Neidio i'r cynnwys

Cofiant David Davies, Bermo/Y Cynghor

Oddi ar Wicidestun
Mynediad i mewn i dragwyddol deyrnas Cofiant David Davies, Bermo

gan William Jones, Lerpwl

Cynwysiad

Y Cynghor[1]

A draddodwyd yn y Gwasanaeth Ordeinio yn Nghymdeithasfa Llangollen, Mehefin, 1873.

ANWYL FRODYR,—Oddiar yr ystyriaeth fy mod yn fwy priodol i dderbyn nag i roddi Cynghor, yr wyf yn codi i fynu yn wan a chrynedig. Ond gan i'r Gymdeithasfa yn Llanidloes fy mhenodi i sefyll fel hyn yn "lle Crist," ac yn enw holl eglwysi Crist yn Nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngogledd Cymru, ar yr adeg arbenig hon, dymunaf am gymhorth Yspryd yr Arglwydd i ddweyd gair a fyddo yn fuddiol. Os ydyw yn ddoeth ac yn fanteisiol nodi ar ryw ran o'r Ysgrythyr yn fwy na'i gilydd, dymunaf eich sylw at 2 Timotheus iv. 2:—

Pregetha y gair; bydd daer mewn amser, allan o amser; argyhoedda, cerydda, anog gyd â phob hirymaros ac athrawiaeth."

Dyma yr epistol diweddaf, a chynghor diweddaf yr Apostol i Timotheus. Mae efe wedi bod yn yr epistol hwn, ac yn yr epistol o'i flaen, yn cynghori llawer ar Timotheus, gan gydnabod ei gymhwysderau a'i fanteision. Ac i raddau helaeth, fy anwyl frodyr, yr ydych chwithau yn gyfranog o'r un manteision.

Un fantais y mae yn ei nodi oedd, ei fod wedi ei fagu yn ngeiriau y ffydd: "Ac i ti er yn fachgen wybod yr Ysgrythyr lan." Yr oedd hyn yn fantais i Timotheus, nid yn unig fel Cristion, ei fod yn hyddysg yn ngair y gwirionedd, ond hefyd fel gweinidog yr efengyl. Yr oedd y diweddar Barchedig a dysgedig Simon Llwyd o'r Bala yn dweyd wrthyf, "Llafuriwch chwi am fod yn Ysgrythyrwr da, o ran nis gall neb fod yn dduwinydd da heb fod yn Ysgrythyrwr da; a rhaid bod yn Ysgrythyrwr da i fod yn bregethwr da." Fe ddywedir fod Whitfield yn fwy medrus i ddefnyddio y Beibl nag oedd Garrick, y chwareuwr, i ddefnyddio Shakespeare.

