Neidio i'r cynnwys

Cofiant David Davies, Bermo/Y Ddau Dŷ

Oddi ar Wicidestun
Tŵr y Pridd Cofiant David Davies, Bermo

gan William Jones, Lerpwl

Cytuno ar y Ffordd

PREGETH III.—Y Ddau Dŷ.

"GAN hyny, pwy bynag sydd yn gwrandaw fy ngeiriau hyn, ac yn eu gwneuthur, mi a'i cyffelybaf ef i ŵr doeth, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y graig:

"A'r gwlaw a ddisgynodd, a'r llifeiriant a ddaethant, a'r gwyntoedd a chwythasant, ac a ruthrasant ar y tŷ hwnw; ac ni syrthiodd: oblegid sylfaenesid ef ar y graig.

"A phob un a'r sydd yn gwrandaw fy ngeiriau hyn, ac heb eu gwneuthur, a gyffelybir i ŵr ffol, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y tywod:

"A'r gwlaw a ddisgynodd, a'r llifddyfroedd a ddaethant, a'r gwyntoedd a chwythasant, ac a gurasant ar y tŷ hwnw; ac efe a syrthiodd, a'i gwymp a fu fawr."—Mat. vii. 24-27.

Fe geir y geiriau hyn yn niwedd pregeth Iesu Grist ar y mynydd y bregeth fwyaf a draddodwyd yn y byd erioed. Dyma ddiweddglo y bregeth neu y cymhwysiad ohoni at y gwrandawyr. Mae yn rhanu y gwrandawyr i ddau ddosbarth, neu ddau gymeriad, ac y mae y gynulleidfa i gyd yn cael ei chynwys yn y dosbarthiad, sef "gwr doeth" a "gwr ffol." Y mae holl wrandawyr yr efengyl eto i'w rhanu fel hyn. Cyffelybir hwy gan yr Arglwydd Iesu i adeiladwyr tai—pob un yn adeiladu tŷ. Adeiladu tŷ ydyw gwrando y gair. Y mae pob gwrandawr o'r efengyl yn adeiladu tý, a thŷ iddo ei hun; ac y mae tŷ pob dyn yn un o'r pethau gwerthfawrocaf a fedd. Mae y tŷ a'r pethau sydd ynddo yn rhagori bron ar bobpeth. Yno y mae cysuron mwyaf y dyn a'i feddianau penaf, ac yno y mae ei gartref, ei deulu, ei gysgod, a'i amddiffyn. Castell pob un yw ei dŷ.

Yr oedd y tai hyn yn cael eu hadeiladu ar lanerch neillduol; ac yr oeddynt, fel pob tai, yn agored i dymhestl o wynt a gwlaw. A chyda hyny, yr oedd perygl llifeiriant gwyllt a chryf ar y tai yma, ac nis gwyddai neb pa bryd y deuai hwnw. Yr oedd hi felly yn arbenig yn ngwlad Canaan. Ar lanerch agored i gyfnewidiadau ac ystormydd disymwth yr ydym ninau yn adeiladu.

Yr oedd un peth yn perthyn i dŷ wedi ei adeiladu ar y llanerch yma oedd yn rhoddi gwerth ar bobpeth arall, sef sylfaen dda, a diffyg o hyn oedd yn gwneud pobpeth arall yn ofer. Ar ddydd y dymhestl a'r llifeiriant mawr, nid uchder na harddwch na maint y tŷ oedd y prif beth, ond y sylfaen. Y sylfaen hon, yn ol desgrifiad yr Athraw Mawr yn y fan yma ydyw ufudd—dod i'r efengyl. Dyma yr unig beth sydd yn peri fod bywyd o wrando yn ateb y dybengwneuthur y Gair—cymeryd iau Crist arnom a dysgu ganddo.

Mae y ddameg yn cynwys fod dau adeiladydd—un yn anystyriol am y lle yr oedd yn adeiladu ei dŷ, a'r llall yn meddwl am y perygl, ac yn ddoeth, yn darparu ar gyfer hyny. Ni a geisiwn edrych ar y gwahaniaeth rhwng y ddau, ac yn hyny y gwelwn y gwahaniaeth rhwng y gwrandawyr sydd yn ufuddhau i'r efengyl a'r hwn sydd yn gwrando ac heb wneuthur—y gwrandawyr yn unig. Daw y gwahaniaeth hwn i'r golwg mewn amryw o bethau:—

I.—Yn meddwl yr adeiladwyr.
II.—Yn eu gwaith.
III.—Yn y ddau adeilad.

