Cofiant David Davies, Bermo (testun cyfansawdd)
| ← | Cofiant David Davies, Bermo (testun cyfansawdd) gan William Jones, Lerpwl |
→ |
| I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Cofiant David Davies, Bermo |


PARCH. DAVID DAVIES, BERMO:
Ei Gofiant a'i Bregethau.
GAN Y
Parch. WILLIAM JONES. David Street,
LIVERPOOL.
Liverpool:
CYHOEDDWYD GAN I. FOULKES, 8, PARADISE STREET.
1897.
CYFLWYNEDIG
I
GOFFADIFRIAETH EI ANWYL BRIOD,
Y hon a fu yn gydymdaith âg ef am yn
agos i haner can' mlynedd, ac a'i dilynodd
i orphwysfa Duw, Chefror 20fed, 1893,
y 84 mlwydd oed.
RHAGYMADRODD.
Y MAE y rheswm dros ymddangosiad y Gyfrol hon yn codi o'r penderfyniad sydd yn canlyn, yr hwn y cytunwyd amo mewn Cyfarfod Misol yn Ngorllewin Meirionydd, a gynaliwyd yn Bethania, Corris, Awst 1 a'r 2. 1887:—
Penderfynwyd ein bod fel Cyfarfod Misol yn rhoddi anogaeth daer i'r Parch. W. Jones, gynt o'r Penrhyn, i ddwyn Cofiant allan i'r Parchedig DAVID DAVIES, Abermaw, a hyny yn brydlon.
Y mae geiriau diweddaf y penderfyniad yn peri gradd o gywilydd arnaf, gan y gwelir fod bellach bron ddeng mlynedd er pan y pasiwyd ef, a gweddus i mi ydyw dadgan fy ngofid oherwydd yr oediad. Gallaswn nodi amryw bethau a ystyriwn yn rhesymau am yr annybendod gyda'r gorchwyl. Bu'm'am rai blynyddoedd yn anufudd i'r alwedigaeth gan deimlad o annghymwysder personol i'r gwaith, ac hefyd oherwydd cysylltiadau perthynasol; a bu'm yn ceisio yn awyddus gan frodyr eraill i'w gymeryd mewn llaw, ond yn aflwyddianus. Yr oecdd amgylchiadau hefyd, nad ydyw yn weddus efallai erbyn hyn eu codi i sylw, yn fy llesteirio. Fodd bynag ar ol hir oediad, ymdrechais, yn yr ychydig oriau hamddenol a feddwn, i gasglu pethau at eu gilydd a'u gosod yn nghyd yn y drefn sydd yn dilyn. Nid oes neb a wêl fwy o anmherffeithrwydd yn yr ymgais na'r awdwr ei hun; ond wrth feirniadu bydded y darllenydd yn bwyllog, gan gofio fod y drafferth i'w gael, fel y mae yn fawr, ac amser gweinidog mewn dinas brysur fel hon yn brin at ddim ond dyledswyddau uniongyrchol ei swydd.
Yr wyf yn mhob man lle y gellid, wedi gadael i'r gwr y ceisir ei bortreadu fod yn amlwg, yn ei wisg a'i ddullwedd ei hun, ac wedi ymatal rhag ysgrifenu fy syniadau fy hunan yn aml er mwyn iddo ef fod yn y golwg ac yr wyf wedi talu cryn sylw i farn pobl eraill am dano, ac fe wel y cyfarwydd ar unwaith y rheswm naturiol am hyny.
Derbynied y cyfeillion a roddasant eu cynorthwy parod fy niolch gwresog, yn enwedig Mr. Lewis Lewis, Y. H., a Mr. E. R. Jones, Abermaw, y naill am ei adgofion gwerthfawr, a'r llall am y pregethu a ysgrifenwyd ganddo wrth eu gwrando. Hefyd dymunwn gydnabod y Parch. R. Owen, M.A., am ganiatau i mi ddyfynu o'i lyfr gwerthfawr ar "Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd", a'r Parch. R. H. Morgan, M.A., am ganiatad i wneud defnydd o'r ysgrif ddyddorol a ymddangosodd yn y Drysorfa.
Buasai yn dda genyf allu rhoddi i mewn rai Pregethau eraill and buasai hyny yn chwyddo gormod ar y Gyfrol, yr hon sydd eisoes yn fwy nag y bwriadwyd ar y dechreu iddi fod.
Cyflwynaf fy offrwm hwn ar allor gwasanaeth Pen yr Eglwys, gan ddymuno ei fendith Ef arno,
WILLIAM JONES.
- 6, PELHAM GROVE,
- LIVERPOOL, Gorphenaf 8, 1897
COFIANT Y PARCH. DAVID DAVIES.
PEN, I.—Bore ei oes.
Ardal ei enedigaeth.—Adeg ei ymddangosiad yn y byd.—Ei rieni.—Y blaenoriaid eglwysig.—Ei fedydd.—Diwygiad crefyddol.—Dylanwad ei fam a'r golygfeydd o amgylch ei gartref yn ffurfiad ei gymeriad.
GANWYD y Parchedig DAVID DAVIES ar yr 16eg o Gorphenaf, 1815, yn nghymydogaeth dawel phrydferth Penmachno. Ardal neillduedig ydyw, yn ymwthio i fynu i gilfachau y mynyddoedd, fel i ymguddio o wydd y byd; ond er yr ymddengys braidd yn wylaidd, ac nad ydyw yn dewis gwneud swn mawr, na'i safle ddaearyddol yn fanteisiol i dynu sylw y byd, y mae iddi er hyny ei hanes. Yn annibynol ar yr hynafiaethau pwysig a gwerthfawr a berthyn i'r plwyf, a lluaws o draddodiadau swynol sydd yn enwogi rhai llanerchau ohono, fe gymerodd amgylchiad le, er's mwy na thri chan' mlynedd yn ol, ar ei gwr gorllewinol sydd yn gosod neillduolrwydd mawr arno, ac yn gosod y gymydogaeth, yn hanes Cymru grefyddol, uwchlaw holl gymydogaethau y wlad. Yn yr adeg hono, mewn lle o'r enw y Tŷ Mawr, Wybrnant, yr ymddangosodd William Morgan cyfieithydd y Beibl i'r Gymraeg—cymwynaswr penaf ei genedl. Am y mynydd a'r fangre gysegredig hon—pellder o filldir neu filldir a haner i'r dwyrain—y mae tyddyn bychan a dinôd o'r enw Y Gorlan, lle yr ymddangosodd gwrthrych ein Cofiant.
Daeth i'r byd ar flwyddyn aflonydd iawn yn hanes teyrnasoedd Ewrop—y wlad yn un berw trwyddi, a'r dinystr oedd wedi bod yn ymgrynhoi am flynyddoedd yn tori allan yn hylif poeth, hyd nes yr oedd teyrnasiad braw yn gyffredinol ac nes disgynodd gogoniant Ffrainc falch i'r llwch. Nid oedd ardal Penmachno, er ei phellder o'r byd, yn rhy bell i'r ystorm ei hysgwyd. Clywais hen bobl yn dweyd fod enw Napoleon y pryd hwnw—"Boni," fel e'i gelwid—yn ddychryn yn mhob tŷ. Pan y deuai dyeithrddyn ar ymweliad â'r lle, edrychid arno gan luaws o'r preswylwyr gyda drwgdybiaeth, a byddai y plant yn rhedeg i ymguddio i'r tai, mewn braw, rhag ei ofn; ac nid oedd mamau y lle yn gwybod am yr un enw a allasai fod yn fwy o ddychryn i weithredwyr drygioni yn mhlith y plant nag enw "Boni." Fe droid tai y gymydogaeth yn fath o gestyll, a chynysgaeddid hwy â'r arfau mwyaf priodol y gellid taro arnynt i'w hamddiffyn, ac i wrthsefyll ymosodiad y Ffrancod, pe y digwyddasent ddyfod yn ddisymwth.
Mewn adeg fel hyn y ganwyd y Parch. David Davies. Ei rieni oeddynt Evan a Jane Davies, ac yr oeddynt yn hiliogaeth hen deuluoedd parchus a chyfrifol. Hanai Evan Davies o deulu cryf o gorph, ac ystyrid rhai ohonynt yn gewri mewn maint a nerth. Yr oedd iddo frawd o'r enw Richard yn un o'r dynion talaf a grymusaf yn yr ardal; a phan yr holid y plant yn y Rhodd Mam, ac y gofynid y cwestiwn hwnw, "Pwy oedd y dyn cryfaf?" ac yr atebent "Samson," ystyrid presenoldeb Richard Davies—yr hwn a fyddai bob amser yn nghanol y plant yn eu dysgu ac yn eu llywodraethu—fel mantais i gadarnhau ac egluro y pwnc. Yr oedd Evan Davies yn ddyn byrach o gorpholaeth, ond yr oedd wedi ei fendithio â chorph cydnerth iawn, a chafodd fyw i'r oedran teg o 89ain mlynedd. Bu yntau o wasanaeth mawr gydag addysgu y plant yn Ysgol Sabbathol y Methodistiaid yn yr ardal am gyfnod maith.
Bu ei fam farw pan yr oedd David yn ieuanc. Yr oedd yn wraig dra synwyrol a chrefyddol; ac wedi cael addysg uwchlaw y cyffredin y pryd hwnw—yn deall yr iaith Saesneg yn dda, yr hyn a ystyrid yn yr ardal yn y cyfnod hwn fel medru dewiniaeth.
Meddai ei dad ddawn lithrig, naturiol, a hyfryd i weddio a chanu. Yr oedd dau frawd ar y pryd yn perthyn i eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Mhenmachno, a ystyrid gan y plant yn y ddau eithafion pellaf oddiwrth eu gilydd fel gweddiwyr. Ystyrid un yn boblogaidd iawn, tra yr ystyrid y llall yn dra anmhoblogaidd. Byddai Evan Davies yn fyr, yn llithrig, yn swynol ac yn newydd; ac yn arwain defosiwn y gynulleidfa bob amser â'i lygaid yn llawn agored. Byddai y llall yn ddwfn, yn hir, ac yn tueddu at fod yn ystrydebol; ac yr oedd y gwahanol wersyllfaoedd yn ei weddiau yn llawer haws i'w dilyn na'r gwersyllfaoedd yn nhaith cenedl Israel yn yr anialwch. Arferai hwn hefyd weddio llawer dros y teulu brenhinol, a byddai enwi gwahanol aelodau y teulu yn ei weddiau yn meddu cryn swyn iddo. Bu yn gweddio tros Sior y Trydydd am amser maith ar ol ei farwolaeth. Ceryddid ef yn drwm gan Evan Davies am hyny, ac hefyd am fanylu cymaint gyda'r teulu brenhinol. "Paham yr wyt ti yn gweddio tros Sior y Trydydd o hyd," meddai, "ac yntau wedi marw. Ni wnaiff dy weddiau di ddim lles iddo bellach. A phaham yr wyt ti yn trafferthu i enwi y teulu brenhinol bob yn un ac un; byddai yn well o lawer i ti eu lympio hwy."
Cafodd eglwys y Methodistiaid, yn yr ardal, ei breintio â chymeriadau neillduol iawn fel blaenoriaid. Y rhai a lanwent y swydd, pan yr oedd gwrthrych ein cofiant yn fachgen, oeddynt Huw Rolant, Rhys Gruffydd, Owen Jones, Hugh Davies a Matthew Roberts. Yr oedd y tri blaenaf yn y swydd, er pan ydoedd ef yn blentyn, ac y mae yn debyg mai dyma y blaenoriaid cyntaf a ddewiswyd yn eglwys Penmachno. Huw Rolant ydoedd gymeriad gonest, unplyg, ac yn meddu dawn neillduol at lenwi y swydd. Ni fedrai ddarllen llythyren ar lyfr, ond yr oedd llawer o'r Llyfr Dwyfol wedi ei drysori ganddo yn ei gof; a phan yr ymgymerai â dechreu y cyfarfodydd, adroddai un o'r Salmau—y Salm gyntaf yn fynychaf —gydag eneiniad. Pan yn gwrando ar eraill yn siarad, ac weithiau pan yn siarad ei hunan, ysgydwai ei ben a rhoddai ei fawd yn ei safn, mewn dull arwyddocaol iawn. Gwir ofalai am yr achos; a phan y byddai rhyw fater dyrys yn yr eglwys ni fyddai ef yn gallu cysgu na bwyta hyd nes y ceid glàn gydag ef. A phan y gwelai ei briod ef yn methu bwyta, neu y deallai ei fod yn methu cysgu, dyna a ddywedai,—" Beth ydi yr helynt sydd tua'r capel yna 'rwan? Y mae Huw yn cario y capel ar ei gefn o hyd." Dywedir ei fod yn un cyfarwydd a llwyddianus mewn rhoddi terfyn ar gynhenau ac ymrafaelion.
Yr oedd Rhys Gruffydd yn uwch ei gyrhaeddiadau na Huw Rolant, ac wedi cael graddau o fanteision addysg. Ar ei ysgwyddau ef y bu prif waith yr ysgol a'r eglwys, mewn gofalu, am rai blynyddoedd. Bu yn ffyddlawn yn yr holl dŷ, a chyflawnodd waith ei swydd gyda chymeradwyaeth y saint.
Owen Jones ydoedd ewythr frawd ei fam i David Davies, ac yn ddyn oedd wedi teithio cryn dipyn ar y byd, ac wedi enill cryn wybodaeth. Meddai ddoniau ystwyth, ac yr oedd wedi ei fendithio â natur a llawer o dynerwch ynddi. Yr oedd yn hoff o ganu, a bu am un cyfnod yn ddechreuwr canu; ond nid oedd ei ddawn at y gwaith yn rhy helaeth, mwy na lluaws oedd yn ymgymeryd â'r swydd o arwain cân y cysegr y pryd hwnw. A phan y byddai yn camgymeryd y mesur, nid ydoedd mor barod i gydnabod ei ddiffyg ei hun; ac, yn gyffredin, ciliai oddiwrth gyfrifoldeb y camgymeriad gyda gair felly:—"Tôn Saesneg oedd hona, gyfeillion, ni a dreiwn un arall," gan briodoli y cyfeiliornad i anwybodaeth y gynulleidfa o bethau Seisnig. Yr oedd i'r Owen Jones hwn frawd o'r enw Robert Jones—gwr ag yr edrychid arno fel cynghorwr yn ei ardal. Efe oedd cyfreithiwr cyffredinol y gymydogaeth, a byddai bron bob mater dyrys yn cael ei benderfynu o'r llys, trwy ei fedrusrwydd a'i gallineb ef. Nid ydoedd hwn yn aelod eglwysig, ond bu yn llawn ymroddiad a sêl gydag Ysgol Sabbothol a gynelid mewn Ty Rhisgl gerllaw ei gartref, o pa un y tarddodd yr eglwys sydd yn awr yn ymgynull yn Ebenezer, yn mhen isaf y plwyf. Bu yn llenwi pob swydd yn yr ysgol hono, a byddai yn cymhell rhai i ddechreu a diweddu yr ysgol gyda thaerineb. Wrth gymhell un dyn ieuanc, am y tro cyntaf, i gyflawni y gwasanaeth dywedai, "Tyr'd fy machgen i, goreu po cyntaf i ti ddechreu ar waith da fel hyn."
Dewiswyd y ddau flaenor eraill a enwyd pan yr oedd D. Davies tuag wyth mlwydd oed. Matthew Roberts oedd ddyn cywir. Anrhydeddodd ei swydd gyda ffyddlondeb mawr a chyda bywyd dilychwin. Yr oedd iddo air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun.
Bu Hugh Davies yn cadw y Ty Capel. Symudodd i Dŷ Capel Bettws-y-coed, ac oddiyno i'r America; ac y mae wedi ei gladdu yn naear y Gorllewin, oddeutu pymtheng mlynedd yn ol, ar ol bod yn swyddog eglwysig defnyddiol yno hefyd am flynyddoedd. Enw ei wraig ydoedd Alice, a meddai dalentau cryfion. Cyfansoddwyd amryw o ddarnau barddonol ganddi; ac y mae lluaws o'i phenillion yn y Llyfr Hymnau a arferir gan y cynulleidfaoedd Cymreig yn yr America. Yr oedd y cwpl hwn yn wahanol i'w gilydd o ran eu tymherau naturiol,——Hugh yn fywiog a phrysur, ac Alice yn araf a phwyllog. Gwnai y naill i fynu ddiffyg y llall mewn llawer cyfeiriad. Os oedd y naill yn dân yr oedd y llall yn ddwfr i atal ei ddinystr. Gwnai hi sylw un tro, pan yn methu cael y ddau ben i'r llinyn yn nghyd mor hwylus ag y dymunasai—"Y mae Hugh o flaen y byd, ac yr wyf finau ar ei ol, ac felly y mae yn dianc rhyngom." Ond yn yr Unol Daleithiau fe lanwodd y byd y bwlch rhwng y ddau. Gwenodd Rhagluniaeth y nef yn fawr arnynt; fel, ar ol rhai blynyddoedd o amaethu y tir, cawsant fodd i ymneillduo oddiwrth drafferthion y byd ac ymgysegru yn hollol i wasanaeth crefydd.
Adroddai brawd a fu byw flynyddoedd yn ymyl Hugh Davies, yn y Gorllewin, am dano yn cyfarfod â brawd o weinidog ar y ffordd i Gyfarfod Dosbarth, ac yn cyd-deithio âg ef ar y reilffordd. Wedi teithio rhyw gymaint, y mae Hugh Davies yn dadguddio i'r gweinidog ei fod yn rhwym i ddeddf Alice yn y fan hono. Ymddengys iddi hi gael ei hysbysu rhyw fodd fod pont a groesai yr afon, ar y ffordd, yn beryglus, a rhoddodd orchymyn caeth i'w phriod i ddisgyn yn yr orsaf agosaf i'r bont, a cherdded yn mlaen. Fodd bynag, cadwodd y gweinidog yr ymddyddan i fynu yn fywiog, hyd nes yr oeddynt wedi croesi y bont, heb iddo ef sylwi dim arni. Pan y deallodd ei fod wedi ei chroesi, dywedai yn frawychus, "Wel, wel, Mr. J. bach, beth a ddaw ohonof pan af adref at Alice?"
Yn mhen deg neu ddeuddeng mlynedd ar ol dewisiad y ddau flaenor a enwyd ddiweddaf, fe etholwyd brawd arall, sef David Davies, Ty'n-y-Coed. Yr oedd. y dewisiad hwn felly tua'r adeg y dechreuodd gwrthrych ein Cofiant bregethu, neu yn fuan wedi hyny. Yr oedd hwn yn ddyn, oherwydd ei safle fydol, ag yr edrychid arno uwchlaw y cyffredin, am ei fod yn oruchwyliwr ar etifeddiaeth fechan; ac hefyd yr oedd yn ddyn o synwyr a gwybodaeth eang, ac wedi ei egwyddori yn fanwl yn yr Ysgrythyrau. Efe ydoedd prif gychwynydd yr Ysgol Sabbothol y crybwyllwyd am dani o'r blaen, yn y Ty Rhisgl, yr hwn a berthynai i'w dyddyn. Ceid yno hefyd bregethu yn achlysurol. Y mae ei goffadwriaeth yntau yn arogli yn hyfryd.
Olynwyr y rhai hyn, ac olynwyr teilwng iddynt hefyd, oedd William Williams, Solomon Jones, William Roberts, William Evans, William Ellis, David Jones, Hugh Davies, a Robert Jones, y rhai sydd oll wedi myned at eu gwobr rhai ag y buasai yn hyfryd ysgrifenu rhai o'r gorchestion a gyflawnwyd ganddynt trwy ffydd, ond ni chaniateir helaethu yn y cyfeiriad hwn yn bresenol. Buasai traethu am danynt, bob yn un ac un, yn rhwym o fod yn ddyddorol ac yn adeiladol iawn. Y mae gwythien gref a gwerthfawr mewn cymeriadau fel hyn y dylid ei chloddio i fynu yn gyfoeth i'w plant a'u holynwyr. Ac yr oedd lluaws o wragedd hynod dduwiol yn Mhenmachno yn y blynyddoedd sydd o dan ein sylw, y rhai oeddynt yn dilyn yr Iesu yn agos ac yn ffyddlon ac yn gweini arno, gyda hyfrydwch, o'r pethau oedd ganddyntrhai ag y mae eu henwau yn "Llyfr y Bywyd," a rhai ag y dylesid cadw eu henwau ar y ddaear yn Llyfr y Brenhinesau.
Ond pan anwyd Dafydd bach nid oedd ei rieni wedi ymrestru gyda'r fintai oedd yn ymladd brwydrau yr Arglwydd, ac yn meddwl am ei enw Ef. Bedyddiwyd ef yn yr Eglwys Wladol, ond pan yr oedd ef tua thri mis ymunodd ei fam â'r eglwys fechan, berthynol i'r Methodistiaid yn y lle, ac aeth â'i baban yno gyda hi; a phan y byddai ef yn son am hyny, mewn blynyddoedd diweddar, arferai ddweyd yn siriol, “A derbyniwyd ni ein dau." Ac yn mhen dwy neu dair blynedd ymunodd ei dad â'r un gymdeithas. Efe ydoedd yr unig fachgen oedd ganddynt, a mawr oedd eu pryder yn ei gylch, a'u gofal am dano. Bu chwaer iddo, ond collwyd hi yn ei babandod.
Pan oedd ef oddeutu dwy flwydd oed, y daeth un o'r diwygiadau crefyddol mwyaf grymus a welodd Cymru erioed, sef yr hwn a adnabyddir fel " Diwygiad Beddgelert." Goddeithiwyd y wlad gan y tân sanctaidd, mewn modd anwrthwynebol. Ychwanegwyd llaweroedd at yr eglwysi, a llonwyd y saint yn fawr. Profodd cymydogaeth Penmachno rym y tywalltiad mewn graddau helaeth iawn. Ceir peth o'i hanes gan un sydd yn galw ei hun "E. ab R." yn Nhrysorfa 1858, o dan y penawd "Ychydig o Hanes yr Adfywiad Crefyddol yn Mhenmachno ddeugain mlynedd yn ol." Ysgrifena fel y canlyn:
WEDI clywed gan y Parch. Daniel Jones, Llanllechid, y modd y torodd yr adfywiad grymus hwn allan pan yn pregethu yn Mhenmachno, yn 1818, a chlywed gan amryw eraill o bregethwyr y Methodistiaid Calfinaidd a fyddai wedi bod yno yn pregethu, am yr effeithiau rhyfe idol a fyddai y pregethau yn ei gael ar y gwrandawyr, tueddwyd fi i ymweled â pherthynasau yn Nghapel Garmon fel y gallwn fyned gyda'r pregethwr a fyddai yn y daith y Sabboth canlynol i Benmachno. Y pregethwr oedd yn y daith y Sabboth hwnw ydoedd y diweddar Mr. Enoch Evans, o'r Bala, yr hwn a bregethodd y boreu yn Nghapel Garmon, yn Mhenmachno am ddau, ac yn yr Yspytty am chwech. Gofynwyd i mi ddechreu yr oedfa yn Mhenmachno; ac nid oedd yn anhawdd, canys yr oedd yno rhyw sugndyniad rhyfedd yn y gynulleidfa; ond yr oeddynt yn hynod ddwys a dystaw o'r dechreu. Yr oeddynt wedi dweyd wrth E. Evans cyn i ni gychwyn i'r capel os byddai iddynt dori allan i orfoleddu cyn diwedd y bregeth, am iddo droi i'r ffenestr i bregethu i'r rhai a fyddai wedi myned allan i wrandaw.
Cymerodd E. E. ei destyn yn Matth. vii. 24-27. Dechreuai yn bwyllog ac arafaidd gan esbonio ac agor ychydig ar ranau blaenorol y bennod, a sylwi yn fwyaf neillduol ar y porth cyfyng. Yn mhlith pethau eraill crybwyllai am y gwr ieuanc a ddaethai at yr Arglwydd Iesu i ofyn pa beth oedd raid iddo wneuthur i etifeddu bywyd tragwyddol, a'r ateb a roddasai yr Arglwydd Iesu iddo, ond fod y porth yn rhy gyfyng iddo, a'i fod wedi myned ymaith yn athrist. Ond dywedai fod genym hanes am rai pechaduriaid mawrion yn dyfod at y porth ac yn myned trwodd, megys Ceidwad y Carchar, wedi gofyn beth i wneud i fod yn gadwedig, a dywedyd o'r Apostol wrtho, ‘Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist a chadwedig fyddi, ti a'th deulu' -efe a gredodd, a dacw ef drwodd. Felly tithau, bechadur, er amled dy bechodau, ac er adgased dy gamweddau, os cei di y fraint o gredu yn Mab Duw, CADWEDIG A FYDDI. Yr oeddynt hyd yn hyn yn gwrando yn ddifrifol a dwys-ddyfal dros ben; ond gyda bod y gair 'Cadwedig a fyddi' dros enau y pregethwr, dyna floedd fawr gan luaws o'r gwrandawyr megys ar darawiad amrant nes synu y pregethwr, ac iddo droi ataf a gofyn yn ddifrifol iawn, 'Beth a wnaf yrwan, dywedwch?' Dywedais inau wrtho mai troi i'r ffenestr, megys ag y dywedwyd wrtho cyn myned i'r capel. Felly y gwnaeth, gan ddisgyn ar ei destyn yn uniongyrchol, yn gyson, ac effeithiol, i'r rhai a ddaethai allan, o swn y gorfoledd, i wrando; ond yr wyf yn meddwl iddi dori oddiallan drachefn cyn diwedd yr oedfa. Yr oedd Duw yn ddiau yn y lle hwn. Cefais alwad i ddyfod i aros am rai wythnosau i'r ardal hon yn mhen tua mis ar ol hyn, pan oedd yr adfywiad yn ei lawn nerth, pryd y gwelais y dylanwadau mwyaf grymus ac effeithiol yn disgyn ar y gwrandawyr, fel y gwelais amryw wrth geisio ymatal rhag llefain allan yn syrthio i'r llawr ar unwaith megys yn feirw; eraill yn cael eu llenwi â gorfoledd yr iachawdwriaeth nes y byddai sain cân a moliant yn dadseinio y pentref. Yn wir, yr oedd yn fath o nefoedd ar y ddaear i dreulio ychydig wythnosau yn eu mysg, pan yn tynu dwfr mewn llawenydd o ffynonau iachawdwriaeth. Y noswaith cyn fy ymadawiad o'r ardal, cadwasant gyfarfod gweddi ar yr achlysur, yr hwn nad annghofir amser maith. 'Rhoddaist lawenydd yn ein calon mwy na'r amser yr amlhaodd eu hŷd a'u gwin hwynt.' Ar yr achlysur myfi a gyfansoddais y penillion canlynol:—
Wrth fyned trwy'r anialwch, ar fy nhaith, &c.,
Ac ymdaith mewn diffaethwch, ar fy nhaith,
Ac yfed dyfroedd Mara
Mewn manau ar fy ngyrfa,
Ces ffynon Elim yma, ar fy nhaith, &c.,
A ffrwythlon goed afalau, ar fy nhaith.
Ces wledd o basgedigion, ar fy nhaith, &c.,
A gwin y gwaredigion, ar fy nhaith:
Y bwrdd sydd wedi ei hulio,
A minau'n cael bod wrtho,
Yn nhŷ y Brenin Seilo, ar fy nhaith, &c.,
Yn gwledda gyda'i eiddo, ar fy nhaith.
Rhaid gadael Elim hyfryd, ar fy nhaith, &c.,
Ei choed a'i dyfroedd hefyd, ar fy nhaith:
'Rwy'n awr ar dori'n nghalon,
Wrth adael fy nghyfeillion;
Ond gwneled Duw fi'n foddlon, ar fy nhaith, &c.,
Mae'r Iesu i mi'n d digon, ar fy nhaith.
Os rhaid o Elim gychwyn, ar fy nhaith, &c.,
Duw Israel ddelo i'm dilyn, ar fy nhaith:
Ei Ysbryd yn Arweinydd
Ac hefyd yn Ddyddanydd,
I'm cynal yn mhob tywydd, ar fy nhaith, &c.,
A rhoed im' ganiad newydd, ar fy nhaith.
Diau fod yr adroddiad syml uchod yn ddangosiad cywir o agwedd grefyddol y gymydogaeth y pryd. hwnw, ac o effeithiau yr adfywiad grymus. Cafodd yr achos gwanaidd yn Mhenmachno ei anadl ato, ac enillodd lawer o nerth trwyddo. Treiddiai Yspryd y peth byw trwy yr ardaloedd, a delid pechaduriaid wrth y canoedd, a thoddai ymaith y difaterwch a fu yn blwm wrth odreu yr eglwysi am lawer o flynyddoedd; ac yr oedd y tân sanctaidd yn cyneu yn gryf ar wahanol aelwydydd y cymydogaethau, a " Phob teulu wrtho ei hun" yn mwynhau y gwres. Ac yr oedd y teulu ag yr oedd y bachgen dwy flwydd oed ynddo wedi profi y dylanwad, a chafodd yr effeithiau hyny eu defnyddio, gan y tad a'r fam, yn nerth ac yn gymhwysder i feithrin eu hunig blentyn yn "addysg ac yn athrawiaeth yr Arglwydd." Ac er nad ydoedd ef ei hun mewn oedran i gofio y diwygiad nerthol hwnw, bu yn fantais fawr iddo, yn nhynerwch ei flynyddoedd cyntaf, i gael ei ddwyn i fynu mewn ardal a brofodd ei ddylanwad mor rymus, ac mewn teulu a drwythwyd mor llwyr ganddo. Yn y gwres hwnw, dysgodd ei fam grefydd gartref i Dafydd bach, ac y mae yn ddiau fod y ddysgeidiaeth, o dan y fath amgylchiadau, yn un effeithiol iawn. Cyflwynwyd ef i'r Arglwydd o'i febyd, megys y cyflwynwyd Samuel gan Hannah. Wrth adgofio am ei fam, yn mhen blynyddoedd lawer, dywedai:—"Crefydd oedd ei phrif beth hi, a'm dwyn inau i fynu yn fachgen crefyddol oedd ei phrif wasanaeth; ond nid wyf yn meddwl iddi amcanu i mi fod yn bregethwr, er fod ganddi syniadau uchel iawn am bregethwyr." Y mae yn amlwg ei bod, er hyny, yn anymwybodol iddi ei hun, yn ei barotoi i waith mawr dros ei Arglwydd. Arferid ef i ofyn bendith ar y bwyd, ac hefyd i gymeryd rhan yn y ddyledswydd deuluaidd, er cyn iddo gofio hyny; ac yr oedd y gofal a ddangosid ganddo am y dyledswyddau, yn ei deulu ei hun, ar hyd ei oes, yn dangos yr afael gref a gawsant ar ei feddwl. Nid ymadawodd â chyfraith ei fam tra y bu byw.
Y mae Cymru, fel pob gwlad, yn fwy dyledus am ei dynion defnyddiol i famau nag i bob dylanwad daearol arall yn nghyd. Pe y dilynid cwrs yr afonydd mwyaf i'w cychwyniad yr afonydd ag y mae prydferthwch a ffrwythlondeb ein gwlad, mewn ystyr ysprydol, yn dibynu arnynt, fe geid o hyd i'w tarddiad mewn llanerch unig a thawel o olwg y byd fel hyn yn mhellach yn ol na dylanwad athrofa—yn nghynt nag addysg yr un ysgol elfenol—yn nirgelion dystaw yr aelwyd a sancteiddir gan fam yn ofni yr Arglwydd yn fawr. Y mae dylanwad rhieni ar gymeriad plentyn y nesaf mewn pwysigrwydd ddylanwad yr Yspryd Glân ei hun. Iddynt hwy yr ymddiriedir ef gyntaf, yn yr adeg fwyaf tyner ar ei fywyd yr adeg y gwneir argraffiadau dyfnion ac annileadwy ar ei feddwl, a thrwyddynt hwy y ffurfir ei syniadau cyntaf. Ei gartref ydyw yr ysgol, lle y derbynia yr addysg fwyaf effeithiol; a'r deml, lle y cyflwyna yr addoliad mwyaf syml a mwyaf pur.
Diau fod gan y golygfeydd yr agorodd ei lygaid arnynt gyntaf ddylanwad mawr hefyd yn meithriniad ei ddawn. Y mae y fangre lle y ganwyd ac y magwyd ef yn meddu cyfuniad o'r rhamantus a'r prydferth, y gwyllt a'r swynol. Y tu cefn i'r tŷ y mae llechweddau ysgythrog—natur yn ei gwylltineb cynhenid heb ond ychydig iawn o ôl ymyriad llaw dyn; tra i lawr o flaen y tŷ y mae dolydd gwastad teg, a'r Fachno loyw risialaidd yn ymlusgo yn dawel wrth ei phwys ar hydddynt; ac, os nad ydym yn camsynied, yr oedd cyfuniad y ddwy olygfa wedi gadael eu hargraph ar ddawn y Parch. David Davies mewn modd amlwg.
PEN. II.—Ymddadblygiad.
Cyfnod yr argraphiadau.—Prinder ysgolion dyddiol.—Yr ysgol gyntaf yr anfonwyd ef iddi.—Y teulu yn symud i'r Waen, gerllaw Rhiwabon, ac yn dychwelyd drachefn.—Yn yr ysgol ysgol yn Llanrwst. Ei awydd am ddarllen.—Y llyfrau cyntaf.—Ei gariad at y Beibl. —Ei duedd at ganu. John Ellis, yr athraw cerddorol.—Ei dderbyn yn gyflawn aelod.—Sais yn areithio yn Mhenmachno ac yntau yn cyfieithu.—Ei ddewis yn flaenor.—Awydd pregethu.—Diwygiad crefyddol.—Cymeryd rhan yn y Cyfarfodydd Gweddiau. —Yn pregethu i'w gyfoedion.—Ceidwad yr athrawiaeth. Mewn tywyllwch a phryder yn ei ymchwiliad am y gwirionedd.—Ysbryd dadleuol y cyfnod hwnw. Yn cyrhaedd y làn. Ei barch i enwadau eraill.
GELLIR galw y cyfnod cyntaf yn hanes pob dyn yn gyfnod yr argraphiadau, ac y mae yn gyfnod pwysig iawn y cyfnod pan y mae yn bod megys yn ewyllys ei rieni, ac heb ddechreu arfer ei ewyllys ei hun mewn gweithrediad ag y mae yn gyfrifol am dano. Nid oes llinell amlwg rhwng y ddau gyfnod wedi ei thynu; ac nis gellir ateb y cwestiwn pa bryd y mae y plentyn yn croesi trosodd o'r naill gyfnod i'r llall; ond y mae yn amlwg fod gan y cyfnod cyntaf y ceir ef ynddo ddylanwad mawr ar ei gymeriad ef yn holl gyfnodau ei oes. Y mae y cyfnod a dreulir ganddo o wydd y byd, megys, yn gorwedd o dan ac yn sylfaen i'w gymeriad cyhoeddus. O'r golwg y mae gwir hanes dyn; ac y mae y gweithredoedd mwyaf cyhoeddus gerbron y byd, yn esboniad ar y dylanwadau dystaw a fu yn gweithio allan o olwg y byd a'r dylanwadau nad ydyw y byd yn gofalu fawr am danynt, nac yn rhoddi pwys priodol arnynt. Nis gellir cael Moses i arwain y genedl, ac i gyflawni gorchestion nad ellir eu cuddio yn hanes y byd, heb ddylanwad dystaw cartref sanctaidd—anialwch Midian, a gweledigaeth y berth; a hon yw y bennod bwysicaf yn hanes pob dyn. Ond y mae yn haws dilyn y dyn yn ei yrfa gyhoeddus. Pan y mae y dderwen yn y fesen yn dechreu ymddatod yn y ddaear, a'i gwraidd yn dechreu ymaflyd yn y llanerch sydd yn sail i'w thŵf, ac yn faeth i'w chadernid, nid ydyw y gweithrediadau pwysig, sydd yn brophwydoliaethau i'w holl hanes, yn wybyddus i'r rhai sydd yn ymdaith y llwybr gerllaw iddi; ond pan y dechreua y blagur ddyfod i'r golwg y mae yn gyfleus i'w wylio, ac y mae yn rhaid aros blynyddoedd cyn y bydd y dderwen dalgref, dewfrig, yn tynu sylw pawb; ond y cyfnod disylw a dystaw cyntaf ydyw cartref y gallu a fu yn penderfynu ei thynged yn mlynyddoedd cyhoeddus ei nerth. Nid ydyw'r cyfnod y dechreuodd gwrthrych y Cofiant ddyfod i'r golwg yn meddu lluaws o amgylchiadau oedd yn synu pobl; ac eto, yn mlynyddoedd cyntaf ei oes, yr oedd rhai pethau yn ymddangos oeddynt yn peri i'r rhai craffus ofyn—" Beth fydd y bachgenyn hwn?" Nid oedd ysgolion dyddiol effeithiol o fewn cyrhaedd i'w roddi ynddynt; ac nid oedd amgylchiadau ei rieni yn caniatau iddynt fyned i draul fawr gyda'i fanteision addysgawl; ond bu ei dad a'i fam yn athrawon gofalus iddo yn nghyfnod pwysicaf ei oes.
Yn mhlith yr ychydig sylwadau a ysgrifenodd, ar gais cyfeillion, am dano ei hun, pan yn cyfeirio at y cyfnod hwn, ysgrifena fel y canlyn : — "Yr oedd fy nhad a fy mam yn selog iawn am fy nysgu, fel pan aethum i'r ysgol gyntaf yr oeddwn wedi dysgu darllen Cymraeg a Saesneg i raddau lled helacth.”
Yr ysgol gyntaf yr anfonwyd ef iddi ydoedd ysgol a gynelid ar y pryd yn yr ardal, gan un o'r enw Harri Ellis. Y mae'n sicr nad oedd yr athraw hwnw, mwy nag athrawon gwledig y cyfnod, wedi ei ddysgyblu ar gyfer ei waith mewn un coleg athrawol, ac nad oedd y Llywodraeth yn ei gydnabod mewn un ystyr; ac nid oedd y swyddog gorfodol, sydd yn gymaint o ddychryn i blant a ewyllysiant fwynhau eu rhyddid yn y dyddiau hyn, wedi gwneud ei ymddangosiad; ac efallai nad oedd rhieni Dafydd bach, gan faint eu gofal am dano, yn awyddus i'w ollwng o derfynau eu gwyliadwriaeth bersonol yn rhy fynych am amser hir.
Am nad oedd y tyddyn bychan y preswylient arno yn cynyrchu digon at gynaliaeth y teulu, byddai ei dad ar brydiau yn gwneud ffyrdd; a phan oedd y ffordd fawr o Gaergybi i Lundain yn cael ei gwneud, cymerodd yntau ran fechan ohoni i'w gweithio yn agos i Riwabon. Symudodd y teulu oherwydd hyny i'r Waen (Chirk). Yr oedd ef ar y pryd tua saith mlwydd oed. Buont yn cyfaneddu yno am flwyddyn, pryd y dychwelasant i Benmachno drachefn. Yn y gwanwyn cyntaf ar ol eu dychweliad, gosodwyd y bachgen i gynorthwyo gyda phlanu coed, tra nad ydoedd yn llawn naw mlwydd oed. Ni a gawn ei fod yn dilyn yr un gwaith bob gwanwyn yn y blynyddoedd dilynol, gan enill ychydig trwy ei lafur; ond gwariai yr hyn a enillai, wedi i'r tymhorau fyned heibio, am ysgol ac am lyfrau.
Pan yr oedd o dair ar ddeg i bedair ar ddeg oed, bu o dan addysg athraw o'r enw Robert Jones, yr hwn a gyfaneddai yn y tolldy, a'r hwn a ystyrid yn ysgolhaig gwell na'r cyffedin o gryn lawer. A phan yr oedd o bymtheg i ddwy ar bymtheg bu am beth amser yn "Ysgol Râd," Llanrwst—yr ysgol y bu I. Glan Geirionydd ynddi rai blynyddoedd cyn hyny, ac amryw o wŷr enwog ar ol hyny, a'r ysgol y canai Ieuan mor deimladwy wrth adgofio am dani
Pa le, pa fodd mae heddyw
Y lluaws yma fu
'N cydchwareu a chyd—ddysgu
A chydymgomio'n gu?
Mae rhai mewn pridd yn huno,
A'r lleill ar led y byd,
Nid oes un gloch a ddichon
Eu galw heddyw 'nghyd.
Yn y blynyddoedd hyn yr oedd ei awch am ddarllen yn fawr, ond nid oedd y cyfleusderau a gaffai i dori ei syched yn hyn ond prinion iawn. Nid oedd yn ei gartref ar y pryd ond ychydig o lyfrau, ond gwnaeth y defnydd goreu o'r ychydig hyny. Gwneid y llyfrgell i fynu o Eiriadur ac Hyfforddwr Charles; Canwyll y Cymry Ficer Prichard; a Chatecism Griffith Jones, Llanddowror. Bwytaodd y llyfrau hyn gyda blas. Trysorodd ddarnau helaeth ohonynt yn ei gof, ac yr oedd ei gydnabyddiaeth â hwynt a'i hoffder ohonynt yn mlynyddoedd olaf ei oes yn profi iddynt fod yn gymdeithion agos a ffyddlon ganddo yn mlynyddoedd ei febyd a'i ieuenctyd. Yr oedd gan y teulu hefyd Feibl yn cynwys yr Apocrypha, a bu historiau yr Apocrypha yn foddion llawer o ddifyrwch iddo.
Ymgydnabyddodd yn foreu â'i Feibl, a daeth mor hoff ohono fel y penderfynodd, cyn bod yn ddeuddeng mlwydd oed, am gymeryd Beibl gydag ef i bob man, a glynodd yn ffyddlon wrth y cyfamod hwnw tros ei holl oes; a'i brofiad yn niwedd ei yrfa ydoedd, “Bu hyny o fendith fawr i mi." Ni welid ef byth heb Feibl bychan yn ei logell.
Dysgodd ei dad ef i ymarfer â gwneud rhywbeth yngyhoeddus yn y capel yn foreu iawn. Gosodai ef ar ben y fainc i roddi penill i'w ganu, neu i adrodd pennod; ac, yn nglŷn â hyn, fe adroddir un tro hynod am dano. Fe gynelid cymanfa flynyddol yn Llanrwst y pryd hwnw, a chyfarfod tra phwysig i'r holl ardaloedd ydoedd. Aeth ef yno un tro gyda'i dad, ac mewn eisteddle ar fin y gallery, cyn dechreu y gwasanaeth, pan oedd y capel yn orlawn o bobl, cododd ar ei draed a rhoddodd benill allan, a dechreuodd ei ganu. Yr oedd y bachgen ieuanc a'r gwallt du, cyrliog, a'r llais uchel a swynol, wedi synu yr holl gynulleidfa, ac am hyny yr oedd yr holl siarad i ddiwedd y gymanfa hono, ac ar ol iddi fyned heibio; a chefir byth, gan y rhai oedd yn y cyfarfod, am yr effeithiau oedd yn canlyn gwasanaeth y bachgen. Ymledodd y son am dano trwy yr ardaloedd, a holid llawer yn ei gylch, a disgwylid yn awyddus i glywed ei fod yn dechreu pregethu ; ac ar ol iddo ddechreu, fe'i hadnabyddid yn nglŷn â'r hyn a wnaed ganddo yn Nghymdeithasfa Llanrwst.
Yr oedd tuedd gref ynddo at ganu, a phan yr oedd ef yn blentyn ieuanc iawn, daeth yr hen athraw cerddorol, John Ellis o Lanrwst, i Benmachno i ddysgu cerddoriaeth. Byddai yn ymweled â'r gwahanol gymydogaethau ar gylch-yn Mhenmachno am fis, Yspytty am fis, a Ffestiniog am fis-a diamheu i'w lafur fod o les dirfawr i ganiadaeth y cysegr yn y lleoedd hyn. Yr oedd y dynion a fu o dan ei addysg nid yn unig yn gerddorion lled wych, ond meddianid hwy gan ysbryd cerddorol brwd. Ond ni chafodd y gŵr da hwn gyflawni ei genadaeth heb gyfarfod âg erledigaeth danllyd. Cyfododd amryw yn ei erbyn yn Yspytty a Phenmachno. Nid oedd dysgu nodau cerdd, yn eu tyb hwy, yn beth crefyddol, a dywedid ganddynt hefyd fod ysgafnder a llygredigaeth yn cael eu cynyrchu yn y dosbarthiadau oedd o dan ei ofal Penderfynwyd rhoddi atalfa ar y gwaith yn yr Yspytty, a hysbyswyd y penderfyniad i'r athraw a'r dysgyblion. Erfyniai yr athraw a'r dysgyblion am gael un cyfarfod wedi hyny, i ganu yn iach i'w gilydd. Caniatawyd y cais hwnw, a daeth y noson; a phenderfynodd rhai o'r gwŷr da a wrthwynebent fyned yno, a llechu mewn rhyw gongl, er mwyn cael y profion o'r hyn y cyhuddent yr athraw, ac i dawelu eu cydwybodau eu bod yn gwasanaethu yr Arglwydd wrth ei atal. Fodd bynag, yn ystod y cyfarfod aed i ganu yr anthem, o waith yr athraw, "Mewn llawenydd y tynwch ddwfr o ffynonau iachawdwriaeth." Daeth ysbryd y peth byw i'r canu, ac ni fedrent ymatal. Meddianwyd pawb oedd yn y lle ganddo, a chenid y geiriau "Mewn llawenydd y tynwch ddwfr" drosodd a throsodd drachefn, hyd nes yr oedd yn amlwg fod y dwfr yn cael ei dynu mewn llawenydd ganddynt. Daeth y gwrthwynebwyr allan o'u llochesau gan rym y canu, a daethant yn mlaen i'r canol yn ddynion wedi eu gorchfygu; ac os na ddysgwyd iddynt ganu, fe'u gorfodwyd i dori allan mewn mawl a dioich. Daliwyd hwy gan ysbryd prophwydo fel cenadon Saul gynt. Ni chlybuwyd son ar ol hyny am atal y cyfarfodydd.
Yn y dosbarthiadau hyn yn Mhenmachno, yr oedd y bachgen o'r Gorlan yn ymroddi yn selog i'r gwaith. Cyfarfyddai hefyd nifer o'r dysgyblion yn ei gartref yn fynych ar nawn Sabboth, a dyna lle y byddai canu hyd nes adseinio y fro, ac yr edrychid ar y tŷ fel cartref y canu yn y gymydogaeth. Aeth ef yn mlaen am rai blynyddoedd gyda dysgu cerddoriaeth trwy gymhorth y Caniedydd Crefyddol, gan W. Owen (Gwilym Glan Hafren), a Gramadeg Cerddorol Mills o Lanidloes. Cenais," meddai ef ei hun, "gymaint ag odid neb yn y byd hyd nes bod yn ddeunaw mlwydd oed."
Derbyniwyd ef yn gyflawn aelod o'r eglwys pan yr oedd yn bedair ar ddeg mlwydd oed. Byddai yn gweddio yn nghyfarfodydd y plant cyn hyny, ac yr oedd wedi cymeryd rhan rai gweithiau yn y cyfarfodydd gweddiau cyhoeddus; a chymerai y blaen er's rhai blynyddoedd mewn ateb yn yr ysgol pan yr holwyddorid hi, a dygai fawr sel dros y cyfarfodydd ysgolion. Cymerid gofal y cyfarfodydd ysgolion yn fynych y pryd hwnw gan y Parch. Robert Evans o'r Roe Wen, a phrin y meddylid am gynal cyfarfodydd holwyddori o fewn y dosbarth am flynyddoedd, heb ofyn am ei wasanaeth, a holwr caled iawn yr ystyrid ef; a phan y byddai yn tywyllu ar y gynulleidfa gyda'r ateb, byddai rhai o'r hen bobl yn apelio at Dafydd ieuanc am waredigaeth. Yr oedd yn athraw yn yr ysgol yn yr oedran cynarol hwn, a byddai ei ddosbarth yn cael ei ystyried ar y blaen bron bob amser.
Y noswaith y derbyniwyd ef at Fwrdd yr Arglwydd, yr oedd y Parch. Edward Rees, Ffestiniog-yr hwn a symudodd i'r America-yn bresenol, ac yn arwain y cyfarfod. Buasai yn hyfryd genym gael ychydig o hanes y cyfarfod hwnw. Beth oedd y cwestiynau a ofynid gan y pregethwr, a beth oedd yr atebion a roddid ganddo yntau, a chael y cynghorion a roed iddo gan y frawdoliaeth; ond y mae yn rhaid ymfoddloni hebddynt. Yr oedd geneth ieuanc yn cael ei derbyn gydag ef y noswaith hono, ac ymddengys mai dyma y ddau gyntaf a dderbyniwyd o hâd yr eglwys yn mhlith y Methodistiaid Calfinaidd yn Mhenmachno. Y mae yn amlwg nad oedd gofal priodol yn cael ei gymeryd am y plant, ond gadewid iddynt adael yr eglwys, ac yr oeddynt oll, oddieithr y ddau hyn, wedi eu colli y pryd hwn, ond glynodd ef. Ymddengys nad oedd ei deimladau crefyddol yntau mor wresog yr adeg hono ag y buont ychydig amser cyn hyny. Wrth gyfeirio at yr amgylchiad, fel hyn y dywedai :-" Buasai yn well i mi fy mod wedi fy nerbyn flwyddyn yn gynt, oblegyd yr oedd fy meddwl yn fwy addfed i hyny. Yr oeddwn wedi gweled rhyw bethau mewn proffeswyr crefydd oedd wedi oeri fy meddwl a chaledu fy nghalon erbyn bod yn bedair ar ddeg mlwydd oed fel nad oeddwn yn teimlo nemawr o awydd cael fy nerbyn." Diamheu fod cofio am ei brofiad ei hun yr adeg hono wedi bod yn foddion i'w wneud ar hyd ei oes yn selog am dderbyn plant yn foreu at Fwrdd yr Arglwydd, os gwelid ynddynt raddau o addfedrwydd mewn gwybodaeth a phrofiad.
Rywbryd yn y cyfnod hwn, ymwelodd rhyw Sais â Phenmachno i areithio ar Gaethwasiaeth. Desgrifiai y driniaeth a gai y caethion, ac yr oedd ganddo yn y pwlpud gydag ef chwip a fflangell, y rhai y dywedai a ddefnyddid gan eu meistriaid creulawn atynt. Nid oedd un o bob cant yn y gynulleidfa a allasai wneud dim o'r araith am ei bod mewn iaith estronol iddynt, a bu raid ei gael ef ar risiau y pwlpud i gyfieithu i'r gynulleidfa. Yr oedd y wybodaeth a enillodd o'r Saesneg yn y Waen pan y bu yno gyda'i rieni, fel y sylwyd, wedi bod yn fantais iddo; ac hefyd yr oedd yn gorfod dehongli rhwng goruchwyliwr Mr. Bankes -perchenog yr etifeddiaeth yr oedd ei gartref arnia'r gweithwyr. Yr oedd ei dad erbyn hyn yn fath o is-oruchwyliwr ar ran o'r etifeddiaeth, a'r sefyllfa y daeth yntau ei hun iddi yn mhen rhai blynyddoedd. Coleddai Mr. Martin, y prif oruchwyliwr, feddyliau mawr am y bachgen, ac yr oedd ei sirioldeb a'i barodrwydd yn ei synu, a chymerai ef i gyflawni swyddau bychain iddo pan ddeuai i'r gymydogaeth.
Cyn bod yn llawn dwy flwydd ar bymtheg oed, dewiswyd ef yn flaenor yn eglwys Penmachno. Ac yn fuan wedi hyny daeth yr awydd am bregethu yn gryf arno. Pan yn cyfeirio at hyn, dyma fel y dywedai ef ei hun:-" Tua dwy ar bymtheg oed daeth y meddwl am bregethu. Yr oedd rhywbeth fel ysfa pregethu arnaf bob amser-nis gwn pa enw arall i'w roddi arno -rhyw ysfa yn peri i mi bregethu heb yn wybod i mi fy hun, yn y coed ac yn y meusydd."
Tua'r pryd hwn ymwelodd diwygiad crefyddol grymus â'r ardal. Ychwanegwyd lluaws mawr at yr eglwys. Deuai y plant a gollwyd o'r eglwys yn ol gan waeddi fel rhai ar ddarfod am danynt; ac wrth sylwi arnynt o dan deimladau mor ddwysion, teimlai awydd cryf iawn ei hunan i brofi yr un peth. “Buasai yn dda genyf finau," meddai, "orfod gwaeddi allan fel hwythau, ond ni chefais ddim i beri hyny, ac nid oeddwn inau am wneud heb i mi orfod gwneud. Yr un pryd cefais lawer o fendith yn y diwygiad hwnw." Ymddengys i'r adfywiad hwn ymledu yn lled gyffredinol yn Lleyn ac yn Eifionydd, a disgynodd cawod drom ar rai ardaloedd yn Arfon hefyd. Fel y sylwyd o'r blaen, daeth i'r golwg yn gyntaf oll fel un yn gallu canu yn swynol. Amlygodd ei hun wedi hyny yn ei weddiau gafaelgar a thaerion. Pan y dechreuai gymeryd rhan gyhoeddus yn y cyfarfodydd gweddiau, mawr a fyddai yr awydd am ei glywed, a rhyfedd a fyddai y dylanwad ar brydiau ar y gynulleidfa. Bu y cyfarfodydd gweddiau am gyfnod oherwydd hyn yn boblogaidd iawn. Deuai y bobl iddynt yn y gobaith o'i glywed ef yn arwain defosiwn y gynulleidfa. Y mae yn amlwg ei fod yn arfer gweddio llawer ar ei ben ei hun. Yn ei adgosion, pan yn cyfeirio at y pryd hwn yn ei hanes, dywed :"Arferais weddio yn ddirgel er cyn cof i mi-yn nghilfachau y creigiau a'r nentydd ac yn nghysgod y coed. Y mae cydnabyddiaeth rhyngof a Choed y Ffynon a'r Bennar"-dwy ffarm y bu cysylltiad arbenig rhyngddo ef a hwynt ar ol hyn, ac y mae yr holl lechweddau sydd y tu ol i'r tŷ y magwyd ef yn cael eu cynwys yn y ddwy-" fel manau lle y bum yn gweddio, ac am hyny y mae fy nghof yn benaf yn eu cylch-manau lle y bum ar fy ngliniau yn plygu ger bron y Goruchaf. Mae y Graienyn, Gallt Coed y Ffynon, ac yn wir holl dir Coed y Ffynon, a llawer o dir y Pandy, a choed, a nentydd, a gelltydd y Bennar wedi eu sancteiddio yn fy meddwl i am eu bod yn fanau lle y bum yn dra ieuanc yn ceisio neshau at Dduw."
Bu yn pregethu llawer hefyd i'r coed a'r creigiau. Ymddengys y byddai ar brydiau nifer o fechgyn yn cael eu gwahodd i rai o'r oedfeuon plentynaidd hyn, ac ystyriai y gwrandawyr fod y gwahoddiad hwn gan y bachgen-bregethwr yn fraint bwysig ac yn anrhydedd mawr. Yn mhlith yr etholedigion yr oedd un na feiddid myned yn mlaen hebddo. Ystyrid hwnw y duwinydd mwyaf yn mhlith plant y gymydogaeth, a phe buasai rhoddi dwy lythyren i addurno ei enw yn hawlfraint gan y plant, cawsai hwn hwynt yn rhwydd a didramgwydd ganddynt. Edrychid arno fel ceidwad yr athrawiaeth, ac ni feiddiai y pregethwr draddodi ei bregeth heb iddo ef fel oracl fod yno, ac ni feiddiai y gwrandawyr dderbyn yr hyn a draddodid heb gael ei gymeradwyaeth ef yn gyntaf. Ni fyddai y pregethwr plentynaidd byth yn ei ofni, ond gwahoddai ef i'r odfeuon fel pwnc o angenrheidrwydd. Yr oedd y bachgen hwn rai blynyddoedd yn hyn nag ef, ac edrychid arno ar hyd ei oes fel un cyfarwydd iawn yn yr Ysgrythyrau, ac yn llenwi y teitl o geidwad yr athrawiaeth; ac os canfyddai ogwydd i wyro oddiwrth yr hyn a farnai ef yn athrawiaeth iachus nid ymataliai rhag dwrdio yn dost. Nid allai oddef gweled pregethwr yn darllen ei bregeth nac yn dodi papyr o'i flaen ar y pwlpud. Cafodd gyfleusdra effeithiol i weinyddu cerydd trwm ar droseddwr felly unwaith. Cadwai dŷ'r capel ar y pryd, ac yr oedd gwr ieuanc yn traddodi ei bregeth gyntaf yn y capel hwnw rhyw noswaith. Ar ol i'r pregethwr ddechreu y gwasanaeth elai yntau yn mlaen i oleuo y canwyllau, a phan y daeth i ymyl y pwlpud gwelai ef wedi tynu y bregeth allan ac wedi ei dodi o'i flaen ac yn parotoi i'w darllen. Pan welodd hyny aeth ymaith heb roddi goleuni ar y pwlpud; ac am fod y pregethwr yn dibynu ar yr ysgrifen oedd ger ei fron, dybenodd mewn tywyllwch du cyn pen chwarter awr er mawr brofedigaeth iddo ef, ond er mawr foddhad i'w geryddwr. "Dyna brofi effeithiol arno," meddai, "a chan nad all fyned yn mlaen heb oleuni canwyll yn ei ymyl ni ddylai ddechreu." Cofiodd y pregethwr byth amy tro. Efallai fod yr un llymder yn perthyn iddo pan yn dilyn oedfeuon tymhor bachgendod gwrthrych ein Cofiant, ac iddo weinyddu ceryddon hefyd am wyriad mewn barn yn y bregeth neu gamymddygiad yn y pregethwr, ac iddo yntau dderbyn llawer o addysg a manteisio yn fawr ar y ddysgyblaeth.
Yn y blynyddoedd hyn, bu ei feddwl mewn ystorm enbyd, ac aeth trwy brofiad tanllyd gyda golwg ar y gwirionedd. O dan arweiniad yr ysbryd ymchwilgar oedd ynddo ac oherwydd y nwyfiant a'r asbri oedd yn ei feddwl, daeth i gyffyrddiad â gweithiau anffyddol. Darllenodd Paine, rhanau o Bolingbroke, Voltaire, a Hume; ac fel hyn y dywed ef ei hun am y canlyniadau :—" Bum o dan eu dylanwad am wythnosau mewn pryder a chyfyng—gyngor yn nghylch y gwir. Teimlwn fy mod yn gallu ateb lluaws o'u gwrthddadleuon i'r Ysgrythyrau ysbrydoledig, ond wedi myned dros y cwbl, hyd y gallwn wybod, cauais y llyfrau, y Beibl a'r cwbl, gan ymholi beth oedd wir. Ac wrth fyfyrio yr oeddwn yn gweled fy hun yn adyn unig a digymhorth iawn, yn ol syniadau yr anffyddwyr —yn unig yn nghanol y byd, am rhyw amser penodol, heb gyfaill, heb gynghorwr, ac heb arweinydd. Yr oedd fy nhad a fy mam genyf, ond tros ba hyd? A pha beth a allasent hwy wneud i mi, er gwneud eu goreu? Nis gallaswn fod heb gyfaill i'm cynorthwyo a'm dysgu, ac nid oedd un i'w gael. Yr oedd genyf ewythr ag y byddai pobl yn cyrchu ato am gynghor pan mewn amgylchiadau dyrys, ond beth a allasai hwnw ei wneud i mi yn y cyflwr yr oeddwn ynddo? Ie, beth a allasai ei wneud i'w blant ei hun? Ac yr oedd ef ei hunan yn cerdded ffordd digon helbulus a digysur, a pha fodd y gallasai fod yn gyfarwyddwr effeithiol i mi? Edrychwn ar y creaduriaid direswm yn mwynhau eu hunain yn dawel ar y borfa heb feddwl am ddim arall, ond nis gallaswn i berswadio fy meddwl i ymdawelu gyda phethau gweledig o'm hamgylch. Yn ngwyneb hyn, nid oeddwn yn gweled neb na dim yn ateb i'm hangen a'm heisiau ond Duw, yn ol y dadguddiad yn y Beibl—Un y gallwn neshau ato fel ei greadur ac yntau yn abl i'm harwain a'm dysgu. A phaham na allwn gymeryd gafael yn y cysur hwn i mi fy hun? Yr oedd yn union y peth yr oedd arnaf angen am dano, a gwelwn fod pobpeth arall o fewn y greadigaeth yn cael ei ddiwallu, a phaham na chawn inau ddiwallu fy angen, er ei fod yn fawr iawn? 'Aderyn y tô hefyd a gafodd dŷ a'r wenol nyth iddi, lle y gesyd ei chywion,' a chan fod y Duw mawr yn darpar tŷ i'r rhai hyny, yr oeddwn inau yn edrych ato am 'dy' ac am 'nŷth,' a'r tŷ yr oeddwn yn dyheu am dano ydoedd cynteddau ac allorau 'Arglwydd y lluoedd, fy Mrenin a'm Duw.' Nid oeddwn yn gweled yr anffyddwyr yn gwneud dim i mi ond tynu oddiwrthyf—cymeryd oddiarnaf; a theimlwn fy hun yn eu canol fel y dyn wedi syrthio yn mhlith lladron, a hwythau yn fy niosg, gan fy ngadael yn noeth ac yn fy nghlwyfau—wedi cymeryd pob defnydd cysur oddiarnaf a'm gadael yn dlawd a thruenus yn nghanol y greadigaeth fûd, ddifywyd. Ni welaf ond Duw y Beibl yn Ofalwr, yn Gyfaill, yn Amddiffynwr, yn Dad ac yn Waredwr i mi, ie, yn llon'd fy angen yn y byd hwn a'r hwn a fydd; gan hyny, cymeraf afael yn dyn yn y dystiolaeth hon."
Wedi penderfynu y cwestiynau hyn i'w foddlonrwydd ei hun, a chyrhaedd tawelwch o'r ystorm, bu ei feddwl mewn gradd o bryder drachefn gyda golwg ar gredoau y gwahanol enwadau crefyddol oedd o'i amgylch. Yr oedd y Wesleyaid yn y gymydogaeth yn lluosog ar y pryd, ac fel y dywed ef o "syniadau Arminaidd iawn," Dygid yn mlaen y dadleuon mwyaf gwresog rhyngddynt hwy a'r Methodistiaid Calfinaidd, a byddai poethder y frwydr ar rai adegau yn cyrhaedd mor uchel fel y byddai yn rhaid terfynu y ddadl gyda'r dyrnau. Nid y plant yn unig a elent i'r eithafion hyn, eithr gwyr cyfrifol yn fynych. Mae hanes am ddau o'r rhai mwyaf parchus gan y naill enwad a'r llall, y rhai a ystyrid yn golofnau yr athrawiaethau a gredid yn ddiamheu ganddynt, a'r rhai yr edrychid arnynt yn gadfridogion y byddinoedd oeddynt ar y maes yn barod i frwydr ar yr awgrym lleiaf, yn terfynu un ddadl yn y modd hwn. Dywedir i'r ddau hyn gyfarfod â'u gilydd un diwrnod mewn lle annghyfanedd, ac iddynt wrth gyfarch gyffwrdd eu gilydd yn y man tyneraf ar eu natur gyda phwnc o athrawiaeth, hyd nes y collasant bob llywodraeth ar eu tymherau. Yr oedd cymaint o wres yn meddianu y ddau hen sant fel yr arferasant eu tafodau gyda chryn lawer o ryddid, ac yn y diwedd yr aethpwyd i arfer y dyrnau a hyny i bwrpas hefyd, a bu y ddau yn dwyn yn eu cyrph nodau eu sel dros eu credoau, ac yn cario olion y frwydr am wythnosau. Bu hyn yn foddion i gywilyddio y ddau, a dofwyd cryn lawer ar y dilynwyr. Fel y gallesid tybio, yr oedd y dadleuon hyn yn dylanwadu yn fawr ar feddwl bywiog Dafydd ieuanc. Fel hyn y dywed ef am sefyllfa ei feddwl y pryd hwnw:—"Bum yn pryderu am y gwirionedd gyda golwg ar syniadau gwahaniaethol y Wesleyaid a'r Methodistiaid. A chan fy mod wedi cyrhaedd boddlonrwydd i mi fy hun fod y Beibl yn Air Duw a'i dystiolaeth yn ysbrydoledig ac yn anffaeledig, yna meddyliais am osod y gwahanol gredoau yn y glorian fel hyn—Bod yr athrawiaeth yr oedd y Beibl yn ei dysgu yn gorwedd yn esmwyth yn mynwes yr holl Feibl; a thybiwn pe buasai yr Arminiaid yn ysgrifenu y Beibl na buasent byth yn ysgrifenu rhyw ranau ohono, oblegyd yr oedd amryw adnodau yn hollol annghymeradwy ganddynt. Buasent yn gadael allan lawer o'r Epistol at y Rhufeiniaid, a'r Llythyr at yr Ephesiaid, a llawer o eiriau yr Arglwydd Iesu yn yr Efengyl yn ol Ioan. Nid oeddwn yn gweled unrhyw gredo yn gorwedd mor esmwyth yn mynwes yr holl Feibl a chredo y Calfiniaid, sef y rhai hyny ohonynt William Williams o Bantycelyn, Charles o'r Bala, a Thomas Jones o Ddinbych. Yr oeddwn, i ryw raddau, yn gydnabyddus â gweithiau y tri hyn er yn fachgen ieuanc iawn, ac yn meddwl y buasai y rhai hyn yn foddlawn i ysgrifenu pob adnod o'r Beibl, er heb weled eu cysondeb na gallu plymio eu dyfnderoedd. Felly y gwnaethum fy meddwl i fynu ar y pynciau hyn. Wedi hyny, daeth Oraclau Bywiol y Bedyddwyr i'm meddiant, a bum yn cydmaru hwn â'r cyfieithiad cyffredin; ac er fod ynddo lawer gwelliant o bosibl, eto yr oedd yn gwneud gormod mewn rhai cyfeiriadau nes eu gwneud yn waeth yn lle yn well. Ac wrth edrych arnynt yn bedyddio trwy suddo mewn dwfr yn yr afon, yr oeddwn yn ei weled yn beth anweddaidd ac annaturiol, a meddyliwn ynof fy hun na sefydlodd yr Arglwydd y fath ordinhad i'w eglwys, yn yr holl fyd. ac yn mhlith holl genedloedd y ddaear. Gwelwn hefyd nad oedd bendith ar hyny i'r Bedyddwyr eu hunain, oblegyd nid oeddynt yn well crefyddwyr nac yn fwy duwiol nag eraill. Nid oeddwn yn gweled dim daioni yn dilyn ar ol y cynhwrf a'r dadwrdd gyda'r trochi, ac heblaw hyny yr oedd yn anfantais amlwg i'r plant. Yr oedd plant y Bedyddwyr ar y pryd y rhai gwaethaf yn yr ardal, a'r teuluoedd, yn ol pob argoelion, y rhai mwyaf digrefydd. Nid oedd ond lle bychan i Air Duw a gweddi yn eu tai. Pan oeddwn tua phymtheng mlwydd oed, aethum i Siloam, Capel Garmon, i gyfarfod pregethu a gynelid gan yr Annibynwyr, a gadawodd y pregethau effeithiau daionus iawn ar fy meddwl. Y Parchn. William Rees, Dinbych, a David Price, Penybont Fawr, oedd yn gwasanaethu ynddo. Yr oeddwn yn gweled llawer o rinweddau yn perthyn i'r drefn Annibynol, ac yr oedd wrth fy modd mewn lluaws o bethau, ond deallwn fod eglwysi Siloam a Nebo y pryd hwnw yn cael eu hanrheithio gan ymrafaelion a chynhenau; ac er fod Annibyniaeth yn dda yn fy ngolwg, yr oeddwn yn gweled fod eisiau rhyw egwyddor arall i gadw trefn rhag i'r eglwysi fyned yn destyn cân y meddwon ac yn wawd yr ynfydion. Tueddwn felly at Annibyniaeth mewn rhan, ac at Henaduriaeth mewn rhan, er mwyn cael rhyddid mewn trefn. Y mae rhyddid mewn trefn yn dda, ond truenus a pheryglus ydyw rhyddid yr anialwch."
Dyna hanes cryno a chlir am y brwydrau celyd y bu ynddynt yn yr oedran cynar hwn ar ei oes, a'r argyhoeddiadau a enillwyd ganddo ynddynt. Yr oeddynt wedi costio llawer iddo ac wedi ymaflyd yn nyfnder ei ysbryd, ac oherwydd hyny nid oedd yn petruso dim gyda golwg ar roddi datganiad clir iddynt ar hyd ei oes. Byddai ei gyffes groyw o'i argyhoeddiadau yn y ffordd hon yn ei osod mewn perygl i bobl ei ystyried rai gweithiau yn gyfyng ei syniadau am rai enwadau, ac yn tueddu i erlid, ond pell hollol oddiwrth hyny ydoedd bob amser. Nid oedd neb a goleddai feddyliau uwch ar hyd ei oes am ddynion da pob enwad nag ef. Mawrhai bobpeth a ystyriai yn rhinweddau yn y gwahanol lwythau, ac yr oedd yn ddigon craff i weled lluaws o bethau canmoladwy yn mhob cyfundeb crefyddol. Elai i wrando pregethau yn nghyfarfodydd y gwahanol enwadau bob amser pan y byddai yn gyfleus, a gwnai ymdrech i gael y cyfleusdra hwnw, a mawr y mwynhad a gaffai trwy hyny. Bu am flynyddoedd olaf ei oes yn derbyn cyfnodolion Cymreig y Bedyddwyr, yr Annibynwyr, a'r Wesleyaid, a darllenai hwynt yn fanwl. Ac yr oedd parch aelodau o gyfundebau crefyddol eraill y rhai oeddynt yn fwyaf cydnabyddus âg ef yn fawr iawn iddo, ac yr oeddynt yn argyhoeddedig ei fod yn gyfaill cywir a gonest iddynt; ond yr oedd o natur mor dyner, aceto mor fywiog a pharod ci symudiadau, ac yn berffaith ddidwyll yn ei gyffes o'r argyhoeddiadau a feddianid ganddo, fel yr edrychid arno, gan y rhai mwyaf annghyfarwydd âg ef, yn rhy dueddol i lefaru yn arw am rai llwythau crefyddol yn ogystal ag am bersonau neillduol.
Yr oedd y cyfnod y cyfeirir ato yn y bennod hon yn dymhor tra dadleugar yn hanes Cymru grefyddol, yn enwedig rhwng Arminiaid a Chalfiniaid. Prin yr oedd un gymydogaeth fyw trwy y wlad i gyd yn rhydd oddiwrth ddylanwad y dòn gref. Saethai y pleidiau at eu gilydd fel gelynion tra yr oeddynt o dan orchudd y niwl; ond erbyn hyn y mae llawer o'r tawch wedi cilio, a'r byddinoedd yn canfod mai cyfeillion yn ymladd o dan faner yr un Arweinydd ydynt; ac er iddo ef gael ei eni, a threulio ei ddyddiau boreuaf, yn swn y frwydr fawr ac yn meddu natur fywiog ac o duedd barod i fentro brwydr—fel y march rhyfel a ddesgrifir yn Llyfr Job yn "diystyru arswyd ac ni ddychryna, ac ni ddychwel yn ei ol rhag y cleddyf. . . . Efe a ddywed yn mhlith yr udgyrn, Ha, ha; ac a arogla o bell ryfel, twrf tywysogion a'r bloeddio," eto nid oedd neb yn fwy siriol nag ef i groesawu baner heddwch rhwng y pleidiau rhyfelgar, ac nid yn unig hyny, ond cyfeillgarwch agos a chydweithrediad calonog; a chafodd fyw i wneud rhyw gymaint tuag at ddwyn hyny oddiamgylch ac i weled ei ddymuniadau i raddau helaeth wedi eu sylweddoli.
Pan yn ysgrifenu llythyr at gyfaill iddo yn y flwyddyn 1886, yn cynwys adgofion am achos crefydd yn Mhenmachno, dywedai fel hyn:——"Hyd y sylwais i, parti-sel a fu y peth mwyaf niweidiol i grefydd gyda'r Methodistiaid o bob peth, yn y blynyddoedd cyntaf wedi i'r Wesleyaidd dyfod i bregethu i'r ardal, ac am flynyddoedd wedi hyny. Tua dechreu y diwygiad dirwestol y diflanodd y teimlad ynfyd a digrefydd hwnw, ac wedi hyny y daeth llwyddiant mawr."
PEN. III.——Ymarfogi at waith.
Yn dechreu pregethu.—Dwyn ei achos i'r Cyfarfod Misol.—Y bregeth gyntaf. Ei daith Sabbothol gyntaf.—Caniatau iddo holl gylch y Cyfarfod Misol i bregethu.— Barn goruchwyliwr Mr. Bankes.—Barn ei fam.—Ei benderfyniad.—Syched am wybodaeth.—Ei ofid am na chawsai fanteision athrofaol.—Yn Mon.—Pregethu yn y tai a'r ysguboriau.—Traddodi pregeth Watson.—Cynghor John Gruffydd.—Testynau pregethau cyntaf ei oes.—Ei briodas.—Yn amaethwr.—Ei ordeiniad.—Ei awydd i ymryddhau oddiwrth ofalon bydol.—Taith yn Mon.—Oedfa fawr yn Methesda.—Cronfa Athrofa y Bala.—Ei gysondeb yn y cyfarfodydd wythnosol.—Galwad ffurfiol i'w bugeilio gan eglwysi Penmachno.—Ei ofal am blant yr eglwys.
Yn y flwyddyn 1834—cyn cyrhaedd ei lawn 19eg oed—dechreuodd bregethu yn rheolaidd. Yr oedd yr holl frawdoliaeth er's tro yn disgwyl yn awyddus iddo ymaflyd yn y gwaith; a phan yr aethpwyd i ofyn barn yr eglwys yn ei gylch, yr oedd yr unfrydedd llwyraf o'i blaid. Dygwyd yr achos i'r Cyfarfod Misol a gynelid yn Mai y flwyddyn hono. Y cenadwr dros eglwys Penmachno gyda'r gorchwyl hwn ydoedd yr hen flaenor Huw Rolant, a mawr oedd ei lawenydd o gael bod yn gyfrwng i ddwyn yno genadwri mor gysurus, a rhoddwyd iddi y derbyniad siriolaf gan yr holl frawdoliaeth.
Er iddo fod yn dweyd ychydig o sylwadau ar ranau o'r Ysgrythyr amryw o weithiau, cyfrifid ganddo ef iddo draddodi ei bregeth gyntaf ar nos Lun y Sulgwyn yn y flwyddyn 1834. Ei destyn y pryd hwnw ydoedd I Ioan i. 7. Methais a chael fawr o hanes yr oedfa hon, ond clywais gan un oedd yno fod y bregeth yn afaelgar, a'r cyfarfod â chryn lawer o lewyrch arno drwyddo.
Cafodd ei holi yn Nghyfarfod Misol Bettwsycoed yn Ngorphenaf y flwyddyn hono, ac yn Nghyfarfod Misol Llangwm yn yr Hydref canlynol, caniatawyd iddo gylch y sir i bregethu ynddo.
Y daith reolaidd gyntaf a wnaed ganddo ydoedd y Sabboth cyntaf yn Awst —Dolyddelen, 10; Capel Curig, 2; Bettwsycoed, 6. Yr oedd Hugh Davies y blaenor—yr hwn a symudodd i Wlad y Gorllewin—yn gydymaith iddo ar y daith hon, ac yn dechreu y gwahanol oedfeuon.
Fel hyn y dywed ef ei hun am y cyfnod hwn:—"Pan y daeth y son fy mod yn dechreu pregethu, yr oedd goruchwyliwr Mr. Bankes"—yr hwn yr oedd ef yn ei wasanaeth ar y pryd hwn—"yn fy erbyn yn gryf iawn, ac yn dweyd nas gallai ef byth wneud dyn ohonwyf, gan dybio y byddwn yn ymadael o'i wasanaeth ef ar unwaith. Dywedais inau wrtho nad oeddwn yn bwriadu ymadael âg ef a myned ymaith. A'r tro drachefn yr ymwelodd â'r gymydogaeth, yr oedd wedi cael cynyg i mi fyned yn glerigwr, gydag addewid am ddigon o arian a dillad i'm parotoi i fyned i Gaergrawnt, pan y byddwn yn alluog; a phan y byddai i mi orphen yno, yr oedd gan Mr. Bankes nawddogaeth amryw o eglwysi, ac y cawn y lle cyntaf a ddeuai yn rhydd. Diolchais yn fawr iddo am ei gynyg, thrwyddo ef i Mr. Bankes; ond os gwelai yn dda i mi gael aros fel yr oeddwn, y byddai yn llawer gwell genyf. Ac wedi myned adref, adroddais gynwys yr ymddyddan i fy mam. 'Fy machgen bach,' meddai, 'byddai yn well o lawer genyf dy weled yn ysgubwr simneiau.' Yr oedd fy mam wedi bod mewn gwasanaeth gyda pheriglor am saith mlynedd, ac yr oedd y fuchedd afreolus a phenrhydd a arweinid gan hwnw, heb na cherydd na dysgyblaeth, wedi gostwng ei syniadau yn fawr am y personiaid, ac hefyd am yr eglwys yr oeddynt yn nglŷn â hi. Nid oedd yn demtasiwn gref i minau ychwaith fyned i'r cyfeiriad hwnw. Yr oeddwn yn meddwl y gallwn gael hyny a fyddai arnaf ei eisieu o'r byd heb fyned lawer o'm ffordd i'w geisio."
Yr oedd yn sychedig iawn hefyd am addysg, ond yr oedd yn ormod o Ymneillduwr i werthu ei hunan er mwyn hyny. Yn y flwyddyn 1837—yn mhen tair blynedd ar ol iddo ef ddechreu pregethu—yr agorwyd Athrofa y Bala. Teimlai yntau yn dra awyddus i fyned yno; ond ni anogid ef gan neb, eithr yn hytrach beïd ef gan rai o'r hen frodyr yn Mhenmachno am feddwl ymadael â'r oruchwyliaeth oedd ganddo. Yr oedd wedi ei ddewis erbyn hyn yn fath o isoruchwyliwr ar etifeddiaeth fechan yn y gymydogaeth, yr hon swydd a lanwodd am flynyddoedd lawer gyda chymeradwyaeth mawr, gan gynyddu mewn dylanwad a pharch hyd yr adeg yr ymadawodd o'r ardal.
Gwariai y cyflog a gaffai yn llwyr wrth fyned i bregethu ac am lyfrau a dillad, yn ystod y blynyddoedd cyntaf, fel rhwng gwaith ei gyfeillion yn ei berswadio i aros lle yr oedd, a diffyg arian i'w gynorthwyo i gychwyn, na fentrodd yr Athrofa pan yr agorwyd hi, ond parhai i deimlo yn ofidus ar hyd ei oes na fuasai wedi cael addysg athrofaol. Fel y canlyn yr ysgrifena yn ei nodiadau wrth gyfeirio at hyn:—"Teimlais lawer o anfantais a gwendid meddwl oblegyd hyn, a bum am flynyddoedd heb feddwl am wneud dim ond cau bwlch yn awr ac yn y man. Bum yn y fath sefyllfa o ddigalondid yn y blynyddwedd cyntaf fel y gwerthais fy llyfrau dair gwaith a'm ceffyl ddwywaith, gan benderfynu na byddai i mi fyned i bregethu mwy, am nad oeddwn yn gweled fy hun yn werth i barhau; ond rhywfodd, byddai fy nghyfeillion yn fy ngorfodi i ddal yn mlaen drachefn. Pe buasent wedi fy ngorfodi, ie, fy nghynghori, i fyned i'r athrofa i gael addysg, buasai yn dda iawn genyf. Yr wyf yn cofio fy mod ar gyhoeddiad yn sir Fon—wedi cael oedfeuon llewyrchus mewn lluaws o fanau, a phobl yn dilyn o'r naill gapel i'r llall—ac yn agos i Lanerchymedd, mewn tŷ ar nos Lun, lle yr oedd y diweddar Barchedig John Phillips wedi bod yn llettya y nos Sabboth blaenorol. Adroddai gwr y tŷ wrthyf yr ymddyddan a fu rhwng Mr Phillips ac yntau yn nghylch yr angen oedd ar bregethwyr am addysg athrofaol, ac mai gresyn oedd fod yr un pregethwr yn meiddio dringo i fynu i bwlpudau y Methodistiaid heb gael addysg athrofaol uchel a thrwyadl. Ni chefais le i dybio fod y gwr, wrth adrodd yr ymddyddan, yn gwneud yr un cyfeiriad o gwbl ataf fi yn bersonol. Fodd bynag, boreu dranoeth, er fod genyf wythnos o gyhoeddiad, aethum adref ar fy union yr holl ffordd, gan benderfynu na welid fi yn esgyn i bwlpud mwy. Ond ar ol i'r cwmwl hwn fyned heibio, rywfodd meiddiais fyned wedi hyny rhwng bodd ac anfodd; er hyny, y mae y teimlad o'r diffyg hwn wedi bod yn brofedigaeth lem i mi ar hyd fy mywyd."
Byddai yn pregethu llawer, yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth, yn ystod nosweithiau yr wythnos yn nhai ac ysguboriau ardal Penmachno a'r ardaloedd cylchynol. Prin y byddai wythnos yn myned heibio heb iddo wneud hyn, a gwnai hyny amryw weithiau ambell i wythnos, fel y byddai holl gyrau y wlad yn hollol gydnabyddus â chael eu sancteiddio â'i weinidogaeth gyson—y rhai methedig yn cael efengylu iddynt, ac esgeuluswyr paganaidd yn methu dianc o'i swn. Anfynych yr agorid tŷ newydd heb ei gael ef i'w gysegru trwy bregethu, ac ni feddylid am gladdu y meirw heb ei alw ef i gyhoeddi Efengyl y dyddanwch ar yr achlysur. Cafodd fantais trwy hyn, yn ddiamheu, i feithrin y ddawn naturiol a pharod a feddai, oblegyd byddai yn y tai a'r ysguboriau yn nghanol y bobl ac yn siarad â'r bobl heb ddim hualau arno.
Ni fyddai yn ysgrifenu ei bregethau yn llawn y pryd hwnw, ond gwnai hyny yn llawnach yn y cyfnod hwnw nag y gwnai yn nghyfnodau diweddarach ei fywyd. Clywais ef yn dweyd iddo unwaith geisio dysgu pregeth o eiddo Thomas Watson ar gyfer oedfa a gynelid mewn ty rhyw noswaith, am nad oedd y bregeth a gyfansoddwyd ganddo ar gyfer yr achlysur wrth ei fodd o lawer; ond aeth yn dywyllwch mawr arno yn ebrwydd wedi dechreu, a chollodd ei afael yn mhregeth yr hen Buritan yn hollol; ac ni cheisiodd gerdded yn ngwisgoedd neb ond yr eiddo ei hun byth ar ol hyny.
Un o'r nodweddion amlycaf yn ei weinidogaeth o'r dechreu, a'r hon a barhaodd yn mhob cyfnewidiad ar ei ddull o bregethu, ydoedd agosrwydd at y gwrandawyr. Yr oedd ef a'i wrandawyr yn deall eu gilydd, ac mewn cydymdeimlad perffaith â'u gilydd. Ni cheisiai synu y bobl â phethau cywrain, ac ni fyddai yn cymysgu y dwfr er mwyn iddo ymddangos yn ddwfn; yn hytrach, aberthai yn siriol y cymeriad o fod yn bregethwr mawr, yn ngolwg rhyw ddosbarth o wrandawyr, ar allor eglurdeb syml a buddioldeb synwyrol, gan ymaflyd yn dyn yn ngwir amcan pregethu. Yr oedd blaenor hynod, o'r enw John Gruffydd, yn byw yn Nghapel Curig yr adeg hono, yr hwn yr oedd ei graffder, ei synwyr, a'i grefydd yn hysbys trwy yr holl gylch. Arferai roddi cynghorion tra phriodol i wyr ieuainc yn dechreu pregethu. A phan yr oedd y pregethwr ieuanc o Benmachno yno ar ei daith gyntaf, y cynghor a roddwyd iddo gan yr hen flaenor craff ydoedd :—" Gofala di, 'machgen i, am gysylltu y bregeth â'r bobl bob amser—nid pregethu yn eu clyw, ond pregethu iddynt. Y mae J—,"gan gyfeirio at bregethwr ieuanc arall, "yn dweyd, 'Gair neu ddau o gymhwysiad yn y diwedd,' pryd y dylai gymhwyso y bregeth ar ei hyd at y bobl. Dylai amcanu at saethu y gwrandawyr o'r dechreu i'r diwedd." Ni bu gwrthrych ein Cofiant yn ol, fodd bynag, o wneuthur y cynghor.
Tair o bregethau cyntaf ei oes ag y cofir am danynt gan ei gyfoedion fel rhai hynod, oeddynt ar y testynau canlynol :—" Brysia dianc yno," "Canaf am drugaredd a barn," "Fel yn ngoruchwyliaeth cyflawnder yr amseroedd y gallai grynhoi ynghyd yn Nghrist, yr holl bethau sydd yn y nefoedd, ac ar y ddaear, ynddo Ef." Yr oedd pregeth y "Darn llaw ar galchiad y pared" hefyd, yn un o bregethau mwyaf nerthol blynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth. Nodwedd gyffrous oedd i'w weinidogaeth yn y blynyddoedd hyn. Yn y dymhestl yr oedd ei gartref—ystorm oedd ei weinidogaeth—y mellt a'r ddaeargryn a welid ac a glywid fynychaf yn ei bregethau.
Pan y dechreuodd bregethu, yr oedd olion cenfigen a thraha yr Eglwyswyr at bregethwyr Ymneillduol heb ddiflanu. Er fod goleuni gwybodaeth wedi eangu y terfynau, a lluaws o'r hen gloddiau wedi eu symud, gan ysbryd rhyddid a gyniweiriai yn y tir, eto yr oedd amryw o bethau yn aros i brofi mor anhawdd oedd gan orthrwm dynu ei draed i'r gwely i farw. Yr oedd y gydnabyddiaeth y gorfodid y Llywodraeth i'w rhoddi, o safle pregethwr Ymneillduol, yn un âg arwyddion anfoddlonrwydd arni. Er i bregethwr gael ei alw gan y Nefoedd, a chael ei gymeradwyo yn llysoedd yr eglwys y perthynai iddi, a chael gosod sel apostol arno gan farn y saint, yr oedd yn rhaid iddo apelio at Cesar cyn y byddai yn ddyogel iddo agoryd ei enau dros ei Dduw, a myned i lys bydol i gymeryd y llwon gosodedig.
Bu yntau, fel lluaws ei frodyr, trwy y pair hwn, ac wele yn canlyn lythyr ei ollyngdod, yr hwn a gafwyd yn mhlith ei bapyrau :
| County of | I JOHN DAVIES, Esquire, one of Her Majesty's Merioneth Justices of the Peace for the said County of Merioneth, |
| Merioneth |
DO HEREBY CERTIFY, That DAVID DAVIES, of Penmachno, in the County of Carnarvon, did this Day appear before me, and did make, and take, and subscribe the several Oaths and Declarations contained and specified in an Act made in the Fifty second Year of the Reign of King GEORGE the Third, intituled, "An Act to repeal certain Acts, and amend "other Acts, relating to Religious Worship and 'Assemblies, and persons teaching and preaching "therein."
Witness my hand this First Day of January, in the Year 1835.
JOHN DAVIES.