Mae yr Apostol yn cydnabod hefyd fod Timotheus yn meddu "ffydd a chydwybod dda"—"Gan fod genyt ffydd a chydwybod dda." "Y ffydd ddiffuant sydd ynot ti, yr hon a drigodd yn gyntaf yn dy nain Lois, ac yn dy fam Eunice, a diamheu genyf ei bod ynot tithau hefyd." "Eithr bydd yn esiampl i'r ffyddloniaid mewn gair, mewn ymarweddiad, mewn cariad, mewn ysbryd, mewn ffydd, mewn purdeb." "Ffydd a chydwybod dda:" cydwybod yn cael ei chadw yn "ddirwystr." Mae un o'r tadau gynt, wrth sylwi ar y geiriau, "Geiriau y doethion sydd megys symbylau, ac fel hoelion wedi eu sicrhau gan feistriaid y gynulleidfa," yn dweyd fod pregethwr yn debyg i saer yn curo hoel i fwrdd caled. Digwydd weithiau na bydd ganddo hoel o werth; pregethwr yw hwnw yn amddifad o bregeth. Un arall sydd a chanddo hoel, ond heb forthwyl: pregethwr heb ddawn i draddodi yw hwnw. Mae arall gyda hoel a morthwyl, ond heb ebill i dyllu y bwrdd o flaen yr hoel: pregethwr heb gymeriad da ydyw hwnw. Un arall sydd a chanddo yr holl bethau hyn, eto gyru yr hoel yn afrwydd y mae, am nad oes ganddo olew i drochi yr hoel ynddo: pregethwr yn fyr o'r eneiniad ar ei ysbryd ydyw hwnw drachefn. Ond nodai un arall oedd fwy anhapus na'r cwbl; un yn meddu hoel a morthwyl da, ond pan fyddai yn amcanu taro yr hoel yr oedd yn taro ei fŷs yn wastad: byddai yn taro yn lled galed weithiau, ond taro ei fŷs y byddai. Yr hyn yr oedd y pregethwr yn ei gondemnio mewn eraill, yr oedd efe ei hun yn euog ohono. Bydded genych ffydd a chydwybod dda." Cymhwysder arall y mae yr Apostol yn gydnabod fod Timotheus yn ei feddu oedd, mesur o ddawn y weinidogaeth, "Yr ydwyf yn dy goffhau i ail enyn dawn Duw yr hwn sydd ynot." "Nac esgeulusa y ddawn sydd ynot." Yr oedd amryw ddoniau yn cael eu golygu gan yr Apostol yn y geiriau, ond yn eu plith ac yn benaf, dawn y weinidogaeth. Yr ydwyf yn tybied fod dawn neillduol i'r weinidogaeth: dawn i bregethu. Y mae yn gysylltiedig â dawn i weddio a chynghori; a lle mae mesur helaeth o ddawn ac ysbryd gweddi, y mae y ddawn i bregethu. Mae y ddawn yma yn cynyddu yn y gwaith. A lle y byddo dawn ac ysbryd y weinidogaeth, y mae yn gorchfygu pob rhwystrau ac anfanteision. Pe byddai un yn safn—drwm a thafod—drwm ac atal dweyd arno, y llais yn grug ac aflafar, a'r " ymadrodd yn ddirmygus," eto o dan eneiniad yr ysbryd hwn, y mae pob anfantais a rhwystr yn cael eu gorchfygu, a'u gorchfygu i'r fath raddau weithiau ag y gallai rhai feddwl mai manteision ydynt yn hytrach nag anfanteision, fel y dywedai Eben Fardd am John Elias,

'R oedd hyd yn nod ei atal dywedyd
Yn gyfwng o hyawdledd cu;

ac fel y mae y diweddar Barch. John Hughes yn coffhau ei ddywediad am dano yn Methodistiaeth Cymru: "Yr oedd yn feistr arno ei hun, yn feistr ar ei fater, yn feistr ar ei lais, ac yn feistr ar y gynulleidfa." Yr oedd ysbryd a dawn y weinidogaeth wedi ei wneud yn feistr ar bobpeth. Mae y ddawn yma fel gorlifiad llawer o ddyfroedd ar ben y goriwaered, yn mynu ei ffordd yn mlaen trwy y naill a heibio i'r llall, a chan symud y peth arall, ac yn fuan iawn yn tori gwely neillduol i'w redfa ei hun. Felly mae'r ddawn yma yn y tywalltiad helaeth ohoni ar yspryd y pregethwr. Hi a fyn ei ffordd; ac heblaw hyny, fe fydd ganddi ei ffordd ei hun.

Yn yr adnod flaenaf o'r bennod hon, mae yr Apostol yn cymeryd Timotheus gerbron Duw, a'r Arglwydd Iesu Grist, a cher ei fron yn ei ymddangosiad a'i deyrnas, yr hwn a farna y byw a'r meirw, ac yn gorchymyn iddo, ie, yn ei dynghedu, yn debyg fel y gwnaeth Hamilcar â Hannibal ei fab pan yn fachgen naw mlwydd oed; aeth âg ef at allor y duwiau, ac a'i tynghedodd na byddai iddo byth lesghau yn ei elyniaeth at y Rhufeiniaid. A gelyn annghymodlawn a fu Hannibal. Felly y mae yr Apostol Paul yma yn tynghedu Timotheus gerbron Duw a Iesu Grist. Ei dynghedu i ba beth meddwch. Ei dynghedu i " bregethu." Felly y dymunwn inau dynghedu pob un ohonoch chwithau yn ol amcan y geiriau a ddarllenwyd, "Pregetha y gair," &c.

