Neidio i'r cynnwys

Cofiant David Davies, Bermo/Un peth eto yn ol

Oddi ar Wicidestun
Ffydd Noe Cofiant David Davies, Bermo

gan William Jones, Lerpwl

Codi ymaith y maen

PREGETH X.—Un peth eto yn ol.

"A'R Iesu pan glybu hyn a ddywedodd wrtho, Y mae un peth eto yn ol iti; gwerth yr hyn oll sydd genyt, a dyro i'r tlodion; a thi gei drysor yn y nef: a thyred canlyn fi.

"Ond pan glybu efe y pethau hyn, efe a aeth yn athrist: canys yr oedd efe yn gyfoethog iawn."—Luc xviii. 22. 23.

Yr oedd y gwr ieuanc y sonir am dano yma, â lluaws o bethau dymunol yn perthyn iddo—pethau oedd yn ei wneud yn wrthrych hoffder neillduol yr Athraw mawr.

I. Gwr ieuanc ydoedd. Dyn â'i wyneb ar fywyd, a'i obeithion yn dechreu ymagor. Addewidion fel dyffrynoedd eang, prydferth, yn ei demtio yn mlaen, a disgwyliadau mawrion yn canolbwyntio ynddo.

2. Yr oedd yn llywodraethwr. Meddai ddylanwad, ac yr oedd yn wr o sylw ac ymddiried. Os bydd gan ddyn ragoriaethau, y mae swydd yn fantais i'r rhagoriaethau hyny lewyrchu a bod o ddefnydd.

3. Gwr ieuanc cyfoethog ydoedd. Y mae hyn eto yn troi yn fantais neu yn anfantais; ac yn anfantais a rhwystr yn fwyaf cyffredin. Dinystriwyd llawer dyn da gan ormod o ddaear o'i amgylch, ac aeth y byd, yn lle bod yn gymhorth iddo weled Duw a llesoli ei frawd, i guddio Duw a'i frawd o'i olwg. Fe geir llawer dyn cyfoethog yn ymddiried mewn arian am beth na ellir ei gael am arian. Rhodd Duw, yn ei ragluniaeth, i ddyn ydyw cyfoeth; ond fe dderbynir y gras hwn yn ofer gan luaws.

4. Yr oedd hwn yn wr ieuanc moesol hefyd. Fe gadwodd y gorchymynion o'i ieuenctyd, ac yr oedd hwn yn flodeuyn prydferth yn ei gymeriad naturiol. Yr oedd y pethau a nodwyd yn bethau da yn y gwr ieuanc, ond os rhoddir hwy yn lle pethau gwell, y mae yna berygl. Dyna berygl y gwr ieuanc, y mae yn amlwg, gwneud gormod o'i gyfoeth a'i foesoldeb.

Ni a welwn hefyd rai rhinweddau prydferth yn dyfod i'r golwg yn ei ymddygiad y tro hwn:

1. Mae yn achub y cyfle. Fe ddaeth i'r ffordd i gyfarfod â'r Iesu, ac fe redodd ato. Beth a achlysurodd hyn, nis gwyddom; ond y mae yn awyddus ac mewn brys i achub y cyfle.

2. Fe ymostyngodd iddo. Y mae yn plygu ar ei liniau ger ei fron, fel y cyfieithir y gair mewn dau le arall. Yr oedd yr ymostyngiad yn un difrifol.

3. Y mae yn parchu yr Iesu. "Athraw da," mor barchus y mae yn ei gyfarch. Yr oedd ganddo feddwl mawr am yr Iesu, a chredai ei fod yn fwy nag ef ei hun, er nad ellir meddwl ei fod yn ei gydnabod yn Fab Duw. Yr oedd y gwr ieuanc wedi teithio yn mlaen yn dda; ond ei ddiffyg pwysig ydoedd ei fod heb gyrhaedd y pen gyda phobpeth.

