Cofiant David Davies, Bermo/Yn Teithio
| ← Ymddatod oddiwrth ofal bugeiliol | Cofiant David Davies, Bermo gan William Jones, Lerpwl |
Yn Wyliedydd craff → |
PEN. X.—Yn Teithio.
Yn teithio llawer.—Yn ofalus am ei Sabbothau i gylch ei sir ei hun.—Yn gomedd rhoddi cyhoeddiad ond am flwyddyn yn mlaen—Yn cwyno.—Dwy daflen o'i gyhoeddiadau Sabbothol.—Yn teithio.—Ei adduned.—Yn y cymdeithasfaoedd.—Llangollen.—Penrhyn Deudraeth.—Adroddiad Ο hanes yr achos.—Cymanfa Lerpwl.—Y "Seiat Fawr."—Cymdeithasfa Llwynbrwydrau.—Ei bregethu yn y cyfnod hwn.
Ar ol rhoddi y gofal bugeiliol i fynu, teithiodd gryn lawer ar hyd a lled siroedd Gogledd a Deheudir Cymru, yn nghyda threfi Lloegr; ond nid esgeulusodd ei ddyledswyddau yn y cylchoedd agosaf ato. Pregethai yn fynych iawn yn yr eglwysi cylchynol, a chadwai bron yr oll o'i Sabbothau yn nghylch ei Gyfarfod Misol ei hun.
Pan y penderfynwyd mewn Cyfarfod Misol yn Ngorllewin Meirionydd yn ol anogaeth y Gymdeithasfa—i beidio rhoddi cyhoeddiadau am fwy na blwyddyn yn mlaen, cadwodd ef yn ffyddlon hollol at y penderfyniad; ond yn mhen y tymhor gosodedig gwelodd na fu yr eglwysi mor ffyddlawn, ac yr oedd rhai brodyr yn y weinidogaeth yn ddwfn yn y camwedd; a bu yn cwyno mewn Cyfarfod Misol ei fod bron wedi ei adael ei hunan yn ei ymgyrch yn erbyn yr annhrefn. "Ni safaf ar yr adwy mwy," meddai, a bydd yn rhaid i mi oherwydd hyn am flwyddyn grwydro cymoedd Cymru bron i gyd [ac enwai luaws o'r cymoedd mwyaf annghysbell] a hyny am fod eglwysi y sir wedi llenwi y Sabbothau a minau wedi gwrthod rhoi yr un er mwyn cadw at y penderfyniad
Ac onibai fy mod yn myned i gilfachau pellaf a mwyaf anhwylus y mynyddoedd, ni chawswn bregethu bron yr un Sabboth am ddeuddeng mis." Nis gwyddom pa flwyddyn oedd hon y cyfeirir ati; ond wrth edrych trwy ei ddyddiaduron gwelir yn amlwg ei fod yn pregethu llawer yn yr un eglwysi, a'r rhai hyny yn nghylch y sir.
Hwyrach mai nid annyddorol i'r darllenwyr a fyddai cael taflen o'i gyhoeddiadau Sabbothol o'i ddyddiadur am y flwyddyn 1875—y flwyddyn gyntaf ar ol ei ymddiswyddiad oddiwrth ei fugeiliaeth yn yr Abermaw:
Ionawr 3.—Bontddu.
" 10.—Rhiwbryfdir.
" 17.—Penrhyn.
" 24.—Harlech.
" 31.—Abermaw.
Chwefror 7. — Llwyngwril.
"14.—Talysarn.
" 21.—Talysarnau.
" 21.—Abermaw.
Mawrth 7.—Tabernacl.
" 14.—Dolgellau.
" 21. — Engedi.
" 28 (Pasg). — Rhostryfan.
Ebrill 4.—Tabernacl, Aberystwyth.
" 11.—Salem, Pwllheli.
" 18.—Bethel, Tanygrisìau.
" 25.—Abermaw.
Mai 2. — Dyffryn.
" 9. — Penrhyn.
" 16.—Twrgwyn.
" 23—Machynlleth.
Mehefin 6. — Llanuwchllyn.
" 13.—Aberllyfenni.
" 20. — Pennal.
" 27.—Abermaw.
Gorphenaf 4.—Aberdyfi.
" 11. — Rhiwbryfdir.
" 18. — Rhyl.
" 25. — Abermaw.
Awst 1.—Dyffryn.
" 8.—Seion.
"15.—Croesor.
" 22. — Minffordd.
" 29. — Penmount.
Medi 5.—Gwynfryn.
"12.—Tabernacl.
" 19.—Beddgelert.
" 26.—Abermaw.
Hydref 3. — Corwen.
" 10. — Pig Stryd.
" 17.—Bethesda, Ffes.
" 24.—Bryn Crug.
" 31.—Abermaw.
Tachwedd 7.—Moriah, C.
" 14. — Rhiwbryfdir.
" 21.—Dyffryn.
" 28.—Abermaw.
Rhagfyr 5. — Bethel, Tanygrisiaiu
" 12.—Salem, P.
" 19.—Penrhyn.
" 26. — Abermaw.
Ni a ddodwn daflen arall o'i ddyddiadur am y flwyddyn 1884—yn mhen naw mlynedd ar ol y llall. Gwelir ei fod yn yr olaf yn cadw cofnod o'r testynau y pregethai arnynt; ac y mae yn nglŷn â rhai lleoedd nodyn arwyddocaol o'i deimlad, ni a dybiwn, ar ol y cyfarfodydd, ond dylid cofio nad oedd yu feirniad cywir bob amser ar ei bregethu ei hun. Pan y caffai oedfa dda ac effeithiol ar y gwrandawyr, cwynai weithiau oherwydd y caledwch a'r tywyllwch.
