Neidio i'r cynnwys

Cofiant David Davies, Bermo/Y ceryg hyn

Oddi ar Wicidestun
Cytuno ar y Ffordd Cofiant David Davies, Bermo

gan William Jones, Lerpwl

Brenhiniaeth Duw

PREGETH V.—Y ceryg hyn.[1]

"BETH yw y ceryg hyn?"—Josua iv. 21.

DYNA sydd yn y bennod hon, hanes meibion Israel wedi dyfod o'r Aipht, a thrwy yr anialwch, ac yn y fan yma yn myned trwy yr Iorddonen i'w gwlad. Yr ydym yn cael eu bod wedi dyfod trwy yr anialwch a myned yr ochr draw i'r Môr Marw. Fel rheol yn ein dyddiau ni, i Joppa y mae y teithwyr yn myned, ond nid felly meibion Israel. Fe'u harweiniwyd hwy gan yr Arglwydd i'r ochr draw i'r Môr Marw fel y cawn. hanes eu bod yn amgylchu tir Edom a Moab, ac yn dyfod i wlad Og brenin Basan a Sehon brenin yr Amoriaid, a'r rhai hyny yn dyfod yn eu herbyn, a'r Arglwydd yn rhoddi nerth i'w bobl i'w gorchfygu gan roddi eu gwlad yn etifeddiaeth iddynt. Y mae dau lwyth a haner yn gofyn am gael eu hetifeddiaeth yn y rhan hono, sef llwyth Reuben a Gad a haner llwyth Manasseh; ac y mae yr Arglwydd, trwy Moses, yn caniatau iddynt eu dymuniad, ond fod eu dynion parod i ryfel i fyned yn arfogion o flaen meibion Israel trwy yr Iorddonen i'w gwlad hwythau. Felly ni a gawn fod y genedl wedi dyfod a gwersyllu mewn lle o'r enw Sittim ac anfon cenadon i chwilio y wlad, ac oddiyno y maent yn myned i làn yr Iorddonen ar gyfer Jericho. Ond wedi dyfod i làn yr afon, yr oedd hono yn fawr iawn, wedi llifo dros ei cheulanau. Mae yr afon hono, fel rhai y dwyrain yn gyffredin—nid yr un fath a'n hafonydd ni yn llifeirio am ddiwrnod neu ddau—ond am wythnosau. Yr oedd yr Iorddonen yr adeg hono yn adeg ei llifeiriant—yr eira ar fynydd Hermon a mynyddoedd Libanus yn toddi nes peri i'w dyfroedd chwyddo yn rhyferthwy. Ac yr oedd yr afon yn afon fawr yn y fan lle yr oeddynt hwy yn bwriadu ei chroesi yn ddofn ac yn llydan, rhywbeth o dair i bedair llath o ddyfnder, ac yr oedd yn rhedeg yn wyllt hefyd. Mae pedair ceulan iddi, ac yr oedd y pryd hwnw yn llanw y ceulanau lletaf. Fe anfonwyd dau i edrych y wlad o'r blaen, ac y mae pob lle i feddwl mai nofio trwyddi a wnaethant hwy; ond dyma yr holl genedl yn awr ar ei min, ac y maent yn ganoedd o filoedd. Tybia rhai fod yr holl gynulleidfa i gyd oddeutu dwy filiwn neu rywbeth yn agos; a meddwl am i'r fath gynulleidfa groesi afon fel hon a'i chroesi hefyd i wlad oedd yn llawn o elynion! Mae yr Arglwydd, trwy Josua, yn gorchymyn i'r bobl ymsancteiddio; a chawn eu bod wedi gwersyllu ar ei glàn am rhyw ddwy noswaith a diwrnod. Nid yw yr ason i'w chroesi ond yn ol cynllun Duw, ac y mae yr Arglwydd yn gorchymyn i'r offeiriaid gymeryd Arch y Cyfamod ar eu hysgwyddau—nid hwy oedd yn arfer gwneud hyny, ond ar achlysuron neillduol y byddent yn gwneud felly, a dyma achlysur arbenig i'w chymeryd yn y wedd hon. Gorchymynir iddynt gerdded yn mlaen o flaen y gwersyll—mae yn debyg fod yn rhywle yn agos i dri chwarter milldir rhyngddynt, ac nid oedd neb o feibion Israel i ddyfod ddim yn nes na hyny—y rhai blaenaf i gadw yn y pellder hwnw, a thrwy y trefniant hwnw yr oedd yr Arch ynweledig i bawb. Ac yn y fan pan ddaeth gwadnau traed yr offeiriaid i ddyfroedd yr afon y maent yn tori ar draws fel pe buasech yn meddwl eu bod yn cael eu tori â chyllell, ac un ochr yn sefyll yn bentwr o'r naill làn i'r llall, a'r dyfroedd eraill yn rhedeg i lawr yn eu cwrs yn brysur i'r Môr Marw nes yr oedd y gwaelod yn sych; ac yna mae yr offeiriaid yn myned yn mlaen i wely yr afon—i'w dyfnder hi—gan sefyll yno yn daclus nes darfod i'r holl genedl fyned trwy yr Iorddonen yn droedsych. Gorchymynodd yr Arglwydd i Josua hefyd ddewis deuddeng wr—un gŵr o bob llwyth—wedi i'r genedl fyned trosodd; ac y mae y gwŷr hyn yn myned ac yn codi ceryg—pob un â'i garego waelod yr Iorddonen, yn y fan lle yr oedd traed yr offeiriaid yn sefyll, ac yn eu cario i'w lletty. Wedi cael yr afon yn sych yr oedd yn hawdd i'r genedl—gwragedd a phlant a'r cwbl—ei chroesi hi, a dyna a ddywedir eu bod yn brysio i fyned trwodd. Yr oedd yn waith go fawr; dichon fod ei lled oddeutu milldir. Heblaw codi y ceryg hyn, yn ol gorchymyn Duw, fe wnaeth Josua beth arall—wrth ei feddwl ei hun y mae yn debyg—sef codi ceryg o'r afon a'u gosod, fel y tybia rhai, yn ngwaelod yr afon lle yr oedd yr offeiriaid yn sefyll; ond y mae cryn amheuaeth yn nghylch hyny. Fe ddichon mai y syniad mwyaf cywir ydyw mai yn y fan y gwlychodd traed yr offeiriad gyntaf y gosodwyd hwynt, ac felly yr oeddynt yn yr ochr draw, ac yr oedd y ceryg hyny yn dystiolaeth i lwyth Reuben a Gad a haner llwyth Manasseh—yn dŵr o goffadwriaeth o'r lle y sychodd yr Iorddonen. Ond am y ceryg y sonia geiriau y testyn am danynt rhai i'w gosod yn y lletty oeddynt. Ceryg yn cael eu codi o waelod yr afon oeddynt—nid rhai bychain chwaith. Rhai mewn llaw? Nage, Rhai ar fraich? Nage, ceryg ar ysgwydd. Gallem feddwl fod pob gŵr yn codi ysgwyddiad o gareg ac yn myned â hi i'r lletty, tua haner y ffordd oddiyno i Jericho. Yr oedd saith milldir a haner o làn yr Iorddonen i Jericho, ac yn y fan hono yr oeddynt yn llettya. Mae rhai yn meddwl eu bod wedi eu gosod fel allor bedair onglog, eraill yn meddwl mai yn grwn y gosodwyd hwynt, ac eraill yn tybied eu bod wedi eu dodi yn garnedd ar eu gilydd yn dwr. Fodd bynag, dyna yr amcan, fel y cawn mewn adnod yn nechreu y bennod, "Fel y byddo hyn yn arwydd yn eich mysg chwi, pan ofyno eich meibion chwi yn ol hyn, gan ddywedyd, 'Beth y mae y ceryg hyn yn ei arwyddocau i chwi?" Y mae rhywbeth i'w gofio yn cael ei wneud yn mhob oes a chan bawbi raddau, yn enwedig gydag achos yr Arglwydd. Felly, gallem dybied y bydd gofyn mewn oesoedd i ddyfod gyda golwg ar yr adeilad hwn[2] "Beth yw y ceryg hyn?" Gobeithio y bydd yn rhyw dŵr hyfryd, dymunol, a'i fod wedi ei adeiladu o gariad at yr Arglwydd Iesu Grist, ac yn ngrym cariad at ei achos. Sylwn

