Neidio i'r cynnwys

Cofiant David Davies, Bermo/Y Gronyn Gwenith

Oddi ar Wicidestun
Y wraig ag ynddi ysbryd gwendid Cofiant David Davies, Bermo

gan William Jones, Lerpwl

Ffydd Noe

PREGETH VIII.—Y Gronyn Gwenith.[1]

"Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni syrth y gronyn gwenith i'r ddaear, a marw, hwnw a erys yn unig; eithr os bydd efe marw, efe a ddwg ffrwyth lawer."—Ioan xii. 24.

MAE yr Arglwydd Iesu yn llefaru y geiriau hyn am dano ei hun, Yr achlysur o'u llefariad ydoedd fod "rhai Groegiaid" wedi dyfod at un o'i ddysgyblion gan ddymuno ei weled. Yr oedd yr adeg yma, debygaf, yn dranoeth i'r diwrnod yr oedd wedi marchogaeth i Jerusalem, ac, fe ddichon, y diwrnod y bu yn y boreu yn melldithio y ffigysbren ddiffrwyth. Am y Groegiaid hyn, fe feddylir mai proselytiaid oeddynt i'r grefydd Iuddewig. Yr oedd llawer iawn o boblmiloedd, os nad ugeiniau o filoedd yn Jerusalem ar y pryd, oblegyd yr oedd yn Wyl y Pasg, a byddai llawer o gyrchu i'r ddinas yr adeg hono o'r gwledydd cymydogaethol, rhai yn cael eu dwyn yno gan un peth a'r lleill gan beth arall. Tynid lluaws yno gan y canu, ac yn Jerusalem yr oedd y canu mwyaf rhagorol ar wyneb yr holl ddaear ar y pryd. Ond am y rhai hyn, fe feddylir eu bod wedi dyfod yno i addoli Arglwydd Dduw Israel; ac yr oedd amryw bethau, gallem dybio, yn tynu eu sylw at yr Arglwydd Iesu.

Yr oeddynt wedi clywed am dano ac am y gwyrthiau a gyflawnid ganddo cyn cychwyn oddicartref, ac wedi hyny ar hyd y ffordd, ac ar ol dyfod i mewn i'r ddinas, oblegyd yr oedd trwst y son am ei ryfeddodau yn llanw y wlad o gwr-bwy-gilydd. Gyda hyny, yr oedd newydd farchogaeth i Jerusalem mewn rhwysg mawr, a'r gynulleidfa yn tori cangau o'r coed ac yn taenu dail ar hyd y llwybr fel yn dymuno gwneud carped o dan ei draed, a lle nad oeddynt yn cael y dail y maent yn tynu eu dillad ac yn eu taenu ar y ffordd i ddangos eu parch iddo a'i anrhydeddu. Ac wedi eu dyfod i Jerusalem, y mae yn ddiau fod yr holl ddinas yn adsain gan lef y plant ac eraill oeddynt yn bloeddio, "Hosanna i Fab Dafydd. Bendigedig yw yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd."

Peth arall hefyd, yr oedd yr Arglwydd Iesu Grist, y mae yn sicr, wedi boddhau y Cenedloedd hyn yn fawr wrth lanhau y Deml. Bu yn nechreu ei weinidogaeth gyhoeddus yn glanhau y Deml o'r blaen, hyny ydyw, Cyntedd y Cenedloedd. Yr oedd yr Iuddewon, yn eu rhagfarn at y Cenedloedd, yn caniatau ac yn goddef pob math o bethau yn y rhan hono o'r Deml oedd wedi ei neillduo iddynt, tra, y mae yn debyg, y cedwid y rhan a berthynai iddynt hwy eu hunain yn lân ac yn barchus. Ond yn Nghyntedd y Cenedloedd fe oddefid i rai ddyfod i werthu colomenod ac i newid arian. Dywed yr Iesu ei fod wedi cael y lle hwn yn "ogof lladron;" ac y mae trwy awdurdod anwrthwynebol yn troi y cwbl allan. Y mae yn clirio y lle er mantais i'r Cenedloedd, druain, i ddyfod yn mlaen i addoli y gwir Dduw yn ol y cyfleusdra a roddid iddynt o dan yr Hen Destament.