"PREGETHA." Dyma ordinhad benaf yr eglwys. Nid pregethu heb weddio, canu, darllen, cynghori, dysgu, a gweinyddu sacramentau o fedydd a Swper yr Arglwydd; ond yn mlaenaf ac yn benaf oll, "pregetha y gair." Y pregethu grymus, effeithiol sydd wedi dwyn ein cenedl ni i'r hyn ydyw, a'r pregethu a alwodd lawer o bethau eraill i fod: y cyfarfodydd eglwysig a'r cyfarfodydd gweddi, yr Ysgol Sabbothol, y Feibl Gymdeithas, y Cymdeithasau Cenadol, a'r cymdeithasau i wrthweithio annghymedroldeb, a'r cyffelyb; ni buasai y pethau hyn o gwbl onibae am y pregethu. A'r pregethu raid eto eu cynal mewn bod. I'r efengyl yn yr ordinhad o bregethu yn benaf y mae ein gwlad yn ddyledus am bob daioni moesol a chrefyddol sydd o'i mewn. Dyma hefyd yn benaf yr hyn y mae eglwysi ein gwlad yn sychedu am fwy ohono. Mae newyn a syched am fugeiliaeth fwy manwl, cyson, a thrwyadl; ac y mae amgylchiadau yr achos ac ansawdd yr amseroedd yn galw yn uchel am hyn, ac y mae lluaws yr aelodau yn yr eglwysi yn deall beth a ddylai Israel wneud gyda hyn, i raddau mwy neu lai, drwy yr holl siroedd. Ond nid bugeiliaeth heb y pregethu a ddymunir, eithr bugeiliaeth mwy manwl a chyson yn nghyda mwy o bregethu—mwy o bregethu ar y Sabbothau a dyddiau gwaith, mwy o bregethu nerthol ac effeithiol. Rhaid wrth bregethu fel yr eiddo Whitfield a'r bugeilio fel yr eiddo Wesley i wneud gwaith efengylwr a chyflawni y weinidogaeth: bugeilio y defaid a phorthi yr wyn; ac y mae y naill a'r llall yn fantais i ysbryd a phrofiad y pregethwr. Wrth fugeilio caiff lawer o ddefnyddiau a chyfarwyddyd at y gwaith o bregethu.

Mae pobpeth a berthyn i'r pregethwr i fod i'r dyben o bregethu; pob mantais y mae wedi ei chael a phob peth a all gael mewn dysg a phob manteision, mae i gyflwyno y cwbl ar allor y weinidogaeth. Y pregethwr ydyw i fod yn mhob man; llygaid y pregethwr yn gweled, a chlust y pregethwr yn clywed, côf y pregethwr a myfyrdod y pregethwr—pobpeth berthyn iddo i fod yn bethau y pregethwr. "Nid yw yr hwn sydd yn milwrio yn ymrwystro a negeseuau y bywyd hwn, fel y rhyngo fodd i'r hwn a'i dewisodd yn filwr." Nid masnachwr, amaethwr, nac unrhyw neges arall, ond milwr. A beth bynag y mae yn ymdrafferthu âg ef, y mae hyny er mwyn rhyngu bodd i'r hwn a'i dewisoedd yn filwr." Milwr ydyw i fod yn mhob peth ac yn mhob man. Felly yr oedd yr Apostol ei hun. "Milwrio milwriaeth dda" oedd ei amcan, "ymdrechu ymdrech deg," "gweinidog da i Iesu Grist." Pa un bynag ai edrych ar y campwr ar y mynydd, ynte y llafurwr yn y dyffryn, neu y rhyfelwr dan arfau yn y maes, neu y caethwas yn y tŷ, y dinesydd yn y ddinas, neu y morwr yn ei long, neu ai edrych i fynu i'r nefoedd, ynte i lawr ar y ddaear, neu o tan y ddaear, y mae yr Apostol yn edrych ar y cwbl â llygad y pregethwr, ac yn defnyddio y cwbl at ei wasanaeth fel y cyfryw.