Ionawr 6.—Tabernacl, P., 1 Thess. i. 10; Salm lxv. 2.
7 a 8.—Cyfarfod Misol y Bala. Ow! Ow! Ow! Ow!
13.—Bethel, Dolgellau, Salm lxv. 2; Phil. iii. 20.
20.—Minffordd, Salm lxv. 2; I Thess. i. Io.
27.—Penmachno, Salm lxv. 2; Phil. iii. 20.
Chwef. 3.—Aberdyfi, Rhuf. xii. 2; Phil. iii. 20.
4 a 5.—Cyfarfod Misol Pennal, Salm 1xv. 2.
10.—Salem, Dolgellau, Salm lxv. 2; I Thess. i. 10.
17.—Abermaw, Luc xiv. 25; Salm lxv. 2.
24.—Harlech, Luc xiv. 25; Llanfair, Ezec. xlvii. 1-7; Salm lxv. 2.
Maw. 2.—Dyffryn, Luc xiv. 25; Ezec. xlviii. 1-7; Salm lxv. 2.
3 a 4.—Cyfarfod Misol Talsarnau, Salm lxv. 2. Nos Wener, 7fed, Corwen, Salm lxv. 2.
9.—Corwen, Luc xiv. 25; I Thess. 1-10; Phil. iii. 20. Nos Lun, 10, Gwyddelwern, Salm lxv. 2.
16.—Bowydd, Ffestiniog, Deut. vi. 6, 7; Salm lxv. 2.
23.—Garth, Porthmadog, Ezec. xlviii. 1-6; Ezec. xxxvii. 1-10.
27.—Llangoed, Phil. iii. 20. Mawrth 28 (Cymdeithasfa), Beaumaris, Salm lxv. 2.
28.—Twgwyn, Bangor, Phil. iii. 20.
30.—Llanbedr, Ezec. xlvii. 1-6; Ezec. xxxvii. 1-10.
Ebrill 6.—Nazareth, Penrhyn, Ezec. xlvii. 1-6; Salm 1xv. 2.
7 a 8.—Llanfachreth, Cyfarfod Misol, Ezec. xlvii. 1-6.
12 (Pasg).—Llanberis, Ezec. xlvii. 1-6.
13.—Llanberis, Rhuf. xii. 2; Ezec. xxxvii. 1-10; Luc xiv. 25.
14.—Llanberis, Salm lxv, 2; Phil. iii. 20.
20—Abermaw, Ezec. xlvii. 12; 1 Pedri. 10-12.
27—Llangollen, Ezec. xlvii, 12; Ezec, xxxvii. 10; 1 Thess. i. 10.
28.—Llangollen, Salm lxv. 2.
29.—Llangollen, Phil. iii. 20.
Mai 4.—Bethel, Ffestiniog, Ezec. xxxvii. 10; Salm cxvi. 1-4.
11.—Dyffryn, Ezec. xlvii. 12; Daniel xii. 13; Ezec. xxxvii 10
18.—Abergynolwyn, Ezec. xxxvii. 10; 1 Thess. i. 10; Ezec xlvii 12.
19.—Carmel ger Llanrwst, I Thess. 1-10.
Dydd Mawrth, yr 20fed, Trefriw, Ezec. xlvii. 12. Talybont am 10, Phil. iii. 20. Dydd Mercher, am 7, Roewen, Salm lxv. 2.
Dydd Iau, am 10, Ty'nygroes, Salm xxxii. 1, 2; am 7, Bryndionyn, Ezec. xxxvii. 10.
Dydd Gwener, am 10 a 7, Llangernyw, Salm xxxii. 1, 2; Salm lxv. 2.
Dydd Sadwrn, am 10, Garnedd, Luc xiv. 25; ac am 7, Gwytherin, Rhuf. xii. 2.
Sabboth, am 10, Gwytherin, Ezec. xlvii, 12; am 2 a 6, Pandy, I Thess. 1-10; Phil. iii. 20.
Dydd Llun, am 10, 'Refail Uchaf, Rhuf. xii. 2; am 2, Tanycelyn, Salm lxv. 2; am 7, Pwllterfyn, Ezec. xlvii. 12.
Dydd Mawrth, am 2, Moriah, Salm xxxii. I, 23 am 7, Llansantffraid, Rhuf. xii. 2.
Dydd Mawrth, am 10, Mochdre, Salm lxv. 23 am 7, Colwyn Bay, Ezec. xxxvii. 10.
Dydd Mercher, am 10, Brynpydew, Phil. iii. 20; am 7, Conwy, Ezec, xlvii. 12. Dydd Gwener, am 7, Llandudno, Salm, lxv. 2.
Meh. 1.—Beddgelert, Salm lxv. 2; Phil. iii. 20. Am 2, Peniel, Salm xxxii. I, 2.
4.—Llwyngwril, Cyfarfod Misol, Ezec. xxxvii. 10.
8.—Corris, Salm 1xv. 2; Salm cxvi. 1-4; Ezec. xxxvii. 1, 2.
12, 13.—Cymdeithasfa Llanrwst, Ezec. xxxvii. 10. Ow! Ow!
