloffwyd ei natur hefyd trwy hyny. Yr ydym braidd yn tybio i'r afiechyd a'i cymerodd ymaith mor sydyn yn y diwedd, ymaflyd ynddo tua'r adeg hono. Ac yn ystod y blynyddoedd y cyfeiriwyd atynt yn y pennodau o'r blaen, yr ydym yn gweled arwyddion o balldod yn ei nerth—y babell hardd a'r craciau yn dechreu ymddangos ynddi.
Ymddengys iddo yn ystod blwyddyn ei lywyddiaeth gael ei atal rhag pregethu am yn agos i dri mis, er na fu hyny yn foddion i'w luddias i'r Gymdeithasfa a gynelid yn Mhwllheli yr adeg hono; ac yn un o lyfrau ei bregethau fe geir y cofnod a ganlyn wedi ei ysgrifenu ganddo:—" Adeg pan yr ydwyf wedi fy atal gan y meddyg—yn hytrach gan yr Arglwydd ddechreu mis Gorphenaf hyd ddiwedd mis Medi, 1876." Dodwn i lawr yma rai pregethau a ysgrifenwyd ganddo y pryd hwn. Yr ydym yn eu rhoddi i lawr yn hollol fel yr ysgrifenodd ef hwynt; ac er nad ydynt ond amlinelliad anmherffaith o'r pregethau fel y traddodid hwy, eto y maent yn meddu dyddordeb diamheuol fel ffrwyth ei fyfyrdod yn neillduaeth yr ystafell pan o dan law cystudd:
Y WEDDW A'R OLEW.
"Yna hi a ddaeth ac a fynegodd i wr Duw. Dywedodd yntau, Dos, gwerth yr olew, a thâl dy ddyled; a bydd di fyw, ti a'th feibion, ar y rhan arall."—2 Bren. iv. 7.
"Profedigaeth gwraig un o feibion y prophwydi sydd yma—tebyg i wraig weddw pregethwr, neu student. Yn ei gwaredigaeth hi y gwelwn ddarlun o waredigaeth pechadur trwy Grist.
"I.—Angen y Wraig.—1. Yr oedd yn eisieu mawr. Yr oedd hi ei hun a'i dau fab heb ddim at fyw; a mwy na hyny, mewn dyled—yn agored i ofynion y gyfraith heb ddim i ateb. Felly y mae pob pechadur. "
2. Eisieu oedd yn arwain i gyfyngder mawr. Yr oedd yr echwynydd yn gofyn am y ddau fachgen yn gaethion iddo ef. Dyna gyfraith meibion Israel i'r dyledwr a'i blant. Felly pechadur.
3. Angen nad oedd ganddi un man i droi ond at Dduw. Nid oedd na châr na chyfaill ganddi ond 'gwr Duw.' Felly ninau fel pechaduriaid. Ynof fi y mae dy gymhorth.' 'Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall: canys nid oes enw arall dan y nef wedi ei roddi yn mhlith dynion, trwy yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig.'
II.—Trefn Duw i'w diwallu.—1. Gwneud yr angen i fynu a'i gyflawnder Ei hun, ar ei draul Ei hun, ac o'i gyfoeth Ei hun. Nid olew neb ond olew yr Arglwydd ei hun. Fel y porthwyd y miloedd ganddo â'i fara a'i bysgod ei hun.
2. Nid oedd yn diystyru yr ychydig oedd ganddi, eithr, yn hytrach, yn ei ddefnyddio. 'Pa beth sydd genyt yn dy dŷ?' Y mae yr Arglwydd yn defnyddio gwybodaeth, a theimladau tyner, ac ymarferiad â moddion—pobpeth da a fedd y dyn—tuag at ei ddychweliad.
3. Yr oedd yn rhaid llafurio, casglu y llestri: ac unig gymhwysder y llestri oedd eu bod yn weigion. Nid na mawr na bach, ond llestri gweigion.
4. Yr oedd yn anog y wraig i gymeryd pob mantais i dynu yn helaeth ar ei gyflawnder Ef. Nid yn unig galwai arni i ddwyn y llestri a feddai hi ei hun, ond hefyd i fenthyca cynifer ag a allai eu cael. Nid oedd dim perygl i'r cyflawnder ddarfod. Y llestri a ddarfu gyntaf, ac nid yr olew.