Ond paham y soniaf am nag apostol neu efengylwr mewn un wlad neu oes? Edrychwn ar yr Athraw Mawr ei hun, "yr hwn a gerddodd oddiamgylch gan wneuthur daioni," gyda llygad y pregethwr yn sylwi, clust y pregethwr yn gwrando, a chalon y pregethwr yn teimlo. Mae pobpeth y pregethwr yn y Person berndigedig hwn. Mor fanwl yr oedd wedi darllen yr Ysgrythyrau ac yr esbonia y gyfraith yn ei bregeth ar y mynydd! Yr oedd yn treiddio i lawr at egwyddorion digyfnewid sancteiddrwydd a gwir foesoldeb. Yn ei atebion i'r Phariseaid a'r Saduceaid, yr oedd wedi sylwi yn graff a manwl, fel yr oeddynt yn cywilyddio ger ei fron, "Ac ni feiddiodd neb o'r dydd hwnw allan ymofyn âg ef mwyach." Fel pregethwr edrychai Crist ar y maes ac ar yr arddwr yn aredig, yr hauwr yn hau ei hâd, a'r hâd da, a'r efrau a hauedd y gelyn-ddyn, y ddau yn cyd-dyfu, y sylw gan y gweision, y meusydd yn wynion i'r cynhauaf, y medelwyr yn casglu y gwenith, ac yn rhwymo yr efrau, yr ysgubau, y wyntyll a'r nithiwr. Yr oedd yr Arglwydd Iesu yn edrych fel pregethwr ar y cwbl. Dyna y bugail drachefn a'i ddefaid, y defaid yn adnabod llais y bugail, ac yn ei ganlyn; y gorlan, y drws, a'r drysawr yn agoryd, y lleidr a'r yspeiliwr yn dringo ffordd arall, amcan y lleidr a'r yspeiliwr, sef lladd a dyfetha; y gwas cyflog, yr hwn nid eiddo y desaid, yn ffoi; y bugail yn eu harwain i mewn ac allan, y gwahanol ddeadelloedd yn cael eu casglu ar ddiwedd yr haf, a phob deadell o dan ofal yr un bugail yn un ddeadell fawr. Y winllan hefyd y gwinllanydd a'r llafurwyr a'u cyflogi i'r winllan; gosod y winllan i lafurwyr, a rhan o'r ffrwyth yn ardreth, a'u canghenau a'u triniaeth, a'r ffigysbren yn y winllan a'r driniaeth pan yn ddiffrwyth. Edrychodd yr Arglwydd Iesu ar y pethau hyn oll, a gwnaeth ddefnydd ohonynt fel pregethwr. Yn gyffelyb gyda'r môr a'r llongau, y pysgodwyr a'u rhwydau, a'r pysgod, pa un bynag ai bychain ai mawrion, ai drwg ai da; pysgota gyda rhwyd, neu bysgota gyda bâch, a'r rhwyd yn "casglu o bob rhyw beth." Ac am y farchnad, yr oedd yr Iesu yn gwybod am bris hyd yn nod aderyn tô; ac fel y mae Bengel yn sylwi, yr oedd yn gwybod pan oedd ei bris yn codi: yr oedd wedi clywed y plant yn y farchnad yn llefain ar eu cyfeillion, a sylwi ar y "marchnatwyr yn ceisio perlau teg," ac ar y cyfnewidwyr arian yn eu derbyn, ac yn mhen amser yn eu dychwelyd gyda llôg. A gellir nodi hefyd y swper mawr, priodas mab y brenin, y ddafad a gollasid, a'r dryll a gollasai gwraig, "mab ieuengaf yn casglu y cwbl yn nghyd, ac yn cymeryd ei daith i wlad bell;" yr oedd y pethau hyn oll, a llawer mwy, yn bethau oedd yn bod ac a allasai fod yn arfer yr oes a'r wlad hono. Ac yr oedd yr Arglwydd Iesu yn edrych ar y cwbl ac yn eu defnyddio i'w amcan fel pregethwr. Y mwyaf tebyg i'r Arglwydd Iesu eto, hwnw yw y goreu. Fe ddywedir fod Solomon wedi llefaru tair mil o ddiarhebion, a bod ei ganiadau yn fil a phump. "Llefarodd hefyd am brenau a'r cedrwydd yn Libanus, hyd yr isop a dŷf allan o'r pared; ac efe a lefarodd am anifeiliaid, ac am ehediaid, ac am ymlusgiaid, ac am bysgod." Ond "wele un mwy na Solomon yma," "yr hwn a esgynodd i'r mynydd; ac wedi iddo eistedd, ei ddysgyblion a ddaethant ato, ac efe a agorodd ei enau, ac a'u dysgodd hwynt, gan ddywedyd." Dyma y pregethwr, "ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn." Dylai yr efengylwr wneud ei holl waith a'r gweinidog gyflawni ei weinidogaeth; ond prif waith yr efengylwr a'r gweinidog ydyw pregethu.

