Cofiant David Davies, Bermo/Ymddadblygiad
| ← Bore ei oes | Cofiant David Davies, Bermo gan William Jones, Lerpwl |
Ymarfogi at waith → |
PEN. II.—Ymddadblygiad.
Cyfnod yr argraphiadau.—Prinder ysgolion dyddiol.—Yr ysgol gyntaf yr anfonwyd ef iddi.—Y teulu yn symud i'r Waen, gerllaw Rhiwabon, ac yn dychwelyd drachefn.—Yn yr ysgol ysgol yn Llanrwst. Ei awydd am ddarllen.—Y llyfrau cyntaf.—Ei gariad at y Beibl. —Ei duedd at ganu. John Ellis, yr athraw cerddorol.—Ei dderbyn yn gyflawn aelod.—Sais yn areithio yn Mhenmachno ac yntau yn cyfieithu.—Ei ddewis yn flaenor.—Awydd pregethu.—Diwygiad crefyddol.—Cymeryd rhan yn y Cyfarfodydd Gweddiau. —Yn pregethu i'w gyfoedion.—Ceidwad yr athrawiaeth. Mewn tywyllwch a phryder yn ei ymchwiliad am y gwirionedd.—Ysbryd dadleuol y cyfnod hwnw. Yn cyrhaedd y làn. Ei barch i enwadau eraill.
GELLIR galw y cyfnod cyntaf yn hanes pob dyn yn gyfnod yr argraphiadau, ac y mae yn gyfnod pwysig iawn y cyfnod pan y mae yn bod megys yn ewyllys ei rieni, ac heb ddechreu arfer ei ewyllys ei hun mewn gweithrediad ag y mae yn gyfrifol am dano. Nid oes llinell amlwg rhwng y ddau gyfnod wedi ei thynu; ac nis gellir ateb y cwestiwn pa bryd y mae y plentyn yn croesi trosodd o'r naill gyfnod i'r llall; ond y mae yn amlwg fod gan y cyfnod cyntaf y ceir ef ynddo ddylanwad mawr ar ei gymeriad ef yn holl gyfnodau ei oes. Y mae y cyfnod a dreulir ganddo o wydd y byd, megys, yn gorwedd o dan ac yn sylfaen i'w gymeriad cyhoeddus. O'r golwg y mae gwir hanes dyn; ac y mae y gweithredoedd mwyaf cyhoeddus gerbron y byd, yn esboniad ar y dylanwadau dystaw a fu yn gweithio allan o olwg y byd a'r dylanwadau nad ydyw y byd yn gofalu fawr am danynt, nac yn rhoddi pwys priodol arnynt. Nis gellir cael Moses i arwain y genedl, ac i gyflawni gorchestion nad ellir eu cuddio yn hanes y byd, heb ddylanwad dystaw cartref sanctaidd—anialwch Midian, a gweledigaeth y berth; a hon yw y bennod bwysicaf yn hanes pob dyn. Ond y mae yn haws dilyn y dyn yn ei yrfa gyhoeddus. Pan y mae y dderwen yn y fesen yn dechreu ymddatod yn y ddaear, a'i gwraidd yn dechreu ymaflyd yn y llanerch sydd yn sail i'w thŵf, ac yn faeth i'w chadernid, nid ydyw y gweithrediadau pwysig, sydd yn brophwydoliaethau i'w holl hanes, yn wybyddus i'r rhai sydd yn ymdaith y llwybr gerllaw iddi; ond pan y dechreua y blagur ddyfod i'r golwg y mae yn gyfleus i'w wylio, ac y mae yn rhaid aros blynyddoedd cyn y bydd y dderwen dalgref, dewfrig, yn tynu sylw pawb; ond y cyfnod disylw a dystaw cyntaf ydyw cartref y gallu a fu yn penderfynu ei thynged yn mlynyddoedd cyhoeddus ei nerth. Nid ydyw'r cyfnod y dechreuodd gwrthrych y Cofiant ddyfod i'r golwg yn meddu lluaws o amgylchiadau oedd yn synu pobl; ac eto, yn mlynyddoedd cyntaf ei oes, yr oedd rhai pethau yn ymddangos oeddynt yn peri i'r rhai craffus ofyn—" Beth fydd y bachgenyn hwn?" Nid oedd ysgolion dyddiol effeithiol o fewn cyrhaedd i'w roddi ynddynt; ac nid oedd amgylchiadau ei rieni yn caniatau iddynt fyned i draul fawr gyda'i fanteision addysgawl; ond bu ei dad a'i fam yn athrawon gofalus iddo yn nghyfnod pwysicaf ei oes.
Yn mhlith yr ychydig sylwadau a ysgrifenodd, ar gais cyfeillion, am dano ei hun, pan yn cyfeirio at y cyfnod hwn, ysgrifena fel y canlyn : — "Yr oedd fy nhad a fy mam yn selog iawn am fy nysgu, fel pan aethum i'r ysgol gyntaf yr oeddwn wedi dysgu darllen Cymraeg a Saesneg i raddau lled helacth.”
