Cofiant David Davies, Bermo/Y wraig ag ynddi ysbryd gwendid
| ← Brenhiniaeth Duw | Cofiant David Davies, Bermo gan William Jones, Lerpwl |
Y Gronyn Gwenith → |
PREGETH VII.—Y wraig ag ynddi ysbryd gwendid.
"Ac wele yr oedd gwraig ag ynddi ysbryd gwendid ddeunaw mlynedd, ac yr oedd wedi cydgrymu, ac ni allai hi mewn modd yn y byd ymuniawnu.
"Pan welodd yr Iesu hon, efe a'i galwodd hi ato, ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, rhyddhawyd di oddiwrth dy wendid."
"Ac efe a roddes ei ddwylaw arni: ac yn ebrwydd hi a uniawnwyd, ac a ogoneddodd Dduw."—Luc xiii. 11-13.
FE dybir fod yr Arglwydd Iesu yr adeg yma yn Perea, y tu hwnt i'r Iorddonen. Yn mha dref neu bentref yn y wlad hono, nid oes gwybodaeth; ond yr oedd yno ar y Sabboth, ac yr oedd yn y lle synagog gan yr Iuddewon, ac fe aeth yr Iesu i mewn iddi. Nid oedd y synagog yn arferedig gan y genedl, fel y bernir, hyd ar ol y caethiwed yn Babilon. Ceir y gair yn Llyfr y Salmau (lxxiv. 8), "llosgasant holl synagogau Duw yn y tir." Salm ydyw hon, fel y tybia rhai, wedi ei chyfansoddi yn amser Judas Maccabeus. Ystyr y gair synagog ydyw tŷ cyfarfod, neu dŷ cwrdd—cydgasgliad cynulleidfa, neu gymanfa.
Y mae lle i feddwl fod Llyfr Cyfraith yr Arglwydd cyn hyn yn brin iawn. Fel y cawn hanes yn nyddiau Jehosaphat, "A hwy a ddysgasant yn Judah "—sef y dysgawdwyr a enwir yn yr adnod o'r blaen—"a chyda hwynt yr oedd llyfr cyfraith yr Arglwydd" (2 Chron. xvii. 9). Ymddengys mai yn meddiant y dysgawdwyr yn unig yr oedd "Llyfr y Gyfraith" y pryd hwnw. Prinion iawn oedd Llyfrau Cyfraith yr Arglwydd yn mhlith y bobl, os oedd ganddynt rai o gwbl, ac felly y parhaodd hyd ar ol dyddiau Ezra; ac yna fe ddechreuwyd adeiladu synagogau i ddarllen Llyfr Cyfraith yr Arglwydd, ac hefyd fe gyfieithiwyd y llyfr o'r Hebraeg am nad oedd y bobl gyffredin yn deall yr iaith hono wedi y caethgludiad. Y mae y lluosogiad Beiblau yn mhlith y bobl, ac adeiladu tai i'w darllen, yn nglŷn â'u gilydd yn hanes ein gwlad ninau.
Adeiledid y synagog yn debyg i ffurf y deml, ac addolai y bobl ynddi â'u hwynebau tua'r deml, a gwneid hon ar y ffurf i'r pwrpas hwnw. Nid oes hanes am yr un gorchymyn dwyfol pendant i adeiladu synagogau; ond yr oeddynt, fel y mae yr Ysgol Sabbothol a Chymdeithas y Beiblau a'r Gymdeithas Genhadol a phethau eraill, yn codi o fywyd ysbrydol a chrefyddol y genedl mewn tymhor o adfywiad. Ac yn mhen ychydig ugeiniau o flynyddoedd yr oedd canoedd ohonynt wedi eu hadeiladu ar hyd y wlad ac yn mhob gwlad lle yr oedd Iuddewon. Dywedir gan un ohonynt fod ar un adeg gynifer â phedwar cant chwech a phedwar ugain yn Jerusalem, tair ar ddeg yn Tiberias, a deg yn Damascus.