Yn nesaf, cawn yn y testyn yr hyn sydd i'w bregethu, sef y "gair.""Pregetha y gair;" yr holl air. Nid seryddiaeth, na daearyddiaeth, na morwriaeth, nac athroniaeth, na gwleidyddiaeth, ond y "gair." Y mae pob peth o'r nefoedd i'r ddaear, a than y ddaear, at wasanaeth y pregethwr i bregethu "gair y ffydd;" gair y deyrnas;" "gair y bywyd;" "gair y cymod; " gair yr iachawdwriaeth; " gair yr efengyl;" "gair Crist;" "gair Duw." Dyma y gair yr ydych i'w bregethu. Chwi ellwch draddodi cynghor, anerchiad, araeth, darlith, ar rhyw bethau eraill; ond pan yn pregethu, cofiwch mai y gair sydd i'w bregethu. Mae Duw am i ninau "fawrhau ei air uwchlaw ei enw oll." Fel y dywedai y diweddar Barch. James Richards, "Fe gaiff y gwirionedd a lefarodd Duw yn ei Fab wisgo enw y Mab; 'a'r gair yr hwn oedd o'r dechreuad gyda Duw,' wisgo y gair; oblegyd ynddo ef yr oedd bywyd, yr hyn sydd yn y gair hefyd." "Bywiol yw gair Duw a nerthol." Llythyren yw'r gyfraith, ond gair yw yr efengyl. Peth ar lechau ac ar bapyr yw'r llythyren, ond anadl bywyd yw'r gair. Nid oes dim gair lle nad oes bywyd. Ni fu gwirionedd yn enw ar Iuddewiaeth; ond fe fu Iuddewon am oesau yn disgwyl am y gair, a thyma fe, "Pregetha y gair."

Yn nesaf eto, mae y wedd neu y ffurf neu y dull i bregethu y gair yn cael ei nodi: Bydd daer." Mae y gair taer yn cael ei gyfieithu mewn rhai manau, dyfod arno" (Luc xxi. 1.). "A daethant arnynt hwy" (Actau iv. 6.). Mae hyn yn golygu ymosod; pregethu ymosodol. Ymosod i aflonyddu, i berswadio; ymosod ar annghrediniaeth, calongaledwch, anystyriaeth, ac annuwioldeb yn mhob ffurf. "Arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol, ond nerthol trwy Dduw i fwrw cestyll i'r llawr';" ymosod ar gestyll i'w bwrw i lawr. "Y rhai sydd yn aflonyddu y byd," yw yr hen enw ar y gwir bregethwyr. Dyma y pregethu "sydd yn troi y byd," pregethu ymosodol, dyfod ar ddynion a'u dal. "O hyn allan y deli ddynion;" gwaith ymosodol ydyw hwn. Mae yn debyg mai dyma y diffyg ynom y dyddiau hyn rhagor yr amser a aeth heibio; yr ydym yn cario yr achos yn mlaen yn llai ymosodol. Rhai yn ymosod oedd y Diwygwyr Protestanaidd, Wickliff a Huss, a Luther a Chalfin, a'r diwygwyr Methodistaidd, Whitfield Wesley, Harris a Rowlands, gyda y rhai oddiwrthynt hwy hyd heddyw a wnaethant lawer yn eu dydd. Felly y rhaid i chwithau hefyd wneud. "Ewch" ydyw y commission. Yr oedd gan y diwygwyr Methodistaidd feddwl mawr o bregethu mewn tai, ysguboriau, ar y ffyrdd a'r meusydd; ac fe ysgrifenai yr enwog Wesley yn fynych mai y pregethwr allan oedd yn dyfetha teyrnas y diafol. "Os mynwn ni andwyo teyrnas y tywyllwch, rhaid i ni droi allan i bregethu." A dyma yr amcan: er mwyn i'r achos fod yn ymosodol ar y werin gyffredin. Ac felly y dywed yr apostol yma, Bydd daer." Bydd daer" am wrandawyr; gwahodd pawb i wrando, a myned atynt i'r man lle y ceir hwynt.

"Bydd daer" am wrandawiad; y cwbl hyd y galler yn enillgar ac eglur. Pa ddyben gwrando os na byddwn yn deall yr hyn fyddo yn cael ei lefaru? Mae llefaru yn eglur yn un peth hanfodol er cael gwrandawiad; a llefaru yn ddifrifol. Mae pethau difrifol, pwysig, wrth gael eu llefaru yn ddifrifol, yn rhwym o gael gwrandawiad.