Yr ysgol gyntaf yr anfonwyd ef iddi ydoedd ysgol a gynelid ar y pryd yn yr ardal, gan un o'r enw Harri Ellis. Y mae'n sicr nad oedd yr athraw hwnw, mwy nag athrawon gwledig y cyfnod, wedi ei ddysgyblu ar gyfer ei waith mewn un coleg athrawol, ac nad oedd y Llywodraeth yn ei gydnabod mewn un ystyr; ac nid oedd y swyddog gorfodol, sydd yn gymaint o ddychryn i blant a ewyllysiant fwynhau eu rhyddid yn y dyddiau hyn, wedi gwneud ei ymddangosiad; ac efallai nad oedd rhieni Dafydd bach, gan faint eu gofal am dano, yn awyddus i'w ollwng o derfynau eu gwyliadwriaeth bersonol yn rhy fynych am amser hir.
Am nad oedd y tyddyn bychan y preswylient arno yn cynyrchu digon at gynaliaeth y teulu, byddai ei dad ar brydiau yn gwneud ffyrdd; a phan oedd y ffordd fawr o Gaergybi i Lundain yn cael ei gwneud, cymerodd yntau ran fechan ohoni i'w gweithio yn agos i Riwabon. Symudodd y teulu oherwydd hyny i'r Waen (Chirk). Yr oedd ef ar y pryd tua saith mlwydd oed. Buont yn cyfaneddu yno am flwyddyn, pryd y dychwelasant i Benmachno drachefn. Yn y gwanwyn cyntaf ar ol eu dychweliad, gosodwyd y bachgen i gynorthwyo gyda phlanu coed, tra nad ydoedd yn llawn naw mlwydd oed. Ni a gawn ei fod yn dilyn yr un gwaith bob gwanwyn yn y blynyddoedd dilynol, gan enill ychydig trwy ei lafur; ond gwariai yr hyn a enillai, wedi i'r tymhorau fyned heibio, am ysgol ac am lyfrau.
Pan yr oedd o dair ar ddeg i bedair ar ddeg oed, bu o dan addysg athraw o'r enw Robert Jones, yr hwn a gyfaneddai yn y tolldy, a'r hwn a ystyrid yn ysgolhaig gwell na'r cyffedin o gryn lawer. A phan yr oedd o bymtheg i ddwy ar bymtheg bu am beth amser yn "Ysgol Râd," Llanrwst—yr ysgol y bu I. Glan Geirionydd ynddi rai blynyddoedd cyn hyny, ac amryw o wŷr enwog ar ol hyny, a'r ysgol y canai Ieuan mor deimladwy wrth adgofio am dani
Pa le, pa fodd mae heddyw
Y lluaws yma fu
'N cydchwareu a chyd—ddysgu
A chydymgomio'n gu?
Mae rhai mewn pridd yn huno,
A'r lleill ar led y byd,
Nid oes un gloch a ddichon
Eu galw heddyw 'nghyd.
Yn y blynyddoedd hyn yr oedd ei awch am ddarllen yn fawr, ond nid oedd y cyfleusderau a gaffai i dori ei syched yn hyn ond prinion iawn. Nid oedd yn ei gartref ar y pryd ond ychydig o lyfrau, ond gwnaeth y defnydd goreu o'r ychydig hyny. Gwneid y llyfrgell i fynu o Eiriadur ac Hyfforddwr Charles; Canwyll y Cymry Ficer Prichard; a Chatecism Griffith Jones, Llanddowror. Bwytaodd y llyfrau hyn gyda blas. Trysorodd ddarnau helaeth ohonynt yn ei gof, ac yr oedd ei gydnabyddiaeth â hwynt a'i hoffder ohonynt yn mlynyddoedd olaf ei oes yn profi iddynt fod yn gymdeithion agos a ffyddlon ganddo yn mlynyddoedd ei febyd a'i ieuenctyd. Yr oedd gan y teulu hefyd Feibl yn cynwys yr Apocrypha, a bu historiau yr Apocrypha yn foddion llawer o ddifyrwch iddo.
Ymgydnabyddodd yn foreu â'i Feibl, a daeth mor hoff ohono fel y penderfynodd, cyn bod yn ddeuddeng mlwydd oed, am gymeryd Beibl gydag ef i bob man, a glynodd yn ffyddlon wrth y cyfamod hwnw tros ei holl oes; a'i brofiad yn niwedd ei yrfa ydoedd, “Bu hyny o fendith fawr i mi." Ni welid ef byth heb Feibl bychan yn ei logell.
Dysgodd ei dad ef i ymarfer â gwneud rhywbeth yngyhoeddus yn y capel yn foreu iawn. Gosodai ef ar ben y fainc i roddi penill i'w ganu, neu i adrodd pennod; ac, yn nglŷn â hyn, fe adroddir un tro hynod am dano. Fe gynelid cymanfa flynyddol yn Llanrwst y pryd hwnw, a chyfarfod tra phwysig i'r holl ardaloedd ydoedd. Aeth ef yno un tro gyda'i dad, ac mewn eisteddle ar fin y gallery, cyn dechreu y gwasanaeth, pan oedd y capel yn orlawn o bobl, cododd ar ei draed a rhoddodd benill allan, a dechreuodd ei ganu. Yr oedd y bachgen ieuanc a'r gwallt du, cyrliog, a'r llais uchel a swynol, wedi synu yr holl gynulleidfa, ac am hyny yr oedd yr holl siarad i ddiwedd y gymanfa hono, ac ar ol iddi fyned heibio; a chefir byth, gan y rhai oedd yn y cyfarfod, am yr effeithiau oedd yn canlyn gwasanaeth y bachgen. Ymledodd y son am dano trwy yr ardaloedd, a holid llawer yn ei gylch, a disgwylid yn awyddus i glywed ei fod yn dechreu pregethu ; ac ar ol iddo ddechreu, fe'i hadnabyddid yn nglŷn â'r hyn a wnaed ganddo yn Nghymdeithasfa Llanrwst.
