Neidio i'r cynnwys

Cofiant David Davies, Bermo/Ymryddhau oddiwrth ofalon bydol

Oddi ar Wicidestun
Adnewyddiad yn y gwaith Cofiant David Davies, Bermo

gan William Jones, Lerpwl

Symudiadau

PEN. V.—Ymryddhau oddiwrth ofalon bydol.

Ei ymsefydliad yn Nghorwen.—Cael ei alw yn Fugail ar yr Eglwysi.—Yr achos yn llwyddo.—Ei boblogrwydd.—Eglwys Ucheldref.—Dilyn y Cyfarfod Misol.—Y Gronfa Gynaliaethol.—Pregethu yn y Cyfarfodydd Misol.—Cyfarfod Misol Cerygydruidion.—Cyfansoddi pregethau newyddion.—Ei ddychymyg bywiog. Pregethu yn y Pant.—Ei ddull cyffredin y pryd hwn.—Pregeth y wialen a'r ffon.—Cymdeithasfa Caernarfon.—Cyfnewid yn ei deimladau.—Addunedau a gweddiau.

NID oes ond ychydig o hanes y tymhor y bu yn Nghorwen ar gael. Arosodd yno am dair blynedd, ac er nad oedd wedi symud yno, fel y sylwyd, mewn atebiad i alwad ffurfiol yr Eglwys, eto ni bu yno ond am ychydig o amser nad oedd eglwysi Ucheldref a Llansantffraid wedi rhoddi galwad ffurfiol a rheolaidd iddo i'w gwasanaethu. "Yr oedd gwasanaethu yr eglwysi hyn," meddai, "yn hyfrydwch calon genyf, a theimlwn fod y gwaith yn fath o nefoedd ar y ddaear imi; ond nid oedd y Cyfarfod Misol wedi gwneud un sylw o'm dewisiad, nac, hyd y gwyddwn, yn bwriadu gwneud; ac er nad oedd hyny yn flinder i mi, yr oeddwn yn fwy rhydd i symud ar y cyfrif hwnw."

Ymddengys fod ei wasanaeth yn ystod y tair blynedd hyn yn cael ei werthfawrogi yn fawr gan y bobl yr oedd yn troi yn eu mysg, a'r nefoedd yn ei arddel yn amlwg. Yr oedd y gynulleidfa yn Nghorwen wedi cynyddu yn ddirfawr. Dywedai un fod digon o le yn y capel pan y daeth ef yno, a lluaws o eisteddleoedd i'w gosod; ond cyn iddo ymadael fod yr addoldy yn rhy gyfyng i gynwys y gynulleidfa, a chymaint o ymgiprys am eisteddleoedd, fel y cynygiai un dyn bum' punt am gymeriad rhyw eisteddle yn y capel. Rhoddid pris uchel ar ei wasanaeth gan y tair eglwys yr oedd mewn cysylltiad bugeiliol â hwy; ac hefyd yr oedd aelodau y Cyfarfod Misol—er, fel y dywedai ef, na wnaed un sylw ffurfiol o hyny yn llawenychu yn fawr yn y briodas. Yn mhen ychydig o ddyddiau ar ol ei alw gan eglwys Ucheldref, cyfarfyddai y diweddar Dr. Edwards a Mr. Robert Edwards, un o flaenoriaid y lle. Adroddai y blaenor wrth Dr. Edwards am y symudiad pwysig oedd newydd gymeryd lle yno, ac meddai yntau, "Wel, yn wir, yr ydych wedi dal a rhwymo lefiathan." Byddai y pryd hwn yn dilyn y Cyfarfod Misol gyda chysondeb, a chymerai ran flaenllaw yn symudiadau y Cyfundeb yn y cylch.

Bu gan Gyfarfod Misol Dwyrain Meirionydd gynllun i gynorthwyo eglwysi gweiniaid yn y ffurf o Gronfa Gynaliaethol am luaws o flynyddoedd cyn i Gymdeithasfa y Gogledd fod yn ddigon goleuedig ac addfed i gychwyn trysorfa gynorthwyol ; ac wedi gweithio am dymhor hir gyda'r drysorfa gynorthwyol fe gydunir erbyn hyn yn ein plith mai ar linellau cronfa gynaliaethol y dylid symud yr egwyddor ar pa un y cynorthwyid yr eglwysi gweiniaid yn nghylch Cyfarfod Misol Dwyrain Meirionydd y pryd hwnw, a chynllun a weithiodd yn dra llwyddianus am flynyddoedd, hyd nes y llyncwyd yr ymdrech lleol i fynu gan symudiad cyffredinol Talaeth y Gogledd. Efallai na wyr llawer mai y Parch. David Davies ydoedd yr arweinydd yn nglyn â'r cynllun yn Nwyrain Meirionydd.