Yr un pryd y deml oedd y brif synagog i'r genedl; ond yr oedd yr adeiladau hyn, yn ddiau, o werth mawr i'r grefydd Iuddewig. Er nad oedd yn perthyn iddi nac allor nac aberth, yr oedd yno addoli Arglwydd Dduw Israel. Fel yr oedd y trefniadau hyn yn heneiddio, yr oedd yr holl genedl bron yn myned yn ffurfiol a thraddodiadol iawn. Pan y mae y bywyd a roddodd fod i unrhyw sefydliad yn colli, y mae yn berygl i'r sefydliad hwnw fyned yn ffurf wag ac ofer. Yn y synagog yr oedd y merched y tu draw i derfyn dellt, yn eistedd a'u cefnau at y meibion; ac yr oedd y lle i ddarllen ar y canol, ac yno y byddai y Rabbi a'r dynion eraill a'u hwynebau tuag ato. Fodd bynag, erbyn dyddiau ein Hiachawdwr yr oedd y synagogau yn yr holl wlad, ac yntau yn arfer myned iddynt, ac wedi arfer hyny o'i febyd. Arferai fyned i'r un yn Nazareth, ac yn hono yr oedd wedi derbyn llawer o'i addysg, fel yr oedd yn cael ei dderbyn yn ddeuddeng mlwydd oed i gael bwyta o'r Pasg yn dair ar ddeg fel bechgyn eraill y genedl.
Ni a gawn ei hanes yn y fan yma, yn ol ei arfer, yn myned i'r synagog. Gallesid dwyn llawer o resymau i brofi na fuasai waeth iddo beidio:—
- 1. Am fod y synagog ar y pryd yn llawn rhagrith.
- 2. Am fod yno anwybodaeth mawr.
- 3. Am ei bod yn llawn o ddefodau cnawdol.
Gallesid tybio y buasai darllen neu fyfyrio gartref yn ateb gwell dyben iddo. Na, yr oedd yn ystyried fod y gair yno ac y gallasai ddysgu y bobl yno, ac yr oedd hefyd yn parchu tŷ ei Dad, er fod pethau annheilwng yn fynych o'i amgylch. Mae cynulleidfa y saint yn ordinhad Duw, ac ni ddylai neb ei hesgeuluso.
Yn adnod nawfed dywedir ei fod "yn dysgu yn un o'r synagogau," a dysgawdwr heb ei gyffelyb ydoedd. Dichon fod llywodraethwr y synagog yn eiddigeddu wrth waith yr Iesu yn dysgu, oblegyd yr oedd yn "dysgu fel un âg awdurdod ganddo." Y mae ffurfioldeb oer gwasanaeth y synagog yn cael tori arno gan nerth ei eiriau a phwysigrwydd ei athrawiaeth. Ac nid dysgu yn unig y mae, ond cyflawni gweithred o gymwynasgarwch hefyd. Yr oedd yr Arglwydd Iesu yn cysylltu addysg â gweithredoedd da. Dyma sydd yn gwneud addysg yn dderbyniol ac effeithiol—ei fod wedi ei gylymu wrth weithredoedd da. Mae yr efengyl i barhau fel hyn—dysgu a gwneuthur a gwneuthur a dysgu.
Yn y testyn ni a gawn ddau beth i sylwi arnynt:—
- I. Cyflwr ac arfer y wraig.
- II. Sylw a bendith yr Iesu.
I.—Cyflwr ac arfer y wraig. Yr oedd cyflwr naturiol y wraig hon yn ddangosiad o gyflwr ysprydol llawer o wrandawyr yr efengyl.
1. Yr oedd ei hafiechyd yn un annymunol iawn. Yr oedd gan Satan law ynddo, "Yr hon a rwymodd Satan." Y mae pob peth ag y mae gan Satan law ynddo yn chwerw iawn. Un diymarbed hollol ydyw ef ar ddyn, ac nid ydyw byth yn blino nac yn cael ei ddigoni ar boenydio dynion. Felly y gwnaeth gyda Job; pan gafodd ganiatad, fe aeth hyd eitha ei derfyn. Dylem ddiolch fod yr Arglwydd yn gosod terfyn iddo, "Yr hwn ni ad eich temtio uwchlaw yr hyn a alloch." Bydd y diafol yn siwr o fyned hyd eitha ei derfyn, fel y dywedai Job, "A chroen fy nannedd y diengais;" ac ni chawsai mo hwnw onibae ei fod yn disgwyl iddo gablu Duw â'i dafod. Bobl! y mae gan y diafol law yn eich anufudd-dod chwi, " Yr yspryd sydd yr awrhon yn gweithio yn mhlant anufudd-dod," ac fe ddywedir fod "nerth marwolaeth ganddo."
