Neidio i'r cynnwys

Cofiant David Davies, Bermo/Yn Wyliedydd craff

Oddi ar Wicidestun
Yn Teithio Cofiant David Davies, Bermo

gan William Jones, Lerpwl

Tymor o neillduaeth

PEN. XI.—Yn Wyliedydd craff.

Yn gwylio arwyddion yr amseroedd.—Cymdeithasfa Pwllheli.—Ei ddewis yn Llywydd y Gymdeithasfa.—Ei deimlad ar y pryd.—Ei anerchiad wrth roddi y Gadair i fynu—Y Gronfa Gynorthwyol.—Y drafodaeth yn y Gymdeithasfa—Ei sel gyda'r achos yn ei Gyfarfod Misol ei hun—Cyfarfod Misol Llanbedr.

Yr oedd yn sylwedydd, craff ar wahanol symudiadau y gwledydd, ac yn eu gwylio gyda chryn fanylwch. Nid oedd yn ol i luaws a gawsent fwy o fanteision nag ef mewn adnabod arwyddion yr amseroedd, a chredai yn ddiysgog yn yr efengyl i wneud trefn ar y byd. Edrychai ar y cwbl gyda llygad dyn Duw.

Mewn Cymdeithasfa yn Mhwllheli fe roed yn destyn ymdrafodaeth yn un o'r cyfarfodydd, " Yr amserau hyn, gan gyfeirio at y rhyfel rhwng Ffrainc a Germani." Ac, yn mhlith eraill, dywedai yntau ychydig o eiriau ar y pwnc fel y canlyn:

"Peth mawr i ni ydyw bod yn effro ar adegau fel hyn. Dyma yr adeg fwyaf pwysig yn ein hoes ni. Yr oeddym wedi bod yn gobeithio y buasai y gwelliantau mewn celfyddydau—y railways, y telegraphs, &c.—yn ddefnyddiau er llwyddiant yr efengyl. Nid oedd yn amheu nad felly y byddai eto. Ond yn awr yr oeddynt yn cael eu defnyddio i ddinystrio dynion. Gadewch i ni ymddiried, nid mewn gwareiddiad, fel y gwna eraill, ond yn ein Duw, gan gydnabod ei law Ef. Darllenwn y papyr newydd fel pobl dduwiol i weled pa fodd y mae Duw yn trin y byd. Dychrynais yn fawr pan ddarllenais sylw Ymherawdwr Ffrainc ei fod am i'w fab gael ei fedyddio â thân. Darfu i'r sylw yma fy mrifo yn ofnadwy. Cofiais y geiriau hyny a ddywedwyd wrth Belshazzar, 'Ac nid anrhydeddaist y Duw y mae dy anadl di yn ei law, a'th holl ffyrdd yn eiddo.'

"Bu geiriau ar fy meddwl fel testyn pregeth er's misoedd. Nid oeddynt, hwyrach, mor briodol i'r amseroedd pan y daethant gyntaf; ond erbyn hyn, y maent yn hynod o amserol a chymhwys—'Tyred, fy mhobl, dos i'th ystafelloedd, a chau dy ddrysau arnat, llecha megys enyd bach, hyd oni elo y llid heibio.' Dyma y gwres mawr yn y tymhor hwn yn gwasgu. Fel yna y mae hi trwy y wlad yn gyffredinol, er nad ydym ni yn sir Feirionydd wedi teimlo cymaint. Mewn gwledydd eraill, drachefn, nid oedd dyn i'w gael i drin y tir nac i fedi y cnwd. 'Dos i'th ystafelloedd, a chau dy ddrysau arnat, llecha megys enyd bach, hyd oni elo y llid heibio.' Gobeithio y ceir ni oll yn ein hystafelloedd. Pan oedd yr angel dinystriol yn myned trwy dir yr Aipht, yr oedd yn rhaid i'r Israeliaid fod yn yr ystafell. Yno yn unig y byddai y gwaed yn amddiffyn iddynt. Awn ninau i'r ystafell—i'r ystafell weddi, i ystafell addfwynder, i ystafell dystawrwydd yn yr Arglwydd, sef dystawrwydd wedi dweyd y cyfan wrth yr Arglwydd. Bydd dyn mewn profedigaeth chwerw yn dweyd y cyfan wrth ryw un cyfaill, ac yna ni soniai air am dano mwy wrth neb arall. Gallwn ninau wneud yr un peth â'r Arglwydd, ac yna ni raid i ninau gadw swn wrth eraill, ond bydd Ef yn darian ac yn astalchini. Y mae arnom angen mwy o gyfarfodydd gweddio mewn perthynas i'r pethau hyn. Caffed Duw Fethodistiaid Cymru oll ar eu gliniau."