Yn y flwyddyn 1840, pan oedd yn bump ar hugain oed, ymbriododd â Mrs. Ellen Thomas, gweddw gyda phump o blant, oedd yn cadw siop yn mhentref Penmachno; a bu y cam hwn, fel yr arferai ef ei hun ddweyd bob amser, yn un o'r camrau mwyaf bendithiol a roddwyd ganddo yn ystod ei oes. Daroganai lluaws fod i fachgen ieuanc fyned o dan y fath ofalon yn rhyfyg; ond cafwyd arwydd yn lled fuan ei fod o dan arweiniad y Golofn yn y symudiad hwn. Cafodd ynddi hi—yr hon sydd wedi ei ddilyn erbyn hyn i'r dragwyddol orphwysfa rodd gan yr Arglwydd. Gwenodd y nefoedd arnynt, a chyn pen ychydig o flynyddoedd ar ol priodi yr oedd y fasnach wedi eangu, a'r hen fasnachdy wedi ei adael am un helaethach, a'r masnachdy newydd, yn nghyd âg ychydig dir o'i amgylch, wedi ei sicrhau yn eiddo iddynt. Wedi bod yn y cylch hwn am bedair blynedd, symudodd i dyddyn a ddelid gan ei fam—yn—nghyfraith a elwir Penybryn. Bu yn trin y ffarm hono am ysbaid saith mlynedd, a graen bendith y nefoedd ar y cwbl. Codai allor i Dduw fel Abraham yn un o'r pethau cyntaf yn ei holl symudiadau, a gellir dweyd yn ddiamheuol am Benybryn tra y bu yno, fod Arch Duw yn cael ei chroesawu yn y lle, a bod Duw yr Arch wedi ei fendithio ef a'i holl dŷ.
Yn y flwyddyn 1849, pan yr oedd yn bedair ar ddeg ar hugain mlwydd oed, ordeiniwyd ef i holl waith y weinidogaeth, yn Nghymdeithassa y Bala, yn mis Mehefin. Llywyddid yn y Gymdeithasfa hono gan y Parch. Richard Humphreys. Yr oedd y cyfarfod ordeinio am un ar ddeg boreu ddydd Mercher, y 13eg, pryd y neillduwyd y brodyr Robert Roberts, Parc, ger y Bala, David Davies, Penmachno; John Williams, Bala; Evan Lloyd, Carneddau; David Morris, Caernarfon; Emrys Evans, Abergele; ac Ebenezer Powell, Holt. Dechreuwyd y cyfarfod gan Mr. Thomas Owen, Wyddgrug. Darllenwyd y rhanau arferol o'r Ysgrythyrau, a gweddiwyd ar yr achlysur gan Mr. W. Prytherch, Caio, Caerfyrddin. Traddodwyd yr araith ar "Natur Eglwys," gan Mr. David Elias, Mon. Gofynwyd cymeradwyaeth y Corph o'r brodyr a neillduid gan Mr. John Hughes, Liverpool. Traddodwyd y Cynghor gan Mr. John Hughes, sir Drefaldwyn, a therfynwyd y cyfarfod trwy weddi gan Mr. Robert Evans, Llanidloes. Fe welir fod yr holl frodyr a neillduid y pryd hwnw, yn nghyda'r gweinidogion a gymerent ran yn y gwasanaeth, erbyn hyn wedi eu symud oddiwrth eu llafur at eu gwobr.
Yr oedd ei ordeiniad yn gareg filldir yn ei yrfa weinidogaethol. Difrifolwyd ef yn fawr trwy yr amgylchiad, ac ymdeimlai yn ddwys a'r cyfrifoldeb a roed arno. Y pryd hwn darllenodd "Earnest Ministry," gan y diweddar J. Angell James, a "Jones Llangan a'i Amserau" yn y Traethodydd. Gwnaethant argraph ddwys ar ei feddwl; ac er iddo fod yn nglyn â galwedigaethau bydol am rai blynyddau ar ol hyny, aflonyddwyd arno yn fawr, a theimlai mai "Gwas yr Arglwydd" ydoedd, ac na ddylai ymrwystro â negeseuau y bywyd hwn. Byddai yn pregethu yn y cylch,. oddeutu ei gartref, heb geiniog o gydnabyddiaeth am hyny, a bu yn myned oddicartref ac yn dychwelyd lawer gwaith, wedi gwario pob ceiniog a dderbyniai ac ychwaneg. "Wedi i mi gael fy ordeinio," meddai, "deffrodd fy meddwl i ddifrifwch wrth feddwl am y gwaith; ac yn lled fuan addunedodd y wraig a minau, os gwelai yr Arglwydd yn dda ein bendithio â modd i fyw, y rhoddem bob gofalon bydol i fynu er mwyn i mi ymroddi i'r gwaith o bregethu yr Efengyl." Aeth i fath o gyfamod â'r Arglwydd fel Jacob yn Bethel.
Ond yn fuan ar ol ei ordeinio, symudodd i'r Bennar—ffarm fwy o lawer—gan dybio y gallasai drefnu pethau yno yn y fath fodd ag y buasai yn fwy rhydd i fyned oddiamgylch i bregethu, a chael mwy o amser i ddarllen ac astudio. Ond yn hyn, fel y dywedai ef ei hun, fe'i siomwyd. Yr oedd bywiogrwydd ei ysbryd, a'r yni oedd yn ei natur yn ei gadw i fyned yn barhaus, ac er ei fod wedi rhoddi y gofal i was ag yr oedd ganddo bob ymddiried ynddo, a'r ffarm yn gwella ac yn talu yn dda, yr oedd ei farn ef am yr hyn a ddylasai gweinidog yr efengyl fod, yn ei wneud yn anesmwyth iawn.
Fel hyn y mae yn arllwys ei deimlad wrth gyfeirio at yr adeg hon:—"Arosasom yno tua naw mlynedd, ac yr oedd y ffarm yn talu yn dda i ni—yr anifeiliaid yn brashau, a'r cnydau yn trymhau, a phobpeth yn myned yn well well o hyd. Yn unig y pregethu oedd yn cael cam. Byddwn yn teimlo weithiau fel pe buaswn ar yr arteithglwyd yn cael fy nirdynu—y pregethu yn tynu yn un pen, a'r gofalon a'r dyledswyddau bydol yn tynu yn y pen arall. O'r diwedd, yr oeddwn yn gweled fod yn rhaid aros gyda'r byd neu ynte ymryddhau. Pe yr aroswn yn hwy pa werth i grefydd a fuaswn? Ac wedi pryderu llawer, penderfynasom roddi y ffarm i fynu."
Nid y ffarm a'i rhoddodd ef i fynu. Yr oedd hen weinidog unwaith yn sir Feirionydd wedi methu gwneud dim o'i fasnach, ac wedi ei rhoddi i fynu, ac yn dweyd mewn Cyfarfod Misol ei fod ef wedi rhoddi ei shop i fynu er mwyn yr Efengyl. Digwyddai yntau fod yn bresenol yn gwrando arno, ac meddai, wrth rai o'r cyfeillion agosaf ato, "A glywch chwi ar y brawd yn dweyd yn hollol o chwith. Nid efe a roddodd y shop, ond y shop a'i rhoddodd ef i fynu." Ond nid felly y gadawodd ef y byd. Gadawodd ef pan yr oedd yn gwenu ac yn denu. Ond er ei fod yn ffarmio y blynyddoedd hyn, nid ffarmwr a phregethwr ydoedd ond pregethwr a ffarmwr.
Yn niwedd y flwyddyn 1856, fel y'm hysbyswyd, bu ar daith yn Mon yn nghwmni y diweddar Barch. Dafydd Rolant. Ymddengys iddynt, yn ystod y daith hono, gael rhai oedfeuon grymus a dylanwadol iawn; ond yn Nghaergybi y cafwyd yr oedfa fawr. Pregethai Dafydd Rolant yn gyntaf y noson hono, a chodai yntau ar ei ol gan ddarllen yn destyn Salm i. 5, 'Am hyny yr annuwiolion ni safant yn y farn, na 'phechaduriaid yn nghynulleidfa y rhai cyfiawn." Gyda i'r pregethwr ddechreu llefaru fe deimlid fod yno rhyw oleuni a nerth yn nglyn â'r genadwri. Desgrifiai y Farn Fawr mor fyw fel y credai y bobl eu bod ynddi ac yn methu sefyll. Yr oedd dynion cryfion yn y gynulleidfa ar ddarfod am danynt, ac yn llewygu gan ofn. Adroddai gwr o Fon wrthyf yn ddiweddar, ei fod yn blentyn gyda'i sam yn y capel yn gwrando y bregeth hono, a'i fod wedi ei ddal gan fraw mawr wrth weled y cyffro, ac yn gwaeddi, "Mam, mam," ond ni chymerai ei fam un sylw ohono. Rhoddai y bachgen ei ddwylaw ar ei wyneb a llefai, "Amen, amen." Ond pan y delwai y gynulleidfa, ac y disgynai gwyr nerthol yn haner meirwon yn ngolwg y farn a ddesgrifid, agorodd y pregethwr ddrws o ymwared iddynt trwy yr adnod hono—"Crist mewn pryd a fu farw dros yr annuwiol," a bloeddiai ar uchder ei lais "DYNA FODD I SEFYLL YN Y FARN." Yr oedd y gynulleidfa yn cael ei gwynt ati, ac yr oedd y gruddfanau a'r ocheneidiau yn troi yn fawl ac yn orfoledd mawr. Gadawodd yr oedfa hon argraph dda ar y dref, ac ar y wlad o amgylch am flynyddoedd, a diamheu fod lluaws sydd yn y nefoedd heddyw, yn dyddio eu genedigaeth yn nheulu Duw yn yr oedfa hono, ac yn edrych arni fel haner dydd ar y ffordd yn eu hanes. Ymunodd dau ar bymtheg â'r eglwys y noswaith hono, a bu rhai yn cael eu hychwanegu at y saint am fisoedd ar ol hyny fel ffrwyth yr oedfa.
Wrth ddychwelyd o Fon aeth y ddau i gyfarfod Nadolig i Lanllechid, a noson ddiweddaf y cyfarfod pregethai y ddau gyda'u gilydd ac yn yr un drefn. Dechreuid yr oedfa gan John Williams, Llecheiddior, a phregethodd Dafydd Rolant yn mlaenaf ar y gair "Gorphenwyd." Pregethodd yntau yr un bregeth ag oedd ganddo yn Nghaergybi, a chyda nerth a dylanwad ofnadwy. Dywedai un oedd yn yr oedfa hono na welodd effeithiau cryfach ar gynulleidfa erioed. Dringai rhai i fynu i golofnau yr oriel fel yn ceisio dianc, disgynai eraill i'r llawr o flaen y gwynt nerthol a ruthrai. Yr oedd yr hen bregethwr Morris Jonesyr "Hen Brophwyd," fel e'i gelwid—yn eistedd o dan y pwlpud. Codai o'i eisteddle yn sydyn ac edrychai i fynu i'r pwlpud, a dywedai, "Ie, Dafydd Penmachno, sydd yma, nid angel." Cododd i fynu eilwaith, a than deimlad o ofnadwyaeth y lle, gwaeddodd allan, "Trugaredd, Dafydd anwyl." Ychwanegwyd lluaws at eglwysi y cymydogaethau, ac yn eu plith yr oedd tri o gymeriadau hynod mewn drygioni—y rhai oeddynt cyn hyny yn ddychryn mewn annuwioldeb, ond a fuont o'r dydd hwnw allan yn ddychryn i annuwioldeb. Boreu dranoeth yr oedd Dafydd Rolant yn marchogaeth i gyfeiriad cartref ac yntau yn ei ddilyn, ac encyd o ffordd rhyngddynt â'u gilydd. Yn Nhy'nymaes, daeth un hen flaenor i'w cyfarfod, ac meddai, "Wel, 'r ydach chi yn myn'd adre', Dafydd Rolant." "Ydan," meddai yntau, " y mae Dafydd Dafis yn dwad yn ymyl. Paid a dweyd dim wrtho, y mae wedi tynu'r diafol yn ei ben, ac wedi cymryd Sebastopol neithiwr, wel di."
Yn Nghymdeithasfa y Wyddgrug, yr hon gynaliwyd Rhagfyr, 1856, penderfynwyd symud yn mlaen i gasglu Cronfa Athrofa y Bala, a phenodwyd y Parch. Edward Morgan, Dyffryn, i ddwyn y gorchwyl i ben, yr hyn a wnaed ganddo, fel y mae yn hysbys, gyda llwyddiant mawr. Ymddengys iddo ymweled â Chyfarfod Misol Dwyrain Meirionydd, yn yr Ionawr canlynol, i osod yr achos ger bron. Cynelid y cyfarfod hwnw yn y Bala, a'r Parch. David Davies oedd y cadeirydd ynddo. Wedi i Mr. Morgan osod yr achos i lawr yn ei ddull deheuig a doniol, yr oedd yn apelio am addewidion. "Ni a ddechreuwn gyda'r cadeirydd," meddai, a chafwyd dechreu o ddifrif mewn addewid siriol o gan' punt ganddo, ac nid cyflawni yr addewid hono yn unig a wnaed ganddo gyda'r achos, eithr bu hefyd yn gynorthwy effeithiol i Mr. Morgan yn ei lafur.
Yn y Drysorfa am 1858, mewn llythyr ar Gronfa yr Athrofa yn Nwyrain Meirionydd, fe geir y nodiadau canlynol :
Yn yr wythnosau diweddaf o'r flwyddyn a aeth heibio, bu y Parchedigion E. Morgan, Dyffryn, a D. Davies, Penmachno, yn ymweled âg eglwysi y rhan hon o'r sir, i osod yr achos da hwn ger eu bronau, ac i ddadleu ei deilyngdod. Ac y mae genyf yr hyfrydwch o osod gerbron darllenwyr y Drysorfa a charedigion yr Athrofa, pa mor bell y mae eu gweinidogaeth wedi llwyddo yn barod yn ein plith. Mae yn degwch hysbysu fod yma amryw eglwysi ag y methodd y brodyr uchod dalu ymweliad â hwynt y pryd hwnw, gan ddisgwyl cyfleusdra i wneud hyny yn ol llaw; ac felly mae rhai o'r eglwysi hyny heb wneud dim eto. Nid am nad ydynt mor barod ac awyddus i wneud â'r rhai a wnaethant; ymddengys eu bod yn peidio yn unig er mwyn cael esgus digonol i gymhell y ddau frawd hyn i dalu ymweliad unwaith â'u cymydogaethau.
Ac nid yn Nwyrain Meirionydd yn unig y bu yn dadleu yr achos hwn, ond bu gyda Mr. Morgan mewn siroedd eraill. Ac yn y flwyddyn 1864, pan y penodwyd Mr Morgan drachefn i gasglu £6,000 at adeilad yr Athrofa, bu ef â'i galon yn y gwaith ac yn gyn. orthwy effeithiol iddo i'w ddwyn oddiamgylch yn llwyddianus.
Nid oedd neb yn mysg y brodyr oedd yn dwyn mwy o sel dros gael pob manteision addysg i bregethwyr ieuainc, i'w cymhwyso i'w gwaith nag oedd ef. Bu bod yn amddifad o addysg athrofaol ei hunan yn brofedigaeth fawr iddo ar hyd ei oes, ac y mae yn ddiamheu fod yr ymdeimlad hwnw yn ei wneud yn fwy aiddgar dros i'w frodyr gael y fantais hono. Gweithiodd yn ymroddgar ac egniol gydag addysg ddyddiol yn nghymydogaeth Penmachno, tra y bu yno, a llwyddodd i gael ysgol anenwadol effeithiol am flynyddoedd i'r ardal.
Ac er gofalon trymion y ffarm, ni chollai byth mo'r cyfarfodydd wythnosol os byddai gartref, a gofalai fod yno yn brydlon hefyd. Yr oedd gweled esgeulusdra ac anmhrydlondeb i ddyfod i'r cyfarfodydd yn boenus iddo, a thraddodai yr areithiau halltaf ar brydiau uwch ben y rhai euog. Bu yn dechreu y cyfarfod eglwysig unwaith, pan nad oedd neb wedi cyrhaedd ond un bachgen bychan ac yntau, a chyflawnodd y gwasanaeth yn fyr a bywiog fel yr oedd wedi gorphen cyn i'r gynulleidfa gynyddu dim. Bu y tro hwn yn wers a gofiwyd am dymhor hir. Heblaw cynal seiat, pregethai yn yr wythnos yn fynych iawn, a deuai llonaid y capel yno i wrando arno.
Yn y flwyddyn 1859, cafodd alwad ffurfiol gan yr eglwysi yn Mhenmachno i'w bugeilio yn yr Arglwydd. Efe oedd yr un a alwyd gyntaf yn fugail rheolaidd yn Nwyrain Meirionydd. Anfonodd lythyr i ddiolch am yr alwad, yn yr hwn y dywedai, "Nad oedd y Bennar yn ei olwg ond megys creiglwyn Carrog, o'i gydmaru â gwaith yr Arglwydd." Gofalai am gyfarfodydd y plant yn wythnosol am flynyddoedd, ac yr oedd ganddo ddawn neillduol i'w dwyn yn mlaen. Amddiffynai y plant hefyd yn ngwyneb ymosodiadau mewn gwahanol ffurfiau. Pan y poenid hwynt gan blant direidus y pentref ar eu ffordd adref o'r cyfarfodydd, byddai ef yn barod at eu galwad i gymeryd eu plaid. Y mae ysgrifenydd y nodiadau hyn yn cofio yn dda am un noswaith, pan yr elai nifer ohonynt adref gyda'u gilydd, i lu o blant drygionus y pentref ymosod arnynt, gan beri blinder ac ofn mawr iddynt.. Rhedasom yn ol at y capel i chwilio am yr athraw. Daeth gyda ni fel arweinydd, ac yr oedd ei bresenoldeb yn tawelu yr ystorm, ac yn gyru y gwrthwynebwyr ar ffo. Cymerai eu plaid hefyd mewn cylchoedd eraill. Cofus genym glywed am dano yn eu hamddiffyn un nos Sabboth yn gyhoeddus, yn ngwyneb ymosodiad llym gweinidog. Yr oedd y diweddar Barch. Robert Evans o Dalybont, yn y daith yn pregethu, ac yntau yn digwydd bod gartref y nos Sabboth hwnw. Gofynwyd i'r gweinidog dyeithr i wrando y plant yn adrodd eu hadnodau, ac wrth wneud hyny ceryddai y plant. yn dost nad oeddynt yn adrodd rhyw adnod yn gywir, ac adroddai yr adnod ei hunan yn gywir, fel y tybiai ef; ond digwyddodd fod adroddiad y pregethwr o'r adnod yn fwy annghywir nag eiddo y plant. Methodd cyfaill y plant, yr hwn a eisteddai yn anesmwyth pan y ceryddid hwynt mor llym, ag ymatal, pan y clywodd yntau yn methu, heb droi ei gerydd yn ol arno ef gyda. llôg. Edrychid arno gan y plant fel tad, ac y mae y rhai a fynychent y cyfarfodydd gydag ef y pryd hwnw yn cofio yn dda am rai adegau tra neillduol—adegau ag y teimlid fod rhyw nerth gorchfygol yn cerdded trwy y gwasanaeth. Denid hwynt ganddo i ymgymeryd â gwaith cyhoeddus y Deyrnas, a bu dechreu a diweddu y cyfarfodydd hyn yn gychwyniad gyrfa o ddefnyddioldeb i luaws ohonynt. Dechreuodd ef ei hunan ar y gwaith yn ieuanc, ac yr oedd yn dra awyddus i gael eraill o fewn y rhwymau yn gynar ar eu hoes.
PEN. IV. Adnewyddiad yn y gwaith.
Diwygiad crefyddol grymus.—Cymydogaeth Penmachno yn cael tywalltiad mawr.—Yntau yn profi yn helaeth ohono.—Gweinyddu yr ordinhadau sacramentaidd.—Ei ddull o fedyddio.—Swper yr Arglwydd.—Taith yn sir Ddinbych.—Ysbryd pregethu.—Cyfansoddi pregethau newyddion.—Ffyddlawn yn yr holl dŷ.—Yn y cyfarfodydd eglwysig.—Yn parotoi i ymryddhau oddiwrth ofalon bydol.—Ei sel dros fugeiliaeth eglwysig.—Yn dyner a gofalus o bregethwyr ieuainc.—Yn ymroddi i lafur.—Yn parhau yn ieuanc ac yn newydd yn ei waith.—Cyfarfod yn Nhrawsfynydd.—Cyfarfod Misol Llidiardau.—Y blynyddoedd 1856 ac 1857 yn flynyddoedd y colledion i'n Cyfundeb.—Yn teithio llawer i Gymdeithasfaoedd a Chyfarfodydd Pregethu. Yn ymadael i Gorwen. Yn ysgrifenu gair o adgofion.—Ei haelioni.—Ү cybydd a'i gi.
YN y blynyddoedd 1859 ac 1860, profwyd gan Ogledd Deheudir Cymru un o'r ymweliadau crefyddol mwyaf grymus. Torodd allan yn yr America, ac ymledodd dros y gwledydd. Yr oedd ei effeithiau ar bob dosbarth yn yr eglwysi—yr hynafgwyr yn breuddwydio breuddwydion, a'r gwyr ieuainc yn gweled gweledigaethau, ac yr oedd y plant hefyd yn chwareu yn heolydd y ddinas sanctaidd.
Cedwid cyfarfodydd gweddiau yn yr addoldai bron bob nos o'r wythnos; ac nid oedd neb yn eu mesur wrth y cloc. Tyrid hefyd i dai anedd ac i gonglau y meusydd. Yr oedd cymoedd Cymru, am fisoedd, yn llawn o adsain hyfryd rhai yn molianu ac yn gorfoleddu. Profodd y gawod drom hon yn fendith fawr i'n gwlad. Ychwanegwyd lluaws at yr eglwysi, ac er i lawer fyned yn eu hol a pheidio rhodio mwyach gyda'r Iesu ar ol i'r cynhwrf laesu, ni fynai llu o'r rhai a ddilynasant yr Iesu y pryd hwnw ymadael. Y mae rhai ohonynt yn amlwg mewn defnyddioldeb gyda'r deyrnas hyd heddyw, ac aeth lluaws i ogoniant yn nghanol y gwres mawr a brofid ganddynt ar y pryd.
Teimlodd cymydogaeth Penmachno nerth y dòn sanctaidd a ymdaflai dros y wlad. Bu dwysder a difrifwch yr eglwys yn amlwg am wythnosau, cyn i bethau mawr a rhyfedd gymeryd lle. Ond yn nghyfarfod gweddi y bobl ieuainc, yr hwn a gynelid ar ol cyfarfod gweddi, y gwawriodd y Pentecost. Disgynodd yr Ysbryd Glân ar bawb oedd yn y lle. Aeth y swn ar led y pentref, a daeth y lluaws yn nghyd hyd nes y llanwyd yr adeilad—rhai yn synu gan ddweyd mai llaw yr Arglwydd yn ddiau oedd hyn, eraill yn amheu; ond yr oedd pawb yn y lle yn gorfod teimlo fod yno rywbeth na welwyd mohono ganddynt erioed o'r blaen—" y peth hwn," nas gallent ei esbonio—a daliwyd amryw oedd yn tueddu, ar eu dyfodiad i mewn, i watwar gan yr un ysbryd. Disgynodd ysbryd prophwydo ar lawer Saul a ddeuai i fysg y prophwydi, a gwnaed llawer cablwr yn weddiwr. Cyfranogodd gwrthrych y Cofiant yn helaeth o'r ysbryd. Arferai fyned gyda'r bobl ieuainc i gynal cyfarfodydd gweddiau ar hyd tai anedd a beudai y gymydogaeth, ac yr oedd ei sel a thanbeidrwydd ei ysbryd yn cyneu yn fflam gref.
Fe gofir byth gan luaws am rai o'i weddiau gafaelgar a'i anerchiadau tanllyd, yn y cyfarfodydd gweddiau a gynelid yn y tai anedd; ac y mae yn sicr fod yr Iesu wedi cyfarch llawer tŷ y pryd hwnw gan ddywedyd, "Heddyw y daeth iachawdwriaeth i'r tŷ hwn." Yr oedd y gwres a'r eneiniad oedd ar ei bregethau yn y cyfnod hwn yn hynod rymus, ac yr oedd y llewyrch yn nodedig o danbaid yn y Cyfundeb ar brydiau. Wrth weinyddu yr ordinhadau sacramentaidd, byddai fel rheol yn neillduol o hwylus. Byddai y rhieni yn yr holl gylchoedd yn gwneud ymdrech i ddwyn eu plant ato i'w bedyddio. Rhoddai anerchiad brwd ar fedydd yn y dechreu, ac yna cymerai y baban yn ei freichiau, gan ei siglo yn ol ac yn mlaen, a rhoddai y penill hwnw i'w ganu:—
Bugail Israel sydd ofalus
Am ei dyner anwyl ŵyn;
Mae'n eu galw yn groesawus,
Ac yn eu cofleidio'n fwyn.
Canai yntau gyda'r gynulleidfa gyda gwên siriol ar ei wyneb, gan barhau i hwian yr un bychan hyd nes y byddai pawb yn y lle yn teimlo yn fynych fod y Bugail Mawr yn bresenol, ac yn cofleidio y plentyn. Rhoddai y penill hwnw i'w ganu hefyd yn aml :
Cyflwynwn ni y baban hwn
I'th ofal, Iesu mawr,
Ac yn dy goron boed yn berl
'R ol darfod dyddiau'r llawr.
Yr wyf yn gwybod am luaws o rieni a gredant byth fod eu plant wedi eu cyflwyno i ofal yr Iesu mewn gwirionedd yr adeg hono, ac wedi eu derbyn ganddo. Os byddai ambell i faban yn dyfod i mewn yn flin ac yn ymrwyfus, er mawr brofedigaeth i'w fam, anfynych y byddai ef yn methu tawelu yr ystorm pan y cymerid ef ganddo yn ei freichiau. Cofir byth hefyd am rai o'i weddiau taerion a gafaelgar ar achlysuron felly.
Er nad oedd yn orselog dros ddull bedydd, yr oedd yn dra aiddgar dros fod hâd yr eglwys yn eu babandod yn ddeiliaid priodol yr ordinhad. Clybuwyd ef yn dweyd amryw o weithiau y buasai yn myned gydag aelod, a fuasai yn dewis hyny, i'r afon i'w suddo os heb ei fedyddio o'r blaen; ond pan y gwelai rai yn rhoddi gormod o bwys ar ddull bedydd, gan daeru yn gyndyn fod suddo mewn cyflawnder o ddyfroedd yn hanfodol angenrheidiol, nid ymataliai rhag dweyd pethau miniog. Aeth un noson waith i bregethu i le ag yr oedd achos lled gryf gan y Bedyddwyr, a dadleu poeth yn fynych rhyngddynt â'u brodyr o enwadau eraill ar y pwnc o fedydd. Digwyddai fod yno ddau neu dri o blant wedi eu dwyn, i'w bedyddio ganddo o flaen y bregeth. Cyn myned i mewn i'r capel dywedai y blaenoriaid wrtho, "Bydd yma luaws o Fedyddwyr yn gwrando arnoch heno, Mr. Davies, a chan fod yma fedydd y mae yn ddiau y bydd yma ddadleu brwd y dyddiau nesaf. Byddai yn dda i chwi," meddynt, "ddweyd yn gryf ar y pwnc, gan y dywedir ganddynt nad ydyw ein bedydd ni yn fedydd o gwbl." "A ydynt yn dweyd peth felly?" meddai yntau, gan roddi ysgydwad arwyddocaol ar ei ben. Dweyd nad ydyw yn fedydd," meddai ddwywaith neu dair pan yn codi i fyned i gyfeiriad y capel, a'i ysbryd yn amlwg wedi ei gynhyrfu gan sylwadau y cyfeillion yn y tŷ. Yn ei anerchiad ar fedydd y noson hono dywedai, "Sêl ydyw bedydd, a chwi a wyddoch i gyd mai arwydd o gadarnhad ar weithred gyfreithiol ydyw sêl. Nid maint y sêl sydd yn bwysig, ond cynwys y weithred a selir. Yr wyf yn cofio 'stalwm y byddai y cyfreithwyr yn defnyddio sêl gŵyr fawr fel pisyn coron ar weithredoedd, ond erbyn hyn y mae sêl fach, ddim mwy na chwe' cheiniog, yn gwneud y tro, ond ni chlywais i am yr un cyfreithiwr erioed yn ddigon ynfyd i gymeryd gweithred a'i throchi dros ei phen mewn cŵyr. Sêl yr Arglwydd ar ei bobl ydyw bedydd. Nôd ydyw bedydd. Diwrnod mawr fyddai diwrnod nodi y defaid yn Mhenmachno. Byddai holl blant yr ardal yn casglu yn nghyd. Yr oedd yno wahanol fathau o nodau hefyd—nôd coch a nôd du, nôd clust, nôd cynffon, nôd gwlân—ambell i ffarmwr yn gosod dwy lythyren ar ochr y ddafad, un arall yn rhoddi nôd coch ar ei thalcen, ac un arall yn rhoddi nôd coch ar draws ei gwar; ond ni welais i yr un ffarmwr erioed yn ddigon ffol i drochi y ddafad mewn nôd coch. Nôd ydyw bedydd."
Pan y cynhyrfid ef, yr oedd llifeiriant ei ddawn y sath fel y dygid ef yn mlaen yn anwrthwynebol ganddo. Yr oedd y geiriau mwyaf cymeradwy mewn cyflawnder at ei alwad, a chydmariaethau cartrefol cryfion o bob cyfeiriad yn cynyg eu gwasanaeth iddo. Byddai rhyw urddas ar Swper yr Arglwydd hefyd pan fyddai ef yn arwain yn y gwasanaeth. Yr oedd ef yn arbenig felly yn adeg y Diwygiad. Amrywiai yn fawr yn ei ddull o ddwyn y gwasanaeth yn mlaen ; weithiau llefarai yn wresog pan yn cymeryd yr elfenau oddiamgylch, bryd arall rhoddai emynau allan i'w canu, gan wneud sylw felly, "Gallwn ni hyfforddio canu heno. Yr oedd ein Iesu bendigedig yn canu cyn ymladd y frwydr fawr, gallwn ninau ganu wedi iddo Ef ei henill." Ar brydiau eraill—ac felly yn fwyaf mynych yn yr adeg y cyfeiriwn ati—elai o amgylch mewn dystawrwydd. Cofir byth am un cymundeb a gaed felly, yn hen gapel Penmachno, pan yr oedd y dystawrwydd yn annyoddefol, a rhyw ofnadwyaeth wedi meddianu pawb yn y lle. Clywid swn y cloc yn tipian, ac nid oedd dim swn arall i leddfu y tawelwch dwfn oddieithr ochenaid, yn awr ac yn y man, a fynai ddianc o ambell i fynwes oedd wedi myned yn rhy lawn. Yny man dacw hen frawd duwiol iawn, a eisteddai ar risiau y pwlpud, yr hwn a ystyrid yn un o'r rhai mwyaf hunanfeddianol a gwylaidd yn y gynulleidfa—fel pe heb fod yn ymwybodol o neb yn y lle, yn tori ar y dystawrwydd trwy furmur wrtho ei hunan eiriau y penill, —
Cofio'r nos bradychwyd Iesu,
O mor ryfedd cofio'r ardd.
A dyna floedd fawr gan rhyw frawd gwresog a eisteddai gerllaw iddo. Torodd yr argae, ac y mae y teimladau cryfion oeddynt yn croni er's amser yn rhuthro allan yn ddiluw anwrthwynebol. Cafodd y gynulleidfa, oedd yn mron llewygu gan ofnadwyaeth y dystawrwydd, ei hanadl ati. Buwyd yn y lle am rai oriau yn molianu ac yn gorfoleddu.
Yn adeg y diwygiad bu ef a'r diweddar Barchedig Robert Williams, Aberdyfi, ar daith trwy sir Ddinbych. Buasai yn dda genym pe y cadwesid hanes y daith hon; ond er ymofyn methasom a chael ond ychydig o gofnodion yn ei chylch, ac efallai na ddylesid disgwyl llawer o ffeithiau, wedi eu gosod i lawr mewn trefn a manylwch, am gyfnod ag yr oedd y cyffro mor angerddol ar deimladau y bobl. Dywedir gan y rhai sydd yn fyw, ac yn cofio y daith hono, na ellid cyffelybu pregethu y ddau ond i ruthr corwynt trwy yr holl wlad. Yr oedd y Parch. Robert Williams yn wr difrifol iawn ei ysbryd, a bu ei weinidogaeth yn hynod. o effeithiol a llwyddianus, ac yn neillduol felly yn mlynyddoedd olaf ei oes. Mewn llythyr a dderbyniwyd oddiwrth y diweddar Mr, John Price—yr hwn oedd flaenor parchus yn eglwys y Pandy, ger Llanrwst—mewn atebiad i gais a anfonwyd ato am ychydig o hanes y daith, ysgrifenir fel y canlyn:—"Bum yn holi yn nghylch pregethau Mr. Davies a'i gydymaith yn Nghwytherin. Methais a chael y testynau; ond yr ydys yn cofio yn dda fod y pregethau yn nodedig o effeithiol—dan arddeliad amlwg yr Ysbryd Glân. Dywedid fod oddeutu deuddeg wedi ymuno â'r eglwys yn niwedd yr oedfa hono. Yr oeddynt yn y Pandy am ddeg boreu dranoeth. Pregethai Mr. Davies oddiar Salm xliv. 3, 'Canys nid â'u cleddyf eu hun y goresgynasant y tir, nid eu braich a barodd iachawdwriaeth iddynt ; eithr dy ddeheulaw di, a'th fraich a llewyrch dy wyneb, oherwydd i ti eu hoffi hwynt." Cafwyd pregeth nerthol ac o dan arddeliad neillduol. Nid yn aml y clywais y fath bregeth. Yr oedd yr effeithiau uwchlaw desgrifiad. Arosodd lluaws yn ol yn yr eglwys o dan deimladau dwysion iawn—amryw ohonynt wedi myned dros ganol oed, a rhai ohonynt wedi bod yn agos at grefydd, ond wedi cydio yn y traeth, ac fe gafwyd dyfroedd digon cryfion y boreu hwnw i'w nofio. Fe ymunodd rhai ugeiniau âg eglwys y Pandy yn yr adfywiad hwnw, ond yr wyf yn meddwl yn sicr mai ffrwyth yr oedfa hon a ddaliodd eu tir oreu o lawer. Nid wyf yn gwybod i neb ohonynt.
lwyr adael crefydd hyd y diwedd, ac y mae hyny wedi cyfarfod yr oll hyd y gallaf gofio."
Mewn adroddiad a roed yn Nghyfarfod Misol y sir am y daith hon yn mhen ychydig amser ar ol hyny, dywedid fod y ddau weinidog wedi derbyn tros bum' cant i'r eglwysi ar ddiwedd eu hoedfeuon, ac ychwanegwyd lluaws mawr am fisoedd lawer ar ol eu hymadawiad hwy. Dilynid y pregethwyr o'r naill gapel i'r llall, a gorlenwid hwy. Ar eu taith yr oeddynt mewn cyfarfod pregethu yn y Groes, ger Dinbych, a dywedai un oedd yn bresenol yn y cyfarfod hwnw na bu erioed mewn, ac na welodd erioed yr un adeilad wedi ei lanw mor dyn. Safai dyn yn nghanol y llawr, ac oherwydd fod y gynulleidfa yn pwyso mor drwm arno, yr oedd yn methu annghofio ei hunan ac annghofio fod amser yn bod i gael dianc o'r caethiwednid oedd y blinder hwn yn ymwybodol ychwaith i ond ychydig yn y lle gan fod y mawr ragorol ogoniant yn peri iddynt annghofio y cwbl. Fodd bynag, gwelid y dyn yn y canol yn ceisio yn aflwyddianus i droi ei lygad i gyfeiriad y cloc, ac ar ol hir ymdrech llwyddodd i wneud hyny; ond bu yn rhaid iddo aros yn y sefyllfa hono—â'i gefn ar y pregethwyr a'i wyneb ar y cloc—hyd ddiwedd y gwasanaeth gan nad allai droi yn ol. Cafwyd arwyddion sicr o ddylanwad goruwchnaturiol yn y cyfarfod hwn. Dilynid yr oedfeuon dranoeth yn Nantglyn, Tanyfron, a Llansannan âg effeithiau rhyfedd. Nid oedd yr un oedfa yn myned heibio heb i amryw ymuno o'r newydd â'r eglwysi. Arosodd pymtheg y noswaith hono yn Llansannan, ac yr oedd yn eu plith rai annuwiol iawn, a dywedai Mr. Davies wrth eu derbyn, "Wel, dyma bobl yn newid eu meistr am byth." A bu rhai ohonynt mor amlwg ymroddgar a chryf yn ngwasanaeth yr Iesu o hyny allan ag y buont yn ngwasanaeth eu hen feistr cyn hyny. Yr oeddynt yn y Garnedd am ddeg dranoeth, a Mr. Davies yn pregethu oddiar 1 Pedr iv. 18, "Ac os braidd y mae y cyfiawn yn gadwedig, pa le yr ymddengys yr annuwiol a'r pechadur?" a'r "gwynt nerthol yn rhuthro" yn y lle. Yn un o'r capeli yn y dosbarth hwn yr oedd dyn wedi aros ar ol i gynyg ei hun i'r frawdoliaeth, yr hwn oedd yn cael y gair o fod yn lladrata defaid a dofednod ei gymydogion. Adwaenid ef gan Mr. Davies a chyfarchai ef, gan roddi ei law ar ei ben ef, fel hyn, " Y mae yr Iesu yn achub lladron. Fe achubodd y lleidr ar y groes."
Yr oedd mor boblogaidd yn ei ardal ei hun ag yn unman, a phan y cyhoeddid ef i bregethu ar noson waith, yr hyn a wneid yn fynych, deuai cynulleidfa fawr yn nghyd i'w wrando bob amser. A phan y byddai gwr dyeithr yn cael ei ddisgwyl i'r ardal i bregethu am noswaith ac yn cael ei luddias gan amgylchiadau i ddyfod, ni byddai y gynulleidfa yn siomedig os byddai ef yn bresenol i gymeryd ei le. Gwnaeth hyny lawer gwaith heb ond ychydig o funydau o rybudd. Clywsom am dano un tro wedi cyrhaedd tŷ'r capel ar achlysur felly, a'r blaenoriaid yn disgwyl yn bryderus am dano oherwydd fod y pregethwr dyeithr wedi eu siomi, ond nid oedd mor barod i bregethu y noson hono. Dadleuai nad oedd ganddo bregeth ac nad oedd ei ysbryd ychwaith yn barod i feddwl am hyny. "Nid oes genyf," meddai, "gymaint a thestyn." Yr oedd hen chwaer graff a chrefyddol yn digwydd bod yn nhŷ'r capel ar y pryd, ac meddai " Y mae gen i destyn i chwi, pregethwch arno—'Trwy ffydd Noe, wedi ei rybuddio gan Dduw,' &c." Aeth i fynu i'r pwlpud ar y gair, a phregethodd un o'r pregethau mwyaf gafaelgar ac esseithiol.
Byddai wrthi yn barhaus yn cyfansoddi pregethau newyddion. Credai yn gryf yn hyny pe na byddai arno eisiau pregeth ar gyfer amgylchiad neillduol. Cynghorai wyr ieuainc unwaith mewn Cyfarfod Misol i wneud felly. Peidiwch," meddai, "a gadael i'r un wythnos fyned heibio heb fod genych bregeth newydd ar y gweill. Edrychwch gyda llygad pregethwr ar bobpeth, a chesglwch ddefnyddiau eich pregethau ar eich ehediad yn mhob man fel y wenol. Nid gwneud pregeth unwaith yn y chwarter, a gwneud hono am fod yn rhaid ei chael, ond meithrin ysbryd y gwaith hyd nes y bydd pregethu wedi myned yn rhan ohonoch fel nad allwch fod yn llonydd heb bregethu mewn amser ac allan o amser. Nid parotoi ei gân ar gyfer concert y mae yr aderyn, ond canu am fod canu yn ei natur-canu am nad all beidio canu." Yr oedd ef ei hun yn gwneud y cynghor, ac nid allasai fyw heb ei wneud. Yr oedd yn barhaus yn cyfansoddi pregethau newyddion. Bernid gan rai o'i frodyr ei fod yn gwneud gormod, ac y buasai yn well iddo gyfansoddi llai a chyfansoddi yn fwy manwl; ond credwyf mai camgymeriad a fuasai hyny i'w ddawn a'i natur ef. Cadw ei ysbryd yn fyw oedd y peth pwysicaf iddo ef, a gwnai hyny yn effeithiol trwy weddio a darllen a gwneud pregethau newyddion yn ddiorphwys. A byddai y bregeth oedd wedi ei hysgrifenu gyda mwy o fanylwch a gofal na'r cyffredin yn troi yn siomedig ganddo yn fynych.
Byddai yn dra amrywiol ei deimladau yn y cyfarfodydd eglwysig-weithiau yn arw iawn a phryd arall yn dyner iawn-ond yr oedd bob amser yn newydd. Byddai yr ystorm gref yn newydd, a phelydrau dystaw yr haul â rhyw newydd-deb yn perthyn iddynt. Pan y ceryddai ni chamgymerid ef byth, a phan y canmolai fe roddai sain digon hyglyw. Yr oedd y grediniaeth oedd yn meddwl y bobl ei fod yn onest i'w argyhoeddiadau yn ei gadw rhag cwympo dros yr ymyl yn eu golwg, er myned i eithafion yn fynych; ac er y byddai ambell un o dan y fflangell yn digio wrtho, byddai wedi maddeu iddo cyn i swn y cerydd ddiflanu. Diarddelwyd gwraig o'r eglwys oherwydd rhyw gweryl, a chaed cryn drafferth gyda hi. Cynygiodd ei hunan i'r eglwys cyn hir drachefn, a chodai y blaenoriaid a'r pregethwyr i'w chroesawu ar ei dychweliad, ond eisteddai ef a'i ben i lawr gan omedd dweyd gair. Yn y man, yn ngonestrwydd ei ysbryd, wrth weled y brodyr yn myned yn rhy bell yn eu croesaw i'r bechadures, ac yntau yn credu nad oedd arwyddion yr edifeirwch yn ddigon amlwg, cododd i fynu yn sydyn a dywedai, "Yr ydych yn dweyd fod yn dda genych weled y chwaer, ond nis gallaf fi ddweyd hyny. Os nad ydyw wedi newid yn fawr, buasai yn llawer gwell gen i heb ei gweled. Pan y bu gyda ni o'r blaen ni a gawsom drafferth flin gyda hi, a phan y diarddelwyd hi ni fynai ein gadael eithr mynai aros er gwaethaf pobpeth. Ond wedi ei bwrw allan, fe gafodd yr eglwys lonydd, a bu tangnefedd ar Israel. Y mae ambell un yn fwy tawel allan nag i mewn. Fe geir rhai yn cweryla yn barhaus yn yr eglwys, ond nid oes fawr o son am eu cweryla pan y maent allan; ac yr wyf yn meddwl fod gwell siawns i'r rhai hyn fyned trwy y byd yma yn fwy cysurus iddynt eu hunain ac yn fwy diboen i eraill heb fod yn aelodau eglwysig. Buasai yn well genyf weled arwyddion amlycach o edifeirwch yn D cyn codi fy llaw i'w derbyn er ei mwyn ei hunan ac er mwyn yr eglwys."
Er fod y sylwadau hyn yn rhai llymion, buont yn dra llesol. Yr oedd yn onest ei hun ac yn caru gonestrwydd yn mhawb arall, ac yr oedd hefyd yn graff iawn i adnabod rhith onestrwydd a rhagrith yn mhob man. Mewn cyfarfod eglwysig, pan yn myned oddiamgylch i wrando profiadau y saint, meddai wrth eneth ieuanc, "Beth sydd ar dy feddwl di, J?" "Nid oes dim byd ar fy meddwl i," meddai hithau. "Y mae yn dda iawn genyf dy glywed yn dweyd y gwir, J. Daw llawer yma gan ddweyd yr adnod hono, 'Am hyny byddwch chwithau barod, canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y Dyn,' nad ydyw ar eu meddwl mwy nag 'Yn y dechreuad y creodd Duw y nefoedd a'r ddaear;' ond er ei fod yn wir, cofia nad ydyw yn wir y dylet ti fod yn foddlawn arno. Dylem wneud ymdrech i roddi rhywbeth teilwng yn y meddwl."
Medrai rybuddio yr afreolus, dyddanu y trallodrus, cynal y gweiniaid, a chryfhau a sefydlu yr amheus yn hynod o fedrus, a theimlid bob amser fod athraw doeth a meddyg profedig wrth y gwaith. Ar gychwyniad gwr ieuanc oddicartref i Lerpwl dywedai, " Y mae yno lawer o bethau newydd a llawer o bethau hardd a llawer o bethau gwerthfawr yn Lerpwl; ond nid oes yno ddim mor newydd, mor hardd, ac mor werthfawr â chrefydd yr Arglwydd Iesu Grist. Cadw dy olwg ar hyn yn nghanol y cwbl, a gofala na fydd dy grefydd di ddim yn tori i lawr yn ei phris yn nwndwr marchnad fawr Lerpwl." Clywais gyfaill yn dweyd ei fod yn cofio am dano yn cadw seiat yn hen gapel Bedford Street, Lerpwl, rhyw noson, rhwng dau Sabboth y digwyddai fod yn y ddinas yn gwasanaethu yr eglwysi. Nid oedd y cyfaill yn cofio ond yn unig fod yno gyfarfod rhyfedd iawn. Llefarai y pregethwr yn wresog a dywedai gydag eneiniad neillduol, "Os oes yma ddail surion, y mae yr Oen yn y canol." Torodd allan yn orfoledd mawr trwy y lle.
Bu yn pregethu ac yn cyflawni y gwaith bugeiliol yn nglŷn âg eglwysi Penmachno am flynyddoedd lawer yn ffyddlon a llafurus heb yr un geiniog o gydnabyddiaeth, a theimlai, tra yr oedd y fasnach a'r ffarm ganddo, na ddylasai gymeryd arian yr eglwysi am eu gwasanaethu. Er hyny, yr oedd yn credu yn gryf fod ymryddhau oddiwrth ofalon bydol, ac ymroddi i waith y deyrnas, yn ddyledswydd ar weinidog wedi ei ordeinio i'r gwaith. A pha amcan sydd mewn ordeinio dyn gan eglwys Crist i fasnachu ac i ffarmio?
Ar ol ei ordeiniad dwyshaodd y syniad hwn; ac yn ngrym gwres y diwygiad, pan yr oedd mor llawn o ysbryd pregethu, penderfynodd roddi pobpeth i fynu ac ymroddi i'r gwaith o bregethu, yr hyn yr oedd ei feddwl yn gogwyddo tuag ato er's rhai blynyddoedd bellach. Gwnaeth ei feistr tir ei oreu i'w atal, a chynygiodd y tir iddo am yr ardreth a farnai ef oedd gymhwys, os oedd yn ystyried y swm a delid ganddo yn ormod; ond yr oedd wedi gosod ei feddwl ar ymryddhau.
Rhoddwyd y cwbl i fynu yn Nghalangauaf y flwyddyn 1860. Fel hyn y dywed ef ei hun ar hyn:—"Arosasom hyd Galanmai y flwyddyn ganlynol i edrych o amgylch am rywle i fyned, a rhywfodd i Gorwen yr aethom. Yr oedd yno dŷ i'w gael, ac amryw o gyfeillion yn galw am i ni ddyfod yno, er nad oedd galwad ffurfiol gan yr eglwys i mi. Aethom yno â chwech o blant megys ar haner eu magu. Anturiaeth fawr oedd hon; ond gwnaethom hi yn y grediniaeth, os oedd yr Arglwydd wedi meddwl am i mi bregethu, mai hyny a ddylaswn ei wneud; a chan y cefais brofiad nad oedd yn bosibl trin y byd, a chyflawni gyda gweinidogaeth yr efengyl hefyd i bwrpas, teimlwn mai fy lle oedd rhoddi y byd heibio ac ymddiried yn yr Arglwydd am foddion cynaliaeth i mi a'm teulu. A'n cred oedd y byddai chwech neu wyth mlynedd yn brawf ar ein gweithred, naill ai y byddwn wedi methu yn fawr a rhyfygu i wneud fel y gwnaethum, neu ynte y byddwn yn ddedwydd yn y weithred."
Gosododd ei law ar yr aradr ac nid edrychodd yn ol, ac yr oedd yn cael y fath gysur yn y gwaith fel y mae yn sicr na theimlodd yr iâs wanaf o edifeirwch erioed oherwydd y cwrs a gymerwyd ganddo. Acer na fu yn fugail ffurfiol ar eglwys neu eglwysi am y gweddill o flynyddoedd ei einioes, ni chafodd y fugeiliaeth erioed bleidiwr mwy gwresog nag ef. Anogai bregethwyr ieuanc, os gwelai gymhwysderau ynddynt, i benderfynu ymroddi i waith mawr y weinidogaeth a pheidio meddwl o gwbl am edrych yn ol. Fel hyn y dywedai wrth un gwr ieuanc ar ddechreuad ei yrfa weinidogaethol:—" Ymroddwch i bregethu a pheidiwch a phryderu. Peidiwch a myned i bysgota hefyd. Pan yr aeth y dysgyblion oddiwrth eu gwaith at eu hen rwydau heb yr Iesu, methiant a fu yr hanes. Ni ddarfu iddynt ddal dim er treio. Gwelais amryw o bregethwyr yn myned i bysgota, ond nis gwelais yr un ohonynt yn dal dim." Yna nodai lu o bregethwyr oedd wedi myned i geisio trin y byd ac yn aflwyddo, neu, yn ol ei ddameg ef, i bysgota ond yn methu dal dim.
Dywedai wrth un arall oedd yn dechreu pregethu ac yn myned trwy y dosbarth gydag ef ac yn cwyno iddo gael oedfa galed yn un o'r lleoedd yn y cylch :"Wel, ie, ti gei lawer oedfa galed, a phaid a disgwyl yn amgen; ond pregethwr a fyddi di bellach, neu bregethwr wedi methu. Yr wyt ti wedi rhoddi cam nas gelli ei roddi yn ol yn anrhydeddus." Byddai yn hynod o dyner wrth, a chalonogol i, wŷr ieuainc ar ddechreuad eu gyrfa bregethwrol. Pan ar y daith yn y dosbarth gyda'r brawd ieuanc y cyfeiriwyd ato, gan y gwyddai nad oedd gan y brawd ieuanc ond tair pregeth, er mwyn bod yn gefnogaeth iddo cadwodd yntau ei hunan ar dair pregeth drwy yr holl gylch; ond byddai ef, fel rheol, yn hoff iawn o amrywio a dwyn i mewn bregethau newyddion yn barhaus. Yr oedd yn barod i fyned o'i ffordd er mwyn cynal y gwan ac amddiffyn yr ieuanc. Y tair pregeth oedd ganddo yn y daith hono oeddynt ar y geiriau—" Ac Obadaiah oedd yn ofni yr Arglwydd yn fawr;" "Oherwydd nad adnabuost amser dy ymweliad;" ac "Oblegyd ni a gawn ei weled ef megys ag y mae."
Cynghorai frawd ieuanc arall i wneud pregethau newyddion o hyd, ond am iddo fod yn ofalus yn mha le i dreio pregeth newydd y tro cyntaf. "Mi sum i," meddai, " yn treio cryn lawer o bregethau newyddion yn C, ond methiant bob tro. Byddent yn gwywo ac yn trengu gerbron y gynulleidfa, ac mi gleddais rai o'r pregethau goreu yno heb obaith adgyfodiad mwy." Parhai yn amddiffynwr dewr a gwrol i ddynion ieuainc ar hyd ei oes, a chaed gan luaws ohonynt ynddo gysgod cryf a diddos i lechu hyd nes yr elai llawer aflwydd heibio. Yr oedd Mr. Morgan, Dyffryn, ac yntau yn dadleu mewn rhyw Gyfarfod Misol yn nghylch cymhwysderau dau ddyn ieuanc oedd yn codi i bregethu ar y pryd. Ymddengys fod Mr. Morgan yn nodi rhinweddau un ohonynt ac yn son am ddiffygion y llall, ac yn dywedyd fod y naill yn rhy annibynol o lawer tra y ceisiai y llall wrando yr hyn a ddywedid wrtho a'i wneud. "Ie,” meddai yntau, "pe bawn i yn dweyd 'Agorwch y ffenestr,' fe ddywedai yntau ar fy ol; ond dyna ei ddrwg ef. Dyn a dýr lwybr iddo ei hun yn y byd yma yw y goreu."
Er maint ei ofalon bydol pan yn Mhenmachno, fe lafuriodd lawer mewn darllen a meddwl. Clywais ŵr, a fu ar daith yn Ngwlad Canaan, yn dweyd ei fod yn gofyn cwestiynau iddo ef yn nglŷn â daearyddiaeth y wlad hono a barent syndod iddo oherwydd eu manylwch, ac oeddynt hefyd yn arddangos craffder mawr a gwybodaeth drwyadl am arferion ac arwynebedd y wlad. Gofynai y gŵr hwnw iddo pa fodd y cyrhaeddasai y fath fanylwch yn ei wybodaeth yn y cyfeiriad hwn. Atebai yntau ei fod yn y Parc, gerllaw y Bala, pan yn lled ieuanc yn pregethu gyda Dr. Edwards, noson gyntaf y Cyfarfod Misol, ac iddo wneud rhyw gamgymeriad yn nglŷn â daearyddiaeth ac arferion Gwlad Canaan, ac i'r doethawr parchedig ddweyd hyny wrtho yn niwedd yr oedfa. Penderfynodd ddarllen pob llyfr a gaffai ar y pwnc, a chyrhaeddodd wybodaeth fanwl a thrwyadl trwy gyflawni y bwriad hwnw. Wrth adrodd yr hanes, dywedai yn chwareus, "Dyna gymaint o athrofa a gefais yn fy oes."
Ymroddodd i lafurio wedi gadael Penmachno, a daliodd ati hyd ddiwedd ei oes, fel yr oedd ei ysbryd yn cael ei gadw yn dirf ac yn iraidd, a'i bregethau yn afaelgar iawn; ond fel David Davies, Penmachno, yr adnabyddid ef gan luaws ar hyd ei oes. Nid oedd dim ag y teimlai fwy o'i herwydd nag i rywun awgrymu ei fod yn pregethu yn well yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth nag yn y blynyddoedd diweddaf. Mewn Cyfarfod Misol yn Maentwrog yn mhen blynyddoedd wedi iddo ef symud i'r Abermaw, ymddyddenid â blaenoriaid a ddewiswyd gan yr eglwysi. Yr oedd yn eu plith frawd o Drawsfynydd, ac wrth adrodd hanes ei grefydd, dywedai fel hyn :"Eglwyswr oeddwn i hyd nes i mi fyned ar noson waith i oedfa a gynelid mewn ffarm gerllaw fy nghartref, a Dafydd Dafis o Benmachno yno yn pregethu. Ni fum i byth yr un fath ar ol y noswaith hono." Rhoddid cryn bwyslais ganddo hefyd, y mae yn ymddangos, ar Benmachno. Yn mhen rhai blynyddoedd ar ol hyn yr oedd yntau yn pregethu yn agoriad capel Trawsfynydd, ac mewn hwyl ar ganol pregethu dywedai: -" Y mae yma rai ohonoch yn meddwl fod Dafydd Dafis, Penmachno, yn well pregethwr na Dafydd Dafis y Bermo. Na, y chwi oedd yn well gwrandawyr y pryd hwnw."
Cof genyf glywed am y Parch. John Jones, Penmachno, ac yntau mewn Cyfarfod Misol yn Llidiardau, gerllaw y Bala. Ac am chwech o'r gloch y noson ddiweddaf, rhoed y ddau i bregethu gyda'u gilydd, a chafwyd oedfa annghyffredin o hwylus. Yr oedd efrydwyr y Bala wedi eu dal gan syndod, a phawb mewn teimlad a hwyl trwy y capel, ac yn eu plith yr oedd un hen wraig, yr hon a gafodd gymaint o ddwfr o dan ei llestr, fel yr oedd yn methu peidio a gorfoleddu wedi dyfod allan, ac ebai un gwr ychydig oerach na'r lleill wrthi, "Tewch, tewch bellach, modryb bach." "Ah," ebai hithau, "nid oes dim modd peidio diolch am Benmachno a phen Calfaria; ni bu y fath ddau Ben mewn bod."
Yr oedd y blynyddoedd 1856 ac 1857 yn flynyddoedd ag y cafodd Cymru grefyddol golledion mawrion yn marwolaeth pregethwyr adnabyddus a defnyddiol iawn. Yn y flwyddyn 1856 y bu farw John Williams, Llecheiddior—gwr ag y bu mellt a tharanau ei weinidogaeth yn peri i'r bobl fwyaf anystyriol ddychryn gan arswyd; John Jones, o Wrecsam—gwr o ddoniau hyfryd ac o ymddangosiad tywysogaidd; David Elias, o Bentraeth, Mon—ceidwad yr athrawiaeth yn y cyfnod hwnw; a Chadwaladr Owen, o Dolyddelen, yr efengylydd enwog—un ag y bu ei weinidogaeth fel gwlaw maethlawn yn disgyn ar y wlad am flynyddoedd. Yn y flwyddyn 1857 cwympodd i'r bedd rai eraill ag y mae eu henwau yn aros yn mhlith enwogion ein gwlad—dynion a adawsant eu hol ar Gymru, yn nglŷn â'r Methodistiaid, mewn gwahanol gylchoedd. Gallem enwi John Jones, o Dremadog—gwr o ddoniau chwim a phert, ac yn gwir ofalu am y deddfau a'r barnedigaethau; William Roberts, o Glynnog—un cadarn yn yr Ysgrythyrau ac a fawr hoffai geisio datod seliau y llyfr; a John Jones, o Dalysarn—pregethwr y bobl, yr hwn a greodd gyfnod newydd yn hanes pregethu Cymru.
Yr oedd y diweddar Barch. Cadwaladr Owen a gwrthrych yr adgofion hyn yn gyfeillion agos a chu wedi bod yn byw ar hyd y blynyddoedd yn y ddwy ardal agosaf i'w gilydd; a phan y cwympodd Cadwaladr Owen i'r bedd, fe deimlodd David Davies. i'r byw. Cymerai ran neillduol yn y gwasanaeth ar ddydd ei gladdedigaeth, fel y dywed yr hanesydd a ysgrifenai am yr amgylchiad i'r Drysorfa. Fel hyn yr ysgrifena:—"Ar ddydd Mercher, Mai 28, ymgynullodd tyrfa fawr Ο wahanol ardaloedd a siroedd i hebrwng ei gorph i'w fedd. Dechreuwyd y gwasanaeth wrth y ty gan y Parch. Robert Roberts, Llanrwst; yna pregethodd y Parch. David Davies, Penmachno, ar 2 Bren. ii. 12: 'Fy nhad, fy nhad, cerbyd Israel a'i farchogion,' a gwnaeth sylwadau hynod o effeithiol a phriodol at yr amgylchiad."
Yn ystod y blynyddoedd diweddaf y bu yn Mhenmachno, fe deithiodd lawer i Gymdeithasfaoedd a chyfarfodydd pregethu yn Ngogledd a Deheudir Cymru. Yr oedd ei ddoniau hyfryd a phoblogaidd yn peri fod y galwadau arno yn cynyddu yn barhaus; ac y mae yn ddiau iddo gael ei ddefnyddio yn offeryn i ddychwelyd llawer o bechaduriaid at yr Arglwydd. Er ei fod yn pregethu yn fynych iawn mewn Cymdeithasfaoedd, nid oes genym hanes am dano yn cael ei benodi i swydd o fath yn y byd yn nglŷn â'r Gymdeithasfa hyd flynyddoedd diweddaf ei oes. Paham? Ai damwain oedd hyn, ynte a oedd rhyw gylch cyfrin yn perthyn i lys uwchaf y Cyfundeb nad oedd ond yr etholedigion yn ei gyrhaedd? Ond, er y cwbl, ni chlywid ef yn cwyno; ac yr oedd ganddo ormod o gariad at bregethu i roddi ei "feddwl ar uchel bethau" y Cyfundeb yn y ffurf o ddeddfu a gosod mewn swyddogaethau. Fe gafodd y breintiau hyn yn weddol helaeth yn mlynyddoedd diweddaf ei fywyd, a dangosodd fod ganddo fedr i wneud y defnydd goreu ohonynt pe y cawsai hwynt ar adeg gynarach ar ei oes, Efallai fod yr esgeulusdra hwn yn codi ohono ef ei hun—fel yr awgrymwyd eisoes—y diffyg awydd naturiol oedd ynddo am swyddau, ac hefyd diffyg ymddiried ynddo ei hun fel ag i'w wneud yn un galluog i ymwthio i'r blaen.
Yn mis Mai, yn y flwyddyn 1861, yr ymadawodd i Gorwen, ac yr oedd ei ymadawiad yn amgylchiad o dristwch du a galar dwfn i'r gymydogaeth a'r ardaloedd yn y cylch lle yr oedd mor ddefnyddiol a'i wasanaeth mor dderbyniol a chymeradwy. Pan yn ysgrifenu ychydig o adgofion am Benmachno, yn ol cais cyfaill o'r lle, yn mhen llawer o flynyddoedd ar ol hyn, fel hyn y dywed:—" Gwelais lwyddiant mawr ar yr achos. Dau neu dri a phedwar ugain oedd nifer yr aelodau eglwysig pan y dechreuais bregethu, a phan yr oeddwn yn ymadael yr oeddynt dros bedwar cant. Un eglwys oedd y Llan a'r Cwm pan ddechreuais; ac nid oedd eglwys wedi ei sefydlu yn Ebenezer hyd ar ol fy ymadawiad. Gwnaethum amryw o gamgymeriadau mewn achosion o ddysgyblaeth; ond, debygaf, yn ngwydd y nefoedd, mai camgymeriadau oeddynt ac nid anonestrwydd na derbyn wyneb."
Bu yn haelionus iawn hefyd at wahanol achosion. Meithrinodd y rhinwedd hwn ar hyd ei oes, ac yr oedd bob amser yn barod i gyfranu yn ol ei allu. Pan yn trin y byd ni chai llwyddiant ddyfod i mewn na fyddai yn gweled rhyw ddrws i'w ollwng allan mewn haelioni crefyddol. Yr oedd casgliad gerbron tuag at dalu dyledion y capelau, ac ymddengys ei bod yn flwyddyn lled gnydfawr ar yr amaethwyr, a chofus gan amryw am dano yn traethu yn ddoniol a gwresog ar y pwnc ar nos Sabboth:—"Y mae y Brenin Mawr," meddai, "yn ein bendithio yn hynod, a dylai pawb ohonom gydnabod hyny mewn diolchgarwch a rhoddi, fel y llwyddodd y nefoedd ni, i gael yr Iesu yn rhydd o garchar y ddyled yma. Y mae y flwyddyn wedi ei choroni â daioni, a'r ydlanau wedi eu gorlenwi. Beth a fyddai i ni roddi pob tâs sydd oddiallan i'r ydlanau tuag at hyn. Marciwn y teisi sydd oddiallan fel eiddo yr Arglwydd." Yr oedd ganddo dri felly y flwyddyn hono, a rhoddodd hwy trosodd at ddyledion y capelau.
Nid oedd y drwg o ariangarwch a chybydd—dod yn cyffwrdd ynddo. Ac ar brydiau byddai yn annyoddefol o hallt wrth gybyddion. Cofir am dano un tro mewn Cyfarfod Misol yn cymhell y bobl yn ddoniol i roi at ryw achos da, ac yn adrodd hanesyn am hen frawd llaw—gauad a adwaenid ganddo :—" Yr oedd ganddo bwrs mawr lledr," meddai, "i gadw ei aur, a chludai hwnw gydag ef i bob man, a gorweddai a'i ben arno bob nos. Pan yn croesi clawdd ar ei ffarm unwaith collodd y pwrs, ond cyn myned onid ychydig latheni oddiwrth y lle, canfu ei golled, ac aeth yn ol yn ebrwydd i chwilio am ei drysor, pryd, er ei ddychryn, y gwelai gi melyn mawr wedi cael y blaen arno ac yn rhedeg ymaith a'r pwrs yn ei safn." Desgrifiai y ci melyn mawr, yn rhedeg ar draws y ffriddoedd, a phwrs a chalon y cybydd yn ei feddiant, ac yntau yn ei ymlid ac yn methu ei oddiweddyd hyd nes yr oedd y gynulleidfa fel yn y fan a'r lle yn canfod yr olygfa gyffrous. "Gwelais lawer o ddynion," meddai, "yn arbed mwy nag a weddai iddynt gan gyfyngu ar deyrnas y Gwaredwr, yn gorfod rhedeg yn aflwyddianus ar ol rhyw gi melyn mawr i geisio gwaredu eu heiddo o'i safn."
PEN. V.—Ymryddhau oddiwrth ofalon bydol.
Ei ymsefydliad yn Nghorwen.—Cael ei alw yn Fugail ar yr Eglwysi.—Yr achos yn llwyddo.—Ei boblogrwydd.—Eglwys Ucheldref.—Dilyn y Cyfarfod Misol.—Y Gronfa Gynaliaethol.—Pregethu yn y Cyfarfodydd Misol.—Cyfarfod Misol Cerygydruidion.—Cyfansoddi pregethau newyddion.—Ei ddychymyg bywiog. Pregethu yn y Pant.—Ei ddull cyffredin y pryd hwn.—Pregeth y wialen a'r ffon.—Cymdeithasfa Caernarfon.—Cyfnewid yn ei deimladau.—Addunedau a gweddiau.
NID oes ond ychydig o hanes y tymhor y bu yn Nghorwen ar gael. Arosodd yno am dair blynedd, ac er nad oedd wedi symud yno, fel y sylwyd, mewn atebiad i alwad ffurfiol yr Eglwys, eto ni bu yno ond am ychydig o amser nad oedd eglwysi Ucheldref a Llansantffraid wedi rhoddi galwad ffurfiol a rheolaidd iddo i'w gwasanaethu. "Yr oedd gwasanaethu yr eglwysi hyn," meddai, "yn hyfrydwch calon genyf, a theimlwn fod y gwaith yn fath o nefoedd ar y ddaear imi; ond nid oedd y Cyfarfod Misol wedi gwneud un sylw o'm dewisiad, nac, hyd y gwyddwn, yn bwriadu gwneud; ac er nad oedd hyny yn flinder i mi, yr oeddwn yn fwy rhydd i symud ar y cyfrif hwnw."
Ymddengys fod ei wasanaeth yn ystod y tair blynedd hyn yn cael ei werthfawrogi yn fawr gan y bobl yr oedd yn troi yn eu mysg, a'r nefoedd yn ei arddel yn amlwg. Yr oedd y gynulleidfa yn Nghorwen wedi cynyddu yn ddirfawr. Dywedai un fod digon o le yn y capel pan y daeth ef yno, a lluaws o eisteddleoedd i'w gosod; ond cyn iddo ymadael fod yr addoldy yn rhy gyfyng i gynwys y gynulleidfa, a chymaint o ymgiprys am eisteddleoedd, fel y cynygiai un dyn bum' punt am gymeriad rhyw eisteddle yn y capel. Rhoddid pris uchel ar ei wasanaeth gan y tair eglwys yr oedd mewn cysylltiad bugeiliol â hwy; ac hefyd yr oedd aelodau y Cyfarfod Misol—er, fel y dywedai ef, na wnaed un sylw ffurfiol o hyny yn llawenychu yn fawr yn y briodas. Yn mhen ychydig o ddyddiau ar ol ei alw gan eglwys Ucheldref, cyfarfyddai y diweddar Dr. Edwards a Mr. Robert Edwards, un o flaenoriaid y lle. Adroddai y blaenor wrth Dr. Edwards am y symudiad pwysig oedd newydd gymeryd lle yno, ac meddai yntau, "Wel, yn wir, yr ydych wedi dal a rhwymo lefiathan." Byddai y pryd hwn yn dilyn y Cyfarfod Misol gyda chysondeb, a chymerai ran flaenllaw yn symudiadau y Cyfundeb yn y cylch.
Bu gan Gyfarfod Misol Dwyrain Meirionydd gynllun i gynorthwyo eglwysi gweiniaid yn y ffurf o Gronfa Gynaliaethol am luaws o flynyddoedd cyn i Gymdeithasfa y Gogledd fod yn ddigon goleuedig ac addfed i gychwyn trysorfa gynorthwyol ; ac wedi gweithio am dymhor hir gyda'r drysorfa gynorthwyol fe gydunir erbyn hyn yn ein plith mai ar linellau cronfa gynaliaethol y dylid symud yr egwyddor ar pa un y cynorthwyid yr eglwysi gweiniaid yn nghylch Cyfarfod Misol Dwyrain Meirionydd y pryd hwnw, a chynllun a weithiodd yn dra llwyddianus am flynyddoedd, hyd nes y llyncwyd yr ymdrech lleol i fynu gan symudiad cyffredinol Talaeth y Gogledd. Efallai na wyr llawer mai y Parch. David Davies ydoedd yr arweinydd yn nglyn â'r cynllun yn Nwyrain Meirionydd.
Yn yr adroddiad o hanes Cyfarfod Misol a gynaliwyd yn Nghorwen, Chwefror 3ydd a'r 4ydd, 1864, fe geir y cofnodiad a ganlyn:—"Darllenodd y Parch. D. Davies, Corwen, gynllun gyda golwg ar gynorthwyo eglwysi gweiniaid i gynal bugeiliaeth, yr hwn gynllun a roddwyd i fod tan ystyriaeth hyd y Cyfarfod Misol nesaf, pryd y bwriedir cael ymdrafodaeth arno." Yn y Cyfarfod Misol dilynol, yr hwn a gynaliwyd yn Llwyneinion, Chwefror 23ain a'r 24ain, gwnaed yr hyn a ganlyn:—" Ar ol darllen y cynllun cynygiedig penderfynwyd ar iddo gael ei ddwyn tan sylw yn y Cyfarfod Misol nesaf yn Rhydlydan; ac yn y cyfamser fod i swyddogion y gwahanol ddosbarthiadau alw cyfarfodydd i ymdrafod â hyn ac anfon tri o frodyr o bob dosbarth i gyfarfod yn Rhydlydan am un ar ddeg o'r gloch bore y dydd cyntaf o'r Cyfarfod Misol i'w benderfynu." Ac yn y cyfarfod hwnw bu y cynllun tan sylw, a chymeradwywyd ef yn unfrydol. Yr oedd ganddo y cydymdeimlad llwyraf ag eglwysi gweiniaid y cylch, ac ni cheid neb a ymroddai i'w gwasanaethu yn fwy ffyddlawn.
Byddai ei bresenoldeb yn Nghyfarfodydd Misol ei sir yn cael ei brisio yn uchel gan y gwahanol gymydogaethau, a threfnid ef yn fynych i bregethu ddwywaith yn yr un cyfarfod gan faint yr awydd i'w glywed; ond os na fyddai rhyw reswm anorfod dros drefniad felly, gwrthodai bregethu fwy nag unwaith o barch i'w frodyr. Yn fuan wedi ymsefydlu yn Nghorwen yr oedd yn pregethu am ddau o'r gloch yn Nghyfarfod Misol Cerygydruidion, ar ol gwr ieuanc oedd newydd adael yr athrofa, ac mewn tymher hynod o ddymunol. Chwareuai yn hapus iawn ar y geiriau—A phregethu edifeirwch a maddeuant pechodau." Ac meddai, "A phregethu,' 'A phregethu.' Dderfydd y gwaith ddim—'A phregethu.' Y mae rhywbeth yn y gair sydd wedi fy swyno—'A phregethu.' Y mae y navvies tua Chorwen acw yn gweithio, ond mi fydd eu job nhw wedi darfod yn union; ond yr ydwyf fi a 'mrodyr ieuainc yma yn bur gefnog. Ni dderfydd y gwaith ddim—A phregethu—A phregethu."
Llafuriai yn ymroddgar i wasanaethu eglwysi ei ofal yn mhob cylch, a pharotoai bregethau newyddion yn barhaus. Nis gallasai oddef y syniad am fyw ar yr un bregeth am amser hir; a phan y digwyddai gyfansoddi pregeth newydd ar hen destyn, byddai yn newydd, a byddai deall fod rhywun yn tybio mai yr hen ydoedd yn brofedigaeth lem iddo. Pan yn pregethu yn un o gapeli Lerpwl yn Nghymanfa y Sulgwyn yn ei flynyddoedd diweddaf ar "Noah yn adeiladu yr arch," dywedai cyfaill ar ddiwedd yr oedfa wrtho, " Y mae ugain mlynedd er pan y clywais y bregeth yna o'r blaen genych." "Na," meddai yntau, gydag ysgydwad arwyddocao! ar ei ben, "yr ydych yn methu. Ni chlywsoch chwi erioed o'r blaen mohoni. Nid oes ugain niwrnod er pan y gwnes i hona." Effeithiodd sylw y cyfaill arno yn fawr, a dywedai wrth frawd o bregethwr, "Onid oedd y dyn yn ddwl iawn, mewn difrif, yn tybio, gan fy mod yn pregethu ar yr un testyn ag a glywsai ugain mlynedd yn ol, mai yr un bregeth ydoedd? Y mae yn amlwg iawn nad oedd y dyn yn cofio dim ond y testyn."
Yr oedd yn cyfnewid llawer yn ei ddull o gyfansoddi ei bregethau ar wahanol gyfnodau ei oes. Tua'r adeg yr oedd yn Nghorwen, cyfansoddai ei bregethau heb raniadau o gwbl; ond byddai ar adegau eraill yn rhanu ei destyn, a byddai y rhaniadau a'r adraniadau mor lluosog ag eiddo rhai o'r hen Buritaniaid. Yn y cyfnod hwn pregethai braidd yn draethodol, yn ormod felly efallai i'w ddawn fywiog a phrysur ef. Pan y disgynai ar dėstyn a chryn lawer o fantais i'w ddychymyg i ddesgrifio ynddo y byddai yn ei elfen, a'r brofedigaeth fawr a gaffai yn fynych, ar brydiau felly, a fyddai cadw y ffrwyn yn dyn yn mhen ei ddychymyg nwyfus. Byddai y geiriau cryfaf yn barod at ei alwad yn y fan, a'r cydmariaethau mwyaf priodol yn ymryson am gael ei wasanaethu, ac fe gofir byth am nerth ei ddesgrifiadau gan bawb a glywsant ei bregethau ar " Yr annuwiolion yn methu sefyll yn y farn," "Arch Noah," "Y wialen a'r ffon yn nglyn cysgod angeu," " Yr ystorm ar y ddau dy," &c.
Byddai yn bryderus iawn ar ol ambell i bregeth ag y cerid ef ynddi gan ei ddychymyg gyda nerth rhag ofn y byddai wedi ei arwain yn rhy bell. Yr wyf yn cofio gweled pryder felly bron a'i lethu ar ol pregeth noson ddiweddaf cyfarfod pregethu y Pant, Penrhyn. Pregethai ar y Gwr Goludog a Lazarus. Yr oedd ei ddesgrifiad o'r Gwr Goludog yn marw ac yn cael ei gladdu, ac yn uffern yn codi ei olwg, yn mhlith y pethau mwyaf nerthol a byw a wrandewais erioed. Desgrifiai gystudd olaf Squire Rich—fel y galwai efe ef—yr ystafell orwych y gorweddai ynddi, y gweision oedd yn gweini arno, a'r danteithion oedd yn llenwi y byrddau o'i amgylch, a'r cyffro gyda'r meddygon enwocaf yn y wlad. Elai yn mlaen wedi hyny i roddi darlun byw o'r claddedigaeth—y ffyrdd yn cael eu llenwi am filldiroedd gan gerbydau a meirch a gwŷr traed, a'r bobl gyffredin yn synu, ac yn adrodd hanes y diwrnod am flynyddau, ac yn edrych ar ddiwrnod yr angladd fel diwrnod y byddid yn dyddio pethau yn y gymydogaeth oddiwrtho am gyfnod hir. Desgrifiai ef wedi hyny yn uffern, a'i drem anobeithiol a'i weddi ddiateb yn llefain am ddyferyn o ddwfr i oeri ei dafod. Gwaeddai ar uchder ei lais, "Beth oedd ar dafod y dyn? I oeri fy nhafod—I oeri fy NHAFOD." Yna disgynai i'r llais bass dwfn a feddai, gan ddweyd, "Ei gabledd sydd yn ei llosgi. Ei lwon a'i regfeydd sydd yn dân ysol ac yn fflam anniffoddadwy," hyd nes yr oedd yr holl gynulleidfa yn gwelwi mewn braw ac yn crynu gan arswyd ger ei fron. Y mae yn sicr fod rhai yn y nefoedd heddyw a argyhoeddwyd yn yr oedfa hono. Yn eu plith yr oedd hen chwaer nad oedd dim gras ar ei gwefusau cyn hyny. Adnabyddid hi yn y gymydogaeth fel un yn meddu tafod halogedig iawn, a byddai yn anhawdd ganddi lefaru haner dwsin o frawddegau heb eu llychwino â'r llwon a'r rhegfeydd mwyaf arswydus. Ond yn yr oedfa hono yn y Pant fe'i daliwyd hi, pan yr oedd rai blynyddau dros bedwar ugain oed, a chafodd y fath dro nes synu pawb oedd yn ei hadwaen. Adferwyd iddi wefus bur, a bu fyw am rai blynyddoedd wedi hyny i roddi tystiolaeth sicr o'r cyfnewidiad mawr a rhyfedd oedd wedi cymeryd lle, a byddai hi ei hunan yn son llawer am yr oedfa hono ac yn dweyd, "Yr adeg yr oeddwn i mewn tywydd mawr."
Yr oedd yn amlwg fod y fath doraeth o humour ynddo a'r fath fywiogrwydd yn ei ddychymyg, fel mai hunanymwadiad mawr ynddo ydoedd ymatal rhag gwneud defnydd helaeth ohonynt ; ac ar rai adegau, pan y cynhyrfid ef—fel ar yr adeg a nodwyd—ac yr ymollyngai i ddefnyddio y ddawn oedd yn feddiant mor naturiol iddo, byddai yn pryderu llawer rhag y byddai wedi gwneud mwy o ddrwg nag o les.
Er mai ei duedd y cyfnod y bu yn Nghorwen ydoedd cyfnewid ei ddull o bregethu ac ymatal oddiwrth yr hyn oedd yn naturiol i'w ddawn, fe gyfansoddodd ac fe draddododd y pryd hwnw rai o'r pregethau ag y mae mwyaf o son am danynt hyd heddyw. Un ohonynt oedd pregeth oddiar y drydedd Salm ar hugain. Gadawodd argraph na ddilëir mohono ar feddyliau canoedd a fu yn ei gwrando, ac adnabyddir hi yn mhlith ei hen wrandawyr fel Pregeth y wialen a'r ffon." Y flwyddyn 1863 ydyw y dyddiad sydd wrthi yn ei lyfr pregethau, ac yn Nghymdeithasfa Caernarfon, yn mis Medi y flwyddyn hono, ar nos Fercher yn nghapel Engedi, yr oedd yn pregethu, ar ol y Parch. R. S. Scott—un o gynrychiolwyr y Presbyteriaid—a chafodd oedfa rymus iawn ar "Y Bugail gyda'i wialen a'i ffon." Desgrifiai dywyllwch a goleuni y glyn i'r praidd. "Glyn dwfn ydyw angeu, ac y mae yn y geiriau hyn swn angau yn ei waethaf. Dychymygir am dano gan y Salmydd yn ei ffurf fwyaf ofnadwy—ar hyd glyn, nid ar ei draws, nid croesi rhyw gornel ohono, ond ar ei hyd. Ond yn nghwmni y Bugail y mae y glyn, er ei ofnadwyaeth, yn myned nid yn unig yn ddiberygl ond yn fangre cysur a dyddanwch." Chwareuai gyda'i oslef fain, dreiddgar ar y gair "cysgod." Dim ond cysgod angeu yn y glyn a gwialen a ffon y Bugail yn cysuro —y wialen i gyfrif y defaid a'r ffon i gadw y bwystfilod draw. Fe'u gwelir trwy y peryglon o dan eu cyfrif ac heb eu cyffwrdd i'w niweidio gan un gelyn." Yr oedd yr oedfa hon yn un o'r pethau mwyaf gorchfygol a gaed yn y Gymdeithasfa.
Yn y blynyddoedd hyn darllenai lawer, ac ysgrifenai bregethau newyddion bob cyfle a gaffai; ac er ei fod yn mwynhau ei ryddid oddiwrth ofalon y ffarm a'r masnachdy, ac yn ymroddi i wasanaethu yr Arglwydd Crist, eto, ar rai prydiau, ymddengys ei fod yn yr ymdeimlad o'i wendid a'i annghymhwysder i orchwyl mor bwysig yn dueddol i ymollwng mewn digalondid. Yr oedd cymaint o aflonyddwch yn ei feddwl a chyflymdra yn ei natur fel yr oedd yn agored iawn i gyfnewidiadau tra sydyn yn ei dymher a'i brofiad, a byddai y cyfnewidiadau, fel rheol, yn rhai mawrion iawn. Ymollyngai i lawr weithiau i'r dyfnderoedd, ac ymgodai drachefn yn ebrwydd i'r uchelderau; ond yr oedd ei ysbryd crefyddol dwys a dwfn yn amlwg yn y dyfnder a'r uchder. Cydnabyddai yr Arglwydd bob cam o'r llwybr, pa un bynag ai i lawr yn ngwaelod y glyn dwfn y rhodiai ai ynte ar gopa y mynydd uchel y byddai. "Yn nghadernid yr Arglwydd" yr oedd yn cerdded i fynu ac i lawr.
Ysgrifenodd rai gweddiau byrion ac addunedau dwysion sydd yn dangos yn amlwg yr awyrgylch yr oedd yn byw ynddi. Y mae yn amlwg nad oedd yn bwriadu i neb gael golwg ar yr addunedau a ysgrifenwyd ganddo o dro i dro, ond ei fod yn eu cadw at ei wasanaeth ei hun, er hyny, y mae yn anhawdd ymatal rhag dodi rhai ohonynt yn y Cofiant. Buasai gwybod yr amgylchiadau neillduol yr oedd ynddynt pan yn ysgrifenu y myfyrdodau dirgel hyn yn ychwanegu llawer at eu dyddordeb a'u gwerth. Yn niwedd llyfr a gynwys gofnodion o'i bregethau fe geir yr hyn a ganlyn wedi ei ysgrifenu:—
GWEDDI AC ADDUNED.—Tach. 4ydd, 1863.
Fy Arglwydd Dduw a Thad yr Arglwydd Iesu Grist. Mae dy bobl yn rhoddi digon o waith i mi, ond yr wyf yn methu a'i wneud. Yr wyf yn METHU, a methu a wnaf oni chaf nerth newydd genyt Ti. Dyro i mi yr hyn sydd yn Dy wirionedd, "Ysbryd nerth, cariad, a phwyll." Yr hyn a roddaist i'th weision gynt, ac yr wyt yn ei roddi yn bresenol. Dyro hyn i minau, O Arglwydd. Dyro i mi y ffafr yn mhrydnawn fy mywyd. Cyfoded haul arnaf, a disgyned ei oleuni a'i wres arnaf yn y prydnawn i'm cymhwyso i ddefnyddioldeb mawr dros Dy enw. O! gwna fi yn ddefnyddiol. Yr wyf yn ymrwymo i'th wasanaeth, ac yn addunedu, yn Dy bresenoldeb, troi yr hen rwystr heibio yn hollol ac am byth trwy gymhorth dy Yspryd Di. Dyma fi yn darfod â'r eilun sydd yn drygu llawer. O Arglwydd, cyflawna fi â'r Ysbryd. Dysg, nertha, a chymhwysa fi trwy Dy Ysbryd, a hyn yn Iesu Grist dy Anwyl Fab.
Yr ydym wedi rhoddi y weddi a'r adduned i lawr air am air fel yr ysgrifenwyd hwy ganddo. Y mae yn debyg iddo gael adgyfnerthiad trwy y cyfamod hwn.
Yn mhen y mis ar ol hyn ysgrifenodd gyfamod drachefn, wedi ei ddyddio a'i arwyddo fel y canlyn:
Rhag. 3ydd, 1863. —Yn gymaint a'm bod wedi dyoddef cymaint oddiwrth y demtasiwn i ymdebygu i rhyw un o'm brodyr mewn dull a dawn a myfyrdod, yr wyf yn dymuno, trwy râs fy Arglwydd Iesu Grist, i ymgyfamodi â Duw na bydd i mi amcanu at ddilyn nac ymdebygu i neb ond Efe, a dilyn cyfarwyddyd ei Ysbryd ef yn mhob peth. Ac yr wyf yn dymuno ymddiosg oddiwrth bob ffurf ond yr hon y'm ffurfiwyd ynddi gan Ysbryd yr Arglwydd, fel na wybyddo neb, wrth fy ngwrando yn llefaru, pa un ai Eglwyswr ai Ymneillduwr ydwyf. Ac felly cynorthwyed yr Arglwydd fi.—DAVID DAVIES.
Y mae yr amgylchiadau yr oedd ynddynt pan yn gwneud y cyfamod uchod yn hollol anhysbys. Efallai mai mewn canlyniad i air oddiwrth rhywun i'r cyfeiriad hwn yr ysgrifenwyd ef; neu ynte iddo, o dan ddylanwad ei ddychymyg aflonydd, gael ei arwain i dybio ei fod yn ymdebygu i rhywun, ac fod lliw yr enwad y perthynai iddo yn rhy gryf arno, neu hwyrach iddo fod yn gwrando ar rhyw frawd â'r peth hwn yn amlwg ynddo, ac iddo fyned i ofni yn fawr rhag syrthio i'r un amryfusedd ei hun. Beth bynag a allasai fod wedi bod yn achlysur o hyn, yr oedd ei ofnau am dano ei hun yn y peth hwn yn hollol ddisail, oblegyd nid oedd neb yn fwy annhebyg i'w frodyr nag ef; ac o ran ei ddawn a'i ddull, cydnabyddid ef gan bawb ar ei ben ei hunan. Plentyn natur ydoedd, nid oedd yn efelychiad o neb, ac nid ydym yn meddwl i neb erioed amcanu ei ddynwared yntau mewn llais nac ystum.
PEN. VI.—Symudiadau.
Galwadau arno i symud o Gorwen.—Ei anmharodrwydd i wrando arnynt.—Cyfarfod Misol Aberdyfi.—Cyfarfod Misol Maentwrog.—Galwad o'r Abermaw,—Myned i edrych Hendre'r Coed.—Cymeryd y tŷ.—Trefnu gydag Eglwys Abermaw.—Ei deimlad ar y pryd.—Ei brofiad wrth adgofio hyny.—Cyfarfod Misol Rhydlydan. Cyfarfod Misol Seion.—Yn llwyddianus a chymeradwy yn ei gylch newydd.—Llythyr cyflwyniad yn Aberllefeni.—Ei bryder. Ei weddiau a'i addunedau.—Yr achos yn llwyddo.Adeiladu Capel newydd,—Cymhorth Mr. Williams o Ddolgellau.—Adgofion Mr. Lewis Lewis.