I.—Fod gweithredoedd yr Arglwydd yn bethau i'w cofio. Rhaid dweyd amei weithredoedd yn gyffredin yn enwedig tuag at ei eglwys, fod rhyw bobl â'u llaw, ynddynt rhyw wŷr eto yn dwyn eu ceryg ar eu hysgwyddau i'r lletty. Y mae yn ddyledus arnom wneud tŵr ohonynt. Dyma ydyw gwybodaeth y byd yma i raddau pell, gwybodaeth am weithredoedd yr Arglwydd; a dyma a ddylid ei wybod y rhan fwyaf bywiol o wybodaeth, beth a wnaeth yr Arglwydd. Mae yn wybodaeth sydd yn dyfod a dyn i'w le—ystyried a chwilio am weithredoedd yr Arglwydd. "Cofiaf," medd y Salmydd, am weithredoedd yr Arglwydd." Dyma ran fawr o wybodaeth dyn, a dyma brif ran dyledswydd dyn ydyw ymofyn gyda golwg ar y gweithredoedd hyn. Y fath ddoethineb a'r fath gelfyddgarwch perffaith sydd yn ei waith Ef. Mae yna lawer dyfais o eiddo dynion ag yr oedd yn rhaid fod meddwl cryf i'w cael allan. Ond beth am waith Duw? Pe baem ond yn unig yn ystyried y fath ddyfais fedrus sydd mewn gwahanol aelodau corph dyn y llaw, y llygad, y glust, a'r tafod—ac felly yr holl greadigaeth faith. Y mae y môr a'r tir a'r awyr yn llawn o bob math o ddyfeisiau o eiddo yr Hollalluog, yr hwn yw "Creawdydd y nefoedd a'i hestynydd, lledydd y ddaear a'i chnwd, rhoddydd anadl i'r bobl arni, ac ysbryd i'r rhai a rodiant ynddi." "Cofia fawrhau ei waith ef, ar yr hwn yr edrych dynion. Pob dyn a'i gwel; a dyn a'i cenfydd o bell." A dyna amcan y ceryg hyn.