15.—Tabernacl, Ffest., Ezec. xlvii. 12. Bethesda, Daniel xii. 13. Ow! Ow!
22.—Abermaw, Salm 1xv. 2; Actau xxviii. 30, 31; Daniel xii. 13.
Meh. 29. Brynrhos, Groeslon, Salm lxv. 2; Salm xxxii. 10; Ezec. xxxvii. 10.
Gorph. 6.—Pig Stryd, Salm lxv. 2. Nant, 2 Chron. xxvi. 10; Salm cxvi. I—4.
13:—Rhiwbryfdir, 2 Tim. ii. 19—21; 2 Chron. xxvi. 10; Salm lxv. 2.
20.—Peniel, Ffest., Daniel xii. 13; Salm 1xv. 2.
Y mae taith yn sir Fon yn dilyn heb gofnodion o'r testynau arnynt:
Gorph. 21.—Am 7 nos Lun, Borth.
Dydd Mawrth, Llanfair, 10; Brynsiencyn, 7.
Dydd Mercher, Dwyrain 10; Niwbwrch, 7.
Iau, Bethania, 10; Gaerwen, 7.
Gwener, Talwrn, 10; Llangefni,.
Dydd Sadwrn, Llangristiolus, 7.
Sabboth, Gorph. 27.—Bethel, 10; Aberffraw, 2; Bryndu, 7.
Dydd Llun, Gwalchmai, 10; Hebron, 7.
Mawrth, Caergeiliog, 10; Caergybi, 7.
Mercher, Valley, 10; Bodedern, 7.
Iau, Llanfachreth, 10; Llanfwrog, 2; Llanfaethlu, 7.
Gwener, Llanrhyddlad, 10; Jerusalem,
7. Sadwrn, Llanfachreth, 7.
Sabboth, Awst 3.—Cemaes, 10; Rhosbeirio, 23 Amlwch, 6.
Dydd Llun, Siloah, 10, Pensarn, 7.
Mawrth, Gorslwyd, 10; Llanerchymedd, 7.
Mercher, Gosen, 10; Ty Mawr, 7.
Iau, Tabernacl, 10; Pentraeth, 7.
Gwener, Penygarnedd, 10; Gilead, 7.
Awst 10. Salem, P., Salm xlv, 23; 2 Chron. xxvi. 10; 2 Tim.ii. 19-21.
" 17.—Abermaw, Salm xlv. 2; Salm lxi. 4; 2 Tim. ii. 19.
" 18.—Penrhyn, 2 Tim. ii. 19.
" 19, 10, 21.—Cymdeithasfa Caernarfon, Engedi, 2 Tim. ii. 19; Pavilion, Salm xlv. 2.
" 24.—Maentwrog, Salm 1xi. 4; Salm xlv. 2.
" 31.—Bethel, Ffestiniog, Salm lxi. 4; 2 Tim. ii. 19.
Medi 1, 2.—Cyfarfod Misol Trawsfynydd, 2 Tim ii. 19.
" 7.—Salem, Dolgellau, 2 Tim. ii. 19; Salm xlv. 2.
"10, 11.—Cyfarfod Pregethu Talybont, 2 Tim. ii. 19; Salm xlv. 2; Salm xxxii. 1, 2.
"14.—Dyffryn, 2 Tim. ii. 19; Salm, cxix. II; Salm xlv. 4.
" 21.—Harlech, Salm xlv. 2; Salm cxix. 18; Salm lxi. 2.
" 28.—Gorphwysfa, Penrhyn, Salm Ixi. 4; Salm xlii. 2.
Hyd. 5.—Bryn Crug, 2 Tim. ii. 19; Seph. ii. 11; Salm xli. 4.
" 6.—Cyfarfod Misol Bryn Crug, Sahn xlii. 2.
" 12.—Penrhyn, Salm cxix. 18 : Seph. ii. 11.
" 16.—Princes Road, Lerpwl, Seph. ii. 11 David Street,
Sahn cxiv. 18.
" 21.—Huyton Quarry, Salm vi. 4.
" 22, Southport, Salm xlv. 2.
" 26.—Abermaw, Salm cxix. 18; Salm 1xxvii. 11, 12; Seph. ii. II.
Tach. 2. Towyn, Salm cxix, 18; Col. i. 13; Seph. ii. 11.
" 9.—Talysarnau, Ioan i. 12; Col. i. 13; Seph. ii. 11.
" 16. Parkhill, Bangor, Daniel ii. 44, 45;
" 23.—Engedi, C., Col. i. 13; Ioan i. 12. Ioan i. 12.
" 28.—Parsel, Abermaw, Heb. x. 38.
" 30.—Aberdyfi, Heb, x. 38; Ioan i. 12.
" Rhag 1, 2, Cyfarfod Misol, Gorphwysfa, Penrhyn Heb x 38
" 3, 4, 5.—Cymdeithasfa y Drefnewydd, Ioan i. 12.
" 7.—Dyffryn, Col. i. 13; Heb. x. 38; Ioan i. 12.
" 14.—Bethel, Dolgellau, Heb. x. 38; Coli. 13.
" 21.—Abermaw, Col. i. 13; Esaiah lviii. 12; Ioan i. 12.
" 28,—Llanbedr, Col. iii. 10; Ioan i. 12.