Daw y Groegiaid hyn, mewn modd parchus iawn, at un o ddysgyblion Iesu Grist gan ddywedyd, "Syr, ni a ewyllysiem weled yr Iesu." Beth oedd yn peri iddynt ddyfod at y dysgybl hwn mwy na'r lleill? Efallai ei fod yn un hawdd myned ato. Y mae ambell i ddyn a llai o rew o'i gwmpas ac yn haws myned ato nag eraill. Heblaw hyny, yr oedd Phylip o Bethsaida, fel y dywedir yn yr hanes, ac y mae yn debyg fod ganddynt gydnabyddiaeth â Bethsaida a'u bod wedi ei ganfod yntau o'r blaen. Hefyd, y mae enw Phylip yn enw Groegaidd, ac y mae yn naturiol fod hyny yn rhyw swyn iddynt. Pe baem ninau yn mhell iawn oddicartref a phe clywem rhyw enw Cymreig, byddem yn bur siwr o godi ein hwynebau ac edrych o'n hamgylch gan dybied fod yno rywun yn perthyn i'n cenedl ni.

Y mae Phylip yn myned ac yn dweyd wrth Andreas—y mae hwn hefyd yn enw Groegaidd ac y mae y naill a'r llall yn myned ac yn dweyd wrth yr Iesu. Y maent yn cynorthwyo eu gilydd i ddwyn achos y dynion hyn at y Ceidwad. Dyma swn chwalu yr hen derfynau ac arwyddion llwyddiant mawr. Fe ddaeth Cenedloedd o'r dwyrain ato pan y ganwyd Ef, a dyma Genedloedd o'r gorllewin yn dyfod eto pan y mae yn ymyl marw. Ac y mae eu dyfodiad hwy ato. yn awr yn cyffroi ei enaid sanctaidd. "Yr awr hon y cynhyrfwyd fy enaid; a pha beth a ddywedaf? O Dad, gwared fi allan o'r awr hon; eithr oherwydd hyn y deuthum i'r awr hon." Y mae yn gyfyng arno hyd oni orphener. Gwel awr ei lwyddiant ac awr ei ing wedi eu cylymu yn anwahanol, awr cadw ac awr clirio y ddyled yn ymyl eu gilydd. "Os ydynt am fy ngweled fel Gwaredwr," meddai yr Iesu, "y mae yn rhaid i mi ymwisgo mewn mantell dyoddefaint a myned i lawr i Gethsemane ac esgyn i'r Groes." Ar y Groes y mae y nerth i dynu, "A minau, os dyrchefir fi oddiar y ddaear, a dynaf bawb ataf fy hun." Y mae yr Iesu yn y fan hon yr hysbysu ei ddysgyblion fod yr adeg wedi dyfod pryd yr oedd y Cenedloedd i dderbyn moddion yr iachawdwriaeth, ond yr oedd y cwbl i gael ei sylfaenu yn ei farwolaeth. Iachawdwriaeth ar goel megys oedd cyn hyn; ond yn awr y mae y Duw Hollgyfoethog yn suddo cyfoeth tragwyddol ei hanfod i ddwyn yn mlaen y gwaith. Dyma waith mwyaf yr Anfeidrol ei hun yn cael ei roddi i lawr yn offrymiad Crist unwaith. Fe gyrhaeddir y llwyddiant trwy draul fawr. "Oni syrthy gronyn gwenith i'r ddaear, a marw, hwnw a erys yn unig; eithr os bydd efe marw, efe a ddwg ffrwyth lawer." Am dano ei hun, ac am dano ei hun yn ei farwolaeth, y llefara yr Iesu y geiriau hyn. Y mae y gydmariaeth a ddefnyddir yn un dra phriodol—"y gronyn gwenith."

Gronyn gwerthfawr iawn ydyw y gronyn gwenith. Yr un ffunud mewn ystyr ysbrydol, y mwyaf ei werth o bawb ydyw yr Arglwydd Iesu Grist. Y mae cymaint o werth ynddo nas gall y byd wneud hebddo ac na thraethir ei glod byth.

Gronyn hardd iawn ydyw y gronyn gwenith. Yr un modd y gallwn ddweyd am yr Arglwydd Iesu. Y mae yn harddach na thywysogion penaf llywodraeth Duw, ac yn decach na meibion dynion. Y mae y rhai sydd yn ei adnabod yn hollol foddlawn i ddweyd, fel y dywed yr eglwys yn Llyfr y Caniadau, "Fy anwylyd sydd yn wyn a gwridog, yn rhagori ar ddeng mil. Ie, y mae efe oll yn hawddgar."