II.—Fod yr Arglwydd wedi rhoddi arwyddion gyda golwg ar lawer o'i weithredoedd nerthol. Y mae felly gyda chreadigaeth y byd. Wedi iddo orphen creu a gwneud dyn ar wyneb y ddaear"uchder llwch y byd"—fe roes ddiwrnod, y seithfed dydd, i gofio gorpheniad y gwaith ac yn ddarpariaeth gogoneddus ar gyfer dyn. Yr un modd gyda'r diluw. Dyna amgylchiad rhyfedd a phwysig yn rhagluniaeth Duw a fu ar y byd yma, a gosododd yr Arglwydd beth i fod yn dŵr byth o hwnw, yn arwydd parhaus i oesoedd y ddaear fod diluw wedi bod ar y ddaear, ac hefyd o'r cyfamod a wnaeth yr Arglwydd â Noe na byddai diluw mwy.

Fe wnaeth Duw gyfamod gydag Abraham y byddai yn Dduw iddo, a rhoddes arwydd o hyny yn yr enwaediad. Felly am waredigaeth meibion Israel o'r Aipht, yr oedd Oen a Gwyl y Pasg yn arwydd ohoni, ac o'r dyogelwch a gafwyd noson fawr y dinystr, pan oedd cyntafanedigion y genedl yn yr amddiffyn yn nghysgod y gwaed. Wedi dyfod i'r anialwch drachefn, yr ydym yn cael fod yr Arglwydd yn ymddangos mewn modd hynod iawn i'w bobl, ac y mae yn rhoi arwydd yn y tabernacl o roddiad y ddeddf ac o sefydliad ei addoliad yn eu plith; ac felly yr oedd y golofn niwl a thân i'w harwain. Ac wedi hyny ar ol iddynt fyned i Ganaan y mae yr Arglwydd yn gorchymyn iddynt adeiladu colofn ar fynydd Ebal, ac ysgrifenu ar hono y gyfraith i fod yn dyst i'r bobl o'r cyfamod a wnaeth Jehofah a hwy yr oedd Ef i fod yn Dduw iddynt hwy, a hwythau i fod yn bobl iddo yntau, yn ufudd i'w orchymynion ac yn ei wasanaethu. Yr un ffunud y mae y ceryg hyn yn dŵr coffa o'r man y croesodd meibion Israel yr Iorddonen yn ddyogel. Ac nid yn unig o dan yr Hen Destament y gwneir hyn, ond y mae eto i barhau. Dyna ydyw yr ordinhad o Swper yr Arglwydd, rhyw arwydd fel y ceryg hyn—tŵr coffadwriaeth o'r hyn a wnaeth yr Iesu ac a ddyoddefodd yn ein lle ar Galfaria. "Efe yw yr iawn dros ein pechodau ni," ac yn haeddiant hwnw y mae yr Anfeidrol yn maddeu a chyfiawnhau y penaf o bechaduriaid. Felly y dydd Sabboth, wedi ei newid o'r seithfed i'r dydd cyntaf o'r wythnos yn ddydd tŵr adgyfodiad yr Arglwydd Iesu o'r bedd. Yr un ffunud y mae y bedydd hefyd yn arwydd o'r iachawdwriaeth gyflawn sydd gan Dduw yn dri pherson—yn Dad, Mab ac Ysbryd Glan—ar gyfer pechadur colledig i'w ymgeleddu, er ei holl lygredigaeth, a'i berffaith gymhwyso i dragwyddol ogoniant. Dwfr yn y bedydd ydyw yr arwydd, ac mewn rhyw ystyr dwfr ydyw yr ymgeledd i greadur o ddyn, a dyna yr ymgeledd gyntaf y mae yn ei gael ar ol dyfod i'r byd yma. Y mae arwyddion o bethau mawrion yn debyg i'r ceryg hyn.