Dewiswyd ef yn Llywydd y Gymdeithassa am y flwyddyn 1876, a chyflawnodd ei waith yn gymeradwy yn ngolwg ei holl frodyr. Pan y danfonwyd ato ei fod wedi ei ddewis i'r anrhydedd hon yn Nghymdeithasfa Beaumaris yn niwedd y flwyddyn 1875, ni phetrusai ddweyd wrth ei gyfeillion ei fod yn penderfynu gwrthod yr alwad; ac fe gaed cryn drafferth i'w berswadio i ymgymeryd â'r swydd, a hyny oherwydd teimlad o annghymhwysder. Yr oedd ei deimladau mor fywiog ac mor dyner, fel mai nid gwaith anhawdd ydoedd ei daflu o un eithafion i eithafion arall gan arddangosiad o barch, neu ynte o'r hyn a ystyriai ef yn fath o anmharch arno. Fodd bynag, llwyddwyd i'w berswadio i ymaflyd yn y gwaith, a chafodd fodd i osod anrhydedd arno.

Pan yn rhoddi y Gadair i fynu i'w olynydd yn Nghymdeithasfa yr Abermaw, Ebrill 10fed, 11eg, a'r 12fed, 1877, fe geir y cofnodiad canlynol am yr amgylchiad:

RHODDWYD anerchiad gan y diweddar lywydd, y Parch. David Davies, Abermaw, ar ei ymadawiad o'r gadair; a chyflwynwyd y llywydd presenol, y Parch. Hugh Jones, Liverpool, i'r Gymdeithasfa. Cynygiwyd gan y Parch. Roger Edwards, cefnogwyd gan y Parch. Rees Jones, a chytunwyd—Fod diolchgarwch y Gymdeithasfa yn cael ei gyflwyno i'r Parchedig David Davies am ei wasanaeth doeth a medrus fel llywydd y Gymdeithasfa yn ystod y flwyddyn, ac am yr anerchiad rhagorol a draddododd wrth adael y gadair, yr hon y gobeithid a gai ei argraphu.

Nid ydym yn meddwl fod dymuniad y Gymdeithasfa. gyda golwg ar argraphu yr anerchiad, wedi ei gario allan ond yn unig yn nglŷn â hanes y Gymdeithasfa ar y pryd yn y papyrau newyddion:

ANERCHIAD Y LLYWYDD YMADAWOL.

"Dywedodd mai math o adolygiad a ddisgwylid oddiwrtho ef yn ddiau. Gallai ddweyd ei fod yn llawenhau fod yr ysbryd ag sydd wedi bod er dechreuad y Cyfundeb wedi parhau i ymweithio, yn ystod y flwyddyn a aeth heibio. A dyna sydd yn perthyn i ni, oblegyd na chawsom ni yr un cynllun mawr i weithio i fynu ato. Nid oedd gan y Methodistiaid ddim cynllun o gwbl ar ddechreu y Cyfundeb. Nid oedd efe yn beio dim ar yr enwadau oedd wedi cael hyny, ac nid oedd chwaith yn gresynu ar y llaw arall oherwydd na fuasai genym ninau un, ond yn unig dweyd y ffaith. Ni chawsom unrhyw gynllun o gwbl gan Howel Harries, na Rowlands, Llangeitho, nac hyd yn nod Charles o'r Bala, i weithio i fynu ato; ond yn hytrach, ysbryd bywyd oedd yn yr hen dadau, a hwnw sydd o hyd yn ymweithio hyd heddyw. Gobeithiai efe na byddai iddynt byth ei golli. Oherwydd hyn—am nad oeddynt wedi cael cynllun o'r fath—yr oedd holl symudiadau mawrion y Corph Methodistaidd a'u tuedd uniongyrchol i gyflawni rhyw angen, ac ateb i ryw ddiffyg oedd yn cael ei deimlo ar y pryd. Felly y sefydlwyd y cymdeithasau eglwysig er's dros gant a haner o flynyddoedd yn ol; yr un modd y Cyfarfodydd Misol, a'r Cymdeithasfaoedd Chwarterol, a'r Ysgol Sabbothol—dim cynllun o gwbl. Na, teimlo eu ffordd yn mlaen yr oeddynt i gael rhywbeth i ateb i'r angen ar y pryd.