Er y gwelir ei fod yn dra ffyddlawn i roddi ei Sabbothau yn nheithiau ei Gyfarfod Misol ei hun, eto yn ystod dyddiau yr wythnos teithiai gryn lawer. Yr oedd mor boblogaidd, a'r cynulleidfaoedd mor awyddus i'w wrando, fel y gallasai fod yn crwydro yn barhaus. ar deithiau ac i gyfarfodydd pregethu; ond byddai ar amserau yn cael ymosodiadau o ddigalondid, ac ni fyddai mor barod yn yr adegau hyny i wrando ar y galwadau. Y mae yn wir na fyddai y cwmwl hwnw yn aros yn hir ar ei ysbryd; ond gwyddom i hyny rai gweithiau ei gadw rhag gwrando ar luaws o alwadau oddiwrth bobl oedd yn dyheu am ei glywed.. Os addawai fyned, nid oedd dim ond afiechyd a'i hataliai rhag cyflawni.
Ni fyddai yn dilyn y Cymdeithasfaoedd gyda chysondeb difwlch fel rhai o'i frodyr; ac efallai nad oedd ynddo y nodweddion ag yr edrychir arnynt fel angenrhaid mewn arweinydd Cymdeithasfa—y pwyll, y sefydlogrwydd i weithredu barn, a'r penderfyniad i'w chario allan; ac hwyrach ei fod yn fwy diffygiol mewn elfen arall nag yn y pethau hyn, sef nad oedd yn chwenych y blaen nac yn ceisio ymwthio iddo, ac yr oedd yn berffaith foddlawn i eraill gael yr anrhydedd hono. Eto, ymddengys oddiwrth y daflen a gofnodwyd iddo fod yn y pedair Cymdeithasfa yn y flwyddyn 1884; ac yn ystod y blynyddoedd diweddaf, yr ydym yn tybio y gwelid ef yn fwy cyson yn mhrif gynulliadau y Cyfundeb.
Ond byddai weithiau, wedi bod mewn ambell i gyfarfod mawr, yn ofni rhag y gallasai fod ei deimlad ar y pryd wedi ei gludo ymaith gyda rhyw bwnc a fyddai gerbron, a'i fod wedi ymollwng i ddweyd pethau ag y buasai yn well iddo ymatal. Byddai tybio felly yn ei boeni yn fawr, ond ni fyddai sail i hyny ond yn hynod o anfynych. O dan ddylanwad y teimlad hwn yn ddiau y gwnaeth yr adduned a welir yn ysgrifenedig yn ei Ddyddiadur, er nad ydym yn gallu casglu a oedd rhyw amgylchiad neillduol mewn golwg ganddo pan yn ysgrifenu fel hyn:—
Heddyw, yr ail ddydd o Ionawr, 1873, yn yr ymdeimlad o'm gwendid a'm hanallu, yr ydwyf yn addunedu i mi fy hun ac i'r Arglwydd i beidio ag ymyryd dim âg achosion allanol crefydd gartref, nac mewn Cyfarfod Misol yn enwedig, nac mewn Cymanfa o hyn allan, gan fy mod yn meddwl na fydd hyny yn un anfantais na cholled i achos nac enw yr Arglwydd Iesu.—Ydwyf,
DAVID DAVIES.
- Ion. 2il, 1873.
Yn Nghymdeithasfa Llangollen, yr hon a gynaliwyd Mehefin 11, 12, 13, 1873, bu yn traddodi y Cynghor yn ngwasanaeth yr ordeinio. Dodir ef i mewn yn niwedd y Cofiant. Yn Nghymdeithasfa Tachwedd, yn yr un flwyddyn, yr hon a gynelid yn Penrhyndeudraeth, yr oedd gyda'r diweddar Barch. G. Williams yn rhoddi adroddiad o hanes yr achos yn y sir. Yn mhlith pethau eraill gwnaeth sylwadau i'r cyfeiriad a ganlyn:
"Ansawdd ysbrydol yr eglwysi oedd yr hyn oedd ganddo ef i'w adrodd. Nis gallai efe ddywedyd am hyn fel ei frawd am y cyfrifon arianol hyd at y ddwy a dimeu. Nid oedd yn gwybod am ansawdd ysbrydol yr eglwysi ond i raddau anmherffaith iawn. Ystyriai mai gwaith tra anhawdd ydoedd rhoddi adroddiad cywir am hyn. Yr Hwn sydd yn dal y saith seren yn ei law ddehau yn unig a all roddi adroddiad cywir am ansawdd ysbrydol yr eglwysi. Credai fod mwy o debygolrwydd rhwng yr eglwysi â'u gilydd nag oedd rhwng saith eglwys Asia. Yr oedd yn ofni nad oedd yr un mor ddifai ag eglwys Philadelphia, ac yr oedd yn gobeithio nad oedd yr un mor ddiddaioni a hunanddigonol ag eglwys Laodicea. Clywsant am ddyled eu capelau, ac yr ydoedd yn ddyled fawr. Yr oedd ganddynt luaws o gapelau newyddion a da, ac yr oedd egni ac ymdrech cyson yn cael ei arfer i ddileu y ddyled oedd arnynt. Ond ni fynai iddynt er dim droi at dalu y ddyled hon ar draul tlodi a phrinder breintiau crefyddol. Byddai yn well iddynt gymeryd mwy o amser i dalu y ddyled na goddef prinder o ordinhadau yr efengyl. Ac ychydig iawn, os dim, a fyddent yn hwy. Yr oedd ef yn cael mai lle yr oedd ganddynt fugail a phob manteision crefyddol mai yno yr oedd y ddyled yn cael ei thalu gyntaf. Dyma y ffordd oreu i weithio yn galonog, sef cyfoethogi yr eglwys â phob rhyw fantais, dawn, a braint ysbrydol. Yr oedd ganddynt weinidogaeth fwy cyson ar y Sabbothau nag a fu ganddynt erioed o'r blaen. Yr oedd yn arferiad gofyn yn y Cyfarfodydd Misol a oedd rhyw leoedd wedi cael eu siomi, ac ymofyn i'r achos o'r anffawd neu yr esgeulusdra.