III.—Cydymffurfiad y wraig a threfn Duw.—1. Yr oedd yn rhaid iddi fyned i mewn i'w thy. Yn ei thŷ yr oedd yr Arglwydd am ei diwallu. Prif gartref crefydd yw ein tai ein hunain a thŷ yr Arglwydd. Ni waeth pa le? O! gwaeth, y mae gan yr Arglwydd ei fan i gyfarfod â phechadur.
2. Yr oedd yn rhaid i'w meibion fod yn y tŷ gyda hi a'r llestri gweigion, a chau y drws. Ar ol cau y drws yr oedd yno dŷ gwag iawn—gwraig weddw a'i dau fab a llon'd y ty o lestri gweigion, ac echwynwr yn bygwth cymeryd y ddau fab i gaethiwed. Teulu gwag a llestri gweigion, ond yr oedd Duw yno ac un ysten âg olew ynddi. Bendithio ychydig y mae yr Arglwydd gyda moddion gras, ac nid gwneud peth o ddim. Felly y gwnaeth â'r ychydig flawd yn y celwrn—dim ond dyrnaid—eto caed bywoliaeth arno, o dan ei fendith Ef, am dymhor maith.
3. Yr oedd gwaith i'r wraig a'r bechgyn yn y tŷ. Y wraig yn tywallt ac un bachgen yn symud y llestri llawnion a'r llall yn nesu y llestri gweigion—pawb ar waith. Y mae yn rhaid tywallt a symud y llestri eto. Ac yr oedd y bechgyn yn gweithio. Y mae gwaith i bobl, ac i blant hefyd, pan fyddo Duw yn gweithio. Nid gweithio y mae yr Arglwydd nes rhoddi pawb i segura, ond gweithio nes rhoddi pawb ar waith. Lle y mae pobl yn segura, nid ydyw yr Arglwydd ddim yn gweithio yno.
4. Yr oedd y drefn yn gosod terfynau ar y cyflawnder. Pan ddarfu y llestri gweigion, 'A'r olew a beidiodd.' Trefn Duw sydd yn rheoli gyda golwg ar dderbyn o'r cyflawnder. Mae y cyflawnder yn ddiderfyn, 'Canys rhyngodd bodd i'r Tad drigo o bob cyflawnder ynddo ef;' ond y mae cyflawnder i'w gael yn ol y drefn; ac, yn ol y drefn, y mae y terfynau iddo, ac nid yw y cyflawnder yn myned dros y terfyn hwnw.
IV.—Y fendith a dderbyniodd y wraig. ‘Yna hi a ddaeth ac a fynegodd i wr Duw,' &c.
I. Digon, yn ngwyneb y gofynion, i gael yn glir â'r gyfraith. Dyfod yn rhydd o ofal yr echwynwr. "Gwerth yr olew a thâl dy ddyled.' Dyma ddigon rhyngddi â gofyn y gyfraith. Felly y mae yn yr iachawdwriaeth, 'Canys Crist a'n llwyr brynodd oddiwrth felldith y ddeddf gan ei wneuthur yn felldith trosom.'
2. Digon ar ei chyfer hi a'i phlant. 'A bydd di fyw, ti a'th feibion.' Dyma ddigon at fyw, ac ni wyddom ni nad oedd ganddi ddigon tra y bu hi a'i meibion fyw.
O, ras didrai, diderfyn,
Tragwyddol ei barhad! &c.
y mae dy gymhorth.' 'Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall: canys nid oes enw arall dan y nef wedi ei roddi yn mhlith dynion, trwy yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig.'
II.—Trefn Duw i'w diwallu.—1. Gwneud yr angen i fynu a'i gyflawnder Ei hun, ar ei draul Ei hun, ac o'i gyfoeth Ei hun. Nid olew neb ond olew yr Arglwydd ei hun. Fel y porthwyd y miloedd ganddo â'i fara a'i bysgod ei hun.
2. Nid oedd yn diystyru yr ychydig oedd ganddi, eithr, yn hytrach, yn ei ddefnyddio. 'Pa beth sydd genyt yn dy dŷ?' Y mae yr Arglwydd yn defnyddio gwybodaeth, a theimladau tyner, ac ymarferiad â moddion—pobpeth da a fedd y dyn—tuag at ei ddychweliad.
3. Yr oedd yn rhaid llafurio, casglu y llestri: ac unig gymhwysder y llestri oedd eu bod yn weigion. Nid na mawr na bach, ond llestri gweigion.