Y mae yn ronyn defnyddiol iawn hefyd. Felly y mae yr Iesu: dyma y mwyaf defnyddiol o bawb. Bechadur, hwn sydd o fawr werth yn y byd hwn a'r hwn a ddaw. Nis gelli gael neb a wna ei le i fynu byth. Y mae ein bywyd ni yn y Person bendigedig hwn.

Gronyn cynyrchiol iawn hefyd ydyw y gronyn gwenith. Y mae cynyrch mawr i godi o'r Iesu a'i angau. Ni fu erioed y fath ffrwyth. Fe ddygir "meibion lawer i ogoniant, ac fel y byddwn yn canu weithiau

Yn ol amldra gwlith y wawr
Fe ddaw tyrfa at y Tad,

a'r dyrfa i gyd wedi ei chynyrchu gan y gronyn gwenith bendigedig hwn. Ond y mae yn rhaid i'r gronyn gwenith syrthio i'r ddaear a marw. Rhaid marw, a thrwy hyny y mae yn rhaid achub. Dyna bwnc yr adnod.

I.—Darostyngiad yr Arglwydd Iesu.
II.—Y canlyniad angenrheidiol i hyny.

I.—Darostyngiad yr Arglwydd Iesu—"Oni syrth y gronyn gwenith i'r ddaear, a marw, hwnw a erys yn unig." Cynwysa ei ddarostyngiad rhyfedd (1) Ei ddyfodiad i'r byd; (2) ei ddyoddefaint a'i farwolaeth yn y byd. Yr ydym yn myned i gofio ei angau ar ddiwedd y cyfarfod. Rhoed yr Arglwydd i ni deimlad yn ei le a ffydd i gofio am dano, a'r gogoniant a ddelo i'r golwg, nes y byddom yn ei garu ac yn credu ynddo yn fwy hollol nag erioed.

Daeth y Mab i'r byd yn un ohonom ni. Y mae y Person yn anfeidrol a'r daith a wnaeth yn anfesurol fel mai ofer ydyw ceisio egluro. Nid oes genym ddim i'w wneud ond addoli mewn syndod uwchben dyfnder nas gallwn ei blymio byth, a dweyd, "Mawr yw dirgelwch duwioldeb, Duw a ymddangosodd yn y cnawd." Ond er nas gallwn ei sylweddoli na'i esbonio, y mae yn ffaith. Daeth y Mab o fynwes ei Dad, o blith angylion ac archangylion, ac fe dabernaclodd yn ein plith ni. Y fath ddarostyngiad, o fynwes tragwyddoldeb i rodio ein daear fach ni! Cymerodd arno ei hunan ein gwendidau dibechod ni—"Gan fod y plant yn gyfranogion o gig a gwaed, yntau hefyd yr un modd, a fu gyfranog o'r un pethau;" "Wedi ei wneuthur o wraig, wedi ei wneuthur dan y ddeddf; fel y prynai y rhai oedd dan y ddeddf, fel y derbyniem y mabwysiad." Nid dyfod yma ar ymweliad am dymhor a wnaeth. Na, fe ddaeth yn un ohonom ni, yr un o ran natur, o'r un teimladau, gorph a meddwl, a ninau. Ac y mae yn ein natur ni y foment yma yn nef y nefoedd, ac y mae yn dda genyf fi gofio nad oes ysgar i fod bellach rhwng y ddwy natur yn ei Berson byth, ond fod y briodas i barhau.

Heblaw hyny, fe ddaeth i'r byd yma i ddyoddef a marw. Nid Bethlehem Juda oedd cam isaf ei ddarostyngiad. Na, fe aeth i lawr yn is, a bu yn "ufudd hyd angau, ie, angau y groes." Ac yr oedd angenrheidrwydd am hyny, fel y dengys yr Ysgrythyr. Os oedd dynion i gael eu cadw, yr oedd yn rhaid i'r Gwaredwr farw. Yr oedd yn rhaid oherwydd pethau yn perthyn i Dduw.