"Yr oedd yr Ysgol Sabbothol yn flodeuog a ffrwythlawn. Yr oedd ymdrech a llafur gyda'r cyfarfodydd ysgolion. Gwelid bywyd newydd gyda chymanfa flynyddol y dosbarth a chyda'r gymanfa lenyddol. Yr oedd gan bob eglwys society a chyfarfod gweddi, a chyfarfod i'r plant mewn rhyw ffurf. Yr oedd mwy o lafur gyda'r ieuenctyd nag a fu erioed o'r blaen; ac yr oedd rhai lleoedd yn fywiog iawn gyda hyn. Dyma'r llafur ag oedd yn dwyn ffrwyth yn fwyaf ebrwydd, ac yr oedd esgeulusdra gyda hyn y peth mwyaf beius. Ystyriai ef fod eisieu mwy o bregethu ganol yr wythnos yn y capelau a'r ysgoldai a thai anedd. Yr oedd yn dda ganddynt weled dyeithriaid, ond nid oedd raid i hyny leihau llafur pregethwyr y sir. Yr oedd pregethu yn codi pregethwyr ac yn codi gwrandawyr i'w gwrando. Po amlaf y pregethau mwyaf lluosog y cynulleidfaoedd a geid i'w gwrando.
Dygai dystiolaeth i'r daioni a wnaeth Temlyddiaeth, a disgwyliai y byddai i'r symudiad hwn wneud mwy o ddaioni eto. Yr oedd pregethwyr a gweinidogion y sir yn rhwym o gydnabod y diaconiaid a'r eglwysi, am eu ffyddlondeb a'u gofal yn eu cynal hwy, yn y modd mwyaf cyfleus iddynt i lwyr ymroddi i wasanaeth yr Arglwydd. Yr oedd y rhan fwyaf o'r gweinidogion yn rhydd oddiwrth negeseuau y bywyd hwn, a'r rhai ag yr oedd rhyw alwedigaeth ganddynt yr oeddynt yn derbyn bendith arno, a thrwy ofal yr eglwysi am danynt hefyd yr oeddynt yn gallu ymroddi yn hollol i weinidogaeth yr efengyl.
"Dywedai fod ganddynt achos mawr i folianu Duw am yr heddwch a'r tangnefedd a'r cydweithrediad oedd yn yr eglwysi, yr oedd undeb a chariad a chydgordiad yn y Cyfarfod Misol. Yr oeddynt yn cofio y cynghor a roddwyd iddynt gan y Parch. Dr. Edwards, ar adeg claddedigaeth y diweddar Barch. Edward Morgan, sef pan y byddai unrhyw un yn syrthio ar faes y frwydr y byddai y cadben yn gwaeddi Close the ranks, hyny yw, nesewch at eich gilydd. Ac yr oeddynt wedi eu bendithio gan yr Arglwydd â chymhorth i wneud hyn i raddau helaeth iawn, a hyny mewn amgylchiadau go gyfyng hefyd. Dymunai i'r teimlad hwn gynyddu yn eu plith fel swyddogion ac aelodau yn fwy-fwy.
"Yr oedd yn eu plith gryn lawer o ymweled â'r cleifion ac â theuluoedd mewn trallod, ac yr oedd daioni annhraethol o'r ymweliadau hyn. Ni fyddai byth yn edifar gan neb ohonynt fyned i dŷ lle yr oedd trallod.
"Cynrychiolid yr eglwysi yn bur gryno yn y Cyfarfodydd Misol, ac ni byddai neb o'r swyddogion yn ymadael hyd ar ol y gwasanaeth ddeg yr ail ddiwrnod. Yr oedd tipyn o gwyn fod ein dynion ieuainc braidd yn anewyllysgar i gymeryd rhan mewn cyfarfodydd gweddiau, ac yn hwyrfrydig i ddweyd eu profiadau yn y cyfarfodydd eglwysig, a bod gweddi deuluaidd yn cael ei hesgeuluso gan lawer. Eto, yr oedd yn credu fod difrifwch a dwysder a sobrwydd ar gynydd yn yr holl gynulliadau crefyddol. Yr oeddynt hwy wedi myned i mewn i lafur tadau a brodyr ffyddlawn iawn. Yr oeddynt yn gyffelyb i Elias ar ben Carmel—yr allor wedi ei chodi a'r coed wedi eu trefnu, &c. O! na chaem help i ofyn am i Dduw ateb trwy dân, sef ymweliadau ei Ysbryd. Yna adroddodd gyda theimlad dwys:—
O! anfon di yr Ysbryd Glân,
Yn enw Iesu Mawr;
A'i weithrediadau megys tân,
O! anfon Ef i lawr.