PAN nad oedd wedi bod yn Nghorwen am ddwy flynedd, ceisid ei ddenu oddiyno. Yr oedd amryw o gyfeillion y pen gorllewinol i'r sir yn ei gymhell yn daer i symud i gylch y Cyfarfod Misol hwnw; ond gan ei fod wedi symud i Gorwen mor ddiweddar teimlai gryn anmharodrwydd i gydsynio â hyny am amser. Yn nghofnodau Cyfarfod Misol y pen gorllewinol o'r sir, yr hwn a gynaliwyd yn Aberdyfi Chwefror 2il a'r 3ydd, 1863, ceir fod yr hyn a ganlyn wedi cytuno arno:—"Penderfynwyd ein bod fel Cyfarfod Misol i anfon at y Parch. David Davies, Corwen, yn deisyf arno wrando ar y gwahoddiad a roddir iddo gan amryw o eglwysi yn perthyn i'r Cyfarfod Misol hwn i ddyfod i'w harolygu. Ymataliai y cyfarfod rhag rhoddi barn ar pa un ohonynt y byddai ddoethaf iddo wrando, ond taer erfyniai arno gydsynio â chais y naill neu y llall ohonynt."
Bu hyd wanwyn y flwyddyn ganlynol heb wrando ar eu cais. Fodd bynag, pan yr oedd yn Nghyfarfod Misol Maentwrog, yn ngwanwyn y flwyddyn hono, daeth y Parchn. Edward Morgan, R. Parry, a Griffith Williams, yn nghyda Mr. Williams, Dolgellau, ato i'r tŷ lle yr arosai; ac fel y dywed ef ei hun, "Ymosodasant o ddifrif arnaf, gan ofyn, 'A ddeuwn i ddim os byddai Rhagluniaeth yn fy symud?' Dywedais inau, 'Pe byddai Rhagluniaeth y nef yn fy symud y byddwn yn foddlawn i hyny.' Erbyn y bore ddydd Gwener canlynol yr oeddwn wedi derbyn pedwar o lythyrau yn fy nghymhell yn daer i ddyfod i'r Abermaw. Yn ngwyneb y cwbl, er nad oedd ynwyf fy hun awydd cryf i symud, a bod y teulu yn wrthwynebol i hyny, eto yr oedd rhyw deimlad dystaw o ofn yn fy mynwes rhag fy mod, trwy ddyfod i Gorwen i fyw, wedi argymhell fy hun ar yr eglwysi, er na chefais ond y caredigrwydd mwyaf a gefais yn y byd yma yn y tri lle. Y mae yn rhaid i mi ddweyd fy mod wedi cael mwy o diriondeb a serchogrwydd yn y tair eglwys hyn nag a gefais na chyn hyny nac wedi hyny. Efallai eu bod yn bobl oeddynt yn deall pa fodd i ddangos serch a charedigrwydd yn fwy na llawer. Dydd Sadwrn ar ol derbyn y llythyrau, anogai fy ngwraig i mi fyned ddydd Llun i Ddolgellau a'r Abermaw rhag ofn mai Rhagluniaeth yr Arglwydd oedd yn gweithio, ac y mynai Ef i mi symud. Aethom ein dau ddydd Llun i Ddolgellau, ac oddiyno i'r Abermaw ac i Hendre Coed—lle oedd yn cael ei gymhell i ni fyw ynddo. Daeth Mr. a Mrs. Williams, Dolgellau, gyda ni; a phan oeddym newydd gyrhaedd y lle ac yn dechreu edrych o amgylch, pwy a welem yn dyfod i fynu at y tŷ ond y Parch. Edward Morgan. Cymerwyd y lle am saith mlynedd, ac yr oeddwn inau yn llawnodi y cytundeb, a hyny braidd o'm hanfodd. Y noson hono, daeth Mr. Morgan i'r Abermaw i drefnu pobpeth gyda'r blaenoriaid a chyda'r eglwys, a chadarnhawyd y trefniant hwnw yn y Cyfarfod Misol cyntaf ar ol hyny. Fy nheimlad ar y pryd ydoedd y buasai yn dda genyf gael lle i gilio ond yn methu. Erbyn hyn er's blynyddau yr wyf yn gweled fod pobpeth yn iawn. Yr oedd rhoddi y ffarm i fynu a symud o Benmachno i Gorwen ac o Gorwen i'r Abermaw, yr wyf yn credu, o dan arweiniad y Golofn. Gallaf ddywedyd erbyn hyn wrthyf fy hun, 'Nid myfi ond Duw,' ac wrth bawb arall, 'Nid chwi ond Duw a'm hebryngodd' i'r man lle yr ydwyf, a hyny i'w amcan doeth a da ei hun. Mae ei ofal Ef wedi bod am danom yn fawr ac am y plant bob un fel y rhaid i ni gydnabod 'O'r Arglwydd y daeth hyn,' a diolch am gael ei wasanaethu; ond 'O, fy nghulni.' Rhyfeddu yr wyf i'r Arglwydd wneud mor fawr o was mor wan, eiddil, gwael, ac anffyddlon."
Yn nghofnodau Cyfarfod Misol Dwyrain Meirionydd, yr hwn a gynaliwyd yn Rhydlydan Ebrill 27ain a'r 28ain, 1864, ceir yr hyn a ganlyn:—"Dywedwyd gair gan y Parch. D. Davies, Corwen, ar ei ymadawiad o'r pen hwnw i'r pen arall o'r sir. Datganwyd teimladau dwysion iawn gan amryw o'r gweinidogion a'r blaenoriaid oherwydd colli Mr. Davies o'r pen hwn." Ac yn hanes Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd, yr hwn a gynaliwyd yn Seion yr ail a'r trydydd o Fai canlynol, ceir yr hyn a ganlyn:—"Penderfynwyd ein bod fel Cyfarfod Misol yn datgan ein llawenydd oherwydd dyfodiad y Parch. D. Davies, Corwen, i'n mysg, gan gredu y bydd ei lafur yn dra chymeradwy a defnyddiol, a'n dymuniad hefyd am ei fod yn gysurus a llwyddianus yn mhob ystyr." Cafwyd arwyddion amlwg yn fuan ar ol ei ddyfodiad i'r Abermaw fod y teimlad a ddatganwyd yn y Cyfarfod Misol yn cael ei sylweddoli yn llawn. Yn y Drysorfa am y flwyddyn 1865, ysgrifenai brawd o'r Abermaw ychydig o hanes yr achos a dywedai:
DYMUNEM ddatgan ein bod fel enwad crefyddol yn nhref Abermaw yn mwynhau cysuron anmhrisiadwy mewn cysylltiad â gwasanaeth y brawd anwyl a'r gweinidog ffyddlawn, y Parch. D. Davies. Mae y wedd siriol a'r cynydd eglur sydd i'w weled ar yr achos crefyddol gyda y Methodistiaid yma yn peri ein bod yn edrych ar ei ddyfodiad atom, nid fel peth mympwyol o'r eiddom ni, ond yn oruwchnaturiol, yn ofal y Jehofah Mawr am ei braidd bychan "yn rhoddi iddynt fugail wrth fodd ei galon." O'r Arglwydd y daeth hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni.
Nid wedi ei alw yn ffurfiol yn weinidog ar eglwysi y daeth yn bleidiwr i'r drefn hono, fel rhai o'i frodyr. Ceir ambell un ag y ganwyd ei sel fugeiliol y diwrnod y cafodd alwad at y gwaith ei hunan; ond yr oedd ef, pan nad oedd mewn cysylltiad bugeiliol âg eglwysi, yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth, yn teimlo ac yn datgan sel danllyd dros fugeiliaeth; ac yn ystod y blynyddoedd hyny yr oedd yn fugail egwyddorol ac ymarferol er nad yn ffurfiol, a bu yn gyfaill calon i fugeiliaeth eglwysig ar hyd ei oes. Ac megys mai nid ar adeg ei sefydliad ef ei hun yn fugail y ganwyd ei sel fugeiliol, felly nid pan y lluddiwyd ef, oherwydd amgylchiadau, i barhau yn y cysylltiad hwnw y tynodd ei sel ef dros hyny ei thraed i'r gwely i farw. Na, bu yn gyfaill calon i fugeiliaeth eglwysig trwy yr holl gyfnewidiadau.
Yn Nghyfarfod Misol Aberllefeni, Gorphenaf, 1864, darllenwyd y llythyr cyflwyniad hwn iddo oddiwrth Gyfarfod Misol y rhan ddwyreiniol o'r sir:
ANWYL FRODYR,—Yr ydym yn ystyried mai peth rheolaidd, er nad mor angenrheidiol, ydyw rhoddi llythyr o gyflwyniad i'n brawd anwyl, y Parch. David Davies, ar ei ymadawiad â ni fel Cyfarfod Misol, a'i ymsefydliad yna. yn eich plith chwi. Yr oedd colli Mr. Davies yn golled. y teimlir yn ddwys o'i herwydd genym fel Cyfarfod Misol, ac yn neillduol gan yr eglwysi ag yr oedd ef yn dwyn cysylltiad mwy neillduol â hwynt. Nid oes genym ond ymdawelu a goddef y brofedigaeth, gan, geisio credu ei fod tan arweiniad oddiuchod yn y symudiad hwn, a. gweddio am ei gysur ef a'i deulu yn ei drigfa newydd, a'i lwyddiant yn ngwaith yr Arglwydd yn eich plith.Yr eiddoch, dros y Cyfarfod Misol,
JOHN WILLIAMS, Ysgrifenydd.
Ymddengys ei fod ef yn dra phryderus yn nghylch y symudiad; ac yr oedd ei awydd i ymroddi i bregethu y pryd hwn yn angerddol a'i bryder yn ddwys iawn am fod o wasanaeth i deyrnas Crist.
Yr adeg hon ysgrifenai yn nechreu a diwedd un o'i lyfrau pregethau fel y canlyn:—"Gorphenaf y 4ydd, 1864, y dechreuais ysgrifenu y llyfr hwn, a Mawrth 14eg, 1865, y gorphenais ef. Mor ddiafael a di-awch ydyw fy mhregethau ynddo. Mae arnaf gywilydd ohonynt, ac y maent wedi bod yn aneffeithiol i ddychwelyd ond ychydig iawn o'r newydd i broffesu yr Arglwydd Iesu. Yr wyf wedi newid llawer ar fy nghynlluniau gyda phregethu, ac ymofyn â phawb, a darllen gwaith pob dyn a ysgrifenodd ar hyny, hyd y gellais eu cael; ac eto yr wyf yn teimlo fy hun heb ddechreu dim ond curo awyr. Er fy mod wedi bod yn pregethu am un mlynedd ar ddeg ar hugain, eto nid wyf ond dim a llai na dim. Y mae yn ffiaidd genyf fi fy hun wrth ystyried fod yr enw o bregethwr arnaf. O! bedyddied yr Arglwydd fi â'i Ysbryd bellach, fel y gallwyf ddechreu pregethu ei Anwyl Fab o ddifrif."
Ac yn niwedd yr un llyfr ysgrifenai fel hyn:—
Mawrth 15fed, 1865.—Dyma flwyddyn fawr wedi myned heibio. Blwyddyn i ddoe yr oedd fy mhriod a minau yn Hendre y Coed yma, gyda Mr. a Mrs. Williams, Dolgellau, a Mr. Morgan, Dyffryn, yn cymeryd y lle am saith mlynedd. Mae llawer o gyfnewidiadau wedi cymeryd lle er hyny. Ar yr un pryd, y mae genyf fi, a'm hanwyl deulu, achos diolch parhaus i'r Arglwydd am ei ofal am danom a'i amddiffyn drosom. Yn bresenol, y mae genyf y fantais fwyaf a fu genyf er pan wyf yn y byd i fod yn ddefnyddiol yn ngwasanaeth yr Arglwydd. Y mae genyf eglwys i ofalu am dani nad oes yr un fwy dymunol yn y byd, debygaf. Mae yma bob cyfleustra i fod o wasanaeth i'r Arglwydd Iesu; ond nis gallaf ddim heb ei gymhorth Ef. Y mae yn amser difrifol gyda chrefydd. Mae dylanwadau Ysbryd yr Arglwydd fel yn cilio, a'i bresenoldeb, mewn rhai ystyriaethau, yn llai amlwg; ac y mae yn amser i weddio a gweddio yn daer. O tywallted yr Arglwydd arnaf ysbryd gweddi ac ysbryd Ei holl waith. Diolch am yr addewid o dywallt ysbryd gras a gweddiau. Tywallted hwnw arnaf fi a'm teulu a'r eglwys yr wyf mewn undeb â hi, a holl eglwysi sir Feirionydd, fel y gallwn ddywedyd y dyddiau hyn, "Yr hwn a dywalltodd Ef arnom ni yn helaeth." Pe y deuai, fe'n hadnewyddid—"Fy Ysbryd I pan ddel." Dyma y cyhoeddiad mawr. O, deued Ef i lawr ar hyd y flwyddyn hon yn y seiat a'r cyfarfod gweddi a'r cyfarfod darllen, ac yn enwedig gyda phregethu yr efengyl. “O deued Ef i lawr." Dyma ddymuniad
DAVID DAVIES.
Cyflawnodd yr Arglwydd ei ddymuniad trwy amlygu Ei hun iddo a pheri llwyddiant ar yr eglwys. Ymdaflodd i'r gwaith yn ei holl ranau, a chafodd weled cynydd, nid yn unig yn rhif yr aelodau a'r gwrandawyr, ond hefyd mewn bywiogrwydd a nerth ysbrydol. Bu ei bregethu gafaelgar ac effeithiol yn foddion i ddeffro ac adnewyddu y saint ac i ddychwelyd llawer o bechaduriaid, a bu ei ofal a'i lafur fel arweinydd craff a bugail gofalus yn effeithiol i gadarnhau a threfnu yr achos yn mhob gwedd.
Cyn pen ychydig o fisoedd ar ol ei sefydliad yn yr Abermaw, daeth Cwmni Reilffordd y Cambrian i ymofyn am y capel, am fod yn eu cynllun y pryd hwnw i wneud y ffordd trwy y llanerch ar pa un y safai. A thrwy benderfyniad yr eglwys ac awdurdodiad y Cyfarfod Misol, gwerthwyd ef iddynt am y swm o £850, ac yr oedd yn rhaid ei gyflwyno i fynu i'r cwmni ar fyrder, fel nad oedd ganddynt ond ychydig o amser i gael y capel newydd yn barod i fyned iddo pan yn colli yr hen. Fodd bynag, ymroddodd i lafurio gyda hyn, a chafodd gymhorth gwerthfawr y diweddar William Williams, Ysw., Ivy House, Dolgellau—gwr ag oedd yn llygad i'r gwersyll yn Ngorllewin Meirionydd ar y pryd, ac un ag y mae ei goffadwriaeth byth yn fendigedig yn y cylch. Yr oedd yn wr o gynghor yn mhlith ei frodyr, ac yr oedd trwy ysbryd cariad a phwyll a mwyneidd—dra doethineb wedi enill iddo ei hunan radd dda; ac ni feddyliai bron yr un gymydogaeth yn y sir am wneud yr un symudiad pwysig heb yn gyntaf ymgynghori a Mr. Williams, a chael ei gyfarwyddyd. Bu felly yn yr Abermaw yn nglŷn â gwerthu yr hen gapel ac adeiladu yr un newydd; ond er derbyn cymhorth gwerthfawr a pharod gan Mr. Williams, nid oedd gweinidog yr eglwys yn llechu yn nghysgod hyny yn ddilafur, eithr yn hytrach ymroddai â'i holl egni i ddwyn pethau oddiamgylch yn y modd mwyaf manteisiol a threfnus gan deimlo y cyfrifoldeb oedd arno i'r Pen Bugail ac i'r ddeadell oedd o dan ei ofal.
Efallai mai priodol a fyddai rhoddi i mewn yn y fan hon yr adgofion a ganlyn, y rhai a ysgrifenwyd gan Mr. Lewis Lewis, un o flaenoriaid yr eglwys yn yr Abermaw. Dodir hwynt i mewn yma fel yr ysgrifenwyd hwynt gan yr ystyrir hwynt yn cynwys manylion dyddorol iawn:
"Yn mhlith y lluaws o fanau yr ymwelodd yr Arglwydd â hwynt yn niwygiad 1859 ac 1860—yr adfywiad a elwid ac a adnabyddid yn Ddiwygiad Dafydd Morgan—yr oedd yr Abermaw yn un ohonynt. Yr oedd achos crefydd gyda'r Methodistiaid Calfinaidd mor isel a digynydd yn y lle hwn yn ystod y blynyddoedd a ragflaenent yr ymweliad hwnw fel y dywedai rhai o weinidogion y sir ei fod yn rhwym o farw, a hyny yn fuan; ond mae yn llawenydd mawr i ni na sylweddolwyd eu hofnau, ac na chyflawnwyd eu prophwydoliaethau. Na, yr oedd Duw yn rhagweled pethau gwell am ei achos yn y dref hon; ac yn y blynyddoedd uchod fe gofiodd am ei waith mewn modd rhyfedd, ac yn y tymhor hyfryd hwnw, fe ychwanegwyd at yr eglwys laweroedd o rai a fyddant byth yn gadwedig.
"O adeg marwolaeth yr hen gynghorwr John Ellis, yn y flwyddyn 1810, hyd ddyfodiad y Parch. David Davies yma i fugeilio yr eglwys, ymddengys nad oedd ond dau o bregethwyr wedi bod yn byw yn y dref ar hyd yr holl flynyddoedd, sef y diweddar Barch. Rees Jones, o'r Felinheli, yn nghyda Mr. Thomas Williams, yr hwn ydoedd bregethwr ac ysgolfeistr. O ymadawiad yr olaf hyd adeg y Diwygiad, yr oedd amryw o flynyddoedd; a chan nad oedd genym yr un pregethwr i'n harwain yr oedd y gwaith o fugeilio ac ymgeleddu y praidd yn gorphwys ar y blaenoriaid; a phan y digwyddai rhywbeth annghysurus yn mhlith y frawdoliaeth fel ag i alw am ddysgyblaeth, naill ai y diweddar Barch. Humphrey Evans, Bwlch, neu ynte y diweddar Barch. Daniel Evans, Harlech, a anfonid gan y Cyfarfod Misol i dawelu yr ystorm ac i roddi yr ysbrydion i lawr.
"Oherwydd yr ychwanegiad mawr yn nifer yr aelodau yn adeg y Diwygiad, teimlai y blaenoriaid, oherwydd prinder amser yn nghyda diffygion eraill, nas gallasent gyflawni y gwaith pwysig o arolygu yr eglwys yn effeithiol. Yn eu cyfyngder penderfynasant gyflwyno yr achos i'r Cyfarfod Misol, ac mewn canlyniad i ymgynghoriad yno fe drefnwyd i'r diweddar Barch. Edward Morgan, Dyffryn, i fyned atynt yn fisol i'w cynorthwyo i ddwyn yr achos yn mlaen a chynal y cyfarfod eglwysig. Bu yntau yn ufudd i'r trefniant hwnw, a pharhaodd i ymweled â hwynt hyd nes y gorfu iddo, oherwydd llesgedd corph a mynych alwadau arno o gyfeiriadau eraill i roddi y gofal hwnw i fynu. Erbyn hyn, yr oedd teimlad cyffredinol yn mhlith y swyddogion a'r aelodau mai eu dyledswydd bellach ydoedd cael gweinidog sefydlog i fyned i mewn ac allan yn eu plith. Mewn Cyfarfod Misol a gynaliwyd yn y flwyddyn 1863, a Mr. Davies ar y pryd yn weinidog yn Nghorwen, yr oedd wedi ei wahodd i gymeryd rhan ynddo. Addawodd ddyfod, a chyflawnodd ei addewid. Yn y moddion cyhoeddus cafodd wedd wyneb ei Feistr mewn modd amlwg a neillduol iawn, yn enwedig pan yn pregethu oddiar Salm xxiii. Er fod yr adfywiad grymus erbyn hyn o ran y teimladau a ddangosid ynddo wedi oeri i raddau helaeth, eto arosodd ol a dylanwad y bregeth hon ar gof a buchedd lluaws am amser maith. Yr oedd yr argraph mor arosol fel y gwelwyd rhai yn mhen blynyddoedd wrth droi eu hwynebau i Dŷ Dduw yn dweyd mai yn yr oedfa hono y profasant rywbeth a arosodd gyda hwynt i'w hanesmwytho, hyd nes iddynt o'r diwedd benderfynu rhoddi eu hunain i'r Iesu ac i'w bobl; a chredwn yn sicr fod rhai yn y nefoedd heddyw sydd yn dyddio eu genedigaeth yn nheulu Duw o'r oedfa hono.
"Yn y flwyddyn 1863, fe ddechreuwyd ymohebu â Mr. Davies gyda golwg ar roddi galwad iddo i ddyfod i'r Abermaw yn weinidog ar yr eglwys. Rhoddodd y diweddar Barch. Edward Morgan bob cymhorth a chefnogaeth i ddwyn hyn oddiamgylch, a diau genyf mai iddo ef yn benaf y gellir priodoli y llwyddiant a fu ar y cais. Wedi cael atebiad cadarnhaol oddiwrtho, mawr oedd y disgwyliad bellach am ei weled yn ymsefydlu yn eu plith, ac yn mis Ebrill, yn y flwyddyn 1864, yr oedd peth mor newydd a dyeithr a dyfodiad gweinidog Methodistaidd i'r Abermaw yn ffaith yn mherson y Parch. David Davies. Bu yr eglwys ac yntau, yn flaenorol i'w symudiad, mewn pryder oherwydd methu a chael tŷ cymhwys iddo ef a'i deulu i fyw ynddo, ond yn ddisymwth fe symudodd Rhagluniaeth y rhwystr hwn o'r ffordd, fel y cafodd le dymunol a chydnaws a'i chwaeth yn Hendre Coed oddeutu milldir o'r dref—lle yr oedd tŷ cyfleus ac ychydig dir yn perthyn iddo, ac yno y bu ef a'i deulu am oddeutu pedair blynedd. "Blaenoriaid yr eglwys y pryd hwn oeddynt Mri. Edward Williams, Llwyngloddallt; Owen Williams, Gwastadagnes; John Timothy, Richard Jones, a David Williams, o ba rai y mae tri erbyn hyn wedi gadael yr eglwys filwriaethus ac ymuno â'r eglwys orfoleddus. Yn fuan, ychwanegwyd Mr. Owen Griffith atynt; a chan i angeu wneud bylchau yn rheng y swyddogion yn y flwyddyn 1870, fe ychwanegwyd tri eraill atynt, sef, Mri. William Williams, Lewis Lewis, a John Evans.
"Yn fuan ar ol dyfodiad Mr. Davies i'r cylch yr oedd y trigolion yn cynyddu, mewn canlyniad i ddyfodiad y reilffordd i'r lle, a chynyddodd yr eglwys yn gyfatebol, a chynhyrfid yntau gan awydd angerddol i gyflawni ei weinidogaeth yn gydwybodol i'w Feistr. Ymroddai i'r gwaith yn mhob cylch, mewn ymweled â'r cleifion a'r esgeuluswyr, mewn cynal cyfarfodydd wythnosol gyda'r plant a'r bobl ieuainc, &c.
"Gan fod y gwaith yn ymeangu ac yn trymhau ac yntau yn gydwybodol i'w gyflawni, teimlai mai ei ddyledswydd oedd symud i fyw i'r dref fel y gallai hefyd fyw yn nghanol praidd ei ofal, a gwnaeth hyny yn y flwyddyn 1868. Wedi gosod ei dŷ yn Hendre Coed mewn trefn, dechreuodd ar ei ddyledswyddau fel bugail yn ddiymdroi, ac yr oedd llwyddiant yr achos yn ei gylch newydd yn cael lle amlwg ganddo. Yn wir, dyrchafiad y preswylwyr mewn dysg, moesoldeb, a chrefydd oedd prif amcan a gwaith penaf ei fywyd, a bu ei ddyfodiad i'r Abermaw yn foddion i roddi bywyd a chyfeiriad newydd i bob cymdeithas o'r bron. Yr oedd ei gysondeb a'i brydlondeb yn moddion gras yn ddiarhebol, a bu hyny yn foddion i ddwyn eraill i wneud yn gyffelyb ac i ddilyn ei esiampl.
"Yr oedd newydd—deb neillduol arno fel gweddiwr, yr hwn a gadwodd hyd y diwedd. Byddai pobl ei ofal yn prysuro i'r cyfarfodydd yn brydlon pan y byddai ef yn gwasanaethu er mwyn ei weddiau. Gwelid ef weithiau wrth bregethu fel yn rhwyfo yn erbyn y llif mewn blinder; ond dywedid nad oedd byth arwyddion methu arno pan yn cyfarch gorsedd gras. Ai i'r nefoedd ar unwaith ac ar ei union. Un mawr diamheuol mewn gweddi ydoedd, ac y mae yn dra sicr mai dyma gryfder ei nerth ac mai dyma a'i cadwodd i oleuo mor danbaid am gynifer o flynyddoedd. Gan fod yn yr Abermaw borthladd, yr oedd, ac y mae, lluaws o'r trigolion yn forwyr, a chymerai yntau ddyddordeb mawr ynddynt, a gweddiai lawer trostynt yn ddirgel a chyhoeddus. Y mae yn ffaith na chyfarfyddodd odid un o forwyr y lle â dyfrllyd fedd tra y bu ef yn aros yn eu plith, a phriodolid hyny gan luaws i waith Mr. Davies yn gweddio mor fynych trostynt.
"Yn ei ddyfodiad rhoddodd fywyd newydd i'r cyfarfod eglwysig, yr hwn oedd yn isel, ac, i raddau, yn ddilewyrch cyn hyny; ac yr oedd ganddo allu neillduol i wneud y cyfarfodydd hyny yn ddyddorol ac yn fuddiol: tynai yr ieuainc fel yr hen i adrodd yr hyn a deimlent, ac ni fyddai un amser wrth ofyn profiadau yn ceisio at bwyso a mesur y brawd neu y chwaer wan, ond amcanai eu cael i ddweyd yr hyn a geid ganddynt yn a thrwy yr adnodau a adroddent, a buan iawn y ceid ef a hwythau i ddeall eu gilydd ac i deimlo yn hollol gartrefol gyda'u gilydd. Byddai yn newid ei ddull o dreulio y cyfarfod eglwysig yn fynych, oblegyd credai mewn amrywiaeth. Ambell dro ceid ef o'r sêt fawr yn gofyn i'r aelodau yn gyffredinol a fyddai rhywbeth neillduol ar feddwl rhai ohonynt ag y carent ei ddweyd, a bu y dull hwn ar lawer adeg yn hynod o effeithiol, a chafwyd aml seiat wlithog pan y byddai yr hen chwiorydd ac yntau wrth eu bodd a'r aelodau eraill yn cael gwledd.
"Nis gellir ymatal yn y fan hon heb enwi y rhai canlynol sydd bellach wedi huno er's blynyddoedd:—
Anne Dedwith, Ellen Roberts, Sian Morris (Cellfechan), Betty a Mari Ellis, Betty Edwards, Ellen Richards, ac amryw eraill o fendigedig goffadwriaeth. Byddai yn hawdd adrodd am lawer o ymddyddanion melus a nefolaidd yn y seiatau yn yr Abermaw y pryd hwn. Un tro, yn fuan ar ol dyfodiad Mr. Davies yno, mewn cyfarfod eglwysig gofynodd i Mari Ellis, yr hon y gallesid meddwl wrth ei hymddangosiad allanol nad ydoedd dim neillduol ynddi, Pa le yr ydych chwi yn pori y dyddiau hyn? A ydych chwi yn cael tipyn o flas ar ddarllen y Beibl? Y mae yn debyg nad oes genych yr un llyfr arall i'w ddarllen?' 'O oes,' meddai hithau, 'y mae genyf lyfrau heblaw y Beibl ag y byddaf yn cael pleser mawr wrth eu darllen, yn enwedig Athrawiaeth yr Iawn gan Lewis Edwards o'r Bala.' 'Beth,' meddai yntau, fel pe yn ei hamheu, 'Athrawiaeth yr Iawn a ddywedsoch chwi, aie?' Yna dechreuodd ei holi yn nghylch cynwys y llyfr gwerthfawr hwnw hyd nes yr aeth y ddau i hwyl fawr. Safai yntau yn syth ar ganol y llawr gan droi at y rhai oedd yn bresenol a dywedyd, 'Gall, fe all Mari Ellis ddarllen Athrawiaeth yr Iawn a chael bendith i'w henaid wrth wneud hyny; ac fe'ch cynghorwn i chwithau, ferched ieuainc, i ddilyn ei hesiampl hi.'
"Nid ydoedd ef mwy na'i frodyr yn anffaeledig; ond pan yr ystyriom yr oll a wnaeth, yn nghyda'r rhan bwysig a gymerodd yn y cyfarfodydd eglwysig, nid yn unig am yr ysbaid o ddeng mlynedd y bu yn weinidog ar yr eglwys hon, ond hefyd am y deuddeng mlynedd eraill ar ol iddo roddi y gofal hwnw i fynuy cwbl gyda'u gilydd yn dymhor o yn agos i dair blynedd ar hugain—rhyfedd ydyw iddo wneud mor ychydig o gamgymeriadau a bod ei ddiffygion mor ddibwys.
"Cymerai lawer o boen a thrafferth gyda phlant yr eglwys, a mynych y dywedai mai ei reswm dros hyny ydoedd, 'Mai hwy a fyddai y dynion yn fuan iawn, ac mai ar eu hysgwyddau hwy y cludid yr arch. Cyn eu derbyn yn gyflawn aelodau, byddai yn rhaid i bob un ohonynt ddysgu allan a meistroli cynwys y bedwaredd bennod ar ddeg o'r Hyfforddwr, a gosodai arbenigrwydd mawr hefyd ar iddynt deimlo rhywbeth neillduol pan yn cofio am angeu y groes y waith gyntaf. Byddai dyfodol hâd yr eglwys yn pwyso yn drwm ar ei feddwl, ac ni fu ei bryder a'i lafur gyda hwynt yn ofer, oblegyd o fysg y plant y bu yn cynal cyfarfodydd gyda hwynt, y mae amryw o flaenoriaid a phregethwyr wedi codi. Yr oedd yn dra awyddus bob amser i roddi pob cymhorth i fachgen y canfyddai fod ynddo ddefnyddiau at waith. Gwnaed llawer cais ato yn ystod y deng mlynedd y bu mewn cysylltiad bugeiliol â'r eglwys am gyhoeddiadau i gyfarfodydd pregethu, ac hefyd i fyned ar deithiau i wahanol siroedd Gogledd a Deheudir Cymru; ond gwrthodai hwynt bron yn ddieithriad os na fyddai yn gyfleus iddo allu bod gyda'i bobl yn y cyfarfod eglwysig, ac ni fyddai byth yn esgeuluso yr un cyfarfod a gynelid yn y capel ar nosweithiau yr wythnos.
Pregethu a gwneud pregethau newyddion, yn ddiau, ydoedd prif orchwyl ei fywyd; ac onid ellir yn ddibetrus ddweyd ei fod wedi cyfansoddi mwy o bregethau nag odid neb o'i gyfoedion yn y weinidogaeth. Ni fyddai un amser heb un neu ddwy o bregethau newyddion 'ar y blociau,' fel y dywedai; ac ni chlywyd erioed mohono yn ystod y deng mlynedd o 1864 hyd 1874, yn rhoddi ail edition o'r un o'i bregethau, nac yn wir wedi hyny. Yn ystod y deng mlynedd y cyfeirir atynt, pregethai ddeuddeg o weithiau bob blwyddyn yn ei gartref, heblaw ar achlysuron neillduol yn ystod nosweithiau yr wythnos. Byddai, o ganlyniad, o dan orfod i gyfansoddi dwy, os nad rhagor, o bregethau newyddion bob mis. Cawn felly iddo gyfansoddi yn agos i dri chant o bregethau yn ystod y deng mlynedd y bu mewn cysylltiad ffurfiol â'r eglwys. Wedi iddo ymddiswyddo oddiwrth y fugeiliaeth, mynodd yr eglwys ganddo addaw chwe Sabboth bob blwyddyn iddi, a bu yntau yn ffyddlawn i'w addewid, ac yr oedd mor gymeradwy y Sabboth olaf y bu yn pregethu yn ei hen gartref ag ydoedd y Sabboth cyntaf y daeth yno.
"Fel y crybwyllwyd mewn adgofion am dano yn Nhrysorfa Mehefin, 1890, nid oedd pall arno am brynu llyfrau newyddion, y nifer luosocaf o ba rai, wrth gwrs, oedd yn yr iaith Saesonaeg, eto yr oedd ganddo y fath feddwl o Esboniad y diweddar Barch. James Hughes, fel y darfu iddo y flwyddyn ddiweddaf y bu fyw bwrcasu copi newydd hardd ohono. Nid yn aml y gwelid gwell casgliad o lyfrau nag oedd ganddo, a byddai yn gwneud defnydd effeithiol ohonynt er cyfoethogi ei feddwl ei hun, ac hefyd teimlai yn falch o gael rhoddi llyfr yn fenthyg i'w gyfeillion darllengar. Bu yn dderbyniwr cyson am flynyddoedd o'r Expositor a'r Homilist. Anrhegwyd ef gan gyfaill â Hodge's Systematic Theology mewn tair cyfrol, a mawr oedd ei edmygedd ohonynt, a phregethodd lawer ar eu cynwys; ond nid ystyrid ef yn hollol gartrefol pan yn ymwneud â phynciau duwinyddol am mai nid dyna y dull oedd yn fwyaf cydnaws a'i ddawn. Pregethwr natur ydoedd, ac wrth ddesgrifio natur a'i chynwys y byddai yn ei elfen.
"Byddai yn dra hoff o'r cyfarfodydd darllen, ac er na thraethai lawer ynddynt ac na chymerai ran flaenllaw yn eu dygiad yn mlaen, eto yr oedd yn arweinydd dyogel ynddynt, a byddai yn estyn cymhorth parod i'r gwan bob amser. Dywedai weithiau wrth bregethu ei fod yn ddyledus i'r cyfarfod darllen am awgrymu mater ei bregeth iddo, a'i fod wedi cael gwell esboniad ar lawer adnod yn y cyfarfodydd hyn nag a gafodd gan Lightfoot, Liddon, nac Ellicot. Ymwelai yn gyson â'r cleifion a'r tlodion, a chyfranai lawer i'r annghenus, a gwnai hyny yn y fath fodd dystaw a diymhongar fel y gellid dweyd yn briodol am dano na wyddai ei law aswy yr hyn a wnai ei law ddehau.
"Yn ystod misoedd yr hâf, gan fod yr Abermaw yn ymdrochle, bydd nifer fawr o ddyeithriaid yn ymweled â'r lle, a hyny drachefn yn peri fod lluaws o ferched ieuainc yn dyfod yno i wasanaethu am y tymhor, ac yn eu mysg bydd amryw o aelodau gyda'r Methodistiaid. Pryderai Mr. Davies lawer yn nghylch y chwiorydd ieuainc hyn am fod rhai ohonynt yn gadael cartref mewn lleoedd gwledig am y tro cyntaf ac yn dyfod i'r dref. Cynghorai hwynt i fod yn wyliadwrus, yn onest, yn eirwir, ac hefyd am iddynt ofalu am beidio 'rhedeg y siopau,'—sef codi eiddo ar goel—a myned i ffwrdd heb dalu am danynt. Os ewch chwi i ffwrdd felly,' meddai, 'byddwch nid yn unig yn pechu yn erbyn Duw, ond bydd ogle inc ar eich shawls a'ch bonnets a'ch gownau a'ch esgidiau i b'le bynag yr ewch chwi. Cofiwch, da chwi, dalu i'r crydd am eich esgidiau ac i'r siopwyr am eich dresses; ac yn benaf oll, bydded i chwi ddychwelyd adref a'ch coron ar eich penau heb wyro dim.'
"Pan y daeth ef i'r Abermaw yr oedd y Cambrian Railway ar hyd y glanau yn cael ei gwneud yn brysur, a daeth lluaws mawr o ddynion i weithio arni ac i breswylio yn y lle, ac yn eu mysg yr oedd Saeson, Ysgotiaid, a Gwyddelod. Gan nad oedd moddion crefyddol yn cael ei gynal yn eu hiaith, teimlai Mr. Davies yn ddwys. Ac yr oedd eu gweled yn ymroi i yfed a meddwi, a hyny ar ddydd yr Arglwydd, yn dyfnhau ei bryder yn eu cylch a'i awydd am geisio eu gwaredu. Oherwydd fod nifer y pregethwyr a allent gyfarch cynulleidfa yn yr iaith Saesonaeg yn ychydig y pryd hwnw, nid oedd ganddo ddim i'w wneud ond cymhell fod dosbarthiadau Saesonaeg i fod yn yr Ysgol Sabbothol, ond oherwydd ansefydlogrwydd y gweithwyr, aflwyddianus a fu hyny i raddau. Pan y deuai cyhoeddiad un a fyddai yn gallu pregethu Saesonaeg, dymunid arno ddweyd ychydig yn yr iaith hono ac i'r swyddogion ymdrechu taenu y gair am hyny yn mlaen llaw. Yr ydym yn deall mai Mr. John Jones—y pryd hwnw o Aberystwyth, ond yn awr y Parch. J. Cynddylan Jones, D.D., goruchwyliwr y Feibl Gymdeithas yn y Deheudiroedd y cyntaf i wneud hyny.
"Yn y blynyddoedd o 1864 hyd 1869, yr oedd manteision addysg yn ddiffygiol iawn yn yr Abermaw, fel mewn lluaws o leoedd eraill—yr ysgolion y pryd hwnw yn perthyn i'r Eglwys Sefydledig ac o dan nawdd ei gweinidogion, ac ychydig iawn o arolygiaeth a threfn arnynt. Boddlonid y gwŷr eglwysig os ceid y plant i synychu y llan ar y Sabboth a dyddiau gŵyl, ac os cyrhaeddid hyny ni elwid yr athrawon i gyfrif am esgeuluso rhanau pwysig o'u gwaith; ac yr oedd lluaws o'r athrawon yn ddynion o gymeriadau lled amheus. Mewn undeb âg ychydig o Ymneillduwyr—ac yn eu mysg y mae un yn deilwng o goffa, sef y diweddar Barch. James Jones, gweinidog yr Annibynwyr llwyddodd Mr. Davies i gychwyn Ysgol Frytanaidd yn yr ystafell o dan gapel newydd y Methodistiaid. Agorwyd yr ysgol gan Mr. Robert Williams, yn bresenol o Danygrisiau, Ffestiniog. Ac yn y flwyddyn 1870, pan ddaeth y ddeddf newydd i weithrediad, trosglwyddwyd hi i ofal Bwrdd Ysgol, a dyma yr ysgol gyntaf yn Nghymru i gymeryd mantais ar y ddeddf hon.
"Yr oedd poblogaeth yr Abermaw ar ol agor y reilffordd yn cynyddu yn brysur, a'r hen gapel yn myned yn annghyfleus yn mhob ystyr. Byddai swn y trains—gan fod y capel ar fin y llinell—yn anhwyluso rhai o'r cyfarfodydd a gynelid, ac fe wnaed cais at y cwmni am iddynt ei brynu, a buwyd yn llwyddianus yn y cais, a chafwyd swm priodol am dano. Wedi gwerthu yr hen gapel, y peth nesaf i'w wneud oedd ymofyn am le i roddi y newydd i lawr; ac nid hir y buwyd heb benderfynu ar le canolog a chyfleus a myned ati o ddifrif i'w adeiladu. Costiodd y capel hwn, yn nghyda'r tir y saif arno, yn agos i ddwy fil a haner o bunau, a chynwysa eisteddleoedd oddeutu saith gant. Agorwyd ef yn y flwyddyn 1866, ac yn y flwyddyn 1874—yr adeg y rhoddodd Mr. Davies ei ofal bugeiliol i fynu—nid oedd yn aros o'r ddyled ond £700.
"Yr oedd yn llawn o'r ysbryd cenhadol ac yn ymroddgar iawn i ddwyn moddion gras at y rhai nad ellid eu cael i'r capel. Mewn rhan o'r dref a elwir Penygraig, yr oedd amryw o deuluoedd yn byw, y rhai, oherwydd nad oedd amgylchiadau yn caniatau iddynt ymddangos yn y gynulleidfa yn y ddiwyg a ystyrient hwy yn weddus, a lwyr esgeulusent yr holl gyfarfodydd crefyddol yn y capel. Meddyliodd Mr. Davies mai ei ddyledswydd oedd myned a'r efengyl atynt; ac i'r amcan hwnw llogodd ystafell a chychwynwyd Ysgol Sabbothol ynddi, a byddai yntau yn pregethu iddynt ar nosweithiau yr wythnos, pryd y deuai nifer lluosog ohonynt i wrando arno. Fodd bynag, cyfododd gwrthwynebiad i'r ystafell a'r gwasanaeth, ac yn hytrach na bod yn achlysur i brofedigaeth ac i wahanu y pleidiau crefyddol oddiwrth eu gilydd, penderfynodd mai gwell ydoedd iddo ei rhoddi i fynu.
"Fel yr awgrymwyd eisoes, yr oedd, ac y mae canoedd o ymwelwyr Seisnig yn dyfod i'r dref yn ystod misoedd yr hâf, lluaws mawr o ba rai ydynt yn Ymneillduwyr. Penderfynodd Mr. Davies ddarparu moddion crefyddol cydnaws â'u hargyhoeddiadau iddynt hwythau. Yr oedd rhwystrau mawrion ar y pryd i ddwyn hyn oddiamgylch am nad oedd yr un lle cyfleus i'w gynal, oherwydd fod yr addoldai ar y Sabboth at wasanaeth y Cymry, ac nad oedd yr un neuadd gyhoeddus wedi ei hadeiladu yr adeg hono; ond i gyfarfod â'r amgylchiadau, llwyddodd i gael gan swyddogion yr achos Cymraeg i newid amser y gwasanaeth boreuol yn ystod misoedd yr haf fel ag i allu cael moddion yn yr iaith Saesonaeg i ddechreu am un ar ddeg o'r gloch yn y boreu a phedwar o'r gloch yn y prydnawn; ac ar Sabboth, y 27ain o Fehefin, yn y flwyddyn 1869, y dechreuwyd cynal gwasanaeth Saesonaeg gan y Trefnyddion Calfinaidd yn yr Abermaw, a gellir priodoli ei gychwyniad bron yn gwbl i ymdrechion Mr. Davies. Yn y dull a nodwyd y cynelid y gwasanaeth yn unig yn misoedd yr haf, a hyny am flynyddoedd lawer. Gan fod gradd o lwyddiant yn dilyn yr ymdrechion hyn a bod ambell i deulu o Saeson yn dyfod i fyw i'r lle, anturiwyd cymeryd yr Assembly Room—yr hon oedd newydd gael ei hadeiladu—i gychwyn yr achos yn ffurfiol, ac yno y buwyd yn addoli am amser hyd nes yr adeiladwyd y capel, yr hwn a saif mewn man cyfleus. Adeiladwyd ef yn y flwyddyn 1879."
Y mae yn ddiau y teimlir fod gwerth mawr yn y cofnodion uchod, gan eu bod wedi eu hysgrifenu gan un a gafodd fantais dda i'w adnabod yn ystod ei drigiad yn yr Abermaw.
PEN. VII.—"Fyddlawn yn yr holl dу."
Ei drigiad yn yr Abermaw.—Ei ymdrechion yn y cylch.—Adgofion brawd o weinidog.—Yn boblogaidd gydag enwadau eraill.—Y Ddeddf Gladdu.—Ei sêl gyda Dirwest.—Gyda'r Ysgol Sabbothol.—Yn feirniad mewn Cyfarfod Llenyddol.—Ei boblogrwydd yn y tai.—Pob dosbarth yn hoffi ei gymdeithas.—Ei farn am fugeiliaid llwyddianus.—Y tŷ coed yn yr ardd.—Adgofion y Parch. R. H. Morgan, M.A.—Cyfansoddi pregethau newyddion.—Sabboth dilewyrch.—Effeithiau ei weinidogaeth.—Yn weddiwr mawr.—Ei weddi dros y morwr.—Ei anerchiad i'r morwyr.—Ei haelioni a'i gymwynasgarwch.
Bu mewn cysylltiad bugeiliol âg eglwys yr Abermaw am ddeng mlynedd, a bu yn preswylio yno wedi ymddatod oddiwrth y gofal hwnw am ddeuddeng mlynedd, yr hyn a wna dymhor ei arosiad yno yn ddwy flynedd ar hugain. Bu yn ymroddgar iawn yn ystod yr holl dymhor hwnw, nid yn unig gyda phregethu a goruchwylion eraill a berthynent i'w swydd yn uniongyrchol fel gweinidog, ond mewn amryw gylchoedd; ond er ei ymroddiad mewn gwahanol gyfeiriadau, nid oedd yn anhawdd gweled ei fod yn cadw ei olwg trwy y cwbl ar ei swydd fel gweinidog. Dyma oedd uchelgais ei fywyd, a pharai i bobpeth arall fod yn is-wasanaethgar i'r un amcan mawr hwn, a llwyddodd yn hyny hyd nes llwyr argyhoeddi pawb mai "gŵr Duw" ydoedd mewn gwirionedd. Enillodd safle uchel a phwysig yn y dref a'r holl gylch sel gweinidog cymhwys y Testament Newydd.
Pan y byddai y gwahanol enwadau crefyddol yn cynal eu cyfarfodydd blynyddol, os byddai gartref, ni welid ei le ef byth yn wag ynddynt; a chymerai ran ynddynt gyda'r parodrwydd mwyaf, a gwnaeth trwy hyny, yn nghyda'i sirioldeb a'i ryddfrydigrwydd, lawer tuag at ladd y ddallbleidiaeth ffol a ffynai yn rhy aml yn y naill enwad a'r llall, ac i ddwyn oddiamgylch fwy o undeb agos a brawdol rhyngddynt. Yr oedd yn "gymeradwy yn mysg lluaws ei frodyr," ac yn ddwfn iawn yn serchiadau gweinidogion y gwahanol enwadau a gyfaneddent yn y dref yr adeg hono.
Bydd yn dda gan y darllenydd gael yr ychydig eiriau canlynol a ysgrifenwyd gan y Parch. Z. Mather, gweinidog parchus yr Annibynwyr, yr hwn a fu yn gydweithiwr âg ef am flynyddoedd yn y cylch:
Yr oedd efe yn un o'r rhai mwyaf difyrus ac adeiladol i fod yn ei gymdeithas, ac ni fyddwn un amser yn dyfod oddiwrtho heb deimlo yn well, yr hyn yn ddiau sydd yn un o'r profion goreu o dduwiolfrydedd. Cofus genyf ei fod yn gwneud sylw wrthyf un tro na fydd llawer o lewyrch ar grefyddwyr os na fydd cynydd yn nodweddu eu crefydd. "'Rydw i yn cofio," ebe fe, "am ffarmwr yn Mhenmachno yn deud wrth fachgen oedd gyda. fo yn was am fyn'd i godi darn o glawdd ceryg oedd wedi syrthio. ‘Gofala di,' medde fo wrth y bachgen, 'wedi i ti godi y bwlch, am gasglu tipyn o geryg ffres i roi arno fo, mae o yn siwr o fod beth yn is nag oedd o wedi i ti ei ail godi o.' Felly y mae dynion gyda chrefydd, welwch chi, fydda nhw ddim llawer o werth os na fydda nhw yn ychwanegu at eu crefydd. Yn wir yr oedd acw gyfarfod gweddi rhagorol yn y capel acw nos Lun diwedda', 'roedd gan bob un o'r brodyr rywbeth newydd yn eu gweddiau. Yr oedd hen ŵr
yn gweddio, a'r un adnodau wedi eu gosod wrth eu gilydd fydd ei weddi ef bob amser; ond 'roedd o wedi dysgu adnodau newydd erbyn nos Lun diwedda'—adnodau na chlywes i monu nhw gyda fo 'rioed o'r blaen, ac 'roedd rhywbeth neillduol o afaelgar yn ei weddi o. Yr oedd rhywbeth anarferol yn ngweddi M. W. hefyd; 'roedd o yn deud yn rhywle ar ei weddi, "Ryda ni yn y byd yma, Arglwydd Mawr, yn nghanol y tonau yn cael ein lluchio o dòn i dòn. O pâr fod i'r i'r dòn ddiwedda ein taflu i'r làn."
- Abermaw, Tach. 17, 1893.
Gweithiai yn egniol dros bob symudiad daionus. Efe oedd y prif symudydd i gael ariandy i'r dref. Pan ddaeth y ddeddf newydd gladdu i rym, bu yn ymdrechgar i egluro ei darpariadau ac i gael gan yr Ymneillduwyr i wneud defnydd ohoni. Bu yn gweini yn yr angladd cyntaf o dan y ddeddf hono yn y lle, a chofir gan bawb oedd yn bresenol am yr effeithiau dwysion a ddilynent ei eiriau a'i weddi ar yr achlysur hwnw. Yn mlynyddoedd cyntaf y ddeddf, fe gymerid mantais fwy cyffredinol arni gan Ymneillduwyr yn yr Abermaw nag odid un lle arall yn Nghymru, a hyny er gwaethaf yr anhawsderau a osodid ar y ffordd gan wŷr eglwysig, ac y mae yn dra sicr fod hyny, fel y dywedai gwr craff o'r ardal hono, i'w briodoli yn benaf i'w ymdrech ef yn egluro y ddeddf, a hefyd y dull effeithiol gyda pha un y cyflawnid y gwasanaeth claddu ganddo.
Bu yn wasanaethgar iawn hefyd i'r achos dirwestol yn mhob gwedd arno yn ystod ei oes. Yr oedd yn un o'r rhai cyntaf i ymuno â'r Temlwyr Da, a pharhaodd i roddi ei bresenoldeb a'i gymhorth yn nghyfarfodydd y deml; a phan gymerodd dirwest y ffurf o Gymdeithas y Ruban Glâs, ceid ef yn ymaflyd yn dyn ynddi yn y wedd hono arni. Dywed Mr. L. yn ei adgofion am dano o dan y pen hwn:—"Gellid dweyd am Mr Davies fel y dywedodd ef am un o hen ffyddloniaid yr achos dirwestol yn yr Abermaw, 'Y mae R.M. wedi myn'd i bob mould sydd yn perthyn i ddirwest—o'r clwb du hyd at gario y faner ddirwestol yn y gorymdeithiau blynyddol.' "
Byddai ar adegau yn y cyfarfodydd dirwestol yn rhoddi y ffrwyn i'w ddawn ac yn ysgubo pobpeth o'i flaen. Nid buan yrannghofir ei araith yn un o'r cyfarfodydd hyn, yn yr hon y darluniai y cythreuliaid yn y moch—y gwahanol rywogaethau o gythreuliaid, y meddw, a'r aflan, a'r mud, &c., wedi meddianu y moch a'u gyru "ar ras wyllt dan wichian yn bendramwnwgl i'r môr." Yna desgrifiai hwynt yn boddi, y cythreuliaid eisieu i'r moch droi yn eu hol i'r làn a'r moch wedi rhisio yn mynu myned yn mhellach i'r dwfn! Dro arall, pan yn canmol y ffurf demlyddol ar ddirwest ac yn dangos y berthynas oedd rhwng dirwest âg eglwys Crist, dywedai, "Y mae gan rai boneddigion sydd yn meddu palasau mawrion lodge yn ymyl y fynedfa. Y mae gan Iesu Grist ei balas yn y byd yma, a phaham na chaiff y Brenin Iesu lodge yn ymyl ei balas yntau?"
Ceir yn mhlith ei bapyrau y sylwadau a ganlyn ar ddirwest, y rhai a ysgrifenwyd ganddo yn y flwyddyn 1865. Er nad ydyw yr ysgrif yn cynwys y pethau * mwyaf doniol a ddywedid ganddo, nac ychwaith y gwres yn mha un y llefarai hwynt, efallai y gall y rhai a fu yn ei wrando mewn cyfarfodydd dirwestol adgofio a llenwi i fynu wrth ddarllen yr amlinelliad hwn o'i barotoad ar gyfer un o'r cyfarfodydd hyny!
RHESYMAU DROS BEIDIO ARFER DIODYDD MEDDWOL.
"1. Y mae y rhai sydd a'u hamcan i wneud daioni i eraill, yn ddirwestwyr yn gyffredin, er mwyn eraill, er fod yn anmhosibl i ddyn wneud daioni i eraill heb wneud daioni iddo ei hun. Ac y mae y dyn sydd heb fod yn ddirwestwr mewn gradd fawr o anfantais i wneud daioni i eraill.
"2. Y mae y rhai mwyaf gofalus am eu teuluoedd eu hunain yn gyffredin yn ddirwestwyr, ac y mae difaterwch gyda hyn wedi bod i lawer un fel yr ephod yn ninas Gedeon, ag y dywedir am dani, 'A hi a fu yn dramgwydd iddo ef ac i'w dy.'
"3.—Y mae y rhai sydd yn meddu mwyaf o barch iddynt eu hunain yn gofalu am fod yn ddirwestwyr. Yr oedd y rhai sanctaidd i Dduw felly o dan yr Hen Destament—yn Nazareaid i Dduw. Natur lân iawn ydyw hono sydd heb ei halogi erioed â'r diodydd meddwol. Yr oedd y Nazareaid hyny gynt felly, ac y mae yn hyfryd meddwl fod lluaws yn gwbl lân yn yr ystyr hwn eto.
"4.—Y mae cwmni y ddiod yn aml yn llygredig, ac nid oes yr un cwmni yn rhy lygredig iddi hi. Er y gall y cwmni fod yn rhy isel i ddim arall i fod yno, eto bydd y ddiod feddwol yno yn ychwanegu at bob drygioni. Diod y tywyllwch ydyw.
"5.—O ymarfer yn gymedrol â'r diodydd meddwol, y maent yn myned yn ddiddefnydd i'w hamcan priodol fel meddyginiaeth. Nid ydynt ac nis gallant fod yn feddyginiaeth i'r neb sydd yn eu harfer. Y maent fel y pethau y dywedir y cynhyrfir y ddaear o'u herwydd Gwas pan deyrnaso, ac un ffol pan lanwer ef o fwyd: gwraig atgas pan brioder hi: a llawforwyn a elo yn aeres i'w meistres,' yna nid ydyw na gwraig na morwyn.
"6. Y mae tuedd yn y diodydd hyn i ymlid ymaith yr archwaeth at fwyd. Nid ydynt yn ymborth eu hunain, ac y maent yn dinystrio y chwant at yr hyn sydd yn ymborth—rhwystro bwyd y maent.
"7. Y mae yn anmhosibl troi annghymedroldeb allan tra y bydd cymedroldeb i mewn am fod y ddau law yn llaw, a'r naill yn rhoddi ei le i'r llall. Cymedroldeb ydyw y fam sydd yn magu y cenawon. Cedwch chwi y domen yna dros yr haf, bydd genych luaws mawr o nadroedd wedi eu magu erbyn yr haf canlynol. Nid chauodd neb erioed feddwdod allan yn ddyogel a chadw cymedroldeb i mewn. Os mynwch ladd meddwdod, y mae yn rhaid gwneud hyny yn nglasiad y cymedrolwr. Yn haner peint y cymedrolwr y mae hadau meddwdod, ac nid oes lladd ar feddwdod oni wneir hyny yn mynwes y dyn cymedrol. Saethwch at feddwdod nis gellwch byth ei hitio heb ostwng y gŵn a'i saethu ar ei nyth yn nghesail y dyn cymedrol. Nis gallwch ei ddal oni ddeliwch ef yn ei ddaear—yn ei ffau—a hono ydyw glass dyn yr haner peint. Os mynwn ni godi sobrwydd, y mae yn rhaid rhoddi y gareg sylfaen yn îs na chymedroldeb. Yr un peth mewn effaith ydyw dadleu dros gymedroldeb a dadleu dros feddwdod.
"8.—Y cymeriad uwchlaw amheuaeth ydyw cymeriad y dyn nad ydyw yn yfed dim o'r diodydd hynNa enwer chwaith yn eich plith.' Ond bydd enwi tra bydd yfed, a bydd rhywun yn cael ei gyhuddo o fod wedi meddwi. Yr unig ffordd i fod uwchlaw amheuaeth ydyw peidio cyffwrdd ynddi.
"9.—Llwyrymwrthodwr ydyw y dyn all ddweyd wrth ei blant a'i gymydogion, 'Deuwch ar fy ol i;' a dyma yr hwn a all ddweyd hefyd, 'Oherwydd paham yr wyf fi yn dyst i chwi heddyw fy mod i yn lân oddiwaed pawb oll.' "
Er fod y llinellau uchod yn cynwys sylseini ei araith, yr oedd ei ddychymyg mor nwyfus a'i gydymdeimlad â'i bwnc ac a'r gynulleidfa mor fyw fel mai yn y traddodiad y llanwai y pethau mwyaf tarawiadol ac y gwnai i esgyrn sychion lamu i fynu yn fyw.
Clywsom ef unwaith mewn hwyl fawr yn ysbrydoli Temlyddiaeth Dda ac yn edrych arni yn ngoleuni gwahanol ddodrefn teml Solomon. "Gellir dweyd," meddai, " mai temlyddiaeth ydyw dinas noddfa sobrwydd a dirwest, a dinas noddfa i'r cymedrolwyr a'r meddwon i ffoi iddi. Dyma yr arch ag y mae llechau y cyfamod dirwestol yn nghadw ynddi. Yr oedd yn y deml yn Jerusalem ddeg noe ar olwynion yn llawn o ddwfr at wasanaeth yr offeiriaid. Noeau ar olwynion ydyw y cyfarfodydd cyhoeddus yma, ac y mae y môr o'r tu cefn yn nghymeriadau a doniau y brodyr a'r chwiorydd yma tuag at lenwi yr holl noeau. Dyma halen y ddaear gyda golwg ar lygredigaeth diota. Dyma oleuni sobrwydd a moes—goleuni y byd gyda golwg ar ei ddwyn o dywyllwch cyfeddach a meddwdod. 'Ac ni oleuant ganwyll a'i dodi o dan lestr ond mewn canwyllbren,' &c. Canwyllau o dan lestr ydyw dirwestwyr yn bresenol heb fod yn Demlwyr Da. Os mynwch gael canwyllbren i ddal y goleu, dyma foTemlyddiaeth Dda. Y mae rhai yn son am rhyw hen ganwyllbren pren, ond y mae wedi gwasanaethu ei dymhor a darfod. Dyma y canwyllbren sydd yn gwasanaethu yn y dyddiau hyn, ac y mae yn llawer gwell na'r hen ac wedi goleuo yn fwy cyson. Y mae y canwyllbren o leiaf yn un pres."
Y mae llawer yn cofio am dano yn cyfarch cyfarfod dirwestol yn Nghymdeithasfa Bangor er's rhai blynyddoedd yn ol, ac mewn araith ddoniol a thanllyd dygid y gynulleidfa ymaith gan ruthrwynt ei hyawdledd. Dywedai yn niwedd ei gyfarchiad, "Yr ydych yn son am local option; hyd nes y cewch hwnw gwnewch local option i chwi eich hunain; ac os ydyw y Senedd yn hwyrfrydig i basio deddf i leihau yr ymyfed a'r meddwi byddwch yn 'ddeddf i chwi eich hunain.' Chwi a gewch hono heb ofyn i'r un Senedd."
Gwnaeth gryn lawer o waith gyda'r Ysgol Sabbothol yn y cyfnod hwn. Ni welid ef byth yn ymwrthod â dim gwaith a benodid iddo. Bu yn holi yr ysgolion laweroedd o weithiau. Pan y cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus o holl ysgolion y dosbarth yn yr Abermaw i ddathlu Canmlwyddiant yr Ysgol Sabbothol, trefnwyd iddo ef roddi anerchiad yn nghyfarfod y prydnawn, i'r plant yn benaf, a chofir yn hir am y dylanwad oedd yn cydfyned â'i eiriau y pryd hwnw. Pwnc ei anerchiad ydoedd "Nodweddion plant duwiol." Rhanai ei fater fel y canlyn:—"Y maent yn rhai1. Yn parchu Gair Duw. 2. Yn parchu enw Duw. 3. Yn parchu dydd Duw. 4. Yn parchu Tŷ Dduw. 5. Yn parchu pobl Dduw." Y mae lluaws o'r plant oedd yn y cyfarfod hwnw yn parhau i gofio yr effeithiau rhyfedd a ddilynai ei anerchiad.
Penodid ef hefyd i feirniadu traethodau, &c., mewn cyfarfodydd llenyddol yn nglŷn â'r Ysgolion Sabbothol, a chymerai lawer o drafsferth i gyrhaedd barn onest a chywir ar y cynyrchion hyny; ac er mai wrth bregethu y byddai yn ei elfen, nid oedd gwaith fel hyn yn achlysurol yn beth ag y cwynai yn ei erbyn, ac nid oedd ychwaith heb feddu craffder a medr i'w gyflawni yn effeithiol. Hwyrach mai nid annyddorol i'r darllenydd a fyddai cipdrem ar ei feirniadaeth at un o'r cyfarfodydd hyn a gynaliwyd yn y Dyffryn. Yr ydym yn ei rhoddi i mewn yma, nid am yr ystyriwn hi yn meddu rhagoriaeth neillduol, ond y mae wedi ei hysgrifenu yn mhlith ei bapyrau, ac y mae ynddi, i'r cyfarwydd ag ef, rai pethau nodweddiadol jawn ohono ef.
BEIRNIADAETH CYNLLUN WERS AR SALM XXIII.
"Derbyniwyd pump o gynlluniau, sef yr eiddo ymgeisydd ieuanc, Un hoff o'r praidd, Un ar frys, Jonathan, a B. Ac os gallwn gymeryd y 'gwersi' hyn fel dangoseg o'r gwersi a roddir gan athrawon ac athrawesau ysgolion y Dyffryn ac Egryn i'w dosbarthiadau, y maent yn rhoddi golwg gysurus iawn ar bethau. Y mae yn y 'gwersi' hyn fedr ac amcan i ddwyn y dyn at y gwirionedd, i'w ddeall a theimlo ei awdurdod ar y gydwybod. Y maent yn edrych i bob cyfeiriad a berthyn i'r Salm, ac yn amcanu agoryd y gwirionedd fel ag yr ydym yn dra sicr eu bod yn cydsynio â'r Salmydd pan y dywed, 'Agoriad dy eiriau a rydd oleuni.'
'Ac er fod yn hyfryd iawn genyf gydnabod fod y pump yn gynlluniau da, eto y mae gwell a goreu ohonynt. Barnwyf fod tri o'r cynlluniau yn lled gyfartal, sef yr eiddo ymgeisydd ieuanc, Un hoff o'r praidd, ac Un ar frys. Mae y cwestiynau yn dda gan y tri; ond pan y mae y naill yn rhagori mewn un man y mae y llall yn rhagori mewn man arall, ac felly y trydydd; ac y mae naws grefyddol, i raddau mwy neu lai, yn mhob un ohonynt. Er fy mod yn cydnabod fod y 'corph yn fwy na'r dillad,' ac nad ydwyf yn credu yn ol yr hen ddiareb, "Y dillad ydyw y dyn a'r dyn ydyw y truan,' eto caraswn weled y cynlluniau hyn mewn dillad mwy destlus a chryno; ac y mae y fath feddyliau yn teilyngu eu gwisgo yn well o ran sillebiaeth gywir a llawysgrifen drefnus. Ac yr wyf yn gobeithio y bydd pob un o'r tri hyn erbyn y tro nesaf wedi llafurio fel ag i allu sillebu yn fwy cywir a gosod eu meddyliau ar bapyr yn fwy rheolaidd. Ychydig o sylw ac ymarferiad sydd yn eisieu i gyrhaedd yr amcan. Y nesaf a ddaw ger ein bron ydyw Jonathan. Y mae ef wedi ffurfio cwestiynau ac atebion, a phrawf hyn nad ydyw yn gofyn cwestiynau heb fod yn alluog i'w hateb i'w foddlonrwydd ei hun. Y mae yr atebion, yn ol barn y pedwar eraill, dros ben yr hyn sydd yn ofynedig mewn 'cynllun—wers,' ac felly yr wyf finau yn deall. Yr un pryd, nid wyf yn meddwl fod Jonathan yn gwneud fel y gwna rhai o'r Pabyddion. Y mae ganddynt hwy weithredoedd dros ben yr hyn sydd yn eisiau ar amserau, ac y mae y rhai hyny yn gwneud i fynu am eu diffygion mewn amserau eraill. Nid wyf yn meddwl fod Jonathan yn amcanu gwneud felly, oblegyd y mae ei gwestiynau yn dda, fel nad oes eisiau iawn am y diffygion, ac yr wyf yn barnu ei fod yn teilyngu gwobr yn ol amodau y cyfarfod. Y mae hefyd yn ysgrifenwr rheolaidd a gofalus. Ond B. ydyw y goreu, ac y mae yn tra rhagori. Y mae cynllun—wers B. yn cynwys pedwar ugain o gwestiynau, a'r rhai hyny yn sylweddol ac i bwrpas. Y mae yr ysgrif hon yn barod i fyned i'r wasg o ran trefn a destlusrwydd. Ymddengys fod B. wedi arfer ysgrifenu, a'i fod yn llaw dda, yn llaw fedrus, ac yn 'hen law. Yr un pryd, y mae yn bleser genyf, gan mor fedrus y cyfansoddodd ei gynllun—wers, gael y fantais i nodi ychydig wallau ynddi, rhag iddo feddwl ei bod yn fwy difrychau na'r haul. Y mae wedi rhoddi y yn lle u yn y gair cynllun. Yn y 14eg o'r cwestiynau, gofyna 'Pwy briodoldeb sydd mewn galw yr Arglwydd yn fugail?' Yr wyf yn meddwl mai y gair 'Pa'a fuasai yn fwyaf rheolaidd gan nad ydyw
priodoldeb' yn berson. Ond pe gellid wrth chwilio gael gwallau yn yr ysgrif hon—o'r fath yına, beth bynag—byddent o ddiofalwch yn hytrach nag o anwybodaeth. Y mae B. yn haeddu yn gyfiawn y wobr gyntaf, a dylai Jonathan gael yr ail wobr. Y mae y tri eraill wedi derbyn eu gwobr eisoes yn eu llafur, ac yr wyf yn dymuno iddynt wobr o'r nefoedd yn y byd hwn a'r hwn a ddaw. Bendith y Duw Hollalluog a fyddo ar y pump hyn ac ar holl athrawon ac athrawesau yr ysgolion."
Byddai, oherwydd ei sirioldeb a'i ysbryd rhyddfrydig a chymwynasgar, yn hynod o boblogaidd yn y tai lle y llettyai ar ei deithiau. Gwnai ei hunan yn gartrefol yn y fan gyda holl aelodau y teulu. Byddai y gweision a'r morwynion yn y tai ffermydd yn edrych yn mlaen yn awyddus at y Sabboth y byddai ef yn y daith. Clywais am un gwas a fyddai yn cadw Dyddiadur y Corph, er heb gael trwydded i hyny gan y Cyfarfod Misol, a byddai yn cael blas ar fyned trwy restrau y pregethwyr ynddo, ac o dan enw pob un cymeradwy ganddo rhoddai linell goch; a byddai ganddo rai yn y dosbarth blaenaf yn ei gymeradwyaeth a dwy linell goch amlwg odditan eu henwau. Yr oedd gwrthrych ein hanes yn nosbarth y llinell goch ddwbl yn Nyddiadur y cyfaill hwn; ac yr oedd felly yn ddiau yn marn canoedd o weision a morwynion trwy y wlad. Nid ydyw yn anhawdd esbonio y teimlad hwn a goleddid tuag ato yn y dosbarth a nodwyd. Yr oedd ei bregethau y fath ag a fyddai yn eu swyno; ac, fel y sylwyd, yr oedd ei sirioldeb cymdeithasol a'i garedigrwydd yn elfen bwysig yn ei boblogrwydd yn eu mysg.
Ni fyddai byth yn ymadael âg un o'r tai y byddai yn aros ynddynt heb roddi rhyw ddarn bychan o arian yn llaw y wasanaethyddes gyda gair caredig. Heblaw ei fod o duedd naturiol gymdeithasgar a siriol, credai yn ddiysgog fod ymweliadau ac ymddyddanion personol yn bethau anhebgorol i weinidogaeth lwyddianus. Ni fyddai ef byth yn cerdded ar hyd yr heol heb gyfarch gwell neu ysgwyd llaw â phob un yn mron a'i cyfarfyddai; ac nid yn unig gwnai hyny yn ei dref ei hun, ond byddai yn gwneuthur yn gyffelyb, i raddau pell, yn ngwahanol bentrefi a threfi y wlad. Ar ol bod ar daith yn Sir B dywedai mewn Cyfarfod Misol ar y pwys o blanu eglwysi yn mhob cŵr o'r wlad a gofalu am ymgeledd fugeiliol iddynt, ac hefyd y dylai y bugeiliaid fod yn ddynion cymdeithasgar, ac y gwnai dyn bychan, heb ddawn fawr fel pregethwr, lawer iawn tuag at lwyddiant yr achos trwy fyned at y bobl a sylwi arnynt. " Y mae y Methodistiaid," meddai, " wedi bod yn cysgu ar hyd y blynyddoedd mewn ambell i gymydogaeth, a'r Bedyddwyr a'r Annibynwyr yn effro yno ac yn llwyddo, a'r fugeiliaeth fach yma sydd yn ei gwneud hi ganddynt. Y maent yn gosod bugail ar bob deadell fechan. Y mae yn wir fod y bugail yn un bach mewn llawer amgylchiad, ond y mae yn gweddio am lwyddiant, ac ni fedr y Brenin Mawr ddim peidio gwrando arno, oblegyd y mae tamaid bara y dyn yn y cwestiwn; ac y mae ein Tad ni yn gofalu nid yn unig am eryrod, ond hefyd am adar y tô yn mhlith bugeiliaid. Dywedid fod ein gweinidog ni yn B yn gallu myned ar hyd yr heol hir heb gymaint a rhoddi nod ar neb. Yn wir, ni ddylai neb basio buwch heb ddweyd 'Ow, druan,' wrthi."
Prynodd ardd fechan y tu cefn i'w dŷ er mwyn ei chael yn benaf i ymneillduo iddi i ddarllen a myfyrio; a phan yr oedd y saer maen yn gwneud y grisiau i fyned iddi, dywedai wrtho, "Wel, G, gofalwch am ei gwneud yn esmwyth i'w cherdded oherwydd byddaf yn ei thramwy yn synych iawn i'r fan acw [gan gyfeirio at dŷ coed bychan a adeiladwyd ganddo.] Yn y fan acw y mae fy ngweithdy i, ac yno yr wyf am geisio gwneud pregethau, pa rai, o dan fendith Duw, a fyddant yn foddion i droi pechaduriaid." Treuliodd lawer iawn o'i amser yno, a phe buasai y coed yn gallu llefaru hwy a ddywedasent am ei weddiau taerion a'i ymdrechion dwysion ar y llanerch hono. Er mor syml a diaddurn oedd y caban coed, yr oedd yn sicr yn cael ei anrhydeddu gan bresenoldeb angylion. Cynwysai y tŷ fainc a chadair neu ddwy a desg uchel, yn yr hon yr oedd Beibl bras, Mynegair Peter Williams, a rhyw lyfr arall y byddai yn ei ddarllen ar y pryd. Cai ei frodyr yn y weinidogaeth a ddigwyddent ymweled âg ef eu gwahodd yn roesawgar ganddo i'w fyfyrgell yn yr ardd. Eisteddai yno am oriau wrtho ei hun i fyfyrio a gweddio a chyfansoddi pregethau.
Yn yr adgofion difyr a ysgrifenwyd am dano gan y Parch. R. H. Morgan, M.A., i'r Drysorfa am Mehefin, 1890, dywedir a ganlyn:
NI cheisiaf yn y llinellau dilynol roddi hanes ei fywyd, ond fy amcan ydyw cyfleu gerbron y darllenydd fy adgofion personol am dano a thynu darlun ohono fel y gwelwn ac yr adnabyddwn ef yn ystod deuddeng mlynedd olaf ei oes—darlun o Mr. Davies fel yr oedd neu fel yr ymddangosai i un a fu yn cydfyw âg ef am amser hir, a'i gwelodd mewn llawer amgylchiad a thymher, a dderbyniodd lawer iawn o wir garedigrwydd oddiar ei law yn mhob cylch, ac un sydd yn teimlo chwithdod a hiraeth wrth feddwl na cheir eto weled ei wynebpryd na mwynhau ei gymdeithas ar y ddaear. Fy nghôf cyntaf am Mr. Davies, o Benmachno y pryd hyny, ydyw ei wrando yn pregethu y noswaith olaf mewn cyfarfod a gynaliwyd yn Nghwmnancol, cymydogaeth wrth droed y Moelfre, uwchlaw Dyffryn Ardudwy—nis gwn yn mha flwyddyn. Cynaliwyd yno gyfarfod pregethu cyn hwnw hynod o lewyrchus ar ddechreu haf, rhyw dro yn ystod blaenllanw y diwygiad mawr diweddaf; yn hwnw cafodd y Parch. John Davies, Nerquis, oedfa hynod rymus ar y geiriau "Issachar sydd asyn esgyrnog, yn gorwedd rhwng dau bwn," oedfa a fu yn foddion troedigaeth i luaws o'r gwrandawyr. Yn yr ail gyfarfod trodd yr hîn yn anffafriol erbyn yr hwyr, ac felly yr oedd pregethu, yn ol yr hen ddull, yn ffenestr y capel yn anmhosibl fel y gwnaethpwyd y boreu a'r prydnawn. Yn y capel pregethai y Parch. Joseph Thomas a rhywun arall; ac yn Hendrewaelody ffermdy mwyaf gerllaw, lletty y fforddolion y pryd hwnw—yr oedd Mr. Davies yn pregethu, a'r bobl yn llenwi yr hen gegin fawr a'r siamber. Safai ar ben cadair wrth ben y bwrdd â bord gron o bren ffawydd gwyn wedi ei gosod ar ben y bwrdd i ddal y Beibl a'r Llyfr Hymnau. Nid wyf yn cofio dim am y testyn na'r bregeth, ond fod y pregethwr yn cael hwylusdod rhyfedd a'r gynulleidfa yn mwynhau. Tybiwn na chlywswn erioed y fath bregethwr yn meddu llais mor anwyl ac yn gallu ei drin mor fedrus: weithiau esgynai i'r uchelder mewn tôn beraidd, nid bloedd aflafar; ac wedi parhau am enyd yn y cywair hwn nes swyno pawb a'i beroriaeth, disgynai i'r dyfnder a llefarai mewn llais bass oedd yn llawn mor effeithiol yn ei ddylanwadau a'r llall. Yr oedd ganddo lais godidog; a phan fyddai anmhariaeth ar hwnw, torai ei galon yn lân a gosodai ei dŷ mewn trefn. Eto, camgymeriad dybryd a fyddai i rywun dybied nad oedd ganddo ddim ond llais. Yr oedd yn feddianol ar feddwl cyflym a chraff iawn mewn rhai cyfeiriadau, synwyr helaeth, arabedd a dawn diball, ysbryd gwresog, a natur danbaid.
Credai yr hyn a gredid ganddo â'i holl galon. Parai y nodweddion hyn iddo fod yn bregethwr ar ei ben ei hun yn un a wnaeth gymaint o ddaioni yn ei gylch ag odid neb, a bu yn hynod o lwyddianus, yn neillduol ddeg ar hugain a deugain mlynedd yn ol, yn nyddiau yr hen ddiwygiadau. Cyrhaeddai efe ddosbarth y mae llawer pregethwr yn eu colli, sef y gweision a'r morwynion, yn enwedig mewn ardaloedd amaethyddol. Swynai hwy i'w wrando â'i hyfryd lais ac â'i ddawn dihafal pwyai y gwirionedd hyd adref i'w meddyliau. Achubwyd canoedd, mae'n sicr, trwy ei weinidogaeth yn ngwahanol siroedd Cymru. Pregethai y gwirionedd fel y mae yn yr Iesu bob amser, ac yr oedd i'r "gwaed a redodd ar y groes" le amlwg yn ei weinidogaeth. Teimlai yn dra eiddigeddus dros ei lais a'i floeddio. Yr wyf yn cofio cael prawf diymwad a lled ddigrif o hyny. Mewn rhydd—ymddyddan âg ef, darfu i mi rywdro, yn hollol ddifeddwl ac heb un bwriad i'w glwyfo, adrodd y penill hwn:—
Ti roddaist imi udgorn mawr,
Wel d'od dy gymhorth i mi'n awr;
Canys ar fy ffordd i'r Amen,
'Rwy'n meddwl bloeddio nerth fy mhen.
"Ie," meddai yntau, mewn tôn ddifäol o sychlyd,. "rhywun digon diras wnaeth y penill yna. Gwaeddi fyddaf fi yn clywed pawb yn ei wneud os gallant. Chwi floeddiech chwithau pe buasai genych chwi lais."
Fy syniad fel plentyn am Mr. Davies oedd ei fod yn ddyn duwiol, ac ni chefais ar ol adnabyddiaeth agos ohono, achos i newid fy marn. Nid oedd amheuaeth am ei grefydd. Gallasai efe fenthyca geiriau Paul, "Eithr trwy ras Duw yr ydwyf yr hyn ydwyf; a'i ras ef yr hwn a roddwyd i mi ni bu yn ofer." Oni buasai am waith gras barnai pawb a'i hadwaenai y buasai yn un o'r dynion mwyaf annuwiol. Yr oedd ei natur yn gyfryw fel nas gallasai fod yn guddiedig mewn drygioni mwy na daioni. Nid gras prin a dderbyniodd; nid digon i'w gadw yn unig yn y diwedd, ond cafodd grefydd a dalodd ei ffordd yn y byd hwn. Meddai lawer a nodau dyn duwiol iawn. Ceisiai wisgo y dyn newydd yn wastadol. Nid oedd yr Adda cyntaf wedi ei ladd, mae yn wir; gwingai yn enbyd ar adegau, ond eto yr oedd wedi ei groeshoelio. Arferai ddarllen llawer ar ei Feibl bob amser er pan yn fachgen; ac mae yn ddiddadl fod Mr Davies, er na ddywedodd hyny wrthyf, yn weddiwr mawr yn y dirgel. Wrth edrych yn ol ar y blynyddoedd hyny, nis gallaf amheu na fu ei weddiau taerion drosom yn foddion i'n gwaredu fel eglwys rhag llawer helynt, ac i roddi i ni lwyddiant a llewyrch yn mhell y tu hwnt i'n haeddiant. Pregethu oedd gwaith mawr ei fywyd. Siarad am bregethu a llyfrau oedd ei ddewis—ymddyddan. Cyfansoddai bregethau newyddion yn barhaus—pedair neu bump mewn mis weithiau, er na byddai raid iddo wrth ond un newydd yn ystod yr amser. Ni arferai ysgrifenu y bregeth allan yn gyflawn, ond ysgrifenai amlinelliad manwl ohoni gan nodi y penau a sylw byr neu ddau dan bob pen. Ymhelaethai yntau yn y pwlpud ar y sylwadau hyn yn ol fel y byddai yr hwyl. Un o'r pregethau olaf a gyfansoddodd oedd ar y testyn "Codwch ymaith y maen" (Ioan xi. 39). 1 Drychfeddwl y bregeth oedd fod eisiau symud y meini sydd yn gwahanu rhwng yr Iesu byw a'r pechadur marw. Cafodd amryw oedfeuon hynod ar y testyn, a'r bregeth hon ar y maes oedd yr unig un y cafwyd ychydig lewyrch arni yn Nghymdeithasfa Bangor yn 1866, pryd y dyfethwyd oedfeuon y dydd dilynol gan yr hîn wlyb ac ystormus.
Cyfansoddodd ganoedd lawer o bregethau. Arferwn ei brofocio weithiau trwy ddweyd nad oedd ei bregethau newyddion ond yr hen rai wedi eu hail bobi. Gwadai yntau y cyhuddiad yn bendant, a haerai fod y testyn a'r rhaniadau yn hollol newydd. Credaf eto fod fy sylw yn lled wir, ond gwn hefyd ei fod ef yn tybio yn onest mai pregethau cwbl newydd—"newydd spon," ys dywedai—oeddynt. Trwy y llafur diwyd hwn llwyddodd i gadw ei feddwl yn iraidd ac ieuengaidd. Rhyw dro ar ol dyfod i'r Abermaw, pan mewn tymher lled isel a digalon gyda golwg ar ei bregethau, cymerodd ugeiniau o'r hen bregethau a chladdodd hwynt yn yr ardd. Yn mhen peth amser ar ol y claddedigaeth, daeth un o'i feibion—yn—nghyfraith yno ac adroddodd Mr. Davies yr hyn a wnaethai. Gresynai ei ddaw at ei weithred, a boreu dranoeth aeth yntau yn lladradaidd i'r ardd i'w hadgyfodi, ond erbyn hyny yr oedd yr hen bregethau wedi dechreu pydru, a bu raid eu dychwelyd i'r pridd.
Y mae yn rhaid ymatal rhag dyfynu ychwaneg yn bresenol o'r adgofion hyn, ond cawn wneud defnydd ohynynt eto cyn y diwedd. Delid ef weithiau, fel y dywedir uchod, gan ddigalondid mawr gyda'i bregethu, ond elai y cwmwl hwnw heibio yn fuan, a deuai awel glir ar ei feddwl, ac yn gyffredin byddai y cwmwl yn drwchus iawn neu yr awyr yn glir hollol. Nis gellir dweyd fod ei brofiad, ond lled anfynych, yn gymysg o oleuni a thywyllwch. Nis gellid dweyd am dano yn ngeiriau y prophwyd, "Nid dydd ac nid nos;" na, byddai yn ddydd goleu neu yn nos dywell arno ef bron bob amser. Pan y byddai wedi cyfansoddi pregeth newydd ac wedi cael tipyn o hwyl gyda'r gwaith, ni roddai dim fwy o foddhad iddo na chael adrodd y bregeth wrth ei gyfeillion mwyaf mynwesol yn mhlith ei frodyr yn y weinidogaeth.
Yr oedd i bregethu gartref un Sabboth, ac wedi bod wrthi hi yn ddiwyd trwy yr wythnos yn parotoi dwy bregeth; a chan ei fod wedi cael cryn rwyddineb ysbryd yn ei lafur, yr oedd yn teimlo yn dra sicr y cawsai Sabboth llewyrchus, a methodd ag ymatal rhag dweyd hyny wrth rai cyfeillion nos Sadwrn. Fodd bynag, digwyddodd y Sabboth fod yn hollol groes i'w ddisgwyliad, gan ei fod braidd yn rhwyfo yn erbyn y llif trwy y dydd. Pan y daeth i lawr o'r pwlpud a chanfod nad oedd neb wedi aros ar ol o'r newydd, suddodd ei ysbryd. Gomeddai ddweyd gair yn y seiat, ond eisteddai ar y gadair fawr a'i bwys ar ben ei ffon, ac wedi i'r gynulleidfa ymadael, a neb ond y blaenoriaid ac yntau ar ol, clywid ef yn dweyd wrtho ei hun "Wel! wel! wel!" "Beth sydd arnoch chwi, Mr. Davies?" meddai un o'r blaenoriaid. " Beth sydd arnaf?" meddai yntau, "ond aflwyddiant fy nhipyn pregethu sydd yn faich trwm arnaf," ac ychwanegai, "Ni chysgaf ddim heno." Ar hyn dyma un o'r hen flaenoriaid yn gwenu, a chanfu yntau ef, a throdd ato yn sydyn gan ofyn iddo, " Ai chwerthin yr ydach chi, R. J.?" "Ie," atebai y blaenor, " meddwl yr oeddwn y buasai yn fwy rhesymol i chwi fethu cysgu neithiwr na heno." Siriolodd yr atebiad ei feddwl yn y fan, a dywedodd, "Yn sicr, R. J., ni ddwedsoch chi 'rioed well gwir."
Byddai yn anfoddlawn i'r un Sabboth fyned heibio heb arwyddion amlwg fod y gwaith wedi ei fendithio; a byddai yn dra isel o ran ei feddwl os na chaffai rhyw lewyrch i'w deimlad ei hun yn mhob oedfa fel prawf fod y gwirionedd yn dylanwadu ar eraill, ond byddai yn cylymu ei hun yn rhy dỳn wrth yr arwydd hwn ac yn camfarnu llawer pregeth—llawer oedfa wedi gwneud y gwaith ac yntau heb gael y dystiolaeth o hyny mewn cymaint o rwyddineb a gwresogrwydd ysbryd ag arfer. Credwn fod ei ddifrifwch a'i dduwiolfrydedd yn ddigon o sicrwydd mai nid gofal am ei enw da ei hun oedd yn cynyrchu hyny, ond gofal cywir am anrhydedd y gwirionedd a gogoniant ei Feistr Mawr. Bu ei weinidogaeth, y mae yn ddiamheu, yn foddion i ddychwelyd llaweroedd at yr Arglwydd, a chafodd ef ei hun fod yn llygad—dyst o effeithiau mawrion llawer pregeth o'i eiddo; ond er cymaint a welwyd ganddo o hyny, y mae effeithiau ei weinidogaeth yn llawer eangach a dyfnach nag y meddyliodd ef erioed yn ei fynudau mwyaf gobeithiol a siriol.
Er cymaint o gyfnewidiadau a fu yn ei syniadau am bregethu, yn ei ddull o gyfansoddi pregethau ac yn nhymheredd ei ysbryd, ni fu cyfnewid o gwbl ar amcan ei weinidogaeth—cael dynion at yr Arglwydd—a rhoddwyd iddo, fel gwobr ei ddifrifwch a'i lafur, ganoedd o eneidiau i'w cyflwyno i'r Arglwydd Iesu. Yr oedd y ffrwyth hwn yn amlwg ar ei weinidogaeth, yn ddiamheu, oherwydd fod gwraidd ei fyfyrdod yn naear fras cymundeb â Duw. Gweddiai lawer mewn dirgel—fanau. Dechreuodd ar hyny yn foreu iawn, pan yn fachgen ieuanc yn Mhenmachno, a glynodd yn dyn wrth y gwaith hyd ddiwedd ei oes; ac yr oedd ei " Dad, yr hwn a wêl yn y dirgel," yn talu iddo yn yr amlwg. Yr oedd ei weddiau cyhoeddus a rhyw eneiniaid rhyfedd arnynt yn fynych iawn. Ceir yn adgofion Mr. Morgan, yn y Drysorfa, ar y pen hwn, y sylwadau canlynol:—
PERTHYNAI neillduolrwydd nodedig i Mr. Davies fel gweddiwr cyhoeddus. Nid oedd bob amser mor hapus ar amgylchiadau penodol, oblegyd mae'n debyg na byddai yn teimlo yn hollol 1ydd, neu y byddai yn ymwybodol o rywfaint o ymdrech i weddio yn dda. Yr oedd. ganddo ddwy arddull. Un pan na byddai awel, ychwanegai yntau nerth llais ac egni corphorol, a bloeddiai yn helaeth; a'r llall pan elai ar ei union i'r nefoedd gyda'r frawddeg gyntaf, ac yr arosai yno hyd ddiwedd y weddi. Nis gallaf ddesgrifio y gweddiau hyn a glywais ganoedd o weithiau ganddo. Byddai ei lais yn fwyn a hynod felus, y geiriau yn dyferu fel diliau mêl; adnodau wedi eu cymhlethu â'i ymadroddion yn y dull mwyaf meistrolgar a swynol; gafaelai mewn rhyw addewid a dadleuai hi "gan ymaflyd yn fy nerth." Oddiwrth ei weddiau yr oedd yn amlwg fod y geiriau hyny yn wir am dano:
A gwraidd fy nghysur fyth gaiff fod
Mewn dwyfol farwol glwy'.