4. Y mae ei gwestiwn yn un difrifol a phriodol—"Beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragwyddol?" Yr oedd rhyw deimlad ynddo ef ei hun fod rhywbeth yn ychwaneg yn eisiau, ond yr oedd yno hen elyn i'w enaid yn y tŷ nad oedd efe yn gwybod am dano, ac nad allai ei droi allan. Fel y dywedai Dafydd Cadwaladr am Hazael, "Ni wyr dyn dwyll ei galon ei hun."

Y mae yr Iesu yn ei adwaen yn drwyadl, ac yn ei drin fel meddyg cyfarwydd.

1. Y mae yn datguddio ei hun iddo trwy ofyn cwestiwn, "Paham y'm gelwi yn dda?" Pa reswm arall a roddwn am y gofyniad ond fod yr Athraw yn awyddus am i'r dyn ei adnabod. Dyma y wers gyntaf yn Ysgol Crist ydyw adnabod yr Athraw.

2. Y mae yn ei gymeryd yn ei ffordd ei hun, "Ti a wyddost y gorchymynion," ac y mae yn hollol gydnabyddus â hi, ac yn ei theithio yn mlaen yn hynod o rwydd.

3. Yn y testyn y mae yn dangos y ffordd yn mhellach nag yr oedd ei ffordd ef ei hun yn cyrhaedd; ac mor anwybodus ydyw yn ei chylch a hynod mor drwsgl y mae yn ceisio ei cherdded. Y mae yn dyfod at riniog bywyd tragwyddol ac yn tynu ei draed yn ol yn lle camu drosti.

4. Mae yn cael cynyg ar y ffordd i'r bywyd a'r ffordd fwyaf anrhydeddus, sef trwy fod yn ddysgybl i'r Iesu. Mor urddasol a fuasai ei enw heddyw, ac mor ddedwydd a fuasai yntau, pe y derbyniasai y cynyg yn llawen a diolchgar.

"Gwerth yr hyn oll sydd genyt, a dyro i'r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi." Dyna yr unig wall, yr unig ddiffyg—dim ond "un peth yn ddiffygiol." Y mae rhyw un peth y rhaid i bawb ei orchfygu i'r dyben o etifeddu bywyd tragwyddol. Rhaid i bob dyn dori dros rhyw un peth i gytuno â thelerau bywyd tragwyddol, ac y mae yr un beth hwnw yn fwy na phobpeth arall yn nghyd. Un peth sydd yn damnio, a gorchfygu yr un peth hwnw a dry yn fywyd byth i'r dyn.

Dyma y geni drachefn y mae yr Arglwydd Iesu yn son am dano wrth Nicodemus—gwneud i fynu yr un peth ydyw. Dyma y porth cyfyng ag y dylem ymdrechu myned i mewn trwyddo, un peth y gŵr ieuanc yma. "Haws yw i gamel fyned trwy grai y nodwydd ddur nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw,"—yrun peth sydd yn ei rwystro. Dyma borth nad all y camel ddim myned trwyddo, er iddo ymostwng o dan ei bwn; ac nid all efe ddim myned i mewn i'r ddinas trwy y porth hwn heb ei bwn. Porth y dynion ydyw hwn ac nid y camelod, fel hwnw yn Jerusalem gynt. Y dyn sydd i fyned i mewn trwyddo; nid y dyn a'i ffarm, a'i siop, a'i fasnach, na'i weithredoedd da. Nage, dyn a'i fywyd, a dim arall. Os myn y dyn a'i gamel fyned, y mae yn rhaid iddo droi at rhyw borth arall.

Dyma borth bychan y Cristion yn Nhaith y Pererin. Fe droes Cyndyn yn ol cyn ei weled, ac fe ddigalonodd Meddal yn y gors, aeth yn rhy Feddal i ddyfod at y Porth. Bu Cristion ei hun mewn cryn drafferth i gyflawni yrun peth. Ac wrth y Porth yma y bu Trugaredd, morwyn Cristiana, yn petruso; ac oherwydd gwendid i gamu dros yrun peth, yn mron a llewygu.