"Dywedai ei fod ef wedi cael sirioli ei feddwl yn fawr, echnos a boreu ddoe, yn yr ymddyddanion a'r gweddiau. Pan yr oedd yr Arglwydd yn myned i ymweled â'i bobl, yr oeddynt hwythau yn dyfod i lawr. Dywedodd rhywun fod yr argraphwyr yn lleithio y papyr cyn rhoddi yr argraph arno. Felly, ond i ninau gael ein lleithio mewn ymostyngiad ac edifeirwch, fe fyddai i Dduw roddi argraph ei Air a'i Iachawdwriaeth ar filoedd yn ein gwlad cyn y gwelwn hâf eto."
Bu yn Lerpwl yn Nghymanfa'r Sulgwyn, yn y flwyddyn 1874, a chofir yn hir am ei anerchiad cynes ac effeithiol yn y "Seiat Fawr." Acer y teimlai ef ar ol y cyfarfod hwnw nad oedd wedi gwneud dim ond darostwng y pwnc wrth draethu arno, ac addunedu yn selog na welai neb byth ef mewn lle cyffelyb mwyni raid dweyd mai adduned a dorwyd oedd hon—eto, yr oedd ei anerchiad y tro hwn yn un o'r pethau mwyaf grymus a draddodwyd ganddo erioed. Rhoddwn yr ychydig eiriau canlynol ohoni, ond nid ydynt yn gwneud chwareu teg âg ef; canys yr oedd effeithiau y traddodiad ar y pryd yn gyfryw nad ellid eu rhoddi i lawr ar bapyr. Pwnc y cyfarfod ydoedd, "Gweddi yn ei pherthynas âg adfywiad crefyddol," ac fel y canlyn y cofnodir y geiriau a ddywedwyd ganddo ef ar yr achlysur:
"Yr wyf yn teimlo yn fawr ar y mater, ac yn dymuno bendith ar y cyfarfod a llwyddiant mawr ar achos Iesu Grist mewn canlyniad iddo. Y mae dau beth mewn cysylltiad ag ymweliad Duw a'i bobl—ei bresenoldeb parhaus yn ein plith, a'i ymweliadau annghyffredin â ni. Rhaid cydnabod hefyd fod llaw yr Arglwydd yn gorphwys yn y mynydd hwn—cyflawniad o'r geiriau, ‘Mi a breswyliaf ynddynt, ac a rodiaf yn eu plith.' Ond ar yr amser yma y sethrir Moab. Mae Gair yr Arglwydd yn dangos fod ei bresenoldeb yn debyg rai gweithiau i'r gwlith ac weithiau i'r gwlaw. Nid ydyw y gwlith yr un fath bob amser, ac efallai, er na ddaeth y gwlaw i Liverpool fod yma fwy o wlith nag arferol yn y gwanwyn hwn, yn enwedig yn mhlith y bobl ieuainc mewn rhai capelau—gwlith mawr yn disgyn. Y mae llawer yn cael ei wneud â gwlith. Yr Arglwydd a ddywed, 'Byddaf fel gwlith i Israel, ac efe a flodeua fel y lili.' Pan ymadawodd rhai â ni i'r Wlad Well, aethant ymaith yn eu blodeu, ac yr oeddynt yn lledu eu gwraidd megys Libanus—yr oedd gwraidd Libanus wrthynt. Nid blodeuo yn unig, ond gwreiddio ar led. Gwraidd y mynydd, medd rhai, gwraidd y cedrwydd, medd eraill. 'Ei geinciau a gerddant'—ceinciau yn cerdded, yn tori allan—dyna ydyw yr achosion bychain yma o'r capelau mawrion. Bydd eu tegwch fel yr olewydden, ac hefyd y maent yn arogli fel Libanus, a hyn oll ar draul y gwlith. Diolchwn am y gwlith; efallai ei fod yma heddyw. Bydd ambell i hen ffarmwr yn y wlad yn dweyd, 'Y v / mae yn gwlitho yn drwm, fe ddaw yn wlaw yn fuan.' Ond y mae y gwlaw yn gwneud mwy na'r gwlith, pan yn tywallt gwlaw mawr. Y mae swn gwlaw mawr yn yr addewidion, Tywalltaf, Tywalltaf; gair yr Hen Destament ydyw hwn. Gwelais gwmwl yn tori rhyw dro, a phobpeth yn gorfod ildio o'i flaen. Yr ydym wedi cael y tywalltiad a phobpeth yn ildio iddo, ac y mae lle i ni ei ddisgwyl eto. Yr ydym wedi bod yn meddwl mai peth i'w gymeryd pan y ceid ef oedd adfywiad, ac mai 'Cafwyd fi gan rai nad oeddynt yn fy ngheisio' oedd hi i fod, ac y mae hyn hefyd wedi bod yn nodweddu rhai adfywiadau, felly yn arbenig mewn un adfywiad neillduol yn sir Gaernarfon; ond yn y blynyddoedd diweddaf gwelsom yn eglur fod yr Arglwydd yn rhoddi adfywiad crefyddol pan fyddai ei eglwys yn gofyn am dano. 'Pan glafychodd Seion yr esgorodd ar ei meibion.' Ond ini gael ysbryd i weddio dros ein cyfeillion, fe ddychwelai yr Arglwydd ein caethiwed ninau fel y dychwelwyd caethiwed Job."