I.—Mae y gwahaniaeth yn eu meddwl. Yma y cychwynodd pob gwahaniaeth arall. Diffyg ystyriaeth ydyw y cam cyntaf i ddinystr. Mae y naill wedi ystyried ei sefyllfa, a sefyllfa ei dŷ, a'r llall heb olygu dim ond heddyw, na darparu dim ar gyfer yr hyn a allai ddyfod, nas gŵyr pa mor fuan. Nid ydyw yfory a'i ystormydd i mewn yn ei gyfrif o gwbl. Dyma yr hyn y mae yr efengyl yn galw sylw pechadur ato yn gyntaf o bob peth—ei gyflwr a'i sefyllfa. Dyn heb ei ddeffro am ei gyflwr, y mae yn ddyn heb ddechreu byw yn dduwiol. Yr hyn a ddangoswyd i bererin Bunyan oedd fod y wlad yn myned ar dân. Dywedai wrth ei wraig fod eu dinas i gael ei llosgi â thân o'r nefoedd. Dyma bictiwr o ddyn yn cychwyn byth. Felly yr oedd y rhai a achubwyd ar ddydd y Pentecost, a cheidwad y carchar, a phob un arall byth er hyny—dynion wedi eu hargyhoeddi am eu cyflwr ac yn ystyried eu sefyllfa oeddynt. Y mae dyn wedi ei argyhoeddi yn gwneud pobpeth wedi hyny a'i olwg ar ei gyflwr.

Dyına yr achos o dawelwch dynion sydd yn ddiofal ac yn gyru yn mlaen, heb agoryd eu llygaid ar eu cyflwr a'u sefyllfa y maent. Y mae golwg ar y cyflwr y peth pwysicaf o bobpeth. Y dyn sydd yn gweled ei golledigaeth ynddo ei hun, nid oes dim a all ei ddyddanu nes gweled gobaith am ddiangfa. Wedi i ddyn gael golwg arno ei hun yn greadur colledig, y mae ar ddarfod am dano, a buasai wedi ei andwyo onibai i belydrau disglaer o drugaredd Duw ddisgyn arno—"gobaith da trwy ras." Dyma y ballast sydd yn cadw ei long rhag cael ei hysgubo gan dymhestloedd deddf Duw ac euogrwydd cydwybod i ddanedd creigiau dinystriol anobaith. Hefyd, y mae golwg ar ei gyflwr yn cario argraph ar ei bobpeth. Mae y dyn bellach a'i holl bethau yn cael eu dwyn yn mlaen o dan ddylanwad hyn. Y mae yn arswydo rhag ofn twyllo ei hun. Nid oes yna ddim gwaith bras yn myned i mewn i'r adeilad. Na, y mae yna ormod difrifwch yn ei gymeriad i redeg y gwaith.

II.—Yr oedd gwahaniaeth yn eu gwaith, ac o ansawdd y meddwl yr oedd hyny yn codi. Yr oedd rhyw fath o lafur yn perthyn i'r naill a'r llall; ond fod un yn myned i fyny yn unig a'r llall yn myned i lawr hefyd. Gwaith un i gyd yn y golwg a gwaith y llall yn ei bethau pwysicaf o'r golwg—"yr hwn a gloddiodd ac a aeth yn ddwfn." Ac am yr hyn yr oedd y naill yn rhagori ar y llall y sonir yma. Y mae gwaith mawr y dyn a gedwir mewn myned i lawr i chwilio am y sylfaen. Ac fe gynwys hyn:

1. Hunanymwadiad ac ymroddiad—"cloddio," dyna waith a hunanymwadiad a llafur yn nglyn âg ef. "Cloddio nis gallaf," meddai y goruchwyliwr annghyfiawn. Yr oedd yn waith rhy galed ganddo am fod moethau ei fywyd wedi ei andwyo—ei ddwylaw yn rhy feddalion a'i ysbryd yn rhy falch i ymaflyd yn y gaib a'r rhaw. "Os myn neb ddyfod ar fy ol i, ymwaded ag ef ei hun," medd y Ceidwad. Dyma y cam cyntaf ar ei ol.

2. Dyfal barhad a phenderfyniad—"A myned yn ddwfn." Y mae yn dal ati hi. Nid tori ychydig o wyneb y tir, ond "cloddio a myned yn ddwfn"—i lawr, heibio i'r ordinhadau a thrwy y cyflawniadau—i lawr, i lawr yn is, is.

3. Y mae yma gymdeithas â'r graig hefyd—"Ac a osododd ei sail ar y graig." Ni rydd i fynu nes taro yn y graig—clywed swn y graig; ac y mae swn y graig yn wahanol i swn maen neu gareg. "Ti yw y Crist Mab y Duw byw," dyna swn y graig yn hanes cloddio Pedr. "Fy Arglwydd a'm Duw," dyna Thomas eto wedi cloddio yn ddigon dwfn i glywed tinc y graig. "Fel yr adnabyddwyf ef a grym ei adgyfodiad ef, a chymdeithas ei ddyoddefiadau ef," dyna brofiad Paul mewn cymdeithas â'r graig. Y mae swn y graig yn nghrefydd lluaws ar hyd fryniau Cymru yma.