4. Yr oedd yn anog y wraig i gymeryd pob mantais i dynu yn helaeth ar ei gyflawnder Ef. Nid yn unig galwai arni i ddwyn y llestri a feddai hi ei hun, ond hefyd i fenthyca cynifer ag a allai eu cael. Nid oedd dim perygl i'r cyflawnder ddarfod. Y llestri a ddarfu gyntaf, ac nid yr olew.
III.—Cydymffurfiad y wraig a threfn Duw.—1. Yr oedd yn rhaid iddi fyned i mewn i'w thy. Yn ei thŷ yr oedd yr Arglwydd am ei diwallu. Prif gartref crefydd yw ein tai ein hunain a thŷ yr Arglwydd. Ni waeth pa le? O! gwaeth, y mae gan yr Arglwydd ei fan i gyfarfod â phechadur.
2. Yr oedd yn rhaid i'w meibion fod yn y tŷ gyda hi a'r llestri gweigion, a chau y drws. Ar ol cau y drws yr oedd yno dŷ gwag iawn—gwraig weddw a'i dau fab a llon'd y ty o lestri gweigion, ac echwynwr yn bygwth cymeryd y ddau fab i gaethiwed. Teulu gwag a llestri gweigion, ond yr oedd Duw yno ac un ysten âg olew ynddi. Bendithio ychydig y mae yr Arglwydd gyda moddion gras, ac nid gwneud peth o ddim. Felly y gwnaeth â'r ychydig flawd yn y celwrn—dim ond dyrnaid—eto caed bywoliaeth arno, o dan ei fendith Ef, am dymhor maith.
3. Yr oedd gwaith i'r wraig a'r bechgyn yn y tŷ. Y wraig yn tywallt ac un bachgen yn symud y llestri llawnion a'r llall yn nesu y llestri gweigion—pawb ar waith. Y mae yn rhaid tywallt a symud y llestri eto. Ac yr oedd y bechgyn yn gweithio. Y mae gwaith i bobl, ac i blant hefyd, pan fyddo Duw yn gweithio. Nid gweithio y mae yr Arglwydd nes rhoddi pawb i segura, ond gweithio nes rhoddi pawb ar waith. Lle y mae pobl yn segura, nid ydyw yr Arglwydd ddim yn gweithio yno.
4. Yr oedd y drefn yn gosod terfynau ar y cyflawnder. Pan ddarfu y llestri gweigion, 'A'r olew a beidiodd.' Trefn Duw sydd yn rheoli gyda golwg ar dderbyn o'r cyflawnder. Mae y cyflawnder yn ddiderfyn, 'Canys rhyngodd bodd i'r Tad drigo o bob cyflawnder ynddo ef;' ond y mae cyflawnder i'w gael yn ol y drefn; ac, yn ol y drefn, y mae y terfynau iddo, ac nid yw y cyflawnder yn myned dros y terfyn hwnw.
IV.—Y fendith a dderbyniodd y wraig. ‘Yna hi a ddaeth ac a fynegodd i wr Duw,' &c.
I. Digon, yn ngwyneb y gofynion, i gael yn glir â'r gyfraith. Dyfod yn rhydd o ofal yr echwynwr. "Gwerth yr olew a thâl dy ddyled.' Dyma ddigon rhyngddi â gofyn y gyfraith. Felly y mae yn yr iachawdwriaeth, 'Canys Crist a'n llwyr brynodd oddiwrth felldith y ddeddf gan ei wneuthur yn felldith trosom.'
2. Digon ar ei chyfer hi a'i phlant. 'A bydd di fyw, ti a'th feibion.' Dyma ddigon at fyw, ac ni wyddom ni nad oedd ganddi ddigon tra y bu hi a'i meibion fyw.
O, ras didrai, diderfyn,
Tragwyddol ei barhad! &c.