"Yr un fath y gellir dweyd am Gymdeithas y Beiblau: fe sefydlwyd hono i gyfarfod â rhyw ddiffyg oedd yn cael ei deimlo ar y pryd. Felly hefyd hyd yn bresenol—sefydlu yr athrofa ac adeiladu y colegdy; y cwbl i gyfarfod âg angen oedd yn cael ei deimlo ar y pryd; ac yn y blynyddoedd diweddaf hyn, gwnaed cronfa i gynorthwyo yr hen weinidogion, a phan fyddont wedi meirw, eu gweddwon a'u hamddifaid; cyfarfod âg angen oedd yn cael ei deimlo ar y pryd. Felly hefyd yn yr un modd am yr hyn a ddygwyd i sylw, yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, gyda golwg ar gael rhyw gynllun i gyfarfod â'r angen a deimlid yn nglŷn â'r pwnc o gynaliaeth y weinidogaeth. Yr oedd efe yn barod i roddi y gair 'cronfa' heibio os mwy dewisol hyny, a 'thrysorfa' hefyd; ond cael y peth ei hun—rhywbeth i ateb i'r angen presenol ydoedd hwn eto. Hwyrach y gallai rhai edrych arno fel peth dyeithr ynddo ef yn dwyn hyn yn mlaen; ond dyma oedd prif nodwedd ei lywyddiaeth ef, a dyma paham y cyfeiriai yntau ato. Fel yna y mae y Cyfundeb wedi myned yn mlaen o'r dechreuad hyd yn awr; a phwy a all ddweyd am ffurf—lywodraeth y Methodistiaid nad ydyw yn gorwedd mor esmwyth yn y Testament Newydd ag eiddo unrhyw gyfundeb ar y ddaear? Nid efelychiad o gyfundebau eraill ydyw yr un a fu erioed nac sydd yn bod yn awr. Rhydd gyfaddefai fod llawer o'r egwyddor Annibynol yn perthyn i ni; ond nid honyna ydyw ffurf—lywodraeth y Corph. Y mae llawer o'r egwyddor Henaduriaethol ynddo hefyd, ond nid Presbyteriaid ydym. Yr un ffunud y gellir dweyd hefyd, fel y dywedodd un brawd galluog a chraffus sydd yn ein plith, a'r hwn sydd yn barnu fod gradd o'r drefn Esgobaethol yn perthyn i ni fel enwad, nad esgobaethwyr ydym chwaith. Ond y mae y Cyfundeb Methodistaidd yn gyfartaliad cymmesurol o'r egwyddor Annibynol, Bresbyteraidd, ac Esgobaethol. Y mae hyny o Annibyniaeth a berthyn i ni yn ein cadw rhag anfanteision Presbyteriaeth, a hyny o Bresbyteriaeth a feddwn yn ein cadw, ar y llaw arall, rhag yr anfanteision sydd yn nglŷn wrth Annibyniaeth; a thybiai hefyd, os oes rhyw gymaint o Esgobyddiaeth yn nghyfansoddiad y Cyfundeb fod yn hyny rhyw fanteision nad ydynt i'w cael mewn Annibyniaeth na Phresbyteriaeth. Oddiwrth hyn fe welir mai nid efelychiad ydyw y Cyfundeb Methodistaidd o ryw un Cyfundeb arall; ond ei fod yn hytrach yn greadigaeth ynddo ei hun, a chreadigaeth Duw ydyw hefyd.