III.—Gwelwn hefyd fod yr Arglwydd yn ewyllysio i ddyn wneud ymofyniad. Dyna amcan yr arwyddion, codi ymofyniad. Yr oedd yn naturiol i bawb a ganfyddent y garnedd, neu yr allor, hon, ofyn, "Beth yw y ceryg hyn?" Mae yr Arglwydd yn disgwyl i ddynion ymofyn, a dyna brif neges dyn yn y byd yma ydyw ymofyn. Fe glywir ambell un yn dweyd wrth y plentyn, "Taw a holi, fachgen." Na, y mae y bachgen wedi ei eni i holi, ac arwydd obeithiol iawn ar blentyn ydyw ei fod yn dueddol i holi. Holi, chwilio, ac ymofyn ydyw prif waith dyn yn y byd; a lle i ofyn cwestiynau ydyw y byd yma. Ac nid rhyw ymchwil ofer ydyw amcan ein bywyd. Na, y mae genym ni y cwestiynau pwysicaf i'w gofyn, "Pa fodd y cyfiawnheir dyn gyda Duw ?' "Pa fodd y bydd yr hwn a aned o wraig yn lân?" O, feistriaid, beth. sydd raid i mi ei wneuthur fel y byddwyf gadwedig ?" "Beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragwyddol ?" Dyna y cwestiynau mawrion a phwysig a phriodol ag y dylem feddwl yn ddifrifol am eu gofyn; ac y mae yna lawer o foddion ac ordinhadau, fel y "ceryg hyn," i'n cymhell i'w gofyn.

IV. Mae yr Arglwydd wedi trefnu modd i ateb cwestiynau dyn. Fe drefnodd ateb i ymofyniad y bobl yn y fan hon. Y mae gan yr Arglwydd eto atebion i'n cwestiynau mwyaf difrifol a phwysig. Diolch iddo fod modd ateb y cwestiynau pwysig. Fe drefnodd ateb i'r holl gwestiynau gyda golwg ar y greadigaeth, y diluw, cyfamod Abraham, ac y mae hefyd wedi rhoddi yr ateb yn ngenau meibion Israel gyda'r Pasg, a lluaws o bethau eraill, a'r " ceryg hyn." Ac i'r pethau anfeidrol eu pwys i ninau y mae wedi trefnu ateb. "Pa beth a wnawn ni fel y gweithredom weithredoedd Duw?" Y mae ateb croyw i'r gofyniad—"Hyn yw gwaith Duw; credu ohonoch yn yr hwn a anfonodd efe." Mor eglur oedd yr ateb i geidwad y carchar, "Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig fyddi, ti a'th deulu." Cael ateb i'n cwestiynau pwysig oedd y peth penaf a wnaeth yr Anfeidrol ei hunan, ac o'i dragwyddol gariad y gwnaeth Efe hyny. Nid oes yr un ateb i'w roi gyda golwg ar ei gynhyrfiol achos, ond y geiriau hynny—"Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd Efe ei uniganedig Fab, fel na choller pwy bynag a gredo ynddo Ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol." "Yr hwn a draddodwyd dros ein pechodau, ac a gyfodwyd i'n cyfiawnhau." Fe draddododd ei Fab i farw ar y croesbren yn ein lle ni, fel y gallem ni gael atebion i'n cwestiynau mwyaf difrifol. Peth ofnadwy ydyw myned i ymyl tragwyddoldeb a gofyn yn y fan hono, "Beth a wnaf?" Rhyw gwestiwn mewn iechyd, aç hyd y gellir, yn moreu yr oes, ydyw hwn—cwestiwn heddyw ydyw. Y mae y rhai sydd wedi cael atebiad yn teimlo eu hunain yn bur dawel, ac yn edrych ar bethau y byd yma yn bethau o ychydig ganlyniad, fel Abraham "Trwy ffydd yr ymdeithiodd efe yn nhir yr addewid canys disgwyl yr ydoedd am ddinas ac iddi sylfeini." Beth a wnaeth ei feddwl yn dawel yn ei holl ymdaith? Dyn wedi cael ateb i'w gwestiwn mawr ydoedd. Yr un ffunud am Moses, "Wedi myned yn fawr, a wrthododd ei alw yn fab merch Pharaoh." Cadwai ei olwg yn y fan hono bob dydd gyda "thaledigaeth y gwobrwy "—yr oedd ei lygad yn sefydlog i fynu. Yr oedd wedi cael ateb i gwestiwn mawr ei enaid yn nhrugaredd a grâs Duw. Yn nghanol ein cwestiynau bychain, "Beth a fwytawn ? neu beth a yfwn? neu â pha beth yr ymddilladwn?" mor anmharod yr ydym i ofyn ein cwestiynau mawrion?