'Bydd di fyw,—byw mewn rhyddid oddiwrth bob gofyn, byw mewn llawnder o gyrhaedd pob angen. Nid dyogelu bywyd yn unig yr oedd Oen y Pasc yn yr Aipht, ond yr oedd yn fforddio i'r rhai oedd yn y cysgod i wledda ar hyd y nos. Yr oedd Israel ar ol myned trwy yr Iorddonen nid yn unig yn cael tynu ymaith waradwydd yr Aipht oddiarnynt, ond hefyd yn cael dechreu byw ar 'hen ŷd y wlad.' Fe gafodd y llanciau a daflwyd i'r ffwrn dân nid yn unig losgi eu rhwymau gan y tân, a bod yno yn wyr rhyddion; ond fe ddaeth 'dull y pedwerydd,' a hwnw yn 'debyg i Fab Duw,' yn gwmni iddynt.
Gwaredu'r saint rhag uffern
A phechod drwg ei ryw,
O safn y bedd ac angau,
A'u dwyn i fynwes Duw;
Eu harwain dros fynyddau,
A thrwy yr anial chwith,
A grea nef y nefoedd
Yn gân heb ddiwedd byth.
—Gorphenaf 5, 1876.
GRAS I'R GOSTYNGEDIG.
"Ac yn rhoddi gras i'r rhai gostyngedig."—1 Pedr v. 5."
Anogaeth i ostyngeiddrwydd a geir yn yr adnod hon. I'r ieuainc y rhoddir y cynghor yma—ieuainc mewn oedran, proffes, ac fel swyddogion. Fe'i rhoddir i 'bawb' hefyd 'A byddwch bawb yn ostyngedig." "Ymdrwsiwch.' Bod wedi ymbarotoi, fel y caethwas wedi gwisgo ei arffedog at y gwasanaeth, neu yr Arglwydd Iesu wedi ymwregysu â'r tywel.
Ymdrwsiwch, a dyna y rheswm dros hyny, 'Oblegyd y mae Duw . . . yn rhoddi gras i'r rhai gostyngedig.'
I.—Y gras gwerthfawr hwn.—1. Y mae yn hanfodol i sancteiddrwydd. Y mae pob creadur sanctaidd yn un gostyngedig. Dywedir am yr angylion, 'Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt hwy oll,' &c. Ni all neb fod yn wasanaethgar heb fod yn ostyngedig. Nid am wasanaethu mae y balch, ond arglwyddiaethu, awdurdodi, a meistroli, a bod yn ben ar bawb. Y gostyngedig sydd yn gwasanaethu. Gwasanaethu mewn gostyngeiddrwydd hefyd y mae y creaduriaid sanctaidd. ‘Chwech adain ydoedd i bob un," ac y mae yna bedair o'r chwech yn cuddio y wyneb a'r traed—ymguddio yn y gwasanaeth. Yr oedd 'Michael yr archangel pan oedd efe, wrth ymddadleu a diafol, yn ymresymu yn nghylch corph Moses,' yn rhy ostyngedig i 'ddwyn barn gablaidd arno, eithr efe a ddywedodd, Cerydded yr Arglwydd dydi.' Efe a'i rhoddes yn llaw un arall.
2. Fe roddodd yr Arglwydd Iesu esiampl berffaith o ostyngeiddrwydd—Eithr bydded ynoch y meddwl yma,' &c.; 'Cymerwch fy iau arnoch, a dysgwch genyf; canys addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon,' Bydd lawen iawn, ti ferch Seion . . . wele dy Frenin yn dyfod,' &c.
3. Y mae yr enwau a roddir ar y gras hwn yn y Gwirionedd yn dangos ei natur. Agwedd calon ac ansawdd ysbryd ydyw. Calon ddrylliog ac ysbryd cystuddiedig, Ysbryd briwedig, Isel o ysbryd, &c.
II—Y cymhellion i ostyngeiddrwydd. 1. Fel creadur.—(1) Dylai fod yn ostyngedig am mai creadur ydyw, a dweyd yn barhaus wrth Dduw, 'Dy ddwylaw a'm gwnaethant ac a'm lluniasant; nyni ydym glai, a thithau yw ein Lluniwr.' (2) Gwaeledd ei ddefnydd. 'Pridd wyt ti, ac i'r pridd y dychweli,' 'Tŷ o glai a'i sail yn y pridd,' 'Dyn yr hwn sydd bryf, a mab dyn yr hwn sydd abwydyn.' (3) Ei ddibyniad. Nis gall sefyll am eiliad, ond fel y mae yn cael ei gynal, ' Dygi ymaith eu hanadl a threngant,' &c. (4) Byrder einioes. 'Canys beth ydyw eich einioes chwi? Canys tarth ydyw, yr hwn sydd dros ychydig yn ymddangos, ac wedi hyny yn diflanu.'