"Gyda hyny, meddyliai fod y Cyfundeb yn y ffurf y mae mor fanteisiol at holl ddyledswyddau a gwaith teyrnas yr Arglwydd Iesu Grist ag un Cyfundeb ar wyneb yr holl ddaear. Pe meddylient yn y lle cyntaf am y pregethu. Gellid meddwl ar un olwg mai corph i bregethu a dim arall ydyw. Y mae ynddo bob math o bregethu; pregethu yn mhob dull, pregethu teithiol, pregethu sefydlog, pregethu haner sefydlog, pregethu misol, cyfarfodydd pregethu, cyfarfodydd misol yn mhob sir, a phregethu yn nglŷn â phob un ohonynt, Cymanfaoedd Chwarterol a phregethu, Cymanfa Gyffredinol a phregethu, fel y gellid meddwl ar un olwg mai cyfundeb i bregethu ydyw.

"Drachefn, meddylier am y cyfarfodydd gweddio. Oni allwn ddywedyd, yn ol maint a nifer y Methodistiaid, fod cynifer o gyfarfodydd gweddio yn eu mysg ag sydd yn mysg unrhyw gyfundeb arall ar y ddaear?

"Yn y trydydd lle, cyfeiriodd y gwr parchedig at yr Ysgol Sabbothol, gan ddweyd ei bod yn gorphwys. mor esmwyth yn mynwes y Corph Methodistaidd ag un Cyfundeb arall pa bynag, ac y mae cynifer o aelodau ynddi ag un cyfundeb arall.

"Dyna y cymdeithasau cenadol wedi hyny; y mae y Corph drwyddo yn gorph cenadol; y mae pob dyferyn o'i waed yn waed cenadol. Meddylier, drachefn, am yr achos dirwestol. Y mae y Cyfundeb Methodistaidd wedi bod yn gymaint o gynorthwy ac o gefnogaeth i'r achos hwn ag un cyfundeb arall yn yr holl wlad, ac y mae yn parhau i fod felly. Ac nid gyda golwg ar ein pethau tufewnol yn unig yr ydym felly, ond yn ein cydymdeimlad â phob achos da yn gyffredinol—Iuddewon a Chenedloedd, addysg gyffredinol yn y wlad, y Coleg Normalaidd yn Mangor, y Brifysgol i Gymru yn Aberystwyth, a phethau o'r fath.

" Y mae y Cyfundeb wedi gwneud ei ran yn anrhydeddus gyda'r oll o'r pethau hyn, fel nad ydyw yn ol i neb yn yr un ohonynt. Nid ymffrostio oherwydd hyny oedd ei amcan ef, pa fodd bynag, ond dymunai ar iddynt gynyddu fwy-fwy yn yr holl bethau hyn. Ei amcan yn hytrach oedd dangos fod ffurf-lywodraeth y Corph mor fanteisiol ag eiddo unrhyw gyfundeb arall pa bynag, i gyflawni yr holl waith a berthyn i deyrnas Crist yn y byd hwn. Gallent ddywedyd gyda phob priodoldeb, 'Y llinynau a ddisgynasant ini mewn lleoedd hyfryd: y mae i ni etifeddiaeth deg.' Amgylchwch Seion; ewch o'i hamgylch; rhifwch ei thyrau,' &c.

"Nodwedd arall arbenig yn symudiadau y Cyfundeb Methodistaidd ydyw mai nid tynu i lawr er mwyn adeiladu sydd wedi bod ynddo erioed—nid gwau a datod, nid fel y gŵr goludog yn y ddameg yn myned i dynu ei hen ysguboriau i lawr er mwyn adeiladu rhai mwy. Nid tynu i lawr sydd wedi bod yma ond adeiladu ychwaneg. Yn y flwyddyn 1811, pan y cymerodd ordeinio le gyntaf yn y Cyfundeb, nid oedd dim yn cael ei dynu i lawr; adeiladu ychwaneg oedd yn cymeryd lle. Pan wnaed y Cyffes Ffydd a'r Weithred Gyfansoddiadol, adeiladu ychwaneg, heb dynu dim i lawr, oedd y pryd hwnw hefyd. Am yr athrofa yr un peth oedd i'w ddweyd, y Gronfa at gynal yr Athrofa, nid oedd dim yn cael ei ddinystrio ond adeiladu ychwaneg; Cronfa y Gweinidogion, dim yma yn cael ei dynu i lawr, adeiladu ychwaneg. Pa beth yw y twrf sydd yn cael ei wneud yn y dyddiau presenol? Nid oes dim yn cael ei ddinystrio, adeiladu ychwaneg sydd mewn golwg.