Yr oedd tuedd gref ynddo at ganu, a phan yr oedd ef yn blentyn ieuanc iawn, daeth yr hen athraw cerddorol, John Ellis o Lanrwst, i Benmachno i ddysgu cerddoriaeth. Byddai yn ymweled â'r gwahanol gymydogaethau ar gylch-yn Mhenmachno am fis, Yspytty am fis, a Ffestiniog am fis-a diamheu i'w lafur fod o les dirfawr i ganiadaeth y cysegr yn y lleoedd hyn. Yr oedd y dynion a fu o dan ei addysg nid yn unig yn gerddorion lled wych, ond meddianid hwy gan ysbryd cerddorol brwd. Ond ni chafodd y gŵr da hwn gyflawni ei genadaeth heb gyfarfod âg erledigaeth danllyd. Cyfododd amryw yn ei erbyn yn Yspytty a Phenmachno. Nid oedd dysgu nodau cerdd, yn eu tyb hwy, yn beth crefyddol, a dywedid ganddynt hefyd fod ysgafnder a llygredigaeth yn cael eu cynyrchu yn y dosbarthiadau oedd o dan ei ofal Penderfynwyd rhoddi atalfa ar y gwaith yn yr Yspytty, a hysbyswyd y penderfyniad i'r athraw a'r dysgyblion. Erfyniai yr athraw a'r dysgyblion am gael un cyfarfod wedi hyny, i ganu yn iach i'w gilydd. Caniatawyd y cais hwnw, a daeth y noson; a phenderfynodd rhai o'r gwŷr da a wrthwynebent fyned yno, a llechu mewn rhyw gongl, er mwyn cael y profion o'r hyn y cyhuddent yr athraw, ac i dawelu eu cydwybodau eu bod yn gwasanaethu yr Arglwydd wrth ei atal. Fodd bynag, yn ystod y cyfarfod aed i ganu yr anthem, o waith yr athraw, "Mewn llawenydd y tynwch ddwfr o ffynonau iachawdwriaeth." Daeth ysbryd y peth byw i'r canu, ac ni fedrent ymatal. Meddianwyd pawb oedd yn y lle ganddo, a chenid y geiriau "Mewn llawenydd y tynwch ddwfr" drosodd a throsodd drachefn, hyd nes yr oedd yn amlwg fod y dwfr yn cael ei dynu mewn llawenydd ganddynt. Daeth y gwrthwynebwyr allan o'u llochesau gan rym y canu, a daethant yn mlaen i'r canol yn ddynion wedi eu gorchfygu; ac os na ddysgwyd iddynt ganu, fe'u gorfodwyd i dori allan mewn mawl a dioich. Daliwyd hwy gan ysbryd prophwydo fel cenadon Saul gynt. Ni chlybuwyd son ar ol hyny am atal y cyfarfodydd.
Yn y dosbarthiadau hyn yn Mhenmachno, yr oedd y bachgen o'r Gorlan yn ymroddi yn selog i'r gwaith. Cyfarfyddai hefyd nifer o'r dysgyblion yn ei gartref yn fynych ar nawn Sabboth, a dyna lle y byddai canu hyd nes adseinio y fro, ac yr edrychid ar y tŷ fel cartref y canu yn y gymydogaeth. Aeth ef yn mlaen am rai blynyddoedd gyda dysgu cerddoriaeth trwy gymhorth y Caniedydd Crefyddol, gan W. Owen (Gwilym Glan Hafren), a Gramadeg Cerddorol Mills o Lanidloes. Cenais," meddai ef ei hun, "gymaint ag odid neb yn y byd hyd nes bod yn ddeunaw mlwydd oed."
Derbyniwyd ef yn gyflawn aelod o'r eglwys pan yr oedd yn bedair ar ddeg mlwydd oed. Byddai yn gweddio yn nghyfarfodydd y plant cyn hyny, ac yr oedd wedi cymeryd rhan rai gweithiau yn y cyfarfodydd gweddiau cyhoeddus; a chymerai y blaen er's rhai blynyddoedd mewn ateb yn yr ysgol pan yr holwyddorid hi, a dygai fawr sel dros y cyfarfodydd ysgolion. Cymerid gofal y cyfarfodydd ysgolion yn fynych y pryd hwnw gan y Parch. Robert Evans o'r Roe Wen, a phrin y meddylid am gynal cyfarfodydd holwyddori o fewn y dosbarth am flynyddoedd, heb ofyn am ei wasanaeth, a holwr caled iawn yr ystyrid ef; a phan y byddai yn tywyllu ar y gynulleidfa gyda'r ateb, byddai rhai o'r hen bobl yn apelio at Dafydd ieuanc am waredigaeth. Yr oedd yn athraw yn yr ysgol yn yr oedran cynarol hwn, a byddai ei ddosbarth yn cael ei ystyried ar y blaen bron bob amser.