Yr wyf yn ei gofio yn chwareu ar y geiriau, "O enau plant bychain a rhai yn sugno y perffeithiaist foliant," wrth ddechreu un o gyfarfodydd cymanfa ysgolion, lle yr oedd llawr y capel yn llawn o blant, nes oedd y dagrau yn dysgleirio yn llygaid pawb.
Credid yn ddiysgog fod rhai o'i weddiau dros bersonau mewn amgylchiadau neillduol wedi eu hateb yn uniongyrchol. Dywed Mr. L. am un engraipht arbenig o hyny. Cymerwyd un o forwyr yr Abermaw yn yr India yn glaf o'r dwymyn felen. Cyrhaeddodd y newydd am dano adref ar foreu Sadwrn, ac yr oedd Mr. Davies ar gychwyn i'w gyhoeddiad pan y clybu yr hanes. Teimlai yn ddwys iawn dros y teulu yn eu pryder. Yr oedd i bregethu yn Nhrawsfynydd y Sabboth hwnw, ac yn nechreu oedfa y boreu gweddiai yn afaelgar annghyffredin dros y morwr ieuanc oedd yn glaf yn yr hospital yn yr India bell. Adferwyd y claf a daeth adref yn mhen rhai misoedd; ac wrth iddo adrodd hanes ei wellhad, cafwyd allan mai yr awr y gadawodd y clefyd ef ydoedd yr awr y gweddïid mor daer drosto yn Nhrawsfynydd.
Cymerai ddyddordeb mawr yn y morwyr a gweddiai lawer drostynt, a byddai rhai ohonynt yn priodoli eu gwaredigaethau rhag dyfrllyd fedd i'w weddiau taerion ef ar eu rhan. Nid annyddorol i'r darllenydd gael amlinelliad o anerchiad a draddodwyd ganddo i'r morwyr—mewn cyfarfod ysgolion, yr wyf yn tybioac yr wyf yn ei roddi yma fel y ceir ef yn mhlith ei bapyrau:
COFIWCH Y MORWYR.
"Dyma eiriau sydd i'w canfod ar y pwlpudau ac ar furiau yr addoldai, mewn llythyrenau breision ac eglur, yn yr ardaloedd ar gyffiniau y môr yn Ngogledd a Deheudir Cymru. Nid ydym yn gwybod pa beth a fu yn achos o'r arfer hon, na pha beth yn benaf sydd yn peri ei bod yn parhau. Nid ydym yn meddwl fod y morwyr wedi bod un amser yn îs mewn crefydd a moesau na rhyw ddosbarth arall o'r genedl; ac nid ydym yn meddwl ychwaith fod morio yn llawer mwy peryglus i fywydau dynion na gweithio yn y glofeydd a'r gweithydd mŵn a'r cloddfeydd llechau. Efallai fod peryglon y morwyr yn fwy mynych a chyson, ond nid ydym yn tybio ei fod yn gymaint felly fel ag i beri fod y dymuniad yn mhob capel bron ar gyffiniau y môr. Ac nid oes byth y fath gais cyhoeddus a chyffredin ar ran neb arall sydd yn gweithio yn nghanol peryglon. Gwelsom yn argraphedig weithiau, Cofiwch y dall,' neu 'Cofiwch y mud a'r byddar," neu 'Cofiwch y weddw dlawd a'r plant amddifaid,' ond yr hyn a ddisgwylid yn benaf a fyddai elusen i'r gwrthrychau hyny. Eto, rhydd aml un ochenaid mewn gweddi trostynt yn ogystal â chyfranu iddynt. Ond pan y gwelir y geiriau, 'Cofiwch y morwr,' ni ddisgwylir i ni gyfranu dim o'n harian ar y pryd eithr yn hytrach cyfranu ein heneidiau mewn gweddiau taerion ar eu rhan. Y mae yn debyg fod y dymuniad hwn wedi codi oddiwrthynt hwy eu hunain, yn ddiau, yn y dechreu, a theimlad y morwyr eu hunain ydyw ei barhad. Y mae y dosbarth hwn o ddynion mewn mwy o anfanteision i fwynhau breintiau yr efengyl yn y moddion cyhoeddus nag un dosbarth arall.
"Ni ddywedir wrthym ychwaith yn y geiriau yn mha beth y dymunir eu cofio; ond gadewir y gair yn eang a phenagored, yr un modd ag y mae yr Apostol Paul yn ei arfer wrth ysgrifenu at yr Ephesiaid a'r eglwysi eraill, 'Nid wyf yn peidio a diolch drosoch gan wneuthur coffa am danoch yn fy ngweddiau.' Os mai oddiwrthynt hwy y tarddodd y dymuniad, fel y credwn, ac os mai eu teimlad hwy ydyw iddo barhau, fel y credwn hefyd, y mae hyny yn profi fod y morwyr yn meddu ffydd ddiysgog yn llywodraeth Duw ar bob peth—fod y 'gwynt a'r môr yn ufuddhau iddo' fel cynt, ac y gallent Ei gyfarch yn ngeiriau un o saint y Beibl, 'Ti wyt yn llywodraethu ymchwydd y môr, pan gyfodo ei donau Ti a'u gostegi.'
"Maent yn credu hefyd fod yr Arglwydd yn gwrando gweddiau; ac nid peth diweddar ydyw hyn a pheth yn perthyn i forwyr Cymru yn unig. Na, yr oedd y grediniaeth yma yn bod yn gref yn nyddiau y Prophwyd Jonah. Pan y cyfododd y gwynt mawr ac y bu tymhestl ofnadwy yn y môr, a'r morwyr mewn braw ac ofn, y maent bob un yn galw ar ei dduw er na wyddant am Dduw y nefoedd, yr 'Hwn a wnaeth y môr a'r sychdir.' Yr un ffunud yn nyddiau y Salmydd, pan y tawdd eu henaid gan flinder, ymdroant ac ymsymudant fel meddwyn, a'u holl ddoethineb a ballodd, 'Yna y gwaeddant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder, ac Efe a'u dwg allan o'u gorthrymderau. "
"Y mae y morwyr yn credu hefyd fod yr Arglwydd yn gwrando y naill ar ran y llall, a bod nerth gyda'r Arglwydd yn ngweddiau y lluaws, a'u dymuniad ydyw cael yr holl eglwys i weddio drostynt. ydym yn dra sicr mai y rhai sydd yn dymuno mwyaf am weddiau eraill ydynt y rhai sydd yn gweddio mwyaf eu hunain, ac yr ydym yn hyderu yn gryf y gallwn gyfeirio fel hyn at y morwyr. Credwn yn lled gryf yn ein meddwl, yn ol yr ychydig adnabyddiaeth sydd genym, fod cynifer o'r morwyr yn proffesu enw yr Arglwydd Iesu ag sydd o unrhyw ddosbarth ar gyfartaledd; a phan y mae diwygiad yn dyfod i'r eglwysi, y mae y morwyr yn cyfranogi ohono yn gymaint a neb. Nid ydyw y glowyr, mwnwyr, na chwarelwyr Cymru ar y blaen iddynt yn hyn; ac yr ydym yn tybied yn ddibetrus eu bod fel dosbarth o ddynion yn dyfod i fynu mewn crefydd a moesau yn llawn mwy prysur nag unrhyw ddosbarth arall o'r genedl. Yr ydym hefyd yn clustseinio a oes dim son fod y Brifysgol yn Aberystwyth yn dysgu Morwriaeth fel y gallo ein gwŷr ieuainc gael eu cymhwyso yn eu gwlad eu hunain i hwylio y llongau mwyaf a thramwy llwybrau y moroedd i'r gwledydd pellenig. A phe sefydlid y gangen hon o addysg, y mae yn fwy na thebyg y byddai i'r morwyr wneud ysgoloriaeth i'r dosbarth cyn pen tair neu bedair blynedd. Terfynwn y sylwadau gan ail adrodd y gair wrth drigolion canol y wlad yn ogystal ag wrth breswylwyr glan y môr, Cofiwch y morwyr.
Yr oedd ei haelioni i'r tlawd a'i gymwynasgarwch i'r rheidus a'i barodrwydd i gynorthwyo teuluoedd a phersonau mewn angen, yn hollol wybyddus yn y dref a'r cylchoedd, er y mynasai ef, fel ei Feistr Mawr, fod yn guddiedig yn hyn. Gwnai i galon llawer gwraig weddw lawenychu, a bendithion yr hwn oedd ar ddarfod am dano a ddisgynent arno.
PEN. VIII.—Heulwen a Chwmwl.
Ymroddi i lafur yn mhob cylch.—Ei lyfrgell.—Ei farn am lyfrau.—Yn ymgais i gyrhaedd y bobl mewn ffordd deg.—Gwneud cyfamod.—Dysgyblu ei hun yn barhaus.—Cyfamod arall.—Adduned a gweddi.—Myned am daith i Leyn.—Cyfarfod â damwain.—Ei brofiad yn ei gystudd.—Ei adgofion am hyny.—Yn methu cerdded fel cynt.—Yn siriol er y cwbl.
LLAFURIAI yn galed, a llafuriai yn barhaus, yn mhob cylch. Prynai lawer o lyfrau newyddion i gadw ei feddwl yn fyw a darllenai hwynt, a synid y rhai mwyaf craff pan y byddai yn son am gynwys rhyw lyfr newydd a ddarllenwyd ganddo gan mor afaelgar oedd ei feddwl, a hyny wrth ystyried nad oedd wedi cael ond ychydig o fanteision pan yn ieuanc.
Yr oedd ei lyfrgell yn yr Abermaw yn ystafell hir gul, a'r parwydydd oddiamgylch wedi eu llenwi â llyfrau; ac os oedd tuedd ynddo i falchio mewn rhywbeth, yn ei lyfrau y dangosid y duedd hono gyntaf. Cadwai hwy yn hollol drefnus, ac ni fyddai dim yn ei anfoddloni yn fwy nag i rywun symud llyfr a pheidio ei roddi yn ei le drachefn. Arferai ddweyd pe buasai yn myned i mewn i'r ystafell yn y tywyllwch y gallasai daro ei law ar unrhyw lyfr a ddymunai.
Er fod yn mhlith ei lyfrau rai o weithiau y tadau, a rhai o'r prif Buritaniaid, a'i fod yn edmygydd mawr o hen lyfrau Cymreig, eto arferai ddweyd fod dynion yn ysgrifenu i'w hoes eu hunain, a'i fod yn credu mai y llyfrau mwyaf cymhwys i bob oes oeddynt y llyfrau a gyfansoddid yn yr oes hono. Yn nghanol yr ystafell yr oedd bwrdd a desg arno, ac yn ei ymyl gadair dairongl lled uchel, ar yr hon yr eisteddai ef bob amser; ac ar y bwrdd byddai Beibl âg ol darllen mawr arno ac ambell i farc ar ymylon ei ddail, a llyfr neu ddau arall a ystyrid ganddo fel cynorthwyon i astudio y Beibl, a dywedai mai llyfrau i fod ar y bwrdd bob amser oedd y rhai hyny ac nad oeddynt i'w symud. Cafodd Mynegair Dr. Young fod yn y sefyllfa hon am gyfnod maith. Byddai yn darllen llyfr trwyddo ac yn gosod rhyw farciau a ddeallid ganddo ef ar yr ymylon yn lled fynych, ac ysgrifenai ei farn weithiau am gynwys y bennod ar ei diwedd mewn un frawddeg.
Bu ar un adeg yn hoff iawn o ddarllen gweithiau y diweddar Barch. Samuel Cox, D.D., er nad oedd yn cydolygu âg ef ar lawer pwynt, ac yn un gyfrol o'i weithiau fe geir brawddegau fel hyn wedi eu hysgrifenu ar ddiwedd y gwahanol bregethau, "Dim neillduol," "Mympwyol ac ynfyd," "Dyn yn cymeryd arno fod yn fwy grasol a thrugarog na Duw ei hunffei yr ynfyd," "Gwyrdroi y gwirionedd ei hun y mae y dyn hwn," "Da iawn, da iawn, yn wir," "Purion traithawd ydyw yr uchod, ac eto heb rhyw gymaint ynddo, ond yn bur gyson â rhediad yr Ysgrythyr yn y peth y mae." "Pregeth lled dda; ond y mae yn y rhan gyntaf o'r tir yn annyben ac amgylchog, fel dyn yn ysgrifenu er mwyn ysgrifenu, er hyny y mae yn dda ar y cyfan." "Un o'r traithodau sydd yn werth yr holl lyfr." "Pregeth yn werth y llyfr i gyd a mwy na hyny." "Pregeth ardderchog," &c., &c. Gallesid ysgrifenu pethau cyffelyb o lyfrau eraill a ddarllenwyd ganddo; ond gwasanaetha yr hyn a nodwyd eisoes i ddangos ei fod yn darllen y llyfrau ac yn ffurfio ei farn ei hun am danynt, a'i fod gyda'i lyfrau, fel gyda'i gyfeillion, yn canmol neu yn ceryddu fel y ffurfiai ei farn yn ol gonestrwydd ei galon; er, hwyrach, oherwydd bywiogrwydd ei deimladau, nad ystyrid ei farn mor ddyogel bob amser.
Cofus genyf iddo un tro ddarllen cyfrol o ddetholion o weithiau Cardinal Newman, ac wedi ei gorphen yr oedd wedi syrthio allan ag ef gymaint, fel na allai oddef gweled ei enw heb fyned yn ddoniol mewn ymosod arno; ond bob tro y deuai i lyfrgell brawd o weinidog ag yr oedd pregethau Newman ganddo, ni fedrai beidio a thynu cyfrol ohonynt i lawr a'i darllen, a bob yn dipyn, wrth ymgydnabyddu âg ef, daeth yn edmygydd mawr ohono. Darllenai luaws o gofiantau, a phrin yr wyf yn tybio y ceir un cofiant Cymreig o bwys nad oedd yn ei feddiant. Gwnai y cwbl gydag awch pregethwr, a darllenai bob llyfr er mantais i'w bregethu, a dyma yn ddiau a'i cadwodd yn îr ac yn newydd hyd ddiwedd gweinidogaeth o dros dair blynedd ar ddeg a deugain.
Er, fel y sylwyd, ac fel y tystia y rhai a'i clywsant, fod ganddo lais godidog, eto nid oedd am ddibynu ar hwnw yn unig, eithr byddai am i'r gwirionedd gario dylanwad ar wahan i hyny a thrwyddo; ac os rhoddai rhywrai awgrym mai ei lais oedd yn effeithio ar y bobl, fe deimlai yn ddwys yn y fan. Ceir a ganlyn wedi ei ysgrifenu ganddo mewn llyfr nodiadau sydd yn dangos ei deimlad ar y pwnc mewn modd syml iawn:—" Daeth gwraig ataf ganol dydd ddoe ar ol i mi fod yn pregethu y boreu ac a ddywedodd wrthyf, 'Chwi fuoch yn hir iawn yn dyfod iddi heddyw." Codais fy llais am ddau fynud neu dri yn y diwedd, ac yr wyf yn tybio mai y pryd hwnw yr oedd y wraig yn meddwl fy mod wedi 'dyfod iddi hi,' a minau wedi pregethu un o'r pregethau goreu a fu genyf erioed, ond nid oedd y wraig wedi gweled dim hyd nes y darfum i ddyrchafu fy llais."
Yn nechreu cosnodlyfr y mae cyfamod wedi ei ysgrifenu ganddo:
"Tachwedd 23ain, 1869.—Yr wyf y Sabboth diweddaf wedi dechreu ar ddull newydd i mi o bregethu, ac yr wyf yn ymgyfamodi, trwy gymhorth yr Arglwydd, i barhau ac ymberffeithio yn y dull hwn trwy dywyll a goleu hyd ddiwedd fy oes. Mae y diwedd bellach yn agos; ond yr wyf yn dymuno gan yr Arglwydd, ac yn ymgyfamodi am y dull hwn am y gweddill o'm gyrfa weinidogaethol. Felly dysged yr Arglwydd fi trwy Ei Ysbryd. Os bydd eithriadau nas gellir eu hosgoi, bydded felly yn eithriad ac yn beth annghyffredin. Dan dystiolaeth fy llaw y dydd hwn gerbron yr Arglwydd.
DAVID DAVIES."
Pa faint bynag o ddiffygion oedd ynddo fel pregethwr, gwelir ei fod yn cyrchu yn barhaus at y nôd o fod yn bregethwr perffaith, ac fe barhaodd yn ffyddlawn i ddysgyblu ei hun ar gyfer hyny ar hyd ei oes. Fe geir cofnod arall wedi ei ysgrifenu ganddo yn mhen tua haner blwyddyn ar ol yr ymgyfamodiad uchod:
Heddyw yr wyf yn hynod boenus sy meddwl ac isel fy ysbryd. Duw a drugarhao wrthyf; a thywyned Ei wyneb arnaf. Rhodded Ei gymhorth, a thrwy ei gymhorth Ef yr wyf yn llwyr benderfynu newid fy null o bregethu a disgyn i ddull mwy syml, agos, a naturiol. Yr wyf wedi blino arnaf fy hun—y gormodedd o eiriau, amser a llais. Llai ohonof fy hun i Ysbryd Duw gael lle yw fy nymuniad.—Mai 12fed, 1870."
Y mae yn dra thebyg mai at yr un peth y cyfeirir yn y ddau gofnod. Gwneud cyfamod yn y cyntaf, ac yn yr ymdrech yn methu ei gadw yn yr ail, a'i fod yn credu y buasai ysgrifenu ei deimlad fel hyn yn help iddo i ymberffeithio ac enill buddugoliaeth ar yr hyn a ystyriai oedd yn dramgwydd, ac yn anfantais i'r efengyl drwyddo. Ond prin y credwn ei fod wedi gadael maes y frwydr gyda hyn ar hyd ei oes. Fodd bynag, y mae swn y frwydr i'w glywed yn mhen mwy na phum' mlynedd ar ol hyn. Yn niwedd llyfr o nodiadau ceir y geiriau a ganlyn:—
AMOD DIWEDD SASSIWN Y DREFNEWYDD,
MEHEFIN 15, 1876.
"1.—Y bydd i mi lefaru yn y dôn a'r dull y llefarais wrth ddechreu pregethu heno. 2.—" Na bydd i mi eto bregethu yn hwy na deugain munyd.
GWEDDI.
"O Arglwydd, dyro gymhorth Dy Ysbryd i gadw yramod hon; dan bob temtasiwn i beidio, er gogoniant Dy enw Di, a lleshad eneidiau dynion, a daioni i mi fy hun yn mhob ystyr. Trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen ac Amen."
Yn Medi, yn y flwyddyn 1871, aeth ef a'r Parch. Samuel Owen, Tanygrisiau, ar daith i Leyn ac Eifionydd; ac ar yr ail ddydd o Hydref, pan yn cael eu danfon mewn cerbyd at oedfa y nos, yn agos i Rydyclafdy, gwylltiodd y ceffyl a dechreuodd redeg yn ddilywodraeth.
Wrth weled y perygl, fe neidiodd Mr. Davies i lawr o'r cerbyd; a chan ei fod yn drwm, yn y disgyniad fe anafodd asgwrn ei glun yn ddrwg, fel y bu am fisoedd heb allu llanw ei gyhoeddiadau. Yn mhen ychydig o wythnosau ar ol yr amgylchiad hwn, ysgrifenodd ychydig o hanes y ddamwain a'i brofiad ei hun wedi myned trwyddi; ac y mae yn dra sicr y bydd cael yr hanes, fel yr ysgrifenwyd ef ganddo, yn hyfrydwch mawr i'r darllenydd.
"Tachwedd 20fed, 1871.—Wedi brifo yr ail Hydref, y tu draw i Bwllheli, yn Rhydyclafdy, a bod yn gorwedd yn Llanbedrog, yn nhŷ'r capel, wedi tori fy nghlun, am dair wythnos a thridiau, a chartref bellach er's mis i ddydd Iau nesaf, ond heb wneud dim—methu eistedd i ddarllen nac ysgrifenu, methu pobpeth bron. O ba ley daeth hyn i mi? Ar gyhoeddiad cysurus yr oeddwn; a'r dydd Llun hwnw yr oedd genym dair oedfa, a rhwng dau a'r nos, camu o'r cerbyd, pan yr oedd y ceffyl wedi gwylltio, a thori fy nghlun, a methu myned i'r oedfeuon yn y daith hono rhagllaw, a phob Sabboth a chyfarfod o hyny hyd yma, ac nid oes tebyg y gallaf fyned hyd ddechreu y flwyddyn 1872, os gwel yr Arglwydd yn dda i mi gael bywyd ac iechyd.
"Yr wyf wedi derbyn yr amlygiadau helaethaf o diriondeb gan yr Arglwydd, a charedigrwydd nas gallaf ei annghofio oddiwrth bawb o'm hamgylchmwy o diriondeb a chydymdeimlad nag a feddyliais a gawsai neb oddiar law brodyr a chwiorydd crefyddol. Ac y mae tiriondeb yr Arglwydd a'i bobl yn brawf i mi, i ryw fesur, mai nid yn ei lid y gwnaeth yr Arglwydd hyn â mi, gan y credaf yn ddiysgog nas gallasai hyn ddigwydd heb ei oddefiad Ef, a'i fod yn Ei ragluniaeth ddoeth a da fel wedi trefnu pobpeth yn barod a chyfleus ar gyfer i'r ddamwain gymeryd lle—cerbyd isel ac esmwyth yn barod i'm cludo, a gwr â digon o nerth a deheurwydd i'm codi i hwnw, a digon o deimlad i'w yru yn araf a gofalus rhag fy mrifo wrth iddo fyned dros y ceryg. Ac, er syndod i bawb, yr oedd y lletty yn Pig Stryd fel wedi ei barotoi ar gyfer dyn yn fy amgylchiad—gwely wedi ei wneud yn bwrpasol mewn amryw bethau ar gyfer dyn a'i esgyrn briw, a gwraig y tŷ yn brofiadol o weini ar ei hanwyl briod—pan yn fyw—mewn gwendid a gwaeledd, ac yn llawn teimlad da, fel pe buaswn yn berthynas agos iddi. Nid oedd dim yn ormod ganddi ei wneud, ac yr oedd yn dychymygu rhyw ymgeledd newydd i mi o hyd i'm cysuro y noson anesmwyth a'r diwrnod tywyll a gofidus ar ol i mi frifo, ac yr oedd yn awyddus i'w merch—geneth tuag un ar bymtheg oed—i gael gwneud rhyw gymwynas i mi. Heblaw y ddwy Catherine oedd yn byw yn Nhŷ'r Capel—y fam a'r ferch—yr oedd John Williamsblaenor yn byw gerllaw—yn barod o'i galon i wneud a allai i mi; ac yr oedd yntau wedi bod yn gweini ar ddyn methiantus yn Four Crosses, a thrwy hyny wedi ei gymhwyso yn rhyfedd at fy amgylchiad inau. Bu ef ar ei draed am bum' noswaith yn gweini arnaf.
"Hefyd yr oedd yno luaws o gymwynaswyr eraill, ac yn eu plith yr oedd Mr. Elias Hughes a'i briod; Mr. William Jones, y Plas, a'i wraig; gwr a gwraig y Crugan; gwraig Castellmarch; Mrs. Hughes, Ty'nypwll, a'i merch; a theulu y Felin; ac nid annghofiodd Mr. John Griffith, Saethon, a Mrs. a Miss Evans—y rhai oedd gyda mi pany syrthiais—mohonof tra y bum yno.
"Daeth fy anwyl briod ataf nos Fawrth, ac yr oedd ei dyfodiad yn gysur mawr imi; a nos Fercher daeth Laura, fy merch, o Gorwen, a Winifred o'r Rhyl, a Kate o'r Abermaw, ac mor dda oedd genyf eu gweled. Mynasant feddyg arall i'm gweled, yr hyn a fu yn fendith fawr i mi, sef Dr. Roberts, Penygroes. Arosodd Winifred yno am fwy nag wythnos gyda'i mam i weini arnaf. Yn mhen tair wythnos, daethum adref gyda'm hanwyl briod o dan ofal y meddyg, a gwnaed y daith yn hynod o lwyddianus a diofid ac ystyried. fy amgylchiad.
"Pan yn y lletty yn Lleyn, daeth pregethwyr a blaeniaid o sir Gaernarfon a sir Feirionydd yn lluoedd i ymweled â mi, fel yr oedd y cerbydau yn rhedeg bob dydd o Bwllheli i Pig Stryd, i gludo rhai i edrych am y pregethwr oedd wedi tori ei glun, ac yr oedd cyfeillion Pwllheli hefyd yn dylifo yno a phawb â'u rhoddion i'm cysuro.
"Gwnaethum gynydd hefyd mewn adferiad hyd yma yn llawer cynt nag y meddyliodd neb. Siomwyd y doctor yn fawr yn hyny gan mor gyflym yr oeddwn yn dyfod i fynu o ddyfnder mor isel. ‘Beth a dalaf i'r Arglwydd am ei holl ddoniau i mi?' Yn ngwyneb yr holl diriondeb hwn, a llawer mwy nag a allaf ei adrodd na'i gofio, yr wyf yn meddwl yn dra sicr mai nid yn ei lid y gwnaeth yr Arglwydd hyn â mi. Yr oedd y diwrnod y digwyddodd yr anffawd yn ddiwrnod hyfryd dros ben—yr oedfa am ddeg yn yr Efail Newydd a'r oedfa am ddau yn Rhydyclafdy. Diwrnod oedd hwn ag yr oedd yr haul yn tywynu arnaf, a dyma y diwrnod y tywyllodd fy haul am dri mis y mae yn debyg iawn.
"Tybied yn gryf yr ydwyf mai nid yn ei lid y gwnaeth Duw hyn a mi. Paham ynte?
"1.—Ai yn gerydd oblegyd rhyw gamwedd? Nid wyf yn gwybod am yr un camwedd neillduol y pryd hwn mwy nag amser arall. Gwn fod ynof gamweddau lawer, ond paham yr amlygai yr Arglwydd ei anfoddlonrwydd yn erbyn y camweddau hyny y pryd yma ar ganol taith yn pregethu, ac heb gael yr un arwydd o'i anfoddlonrwydd na'i annghymeradwyaeth ond yn unig y mynud hwnw? Nid yw yn amlwg fod hyn oblegyd anfoddlonrwydd neillduol yr Arglwydd tuag at fy nghamweddau cyffredin. Er, yn ddiau, y dymunwn yn fawr gael bendith ar y tro yma i'm glanhau ac i ddarostwng llygredigaethau sydd wedi bod yn orthrymder mawr arnaf ar hyd fy oes. Rhodded yr Arglwydd ras a nerth i orchfygu yr Anaciaid bryntion hyn.
"2.—A oedd yr Arglwydd trwy hyn yn rhagflaenu rhyw brofedigaeth fwy? Nid oes dim wedi ymddangos hyd yma i brofi fod y tro hwn wedi effeithio i'm gwaredu rhag unrhyw beth gwaeth; er, efallai, y gwna yr Arglwydd roddi bendith arno i beri hyn.
"3.—A ydyw yr Arglwydd, trwy yr oruchwyliaeth hon, yn bwriadu fy anrhydeddu â rhyw ffafr yn ei ras a'i drugaredd ? Nid oes dim neillduol wedi ymddangos eto i'r cyfeiriad yma. Byddai yn dda iawn genyf gael bendith newydd gan yr Arglwydd. Bum yn meddwl am y geiriau, 'Eithr os heb gerydd yr ydych, o'r hwn y mae pawb yn gyfranog, yna bastardiaid ydych, ac nid meibion.' Erbyn hyn, yr wyf yn cael fy hun o dan law geryddol Duw, er nad ydwyf yn gwybod am unrhyw fai mwy na'i gilydd yn galw am hyn; ond yr wyf yn addef mai goruchwyliaeth i'm dwyn i hunanymholi ac ymostwng ydyw yr oruchwyliaeth hon, a byddai yn dda genyf allu dyfod i fynu yn well â'r adnod hono, 'Ymddarostyngwch gan hyny dan alluog law Duw. fel y'ch dyrchafo mewn amser cyfaddas.' Dymunwn inau ras i ymostwng yn dawel, addfwyn, a dirwgnach, ac aros mewn amynedd am amser cyfaddas Duw i'm dyrchafu. Dywed yr Apostol, 'Ni a gawsom dadau ein cnawd i'n ceryddu ac a'u parchasom hwy,' a hwy yn ffaeledig yn eu ceryddon fel yn mhobpeth arall, ‘Eithr hwn er lleshad i ni, fel y byddem gyfranogion o'i sancteiddrwydd Ef." Rhodded yr Arglwydd y fendith werthfawr hon i minau 'i gael bod yn gyfranog o'i sancteiddrwydd Ef.' Y mae yn werth dyoddef unrhyw beth er meddu y fendith fawr hon.
"4.—A oes gan yr Arglwydd ryw genadwri benodol tuag ataf yn hyn? Nid ydwyf wedi deall hyd yma fod. Er fy mod yn credu fod ei lais yn galw arnaf yn yr amgylchiad hwn, eto nid ydwyf yn gwybod am ddim yn benodol ag y mae yr Arglwydd yn llefaru wrthyf am dano. Y mae yn dra sicr fod hyn yn rhybudd difrifol o beryglon mawrion yn nghanol iechyd a chryfder, ac y mae yn ddiau fod yma amryw o wersi i'w dysgu i mi. (a) Y mae yma rybudd i mi mor agos i'r geulan yr ydym ar bobawr. Fel y dywed gwaasnaeth Eglwys Loegr, Yn nghanol ein bywyd yr ydym mewn angau.' Yn ngolwg hyn yr wyf finau yn awyddus i arwain bywyd mwy pur a sanctaidd, mewn meddwl a gair. (b). Fe'm dysgir hefyd trwy hyn i roddi pris ar garedigrwydd fy anwyl gyfeillion. Y fath sel a ddangoswyd gan luaws ohonynt yn eu hymweliadau pell a chostus. Mor dyner y dylwn inau fod ohonynt hwythau. Yr wyf mewn dyled o gariad tra y byddaf ar y ddaear. Yr wyf wedi fy rhoddi mewn dyled yn y tro hwn i garu fy mrodyr yn fwy nag erioed o'r blaen. Dylwn fod yn fwy gostyngedig nag o'r blaen, ac yn fwy marw i mi fy hun a'm teimladau, a bod heb geisio yr eiddof fy hun—llai o'r hunan—llai o lawer o'r hunan, ac yn fwy yn y teimlad yr oedd yr apostol ynddo, y llai na'r lleiaf'—heb eisiau cael fy ngweled yn mhob man. (c). Dymunwn y fendith yma hefyd, 'I'r Arglwydd fy nghadarnhau â nerth yn fy enaid' i feddwl—i feddwl yn glir, ac i weled yn mhell ac yn graff yn y gwirionedd, fel y gallwyf fod yn abl, yr hyn sydd yn ol o'm taith, i 'ddwyn allan bethau newydd a hen' o drysorau gras—y cwbl yn cael eu dwyn allan o'r tu mewn a'u dwyn allan yn amlwg ac heb eu llychwino.
"5.—A oddefodd yr Arglwydd i'r diafol wneud hyn er mwyn fy ngwneud yn fwy teimladwy o'i elyniaeth tuag ataf, ac o'r gwaith oedd genyf i ymladd yn ei erbyn a dryllio ei deyrnas? Nid wyf yn amheu nad allasai hyn fod. Yr oeddwn wedi colli golwg arno fel gelyn er's amser; a gall fod yr Arglwydd wedi goddef hyn iddo er mwyn dwyn y gelyn i olwg fy meddwl, i wylio rhagddo, ac i ymdrechu yn ei erbyn, ac i dynu ei deyrnas i lawr yn meddyliau dynion. Y mae Gurnal, pan yn son am gyfrwysdra Satan, yn gwneud sylw fel hyn: "Pan fo y Cristion yn nghylch rhyw orchwyl nodedig tros ogoniant Duw, yna bydd Satan fel sarph ar y ffordd a neidr ar y llwybr, yn brathu sodlau y march fel y syrthio ei farchog yn ol. Fel hyn y safodd ef ar ddeheulaw Josuah i'w wrthwynebu ef. Y llaw ddehau yw y llaw weithio, ac y mae ei safiad yno yn arwyddo ei ymgais am rwystro Josuah yn ei orchwyl. Yn wir, ni bu y diafol erioed yn garwr gwaith teml. Ni bu ef erioed yn caru y gwaith o bregethu Crist ar hyd a lled y wlad, ac nid yw yn rhyfedd fod ambell i brofedigaeth i'w chael gyda'r gwaith. Ac nid wyf yn meddwl yn amgen nad oedd gan Satan law yn fy nghodymu ar y ffordd ac yn tori fy esgyrn. Bydd genyf fwy o feddwl a sylw o hyn allan ar ei gyfrwysdra a'i elyniaeth ef.
"6.—A oes gan yr Arglwydd amcan i ogoneddu ei hun ynof yn y tro hwn mewn rhyw fodd sydd, ar hyn o bryd, yn anhysbys i mi? Yr ydwyf yn gobeithio fod, ac y mae fy meddwl wedi ei dueddu o'r dechreu i hyderu hyny. Boreu dranoeth wedi i'r ddamwain gymeryd lle, gofynais am y Beibl, yr hwn a estynwyd i mi. A'r man yr agorais arno oedd y geiriau hyny, 'Pwy a bechodd, ai hwn ai ei rieni, fel y genid ef yn ddall? Yr Iesu a atebodd, Nid hwn a bechodd na'i rieni ychwaith: eithr fel yr amlygid gweithredoedd Duw ynddo ef.' Yr wyf wedi fy nhueddu yn gryf i feddwl fod gan yr Arglwydd amcan cyffelyb yn yr anffawd hon. Nid fy iachau yn wyrthiol. Na, nid yn ffordd gwyrth, ond yn ffordd Ei ras, y mae yn amlygu ei weithredoedd ynof er gogoniant ei Enw, a hyny yn y ffordd y mae Ef yn gweled yn dda ei hun; ac nid oes dim yn fwy o foddhad i mi na chael bod yn achlysur gogoniant Duw mewn amlygiad o'i weithredoedd.
"Bellach, yr wyf yn terfynu hyn o air gan ddweyd o'm calon, 'Yr Arglwydd yw efe; gwnaed a fyddo da yn Ei olwg,' 'Ewyllys yr Arglwydd a wneler,' 'Ond nid wyf fi yn gwneuthur cyfrif o ddim, ac nid gwerthfawr genyf fy einioes fy hun os gallaf orphen fy ngyrfa trwy lawenydd a'r weinidogaeth a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu i dystiolaethu efengyl gras Duw.' Y geiriau a ymdroent yn fy meddwl y boreu y cyfarfyddais â'r ddamwain oeddynt, 'I dystiolaethu efengyl gras Duw.' A rhyw foreu, ddiwrnod neu ddau cyn i'r ddamwain ddigwydd, yr oedd y geiriau hyny yn cyffroi fy ysbryd pan yn deffro, 'A chan fod genym yr un ysbryd ffydd, yn ol yr hyn a ysgrifenwyd, Credais, am hyny y llefarais, yr ydym ninau hefyd yn credu, ac am hyny yn llefaru." Rhodded yr Arglwydd i mi a'm hanwyl briod a'm plant fod
Pob anadliad fyn'd i ma's
- I ganmol gras fy Nuw.
A'r gweddill o'm hanes fyddo 'I dystiolaethu efengyl gras Duw.' "Bu yr Arglwydd yn garedig iawn wrthyf fi a'm teulu trwy yr holl helynt. Ac hyd heddyw y mae yn rhaid i mi ddweyd fod 'pobpeth yn dda'—'tiriondeb trugaredd' ydym wedi ei fwynhau yn mhob man oddiwrth bobpeth a phawb. O! am ras i ymostwng ac i fyw yn y llwch. Pa rhyw fath deulu a ddylem ni fod, 'mewn sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb.' Mor ddiwyd, gofalus, a manwl y gweddai i ni fod gyda'n holl ddyledswyddau personol a theuluaidd. Terfynaf hyn mewn clod i enw yr Arglwydd troswyf fy hun a'm hanwyl wraig a'n plant a'n hwyrion.Tachwedd 21, 1871."
Byddai, wrth adgofio caredigrwydd y cyfeillion yn Llanbedrog y pryd hwnw, yn dweyd, " Y lle goreu i ddyn dori ei goes ydyw Llanbedrog." Er iddo gael ei anhwyluso yn fawr trwy y codwm, byddai, fel rheol, yn hynod o siriol, hyd yn nod pan yn cyfeirio at effeithiau y ddamwain, ac yr oedd yn amlwg ei fod yn medru cael mêl yn ysgerbwd y llew. Ar ol hyn nis gallasai fyned o'r naill fan i'r llall yn ei deithiau heb gael cerbyd i'w hebrwng neu i'w gyrchu, a phan y cludid pregethwr ieuanc yn y cerbyd gydag ef un tro dywedai, "Ydech chi yn gwel'd y fath fantais ydi cael canlyn hen wr cloff o'i glun?" Dywedai cyfaill ieuanc wrtho, "Yr ydych yn edrych yn dda, Mr. Davies, a buasech yn sionc a heinyf iawn onibai y cloffni yna." "Na," meddai yntau, "hwyrach onibai hwn y buaswn wedi cerdded fy hun i farwolaeth cyn hyn."
PEN. IX.—Ymddatod oddiwrth ofal bugeiliol.
Yn traddodi y bregeth gyntaf ar ol y ddamwain.—Yn rhoddi ei ofal bugeiliol i fynu.—Ei dymher fywiog.—Yn cymhell yr Eglwys i ddewis olynydd.—Ei ymddygiadau tuag ato.—Cynghor i fyfyrwyr.—Cyfarfodydd sefydlu gweinidogion.—Llanidloes.—Gwrecsam.
Yr oedd ysbryd pregethu wedi ei feddianu mor llwyr fel nad oedd yn foddlawn i ymatal oddiwrth y gwaith os gallai mewn modd yn y byd ei gyflawni, a chafodd lynu yn nghyflawniad ei hoff orchwyl yn hynod o ddifwlch o'r dechreu hyd y ddamwain yn Lleyn; a chyn iddo yn agos wella oddiwrth effeithiau hono yr oedd y "Gair yn llosgi fel tân" ynddo, a mynodd draddodi pregeth ar noson waith yn yr Abermaw, er y cynghorid ef yn daer i beidio gwneud ymgais at hyny.
Cyfansoddodd y bregeth pan yn gorwedd o dan effeithiau y codwm, a chynwysai gryn lawer o'i brofiad yn ei gystudd. Daeth tyrfa fawr i'w wrando hyd nes yr oedd y capel yn llawn. Ymlwybrai yntau i mewn â'i bwys ar ffyn baglau, ac yr oedd yn pwyso ar y rhai hyny tra yn pregethu. Y mae yn debyg fod mater y bregeth a sefyllfa y pregethwr wrth ei thraddodi, ac awydd cryf y gynulleidfa fawr i'w glywed. drachefn, yn gydgyfarfyddiad o bethau manteisiol i barotoi y ffordd tuag at oedfa hwylus; ac y mae yn amlwg yn y gwasanaeth fod Ysbryd y Duw byw yn argyhoeddi pawb oedd yn bresenol fod y gwirionedd o'i enau eto i gael ei arddel, a bu yno gyfarfod rhyfedd iawn.
Gan y parhaodd yn gloff ar ol hyn, yr oedd yn teimlo yn anesmwyth i ddal ei afael yn y gwaith bugeiliol heb allu "myned i mewn ac allan " yn mhlith y praidd fel cynt; ac yn gynar yn y flwyddyn 1874, rhoddodd rybudd i'r swyddogion o'i fwriad i roddi gofal bugeiliol yr eglwys i fynu; ac yn mhen yr wythnos darllenodd lythyr ei ymddiswyddiad i'r eglwys yn y geiriau a ganlyn:
"ANWYL FRODYR A CHWIORYDD,—Dymunaf eich hysbysu fy mod wedi gwneud fy meddwl i fynu i ymddatod o'r cysylltiad sydd rhyngwyf a'r eglwys hon fel ei bugail. Er's blynyddau yn ol, rhyddheais chwi oddiwrth eich rhwymedigaeth arianol i mi, a hyny oherwydd y cyfyngder yr oedd yr achos ynddo ar y pryd gyda dyled y capel; ond wedi hyny gwawriodd pethau arnom, a chyflawnodd y brodyr, y blaenoriaid, â mi yn ol y cytundeb ar y dechreu. Yn nechreu yr haf diweddaf, dywedais wrth y swyddogion y buaswn yn dymuno iddynt ymofyn am rywun yn fy lle, gan nad oeddwn yn gweled fy hun yn gallu gwneud yr hyn a ddylaswn gyda'r achos.
"Bellach, y mae deugain mlynedd er pan ydwyf ar enw pregethwr, ac y mae yn neshau at ddeng mlynedd er pan yr ydwyf gyda chwi. Ac erbyn hyn yr wyf yn gweled pethau wedi addfedu i mi ymryddhau. Crybwyllais am hyny yn y Cyfarfod Misol a tu yma, a byddaf yn hysbysu hyn yn benderfynol yn Llanelltyd yn y Cyfarfod Misol nesaf.
"Gobeithiwyf y bydd i'r Arglwydd eich cyfarwyddo i gael rhyw frawd ieuengach a chymhwysach na mi un wedi cael addysg uchel a dygiad i fynu da—i fod yn fugail i'r eglwys hon, a hyny yn ddiymaros.
DAVID DAVIES."
- Mawrth 18, 1874.
Nid ydyw yn anhawdd casglu oddiwrth ffurf a thôn y llythyr uchod y gallasai fod yma rywbeth yn yr eglwys ar y pryd oedd—heblaw y pethau a nodwydyn gynorthwy i dueddu ei feddwl i hyn; ac yr oedd yntau yn ddyn o dymher fywiog ac yn meddu teimladau hawdd i'w cynhyrfu, ac efallai iddo gymeryd ei archolli gan rhyw air neu weithred na ddychymygodd neb a lefarodd y gair, neu a gyflawnodd y weithred, am foment i hyny effeithio dim arno ef. Gallai ddweyd geiriau miniog ar adegau pan y cynhyrfid ef gan yr hyn a dybiai ef oedd yn dro câs tuag ato ef neu tuag at ei gyfeillion. Byddai ei ddawn y pryd hwnw fel llifeiriant yn ysgubo pobpeth o'i flaen, a byddai y truan a ddigwyddai fod yn ffordd y ffrwd gref—er yn ddiniwed, hwyrach—mewn enbydrwydd mawr. Tybiwn mai yn sydyndrwydd y cynhyrfiadau hyn yr oedd ei berygl mwyaf; ac onibai fod cymaint o natur dda a serchogrwydd ynddo, ac wedi ei sancteiddio â gras, buasai y peth hwn wedi ei ddwyn i brofedigaethau fwy nag unwaith; ond buan yr elai yr ystorm heibio ac y ceid pelydrau siriol yr haul i dywynu drachefn.
Dywed Mr. Morgan am dano yn y Drysorfa:—
Yn ystod ei fywyd ni allai neb brophwydo pa beth a wnai neu a ddywedai nesaf; cipid ef yma ac acw gan yr awelon a'r ysprydion. Yn fynych bu llawer yn chwilio am dano ar y ffordd rhwng Jerusalem a Gaza, ond efe "a gaed yn Azotus." Ei wendid oedd ei anwadalwch, ond yr oedd y natur mercurial, y cyflymdra meddwl hwn a'i gwnai yn agored i newid a throi yn amlach nag y buasai yn ddymunol, yn fanteisiol iawn iddo wrth bregethu, yn rhoddi nerth mawr yn ei eiriau. Troi ar ac nid oddiar y llwybr y byddai efe, ac fel blodeu yr ardd, sydd yn gorfod plygu yn nghyfeiriad pob awel ond yn troi at yr haul can gynted ag yr ymddengys, felly yr oedd crefydd drwyadl Mr. Davies yn cywiro pob gwall, ac yn ei ddychwelyd yn fuan fuan mewn dwfn edifeirwch at y gwirionedd, pan ddigwyddai, trwy ryw anffawd, wyro oddiwrtho mewn barn neu ddywedyd gair rhy ffraeth i glwyfo ei gyfeillion.
Bu ei gysylltiad bugeiliol ef âg eglwys yr Abermaw yn hynod o ddedwydd a llwyddianus, ac fel hyn y dywed un o flaenoriaid yr eglwys hono am y cam a gymerodd wrth roddi ei ofal i fynu:
WEDI ei ymddiswyddiad bu yr eglwys am flwyddyn heb ddewis olynydd iddo; ond yr oedd ef mor awyddus a pharod i gynorthwyo yn nygiad yr achos yn mlaen yn y cyfwng hwnw ag ydoedd cyn tori y cysylltiad. Parhaodd i ymweled â'r cleifion, i agor ac arwain a chau y gyfeillach grefyddol; ond gwrthodai dderbyn unrhyw gydnabyddiaeth am ei lafur a'i gynorthwy gwerthfawr. Teimlai y swyddogion oherwydd hyny raddau o bryder i bwyso yn ormodol arno; ac felly credent mai eu dyledswydd ydoedd cael un, ar yr hwn y byddai y cyfrifoldeb fel bugail yr eglwys yn gorphwys. Yn nygiad y gwaith hwn yn mlaen, ni wneid dim heb ei farn ef a'i gydweithrediad. Yn wir, yr oedd nid yn unig wedi cymhell hyn yn llythyr ei ymddiswyddiad, ond yr oedd hefyd wedi ein hanog laweroedd o weithiau ar ol hyny i symud yn mlaen; ac efe a ddygodd enw ei olynydd gerbron, yr hwn a ddewiswyd yn unfrydol gan yr eglwys. Wedi dyfodiad y Parch. R. H. Morgan, M.A., atom yr hwn oedd ar y pryd yn wr ieuanc newydd adael yr athrofeydd cafodd yn ei ragflaenydd y cydymdeimlad llwyraf yn nghyda phob cymhorth a chefnogaeth i gyflawni ei waith. Bu fel tad iddo, a diamheu genym iddo gael llawer cynghor gwerthfawr ganddo.
Yn yr erthygl a ysgrifenodd Mr. Morgan i'r Drysorfa, o'r hon y cofnodwyd sylwadau o'r blaen, dywed yr awdwr am dano ei hun eiriau sydd yn cadarnhau yr hyn a ddywedir uchod:
YN Mehefin, 1875, daethum i'r Abermaw fel bugail, yn fachgen neillduol o raw, yn hollol ddibrofiad, ac yn lled ddisyniad am waith y weinidogaeth. Cefais Mr. Davies yn gyfaill ffyddlawn a chywir ar hyd y blynyddoedd. Ni ddiystyrodd fy ieuenctyd, ond bu yn gynorthwy wrth raid, ac yn gynghorwr caredig ar lawer amgylchiad. Bydd genyf barch dwfn i'w enw, ac y mae ei goffadwriaeth yn anwyl a bendigedig.
Oddeutu yr amser y rhoddodd ei gysylltiad âg eglwys yr Abermaw i fynu, bu yn y Bala yn traddodi cynghor i'r myfyrwyr yn adeg yr arholiad. Yr oedd Dr. Parry yn ymddiswyddo oherwydd palldod iechyd. Yn nghwrs ei anerchiad, pan yn eu cymhell i ymgysegru i'r gwaith y galwyd hwynt iddo, dywedai:Dyma Dr. Parry yn methu yn y gwaith ac oherwydd y gwaith, ac y mae pallu mewn iechyd wrth gyflawni y gwaith yn anrhydeddus. Y mae rhai ohonom wedi cloffi, ond cloffi wrth wasanaethu, ac yr ydym yn dwyn yn ein cyrph nodau yr Arglwydd Iesu. Daliwch chwithau yn dyn wrth y gwaith hyd nes y gorfodir chwi i gilio yn anrhydeddus. Rhoddwch eich hamser, a'ch talentau, a'ch dysgeidiaeth, a'ch hiechyd, a'ch bywydau ar allor fawr gwasanaeth Crist eich Meistr."
Yr oedd yn gyfaill calon i bob dyn ieuanc gwir ddifrifol. Gwnaeth ei oreu yn y cyfnod hwn o blaid y fugeiliaeth eglwysig. Ni elwid neb yn fwy mynych i gyfarfodydd sefydlu nag ef; ac y mae rhai o'r anerchiadau a draddodwyd ganddo ar archlysuron felly yn gyfryw ag a gofir yn hir gan y gwrandawyr.
Cynaliwyd cyfarfod sefydlu y Parch. N. C. Jones yn weinidog ar eglwys Llanidloes, Gorphenaf 13eg a'r 14eg, 1875. Pregethwyd y noson gyntaf gan y Parchedigion David Davies ac O. Thomas, Lerpwl. Am ddeg, ddydd Mercher, y 14eg, pregethwyd gan y Parchn. Joseph Thomas ac O. Thomas. Am ddau o'r gloch neillduwyd y cyfarfod i anerch yr eglwys a'r gweinidog mewn perthynas i ddyledswyddau y naill a'r llall. Yn y Goleuad am Gorphenaf 24ain, y flwyddyn hono, ceir y cofnodion a ganlyn o anerchiad Mr. Davies yn y cyfarfod hwnw:—
YNA galwodd y Llywydd ar y Parch. David Davies, Abermaw, i anerch yr eglwys. Dywedai yntau:—Yr wyf wedi dyfod yma dros Gyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd i gyflwyno y brawd anwyl Mr. Jones i Gyfarfod Misol y rhan hon o sir Drefaldwyn. Mewn ystyr, yr wyf yn teimlo yn hapus wrth wneud hyn, er fod y golled yn fawr i ni yn y rhan acw o'r sir. Yr ydym yn credu ei fod yn dyfod i le y caiff dderbyniad cynes. Credaf eich bod chwi yn rhai o'r Methodistiaid mwyaf goleuedig. Ni raid i mi ddweyd fod cyfamod penodol rhwng y gweinidog a'r eglwys. Yr ydych chwi wedi bod ar y blaen gyda'r achos yma yn nyddiau Mr. Gwalchmai, Mr. Rowlands, Bangor, ar ol hyny, ac yn ddiweddaf y brawd anwyl sydd yn awr yn y cyfarfod.
Hwyrach fod yn briodol dweyd hyny wrthych fod y brawd anwyl yma wedi dod o ganol serchogrwydd mawr. Nid mewn eglwys fechan, cofiwch, yr oedd, ond eglwys luosocach nag ydych chwi heddyw; ac ni ddaeth yma am nad oedd gan yr eglwys yn y Penrhyn afael gyffredinol, gref, gynes, a serchog ynddo. Na, y mae yn rhaid dweyd mai sharp oeddych chwi. "Geiriau gwŷr Judah a fuont yn galetach na geiriau gwŷr Israel," felly y mae eich geiriau chwithau wedi bod yn galetach na geiriau pobl y Penrhyn. Ond y mae yn rhaid i ni gydnabod fod gan yr Arglwydd oruwchlywodraeth ar bobpeth, felly gyda'r peth hwn.
Yn bresenol, ceisiaf ddweyd beth y gellir yn rhesymol ac Ysgrythyrol ei ddisgwyl oddiwrthych. Lle y byddo cyfamod y mae rhwymedigaeth ar y naill ochr a'r llall; ac felly yma, rhwng yr eglwys a'r bugail. Y peth cyntaf yr oeddwn am ei grybwyll, er, efallai, ei fod yn afreidiol, ydyw y rhwymedigaeth i'w gynal fel y gallo gysegru ei hun, ei holl amser, ei holl galon, a'i holl nerth at waith yr Arglwydd. Yr ydych chwi wedi dysgu hyn. Felly y dylai Eglwys yr Arglwydd Iesu fod—"Yn mhlith y rhai yr ydych yn disgleirio, megys goleuadau yn y byd, yn cynal Gair y Bywyd."
Rhaid cofio y dylid cynal gweinidogion y Gair, oblegyd felly yr ordeiniodd yr Arglwydd. Y mae yn afraid crybwyll hyn wrthych chwi; ond y mae llawer man eisieu ei ddysgu yn y peth hwn. Disgwylir oddiwrthych garedigrwydd at bawb, i'ch gilydd, ac yn enwedigol felly tuag at eich gweinidog a'ch swyddogion yn gyffredinol. Mae llawer yn gofyn, "Beth sydd yn perthyn i chwi yn fwy na dynion eraill? Ni a'ch parchwn tra yn y pwlpud." Ond yn mhob man y byddo gweinidog yr efengyl, mae rhywbeth ynddo yn debyg i wialen Aaron. Yr oedd gwialen Aaron wedi blodeuo a dwyn almonau. Y mae gwialen Mr. Jones wedi blaguro ger bron yr Arglwydd. Yn y cyfarfodydd gweddiau a chyfarfodydd Beiblau a'r Ysgol Sabbothol, ac yn mhob prawf ac arholiad a fu arno, yr oedd ei wialen yn blaguro a blodeuo. Y mae yn ddyledswydd arnom i edrych ar ŵr felly gyda pharch. Gwyliwch rhag coleddu syniadau isel am weinidogion yr efengyl. Peidiwch edrych yn isel ar y rhai y mae yr Arglwydd wedi eu codi i weini ar ei bobl. Os cewch chwi ddynion felly, y maent yn rhai hynod o anobeithiol gyda golwg ar dderbyn bendith trwy foddion gras. Yr ydych wedi clywed dynion yn siarad yn isel ac mewn dull cellweirus am eu brodyr; digon tebyg nad oeddynt yn dweyd dim byd mawr ond eto yn ddiystyr—gair bach yn y teulu, nid rhyw niwed mawr. Dywedaf eto gymaint a hyn am y cyfryw pobl annhebyg iawn o gael bendith trwy foddion gras ydynt. Nid yw yn bosibl i ddynion felly ychwaith i ddwyn eu plant i fynu yn grefyddol. Mae eu hymddyddanion fel cawod o lwydrew ar y blodeu yn nechreu haf. Y mae yma rai, fel finau, wedi cael y fraint o'u dwyn i fynu gyda chrefydd o'u mebyd; ond yr wyf yn bur siwr mai pobl yn parchu gweinidogion y Gair oedd eu rhieni, er eu bod yn deall mai dynion oeddynt a gwendidau yn perthyn iddynt. Y mae yr Arglwydd yn bendithio plant y cyfryw rai ag sydd yn golofnau gyda'r achos. Y mae y diafol, fel arfer, yn deall ei fasnach yn hynod dda; gŵyr pa fodd i weithio mewn llawer eglwys. Yn nyddiau yr Apostol Paul gwyddai pe gallai gael moddion effeithiol i dori i lawr gymeriad yr apostol y byddai darfod ar y peth. Rhaid i chwi gofio fod ambell i Demetrius yn chwenych y blaen yn y dyddiau hyn, ac am yru pawb eraill yn ol.
Peth arall y disgwylir i chwi ei wneud ydyw gweddio ar ei ran. Pwy bynag fydd yn gweddio yn y lle hwn, gweddiwch dros y brawd Mr. Jones. Cofiwch am dano yn y gweddiau dirgel; o bawb dyma y rhai ffyddlonafy rhai sydd yn gweddio yn y dirgel—dyma y cyfeillion y gellir ymddiried ynddynt. Gweddiwch drosto yn y teulu. Yr oedd Crist yn dweyd nad oedd neb ag oedd yn gwneud gwyrthiau yn Ei enw yn y fan yn rhoi drygair iddo, felly nis gall y teuluoedd sydd yn gweddio tros eu gweinidogion yn y fan eu hanmharchu.
Braidd nad ydym fel Methodistiaid ar ol mewn gweddio dros ein gweinidogion. Yr wyf yn cofio rhyw frawd o Fedyddiwr yn gweddio drosof fi flynyddau yn ol, a rhywbeth tebyg i hyn a ofynai, "O Arglwydd, cofia am dy was a'th law—forwyn yn y lle hwn." "A glywsoch chwi y deisyfiad drosoch chwi a'r eglwys," meddai rhyw gyfaill, "onid oedd o yn gyffredin?" "Oedd," meddwn inau, "ond nid oedd un deisyfiad trwy y weddi ag yr oeddwn i yn rhoi Amen cynesach ar ei ol." Carwn weled y Methodistiaid yn fwy cyffredin yn gweddio dros weinidogion yr efengyl. Dyma fel y gallech gydymdrechu â'r gweinidog a chael rhan yn y gwaith. Mae gweddi yr eglwys yn nesaf peth at gynorthwyon Ysbryd Crist ei hun. Trwy weddi yr oedd yr apostolion yn myned yn mlaen bob cam o'r ffordd. Gobeithio am y brawd Mr. Jones mai rhodd gweddi ydyw, a phob cam a ddyry yn eich plith gobeithio mai step tuag i fynu a fydd.
Un peth arall a ddisgwylir oddiwrthych ydyw ufudd-dod. Nis gallaf dewi heb ddweyd hyn. Ymddengys yn eglur fod anufudd-dod yn gamwedd mawr, yn bechod ysgeler" Od oes neb heb ufuddhau, hysbyswch hwnw, ac na fydded i chwi gymdeithas âg ef." Dywedodd Samuel wrth Saul fod anufudd-dod yn bechod fel y pechod o ddewiniaeth. Dywedir yn yr Epistol at yr Hebreaid, "Ufuddhewch i'ch blaenoriaid ac ymddarostyngwch, oblegyd y maent hwy yn gwylio dros eich eneidiau chwi," &c. Yr wyf yn dra siwr am fy anwyl frawd na fydd ef ddim yn tra-arglwyddiaethu arnoch. Mae yr Arglwydd, mewn modd arbenig, yn bendithio llafur ei bobl yn Nghymru y dyddiau hyn. Bellach, fy nghyfeillion, heuwch, plenwch winllanoedd, a bwytewch y ffrwythau. Mae y flwyddyn iddo dyfu ohono ei hun wedi darfod. Hauwch yn yr Ysgol Sul, yn y cyfarfodydd plant, &c. Hauwch a medwch. Plenwch winllanoedd; ac os oes lle i roi gwinllanoedd newyddion i supportio hon, gwnewch hyny.
Cofiwch hefyd fod ar weinidog yr efengyl eisiau rhywbeth nad oes ar neb arall. Yr oedd gan yr hen filwyr gynt eu cludydd arfau. Yr oedd gan Grist ei gludwyr arfau—Pedr, Iago, ac Ioan. Yr oedd gan Pedr a'r Apostol Paul rai yn cludo eu harfau. Yr oedd gan Jones, Llangan, ac Ebenezer Morris, pan y deuent i'r Gogledd yma rhyw gludydd arfau—rhyw hen flaenor yn gadweinydd. Mae eisiau cludydd arfau yn wastad. Gobeithio pan yr å ein brawd i fedyddio plentyn y caiff ef gludydd; na adewch iddo fyned ei hun.
Terfynaf hyn o sylwadau trwy ddefnyddio y geiriau hyny yn yr Ephesiaid, "Hyd oni ymgyfarfyddom oll "oll, ie oll, o bob enwad—"yn ŵr perffaith at fesur oedran cyflawnder Crist." Daw yr adeg pan fydd pob un wedi cyrhaedd ei fesur—pob un yn ei gyflawn oed. Bydded bendith yr Arglwydd ar y symudiad hwn yn eich plith.
Yn yr un adroddiad ceir y cyfeiriad a ganlyn at yr oedfa y noson hono:
Nos Fercher, am 6, pregethodd y Parchn. D. Davies ac O. Thomas. Cafwyd pregethau grymus a nerthol, ac yr oedd yn eglur fod y gwirionedd yn effeithio ar feddyliau y gwrandawyr. Ar ddiwedd yr oedfa, cyhoeddodd y Parch. O. Thomas y byddai cyfarfod eglwysig am ychydig ar ol canu. Cafwyd i ugain o'r newydd aros ar ol, y rhan fwyaf ohonynt yn bobl ieuainc.
Yn mhen oddeutu tair wythnos ar ol y cyfarfod y ceir ei hanes uchod, yr oedd cyfarfod i'r un amcan yn Ngwrecsam i sefydlu y Parch. H. Barrow Williams, ac yr oedd gwrthrych ein sylwadau yno hefyd. Fe oddefir i ni yn mhellach ddyfynu o'r adroddiad am y cyfarfod rai o'r pethau a ddywedwyd ganddo ar y pryd hwnw:—
Y PARCH. DAVID DAVIES, Abermaw, gweinidog yr eglwys yn yr hon y magwyd Mr. Barrow Williams, a gadarnhaodd yr hyn a ddywedwyd am dano, sef ei fod yn dyfod o hen gyff Methodistaidd. Yr oedd yn gobeithio y cedwid i fynu yr enw "Barrow." Yr oedd Mr. Williams, ei dad, yn flaenor gyda hwy. Yr oedd yr holl deulu yn Fethodistiaid selog; ond yr oedd rhywbeth cysegredig iddynt hwy, fel Methodistiaid yn sir Feirionydd, yn yr enw "Barrow." Yr oedd yn dda gan Mr. Davies ddeall fod y fugeiliaeth yn myned yn ei blaen. Yr oedd yn dymuno llwyddiant arni. Yr oedd yn credu mai dyma y ffordd i achos yr Arglwydd lwyddo yn ein plith ni y dyddiau hyn. Gwelid ffrwythau daionus eisoes mewn cysylltiad â hyn. Yr oedd wedi sylwi am yr eglwysi a'r siroedd lle yr oedd y symudiad hwn yn enill tir, fod yno lai o ymryson a chweryla yn yr eglwysi. Nid oedd y pethau hyn wedi darfod yn hollol, ond yr oeddynt wedi lleihau.
Peth arall ag oedd wedi cyfnewid er gwell, nid oedd cynifer o gynulleidfaoedd yn cael eu siomi gyda golwg ar weinidogaeth yr efengyl. Nid oedd dim wedi gwneud mwy o niwed i eglwysi a chynulleidfaoedd y Methodistiaid na bod pregethwyr yn tori eu cyhoeddiadau. Yr oedd y fugeiliaeth wedi peri fod llai o hyn. Nid oedd yr un gweinidog byth yn siomi ei eglwys ei hun. Byddai yn dda ganddo i bob gweinidog fod gartref un Sabboth o bob mis, gwell fyth os byddai un o bob pedwar, gwell eto un o bob tri, a gwell fyth un o bob dau. Nid allai efe ei hun fyned yn mhellach na hynyna; ond credai y byddai i bregethwr roddi chwech ar hugain, neu haner ei Sabbothau, gartref, yn bur ddefnyddiol i achos yr Arglwydd mewn llawer o fanau.
Yr oedd hefyd lawer o bethau yn dyfod i fynu yn nglŷn â'r fugeiliaeth. Deuai cariad i'r làn. Yr oedd mwy o gariad rhwng y pregethwyr a'r cynulleidfaoedd. Yr oedd gweinidog y lle yn cael mwy i'w wrando na neb arall a ddeuai yno, er fod rhai ohonynt hwyrach yn gystal pregethwyr ag yntau; ond yr oeddynt hwy yn teimlo mwy o ymlyniad wrth y gweinidog yr oeddynt hwy wedi ei ddewis, a'r hwn oeddynt hwy yn gweddio mwyaf drosto.
Dangosid hefyd fwy o ofal am yr eglwysi. Mewn ambell eglwys yr oedd enwau yr holl aelodau eglwysig ac enwau eu plant yn cael eu rhoddi i'r gweinidog fel ag y gallai ymgydnabyddu â hwy, ac, ond odid, na fyddai yn lledu y rhestr weithiau, fel Hezeciah, ger bron yr Arglwydd. Dangosir mwy o ofal am ieuenctyd ein heglwysi nag erioed. Y mae y fugeiliaeth hefyd yn fanteisiol i bregethu ar nosweithiau gwaith. Y mae eisieu pregethu yn rhywle lle y ceir, ac y mae yn rhaid i ni barhau i gredu mewn pregethu "Y boreu haua dy hâd a'r prydnawn nac atal dy law;" "Y neb a ddalio ar y gwynt, ni haua." Teg neu beidio, y mae yn rhaid hau. Os bydd y gwynt yn groes, rhaid troi i rhyw gyfeiriad arall. Ond y mae yn rhaid hau, onide ni bydd gobaith am fedi. Yr oedd yr hen bregethwyr yn hau llawer iawn.
Yna traddododd Mr. Davies gynghor difrifol i Mr. Barrow Williams:
Cofiwch mai gwaith yr Arglwydd sydd genych. Yr ydych wedi eich dwyn i gysylltiad agos âg eglwys Dduw, yr hon a bwrcasodd Efe â'i briod waed. Dyna sydd yn rhoddi pwysigrwydd iddi, fod Mab Duw wedi ei phwrcasu â'i briod waed. Edrychwch ar bob brawd a chwaer yn yr eglwys fel un dros yr hwn y bu Crist farw. Meddyliwch am wneud pobpeth a alloch iddo ef, dros yr hwn y bu Crist farw. Dyna eich gwaith, bugeilio eglwys Dduw. Edrychwch ar yr holl braidd ar yr hwn y gosododd yr Ysbryd Glân chwi yn olygwr, i fugeilio eglwys Dduw. Peth mawr ydyw gofalu, ac fel y dywed Paul am Timotheus, "Yr hwn a wir ofala am y pethau a berthyn i chwi." Y mae genych i ofalu am y praidd, a thipyn o waith ydyw cymeryd gofal am y defaid. Yr oeddynt yn dweyd yn nghymydogaeth y Berwyn fod rhyw ddail gwenwynig i'w cael ag yr oedd yn angenrheidiol cadw y defaid rhagddynt. Daily "rot" y gelwid hwynt, ac os bwytai y defaid rai ohonynt, fe fyddent hwythau yn "rot" hefyd. Byddent yn trigo o'u cyrau, ac nid oedd dim cadw arnynt. Treiwch gadw y praidd oddiwrth ddail y "rot," sef cyfeddach a meddwdod, a gwag rodiana ar y Sabboth, &c. Porthwch braidd Duw, yr hwn sydd yn eich, plith gan fwrw golwg arnynt. Os bydd rhyw un ar goll, ymholwch yn union, Pa le y mae? Bydded i'r Arglwydd eich bendithio âg ysbryd i wir ofalu am ei braidd, ac i'w cadw yn agos at y Bugail Mawr.
PEN. X.—Yn Teithio.
Yn teithio llawer.—Yn ofalus am ei Sabbothau i gylch ei sir ei hun.—Yn gomedd rhoddi cyhoeddiad ond am flwyddyn yn mlaen—Yn cwyno.—Dwy daflen o'i gyhoeddiadau Sabbothol.—Yn teithio.—Ei adduned.—Yn y cymdeithasfaoedd.—Llangollen.—Penrhyn Deudraeth.—Adroddiad Ο hanes yr achos.—Cymanfa Lerpwl.—Y "Seiat Fawr."—Cymdeithasfa Llwynbrwydrau.—Ei bregethu yn y cyfnod hwn.
Ar ol rhoddi y gofal bugeiliol i fynu, teithiodd gryn lawer ar hyd a lled siroedd Gogledd a Deheudir Cymru, yn nghyda threfi Lloegr; ond nid esgeulusodd ei ddyledswyddau yn y cylchoedd agosaf ato. Pregethai yn fynych iawn yn yr eglwysi cylchynol, a chadwai bron yr oll o'i Sabbothau yn nghylch ei Gyfarfod Misol ei hun.
Pan y penderfynwyd mewn Cyfarfod Misol yn Ngorllewin Meirionydd yn ol anogaeth y Gymdeithasfa—i beidio rhoddi cyhoeddiadau am fwy na blwyddyn yn mlaen, cadwodd ef yn ffyddlon hollol at y penderfyniad; ond yn mhen y tymhor gosodedig gwelodd na fu yr eglwysi mor ffyddlawn, ac yr oedd rhai brodyr yn y weinidogaeth yn ddwfn yn y camwedd; a bu yn cwyno mewn Cyfarfod Misol ei fod bron wedi ei adael ei hunan yn ei ymgyrch yn erbyn yr annhrefn. "Ni safaf ar yr adwy mwy," meddai, a bydd yn rhaid i mi oherwydd hyn am flwyddyn grwydro cymoedd Cymru bron i gyd [ac enwai luaws o'r cymoedd mwyaf annghysbell] a hyny am fod eglwysi y sir wedi llenwi y Sabbothau a minau wedi gwrthod rhoi yr un er mwyn cadw at y penderfyniad
Ac onibai fy mod yn myned i gilfachau pellaf a mwyaf anhwylus y mynyddoedd, ni chawswn bregethu bron yr un Sabboth am ddeuddeng mis." Nis gwyddom pa flwyddyn oedd hon y cyfeirir ati; ond wrth edrych trwy ei ddyddiaduron gwelir yn amlwg ei fod yn pregethu llawer yn yr un eglwysi, a'r rhai hyny yn nghylch y sir.
Hwyrach mai nid annyddorol i'r darllenwyr a fyddai cael taflen o'i gyhoeddiadau Sabbothol o'i ddyddiadur am y flwyddyn 1875—y flwyddyn gyntaf ar ol ei ymddiswyddiad oddiwrth ei fugeiliaeth yn yr Abermaw:
Ionawr 3.—Bontddu.
" 10.—Rhiwbryfdir.
" 17.—Penrhyn.
" 24.—Harlech.
" 31.—Abermaw.
Chwefror 7. — Llwyngwril.
"14.—Talysarn.
" 21.—Talysarnau.
" 21.—Abermaw.
Mawrth 7.—Tabernacl.
" 14.—Dolgellau.
" 21. — Engedi.
" 28 (Pasg). — Rhostryfan.
Ebrill 4.—Tabernacl, Aberystwyth.
" 11.—Salem, Pwllheli.
" 18.—Bethel, Tanygrisìau.
" 25.—Abermaw.
Mai 2. — Dyffryn.
" 9. — Penrhyn.
" 16.—Twrgwyn.
" 23—Machynlleth.
Mehefin 6. — Llanuwchllyn.
" 13.—Aberllyfenni.
" 20. — Pennal.
" 27.—Abermaw.
Gorphenaf 4.—Aberdyfi.
" 11. — Rhiwbryfdir.
" 18. — Rhyl.
" 25. — Abermaw.
Awst 1.—Dyffryn.
" 8.—Seion.
"15.—Croesor.
" 22. — Minffordd.
" 29. — Penmount.
Medi 5.—Gwynfryn.
"12.—Tabernacl.
" 19.—Beddgelert.
" 26.—Abermaw.
Hydref 3. — Corwen.
" 10. — Pig Stryd.
" 17.—Bethesda, Ffes.
" 24.—Bryn Crug.
" 31.—Abermaw.
Tachwedd 7.—Moriah, C.
" 14. — Rhiwbryfdir.
" 21.—Dyffryn.
" 28.—Abermaw.
Rhagfyr 5. — Bethel, Tanygrisiaiu
" 12.—Salem, P.
" 19.—Penrhyn.
" 26. — Abermaw.
Ni a ddodwn daflen arall o'i ddyddiadur am y flwyddyn 1884—yn mhen naw mlynedd ar ol y llall. Gwelir ei fod yn yr olaf yn cadw cofnod o'r testynau y pregethai arnynt; ac y mae yn nglŷn â rhai lleoedd nodyn arwyddocaol o'i deimlad, ni a dybiwn, ar ol y cyfarfodydd, ond dylid cofio nad oedd yu feirniad cywir bob amser ar ei bregethu ei hun. Pan y caffai oedfa dda ac effeithiol ar y gwrandawyr, cwynai weithiau oherwydd y caledwch a'r tywyllwch.
Ionawr 6.—Tabernacl, P., 1 Thess. i. 10; Salm lxv. 2.
7 a 8.—Cyfarfod Misol y Bala. Ow! Ow! Ow! Ow!
13.—Bethel, Dolgellau, Salm lxv. 2; Phil. iii. 20.
20.—Minffordd, Salm lxv. 2; I Thess. i. Io.
27.—Penmachno, Salm lxv. 2; Phil. iii. 20.
Chwef. 3.—Aberdyfi, Rhuf. xii. 2; Phil. iii. 20.
4 a 5.—Cyfarfod Misol Pennal, Salm 1xv. 2.
10.—Salem, Dolgellau, Salm lxv. 2; I Thess. i. 10.
17.—Abermaw, Luc xiv. 25; Salm lxv. 2.
24.—Harlech, Luc xiv. 25; Llanfair, Ezec. xlvii. 1-7; Salm lxv. 2.
Maw. 2.—Dyffryn, Luc xiv. 25; Ezec. xlviii. 1-7; Salm lxv. 2.
3 a 4.—Cyfarfod Misol Talsarnau, Salm lxv. 2. Nos Wener, 7fed, Corwen, Salm lxv. 2.
9.—Corwen, Luc xiv. 25; I Thess. 1-10; Phil. iii. 20. Nos Lun, 10, Gwyddelwern, Salm lxv. 2.
16.—Bowydd, Ffestiniog, Deut. vi. 6, 7; Salm lxv. 2.
23.—Garth, Porthmadog, Ezec. xlviii. 1-6; Ezec. xxxvii. 1-10.
27.—Llangoed, Phil. iii. 20. Mawrth 28 (Cymdeithasfa), Beaumaris, Salm lxv. 2.
28.—Twgwyn, Bangor, Phil. iii. 20.
30.—Llanbedr, Ezec. xlvii. 1-6; Ezec. xxxvii. 1-10.
Ebrill 6.—Nazareth, Penrhyn, Ezec. xlvii. 1-6; Salm 1xv. 2.
7 a 8.—Llanfachreth, Cyfarfod Misol, Ezec. xlvii. 1-6.
12 (Pasg).—Llanberis, Ezec. xlvii. 1-6.
13.—Llanberis, Rhuf. xii. 2; Ezec. xxxvii. 1-10; Luc xiv. 25.
14.—Llanberis, Salm lxv, 2; Phil. iii. 20.
20—Abermaw, Ezec. xlvii. 12; 1 Pedri. 10-12.
27—Llangollen, Ezec. xlvii, 12; Ezec, xxxvii. 10; 1 Thess. i. 10.
28.—Llangollen, Salm lxv. 2.
29.—Llangollen, Phil. iii. 20.
Mai 4.—Bethel, Ffestiniog, Ezec. xxxvii. 10; Salm cxvi. 1-4.
11.—Dyffryn, Ezec. xlvii. 12; Daniel xii. 13; Ezec. xxxvii 10
18.—Abergynolwyn, Ezec. xxxvii. 10; 1 Thess. i. 10; Ezec xlvii 12.
19.—Carmel ger Llanrwst, I Thess. 1-10.
Dydd Mawrth, yr 20fed, Trefriw, Ezec. xlvii. 12. Talybont am 10, Phil. iii. 20. Dydd Mercher, am 7, Roewen, Salm lxv. 2.
Dydd Iau, am 10, Ty'nygroes, Salm xxxii. 1, 2; am 7, Bryndionyn, Ezec. xxxvii. 10.
Dydd Gwener, am 10 a 7, Llangernyw, Salm xxxii. 1, 2; Salm lxv. 2.
Dydd Sadwrn, am 10, Garnedd, Luc xiv. 25; ac am 7, Gwytherin, Rhuf. xii. 2.
Sabboth, am 10, Gwytherin, Ezec. xlvii, 12; am 2 a 6, Pandy, I Thess. 1-10; Phil. iii. 20.
Dydd Llun, am 10, 'Refail Uchaf, Rhuf. xii. 2; am 2, Tanycelyn, Salm lxv. 2; am 7, Pwllterfyn, Ezec. xlvii. 12.
Dydd Mawrth, am 2, Moriah, Salm xxxii. I, 23 am 7, Llansantffraid, Rhuf. xii. 2.
Dydd Mawrth, am 10, Mochdre, Salm lxv. 23 am 7, Colwyn Bay, Ezec. xxxvii. 10.
Dydd Mercher, am 10, Brynpydew, Phil. iii. 20; am 7, Conwy, Ezec, xlvii. 12. Dydd Gwener, am 7, Llandudno, Salm, lxv. 2.
Meh. 1.—Beddgelert, Salm lxv. 2; Phil. iii. 20. Am 2, Peniel, Salm xxxii. I, 2.
4.—Llwyngwril, Cyfarfod Misol, Ezec. xxxvii. 10.
8.—Corris, Salm 1xv. 2; Salm cxvi. 1-4; Ezec. xxxvii. 1, 2.
12, 13.—Cymdeithasfa Llanrwst, Ezec. xxxvii. 10. Ow! Ow!
15.—Tabernacl, Ffest., Ezec. xlvii. 12. Bethesda, Daniel xii. 13. Ow! Ow!
22.—Abermaw, Salm 1xv. 2; Actau xxviii. 30, 31; Daniel xii. 13.
Meh. 29. Brynrhos, Groeslon, Salm lxv. 2; Salm xxxii. 10; Ezec. xxxvii. 10.
Gorph. 6.—Pig Stryd, Salm lxv. 2. Nant, 2 Chron. xxvi. 10; Salm cxvi. I—4.
13:—Rhiwbryfdir, 2 Tim. ii. 19—21; 2 Chron. xxvi. 10; Salm lxv. 2.
20.—Peniel, Ffest., Daniel xii. 13; Salm 1xv. 2.
Y mae taith yn sir Fon yn dilyn heb gofnodion o'r testynau arnynt:
Gorph. 21.—Am 7 nos Lun, Borth.
Dydd Mawrth, Llanfair, 10; Brynsiencyn, 7.
Dydd Mercher, Dwyrain 10; Niwbwrch, 7.
Iau, Bethania, 10; Gaerwen, 7.
Gwener, Talwrn, 10; Llangefni,.
Dydd Sadwrn, Llangristiolus, 7.
Sabboth, Gorph. 27.—Bethel, 10; Aberffraw, 2; Bryndu, 7.
Dydd Llun, Gwalchmai, 10; Hebron, 7.
Mawrth, Caergeiliog, 10; Caergybi, 7.
Mercher, Valley, 10; Bodedern, 7.
Iau, Llanfachreth, 10; Llanfwrog, 2; Llanfaethlu, 7.
Gwener, Llanrhyddlad, 10; Jerusalem,
7. Sadwrn, Llanfachreth, 7.
Sabboth, Awst 3.—Cemaes, 10; Rhosbeirio, 23 Amlwch, 6.
Dydd Llun, Siloah, 10, Pensarn, 7.
Mawrth, Gorslwyd, 10; Llanerchymedd, 7.
Mercher, Gosen, 10; Ty Mawr, 7.
Iau, Tabernacl, 10; Pentraeth, 7.
Gwener, Penygarnedd, 10; Gilead, 7.
Awst 10. Salem, P., Salm xlv, 23; 2 Chron. xxvi. 10; 2 Tim.ii. 19-21.
" 17.—Abermaw, Salm xlv. 2; Salm lxi. 4; 2 Tim. ii. 19.
" 18.—Penrhyn, 2 Tim. ii. 19.
" 19, 10, 21.—Cymdeithasfa Caernarfon, Engedi, 2 Tim. ii. 19; Pavilion, Salm xlv. 2.
" 24.—Maentwrog, Salm 1xi. 4; Salm xlv. 2.
" 31.—Bethel, Ffestiniog, Salm lxi. 4; 2 Tim. ii. 19.
Medi 1, 2.—Cyfarfod Misol Trawsfynydd, 2 Tim ii. 19.
" 7.—Salem, Dolgellau, 2 Tim. ii. 19; Salm xlv. 2.
"10, 11.—Cyfarfod Pregethu Talybont, 2 Tim. ii. 19; Salm xlv. 2; Salm xxxii. 1, 2.
"14.—Dyffryn, 2 Tim. ii. 19; Salm, cxix. II; Salm xlv. 4.
" 21.—Harlech, Salm xlv. 2; Salm cxix. 18; Salm lxi. 2.
" 28.—Gorphwysfa, Penrhyn, Salm Ixi. 4; Salm xlii. 2.
Hyd. 5.—Bryn Crug, 2 Tim. ii. 19; Seph. ii. 11; Salm xli. 4.
" 6.—Cyfarfod Misol Bryn Crug, Sahn xlii. 2.
" 12.—Penrhyn, Salm cxix. 18 : Seph. ii. 11.
" 16.—Princes Road, Lerpwl, Seph. ii. 11 David Street,
Sahn cxiv. 18.
" 21.—Huyton Quarry, Salm vi. 4.
" 22, Southport, Salm xlv. 2.
" 26.—Abermaw, Salm cxix. 18; Salm 1xxvii. 11, 12; Seph. ii. II.
Tach. 2. Towyn, Salm cxix, 18; Col. i. 13; Seph. ii. 11.
" 9.—Talysarnau, Ioan i. 12; Col. i. 13; Seph. ii. 11.
" 16. Parkhill, Bangor, Daniel ii. 44, 45;
" 23.—Engedi, C., Col. i. 13; Ioan i. 12. Ioan i. 12.
" 28.—Parsel, Abermaw, Heb. x. 38.
" 30.—Aberdyfi, Heb, x. 38; Ioan i. 12.
" Rhag 1, 2, Cyfarfod Misol, Gorphwysfa, Penrhyn Heb x 38
" 3, 4, 5.—Cymdeithasfa y Drefnewydd, Ioan i. 12.
" 7.—Dyffryn, Col. i. 13; Heb. x. 38; Ioan i. 12.
" 14.—Bethel, Dolgellau, Heb. x. 38; Coli. 13.
" 21.—Abermaw, Col. i. 13; Esaiah lviii. 12; Ioan i. 12.
" 28,—Llanbedr, Col. iii. 10; Ioan i. 12.
Er y gwelir ei fod yn dra ffyddlawn i roddi ei Sabbothau yn nheithiau ei Gyfarfod Misol ei hun, eto yn ystod dyddiau yr wythnos teithiai gryn lawer. Yr oedd mor boblogaidd, a'r cynulleidfaoedd mor awyddus i'w wrando, fel y gallasai fod yn crwydro yn barhaus. ar deithiau ac i gyfarfodydd pregethu; ond byddai ar amserau yn cael ymosodiadau o ddigalondid, ac ni fyddai mor barod yn yr adegau hyny i wrando ar y galwadau. Y mae yn wir na fyddai y cwmwl hwnw yn aros yn hir ar ei ysbryd; ond gwyddom i hyny rai gweithiau ei gadw rhag gwrando ar luaws o alwadau oddiwrth bobl oedd yn dyheu am ei glywed.. Os addawai fyned, nid oedd dim ond afiechyd a'i hataliai rhag cyflawni.
Ni fyddai yn dilyn y Cymdeithasfaoedd gyda chysondeb difwlch fel rhai o'i frodyr; ac efallai nad oedd ynddo y nodweddion ag yr edrychir arnynt fel angenrhaid mewn arweinydd Cymdeithasfa—y pwyll, y sefydlogrwydd i weithredu barn, a'r penderfyniad i'w chario allan; ac hwyrach ei fod yn fwy diffygiol mewn elfen arall nag yn y pethau hyn, sef nad oedd yn chwenych y blaen nac yn ceisio ymwthio iddo, ac yr oedd yn berffaith foddlawn i eraill gael yr anrhydedd hono. Eto, ymddengys oddiwrth y daflen a gofnodwyd iddo fod yn y pedair Cymdeithasfa yn y flwyddyn 1884; ac yn ystod y blynyddoedd diweddaf, yr ydym yn tybio y gwelid ef yn fwy cyson yn mhrif gynulliadau y Cyfundeb.
Ond byddai weithiau, wedi bod mewn ambell i gyfarfod mawr, yn ofni rhag y gallasai fod ei deimlad ar y pryd wedi ei gludo ymaith gyda rhyw bwnc a fyddai gerbron, a'i fod wedi ymollwng i ddweyd pethau ag y buasai yn well iddo ymatal. Byddai tybio felly yn ei boeni yn fawr, ond ni fyddai sail i hyny ond yn hynod o anfynych. O dan ddylanwad y teimlad hwn yn ddiau y gwnaeth yr adduned a welir yn ysgrifenedig yn ei Ddyddiadur, er nad ydym yn gallu casglu a oedd rhyw amgylchiad neillduol mewn golwg ganddo pan yn ysgrifenu fel hyn:—
Heddyw, yr ail ddydd o Ionawr, 1873, yn yr ymdeimlad o'm gwendid a'm hanallu, yr ydwyf yn addunedu i mi fy hun ac i'r Arglwydd i beidio ag ymyryd dim âg achosion allanol crefydd gartref, nac mewn Cyfarfod Misol yn enwedig, nac mewn Cymanfa o hyn allan, gan fy mod yn meddwl na fydd hyny yn un anfantais na cholled i achos nac enw yr Arglwydd Iesu.—Ydwyf,
DAVID DAVIES.
- Ion. 2il, 1873.
Yn Nghymdeithasfa Llangollen, yr hon a gynaliwyd Mehefin 11, 12, 13, 1873, bu yn traddodi y Cynghor yn ngwasanaeth yr ordeinio. Dodir ef i mewn yn niwedd y Cofiant. Yn Nghymdeithasfa Tachwedd, yn yr un flwyddyn, yr hon a gynelid yn Penrhyndeudraeth, yr oedd gyda'r diweddar Barch. G. Williams yn rhoddi adroddiad o hanes yr achos yn y sir. Yn mhlith pethau eraill gwnaeth sylwadau i'r cyfeiriad a ganlyn:
"Ansawdd ysbrydol yr eglwysi oedd yr hyn oedd ganddo ef i'w adrodd. Nis gallai efe ddywedyd am hyn fel ei frawd am y cyfrifon arianol hyd at y ddwy a dimeu. Nid oedd yn gwybod am ansawdd ysbrydol yr eglwysi ond i raddau anmherffaith iawn. Ystyriai mai gwaith tra anhawdd ydoedd rhoddi adroddiad cywir am hyn. Yr Hwn sydd yn dal y saith seren yn ei law ddehau yn unig a all roddi adroddiad cywir am ansawdd ysbrydol yr eglwysi. Credai fod mwy o debygolrwydd rhwng yr eglwysi â'u gilydd nag oedd rhwng saith eglwys Asia. Yr oedd yn ofni nad oedd yr un mor ddifai ag eglwys Philadelphia, ac yr oedd yn gobeithio nad oedd yr un mor ddiddaioni a hunanddigonol ag eglwys Laodicea. Clywsant am ddyled eu capelau, ac yr ydoedd yn ddyled fawr. Yr oedd ganddynt luaws o gapelau newyddion a da, ac yr oedd egni ac ymdrech cyson yn cael ei arfer i ddileu y ddyled oedd arnynt. Ond ni fynai iddynt er dim droi at dalu y ddyled hon ar draul tlodi a phrinder breintiau crefyddol. Byddai yn well iddynt gymeryd mwy o amser i dalu y ddyled na goddef prinder o ordinhadau yr efengyl. Ac ychydig iawn, os dim, a fyddent yn hwy. Yr oedd ef yn cael mai lle yr oedd ganddynt fugail a phob manteision crefyddol mai yno yr oedd y ddyled yn cael ei thalu gyntaf. Dyma y ffordd oreu i weithio yn galonog, sef cyfoethogi yr eglwys â phob rhyw fantais, dawn, a braint ysbrydol. Yr oedd ganddynt weinidogaeth fwy cyson ar y Sabbothau nag a fu ganddynt erioed o'r blaen. Yr oedd yn arferiad gofyn yn y Cyfarfodydd Misol a oedd rhyw leoedd wedi cael eu siomi, ac ymofyn i'r achos o'r anffawd neu yr esgeulusdra.