Pa beth ydyw yr angen presenol? fe ddichon fod rhywun yn barod i ofyn. Wel, angen am gynaliaeth—am gynorthwy i eglwysi bychain, tlodion, gweiniaid. O'i ran ef, dymunai weled y gair 'gweiniaid' yn cael ei alltudio am byth; oblegyd y mae yn yr eglwysi hyny aelodau llawn mor ffyddlawn ag sydd yn yr eglwysi mawr. Bychain mewn nifer ydynt, a hyny am mai ychydig bobl sydd yn trigo yn y cymydogaethau hyny. Teimlent hefyd y dylai yr eglwysi bychain gael pob manteision a breintiau, gyda golwg ar fywyd tragwyddol, yn ogystal â'r eglwysi mawrion eu hunain. Yn yr ystyr yna nid oeddynt yn gwneud yn iawn tuag at yr eglwysi bychain, os nad oeddynt yn cael yr un ymgeledd ag a fwynheir gan yr eglwysi mawrion. Ac y maent hwythau yn dymuno hyny fel y rhai mawr. Y maent yn dymuno cael bugeiliaid i ofalu am y plant ac i ymweled â'r rhai cystuddiol; y maent hefyd yn dymuno cael gweinidogaeth gyson fel yr eglwysi mawrion. Yr oeddynt oll yn barod i gydsynio â hyny a dweyd y dylent ei gael. A raid i eglwys o driugain o aelodau fod o dan anfanteision mwy nag eglwys o dri chant gyda golwg ar fywyd tragwyddol? Y mae eneidiau pob un ohonynt o gymaint gwerth ag eneidiau y lleill. Y mae enaid y dyn sydd yn trigo ar yr Allt Lwyd o gymaint gwerth iddo ei hun ag enaid y dyn sydd yn trigo rhwng Princes Road a Chatham, ac oddiyno i Fitzclarence yn Liverpool.