"Bydd daer" am dderbyniad i'r gaır: "Gwir yw y gair, ac yn haeddu pob derbyniad." Dywedir am y Parch. Daniel Rowlands, Llangeitho, y byddai yn ofidus iawn i'w feddwl os byddai yn ofni fod un oedsa wedi myned heibio heb i rywun o'r newydd gael ei ddychwelyd. Cymhellwch" neu dirgymhellwch hwy i ddyfod i mewn." Os mynwn lwyddo, mae yn rhaid i ffurf yr holl achos, ac yn arbenig y bregeth, fod yn ymosodol.

Y gair nesaf yn y testyn, sydd yn nodi allan yr amserau a'r prydiau i bregethu, sef, "mewn amser, allan o amser;" hyny yw, bob amser. Fe ddylai y pregethwr fod a'i bregeth yn barod ar bob adeg; pa un bynag ai mewn cyfleusdra ai ynte mewn annghyfleusdra; pa le bynag y caffo ddynion i wrando; fel y milwr yn barod dan arfau, neu yr heliwr â'i ddryll gyda'r ergyd yn barod pryd bynag y bydd yr aderyn yn codi; pregetha nos a dydd, Sabboth a dyddiau gwaith, " mewn amser, allan o amser." Mae y geiriau nesaf eto yn y testyn yn dangos yr amcan yn nglŷn â phregethu y gair: "Argyhoeddi, ceryddu, anog." Argyhoeddi" y tywyll a'r anwybodus, y caled a'r anystyriol. Ceryddu" y troseddwr a'r pechadur rhyfygus. "Anog" i edifeirwch a ffydd, a phob gweithred dda.

Eto, "gwna hyn gyda phob hir ymaros," parhau gyda'r gwaith er yn aflwyddianus, sefyll dros y gwirionedd yn wyneb pob cyfeiliornad. "Gyda phob hirymaros"—sefyll yn bybyr dros yr hyn sydd gyfiawn ac uniawn. Fel yr oedd Mr. Gladstone, y Prif Weinidog, yn adrodd hanesyn am deulu o Saeson yn amser y rhyfeloedd fu yn y deyrnas hon yn dymuno cael dysgu y gelfyddyd o ryfela; anfonasant am swyddog milwrol i ddyfod atynt i'w dysgu; ac fe aeth yntau, a rhoddodd amryw gyfarwyddiadau iddynt mewn byr amser am y modd i drin yr arfau. "Bellach," ebe efe, "mae y cwbl mewn un gair; pan eloch i'r maes, stand as a brick wall." Felly, meddaf, dros wirionedd, uniondeb, a chyfiawnder, sefwch, fy mrodyr, fel mur ceryg, ie, sefwch fel gwyneb y graig yn benderfynol ac eto yn dyner; mewn mwyneidd—dra doethineb." О, у tynerwch a'r llareidd—dra sydd yn ysbryd yr efengyl! "Mewn addfwynder yn dysgu y rhai gwrthwynebus." Yn y tynerwch toddedig, teimladol, y mae nerth gweinidog yr efengyl. Y fath dynerwch nawsaidd fel yr olew a'r mêl oedd yn y diweddar Barch. Henry Rees, ac eto y fath nerth nes peri fod y gallestr galed, afrywiog yn llyn dwfr ger ei fron! A dyna yr hybarch Daniel Jones, Llandegai, yn ei ddydd maith, llwyddianus iawn. Adroddir y bu y diweddar Barch. John Jones o Edeyrn yn foddion i ddychwelyd naw ugain yn sir Fon dan yr un bregeth. "Tri ugain am bob mil i Pedr," meddai ysgrifenydd yr hanes. Ond o holl bregethwyr effeithiol Gogledd Cymru yn yr oes a aeth heibio, yr wyf yn gostyngedig dybio, gyda golwg ar nifer y dychweledigion, fod yn briodol cyfeirio at Daniel Jones a dywedyd, "Ti a ragoraist arnynt oll." Wedi i bregethwr neu flaenor ddechreu yr oedfa, ac weithiau bregethu o'i flaen, pan y cymerai efe ei destyn wele bob peth mor dawel, dystaw, tyner, a meddalaidd, fel boreu tesog gyda'r wybren glir ar hirddydd hâf, heb un awel i'w theimlo nac un ddeilen o'r goedwig yn ysgwyd. Y mae yn dawel; ond yn y man y mae tawch i'w ganfod yn cyfodi uwchben, ac y mae yn hynod fwll; mae yn tewychu ar wyneb y ffurfafen; mae yn dylu, a chymylau yn ymgasglu ac yn duo. Ar hyn, dyma fellten yn llamu allan o'r cwmwl—un o fygythion gair Duw; yr oedd yn danllyd; yn y fan dyna daran drom, y mae pobpeth yn crynu; dyna fellten eto a tharan drachefn, a'r ffurfafen yn coch—wrido, y cymylau yn codi fel mynyddau y naill ar y llall, ac fel byddin ar ol byddin yn ymgasglu i faes y frwydr fawr; mae'r nefoedd yn rhuo, y ddaear yn crynu, y mynyddoedd yn siglo, a'r creigiau bron a chael eu bwrw i lawr. Y mae gloewon saethau bygythion Duw wedi dyfod ar y gynulleidfa; mae'r mamau a'r plant wedi annghofio y naill a'r llall; mae'r gwŷr a'r gwragedd wedi eu taro â syndod, a phob un gyda'i fater ei hun; nid oes neb trwy y gynulleidfa yn gwybod pwy sydd yn ei ymyl; mae calon pob dyn yn curo, ei gydwybod yn crynu; pawb mewn arswyd a braw. Ar hyn, dyma'r gwlaw yn disgyn yn ddefnynau breision, mawrion, "addewidion mawr iawn a gwerthfawr," yn hyfryd a thyner, fel y llefrith newydd odro, ac yn tywallt y bras—wlaw claear, cynes; mae y ddaear yn mwydo, pobpeth a phawb yn mwydo, pob llyn yn llenwi, pob nant yn llwydo, a phob afon yn gorlifo hyd y ceulanau; y taranau heb ddystewi yn hollol ond yn pellhau, a