Yr oedd ef ei hun o dan deimladau dwysion iawn; y gynulleidfa fawr yn mhob cŵr o'r adeilad eang wedi ei hoelio wrth ei wefusau, a gwlith yn disgyn yn drwm ar ganoedd yn y lle. Ond yn ebrwydd wedi gorphen y cyfarfod, dywedai wrth gyfaill a gydgerddai âg ef oddiyno, "Wel, nid af byth i le fel yna eto. Dyna'r tro diweddaf am fy oes i mi fod yn Seiat Fawr Lerpwl."
Yr oedd fel Elias newydd fod ar gopa y mynydd yn dinystrio prophwydi Baal ac yn enill buddugoliaeth ardderchog i'r gwirionedd, yn disgyn i neillduaeth yr ogof, ac yn ofni pobpeth ac yn cael ei lethu gan ddigalondid. Mae yn debyg mai dyna hanes y dynion mwyaf tanllyd a chynhyrfus—llanw a thrai, ystorm a thawelwch, bryn a phant, ac o'r naill eithaf i'r llall gyda rhyw sydynrwydd rhyfedd. Copa y mynydd uchel a gwaelod y dyffryn isel yn agos i'w gilydd yn eu profiadau. Aeth y cwmwl hwn heibio, a gwelwyd ef ar ol hyn droion yn Nghymanfa y Sulgwyn yn Lerpwl, ac wedi ei wisgo â "nerth o'r uchelder." Yr oedd yn un o'r ychydig a ddeuai i'r Gymanfa ag y disgwylid yn awyddus am danynt yn y "Seiat Fawr." Nid oedd ef, hwyrach, mor wastad a rhai o'r lleill; ond y mae yn sicr iddo rai prydiau esgyn mor uchel ag un ohonynt.
Yn y flwyddyn hon hefyd y bu yn Nghymdeithasfa Llwynbrwydrau, yr hon a gynelid Mai 5ed, 6ed, a'r 7fed. Cymerodd ran yn yr ymddyddanion yn y cynadleddau. Yn y cyfarfod am ddau o'r gloch y dydd cyntaf, darllenwyd llythyr oddiwrth ysgrifenydd y Genadaeth Dramor yn galw sylw at eangiad y gwaith a'r angen oedd am ymgeiswyr cenadol. Cyfododd yntau ar ei draed i ddweyd gair ar y pwnc, yn mhlith eraill, ac meddai—" Fe garai llawer ohonom fyned yn ol ddeg ar hugain neu ddeugain o flynyddoedd er ein galluogi i ufuddhau i'r gair, Ewch, ewch. Y mae y Cassiaid yn dweyd 'Deuwch, ac y mae y Pen Mawr wrth ddweyd y gair 'Ewch' yn addaw dyfod gyda chwi, ac yn y dydd diweddaf fe ddywed yntau, 'Deuwch.' Gobeithio y bydd i'r cais gael ei gyflwyno mewn modd difrifol i ystyriaeth y gwahanol Gyfarfodydd Misol."
Pwnc yr ymddyddan yn nghyfarfod y pregethwyr ydoedd Adfywiad Crefyddol, a chymerodd yntau ran yn yr ymdriniaeth, a dywedai, "Cenedl y diwygiadau mawr ydym ni y Cymry; ac felly y mae yn anhawdd i ni beidio eiddigeddu am nad ydym yn cael profi mwy ar yr adeg bresenol. Sychder mawr ydyw arnom yn bresenol. Fe fyddai cawod yn werthfawr. Y mae y cyfarfodydd gweddiau yn dangos yn amlwg fod y cynulleidfaoedd yn rhyw ddisgwyl hyny. Hwyrach fod perygl i ni feddwl mai o Scotland neu yr America y mae y diwygiad i ddyfod. Rhaid i ni edrych am dano o'r nefoedd. Y mae, er hyny, yn dyfod weithiau fel gwlaw taranau: 'Cafwyd fi gan y rhai nid oeddynt yn fy ngheisio.' Y diwygiad flynyddoedd yn ol yn sir Gaernarfon, fe ddechreuodd trwy bregethwr cyffredin; ond yr oedd rhywbeth amlwg yn ei waith yn darllen ac yn gweddio, a naws yr efengyl yn hynod ar y bregeth nes y cafodd y gwrandawyr eu trwytho. Yr oedd bugeiliaid breision ochr y Wyddfa yn tori allan i foli. Ymdaenodd y tân yn mhob cyfeiriad; ac fe effeithiodd y diwygiad hwnw, mewn rhyw fodd hynod, i ddarostwng drwg arferion. Cawsom wedi hyny gawodydd lawer. Mewn lle o'r enw Pant, yn agos i Lanrwst, torodd diwygiad allan trwy weddiau rhyw dair chwaer fyddai yn arfer ymgyfarfod i weddio. Dygwyd llawer at grefydd. Nid oedd llawer o waeddi yn y diwygiad hwnw, ond yr oedd yn plygu pobl i'r efengyl. Pan ar daith yn sir Ddinbych am ychydig wythnosau gyda Mr. Williams, Aberdyfi, cawsom yr hyfrydwch o dderbyn pum' cant at grefydd. Pe y soniasid am beth felly wrth foneddigion Dyffryn Clwyd yn mlaen llaw, buasai yn anhygoel iddynt. Ymunodd pedair mil â chrefydd yn sir Feirionydd yn ystod yr adfywiad hwnw. Beth ddaeth ohonynt? Diau fod llawer o ragrithwyr yn eu mysg, a bod llawer wedi gwrthgilio. Ond lle y bu gofal priodol am y dychweledigion, y maent wedi dal. Fel yr amaethwr yn gofalu am ychwanegu a gwella y stock, felly, ond i ninau ymgeleddu y bobl ieuainc a'r dychweledigion, deuant yn mlaen rhywbeth tebyg i ninau."