Nid oes dim modd dyfod i borthladd yr efengyl heb dori dros y bar yma, ac y mae llawer yn methu wrth geisio ei groesi. Fel y dywedai tad y bachgen yr oedd yspryd mud ynddo wrth yr Iesu, "Os gelli di ddim, cymhorth ni, gan dosturio wrthym." "Os gelli di gredu," meddai y Gwaredwr, "pob peth a all fod i'r neb a gredo." "Yr wyf fi yn credu, O! Arglwydd; cymhorth fy annghrediniaeth i" ebai yntau. Fel pe dywedasai, "Yr wyf wedi hwylio cyn belled ag y gallaf, ond y mae arnaf ofn y bar, ac yr wyf yn ymddiried fy llong i ti fel pilot i ddyfod drosodd, ac i'w hwylio i'r porthladd, "Cymhorth fy annghrediniaeth." Y mae yn rhaid croesi y bar wrth gychwyn ar y fordaith, yn ogystal ag wrth ddyfod i mewn i'r harbour. Ac ond i ni edrych ar oes grefyddol dyn fel mordaith, y mae yn rhaid croesi y bar wrth gychwyn allan i'r môr. A dyma lle y methodd y gwr ieuanc hwn, ac oherwydd hyny yr ydym yn ei adael fel hen long, neu gwch, yn braenu wedi haner suddo mewn rhyw gornel yn y porthladd, wedi methu troi allan, ac am hyny yn ddiddefnydd hollol. Mae yn rhaid fod rhyw un peth mawr ar gychwyn pob un ar ol yr Iesu, er na fydd hyny ddim mwy na digon i gychwyn; ond dyma y peth sydd yn eisiau ydyw croesi y bar i'r mor i ddechreu y fordaith.

Gwelwn Abraham, ar alwad Duw, yn gadael ei wlad, "Trwy ffydd, Abraham, pan y'i galwyd, a ufuddhaodd;" ac yr oedd yr un weithred hono o ffydd yn yr Arglwydd, yn nerth iddo at bob amgylchiad wedi hyny.

Felly Moses, fe wnaeth yntau lawer o bethau hynod iawn trwy ffydd yn yr Arglwydd; ond dyma yr un peth a roes gychwyn ynddo at yr holl bethau eraill, "Trwy ffydd, Moses, wedi myned yn fawr, a wrthododd ei alw yn fab merch Pharaoh. Gan ddewis yn hytrach oddef adfyd gyda phobl Dduw, na chael mwyniant pechod dros amser." Yn y tro yma yr aeth dros y bar; ac wedi hyny y mae yn gadael yr Aipht, yn gwneud y Pasg, ac yn myned trwy y môr; ond y ffydd gyntaf ydoedd yr un peth y gwnaeth ei ffordd drwyddo, ac y derbyniodd ynddo nerth at y pethau eraill.

Y mae Caleb a Josua hefyd yn egluro yr un gwirionedd. Fe fawrhaodd yr Arglwydd y dynion hyn yn fwy na neb a aeth allan o'r Aipht; ond fe sicrhawyd y llwyddiant a'r ffafrau mawrion a gawsant trwy un peth, sef trwy sefyll mewn ffydd yn yr Arglwydd, pan yr anfonwyd hwy i yspio gwlad Canaan. Safasant yn erbyn y deg eraill o blaid y gwirionedd; ac yn y tro hwn, yr oeddynt wedi gorchfygu yr un peth. "Yr amser a ballai i ni fynegi " am luoedd eraill a lwyddasant i wneud yr un peth; ond y mae genym hefyd esamplau difrifol o ddynion wedi methu mewn un peth, ac y mae eu coffadwriaeth yn rhybudd arswydus i ni byth.