Dyma gynghor a bwriad Duw. Nid damwain yn hanes y byd oedd Calfaria a'r Groes; na, yr oedd hyny i mewn yn y plan er dyddiau tragwyddoldeb, Hwn, wedi ei roddi trwy derfynedig gynghor a rhagwybodaeth Duw, a gymerasoch chwi, a thrwy ddwylaw anwir a groeshoeliasoch, ac a laddasoch." A thra yn cyflawni cynghor a bwriad ei Dad, y mae yn cyflawni ei ewyllys ei Hun yr un pryd. " Y gorchymyn hwn a dderbyniais i gan fy Nhad," meddai, pan yn myned i lawr mewn ufudd—dod i bantiau dyfnion ei ddarostyngiad. Nid dyna y cwbl, ond yr wyf yn aberthu fy hun yn wirfoddol. Y mae fy ewyllys fy hun yn yr offrwm. " Y mae genyf feddiant i'w dodi hi i lawr, ac y mae genyf feddiant i'w chymeryd hi drachefn."

Ei arwain i Galfari fryn,
A'i hoelio ar groesbren o'i fodd; o'i fodd;
Pa dafod all dewi am hyn?
Pa galon mor galed na thôdd?


Yr oedd yn rhaid oherwydd cyfiawnder hefyd. Y mae rhaid mewn cyfiawnder ac uniondeb. Y mwy mewn pechod na gwneud y pechadur yn druenus, a rhywbeth heblaw gwneud y dyn yn llygredig: y mae yn annghyfraith, yn taflu anfri ar gyfiawnder a chwmwl ar orsedd Duw. Nis gall cyfiawnder gau ei lygad arno, na gadael iddo ddianc yn ddigosb. Ond dacw y diniwed yn myned i ddeddfle yr euog, ac yn cymeryd rhaid euogrwydd a rhaid uffern y pechadur i'w gwpan ei hun. Pe buasai pechod yn cael ei arbed yn rhywle, fe fuasai Duw yn ei arbed yn ei anwyl Fab, ond y mae rhaid cyfiawnder yn galw am gosbi pechod. Bendigedig fyddo y Meichiau Mawr am sefyll yn fy lle mewn anfeidrol lid, "Yr hwn ei hun a ddug ein pechodau ni yn ei gorph ar y pren." Y mae gwawr gobaith wedi tori ar achos yr euog o dywyllwch y groes. "Yr hwn a osododd Duw yn iawn, trwyffydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder ef, trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o'r blaen, trwy ddyoddefgarwch Duw; i ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn, fel y byddai efe yn gyfiawn ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu." Gair a'i lon'd o fywyd ydyw hwn, ac yr wyf yn teimlo fy enaid yn dawel i bwyso arno, ac i sentro y farn a'r byd mawr tragwyddol yn ei gysgod—"Yn gyfiawn ac yn cyfiawnhau." Yr orsedd fawr yn wen a'r pechadur du yn rhydd trwy yr un drefn.

Heblaw hyny, yr oedd yn rhaid dyoddef a marw i ddistrywio y gelynion. "Fel trwy farwolaeth y dinystriai efe yr hwn oedd a nerth marwolaeth ganddo." Os ydyw marwolaeth yr Iesu wedi clirio yr awyr i fynu, y mae wedi llorio y gelynion i lawr hefyd. Ti elli edrych i wyneb yr orsedd, yn ymyl y groes, heb wrido, ac edrych i wyneb pob gelyn heb arswydo. Y mae yr heddwch wedi ei enill i fynu ac i lawr, oddiallan, oddifewn, yn ol, yn mlaen am byth.

Yr oedd yn rhaid i'r Iesu farw i selio ei destament hefyd. Mae gan y Ceidwad destament mawr, ac y mae yn llawn o addewidion a bendithion. O, ni fu erioed y fath destament! Y mae cyflawnder yr Anfeidrol a'r Hollgyfoethog ei hun yn cael ei gynwys ynddo; ond yr oedd yn rhaid i'r Testamentwr farw er mwyn i ni gael y bendithion a'r addewidion sydd yn y testament. Ar ffordd yr Iawn a'r Aberth y mae y bendithion anmhrisiadwy yn llifo tuag atom.