III. Yn y ddau adeilad hefyd ni gawn wahaniaeth mawr—un "heb sail" a'r llall "ar y graig." Mae diffyg y naill yn dyfetha pob rhagoriaeth sydd ynddo—" heb sail;" ac y mae rhagoriaeth y llall yn cuddio Beth pob gwaeledd sydd ynddo—" Ar y graig." bynag am uchder am harddwch—" heb sail." Y mae y tŷ wedi ei adeiladu yn ol y ffurf fwyaf ffasiynol ac yn ol y deddfau manylaf, ond "heb sail." Fe esgeuluswyd y peth pwysicaf wrth ei adeiladu. Y mae yn gysur i drigo mewn tŷ na fydd dim wedi ei esgeuluso wrth ei adeiladu. Os bydd rhywbeth wedi ei esgeuluso, y mae yn berygl iawn i hwnw fod y prif beth, fel y dyn "heb y wisg priodas." Fe ddaeth hwnw i mewn i dŷ'r wledd, ond fe ddaeth yno heb yr "un peth angenrheidiol," ac fe daflodd hyny ddiflasdod ar bobpeth a wnaed ganddo. Yr oedd diffyg y naill hefyd a rhagoriaeth y llall yn cario dylanwad mawr ar eu dyfodol. Fe ddaeth y gwahaniaeth mawr rhwng y ddau i'r golwg ar ddiwrnod yr ystorm a'r llifeiriant. Cyn hyny, gallesid dadleu fod y naill cystal a'r llall, ac hwyrach mai y tŷ ar y tywod oedd y goreu; ond fe eglurwyd y gwahaniaeth annhraethadwy oedd rhyngddynt ar ddydd y llifeiriant. Y mae ymddygiadau y dyn yn awr yn edrych yn mlaen. Y mae cyflawniadau y dyn yn bresenol a'u golwg ar dyfodol. Bydd yr hyn a wnaed gan y naill yn peri iddo gael ei gyffelybu i ddyn ffol am byth, a'r gwaith a gyflawnwyd gan y llall yn sefydlu ei gymeriad fel dyn doeth i dragwyddoldeb. Y mae gwrando geiriau Crist a chanlyniadau pwysig iawn iddo. Dy ymddygiadau at yr efengyl fydd yn setlo dy dynged yn mlaen, yn mlaen yn ddiddiwedd. Gwelwn

1. Fod yr Iesu yn y fan hon yn edrych ar bethau wedi i'r ystorm fyned heibio. I dynu darlun da, y mae yn bwysig yn mha le y saif yr arluniwr. Y mae Iesu Grist yn sefyll ar y làn draw i dynu y darlun hwn—y tu hwnt i'r llifeiriant a thranoeth yr ystorm.

2. Fod rhai heb fath yn y byd o dŷ. Dynion heb wrando yr efengyl, ac, yn wir llawer heb efengyl. Dyma rai heb gysgod o un math, yn agored i bob gwynt a drychin. Bydd y rhai hyn yn cael eu cipio ar flaen y llifeiriant.

3. Fod y rhai anufudd i'r efengyl wedi cael tŷ. Y maent wedi gwrando geiriau bywyd tragwyddol, a thrwy hyny wedi cael tŷ a llawer o ddaioni. Maent yn well dynion ac yn fwy eu gobeithion a'u cysuron hyd ddiwrnod yr ystorm; ond dacw y tŷ yn cael ei brofi. Y mae yn siglo ac yn crynu trwyddo yn y tywydd; a mwy na hyny, y mae yn dyfod i lawr yn garnedd—y ceryg mawrion a roed ynddo wrth wrando yr hen bregethwyr, yr adnodau y bu y dyn yn teimlo yn eu swn, yr argyhoeddiadau dwysion, a'r addunedau aml. Dacw y meini mawrion yn disgyn ar y preswylydd. Nid chwythu y tô ymaith. Na, y tô uchel, a'r trawstiau trymion, a'r muriau golygus, yn myned yn gandryll yn ngrym yr ystorm, a rhyferthwy y llifeiriant yn golchi ymaith y pridd coch, rhydd, sydd yn sail iddo. Nid cwymp wymp bychan, dibwys, fydd hwn, "Ei gwymp a fu fawr." Yr holl dŷ yn dyfod am ben y dyn.

4. Yr ufudd—dod sydd yn dal—gwneuthur y Gair a bery. " Y cloddio a myned yn ddwfn" fydd yn talu erbyn y diwrnod hwnw. Dim colled ar y graig. Er mor wael ydym ni, y mae y graig yn berffaith. Pa faint bynag o wendid sydd ynom ni, nid oes dim gwendid yn y graig. Y mae wedi ei phrofi ac wedi dal—"maen profedig" ydyw. Ymddiriedwn yn yr Iesu. Rhoddwn ei le ei hun i Grist yn ein crefydd —"Crist yn bob peth ac yn mhob peth." Crist mewn ffydd, Crist mewn proffes, Crist mewn buchedd. Derbyn yr Iesu a'i ddilyn. Mae y cwbl, yn y diwedd, i'w droi yn glod i'r Graig.

Ionawr 21, 1876.


Nodiadau

[golygu]