2.—Fel pechadur. (1) Y mae gostyngeiddrwydd yma yn rhy brin; y mae eisiau edifeirwch a galar. (2). Y mae yn cydnabod cyfiawnder Duw a'i euogrwydd ei hun. 'I ti, Arglwydd, y perthyn cyfiawnder, ond i ni gywilydd wynebau.' A dianc y mae dyn oddiwrth swyddog y gyfraith—angau. (3) Cydnebydd burdeb, ac uniondeb, a sancteiddrwydd Duw. 'Ydwyt lanach dy lygaid nag y gelli edrych ar ddrwg, ac ni elli edrych ar anwiredd;' 'Canys mi a wn nad oes ynof fi (hyny yw, yn fy nghnawd i) ddim da yn trigo:' 'Eithr yr ydym ni oll megys peth aflan, ac megys bratiau budron yw ein holl gyfiawnderau.' (4) Hir amynedd Duw ydyw yr achos fod dyn yn cael ei oddef. Dyma sydd yn nodweddu holl ymddygiadau Duw tuag at bechadur, 'Hir ymarhous ydyw Efe,' wedi ei gerfio yn ddwfn ar y cwbl.
3. Fel Cristion hefyd. (I) Y mae y drefn yn cau allan bob ymffrost oddiwrth ddyn. ‘Pa le gan hyny y mae y gorfoledd? Efe a gauwyd allan.' 'Eithr Duw a etholodd ffol—bethau y byd fel na orfoleddai un cnawd ger ei fron Ef;' 'Yr hwn sydd yn ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd.' (2) Derbynwyr ydyw pawb o rad drugaredd Duw. Pa beth sydd genyt ar nas derbyniaist?' (3) Anmherffeithrwydd y dyn goreu. Y mae yn llawn o bob diffygion a gwendidau,‘Os dywedwn nad ces ynom bechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, a'r gwirionedd nid yw ynom.' (4) Ar drugaredd Duw y mae pob dyn yn gorphwys am iachawdwriaeth. 'Gan fod yn hyderus yn hyn, y bydd i'r hwn a ddechreuodd ynoch waith da, ei orphen hyd ddydd Iesu Grist,' ond trugaredd o'r dechreu i'r gorphen. Ymgedwch yn nghariad Duw, gan ddisgwyl trugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragwyddol.
III.—Bendithion gostyngeiddrwydd.—I. Y mae yn ras ac yn peri gras. Mae yn dwyn gras mwy—'Y rhai llariaidd a hyfforddia efe mewn barn;' 'Ei ras a rydd efe i'r gostyngedig.'
2. Y mae yn peri dyrchafiad. 'Gwell yw bod yn ostyngedig gyda'r gostyngedig na rhanu yr yspail gyda'r beilchion;' 'O flaen anrhydedd yr ä gostyngeiddrwydd.'
3. Y mae yn nerth hefyd. Mae yn nerth i ddal anrhydedd. 'Balchder dyn a'i gostwng ef: ond y gostyngedig a gynal anrhydedd.'
4. Y mae yn dwyn ymwared o bob cyfyngder—Rehoboam—Ahab—y Ninifeaid. Fe ddyrchafodd calon Hezeciah, ac y mae yn dyfod yn dywydd mawr arno, 'Er hyny efe a ymostyngodd oherwydd dyrchafiad ei galon,' ac y mae ymwared Duw yn dyfod. Manasseh hefyd, er ei holl galedwch a'i fywyd annuwiol, a drodd at yr Arglwydd yn ei gyfyngder, 'Ac efe a fu foddlawn iddo.' Mae y dyn gostyngedig yn myned trwy bob tywydd heb dderbyn niwed. Y mae yn gostwng ei ben, fel y frwynen, yn y llifeiriant, ac nid ydyw yn cael dim niwed, ac heblaw hyny, y mae yn cael ei olchi ganddo. Acy mae yn gweddio am gymhorth i ymostwng yn y tònau:—
Dysg fi dewi, megys Aaron,
Dan holl droion dyfnion Duw.
Ac y mae yn ffarwelio â dydd y prawf heb ei niweidio.—Gorphenaf 17, 1876.