Bu farw, medd rhai, i osod argraph foesol ar feddwl ei greaduriaid. Fe gymerodd ein hachos. Fe'i gwnaed yn Fechnïydd drosom, ac onibae fod yna rhyw wirionedd dwfn a thragwyddol yn y cytundeb a fu rhyngddo â'i Dad yn achos pechadur, ni fuasai y dylanwad moesol yn bosibl. Marwolaeth iawnol Crist sydd yn cyfrif am y dylanwad moesol cryf a berthyn iddo. Ei farwolaeth dros bechadur sydd yn gosod effeithiolrwydd i bob peth arall a gyflawnodd, megys ei enedigaeth, ei fedydd, ei wyrthiau, a'i fywyd yn ei bobpeth. Dyma waith y chweched dydd, megys, yn hanes yr lesu. Buasai y creu bob dydd cyn hyny yn ofer heb waith y chweched. Yn mlaen at greadigaeth dyn yr oedd y cwbl yn edrych. Felly buasai y gwerth i ni yn holl hanes yr Iesu yn colli heb iddo farw dros ein pechodau ni. Dyma y gareg glo yn mwa y bont, offeiriadaeth ac Iawn Crist. Dyma drefn igadw wedi ei gorphen. Bendigedig a fyddo ei Enw am y drefn i faddeu ein beiau a'u cuddio o'i olwg ei hun am byth. Fe bery ein rhwymedigaeth i'w glodfori am dragwyddoldeb. Os cedwir chwi, bobl anwyl, chwi a fyddwch yn nyled y Gwaredwr tra bydd nefoedd yn bod.

"Does mesur amseroedd byth fry,
Dim oriau cyffelyb i'r byd;
Myn'd heibio ryw oesoedd y sy
Wrth ganu i'r Drindod yn nghyd;
R'holl nefoedd wrth weled ei ras
Sy'n synu, yn canu'n fwy hy
Ganiadau newyddion eu Llas;
Wel, dyna'r digrifwch sydd fry.


II.—Y canlyniad angenrheidiol i hyny. "Eithr os bydd efe marw, efe a ddwg ffrwyth lawer." Bydd yna ffrwyth mawr mewn amgylchiadau pwysig yn codi o'i farwolaeth. Dyna ydyw anfoniad yr Ysbryd Glân, derbyniad y Cenedloedd i mewn, sêl a llafur yr Apostolion, nerth i ddyoddef erlidiau a merthyrdod, pob diwygiad crefyddol, ffrwyth y gronyn gwenith sydd wedi syrthio i'r ddaear a marw. Mae "ffrwyth lawer" yn addewid Duw ar gyfer y byd yma, ac y mae yn anmhosibl i'r cynhauaf mawr yma droi yn fethiant—"Ni phalla efe ac ni ddigalona, hyd oni osodo farn ar y ddaear." Na, y mae y caledi wedi ei ddal eisoes. Y mae y gauaf a'i ystormydd wedi myned heibio Peidiwch pryderu ac ofni disgwyl llawer.

Ffrwyth mewn dynion hefyd, a dyma olygir yn benaf yma—"Efe a ddwg ffrwyth lawer." Ffrwyth marwolaeth yr Iesu ydyw y saint. O'i farwolaeth Ef y maent wedi cael eu bywyd a'u bôd. Ac nid yn unig y maent yn cael eu bywyd yn y dechreu oddiyma, ond yma hefyd y mae defnydd parhad a chynaliaeth a chynydd eu bywyd. Cynyrch marwolaeth yr Iesu ydyw bywyd y saint o ran ei achos, ei ddefnydd, ei gynydd, a'i gynaliaeth—"Byw ar haeddiant gwaed yr Oen." Dyna air llawn a melus.

Y mae y gronyn gwenith yn dwyn ffrwyth o'r un natur âg Ef ei hun. Gronyn gwenith a fu farw, a ffrwyth o wenith sydd yn dyfod i fynu. "Beth bynag a hauo dyn, hyny hefyd a fêd efe;" "Ac megys y dygasom ddelw y daearol, ni a ddygwn hefyd ddelw y nefol;" "Ac i bob hedyn ei gorph ei hun." Fel yna y mae yr Iesu yn codi pechaduriaid y byd yma ar ei ddelw ei hun. Rhai o'r un natur âg Ef ei hun, yr un cariad, yr un egwyddor. Nid ydyw eu bywyd ond parhad o fywyd Crist. Y mae yr Iesu yn byw ynddynt a thrwyddynt, " Efe a wêl ei hâd, efe a estyn ei ddyddiau."