2. Yr oedd rhwymau Satan yn yspryd gwendid ynddi. Rhwymau yn peri gwendid ydyw rhwymau Satan. Nid oddiallan y mae yn rhwymo, ond y mae yn yspryd gwendid. Dyma yr hyn a wna y diafol, trwy ei holl demtasiynau a'i hudoliaeth, magu yspryd gwendid. Dyma sydd ar lawer yn eu cadw oddiwrth grefydd—yspryd gwendid, meddwl y bydd rhywun yn gofyn rhywbeth iddynt, ac y gwesgir arnynt i addoli Duw yn y teulu, a bod â'u hysgwydd o dan yr arch mewn rhyw le cyhoeddus. Beth! Oni fyddai yn fraint i'r dyn wneud hyn a phethau eraill? Oni wyr y dyn hyn yn burion? Gŵyr, ond y mae yspryd gwendid ynddo. Diolch fod Iesu Grist yn gallu datod rhwymau Satan, ac yn gollwng dynion yn rhydd yn y dyddiau hyn.
3. Yr oedd y wraig hefyd yn wan i olwg pawb. Yr "oedd wedi cyd—grymu"—yn crymu yn mhob man, yn gam drwyddi oll. Mae pechod a Satan yn peri diffrwythdra trwy holl gorph ac enaid dyn. Mae y deall yn dywyll, yr ewyllys yn gyndyn, y serch yn gnawdol a daearol, y côf yn bwdr a llygredig, a'r gydwybod yn seriedig.
Yr oedd hon yn annghyfleus at bob peth; nis gallai na sefyll, na gorwedd, nac eistedd; yr oedd "wedi cyd-grymu," a beth allai hi wneud ?
Mae y diafol yn gwneud dyn nad ydyw yn dda i ddim, ac nid ydyw yn gysurus yn un man. Dyn anesmwyth a phoenus ydyw i ba le bynag yr aiff. Edrychwch ar Cain yn ei afael yn ceisio ffoi, ond i dir Nod yr aiff, ac ystyr hwnw ydyw crynu—a thir y crynu ydyw pob tir i'r dyn yn rhwymau anwiredd. Gwelwch Judas yn dyn yn y rhwymau, yn methu cael esmwythder, ac yn hyrddio ei hun yn ei boenau i wlad y poenau tragwyddol.
4. Rhwymo yn dyn iawn y mae Satan, "Ac ni allai hi mewn modd yn y byd ymuniawnu." O! fel hyn y mae miloedd yn methu gadael eu chwantau, methu gadael y gyfeddach, a'r diotta, a'r cwmni drwg. O! gynifer sydd fel hyn yn dyfod i'r synagog, i foddion gras, ac yn addunedu. Mae bywyd dyn yn fywyd o addunedau
Addunedau fil
I gadw'r llwybr cul.
Ond yn methu cyflawni. Addunedu iddo ei hun fwy nag a ŵyr neb, ac addunedu wrth ei deulu a'i gymydogion; a gwneud ei addunedau yn hollol ddifrifol. Paham na chyflawnai? Y mae rhwymau Satan y fath fel nad all "mewn modd yn y byd ymuniawnu." Y mae arfer y wraig, yn y cyflwr hwn, yn haeddu moment o'n sylw hefyd.
1. Hi a ddaeth i'r synagog. Y mae yn debyg ei bod yn methu myned i lawer man y dymunasai fyned, ac efallai fod y synagog yn anhaws myned iddo na llawer un o'r manau hyny. Fe geir rhai yn medru myned i luaws o fanau, ond yn methu myned i foddion gras. Y dyn yn methu dyfod i'r oedfa ar y Sabboth, ond yn gallu myned i'r ffair, ddeng milldir o'i gartref, dranoeth. Daeth hon i'r synagog.