"Yr oedd yr Ysgol Sabbothol yn flodeuog a ffrwythlawn. Yr oedd ymdrech a llafur gyda'r cyfarfodydd ysgolion. Gwelid bywyd newydd gyda chymanfa flynyddol y dosbarth a chyda'r gymanfa lenyddol. Yr oedd gan bob eglwys society a chyfarfod gweddi, a chyfarfod i'r plant mewn rhyw ffurf. Yr oedd mwy o lafur gyda'r ieuenctyd nag a fu erioed o'r blaen; ac yr oedd rhai lleoedd yn fywiog iawn gyda hyn. Dyma'r llafur ag oedd yn dwyn ffrwyth yn fwyaf ebrwydd, ac yr oedd esgeulusdra gyda hyn y peth mwyaf beius. Ystyriai ef fod eisieu mwy o bregethu ganol yr wythnos yn y capelau a'r ysgoldai a thai anedd. Yr oedd yn dda ganddynt weled dyeithriaid, ond nid oedd raid i hyny leihau llafur pregethwyr y sir. Yr oedd pregethu yn codi pregethwyr ac yn codi gwrandawyr i'w gwrando. Po amlaf y pregethau mwyaf lluosog y cynulleidfaoedd a geid i'w gwrando.
Dygai dystiolaeth i'r daioni a wnaeth Temlyddiaeth, a disgwyliai y byddai i'r symudiad hwn wneud mwy o ddaioni eto. Yr oedd pregethwyr a gweinidogion y sir yn rhwym o gydnabod y diaconiaid a'r eglwysi, am eu ffyddlondeb a'u gofal yn eu cynal hwy, yn y modd mwyaf cyfleus iddynt i lwyr ymroddi i wasanaeth yr Arglwydd. Yr oedd y rhan fwyaf o'r gweinidogion yn rhydd oddiwrth negeseuau y bywyd hwn, a'r rhai ag yr oedd rhyw alwedigaeth ganddynt yr oeddynt yn derbyn bendith arno, a thrwy ofal yr eglwysi am danynt hefyd yr oeddynt yn gallu ymroddi yn hollol i weinidogaeth yr efengyl.
"Dywedai fod ganddynt achos mawr i folianu Duw am yr heddwch a'r tangnefedd a'r cydweithrediad oedd yn yr eglwysi, yr oedd undeb a chariad a chydgordiad yn y Cyfarfod Misol. Yr oeddynt yn cofio y cynghor a roddwyd iddynt gan y Parch. Dr. Edwards, ar adeg claddedigaeth y diweddar Barch. Edward Morgan, sef pan y byddai unrhyw un yn syrthio ar faes y frwydr y byddai y cadben yn gwaeddi Close the ranks, hyny yw, nesewch at eich gilydd. Ac yr oeddynt wedi eu bendithio gan yr Arglwydd â chymhorth i wneud hyn i raddau helaeth iawn, a hyny mewn amgylchiadau go gyfyng hefyd. Dymunai i'r teimlad hwn gynyddu yn eu plith fel swyddogion ac aelodau yn fwy-fwy.
"Yr oedd yn eu plith gryn lawer o ymweled â'r cleifion ac â theuluoedd mewn trallod, ac yr oedd daioni annhraethol o'r ymweliadau hyn. Ni fyddai byth yn edifar gan neb ohonynt fyned i dŷ lle yr oedd trallod.
"Cynrychiolid yr eglwysi yn bur gryno yn y Cyfarfodydd Misol, ac ni byddai neb o'r swyddogion yn ymadael hyd ar ol y gwasanaeth ddeg yr ail ddiwrnod. Yr oedd tipyn o gwyn fod ein dynion ieuainc braidd yn anewyllysgar i gymeryd rhan mewn cyfarfodydd gweddiau, ac yn hwyrfrydig i ddweyd eu profiadau yn y cyfarfodydd eglwysig, a bod gweddi deuluaidd yn cael ei hesgeuluso gan lawer. Eto, yr oedd yn credu fod difrifwch a dwysder a sobrwydd ar gynydd yn yr holl gynulliadau crefyddol. Yr oeddynt hwy wedi myned i mewn i lafur tadau a brodyr ffyddlawn iawn. Yr oeddynt yn gyffelyb i Elias ar ben Carmel—yr allor wedi ei chodi a'r coed wedi eu trefnu, &c. O! na chaem help i ofyn am i Dduw ateb trwy dân, sef ymweliadau ei Ysbryd. Yna adroddodd gyda theimlad dwys:—
O! anfon di yr Ysbryd Glân,
Yn enw Iesu Mawr;
A'i weithrediadau megys tân,
O! anfon Ef i lawr.
"Dywedai ei fod ef wedi cael sirioli ei feddwl yn fawr, echnos a boreu ddoe, yn yr ymddyddanion a'r gweddiau. Pan yr oedd yr Arglwydd yn myned i ymweled â'i bobl, yr oeddynt hwythau yn dyfod i lawr. Dywedodd rhywun fod yr argraphwyr yn lleithio y papyr cyn rhoddi yr argraph arno. Felly, ond i ninau gael ein lleithio mewn ymostyngiad ac edifeirwch, fe fyddai i Dduw roddi argraph ei Air a'i Iachawdwriaeth ar filoedd yn ein gwlad cyn y gwelwn hâf eto."
Bu yn Lerpwl yn Nghymanfa'r Sulgwyn, yn y flwyddyn 1874, a chofir yn hir am ei anerchiad cynes ac effeithiol yn y "Seiat Fawr." Acer y teimlai ef ar ol y cyfarfod hwnw nad oedd wedi gwneud dim ond darostwng y pwnc wrth draethu arno, ac addunedu yn selog na welai neb byth ef mewn lle cyffelyb mwyni raid dweyd mai adduned a dorwyd oedd hon—eto, yr oedd ei anerchiad y tro hwn yn un o'r pethau mwyaf grymus a draddodwyd ganddo erioed. Rhoddwn yr ychydig eiriau canlynol ohoni, ond nid ydynt yn gwneud chwareu teg âg ef; canys yr oedd effeithiau y traddodiad ar y pryd yn gyfryw nad ellid eu rhoddi i lawr ar bapyr. Pwnc y cyfarfod ydoedd, "Gweddi yn ei pherthynas âg adfywiad crefyddol," ac fel y canlyn y cofnodir y geiriau a ddywedwyd ganddo ef ar yr achlysur:
"Yr wyf yn teimlo yn fawr ar y mater, ac yn dymuno bendith ar y cyfarfod a llwyddiant mawr ar achos Iesu Grist mewn canlyniad iddo. Y mae dau beth mewn cysylltiad ag ymweliad Duw a'i bobl—ei bresenoldeb parhaus yn ein plith, a'i ymweliadau annghyffredin â ni. Rhaid cydnabod hefyd fod llaw yr Arglwydd yn gorphwys yn y mynydd hwn—cyflawniad o'r geiriau, ‘Mi a breswyliaf ynddynt, ac a rodiaf yn eu plith.' Ond ar yr amser yma y sethrir Moab. Mae Gair yr Arglwydd yn dangos fod ei bresenoldeb yn debyg rai gweithiau i'r gwlith ac weithiau i'r gwlaw. Nid ydyw y gwlith yr un fath bob amser, ac efallai, er na ddaeth y gwlaw i Liverpool fod yma fwy o wlith nag arferol yn y gwanwyn hwn, yn enwedig yn mhlith y bobl ieuainc mewn rhai capelau—gwlith mawr yn disgyn. Y mae llawer yn cael ei wneud â gwlith. Yr Arglwydd a ddywed, 'Byddaf fel gwlith i Israel, ac efe a flodeua fel y lili.' Pan ymadawodd rhai â ni i'r Wlad Well, aethant ymaith yn eu blodeu, ac yr oeddynt yn lledu eu gwraidd megys Libanus—yr oedd gwraidd Libanus wrthynt. Nid blodeuo yn unig, ond gwreiddio ar led. Gwraidd y mynydd, medd rhai, gwraidd y cedrwydd, medd eraill. 'Ei geinciau a gerddant'—ceinciau yn cerdded, yn tori allan—dyna ydyw yr achosion bychain yma o'r capelau mawrion. Bydd eu tegwch fel yr olewydden, ac hefyd y maent yn arogli fel Libanus, a hyn oll ar draul y gwlith. Diolchwn am y gwlith; efallai ei fod yma heddyw. Bydd ambell i hen ffarmwr yn y wlad yn dweyd, 'Y v / mae yn gwlitho yn drwm, fe ddaw yn wlaw yn fuan.' Ond y mae y gwlaw yn gwneud mwy na'r gwlith, pan yn tywallt gwlaw mawr. Y mae swn gwlaw mawr yn yr addewidion, Tywalltaf, Tywalltaf; gair yr Hen Destament ydyw hwn. Gwelais gwmwl yn tori rhyw dro, a phobpeth yn gorfod ildio o'i flaen. Yr ydym wedi cael y tywalltiad a phobpeth yn ildio iddo, ac y mae lle i ni ei ddisgwyl eto. Yr ydym wedi bod yn meddwl mai peth i'w gymeryd pan y ceid ef oedd adfywiad, ac mai 'Cafwyd fi gan rai nad oeddynt yn fy ngheisio' oedd hi i fod, ac y mae hyn hefyd wedi bod yn nodweddu rhai adfywiadau, felly yn arbenig mewn un adfywiad neillduol yn sir Gaernarfon; ond yn y blynyddoedd diweddaf gwelsom yn eglur fod yr Arglwydd yn rhoddi adfywiad crefyddol pan fyddai ei eglwys yn gofyn am dano. 'Pan glafychodd Seion yr esgorodd ar ei meibion.' Ond ini gael ysbryd i weddio dros ein cyfeillion, fe ddychwelai yr Arglwydd ein caethiwed ninau fel y dychwelwyd caethiwed Job."
Yr oedd ef ei hun o dan deimladau dwysion iawn; y gynulleidfa fawr yn mhob cŵr o'r adeilad eang wedi ei hoelio wrth ei wefusau, a gwlith yn disgyn yn drwm ar ganoedd yn y lle. Ond yn ebrwydd wedi gorphen y cyfarfod, dywedai wrth gyfaill a gydgerddai âg ef oddiyno, "Wel, nid af byth i le fel yna eto. Dyna'r tro diweddaf am fy oes i mi fod yn Seiat Fawr Lerpwl."
Yr oedd fel Elias newydd fod ar gopa y mynydd yn dinystrio prophwydi Baal ac yn enill buddugoliaeth ardderchog i'r gwirionedd, yn disgyn i neillduaeth yr ogof, ac yn ofni pobpeth ac yn cael ei lethu gan ddigalondid. Mae yn debyg mai dyna hanes y dynion mwyaf tanllyd a chynhyrfus—llanw a thrai, ystorm a thawelwch, bryn a phant, ac o'r naill eithaf i'r llall gyda rhyw sydynrwydd rhyfedd. Copa y mynydd uchel a gwaelod y dyffryn isel yn agos i'w gilydd yn eu profiadau. Aeth y cwmwl hwn heibio, a gwelwyd ef ar ol hyn droion yn Nghymanfa y Sulgwyn yn Lerpwl, ac wedi ei wisgo â "nerth o'r uchelder." Yr oedd yn un o'r ychydig a ddeuai i'r Gymanfa ag y disgwylid yn awyddus am danynt yn y "Seiat Fawr." Nid oedd ef, hwyrach, mor wastad a rhai o'r lleill; ond y mae yn sicr iddo rai prydiau esgyn mor uchel ag un ohonynt.
Yn y flwyddyn hon hefyd y bu yn Nghymdeithasfa Llwynbrwydrau, yr hon a gynelid Mai 5ed, 6ed, a'r 7fed. Cymerodd ran yn yr ymddyddanion yn y cynadleddau. Yn y cyfarfod am ddau o'r gloch y dydd cyntaf, darllenwyd llythyr oddiwrth ysgrifenydd y Genadaeth Dramor yn galw sylw at eangiad y gwaith a'r angen oedd am ymgeiswyr cenadol. Cyfododd yntau ar ei draed i ddweyd gair ar y pwnc, yn mhlith eraill, ac meddai—" Fe garai llawer ohonom fyned yn ol ddeg ar hugain neu ddeugain o flynyddoedd er ein galluogi i ufuddhau i'r gair, Ewch, ewch. Y mae y Cassiaid yn dweyd 'Deuwch, ac y mae y Pen Mawr wrth ddweyd y gair 'Ewch' yn addaw dyfod gyda chwi, ac yn y dydd diweddaf fe ddywed yntau, 'Deuwch.' Gobeithio y bydd i'r cais gael ei gyflwyno mewn modd difrifol i ystyriaeth y gwahanol Gyfarfodydd Misol."
Pwnc yr ymddyddan yn nghyfarfod y pregethwyr ydoedd Adfywiad Crefyddol, a chymerodd yntau ran yn yr ymdriniaeth, a dywedai, "Cenedl y diwygiadau mawr ydym ni y Cymry; ac felly y mae yn anhawdd i ni beidio eiddigeddu am nad ydym yn cael profi mwy ar yr adeg bresenol. Sychder mawr ydyw arnom yn bresenol. Fe fyddai cawod yn werthfawr. Y mae y cyfarfodydd gweddiau yn dangos yn amlwg fod y cynulleidfaoedd yn rhyw ddisgwyl hyny. Hwyrach fod perygl i ni feddwl mai o Scotland neu yr America y mae y diwygiad i ddyfod. Rhaid i ni edrych am dano o'r nefoedd. Y mae, er hyny, yn dyfod weithiau fel gwlaw taranau: 'Cafwyd fi gan y rhai nid oeddynt yn fy ngheisio.' Y diwygiad flynyddoedd yn ol yn sir Gaernarfon, fe ddechreuodd trwy bregethwr cyffredin; ond yr oedd rhywbeth amlwg yn ei waith yn darllen ac yn gweddio, a naws yr efengyl yn hynod ar y bregeth nes y cafodd y gwrandawyr eu trwytho. Yr oedd bugeiliaid breision ochr y Wyddfa yn tori allan i foli. Ymdaenodd y tân yn mhob cyfeiriad; ac fe effeithiodd y diwygiad hwnw, mewn rhyw fodd hynod, i ddarostwng drwg arferion. Cawsom wedi hyny gawodydd lawer. Mewn lle o'r enw Pant, yn agos i Lanrwst, torodd diwygiad allan trwy weddiau rhyw dair chwaer fyddai yn arfer ymgyfarfod i weddio. Dygwyd llawer at grefydd. Nid oedd llawer o waeddi yn y diwygiad hwnw, ond yr oedd yn plygu pobl i'r efengyl. Pan ar daith yn sir Ddinbych am ychydig wythnosau gyda Mr. Williams, Aberdyfi, cawsom yr hyfrydwch o dderbyn pum' cant at grefydd. Pe y soniasid am beth felly wrth foneddigion Dyffryn Clwyd yn mlaen llaw, buasai yn anhygoel iddynt. Ymunodd pedair mil â chrefydd yn sir Feirionydd yn ystod yr adfywiad hwnw. Beth ddaeth ohonynt? Diau fod llawer o ragrithwyr yn eu mysg, a bod llawer wedi gwrthgilio. Ond lle y bu gofal priodol am y dychweledigion, y maent wedi dal. Fel yr amaethwr yn gofalu am ychwanegu a gwella y stock, felly, ond i ninau ymgeleddu y bobl ieuainc a'r dychweledigion, deuant yn mlaen rhywbeth tebyg i ninau."
Bu yn pregethu ddwywaith yn y Gymdeithasfa hon. Pregethai am dri o'r gloch prydnawn y dydd cyntaf gyda'r Parch. Thomas James, M.A., Llanelli. Bwriedid i'r oedfa fod ar y maes; ond oherwydd yr hin, cynaliwyd hi yn y capel. Nid oedd dim yn hynod, y mae yn ymddangos, yn yr oedfa hon; ond clywsom iddo gael pregeth hwylus ar y geiriau hyny, "Neu ymafled yn fy nerth i, fel y gwnelo heddwch â mi, ac efe a wna heddwch â mi."
Tranoeth trefnwyd iddo i bregethu drachefn gyda'r diweddar Barch. John Pritchard, Amlwch, am ddau o'r gloch, yn yr Ysgoldy Brytanaidd, ac y mae yn amlwg fod hon yn oedfa a gofir byth gan ganoedd o bobl. Cymerodd ei destyn yn y bymthegfed bennod o Luc, "Dameg y ddafad a gollesid." Desgrifiai yn fywiog y ddafad yn myned ar gyfeiliorn, a'r bugail yn myned i chwilio am dani; "ac," meddai, "hen beth / y galwn ni yn y Gogledd ddafad ar grwydr. Dacw y bugail yn cychwyn ar ei hol—y mae yn holi yn awyddus am dani; gofyn yn ymyl un ffarm ar ei ffordd, 'A welsoch chwi ddafad ddyeithr?' 'Do,' meddai un o'r gweision, 'rhyw hen beth yn myned heibio.' Y mae yn dal i fyned yn ei flaen ar ei lwybr, a phob cam yn chwilio am arwyddion ei chrwydriadau. Yn y man daw at ffarm arall, a gofyna yn muarth hono, 'A welsoch chwi ddafad yn pasio?' 'Do,' meddynt yno, 'rhyw hen beth a draenen wrth ei chynffon a'i gwlân wedi ei dynu ymaith. Nid ydyw yn werth dy drafferth.' Ond y mae yn dal i'w dilyn, er mor ddiwerth yr edrychid arni, ac y siaredid yn ei chylch. Y mae yn pasio ffarm arall gan ofyn yr un cwestiwn. 'Dacw hi,' meddynt hwythau, 'ar y llechwedd draw. A fyddai yn well anfon y ci ar ei hol?' Na,' meddai y bugail,' y mae yna ormod o gwn eisoes wedi wedi bod yn ei thrin. Y mae genyf ormod o feddwl ohoni i anfon yr un ci ar ei hol, yr wyf am fyned i'w chyrchu fy hun, costied a gostio.', Desgrifiai ymroddiad a thrafferth y Bugail Mawr yn nglŷn â phechadur colledig, hyd nes yr oedd yr holl gynulleidfa wedi ei llwyr orchfygu. Tyrai y bobl at y drysau o'r pentref gan synu beth oedd hyn. Safai cigydd yn nghanol y dorf oedd yn y drws, â'i arffedog o'i flaen, ac meddai, "Os na achubir fi heddyw, ni achubir byth mohonwyf." A dywedai fy hysbysydd fod arwyddion ar y dyn hwnw i hyny gymeryd lle. Ychwanegwyd llaweroedd at yr eglwysi yn y wlad fel ffrwyth y bregeth hono, ac y mae ôl y saethau, meddir, i'w gweled ar rai hyd y dydd hwn.
Fel yr awgrymwyd fwy nag unwaith, yr oedd cyfnodau amlwg ar ei ysbryd ac ar ei bregethu. Yr oedd ei hanes fel natur, a haf a gauaf, gwanwyn a chynhauaf, yn perthyn iddo. Ni fyddai yn cyfansoddi ei bregethau yn yr un ffurf, nac yn eu traddodi gyda'r un eneiniad ar bob adeg. Bu cyfnodau o bregethu athrawiaeth yn ei hanes; ond nid oedd mor llwyddianus wrth bregethu dogmas. Hanesion a chymeriadau Ysgrythyrol—lle y caffai ei ddychymyg bywiog ddigon o le i chwareu—oeddynt y pynciau a weddent oreu i'w ddawn. Pregethau ar destynau o'r dosbarth hwn oeddynt y rhai mwyaf gafaelgar ac effeithiol a fu ganddo.
Ymddengys fod y blynyddoedd 1874—'75 yn gyfnod byw a nerthol iawn yn hanes ei bregethu. Cafodd amryw o oedfeuon, yn ystod y blynyddoedd hyn, a gofir yn hir yn y wlad. Teithiai fwy ar ol ymryddhau o'i ofal bugeiliol, a phregethai, nid mwy bregethau, ond mwy ar yr un pregethau, hyd nes y byddai ei ysbryd yn ymasio yn dynach â hwy, ac wrth eu traddodi yn myned ar dân gyda hwynt. Ei duedd ef yn fynych oedd cyfansoddi lluaws mawr o bregethau newyddion, ac nid ydym yn sicr na bu hyny yn wendid iddo ar rai adegau.
PEN. XI.—Yn Wyliedydd craff.
Yn gwylio arwyddion yr amseroedd.—Cymdeithasfa Pwllheli.—Ei ddewis yn Llywydd y Gymdeithasfa.—Ei deimlad ar y pryd.—Ei anerchiad wrth roddi y Gadair i fynu—Y Gronfa Gynorthwyol.—Y drafodaeth yn y Gymdeithasfa—Ei sel gyda'r achos yn ei Gyfarfod Misol ei hun—Cyfarfod Misol Llanbedr.
Yr oedd yn sylwedydd, craff ar wahanol symudiadau y gwledydd, ac yn eu gwylio gyda chryn fanylwch. Nid oedd yn ol i luaws a gawsent fwy o fanteision nag ef mewn adnabod arwyddion yr amseroedd, a chredai yn ddiysgog yn yr efengyl i wneud trefn ar y byd. Edrychai ar y cwbl gyda llygad dyn Duw.
Mewn Cymdeithasfa yn Mhwllheli fe roed yn destyn ymdrafodaeth yn un o'r cyfarfodydd, " Yr amserau hyn, gan gyfeirio at y rhyfel rhwng Ffrainc a Germani." Ac, yn mhlith eraill, dywedai yntau ychydig o eiriau ar y pwnc fel y canlyn:
"Peth mawr i ni ydyw bod yn effro ar adegau fel hyn. Dyma yr adeg fwyaf pwysig yn ein hoes ni. Yr oeddym wedi bod yn gobeithio y buasai y gwelliantau mewn celfyddydau—y railways, y telegraphs, &c.—yn ddefnyddiau er llwyddiant yr efengyl. Nid oedd yn amheu nad felly y byddai eto. Ond yn awr yr oeddynt yn cael eu defnyddio i ddinystrio dynion. Gadewch i ni ymddiried, nid mewn gwareiddiad, fel y gwna eraill, ond yn ein Duw, gan gydnabod ei law Ef. Darllenwn y papyr newydd fel pobl dduwiol i weled pa fodd y mae Duw yn trin y byd. Dychrynais yn fawr pan ddarllenais sylw Ymherawdwr Ffrainc ei fod am i'w fab gael ei fedyddio â thân. Darfu i'r sylw yma fy mrifo yn ofnadwy. Cofiais y geiriau hyny a ddywedwyd wrth Belshazzar, 'Ac nid anrhydeddaist y Duw y mae dy anadl di yn ei law, a'th holl ffyrdd yn eiddo.'
"Bu geiriau ar fy meddwl fel testyn pregeth er's misoedd. Nid oeddynt, hwyrach, mor briodol i'r amseroedd pan y daethant gyntaf; ond erbyn hyn, y maent yn hynod o amserol a chymhwys—'Tyred, fy mhobl, dos i'th ystafelloedd, a chau dy ddrysau arnat, llecha megys enyd bach, hyd oni elo y llid heibio.' Dyma y gwres mawr yn y tymhor hwn yn gwasgu. Fel yna y mae hi trwy y wlad yn gyffredinol, er nad ydym ni yn sir Feirionydd wedi teimlo cymaint. Mewn gwledydd eraill, drachefn, nid oedd dyn i'w gael i drin y tir nac i fedi y cnwd. 'Dos i'th ystafelloedd, a chau dy ddrysau arnat, llecha megys enyd bach, hyd oni elo y llid heibio.' Gobeithio y ceir ni oll yn ein hystafelloedd. Pan oedd yr angel dinystriol yn myned trwy dir yr Aipht, yr oedd yn rhaid i'r Israeliaid fod yn yr ystafell. Yno yn unig y byddai y gwaed yn amddiffyn iddynt. Awn ninau i'r ystafell—i'r ystafell weddi, i ystafell addfwynder, i ystafell dystawrwydd yn yr Arglwydd, sef dystawrwydd wedi dweyd y cyfan wrth yr Arglwydd. Bydd dyn mewn profedigaeth chwerw yn dweyd y cyfan wrth ryw un cyfaill, ac yna ni soniai air am dano mwy wrth neb arall. Gallwn ninau wneud yr un peth â'r Arglwydd, ac yna ni raid i ninau gadw swn wrth eraill, ond bydd Ef yn darian ac yn astalchini. Y mae arnom angen mwy o gyfarfodydd gweddio mewn perthynas i'r pethau hyn. Caffed Duw Fethodistiaid Cymru oll ar eu gliniau."
Dewiswyd ef yn Llywydd y Gymdeithassa am y flwyddyn 1876, a chyflawnodd ei waith yn gymeradwy yn ngolwg ei holl frodyr. Pan y danfonwyd ato ei fod wedi ei ddewis i'r anrhydedd hon yn Nghymdeithasfa Beaumaris yn niwedd y flwyddyn 1875, ni phetrusai ddweyd wrth ei gyfeillion ei fod yn penderfynu gwrthod yr alwad; ac fe gaed cryn drafferth i'w berswadio i ymgymeryd â'r swydd, a hyny oherwydd teimlad o annghymhwysder. Yr oedd ei deimladau mor fywiog ac mor dyner, fel mai nid gwaith anhawdd ydoedd ei daflu o un eithafion i eithafion arall gan arddangosiad o barch, neu ynte o'r hyn a ystyriai ef yn fath o anmharch arno. Fodd bynag, llwyddwyd i'w berswadio i ymaflyd yn y gwaith, a chafodd fodd i osod anrhydedd arno.
Pan yn rhoddi y Gadair i fynu i'w olynydd yn Nghymdeithasfa yr Abermaw, Ebrill 10fed, 11eg, a'r 12fed, 1877, fe geir y cofnodiad canlynol am yr amgylchiad:
RHODDWYD anerchiad gan y diweddar lywydd, y Parch. David Davies, Abermaw, ar ei ymadawiad o'r gadair; a chyflwynwyd y llywydd presenol, y Parch. Hugh Jones, Liverpool, i'r Gymdeithasfa. Cynygiwyd gan y Parch. Roger Edwards, cefnogwyd gan y Parch. Rees Jones, a chytunwyd—Fod diolchgarwch y Gymdeithasfa yn cael ei gyflwyno i'r Parchedig David Davies am ei wasanaeth doeth a medrus fel llywydd y Gymdeithasfa yn ystod y flwyddyn, ac am yr anerchiad rhagorol a draddododd wrth adael y gadair, yr hon y gobeithid a gai ei argraphu.
Nid ydym yn meddwl fod dymuniad y Gymdeithasfa. gyda golwg ar argraphu yr anerchiad, wedi ei gario allan ond yn unig yn nglŷn â hanes y Gymdeithasfa ar y pryd yn y papyrau newyddion:
ANERCHIAD Y LLYWYDD YMADAWOL.
"Dywedodd mai math o adolygiad a ddisgwylid oddiwrtho ef yn ddiau. Gallai ddweyd ei fod yn llawenhau fod yr ysbryd ag sydd wedi bod er dechreuad y Cyfundeb wedi parhau i ymweithio, yn ystod y flwyddyn a aeth heibio. A dyna sydd yn perthyn i ni, oblegyd na chawsom ni yr un cynllun mawr i weithio i fynu ato. Nid oedd gan y Methodistiaid ddim cynllun o gwbl ar ddechreu y Cyfundeb. Nid oedd efe yn beio dim ar yr enwadau oedd wedi cael hyny, ac nid oedd chwaith yn gresynu ar y llaw arall oherwydd na fuasai genym ninau un, ond yn unig dweyd y ffaith. Ni chawsom unrhyw gynllun o gwbl gan Howel Harries, na Rowlands, Llangeitho, nac hyd yn nod Charles o'r Bala, i weithio i fynu ato; ond yn hytrach, ysbryd bywyd oedd yn yr hen dadau, a hwnw sydd o hyd yn ymweithio hyd heddyw. Gobeithiai efe na byddai iddynt byth ei golli. Oherwydd hyn—am nad oeddynt wedi cael cynllun o'r fath—yr oedd holl symudiadau mawrion y Corph Methodistaidd a'u tuedd uniongyrchol i gyflawni rhyw angen, ac ateb i ryw ddiffyg oedd yn cael ei deimlo ar y pryd. Felly y sefydlwyd y cymdeithasau eglwysig er's dros gant a haner o flynyddoedd yn ol; yr un modd y Cyfarfodydd Misol, a'r Cymdeithasfaoedd Chwarterol, a'r Ysgol Sabbothol—dim cynllun o gwbl. Na, teimlo eu ffordd yn mlaen yr oeddynt i gael rhywbeth i ateb i'r angen ar y pryd.
"Yr un fath y gellir dweyd am Gymdeithas y Beiblau: fe sefydlwyd hono i gyfarfod â rhyw ddiffyg oedd yn cael ei deimlo ar y pryd. Felly hefyd hyd yn bresenol—sefydlu yr athrofa ac adeiladu y colegdy; y cwbl i gyfarfod âg angen oedd yn cael ei deimlo ar y pryd; ac yn y blynyddoedd diweddaf hyn, gwnaed cronfa i gynorthwyo yr hen weinidogion, a phan fyddont wedi meirw, eu gweddwon a'u hamddifaid; cyfarfod âg angen oedd yn cael ei deimlo ar y pryd. Felly hefyd yn yr un modd am yr hyn a ddygwyd i sylw, yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, gyda golwg ar gael rhyw gynllun i gyfarfod â'r angen a deimlid yn nglŷn â'r pwnc o gynaliaeth y weinidogaeth. Yr oedd efe yn barod i roddi y gair 'cronfa' heibio os mwy dewisol hyny, a 'thrysorfa' hefyd; ond cael y peth ei hun—rhywbeth i ateb i'r angen presenol ydoedd hwn eto. Hwyrach y gallai rhai edrych arno fel peth dyeithr ynddo ef yn dwyn hyn yn mlaen; ond dyma oedd prif nodwedd ei lywyddiaeth ef, a dyma paham y cyfeiriai yntau ato. Fel yna y mae y Cyfundeb wedi myned yn mlaen o'r dechreuad hyd yn awr; a phwy a all ddweyd am ffurf—lywodraeth y Methodistiaid nad ydyw yn gorwedd mor esmwyth yn y Testament Newydd ag eiddo unrhyw gyfundeb ar y ddaear? Nid efelychiad o gyfundebau eraill ydyw yr un a fu erioed nac sydd yn bod yn awr. Rhydd gyfaddefai fod llawer o'r egwyddor Annibynol yn perthyn i ni; ond nid honyna ydyw ffurf—lywodraeth y Corph. Y mae llawer o'r egwyddor Henaduriaethol ynddo hefyd, ond nid Presbyteriaid ydym. Yr un ffunud y gellir dweyd hefyd, fel y dywedodd un brawd galluog a chraffus sydd yn ein plith, a'r hwn sydd yn barnu fod gradd o'r drefn Esgobaethol yn perthyn i ni fel enwad, nad esgobaethwyr ydym chwaith. Ond y mae y Cyfundeb Methodistaidd yn gyfartaliad cymmesurol o'r egwyddor Annibynol, Bresbyteraidd, ac Esgobaethol. Y mae hyny o Annibyniaeth a berthyn i ni yn ein cadw rhag anfanteision Presbyteriaeth, a hyny o Bresbyteriaeth a feddwn yn ein cadw, ar y llaw arall, rhag yr anfanteision sydd yn nglŷn wrth Annibyniaeth; a thybiai hefyd, os oes rhyw gymaint o Esgobyddiaeth yn nghyfansoddiad y Cyfundeb fod yn hyny rhyw fanteision nad ydynt i'w cael mewn Annibyniaeth na Phresbyteriaeth. Oddiwrth hyn fe welir mai nid efelychiad ydyw y Cyfundeb Methodistaidd o ryw un Cyfundeb arall; ond ei fod yn hytrach yn greadigaeth ynddo ei hun, a chreadigaeth Duw ydyw hefyd.
"Gyda hyny, meddyliai fod y Cyfundeb yn y ffurf y mae mor fanteisiol at holl ddyledswyddau a gwaith teyrnas yr Arglwydd Iesu Grist ag un Cyfundeb ar wyneb yr holl ddaear. Pe meddylient yn y lle cyntaf am y pregethu. Gellid meddwl ar un olwg mai corph i bregethu a dim arall ydyw. Y mae ynddo bob math o bregethu; pregethu yn mhob dull, pregethu teithiol, pregethu sefydlog, pregethu haner sefydlog, pregethu misol, cyfarfodydd pregethu, cyfarfodydd misol yn mhob sir, a phregethu yn nglŷn â phob un ohonynt, Cymanfaoedd Chwarterol a phregethu, Cymanfa Gyffredinol a phregethu, fel y gellid meddwl ar un olwg mai cyfundeb i bregethu ydyw.
"Drachefn, meddylier am y cyfarfodydd gweddio. Oni allwn ddywedyd, yn ol maint a nifer y Methodistiaid, fod cynifer o gyfarfodydd gweddio yn eu mysg ag sydd yn mysg unrhyw gyfundeb arall ar y ddaear?
"Yn y trydydd lle, cyfeiriodd y gwr parchedig at yr Ysgol Sabbothol, gan ddweyd ei bod yn gorphwys. mor esmwyth yn mynwes y Corph Methodistaidd ag un Cyfundeb arall pa bynag, ac y mae cynifer o aelodau ynddi ag un cyfundeb arall.
"Dyna y cymdeithasau cenadol wedi hyny; y mae y Corph drwyddo yn gorph cenadol; y mae pob dyferyn o'i waed yn waed cenadol. Meddylier, drachefn, am yr achos dirwestol. Y mae y Cyfundeb Methodistaidd wedi bod yn gymaint o gynorthwy ac o gefnogaeth i'r achos hwn ag un cyfundeb arall yn yr holl wlad, ac y mae yn parhau i fod felly. Ac nid gyda golwg ar ein pethau tufewnol yn unig yr ydym felly, ond yn ein cydymdeimlad â phob achos da yn gyffredinol—Iuddewon a Chenedloedd, addysg gyffredinol yn y wlad, y Coleg Normalaidd yn Mangor, y Brifysgol i Gymru yn Aberystwyth, a phethau o'r fath.
" Y mae y Cyfundeb wedi gwneud ei ran yn anrhydeddus gyda'r oll o'r pethau hyn, fel nad ydyw yn ol i neb yn yr un ohonynt. Nid ymffrostio oherwydd hyny oedd ei amcan ef, pa fodd bynag, ond dymunai ar iddynt gynyddu fwy-fwy yn yr holl bethau hyn. Ei amcan yn hytrach oedd dangos fod ffurf-lywodraeth y Corph mor fanteisiol ag eiddo unrhyw gyfundeb arall pa bynag, i gyflawni yr holl waith a berthyn i deyrnas Crist yn y byd hwn. Gallent ddywedyd gyda phob priodoldeb, 'Y llinynau a ddisgynasant ini mewn lleoedd hyfryd: y mae i ni etifeddiaeth deg.' Amgylchwch Seion; ewch o'i hamgylch; rhifwch ei thyrau,' &c.
"Nodwedd arall arbenig yn symudiadau y Cyfundeb Methodistaidd ydyw mai nid tynu i lawr er mwyn adeiladu sydd wedi bod ynddo erioed—nid gwau a datod, nid fel y gŵr goludog yn y ddameg yn myned i dynu ei hen ysguboriau i lawr er mwyn adeiladu rhai mwy. Nid tynu i lawr sydd wedi bod yma ond adeiladu ychwaneg. Yn y flwyddyn 1811, pan y cymerodd ordeinio le gyntaf yn y Cyfundeb, nid oedd dim yn cael ei dynu i lawr; adeiladu ychwaneg oedd yn cymeryd lle. Pan wnaed y Cyffes Ffydd a'r Weithred Gyfansoddiadol, adeiladu ychwaneg, heb dynu dim i lawr, oedd y pryd hwnw hefyd. Am yr athrofa yr un peth oedd i'w ddweyd, y Gronfa at gynal yr Athrofa, nid oedd dim yn cael ei ddinystrio ond adeiladu ychwaneg; Cronfa y Gweinidogion, dim yma yn cael ei dynu i lawr, adeiladu ychwaneg. Pa beth yw y twrf sydd yn cael ei wneud yn y dyddiau presenol? Nid oes dim yn cael ei ddinystrio, adeiladu ychwaneg sydd mewn golwg.
Pa beth ydyw yr angen presenol? fe ddichon fod rhywun yn barod i ofyn. Wel, angen am gynaliaeth—am gynorthwy i eglwysi bychain, tlodion, gweiniaid. O'i ran ef, dymunai weled y gair 'gweiniaid' yn cael ei alltudio am byth; oblegyd y mae yn yr eglwysi hyny aelodau llawn mor ffyddlawn ag sydd yn yr eglwysi mawr. Bychain mewn nifer ydynt, a hyny am mai ychydig bobl sydd yn trigo yn y cymydogaethau hyny. Teimlent hefyd y dylai yr eglwysi bychain gael pob manteision a breintiau, gyda golwg ar fywyd tragwyddol, yn ogystal â'r eglwysi mawrion eu hunain. Yn yr ystyr yna nid oeddynt yn gwneud yn iawn tuag at yr eglwysi bychain, os nad oeddynt yn cael yr un ymgeledd ag a fwynheir gan yr eglwysi mawrion. Ac y maent hwythau yn dymuno hyny fel y rhai mawr. Y maent yn dymuno cael bugeiliaid i ofalu am y plant ac i ymweled â'r rhai cystuddiol; y maent hefyd yn dymuno cael gweinidogaeth gyson fel yr eglwysi mawrion. Yr oeddynt oll yn barod i gydsynio â hyny a dweyd y dylent ei gael. A raid i eglwys o driugain o aelodau fod o dan anfanteision mwy nag eglwys o dri chant gyda golwg ar fywyd tragwyddol? Y mae eneidiau pob un ohonynt o gymaint gwerth ag eneidiau y lleill. Y mae enaid y dyn sydd yn trigo ar yr Allt Lwyd o gymaint gwerth iddo ei hun ag enaid y dyn sydd yn trigo rhwng Princes Road a Chatham, ac oddiyno i Fitzclarence yn Liverpool.
"Ac ychwaneg, dylem ninau fel Cyfundeb roddi pob cymhorth sydd ar ein llaw iddynt tuag at gael hyn. Tybiai, wrth edrych ar eu gwynebau, eu bod hwy yn barod i wneud hyny, iddynt gael gweinidogaeth gyson a gweinyddiad o'r ordinhadau fel yr eglwysi mawrion. Tybiai y clywai y cynrychiolwyr o Leyn ac Eifionydd, Môn ac Arfon, Dinbych, Trefaldwyn, Liverpool, Manchester, &c., yn dweyd eu bod hwy yn gwneud hyn yn barod ac yn cynorthwyo yr eglwysi gweiniaid. Ond yn y fan yma yr oedd yn ofni methu; ofni methu gwneud daioni, nid ofni gwneud drwg, oblegyd y mae y ffordd yr ydym yn gwneud hyn yn awr yn anfanteisiol. Gwell yw gwneud fel y gwneir yn awr na pheidio gwneud o gwbl. Ond yn sicr, yr oedd efe yn meddwl y gellid ei wneud mewn ffordd mwy dymunol. Nid ydyw y wedd yr ydys yn eu cynorthwyo yn awr yn foddhaol nac yn effeithiol i raddau; ac nid ydyw yn rhoddi y cysur a ddylai i'r eglwysi hyny sydd yn derbyn cymhorth, a hyny oherwydd fod yn rhaid i'r rhai bychain dderbyn o haelioni y rhai mawr; rhaid i'r bugeiliaid a'r eglwysi ymddarostwng i dderbyn elusen. Nid oedd efe yn perthyn i'r un ohonynt, ond yr oedd wedi sylwi arnynt er's blynyddoedd. A thybiai fod y cyfryw foneddigeiddrwydd nefol yn natur pob un ohonom fel y dymunem eu cynorthwyo ar delerau mwy anrhydeddus ac esmwyth na honyna, na ddymunem eu darostwng wrth estyn cymhorth iddynt. A dyma y peth yr ydym yn palfalu am dano. Yr oedd ganddo ef un ystori fechan i'w hadrodd. Fel yr oeddynt oll yn gwybod, buont yn palfalu am gryn ysbaid o amser am fund y gweinidogion. Tua deng mlynedd ar hugain yn ol, yr oedd rhyw frawd yn cynyg cynllun i gael clwb iddynt, ac yn ei egluro i'r diweddar Barchedig Richard Humphreys, o'r Dyffryn. Yn Nghyfarfod Misol Aberdyfi, yr oedd y brawd yn gosod ei gynllun o'r clwb i lawr; ond wedi ei esbonio i Mr. Humphreys yn y tŷ, a'r hen weinidog hybarch yn dweyd fod angen mawr am rywbeth o'r fath, yna aeth yn mlaen i ddweyd nad oeddynt yn meddwl i weinidogion oeddynt yn ei sefyllfa ef i dderbyn dim ohono, ond i gyfranu iddo, a dyna yr oll oedd y rhai da arnynt i wneud. Ond pan glywodd Mr. Humphreys hyny, dywedodd yn y fan, 'Wel, os fel yna y mae hi i fod, ni fydd dim a wnelwyf fi âg ef.' Nid rhywbeth ag y byddai raid i'r pregethwr tlawd ei dderbyn fel cardod, ond pawb yn cael eu gosod yn hollol ar yr un tir a'u gilydd. A hyn ddaeth i feddwl y Dr. Gee, o Liverpool—boed bendith y nefoedd ar ei ben am ei feddwl—a'r Parchedig Daniel Rowlands, o Fangor, am weithredu fel ysgrifenydd, ac hefyd ar y pendefig o Landinam, am ddwyn ei steam engine i lusgo y trên i'r terminus. Nid prif ragoriaeth y gronfa yna ydyw ei bod wedi cyrhaedd y swm mawr o £26,000. Na, ei phrif ragoriaeth ydyw fod pob pregethwr yn cael ei osod yn gymhwys ar yr un tir ynddi. Ac at yr un peth yr amcenir eto gyda'r pwnc arall—palfalu yr ydym am rhyw ffordd i gynorthwyo yr eglwysi gweiniaid, bychain, heb eu bod yn gorfod teimlo dim wrth dderbyn ein cymhorth. Yr oedd rhai yn amheu a ydoedd peth fel hyn yn bod, ond y mae yn eithaf gwir o dan y drefn bresenol, yr hyn sydd yn gwneud dau ddosbarth o'r gweinidogion ac o'r eglwysi. Ni ddylai y pethau hyn fod. Brodyr ydym ni. Credai efe fod ein brawdoliaeth yn galw arnom i weddio am gael rhyw oleufynag i weled pa fodd gallent gynorthwyo y lleoedd gweiniaid mewn modd esmwyth. Heblaw hyny, Corph ydym ni, a dylem ofalu am ein lleoedd bychain. Ac ni allasai yr eglwysi mawrion yn Ffestiniog, Caernarfon, a Liverpool fod yn fawr heb y rhai bychain; a phe y darfyddai am y rhai bychain, buan iawn y teimlai y rhai mawr fod eu nerth yn cilio a'u rhifedi yn darfod. Dyna y peth y mae eisieu i ni weddio am oleuni arno a theimlo ein ffordd am dano yn y dyddiau hyn—'Dygwch feichiau eich gilydd, ac felly cyflawnwch gyfraith Crist.' A chofied yr eglwysi mawrion, 'Nid fel y byddai cystudd i chwi ac esmwythâd iddynt hwy; ond fel y byddai cymhwysdra.' Dywed Alford mai equality (cydraddoldeb) ydyw y meddwl, ac mai y cyfieithiad priodol fyddai, by the rule of equality—yn ol rheol cydraddoldeb. Ac y mae Testament yr Ysgol Sabbothol yn dweyd mai y 'cymhwysdra yw fod pawb mor rydd a'u gilydd oddiwrth angen.' Y mae eisiau darllen yr esboniad yna yn fanwl.
"Na feddylied neb ein bod ni am fyned i ddilyn yr Ysgotiaid, y Saeson, yr Ellmyn, na neb arall; nid oeddym am ddilyn neb, ond yn hytrach am edrych ar angen ein gwlad ni ein hunain. Dyna ydyw yr amcan sydd ganddynt mewn golwg—cael pawb yr un mor rydd a'u gilydd oddiwrth angen. A phwy, mewn difrif, a all luddias hyn? Ond pa fodd i'w wneud? Gwneud fel y dywedir, "Llef un yn llefain yn yr anialwch, 'Parotowch ffordd yr Arglwydd' i'r cwm mynyddig, os oes yno eglwys; i'r pentref, os oes yno hefyd eglwys; parotowch ffordd yr Arglwydd i fyned i'r pant. Pa sut? 'Pob pant a gyfodir a phob mynydd a bryn a ostyngir: y gwyr a wneir yn uniawn, a'r anwastad yn wastadedd.' I ba beth y gwneir hyn? I gael 'ffordd i'r Arglwydd' a 'hyn fydd i'r Arglwydd yn enw.' Nid rhywbeth i'r pregethwyr ydyw. Na ato Duw! Yr oedd holl ystod bywyd rhai ohonynt yn dweyd rhywbeth yn amgenach. Na, na; ond 'fel y dadguddir gogoniant yr Arglwydd, a phob cnawd yn nghyd a'i gwel '—pob cnawd; pobl y trefydd mawrion, y pentrefydd, a'r cymoedd. A diwedd hyn oll fydd pob lle yn cael yr un manteision gyda golwg ar yr iachawdwriaeth dragwyddol. Hefyd, fe gŵyd hyn weinidogion yr efengyl i raddau o annibyniaeth. Gellir cael annibyniaeth i'r eglwysi, ond y gweinidogion, er hyny, yn ddibynol hollol. Heblaw hyny, byddai hyn yn foddion i godi pob gweinidog uwchlaw pryder gyda golwg ar ei fywoliaeth; ac achos yr Arglwydd a gaiff yr enill oddiwrth y cyfan. Yr oedd efe yn gobeithio bellach ei fod wedi llwyddo i enill rhyw gymaint arnynt i ddyfod i'r syniad am yr angenrheidrwydd i gynorthwyo yr eglwysi gweiniaid mewn modd anrhydeddus, a'u gwneud oll yn rhydd oddiwrth angen. 'Ac yr awr hon, fy mrodyr,'—prin, meddai, yr ystyriai ei hun yn gymhwys i ddweyd hyn wrthynt—'yr wyf yn eich gorchymyn i Dduw, ac i air ei ras Ef, yr hwn a all adeiladu ychwaneg, a rhoddi i chwi etifeddiaeth yn mhlith yr holl rai a sancteiddiwyd.' ' Ac i Dduw y byddo y diolch am ei ddawn annhraethol "
Gwelir ei fod yn rhoddi lle mawr ac amlwg yn ei anerchiad i gynaliaeth y weinidogaeth, ac yr oedd yn dra awyddus i hyny gael ei wneud, fel y dywed, mewn modd esmwyth ac anrhydeddus. Yr oedd mater "Trysorfa Cynaliaeth y Weinidogaeth" yn cael sylw arbenig yn nghynadleddau y Gymdeithasfa hon. Yr oeddid wedi anfon y pwnc i ystyriaeth y gwahanol Gyfarfodydd Misol, a llais y rhai hyny i gael ei dderbyn yn Nghymdeithasfa yr Abermaw, ac fel hyn y ceir y cofnodiad am hyn yn hanes y cyfarfod:
EGLURODD yr ysgrifenydd pa fodd yr oedd y gwahanol Gyfarfodydd Misol yn sefyll gyda golwg ar y mater hwn. Yr oeddynt wedi derbyn cenadwriaethau o Leyn ac Eifionydd, o sir Fflint, Meirionydd,—Gorllewin a Dwyrain, Trefaldwyn Isaf, Henaduriaeth Trefaldwyn, Arfon, Liverpool, Manchester, a Henaduriaeth Lancashire; yr oll yn cymeradwyo egwyddor ac amcan y gronfa, ond rhai yn dymuno am ychwaneg o ystyriaeth i'r moddion goreu i weithio y peth allan. Un, ac un yn unig, sef sir Ddinbych, oedd wedi pasio penderfyniad yn datgan "nad oedd angenrheidrwydd am y gronfa gynygiedig."
Wedi i'r ysgrifenydd ddarllen yr hyn a dderbyniwyd o'r amrywiol Gyfarfodydd Misol fel yna, fe gaed trafodaeth faith a brwd ar y pwnc. Y mae yn eglur nad oedd yr holl frodyr yn cydolygu am y ffurf oreu i fod ar y symudiad. Cymerai y gweinidogion canlynol ran yn yr ymddyddan;—Parchn. O. Thomas, D.D., Emrys Evans, Robert Roberts, Dolgellau; John Williams, Llandrillo; Roger Edwards, a David Davies—yr oll erbyn hyn wedi cadw noswyl—ac y mae yn amlwg oddiwrth dôn y siarad oedd yno fod y teimlad yn gryf am symud yn y cyfeiriad iawn; ond yr oedd. y diweddar Barch. Dr. Thomas—yr hwn a fu yn wyliedydd craff a gonest yn ein plith am flynyddoedd yn selog am beidio gwneud yr hyn a elwid yn sustentation fund. " Y mae yn bwysig iawn," meddai, " i ni symud oll gyda'n gilydd fel cwmwl Shirley ' If it moves at all it moves altogether.' Ni ddywedai ef air byth o blaid sustentation fund; ond am gynal lleoedd gweiniaid, hyd yr oedd yn bosibl, a chynal y weinidogaeth yr oedd yn hynod bleidiol," &c. Yr oedd y Parchn. Robert Roberts a D. Davies ac eraill yn argyhoeddedig a thraethent hyny yn glir a chroyw—fod yn rhaid i'r hyn a wneid fod yn gyffredinol cyn y gallasai fod yn esmwyth ac yn anrhydeddus—pob eglwys yn cyfranu a phob eglwys yn derbyn. Ac nid yw yn rhyfedd ei fod ef yn ei araith ymadawol wedi rhoddi lle mor fawr ac amlwg i'r pwnc, ac i'r wedd arno hefyd a ystyriai ef yn "esmwyth ac yn anrhydeddus," fel y dywed.
Gweithiodd yn ymroddgar ac yn egniol am flynyddoedd yn nghylch ei Gyfarfod Misol ei hun mewn darparu ymgeledd a gofal gweinidogaethol i eglwysi gweiniaid. Ceir yn mhlith ei bapyrau amryw o gynlluniau i ddwyn hyn oddiamgylch, ac y mae yn ymddangos iddo gynyg rhai ohonynt yn y Cyfarfod Misol, a chael cymeradwyaeth y cylch iddynt. Yr oedd gan y ddau ben i sir Feirionydd drefn ragorol i weithio gyda'r amcan hwn; ac wedi i gynllun y Gymdeithasfa ddyfod gerbron, mawr oedd siomedigaeth rhai brodyr oherwydd eu bod wedi rhoddi cynllun rhagorach i fynu er mwyn trefn a ystyrid ganddynt yn annigonol i gyfarfod a'r angen. Dywedai Mr. Davies yn Nghyfarfod Misol Llanbedr, pan yn rhoddi datganiad i'r siomedigaeth hon: "Yn yr America," meddai, rhoddwyd ball (dawns) lle yr oedd nifer o wragedd a babanod yn eu gofal. Parhaodd y ddawns yn hwyr a'r babanod yn ngofal rhyw rai penodedig. Penderfynodd y gweilch a gafodd yr ymddiriedaeth hon newid dillad y plant. Rhuthrai y mamau i mewn gan fyned bob un at y man yr oedd ei baban a'i gymeryd ymaith ar ffrwst. Ond erbyn myned adref, Oh! y syndod a'r braw—' Nid fy mhlentyn i ydyw hwn." Yna darluniai, yn ei ddull byw, helynt y mamau. Felly, pan ddaeth y Drysorfa Gynorthwyol gyntaf o'r Gymdeithasfa dywedai, "Nid ein plentyn ni ydyw hwn. Y maent wedi newid y dillad a chymysgu y plant yn y Gymdeithasfa."
PEN. XII.—Tymor o neillduaeth.
Yn ddyn cryf.—Yn llafurio yn ddiymarbed.—Arwyddion palldod ar ei nerth.—Ei atal i bregethu gan y meddyg am dri mis.—Yn cyfansoddi pregethau yn y cyfnod hwnw.—Pregethau neillduaeth.—Y brasluniau yn anmherffaith—Oedfa yn Llanwyddyn.—Stori y pot mêl.—Oedfa yn Nghyfarfod Misol Pennal.
Yr oedd yn ddyn cryf, ac wedi ei fendithio a phabell gadarn a hardd, ac nid oedd wedi arbed dim arno ei hun. Llafuriai yn galed yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth. Rhoddai dreth drom arno ei hun pan yn preswylio yn Mhenmachno trwy gerdded llawer i deithiau pell, a phan yn traddodi ei bregethau cyflawnai yn llythyrenol y cynghor, "Llefa—nac arbed, dyrchafa dy lais fel udgorn," ond yn ystod blynyddoedd diweddaf ei oes, yr oedd yn cerdded yn fwy araf ac yn fwy gwyliadwrus. Nid oes genym le i feddwl ychwaith fod llafur mawr blynyddoedd boreuol ei yrfa fel gweinidog wedi dweyd fawr arno hyd nes y cyfarfyddodd â'r ddamwain yn Lleyn. Diau i'r tro hwnw gael effaith ar ei gyfansoddiad cryf; nid yn unig fe gloffodd ei glun, ond fe gloffwyd ei natur hefyd trwy hyny. Yr ydym braidd yn tybio i'r afiechyd a'i cymerodd ymaith mor sydyn yn y diwedd, ymaflyd ynddo tua'r adeg hono. Ac yn ystod y blynyddoedd y cyfeiriwyd atynt yn y pennodau o'r blaen, yr ydym yn gweled arwyddion o balldod yn ei nerth—y babell hardd a'r craciau yn dechreu ymddangos ynddi.
Ymddengys iddo yn ystod blwyddyn ei lywyddiaeth gael ei atal rhag pregethu am yn agos i dri mis, er na fu hyny yn foddion i'w luddias i'r Gymdeithasfa a gynelid yn Mhwllheli yr adeg hono; ac yn un o lyfrau ei bregethau fe geir y cofnod a ganlyn wedi ei ysgrifenu ganddo:—" Adeg pan yr ydwyf wedi fy atal gan y meddyg—yn hytrach gan yr Arglwydd ddechreu mis Gorphenaf hyd ddiwedd mis Medi, 1876." Dodwn i lawr yma rai pregethau a ysgrifenwyd ganddo y pryd hwn. Yr ydym yn eu rhoddi i lawr yn hollol fel yr ysgrifenodd ef hwynt; ac er nad ydynt ond amlinelliad anmherffaith o'r pregethau fel y traddodid hwy, eto y maent yn meddu dyddordeb diamheuol fel ffrwyth ei fyfyrdod yn neillduaeth yr ystafell pan o dan law cystudd:
Y WEDDW A'R OLEW.
"Yna hi a ddaeth ac a fynegodd i wr Duw. Dywedodd yntau, Dos, gwerth yr olew, a thâl dy ddyled; a bydd di fyw, ti a'th feibion, ar y rhan arall."—2 Bren. iv. 7.
"Profedigaeth gwraig un o feibion y prophwydi sydd yma—tebyg i wraig weddw pregethwr, neu student. Yn ei gwaredigaeth hi y gwelwn ddarlun o waredigaeth pechadur trwy Grist.
"I.—Angen y Wraig.—1. Yr oedd yn eisieu mawr. Yr oedd hi ei hun a'i dau fab heb ddim at fyw; a mwy na hyny, mewn dyled—yn agored i ofynion y gyfraith heb ddim i ateb. Felly y mae pob pechadur. "
2. Eisieu oedd yn arwain i gyfyngder mawr. Yr oedd yr echwynydd yn gofyn am y ddau fachgen yn gaethion iddo ef. Dyna gyfraith meibion Israel i'r dyledwr a'i blant. Felly pechadur.
3. Angen nad oedd ganddi un man i droi ond at Dduw. Nid oedd na châr na chyfaill ganddi ond 'gwr Duw.' Felly ninau fel pechaduriaid. Ynof fi y mae dy gymhorth.' 'Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall: canys nid oes enw arall dan y nef wedi ei roddi yn mhlith dynion, trwy yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig.'
II.—Trefn Duw i'w diwallu.—1. Gwneud yr angen i fynu a'i gyflawnder Ei hun, ar ei draul Ei hun, ac o'i gyfoeth Ei hun. Nid olew neb ond olew yr Arglwydd ei hun. Fel y porthwyd y miloedd ganddo â'i fara a'i bysgod ei hun.
2. Nid oedd yn diystyru yr ychydig oedd ganddi, eithr, yn hytrach, yn ei ddefnyddio. 'Pa beth sydd genyt yn dy dŷ?' Y mae yr Arglwydd yn defnyddio gwybodaeth, a theimladau tyner, ac ymarferiad â moddion—pobpeth da a fedd y dyn—tuag at ei ddychweliad.
3. Yr oedd yn rhaid llafurio, casglu y llestri: ac unig gymhwysder y llestri oedd eu bod yn weigion. Nid na mawr na bach, ond llestri gweigion.
4. Yr oedd yn anog y wraig i gymeryd pob mantais i dynu yn helaeth ar ei gyflawnder Ef. Nid yn unig galwai arni i ddwyn y llestri a feddai hi ei hun, ond hefyd i fenthyca cynifer ag a allai eu cael. Nid oedd dim perygl i'r cyflawnder ddarfod. Y llestri a ddarfu gyntaf, ac nid yr olew.
III.—Cydymffurfiad y wraig a threfn Duw.—1. Yr oedd yn rhaid iddi fyned i mewn i'w thy. Yn ei thŷ yr oedd yr Arglwydd am ei diwallu. Prif gartref crefydd yw ein tai ein hunain a thŷ yr Arglwydd. Ni waeth pa le? O! gwaeth, y mae gan yr Arglwydd ei fan i gyfarfod â phechadur.
2. Yr oedd yn rhaid i'w meibion fod yn y tŷ gyda hi a'r llestri gweigion, a chau y drws. Ar ol cau y drws yr oedd yno dŷ gwag iawn—gwraig weddw a'i dau fab a llon'd y ty o lestri gweigion, ac echwynwr yn bygwth cymeryd y ddau fab i gaethiwed. Teulu gwag a llestri gweigion, ond yr oedd Duw yno ac un ysten âg olew ynddi. Bendithio ychydig y mae yr Arglwydd gyda moddion gras, ac nid gwneud peth o ddim. Felly y gwnaeth â'r ychydig flawd yn y celwrn—dim ond dyrnaid—eto caed bywoliaeth arno, o dan ei fendith Ef, am dymhor maith.
3. Yr oedd gwaith i'r wraig a'r bechgyn yn y tŷ. Y wraig yn tywallt ac un bachgen yn symud y llestri llawnion a'r llall yn nesu y llestri gweigion—pawb ar waith. Y mae yn rhaid tywallt a symud y llestri eto. Ac yr oedd y bechgyn yn gweithio. Y mae gwaith i bobl, ac i blant hefyd, pan fyddo Duw yn gweithio. Nid gweithio y mae yr Arglwydd nes rhoddi pawb i segura, ond gweithio nes rhoddi pawb ar waith. Lle y mae pobl yn segura, nid ydyw yr Arglwydd ddim yn gweithio yno.
4. Yr oedd y drefn yn gosod terfynau ar y cyflawnder. Pan ddarfu y llestri gweigion, 'A'r olew a beidiodd.' Trefn Duw sydd yn rheoli gyda golwg ar dderbyn o'r cyflawnder. Mae y cyflawnder yn ddiderfyn, 'Canys rhyngodd bodd i'r Tad drigo o bob cyflawnder ynddo ef;' ond y mae cyflawnder i'w gael yn ol y drefn; ac, yn ol y drefn, y mae y terfynau iddo, ac nid yw y cyflawnder yn myned dros y terfyn hwnw.
IV.—Y fendith a dderbyniodd y wraig. ‘Yna hi a ddaeth ac a fynegodd i wr Duw,' &c.
I. Digon, yn ngwyneb y gofynion, i gael yn glir â'r gyfraith. Dyfod yn rhydd o ofal yr echwynwr. "Gwerth yr olew a thâl dy ddyled.' Dyma ddigon rhyngddi â gofyn y gyfraith. Felly y mae yn yr iachawdwriaeth, 'Canys Crist a'n llwyr brynodd oddiwrth felldith y ddeddf gan ei wneuthur yn felldith trosom.'
2. Digon ar ei chyfer hi a'i phlant. 'A bydd di fyw, ti a'th feibion.' Dyma ddigon at fyw, ac ni wyddom ni nad oedd ganddi ddigon tra y bu hi a'i meibion fyw.
O, ras didrai, diderfyn,
Tragwyddol ei barhad! &c.
y mae dy gymhorth.' 'Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall: canys nid oes enw arall dan y nef wedi ei roddi yn mhlith dynion, trwy yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig.'
II.—Trefn Duw i'w diwallu.—1. Gwneud yr angen i fynu a'i gyflawnder Ei hun, ar ei draul Ei hun, ac o'i gyfoeth Ei hun. Nid olew neb ond olew yr Arglwydd ei hun. Fel y porthwyd y miloedd ganddo â'i fara a'i bysgod ei hun.
2. Nid oedd yn diystyru yr ychydig oedd ganddi, eithr, yn hytrach, yn ei ddefnyddio. 'Pa beth sydd genyt yn dy dŷ?' Y mae yr Arglwydd yn defnyddio gwybodaeth, a theimladau tyner, ac ymarferiad â moddion—pobpeth da a fedd y dyn—tuag at ei ddychweliad.
3. Yr oedd yn rhaid llafurio, casglu y llestri: ac unig gymhwysder y llestri oedd eu bod yn weigion. Nid na mawr na bach, ond llestri gweigion.
4. Yr oedd yn anog y wraig i gymeryd pob mantais i dynu yn helaeth ar ei gyflawnder Ef. Nid yn unig galwai arni i ddwyn y llestri a feddai hi ei hun, ond hefyd i fenthyca cynifer ag a allai eu cael. Nid oedd dim perygl i'r cyflawnder ddarfod. Y llestri a ddarfu gyntaf, ac nid yr olew.
III.—Cydymffurfiad y wraig a threfn Duw.—1. Yr oedd yn rhaid iddi fyned i mewn i'w thy. Yn ei thŷ yr oedd yr Arglwydd am ei diwallu. Prif gartref crefydd yw ein tai ein hunain a thŷ yr Arglwydd. Ni waeth pa le? O! gwaeth, y mae gan yr Arglwydd ei fan i gyfarfod â phechadur.
2. Yr oedd yn rhaid i'w meibion fod yn y tŷ gyda hi a'r llestri gweigion, a chau y drws. Ar ol cau y drws yr oedd yno dŷ gwag iawn—gwraig weddw a'i dau fab a llon'd y ty o lestri gweigion, ac echwynwr yn bygwth cymeryd y ddau fab i gaethiwed. Teulu gwag a llestri gweigion, ond yr oedd Duw yno ac un ysten âg olew ynddi. Bendithio ychydig y mae yr Arglwydd gyda moddion gras, ac nid gwneud peth o ddim. Felly y gwnaeth â'r ychydig flawd yn y celwrn—dim ond dyrnaid—eto caed bywoliaeth arno, o dan ei fendith Ef, am dymhor maith.
3. Yr oedd gwaith i'r wraig a'r bechgyn yn y tŷ. Y wraig yn tywallt ac un bachgen yn symud y llestri llawnion a'r llall yn nesu y llestri gweigion—pawb ar waith. Y mae yn rhaid tywallt a symud y llestri eto. Ac yr oedd y bechgyn yn gweithio. Y mae gwaith i bobl, ac i blant hefyd, pan fyddo Duw yn gweithio. Nid gweithio y mae yr Arglwydd nes rhoddi pawb i segura, ond gweithio nes rhoddi pawb ar waith. Lle y mae pobl yn segura, nid ydyw yr Arglwydd ddim yn gweithio yno.
4. Yr oedd y drefn yn gosod terfynau ar y cyflawnder. Pan ddarfu y llestri gweigion, 'A'r olew a beidiodd.' Trefn Duw sydd yn rheoli gyda golwg ar dderbyn o'r cyflawnder. Mae y cyflawnder yn ddiderfyn, 'Canys rhyngodd bodd i'r Tad drigo o bob cyflawnder ynddo ef;' ond y mae cyflawnder i'w gael yn ol y drefn; ac, yn ol y drefn, y mae y terfynau iddo, ac nid yw y cyflawnder yn myned dros y terfyn hwnw.
IV.—Y fendith a dderbyniodd y wraig. ‘Yna hi a ddaeth ac a fynegodd i wr Duw,' &c.
I. Digon, yn ngwyneb y gofynion, i gael yn glir â'r gyfraith. Dyfod yn rhydd o ofal yr echwynwr. "Gwerth yr olew a thâl dy ddyled.' Dyma ddigon rhyngddi â gofyn y gyfraith. Felly y mae yn yr iachawdwriaeth, 'Canys Crist a'n llwyr brynodd oddiwrth felldith y ddeddf gan ei wneuthur yn felldith trosom.'
2. Digon ar ei chyfer hi a'i phlant. 'A bydd di fyw, ti a'th feibion.' Dyma ddigon at fyw, ac ni wyddom ni nad oedd ganddi ddigon tra y bu hi a'i meibion fyw.
O, ras didrai, diderfyn,
Tragwyddol ei barhad! &c.
'Bydd di fyw,—byw mewn rhyddid oddiwrth bob gofyn, byw mewn llawnder o gyrhaedd pob angen. Nid dyogelu bywyd yn unig yr oedd Oen y Pasc yn yr Aipht, ond yr oedd yn fforddio i'r rhai oedd yn y cysgod i wledda ar hyd y nos. Yr oedd Israel ar ol myned trwy yr Iorddonen nid yn unig yn cael tynu ymaith waradwydd yr Aipht oddiarnynt, ond hefyd yn cael dechreu byw ar 'hen ŷd y wlad.' Fe gafodd y llanciau a daflwyd i'r ffwrn dân nid yn unig losgi eu rhwymau gan y tân, a bod yno yn wyr rhyddion; ond fe ddaeth 'dull y pedwerydd,' a hwnw yn 'debyg i Fab Duw,' yn gwmni iddynt.
Gwaredu'r saint rhag uffern
A phechod drwg ei ryw,
O safn y bedd ac angau,
A'u dwyn i fynwes Duw;
Eu harwain dros fynyddau,
A thrwy yr anial chwith,
A grea nef y nefoedd
Yn gân heb ddiwedd byth.
—Gorphenaf 5, 1876.
GRAS I'R GOSTYNGEDIG.
"Ac yn rhoddi gras i'r rhai gostyngedig."—1 Pedr v. 5."
Anogaeth i ostyngeiddrwydd a geir yn yr adnod hon. I'r ieuainc y rhoddir y cynghor yma—ieuainc mewn oedran, proffes, ac fel swyddogion. Fe'i rhoddir i 'bawb' hefyd 'A byddwch bawb yn ostyngedig." "Ymdrwsiwch.' Bod wedi ymbarotoi, fel y caethwas wedi gwisgo ei arffedog at y gwasanaeth, neu yr Arglwydd Iesu wedi ymwregysu â'r tywel.
Ymdrwsiwch, a dyna y rheswm dros hyny, 'Oblegyd y mae Duw . . . yn rhoddi gras i'r rhai gostyngedig.'
I.—Y gras gwerthfawr hwn.—1. Y mae yn hanfodol i sancteiddrwydd. Y mae pob creadur sanctaidd yn un gostyngedig. Dywedir am yr angylion, 'Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt hwy oll,' &c. Ni all neb fod yn wasanaethgar heb fod yn ostyngedig. Nid am wasanaethu mae y balch, ond arglwyddiaethu, awdurdodi, a meistroli, a bod yn ben ar bawb. Y gostyngedig sydd yn gwasanaethu. Gwasanaethu mewn gostyngeiddrwydd hefyd y mae y creaduriaid sanctaidd. ‘Chwech adain ydoedd i bob un," ac y mae yna bedair o'r chwech yn cuddio y wyneb a'r traed—ymguddio yn y gwasanaeth. Yr oedd 'Michael yr archangel pan oedd efe, wrth ymddadleu a diafol, yn ymresymu yn nghylch corph Moses,' yn rhy ostyngedig i 'ddwyn barn gablaidd arno, eithr efe a ddywedodd, Cerydded yr Arglwydd dydi.' Efe a'i rhoddes yn llaw un arall.
2. Fe roddodd yr Arglwydd Iesu esiampl berffaith o ostyngeiddrwydd—Eithr bydded ynoch y meddwl yma,' &c.; 'Cymerwch fy iau arnoch, a dysgwch genyf; canys addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon,' Bydd lawen iawn, ti ferch Seion . . . wele dy Frenin yn dyfod,' &c.
3. Y mae yr enwau a roddir ar y gras hwn yn y Gwirionedd yn dangos ei natur. Agwedd calon ac ansawdd ysbryd ydyw. Calon ddrylliog ac ysbryd cystuddiedig, Ysbryd briwedig, Isel o ysbryd, &c.
II—Y cymhellion i ostyngeiddrwydd. 1. Fel creadur.—(1) Dylai fod yn ostyngedig am mai creadur ydyw, a dweyd yn barhaus wrth Dduw, 'Dy ddwylaw a'm gwnaethant ac a'm lluniasant; nyni ydym glai, a thithau yw ein Lluniwr.' (2) Gwaeledd ei ddefnydd. 'Pridd wyt ti, ac i'r pridd y dychweli,' 'Tŷ o glai a'i sail yn y pridd,' 'Dyn yr hwn sydd bryf, a mab dyn yr hwn sydd abwydyn.' (3) Ei ddibyniad. Nis gall sefyll am eiliad, ond fel y mae yn cael ei gynal, ' Dygi ymaith eu hanadl a threngant,' &c. (4) Byrder einioes. 'Canys beth ydyw eich einioes chwi? Canys tarth ydyw, yr hwn sydd dros ychydig yn ymddangos, ac wedi hyny yn diflanu.'
2.—Fel pechadur. (1) Y mae gostyngeiddrwydd yma yn rhy brin; y mae eisiau edifeirwch a galar. (2). Y mae yn cydnabod cyfiawnder Duw a'i euogrwydd ei hun. 'I ti, Arglwydd, y perthyn cyfiawnder, ond i ni gywilydd wynebau.' A dianc y mae dyn oddiwrth swyddog y gyfraith—angau. (3) Cydnebydd burdeb, ac uniondeb, a sancteiddrwydd Duw. 'Ydwyt lanach dy lygaid nag y gelli edrych ar ddrwg, ac ni elli edrych ar anwiredd;' 'Canys mi a wn nad oes ynof fi (hyny yw, yn fy nghnawd i) ddim da yn trigo:' 'Eithr yr ydym ni oll megys peth aflan, ac megys bratiau budron yw ein holl gyfiawnderau.' (4) Hir amynedd Duw ydyw yr achos fod dyn yn cael ei oddef. Dyma sydd yn nodweddu holl ymddygiadau Duw tuag at bechadur, 'Hir ymarhous ydyw Efe,' wedi ei gerfio yn ddwfn ar y cwbl.
3. Fel Cristion hefyd. (I) Y mae y drefn yn cau allan bob ymffrost oddiwrth ddyn. ‘Pa le gan hyny y mae y gorfoledd? Efe a gauwyd allan.' 'Eithr Duw a etholodd ffol—bethau y byd fel na orfoleddai un cnawd ger ei fron Ef;' 'Yr hwn sydd yn ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd.' (2) Derbynwyr ydyw pawb o rad drugaredd Duw. Pa beth sydd genyt ar nas derbyniaist?' (3) Anmherffeithrwydd y dyn goreu. Y mae yn llawn o bob diffygion a gwendidau,‘Os dywedwn nad ces ynom bechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, a'r gwirionedd nid yw ynom.' (4) Ar drugaredd Duw y mae pob dyn yn gorphwys am iachawdwriaeth. 'Gan fod yn hyderus yn hyn, y bydd i'r hwn a ddechreuodd ynoch waith da, ei orphen hyd ddydd Iesu Grist,' ond trugaredd o'r dechreu i'r gorphen. Ymgedwch yn nghariad Duw, gan ddisgwyl trugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragwyddol.
III.—Bendithion gostyngeiddrwydd.—I. Y mae yn ras ac yn peri gras. Mae yn dwyn gras mwy—'Y rhai llariaidd a hyfforddia efe mewn barn;' 'Ei ras a rydd efe i'r gostyngedig.'
2. Y mae yn peri dyrchafiad. 'Gwell yw bod yn ostyngedig gyda'r gostyngedig na rhanu yr yspail gyda'r beilchion;' 'O flaen anrhydedd yr ä gostyngeiddrwydd.'
3. Y mae yn nerth hefyd. Mae yn nerth i ddal anrhydedd. 'Balchder dyn a'i gostwng ef: ond y gostyngedig a gynal anrhydedd.'
4. Y mae yn dwyn ymwared o bob cyfyngder—Rehoboam—Ahab—y Ninifeaid. Fe ddyrchafodd calon Hezeciah, ac y mae yn dyfod yn dywydd mawr arno, 'Er hyny efe a ymostyngodd oherwydd dyrchafiad ei galon,' ac y mae ymwared Duw yn dyfod. Manasseh hefyd, er ei holl galedwch a'i fywyd annuwiol, a drodd at yr Arglwydd yn ei gyfyngder, 'Ac efe a fu foddlawn iddo.' Mae y dyn gostyngedig yn myned trwy bob tywydd heb dderbyn niwed. Y mae yn gostwng ei ben, fel y frwynen, yn y llifeiriant, ac nid ydyw yn cael dim niwed, ac heblaw hyny, y mae yn cael ei olchi ganddo. Acy mae yn gweddio am gymhorth i ymostwng yn y tònau:—
Dysg fi dewi, megys Aaron,
Dan holl droion dyfnion Duw.
Ac y mae yn ffarwelio â dydd y prawf heb ei niweidio.—Gorphenaf 17, 1876.
Ni a welwn oddiwrth y braslun diweddaf yma—yr hwn nad ydyw yn ddim bron ond cadwyn o adnodau—ei fod yn gydnabyddus iawn â'r Gair, a chredai yn gryf mewn pregethu y Gair—gadael rhwng yr adnodau a'r bobl—a gallai floeddio yr adnodau weithiau gyda rhyw eneiniad a nerth rhyfedd. Fe welir nad ydyw y rhaniadau lluosog sydd ganddo yn y braslun uchod ond math o hoelion i osod yr adnodau arnynt. Byddai hyn i'w weled yn amlycach o lawer ar rai adegau na'u gilydd yn ei hanes, ac mewn rhai pregethau. Er fod amryw o gynlluniau pregethau wedi eu hysgrifenu ganddo yn y cyfnod y cyfeiriwyd ato, ymfoddlonwn yn unig ar roddi un i mewn eto.
Y GWAHANIAETH MAWR.
"YNA y dychwelwch, ac y gwelwch ragor rhwng y cyfiawn a'r drygionus, rhwng yr hwn a wasanaetho Dduw a'r hwn nis gwasanaetho ef."—Malachi iii. 18.
Y mae trefn wahanol i ddyfod ar bethau. 'Yna,'
2. Y mae i bobl yr Arglwydd eu gwaith.
3. Y mae iddynt eu gwobr
4. Y mae dydd penodol i'w gwobrwyo, 'Y dydd y gwnelwyf briodoledd,' 'Canys wele y dydd yn dyfod,' &c.
"Yn y testyn y mae dau fath o ddyn a dau ddull o fyw. Y mae yma hefyd hen bwnc o ddadl yn cael ei setlo am byth.
I.—Y ddau fath o ddyn. 'Y cyfiawn a'r drygionus'. Y cyfiawn—Dyn yn ei le, fel y dengys Gair yr Arglwydd y dylai dyn fod. Y drygionus—Un heb derfynau ganddo, yn tori dros ben pob terfyn, diddaioni, a gwaeth na hyny, yn farus. Drwg iddo ei hun, i eraill, ac i Dduw—drwg i bawb.
II.—Dau ddull o fyw. Yr hwn a wasanaetho Dduw a'r hwn nis gwasanaetho ef.'
1. Gwasanaethu Duw mewn ymrwymiad—cymeryd yr iau a dwyn y baich.
2. Gwasanaethu Duw hefyd mewn ymroddiad (Rhuf. vi. 16—22). 'Am hyny yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, er trugareddau Duw, roddi ohonoch eich cyrph yn aberth byw, sanctaidd, cymeradwy gan Dduw, yr hyn yw eich rhesymol wasanaeth chwi.'
3. Defnyddio y talentau a ymddiriedwyd i ni gan y Meistr Mawr. 'Yr hwn nis gwasanaetho ef:' beth a gynwys hyn? Y mae yn cynwys (1) Bywyd penrhydd, ac heb fod o dan ddysgyblaeth. 'Ond eu gwyr mawr hwynt ni roddasant eu gwddf,' &c; 'A meibion Eli oedd feibion Belial '—meibion di—iau, diwasanaeth, a diwerth. (2) Caethion i lygredigaeth. Fel y gau—athrawon y sonir am danynt yn Epistol Judas, 'Yn troi gras ein Duw ni i drythyllwch.' Y maent yn addaw rhyddid a hwythau eu hunain yn wasanaethwyr. Yr oedd yr Iuddewon yn dadleu eu bod yn rhyddion; ond, medd yr Iesu wrthynt, 'Pwy bynag sydd yn gwneuthur pechod, y mae efe yn was i bechod.'
III. Y mae yma hefyd hen bwnc o ddadl yn cael ei setlo am byth. 'Pa lesiant sydd er i ni gadw ei orchymynion ef?' 'Oferedd yw gwasanaethu Duw.' Y mae y pwnc ag y mae amheuaeth arno—y mater mewn dadl, i gael ei benderfynu, 'Yna y dychwelwch ac y gwelwch ragor rhwng y cyfiawn a'r drygionus,' &c. Y mae hon yn ddadl gyffredinol iawn—nad oes dim rhagor. Y mae y saint weithiau yn myned i'r brofedigaeth hon. Gwelwn y Salmydd yn y drydedd Salm ar ddeg a thriugain, I—19, wedi syrthio i'r pwll. Y mae y byd yn dadleu hyn yn barhaus—yn y tŷ, ar y ffordd, a chyda'r gorchwylion, ac yn enwedig yn y dafarn—'Nid oes dim rhagor.' Fe gesglir hyn gan y byd oddiwrth amryw bethau—dim rhagor. (1) Am fod rhagrithwyr yn yr eglwys—efrau yn mhlith y gwenith, 'Efrau ydyw y cwbl,' medd y byd. 'Morwynion ffol'—'ffol ydyw y cwbl,' medd y byd, 'á gweision yn cuddio eu talentau ac yn gwneud cam âg arian eu Harglwydd ydyw yr oll. (2) Cwympiadau y saint hefyd. Cwymp Dafydd, 'Na fynegwch hyn yn Gath.' 'Amiti beri i elynion yr Arglwydd gablu.' (3) Gwaeleddau a gwendidau y credinwyr. Fe wêl y byd y rhai hyn, ac y mae yn estyn bys arnynt yn barhaus. Fel y gwybed yn disgyn yn heidiau ar yr archoll, ac yn sugno y gwaed o'r briw. Gwendid hwn—a—hwn, ochr wan un arall, gwaeledd ac anmherffeithrwydd y trydydd yn 'gân y meddwon ac yn wawd yr ynfydion '—sugno gwaed yr archoll yn y cwbl. A'r casgliad oddiwrth yr oll ydyw—dim rhagor.' Y mae yr annuwiol yn tawelu ei gydwybod i fyw yn esmwyth mewn pechod, ac yn tawelu a chryfhau breichiau y naill a'r llall i ymgaledu mewn ymryson yn erbyn Duw—'dim rhagor.'
" Y mae yr hen bwnc i gael ei setlo.
1. Y mae Duw ei hun yn dyfod i'w benderfynu. Fe geir yr holl ddadl yn esgyn i fynu i glustiau Duw, 'A'r Arglwydd a wrandawodd ac a glybu.'
2. Y mae diwrnod wedi ei benodi i ddwyn y cwbl i derfyniad na fydd dim amheuaeth am dano byth. 'Oherwydd iddo osod diwrnod,' &c.; 'Yn y dydd y barno Duw ddirgeloedd dynion;' 'Canys wele y dydd yn dyfod,' &c.
3. Y mae y byd annuwiol i gael ei ddychwelyd. 'Yna y dychwelwch.' Nid dychwelyd at Dduw am ei heddwch nac at Grist am ei gymod, ond at y gwirionedd yma. Bydd y glonc yna yn darfod am byth.
4. Y mae i'w benderfynu trwy weled, 'Ac y gwelwch ragor.' Yr hyn na fynwch ei gredu yn awr, chwi a gewch ei weled y dydd hwnw. 'Ar ol hyn,' medd yr Iesu, 'y gwelwch Fab y Dyn yn dyfod,' &c; 'Ac yn uffern efe a gododd ei olwg, ac efe mewn poenau, ac a ganfu Abraham o hirbell,' &c; 'Yno y bydd wylofain a rhincian danedd, pan weloch Abraham, ac Isaac, a Jacob, a'r holl brophwydi yn nheyrnas Dduw, a chwithau wedi eich bwrw allan.'
1. Mae dydd galw i'r ffydd heb fyned drosodd. Diwrnod i ddychwelyd i'r ffydd ydyw heddyw. A daw y diwrnod pan y dychwelir pawb trwy weled. 'Wele y mae efe yn dyfod gyda'r cymylau; a phob llygad a'i gwêl ef, ie y rhai a'i gwanasant ef.'
2. Rhaid ymgymeryd â'r gwasanaeth trwy ffydd. 'Trwy ffydd, Noe, wedi ei rybuddio gan Dduw am y pethau nis gwelsid eto, gyda pharchedig ofn a ddarparodd arch i achub ei dŷ; trwy yr hon y condemniodd efe y byd,' &c. Mae y byd a chrefydd yn condemnio eu gilydd y byd yn condemnio crefydd a chrefydd yn condemnio y byd. 'Trwy yr hon y condemniodd efe y byd,' ac aeth yr hen fyd o dan gondemniad byth.
3. Y mae genym i'w ddywedyd heddyw, 'Dewiswch i chwi pwy a wasanaethwch.' Cyflogi gweision ydyw un peth mawr yn y byd yma. Y mae gan Satan ei weision ffyddlawn—y byd a'r cnawd hefyd. Y mae yr Iesu hefyd wedi myned allan i gyflogi gweithwyr i'w winllan—'Dewiswch, dewiswch,' fel Moses gynt.—Awst 12, 1876.
Gall y brasluniau uchod fod yn rhyw gymhorth i'r rhai a'i clywsant; ond i eraill, y rhai nad ydynt yn cofio dim am dano, nis gallant fod o nemawr fudd i'w farnu fel pregethwr oddiwrthynt. Amlwg yw mai yn y traddodiad y byddai yn llenwi y bylchau; a phan y byddai mewn hwyl, nid oedd pall ar ei ddawn. Fe bortreadai rai golygfeydd gyda'i ddychymyg bywiog o flaen y cynulleidfaoedd nad annghofient byth mo honynt. Dywedir ei fod yn pregethu yn Llanwddyn ryw dro, ac yn desgrifio y bustych seithmlwydd yn Israel. Yr oedd dau hen amaethwr, na fyddent yn mynychu y cyfarfodydd gyda chysondeb, yn gwrando arno. Ymddengys fod desgrifiad y pregethwr o'r anifeiliaid mor fyw nes cario dylanwad mawr ar y ddau amaethwr. Pengryment a gwenent ar eu gilydd am beth amser, ond toc gwaeddai E. D. ar ei gydymaith, "Ie, D. R., y mae yn rhaid mai rhai braf oedden nhw, ac yr wy'n siwr mai rhai duon Cymreig oedden nhw hefyd."
Eto, dro arall wrth bregethu, adroddai am y diweddar Barchedig Richard Humphreys o'r Dyffryn, a'r hynod William Ellis o Faentwrog, yn cerdded yn nghyd yn nghymydogaeth y diweddaf, ac yn myned heibio i fwthyn lle y chwareuai plant braf a glandeg, a golwg iachus arnynt. "Dyma blant braf, y mae yn rhaid fod y rhai hyn yn cael byd da," meddai Richard Humphreys. "Yr oeddwn i yn y tŷ yma rhyw ddiwrnod," meddai William Ellis, "ac yn gweled y plant yma yn dyfod i mewn o un i un. Edrychai ambell un ohonynt yn brudd a digalon. Deuai eraill i mewn dan lefain, wedi cyfarfod â rhyw brosedigaethau wrth chwareu; ond wedi dyfod i'r tŷ, sylwn eu bod yn myned ar eu hunion i rhyw gongl o'r neilldu ac yn dychwelyd o'r fan hono wedi newid yn fawr—y trymder wedi cilio a'r llefain wedi dystewi, a gwên siriol, foddhaus, yn ymdaenu dros eu hwynebau. Gofynais i'r fam beth oedd ganddi yn y gongl i'w dyddanu. Dywedai hithau, 'Y mae yma lawer o wenyn genym, ac yr wyf yn rhoi un pot llawn o fêl yn y fan acw at wasanaeth y plant; ac y maent yn dyfod i mewn pan y mynont, ac yn cael myned i'r gongl i roddi eu bys yn y pot mêl, a rhyfedd fel y mae yn dylanwadu arnynt.'" Wedi i'r pregethwr adrodd yr hanes, y mae yn ei gymhwyso:—" Y mae gan Dduw," meddai, "ei bot mêl o'r neilldu at wasanaeth ei blant; ac os bydd ambell un ohonynt yn cyfarfod â rhyw archoll y mae yn cael rhedeg ar ei union i drochi ei fys yn y pot mêl." Ar hyny, dyma rhywun yn gwaeddi allan, "O diolch." "Ie," meddai yntau, "dyna un a'i fys ynddo yn awr."
Pregethai un tro yn Nghyfarfod Misol Pennal y noson gyntaf. Ymosodai ar y diafol yn ddiarbed yn y bregeth hono. Yr oedd ffarmwr dibroffes yn cydgerdded â dau frawd dyeithr i'w lletty ar ol yr oedía, ac yn dweyd, "Yr anwyl fawr, ni chlywais i erioed ffasiwn beth; ni fuaswn i ddim yn leicio tynu y dyn yna yn fy mhen. 'Rwy'n credu fod ar y diafol i ofn 0. Fe ddylasai fod ar y gwr drwg gywilydd ohono ei hun ar ol y fath ddinoethi ac ymosod arno."
PEN. XIII.—Yn y Cyfarfodydd Misol.
Ei ysbryd yn fyw.—Yn bresenol yn Nghyfarfod Misol ei sir.—Yr anerchiadau a draddododd yno.—" Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd."—Gyda'i gyhoeddiadau.—Y Cyfarfodydd Misol. Ei sylwadau.—Yn Aberllefeni.—Y Cyfamod Gras.—Cyfarfod Misol Bethesda.—Cyfarfod Misol Esgairgeiliog.—Canmlwyddiant yr Ysgol Sabbothol.—Cyfarfod Misol Llanfachreth.—Parch dwfn i'w frodyr.—Anerchiad gyda'r Ystadegau.