Yn yr adroddiad o hanes Cyfarfod Misol a gynaliwyd yn Nghorwen, Chwefror 3ydd a'r 4ydd, 1864, fe geir y cofnodiad a ganlyn:—"Darllenodd y Parch. D. Davies, Corwen, gynllun gyda golwg ar gynorthwyo eglwysi gweiniaid i gynal bugeiliaeth, yr hwn gynllun a roddwyd i fod tan ystyriaeth hyd y Cyfarfod Misol nesaf, pryd y bwriedir cael ymdrafodaeth arno." Yn y Cyfarfod Misol dilynol, yr hwn a gynaliwyd yn Llwyneinion, Chwefror 23ain a'r 24ain, gwnaed yr hyn a ganlyn:—" Ar ol darllen y cynllun cynygiedig penderfynwyd ar iddo gael ei ddwyn tan sylw yn y Cyfarfod Misol nesaf yn Rhydlydan; ac yn y cyfamser fod i swyddogion y gwahanol ddosbarthiadau alw cyfarfodydd i ymdrafod â hyn ac anfon tri o frodyr o bob dosbarth i gyfarfod yn Rhydlydan am un ar ddeg o'r gloch bore y dydd cyntaf o'r Cyfarfod Misol i'w benderfynu." Ac yn y cyfarfod hwnw bu y cynllun tan sylw, a chymeradwywyd ef yn unfrydol. Yr oedd ganddo y cydymdeimlad llwyraf ag eglwysi gweiniaid y cylch, ac ni cheid neb a ymroddai i'w gwasanaethu yn fwy ffyddlawn.

Byddai ei bresenoldeb yn Nghyfarfodydd Misol ei sir yn cael ei brisio yn uchel gan y gwahanol gymydogaethau, a threfnid ef yn fynych i bregethu ddwywaith yn yr un cyfarfod gan faint yr awydd i'w glywed; ond os na fyddai rhyw reswm anorfod dros drefniad felly, gwrthodai bregethu fwy nag unwaith o barch i'w frodyr. Yn fuan wedi ymsefydlu yn Nghorwen yr oedd yn pregethu am ddau o'r gloch yn Nghyfarfod Misol Cerygydruidion, ar ol gwr ieuanc oedd newydd adael yr athrofa, ac mewn tymher hynod o ddymunol. Chwareuai yn hapus iawn ar y geiriau—A phregethu edifeirwch a maddeuant pechodau." Ac meddai, "A phregethu,' 'A phregethu.' Dderfydd y gwaith ddim—'A phregethu.' Y mae rhywbeth yn y gair sydd wedi fy swyno—'A phregethu.' Y mae y navvies tua Chorwen acw yn gweithio, ond mi fydd eu job nhw wedi darfod yn union; ond yr ydwyf fi a 'mrodyr ieuainc yma yn bur gefnog. Ni dderfydd y gwaith ddim—A phregethu—A phregethu."

Llafuriai yn ymroddgar i wasanaethu eglwysi ei ofal yn mhob cylch, a pharotoai bregethau newyddion yn barhaus. Nis gallasai oddef y syniad am fyw ar yr un bregeth am amser hir; a phan y digwyddai gyfansoddi pregeth newydd ar hen destyn, byddai yn newydd, a byddai deall fod rhywun yn tybio mai yr hen ydoedd yn brofedigaeth lem iddo. Pan yn pregethu yn un o gapeli Lerpwl yn Nghymanfa y Sulgwyn yn ei flynyddoedd diweddaf ar "Noah yn adeiladu yr arch," dywedai cyfaill ar ddiwedd yr oedfa wrtho, " Y mae ugain mlynedd er pan y clywais y bregeth yna o'r blaen genych." "Na," meddai yntau, gydag ysgydwad arwyddocao! ar ei ben, "yr ydych yn methu. Ni chlywsoch chwi erioed o'r blaen mohoni. Nid oes ugain niwrnod er pan y gwnes i hona." Effeithiodd sylw y cyfaill arno yn fawr, a dywedai wrth frawd o bregethwr, "Onid oedd y dyn yn ddwl iawn, mewn difrif, yn tybio, gan fy mod yn pregethu ar yr un testyn ag a glywsai ugain mlynedd yn ol, mai yr un bregeth ydoedd? Y mae yn amlwg iawn nad oedd y dyn yn cofio dim ond y testyn."