2. Hi ddaeth yno trwy lawer o boen a gwendid mawr. Gwyddai hefyd fod yr olwg arni yn hynod anffurfiol, oblegyd yr oedd wedi cyd-grymu. Y mae peth bychan yn cadw ambell un o'r synagog. Rhyw gyfnewidiad, heb fod yn bwysig, yn ymddangosiad corphorol y dyn, y wraig heb gael y dilledyn newydd a ddisgwyliai, ychydig wynt a gwlaw, yn rhwystro pobl i'r moddion.
Bu y wraig y mae son am dani yn y testyn, yn y synagog lawer gwaith o'r blaen, heb i neb ddal sylw arni; ond er pob gwendid a gwaeledd, dacw hi yn ymlusgo yno y tro hwn eto, a dyma'r tro y daeth i afael iachawdwriaeth.
II.—Sylw a bendith yr Iesu. Fe welodd yr Iesu hon. Yr oedd yno luaws heb weled hon tra yr oeddynt yn gweled rhywrai, ac yn eu cyfarch yn barchus tua'r drysau; ond dacw y Meddyg Mawr â'i lygaid ar hon, ac ni ddywedir am ei sylw ar neb arall yn y lle, "Pan welodd yr Iesu hon."
Ni ofynodd hi ddim iddo; ond yr oedd wedi dyfod i'r fan fwyaf tebyg iddi gyfarfod âg ef ar y Sabboth, er nad oedd hi hwyrach yn gwybod am hyny. Yr oedd yn "ferch i Abraham," ac yn credu yn Nuw Abraham; ac y mae yn gwneud ymdrech i gyflawni ei dyledswydd er nad oedd yn disgwyl y buasai yn cael y fath fendith. Pan y mae dyn yn cerdded llwybr ei ddyledswydd y mae yn cyfarfod â'r fendith, oblegyd y mae bendithion y nef fel angylion yn rhodio ar hyd y llwybrau hyny.
I. Fe'i canfyddwyd gan yr Iesu. Nid oedd yn yr un fan a'r Iesu—yr oedd y dellt rhyngddi ag ef; ond y mae ei lygaid craff yn ei gweled trwy y rhwyllau. Nid oedd yn beth arferol i wragedd ymddangos mewn un rhan arall o'r synagog; yr un pryd, yr oedd y wraig yn y lle y dylasai fod; ac os bydd dyn yn y fan lle y dylai fod, gall fod yn bur dawel na bydd yn ol o un fendith sydd yn werth ei derbyn. Y mae conglau y synagog yn agored i'w lygaid Ef, "Pan welodd yr Iesu hon."
2. Fe'i galwodd hi ato. Y mae yn bwysig i ni ufuddhau i'r Iesu, beth bynag fydd yr anhawsderau. Dywed wrth y dall, "Dos i lyn Siloam ac ymolch;" y mae yn gorchymyn i'r gwahangleifion fyned a dangos eu hunain i'r offeiriaid. Gallasai pob un ohonynt wneud esgus am beidio ufuddhau nes cael rhyw arwydd; ond wrth ymolchi y cafodd y naill ei olwg, ac wrth fyned at yr offeiriaid y cafodd y lleill iachâd. Cofiwn mai ar ffordd ufudd-dod y mae cael bendithion gan yr Iesu. Y mae yr Iesu yn galw y wraig hon ato. Gallasai hithau ddadleu ei gwendid a rheolau y synagog; ond dyfod ato i'r man lle yr oedd a wnaeth hi, a dyfod ato fel yr oedd, yn ei gwendid.
'Doedd neb o'r gwragedd yn ei chymhell i fyned ato, na'r meibion yn dweyd, "Tyred yma at yr Iesu." Peidiwch disgwyl wrth ddynion; y mae Ef yn eich galw, ac yn eich galw yn eich trueni a'ch helynt, heb wella dim arnoch eich hunain. Sut yr wyt ti yn galw ar y wraig gam yna, Waredwr mawr? I unioni rhai wedi camu gan bechod y daethum i'r byd, ac i gael dynion yn rhyddion o gadwynau Satan. "I hyn yr ymddangosodd Mab Duw, fel y datodai weithredoedd diafol "—dyna fuasai ateb yr Iesu.