Yn ystod y blynyddoedd nesaf y mae ei ysbryd mor fyw ag erioed yn y gwaith—prynu llyfrau a'u darllen, cyfansoddi pregethau, a gwylio symudiadau y Cyfundeb. Anfynych y byddai yn absenol o Gyfarfod Misol ei sir ei hun, ac yr oedd yn gymeradwy yn mhlith lluaws ei frodyr yn y cylch hwnw. Ni cheid neb ag y byddai y gwahanol gymydogaethau yr elai y Cyfarfod Misol iddynt yn fwy llawen o'i weled yn dyfod yno na'r Parch. David Davies. Ystyrid y sêt fawr yn wâg hebddo; ac yn gyffredin iawn byddai y cyfarfod yn fyw drwyddo pan y cymerai ef ran yn yr ymddyddan. Pe buasid wedi gallu cadw rhai o'r anerchiadau a draddodwyd ganddo yn y cyfarfodydd hyny—heb ragbarotoad o fath yn y byd, ond yn llifo allan yn naturiol o dan gynhyrfiad ysbryd ar dân—yr wyf yn tybio na chawsid dim yn yr iaith Gymraeg a mwy o hyawdledd miniog a gwresog ynddynt. Gwel. wyd llawer cynulleidfa o dan lifeiriant ei ddawn ar adegau felly wedi eu hysgubo ymaith nes ymgolli yn lân. Fe gofir yn hir am yr effeithiau, ac y mae rhai dywediadau yn aros; ond nis gellir adgynyrchu yr olygfa.
Yn y llyfr gwerthfawr a dyddorol, Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd, gan y Parch. R. Owen, M.A., fe geir y sylwadau a ganlyn, yn mhlith eraill, am dano:—
CYRHAEDDODD Mr. Davies sefyllfa uchel yn mhlith y Methodistiaid fel gweinidog poblogaidd a chymeradwy. Dechreuodd ei weinidogaeth pan oedd goruchwyliaeth y teithio mewn bri, a gellir, gyda phriodoldeb, edrych arno fel dolen gydiol rhwng yr oes aeth heibio o bregethwyr a'r oes bresenol. Yr oedd ei weinidogaeth ar y cychwyn cyntaf yn wresog a thanbaid, ac ar brydiau byddai yn nerthol iawn. Meddai lais peraidd a soniarus, a dawn mor ddihysbydd â'r môr, a gwroldeb i sefyll i fynu yn gryf dros yr hyn a gredai oedd iawn. Derbyniodd yn dra helaeth o ysbryd y Diwygiad 1859-'60. Bu yn foddion y pryd hwnw i droi llawer i gyfiawnder. Cofir yn hir am aml un o'i bregethau miniog ac argyhoeddiadol. Yr oedd ei ddawn yn gymhwys iawn i'r pwlpud; medrai ef gyrhaedd sylw a dirnadaeth lluaws y bobl gyffredin yn well na'r rhan fwyaf o'i frodyr. Parhaodd ar hyd ei oes yn un o wŷr cyhoeddus mwyaf ymarferol a defnyddiol a feddai Cymru.
Heblaw bod yn bregethwr effeithiol, perthynai iddo lawer o ragoriaethau mewn cylchoedd eraill, yn arbenig yn y cyfarfodydd eglwysig. Mynych y cynyrchai fywyd a gwres yn nghyfarfodydd yr eglwys, megys ar darawiad. Yr oedd gwresogrwydd ei natur ef ei hun, ei ddawn parod, a'i hyddysgrwydd yn yr Ysgrythyrau yn ei wneuthur yn nodedig o gymhwys i arwain yn nghynulliadau y saint. Byddai, mae'n wir, ar adegau yn cael ei gario yn rhy bell gan ei deimladau. Y rhai a'i hadwaenent oreu hefyd a wyddent y byddai yn rhy barod i newid ei gynlluniau, ac na byddai bob amser yn ddoeth. Ond hysbys ydyw, pan y gwnai gamgymeriadau mewn byrbwylldra y byddai yn edifarhau, a chan gynted ag y gallai yn dychwelyd yn ol i'r ffordd iawn. Er hyn i gyd, gŵr ymroddedig iawn ydoedd gyda phob rhan o o waith yr Arglwydd, a'i gyrhaeddiadau a'i amlygrwydd yn mhell ar y blaen yn mhlith ei gydoeswyr. Cerddodd yn mlaen trwy ei fywyd gyda holl symudiadau y Cyfundeb. Byddai yn wastad yn cynllunio gyda rhywbeth neu gilydd, eto, mewn taro ar ben yr hoel a sicrhau yr hoelion y byddai yn fwyaf llwyddianus. Yr oedd yn un o feistriaid y gynulleidfa. Safai yn y ffrynt yn ei oes o ran sêl a gwresogrwydd a difrifwch gyda gwaith y weinidogaeth, ac yr oedd yn un o'r gwylwyr mwyaf effro ar furiau Seion. Perthynai i sir Feirionydd fel pregethwr a gweinidog o'r dechreu; ond ychydig dros ugain mlynedd y bu yn preswylio yn y rhan orllewinol, ac am y deuddeng mlynedd olaf o'i oes gwasanaethai yr eglwysi a'r achos yn gyffredinol, gan ei fod wedi cwbl ymryddhau oddiwrth bob gofalon eraill. Y tymhor hwn, a phob amser ar ei oes, safai yn mhlith y rhai blaenaf gyda phob gwaith cyhoeddus—efe fyddai yr ymadroddwr penaf yn wastad lle bynag y byddai. Gwnaethpwyd rhai nodiadau am dano mewn cysylltiad â'r Abermaw, a dywedwyd ddarfod i'w weinidogaeth ar rai adegau o'i fywyd fod yn danbaid iawn, ac iddo fod yn foddion i droi llawer o bechaduriaid i gyfiawnder. Parhaodd y gwresogrwydd a'r tanbeidrwydd hwnw ynddo hyd ddiwedd ei ddyddiau. Cariai wres gydag ef i dymheru yr hinsawdd, boed hi mor oer ag y byddo. Teimlodd ei hun hefyd, megys y crybwyllwyd, yn ber—ffaith yn ei elfen, byth wedi ymryddhau oddiwrth ofalon bydol yn Mhenmachno.
Pregethu yr efengyl, darllen llyfrau newyddion, a gwasanaethu yr eglwysi, fyddai ei hoff waith. Byddai ef yn rhan o'r Cyfarfod Misol mor hanfodol ag ydyw y coed yn rhan o'r capel. Dacw ef i'w weled yn mhob un ohonynt. Eisteddai yn nghanol y sêt fawr, ac ni feddyliai neb am i'r un drafodaeth gael ei chario yn mlaen heb iddo ef siarad. Dacw ef yn codi i fynu, ac yn hwbian yn mlaen â'i ffon, byth wedi ei gloffni trwy y ddamwain a gafodd, ac ar ol y frawddeg gyntaf rhydd nòd sydyn yn mlaen i'w ben. Mae ei lais fel cloch ar darawiad, yn cyrhaedd cŵr pellaf y cynulliad, ac y mae pawb ar y gair cyntaf yn deffro. Pawb yn gwrando bellach â'u clustiau a'u geneuau, ac y mae ffrwd o ddawn yn dylifo allan fel yr afon ar li, ac nid oes neb a ŵyr yn mha le y terfyna y siaradwr. O un peth y mae sicrwydd, y bydd y cyfarfod wedi cael ysgydwad drwyddo cyn y gorphena ei araith. Fel John Jones, Tremadog, mewn ymadroddi y rhagorai ef yn fwy na dim arall.
Nid ydys ar un cyfrif i dybio ei fod yn ddiallu; yn hytrach, yr oedd ganddo feddwl treiddgar, gafaelgar, a dychymyg cryf a bywiog. "Mi fedraf fi," ebai wrth y Parch. R. H. Morgan, M.A., "ddesgrifio pethau yn well nag y medraf wneud dim arall. Mi fyddaf yn gweled peth o'm blaen, ac ni fydd byth ball am air i'w ddarlunio." Dyna yn union ddarluniad ohono. Ond elai weithiau i ganol yr anialwch gyda'i ddesgrifiadau. Clywyd ef mewn lle cyhoeddus yn darlunio y march yn rhedeg. Dilynai y gydmariaeth yn bur bell, trwy ddweyd fod y march yn galapio yn mlaen, yn chwyrnellu myn'd i fynu y rhiwiau, heibio'r cornelau, trwy ddanedd y llidiardau; ac i b'le yr aeth o yn y diwedd ond at ei dòr i'r mwd. Cipid yntau ar ei hynt weithiau, nid yn annhebyg i'r march wedi ei gynhyrfu gan swn y gerbydres, ac odid fawr na byddai wedi myned dros y cloddiau cyn y dychwelai. Gwelwyd ef rhyw dro wedi cael llosgi ei fysedd gyda'i gyhoeddiadau Sabbothol. Yn mhen rhai blynyddau wedi hyny yr oedd ymdrafodaeth yn nghylch peidio rhoddi cyhoeddiadau gymaint o amser yn mlaen llaw. Teimlai llawer yn gryf oherwydd afresymoldeb y peth, a dadleuai rhai brodyr dros beidio rhoi cyhoeddiadau ond hyd ddiwedd y flwyddyn oedd yn cerdded ar y pryd. Yr oedd Mr. Davies ar y funyd yn erbyn y cynygiad hwnw. "Na," meddai, "mi wnes i gytundeb i beidio eu rhoi pan fu hyn dan sylw flynyddoedd yn ol, ac fe wnaeth pawb ohonoch chwi gytundeb i beidio gofyn na rhoi cyhoeddiad hyd nes y deuai y Dyddiadur allan yn mis Tachwedd; ac erbyn i'r mis hwnw ddyfod, yr oeddych chwi, y blaenoriaid yma, wedi llenwi eich dyddiaduron, a 'doedd gen i unlle i fyn'd, a'r flwyddyn hono mi fu raid i mi fyn'd i Cwmystwyth, a Chwm Penmachno, a Chwmpenanar, a Chwmeisiau, a 'dwn i sawl Cwm y bu'm ynddynt; a'r flwyddyn hono yr eis i Leyn ac Eifionydd ac y torais i fy nghoes."
Fe fu Mr. Davies, modd bynag, o wasanaeth mawr i achos crefydd trwy ei oes faith. Byddai fel castell i lechu yn ei gysgod mewn achosion o ddysgyblaeth yn yr eglwysi, a phan y codai annghydwelediad yn nghynadleddau y Cyfarfod Misol. Arosai yn y cyfarfodydd trwy y dydd dranoeth, ac, fel rheol, efe fyddai un o'r ddau i bregethu y nos olaf, a byddai yn wrandawr astud, a chyda'i " Amen" rhoddai lawer o gynorthwy.
Ar ddau amgylchiad neillduol yn nghynadleddau y Cyfarfodydd Misol, deuai ei ragoriaeth i'r golwg tuhwnt i bawb, sef wrth ymddyddan a'r blaenoriaid ac yn y cyfarfod eglwysig cyhoeddus yr ail ddydd. Ni bu neb yn y sir, yr oes hon, beth bynag, yn debyg iddo yn myned drwy y gwasanaeth hwn. Yr oedd yn ddiguro am ei sylwadau parod a phwrpasol ar y cyfryw achlysuron. Wele rai engreiphtiau ohonynt:—Mewn Cyfarfod Misol yn Aberllefeni, gwrandawai ar yr hen bererin Rowland Evans yn adrodd ei brofiad, a gofynai, "Sut mae'r achos yma ?" "Wel, 'does yma ddim byd neillduol i'w ddweyd am dano," oedd yr ateb; mae pobpeth yn myn'd yn mlaen yn eithaf tawel yma !" "O, yr ydych yn cytuno â'ch gilydd, ynte?' meddai Mr. Davies. "Ydym," atebai Rowland Evans, " ond y mae arna i ofn ein bod ni yn cytuno i gysgu." A dangosai yr hen flaenor ei fod yn amheus ac ofnus am ei fater tragwyddol. "Wel," meddai Mr. Davies drachefn, "pur annyben ydyw yr hen Fethodistiaid yma yn gwneud sum bywyd tragwyddol. Mae rhai yn ei gorphen hi mewn munyd, a dyna'r pryder i gyd trosodd; ond am yr hen Fethodistiaid, rhyw ffigiwr yrwan a ffigiwr yn y man y mae nhw yn ei roi; ond yn y diwedd, y mae nhw yn bur siwr o gael y total yn iawn—bywyd tragwyddol."
Yn yr un gymydogaeth, yr oedd nifer y capelau wedi amlhau a'r boblogaeth wedi cynyddu, yr hyn a alwai am wneuthur cyfnewidiad yn y teithiau Sabbothol, a dygwyd y mater gerbron y Cyfarfod Misol i geisio ei benderfynu. Ond methu dyfod i gydwelediad yr oeddys, er dwyn cynygion lawer yn mlaen, gan fod rhwystrau yn cyfodi o'r fan yma a rhwystrau o'r fan draw. O'r diwedd, cyfodai Mr. Davies i fynu, a dywedai:—"Dydyw hyn yn ddim byd ond bachgen wedi myn'd yn fwy na llon'd ei ddillad. Mi welsoch y bachgen wedi tyfu trwy ei ddillad; ei dad wedi rhoddi dillad n'wddion iddo, ond mae'r bachgen wedi tyfu trwy ei ddillad—ei freichiar a'i goesau wedi tyfu trwyddynt, ac mae'n rhywyr cael dillad n'wddion iddo eto, ac mae'r tad yn llawenhau drwyddo fod y bachgen wedi tyfu trwy yr hen ddillad. Yr un peth yn union sydd yma—y teithiau wedi tyfu trwy eu dillad. Fe fu yr hen dadau wrthi yn yr ardaloedd hyn yn ceisio gwneud dillad i ffitio'r teithiau. Ond bellach, y maent wedi tyfu trwy'r hen ddillad, ac: mae eisieu dillad n'wddion. Testyn i lawenhau sy' genym ni fod eisieu i ni wneud dillad n'wyddion i'r teithiau yma sy' wedi tyfu trwy yr hen ddillad."
Bu y Cyfamod Gras yn fater seiat am wyth o'r gloch yr ail ddydd fwy nag unwaith, a chofir i Mr. Davies wneuthur sylwadau godidog wrth siarad ar y pwnc. Gwnaeth sylwadau tebyg mewn mwy nag un cyfarfod. "Dyma lle mae cadernid y Cristion," meddai, "o'r fan yma y mae'r cwbl yn dyfod iddo; o'r cyfamod mae'n derbyn ei gynaliaeth ar hyd ei fywyd, ac i gysgod cyfamod y mae'n rhedeg i lechu am noddfa tua'r diwedd. Yn debyg iawn fel y byddwch chwi yn gweled y geifr tua'r creigiau yna. Oddeutu'r graig y mae'r bwch yn troi trwy'r dydd, ac i dop y graig y mae'n myn'd i orwedd at y nos. O'r graig y mae'n cael ei fwyd—deilen o'r fan yma a'r fan acw, rhwng agenau y graig, ac y mae yn ymgripio rhwng ei danedd hi o foreu hyd y nos. Ac wedi delo'r nos, mae o'n gorwedd i lawr ar y graig. Ac mae'n nhw yn dweyd mai ar y graig noeth y myn fod heb yr un blewyn na'r un gwelltyn rhyngddo â hi; a dacw fo yn gorwedd fel brenin ar dop y graig, yn edrych i lawr ar y byd i gyd odditano, uwchlaw y coed a'r ceunant, a'r llynoedd a'r afonydd mae o yn ei gartref ar dop y graig. Felly mae'r Cristion, yn mhob storom y mae creigiau'r cyfamod o dan ei draed o. Mi fu Mr. Charles mewn tipyn o drallod pan y rhewodd ei fawd o wrth groesi'r Migneint yna yn y flwyddyn 1799, ond dacw yntau yn myn'd i dop y graig, ac yn y fan hono yn cyfansoddi ac yn canu yr hen benill,—
Syfled iechyd, safled bywyd,
Cnawd a chalon yn gytun,
Byth ni syfla amod heddwch
Hen gytundeb Tri yn Un."
Ar lawer adeg, gyda sylwadau o'r natur yma, cariai gydag ef gynulleidfaoedd cyfain.
Yr oedd wedi ei alw yn Nghyfarfod Misol Bethesda i wneud y gwaith ag y dywed Mr. Owen yn ei sylwadau ei fod yn fedrus arno, sef ymddyddan â blaenoriaid a dderbynid yn aelodau o'r Cyfarfod Misol. Yr oedd yn eu plith ŵr ieuanc wedi ei ddewis yn flaenor gan eglwys Abertrinant, Dywedai y blaenor ieuanc nad oedd wedi teimlo dim byd mawr yn hanes ei grefydd hyd nes yr aeth i Lerpwl i'r ysgol. Un noswaith yr oedd yn methu cael ei feddwl at ei wersi, ac aeth i'w wely yn gynarach nag arferol; ond yr oedd rhyw anesmwythder wedi ymaflyd ynddo, fel na allai gysgu, a bu raid iddo gyfodi a myned ar ei liniau heb wybod yn y byd paham. Bu yno amser yn gweddio. Yr ail foreu derbyniodd lythyr oddicartref yn cynwys hanes cyfarfod gweddi rhyfedd yn Abertrinant. "Ie ie," meddai Mr. Davies, "gweddio drosoch chwi yn Lerpwl yr oeddynt. Dyna fel yr oedd hi yn siwr. Pobl Abertrinant yn telegramio i'r nefoedd a'r nefoedd yn telegramio i Lerpwl, a dyna ffordd y nef i gael blaenor i Abertrinant."
Cyflawnai yr un gwaith yn Esgairgeiliog, ac un blaenor, wrth adrodd ei hanes wrtho, yn dweyd iddo adael yr eglwys ac mai darllen yr ystadegau a fu yn foddion i'w ddychwelyd. Anfonwyd copi o'r ystadegau iddo gan gyfaill, ac wrth edrych ar y golofn oedd yn cynwys cyfrif y rhai oedd wedi gadael yr eglwys, meddyliai ei fod yntau yn un a chwyddai y nifer hwnw, ac wrth feddwl am hyny daliwyd ef gan rhyw arswyd. Y mae yntau yn y fan, wedi ei gynhyrfu yn amlwg gan adroddiad syml y brawd, yn gwaeddi allan, "Wel, dyma ffordd newydd spon i ddwyn hen wrthgilwyr adref—Duw yn ysbrydoli ffigyrau i'r amcan hwnw. Y mae son am y Beibl a'r Llyfr Hymnau a'r Hyfforddwr yn cael eu defnyddio yn foddion dychweliad; ond ni chlywais erioed hyd heddyw fod yr Ystadegau wedi bod felly. Wel, gallwn fyned yn mlaen yn galonog i barotoi a chyhoeddi yr Ystadegau. Dyma reswm rhagorol dros ddal ati hi gyda nhw. Y mae yr Ysbryd Glân yn gwneud defnydd o'r Ystadegau i gadw dynion."
Yr oedd mewn cyfarfod Misol yn Llanfachreth pan y dygid gerbron y priodoldeb o gael bathodau ar adeg Canmlwyddiant yr Ysgol Sabbothol. Gwrthwynebid y syniad o gael medals am mai teganau oeddynt, ac y gallesid ac y dylesid defnyddio yr arian i wneud rhywbeth mwy sylweddol. Traddododd yntau araith finiog a ffraeth; ac er nad oedd ef yn selog am y medals, ond, yn hytrach, yn tueddu i'w diystyru, parodd ei anerchiad gwawdlym a donioli bob gwrthwynebiad ddiflanu ar y pryd. Fel hyn y cofnodwyd y geiriau a lefarodd:—" le, teganau ydynt, a rhaid i bobl gael teganau, a pha degan mwy prydferth a ellwch chwi ei gael na'r bathodyn a llun Mr. Charles ar un ochr ac adnod ar y llall. Mi fyddaf fi yn gweled teganau gan bobl yn eu tai, a rheini yn llawer salach na medals y Canmlwyddiant. Yr oeddwn i mewn tŷ yn Ffestiniog yn ddiweddar, ac ni welsoch chwi erioed fath beth a'r tristwch oedd yno. Beth oedd yn bod ? Cwpbwrdd oedd wedi syrthio yn llawn o deganau, a dyna lle yr oeddynt yn ddarnau ar hyd y llawr. Pob math o anifeiliaid a gwylltfilodyn gŵn ac yn gathod, yn llewod ac yn elephantiaid, yn wartheg a cheffylau, yn eirth a llwynogod, yn hwyaid ac yn ieir, pob creadur am a wni ag oedd yn arch Noah, ac un creadur nad oedd o ddim yn yr arch, a dolphin oedd hwnw."
Yr oedd ganddo y parch dyfnaf i'w frodyr yn y weinidogaeth. Pan y gofynid iddo bregethu fwy nag unwaith yn yr un Cyfarfod Misol yr hyn a wneid yn fynych—byddai bron bob amser yn gomedd hyny am fod yno frodyr eraill, ac nad oedd yn dymuno iddynt gael eu gadael o'r neilldu.
Penodwyd ef i ysgrifenu yr Anerchiad gyda'r Ystadegau am y flwyddyn 1879, yr hwn a ddodwn i lawr yma, a'r hwn a ddengys, ni a dybiwn, ei fod yn wyliedydd ffyddlon iawn, a bod ganddo wir ofal am yr achos mawr yn y cylch yn ei holl ranau:
ANERCHIAD.
"Anwyl Gyfeillion,—Gyda gwylder ac ofn yr wyf yn ymgymeryd â'r gwasanaeth yma osodwyd arnaf gan y Cyfarfod Misol. Y mae bellach dros ugain mlynedd er pan fum yn eich anerch fel hyn o'r blaen. Mae genym achos mawr i ddiolch am gael byw, a chael y cysur yn ein dyddiau o weled achos yr Arglwydd yn llwyddo yn barhaus. Blwyddyn wasgedig a fu y flwyddyn ddiweddaf ar lawer ohonom yn ein hamgylchiadau bydol; er hyny, nis gallwn lai na meddwl i ni gael bendith hyd yn nod ar y wasgfa, a modd i ddywedyd fel y Salmydd, 'Ar yr Arglwydd y gwaeddais yn fy nghyfyngder, ac efe a'm gwrandawodd i?'
"Fe welodd yr Arglwydd yn dda gymeryd oddiarnom ato ei hun luaws o aelodau ffyddlawn a llafurus yn y flwyddyn ddiweddaf, ac yn eu plith amryw o flaenoriaid diwyd a gweithgar. Yr oedd rhai ohonynt yn hen lafurwyr profedig, ac wedi dal pwys y dydd a'r gwres. Yn y rhan ddwyreiniol, y brodyr Mri. G. Jones, Bala, a J. Jones, Llanuwchllyn. Ac yn y rhan orllewinol, Captain T. Jones, Minffordd; Mri. D. Jones, Ystradgwyn; J. Williams, Siloam; W. Vaughan, Saron; R. Lumley, Ysgargeiliog; W. Rees, Towyn; D. Williams, Abergeirw; D. Evans, Peniel; ac R. Owen, Bethesda; yn nghydag un chwaer deilwng o'i choffhau, Mrs. E. Williams, gweddw y diweddar Barchedig Robert Williams, Aberdyfi. Ac ar ddechreu y flwyddyn hon wele y brawd anwyl a'r gweinidog ffyddlawn, y Parch. R. Parry, Ffestiniog, wedi ein gadael. Ffarwel, gyfeillion anwyl iawn, yr ydym ninau yn dyfod ar eich ol.
I'r làn, i'r làn diangasant hwy,
Yn ol eu traed y sangwn mwy.
"Y mae genym achos mawr i lawenhau yn yr olwg ar nifer lluosog ein capelau, y rhai sydd yn adeiladau destlus a chyfleus i addoli; ac y mae yr eglwysi wedi cymeryd mantais ar yr amser da a wnaeth yn y blynyddoedd a aethant heibio, fel y mae baich mawr a thrwm y ddyled wedi ei ysgafnhau. Y mae rhai capelau, o werth miloedd o bunoedd, wedi eu llwyr glirio mewn ychydig amser. Ie, y mae rhai wedi ymdrechu yn ogoneddus, ac wedi talu yr holl ddyled erbyn dydd yr agoriad. Ac yn nesaf at y rhai yna y mae eraill, trwy y 'Cymdeithasau Arianol,' nad oes arnynt yr un geiniog o lôg ar eu dyledion. Ac yr ydym yn deall fod y rhai sydd yn bresenol yn adeiladu ac yn adgyweirio, yn ymhelaethu yn y gras hwn.
"Bendithiwn yr Arglwydd hefyd am yr Athrofa—'Tŵr y praidd,' 'Castell merch Seion.' Diolchwn i'r Arglwydd am ei amddiffyn a'i fendith ar yr athrawon a'r efrydwyr, a gweddiwn am iddo barhau i dywallt arnynt ei Yspryd o'r uchelder. Nis gallwn draethu y fath gysur i ni ydyw gweled cynifer o weinidogion yr efengyl yn wŷr yn nghyfiawnder eu nerth, ac wedi cael dygiad i fynu da, a mesur helaeth o ddysgeidiaeth, yn llafurwyr yn y winllan, ac hefyd gynifer o wŷr ieuainc difrifol yn ymgeiswyr am y weinidogaeth. 'Diau ei fod Ef yn agos i'r rhai a'i hofnant, fel y trigo gogoniant yn ein tir ni.' Ein dymuniad ydyw, 'O, frodyr, gweddiwch drosom.'
"Yr ydym yn credu hefyd fod cynydd gwirioneddol yn yr Ysgolion Sabbothol. Mae y cyfarfodydd ysgolion yn fwy effeithiol, a'r cymanfaoedd ysgolion o fendith annhraethol y dyddiau hyn. Y mae cyhoeddiadau misol i'r ysgolion yn sicr o fod yn elfen o nerth a llwyddiant iddynt. Y mae yr 'Holiadau ar Berson a Gwaith yr Ysbryd Glân' ac 'Ar y Ddeddf Foesol' yn fuddiol fel y deuant yn fwy cyffredinol i sylw. Y mae rhoddi ysgrifdyst (certificate) brydferth a hardd i bob un a ddysgo y Rhodd Mam a'r Rhodd Tad, ac yn enwedig i bob un a ddysgo holl lyfr yr Hyfforddwr, wedi rhoddi ysbryd yn yr ysgolion i lafurio yn fwy nag y gwelwyd o'r blaen. Y mae gwaith ein cyfaill Mr. R. O. Rees yn myned i'r holl ysgolion yn nosbarth Dolgellau, ac yn addaw y llyfr gwerthfawr hwnw, Cysondeb y Pedair Efengyl, yn wobr i bob un a ddysgo yr Hyfforddwr erbyn yr haf nesaf yn sicr o beri y bydd canoedd lawer wedi ei ddysgu o'r newydd. Wrth eraill dywedwn, 'Ewch chwithau a gwnewch yr un modd.'
"Y mae bendith fawr hefyd mewn codi a chynal ysgolion mewn cymoedd anmhoblogaidd a chymydogaethau bychain. Na fydded i'r ysgolion mawrion esgeuluso hyn trwy ddywedyd, 'Deuwch, ac adeiladwn i ni ddinas, a thŵr a'i nen hyd y nefoedd,' rhag ofn iddynt fyned yn debyg i'r ddinas a'r tŵr hwnw gynt; ond, yn hytrach, rhoddi pob cynorthwy i godi a chynal yr ysgolion hyn ac adeiladu ysgoldai iddynt.
"Yr ydym yn gweled y sêl a'r brwdfrydedd gyda'r achosion cenadol yn parhau, ac i raddau yn cynyddu, trwy fod y plant yn gwneud mor rhagorol gyda'u 'Blychau Cenadol' a'u casgliadau.
"Y mae yr Achosion Seisnig hefyd yn galw am ein sylw difrifol a'n hymdrech egniol y dyddiau hyn. Yr ydym yn credu fod gan yr Arglwydd waith mawr yn y dyfodol i'r Methodistiaid Calfinaidd i'w wneud, nid yn unig gyda'r Cymry, ond hefyd gyda'r Saeson; ac y mae yn dda genym fod yr eglwysi Seisnig yn llafurio yn llyfr y Gyffes Ffydd, a'r Ysgolion Sabbothol yn llyfr yr Hyfforddwr. Am y trefniant er dwyn cymhorth effeithiol i eglwysi bychain gweiniaid, yr ydym yn tybied fod y cerbyd hwnw ar gael ei osod ar ei olwynion bellach. Y mae aml un yn barod i ofyn, 'Paham yr oeda ei gerbyd ef ddyfod?'
"Yn mysg llawer o bethau cysurus, yr ydym, er ein gofid, yn canfod rhai bylchau ac adwyau yn mur y ddinas, a hyny, mewn rhai manau, trwy ymadawiad bugeiliaid. Y mae yr amddifadrwydd hwn yn peri gwendid a nychdod i'r achos yn ddieithriad bron, a rhai lleoedd yn gwanychu yn brysur. 'Deffrowch ac ymysgydwch;' 'Paham yr edrychwch ar eich gilydd? 'Atolygwch ar Arglwydd y cynhauaf.' Ac wrth y Cyfarfodydd Misol yn y naill ran a'r llall, dywedwn, 'Cyfodwch i fynu y dwylaw llesg a nerthwch y gliniau gweiniaid. Dywedwch wrth y rhai ofnus o galon, ymgryfhewch nac ofnwch.' A chwithau yr eglwysi sydd fel hyn, 'Ewch allan i gyflogi gweithwyr i'r winllan.' Gresyn fod y gweithwyr yn sefyll yn segur heb un rheswm am hyny, ond fel y rhai hyny gynt, 'Am na chyflogodd neb ni.' Yr ydym yn meddwl hefyd na ddylai un eglwys aros heb ddau o flaenoriaid o leiaf ynddi.
"Y mae yn ddyledswydd arbenig arnom hefyd i barhau mewn ymdrech egniol yn erbyn pob llygredigaeth ac anfoesoldeb sydd yn ein gwlad. 'Chwi yw halen y ddaear.' Rhaid bod mewn llafur parhaus i dori i lawr a chadw i lawr y mieri a'r drain o anfoesoldeb; ac er i ni feddwl ein bod yn llwyddo i raddau i godi moesoldeb a chrefydd a darostwng annghrefydd a drygioni, eto, yn araf iawn y mae hyny yn cymeryd lle—yn debyg fel yr oedd yr Arglwydd yn gyru ymaith y Canaaneaid o flaen meibion Israel, 'bob yn ychydig ac ychydig.' Y mae anniweirdeb a meddwdod yn peri gofid i eglwys Crist yn barhaus. Y mae lle i ofni fod pechodau y tafod hefyd yn cynyddu ac yn gwrteithio gwreiddiau pechodau eraill—'cablu urddas,' cablu daioni, cablu yr enw rhagorol, cymeryd Enw yr Arglwydd ein Duw yn ofer, a thori amod. Ardystio ac amodi yn y grediniaeth o Holl-bresenoldeb a Hollwybodaeth Duw, a thori yr amod hwnw wedi hyny, onid anudoniaeth ydyw hyn? Gwneled yr Arglwydd ei bobl fel llu banerog yn erbyn pob anwiredd a drygioni. 'Rhodiwn yn weddus, megys wrth liw dydd; nid mewn cyfeddach a meddwdod, nid mewn cydorwedd ac anlladrwydd, nid mewn cynen a chenfigen; eithr gwisgwch am danoch yr Arglwydd Iesu Grist, ac na wnewch ragddarbod dros y cnawd er mwyn cyflawni ei chwantau ef.'
DAVID DAVIES.
- Abermaw, Ionawr 22, 1880.
PEN. XIV.—Cysgodau yr hwyr yn ymddangos.
Yn dal i brynu llyfrau a'u darllen.—Y llyfrau a hoffai.—Ysbryd pregethu yn fyw.—Ymosodiad o ddigalondid.—Rhanau o'i lythyrau.—Cymdeithasfa Llanrwst—Cymdeithasfa Bangor.—Cymdeithasfa Pont Menai.—Tynerwch teimlad—Addfedu a melysu.—Ei brofiad yn nechreu y blynyddoedd 1884 ac 1885.—Sylwadau am dano.—Ei ofal am y tlodion.—Anerchiad yn Nghyfarfod Misol Tanygrisiau.
Yr oedd yn parhau i brynu llyfrau ac i'w darllen ac i gyfansoddi pregethau. Ac yr oedd ei feddwl mor fywiog a'i gof mor afaelgar fel yr oedd ganddo, wedi darllen llyfr, wybodaeth led glir am ei gynwys. Darllenai gryn dipyn ar lenyddiaeth gyffredin, ond llyfrau at bregethu—cynorthwyon i'r pwlpud—oedd meusydd penaf ei ymchwiliad.
Yr oedd yn mlynyddoedd diweddaf ei oes yn mynu gweled y llyfrau a gyhoeddid ar Bregethu, megys Darlithiau Beecher, Phelps, Brooks, Dale, &c. Yr oedd pregethu wedi meddianu ei ysbryd, a defnyddiai bob mantais a gaffai i ymberffeithio fel pregethwr hyd y diwedd. Dangosai gymaint o aiddgarwch am wneud cynydd fel pregethwr a chyflawni ei weinidogaeth yn ffyddlawn âg un pregethwr ieuanc yn dechreu ei yrfa. Er ei fod yn darllen llawer, ni fyddai cymaint o ol hyny ar ei bregethau yn fynych. Nid oedd fawr o sawyr y llyfrau a ddarllenai ar ei bregethau; ond, yn hytrach, mwy o ol sylwadaeth ar bethau o'i amgylch, a chymdeithas â natur. Yr oedd yn sylwedydd craff, ac, fel y cyfeiriwyd o'r blaen, yn gallu desgrifio y pethau y sylwai arnynt gyda'r fath ddawn fywiog nes cyffroi y cynulleidfaoedd.
Mewn llythyr a ysgrifenodd at un o'i berthynasau, yn y flwyddyn 1883, dywedai;—"Darllen Jonathan Edwards y bum yr wythnos yma, ac y mae yn dda. Byddaf wrth ei ddarllen bron a meddwl mai ffolineb i mi ydyw darllen gwaith neb arall. Bum hefyd heddyw yn darllen Rhagymadrodd Dr. Shedd i'w bregethau, ac y mae hwnw yn iachus odiaeth i fy archwaeth i. Yr wyf yn rhy ddigalon i feddwl am fyned i'r Gymdeithasfa i Fangor, ac yn gloff a llesg, a rhaid cerdded i rhyw gae o'r tu allan i'r dref at y moddion cyhoeddus, a byddai hyny yn flinder mawr i mi. Y mae yn rhaid i mi ddweyd am danaf fy hun fy mod yn llwfr, llesg a digalon i fyned i Gyfarfod Misol na Sasiwn. Yr wyf yn gweled fy nyddiau bron a darfod, a minau ofn fy nghysgod. Oes, y mae arnaf ofn pawb a phobpeth. Y mae ysgydwad y ddeilen yn peri i mi grynu ac ofni. Ni bum erioed yn teimlo mor wan a dinerth. Yr wyf yn cael cymaint o flas ar ddarllen ag y bum erioed, a blas ar bobpeth crefydd, ond fy mod yn gweled fy hun wedi myned yn ddiwerth iawn."
Mewn llythyr arall, yn yr un flwyddyn, pan yn cyfeirio at achos brawd o weinidog, perthynol i'r sir, oedd gerbron y Cyfarfod Misol, ysgrifenai:—" Gair i'w ystyried i bawb ydyw hwnw, 'Yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll, edryched na syrthio.' Mae arnaf fi lawer o ofn syrthio fy hun, er nad i bechod o fath y cyhuddiad yna; ond y mae lle i hen bobl i dynu cwmwl arnynt eu hunain hyd eu bedd. Byddaf yn meddwl am y Brenin Uzziah, wedi teyrnasu yn hir, a theyrnasu yn dda, eto yn gwneud camwri yn niwedd ei oes, a barodd iddo fyned i fedd y gwahangleifion. Mae gelynion a pheryglon ar y ffordd hyd làn afon angeu. Ac y mae yn beth mawr gallu myned yr holl daith trwodd yn ddigwymp ac heb yr un ond—Ond yn achos Urias yr Hethiaid.' Rhodded yr Arglwydd ei amddiffyn drosof i gael gorphen y daith."
Rhyw dair neu bedair blynedd cyn hyn, pan yn Llundain am rai wythnosau, ni a gawn gipolwg ar ei brofiad wrth geisio cyfansoddi pregeth, Nid oedd terfysg Llundain yn ymlid ymaith ysbryd gwneud pregethau newyddion. Yn un o'i lythyrau oddiyno ysgrifenai fel hyn:—" Yr wyf wedi bod hyd yma yn gysurus iawn, ac wedi gwneud un bregeth, ac yr wyf yn disgwyl ei bod yn un bur dda. Efallai fy mod yn hoffi yr ieuengaf,' o ran hyny, fel y dywed pobl am fagu plant; ond cael sy siomi y byddaf yn aml iawn. 'Disgwyl pethau gwych i ddyfod' gyda phob pregeth; ond yn fynych iawn gomedd myn'd y byddfel hoel heb ddim blaen arni yn ystumio yma ac acw yn lle myn'd."
Yn mlynyddoedd olaf ei oes, fe gafodd rai oedfeuon sydd yn cadw ei goffadwriaeth yn fendigedig yn nheimladau canoedd o wrandawyr. Yn Nghymdeithasfa Llanrwst, Mehefin, 1884, bu yn pregethu gyda'r diweddar Barch. Dr. Saunders ar y maes yn oedfa ddiweddaf y Gymanfa. Mynodd bregethu yn mlaenaf wedi cryn ymryson rhwng y ddau am hyny. "Gweledigaeth yr esgyrn sychion," oedd testyn ei bregeth ef. Dywedai un oedd yn gwrando nad oedd yn cofio erioed glywed pregeth yn dechreu yn fwy dilewyrch ac yn dybenu yn fwy goleu ac yn fwy effeithiol. Yr oedd y tywydd yn anffafriol. Chwythai y gwynt yn union i'w wyneb gan gipio ymaith ei lais a pheri iddo grygu. "O'i amgylch yr oedd yr hwyliau a orchuddient y stage yn clecian. Rhwyfai yntau yn mlaen yn boenus am tua haner awr, ond caletach oedd hi bob cynyg. Tosturiai pawb wrtho. Ond ar hyny, apeliodd at y gynulleidfa i weddio drosto am iddo gael ychydig dawelwch gan y gwynt a theimlo nerth y gwynt nefol. Gyda'r gair dystawodd y storm am enyd, goleuodd ar ei feddwl, ysgafnhaodd yr awyrgylch, ac nid wyf yn ei gofio yn cael oedfa fwy rhwydd nag a gafodd oddiyno i'r diwedd. Yr oedd ei ddesgrifiad o'r esgyrn sychion yn codi ar eu traed yn dyrfa fawr iawn yn wir hyawdl." Pan yn son am yr oedfa a chaledwch y darn cyntaf, dywedai:—" Mi bechais i cyn dechreu wrth ymdrechu gyda Dr. Saunders am gael myned o'i flaen. Dyna y rheswm ei bod mor galed arnaf. Ni wnaf byth mo hyny eto gyda neb. Pe bawn yn cydbregethu â Gabriel fe gai bregethu yn gyntaf cyn yr ymrysonwn âg ef."
Cafodd oedfa lewyrchus iawn hefyd yn Nghymdeithasfa Bangor, yn Awst, 1886. "Yr unig bregeth ar y maes y cafwyd llewyrch arni," meddai un oedd yno, "gan i oedfeuon y dydd dilynol gael eu dyfetha gan yr hin wlyb ac ystormus." Ei destyn ydoedd, "Codwch ymaith y maen," Ioan xi. 39. Yr oedd hon yn un o'r pregethau diweddaf a gyfansoddwyd ganddo, a chafodd amryw oedfeuon hynod gyda hi. Drychfeddwl y bregeth oedd fod eisiau symud y meini oedd yn gwahanu rhwng yr Iesu byw a'r pechadur marw. Pan yn ysgrifenu at gyfaill ar ol y Gymdeithasfa hon, gan gyfeirio at yr hin anffafriol a gafwyd, dywedai:—" Yr oedd yn ystormus iawn yno, ond nid oedd y diafol yn gwneud cystal defnydd o wynt Bangor i'w amcan ei hun ag a wnaeth o wynt Llanrwst."
Er nad elai i'r Cymdeithasfaoedd yn rheolaidd a chyson, eto, pan yr elai nid oedd neb ag y llonid yn fwy wrth ei weled nag ef; a phan y cyfodai i fynu yn y cynadleddau, gellid bod yn dra sicr nad eisteddai i lawr heb i'r cyfarfod gael ei wresogi gan ei sylwadau. Wele rai sylwadau a wnaed ganddo yn nghyfarfod y pregethwyr yn Nghymdeithasfa Pont Menai, yn Rhagfyr, 1884, ar y pwnc, "Y cymhwysderau angenrheidiol mewn aelodau eglwysig:"—"Ofnai rhag iddynt mewn modd yn y byd ostwng rhiniog tŷ yr Arglwydd, ac o'r ochr arall arswydai rhag tarfu neb gwan a chywir. Y dyn a welsai efe mewn mwyaf o ofn a dychryn oedd un wedi ei godi gan eiriau y Beibl mewn cyfarfod gweddi; a theimlai pawb am dano ar y pryd, beth bynag am bobl eraill, ei fod ef yn ddyn wedi ei argyhoeddi gan Ysbryd yr Arglwydd. Ond y gwir am dano oedd, mai dyma yr olwg oreu a welwyd arno byth; diflanodd y cwbl fel cawod o eira; ac am flynyddoedd lawer yn niwedd ei oes, bu heb fyned yn agos i foddion gras, ac felly y bu farw. Gwelsom rai yn dyfod gan edrych yn wan iawn; a theimlem ninau yn bryderus yn eu cylch, ond hwy a lwyddent yn mhob peth. Ceid eu clywed yn dwyn allan adnodau, a hyny yn frwd, yn eu gweddiau, a pharhaent gan enill nerth hyd y diwedd. Dengys pethau fel yna y gweddai i ni fod yn arafaidd ac ofnus. Ni fynem fod yn llaw i ddwyn dyn annuwiol i fewn i'r eglwys; ond y perygl mwyaf, medd Crist, ydyw rhwystro un o'r rhai bychain hyn—hawdd eu rhwystro a'u tramgwyddo. Mae genym lawer achos diolch am y bywyd newydd sydd mewn llawer o ardaloedd rhyw dipyn o ddwfr newydd. Arferai William Ellis, Maentwrog, ddweyd fod y cocos bach yn y tywod yn croesawu y dwfr newydd bob tro ac yn agor eu safnau i'w dderbyn. Diolch i'r Arglwydd am godi rhywrai hynod; ond y mae Efe yn bendithio moddion cyffredin mewn dull hynod. Daeth rhyw ymweliad rhyfedd yn y Dyffryn yn ddiweddar, a chafodd teulu y tŷ ac afradloniaid wledd dda gyda dim ond y moddion cyffredin. Nis gwn pwy a fedr osod deddf. Y mae genym reol dda a chymedrol iawn; y rheol gyntaf yn Rheolau Dysgyblaethol y Cyffes Ffydd. Beth a wnaiff ond yr hyn y sonia yr Apostol am dano, 'Chwychwi, y rhai ysbrydol?' Mae yma rai yn mhob eglwys, hen chwiorydd a hen frodyr, ag y mae cymdeithas â'r Arglwydd wedi eu gwneud yn rhai ysbrydol. Mae ganddynt ryw fedr a chymhwysder i farnu rhwng pethau â'u gilydd. Nis gallwn dynu llinell a rhoddi rheolau manwl; ond os byddwn yn ddynion ysbrydol ac yn byw mewn cymdeithas agos â Duw, ac yn cael profiad o bethau yr efengyl yn ein mynwes ni ein hunain, dyna a'n gwna ni yn gymhwys i drin pobl eraill; ni fydd ein dwylaw felly yn rhy galedion a geirwon na'n hewinedd yn rhy hirion i drin babanod sydd yn dyfod i'r eglwys."
Y mae y sylwadau hyn, fel y gwelir, yn arddangos llawer iawn o dynerwch teimlad, a dyma nodwedd fwyaf cyffredin ei weinidogaeth yn niwedd. ei yrfa. Yr oedd ei deimladau cryfion wedi eu dofi a'u hysbrydoli, fel y mae y mellt yn fwy anaml a phelydrau tirion yr haul yn ymddangos yn fwy cyson.. Un neges fawr yn ei weddiau yn wastad ydoedd, "Am iddo gael addfedu a melysu wrth heneiddio," a chafodd hyny. Tuedd naturiol ei weinidogaeth yn y dechreu oedd cyffroi. Yn ngrym ei sêl a'i ddawn, dywedai bethau ar adegau a fyddai yn llethu y gwrandawyr gan beri iddynt deimlo eu bod wedi eu dal gan ddychryn ac ofnadwyaeth y farn. Fel y dywedai un am dano, " Yr oedd yn mhlith yr ychydig bregethwyr a fyddai yn cyffroi merched gweini a gweision ffermydd y dosbarth mwyaf anhawdd eu cyffroi, efallai, o'r un dosbarth yn y wlad." Ac nid oes dim ond goleuni y dydd hwnw a ddengys faint y llwyddiant a fu ar ei weinidogaeth yn y ffurf hon arni. Cafodd yr hyfrydwch o weled lluaws mawr yn cael eu dychwelyd trwy ei lafur yn y cyfnod hwnw. Ond er ei fod yn fwy tawel a thyner yn ei flynyddoedd diweddaf, nid ydym i dybio fod ei lwyddiant yn llai.
Dywedai y diweddar enwog Mr. Charles o Gaerfyrddin na bu efe yn foddion i ychwanegu ond un aelod at yr eglwys, ac i hwnw droi allan yn rhagrithiwr. Fe fesurir llwyddiant pregethwyr gan rai, efallai, wrth y nifer a ddeuant i chwilio am le yn yr eglwys mewn canlyniad i'w pregethu; ond dylid cofio fod yna lwyddiant ysbrydol y tu hwnt i hwnw, ac yn gorwedd yn ddyfnach—yn rhy ysbrydol i ddyfod i mewn i gylch rhifyddiaeth ddynol, ac yn rhy ddwfn i'w blymio gan linyn mesur y byd. A thra yn edrych ar wahanol gyfnodau yn hanes ei bregethu yntau, nid ydym i farnu ei fod yn fwy llwyddianus pan y dychwelid dynion i'r eglwys wrth yr ugeiniau trwy ei weinidogaeth gyffrous.
Yr oedd yn ddyn o ddifrif ar hyd ei oes—yr holl ddyn yn ymroddi i'r gwaith—ac yr oedd ei ddifrifwch yn dwyshau, er yn myned yn fwy dystaw, a'i lwyddiant yn dyfnhau wrth fyned yn mlaen; fel yr afon, yn ymgodymu âg anhawsderau yn uwch i fynu, wedi cyrhaedd i lawr i'r gwastadedd yn rhedeg yn llyfn a thawel.
Yr oedd llawer o amrywiaeth yn ei lais. Gallasai ei godi i'r uchelderau, ac yr oedd ei lais main, uchel, yn ystwyth a swynol iawn; a gallasai ei ostwng i'r dyfnderau, ac yr oedd y llais bass dwfn, ni dybiem, yn fwy toddedig a llawn o ddagrau, ac yn cludo y gwirionedd a draddodid i deimladau y gwrandawyr yn fwy rhwydd. Yn y blynyddoedd cyntaf y cofiwn ef, yr oedd mwy o duedd esgyn ynddo; ond yn ei flynyddoedd olaf, gelwid y llais isel a dwfn i'w wasanaethu yn amlach, a phriodolwn hyny i gynydd dwysder ei deimlad ac addfedrwydd ei brofiad.
Pan yn ysgrifenu gair am dano ei hun yn y blynyddoedd hyn, dywed:—" Dyma ddechreu y flwyddyn 1884, ac y mae pobpeth yn ddedwydd iawn—llyfrau mewn cyflawnder mawr, a minau yn gallu eu darllen a'u chwilio, a rhyw faes newydd yn agoryd yn yr Ysgrythyrau yn barhaus. Wrth adolygu fy oes, yr wyf yn methu a gweled neb wedi cael y fath fraint a'r fath fantais a chysur ag a gefais i yn fy oes hyd yma. Ac mor lleied o ofidiau a thristwch. Os bu camgymeriad yn fy oes, dyna oedd na fuaswn wedi myned i Athrofa y Bala pan yn ieuanc. Erbyn hyn, yr wyf ar fy mhen fy hun o holl bregethwyr y wlad bron, oblegyd y maent oll yn collegians. Bellach, nid oes ond disgwyl i'r nefoedd fy melysu at y diwedd. Nid oes obaith cynyddu os gallaf gadw y tir a gefais. Rhodded yr Arglwydd ei Ysbryd imi i lafurio—llafurio mewn gweddi, a llafurio hefyd yn y Gair a'r athrawiaeth. Mae fy nghysylltiad â'r eglwys yn yr Abermaw yr un mwyaf dedwydd i mi ag sydd yn bosibl fod, a'r blaenoriaid yn garedig a thirion, a phawb felly o'm holl gymydogion. Nid oes modd disgwyl dim yn well yn y byd yma. Gwneud pregethau yr ydwyf o hyd bron, a chleddais tua naw ugain ohonynt yn yr ardd rhag cywilydd o'u gweled, ac eto y mae braidd yn edifar genyf am hyn. Cefais gymhorth y nefoedd i wneud rhai ohonynt ac i'w pregethu, a bendith i achub eneidiau yn ddigon siwr; ac efallai na ddylaswn eu claddu o'm blaen. Yr wyf yn fy haner canfed flwyddyn fel pregethwr, ac yr wyf yn meddwl nad ydwyf ddim gwaelach nag oeddwn, os nad ydwyf beth yn well—yr wyf bron meddwl fy mod yn well—ac yn gwneud llawn cymaint dros yr Arglwydd ag erioed, os nad mwy. Hyna ddywedaf, yr wyf yn penderfynu ymgadw oddiwrth achosion dyrys hyd y gallaf.—Ionawr 9, 1884."
Gwelir oddiwrth y sylwadau uchod, a ysgrifenwyd ganddo, fod ei ysbryd yn hynod o barod i dderbyn argraphiadau ac yn hawdd i'w symud i lawr neu i fynu; ond yn nghanol pob cyfnewidiad, o ran ei deimladau, cadwai nôd mawr ei fywyd yn union o'i flaen. Cael pregethu oedd ei ddedwyddwch penaf, a gallu gwneud hyny i amcanion teilwng a chyda graddau o lwyddiant, oedd uchelgais ei einioes, a chaniataodd ei Feistr Mawr iddo yn helaeth yr hyn a ddymunai mor angerddol.
Yn niwedd y flwyddyn ganlynol, ysgrifenai fel hyn:—"Dyma amser wedi cario yn mlaen i ddiwedd 1885, ac, o diriondeb trugaredd yr Arglwydd, yr wyf fi a'm hanwyl briod mor iach a chysurus ag y buom erioed, ac y mae hi wedi pasio 77 mlwydd oed, a minau wedi pasio 70 mlwydd oed. Y mae pen ein blwydd yn digwydd ar yr un diwrnod, sef Gorphenaf 16eg. Yr ydym wedi priodi er's pum' mlynedd a deugain er dydd Calangauaf diweddaf; ac, O! ryfedd ddaioni a thrugaredd ein Duw tuag atom. Tir gwastad yr ydym yn ei gerdded yn y blynyddoedd hyn, heb nemawr o fryniau a phantiau, nac odid ddim ystormydd yn ein cyfarfod, ond tywydd llariaidd, cynes a dedwydd iawn. O, nad allem wneud mwy er gogoniant Enw yr Arglwydd. Dymunwn yn fawr gael mwy o'i gymdeithas ddyddanus, a bod mwy o wlith y nefoedd ar fy mhen, a bod fy mhregethau yn fwy gafaelgar ac enillgar i ddychwelyd eneidiau at yr Arglwydd, ac yn enwedig yn foddion i adnewyddu yr eglwysi. Dyma sydd yn ofid calon i mi: gweled yr aelodau mor wywedig yn yr eglwysi, a'r fath ddifaterwch am ddarllen y Beibl a'i ddeall, ac mor ychydig o ysbryd gweddi sydd yn yr holl gyfarfodydd."
"Medi 25, 1886. Y mae pobpeth yn ddedwydd iawn arnaf fi a'm hanwyl briod, a minau yn cael llafurio yn y winllan, ac yn mwynhau gradd helaeth o wyneb yr Arglwydd. Cymerodd fy mhlaid yn ei ragluniaeth; onibai am hyny, ni buasai cystal arnom yn ein hamgylchiadau. Diolch iddo. Y mae ei ddaioni a gwedd ei wyneb tuag ataf fi a'm teulu, mewn iechyd a phob cysur a bendith, y tu hwnt i bob dychymyg. Erioed ni ddychymygais y cawswn y fath hapusrwydd a daioni a chysur. Digon o fodd i gael pob llyfr a ddymunwn, a digon o amser a phob mantais i'w darllen—pobpeth yn y capel i mi er cysur, ac nid oes achos i mi ffwdanu gyda'r pethau gofidus. 'Beth a dalaf i'r Arglwydd am ei holl ddoniau i mi?
Dyna y gair diweddaf yn ei gofnod—lyfr; a gwelir yn amlwg, oddiwrth yr hyn a ysgrifenwyd ganddo pan yn agoshau i ben ei yrfa, fod ei weddiau yn cael eu hateb, a'i fod, fel y dymunai, yn "addfedu ac yn melysu" at y diwedd. Cafodd oedfeuon a gofir yn hir ar rai o'r Sabbothau olaf y bu fyw, ac yr oedd yn llanw uchel ar ei brofiad yn aml yn y cyfarfodydd eglwysig.
Rhoddwn yma rai nodiadau o sylwadau coffadwriaethol a wnaed am dano gan un oedd yn ei adwaen yn dda:
DIAU ei fod yn un o'r pregethwyr mwyaf cymeradwy a defnyddiol a feddem; a phan yn ei hwyliau goreu byddai yn orchfygol. Ac nid fel pregethwr yn unig y rhagorai: meddai ddawn nodedig i "gadw seiat." Llawer gwaith y gwelsom yr eglwys yn cael ei chodi i deimlad uchel iawn gan ei fedr a'i wres. Ystyriem bob amser ei fod yn rhagori llawn cymaint yn hyn ag yn ei ddawn bregethwrol. Yr ydoedd hefyd yn weddiwr mawr, gweddiai yn afaelgar dros ben. Clywsom ganddo ambell bregeth flat, ond ni chlywsom erioed weddi sych. "Tywysog gyda Duw" a fu mewn gweddi—yn ddirgel,. teuluaidd, a chyhoeddus; a mynych iawn y gorchfygai ac y caffai y fendith. Gweddiai lawer dros y morwyr;. ac y mae aml un ohonynt yn priodoli eu gwaredigaethau rhag dyfrllyd fedd i'w weddiau taerion ef ar eu rhan.. Hwyrach mai nid pawb a ŵyr ei fod hefyd yn ddarllenwr mawr. Meddai lyfrgell ragorol o'r llyfrau goreu, hen a diweddar, a darllenai lawer arnynt. Un o'i gwestiynau cyntaf bob tro y gwelem ef fyddai, "Wel, pa lyfr newydd a gawsoch yn ddiweddar?" neu "Pa beth newydd a ddarllenasoch ?" Ac er nad oedd o dan orfod i wneud pregethau newyddion, byddai beunydd wrthi. Llafuriai o hyd gyda phregeth newydd, a byddai ganddo helaethrwydd ohonynt.
Rhagoriaeth amlwg arall ynddo ydoedd ei garedigrwydd tuag at bregethwyr ieuainc a'i ofal am danynt. Ni chafodd y rhai hyn un amser garedicach tad nag a gafodd y rhai a gychwynasant o dan ei ofal ef. Pryderai lawer yn eu cylch, gweddiai fwy na mwy drostynt, cynghorai lawer arnynt, a llawenhai yn fawr yn eu llwyddiant. O berthynas i brif symudiadau y Cyfundeb, meddai gydymdeimlad dwfn a hwynt. Ac er nad oedd bob amser yn canfod pobpeth o'u cwmpas yn foddhaol, gofalai am fod yn gefnogol iddynt, gan y credai yn yr angen rheidrwydd am danynt. Bydd yn golled fawr i Fethodistiaeth ac i grefydd ar ei ol. Teimlir yn chwith iawn hebddo am flynyddoedd yn y 'Bermo ac yn Nghyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd, a hiraetha cynulleidfaoedd y wlad yn fawr am dano. "Cyfraith gwirionedd oedd yn ei enau ef, ac anwiredd ni chafwyd yn ei wefusau; mewn hedd ac uniondeb y rhodiodd gyda mi, a llaweroedd a drodd efe oddiwrth anwiredd."
Yn niwedd y flwyddyn 1886, yn Nghyfarfod Misol Tanygrisiau, bu yn agor ac yn arwain mewn ymddan ar "Ein dyledswydd tuag at y tlodion." Nid oedd ei weinidogaeth ar y pwnc hwn yn un mewn gair yn unig, ond yn un mewn gweithred ac mewn gwirionedd. Bu yn hynod o garedig wrth y tlodion ar hyd ei oes yn ol ei allu, ac, yn fynych y tuhwnt i'w allu. Bu, ar fwy nag un gauaf gwasgedig ac oer, yn yr Abermaw yn rhanu degau o dunelli o lô, a chyfranai o'i arian yn rhwydd mewn cynorthwyo yr anghenus. A thraethu ar y mater hwn, y mae yn ymddangos, ydoedd un o'r pethau diweddaf a wnaed ganddo mewn Cyfarfod Misol. Hwyrach mai buddiol a fyddai dodi i lawr yma ranau o'r anerchiad a ysgrifenwyd ac a draddodwyd ganddo ar yr achlysur uchod:—
Dywedodd yr Arglwydd Iesu, Canys bob amser y cewch y tlodion gyda chwi, a phan fynoch y gallwch wneuthur da iddynt hwy.' Nid ydyw Rhagluniaeth fawr y nef wedi trefnu i bawb fod yn gyfoethog o feddianau y byd hwn. Er fod rhai, fel y dywedir, wedi dyfod i'r byd megys a'r llwy arian yn eu safn, y mae eraill wedi eu geni yn dlodion. Acy mae y rhai sydd heb ddim ar eu cyfer yn llawer lluosocach, ac y mae nifer fawr heb ddawn i ymgyfoethogi er cael oes faith, a rhai heb nemawr o ewyllys i gasglu cyfoeth y byd. Y mae i bob un ei ddawn ei hun gyda golwg ar hyn—'Pob un megys y derbyniodd.' Ac nid 'edwyn Efe y cyfoethog o flaen y tlawd, canys gwaith ei ddwylaw Ef ydynt oll.' Yr Arglwydd sydd yn tlodi ac yn cyfoethogi, yn darostwng ac yn dyrchafu.
"Yr un pryd pan y mae yr Arglwydd yn rhoddi y gyfraith wladol i genedl Israel, y mae yn amlwg fod rheolau y ddeddf hono wedi eu hamcanu i ochel tlodi. Yr oedd hyn yn eglur yn nghyfraith y seithfed flwyddyn, gan, yn ol hono, y dychwelai eiddo pawb i'w berchenog gwreiddiol ar flwyddyn y gollyngdod, ac felly yn enwedig ar flwyddyn y Jubili. Ac y mae Duw yn rhoddi gorchymyn iddynt i fod yn dyner a thosturiol wrth y tlawd—Deut. xv. 7-15. Eto, y mae tlodi yn cael ei osod allan fel canlyniad esgeulusdra, afradlonedd, neu ddiogi. 'Na châr gysgu, rhag dy fyned yn dlawd; agor dy lygaid, fel y'th ddigoner â bara.' Y mae cwmni drwg yn dwyn tlodi, 'Y neb a lafurio ei dir a ddigonir o fara: ond y neb a ganlyno oferwyr, a gaiff ddigon o dlodi;' 'Y meddw a'r glwth a ddaw i dlodi, a chysgu a bair fyned mewn gwisg garpiog.' Mae diwydrwydd o'r ochr arall yn arwain y dyn i sefyllfa dda, 'A welaist ti wr diesgeulus yn ei orchwyl? Efe a saif gerbron brenhinoedd, ac ni saif gerbron rhai iselradd.'
"Y mater ydyw, 'Ein dyledswydd tuag at y tlodion.' 'Pan fynoch y gallwch wneuthur da iddynt hwy.' Yr oedd gwneuthur daioni i'r tlodion yn waith arbenig a beunyddiol gan yr Arglwydd Iesu Grist a'i ddysgyblion, y mae yn amlwg, pan y cyfeiriai Judas yn benodol at hyn yn y geiriau 'a'i roddi i'r tlodion.' Yr oeddynt wedi arfer rhoddi i'r tlodion—cyfranu arian a feddylir yma. Y mae genym ddyledswyddau eraill tuag at y tlodion. Y mae yn ddyledswydd arnom eu parchu a pheidio a'u diystyru am eu bod yn dlawd; ond y mae yn ddyledswydd arbenig arnom i gyfranu tuag at eu hangenrheidiau, 'Y neb a gymero drugaredd ar y tlawd, sydd yn rhoddi echwyn i'r Arglwydd, a'i rôdd a dâl efe iddo drachefn;' 'Ond y trugarog wrth y tlawd, gwyn ei fyd ef.'
"Yr oedd yr Arglwydd yn dosturiol wrth y tlawd gyda'r offrymau o dan y ddeddf seremoniol yn Israel. Os byddai teulu heb allu cyrhaedd gwerth oen i'w offrymu, yr oedd yr Arglwydd yn derbyn dwy ddurtur neu ddau gyw colomen; ac os na allent gyrhaedd hyny, yr oedd yn derbyn offrwm heb waed, sef y ddegfed ran ephah o beilliaid, heb na thus nac olew ynddo; ond fe ddisgwylid iddynt ddyfod â'r hyn a allent ei gyrhaeddyd. Yr oedd ambell un y pryd hwnw yn gwneud mwy nag a fuasai yr Arglwydd yn ei ofyn ganddo. Dacw y wraig weddw yn bwrw ei dwy hatling i'r drysorfa; nid wyf yn meddwl y buasai yr Arglwydd yn achwyn arni pe na roddasai ond un o'r ddwy, a chadw y llall iddi ei hun; ond yn ngrym ei chariad fe roddodd i mewn ei holl fywyd, fel y dywed yr Iesu. Adwaenom rai gwragedd gweddwon cyffelyb iddi. Nid oedd gan G. W. o Gorwen ond deg swllt a dwy geiniog, a hi a roddodd y deg swllt yn y casgliad ac fe gadwodd y ddwy geiniog. Yr oedd ei hamgylchiadau yn dywyll, ond fe ofalodd Rhagluniaeth y nefoedd am dani. Fe dderbyniasai yr Arglwydd lai o lawer gan y wraig weddw hon hefyd; ond yn ngrym ei chariad at achos y Gwaredwr a'i hymddiried yn ei Duw, fe gafodd y deg swllt fyned ar yr allor, a chadw iddi ei hun ond y ddwy geiniog.
"Y casgliad gwreiddiol yn eglwys y Testament Newydd oedd y casgliad i'r tlodion. Gallem farnu oddiwrth yr hanes hefyd fod y casgliad yma i fod yn mhob cyfarfod. 'Boed i mi gofio y tlodion,' meddai yr Apostol Paul, yr hyn y bum i ddiwyd i'w wneuthur.' Yr oedd hyn yn orchymyn y Sasiwn yn Jerusalem iddo. Ac y mae gwyneb yr efengyl yn mhob oes a gwlad ar dlodion. Megys yn nyddiau yr Apostol Paul, 'Ychydig o'r boneddigion a alwyd. Eithr Duw a etholodd ffol bethau y byd fel y gwaradwyddai y doethion; a gwan bethau y byd a etholodd Duw, fel y gwaradwyddai y pethau cedyrn; a phethau distadl, a phethau dirmygus a ddewisodd Duw, a'r pethau nid ydynt, fel y diddymai y pethau sydd: fel na orfoleddai un cnawd ger ei fron Ef.'
"Y mae eglwysi y Cyfarfod Misol hwn wedi cyfranu y flwyddyn ddiweddaf £159 17s. 8c, mwy na'r flwyddyn o'r blaen o £14 19s. 7c. Rhoddwyd y swm yma i dlodion Gorllewin Meirionydd y flwyddyn ddiweddaf. Ar yr un pryd nid ydym yn meddwl fod yr arian hyn yr oll ohonynt—wedi eu rhoddi yn y ffordd oreu, oblegyd y mae dau fath o dlodion. Un math, fel y byddai y diweddar Richard Humphreys yn dweyd am danynt, 'Rhai a defnydd tlodi ynddynt;' ac fel y dywedai ein hen gyfaill Dafydd Rolant, wrth bregethu unwaith, 'Rhai wedi eu geni i rôt, ac nad allant byth fyned i bum' ceiniog—yn dlawd y rhaid iddynt gael bod.' Ein dyledswydd tuag at y cyfryw ydyw eu cynal mor gysurus a diwall ag y gallwn yn y sefyllfa y maent. Fe ddichon fod rhan fawr o'r arian hyn wedi eu rhoddi, os nad yr oll bron, fel pe byddai y tlodion i gyd o'r math hwn—eu rhoddi i'r tlodion i fod yn dlodion ac i'r plant tlodion i fod yn dlodion, yr un modd a'u rhieni. Ond y mae dosbarth arall o dlodion—math arall y rhai sydd yn dlodion er eu gwaethaf, yn dlodion er gwneud eu goreu. Y mae yn sicr fod ein dyledswydd tuag at y dosbarth hwn yn wahanol i'n dyledswydd tuag at y llall. Byddai yn well amcanu codi y rhai hyn i fynu hyd y gallom, o afael tlodi. Pa faint o'r cant a'r triugain punt yma a roddwyd i'r amcan hwn? . . . Y mae yn bosibl i gyfraniadau i dlodion fod o fwy o niwed nag o les, os bydd yn peri i dlodion esgeuluso eu dyledswyddau a myned i ddibynu ar ryw gardodau tuag at eu cynaliaeth. Fe wanheir trwy hyny y teimlad hunanddibynol y rhaid i bob dyn wrtho i wneud ei ddyledswydd tuag ato ei hun a'i deulu. Gwelir hyn weithiau, ac yr ydym yn cofio am un gymydogaeth yr oedd palas gwych ynddi a boneddigion cyfoethog yn byw ynddo. Byddai y foneddiges yn rhoddi bwyd a dillad ac arian yn helaeth ar ddiwrnod gosodedig bob wythnos i bawb a ddeuai yno i'w hymofyn ar y dydd penodol hwnw, a son mawr am haelioni neillduol y foneddiges. Ond er trallod a galar nid bychan i ran fawr o wlad, ac yn enwedig i dlodion y wlad, bu farw a chladdwyd y wraig fonheddig, ac fe ddarfu y cardodau mawrion. Fe deimlodd lluaws am enyd, ac yn arbenig y rhai oedd wedi myned i ddibynu ar y foneddiges, ac i esgeuluso darbod drostynt eu hunain. Ond yn mhen amser, nid maith iawn, yr oedd amryw o gymydogion y palas yn sylwi fod pobl gyffredin yr ardal ar y cyfan yn byw yn well—eu dillad yn fwy trwsiadus a'u tai yn llawnach o bob cyfreidiau—wedi iddynt ddyfod i geisio ymdaro drostynt eu hunain. Yr ydym yn meddwl y gallem ninau wneud gwell defnydd o'r arian yr ydym yn eu casglu i'r tlodion pe y defnyddiem hwy, nid yn unig i gynal a chysuro y rhai mewn tlodi, ond hefyd i geisio gwaredu rhai allan o'u tlodi—rhoddi addysg a chelfyddyd i bobl ieuainc er eu galluogi i ochel tlodi. Yr oedd warehouse yn Manchester flynyddau yn ol a'i harwyddair yn darawiadol, Shun poverty (gochel dlodi). Ac y mae gochel tlodi yn llawer gwell na derbyn elusen a chael cymhorth mewn tlodi.
"Y mae hon yn grediniaeth sefydlog fod bendith o'r nefoedd ar yr hwn sydd yn drugarog wrth y tlawd; ac os oes bendith i bersonau unigol, paham nad oes rhâd a bendith ar yr eglwysi a'r cynulleidfaoedd. sydd yn haelionus yn y cyfeiriad hwn. Pe byddem yn gwneud mwy o lawer fel eglwysi i'r tlodion, diau y derbyniem lawer mwy o fendithion tymhorol ac ysbrydol, ond fod i ni ochelyd gwneud 'dysgyblion y torthau.' Ni chafodd yr Arglwydd Iesu ei hun ond yr anfantais a'r gofid oddiwrth y tylwyth gormesol yma; a gormes ydynt i bob eglwys i Grist, lle y maent hyd heddyw. Y maent yn bur hawdd i'w hadnabod, oblegyd nid ydynt am wneud dim ond. ' bwyta o'r torthau a'u digoni.'
"Gallem wneud mwy o lawer nag a wnaethom erioed pe y rhoddem achos y tlodion gerbron yn mhob cyfarfod, a rhoddi heibio y dull anhwylus sydd genym o gasglu yn bresenol, Y mae y dull sydd genym yn drafferthus a blinderus, os nad gorthrymus. Onid gwell a mwy cyfleus o lawer a fyddai fod yma le yn yr addoliad i bawb ewyllysgar i 'roddi heibio,' a'r lle hwnw yn ymyl, a dim ond gair i nodi yr amser cyfranu. A phe byddai i ni wneud ychwaneg, byddai mwy o wasanaeth i fwrdd y tlodion. Mae bwrdd yr Arglwydd yn fwrdd i holl wasanaeth yr eglwys, a gwasanaethu y byrddau hyn ydyw rhan bwysig o wasanaeth y blaenoriaid—bwrdd y cymun a bwrdd y tlodion. 'Bwrdd yr Arglwydd' ydyw. Yr un ydyw y bwrdd fel dodrefnyn, ond ei fod yn cael ei ddefnyddio at wahanol achosion yn perthyn i'r eglwys. Yr oedd mwy o wasanaeth i'r byrddau hyn yn nyddiau yr apostolion, ac yn enwedig 'Bwrdd y tlodion; ac nid ydym yn amheu pe byddai mwy o wasanaeth ar fwrdd y tlodion na fyddai mwy o wasanaeth ar bob bwrdd arall a berthyn i'r eglwys. Dymunaf, wrth derfynu, ar fod mwy o haelioni a ffyddlondeb gydag achos y t'odion, a gallwn ddisgwyl i hyny fod yn gyfrwng cynydd a llwyddiant a bendith ar bob rhan arall a berthyn i deyrnas ein Harglwydd Iesu Grist."
PEN. XV.—Cadw Noswyl.
Anesmwythder am symud.—Llythyr o eglwys Nazareth.—Symud i'r Penrhyn.—Ymlyniad wrth yr eglwys yn yr Abermaw.—Dechreu gweithio yn ei faes newydd.—Dymuno cael peidio ei gornelu.—Pregethu yn Nhalysarnau.—Oedfa rymus nos Sabboth.—Diwrnod ei farw.—Ei gladdedigaeth.—Pregethwr ar ei ben ei hun.—Angen am rai tebyg.—Ei briod.—Nodiad o'r Drysorfa.
Er ei fod wedi ymgartrefu yn dda yn yr Abermaw, ac wedi bod yno yn agos i dair blynedd ar hugain, ac yn dra chymeradwy yn mhlith lluaws ei frodyr yn y dref; yn niwedd y flwyddyn 1886, yr oedd rhyw anesmwythder am symud wedi ymaflyd ynddo, ac yr oedd Rhagluniaeth, oherwydd rhyw gyfnewidiad yn nglŷn â'i breswylfod, yn ei barotoi i hyny; a phenderfynodd yn dra disymwth i fyned i drigo i Penrhyn Deudraeth. Yr oedd Llys Ifor—cartref y gweinidog—ar y pryd yn wag, a'r eglwys yn Nazareth yn unfrydol yn ei gymhell yn daer i'w gymeryd ac i ddyfod i breswylio i'w plith; ac yr oedd yntau, fel yn ei holl symudiadau blaenorol, yn credu fod y Golofn ei arwain.
Pan yr ysgrifenai un o flaenoriaid yr eglwys ato i'r amcan hwn, dywedai mewn llythyr dyddiedig Rhagfyr 16, 1886:
NIS gallaf wneud haner y chwareu teg â'r desgrifiad o eglwys Nazareth neithiwr. Buasai yn dda gan fy nghalon pe buasech yno eich hunan, neu yn rhywle yn nghyrhaedd clyw. Yr oeddwn bob amser yn falch o eglwys Nazareth; ond ni bu erioed mor uchel yn fy ngolwg ag ydyw yn awr. Gwelais roddi llawer achos i'w barn cyn neithiwr, ond ni welais yr un erioed yn cael ei dderbyn â breichiau mor agored a'r achos o'ch dyfodiad i'n plith. Yr oedd yno yr unfrydedd a'r brwdfrydedd mwyaf a welais gyda dim byd erioed, a buasai yn iechyd i'ch hyspryd i fod yno, a diau na fuasai ynoch y pryder lleiaf i roddi y cam hwn. Gwyddwn fod i chwi le cynes yn serchiadau yr eglwys hon bob amser; ond rhaid i mi ddweyd heddyw ei fod yn rhagori ar yr hyn a wyddwn. Yr wyf yn meddwl na chamgymeraf wrth ddweyd mai anfyuych y ceir dim achos yn pasio mewn un eglwys yn unman gydag unfrydedd hollol; ond yr oedd yr achos hwn, nid yn unig yn unfrydol, eithr y brwdfrydedd mwyaf drosto. Rhoddwyd y mater i lawr a gwahoddwyd sylwadau o amryw gyfeiriadau, a phawb yn ateb yn galonog eu bod yn credu fod Rhagluniaeth yn y peth yn sicr—mai yr Arglwydd oedd yn eich danfon atom. Wedi troi at y chwiorydd am eu barn hwy, dyma un hen chwaer mewn eiliad yn dweyd, "Yr hyn a ddaeth i fy meddwl i wedi clywed hyn ydoedd y darn penill hwnw
O'r nef mi glywais newydd,
Fe'm cododd ar fy nhraed.
Ac wele amryw o'r chwiorydd o wahanol ranau o'r capel yn ei dilyn gan ddweyd, "Y mae pawb yn y cwr yma yn falch o'u calon o'r newydd." Wedi rhoddi yr achos i farn yr eglwys, trwy godiad llaw, dyma bob llaw i fynu ar unwaith ac un yn gwaeddi allan, "Mi godwn i y ddwy pe y cawn i." Yr oedd nifer fawr yn bresenolllawn mwy nag arfer ac yr wyf wedi clywed eisoes heddyw amryw yn cwyno na chawsent fod yno i fwynhau y wledd. Dyna i chwi ddesgrifiad gwan o'r hyn a fu yma, ac ernes fechan o'r croesaw sydd yn eich aros yn ein plith. Hoffwn gael gair oddiwrthych os cewch gyfle, er mwyn i mi hysbysu y frawdoliaeth nos Sabboth. Gallwch feddwl fod yma dipyn o anesmwythder rhag i rywbeth ddigwydd i'ch rhwystro, ac felly beri ini siomedigaeth.
Dydd Mercher, Ionawr 19, 1887, gadawodd yr Abermaw yn nghanol tristwch yr holl frawdoliaeth, ac ymsefydlodd yn ei gartref newydd; ond ni ddychymygai neb fod y nefoedd wedi darparu cartref gwell iddo, ac mai i hwnw y gelwid ef mor ebrwydd. Nid oedd yn werth i un lle ymollwng i wylo oherwydd ei golli na'r lle arall i lawenychu oherwydd ei gael, "am fod yr amser yn fyr." Yn mhen ychydig dros bythefnos ar ol ei ymadawiad—rhyw bedwar diwrnod cyn ei farwolaeth ysgrifenodd lythyr byr at un o flaenoriaid yr eglwys yn yr Abermaw oedd yn dangos ei ymlyniad wrth yr achos a'r bobl y bu yn eu plith am ran mor fawr o'i oes. Y mae rhan o'r llythyr fel y canlyn:
Fy Anwyl, Gyfaill,—Y mae eich cyfarfod pregethu bellach yn agoshau, ac yr ydym yn dymuno yn dda i chwi fel eglwys, yr un modd a phe buasem yna. Gobeithio y bydd wyneb yr Arglwydd arnoch yn amlwg iawn, a gwlith bendith yn disgyn yn helaeth ar yr holl gynulleidfa. Hyn ydyw ein dymuniad a'n gweddi. Dodaf o fewn hwn P.0.0. am Ios. tuag at y Cyfarfod Pregethu. Cofion serchog iawn atoch.Ydym, eich cyfeillion cywir,
DAVID AC ELLENOR DAVIES."
Dechreuodd ymroddi i waith yn y Penrhyn. Ymwelai â'r aelodau, a chadwai holl gylch y cyfarfodydd fel pe buasai yn ddyn ieuanc llawn nwyfiant a bywyd. Cynlluniai lawer o waith, ac addawai iddo ei hun luaws o flynyddoedd i'w gyflawni. Cafodd ei alw gan y Meistr Mawr at ei wobr pan yr oedd ei lwynau wedi eu gwregysu a'i ganwyll yn oleu. Dymunai bob amser gael marw heb lawer o gystuddio a chornelu, a chaniatawyd hyny iddo, ac fe gyflawnwyd yr adnod hono yn ei hanes, "Efe a wna ewyllys y rhai a'i hofnant: gwrendy hefyd eu llefain ac a'u hachub hwynt." Ni adawodd i'w dalent rydu, a chlywsom ef yn dweyd laweroedd o weithiau, "Byddai yn well i bregethwr dreulio allan na rhydu." Cysegrodd ei alluoedd yn gwbl a chydag ymroddiad y gweithiwr difefl ar allor gwasanaeth ei Geidwad, a chafodd ei gymeradwyaeth amlwg Ef ganoedd o weithiau mewn llwyddiant ar ei lafur. Ac yn y diwedd fe'i galwyd i dderbyn coron y bywyd yn sydyn. Ni fu raid iddo rodio ar hyd y glyn, ond cafodd fyned ar draws ei gèr; ac yr oedd wedi agor ei lygaid ar y gogoniant mawr ar y làn draw cyn iddo prin eu cau ar wrthrychau y byd hwn. Hunodd yn dawel yn yr Iesu Chwefror 9, 1887.
Pregethai gydag arddeliad yn Nhalysarnau y Sabboth blaenorol, a dywedir iddo gael oedfa lewyrchus iawn nos Sabboth oddiar y geiriau, "Canys felly yn helaeth y trefnir i chwi fynediad i mewn i dragwyddòl deyrnas ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist;" a chyn saith o'r gloch nos Fercher yr oedd y mynediad helaeth hwnw wedi ei drefnu yn ei hanes ef ei hun.
Y diwrnod y bu farw elai o amgylch yn siriol a bywiog. Gwasanaethai mewn angladd am dri o'r gloch y prydnawn hwnw; ac ar ol y claddedigaeth aeth ef a'i briod yn nghwmni Mr. Pritchard—un o'r blaenoriaid—i Brithwernydd, yr hwn sydd ffermdy cyfagos. Ar y ffordd y maent yn pasio y fynwent, a safai yntau, gan gyfeirio at dorlan ynddi ychydig yn uwch na'r gweddill o'r tir, a dywedai, "Yn y fan acw yr ydw i am gael fy nghladdu." "Nid ar ben y dibyn acw, aie?" meddai Mr. Pritchard. Ychwanegai yntau yn chwareus, " Ie, y mae y pwlpud dipyn yn uchel, ac yn y fan hono yr ydw i wedi byw cryn lawer, ac mi leiciwn i gael fy nghladdu ar dipyn bach o godiad tir hefyd."
Wedi treulio rhyw awr neu ddwy yn siriol gyda'r cyfeillion, cychwynasant adref tua chwech o'r gloch er mwyn parotoi yn brydlon ar gyfer y seiat, yr hon a gynelid y noson hono. Ond daeth gwŷs o fyd arall ato ar y ffordd. Ymosodwyd arno gan glefyd y galon. Bu raid iddo orphwys; ond wedi eistedd am ychydig o funydau, gallodd gerdded i'r tŷ yn mraich cyfaill. Gorweddodd ar y sofa, a dywedai "Mi fydda i wedi gwella erbyn dechreu'r seiat;" ond yn lle gwella i fyned i gadw seiat i Nazareth, cyn saith o'r gloch yr oedd wedi ymuno â'r Seiat Fawr na welir diwedd byth arni—Seiat nad oes neb yn cwyno gan brofiad isel o'i mewn—dim cwmwl ar ei ffurfafen, dim dagrau yn llygad neb, ond
Pawb mewn hwyl yn moli'r Oen
I dragwyddoldeb mwy.
Claddwyd ef y dydd Sadwrn canlynol yn y fynwent gerllaw Nazareth, yn ol ei ddymuniad. Yr oedd y diwrnod yn un mawr a phwysig i'r holl ardaloedd, ac arwyddion nad ellid eu camgymeryd fod rhywun wedi cwympo ag y mynai y bobl anrhydeddu ei lwch. Gwelid tyrfaoedd yn dylifo o bob cyfeiriad, yn awyddus i fwrw deigryn hiraeth ar fedd un a anwylid mor fawr. Cafwyd trên neillduol o'r Abermaw i gludo y nifer fawr oeddynt yn chwenychu bod yn bresenol i dalu eu parch i goffadwriaeth eu hen weinidog, yr hwn a gerid yn angerddol ganddynt. Yr oedd y dagrau yn llifo yn afonydd ar ganoedd o wynebau wrth feddwl na chaent weled ei wyneb ef mwy. Mae y tafod tân wedi ei gloi gan rew y glyn—y llais arianaidd a swynol wedi ei ddystewi gan ddyfroedd yr Iorddonen, y llygad byw wedi diffodd yn yr angau. Yr oedd calonau canoedd o bobl y diwrnod hwnw yn rhy lawnion i'w tafodau lefaru; ond yr oedd yr ochenaid isel a'r deigryn lladradaidd a glywid ac a welid yn dweyd yn effeithiol, "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."
Darllenwyd a gweddiwyd wrth y tŷ cyn cychwyn gan y Parch. D. Roberts, Rhiw, ac yna aed i'r capel. "Yno fe roddodd y Parch. R. Roberts, Dolgellau, benill i'w ganu. Dywedodd fod y gorchwyl pruddaidd o arwain y cyfarfod wedi disgyn i'w ran ef. Ychydig amser yn ol, yr oedd ei enw ef yn olaf yn y Dyddiadur yn mhlith gweinidogion Gorllewin Meirionydd; ond erbyn hyn, ar ol ymadawiad ei anwyl a pharchedig gyfaill, ei enw ef (Mr. Roberts) oedd y cyntaf. Tua saith mlynedd ar hugain yn ol yr oedd pethau nerthol iawn yn cymeryd lle yn ein plith—Ysbryd yr Arglwydd yn gweithio yn ein mysg mewn modd amlwg iawn. Yr adeg hono yr oedd Mr. Davies yn offeryn amlwg iawn yn ei law Ef i wneud daioni, ac fe barhaodd felly. Yn mhob cylch yr oedd yn cydfyned â'i frodyr ac â'i oes. Yr oedd rhai yn darfod â'r byd yma yn mhell cyn myned ohono. O ran eu hysbrydoedd a'u defnyddioldeb, dylasent fod wedi myned o'r byd er's talm; ond nid felly Mr. Davies. Parhaodd yn ei ddefnyddioldeb hyd y diwedd; ac er mewn galar yn ei gladdu, teimlai awydd diolch, er mai ei gladdu yr oeddynt, am ei fod yn uwch ei gymeriad nag y bu erioed. Byddai ef ei hun yn son am un o frenhinoedd Israel wedi ei daraw â'r gwahanglwyf ac yn cael ei roddi o'r neilldu am weddill ei oes; ond yr oedd Mr. Davies ei hun yn iach a bywiog i waith hyd y diwedd. Yr oedd yn drefnus yn ei dŷ ac yn mhob man, ac yn credu yn hyny, ac felly yr oedd yn barod i'r alwad sydyn. Cafodd groesi y glyn. ac nid myned ar ei hyd, fel y sylwai. O'i galon. dywedai ef (Mr. Roberts), 'Marw a wnelwyf o farwolaeth yr uniawn' hwn."
Y Parch. Hugh Barrow Williams, Gwrecsam, a ddywedodd:—" Yr wyf yn teimlo fy mod wedi colli y cyfaill goreu a gefais erioed trwy farwolaeth Mr. Davies. Yr oedd bob amser yn garedig wrthyf, fel yr wyf yn credu, pe buaswn yn blentyn iddo, nis gallasai arddangos mwy o garedigrwydd tuag ataf nag a wnaeth. Rhoddodd amryw gynghorion i mi, ac y mae y rhai hyny yn gynghorion a gofiaf tra fyddaf byw. Yr oedd Mr. Davies yn un nodedig iawn am roddi cynghorion: gallai eu rhoddi yn y ffordd fwyaf tyner, ac ar yr un pryd yn y modd mwyaf tarawiadol. Clywais ef yn dweyd lawer gwaith ei fod yn dymuno marw fel y gwnaeth. Cafodd farw yn nghanol ei waith, ac felly yr oeddwn yn dymuno iddo gael. Y tro diweddaf y cefais y fraint o'i weled, dywedodd wrthyf, 'Gobeithio y cawn ni, Barrow bach, y fraint o farw yn nghanol ein gwaith.' Cafodd efe hyny yn ol ei ddymuniad. Mae yn bur chwith genyf na chaf ei weled byth mwy ar y ddaear hon, a gwrando ar ei gynghorion caredig a gwerthfawr; ond er yr holl chwithdod, mae yn dda genyf feddwl ei fod wedi ei symud i fyd sydd well i fyw, a'i fod heddyw yn mhlith y rhai sydd yn dysgleirio yn nheulu Duw a'r Oen."
Y Parch. W. Jones, Porthdinorwig, a ddywedodd:"Fel y cyfeillion eraill, yr wyf yn teimlo yn anhawdd siarad pan yn meddwl fod ein hanwyl frawd yn y bedd. Cefais i y fraint o gael fy magu am dros ugain mlynedd yn yr eglwys yr oedd efe yn fugail arni. Yr wyf yn cofio yn dda mai ganddo ef y derbyniais Swper yr Arglwydd am y tro cyntaf. Gydag ef y dechreuais bregethu, a gallaf eich sicrhau y bydd ei enw yn gysegredig genyf tra fyddaf byw. Clywais ef yn pregethu ganoedd o weithiau, a byddai yn fynych iawn yn pregethu gyda nerth a difrifwch mawr. Sylwais ei fod yn weddiwr mawr yn y dirgel, ac yr oedd effaith hyny i'w weled yn amlwg ar ei weinidogaeth. Bu am ysbaid yn cadw siop, wedi hyny yn ystiward ar goedwigoedd; ond pregethwr oedd yn y siop a phregethwr oedd yn y coed hefyd; ac yr wyf yn credu fod ôl pregethu i'r coed, ar lethrau Coed y Ffynon, yn parhau ar ei weinidogaeth hyd y diwedd. Newidiodd lawer ar ei ddull o bregethu, ond yr un oedd ei amcan o hyd. Rhoddodd Mr. Davies anrhydedd ar Benmachno. Bu yn Nghorwen a'r Abermaw, ond fel 'Dafydd Dafis, Penmachno,' yr adnabyddir ac y cofir yn hir am dano. Ei brif gyfeillion a'i gydlafurwyr cychwynol oeddynt y Parchn. Cadwaladr Owen, Dafydd Rowland, Robert Williams Aberdyfi, a Mr. Morgan. Ei nodweddion amlycaf oeddynt, darllen llawer ar y Beibl a gweddio yn y dirgel. Cofiai Mr. Jones am rai o'i destynau cyffrous a'r pregethau tanllyd a gafwyd, megys 'Bydd barod Israel i gyfarfod â'th Dduw,' 'Y rhai oedd barod a aethant i mewn . . . a chauwyd y drws', 'Syrthio yn nwylaw y Duw byw,' &c. Bu yn offeryn i droi llawer at yr Arglwydd.