Methu gorchfygu yn y cyntaf, fel y gwr ieuanc hwn, a wnaeth Saul brenin Israel. Hen blentyn mawr oedd Saul yn pwyso ar Samuel, fel Iuddew yn pwyso ar y pared. Yn ei anesmwythdra byrbwyll, fe anturiodd offrymu poeth offrwm i'r Arglwydd, ac y mae Samuel yn dweyd wrtho mai y pryd hwnw yr oedd Duw yn myned i'w sicrhau ar orseddfainc Israel; ond fe fethodd yn y tro, a chamgymerodd mewn un peth. Mae yn cael cynyg cyffelyb drachefn, wrth ddinystrio Amalec, ond fe gollodd ei olwg ar yr un peth, ac arbed y goreu a wnaeth ef y tro hwnw. Syrthio ar ei gleddyf a fu ei ddiwedd yn nghanol y rhai dienwaededig, wedi colli y frwydr. Nid oes dim enill wedi colli yn yr un peth.

Nid ydyw yr un peth yn beth cyhoeddus ac amlwg bob amser; ond mae y peth hawsaf i'w adael ar ol yn wastad. Yr oedd gan y morwynion ffol lamp, ac olew yn hono, a thân ar yr olew, a'r lamp yn cyn eu cystal a lamp y morwynion call. Ond llestr ac olew ynddo yn y llaw arall oedd yn eisiau. Yr oedd yr un peth, erbyn y waedd haner nos, wedi ei esgeuluso. Yr oedd y gwr a ddaeth i'r briodas wedi gwneud llawer, wedi cerdded ffordd bell, a cherdded o hyd y nos, a gadael ei amgylchiadau gartref, ac wedi rhagori ar lawer o'i gymydogion; ond yr oedd, er hyny, yn ddiffygiol yn yr un peth.

Fe geir lluaws yn dyfod yn mlaen hyd nes cyrhaedd yr un peth, ac yna yn troi i'r ffordd lydan, gam. Felly yr oedd Herod gydag Ioan yn ei wrando ef yn ewyllysgar. "Canys Herod oedd yn ofni Ioan, gan wybod ei fod yn wr cyfiawn, ac yn sanctaidd; ac a'i parchai ef: ac wedi iddo ei glywed ef, efe a wnai lawer o bethau, ac a'i gwrandawai ef yn ewyllysgar." Ond pan ddaeth at yr un peth, fe gauwyd y pregethwr yn y carchar; ac yn lle tori pen yr un peth, fe dorwyd pen Ioan yn y carchar. Gwaith caled iawn i lawer ydyw gwneud i fynu yr un peth. Tynu ymaith y llygad de a thori y fraich dde a'r troed de—tori aelod er mwyn arbed yr holl gorph—yr un peth. "Byddwch esmwyth er fy mwyn i wrth y llanc Absalom;" ond efe oedd yr un yr oedd yn rhaid ei gael i'r dderwen a than y garnedd i gael heddwch yn Israel. Yr un peth yma sydd yn damnio dynion. Y "fantell Fabilonig dêg, a dau can sicl o arian, ac un llafn aur," &c. Dyma gostiodd ei fywyd i'r dyn, ac i amryw o feibion Israel, yr un peth.

Yr oedd y cynyg yn uchel i'r gwr ieuanc yma"Gwerth yr hyn oll sydd genyt, a dyro i'r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi." Gosodir Crist a hoff eilun y dyn, un yn mhob pen i'r glorian, ac y mae Duw a mammon yn ymladd am yr uwchafiaeth ar faes ei galon. Gwaith pwysig mewn teyrnas ydyw newid brenin—taflu un brenin oddiar ei orsedd a choroni brenin arall. Y mae newid llywodraeth yn chwyldroad mewn gwlad. Aiff yn chwyldroad yn yr enaid pan ddelo un cryfach na'r cryf—arfog "arno a'i orchfygu," gan ei droi allan o'i neuadd. Rhaid cael gras i'r llywodraeth yn lle pechod, heb hyn fe fydd yr un peth yn ddiffygiol." Curo fydd ar furiau y ddinas hyd nes y ceir pen Seba dros y mur. Efe ydyw yr un peth.