Y noswaith y derbyniwyd ef at Fwrdd yr Arglwydd, yr oedd y Parch. Edward Rees, Ffestiniog-yr hwn a symudodd i'r America-yn bresenol, ac yn arwain y cyfarfod. Buasai yn hyfryd genym gael ychydig o hanes y cyfarfod hwnw. Beth oedd y cwestiynau a ofynid gan y pregethwr, a beth oedd yr atebion a roddid ganddo yntau, a chael y cynghorion a roed iddo gan y frawdoliaeth; ond y mae yn rhaid ymfoddloni hebddynt. Yr oedd geneth ieuanc yn cael ei derbyn gydag ef y noswaith hono, ac ymddengys mai dyma y ddau gyntaf a dderbyniwyd o hâd yr eglwys yn mhlith y Methodistiaid Calfinaidd yn Mhenmachno. Y mae yn amlwg nad oedd gofal priodol yn cael ei gymeryd am y plant, ond gadewid iddynt adael yr eglwys, ac yr oeddynt oll, oddieithr y ddau hyn, wedi eu colli y pryd hwn, ond glynodd ef. Ymddengys nad oedd ei deimladau crefyddol yntau mor wresog yr adeg hono ag y buont ychydig amser cyn hyny. Wrth gyfeirio at yr amgylchiad, fel hyn y dywedai :-" Buasai yn well i mi fy mod wedi fy nerbyn flwyddyn yn gynt, oblegyd yr oedd fy meddwl yn fwy addfed i hyny. Yr oeddwn wedi gweled rhyw bethau mewn proffeswyr crefydd oedd wedi oeri fy meddwl a chaledu fy nghalon erbyn bod yn bedair ar ddeg mlwydd oed fel nad oeddwn yn teimlo nemawr o awydd cael fy nerbyn." Diamheu fod cofio am ei brofiad ei hun yr adeg hono wedi bod yn foddion i'w wneud ar hyd ei oes yn selog am dderbyn plant yn foreu at Fwrdd yr Arglwydd, os gwelid ynddynt raddau o addfedrwydd mewn gwybodaeth a phrofiad.
Rywbryd yn y cyfnod hwn, ymwelodd rhyw Sais â Phenmachno i areithio ar Gaethwasiaeth. Desgrifiai y driniaeth a gai y caethion, ac yr oedd ganddo yn y pwlpud gydag ef chwip a fflangell, y rhai y dywedai a ddefnyddid gan eu meistriaid creulawn atynt. Nid oedd un o bob cant yn y gynulleidfa a allasai wneud dim o'r araith am ei bod mewn iaith estronol iddynt, a bu raid ei gael ef ar risiau y pwlpud i gyfieithu i'r gynulleidfa. Yr oedd y wybodaeth a enillodd o'r Saesneg yn y Waen pan y bu yno gyda'i rieni, fel y sylwyd, wedi bod yn fantais iddo; ac hefyd yr oedd yn gorfod dehongli rhwng goruchwyliwr Mr. Bankes -perchenog yr etifeddiaeth yr oedd ei gartref arnia'r gweithwyr. Yr oedd ei dad erbyn hyn yn fath o is-oruchwyliwr ar ran o'r etifeddiaeth, a'r sefyllfa y daeth yntau ei hun iddi yn mhen rhai blynyddoedd. Coleddai Mr. Martin, y prif oruchwyliwr, feddyliau mawr am y bachgen, ac yr oedd ei sirioldeb a'i barodrwydd yn ei synu, a chymerai ef i gyflawni swyddau bychain iddo pan ddeuai i'r gymydogaeth.
Cyn bod yn llawn dwy flwydd ar bymtheg oed, dewiswyd ef yn flaenor yn eglwys Penmachno. Ac yn fuan wedi hyny daeth yr awydd am bregethu yn gryf arno. Pan yn cyfeirio at hyn, dyma fel y dywedai ef ei hun:-" Tua dwy ar bymtheg oed daeth y meddwl am bregethu. Yr oedd rhywbeth fel ysfa pregethu arnaf bob amser-nis gwn pa enw arall i'w roddi arno -rhyw ysfa yn peri i mi bregethu heb yn wybod i mi fy hun, yn y coed ac yn y meusydd."