Y Parch. W. Davies, Llanegryn, a ddywedodd:—"Yr wyf yn teimlo ein bod wedi colli un o'r pregethwyr goreu a mwyaf gwasanaethgar a feddem fel Cyfundeb. Yr oedd ei wasanaeth yn werthfawr, nid mewn rhyw gylch bychan, ond trwy Gymru i gyd. Yr oedd Mr. Davies wedi ei feddianu gan ysbryd pregethu. Pregethu oedd ei unig nôd ef, a llwyddodd i gyrhaedd y nôd yna mewn modd amlwg iawn. Buasai yn dda i ni weddio ar yr Arglwydd am iddo godi pregethwyr eto wedi eu meddianu gan yr un ysbryd, ac ond i ni wneud hyny, cawn yn fuan weled Ilwyddiant mawr ar grefydd yn ein gwlad."
Canwyd y penill "Daw dydd i'r cyfiawn, tranoeth teg," &c., a dybenwyd y cyfarfod trwy weddi gan y Parch. D. Jones, Garegddu, Ffestiniog. Yna ffurfiwyd gorymdaith ac aed at y bedd. Ar lan y bedd, darllenwyd rhanau o'r Gwirionedd gan y Parch. R. H. Morgan, M.A., a rhoddodd allan yr hen benill "Bydd myrdd o ryfeddodau," &c. Canwyd ef yn hynod o effeithiol. Diweddwyd trwy weddi daer a thoddedig gan y Parch. W. Thomas, Dyffryn.
Gorphwysed y gwas ffyddlawn mewn hedd, a bydded ei hûn yn dawel; a thra y bydd rhai o'i hen wrandawyr yn fyw, fe felus gofir am dano ar y ddaear, ac yr ydym yn dra sicr fod iddo groesaw cynes yn y nefoedd gan y rhai y bu yn offeryn i'w troi at Dduw, ac y mae y dyrfa hono yn chwyddo yn barhaus.
Yr oedd ar ei ben ei hun yn mhlith ei frodyr, ac hwyrach na welir neb cyffelyb iddo; ond na wawried cyfnod ar hanes ein gwlad pan na fyddo genym luaws o bregethwyr yn perthyn i'w ddosbarth—rhai i arloesi y wlad ac i barotoi ffordd yr Arglwydd, fel Ioan Fedyddiwr—pregethwyr i gyffroi, i ddeffro, ac i argyhoeddi. Er cynydd dysg a gwybodaeth, nis gall ein gwlad hyfforddio bod heb ddynion fel hyn. Rhoddion yr Iesu dyrchafedig—Arglwydd y cynhauaf—ydynt. Gweddiwn am iddo beidio atal ei law, eithr eu rhoddi eto ac anfon eto weithwyr i'r cynhauaf.
Galwyd arno i gadw noswyl cyn iddo fod yn llawn 72 mlwydd oed; ond cafodd ddiwrnod wedi ei lanw hyd yr ymylon â gwaith. Bu yn pregethu am dros ddeuddeng mlynedd a deugain. Gadawodd briod ofalus a thyner ar ei ol, a bu hi yn teithio yr anialwch yn ei hunigedd am chwe' blynedd, hyd Chwefror, 1893, pryd yr ehedodd hithau ymaith i'r aneddle lonydd, lle na fydd ysgar byth rhyngddynt. Tueddir ni i roddi ychydig eiriau o nodiad a wnaed gan olygydd y Drysorfa yn rhifyn Mawrth, 1887:
AM nad oedd neb wedi gweled arwyddion llesghad nac argoel fod ei hoywder yn pallu, yr oedd y newydd am farwolaeth Mr. Davies yn peri syndod yn gystal a galar dwfn a chyffredinol. Enillasai efe sefyllfa mor amlwg yn mhlith henafgwyr parchus ac arweinwyr cyfrifol ein Cyfundeb yn y Gogledd, fel y teimlir fod ei ymadawiad wedi gwneud lle go fawr a phwysig yn wag. Yr oedd wrth natur yn ddyn dawnus iawn. Mae yn wir na chafodd ei alluoedd naturiol mo'r feithrinfa a'r diwylliant goreu; a dichon nad oedd yn ddigon doeth bob amser i adnabod y "ddawn oedd ganddo;" ond pan y digwyddai fod ei briod—ddoniau wedi taro ar destyn a mater cymharus, pregethai David Davies y pryd hwnw gyda'r fath nerth, dylanwad, ac effeithiau ag a barai i bawb ei gydnabod fel un o "golofnau" y pwlpud yn ei oes. Os nad oedd wedi graddio yn uchel mewn un athrofa ddysgedig, yr oedd efe, ys dywedai Dr. Cynddylan Jones am rywrai, wedi graddio yn anrhydeddus fel pregethwr yn marn cynulleidfaoedd y Methodistiaid. Tra yn tristhau wrth feddwl na chawn weled ei wyneb ef mwyach na chlywed ei lais miniog, treiddgar, yn murnio y diafol, ac yn tywallt dirmyg a melldith yn gymysg—raiadrau ofnadwy ar bechod, a thrachefn yn melysu ac yn rhoddi llawn swing i'w lais cwmpasog i hyfryd seinio odlau yr efengyl—os na chawn weled a chlywed David Davies, Penmachno, mwy—yr ydym yn cael rhywbeth i ddiolch am dano ac i ymgysuro ynddo wrth gofio ei ymroad a'i sêl diball i waith y weinidogaeth.
Beth bynag oedd y doniau naturiol a feddai, a pha ddefnydd bynag a wnaed ohonynt, y nodweddion mwyaf gwerthfawr yn ei gymeriad yn marn pawb a'i hadwaenai oeddynt ffyddlondeb i'r hyn a ystyrid ganddo yn wirionedd, gonestrwydd i'w argyhoeddiadau, a difrifwch mewn ymdrech i gyrhaedd amcanion uwchaf bywyd.
PEN. XVI.—Adgofion.
Ei ymddangosiad yn urddasol.—Brwdfrydedd ei natur.—Braslun ohono.—Sylwadau a dywediadau.
ER fod blynyddoedd bellach er pan y mae wedi myned i orphwys, y mae ei enw yn fyw a'i goffadwriaeth yn fendigedig; ond y mae y rhai a'i gwelsant ac a fuont yn gwrando arno yn myned yn llai eu nifer yn brysur. Nid oes eisiau gwneud un ymgais i dynu darlun ohono er mwyn y rhai sydd yn ei gofio, a byddai pob ymdrech tuag at hyny yn rhwym o fod yn anmherffaith iawn yn eu golwg; ond am fod y nifer na chafodd y fraint hono erbyn hyn wedi chwyddo cryn lawer, nid anmhriodol a fyddai gair neu ddau i'r cyfeiriad hwnw.
O ran ei ddyn oddiallan yr oedd golwg urddasol arno—yn ddyn tal, a chyn ei gloffni trwy y ddamwain a'i cyfarfyddodd, gallasech weled cryn dipyn o rwysg ac annibyniaeth yn osgo ei gerddediad ar yr heol. Meddai olwg braidd yn chwyrn, ac yr oedd y cyfnewidiadau sydyn a welid ar ei wynebpryd fel pelydr a chwmwl yn dilyn eu gilydd, yn arddangosiad o'r un cyfnewidiadau a basient yn ei ysbryd. Nis gallasai guddio llawer ar ei farn a'i deimlad. Ni chelai ei rudd ef dristwch na llawenydd ei galon.
Yr oedd ganddo ddau lygad tywyll yn serenu ar eu heithaf, a gwallt du cyrliog, a chudyn o farf ar odreu ei ên; genau llydain, gwefusau teneuon, a threm fywiog ddifrifol. Pan y cyfodai i anerch y gynulleidfa dangosai ei wedd nad oedd yn myned i gellwair â'i wrandawyr, eithr ei fod am gael ei neges yn bur ddioedi. Wedi iddo agor ei enau chwi a deimlech yn y fan fod ei lais yn beth na ddisgwyliech—corph trwm ond llais ysgafn—llais main, treiddgar, ac uchel. Eto, yr oedd bywiogrwydd y llygad a llymdra awchus ei drem yn cyfateb i dreiddgarwch y llais cyflym ac uchel. Yr oedd ynddo frwdaniaeth tanllyd iawn. Y pregethwr a ddeuai i'r golwg ynddo yn fwy na'r athraw. Yr oedd yn hollol amlwg ei fod yn deall y natur ddynol yn dda; ymwasgai ati fel cyfaill, siaradai â hi gyda chydymdeimlad, a rhoddai ei gyfarwyddiadau iddi gyda deheurwydd a brwdaniaeth anarferol.. Meddai sêl gyda gwybodaeth a dawn. Cadwai ffwrnes o dân yn wastadol i boethi pob syniad cyn ei ollwng allan; a byddai yn fynych yn taflu ambell gydmariaeth o'r Beibl i ganol y dyrfa yn llosgi yn eirias.
Ymddangosodd brasluniau o amryw bregethwyr Cymru yn Nhrysorfa y Plant er's blynyddoedd yn ol. Yn y gyfres daeth braslun ohono ef allan heb ei enw, ond nid oedd ei adnabod yn waith anhawdd i'r darllenwyr; a chan fod ynddo gryn lawer o naturioldeb a chywirdeb, dodwn ef i lawr fel y cawsom ef wedi ei ysgrifenu o'r cyhoeddiad hwnw gan gyfaill:
"Dyn mwy a hwy na'r cyffredin o gorph, llawn ei drwch, a llydan ei ysgwydd. Gwyneb go wastad heb nemawr o farf, oddigerth cudyn cwta, du, teneu, cyrliog, a Yanciaidd ar ben ei ên. Gwallt du, byr, cyrliog oedd ei. wallt hefyd, ac felly y mae eto ond fel y mae oedran yn ei lwydo a'i denewo, Mae ganddo lygaid du, llym, treiddgar, a chlamp o ben braf y tu ol iddynt.
Saif yn syth a cherdda yn nerthol. Mae y llais yn feinach nag y gellid ddisgwyl oddiwrth gorph mor fawr. Llais main ydyw, er nad "dystaw fain" bob amser. Medr ei gadw yn ddystaw, os bydd am hyny, ond y mae ganddo ddigon o nerth tu cefn i'w wneud yn glywadwy i'r miloedd. Mae ef, yn wahanol i'r rhan fwyaf, yn dechreu bob amser mewn cywrair uchel, clywadwy i bawb. Yr ydym yn ei gofio yn rhoddi mwy ar ei lais ac ar ei holl gorph wrth bregethu—gormod ar brydiau; ond y mae er's blynyddoedd bellach wedi dyfod yn fwy o feistr arno ei hun wrth draddodi. Mae yn wr o deimladau tyner a charedig, ac yn wrandawr da yn gystal a phregethwr da. Mae ganddo ystorfa dda o synwyr cyffredin, ac y mae y synwyr hwnw yn allu gwerthfawr uwchben y bobl. Mae cyfansoddiad ei bregeth yn syml, yn ddestlus, a pherffaith ddealladwy. Ni fydd yn ymgais at wneud arddangosiad cywrain yn rhaniad ei destyn, ond teimlir fod ganddo amcan uwch. Nid yw, debygem, yn cyfansoddi ei bregeth yn gyflawn a manwl, ond gedy lawer i'w lenwi ar adeg y traddodiad. Y mae tân ynddo, ac o'r tân hwnw y cyfyd ei hyawdledd. Dywedai Robert Hall am ryw bregethwr ei fod yn brydferth, ond mai prydferthwch rhew ydoedd. Ond am y gwr hwn, er fod ganddo ben, a thafod, a phin, ei galon frwd gynhyrfus yw un o ragoriaethau y pregethwr ynddo. Oes y mae tân ynddo, ac y mae ei lygad yn dyst. Mae y bregeth oll yn ddesgrifiadol a fresh; ond ni bydd ef yn foddhaol os na cheir llygedyn o wres tanbaid yn gystal a defnyddiau. Ac ar ol egluro ei bwnc, er mwyn mantais i'r tân gydio, daw yn fynych ag hanesyn cyffrous. Cŵyd ei allor yn fedrus, gesyd y coed arni, a'r aberth ar uchaf y coed, a bydd yn siwr o dreio yn ddifrifol am dân o'r nefoedd cyn gorphen. Nid yw yn eich taro ei fod yn ymgyrhaedd am y mawr a'r rhyfeddol yn gymaint ag am y buddiol. Ac er ei fod, o ran person yn drwm a thàl, a'i lygaid yn gwreichioni o danbeidrwydd, y mae braidd o ysbryd ofnus.
Fe wêl gwrandawr craffus ddau beth ynddo yn fuan wrth edrych arno yn y pwlpud, sef difrifoldeb a natur dda, ac y mae yn help mawr i roddi y gynulleidfa yn ei law. Dylasem ddweyd hefyd fod egluriadau ei bregeth yn cael eu cymeryd gan mwyaf o amgylchiadau beunyddiol mewn bywyd cyffredin. Mae yn ddyn gwerthfawr mewn ardal a chyfundeb, ac yn was ffyddlawn i Grist.
Temtir ni, cyn troi pen ar ei hanes, i ddodi yma ychydig o'i ddywediadau a'i sylwadau ar wahanol achlysuron yn ychwanegol at y rhai a geir yma ac acw trwy y Cofiant. Y mae yn rhaid dweyd eu bod wedi oeri llawer wrth eu hysgrifenu genym, tra yr oeddynt yn aml yn llifo allan yn chwilboeth yn eu traddodiad ganddo ef:
"Rhyddid. Rhaid i'r bobl gael rhywbeth i ddyfod i'r seiat a'r cyfarfod gweddi a phob moddion. Mae Robin Goch yn dyfod ataf i'r ardd, ac yn disgwyl cael tamaid genyf. Daw yn bur agos, ond rhaid iddo ef gael ei ryddid. All ef ddim byw mewn cage, er iddo gael pobpeth, a'r cage yn un mawr a helaeth. Bydd farw yn mhen y mis y man pellaf. Liberal ydyw Robin Goch—gwr boneddig o Ryddfrydwr mawr. Fe dderbyn friwsion yn fwyd, ond rhaid iddo gael ei ryddid. Felly mae adar Cymru bron i gyd. Liberal ydyw aderyn y tô a'r fwyalchen a'r aderyn bronfraith a'r llinos benfelen, ac y mae y dryw bach yn llawn mor ryddfrydig a'r un ohonynt. Nid wyf yn cofio am neb wedi meiddio gwneud Tori gwasaidd o'r dryw. Gwelais ddwy gigfran yn sir Fon wedi bod mewn cage am rai blynyddoedd. Gallwn oddef iddynt hwy fod yn Doriaid."
"Y Dant drwg.—Y mae rhai dynion fel dant drwg, y maent yn teimlo oddiwrth pob gwynt a chyfnewidiad. Ni welir mohonynt byth yn y moddion cyffredin; ond os bydd achos o ddysgyblaeth yn yr eglwys fe'u gwelir yno. Os bydd gwynt y dwyrain, neu ormod gwres, bydd y dant drwg yn dweyd yn union."
Y Ddau Flaenor bydol. Y maent yn ymwthio trwy ddrain a mieri y byd yma, fel nad oes yr un dyrnaid o wlân i'w gael ar eu crwyn hwy i Iesu Grist."
Cyfiawnder ymarferol.—Gofalwch am i'ch crefydd gario dylanwad ar bethau a ystyrir yn fychain—sancteiddio y bywyd yn ei bobpeth—'ffrwynau y meirch' a'r 'crochanau' wedi eu marcio ganddi. Y mae pethau bychain disylw yn effeithio yn fawr er andwyo llawer cymeriad. 'Gwybed meirw a wnant i enaint yr apothecari ddrewi.' Dwy lygoden ffreinig? Nage, dau wybedyn a wnaeth y cwbl."
Pan yr adferid brawd o weinidog mewn Cymdeithasfa, yr hwn a ymddangosai braidd yn falch ac anedifeiriol, cwynai y brawd am y cam a gafodd gan luaws o'i frodyr, ac nad oedd wedi derbyn llythyrau i'w galonogi ar ol y codwm, a hyny oddiwrth rai ag y buasai yn disgwyl cael gair. Cododd Mr. Davies a dywedai, "Yr ydw i yn un sydd heb anfon llythyr ato. Na, ni ddarfum i ysgrifenu gair, ac y mae yn dda genyf na roddais yr un ddalen o bapyr rhyngddo a'r llwch."
Mewn Cymdeithasfa yn Nghaergybi, pregethai am ddau o'r gloch y dydd olaf ar y geiriau, " A fyni di dy wneuthur yn iach?" "Yr wyf yn bwriadu," meddai, "ddau o'r gloch yma i wneud fy ngoreu i ganmol meddyg y teulu. Hen feddyg enwog teulu y codwm ydyw yr Iesu." A "chanmol" y bu yn effeithiol. Pan ydoedd yn myned yn mlaen gyda rhwyddineb a hwylusdod, gwaeddodd rhyw frawd yn y gynulleidfa. "Diolch am feddyg y teulu." "Ie," meddai yntau, dyna swn un o'r cleifion sydd o dan ei ofal. Yr oeddwn i yn disgwyl eich clywed chwithau yn ei ganmol."
Pan yr aeth cyfeillion Bethesda, Ffestiniog, i feddwl am fynwent gerllaw y capel, cynaliwyd cyfarfod er mwyn ceisio enyn sêl gyda'r amcan, a gwahoddwyd yntau o Benmachno i'r cyfarfod. Yn ystod ei anerchiad cododd y cynulliad i frwdfrydedd mawr. Yr ydym," meddai, " yn debyg i Ruth a Naomi. Fe fynai Ruth ddilyn ei mam-yn-nghyfraith i dir Israel. Y mae am gylymu ei hun wrthi yn mhobpeth, 'Dy bobl di fydd fy mhobl i, a'th Dduw di fydd fy Nuw inau; lle y byddych di farw y byddaf finau farw, ac yno y'm cleddir. Yr ydym ninau yn gallu dweyd y darn cyntaf o'r cyfamod, ond mae yn rhaid i ni fyned at bobl eraill i'w orphen—yno y'm cleddir. Ond yr ydych chwi yn awr yn myned i barotoi i orphen y cyfamod gartref."
Yn y cyfarfodydd wythnosol yn yr Abermaw yr oedd lluoedd yn tyru i'r eisteddleoedd agosaf i'r drws. Er cynghori a rhybuddio ac erfyn, nid ellid eu symud yn mlaen. Yno y mynent fod. Un noswaith, dywedai yn effeithiol, "Yr wyf fi yn edrych ar y seti pell yna wrth y drws fel Studwals (St. Tudwal's Road, lle y try llawer o longau am gysgod wrth hwylio i fewn ac allan o Borthmadog). 'Does yno yr un porthladd yn Studwals, dim i'w gael ond cysgod rhag y gwynt, ac ni fydd neb yn aros yno yn hir. A'r lle nesaf i Studwals ydyw Hell's Mouth—genau uffern. Felly chwithau sydd yn y seti pell yna; mae arnaf ofn mai troi i fewn am gysgod dros ychydig yr ydych. Gwyliwch, Hell's Mouth yw y lle nesaf atoch chwi."
Meddai ddawn arbenig i ddarlunio cyıneriadau. "Am J," meddai unwaith, "mae o yn dân i gyd, ond tân shavins yw ei dân o hefyd; ond am P, gwyliwch rhagddo, tân powdwr ydi ei dân o." "Beth yw y gwahaniaeth rhyngddynt, Mr. Davies?" meddai cyfaill. "O, tân shavins, fyddwch chwi damaid gwaeth ohono, ond mae y tân powdwr mae yn duo y croen am byth."
Wedi bod yn gwrando offeiriad a ystyrid yn bregethwr gwych, dywedai, " Yr oeddwn yn ei weled fel iâr yn y dwfr, ni wnaiff foddi ac ni fedr nofio, ond y mae yn ysgwyd ei hadenydd nes cyrhaedd y làn ryw fodd."
"Mae y gloyn byw wrth ehedeg yn yr ardd yn edrych yn ddigon diniwed, ond y mae yna hadau dinystr i'r llysiau yn ei ymweliad; felly mae y rhai sydd yn cario chwedlau, y maent yn ehedeg yn ddigon. difyr, ond y maent yn cynyrchu lindys niweidiol ar eu hol."
"Y bobl sydd yn anfon llawer o lythyrau sydd yn derbyn llawer, felly rhai sydd yn anfon i'r nefoedd yn aml sydd yn derbyn oddiyno yn barhaus."
"Mae y Post yn rhoddi llythyrau allan bob boreu, ac y mae yn debyg fod y nefoedd yn gwneud felly."
"Fe geir y cyfeiriad yn eglur ar bob llythyr, ond nid oes neb yn deall yr hyn sydd oddimewn iddo ond ei berchenog—' Ac a roddaf iddo gareg wen, ac ar y gareg enw newydd wedi ei ysgrifenu, yr hwn nid edwyn neb ond yr hwn sydd yn ei dderbyn.'
"Mae yn berygl i ni fod yn fwy parod i weddio yn gyhoeddus nag yn y dirgel. Fel ambell i wraig yn fwy parod i wneud bwyd i eraill na gwneud tamaid iddi ei hun, er fod arni ei fawr eisiau."
"Y mae sylw mawr ar ddyn a fyddo wedi bod yn hir mewn gwlad bell a dychwelyd yn ei ol—pa olwg fydd arno, a beth ydyw ei hanes wedi bod? Yr oedd tad y mab afradlon am gadw ei dlodi o'r golwg â'i gyfoeth ei hun. Y mab ei hun oedd yn cyfaddef ei ffolineb a'i dlodi. Felly y pechadur sydd yn cyfaddef, a Duw yn cuddio."
'Chwenychwch ddidwyll laeth y gair '—'y didwyll laeth,' ar ymyl y ddalen, ' Y digymysg laeth;' a'r ganmoliaeth uchaf a allwch ei roddi i laeth ydywdigymysg. Y wraig yn dweyd, 'Yr wyf wedi cael amryw bethau o Lundain, ac wedi eu cymysgu, ac oherwydd hyny y mae genyf laeth campus. Na, y mae wedi ei andwyo—y ganmoliaeth oreu a ellwch ei roddi i'r llaeth ydyw, y 'digymysg laeth.' "
Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws ac yn curo; os clyw neb fy llais i, ac agoryd y drws, mi a ddeuaf i mewn ato ef, ac a swperaf gydag ef ac yntau gyda minau.' Chwi sydd yn ngwasanaeth yr un drwg, y mae yn o lew hwyrach yn y boreu—yn myned yn waelach at ganol dydd, ond dyffeia i chwi am swper; ond mae rhai ohonom ni yn ngwasanaeth yr Iesu. Y mae yn dda yn y boreu, yn gwella at ganol dydd, ac yr ydym yn wynebu at swper gogoneddus. Y rhai a gollwyd oddiyma, eu colli yn swpera gyda'r Iesu a wnaed."
"Fe ellir meddwl fod amryw ranau o wasanaeth y tabernacl gynt yn cyd-ddechreu—cyneu tân ar allor y poethoffrwm, a threfnu y bara gosod ar y bwrdd, a pharotoi yr arogldarth i'r allor aur; ond gwaith Aaron oedd goleuo y lampau, a hwn oedd y mwyaf pwysig o'r cwbl, oblegyd ystafell dywell oedd pabell y cyfarfod. Felly eto, ystafell dywell ydyw pob moddion o ras, ac nis gellir myned yn mlaen gydag un rhan o'r gwasanaeth oni oleuir y lampau; a gwerthfawr iawn ydyw y person hwnw a all ddyfod â thewyn i mewn i oleuo Tŷ yr Arglwydd."
"Yr oedd yn rhaid i bob un o'r Lefiaid a'r Nazareaid a fyddai wedi ei aflanhau fyned o dan yr ellyn. Byddai raid tori ei wallt a'i farf, &c. Mae gwallt y ffair, a'r ffarm, a'r siop, yn annghymhwyso dyn yn fawr eto at wasanaeth y cysegr. Gwerthfawr iawn ydyw pedair blynedd yn yr athrofa i fyned o dan yr ellyn."
"Yr oedd meibion Israel yn rhoddi eu dwylaw ar y Lefiaid, ac Aaron yn eu hoffrymu i'r Arglwydd; ac yr oedd y Lefiaid i osod eu dwylaw ar ben y bustach, a hwythau, yr un ffunud, yn offrymu hwnw i'r Arglwydd. Mae yn rhaid i'r bobl eto ein hoffrymu ni i'r Arglwydd, ac y mae yn rhaid i ninau offrymu ein hunain, yn rhinwedd aberth Iesu Grist, i fod yn gymeradwy yn ei wasanaeth."
"Gelwid y Lefiaid yn nyddiau Moses i filwrio milwriaeth yn ngwasanaeth pabell y cyfarfod, gan ddechreu yn bump ar hugain oed—yn nyddiau Dafydd yr oeddynt i ddechreu yn eu hugeinfed flwydd—a pharhau hyd haner can' mlwydd oed, ac yna i oruchwylio. Mae yr Arglwydd yn gofalu na byddo yr un o'i weision o dan ormod baich. Pwnc mawr a phwysig ydyw i hen swyddwyr i wybod yr amser i roi i fynu 'filwrio' a dechreu goruchwylio; a niwed mawr i'r achos yw fod ambell un yn dal i 'filwrio' wedi i amser rhifedi y blynyddoedd ddyfod i fynu."
"Gwers dda a roes rhyw ddyn i hen ffarmwr oedd yn rhedeg ei hun i bob neges o'r boreu gwyn hyd y nos, ac yn dweyd, 'Mae'n rhaid i mi fyn'd. 'Does gen i neb a wnaiff y gwaith, y mae galw arnaf o bob cyfeiriad.' 'Wel,' meddai y cyfaill wrtho, 'y mae yn rhaid eich bod yn ddyn sâl iawn pan yr ydych wedi magu plant mor ddiddaioni. '"
"Pan fyddai y golofn gwmwl yn codi ac yn cychwyn, yr oedd y gwersyll yn yr anialwch yn cychwyn. Mae lle i ofni fod rhai am gychwyn y dyddiau hyn cyn cychwyn o'r golofn. Gwneud diwygiad ac nid ei gael. Ofer hollol fydd y gwaith. Y Golofn sydd i arwain. Cyfoded Duw' ydyw y gair cyntaf yn holl symudiadau y gwersyll."
"Yr oedd yr Arglwydd yn caniatau i'r rhai a fyddent yn annghyfleus i fwyta y Pasg yn ei amser, am eu bod wedi eu halogi gyda chorph marw, i gael bwyta y Pasg yn mhen mis drachefn, fel y caffont hwythau hefyd gyfranogi o'r wledd Mae rhyw anfanteision i rai ohonom ninau i gael y Pasg yn ei amser, ond os nad allwn ddyfod yn mlaen ar y cyntaf, disgwylir i ni ddyfod yn mlaen ar yr ail gyfleusdra—y pedwerydd ar ddeg o'r mis drachefn."
"Mae yr Arglwydd Iesu yn datguddio ei hun i'w bobl mewn amrywiol a gwahanol ffyrdd. Gwna hyny i Mair mewn un gair, a'r gair a glywodd lawer gwaith o'r blaen ganddo. I'r ddau ddysgybl trwy ymddyddan â hwy nes i'w calonau losgi ynddynt, ac ar doriad y bara. I eraill trwy ymddangos a chyhoeddi 'Tangnefedd.' I Thomas trwy ddangos ei ddwylaw a'i ystlys. I'r dysgyblion wrth y môr trwy ddatguddio ei ofal am danynt yn y pethau cyffredin."
"Fe dybiodd Mair wrth y bedd yn yr ardd mai y garddwr oedd yr Iesu. Mae llawer eto mewn gwahanol amgylchiadau yn debyg—Hithau yn tybied mai y garddwr oedd Efe '—tybied hwn ac arall hyd nes i'r Iesu lefaru. Dystawrwydd yr Iesu yn peri i lawer ei gamgymeryd."
"Nid ydyw angau yn newid natur y dyn wrth ei symud. Fel y mae yn ei gael felly y mae yn ei drosglwyddo i fyd arall. Y mae ceidwad y carchar yr un boreu yn agoryd cell un i fyned adref at ei deulu ac yn agor y drws i'r llall i fyned i'r crogbren."
"Y dydd y llefais y'm gwrandewaist;' 'Am iddo ostwng ei glust ataf, am hyny llefaf dros fy nyddiau arno Ef.' Wedi iddo ddechreu rhoi ni chaiff lonydd genyf bellach. Gofynai y Frenhines Elizabeth i Raleigh, 'Pa bryd y rhoddwch i fynu ofyn?' Pan y rhydd eich Mawrhydi i fynu roddi,' meddai yntau.
"Bwrw dy hun i lawr,' meddai y diafol wrth yr Iesu. Nis gallasai y diafol wneud hyny, onide buasai yn cyflawni y gwaith gyda'r parodrwydd mwyaf. Felly y mae gyda phawb. Mae yn rhaid i'r dyn fwrw ei hun i lawr. Ei waith ef ei hun ydyw dinystrio ei hunan; nis gall y diafol ond ei demtio i hyny."
"Yr wyf yn cofio ar dywydd sych iawn yn mis Mai, nad oedd yr un aderyn yn y goedwig yn canu, na boreu na hwyr; ond pan ddaeth y gwlaw yr oedd yr adar i gyd yn canu nes llanw y goedwig â'u mawl. Felly y mae ar Seion pan y mae yn sych iawn, y mae y telynau ar yr helyg—dim sain cân a moliant yn ei phyrth, na llais rhai yn gorfoleddu yn ei heolydd; ond pan yr ymwel Duw â'i bobl fe dorir ar y dystawrwydd, ac fe glywir adar Seion Duw yn molianu yn eu hiaith bob un. Mor adfywiol ydyw gwlaw mis Mai—mae y ddaear yn yfed y gwlaw '—pob llysieuyn yn ei sugno. Mae pobpeth byw yn ei yfed yn awchus, ac y mae y gwlaw hwn yn cyfnewid gwyneb y ddaear. Gwlaw mis Mai ydyw ymweliadau Ysbryd yr Arglwydd—
Cawod hyfryd yn y boreu,
Ac un arall y prydnawn."
Ffydd yn gweithio trwy gariad. Ffydd sydd yn agoryd y fflodiart i gariad lifeirio i droi holl olwynion gwaith—mae y peiriant yn myn'd wedi i ddyfroedd cariad ddisgyn ar yr olwynion. Cariad sydd yn gweithio—cariad at Grist oedd yn golchi ei draed ac yn tywallt y nard gwlyb gwerthfawr ar ei ben; a chariad eto sydd yn eneinio pen ac yn golchi traed ei achos; ac y mae ambell i Pharisead yn ymddoethi yn fawr yn yr olwg ar hyn. 'Y golled hon,' meddai y bradwr. Yr oedd pen Judas yn llawn cynlluniau a ffigyrau, ond ei galon yn wâg o gariad."
"Wedi ei demtio yn mhob peth.' Bu ein Ceidwad mewn ofn, yn gweddio trwy lefain cryf a dagrau. oedd uffern wedi dyfod allan yn ei holl allu yn ei erbyn, ac yn ymwthio i'w olygon yn y ffurfiau mwyaf ofnadwy—fel cŵn yn ei amgylchynu, gan chwyrnu yn fileinig ac ysgyrnygu danedd arno; fel seirph yn chwythu eu gwenwyn, ac yn estyn eu colynau tuag ato; fel teirw wedi ymgynddeiriogi yn rhuthro arno, ac fel llewod creulon yn rhuo ac yn dynoethi eu danedd yn ei wyneb; a'r cwpan chwerw, sur, yn cael ei hestyn iddo i'w hyfed."
"Cawn fod meibion Israel wedi blino ar y manna ac yn ei alw, 'Y bara gwael hwn.' Yr oedd yn eu mysg lawer o Aiphtiaid—'y lluaws cymysg' y'u gelwir. Teulu Gwlad yr Aipht—y 'lluaws cymysg'—sydd yn anfantais eto i Israel Duw. Y maent yn anhawdd eu boddio, ac yn cwyno rhag y fywoliaeth gyson a difoethau. Fe geir rhai yn y gwersyll eto yn chwenychu y cig, y pysgod, y cucumerau, y pompiwn, y cenin, y winwyn, a'r gerllyg—eisiau newid y pregethwyr, llais arall, dynion eraill, doniau eraill. Eisiau merched i bregethu, a chynhwrf, a gwaeddi, a therfysg. Y maent yn beio ac yn beirniadu ac yn blino ar foddion cyson yr Efengyl—Crist a'i groes, yr efengyl syml a'r iachawdwriaeth ddiaddurn yn ddiflas ganddynt, a grwgnachant am foethau i ateb i'w błys cnawdol ac anianol eu hunain. Dynion anesmwyth a pharod i feio pob peth ond hwy eu hunain—dim yn iawn, na neb yn iawn, am nad ydynt hwy yn iawn. Yn eu harchwaeth hwy y mae y diffyg. Diwedd y bobl hyn ydyw mynwent Cibroth—Hataafah. Fe'u claddwyd yn meddau y blys."
"Y mae yn rhaid llafurio gyda'r ordinhadau er eu cael yn fendithiol. Nid oedd y manna i'w gael nac yn gymhwys heb lafur gydag ef. Yr oedd yn rhaid ei gasglu yn foreu—nis gallasai pobl oedfa'r nos yn unig ddim cael manna—ac wedi ei gasglu yr oedd yn rhaid ei falu a'i guro a'i ferwi."
"Iachawdwriaeth gwaed Crist a wna drefn ar y byd. Y mae y gwaed hwn yn glanhau oddiwrth bob pechod. Hwn sydd yn glanhau oddiwrth feddwdod, a lladrad, a thwyll, a chelwydd, a chybydd—dod, a balchder, ac aflendid, ie, oddiwrth bob math o bechod. At Hwn y dylem arwain dynion. Y mae y rhieni i arwain eu plant ato—athrawon ac athrawesau i ddwyn eu dysgyblion ato. Beth bynag fyddo y wybodaeth a gyfrenir genych, y mae yn fyr ac aneffeithiol heb i chwi arwain eich dosbarthiadau at ffynon gwaed Crist. I'r fan hon y mae y pregethwr i ddenu ei wrandawyr. Mae lle i ofni y bydd dynion yn codi i fynu yn y farn yn erbyn ambell i bregethwr gan ddweyd yn ei wyneb ei fod wedi manylu ac ymddoethi gyda chwestiynau anorphen a chuddio o'r golwg yr unig fan am feddyginiaeth, Mae arswyd arnom i feddwl fod lluaws, er pob moddion, fel Hagar a'i mab yn cael eu gadael yn ymyl y ffynon yn yr anialwch i drengu am eu bod heb ei gweled."
"Peidiwch gofyn cwestiynau cywrain a ffol yn nglŷn â'r Beibl. Dyna i chwi un cwestiwn a glywais i yn cael ei ofyn lawer gwaith am y sarph bres, sef a oedd yno dro yn ei chynffon? Nid higher critics oedd y tylwyth yma, mae'n eglur, oblegyd eu dysgeidiaeth hwy yw nad oedd ganddi gynffon o gwbl."
""Ni watworir Duw." Ni all neb gymeryd Duw i mewn—Duw nis gellir ei dwyllo. Ni all neb fyned drosto neu heibio iddo Ef. Neu, yn ol un darlleniad, 'Troi ei drwyn arno.' Ni thycia i neb droi ei drwyn arno. Mae gan ambell un drwyn anferthus os byddwn yn myned i ofyn rhyw gymwynas, neu i erfyn arno gyfranu at rhyw achos da—troi ei drwyn y bydd ar bobpeth felly; ond nis gall neb wneud hyn mewn gwawd gerbron Duw."
"Y Gwirionedd ydyw maes llafur y gweinidog. Yma y mae i gael ei gynaliaeth ei hun, ac oddiyma y mae i gael y defnyddiau tuag at adeiladu ei wrandawyr. Dyma y gloddfa lle y mae i godi meini at waith yr adeilad. Hon ydyw y goedwig y mae i fyned iddi am ddefnyddiau at yr holl waith. Os ydyw fel Noe am adeiladu arch, dyma lle y mae coed Gopher; neu os arch y cyfamod a wneir, dyma lle y mae coed Sittim. Os ydych am adeiladu teml, yma y mae cedrwydd Libanus ati. Y Gwirionedd hefyd ydyw gwlad Hafilah, lle y mae yr aur, ac aur y wlad hono sydd dda. Ac os ydych fel llawer am ddelio yn y perlau a'r meini gwerthfawr, 'yma mae y bdeliwm a'r meini onix.' Ac y mae yma beth annhraethol fwy na chael defnyddiau at waith yn y Gwirionedd y mae bywyd tragwyddol y gweinidog a'i wrandawyr."
Dylai y gweinidog wylio rhag i'r ymgeledd golli oddiar ei ysbryd ef ei hun, onide fe gyll ei nerth. Di-son iawn am dano oedd Abraham yn amser ei wrthgiliad, ac felly Moses pan yn nhir Midian. Amser o ddystawrwydd oedd ar Dafydd hyd nes y dychwelwyd ef ar ol ei gwymp. Diddefnydd oedd Jonah pan yn ffoi i Tarsis. Ac felly Pedr, nid oes air o son am dano wedi'r gwadu hyd foreu y trydydd dydd pan yr adgyfodwyd yr Iesu ac yr adferwyd yntau."
"Mae o'r pwys mwyaf i weinidog yr efengyl fod o dan ymgeledd yr efengyl ei hunan, Dyma y dyn a all ddweyd am rinweddau y meddyg ac effeithiolrwydd y feddyginiaeth. Y pren sydd yn tyfu sydd yn dwyn ffrwyth. Nid oes un pren gwywedig yn ffrwytho. Y mae y finger post yn dangos y ffordd i bobl eraill, ond heb gerdded cam ohoni ei hun, ac heblaw hyny y mae yn pydru ar ei ben yn y ddaear."
"Y mae ganddo ewinedd miniog iawn,' meddai am un mewn rhyw swydd. 'Paham na thorwch chwi hwynt, Mr. Davies?' meddai cyfaill. Pe torech ei ewinedd,' ebai yntau, 'ni fyddai fawr yn aros ohono.' "
Yn hanes Cyfarfod Misol a gynaliwyd yn y Dyffryn pan y derbynid nifer o flaenoriaid, ceir rhan o'r anerchiad a draddodwyd ganddo iddynt yr hwn y dywed yr ysgrifenydd ei fod yn rhagorol o dda—"Sylwai fod gan y blaenoriaid le mawr i enill rhai at grefydd ac i beri i achos crefydd lwyddo yn yr ardaloedd y byddont yn byw. Y maent i fod yn olygwyr i fwrw golwg dros yr achos yn ei holl gysylltiadau 'gan edrych yn ddyfal na bo neb yn pallu oddiwrth râs Duw.' Mae ganddynt hwy fantais i wybod pwy fydd yn dyfod i foddion gras, a phwy na fydd yn dyfod. Gofalu am y cleifion a'r profedigaethus hefyd sydd yn rhan o'u gwaith hwy, chwilio am y rhai sydd felly a hysbysu i'r gweinidog a'r eglwys am danynt. Anogai hefyd iddynt fod yn flaenoriaid croesawgar, na byddo gormod pellder rhwng y sêt fawr a'r llawr a'r drysau, ac na byddo y sêt fawr yn sêt fawr stiff, fel y gwelir hi weithiau, a gwyrth ydyw y blaenoriaid hyny sydd bob amser at yr adeg. Mantais fawr ydyw fod y blaenoriaid yn rhanu y gwaith, ac nid gadael gormod o waith i'r un un. Fel y mae i bob dyn ei ddawn ei hun, felly y mae i bob blaenor ei waith ei hun; eto, dylent gydweithio a chydymgynghori yn mhobpeth, a doethineb fawr mewn blaenor, fel yn mhawb arall, ydyw gwybod am yr amser goreu i dewi."
Sylwai hefyd ar berthynas y blaenoriaid a'r gweinidog. Nid gweision ydynt hwy i fod, ond cydweision—cydweithio gyda gwaith yr Arglwydd. Y mae yn rhan o'u gwaith i ofalu fod y gweinidog yn cael ei gydnabod am ei lafur; ond y mae eu cydymdeimlad yn fwy o werth o lawer nag arian; er talu i'r gweinidog mewn arian gellir ei ladd trwy ddiffyg cydymdeimlad âg ef. Yr oedd gan yr hen ryfelwyr gynt gludwyr arfau. ac yr oedd y rhai hyny yn rhai medrus a ffyddlon. Gwyn ei fyd y gweinidog y mae iddo gludydd arfau yn dwyn tarian o'i flaen. Yr oedd gan Mr. Humphreys gludydd arfau yn y Dyffryn ac yn Penal, y rhai a barhasant yn ffyddlon iddo i'r diwedd, ac y mae y ddau yma heddyw, meddai, yn para i gludo yr arfau. Yr oedd gan Mr. Morgan gludwyr arfau, y rhai yr oedd yn rhoddi gwerth mawr arnynt, a'r rhai a fu yn help mawr iddo ryfela yn ddewr o blaid teyrnas y Gwaredwr."
Gallesid ychwanegu lluaws o'i sylwadau, ond ymataliwn ar hyn, gan obeithio y byddant wrth eu darllen yn foddion o ras i rai fel y buont i laweroedd o'i enau ef.
PEN. XVII.—Cydgynorthwywyr i'r Gwirionedd.
Un Cyfarfod Misol i'r holl sir.—Llafur i deithio.—Y gydnabyddiaeth.—Heb ddechreu cyhoeddi ystadegau.—Cwestiynau yn cael eu gofyn yn y Cyfarfodydd Misol.—Enwau pregethwyr y sir.—Teithiau Sabbothol y Cyfarfod Misol.—Richard Jones, Bala.—John Williams, Dolyddelen—Cadwaladr Owen.—John Williams, ieuengaf.—David Rees—William Hughes.—John Jones.—Cyfarfod Dirwestol—Mantais ar gyfeillion.—Yr holl fintai wedi huno.
BUASAI cloi i fynu ein sylwadau heb air o son am gyfoedion a chydlafurwyr y Parch. D. Davies ar gychwyniad ei yrfa weinidogaethol yn gam â'i goffadwriaeth ef ac hefyd â choffadwriaeth yr amserau hyny; ac yn y bennod hon bwriadwn gymeryd cipdrem frysiog—yr hon sydd yn rhwym o fod yn dra anmherffaith—ar y cylch yr oedd yn troi ynddo fel pregethwr.
Yr adeg y dechreuodd bregethu, yr oedd Penmachno yn perthyn yn Fethodistaidd i sir Feirionydd, a'r ddau pen i'r sir yn un Cyfarfod Misol. Yn y flwyddyn 1840, yn mhen oddeutu pum' mlynedd ar ol iddo ef ddechreu pregethu, y rhanwyd y sir. A phan gofir nad oedd ond ychydig o gyfleusderau teithiol yn y wlad y pryd hwnw, a bod yr hen bregethwyr ar bererindod mynych ar hyd ffyrdd anhygyrch o'r naill ben i'r llall i'r sir, yr oedd eu llafur yn fawr a'r gydnabyddiaeth a gaent yn hynod fechan.
Nid ydym yn sicr nad oedd eu dull o deithio yn fantais hefyd i feithrin cyrph cryfion a lleisiau peroriaethus iddynt hwy, ac y gall cryn dipyn o ysbrydoliaeth y pregethwr fod yn cael ei golli yn nghlustogau y trains yn y dyddiau hyn, a bod diffyg ymarferiad corphorol yn gwneud lluaws ohonom yn fwy diymadferth na'n tadau.
Ceir yn nghofnodion dirgel llawer eglwys ddatguddiedigaethau rhyfedd ar bwnc y degwm. Ystyrid swllt yn gydnabyddiaeth barchus am bregethu, a hyny i ddyn a fyddai wedi teithio deugain milldir neu fwy, a byddai deunaw yn cael edrych arno fel rhywbeth yn ymylu at fod yn wastraffus, ac yn llyfr ambell i flaenor fe welir y swm o chwe' cheiniog ar gyfer llawer enw.
Pellder ffordd, fel rheol, heblaw enw y pregethwr, a fyddai yn amrywio y gydnabyddiaeth; ond deuai pethau eraill ar brydiau i ddylanwadu ar feddwl y swyddog a ddygai y gôd. Clywsom am un yn gwneud gwahaniaeth bychan yn y gydnabyddiaeth i ddau weinidog a ddeuent o'r un man, a'r hwn a ystyrid y pregethwr goreu gan farn gwlad a dderbyniodd y swm lleiaf. Pan y gofynid y rheswm iddo am y gwahaniaeth, ei ateb ydoedd, "Yr oedd P yn pregethu Calfiniaeth iach, a chwe' cheiniog am yr athrawiaeth oedd hwna."
Mewn un llyfr hefyd gwelsom "gwr dierth" i lawr yn dra chyson, a chwe' cheiniog ar ei gyfer, a'r esboniad a roddid iniary "gwr dierth" ydoedd mai diod frâg at wasanaeth y capel oedd. Ymddengys nad oedd yn wr mor "ddierth" cyn "amser y diwygiad dirwestol; ond y mae yn eglur fod rhai o'r hen frodyr da yn rhy swil i'w alw wrth ei enw ei hun y pryd hwnw.
Ni chedwid cofnodion manwl o hanes y Cyfarfod Misol yr adeg hono, ac ni chyhoeddid ystadegau. Gofynid cwestiynau gan y cadeirydd yn y Cyfarfod Misol, a disgwylid cael ateb gan bob eglwys; a phan yr oedd y tân dirwestol wedi ei gyneu, gofynid cwestiwn i'r holl eglwysi ar eu perthynas âg ef. Y mae hanes am y diweddar Barch. Richard Humphreys yn gofyn y cwestiynau un tro yn Nghyfarfod Misol y Bala, ac meddai, "Pwy sydd yma o Bettwsycoed?" "Yr ydw i yma," ebai J. J. "Beth ydyw nifer y cymunwyr acw?" Nododd yr hen flaenor sionc y rhif ar unwaith. Elai y cadeirydd yn mlaen, a gofynai, "Pa nifer ohonynt sydd yn ddirwestwyr ?" " Y mae nhw i gyd." "Ai nid oes acw yr un heb fod, J. J.?" meddai y llywydd. "Nac oes ddim un," ebai yr hen flaenor selog, "ac ni ddaw acw ddim un tra y bydda i acw ychwaith." "Capel Garmon—Pa nifer o gymunwyr sydd acw?" gofynai y llywydd. Atebai W. J., yr hwn oedd gymeriad hynod. "Pa nifer ohonynt sydd yn ddirwestwyr?" " Y mae nhw i gyd ond un," ebai yr hen flaenor pert, "ond y mae amheuaeth am hwnw." "Wel," meddai Richard Humphreys, "pa ochr y rhown ni hwnw?" "Rhowch chwi o yr ochr a fynoch chwi, y mae acw amheuaeth cryf am dano."
Yr oedd yn mysg y blaenoriaid yn y tymhor hwn rai dynion cryfion a thra defnyddiol, ond ni chaniateir i ni gyffwrdd â'u henwau yn bresenol; ac yr oedd hefyd yn mhlith y pregethwyr luaws o gymeriadau gwerthfawr—dynion a godwyd ac a arddelwyd gan eu Harglwydd mewn modd diamheuol. Y mae rhestr wedi ei rhoddi yn y Drysorfa am y flwyddyn 1836, sydd erbyn hyn yn dra dyddorol. Cynwysa enwau y pregethwyr ac enwau a threfn y teithiau Sabbothol yn Meirionydd;
ENWAU Y PREGETHWYR
perthynol i'r Methodistiaid Calfinaidd yn sir Feirion—ydd, y rhai a fuont feirw er ys talm, a'r rhai a fuont feirw yn ddiweddar; nid oes genyf ond clywed son am lawer ohonynt, canys buont feirw cyn fy ngeni. Yn ol pob hanes a ellais i ei gael yr wyf yn meddwl mai Evan Moses o'r Bala oedd yr un a ddechreuodd gynghori gyntaf yn y sir hon.
John Moses, ei frawd, a thaid i'r dysgedig Ioan Tegid.
Humphrey Edwards o'r Bala.
Thomas Foulkes o'r Bala.
John Evans o'r Bala.
William Evans o'r Fedwarian, gerllaw y Bala.
Robert Jones o'r Plasdrain, gerllaw y Bala.
Edward Roberts, Trawsfynydd.
John Ellis o'r Abermaw.
Y Parch. T. Charles, Bala.
Griffith Jones, Sarnau, gerllaw y Bala.
Hugh Evans, Sarnau, gerllaw y Bala.
John Davies, Trerhiwaedog, ger Bala.
Hugh Hughes, Bettwsycoed.
Evan Roberts, Sarnau.
David Edwards o'r Bala.
William Hughes, Llanfihangel.
Richard Jones o'r Wern.
David Cadwaladr o'r Bala.
John Roberts, Llangwm.
John Peters, Trawsfynydd.
Dyna i chwi un ar hugain o gedyrn Israel a fuont feirw yn sir Feirionydd, ac nid oedd cymaint ag un ohonynt heb rywbeth neu bethau hynod ynddynt yn mhlith eu brodyr.
ENWAU Y PREGETHWYR
y rhai ydynt yn awr yn fyw. Gosodais hwynt i lawr o hynaf i hynaf, hyd y gallwyf gofio; nid o ran oed, ond fel pregethwyr yn y sir:
1. John Williams, Dolyddelen, hen a methiant iawn.
2. Lewis Morris, Saron.
3. Evan Foulkes, Llanuwchllyn, gwael ei iechyd.
4. Edward Foulkes, Dolgellau.
5. Robert Griffith, Dolgellau.
6. Enoc Evans, Bala.
7. Mr. Lloyd, Bala, gwael iawn a methiant.
8. Hugh Jones, Bettws.
9. Owen Williams, Bryn Crug.
10. Hugh Jones, Towyn.
11. Daniel Evans, Harlech.
12. David Williams, Talysarnau.
13. Richard Roberts, Dolgellau.
14. Lewis Williams, Llanfachraeth.
15. Richard Jones, Bala.
16. David Rowland, Llidiardau.
17. Harri Davies, Glan'rafon.
13. Hugh Edwards, Llandderfel.
19. Richard Humphreys, Dyffryn.
20. Robert Roberts, Parc.
21. Robert Thomas, Llidiardau.
22. Evan Roberts, Seion.
23. Lewis Jones, Bala.
24. William Jones, Maethlon.
25. Cadwaladr Owen, Dolyddelen.
26. Robert Williams, Llanuwchllyn.
27. Samuel Jones, Llandrillo.
28. Evan Morris, Bryn Crug.
29. John Williams, Dolyddelen.
50. John Williams, Dolgellau.
31. Edward Rees, Llanegryn; daeth yma o sir Ddinbych.
32. John Williams, Llanfachraeth; daeth yma o sir Gaernarfon.
33. Robert Evans, Caergai, Llanuwchllyn; daeth yma o sir Gaernarfon.
34. David Rees, Capel Garmon; daeth yma o sir Ddinbych.
35. David Davies, Penmachno
| 36. William Pughe, Tregeiriog |
Heb eu derbyn i'r Gymdeithasfa |
| 37. Humphrey Evans, Eden | |
| 38. Edward Roberts, Maethlon |
39. William Hughes, Penmachno; o sir Ddinbych, heb gwbl sefydlu.
Nis gallaf gofio yn awr am neb arall.
Enwau y capelau fel y maent yn deithiau Sabbothau yn awr. Mae pob tŷ anedd yn argraphedig mewn llythyrenau Italaidd:
1. Corwen, Gwyddelwern, Ucheldre.
2. Tai teg, Gro, Dimel.
3. Langwm, Llanfihangel, Cerygydruidion.
4. Cefnbrith, Rhydlydan, Ty Mawr.
5. Yspytty, Capel Garmon.
6. Penmachno, Rhydymeirch.
7. Bettws, Capel Curig, Dolyddelen, Cyfyng.
8. Capel Celyn, Llidiardau, Talybont.
9. Parc, Llanuwchllyn, Soar.
10. Bala, Capel Mynach, Glyn.
11. Llwynengan, Sarnau, Llandderfel.
12. Glan'rafon, Cynwyd, Llandrillo.
13. Tregeiriog, Llanarmon, Glasaber, Nantir.
14. Carmel, Llanfachraeth, Hendre.
15. Dolgellau, Rhiwspardyn, Hafod-tywyll, Llanelltyd.
16. Corris, Ystradgwyn, Cwrt.
17. Penal, Maethlon, Aberdyfi.
18. Towyn, Bryn Crug.
19. Trinant, Llanegryn.
20. Bwlch, Llwyngwril, Seion.
21. Abermaw, Bontddu.
22. Dyffryn, Gwynfryn.
23. Harlech, Talysarnau.
24. Penrhyn, Siloam.
25. Maentwrog, Ffestiniog, Blaenau.
26. Trawsfynydd, Cwmprysor, Eden, Brynygath (capel yn cael ei adeiladu).
Mae genym, fel y gwelir uchod, ddeg a thriugain o gapelau yn y sir, a thri o ysgoldai na enwyd mohonynt a chapel bychan yn cael ei adeiladu, yr hyn a wna bedwar ar ddeg a thriugain o dai perthynol i'r Corph yn yn y sir.
- Bala.
Y diweddar Barch. Richard Jones o'r Bala ydoedd hwn yn ddiau, ac y mae yn debyg iddo fod yn ysgrifenydd y Cyfarfod Misol am rai blynyddoedd ar ol y diweddar Barch. John Roberts o Langwm. Yr oedd yn ddyn o ddefnyddioldeb a pharch mawr. Gwelir ei enw ychydig nes yn mlaen na chanol y rhestr. Y mae David Davies, Penmachno, fel y gwelir, yn agos i'r gwaelod ar y daflen, oherwydd nid oedd ond prin ddwy flynedd er pan yr oedd wedi cychwyn pregethu. Yr oedd yn un o'r rhai ieuengaf fel pregethwr, ac nid wyf yn tybio y methem wrth ddweyd ei fod o ran dyddiau yr ieuengaf ohonynt i gyd, a hyny o gryn lawer.
Dyma y teithiau yr elai iddynt, ac wele restr o'r pregethwyr oeddynt yn y Cyfarfod Misol pan y derbyniwyd ef iddo, ac nid dynion cyffredin oedd lluaws ohonynt. Y mae yn eu plith hen gymeriadau dyddan a gwreiddiol ag y buasai yn dra buddiol a difyr cael treulio awr neu ddwy yn nghwmni adgofion am danynt. Y ddau Foulk—Evan ac Edward—y rhai oeddynt frodyr yn ol y cnawd, ac o'u gwehelyth hwy fe gododd rhai pregethwyr grymus. Meibion i Evan Foulk oedd Robert Evans, Cae'rgai—pregethwr y ddeddf—a Foulk Evans—pregethwr gwaith yr Ysbryd ar galon dyn—ac amryw eraill a allesid eu henwi, ac y mae yr olyniaeth heb adael y teulu eto.
Enoc Evans oedd hen gymeriad hynod hefyd. Adroddir amryw chwedlau digrifol am dano. Ymddengys ei fod yn uwch na llawer o'i frodyr yn noniau y weinidogaeth; ond prin oedd hi arno yn fynych yn ei amgylchiadau, ac yr oedd hyn yn effeithio ar ei fywyd cyhoeddus, fel na fu mor llwyddianus a llawer o ddynion llai eu dawn; ond yr oedd ei onestrwydd a'i grefydd yn gorchfygu cydwybodau y dynion mwyaf celyd. Adroddir am y diweddar Ddr. Edwards yn ymweled âg ef pan yr oedd mewn cystudd hir a thrwm, ac yr oedd cyfaill a ofnai ei bod yn wasgedig ar yr hen bregethwr wedi ymddiried pum' punt i'w ofal i'w rhoddi iddo. "Y mae cyfaill yn cofio am danoch, Enoc Evans," meddai Dr. Edwards, ac wedi rhoddi pum' punt i mi i'w rhoi i chwi ar yr amod nad wyf i ddweyd ei enw." Yr oedd y newydd da yn ormod i'r hen sant i'w ddal, ac ymollyngai i wylo; ond wedi meddianu ei hun dywedai wrth ei ymwelydd, "Mae o yn ffeind. Pwy ydi o, Mr. Edwards?" "Nid oes genyf hawl i ddweyd pwy ydyw," ebai yntau. "Yr oedd o yn garedig," meddai yr hen bregethwr drachefn, "ond mi fuasai yn dda gen i wybod pwy ydi o." Wel, nis gallaf ddweyd hyny wrthych," ychwanegai Dr. Edwards, "ond os oes genych chwi rhyw air i'w anfon ato, gofalaf am ei ddweyd yn ffyddlawn." "Nac oes," ebai yntau, "am a wn i, ond y gair hwnw
O estyn eto i barhau
Dy drugareddau tirion."
Dafydd Rolant a Robert Tomos hefyd oeddynt gymeriadau na chaed eu cyffelyb erioed ac na welir eu tebyg mwy.
Y rhai oedd yn y cylch agosaf i David Davies pan y dechreuai bregethu oeddynt John Williams, Dolyddelen—y pregethwr hynaf yn y sir y pryd hwnw yn ol y rhestr hon. Bu farw yn y flwyddyn 1839, yn 82 mlwydd oed Ymddengys mai efe a fu y prif offeryn i gychwyn yr achos yn Nolyddelen, a bu o wasanaeth mawr i'r holl gylch. Yr oedd yn ddyn o dymher brysur ac o ysbryd gwresog. Unwaith mewn seiat aeth i geryddu yn drwm y rhai a fyddent yn hir yn chwilio am bennod i'w darllen yn y cyfarfodydd cyhoeddus. "Be ydi yr helynt sydd ar rai ohonoch," meddai, "yn ceisio pigo pennod i'w darllen, yn troi ac yn trosi y Beibl, fel pe na bae yr un bennod yn eich plesio chi? Y mae y Beibl yn llyfr perffaith, a mi ddylech ei ddarllen o yn mh'le bynag yr egyr o; ond yn lle hyny yr ydach chi fel plant anodd eu plesio ar eu bwyd." Galwyd ar frawd i ddechreu y cyfarfod gweddi rhyw noson yn fuan ar ol y cyfarchiad uchod, ac y mae yn ymddangos i'r dyn wneud y cynghor gan agor y Beibl tua'r canol a darllen yn ei flaen. Teimlai y dyn ei hun mewn lle dyrys a dyeithr, a theithiai yn araf a thrwm trwy yr anialwch, a John Williams wedi deall er's meityn cyn iddo orphen mai yn yr Apocrypha yr oedd yn darllen ac yn anesmwyth o'r herwydd. Ac wedi i'r dyn gyrhaedd y pen y mae yn dweyd, 'Fel yna y mae darllen y drydedd bennod o Lyfr, o Lyfr—," ond methai yn ei fyw a dweud enw y llyfr, naill ai oherwydd dyeithrwch y gair iddo, neu oblegyd graddau o wylder i'w ddweyd. Gwnaeth ymgais drachefn—" yn Llyfr—," meddai, gan fethu symud dim yn mlaen. Ar hyn, collodd yr hen weinidog ei amynedd, a gwaeddodd allan, "Yn Llyfr Tobit dywed." Ni roddodd y cynghor ar ol hyny. Yr oedd yn ddysgyblwr chwyrn fel lluaws o'r hen dadau. Braidd nad oedd yn llawn cymaint o foddion gras iddynt gael troi dyn o'r seiat a'i dderbyn i mewn yn fynych. Priododd dyn yn Nolyddelen eneth ddibroffes, ac ymddengys fod y dyn yn aelod gweithgar yn yr eglwys, a'r eneth o gymeriad dichlynaidd, ond heb ymuno eto â'r seiat. Yn y cyfarfod eglwysig cyntaf, gelwid y troseddwr yn mlaen gan yr hen weinidog, ac meddai, "Wel, D, y mae yn ddrwg genym orfod dy dori allan, a thithau yn ddyn gweithgar a defnyddiol mewn llawer cylch. Sut y buost ti mor drwstan a thithau yn gwybod y Beibl a'r Cyffes Ffydd?" Yr oedd D. yn gall, a gwnaeth yr amddiffyniad cryfaf, fel y tybiai ef, iddo ei hun. Wel, Sion William," meddai, "mi wnes i ngoreu i beidio myned y tu allan i'r eglwys yma i chwilio am wraig ond yn hollol aflwyddianus, a 'doedd dim i'w wneud ar ol hyny ond priodi yr agosaf i'r seiat a allaswn ei chael." Teimlodd y gweinidog rym yr amddiffyniad, ac yn mhoethder ei deimlad troai at y chwiorydd gan eu cyfarch yn geryddol, " Y mae yn gywilydd i chwi, ferched," meddai, "na fuasai un ohonoch yn priodi D. Dyma fo'rwan yn gorfod myn'd allan o'r seiat o achos eich cyndynrwydd chwi. Bydd ei waed o ar eich penau chwi."
Cadwaladr Owen, yr oedd yntau yn anterth ei nerth a'i lwyddiant y pryd hwn, a bu David Davies ac yntau yn gyfeillion cynes. Buont ar daith gyda'u gilydd fwy nag unwaith. Y daith ddiweddaf a wnaed yn nghyd ganddynt oedd i sir Forganwg.
Yr oedd yr ail John Williams, Dolyddelen, yn nai i'r cyntaf, a gelwid ef, i'w wahaniaethu oddiwrth ei ewythr, yn "John Williams bach." Ni bu hyd ei yrfa weinidogaethol ond prin saith mlynedd, ond yr oedd wedi argyhoeddi y wlad ei fod wedi ei alw gan Dduw i'r gwaith ac wedi ei ddonio yn fawr ar ei gyfer. Bu farw Hydref, 1836, yn 32 mlwydd oed. Yr oedd gan y Parch. D. Davies feddyliau uchel am dano, a byddai yn hyfryd ganddo eu traethu a son am dano hyd ddiwedd ei oes. Gallasai agoshau ato fel pregethwr ieuanc, ac y mae yn dra sicr iddo dderbyn llawn cymaint o fantais, os nad mwy, oddiwrth ei weinidogaeth a'i gyfeillach ag a dderbyniodd oddiwrth un pregethwr arall. Bu yn pregethu o'i flaen yn agoriad capel Rhydymeirch. Ei destyn ydoedd, "Am hyny, na chysgwn fel rhai eraill; eithr gwyliwn a byddwn sobr," a thestyn y Parch. John Williams ar ei ol ydoedd, "Ceisiwn a chwiliwn ein ffyrdd, a dychwelwn at yr Arglwydd." Y mae yn rhaid fod hyn, ni dybiwn, yn y flwyddyn 1835.
Y nesaf ar y rhestr o'i gymydogion ydoedd David Rees o Gapel Garmon, yr hwn oedd o deulu y Reesiaid enwog o Lansannan, ac nid oedd yn fyr, meddir, o'u talentau. Yr oedd yn ddyn meddylgar a chryf, ac y mae yr adgof am ambell un o'i bregethau yn fyw yn meddyliau y rhai a'u gwrandawsant. Er ei fod o ddoniau parod ac yn ddyn o athrylith ni fyddai yn barod i fentro i'r pwlpud heb ragbarotoad manwl. Credai mai y goreu oedd i'w roi yn ngwasanaeth y cysegr—olew coethedig i lusernau y tabernacl. Pan y torodd gwr dyeithr ei gyhoeddiad unwaith yn Nghapel Garmon ceisid ganddo ef gymeryd ei le, "Na," meddai, "nid myned i'r cae gyda chaib i balu ydyw pregethu, eithr y mae yn rhaid i ddyn drefnu ei feddwl pa beth i'w ddweyd, a threfnu ei galon pa fodd i'w ddweyd, ac ond i'r galon a'r deall fod yn weddol drefnus fe ddaw y tafod i'r gwasanaeth yn rhwydd. Nid adnod ar gyfer y pwlpud, eithr ar gyfer y cwrt ydyw ' Na ofelwch pa fodd neu pa beth a lefaroch; canys rhoddir i chwi yn yr awr hono pa beth a lefaroch.' "
Fe welir fod yr olaf ar y rhestr—William Hughes—yn byw yn Mhenmachno. Daethai yno i arolygu cloddfa lechau. Bu yn trigianu yn Llanrwst a Llanfairtalhaiarn, ac aeth trosodd i'r America, a bu yn weinidog llwyddianus am flynyddoedd yn eglwys Racine. Yr oedd ei ddoniau yntau yn rhai poblogaidd, a gwnaeth ddefnydd ohonynt i areithio ar ddirwest. Cynelid cyfarfodydd dirwestol llewyrchus yn Mhenmachno a'r cyffiniau y pryd hwnw, a David Davies a William Hughes—y ddau bregethwr ieuainc—oeddynt yr ymadroddwyr penaf; a diau i'r cyfarfodydd hyn fod yn fanteisiol i'r ddau i "arfer eu dawn" ac i'w meithrin. Cyfododd un arall i bregethu yn Mhenmachno ag a ddaeth i'r golwg yn y cyfarfodydd dirwestol hyn, sef y diweddar Barch. John Jones, yr hwn a hunodd yn yr Iesu y flwyddyn ddiweddaf heb yr un cwmwl ar ffurfafen ei gymeriad, wedi bod yn efengylu am oddeutu deunaw mlynedd a deugain.
Yn y flwyddyn 1837 y cychwynwyd yr ysgol yn y Bala i bregethwyr ieuainc gan y diweddar Dr. Edwards, a dyma eginyn yr athrofa. Felly nid oedd ond ychydig gyda dwy flynedd er pan y dechreuodd David Davies bregethu cyn cychwyniad yr athrofa, a chwynai yn dost ar hyd ei oes na fuasai wedi cael myned yno.
Adroddir hanesyn am dano ef a'r diweddar Barch. John Jones o Benmachno wedi eu cyhoeddi i bregethu mewn Cyfarfod Misol gyda'u gilydd, a'r ddau athraw o'r Bala yn bresenol, ac yr oedd John Jones yn cynllunio ffoi rhag pregethu yn eu gwydd; ond D. Davies yn llawer mwy gwrol ac yn ceisio perswadio ei gydymaith i beidio ymollwng. "Paid a gofalu mwy am danynt," meddai, "nag am goesau cabbage." Pan yr adgofid yr hanesyn iddo yn mhen blynyddoedd lawer, dywedai, "Na, ni fuaswn i ddim yn dweyd peth felly 'rwan. Yr oeddan nhw i'w hofni yn ddigon siwr, ac yr ydw inau yn gwel'd tipyn mwy erbyn hyn ar bethau."
Nid diystyr ydyw son ychydig am gyfeillion boreu ei weinidogaeth. Yr oedd yn un a dderbyniai argraph yn fuan oddiwrth gyfeillion, a diau iddo fanteisio yn fawr ar ddyfod i gyffyrddiad â'r dynion oeddynt ar y pryd o amgylch arch cyfamod Duw.
Y mae pob un o'r fintai wedi dyosg ei arfau er's blynyddoedd bellach,
Eu henwau'n perarogli sydd,
A'i hûn mor dawel yw.
PEN. XVIII.—Pob un yn ei drefn ei hun.
Safle y pwlpud.—Pregethu yn dal.—Cydmaru pregethwyr—Yr efengyl yr un—Y doniau yn amryw.—Nodweddion pregethu goreu Cymru.—Pregethu y Gair—Traethu yr holl gynghor.—Y genadwri yn brofiad.—Perswadio dynion.—Cwbl ymgysegriad i'r amcan.
PA safle a roddir i'r pwlpud yn ein gwlad yn y dyddiau hyn sydd gwestiwn o bwys mawr a chwestiwn ag y teimla dynion, o wahanol syniadau am dano, awydd i'w ofyn. Perswadia rhai eu hunain i gredu nad ydyw yn gymaint o nerth ag y bu, ac na welir mohono eto yn enill y nerth a gollwyd ganddo. Clywir lluaws o'i gyfeillion yn methu peidio datgan graddau o bryder yn ei gylch, a cheir cryn nifer o rai nad oes ganddynt fawr o gydymdeimlad âg ef yn darogan yn hyf nas gall dynion barhau i bregethu yn hir iawn eto, ac nas gall eraill fyned i'w gwrando. Y mae llyfrau yn lluosogi a gwybodaeth yn amlhau, a dynion yn myned i amheu ai nid allent dreulio eu hamser i well defnydd wrth ddarllen llyfrau gartref ar y Sabboth. Cant yn y rhai hyny, meddant, fwy o ffrwyth meddwl, a hwnw wedi ei osod yn fwy trefnus nag a allent gael wrth wrando yr un pregethwr. Ond y mae mewn pregethu, yn annibynol ar ei fod yn sefydliad dwyfol, ddefnydd byw yn nghanol pob cyfnewidiad a chynydd. Y mae yr elfen o bersonoliaeth ynddo nas gellir cael dim a wna ei lle i fynu. Nis gall amlhau llyfrau fyned a lle y llais dynol, ac yn y dyddiau hyn, pan y mae llyfrau yn lluosogi yn gyflym yn mhob cangen o ddysg, y mae darlithiau yn amlhau hefyd. Ac nid ydyw y dyddordeb i wrando pregethau mewn gwirionedd yn gwywo dim yn nghanol ysbryd darllen yr oes hon. Ni bu gwirionedd byw yn cael ei draethu gan ddynion byw erioed yn fwy nerthol nag y mae heddyw, ac os dywedir nad ydyw yr oes hon yn caru pregethu, dylem chwilio am y rheswm dros hyny, nid yn yr oes a'i manteision, ond yn y pregethu.
Y mae tuedd cydmaru pregethwyr y naill oes a phregethwyr oes arall, a diau fod rhai cyfnodau yn hanes gwlad, fel rhai llanerchau ar wyneb y ddaear, ag y mae gwŷr grymusach yn cyfodi arnynt—tymhorau a chymydogaethau mwy ffrwythlawn nag eraill. Fe sonir hefyd am bregethu hen ffasiwn a phregethu yn ol yr arddull ddiweddar, beth bynag a olygir wrth hyny. Dywedai un wrthyf am y Parch. D. Davies, "Pregethwr iawn o'r hen stamp." Dylid cofio fod dywediad fel yna oddiwrth rai i'w olygu fel canmoliaeth ddigymysg; ond pan y disgyna yr ymadrodd dros wefusau eraill, yr ydych i'w esbonio yn y gwrthwyneb. Clywais un oracl yn cyhoeddi yn wynebagored, "Na fuasai John Elias, Christmas Evans, a John Jones, Talysarn, yn fawr o bregethwyr i'r oes hon!" Pe bae y beirniaid hyn yn rhoddi eu corsen fesur ar Paul a Phedr fe'u cyhoeddid hwy fel "pregethwyr o'r hen ddosbarth;" ac y mae ambell un yn meiddio eistedd mewn barn ar Paul, a dweyd, gydag awdurdod anffaeledig, ei fod yn methu yn fawr mewn lluaws o bethau. Y mae duwinyddiaeth Paul wedi myned allan o'r ffasiwn—wedi myned yn "hen ac oedranus ac yn agos i ddiflanu "—" Ti a bwyswyd yn y glorian ac a'th gaed yn brin" ydyw y ddedfryd a gysylltir âg enw yr Apostol!
Y mae yn wir fod i bob oes ei hysbryd a'i thuedd, a bod pregethu i'r oes yr ydys yn byw ynddi y pregethu mwyaf cymhwys ac effeithiol; ond eto y mae rhywbeth na newidir mohono—rhyw elfen o anfarwoldeb—yn mhob gwaith gwirioneddol a wneir, yn mha oes bynag y cyflawnir ef. Pren y bywyd ydyw yn rhoddi "ei ffrwyth yn ei bryd a'i ddalen ni wywa." Onid yw Salmau Dafydd yn adsain teimladau dynion yn yr oes hon fel pe buasent newydd eu cyfansoddi? Ac y mae hynyna yn bod i raddau am bob gwir fardd a gwir bregethwr. Pe gofynid, "Beth oedd dull y diweddar Barch. David Davies o bregethu?" Afreidiol a fyddai ysgrifenu gair ar hyn, gan ein bod eisoes, fwy nag unwaith wedi ceisio yn frysiog dynu darlun ohono fel pregethwr. Rhydd ei bregethau yn y gyfrol hon rhyw syniad am ei ddull o gyfansoddi; ond yr oedd ei ddull o draddodi yn eiddo iddo ef ei hun yn hollol, ac yn hyny nid ydyw mor hawdd ei ddesgrifio. Gallwn feiddio dweyd fod y nodweddion oedd yn mhregethu y dynion goreu a welodd Cymru, yn yr haner can' mlynedd diweddaf, yn ei bregethu yntau. Nid awn i geisio barnu i ba raddau, ond yr ydym yn dal eu bod yno, a dyna y rheswm am y gwaith a gyflawnwyd ganddo a'r perarogl hyfryd sydd i'w goffadwriaeth—rhywbeth mwy na dysg a dysnach nag athrylith.
Yr oedd yn pregethu y Gair. Traethu cenadwri ac nid ymddoethi uwchben dyrysbynciau oedd ei bregethu ef. "Pregetha y Gair," ydoedd cynghor Paul yr hynafgwr i Timotheus y gweinidog ieuanc, a dyma ydyw gwir bregethu o hyny yn mlaen. Nid datgan ein golygiadau ein hunain ar wahanol bethau, eithr cyhoeddi "beth a ddywed yr Arglwydd" ydyw ein gwaith. Yr oedd llai o ddiwylliant yr ysgolhaig ar luaws o'r tadau nag sydd ar eu plant; ond nid oedd neb yn cael lle i amheu difrifwch y prophwyd ynddynt hwy, a phrophwyd yr Arglwydd yw y pregethwr i fod. Ystyrid ef, yn ddiau, fel lluaws o'i frodyr yn y weinidogaeth, yn ddiffygiol mewn rhesymeg; ond yr oedd y rhesymeg oedd yn argyhoeddi dynion i'w theimlo yn fynych yn ei bregethau. Yr oedd yr "ond" a'r " paham" a'r "canys" a'r "gan hyny" yn rhy anamlwg yn ei bregethau gan y beirniaid; ond nid oedd yno yr un "efallai" na "hwyrach" yn nhôn ei weinidogaeth. Llefarai dros ei Feistr, ac yr oedd awdurdod gorsedd y tu cefn i'w genadwri. Gair Duw oedd y cleddyf â pha un y lloriai y gelynion, ac "nid oes o fath hwnw." Dyna dŵr ei arfogaeth, a gwyddai am bob ystafell ynddo.
Meddai hefyd gyffyrddiad byw â'r Gair. "Credais am hyny y lleferais "—nid dysgu yr adnodau a'u dweyd, eithr eu credu a'u llefaru. Os nad oedd gramadeg yr adnod yn cael ei ddirnad yn drwyadl, byddai yr adnod ei hun yn datguddo ei chyfrinach iddo. Yr oedd yn weledydd fel y mae pob gwir bregethwr. Gwelai lawer mynydd yn llawn meirch a cherbydau tanllyd am fod ei lygaid wedi eu hagoryd; ac am ei fod yn weledydd gweledigaethau Duw, y gallai ddweyd y gweledigaethau hyny fel prophwyd gyda'r fath rym yn fynych.
Cyhoeddai hefyd "holl gynghor Duw." Ni chelai ddim ohono er mwyn boddhau neb. Nid pa beth a fyn y bobl, a pha beth a gydsaif â'i boblogrwydd ef ei hun, oedd yn aflonyddu arno. Na, yr oedd yn rhy onest i'w Arglwydd, ac yn rhy gydwybodol i'r gwirionedd i gael ei sarnu gan deimladau felly. Yr ydym yn anffyddlon i'n cenadaeth bwysig os ydym yn cuddio rhyw ran o gynghor Duw er mwyn cyrhaedd ein hamcanion ein hunain. Beth bynag oedd diffygion yr hen dadau, sydd erbyn hyn yn gorphwys, nid oedd y drwg hwn yn cyffwrdd â hwynt i'w llygru. Gofidus ydyw meddwl fod rhai pregethwyr poblogaidd yn mysg y Saeson wedi colli y groes o'u pwlpudau er's amser, ac yn rhy lwfr i son am yr Iawn a'r Aberth rhag merwino clustiau eu cynulleidfaoedd dysgedig—eu tafodau hwy yn rhy fursenaidd i son am bechod, a chwaeth y bobl yn rhy fasw i wrando am dano. Y mae hunan—dwyll yn ymdaenu dros ein cyflawniadau, a'r "Iesu hwn" a groeshoeliwyd ac a adgyfododd ac a bregethid gan yr Apostolion yn cael ei wadu, ac efengyl arall yn llifo i mewn; ond nid oedd udgorn gweinidogaeth ein tadau yn Nghymru yn rhoddi sain aneglur ar y pynciau hyn, a'r Duw a'u daliodd hwy a'n cadwo ninau, eu holynwyr hwy, yn gywir i'r ffydd a ymddiriedwyd i'n gofal.
Hefyd, y mae yr addunedau a wnaed ganddo a'r profiadau a ddatganai yn dangos yn amlwg ei fod ef yn foddlawn i fyned o'r golwg ei hun er mwyn i'r Iesu fod yn y golwg. Yr oedd fel Ioan Fedyddiwr yn galw sylw dynion at yr Iesu, ac yr oedd fel yntau yn foddlawn i ymgolli ac ymguddio y tu cefn i'r Ceidwad. Y mae Ioan, yn anterth ei boblogrwydd, yn galw sylw ei ddysgyblion at yr Iesu—"Wele Oen Duw." Sylwch arno. Edrychwch oddiwrthyf fi at hwnacw," "Wele Oen Duw." Dywedir am Napoleon y Cyntaf yn Ffrainc ei fod yn gwrando ar ddau o brif bregethwyr y wlad hono, a'i fod yn dweyd ei farn am y ddau fel hyn: "Pan y byddaf yn gwrando un o'r ddau byddaf bob tro yn meddwl yn uwch am allu ac athrylith y pregethwr; ond pan yn gwrando y llall bydd dawn a thalent y pregethwr yn myned o'r golwg, ac Iesu o Nazareth yn myned yn uwch ac yn fwy yn mhob oedfa." Galw sylw at yr Iesu oedd amcan ei weinidogaeth yntau, ac ni fyddai yn foddlawn i'r gwrandawyr beidio ei weled. Ni fu yn euog o wneud ymgais i guddio yr Iesu o olwg ei wrandawyr. Dywedir mewn hanesiaeth fod Varelst, yr arlunydd blodeu enwog, wedi tynu darlun o Iago yr Ail; ond fe wnaeth gymaint o flodeu o amgylch y brenin fel y mae yr edrychwyr yn sylwi mwy ar y blodeu nag ar y brenin yn eu canol hwy. Ni chuddiwyd yr Iesu â blodeu ganddo, ond fe bregethai y gwirionedd am dano yn ei symledd nes i laweroedd ei adnabod sel Gwaredwr.
Yr oedd ganddo amcan i'w bregethu—amcan uwch na goleuo a difyru dynion:—"perswadio dynion," ac fe gyrhaeddai y nôd yn fynych. Dywedai Archesgob Whateley am rhyw bregethwr, "Ei fod yn anelu at ddim ac yn ei daro." Nid yr un ffordd y mae pob un yn cyrhaedd y nôd, ond y mae pob gwir bregethwr a'i lygad arno. Yr un ydyw yr efengyl; y mae yn aros yn ddigyfnewid gyda threigliad amser; ond fe'i pregethir gan amrywiol ddynion. Y mae "Duw yr Hwn a orchymynodd i'r goleuni lewyrchu o dywyllwch," yn llewyrchu ar galonau Paul, Apolos, a Cephas, i "roddi goleuni gwybodaeth gogoniant Duw yn wyneb Iesu Grist." Disgyna pelydrau yr haul ar y miliynau blodeu ar y meusydd yr un goleuni ond gwahanol liwiau. Y mae yr efengyl fel y mynydd wedi herio a dal ystormydd yr oesoedd; ond y mae y pregethwyr fel dynion yn cerdded ei lechweddau hyfryd, ac yn syllu ar ei fawredd a'i arddunedd dwy—fol, ac y mae yr argraph a wna y mynydd ar y dynion yn dra gwahanol. Nid ydyw Duw yn creu dynion yr un fath a'u gilydd; ac os gwelwch chwi ddau yn debyg iawn chwi a allwch fod yn dra sicr mai un a wnaeth Duw, ond efelychiad ydyw y llall. Acer holl gywreinrwydd dynion i geisio gwneud eu hunain fel eu gilydd, ni lwyddant ond yn hynod o arwynebol. Y mae yna argraph o hunaniaeth dwfn ar bob dyn, ac fe bery hwn o dan bob amgylchiad; a dyna un o'r pethau sydd yn gosod newydd-deb ar bregethu yr efengyl—yr un gwirionedd, yr "Un Yspryd eithr amryw ddoniau." Y mae yr holl ddyn i fod yn y gwaith o bregethu, a'r pregethwr mwyaf effeithiol ydyw yr un a all roddi mwyaf o argraph ei ddynoliaeth ei hun ar y pregethu.
Yr oedd yntau yn gwbl gysegredig i Dduw yn ei bobpeth, a dyma ffynonell ei nerth a'i lwyddiant. Meddai galon frwd, ac yr oedd ei dafod yn " bin ysgrifenydd buan," ac ni lychwinodd wisgoedd ei swydd. Gogoneddwn Dduw ynddo, a dilynwn ei ffydd; ac wrth daflu ein golwg, yn ol a gweled gwylwyr ffyddlon yn colli oddiar y muriau, a gweithwyr difefl yn gadael y winllan, ymddiriedwn yn y Pen Mawr. Y mae Ef yn fyw i godi eraill i ddwyn yn mlaen ei deyrnas. Ar fedd John Wesley y mae y geiriau, "Gall Duw hyfforddio claddu ei weision a dwyn yn mlaen ei waith." Y mae "coffadwriaeth y cyfiawn" yn etifeddiaeth i'r eglwys ar ol ei ymadawiad.
PREGETHAU.
PREGETH I.—Y Wialen a'r Ffon.
"IE, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed; canys yr wyt ti gyda mi; dy wialen a'th ffon a'm cysurant."—Salm xxiii. 4.
SALM Dafydd ydyw hon, ac y mae ynddi yn llefaru iaith ei febyd. Nis gwyddom pa bryd ar ei fywyd y cyfansoddodd efe hi, heblaw ei fod yn y dechreu yn defnyddio cydmariaeth fwyaf cyffredin ei ieuenctyd, a chyn ei gorphen yn llefaru y pethau mwyaf cyffredin i ddiwedd ei fywyd. Dyn yn edrych yn ol ac yn canfod golygfeydd ei fywyd yn myned heibio i'w wyneb ac yn troi i ganu. Mae yn llefaru yn ei ddull ei hun, ac y mae pob dyn difrifol yn llefaru yn ei ddull ei hun.
Bu lawer gwaith, pan yn fugail praidd ei dad, yn eistedd o dan y berth a'r ddeadell yn pori gerllaw iddo, ac encyd oddiwrtho yr oedd deadellau lawer, a phob un o dan ofal ei bugail neillduol ei hun. Ac yn y fan hono bugail oedd y prif ddyn. Efe oedd rhagoriaeth uwchaf y maes. Arno ef yr oedd dyogelwch a llwyddiant y praidd yn dybynu. A phan y byddai y naill ddeadell yn rhagori ar y llall, meddu ar well bugail na'r llall yr ydoedd.
Ac y mae Dafydd yn dywedyd wrtho ei hun, pan yn gweled ei hun yn y byd yma ar ei daith tua byd arall, "Tebyg i un o'r defaid yma ydwyf finau, ac y mae mor angenrheidiol i mi am Fugail ag un ohonynt. Yr wyf mor analluog i ddarparu ar gyfer fy angen, ac i amddiffyn fy hun yn ngwyneb peryglon, a hwythau. A phwy sydd yn abl i fod yn fugail i mi? Nis gall fy nhad ddim, ac er holl dynerwch fy mam, y mae hithau yn analluog, ac nid yw y ddau yn nghyd yn abl i wneud i fynu yr hyn sydd arnaf fi angen am dano." Ar hyn y mae yn troi at yr Arglwydd, ar ol chwilio y greadigaeth yma yn ofer, ac yn dweyd, "Yr Arglwydd yw fy Mugail; ni bydd eisiau arnaf." A gwel yn yr Arglwydd, ac yn yr Arglwydd yn unig, yr hyn oedd mewn angen am dano. Ac wrth sylwi ar Hollddigonedd y Bugail Mawr ar ei gyfer, y mae yn canu y Salm hon.
I. Y mae yn gweled yn yr Arglwydd fodd i'w ddiwallu, a'i godi uwchlaw eisiau byth—" Ni bydd eisiau arnaf." Beth bynag a fydd yn mlaen, "Ni bydd eisiau arnaf." Diau ei fod yn edrych yn mhellach na chydnabod yr Arglwydd yn ei ragluniaeth. Edrychai Cain at hyny gyda'i allor gynt; ond nid edrychodd yr Arglwydd arno. Ond gallwn fod yn bur sicr fod Dafydd yn edrych at yr Arglwydd yn ei iachawdwriaeth, oblegyd nid ydyw daioni rhagluniaeth Duw ddim ond am hyny o amser byr y byddwn yn y byd a'r bywyd hwn; ac y mae pob dyn sydd wedi ei oleuo am dragwyddoldeb yn teimlo fod cymeradwyaeth Duw a'i faddeuant, a gwaith yr Ysbryd Glân ar ei enaid, yn fwy o bwys na holl bethau y fuchedd hon. Teyrnas Dduw yn gyntaf ydyw hi ganddo.
2. Y mae yn gweled yn yr Arglwydd ddigon i dawelu a boddloni ei feddwl nes ei gynefino â phethau yr Arglwydd. "Efe a wna i mi orwedd mewn porfeydd gwelltog," &c. Wedi boddloni, yn ddiwall, ac yn cynefino. Nid ydyw yr anifail yn cynefino nes gorwedd yn y borfa i gnoi ei gil. Ac y mae y geiriau, "Efe a wna i mi orwedd," a rhyw swn cartrefu a chynefino ynddynt.
3. Y mae yn cael ei adfywio hefyd, "Efe a'm tywys gerllaw y dyfroedd tawel." Nid i yfed ydyw y meddwl penaf, ond i adfywio a dyddanu. Ei ddwyn i ymhyfrydu yn y pethau, "Yna yr ymhyfrydi yn yr Arglwydd." Nid ydyw dyn wedi cael gafael ar bethau crefydd i ddim pwrpas nes y daw i ymhyfrydu ynddynt. Gair mawr mewn crefydd ydyw hwn, ymhyfrydu. Nid cael ei wthio y mae y dyn ŵyr am hwn, ond mae y pethau yn ei ddenu. Nid meddwl am ei ddiwedd ac ofn uffern sydd yn ei gadw i fyn'd. Na, y mae wedi ymgymeryd â phethau teyrnas nefoedd nes y mae yn ymbleseru gyda hwynt, "Hi yw fy myfyrdod beunydd." Y mae "tywys gerllaw y dyfroedd tawel" mewn byw yn dduwiol.
4. Mae yn cael yr Arglwydd yn gyfarwyddwr anffaeledig, " Efe a ddychwel fy enaid; Efe a'm harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei Enw; Efe a ddychwel fy enaid." Rhag myned yn rhy agos i'r anialwch a'r peryglon y mae yn galw ac yn casglu ei braidd yn nes ato. Eu galw yn ol ac yn nes at eu gilydd, yn lle eu bod yn cael eu gwasgaru a'u hysgleifio gan y bwystfilod. "Efe a'm harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder "—llwybrau da, esmwyth, a diberyglllwybrau uniondeb "—rhai dibrofedigaeth.