Yr oedd yn cyfnewid llawer yn ei ddull o gyfansoddi ei bregethau ar wahanol gyfnodau ei oes. Tua'r adeg yr oedd yn Nghorwen, cyfansoddai ei bregethau heb raniadau o gwbl; ond byddai ar adegau eraill yn rhanu ei destyn, a byddai y rhaniadau a'r adraniadau mor lluosog ag eiddo rhai o'r hen Buritaniaid. Yn y cyfnod hwn pregethai braidd yn draethodol, yn ormod felly efallai i'w ddawn fywiog a phrysur ef. Pan y disgynai ar dėstyn a chryn lawer o fantais i'w ddychymyg i ddesgrifio ynddo y byddai yn ei elfen, a'r brofedigaeth fawr a gaffai yn fynych, ar brydiau felly, a fyddai cadw y ffrwyn yn dyn yn mhen ei ddychymyg nwyfus. Byddai y geiriau cryfaf yn barod at ei alwad yn y fan, a'r cydmariaethau mwyaf priodol yn ymryson am gael ei wasanaethu, ac fe gofir byth am nerth ei ddesgrifiadau gan bawb a glywsant ei bregethau ar " Yr annuwiolion yn methu sefyll yn y farn," "Arch Noah," "Y wialen a'r ffon yn nglyn cysgod angeu," " Yr ystorm ar y ddau dy," &c.

Byddai yn bryderus iawn ar ol ambell i bregeth ag y cerid ef ynddi gan ei ddychymyg gyda nerth rhag ofn y byddai wedi ei arwain yn rhy bell. Yr wyf yn cofio gweled pryder felly bron a'i lethu ar ol pregeth noson ddiweddaf cyfarfod pregethu y Pant, Penrhyn. Pregethai ar y Gwr Goludog a Lazarus. Yr oedd ei ddesgrifiad o'r Gwr Goludog yn marw ac yn cael ei gladdu, ac yn uffern yn codi ei olwg, yn mhlith y pethau mwyaf nerthol a byw a wrandewais erioed. Desgrifiai gystudd olaf Squire Rich—fel y galwai efe ef—yr ystafell orwych y gorweddai ynddi, y gweision oedd yn gweini arno, a'r danteithion oedd yn llenwi y byrddau o'i amgylch, a'r cyffro gyda'r meddygon enwocaf yn y wlad. Elai yn mlaen wedi hyny i roddi darlun byw o'r claddedigaeth—y ffyrdd yn cael eu llenwi am filldiroedd gan gerbydau a meirch a gwŷr traed, a'r bobl gyffredin yn synu, ac yn adrodd hanes y diwrnod am flynyddau, ac yn edrych ar ddiwrnod yr angladd fel diwrnod y byddid yn dyddio pethau yn y gymydogaeth oddiwrtho am gyfnod hir. Desgrifiai ef wedi hyny yn uffern, a'i drem anobeithiol a'i weddi ddiateb yn llefain am ddyferyn o ddwfr i oeri ei dafod. Gwaeddai ar uchder ei lais, "Beth oedd ar dafod y dyn? I oeri fy nhafod—I oeri fy NHAFOD." Yna disgynai i'r llais bass dwfn a feddai, gan ddweyd, "Ei gabledd sydd yn ei llosgi. Ei lwon a'i regfeydd sydd yn dân ysol ac yn fflam anniffoddadwy," hyd nes yr oedd yr holl gynulleidfa yn gwelwi mewn braw ac yn crynu gan arswyd ger ei fron. Y mae yn sicr fod rhai yn y nefoedd heddyw a argyhoeddwyd yn yr oedfa hono. Yn eu plith yr oedd hen chwaer nad oedd dim gras ar ei gwefusau cyn hyny. Adnabyddid hi yn y gymydogaeth fel un yn meddu tafod halogedig iawn, a byddai yn anhawdd ganddi lefaru haner dwsin o frawddegau heb eu llychwino â'r llwon a'r rhegfeydd mwyaf arswydus. Ond yn yr oedfa hono yn y Pant fe'i daliwyd hi, pan yr oedd rai blynyddau dros bedwar ugain oed, a chafodd y fath dro nes synu pawb oedd yn ei hadwaen. Adferwyd iddi wefus bur, a bu fyw am rai blynyddoedd wedi hyny i roddi tystiolaeth sicr o'r cyfnewidiad mawr a rhyfedd oedd wedi cymeryd lle, a byddai hi ei hunan yn son llawer am yr oedfa hono ac yn dweyd, "Yr adeg yr oeddwn i mewn tywydd mawr."