Tua'r pryd hwn ymwelodd diwygiad crefyddol grymus â'r ardal. Ychwanegwyd lluaws mawr at yr eglwys. Deuai y plant a gollwyd o'r eglwys yn ol gan waeddi fel rhai ar ddarfod am danynt; ac wrth sylwi arnynt o dan deimladau mor ddwysion, teimlai awydd cryf iawn ei hunan i brofi yr un peth. “Buasai yn dda genyf finau," meddai, "orfod gwaeddi allan fel hwythau, ond ni chefais ddim i beri hyny, ac nid oeddwn inau am wneud heb i mi orfod gwneud. Yr un pryd cefais lawer o fendith yn y diwygiad hwnw." Ymddengys i'r adfywiad hwn ymledu yn lled gyffredinol yn Lleyn ac yn Eifionydd, a disgynodd cawod drom ar rai ardaloedd yn Arfon hefyd. Fel y sylwyd o'r blaen, daeth i'r golwg yn gyntaf oll fel un yn gallu canu yn swynol. Amlygodd ei hun wedi hyny yn ei weddiau gafaelgar a thaerion. Pan y dechreuai gymeryd rhan gyhoeddus yn y cyfarfodydd gweddiau, mawr a fyddai yr awydd am ei glywed, a rhyfedd a fyddai y dylanwad ar brydiau ar y gynulleidfa. Bu y cyfarfodydd gweddiau am gyfnod oherwydd hyn yn boblogaidd iawn. Deuai y bobl iddynt yn y gobaith o'i glywed ef yn arwain defosiwn y gynulleidfa. Y mae yn amlwg ei fod yn arfer gweddio llawer ar ei ben ei hun. Yn ei adgosion, pan yn cyfeirio at y pryd hwn yn ei hanes, dywed :"Arferais weddio yn ddirgel er cyn cof i mi-yn nghilfachau y creigiau a'r nentydd ac yn nghysgod y coed. Y mae cydnabyddiaeth rhyngof a Choed y Ffynon a'r Bennar"-dwy ffarm y bu cysylltiad arbenig rhyngddo ef a hwynt ar ol hyn, ac y mae yr holl lechweddau sydd y tu ol i'r tŷ y magwyd ef yn cael eu cynwys yn y ddwy-" fel manau lle y bum yn gweddio, ac am hyny y mae fy nghof yn benaf yn eu cylch-manau lle y bum ar fy ngliniau yn plygu ger bron y Goruchaf. Mae y Graienyn, Gallt Coed y Ffynon, ac yn wir holl dir Coed y Ffynon, a llawer o dir y Pandy, a choed, a nentydd, a gelltydd y Bennar wedi eu sancteiddio yn fy meddwl i am eu bod yn fanau lle y bum yn dra ieuanc yn ceisio neshau at Dduw."
Bu yn pregethu llawer hefyd i'r coed a'r creigiau. Ymddengys y byddai ar brydiau nifer o fechgyn yn cael eu gwahodd i rai o'r oedfeuon plentynaidd hyn, ac ystyriai y gwrandawyr fod y gwahoddiad hwn gan y bachgen-bregethwr yn fraint bwysig ac yn anrhydedd mawr. Yn mhlith yr etholedigion yr oedd un na feiddid myned yn mlaen hebddo. Ystyrid hwnw y duwinydd mwyaf yn mhlith plant y gymydogaeth, a phe buasai rhoddi dwy lythyren i addurno ei enw yn hawlfraint gan y plant, cawsai hwn hwynt yn rhwydd a didramgwydd ganddynt. Edrychid arno fel ceidwad yr athrawiaeth, ac ni feiddiai y pregethwr draddodi ei bregeth heb iddo ef fel oracl fod yno, ac ni feiddiai y gwrandawyr dderbyn yr hyn a draddodid heb gael ei gymeradwyaeth ef yn gyntaf. Ni fyddai y pregethwr plentynaidd byth yn ei ofni, ond gwahoddai ef i'r odfeuon fel pwnc o angenrheidrwydd. Yr oedd y bachgen hwn rai blynyddoedd yn hyn nag ef, ac edrychid arno ar hyd ei oes fel un cyfarwydd iawn yn yr Ysgrythyrau, ac yn llenwi y teitl o geidwad yr athrawiaeth; ac os canfyddai ogwydd i wyro oddiwrth yr hyn a farnai ef yn athrawiaeth iachus nid ymataliai rhag dwrdio yn dost. Nid allai oddef gweled pregethwr yn darllen ei bregeth nac yn dodi papyr o'i flaen ar y pwlpud. Cafodd gyfleusdra effeithiol i weinyddu cerydd trwm ar droseddwr felly unwaith. Cadwai dŷ'r capel ar y pryd, ac yr oedd gwr ieuanc yn traddodi ei bregeth gyntaf yn y capel hwnw rhyw noswaith. Ar ol i'r pregethwr ddechreu y gwasanaeth elai yntau yn mlaen i oleuo y canwyllau, a phan y daeth i ymyl y pwlpud gwelai ef wedi tynu y bregeth allan ac wedi ei dodi o'i flaen ac yn parotoi i'w darllen. Pan welodd hyny aeth ymaith heb roddi goleuni ar y pwlpud; ac am fod y pregethwr yn dibynu ar yr ysgrifen oedd ger ei fron, dybenodd mewn tywyllwch du cyn pen chwarter awr er mawr brofedigaeth iddo ef, ond er mawr foddhad i'w geryddwr. "Dyna brofi effeithiol arno," meddai, "a chan nad all fyned yn mlaen heb oleuni canwyll yn ei ymyl ni ddylai ddechreu." Cofiodd y pregethwr byth amy tro. Efallai fod yr un llymder yn perthyn iddo pan yn dilyn oedfeuon tymhor bachgendod gwrthrych ein Cofiant, ac iddo weinyddu ceryddon hefyd am wyriad mewn barn yn y bregeth neu gamymddygiad yn y pregethwr, ac iddo yntau dderbyn llawer o addysg a manteisio yn fawr ar y ddysgyblaeth.