V.—Mae gan bob dyn rhyw bethau hynod yn ei daith yn y byd. Gobeithio fod genym allor fel Abraham, colofn wedi ei heneinio fel Jacob, perth yn llosgi fel Moses, a'r "ceryg hyn" fel Josua, a "haner dydd ar y ffordd" fel Paul—rhyw farciau hynod ar y daith, ôl gwneud cyfamod â Duw. Y mae hanes y dyn duwiol yn debyg i wythnos y creu—rhyw gyfnodau hynod yn hanes gwaith Ysbryd yr Arglwydd ar ei enaid. Y peth cyntaf yn y greadigaeth yma oedd Bydded goleuni;" felly yn achubiaeth pechadur; daw goleuni i'w feddwl ar ei gyflwr, a'i fater, a'i angen, ac ar yr iachawdwriaeth sydd yn Nghrist ar gyfer hyny. Yr ail ddydd wele yr Arglwydd yn dweyd, Bydded ffurfafen," y mae yn gwella. Nid oedd y goleuni blaenorol ond goleuni ar dryblith y ddaear, ond dacw "nefoedd " yn ymddangos. Y trydydd dydd y mae y dyfroedd yn ymgasglu i'r un lle, ar sychdir yn ymddangos, a'r egin yn dechreu tarddu, a'r prenau yn dechreu tyfu a dwyn ffrwyth wrth eu rhywogaeth. Yn debyg i waith yr Ysbryd tragwyddol, wedi cael goleuni i mewn, a chael golwg ar ffurfafen y nefoedd uwchben, dacw rhyw egin bychain o weithredoedd da, a rhyw brenau yn dwyn ffrwyth, mewn ymarferiad â moddion gras ac ordinhadau yr efengyl, yn ymddangos. Y pedwerydd dydd, drachefn, y mae yn well eto. Dyma oleuadau yn y nefoedd, y goleuad mwyaf i lywodraethu y dydd a'r lleiaf y nos, fel y pechadur yn cael golwg ar Grist a'i eglwys yr haul a'r lleuad yn y byd ysprydol. Y pumed dydd dyma y pysgod yn heigio yn y dyfroedd, a'r corau asgellog wedi eu creu—y môr—feirch yn chwareu yn nyfroedd y môr, a'r adar yn canu a phyncio nes llenwi y coedwigoedd â mawl a cherddoriaeth. Y chweched dydd, yn foreu iawn, dacw y creaduriaid yn codi yn eu maint—y gwartheg a'r defaid, ac aneirif luoedd o greaduriaid, a'r oll yn agor eu llygaid yn nghanol llawnder. A dyna ddyn yn cael ei greu, a hwnw yn agor ei amrantau yn nghanol y greadigaeth fawr wedi ei dodrefnu ar ei gyfer, ac yn llawn o breswylwyr, a'r holl greaduriaid o'i amgylch mewn addfwynder perffaith. Y "creadur newydd" yn dyfod yn amlwg sydd yma. Y seithfed dydd, Sabboth o orphwysdra ydyw, i roddi gogoniant i'r Arglwydd am ei waith. Y mae holl hanes y greadigaeth newydd i ddybenu mewn Sabboth.