"Ac ychwaneg, dylem ninau fel Cyfundeb roddi pob cymhorth sydd ar ein llaw iddynt tuag at gael hyn. Tybiai, wrth edrych ar eu gwynebau, eu bod hwy yn barod i wneud hyny, iddynt gael gweinidogaeth gyson a gweinyddiad o'r ordinhadau fel yr eglwysi mawrion. Tybiai y clywai y cynrychiolwyr o Leyn ac Eifionydd, Môn ac Arfon, Dinbych, Trefaldwyn, Liverpool, Manchester, &c., yn dweyd eu bod hwy yn gwneud hyn yn barod ac yn cynorthwyo yr eglwysi gweiniaid. Ond yn y fan yma yr oedd yn ofni methu; ofni methu gwneud daioni, nid ofni gwneud drwg, oblegyd y mae y ffordd yr ydym yn gwneud hyn yn awr yn anfanteisiol. Gwell yw gwneud fel y gwneir yn awr na pheidio gwneud o gwbl. Ond yn sicr, yr oedd efe yn meddwl y gellid ei wneud mewn ffordd mwy dymunol. Nid ydyw y wedd yr ydys yn eu cynorthwyo yn awr yn foddhaol nac yn effeithiol i raddau; ac nid ydyw yn rhoddi y cysur a ddylai i'r eglwysi hyny sydd yn derbyn cymhorth, a hyny oherwydd fod yn rhaid i'r rhai bychain dderbyn o haelioni y rhai mawr; rhaid i'r bugeiliaid a'r eglwysi ymddarostwng i dderbyn elusen. Nid oedd efe yn perthyn i'r un ohonynt, ond yr oedd wedi sylwi arnynt er's blynyddoedd. A thybiai fod y cyfryw foneddigeiddrwydd nefol yn natur pob un ohonom fel y dymunem eu cynorthwyo ar delerau mwy anrhydeddus ac esmwyth na honyna, na ddymunem eu darostwng wrth estyn cymhorth iddynt. A dyma y peth yr ydym yn palfalu am dano. Yr oedd ganddo ef un ystori fechan i'w hadrodd. Fel yr oeddynt oll yn gwybod, buont yn palfalu am gryn ysbaid o amser am fund y gweinidogion. Tua deng mlynedd ar hugain yn ol, yr oedd rhyw frawd yn cynyg cynllun i gael clwb iddynt, ac yn ei egluro i'r diweddar Barchedig Richard Humphreys, o'r Dyffryn. Yn Nghyfarfod Misol Aberdyfi, yr oedd y brawd yn gosod ei gynllun o'r clwb i lawr; ond wedi ei esbonio i Mr. Humphreys yn y tŷ, a'r hen weinidog hybarch yn dweyd fod angen mawr am rywbeth o'r fath, yna aeth yn mlaen i ddweyd nad oeddynt yn meddwl i weinidogion oeddynt yn ei sefyllfa ef i dderbyn dim ohono, ond i gyfranu iddo, a dyna yr oll oedd y rhai da arnynt i wneud. Ond pan glywodd Mr. Humphreys hyny, dywedodd yn y fan, 'Wel, os fel yna y mae hi i fod, ni fydd dim a wnelwyf fi âg ef.' Nid rhywbeth ag y byddai raid i'r pregethwr tlawd ei dderbyn fel cardod, ond pawb yn cael eu gosod yn hollol ar yr un tir a'u gilydd. A hyn ddaeth i feddwl y Dr. Gee, o Liverpool—boed bendith y nefoedd ar ei ben am ei feddwl—a'r Parchedig Daniel Rowlands, o Fangor, am weithredu fel ysgrifenydd, ac hefyd ar y pendefig o Landinam, am ddwyn ei steam engine i lusgo y trên i'r terminus. Nid prif ragoriaeth y gronfa yna ydyw ei bod wedi cyrhaedd y swm mawr o £26,000. Na, ei phrif ragoriaeth ydyw fod pob pregethwr yn cael ei osod yn gymhwys ar yr un tir ynddi. Ac at yr un peth yr amcenir eto gyda'r pwnc arall—palfalu yr ydym am rhyw ffordd i gynorthwyo yr eglwysi gweiniaid, bychain, heb eu bod yn gorfod teimlo dim wrth dderbyn ein cymhorth. Yr oedd rhai yn amheu a ydoedd peth fel hyn yn bod, ond y mae yn eithaf gwir o dan y drefn bresenol, yr hyn sydd yn gwneud dau ddosbarth o'r gweinidogion ac o'r eglwysi. Ni ddylai y pethau hyn fod. Brodyr ydym ni. Credai efe fod ein brawdoliaeth yn galw arnom i weddio am gael rhyw oleufynag i weled pa fodd gallent gynorthwyo y lleoedd gweiniaid mewn modd esmwyth. Heblaw hyny, Corph ydym ni, a dylem ofalu am ein lleoedd bychain. Ac ni allasai yr eglwysi mawrion yn Ffestiniog, Caernarfon, a Liverpool fod yn fawr heb y rhai bychain; a phe y darfyddai am y rhai bychain, buan iawn y teimlai y rhai mawr fod eu nerth yn cilio a'u rhifedi yn darfod. Dyna y peth y mae eisieu i ni weddio am oleuni arno a theimlo ein ffordd am dano yn y dyddiau hyn—'Dygwch feichiau eich gilydd, ac felly cyflawnwch gyfraith Crist.' A chofied yr eglwysi mawrion, 'Nid fel y byddai cystudd i chwi ac esmwythâd iddynt hwy; ond fel y byddai cymhwysdra.' Dywed Alford mai equality (cydraddoldeb) ydyw y meddwl, ac mai y cyfieithiad priodol fyddai, by the rule of equality—yn ol rheol cydraddoldeb. Ac y mae Testament yr Ysgol Sabbothol yn dweyd mai y 'cymhwysdra yw fod pawb mor rydd a'u gilydd oddiwrth angen.' Y mae eisiau darllen yr esboniad yna yn fanwl.