Yr oedd yn amlwg fod y fath doraeth o humour ynddo a'r fath fywiogrwydd yn ei ddychymyg, fel mai hunanymwadiad mawr ynddo ydoedd ymatal rhag gwneud defnydd helaeth ohonynt ; ac ar rai adegau, pan y cynhyrfid ef—fel ar yr adeg a nodwyd—ac yr ymollyngai i ddefnyddio y ddawn oedd yn feddiant mor naturiol iddo, byddai yn pryderu llawer rhag y byddai wedi gwneud mwy o ddrwg nag o les.

Er mai ei duedd y cyfnod y bu yn Nghorwen ydoedd cyfnewid ei ddull o bregethu ac ymatal oddiwrth yr hyn oedd yn naturiol i'w ddawn, fe gyfansoddodd ac fe draddododd y pryd hwnw rai o'r pregethau ag y mae mwyaf o son am danynt hyd heddyw. Un ohonynt oedd pregeth oddiar y drydedd Salm ar hugain. Gadawodd argraph na ddilëir mohono ar feddyliau canoedd a fu yn ei gwrando, ac adnabyddir hi yn mhlith ei hen wrandawyr fel Pregeth y wialen a'r ffon." Y flwyddyn 1863 ydyw y dyddiad sydd wrthi yn ei lyfr pregethau, ac yn Nghymdeithasfa Caernarfon, yn mis Medi y flwyddyn hono, ar nos Fercher yn nghapel Engedi, yr oedd yn pregethu, ar ol y Parch. R. S. Scott—un o gynrychiolwyr y Presbyteriaid—a chafodd oedfa rymus iawn ar "Y Bugail gyda'i wialen a'i ffon." Desgrifiai dywyllwch a goleuni y glyn i'r praidd. "Glyn dwfn ydyw angeu, ac y mae yn y geiriau hyn swn angau yn ei waethaf. Dychymygir am dano gan y Salmydd yn ei ffurf fwyaf ofnadwy—ar hyd glyn, nid ar ei draws, nid croesi rhyw gornel ohono, ond ar ei hyd. Ond yn nghwmni y Bugail y mae y glyn, er ei ofnadwyaeth, yn myned nid yn unig yn ddiberygl ond yn fangre cysur a dyddanwch." Chwareuai gyda'i oslef fain, dreiddgar ar y gair "cysgod." Dim ond cysgod angeu yn y glyn a gwialen a ffon y Bugail yn cysuro —y wialen i gyfrif y defaid a'r ffon i gadw y bwystfilod draw. Fe'u gwelir trwy y peryglon o dan eu cyfrif ac heb eu cyffwrdd i'w niweidio gan un gelyn." Yr oedd yr oedfa hon yn un o'r pethau mwyaf gorchfygol a gaed yn y Gymdeithasfa.

Yn y blynyddoedd hyn darllenai lawer, ac ysgrifenai bregethau newyddion bob cyfle a gaffai; ac er ei fod yn mwynhau ei ryddid oddiwrth ofalon y ffarm a'r masnachdy, ac yn ymroddi i wasanaethu yr Arglwydd Crist, eto, ar rai prydiau, ymddengys ei fod yn yr ymdeimlad o'i wendid a'i annghymhwysder i orchwyl mor bwysig yn dueddol i ymollwng mewn digalondid. Yr oedd cymaint o aflonyddwch yn ei feddwl a chyflymdra yn ei natur fel yr oedd yn agored iawn i gyfnewidiadau tra sydyn yn ei dymher a'i brofiad, a byddai y cyfnewidiadau, fel rheol, yn rhai mawrion iawn. Ymollyngai i lawr weithiau i'r dyfnderoedd, ac ymgodai drachefn yn ebrwydd i'r uchelderau; ond yr oedd ei ysbryd crefyddol dwys a dwfn yn amlwg yn y dyfnder a'r uchder. Cydnabyddai yr Arglwydd bob cam o'r llwybr, pa un bynag ai i lawr yn ngwaelod y glyn dwfn y rhodiai ai ynte ar gopa y mynydd uchel y byddai. "Yn nghadernid yr Arglwydd" yr oedd yn cerdded i fynu ac i lawr.