Ni a welwn oddiwrth y braslun diweddaf yma—yr hwn nad ydyw yn ddim bron ond cadwyn o adnodau—ei fod yn gydnabyddus iawn â'r Gair, a chredai yn gryf mewn pregethu y Gair—gadael rhwng yr adnodau a'r bobl—a gallai floeddio yr adnodau weithiau gyda rhyw eneiniad a nerth rhyfedd. Fe welir nad ydyw y rhaniadau lluosog sydd ganddo yn y braslun uchod ond math o hoelion i osod yr adnodau arnynt. Byddai hyn i'w weled yn amlycach o lawer ar rai adegau na'u gilydd yn ei hanes, ac mewn rhai pregethau. Er fod amryw o gynlluniau pregethau wedi eu hysgrifenu ganddo yn y cyfnod y cyfeiriwyd ato, ymfoddlonwn yn unig ar roddi un i mewn eto.
Y GWAHANIAETH MAWR.
"YNA y dychwelwch, ac y gwelwch ragor rhwng y cyfiawn a'r drygionus, rhwng yr hwn a wasanaetho Dduw a'r hwn nis gwasanaetho ef."—Malachi iii. 18.
Y mae trefn wahanol i ddyfod ar bethau. 'Yna,'
2. Y mae i bobl yr Arglwydd eu gwaith.
3. Y mae iddynt eu gwobr
4. Y mae dydd penodol i'w gwobrwyo, 'Y dydd y gwnelwyf briodoledd,' 'Canys wele y dydd yn dyfod,' &c.
"Yn y testyn y mae dau fath o ddyn a dau ddull o fyw. Y mae yma hefyd hen bwnc o ddadl yn cael ei setlo am byth.
I.—Y ddau fath o ddyn. 'Y cyfiawn a'r drygionus'. Y cyfiawn—Dyn yn ei le, fel y dengys Gair yr Arglwydd y dylai dyn fod. Y drygionus—Un heb derfynau ganddo, yn tori dros ben pob terfyn, diddaioni, a gwaeth na hyny, yn farus. Drwg iddo ei hun, i eraill, ac i Dduw—drwg i bawb.
II.—Dau ddull o fyw. Yr hwn a wasanaetho Dduw a'r hwn nis gwasanaetho ef.'
1. Gwasanaethu Duw mewn ymrwymiad—cymeryd yr iau a dwyn y baich.
2. Gwasanaethu Duw hefyd mewn ymroddiad (Rhuf. vi. 16—22). 'Am hyny yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, er trugareddau Duw, roddi ohonoch eich cyrph yn aberth byw, sanctaidd, cymeradwy gan Dduw, yr hyn yw eich rhesymol wasanaeth chwi.'
3. Defnyddio y talentau a ymddiriedwyd i ni gan y Meistr Mawr. 'Yr hwn nis gwasanaetho ef:' beth a gynwys hyn? Y mae yn cynwys (1) Bywyd penrhydd, ac heb fod o dan ddysgyblaeth. 'Ond eu gwyr mawr hwynt ni roddasant eu gwddf,' &c; 'A meibion Eli oedd feibion Belial '—meibion di—iau, diwasanaeth, a diwerth. (2) Caethion i lygredigaeth. Fel y gau—athrawon y sonir am danynt yn Epistol Judas, 'Yn troi gras ein Duw ni i drythyllwch.' Y maent yn addaw rhyddid a hwythau eu hunain yn wasanaethwyr. Yr oedd yr Iuddewon yn dadleu eu bod yn rhyddion; ond, medd yr Iesu wrthynt, 'Pwy bynag sydd yn gwneuthur pechod, y mae efe yn was i bechod.'