Llais hyfryd rhad râs yn gwaeddi diangfa,
Yn nghlwyfau Mab Duw i'r euog mae noddfa.


Dyna y bregeth wedi myned heibio; a bellach mae y weddi dyner, lawn o gariad Crist, ac ar ol y weddi dyma y blaenor i fynu, a'i wyneb yn amlygu ei fod yntau wedi bod yn y dymhestl, a'i lais yn grynedig a thoddedig yn cyhoeddi "Seiat i fod ar ol canu." Yna'r canu—

Dyma Geidwad i'r colledig,
Meddyg i'r gwywedig rai.

Mae'r canu yn dyner: "Mae fel yr enaint gwerthfawr ar y pen yn disgyn ar hyd y farf, sef barf Aaron, yr hwn oedd yn disgyn ar hyd ymyl ei wisgoedd ef." Mae y canu eto wedi dystewi; ac yn bresenol, pwy a fedr fyned allan? "O, pa sut yr af fi," medd degau o galonau ar unwaith, "sut y codaf fy mraich i gyrhaedd fy het? Mae Duw yma; mae Crist yma; mae'r nefoedd yma. O, beth a wnaf fi? Yr wyf yn bechadur mawr, yr wyf yn dywyll, ond—

Er tywylled, pwy a ŵyr, os caf aros,
Na ddaw goleuni yn yr hwyr i ymddangos?
Grym i aros yn dy dŷ, Arglwydd, dyro."

Pwy sydd yma wedi aros? Mae yma amryw wedi aros: pump, deg, ugain, deg ar hugain, a mwy. Dyma oedfa i Daniel Jones! Nage, dyna eiliw gwan o oedfeuon Daniel Jones, a thair oedfa yn y dydd am dair wythnos. O ba ley daeth y fath nerth a dylanwad? O'r tynerwch: "argyhoeddi, ceryddu, anog, gyda phob hir ymaros;" ffrydiau "cariad Duw, yr hwn a dywalltodd Efe yn ein calonau trwy yr Yspryd Glân, yr hwn a roddwyd i ni." "Mellt sydd yn lladd," medd rhyw Sais; ie, mae'n wir, ond y mellt hyny sydd yn peri taranau a gwlaw hefyd. Mae rhyw fath o fellt nad oes na tharanau na gwlaw yn dilyn, a dreigiau y mae llawer o'r Cymry yn galw y rhai hyny. Ond mellt a tharanau a gwlaw taranau oedd mellt Daniel Jones, a'r cwbl yn codi o'r tynerwch teimladol ac ystyriol.