Ysgrifenodd rai gweddiau byrion ac addunedau dwysion sydd yn dangos yn amlwg yr awyrgylch yr oedd yn byw ynddi. Y mae yn amlwg nad oedd yn bwriadu i neb gael golwg ar yr addunedau a ysgrifenwyd ganddo o dro i dro, ond ei fod yn eu cadw at ei wasanaeth ei hun, er hyny, y mae yn anhawdd ymatal rhag dodi rhai ohonynt yn y Cofiant. Buasai gwybod yr amgylchiadau neillduol yr oedd ynddynt pan yn ysgrifenu y myfyrdodau dirgel hyn yn ychwanegu llawer at eu dyddordeb a'u gwerth. Yn niwedd llyfr a gynwys gofnodion o'i bregethau fe geir yr hyn a ganlyn wedi ei ysgrifenu:—

GWEDDI AC ADDUNED.—Tach. 4ydd, 1863.

Fy Arglwydd Dduw a Thad yr Arglwydd Iesu Grist. Mae dy bobl yn rhoddi digon o waith i mi, ond yr wyf yn methu a'i wneud. Yr wyf yn METHU, a methu a wnaf oni chaf nerth newydd genyt Ti. Dyro i mi yr hyn sydd yn Dy wirionedd, "Ysbryd nerth, cariad, a phwyll." Yr hyn a roddaist i'th weision gynt, ac yr wyt yn ei roddi yn bresenol. Dyro hyn i minau, O Arglwydd. Dyro i mi y ffafr yn mhrydnawn fy mywyd. Cyfoded haul arnaf, a disgyned ei oleuni a'i wres arnaf yn y prydnawn i'm cymhwyso i ddefnyddioldeb mawr dros Dy enw. O! gwna fi yn ddefnyddiol. Yr wyf yn ymrwymo i'th wasanaeth, ac yn addunedu, yn Dy bresenoldeb, troi yr hen rwystr heibio yn hollol ac am byth trwy gymhorth dy Yspryd Di. Dyma fi yn darfod â'r eilun sydd yn drygu llawer. O Arglwydd, cyflawna fi â'r Ysbryd. Dysg, nertha, a chymhwysa fi trwy Dy Ysbryd, a hyn yn Iesu Grist dy Anwyl Fab.

Yr ydym wedi rhoddi y weddi a'r adduned i lawr air am air fel yr ysgrifenwyd hwy ganddo. Y mae yn debyg iddo gael adgyfnerthiad trwy y cyfamod hwn.

Yn mhen y mis ar ol hyn ysgrifenodd gyfamod drachefn, wedi ei ddyddio a'i arwyddo fel y canlyn:

Rhag. 3ydd, 1863. —Yn gymaint a'm bod wedi dyoddef cymaint oddiwrth y demtasiwn i ymdebygu i rhyw un o'm brodyr mewn dull a dawn a myfyrdod, yr wyf yn dymuno, trwy râs fy Arglwydd Iesu Grist, i ymgyfamodi â Duw na bydd i mi amcanu at ddilyn nac ymdebygu i neb ond Efe, a dilyn cyfarwyddyd ei Ysbryd ef yn mhob peth. Ac yr wyf yn dymuno ymddiosg oddiwrth bob ffurf ond yr hon y'm ffurfiwyd ynddi gan Ysbryd yr Arglwydd, fel na wybyddo neb, wrth fy ngwrando yn llefaru, pa un ai Eglwyswr ai Ymneillduwr ydwyf. Ac felly cynorthwyed yr Arglwydd fi.—DAVID DAVIES.

Y mae yr amgylchiadau yr oedd ynddynt pan yn gwneud y cyfamod uchod yn hollol anhysbys. Efallai mai mewn canlyniad i air oddiwrth rhywun i'r cyfeiriad hwn yr ysgrifenwyd ef; neu ynte iddo, o dan ddylanwad ei ddychymyg aflonydd, gael ei arwain i dybio ei fod yn ymdebygu i rhywun, ac fod lliw yr enwad y perthynai iddo yn rhy gryf arno, neu hwyrach iddo fod yn gwrando ar rhyw frawd â'r peth hwn yn amlwg ynddo, ac iddo fyned i ofni yn fawr rhag syrthio i'r un amryfusedd ei hun. Beth bynag a allasai fod wedi bod yn achlysur o hyn, yr oedd ei ofnau am dano ei hun yn y peth hwn yn hollol ddisail, oblegyd nid oedd neb yn fwy annhebyg i'w frodyr nag ef; ac o ran ei ddawn a'i ddull, cydnabyddid ef gan bawb ar ei ben ei hunan. Plentyn natur ydoedd, nid oedd yn efelychiad o neb, ac nid ydym yn meddwl i neb erioed amcanu ei ddynwared yntau mewn llais nac ystum.

Nodiadau

[golygu]