III. Y mae yma hefyd hen bwnc o ddadl yn cael ei setlo am byth. 'Pa lesiant sydd er i ni gadw ei orchymynion ef?' 'Oferedd yw gwasanaethu Duw.' Y mae y pwnc ag y mae amheuaeth arno—y mater mewn dadl, i gael ei benderfynu, 'Yna y dychwelwch ac y gwelwch ragor rhwng y cyfiawn a'r drygionus,' &c. Y mae hon yn ddadl gyffredinol iawn—nad oes dim rhagor. Y mae y saint weithiau yn myned i'r brofedigaeth hon. Gwelwn y Salmydd yn y drydedd Salm ar ddeg a thriugain, I—19, wedi syrthio i'r pwll. Y mae y byd yn dadleu hyn yn barhaus—yn y tŷ, ar y ffordd, a chyda'r gorchwylion, ac yn enwedig yn y dafarn—'Nid oes dim rhagor.' Fe gesglir hyn gan y byd oddiwrth amryw bethau—dim rhagor. (1) Am fod rhagrithwyr yn yr eglwys—efrau yn mhlith y gwenith, 'Efrau ydyw y cwbl,' medd y byd. 'Morwynion ffol'—'ffol ydyw y cwbl,' medd y byd, 'á gweision yn cuddio eu talentau ac yn gwneud cam âg arian eu Harglwydd ydyw yr oll. (2) Cwympiadau y saint hefyd. Cwymp Dafydd, 'Na fynegwch hyn yn Gath.' 'Amiti beri i elynion yr Arglwydd gablu.' (3) Gwaeleddau a gwendidau y credinwyr. Fe wêl y byd y rhai hyn, ac y mae yn estyn bys arnynt yn barhaus. Fel y gwybed yn disgyn yn heidiau ar yr archoll, ac yn sugno y gwaed o'r briw. Gwendid hwn—a—hwn, ochr wan un arall, gwaeledd ac anmherffeithrwydd y trydydd yn 'gân y meddwon ac yn wawd yr ynfydion '—sugno gwaed yr archoll yn y cwbl. A'r casgliad oddiwrth yr oll ydyw—dim rhagor.' Y mae yr annuwiol yn tawelu ei gydwybod i fyw yn esmwyth mewn pechod, ac yn tawelu a chryfhau breichiau y naill a'r llall i ymgaledu mewn ymryson yn erbyn Duw—'dim rhagor.'
" Y mae yr hen bwnc i gael ei setlo.
1. Y mae Duw ei hun yn dyfod i'w benderfynu. Fe geir yr holl ddadl yn esgyn i fynu i glustiau Duw, 'A'r Arglwydd a wrandawodd ac a glybu.'
2. Y mae diwrnod wedi ei benodi i ddwyn y cwbl i derfyniad na fydd dim amheuaeth am dano byth. 'Oherwydd iddo osod diwrnod,' &c.; 'Yn y dydd y barno Duw ddirgeloedd dynion;' 'Canys wele y dydd yn dyfod,' &c.
3. Y mae y byd annuwiol i gael ei ddychwelyd. 'Yna y dychwelwch.' Nid dychwelyd at Dduw am ei heddwch nac at Grist am ei gymod, ond at y gwirionedd yma. Bydd y glonc yna yn darfod am byth.
4. Y mae i'w benderfynu trwy weled, 'Ac y gwelwch ragor.' Yr hyn na fynwch ei gredu yn awr, chwi a gewch ei weled y dydd hwnw. 'Ar ol hyn,' medd yr Iesu, 'y gwelwch Fab y Dyn yn dyfod,' &c; 'Ac yn uffern efe a gododd ei olwg, ac efe mewn poenau, ac a ganfu Abraham o hirbell,' &c; 'Yno y bydd wylofain a rhincian danedd, pan weloch Abraham, ac Isaac, a Jacob, a'r holl brophwydi yn nheyrnas Dduw, a chwithau wedi eich bwrw allan.'
1. Mae dydd galw i'r ffydd heb fyned drosodd. Diwrnod i ddychwelyd i'r ffydd ydyw heddyw. A daw y diwrnod pan y dychwelir pawb trwy weled. 'Wele y mae efe yn dyfod gyda'r cymylau; a phob llygad a'i gwêl ef, ie y rhai a'i gwanasant ef.'
2. Rhaid ymgymeryd â'r gwasanaeth trwy ffydd. 'Trwy ffydd, Noe, wedi ei rybuddio gan Dduw am y pethau nis gwelsid eto, gyda pharchedig ofn a ddarparodd arch i achub ei dŷ; trwy yr hon y condemniodd efe y byd,' &c. Mae y byd a chrefydd yn condemnio eu gilydd y byd yn condemnio crefydd a chrefydd yn condemnio y byd. 'Trwy yr hon y condemniodd efe y byd,' ac aeth yr hen fyd o dan gondemniad byth.
3. Y mae genym i'w ddywedyd heddyw, 'Dewiswch i chwi pwy a wasanaethwch.' Cyflogi gweision ydyw un peth mawr yn y byd yma. Y mae gan Satan ei weision ffyddlawn—y byd a'r cnawd hefyd. Y mae yr Iesu hefyd wedi myned allan i gyflogi gweithwyr i'w winllan—'Dewiswch, dewiswch,' fel Moses gynt.—Awst 12, 1876.