3. Fe gyhoeddodd ryddhad iddi. "Ha wraig, rhyddhawyd di oddiwrth dy wendid." Hi gafodd y peth oedd arni fwyaf o'i eisiau o bob peth. Cwestiwn mawr yr Iesu i bobl anghenus ydoedd, "Beth a fyni i mi ei wneuthur iti?" Yr angen mawr yn gyntaf, yr eisiau dwfn yn mlaen pob peth. Mae yr Arglwydd Iesu yn myned at wraidd y drwg, at ffynon y dyfroedd gwenwynig, yr angen mawr. "Taflu dwfr trwy y mŵg" y mae dynion yn gyffredin yn lle ei daflu ar ben y tân. Ond diffodd y tân fe dderfydd y mŵg.
4. Fe roddes ei ddwylaw arni hefyd, fel y rhoddes ei ddwylaw ar y plant bychain. Y mae mor llawn o fendithion fel y maent yn dyferu fel olew tyner oddiwrth ei fysedd. Dyma ollynga y dyn yn rhydd o rwymau y diafol, dwylaw yr Iesu; a braint ddigyffelyb ydyw gwrando ei eiriau a bod o dan ei ddwylaw. Y mae yr effaith a gafodd hyn ar y wraig yn hollol naturiol. Eglurir ef mewn dau beth:
1. "Yn ebrwydd hi a uniawnwyd." Nis gall neb wadu y dylanwad. Yr oedd yr Arglwydd Iesu wedi gosod ei farc ar y cyfarfod nad allai neb ei ddileu. Nid yn unig fe ddysgodd, ond efe a osododd hefyd sêl ddwyfol ar ei ddysgeidiaeth. Efallai nad oedd pawb yn gallu canfod dwyfoldeb ei ddysgeidiaeth, ond yr oedd llygaid pawb yn canfod y wraig wedi ymuniawnu.
2. Fe ddechreuodd y wraig glodfori Duw—"Ac a ogoneddodd Dduw." Wedi gwella y mae y diolch yn llifo allan. Fe deimlodd yn ei chorph ac yn ei henaid fod iachawdwriaeth yn eiddo iddi, ac y mae yn tori allan i ogoneddu Duw. Dyma rywbeth newydd spon yn y synagog y pryd hwn, ac y mae y gynulleidfa a'r llywodraethwr yn cael eu cyffroi. Tipyn yn hen ffasiwn yr ystyrir gorfoleddu gan luaws yn y dyddiau hyn. Y mae eto rai yn tori allan, rhai i weddio eraill i ganu. Mae canu diwedd ambell i oedfa yn doriad allan mor wirioneddol ag yn amser y diwygiad mawr dair blynedd a thriugain yn ol. Pan y mae yr Arglwydd Iesu yn dyfod ac yn gosod ei farc ar y moddion, mae yno rai yn tori allan i ogoneddu Duw mewn rhyw ffordd neu gilydd. O deued i'n synagogau eto. O tyred, Iesu mawr, i synagogau Cymru i beri fod miloedd yn gogoneddu Duw.
Pob pechadur anghenus, pob un âg ysbryd gwendid ynddo, pobl hyd yn nod wedi cydgrymu, y mae genyf genadwri i chwi. Ewch at yr Iesu heibio i bawb a thros bob clawdd—heibio i lywodraethwr y synagog a'r cwbl, ac ar draws pob rheolau dynol. Nid oes yr un rheol ddwyfol ar ffordd y pechadur mwyaf at yr Iesu. Na, mae y ddeddf wedi ei boddloni ynddo, a thrugaredd bellach at ei ryddid i'th ymgeleddu.
Mae lleferydd a dwylaw yr Iesu yn ordinhadau yr efengyl eto. Dyma dyr eich rhwymau, ddynion. Yn anwyl. O, dowch dan ei ddwylaw galluog. geimion, o dewch dan ei ddwylaw grasol. Y mae pawb yn unioni o dan ei ddwylaw ef.
- Μai 17, 1881.