"Na feddylied neb ein bod ni am fyned i ddilyn yr Ysgotiaid, y Saeson, yr Ellmyn, na neb arall; nid oeddym am ddilyn neb, ond yn hytrach am edrych ar angen ein gwlad ni ein hunain. Dyna ydyw yr amcan sydd ganddynt mewn golwg—cael pawb yr un mor rydd a'u gilydd oddiwrth angen. A phwy, mewn difrif, a all luddias hyn? Ond pa fodd i'w wneud? Gwneud fel y dywedir, "Llef un yn llefain yn yr anialwch, 'Parotowch ffordd yr Arglwydd' i'r cwm mynyddig, os oes yno eglwys; i'r pentref, os oes yno hefyd eglwys; parotowch ffordd yr Arglwydd i fyned i'r pant. Pa sut? 'Pob pant a gyfodir a phob mynydd a bryn a ostyngir: y gwyr a wneir yn uniawn, a'r anwastad yn wastadedd.' I ba beth y gwneir hyn? I gael 'ffordd i'r Arglwydd' a 'hyn fydd i'r Arglwydd yn enw.' Nid rhywbeth i'r pregethwyr ydyw. Na ato Duw! Yr oedd holl ystod bywyd rhai ohonynt yn dweyd rhywbeth yn amgenach. Na, na; ond 'fel y dadguddir gogoniant yr Arglwydd, a phob cnawd yn nghyd a'i gwel '—pob cnawd; pobl y trefydd mawrion, y pentrefydd, a'r cymoedd. A diwedd hyn oll fydd pob lle yn cael yr un manteision gyda golwg ar yr iachawdwriaeth dragwyddol. Hefyd, fe gŵyd hyn weinidogion yr efengyl i raddau o annibyniaeth. Gellir cael annibyniaeth i'r eglwysi, ond y gweinidogion, er hyny, yn ddibynol hollol. Heblaw hyny, byddai hyn yn foddion i godi pob gweinidog uwchlaw pryder gyda golwg ar ei fywoliaeth; ac achos yr Arglwydd a gaiff yr enill oddiwrth y cyfan. Yr oedd efe yn gobeithio bellach ei fod wedi llwyddo i enill rhyw gymaint arnynt i ddyfod i'r syniad am yr angenrheidrwydd i gynorthwyo yr eglwysi gweiniaid mewn modd anrhydeddus, a'u gwneud oll yn rhydd oddiwrth angen. 'Ac yr awr hon, fy mrodyr,'—prin, meddai, yr ystyriai ei hun yn gymhwys i ddweyd hyn wrthynt—'yr wyf yn eich gorchymyn i Dduw, ac i air ei ras Ef, yr hwn a all adeiladu ychwaneg, a rhoddi i chwi etifeddiaeth yn mhlith yr holl rai a sancteiddiwyd.' ' Ac i Dduw y byddo y diolch am ei ddawn annhraethol "

Gwelir ei fod yn rhoddi lle mawr ac amlwg yn ei anerchiad i gynaliaeth y weinidogaeth, ac yr oedd yn dra awyddus i hyny gael ei wneud, fel y dywed, mewn modd esmwyth ac anrhydeddus. Yr oedd mater "Trysorfa Cynaliaeth y Weinidogaeth" yn cael sylw arbenig yn nghynadleddau y Gymdeithasfa hon. Yr oeddid wedi anfon y pwnc i ystyriaeth y gwahanol Gyfarfodydd Misol, a llais y rhai hyny i gael ei dderbyn yn Nghymdeithasfa yr Abermaw, ac fel hyn y ceir y cofnodiad am hyn yn hanes y cyfarfod:

EGLURODD yr ysgrifenydd pa fodd yr oedd y gwahanol Gyfarfodydd Misol yn sefyll gyda golwg ar y mater hwn. Yr oeddynt wedi derbyn cenadwriaethau o Leyn ac Eifionydd, o sir Fflint, Meirionydd,—Gorllewin a Dwyrain, Trefaldwyn Isaf, Henaduriaeth Trefaldwyn, Arfon, Liverpool, Manchester, a Henaduriaeth Lancashire; yr oll yn cymeradwyo egwyddor ac amcan y gronfa, ond rhai yn dymuno am ychwaneg o ystyriaeth i'r moddion goreu i weithio y peth allan. Un, ac un yn unig, sef sir Ddinbych, oedd wedi pasio penderfyniad yn datgan "nad oedd angenrheidrwydd am y gronfa gynygiedig."