Y gair olaf o'r testyn ydyw y gair "athrawiaeth." Argyhoedda, cerydda, anog gyda phob hir ymaros ac athrawiaeth; " athrawiaeth iachus, athrawiaeth dda, yr hon a ddilynaist. Sefyll ar egwyddorion a thros egwyddorion; egwyddorion cedyrn ac annghyfnewidiol yn sylfaen y cwbl. Fel y dywedodd y diweddar Barch. John Hughes o Liverpool, ei fod wedi taro pan yn ieuanc ar gynifer o egwyddorion mawr, sefydlog, a digyfnewid. ac i hyny fod yn ddefnyddiol iddo, yn ei lafur cyhoeddus a dirgel, ar hyd ei oes. Mae y cwbl er athrawiaeth—yn "athrawus"—yn diweddu yn ymarferol; y cwbl i amcan a dyben teilwng. Mae pregeth ddiamcan fel y gôd a'r ffon dafl, heb un gareg i gyfarfod y cawr, neu, fel bwa heb un saeth, neu linyn pysgota heb yr un bâch arno, neu aradr yn myned i'r maes heb yr un sŵch iddi. Bydded y cwbl gan hyny i bwrpas teilwng.

Cadwer eich gwisgoedd yn wynion heb eu llychwino. Gwyn fyd yr hwn sydd yn gwylio, ac yn cadw ei ddillad." "Tydi, gan hyny, goddef gystudd megys milwr da i Iesu Grist." Hwyrach y gall temtasiynau cryfion ddyfod oddiwrth y byd yn ei olud a'i barch, wrth weled dynion mwy dyeithr, a diddysg, a llai eu manteision na chwi yn llwyddo, ac yn myned dros feddwl calon o gyfoethog, a chwithau a'ch teuluoedd yn byw, megys, ar ddogn dydd yn ei ddydd. Ond y pryd hwnw, cedwch eich golwg ar yr amcan: "Milwr da i Iesu Grist—rhyngu bodd i'r hwn a'ch dewisodd yn filwr," onide, fe wna yspryd y byd i'ch "mwynder ymado fel cwmwl y boreu, ac fel gwlith boreuol." Dywedai y Parch. Henry Rees y gellid gofyn am ambell un fel y gofynodd Ionadab i Amnon, mab Dafydd, "Ti, fab y brenin, paham yr ydwyt yn curio fel hyn beunydd? Ac Amnon a ddywedodd, 'Caru yr ydwyf fi Tamar, chwaer Absolom, fy mrawd."" Felly y gellid gofyn, Paham y mae ysbryd a phregethau a phobpeth ambell un yn curio fel hyn beunydd? Dyma fyddai yr ateb, "Caru yr ydwyf fy chwaer, yr hen ddaear." Cadwer chwithau rhag bydolrwydd.

Ac, feallai, y bydd ambell un yn edrych arnoch, fel y dywedodd Mr. Rees dro arall, gan ddisgwyl i chwi chwyddo fel yr oedd y barbariaid hyny wedi i'r wiber ddyfod allan o'r gwrês, ac yn ymaflyd yn llaw Paul, "eithr wedi iddynt hir ddisgwyl, a gweled nad oedd dim niwed yn digwydd iddo, hwy a newidiasant eu meddwl, ac a ddywedasant mai duw oedd efe." Felly, wedi hir ddisgwyl a gweled na bydd dim ymchwydd arnoch, eithr yn hytrach eich bod yn fwy gostyngedig ac ymroddgar i waith yr Arglwydd byddant hwythau yn newid eu meddwl, ac yn dweyd, "fod Duw yn wir ynoch."

Bellach, anwyl frodyr, dyweded pob un ohonoch yn ei galon yn ddifrifol, fel y Pen Bugail, "Y golledig a geisiaf, y darfedig a ddychwelaf, y friwedig a rwymaf, a'r llesg a gryfhaf." Y mae coron yn nghadw i'r rhai sydd yn ymdrechu ymdrech deg. A daw y dydd i'w derbyn. Dyma y cynghor yr ochr yma; ond gair cyntaf y cyfarchiad yr ochr draw fyddo, " Da, was da a ffyddlawn, buost ffyddlawn ar ychydig, mi a'th osodaf ar lawer, dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd." Boed i chwi yn ymddangosiad y Pen Bugail gael derbyn anniflanedig goron y gogoniant. Amen. Dywedwch chwithau, Amen; a dyweded pawb sydd yn bresenol, Amen; felly y byddo.

Nodiadau

[golygu]
  1. Ordeinid pedwar-ar-ddeg o frodyr ar y pryd.