Mae taith y dyn duwiol hefyd yn debyg i daith Israel o'r Aipht. Ystyr y daith ar ei hyd ydyw Duw yn gwaredu—y ceryg ar hyd y ffordd yn pregethu y waredigaeth. Y mae taith y dyn a gedwir yn dechreu fel taith y genedl mewn Pasg. Yn mha le y cychwynodd meibion Israel? Gyda'r Pasg. Y maent yn ffarwelio â thŷ y caethiwed yn ngŵyl y Pasg. Felly mae crefydd yn dechreu yn ngolwg trefn Duw i fyned heibio i bechadur mewn Iawn, a'r euog yn cael cuddio ei ben yn ei gysgod. Yn mlaen wedi hyny a chroesi y môr o dir y caethiwed; felly y mae dynion yn croesi, ac yn gadael y byd ac yn bwrw eu coelbren yn nghynulleidfa y saint. Ant i'r anialwch, ond anialwch â'r Golofn ynddo ydoedd, ac mor gysurus i blant Israel oedd y Golofn y dydd a'r nos. Bendigedig fyddo enw yr Arglwydd, y mae peth fel yna gyda'i deulu eto. Yr oedd y Golofn wrth eu harwain yn eu hamddiffyn ac yn eu cysuro. Gallwn ninau eto ganu mewn anialwch

Mae dy air yn abl fy arwain
Trwy'r anialwch mawr yn mlaen;
Mae yn golofn oleu, eglur,
Weithiau o niwl ac weithiau o dân;
Mae'n ddi-ble ynddo fe
Fwy na'r ddaear, fwy na'r ne'.

Y mae arweiniad Duw yn eu dyogelu ar hyd y daith. Yr arch sydd i fod yn y golwg wrth groesi yr Iorddonen—y Golofn wedi cilio o bosibl ond croesasant yr afon heb gael dim niwed yn ngolwg Arch y Cyfamod, a dygasant geryg o waelod yr afon i dir yr addewid.

Fel yna y mae pobl dduwiol eto yn croesi yr Iorddonen—dilyn yr arch a'r Offeiriad mawr y mae yr Offeiriad a'r arch yn lle dyfnaf yr afon, ac y mae y saint yn codi ceryg o'r gwaelod. Yr hen bererin Edward Williams a ddywedai pan yn ei chroesi, "Yr Hwn yw ein tangnefedd ni." Careg oedd hona o waelod yr afon. Gallem enwi lluaws o hen frodyr a hen chwiorydd a godasant geryg o waelod yr Iorddonen. Rhodded yr Arglwydd i ninau gael dilyn yr arch. Ond hwyrach fod yma rhywun yn barod i ddweyd, "Ni chafodd fy mhriod i ddim codi careg wrth fyn'd drosodd i fyd arall. Colli ar y môr a ddarfu." Eraill, y clefyd mor boeth nad oedd yno ddim codi careg. Wel, un o bob llwyth oedd yn gwneud hyn o feibion Israel; ond yr oedd y ceryg yn ateb drostynt igyd. Y mae yna lawer a adwaenem yn yr hen gapel wedi cael y fraint o godi careg wrth fyned trosodd i Wlad yr Addewid. Rhoed yr Arglwydd i ni gael crefydd a'n dygo yn ddyogel trwy bob môr a phob afon nes cyrhaedd Canaan.

Wel, dyma fi yn terfynu. A ydych chwi wedi cychwyn? A oes yma Basg wedi bod? A ydyw gwaed yr Oen ar y ddau ystlysbost ac ar gapan y drws? A ydych wedi gadael yr Aipht gyda theulu Duw, ynte yn aros yn nhŷ y caethiwed? Mi fydda i yn gwel'd ceryg yr afon, wedi eu codi o'r gwaelod, mewn llawer lletty yn y wlad yma—y ceryg a godwyd gan rieni rhai ohonoch—yn arwydd i'r Arglwydd fod yn dda wrthynt. Na ato y nefoedd i neb ohonom fyw a marw yn nhŷ caethiwed pechod, ond cychwyn y byddom gyda'r teulu. Gwylia, enaid anwyl, golli y cyfle i gychwyn. Bydded gras yr Arglwydd Iesu Grist gyda chwi. Bendithied yr Arglwydd hyn at ein holl freintiau, er mwyn ei Enw. Amen.

Nodiadau

[golygu]
  1. Traddodwyd y bregeth hon yn yr Abermaw, Tachwedd 28, 1878, ac ysgrifenwyd hi mewn llaw fèr, wrth ei gwrando, gan Mr. E. R. Jones, Llythyrdy, Abermaw.
  2. Pregethwyd ar agoriad y Capel Saesneg yn yr Abermaw.