Wedi i'r ysgrifenydd ddarllen yr hyn a dderbyniwyd o'r amrywiol Gyfarfodydd Misol fel yna, fe gaed trafodaeth faith a brwd ar y pwnc. Y mae yn eglur nad oedd yr holl frodyr yn cydolygu am y ffurf oreu i fod ar y symudiad. Cymerai y gweinidogion canlynol ran yn yr ymddyddan;—Parchn. O. Thomas, D.D., Emrys Evans, Robert Roberts, Dolgellau; John Williams, Llandrillo; Roger Edwards, a David Davies—yr oll erbyn hyn wedi cadw noswyl—ac y mae yn amlwg oddiwrth dôn y siarad oedd yno fod y teimlad yn gryf am symud yn y cyfeiriad iawn; ond yr oedd. y diweddar Barch. Dr. Thomas—yr hwn a fu yn wyliedydd craff a gonest yn ein plith am flynyddoedd yn selog am beidio gwneud yr hyn a elwid yn sustentation fund. " Y mae yn bwysig iawn," meddai, " i ni symud oll gyda'n gilydd fel cwmwl Shirley ' If it moves at all it moves altogether.' Ni ddywedai ef air byth o blaid sustentation fund; ond am gynal lleoedd gweiniaid, hyd yr oedd yn bosibl, a chynal y weinidogaeth yr oedd yn hynod bleidiol," &c. Yr oedd y Parchn. Robert Roberts a D. Davies ac eraill yn argyhoeddedig a thraethent hyny yn glir a chroyw—fod yn rhaid i'r hyn a wneid fod yn gyffredinol cyn y gallasai fod yn esmwyth ac yn anrhydeddus—pob eglwys yn cyfranu a phob eglwys yn derbyn. Ac nid yw yn rhyfedd ei fod ef yn ei araith ymadawol wedi rhoddi lle mor fawr ac amlwg i'r pwnc, ac i'r wedd arno hefyd a ystyriai ef yn "esmwyth ac yn anrhydeddus," fel y dywed.

Gweithiodd yn ymroddgar ac yn egniol am flynyddoedd yn nghylch ei Gyfarfod Misol ei hun mewn darparu ymgeledd a gofal gweinidogaethol i eglwysi gweiniaid. Ceir yn mhlith ei bapyrau amryw o gynlluniau i ddwyn hyn oddiamgylch, ac y mae yn ymddangos iddo gynyg rhai ohonynt yn y Cyfarfod Misol, a chael cymeradwyaeth y cylch iddynt. Yr oedd gan y ddau ben i sir Feirionydd drefn ragorol i weithio gyda'r amcan hwn; ac wedi i gynllun y Gymdeithasfa ddyfod gerbron, mawr oedd siomedigaeth rhai brodyr oherwydd eu bod wedi rhoddi cynllun rhagorach i fynu er mwyn trefn a ystyrid ganddynt yn annigonol i gyfarfod a'r angen. Dywedai Mr. Davies yn Nghyfarfod Misol Llanbedr, pan yn rhoddi datganiad i'r siomedigaeth hon: "Yn yr America," meddai, rhoddwyd ball (dawns) lle yr oedd nifer o wragedd a babanod yn eu gofal. Parhaodd y ddawns yn hwyr a'r babanod yn ngofal rhyw rai penodedig. Penderfynodd y gweilch a gafodd yr ymddiriedaeth hon newid dillad y plant. Rhuthrai y mamau i mewn gan fyned bob un at y man yr oedd ei baban a'i gymeryd ymaith ar ffrwst. Ond erbyn myned adref, Oh! y syndod a'r braw—' Nid fy mhlentyn i ydyw hwn." Yna darluniai, yn ei ddull byw, helynt y mamau. Felly, pan ddaeth y Drysorfa Gynorthwyol gyntaf o'r Gymdeithasfa dywedai, "Nid ein plentyn ni ydyw hwn. Y maent wedi newid y dillad a chymysgu y plant yn y Gymdeithasfa."

Nodiadau

[golygu]