Yn ddystaw y try y glorian yn fwyaf cyffredin—"Efe a aeth yn athrist." Beth a ddywedodd? Nid oes ganddo ddim i'w ddweyd yn yr achos. Aiff ymaith heb ffarwelio na diolch am y cynyg. Y mae yn colli bywyd tragwyddol yn y dystawrwydd am un peth. Ochr wan ydyw ochr y dyn euog. Nis gall ddal i siarad. Yr oedd y gŵr ieuanc yma yn siarad fel pistyll melin nes yr aed at yr un peth; ond fe glodd hyny ei wefusau ar unwaith. Fel y gŵr heb y wisg briodas, "Ac yntau a aeth yn fud," medd yr hanes, heb yr un gair i'w ddweyd dros ei ymddygiad. Ddyn anwyl, a fydd absenoldeb un peth yn peidio a dy wneud yn fud byth?

Yr oedd canolbwynt crefydd y gŵr yma o'i le. Nid oedd dim lle i'r Ceidwad yn ei grefydd. Am wneud da ac nid credu nid credu yn yr unig Un sydd yn dda yr oedd. Y mae yn planu y pren a'i wraidd i fynu. Nid oedd dim lle agored i dderbyn yr Iesu, ac ni wna yr Iesu yn unman ond yn gareg sylfaen. Nid Un i fod rhywle yn yr adeilad ydyw y "maen profedig." Na, careg sylfaen neu ddim.

Efe "a aeth ymaith yn athrist." Y mae yn troi cefn ar y Ceidwad heb enill. Nid ydyw y daith wedi ateb y dyben. Mae y ffrwyth yn rhy uchel ar bren y bywyd iddo ef allu ei gyrhaeddyd, ac nid all roddi pethau y byd yma o dan ei draed er mwyn dringo i ben y garnedd i ymaflyd yn y ffrwyth. Nid allai feddwl am werthu y cwbl a rhoddi. Gwerthu a chadw oedd ffordd ydyn. Efe "a aeth ymaith yn athrist," am fod y pris yn rhy uchel. Ni all neb dderbyn trysor yn y nef heb werthu. Fe gychwyna ambell un weithiau heb werthu y cwbl oll. Felly yr oedd gwraig Lot; yr oedd ganddi rywbeth ar ol yn fwy nag o'i blaen; a dyna yr achos fod ambell un yn troi yn ol ac yn gwrthgilio yn y dyddiau hyn, heb werthu yr hyn oll sydd ganddynt y maent.

Nid pryn y trysor yn y nef a ddywedir, ond "A thi a gei drysor yn y nef. Gwerth," "a thi gei. Dyma delerau yr efengyl, "Ti a gei;" "a thyred, canlyn fi." Nid oes dim lle i'r nefoedd roi, nes i'r dyn werthu, Gwerth, er mwyn i'r nefoedd gael lle i roi. Gwerth, y mae y Gwr a'r trysor yma i'w roi. Pa faint sydd rhyngwyf a chael y trysor yn y nef? Hyny sydd rhyngot a gwerthu yr hyn oll a feddi. "Yr hyn oll." Yr haner? Nage, yr hyn oll," i ganlyn yr Iesu. Treia hi yn dlawd am unwaith. Y mae yn rhaid i râd ras dy gael di yn dlawd cyn y medr wneud dim ohonot. Ond pe bae gras yn dy gael di yn dlawd, fe wnae bendefig y nef ohonot cyn pen dau funyd. Pa faint o bobl sydd yma wedi bod heb ddim? Hyny o bobl wir gyfoethog sydd yma. Nid oes ryfedd fod ambell un yn bur ddiras; ni welodd gras y nefoedd mohono erioed ond yn wr mawr. Pe cae trugaredd râd di at y drws i gardota, hi a'th wnai yn wr boneddig yn y fan. Awn yn mlaen heb ddim, gan gyfrif pob peth yn dom ac yn golled er mwyn enill Crist.

1864.

Nodiadau

[golygu]