Gall y brasluniau uchod fod yn rhyw gymhorth i'r rhai a'i clywsant; ond i eraill, y rhai nad ydynt yn cofio dim am dano, nis gallant fod o nemawr fudd i'w farnu fel pregethwr oddiwrthynt. Amlwg yw mai yn y traddodiad y byddai yn llenwi y bylchau; a phan y byddai mewn hwyl, nid oedd pall ar ei ddawn. Fe bortreadai rai golygfeydd gyda'i ddychymyg bywiog o flaen y cynulleidfaoedd nad annghofient byth mo honynt. Dywedir ei fod yn pregethu yn Llanwddyn ryw dro, ac yn desgrifio y bustych seithmlwydd yn Israel. Yr oedd dau hen amaethwr, na fyddent yn mynychu y cyfarfodydd gyda chysondeb, yn gwrando arno. Ymddengys fod desgrifiad y pregethwr o'r anifeiliaid mor fyw nes cario dylanwad mawr ar y ddau amaethwr. Pengryment a gwenent ar eu gilydd am beth amser, ond toc gwaeddai E. D. ar ei gydymaith, "Ie, D. R., y mae yn rhaid mai rhai braf oedden nhw, ac yr wy'n siwr mai rhai duon Cymreig oedden nhw hefyd."
Eto, dro arall wrth bregethu, adroddai am y diweddar Barchedig Richard Humphreys o'r Dyffryn, a'r hynod William Ellis o Faentwrog, yn cerdded yn nghyd yn nghymydogaeth y diweddaf, ac yn myned heibio i fwthyn lle y chwareuai plant braf a glandeg, a golwg iachus arnynt. "Dyma blant braf, y mae yn rhaid fod y rhai hyn yn cael byd da," meddai Richard Humphreys. "Yr oeddwn i yn y tŷ yma rhyw ddiwrnod," meddai William Ellis, "ac yn gweled y plant yma yn dyfod i mewn o un i un. Edrychai ambell un ohonynt yn brudd a digalon. Deuai eraill i mewn dan lefain, wedi cyfarfod â rhyw brosedigaethau wrth chwareu; ond wedi dyfod i'r tŷ, sylwn eu bod yn myned ar eu hunion i rhyw gongl o'r neilldu ac yn dychwelyd o'r fan hono wedi newid yn fawr—y trymder wedi cilio a'r llefain wedi dystewi, a gwên siriol, foddhaus, yn ymdaenu dros eu hwynebau. Gofynais i'r fam beth oedd ganddi yn y gongl i'w dyddanu. Dywedai hithau, 'Y mae yma lawer o wenyn genym, ac yr wyf yn rhoi un pot llawn o fêl yn y fan acw at wasanaeth y plant; ac y maent yn dyfod i mewn pan y mynont, ac yn cael myned i'r gongl i roddi eu bys yn y pot mêl, a rhyfedd fel y mae yn dylanwadu arnynt.'" Wedi i'r pregethwr adrodd yr hanes, y mae yn ei gymhwyso:—" Y mae gan Dduw," meddai, "ei bot mêl o'r neilldu at wasanaeth ei blant; ac os bydd ambell un ohonynt yn cyfarfod â rhyw archoll y mae yn cael rhedeg ar ei union i drochi ei fys yn y pot mêl." Ar hyny, dyma rhywun yn gwaeddi allan, "O diolch." "Ie," meddai yntau, "dyna un a'i fys ynddo yn awr."
Pregethai un tro yn Nghyfarfod Misol Pennal y noson gyntaf. Ymosodai ar y diafol yn ddiarbed yn y bregeth hono. Yr oedd ffarmwr dibroffes yn cydgerdded â dau frawd dyeithr i'w lletty ar ol yr oedía, ac yn dweyd, "Yr anwyl fawr, ni chlywais i erioed ffasiwn beth; ni fuaswn i ddim yn leicio tynu y dyn yna yn fy mhen. 'Rwy'n credu fod ar y diafol i ofn 0. Fe ddylasai fod ar y gwr drwg gywilydd ohono ei hun ar ol y fath ddinoethi ac ymosod arno."