Yn y blynyddoedd hyn, bu ei feddwl mewn ystorm enbyd, ac aeth trwy brofiad tanllyd gyda golwg ar y gwirionedd. O dan arweiniad yr ysbryd ymchwilgar oedd ynddo ac oherwydd y nwyfiant a'r asbri oedd yn ei feddwl, daeth i gyffyrddiad â gweithiau anffyddol. Darllenodd Paine, rhanau o Bolingbroke, Voltaire, a Hume; ac fel hyn y dywed ef ei hun am y canlyniadau :—" Bum o dan eu dylanwad am wythnosau mewn pryder a chyfyng—gyngor yn nghylch y gwir. Teimlwn fy mod yn gallu ateb lluaws o'u gwrthddadleuon i'r Ysgrythyrau ysbrydoledig, ond wedi myned dros y cwbl, hyd y gallwn wybod, cauais y llyfrau, y Beibl a'r cwbl, gan ymholi beth oedd wir. Ac wrth fyfyrio yr oeddwn yn gweled fy hun yn adyn unig a digymhorth iawn, yn ol syniadau yr anffyddwyr —yn unig yn nghanol y byd, am rhyw amser penodol, heb gyfaill, heb gynghorwr, ac heb arweinydd. Yr oedd fy nhad a fy mam genyf, ond tros ba hyd? A pha beth a allasent hwy wneud i mi, er gwneud eu goreu? Nis gallaswn fod heb gyfaill i'm cynorthwyo a'm dysgu, ac nid oedd un i'w gael. Yr oedd genyf ewythr ag y byddai pobl yn cyrchu ato am gynghor pan mewn amgylchiadau dyrys, ond beth a allasai hwnw ei wneud i mi yn y cyflwr yr oeddwn ynddo? Ie, beth a allasai ei wneud i'w blant ei hun? Ac yr oedd ef ei hunan yn cerdded ffordd digon helbulus a digysur, a pha fodd y gallasai fod yn gyfarwyddwr effeithiol i mi? Edrychwn ar y creaduriaid direswm yn mwynhau eu hunain yn dawel ar y borfa heb feddwl am ddim arall, ond nis gallaswn i berswadio fy meddwl i ymdawelu gyda phethau gweledig o'm hamgylch. Yn ngwyneb hyn, nid oeddwn yn gweled neb na dim yn ateb i'm hangen a'm heisiau ond Duw, yn ol y dadguddiad yn y Beibl—Un y gallwn neshau ato fel ei greadur ac yntau yn abl i'm harwain a'm dysgu. A phaham na allwn gymeryd gafael yn y cysur hwn i mi fy hun? Yr oedd yn union y peth yr oedd arnaf angen am dano, a gwelwn fod pobpeth arall o fewn y greadigaeth yn cael ei ddiwallu, a phaham na chawn inau ddiwallu fy angen, er ei fod yn fawr iawn? 'Aderyn y tô hefyd a gafodd dŷ a'r wenol nyth iddi, lle y gesyd ei chywion,' a chan fod y Duw mawr yn darpar tŷ i'r rhai hyny, yr oeddwn inau yn edrych ato am 'dy' ac am 'nŷth,' a'r tŷ yr oeddwn yn dyheu am dano ydoedd cynteddau ac allorau 'Arglwydd y lluoedd, fy Mrenin a'm Duw.' Nid oeddwn yn gweled yr anffyddwyr yn gwneud dim i mi ond tynu oddiwrthyf—cymeryd oddiarnaf; a theimlwn fy hun yn eu canol fel y dyn wedi syrthio yn mhlith lladron, a hwythau yn fy niosg, gan fy ngadael yn noeth ac yn fy nghlwyfau—wedi cymeryd pob defnydd cysur oddiarnaf a'm gadael yn dlawd a thruenus yn nghanol y greadigaeth fûd, ddifywyd. Ni welaf ond Duw y Beibl yn Ofalwr, yn Gyfaill, yn Amddiffynwr, yn Dad ac yn Waredwr i mi, ie, yn llon'd fy angen yn y byd hwn a'r hwn a fydd; gan hyny, cymeraf afael yn dyn yn y dystiolaeth hon."