Bu yn pregethu ddwywaith yn y Gymdeithasfa hon. Pregethai am dri o'r gloch prydnawn y dydd cyntaf gyda'r Parch. Thomas James, M.A., Llanelli. Bwriedid i'r oedfa fod ar y maes; ond oherwydd yr hin, cynaliwyd hi yn y capel. Nid oedd dim yn hynod, y mae yn ymddangos, yn yr oedfa hon; ond clywsom iddo gael pregeth hwylus ar y geiriau hyny, "Neu ymafled yn fy nerth i, fel y gwnelo heddwch â mi, ac efe a wna heddwch â mi."
Tranoeth trefnwyd iddo i bregethu drachefn gyda'r diweddar Barch. John Pritchard, Amlwch, am ddau o'r gloch, yn yr Ysgoldy Brytanaidd, ac y mae yn amlwg fod hon yn oedfa a gofir byth gan ganoedd o bobl. Cymerodd ei destyn yn y bymthegfed bennod o Luc, "Dameg y ddafad a gollesid." Desgrifiai yn fywiog y ddafad yn myned ar gyfeiliorn, a'r bugail yn myned i chwilio am dani; "ac," meddai, "hen beth / y galwn ni yn y Gogledd ddafad ar grwydr. Dacw y bugail yn cychwyn ar ei hol—y mae yn holi yn awyddus am dani; gofyn yn ymyl un ffarm ar ei ffordd, 'A welsoch chwi ddafad ddyeithr?' 'Do,' meddai un o'r gweision, 'rhyw hen beth yn myned heibio.' Y mae yn dal i fyned yn ei flaen ar ei lwybr, a phob cam yn chwilio am arwyddion ei chrwydriadau. Yn y man daw at ffarm arall, a gofyna yn muarth hono, 'A welsoch chwi ddafad yn pasio?' 'Do,' meddynt yno, 'rhyw hen beth a draenen wrth ei chynffon a'i gwlân wedi ei dynu ymaith. Nid ydyw yn werth dy drafferth.' Ond y mae yn dal i'w dilyn, er mor ddiwerth yr edrychid arni, ac y siaredid yn ei chylch. Y mae yn pasio ffarm arall gan ofyn yr un cwestiwn. 'Dacw hi,' meddynt hwythau, 'ar y llechwedd draw. A fyddai yn well anfon y ci ar ei hol?' Na,' meddai y bugail,' y mae yna ormod o gwn eisoes wedi wedi bod yn ei thrin. Y mae genyf ormod o feddwl ohoni i anfon yr un ci ar ei hol, yr wyf am fyned i'w chyrchu fy hun, costied a gostio.', Desgrifiai ymroddiad a thrafferth y Bugail Mawr yn nglŷn â phechadur colledig, hyd nes yr oedd yr holl gynulleidfa wedi ei llwyr orchfygu. Tyrai y bobl at y drysau o'r pentref gan synu beth oedd hyn. Safai cigydd yn nghanol y dorf oedd yn y drws, â'i arffedog o'i flaen, ac meddai, "Os na achubir fi heddyw, ni achubir byth mohonwyf." A dywedai fy hysbysydd fod arwyddion ar y dyn hwnw i hyny gymeryd lle. Ychwanegwyd llaweroedd at yr eglwysi yn y wlad fel ffrwyth y bregeth hono, ac y mae ôl y saethau, meddir, i'w gweled ar rai hyd y dydd hwn.
Fel yr awgrymwyd fwy nag unwaith, yr oedd cyfnodau amlwg ar ei ysbryd ac ar ei bregethu. Yr oedd ei hanes fel natur, a haf a gauaf, gwanwyn a chynhauaf, yn perthyn iddo. Ni fyddai yn cyfansoddi ei bregethau yn yr un ffurf, nac yn eu traddodi gyda'r un eneiniad ar bob adeg. Bu cyfnodau o bregethu athrawiaeth yn ei hanes; ond nid oedd mor llwyddianus wrth bregethu dogmas. Hanesion a chymeriadau Ysgrythyrol—lle y caffai ei ddychymyg bywiog ddigon o le i chwareu—oeddynt y pynciau a weddent oreu i'w ddawn. Pregethau ar destynau o'r dosbarth hwn oeddynt y rhai mwyaf gafaelgar ac effeithiol a fu ganddo.
Ymddengys fod y blynyddoedd 1874—'75 yn gyfnod byw a nerthol iawn yn hanes ei bregethu. Cafodd amryw o oedfeuon, yn ystod y blynyddoedd hyn, a gofir yn hir yn y wlad. Teithiai fwy ar ol ymryddhau o'i ofal bugeiliol, a phregethai, nid mwy bregethau, ond mwy ar yr un pregethau, hyd nes y byddai ei ysbryd yn ymasio yn dynach â hwy, ac wrth eu traddodi yn myned ar dân gyda hwynt. Ei duedd ef yn fynych oedd cyfansoddi lluaws mawr o bregethau newyddion, ac nid ydym yn sicr na bu hyny yn wendid iddo ar rai adegau.