Hefyd, rhai newydd fyddant—newydd yn nghreadigaeth yr Anfeidrol ei hun. "Gan hyny od oes neb yn Nghrist y mae efe yn greadur newydd"—yn greadigaeth newydd spon. Ffrwyth y gair "Bydded" ydyw yr holl greadigaeth; ond dyma greadigaeth ag y bu raid cael mwy na gair y Creawdwr i'w dwyn i fod. Ffrwyth marw Calfaria ydyw y greadigaeth newydd. Dywedir fod mewn rhyw lanerch yn yr Alban, lle yr ymladdwyd brwydr fawr ac y tywalltwyd llawer o waed dynion, rhyw lysiau yn tyfu nad ydynt i'w gweled mewn un man arall ar y ddaear hyd y gwyddis. Dyma ffrwyth wedi codi o'r gwaed a dywalltwyd ar Golgotha na welir ei debyg yn holl ymherodraeth Duw.

"Ffrwyth lawer" hefyd. Y mae yma ffrwyth, ac nid yn unig hyny ond ffrwyth lawer. "Am hyny y rhanaf iddo ran gyda llawer," neu "rhoddaf y llawer iddo yn rhan." O ie, er cymaint ydyw caledwch calonau dynion, a dichellion y diafol, bydd ffrwyth lawer. Gellid meddwl mai dechreu y mae cynhauaf achub yn y byd yma; a bydd yn rhaid i ni fyned i orphwys bron ar ei gychwyn, ac fe barha y cynhauaf yn hir iawn nes gwneud y saint yn llawer, a'r annuwiolion yn ychydig.

Gwelwn fod awdurdod a nerth yn marwolaeth yr Iesu, ac yn y fan hon y mae ein gobaith am y ffrwyth.

Y mae yma obaith i'r hwn sydd wedi syrthio ac wedi digaloni. Y mae ambell i hen long wedi suddo yn y clai. Dyma obaith i'w chael i nofio eto, am fod digon o nerth yn llanw y Groes i'w chodi.

Y bobl sydd wedi sefyll yn gyndyn hyd heddyw,—dyma wawr gobaith eto cyn eich claddu. Y mae y gronyn gwenith wedi syrthio i'r ddaear a marw, ac y mae nerth bywyd yn ei farwolaeth i goncro pob cyndynrwydd ac annghrediniaeth,

Seion Duw, paid a digaloni, y mae gobaith am adgyfodiad i'r achos cyn yr adgyfodiad yn y dydd diweddaf. Swn digalon sydd yn mhrofiad ambell i sant ar hyd y wlad yma. "Rhodio yn alarus" ydyw hanes llawer ohonom. Y mae yma lawer o chwiorydd yn wylo am eu brawd fel Mair a Martha; llawer gwraig yn cwyno am ei phriod, a rhieni yn wylo oherwydd eu plant. Peidiwn ag anobeithio am y bechgyn gwylltion, a llawer sydd wedi myned yn bell iawn. Mae y gronyn gwenith wedi syrthio i'r ddaear a marw, ac "efe a ddwg ffrwyth lawer." Dyma obaith i Indiaid cochion yr America, ac Indiaid duon Affrica, miloedd a myrddiynau China, Tartary, Japan, a Tibet. Parhawn i lafurio, i weddio, i gynghori a rhybuddio, i gyfranu at anfon Beiblau a chenhadon. Y mae marw y Groes yn sicrhau "ffrwyth lawer."

Dyged y Duw mawr ni i undeb agos a bywiol â'r Iesu yn ei angau drud fel y gwneler ni yn ffrwyth y bydd yn werth ei gadw byth. Ni fydd dim ond gwenith ar gael yn yr ysgubor y dydd mawr a ddaw. Y mae yna ddiwrnod nithio yn dyfod, a phwy fydd yn dal y diwrnod hwnw? Y gwenith sydd yn y fan yma heno. Hwy ddaliant bob prawf a chesglir hwynt i'r ysgubor i fod mewn parch, ac urddas, a gogoniant byth. Duw a'n gwnelo oll yn ffrwyth angau ei Fab, ac felly gallwn fyned yn mlaen trwy bob rhwystrau, a chanu

Byth ni chollir
Neb a gredo ynddo Ef.


Nodiadau

[golygu]
  1. Traddodwyd y bregeth hon yn yr Abermaw, nos Sabboth, Mawrth 20, 1881, ac ysgrifenwyd hi mewn llaw fèr, wrth ei gwrando, gan Mr. Jones, Llythyrdy.