Wedi penderfynu y cwestiynau hyn i'w foddlonrwydd ei hun, a chyrhaedd tawelwch o'r ystorm, bu ei feddwl mewn gradd o bryder drachefn gyda golwg ar gredoau y gwahanol enwadau crefyddol oedd o'i amgylch. Yr oedd y Wesleyaid yn y gymydogaeth yn lluosog ar y pryd, ac fel y dywed ef o "syniadau Arminaidd iawn," Dygid yn mlaen y dadleuon mwyaf gwresog rhyngddynt hwy a'r Methodistiaid Calfinaidd, a byddai poethder y frwydr ar rai adegau yn cyrhaedd mor uchel fel y byddai yn rhaid terfynu y ddadl gyda'r dyrnau. Nid y plant yn unig a elent i'r eithafion hyn, eithr gwyr cyfrifol yn fynych. Mae hanes am ddau o'r rhai mwyaf parchus gan y naill enwad a'r llall, y rhai a ystyrid yn golofnau yr athrawiaethau a gredid yn ddiamheu ganddynt, a'r rhai yr edrychid arnynt yn gadfridogion y byddinoedd oeddynt ar y maes yn barod i frwydr ar yr awgrym lleiaf, yn terfynu un ddadl yn y modd hwn. Dywedir i'r ddau hyn gyfarfod â'u gilydd un diwrnod mewn lle annghyfanedd, ac iddynt wrth gyfarch gyffwrdd eu gilydd yn y man tyneraf ar eu natur gyda phwnc o athrawiaeth, hyd nes y collasant bob llywodraeth ar eu tymherau. Yr oedd cymaint o wres yn meddianu y ddau hen sant fel yr arferasant eu tafodau gyda chryn lawer o ryddid, ac yn y diwedd yr aethpwyd i arfer y dyrnau a hyny i bwrpas hefyd, a bu y ddau yn dwyn yn eu cyrph nodau eu sel dros eu credoau, ac yn cario olion y frwydr am wythnosau. Bu hyn yn foddion i gywilyddio y ddau, a dofwyd cryn lawer ar y dilynwyr. Fel y gallesid tybio, yr oedd y dadleuon hyn yn dylanwadu yn fawr ar feddwl bywiog Dafydd ieuanc. Fel hyn y dywed ef am sefyllfa ei feddwl y pryd hwnw:—"Bum yn pryderu am y gwirionedd gyda golwg ar syniadau gwahaniaethol y Wesleyaid a'r Methodistiaid. A chan fy mod wedi cyrhaedd boddlonrwydd i mi fy hun fod y Beibl yn Air Duw a'i dystiolaeth yn ysbrydoledig ac yn anffaeledig, yna meddyliais am osod y gwahanol gredoau yn y glorian fel hyn—Bod yr athrawiaeth yr oedd y Beibl yn ei dysgu yn gorwedd yn esmwyth yn mynwes yr holl Feibl; a thybiwn pe buasai yr Arminiaid yn ysgrifenu y Beibl na buasent byth yn ysgrifenu rhyw ranau ohono, oblegyd yr oedd amryw adnodau yn hollol annghymeradwy ganddynt. Buasent yn gadael allan lawer o'r Epistol at y Rhufeiniaid, a'r Llythyr at yr Ephesiaid, a llawer o eiriau yr Arglwydd Iesu yn yr Efengyl yn ol Ioan. Nid oeddwn yn gweled unrhyw gredo yn gorwedd mor esmwyth yn mynwes yr holl Feibl a chredo y Calfiniaid, sef y rhai hyny ohonynt William Williams o Bantycelyn, Charles o'r Bala, a Thomas Jones o Ddinbych. Yr oeddwn, i ryw raddau, yn gydnabyddus â gweithiau y tri hyn er yn fachgen ieuanc iawn, ac yn meddwl y buasai y rhai hyn yn foddlawn i ysgrifenu pob adnod o'r Beibl, er heb weled eu cysondeb na gallu plymio eu dyfnderoedd. Felly y gwnaethum fy meddwl i fynu ar y pynciau hyn. Wedi hyny, daeth Oraclau Bywiol y Bedyddwyr i'm meddiant, a bum yn cydmaru hwn â'r cyfieithiad cyffredin; ac er fod ynddo lawer gwelliant o bosibl, eto yr oedd yn gwneud gormod mewn rhai cyfeiriadau nes eu gwneud yn waeth yn lle yn well. Ac wrth edrych arnynt yn bedyddio trwy suddo mewn dwfr yn yr afon, yr oeddwn yn ei weled yn beth anweddaidd ac annaturiol, a meddyliwn ynof fy hun na sefydlodd yr Arglwydd y fath ordinhad i'w eglwys, yn yr holl fyd. ac yn mhlith holl genedloedd y ddaear. Gwelwn hefyd nad oedd bendith ar hyny i'r Bedyddwyr eu hunain, oblegyd nid oeddynt yn well crefyddwyr nac yn fwy duwiol nag eraill. Nid oeddwn yn gweled dim daioni yn dilyn ar ol y cynhwrf a'r dadwrdd gyda'r trochi, ac heblaw hyny yr oedd yn anfantais amlwg i'r plant. Yr oedd plant y Bedyddwyr ar y pryd y rhai gwaethaf yn yr ardal, a'r teuluoedd, yn ol pob argoelion, y rhai mwyaf digrefydd. Nid oedd ond lle bychan i Air Duw a gweddi yn eu tai. Pan oeddwn tua phymtheng mlwydd oed, aethum i Siloam, Capel Garmon, i gyfarfod pregethu a gynelid gan yr Annibynwyr, a gadawodd y pregethau effeithiau daionus iawn ar fy meddwl. Y Parchn. William Rees, Dinbych, a David Price, Penybont Fawr, oedd yn gwasanaethu ynddo. Yr oeddwn yn gweled llawer o rinweddau yn perthyn i'r drefn Annibynol, ac yr oedd wrth fy modd mewn lluaws o bethau, ond deallwn fod eglwysi Siloam a Nebo y pryd hwnw yn cael eu hanrheithio gan ymrafaelion a chynhenau; ac er fod Annibyniaeth yn dda yn fy ngolwg, yr oeddwn yn gweled fod eisiau rhyw egwyddor arall i gadw trefn rhag i'r eglwysi fyned yn destyn cân y meddwon ac yn wawd yr ynfydion. Tueddwn felly at Annibyniaeth mewn rhan, ac at Henaduriaeth mewn rhan, er mwyn cael rhyddid mewn trefn. Y mae rhyddid mewn trefn yn dda, ond truenus a pheryglus ydyw rhyddid yr anialwch."
Dyna hanes cryno a chlir am y brwydrau celyd y bu ynddynt yn yr oedran cynar hwn ar ei oes, a'r argyhoeddiadau a enillwyd ganddo ynddynt. Yr oeddynt wedi costio llawer iddo ac wedi ymaflyd yn nyfnder ei ysbryd, ac oherwydd hyny nid oedd yn petruso dim gyda golwg ar roddi datganiad clir iddynt ar hyd ei oes. Byddai ei gyffes groyw o'i argyhoeddiadau yn y ffordd hon yn ei osod mewn perygl i bobl ei ystyried rai gweithiau yn gyfyng ei syniadau am rai enwadau, ac yn tueddu i erlid, ond pell hollol oddiwrth hyny ydoedd bob amser. Nid oedd neb a goleddai feddyliau uwch ar hyd ei oes am ddynion da pob enwad nag ef. Mawrhai bobpeth a ystyriai yn rhinweddau yn y gwahanol lwythau, ac yr oedd yn ddigon craff i weled lluaws o bethau canmoladwy yn mhob cyfundeb crefyddol. Elai i wrando pregethau yn nghyfarfodydd y gwahanol enwadau bob amser pan y byddai yn gyfleus, a gwnai ymdrech i gael y cyfleusdra hwnw, a mawr y mwynhad a gaffai trwy hyny. Bu am flynyddoedd olaf ei oes yn derbyn cyfnodolion Cymreig y Bedyddwyr, yr Annibynwyr, a'r Wesleyaid, a darllenai hwynt yn fanwl. Ac yr oedd parch aelodau o gyfundebau crefyddol eraill y rhai oeddynt yn fwyaf cydnabyddus âg ef yn fawr iawn iddo, ac yr oeddynt yn argyhoeddedig ei fod yn gyfaill cywir a gonest iddynt; ond yr oedd o natur mor dyner, aceto mor fywiog a pharod ci symudiadau, ac yn berffaith ddidwyll yn ei gyffes o'r argyhoeddiadau a feddianid ganddo, fel yr edrychid arno, gan y rhai mwyaf annghyfarwydd âg ef, yn rhy dueddol i lefaru yn arw am rai llwythau crefyddol yn ogystal ag am bersonau neillduol.
Yr oedd y cyfnod y cyfeirir ato yn y bennod hon yn dymhor tra dadleugar yn hanes Cymru grefyddol, yn enwedig rhwng Arminiaid a Chalfiniaid. Prin yr oedd un gymydogaeth fyw trwy y wlad i gyd yn rhydd oddiwrth ddylanwad y dòn gref. Saethai y pleidiau at eu gilydd fel gelynion tra yr oeddynt o dan orchudd y niwl; ond erbyn hyn y mae llawer o'r tawch wedi cilio, a'r byddinoedd yn canfod mai cyfeillion yn ymladd o dan faner yr un Arweinydd ydynt; ac er iddo ef gael ei eni, a threulio ei ddyddiau boreuaf, yn swn y frwydr fawr ac yn meddu natur fywiog ac o duedd barod i fentro brwydr—fel y march rhyfel a ddesgrifir yn Llyfr Job yn "diystyru arswyd ac ni ddychryna, ac ni ddychwel yn ei ol rhag y cleddyf. . . . Efe a ddywed yn mhlith yr udgyrn, Ha, ha; ac a arogla o bell ryfel, twrf tywysogion a'r bloeddio," eto nid oedd neb yn fwy siriol nag ef i groesawu baner heddwch rhwng y pleidiau rhyfelgar, ac nid yn unig hyny, ond cyfeillgarwch agos a chydweithrediad calonog; a chafodd fyw i wneud rhyw gymaint tuag at ddwyn hyny oddiamgylch ac i weled ei ddymuniadau i raddau helaeth wedi eu sylweddoli.
Pan yn ysgrifenu llythyr at gyfaill iddo yn y flwyddyn 1886, yn cynwys adgofion am achos crefydd yn Mhenmachno, dywedai fel hyn:——"Hyd y sylwais i, parti-sel a fu y peth mwyaf niweidiol i grefydd gyda'r Methodistiaid o bob peth, yn y blynyddoedd cyntaf wedi i'r Wesleyaidd dyfod i bregethu i'r ardal, ac am flynyddoedd wedi hyny. Tua dechreu y diwygiad dirwestol y diflanodd y teimlad ynfyd a digrefydd hwnw, ac wedi hyny y daeth llwyddiant mawr."