Ac yn yr adnod a ddewiswyd yn destyn, y mae yn edrych ar bethau ar eu gwaethaf—nid mewn hawddfyd ond yn yr adfyd mwyaf a'r amgylchiadau cyfyngaf—ond nid oedd eisiau newid y Bugail. "Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed; canys yr wyt Ti gyda mi; dy wialen a'th ffon a'm cysurant." Yr ydym ni yn rhai i gyfarfod cyfyngderau. Mae dyn yn myned ar ei draed i gyfarfod blinderau a gofidiau; ac y mae y Salmydd yn edrych ar bethau yma ar eu gwaethaf, a theimla y fath hyder yn ei Dduw, fel y mae yn troi ato yn y geiriau hyn, ac yn ei ymyl yn herio y cyfyngderau mwyaf ar eu gwaethaf. Y mae yn beiddio rhoi challenge i holl orthrymderau y byd allu ei niweidio. Yn debyg fel yr oedd yr Apostol yntau yn dweyd, "Canys y mae yn ddyogel genyf, na all nac angau, nac einioes, nac angylion, na thywysogaethau, na meddianau, na phethau presenol na phethau i ddyfod, nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall ein gwahanu ni oddiwrth gariad Duw, yr hwn sydd yn Nghrist Iesu ein Harglwydd." Ysguba holl greadigaeth Duw gyda'i her. Dyma hyder y Salmydd yma. Beth bynag a ddaw, nid oes arno ddim eisiau newid ei Fugail, ac y mae yn barod i fentro y bylchau culaf yn ei gwmni heb ofni na chrynu dim.
I.—Y mae yn y geiriau ddarlun o'r amgylchiadau cyfyngaf. "Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau." Y mae yr ymadrodd "cysgod angau" yn un cyffredin yn yr Hen Destament. Ceir ef ddeunaw gwaith, ac y mae deg o'r deunaw yn Llyfr Job. Yr oedd y tywyllwch yn hanes y patriarch Job yn gyfryw fel y mae yn teimlo fod "cysgod angau" yn gorphwys arno am fisoedd, ac nid oes yr un ymadrodd yn fwy priodol i'w sefyllfa na hwn pan yr oedd i lawr yn y dyfnder.
Wrth "lyn cysgod angau" y golygir cwm cul, yn llawn o anialwch, creigiau daneddog yn crogi uwch. ben, ac ogofeydd tywyll ar bob llaw, a'r rhai hyny yn cael eu meddianu gan fleiddiaid newynog a bwystfilod rheibus, ac afon ddu, drystfawr yn ymwylltio i lawr dros y meini duon yn y gwaelod. Yn y lle dwl,. pruddaidd, nid oes un pelydryn o haul yn ei gyrhaedd, hyd yn nod ar ganol dydd, i sirioli dim arno—Glyn tywyllwch marwolaeth—Glyn Harod.
Lle ydyw nad oes neb yn myned iddo di fodd, ac y mae swn y teimlad yna yn ngeiriau Dafydd yn y fan yma, "Ie, pe rhodiwn." Pe gorfyddai i mi rodio. Y mae yn lle annymunol i bawb. Nid oes dim cysur i'w ddisgwyl yn y glyn, ond, yn hytrach, pob annghymesur. Mae pawb yn cilio yn ol rhag myned yno. "Mi wn y dygi di fi i farwolaeth," &c., medd un—nid myned ohono ei hun eithr cael ei ddwyn yno. Y mae natur ei hunan yn arswydo rhagddo—" Ie, pe rhodiwn." Nid mi ddymunwn rodio, ond pe byddai raid i mi rodio y lle yn unig—lle nad oes neb yn byw, cartref marwolaeth. Nid oes yno ddim na neb i'w weled i sirioli y teithiwr, ond pobpeth yn pruddhau, yn tywyllu.
Lle y mae pob un yn myned wrtho ei hun. Mae y ddeadell yn cael ei gwasgaru megys cyn myned i enau y glyn, a phob un yn rhodio y glyn wrtho ei hun. Y mae y cwm mor gul ac mor unig fel nad oes yna help llaw neb i'w gael ond y Bugail. Y mae dyn yn myned ei hunan yn mhob cyfyngder mawr—yn rhy unig a phell i ddweyd gair wrtho. Fel y gwelwn ni gyfeillion Job yn eistedd gydag ef saith niwrnod a saith noswaith, yn fud, heb ddywedyd dim, "Canys gwelsant fod ei ddolur ef yn fawr." Ei hun yr oedd Job yn y glyn.
Lle diamddiffyn ydyw. Nid all neb amddiffyn dim arno ei hun. Nid oes yno na lle i ddianc nac ymguddio; y bleiddiaid sydd yn meddianu pob lloches. Mae yn dywyll hefyd, fel na ellir gweled dim ar y ffordd yn mlaen. Mae yn gwbl ddiamddiffyn—" Nid oes un dyn yn arglwyddiaethu ar yr Ysbryd, i atal yr Ysbryd; ac nid oes ganddo allu yn nydd marwolaeth: ac nid oes bwrw arfau yn y rhyfel hwnw "—colli wrth ymladd, colli wrth ildio, nid oes dim yn tycio.
Golygir hefyd yn y geiriau waethaf y glyn. Nid yn unig fod y glyn y lle tywyllaf a'r amgylchiad gwaethaf, ond y glyn hefyd ar ei waethaf, "Rhodio ar hyd glyn;" nid rhedeg, ond rhodio yn araf o ddiwrnod i ddiwrnod. Ar ei hyd hefyd, nid ar ei draws, a phob cam yn myned yn ddyfnach, ac wrth fyned yn mlaen yn myned dywyllach, dywyllach, dduach, dduach; ac felly ddiwrnod ar ol diwrnod i lawr i lawr. Beth sydd draw, tybed? Tywyllwch a marwolaeth, marw, marw, marw sydd draw. Dyma y dyn yn y dyryswch a'r gwendid, a'r dyryswch a'r rhwystrau yn myned yn fwy, a'r dyn yn myned wanach, wanach. "Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau."
II.—Gwelwn gysur cryf y Salmydd. Pan yn craffu ar y glyn du, tywyll, a'r mantelli duon trosto, y mae yn gallu dweyd, "Nid ofnaf niwed;" ac y mae yn dangos i ni hefyd faint a defnydd ei gysur, "Canys yr wyt ti gyda mi; dy wialen a'th ffon a'm cysurant."
Edrychwn yn gyntaf ar raddau uchel y cysur—"Nid ofnaf." Ni phair tywyllwch ac unigedd y glyn ddim arswyd arnaf—" Nid ofnaf niwed." " Ceisiais yr Arglwydd," meddai dro arall, pan yn Gath gerbron Achis, brenin y Philistiaid—" Ceisiais yr Arglwydd, ac efe a'm gwrandawodd ac a'm gwaredodd o'm holl ofn." Ac meddai y Gwr Doeth, "Er hyny, yr hwn a wrandawo arnaf fi a gaiff aros yn ddyogel, ac a gaiff lonyddwch oddiwrth ofn drwg." "Ac y gwaredai hwynt, y rhai trwy ofn marwolaeth oeddynt dros eu holl fywyd dan gaethiwed," ydyw iaith hyder un arall. Nid yw holl ddychrynfeydd y lle yn dwyn ofn arnynt; ac nid yn unig ni raid ofni niwed ond y mae cysur cryf yn ei feddiant.
Yn ail, ni a gawn yma sail neu ddefnydd ei gysur—"Yr wyt ti gyda mi." Presenoldeb y Bugail ydyw ffynon ei gysur. Dyma rinwedd mawr bugail ydyw bod yn wastad gyda'r praidd, peidio gadael y defaid, a dyma yr addewid fawr gan yr Arglwydd i'w bobl, "Mi a fyddaf gyda thi." Felly yr oedd yn addaw i Abraham, "Nac ofna, Myfi," &c., ac felly i Jacob a Moses; a Joseph, dyma asgwrn cefn ei lwyddiant yntau, "A'r Arglwydd oedd gyda Joseph." Yr oedd yr Arglwydd yn addaw bod gyda Moses a chyda'i enau ef, pan yn cychwyn ar ei genadaeth bwysig. Y mae Josuah a'r Prophwydi yn cyhoeddi hyn i Israel, a dyma addewid fawr yr Arglwydd Iesu, "Ac wele yr ydwyf fi gyda chwi," a dyma warant y llwyddiant.
Nid all yr Arglwydd addaw mwy na hyn, ac wrth addaw hyn y mae yn myned ar ei oreu. Dyma ddeuddeg o'r gloch, haner dydd, addewidion yr Anfeidrol ei hun, "Myfi a fyddaf gyda thi." Y mae unwaith yn addaw angel i Moses yn yr anialwch; ond fe ddeallodd Moses yn y fan ei fod yn gostwng yn ei gynyg. "Na," meddai, "Ti a gynygiaist fwy na hyny, ac yr ydwyf am lynu wrth yr addewid hono." "Nac arwain ni i fynu oddiyma, oni ddaw dy wyneb gyda ni." Fel pe y dywedasai, " Angel! na, pa mor gryf bynag ydyw, ni fentraf yn mlaen gydag ef. Creawdwr yr angel sydd yn y cyfamod, ac nid wyf am symud cam ar lai na hyny." Dyma addewid fwyaf Duw, "Myfi a fyddaf gyda thi," a dyma brofiad uwchaf dyn, "Yr wyt ti gyda mi." Os cai di hyn wrth chwilio, ti elli fod yn dra boddlawn pa fyd bynag a fydd arnat ti. Pe baet ti ar y môr mwyaf tymhestlog, y mae yna ddigon rhyngot a'r gwaelod, "Dy noddfa yw Duw tragwyddol, ac odditanodd y mae y breichiau tragwyddol."
Yn nesaf ni a gawn arfau y Bugail. "Dy wialen a'th ffon." Y wialen ydyw y gyntaf. Fe sonir am wialen tad a gwialen brenin. Gwialen i geryddu ydyw gwialen tad, a gwialen i lywodraethu ydyw teyrnwialen brenin; ond nid i'r un o'r amcanion yna y mae gwialen gan y bugail. Gwialen i gyfrif y defaid oedd gwialen y bugail. Fel y mae gwialen tad yn arwyddo ceryddon tad, a gwialen brenin yn arwyddo llywodraeth brenin, felly y mae gwialen y bugail yn arwyddo ei ofal am y praidd.
Cawn amryw o gyfeiriadau yn yr Hen Destament at yr amcan hwn i wialen y bugail "O'r hyn oll a elo o dan y wialen y degfed a fydd cysegredig i'r Arglwydd." A phan yr addewir llwyddiant i'r wlad fe gyfeirir at wialen y bugail i gyfrif—" Ac yn amgylchoedd Jerusalem, ac yn ninasoedd Judah, yr â defaid eto, dan law yr hwn sydd yn eu rhifo, medd yr Arglwydd;" "A gwnaf i chwi fyned dan y wialen, a dygaf chwi i rwymyn y cyfamod." "Myned dan y wialen" ydyw bod dan gyfrif, a phraidd ei ofal sydd felly. Byddai bugail da yn cyfrif ei braidd dair gwaith yn y dydd hwyr a boreu a haner dydd.
Y mae defaid yr Arglwydd Iesu o dan eu cyfrif. Mae gan Fugail Seion wialen i gyfrif ei braidd, ac nid oes yr un ohonynt heb fod o dan ei gyfrif. Mae aml un yn ddigon gwan, ond y mae o dan ei gyfrif; ac ambell un yn gloff, ond y mae o dan ei gyfrif; ac ambell un tua dyfnder y glyn, ond ni chollir ef yno am fod gofal y Bugail yn cyrhaedd gwaelodion isel a thywyll hwnw, y mae o dan ei gyfrif yn y glyn—y wialen yn ei gyrhaedd ac yn ei farcio yno.
Ac er myned i'r bedd y maent dan rif yno. Fel llestri y deml a ddygwyd i Babilon yn amser y caethgludiad, yr oeddynt yn cael eu dwyn yno dan rif, ac ar ben y deng mlynedd a thriugain fe'u dygwyd oddiyno o dan rif, heb yr un llestr bach ar goll. Felly am lestri yr Iesu, y maent yn mhob Babilon o dan eu cyfrif; ac fe'u mynir o Babilon a dyfnder y môr adref o dan eu cyfrif. Pan y mae y Bugail Mawr ar adael y byd, y mae yn troi at ei Dad ac yn son am ei ofal am y praidd gan ddweyd, "Tra fum gyda hwynt yn y byd, mi a'u cedwais hwynt yn dy enw di, ac ni chollais ohonynt ond mab y golledigaeth;" "A hyn yw ewyllys y Tad a'm hanfonodd i; o'r cwbl a roddes efe i mi, na chollwn ddim ohono, eithr bod i mi ei adgyfodi ef yn y dydd diweddaf." Bod dan y wialen sydd yn bwysig, wedi ein marcio fel eiddo y Bugail. Ni chollir mohonwyf yn nhywyllwch y glyn. Paham? Yr wyf yn eiddo y Bugail, y mae ei wialen wedi bod arnaf, yr wyf yn ei gyfrif, ac y mae ei garitor y tu cefn i'w wialen.
Y ffon ydyw y nesaf. Y mae ffon i gynal—ffon yr hynafgwr ydyw hono. Y mae ffon i guro hefyd, "a gurir â llawer ffonnod." "Chwi a ddaethoch," medd yr Iesu, "â chleddyfau ac â ffyn i'm dala i." Ffyn y swyddogion gwladol oedd y rhai hyny. Ond yma ffon y bugail—ffon i amddiffyn. Wrth y ffon yma y deallwn yr amddiffyn—amddiffyn y Bugail dros ei braidd ac amddiffyn Duw dros ei bobl—dy ffon a'm cysura. Yr oedd bleiddiaid y wlad hono yn rhai mileinig, ac fe fyddai yn ymladdfa yn fynych rhwng y blaidd a'r bugail, a byddai "y gwas cyflog a'r hwn nid yw fugail, yr hwn nid eiddo y defaid," yn ffoi wrth weled y blaidd yn dyfod. Gofalu am ei groen ei hun y byddai ef; ond yr oedd y bugail da yn sefyll rhwng y blaidd a'r defaid ac yn arfer ei ffon, yn debyg i Dafydd yn gwaredu yr oen o grafanc y llew ac o balf yr arth. Y ffon oedd gan y bugail i gadw y bwystfilod drwg ymaith.
Y mae gan y Bugail Mawr ffon i amddiffyn. Dywedir am ei braidd, "Y neb sydd yn cyffwrdd â hwynt sydd yn cyffwrdd â chanwyll ei lygaid Ef." Nid all y Bugail Da oddef i'r gelyn gyffwrdd â'r praidd. Y mae ei lygaid ar y lleiaf, y gwanaf yn ei ddeadell, ac y mae yn eiddigeddus am eu dyogelwch—" Gwell fyddai i ddyn roddi maen melin o amgylch ei wddf a'i foddi yn eigion y môr nag iddo rwystro un o'r rhai bychain hyn." Nid all y bugail ddim dyoddef gweled yr un bach yna yn cael cam—y gwas lleiaf ar y ffarm, y forwyn fach yn y tŷ. "Wel, ie," meddai rhyw feistr neu feistres, " y mae eisiau iddynt hwythau ymddwyn fel y dylent." Ie, ie, gresyn na wnaent hyny, ond y mae " rhai bychain a llawer cam o'i le ynddynt—methu yma a methu acw—ond "rhai bychain ydynt. Nid oes fawr o bwys rhwystro peth bach musgrell fel yna nad oes fawr o anrhydedd i grefydd oddiwrtho. Na, gochel er dy fywyd, rhag ofn i'r Bugail Da dy gyrhaedd di a'i ffon. Os myni fyned i'r farn yn annuwiol dy hunan, gwylia rwystro un o'r rhai bychain hyn. Y mae y Bugail yn eu gwylio, ac fe all eu hamddiffyn, ac fe wna. Y mae yn fawr gan y Bugail am bob un ohonynt.
Y mae hanes am Senacherib yn dyfod yn rhy agos i gymydogaeth y praidd wrth neshau at Jerusalem, a'i weision, yn malchder eu calon, yn adrodd ei orchestion—"A waredodd un o dduwiau y cenedloedd ei wlad o law brenin Assyria?" "Mae duwiau Hamath ac Arphad?" "Mae duwiau Sepharfaim?" "Pwy sydd yn mhlith holl dduwiau y gwledydd hyn ar a waredasant eu gwlad o'm llaw i, fel y gwaredai yr Arglwydd Jerusalem o'n llaw?" Buaswn, wrth ddarllen yr hanes, yn dymuno rhoi gair yn nghlust y gwr, Fod yno Fugail a'i ffon yn y gymydogaeth yna ac mai gwell a fuasai iddo gilio draw. Ond erbyn rhyw foreu yr oeddynt wedi myned yn rhy agos at y ddeadell, ac yr oedd y Bugail wedi eu cyrhaedd â'i ffon, nes y mae miloedd o ddynion grymus, rhyfelgar, yn syrthio i beidio codi mwy.
Pharaoh a'i lu, ei feirch a'u marchogion a welwn hefyd yn chwyldroi ac yn dyrysu yn y Môr Coch. Beth ydyw yr achos? Ai gwialen Moses, hen fugail defaid Jethro, sydd yn dinystrio? Na, y mae yna fwy na hyny, y mae ffon y Pen Bugail yn cyrhaedd gelynion ei ddeadell.
Hynod mor ddyogel y teimla y praidd eu hunain o dan nawdd y ffon. "Duw sydd noddfa a nerth ini; cymhorth hawdd ei gael mewn cyfyngder; am hyny, nid ofnwn pe symudai y ddaear, a phe treiglid y mynyddoedd i ganol y môr." "Yr hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf a erys yn nghysgod yr Hollalluog." Yr un peth a olygir yma wrth y Bugail a'i ffon.
Dacw Daniel yn Babilon. Y mae y rhaglawiaid, y swyddogion, y tywysogion, y cynghoriaid, a'r duciaid yn ymgynghori yn ei erbyn, ac yn llunio cyfraith i'w ddal; ond mor dawel y mae Daniel yn edrych o dan amddiffyn y ffon. Nid aeth yr un cam yn gynt na'r un cam yn arafach, ond yn hollol megys y gwnai efe cyn hyny." Paham na b'ai y dyn yn symud? Paham na phrysurai i rywle? Na, y mae yn dawel yn nghysgod amddiffyn y ffon. Dacw ef yn cael ei daflu i'r ffau ac i ganol llewod newynllyd; ond y mae Bugail Israel yno, â'i ffon wedi ei gosod ar draws eu hwynebau bob un fel na faidd yr un ohonynt symud ei ên.
Fe ddygir y Tri Llanc yr un modd gerbron y brenin ar wastadedd Dura am wrthod ymostwng i'r ddelw, ac y maent yn ateb yn bwyllog a diofal. I'r ffwrn y bwriwyd hwy; ond yr oedd Bugail Seion yn gallu diffodd angerdd y tân a'u hamddiffyn â'i ffon.
Fe roddwyd Pedr yn y carchar, ond fe aeth y Bugail yno i'w geisio allan. Pan yr oedd Paul a Silas yn y carchar, fe siglwyd hen garchar Philippi i'w sylfaeni gan gyffyrddiad ffon y Bugail.
Wel, y mae y geiriau yn wir eto, "Fel bugail y portha efe ei braidd; â'i fraich y casgl ei ŵyn, ac a'u dwg yn ei fynwes, ac a goledda y mamogiaid." "Ni lwydda un offeryn a lunier i'th erbyn; a thi a wnei yn euog bob tafod a gyfodo i'th erbyn mewn barn."
Y mae Iesu Grist yn aros yn ei swydd eto; y mae ganddo ei wialen a'i ffon eto, ac y mae ei holl bobl o dan gyfrif ganddo ac o dan ei amddiffyn. Ac y mae yn derbyn pechaduriaid i'w ddeadell—"A gwnaf i chwi fyned o dan y wialen," &c. Fe rydd ei ffon hefyd i'th amddiffyn yn ngwyneb pob taro; ac felly ti elli edrych ar bechod, ar angau, a'r y bedd heb arswydo. "Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed; canys yr wyt ti gyda mi; dy wialen a'th ffon a'm cysurant."
- Corwen, 1863.
PREGETH II.—Tŵr y Praidd.
"A THITHAU, tŵr y praidd, castell merch Seion, hyd atat y daw, ïe, y daw yr arglwyddiaeth benaf, y deyrnas i ferch Jerusalem."—Micah v. 8.
Yr oedd y prophwyd hwn yn cydoesi âg Esaiah, ac yn prophwydo yn nyddiau Jotham, Ahas, a Hezeciah. Y mae o ganol tywyllwch yr amser adfeiliedig hwnw yn gweled goleuni mawr goruchwyliaeth yr Efengyl a dyfodiad y Messiah.
Y prophwydi oedd yn byw mewn amser isel sydd wedi rhagfynegu y pethau mwyaf goleu a mwyaf gogoneddus. Nid oedd dim i'w cysuro yn y presenol, ac, am hyny, y mae yr Arglwydd yn eu cysuro â phethau dyfodol.
Byddai yr Arglwydd Iesu yn ymgysuro weithiau yn y bwriadau tragwyddol cyn bod y byd, a phryd arall sugnai ei gysur o'r pethau sicr yn y dyfodol. "Yr hyn oll y mae y Tad yn ei roddi i mi a ddaw ataf fi." Yn y fan hon yn nghanol blinder ac ansefydlogrwydd, y mae yn edrych yn ol ar y rhoddi yn y cyfamod, ac yn gweled yno sicrwydd y llwyddiant. Y mae yn taflu ei olwg yn mlaen ac yn ymgysuro yn y dyfodol, pan y dywed, "A minau os dyrchefir fi oddiar y ddaear a dynaf bawb ataf fy hun." Y mae gan yr Arglwydd ddefnydd cysur i'w bobl yn mhob amgylchiad, ac o ganol nosweithiau duaf trallod y clywir yn fynych y gân fwyaf orfoleddus. Nid oes neb ag sydd wedi ysgrifenu yn fwy cysurus am lwyddiant achos crefydd na'r enwog John Howe, er ei fod yn byw mewn amser blinder mawr. Y mae crefydd yn hyfforddio i ni olwg y tu hwnt i'r cymylau, ac nid oes yr un cwmwl a all godi nad all ffydd yn addewidion Duw weled awyr glir y tu draw iddo. Felly yr oedd y prophwyd Micah, a'i gydoeswr enwocach, Esaiah.
Y mae rhan o brophwydoliaeth Micah wedi ei chyflawni, a llawer darn ohoni heb ei chyflawni eto. Y mae y doraeth o'r brophwydoliaeth yn y bennod hon eto yn ol. Fe gyflawnir y ddwy adnod o flaen y testyn o hyd yn barhaus, ac eto deil yr addewidion sydd ynddynt heb eu gwaghau. Y mae rhai o brophwydoliaethau y Beibl ag yr ydym yn edrych arnynt fel pydewau wedi eu dihysbyddu ac heb ddwfr ynddynt. Buont yn diwallu llawer, ond erbyn hyn yn hesp. Y mae eraill fel ffynonau yn llawn dwfr, a chymaint i ni gael ohonynt a neb, a gadewir hwynt genym ninau yn ffynonau llawn i'r oes a ddel. Fe geir eraill fel potelau heb erioed eu hagoryd; ond beth bynag ydyw cynwys y costrelau sydd o dan sêl, y mae yma ddigon o rai agored i'n diwallu ni yn ein hoes.
Ond dylem gofio fod pob addewid sydd wedi ei chyflawni yn dwyn elw i ni; y mae yn gwneud ein hafon ni yn lletach ac yn ddyfnach. Fel y mae pob ffrwd sydd yn dyfod i lawr y bryn yn chwyddo dwfr yr afon wedi ymgolli ynddi, felly y mae pob addewid a gyflawnwyd wedi cryfhau dyfroedd yr afon sydd â'i ffrydiau yn llawenhau dinas Duw. Mae hyd yn nod yr addewidion a gyflawnwyd i Abraham yn y cynfyd pell yn chwanegu at ein cyfoeth a'n cysur ninau. Yr ydym ni yn manteisio ar gyflawniad y prophwydoliaethau iddo ef.
Y mae yr Arglwydd, yn y geiriau o flaen y testyn, yn addaw ymweled â'i bobl, a hyny er eu mawr gysur a'u hadnewyddiad. Ac y mae yn cofio y rhai sydd wedi colli, ac y mae yn eu marcio.
1. "Y gloff"—un wedi troi o'r ffordd wedi myned o'r neilldu, fel dafad gloff wedi colli o'r gyr. Y mae aml un fel hyn. Y mae yr Arglwydd yn eu cofio eto, a pheth mawr i ninau ydyw cadw yn ein cof y rhai y mae yr Arglwydd yn eu cofio. Nid yw y gloff heb addewid.
2. "Yr hon a yrwyd allan." Yr oedd gyru allan o dan yr Hen Destament allan o'r gwersyll ac o gysegr Duw. Nid oes llawer o werth mewn eglwys nad oes bwrw allan ohoni ar amserau; ac nid ydyw yn anrhydedd nac yn fantais i fod mewn eglwys sydd yn rhy wan, o dan bob amgylchiadau, i yru allan. Ond y mae yma addewid am gynull yr hon a yrwyd allan.
3. "Yr hon a ddrygais," neu a gystuddiwyd. Un wedi ei tharfu gan rhyw anfanteision, ond nid ydyw hon eto mor ddrwg arni nad oes addewid iddi. Er ei chystuddio aiff yr addewid i lawr ar ei hol i'r dyfnder.
Dyma addewid am gasglu "y gloff" a chynull yr "hon a yrwyd allan," ac nid hyny yn unig. Na, y mae yna lawer mwy, ac ni fuasai hyny yn unig ddim yn gysur cryf iddynt; ond y mae yna gyfnewidiadmwy na chasglu a chynull—"A gwnaf y gloff yn weddill;" ar ol yr oedd o'r blaen, ac felly y collodd hi; ond yn awr y mae yr Arglwydd yn addaw ei gwneud dros ben—yn weddill—hyny yw, yn un fydd yn dal pan y bydd pawb yn methu. "A'r hon a daflwyd yn mhell, yn genedl gref." Dyma fwy na chynull yn y fan hon eto. Gwan, eiddil, a diffrwyth oedd o'r blaen, ac am hyny y taflwyd hi allan; ond y mae yn yr addewid ei gwneud yn gref ac yn ffrwythlawn iawn. Ond er fod yr Arglwydd yn crybwyll y rhai hyn yn gyntaf, nid hwy ydyw yr unig rai sydd yn cael lleshad a daioni. Onid yw braidd yn rhyfedd fod yr Arglwydd yn son am y rhai hyn yn hytrach na'r rhai sydd heb gychwyn gyda'i bobl erioed? Ond gwelwn ei fod wedi nodi y rhai hyny hefyd yn nechreu y bennod—" pobloedd lawer a chenedloedd cryfion hyd yn mhell;" ac yna y mae yn cofio yn rasol am y gloff a adawyd ar ochr y ffordd, wedi methu canlyn, a'r hon a yrwyd allan, gan faint y boen a'r helbul oedd gyda hi yn barhaus, a'r gystuddiol drallodedig, yr hon y mae olion yr ystormydd arni.
Yna fe ddaw y testyn i mewn yn addewid o ddaioni i'r ffyddloniaid "A thithau tŵr y praidd, castell merch Seion, hyd atat y daw, ie, y daw yr arglwyddiaeth benaf, y deyrnas i ferch Jerusalem." "Tŵr y praidd," neu Dŵr Edar, yr hwn oedd yn meusydd Bethlehem, lle i'r gwyliwr—y bugail—i esgyn i'w ben i weled y praidd yn mhell ar y gwastadedd. Y pen bugail, fel rheol, a fyddai yn gwneud hyn, yr hwn oedd yn gofalu am gasglu y diadelloedd ganol dydd a'r hwyr, ac yr oedd yno gorlan ddyogel i'w casglu hefyd.
Fel yr oedd Tŵr Edar i'r praidd yr oedd "castell merch Seion" i'r saint. Castell merch Seion oedd gorseddfa teulu Dafydd, a meddylia rhai fod yma gyfeiriad at y Messiah, am ei fod ef o dŷ a thylwyth Dafydd. Yr oedd teulu Dafydd y pryd hwn yn isel ac Ahas yn teyrnasu—y brenin gwaethaf a mwyaf drygionus o holl frenhinoedd Judah. Yr oedd gorsedd Dafydd oherwydd hyny yn siglo, ond y mae yr Arglwydd yn addaw ei chadarnhau a'i sefydlu yn Nghrist.
Diau fod yn y geiriau gyfeiriad at y rhai oedd yn parhau yn ffyddlawn i'r Arglwydd, yn sefyll dros ei achos a'i enw, ac yn amddiffyn ei gyfraith a'i ogoniant. Dyma "Dŵr y praidd, castell merch Seion," yn mhob oes; ac y mae yr Arglwydd yn cofio yn anwyl am y rhai hyn ac yn addaw yn helaeth ar eu cyfer hwy yn anad neb. Yr oedd gan Dduw y pryd hwnw ei ffyddloniaid, ac y mae rhai felly yn mhob oes.
I.—Yn mha le bynag y mae achos yr Arglwydd Iesu, y mae yno ryw rai yn blaid ac yn nawdd iddo. Yr Arglwydd ei hun sydd yn cynal yr achos trwy ei Ysbryd, eto mae yn gwneud hyny trwy offerynau, ac y mae yr Ysbryd Glân yn codi rhywun yn blaid iddo yn mhob man. Y mae gan yr Arglwydd ei 'Dŵr praidd, castell merch Seion," yn mhob lle. Y ffyddloniaid ydyw y tyrau a'r cestyll, a'r bobl sydd yn derbyn yr Iesu ac yn ei wasanaethu a anrhydeddir. Un ydyw yr Iesu sydd yn gogoneddu ei letty bob amser. Anrhydedd penaf tŷ Mair a Martha oedd. fod yr Iesu yn troi i mewn yno ac yn cael croesaw. Gogoniant ac iachawdwriaeth tŷ Zacheus oedd fod yr Iesu wedi galw i mewn yno. Y mae coffadwriaeth Mair yn fendigedig wedi iddi dori y blwch enaint ar ei ben Ef—" Pa le bynag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, mynegir yr hyn a wnaeth hi hefyd, er coffa am dani." Ac y mae cymwynaswyr ei achos yn sefyll gogyfuwch a chymwynaswyr ei Berson—" A. phwy bynag a dderbynio gyfryw fachgenyn yn fy enw i, a'm derbyn i." Nis gall y Meistr Mawr annghofio y gweision ffyddlawn. Mor barchus y mae y rhai sydd wedi bod yn gymhorth i'r apostolion ac eraill yn cael eu hanerch yn niwedd llythyrau yr Apostol Paul. Nid ydyw cofgolofnau ymherawdwyr Rhufain yn ddim i'w cydmaru mewn bri ac anrhydedd i'r colofnau mewn ffyddlondeb a sêl sydd yn cynal gair y bywyd" yn y byd—"Tŵr y praidd, castell merch Seion."
II.—Maent yn mhlaid achos yr Arglwydd o gymhelliad eu meddwl eu hunain. Nid caethweision ydynt ond gwirfoddolwyr; rhai wedi cael blas ar y Gair ac yn gweled gwerth yn yr efengyl, fel Lydia hono gynt, " yr hon yr agorodd yr Arglwydd ei chalon i ddal ar y pethau a leferid gan Paul." Wedi i'r Arglwydd agor ei chalon y mae hithau yn agoryd ei thy, "Os barnasoch fy mod i yn ffyddlawn i'r Arglwydd, deuwch i mewn i'm tŷ ac aroswch yno." Y mae eto rhyw dŷ yn Bethania, ac yn Capernaum, a thŷ Lydia yn agoryd eu drysau i arch Duw. Mae rhywrai yn gefn i'r achos, ac nid rhai yn cael eu cymhell gymaint gan eraill ydynt, ond yn myned yn mlaen yn ngrym eu meddyliau eu hunain wedi eu llanw gan gariad Crist.
Gyda'r achos mawr ni a gawn weithiau ein cefnogi, a phryd arall ein digaloni gan eraill. Yn debyg fel y mae y gwynt i'r llong: y mae llawer o wynt croes ar gyfer yr awel dêg, ond y mae y morwr a'i ddymuniad am y porthladd ac yn gwneud y goreu a allo o bob gwynt i gyrhaedd hwnw.
Fe anfonodd yr Arglwydd Iesu ei ddeuddeg dysgybl bob yn ddau, heb na llaw—ffon nac ysgrepan nac arian yn eu pyrsau na dwy bais; ond fe roddodd. iddynt awdurdod ar ysbrydion aflan ac i iachau clefydau. Yr oeddynt i dderbyn eu croesaw ar eu teilyngdod. Felly i barhau y mae achos yr Arglwydd i gael ei gynal ar ei deilyngdod beunyddiol heb gymaint o ragddarpar, a chynaliaeth ei weision i fod fel y byddont yn teilyngu. Nid oedd ganddynt ddim wedi ei ddarparu i'r daith rhag newyn, a syched, a noethni, ond awdurdod eu Harglwydd. Y gwaith a wneid ganddynt trwy allu eu Meistr oedd yn agoryd y drysau o'u blaen ac yn rhoddi iddynt bob derbyniad a chroesaw. Dallineb y byd sydd yn peri iddo ymddwyn yn wahanol i hyn. Mae yn debyg y bydd yr eglwys yn dychwelyd yn fwy eto at y cynllun yma. pan ddaw tywalltiadau mwy grymus o Ysbryd yr Arglwydd.
III.—Addewid sydd yn y geiriau hyn i'r rhai sydd yn ffyddlawn eisoes i fod yn fwy effeithiol nag o'r blaen. Nid addaw gwaith newydd, ond bod yn fwy buddiol yn y gwaith yr oeddynt gydag Ef eisoes. Nid cymaint o fendith a welir ar y rhai sydd yn newid eu gwaith, ond addaw bendith ar y rhai sydd yn ffyddlawn eisoes gyda'r gwaith sydd ganddynt.. Gwneud y rhai ffyddlawn yn fwy ffyddlawn y mae yr Arglwydd hyd nes i'r "arglwyddiaeth benaf ddyfod yn eiddo iddynt. Y mae yr egwyddor hon yn gref gydag achos yr Arglwydd, "I'r hwn y mae ganddo y rhoddir;" "Da, was da a ffyddlawn, buost ffyddlawn. ar ychydig, mi a'th osodaf ar lawer."
Dechreu yn fychan y mae crefydd yn gyffredin. Ac y mae lluaws yn oedi dechreu am eu bod yn gweled ganddynt rhy fach i ddechreu—disgwyl mwy cyn dechreu ac yn marw cyn ei gyrhaedd. Y dyn eisiau rhyw ddechreu mawr, llawer i gychwyn. Na, ychydig yn y dechreu ydyw y rhan amlaf. Y mae pethau mawr Duw yn dechreu yn fychain ac yn cynyddu yn ddirfawr, fel yr hâd mwstard, "yr hwn yn wir sydd leiaf o'r holl hadau," ac eto " y mwyaf un o'r llysiau ydyw," ac y mae yn myned yn bren; fel "y mae adar y nef yn dyfod ac yn nythu yn ei gangau ef." Yr ydym ni yn rhoddi gormod o bwys yn aml ar y dechreu a rhy fach ar y cynydd; yn ei gynydd y mae yn rhagori, a'r cynydd sydd yn glod i enw yr Arglwydd. Dyma yr arwyddion o dduwioldeb, "Bod yn ffyddlon ar ychydig," " fel y goleuni yn llewyrchu fwy—fwy hyd ganol dydd," "Er bod dy ddechreuad yn fychan, eto dy ddiwedd a gynydda yn ddirfawr."
Dyfod i fynu yr oedd Joseph er yn dechreu yn y swydd fach ddistadl. Pe buasai Dafydd wedi gadael i'r llew a'r arth ysglyfio y ddau oen, ni fuasai nerth ynddo i wynebu y cawr. Na, dysgyblaeth a fu arno yn y cylch llai i'w gymhwyso i lenwi y cylch mwy. "Y neb sydd ffyddlawn yn y lleiaf sydd ffyddlawn hefyd mewn llawer," ac yn ei ffyddlondeb a'i lwyddiant yn gwaredu yr wyn yr enillodd Dafydd ei gymhwysder a'i hawl i fentro y cawr. Felly yma, y mae yr Arglwydd yn addaw i'r ffyddlon fodd i wneud ychwaneg o'r gwaith yr oedd a'i galon ynddo, "A thithau tŵr y praidd, castell merch Seion, hyd atat y daw, ie, y daw yr arglwyddiaeth benaf, y deyrnas i ferch Jerusalem."
IV.—Gwelwn y gwerth o barhau gydag achos yr Arglwydd. Mae Duw yn galw y rhai pell, yn casglu y gloff, ac yn cynull yr hon a yrwyd allan ac a ddrygwyd; ond "Tŵr y praidd, castell merch Seion, a gaiff y bendithion penaf o bawb," "hyd atat y daw, ie, y daw yr arglwyddiaeth benaf." Y mae yr Arglwydd yn cofio y rhai hyny mewn modd neillduol yn ei ymweliadau. Yr oedd rhyw rai "yn sefyll yn nhŷ yr Arglwydd y nos," yn cadw gwyliadwriaeth yr Arglwydd, ac yn dal y goleu dros yr holl nos. Dyna y bobl a anrhydeddir uwchlaw pawb yn nydd yr ymweliad. Pan y daeth y mab afradlon adref, yr oedd holl deulu y tŷ yn mwynhau y wledd a'r rhai agosaf oedd yn llawenychu fwyaf. Pan y mae yr Arglwydd yn addaw y "bydd y llesgaf ohonynt y dydd hwnw fel Dafydd, y mae yn addaw hefyd y bydd "tŷ Dafydd fel Duw, fel angel yr Arglwydd o'u blaen hwynt." Gwir fod y rhai olaf yn myned yn flaenaf a'r rhai blaenaf yn olaf; ond pan y mae y rhai blaenaf heb gael yr ymweliad y mae hyny. Pan y mae y rhai blaenaf yn cael y fendith, y mae y rhai blaenaf yn enill mwy na'r rhai olaf, "A thŷ Dafydd fel Duw, fel angel yr Arglwydd o'u blaen hwynt." Y mae yn ddigon ar y blaen eto. "A bydd llewyrch y lleuad fel llewyrch yr haul, a llewyrch yr haul fydd saith mwy, megys llewyrch saith niwrnod." Ni fydd y lleuad ddim cymaint a'r haul am y bydd pob un wedi cynyddu y naill fel y llall. Copa y mynydd uchel a wisgir a gogoniant gyntaf pan y mae yr haul yn codi yn y boreu, felly y bobl sydd yn gwylio ac yn disgwyl am gyfodiad Haul y Cyfiawnder a gaiff dderbyn o'i belydr gyntaf. Y mae rhyw rai yn disgwyl—rhyw wyliedyddion ar y mur. Dyma y rhai a wel y wawr yn tori ac a siriolir yn fwyaf ganddiFy enaid sydd yn disgwyl am yr Arglwydd yn fwy nag y mae y gwylwyr am y boreu."
V.—Fe wnaeth Dafydd ei Seion yn "dŵr y praidd." Y mae enill dyn da gyda'r byd hwn yn enill i achos Mab Duw. Os bydd iddo enill rhyw Seion yn ddinas iddo ei hun, hi a fydd hefyd yn "dŵr y praidd" a "dinas ein cyfarfod" i bobl yr Arglwydd. Mae lle i ninau i adeiladu tŵr yn rhywle i braidd Iesu Grist.
Gwael ydyw ein bod am ddim ond am nefoedd i ni ein hunain. Na, meddyliwn am wneud tipyn o gastell i ferch Seion yn rhywle ag y byddo yn gyfleus i ni. Y mae yr Arglwydd yn cymeryd yn garedig iawn ar y rhai sydd yn gofalu am gysgod i'w achos. Pe na byddai ond rhyw dŵr pur gyffredin fel tŵr Edar digon tebyg y daw rhyw Jacob ar ei daith, fel Jacob gynt, ac y bydd yn dda ganddo gael lledu ei babell gerllaw iddo.
Gwnawn y peth a allom; os na allwn wneud tŵr mawr fel tŵr Babel, mynwn adeiladu rhyw dipyn o gysgod a noddfa i braidd Iesu Grist. "Yr hyn a allodd hon hi a'i gwnaeth," a hi a wnaeth fwy o lawer nag a feddyliodd hi na'r dysgyblion.
Y gwaith ddaeth a'r enw yn y testyn, ac y mae yn enw ardderchog iawn, "Twŵr y praidd, castell merch Seion." Wrth wneud y gwaith y caed yr enw, er nad oedd y rhai hyn yn meddwl dim am yr enw, gwneud er mwyn yr achos; ond y gwaith oedd yn teilyngu yr enw gogoneddus hwn. Ac mor werthfawr i ni ydyw fod genym rhyw waith y mae y nefoedd yn rhoddi gair da i ni yn nglŷn âg ef. Am gasglu y byd a rhodio yn nghwmni mawrion y ddaear yma, nid ydyw y nefoedd yn meddwl dim o hyny; ond gweithio gyda thlodion ei bobl ef yn yr Ysgol Sabbothol a'r cyfarfodydd gweddi, canu, a darllen, ar hyny y mae yr Arglwydd yn gosod pris uchel.
Y mae yn gysur i ni ein bod gydag achos ag y mae egwyddorion llwyddiant mawr ynddo. Y mae rhai cyfundebau yn adfeilio; y mae defnydd adfeiliad ynddynt. Nid oes ganddynt ond y ffurf allanol; y mae yr ysbryd wedi cilio, ac am hyny y mae y rhai sydd yn perthyn iddynt yn myned i ddarogan diwedd y byd, a syniadau cnawdol y rhai sydd yn disgwyl Iesu i deyrnasu ar y ddaear. Teimlo eu cyfundeb eu hunain yn siglo odditanynt y maent, a meddwl, pan ddarfyddo y ffurf sydd ganddynt hwy, y derfydd achos yr Arglwydd Iesu.
Efallai fod yma rai nad ydynt heddyw yn meddwl y gallant hwy adeiladu tŵr o fath yn y byd i achos y Gwaredwr. Wel ynte, y mae yma le i chwithau, fel i Jacob gynt, i ledu eich pabell gerllaw Tŵr Edar. Ar ei daith i ymweled â'i dad yr oedd Jacob, a dyma yr arosfa agosaf iddo i dŷ ei dad hefyd. Gallaf finau ddweyd, yr un ffunud, fod yma le i chwithau i daenu eich pabell, ac nad oes ond taith fechan oddiyma i dŷ eich Tad.
Yr oedd Moses yn ysgrifenu yr hanes yn yr anialwch, ac fe ddywed fod Jacob wedi lledu ei babell "o'r tu hwnt i Dŵr Edar." Gan hyny, yr oedd Tŵr Edar—" tŵr y praidd "—rhwng pabell Jacob a'r anialwch. Mynwch chwithau, ddynion anwyl, eglwys Dduw—"tŵr y praidd "—rhyngoch a'r anialwch, a "Chastell merch Seion" rhyngoch a'r perygl.
Yn y fan yma y bu farw Rahel ac y claddwyd hi, a cherllaw y mae colofn bedd Rahel. Hi a fu farw mewn llanerch nad oedd dim eisiau symud llawer arni, oblegyd yr oedd wedi marw o fewn terfynau Gwlad yr Addewid.
Yr oedd Jacob wedi bod mewn gwlad arall, ac yr oedd symud mawr pan yn claddu y rhai a fuont feirw mewn gwlad bell. O! gyfeillion, dowch i fyw o fewn terfynau y wlad, fel na bydd arnoch eisiau rhyw symud mawr pan fyddwch yn myned i farw. Yn Ngwlad yr Addewid yr oedd y Patriarchiaid yn dymuno cael eu claddu. Y mae genym ninau rhyw ddymuniadau gyda hyn. Byddwn fyw mewn undeb â'r bobl y dymunem farw yn eu plith.
Wel, y mae gan yr Arglwydd rhyw gyfnesaf yn y byd yn wastadol. Fel yr oedd saig Benjamin yn yr Aipht yn fwy, a rhan Peninah yn rhan hardd, a manteision Pedr, Iago, a Ioan yn helaethach, felly yma, "A thithau, tŵr y praidd, castell merch Seion, hyd atat y daw, ie, y daw yr arglwyddiaeth benaf." Pan y mae yr Arglwydd yn gwasgaru bendithion, y mae y fendith fwyaf i'r ffyddloniaid. Y Duw mawr a'n gwnelo yn bobl ffyddlon gyda'i deyrnas. Amen.
Diwedd y flwyddyn 1864.
PREGETH III.—Y Ddau Dŷ.
"GAN hyny, pwy bynag sydd yn gwrandaw fy ngeiriau hyn, ac yn eu gwneuthur, mi a'i cyffelybaf ef i ŵr doeth, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y graig:
"A'r gwlaw a ddisgynodd, a'r llifeiriant a ddaethant, a'r gwyntoedd a chwythasant, ac a ruthrasant ar y tŷ hwnw; ac ni syrthiodd: oblegid sylfaenesid ef ar y graig.
"A phob un a'r sydd yn gwrandaw fy ngeiriau hyn, ac heb eu gwneuthur, a gyffelybir i ŵr ffol, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y tywod:
"A'r gwlaw a ddisgynodd, a'r llifddyfroedd a ddaethant, a'r gwyntoedd a chwythasant, ac a gurasant ar y tŷ hwnw; ac efe a syrthiodd, a'i gwymp a fu fawr."—Mat. vii. 24-27.
Fe geir y geiriau hyn yn niwedd pregeth Iesu Grist ar y mynydd y bregeth fwyaf a draddodwyd yn y byd erioed. Dyma ddiweddglo y bregeth neu y cymhwysiad ohoni at y gwrandawyr. Mae yn rhanu y gwrandawyr i ddau ddosbarth, neu ddau gymeriad, ac y mae y gynulleidfa i gyd yn cael ei chynwys yn y dosbarthiad, sef "gwr doeth" a "gwr ffol." Y mae holl wrandawyr yr efengyl eto i'w rhanu fel hyn. Cyffelybir hwy gan yr Arglwydd Iesu i adeiladwyr tai—pob un yn adeiladu tŷ. Adeiladu tŷ ydyw gwrando y gair. Y mae pob gwrandawr o'r efengyl yn adeiladu tý, a thŷ iddo ei hun; ac y mae tŷ pob dyn yn un o'r pethau gwerthfawrocaf a fedd. Mae y tŷ a'r pethau sydd ynddo yn rhagori bron ar bobpeth. Yno y mae cysuron mwyaf y dyn a'i feddianau penaf, ac yno y mae ei gartref, ei deulu, ei gysgod, a'i amddiffyn. Castell pob un yw ei dŷ.
Yr oedd y tai hyn yn cael eu hadeiladu ar lanerch neillduol; ac yr oeddynt, fel pob tai, yn agored i dymhestl o wynt a gwlaw. A chyda hyny, yr oedd perygl llifeiriant gwyllt a chryf ar y tai yma, ac nis gwyddai neb pa bryd y deuai hwnw. Yr oedd hi felly yn arbenig yn ngwlad Canaan. Ar lanerch agored i gyfnewidiadau ac ystormydd disymwth yr ydym ninau yn adeiladu.
Yr oedd un peth yn perthyn i dŷ wedi ei adeiladu ar y llanerch yma oedd yn rhoddi gwerth ar bobpeth arall, sef sylfaen dda, a diffyg o hyn oedd yn gwneud pobpeth arall yn ofer. Ar ddydd y dymhestl a'r llifeiriant mawr, nid uchder na harddwch na maint y tŷ oedd y prif beth, ond y sylfaen. Y sylfaen hon, yn ol desgrifiad yr Athraw Mawr yn y fan yma ydyw ufudd—dod i'r efengyl. Dyma yr unig beth sydd yn peri fod bywyd o wrando yn ateb y dybengwneuthur y Gair—cymeryd iau Crist arnom a dysgu ganddo.
Mae y ddameg yn cynwys fod dau adeiladydd—un yn anystyriol am y lle yr oedd yn adeiladu ei dŷ, a'r llall yn meddwl am y perygl, ac yn ddoeth, yn darparu ar gyfer hyny. Ni a geisiwn edrych ar y gwahaniaeth rhwng y ddau, ac yn hyny y gwelwn y gwahaniaeth rhwng y gwrandawyr sydd yn ufuddhau i'r efengyl a'r hwn sydd yn gwrando ac heb wneuthur—y gwrandawyr yn unig. Daw y gwahaniaeth hwn i'r golwg mewn amryw o bethau:—
- I.—Yn meddwl yr adeiladwyr.
- II.—Yn eu gwaith.
- III.—Yn y ddau adeilad.
I.—Mae y gwahaniaeth yn eu meddwl. Yma y cychwynodd pob gwahaniaeth arall. Diffyg ystyriaeth ydyw y cam cyntaf i ddinystr. Mae y naill wedi ystyried ei sefyllfa, a sefyllfa ei dŷ, a'r llall heb olygu dim ond heddyw, na darparu dim ar gyfer yr hyn a allai ddyfod, nas gŵyr pa mor fuan. Nid ydyw yfory a'i ystormydd i mewn yn ei gyfrif o gwbl. Dyma yr hyn y mae yr efengyl yn galw sylw pechadur ato yn gyntaf o bob peth—ei gyflwr a'i sefyllfa. Dyn heb ei ddeffro am ei gyflwr, y mae yn ddyn heb ddechreu byw yn dduwiol. Yr hyn a ddangoswyd i bererin Bunyan oedd fod y wlad yn myned ar dân. Dywedai wrth ei wraig fod eu dinas i gael ei llosgi â thân o'r nefoedd. Dyma bictiwr o ddyn yn cychwyn byth. Felly yr oedd y rhai a achubwyd ar ddydd y Pentecost, a cheidwad y carchar, a phob un arall byth er hyny—dynion wedi eu hargyhoeddi am eu cyflwr ac yn ystyried eu sefyllfa oeddynt. Y mae dyn wedi ei argyhoeddi yn gwneud pobpeth wedi hyny a'i olwg ar ei gyflwr.
Dyına yr achos o dawelwch dynion sydd yn ddiofal ac yn gyru yn mlaen, heb agoryd eu llygaid ar eu cyflwr a'u sefyllfa y maent. Y mae golwg ar y cyflwr y peth pwysicaf o bobpeth. Y dyn sydd yn gweled ei golledigaeth ynddo ei hun, nid oes dim a all ei ddyddanu nes gweled gobaith am ddiangfa. Wedi i ddyn gael golwg arno ei hun yn greadur colledig, y mae ar ddarfod am dano, a buasai wedi ei andwyo onibai i belydrau disglaer o drugaredd Duw ddisgyn arno—"gobaith da trwy ras." Dyma y ballast sydd yn cadw ei long rhag cael ei hysgubo gan dymhestloedd deddf Duw ac euogrwydd cydwybod i ddanedd creigiau dinystriol anobaith. Hefyd, y mae golwg ar ei gyflwr yn cario argraph ar ei bobpeth. Mae y dyn bellach a'i holl bethau yn cael eu dwyn yn mlaen o dan ddylanwad hyn. Y mae yn arswydo rhag ofn twyllo ei hun. Nid oes yna ddim gwaith bras yn myned i mewn i'r adeilad. Na, y mae yna ormod difrifwch yn ei gymeriad i redeg y gwaith.
II.—Yr oedd gwahaniaeth yn eu gwaith, ac o ansawdd y meddwl yr oedd hyny yn codi. Yr oedd rhyw fath o lafur yn perthyn i'r naill a'r llall; ond fod un yn myned i fyny yn unig a'r llall yn myned i lawr hefyd. Gwaith un i gyd yn y golwg a gwaith y llall yn ei bethau pwysicaf o'r golwg—"yr hwn a gloddiodd ac a aeth yn ddwfn." Ac am yr hyn yr oedd y naill yn rhagori ar y llall y sonir yma. Y mae gwaith mawr y dyn a gedwir mewn myned i lawr i chwilio am y sylfaen. Ac fe gynwys hyn:
1. Hunanymwadiad ac ymroddiad—"cloddio," dyna waith a hunanymwadiad a llafur yn nglyn âg ef. "Cloddio nis gallaf," meddai y goruchwyliwr annghyfiawn. Yr oedd yn waith rhy galed ganddo am fod moethau ei fywyd wedi ei andwyo—ei ddwylaw yn rhy feddalion a'i ysbryd yn rhy falch i ymaflyd yn y gaib a'r rhaw. "Os myn neb ddyfod ar fy ol i, ymwaded ag ef ei hun," medd y Ceidwad. Dyma y cam cyntaf ar ei ol.
2. Dyfal barhad a phenderfyniad—"A myned yn ddwfn." Y mae yn dal ati hi. Nid tori ychydig o wyneb y tir, ond "cloddio a myned yn ddwfn"—i lawr, heibio i'r ordinhadau a thrwy y cyflawniadau—i lawr, i lawr yn is, is.
3. Y mae yma gymdeithas â'r graig hefyd—"Ac a osododd ei sail ar y graig." Ni rydd i fynu nes taro yn y graig—clywed swn y graig; ac y mae swn y graig yn wahanol i swn maen neu gareg. "Ti yw y Crist Mab y Duw byw," dyna swn y graig yn hanes cloddio Pedr. "Fy Arglwydd a'm Duw," dyna Thomas eto wedi cloddio yn ddigon dwfn i glywed tinc y graig. "Fel yr adnabyddwyf ef a grym ei adgyfodiad ef, a chymdeithas ei ddyoddefiadau ef," dyna brofiad Paul mewn cymdeithas â'r graig. Y mae swn y graig yn nghrefydd lluaws ar hyd fryniau Cymru yma.
III. Yn y ddau adeilad hefyd ni gawn wahaniaeth mawr—un "heb sail" a'r llall "ar y graig." Mae diffyg y naill yn dyfetha pob rhagoriaeth sydd ynddo—" heb sail;" ac y mae rhagoriaeth y llall yn cuddio Beth pob gwaeledd sydd ynddo—" Ar y graig." bynag am uchder am harddwch—" heb sail." Y mae y tŷ wedi ei adeiladu yn ol y ffurf fwyaf ffasiynol ac yn ol y deddfau manylaf, ond "heb sail." Fe esgeuluswyd y peth pwysicaf wrth ei adeiladu. Y mae yn gysur i drigo mewn tŷ na fydd dim wedi ei esgeuluso wrth ei adeiladu. Os bydd rhywbeth wedi ei esgeuluso, y mae yn berygl iawn i hwnw fod y prif beth, fel y dyn "heb y wisg priodas." Fe ddaeth hwnw i mewn i dŷ'r wledd, ond fe ddaeth yno heb yr "un peth angenrheidiol," ac fe daflodd hyny ddiflasdod ar bobpeth a wnaed ganddo. Yr oedd diffyg y naill hefyd a rhagoriaeth y llall yn cario dylanwad mawr ar eu dyfodol. Fe ddaeth y gwahaniaeth mawr rhwng y ddau i'r golwg ar ddiwrnod yr ystorm a'r llifeiriant. Cyn hyny, gallesid dadleu fod y naill cystal a'r llall, ac hwyrach mai y tŷ ar y tywod oedd y goreu; ond fe eglurwyd y gwahaniaeth annhraethadwy oedd rhyngddynt ar ddydd y llifeiriant. Y mae ymddygiadau y dyn yn awr yn edrych yn mlaen. Y mae cyflawniadau y dyn yn bresenol a'u golwg ar dyfodol. Bydd yr hyn a wnaed gan y naill yn peri iddo gael ei gyffelybu i ddyn ffol am byth, a'r gwaith a gyflawnwyd gan y llall yn sefydlu ei gymeriad fel dyn doeth i dragwyddoldeb. Y mae gwrando geiriau Crist a chanlyniadau pwysig iawn iddo. Dy ymddygiadau at yr efengyl fydd yn setlo dy dynged yn mlaen, yn mlaen yn ddiddiwedd. Gwelwn
1. Fod yr Iesu yn y fan hon yn edrych ar bethau wedi i'r ystorm fyned heibio. I dynu darlun da, y mae yn bwysig yn mha le y saif yr arluniwr. Y mae Iesu Grist yn sefyll ar y làn draw i dynu y darlun hwn—y tu hwnt i'r llifeiriant a thranoeth yr ystorm.
2. Fod rhai heb fath yn y byd o dŷ. Dynion heb wrando yr efengyl, ac, yn wir llawer heb efengyl. Dyma rai heb gysgod o un math, yn agored i bob gwynt a drychin. Bydd y rhai hyn yn cael eu cipio ar flaen y llifeiriant.
3. Fod y rhai anufudd i'r efengyl wedi cael tŷ. Y maent wedi gwrando geiriau bywyd tragwyddol, a thrwy hyny wedi cael tŷ a llawer o ddaioni. Maent yn well dynion ac yn fwy eu gobeithion a'u cysuron hyd ddiwrnod yr ystorm; ond dacw y tŷ yn cael ei brofi. Y mae yn siglo ac yn crynu trwyddo yn y tywydd; a mwy na hyny, y mae yn dyfod i lawr yn garnedd—y ceryg mawrion a roed ynddo wrth wrando yr hen bregethwyr, yr adnodau y bu y dyn yn teimlo yn eu swn, yr argyhoeddiadau dwysion, a'r addunedau aml. Dacw y meini mawrion yn disgyn ar y preswylydd. Nid chwythu y tô ymaith. Na, y tô uchel, a'r trawstiau trymion, a'r muriau golygus, yn myned yn gandryll yn ngrym yr ystorm, a rhyferthwy y llifeiriant yn golchi ymaith y pridd coch, rhydd, sydd yn sail iddo. Nid cwymp wymp bychan, dibwys, fydd hwn, "Ei gwymp a fu fawr." Yr holl dŷ yn dyfod am ben y dyn.
4. Yr ufudd—dod sydd yn dal—gwneuthur y Gair a bery. " Y cloddio a myned yn ddwfn" fydd yn talu erbyn y diwrnod hwnw. Dim colled ar y graig. Er mor wael ydym ni, y mae y graig yn berffaith. Pa faint bynag o wendid sydd ynom ni, nid oes dim gwendid yn y graig. Y mae wedi ei phrofi ac wedi dal—"maen profedig" ydyw. Ymddiriedwn yn yr Iesu. Rhoddwn ei le ei hun i Grist yn ein crefydd —"Crist yn bob peth ac yn mhob peth." Crist mewn ffydd, Crist mewn proffes, Crist mewn buchedd. Derbyn yr Iesu a'i ddilyn. Mae y cwbl, yn y diwedd, i'w droi yn glod i'r Graig.
- Ionawr 21, 1876.
PREGETH IV.—Cytuno ar y Ffordd.1[1]
"CYTUNA â'th wrthwynebwr ar frys, tra fyddech ar y ffordd gydag ef; rhag un amser i'th wrthwynebwr dy roddi di yn llaw y barnwr, ac i'r barnwr dy roddi at y swyddog a'th daflu yn ngharchar."—Mat. v. 25.
Y MAE swn cyfraith a chosp yn y geiriau hyn, ac y maent yn briodol a chymhwys i rai ar fedr ymgyfreithio â'u gilydd—"Cytuna." Nid oes yr un cynghor gwell i'r ddwy ochr, fel y dywed yr hen air Cymraeg, fod y "cytundeb gwaelaf yn well na'r gyfraith oreu."
Y mae yn air priodol hefyd i ddyn mewn achos o gynen ac ymryson—"Cytuna." Gwna frys i hyny rhag i'r achos a thithau syrthio i law Duw, y Barnwr cyfiawn. Mae yr Arglwydd yn cashau dynion digllon, llidiog, ac yn cymeryd yr achos i ddial i'w law ei hun, "Nac ymddielwch, rai anwyl, ond rhoddwch le i ddigofaint: canys y mae yn ysgrifenedig, I mi y mae dial; myfi a dalaf, medd yr Arglwydd." A phan y mae dyn yn myned i ddial ar ei gyd-ddyn, y mae yn yspeilio Duw o'r hyn sydd yn hawlfraint iddo Ef ac yn ymaflyd mewn arf nas gall ei drin.
Ond gallem feddwl fod ystyr ddyfnach i'r geiriau na hyn, ac nad oes un meddwl yn llenwi y geiriau heb gymeryd y syniad o Dduw fel gofynwr, a dyn fel dyledwr heb fodd i dalu ac yn graddol neshau at lys barn; ac yn yr olwg yma, y mae y geiriau yn ymddangos yn eu pwysigrwydd a'u difrifwch. Anogaeth ydyw hon o enau Gwaredwr a Barnwr y byd—Cytuna â Duw, ac o bob cytuno dyma y pwysicaf oll; a'r bobl sydd wedi cytuno â Duw, nid ydyw mor anhawdd cael y rhai hyny i gytuno â'u gilydd. Nid ydyw cytuno mewn cylchoedd bychain ond dibwys i'r dyn sydd wedi cytuno yn y cylch mawr. Y mae y dyn dderbyniodd faddeuant mawr gan Dduw yn fwy parod i estyn ei faddeuant bach, ar sail hwnw, i'w gyd—ddynion. Yn y geiriau yn y wedd hon ni a gawn:—
- I.—Y gwirionedd sylfaenol.
- II.—Yr anogaeth ddoeth ac amserol.
- III. Y perygl i ni golli y cyfle.
I.—Y gwirionedd sylfaenol. Fe gymerir y gwirionedd sydd yn sail i'r cynghor yn y geiriau yn ganiataol, ac yn y gwirionedd yma y gosodir allan ein sefyllfa gerbron Duw. Y mae ein cysylltiad â Duw yn un annhraethol bwysig.
1. Fod gan Dduw ofyn cyfiawn ar ddyn fel ei greadur. Pan y gwelodd yr Arglwydd yn dda greu creadur moesol ac ysbrydol o'r fath ag ydyw dyn, yr oedd yn angenrheidiol ei greu yn sanctaidd a glân. Ac y mae yr un mor angenrheidiol i Dduw ofyn iddo barhau yn y sancteiddrwydd a'r purdeb hwnw, "Yr Arglwydd cyfiawn a gâr gyfiawnder."
Y mae dyn yn greadur i fod o dan ddeddf, ac, yn wir, nid oes dim yn y greadigaeth wedi ei adael yn ddiddeddf. Mae deddf i'r môr a deddf i'r gwynt; ac y mae deddf i bob peth yn ol ei natur ei hun. Felly i greadur moesol ac ysbrydol, fe roddir deddf foesol; a buasai yn wrthwyneb i natur foesol yr Anfeidrol i'w adael heb ddeddf, a hono yn ddeddf gyfaddas i'w natur. Nid allasai Duw cyfiawn a sanctaidd greu dyn o tan lywodraeth tuedd ac anian bechadurus a llygredig. Ac y mae angenrheidrwydd am i'r hwn a grewyd yn uniawn i fod yn barhaus mewn ufudd—dod a sancteiddrwydd, yn byw yn ol gofynion deddf Duw. Y mae gan y Duw mawr ofyn fel hyn ar ddyn.
2. Mae dyn yn fyr o ateb i ofynion cyfiawn ei o Greawdwr. "Wele, hyn yn unig a gefais; wneuthur Dduw ddyn yn uniawn: ond hwy a chwiliasant allan lawer o ddychymygion;" "Gwyrasant oll, aethant i gyd yn anfuddiol; nid oes un yn gwneuthur daioni, nac oes un;" "Nyni oll a grwydrasom fel defaid; troisom bawb i'w ffordd ei hun." Dyna y darlun du a thywyll a dynir ohonom gan ysbrydoliaeth, ac y mae yn ddarlun cywir a gonest.
Gan fod dyn yn y cyflwr hwn, wedi myned yn ol am ogoniant Duw ac yn ddyledwr iddo, y mae Duw yn wrthwynebwr iddo. "Oni ddychwel yr annuwiol, efe a hoga ei gleddyf." Ac y mae yr achos yma yn achos o gyfiawnder, ac nis gellir ei osgoi. Y mae egwyddorion sefydlog ac annghyfnewidiol yn dyfod i mewn i'r achos hwn, ac y maent yn egwyddorion sylfaenol a digyfnewid gorsedd. Pethau sefydlog ydyw egwyddorion, yn debyg fel y mae yr elfenau mewn natur. Nid all yr elfenau ddim bod ond yr hyn ydynt. Y tân, y dwfr, yr awyr, a'r goleuni. Nis gellir newid eu natur. Felly am egwyddorion yn y byd moesol ac ysbrydol, y maent yn annhyblyg, ac achos o egwyddorion tragwyddol ac annghyfnewidiol ydyw ein hachos ni gerbron Duw. Y mae yr Arglwydd "yn ddigllawn beunydd wrth yr annuwiol." Y mae yn wrthwynebwr iddo o angenrheidrwydd ei natur. Mae pechod a sancteiddrwydd yn egwyddorion hollol wrthwyneb, ac y mae y naill o angenrheidrwydd yn erbyn y llall, "Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylaw y Duw byw." Ac fel y dywedodd Samuel wrth Saul, "Paham, gan hyny, yr ydwyt ti yn ymofyn â mi, gan i'r Arglwydd gilio oddiwrthyt, a bod yn elyn i ti?" Fel hyn y mae dyn yn ol o ateb i ofynion têg yr Anfeidrol, ac am hyny y mae Duw yn wrthwynebwr cyfiawn iddo.
3. Y mae llys barn wedi ei sefydlu, a'r Barnwr wedi ei osod, a'r diwrnod wedi ei benderfynu. Fe dystiolaethodd "Enoch, y seithfed o Adda," am hyn gan ddywedyd, "Wele, y mae yr Arglwydd yn dyfod gyda myrddiwn o'i saint i wneuthur barn yn erbyn pawb." Nid Efe a ddaw, ond " y mae yr Arglwydd yn dyfod." Y mae holl gyfnodau ac amgylchiadau a theimladau bywyd a goleuni y farn fanwl yn disgyn arnynt, "Gwna yn llawen, wr ieuanc, yn dy ieuenctyd, a llawenyched dy galon yn nyddiau dy ieuenctyd, a rhodia yn ffyrdd dy galon, ac yn ngolwg dy lygaid: ond gwybydd y geilw Duw di i'r farn am hyn oll." Y mae y parotoadau ar gyfer y llys pwysig wedi eu gwneud, "Oherwydd iddo osod diwrnod, yn yr hwn y barna efe y byd mewn cyfiawnder trwy y Gwr a ordeiniodd efe."
4. Mae pob dyn ar y ffordd yn myned i gyfarfod â'r Barnwr. Gerbron y barnwr y mae y gofynwr a'r dyledwr yn dyfod i wrthdarawiad penderfynol. Gall eu bod gyda'u gilydd cyn hyny, yn cydfyned i'r llys, yn byw yn y ddau dy agosaf i'w gilydd, neu hwyrach yn yr un tŷ, a dim gair gan y naill yn erbyn y llall; ond erbyn i'r achos ddyfod gerbron y barnwr, y mae y ddau yn dyfod i wrthdarawiad penderfynol. Mae y gofynwr yn wrthwynebwr nerthol yno o un tu, a'r dyledwr yn euog o'r tu arall, a'r barnwr cyfiawn rhwng y ddau. Wedi i'r achos fyned i'r llys y mae goleuni yr orsedd i ddisgyn arno. Nid oes gan y barnwr ddim dewisiad ar ran yr euog; na, cyfraith yr orsedd sydd yn penderfynu cospedigaeth yr euog.
Dyn ar y ffordd i'r llys ydyw dyn ar y ddaear, yn prysuro at y Llywodraethwr. Byddi yn ngoleuni tanbaid y farn rai o'r dyddiau nesaf, ac fe ddaw gofyn Duw i'r golwg yno yn ei fanylwch eithaf, a dy ddyled dithau gerbron yn ei hofnadwyaeth arswydus. Rhaid i'r gwrthwynebwr gael ei ofyn neu y dyledwr euog ei garchar.
II.—Cynwysa y geiriau anogaeth ddoeth ac amserol, "Cytuna a'th wrthwynebwr ar frys, tra fyddech ar y ffordd gydag ef."
I. Cytuna ar unrhyw amodau. Dyma yr unig obaith am osgoi carchar ydyw cytuno. Nid oes genyt ddim i'w golli trwy gytuno, ond pobpeth i'w enill; ac y mae telerau yr efengyl y telerau mwyaf manteisiol. Fe gaiff y pechadur gytuno heb ddim yn y cytundeb yn taflu dirmyg ac anmharch arno. Cytundeb ydyw hwn tebyg i gytundeb y mab afradlon gyda'i dad. Yr oedd pobpeth yn y tad yn anrhydeddu y bachgen. Fe guddiodd ei warth â'i gyfoeth ei hun, ac fe gusanodd ei gywilydd ymaith â gwefus tad maddeugar. Fe gaiff y llô pasgedig ei barotoi i wneud gwledd, ac fe gaiff coffrau y palas eu trethu i barotoi yr afradlon ar gyfer y wledd. Cytundeb mewn Iawn yn un anrhydeddus.
2. Cytuna ar frys. Dyma beth i'w wneud ar frys, fel diffodd tân ac achub bywyd. Nid oes neb yn edifarhau am ei wneud ar ormod brys. Gwaith brys ydyw hwn. Os na wneir ef ar frys, ni wneir ef o gwbl. "Brysia, dianc yno"—brysia, bu oedi yn ddinystr i filoedd.
3. Cytuna ar y ffordd. Paid ag aros i gyrhaedd y tŷ agosaf. Gwaith i'w wneud ar y ffordd ydyw hwn. Os na wneir ef ar y ffordd nis gellir ei wneud o gwbl. Gwaith mawr a phwysig i'w wneud ar y ffordd ydyw hwn. Llawer a soniodd yr Apostol Paul am "Haner dydd ar y ffordd."
4. Cytuna dy hun. Y mae yn fater personol a neillduol. Cytuna trosot dy hun. Paid ag aros tad na mam, gwr na gwraig na phlentyn—cytuna. Nid ydyw yn bosibl i ti fethu wrth wneud y cytundeb yma. Dy achos di dy hun ydyw hwn, ac nid oes neb a all wneud y cytundeb hwn drosot. Y mae pobpeth yn gyfleus i gytuno. Mae y Meichiau a dalodd y cwbl yna gyda thi, ac y mae pobpeth yn barod, fel na raid i ti aros munyd wrth neb. Dyma gyfle i gytuno, tra y mae pobpeth cytuno ar y ffordd gyda thi.
III.—Y perygl i ni golli y cyfle. Fe wesgir y cynghor arnom gan yr ystyriaeth yna. Rhag un amser i'th wrthwynebwr dy roddi di yn llaw y barnwr." Y mae yna berygl oedi rhag i'w amynedd fyned i'r pen.
1. Mae yn gyfle manteisiol iawn. Yr wyt ti "ar y ffordd gydag Ef." Gyda'i was Ef? Nage, gydag Ef ei hun, ac y mae eto heb roddi yr achos o'i law i'r Barnwr. Y mae yn cadw yr achos yn ei law ei hun hyd yr eithaf. Nid oes arno ddim eisiau dy gospi, onide gallaset fod eisoes yn y carchar. Yr wyt ti heddyw "ar y ffordd gydag Ef," ac Efe ydyw yr agosaf atat o bawb. Y mae yna lawer ar y ffordd, ond nid oes neb mor agos atat. O! mor fanteisiol, "Ceisiwch yr Arglwydd, tra y galler ei gael ef; gelwch arno, tra fyddo yn agos;" "Mae y gair yn agos atat yn dy enau ac yn dy galon." Nid yn y nef ac nid yn y dyfnder ac nid dros y moroedd, ond ar y ffordd yn dy ymyl.
2. Cyfle byr ac ansicr ei barhad ydyw. "Tra fyddech ar y ffordd." Y mae yna swn gadael y ffordd, "tra fyddech." Ac y mae y gwrthwynebwr gyda thi hefyd. Gelli fod ar y ffordd, a'th galon ar ymdori am wneud cytundeb, ond y gwrthwynebwr ddim gyda thi— "tra fyddech gydag Ef." Y mae drws gobaith yn agored tra y bydd Ef gyda thi; ond os bydd Ef yn mlaen neu yn ol, bydd y cyfle i gytuno wedi colli. Aeth Mair a Joseph daith tridiau gan dybied fod y bachgen Iesu yn y fintai ar y ffordd, ac wedi iddynt ei gael yn Jerusalem, meddai ei fam, mewn tôn dipyn yn geryddol, "Wele dy dad a minau yn ofidus a'th geisiasom di." Ac er ei golli Ef ar y ffordd hwy a'i cawsant Ef; ond os colli di Ef oddiar y ffordd, colli pob gobaith am byth fydd hynw.
3. Y cyfle olaf ydyw. Ar y ffordd yn myned at lywodraethwr yr ydwyt. Nid oes ond y cyfle ar y ffordd yn aros, ac nid oes un cyfle gwell i'w ddisgwyl byth. Gyda'r Barnwr y bydd y ffordd yn terfynu, ac y mae y llys barn wrth ochr y ffordd yn mlaen. Y cam cyntaf i gytuno ydyw y goreu. Na, nid oes yn y geiriau yr un awgrymiad y gallwn oedi munyd awr. Dyma air ein hiachawdwriaeth ni, "Wele yn awr yr amser cymeradwy." Bydd Duw yn lân oddiwrth waed y bobl sydd yn rhedeg dros y geulan heb ei disgwyl. Felly y mae miloedd yn yr oes yma. "Heddyw," meddai Duw; a'r dyn ei hun a'r diafol sydd yn gwaeddi "Yfory." "Ac yfory," meddai Haman—yfory yr oedd ef ar y crogbren.
4. Mae y Barnwr yn agos iawn. Rhag un amser ith wrthwynebwr dy roddi di yn llaw y barnwr." Gall hyny fod unrhyw adeg, ganol dydd neu ganol nos, yn nghwsg neu yn effro. "Wele, y mae y Barnwr yn sefyll wrth y drws." "Felly y daw dydd yr Arglwydd fel lleidr yn y nos. Canys pan ddywedant, 'Tangnefedd a dyogelwch; yna y mae dinystr disymwth yn dyfod ar eu gwarthaf." Nid oes un amser yn ddyogel i oedi cytuno. Gwelwn fod gan Dduw fodd i gytuno â ni ar y ffordd. "A phryd nad oedd ganddynt ddim i dalu, efe a faddeuodd iddynt." Nid oes genym ninau ddim i dalu; ond y mae Mab y Gofynwr wedi talu trosom, a bellach dim ond credu yn ei Fab Ef, byddwn mewn heddwch âg Ef yn y fan. Trefn ydyw hon sydd yn ogoniant i'r gofynwr ac yn ogoniant i'r dyledwr hefyd
'Nawr dim heb dalu, rhoddwyd iawn
Nes clirio llyfrau'r nef yn llawn,
Heb ofyn dim i mi.
Nid oes gan y Barnwr ddim ond un peth i'w wneud â'r troseddwr euog. Nid oes ar ei law Ef ddim dewis; nid ei ewyllys Ef fydd yn penderfynu y mater; na, cyfraith, cyfiawnder, ac egwyddorion tragwyddol annhyblyg a didroi sydd ganddo Ef. Y mae pob gobaith i'r euog wedi darfod wedi cael ei roddi yn llaw y barnwr. "Rhoddi at y swyddog" y mae ef, a hwnw yn "taflu yn ngharchar." Taflu, taflu. O! mor chwith i ni fydd cael ein taflu. Derbyn sydd wedi bod yn ein hanes hyd yma, ni chawsom erioed ein taflu—ein derbyn ar fronau ein mam, a'n derbyn gan Ragluniaeth yn barhaus, a derbyn ydyw cenadwri yr efengyl atom; ond taflu mae swyddog y Barnwr, a thaflu i garchar hefyd, Dyma garchar, ffarwel am danom byth, os tefiir ni i hwn, "Nid äi di ddim oddiyno, hyd oni thelych, ie, yr hatling eithaf," a thi a fyddi wedi myned o gyrhaedd modd i dalu i dragwyddoldeb. Rhwym heb obaith dyfod yn rhydd. "Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân yn diffodd."
Mor dawel fydd y dyn wedi cytuno. Dywedai y diweddar Barch. William Morris, "Mi fydda i yn wr boneddig yn y farn, yr un cŵyn yn fy erbyn, dim achos yn y llys, ac yn ffrynd â'r Barnwr." Bydd y cwbl wedi eu setlo cyn myned yno. Ofnadwy fydd carchar wedi oedi cytuno ar delerau yr efengyl. Nid oes ar law y Barnwr gospi neb wedi cytuno. Cytundeb yn Nghrist ydyw, ac fe ddeil ymchwil y farn fawr. Y cytundeb ar y ffordd, dyma yr un a ddeil; y mae holl awdurdod y gyfraith o blaid y cytundeb yma. "Pwy a rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw?" Pwy yw yr hwn sydd yn damnio?" Dyma gwestiynau na atebir byth mohonynt. Na, nid oes yna ddim yn erbyn o un cyfeiriad—dim defnydd damnio i ymddangos byth; y mae y dyn wedi myned. "trwodd o farwolaeth i fywyd." Mae marw o'i ol, y mae wedi ffarwelio â'i feiau, ac myned allan o gyrhaedd carchar a chosp ac yn ddyn rhydd ar dir yr Iawn.
Cyfiawnder marwol glwyf
A haeddiant dwyfol loes.
Tachwedd 9, 1877.
PREGETH V.—Y ceryg hyn.[2]
"BETH yw y ceryg hyn?"—Josua iv. 21.
DYNA sydd yn y bennod hon, hanes meibion Israel wedi dyfod o'r Aipht, a thrwy yr anialwch, ac yn y fan yma yn myned trwy yr Iorddonen i'w gwlad. Yr ydym yn cael eu bod wedi dyfod trwy yr anialwch a myned yr ochr draw i'r Môr Marw. Fel rheol yn ein dyddiau ni, i Joppa y mae y teithwyr yn myned, ond nid felly meibion Israel. Fe'u harweiniwyd hwy gan yr Arglwydd i'r ochr draw i'r Môr Marw fel y cawn. hanes eu bod yn amgylchu tir Edom a Moab, ac yn dyfod i wlad Og brenin Basan a Sehon brenin yr Amoriaid, a'r rhai hyny yn dyfod yn eu herbyn, a'r Arglwydd yn rhoddi nerth i'w bobl i'w gorchfygu gan roddi eu gwlad yn etifeddiaeth iddynt. Y mae dau lwyth a haner yn gofyn am gael eu hetifeddiaeth yn y rhan hono, sef llwyth Reuben a Gad a haner llwyth Manasseh; ac y mae yr Arglwydd, trwy Moses, yn caniatau iddynt eu dymuniad, ond fod eu dynion parod i ryfel i fyned yn arfogion o flaen meibion Israel trwy yr Iorddonen i'w gwlad hwythau. Felly ni a gawn fod y genedl wedi dyfod a gwersyllu mewn lle o'r enw Sittim ac anfon cenadon i chwilio y wlad, ac oddiyno y maent yn myned i làn yr Iorddonen ar gyfer Jericho. Ond wedi dyfod i làn yr afon, yr oedd hono yn fawr iawn, wedi llifo dros ei cheulanau. Mae yr afon hono, fel rhai y dwyrain yn gyffredin—nid yr un fath a'n hafonydd ni yn llifeirio am ddiwrnod neu ddau—ond am wythnosau. Yr oedd yr Iorddonen yr adeg hono yn adeg ei llifeiriant—yr eira ar fynydd Hermon a mynyddoedd Libanus yn toddi nes peri i'w dyfroedd chwyddo yn rhyferthwy. Ac yr oedd yr afon yn afon fawr yn y fan lle yr oeddynt hwy yn bwriadu ei chroesi yn ddofn ac yn llydan, rhywbeth o dair i bedair llath o ddyfnder, ac yr oedd yn rhedeg yn wyllt hefyd. Mae pedair ceulan iddi, ac yr oedd y pryd hwnw yn llanw y ceulanau lletaf. Fe anfonwyd dau i edrych y wlad o'r blaen, ac y mae pob lle i feddwl mai nofio trwyddi a wnaethant hwy; ond dyma yr holl genedl yn awr ar ei min, ac y maent yn ganoedd o filoedd. Tybia rhai fod yr holl gynulleidfa i gyd oddeutu dwy filiwn neu rywbeth yn agos; a meddwl am i'r fath gynulleidfa groesi afon fel hon a'i chroesi hefyd i wlad oedd yn llawn o elynion! Mae yr Arglwydd, trwy Josua, yn gorchymyn i'r bobl ymsancteiddio; a chawn eu bod wedi gwersyllu ar ei glàn am rhyw ddwy noswaith a diwrnod. Nid yw yr ason i'w chroesi ond yn ol cynllun Duw, ac y mae yr Arglwydd yn gorchymyn i'r offeiriaid gymeryd Arch y Cyfamod ar eu hysgwyddau—nid hwy oedd yn arfer gwneud hyny, ond ar achlysuron neillduol y byddent yn gwneud felly, a dyma achlysur arbenig i'w chymeryd yn y wedd hon. Gorchymynir iddynt gerdded yn mlaen o flaen y gwersyll—mae yn debyg fod yn rhywle yn agos i dri chwarter milldir rhyngddynt, ac nid oedd neb o feibion Israel i ddyfod ddim yn nes na hyny—y rhai blaenaf i gadw yn y pellder hwnw, a thrwy y trefniant hwnw yr oedd yr Arch ynweledig i bawb. Ac yn y fan pan ddaeth gwadnau traed yr offeiriaid i ddyfroedd yr afon y maent yn tori ar draws fel pe buasech yn meddwl eu bod yn cael eu tori â chyllell, ac un ochr yn sefyll yn bentwr o'r naill làn i'r llall, a'r dyfroedd eraill yn rhedeg i lawr yn eu cwrs yn brysur i'r Môr Marw nes yr oedd y gwaelod yn sych; ac yna mae yr offeiriaid yn myned yn mlaen i wely yr afon—i'w dyfnder hi—gan sefyll yno yn daclus nes darfod i'r holl genedl fyned trwy yr Iorddonen yn droedsych. Gorchymynodd yr Arglwydd i Josua hefyd ddewis deuddeng wr—un gŵr o bob llwyth—wedi i'r genedl fyned trosodd; ac y mae y gwŷr hyn yn myned ac yn codi ceryg—pob un â'i garego waelod yr Iorddonen, yn y fan lle yr oedd traed yr offeiriaid yn sefyll, ac yn eu cario i'w lletty. Wedi cael yr afon yn sych yr oedd yn hawdd i'r genedl—gwragedd a phlant a'r cwbl—ei chroesi hi, a dyna a ddywedir eu bod yn brysio i fyned trwodd. Yr oedd yn waith go fawr; dichon fod ei lled oddeutu milldir. Heblaw codi y ceryg hyn, yn ol gorchymyn Duw, fe wnaeth Josua beth arall—wrth ei feddwl ei hun y mae yn debyg—sef codi ceryg o'r afon a'u gosod, fel y tybia rhai, yn ngwaelod yr afon lle yr oedd yr offeiriaid yn sefyll; ond y mae cryn amheuaeth yn nghylch hyny. Fe ddichon mai y syniad mwyaf cywir ydyw mai yn y fan y gwlychodd traed yr offeiriad gyntaf y gosodwyd hwynt, ac felly yr oeddynt yn yr ochr draw, ac yr oedd y ceryg hyny yn dystiolaeth i lwyth Reuben a Gad a haner llwyth Manasseh—yn dŵr o goffadwriaeth o'r lle y sychodd yr Iorddonen. Ond am y ceryg y sonia geiriau y testyn am danynt rhai i'w gosod yn y lletty oeddynt. Ceryg yn cael eu codi o waelod yr afon oeddynt—nid rhai bychain chwaith. Rhai mewn llaw? Nage, Rhai ar fraich? Nage, ceryg ar ysgwydd. Gallem feddwl fod pob gŵr yn codi ysgwyddiad o gareg ac yn myned â hi i'r lletty, tua haner y ffordd oddiyno i Jericho. Yr oedd saith milldir a haner o làn yr Iorddonen i Jericho, ac yn y fan hono yr oeddynt yn llettya. Mae rhai yn meddwl eu bod wedi eu gosod fel allor bedair onglog, eraill yn meddwl mai yn grwn y gosodwyd hwynt, ac eraill yn tybied eu bod wedi eu dodi yn garnedd ar eu gilydd yn dwr. Fodd bynag, dyna yr amcan, fel y cawn mewn adnod yn nechreu y bennod, "Fel y byddo hyn yn arwydd yn eich mysg chwi, pan ofyno eich meibion chwi yn ol hyn, gan ddywedyd, 'Beth y mae y ceryg hyn yn ei arwyddocau i chwi?" Y mae rhywbeth i'w gofio yn cael ei wneud yn mhob oes a chan bawbi raddau, yn enwedig gydag achos yr Arglwydd. Felly, gallem dybied y bydd gofyn mewn oesoedd i ddyfod gyda golwg ar yr adeilad hwn[3] "Beth yw y ceryg hyn?" Gobeithio y bydd yn rhyw dŵr hyfryd, dymunol, a'i fod wedi ei adeiladu o gariad at yr Arglwydd Iesu Grist, ac yn ngrym cariad at ei achos. Sylwn
I.—Fod gweithredoedd yr Arglwydd yn bethau i'w cofio. Rhaid dweyd amei weithredoedd yn gyffredin yn enwedig tuag at ei eglwys, fod rhyw bobl â'u llaw, ynddynt rhyw wŷr eto yn dwyn eu ceryg ar eu hysgwyddau i'r lletty. Y mae yn ddyledus arnom wneud tŵr ohonynt. Dyma ydyw gwybodaeth y byd yma i raddau pell, gwybodaeth am weithredoedd yr Arglwydd; a dyma a ddylid ei wybod y rhan fwyaf bywiol o wybodaeth, beth a wnaeth yr Arglwydd. Mae yn wybodaeth sydd yn dyfod a dyn i'w le—ystyried a chwilio am weithredoedd yr Arglwydd. "Cofiaf," medd y Salmydd, am weithredoedd yr Arglwydd." Dyma ran fawr o wybodaeth dyn, a dyma brif ran dyledswydd dyn ydyw ymofyn gyda golwg ar y gweithredoedd hyn. Y fath ddoethineb a'r fath gelfyddgarwch perffaith sydd yn ei waith Ef. Mae yna lawer dyfais o eiddo dynion ag yr oedd yn rhaid fod meddwl cryf i'w cael allan. Ond beth am waith Duw? Pe baem ond yn unig yn ystyried y fath ddyfais fedrus sydd mewn gwahanol aelodau corph dyn y llaw, y llygad, y glust, a'r tafod—ac felly yr holl greadigaeth faith. Y mae y môr a'r tir a'r awyr yn llawn o bob math o ddyfeisiau o eiddo yr Hollalluog, yr hwn yw "Creawdydd y nefoedd a'i hestynydd, lledydd y ddaear a'i chnwd, rhoddydd anadl i'r bobl arni, ac ysbryd i'r rhai a rodiant ynddi." "Cofia fawrhau ei waith ef, ar yr hwn yr edrych dynion. Pob dyn a'i gwel; a dyn a'i cenfydd o bell." A dyna amcan y ceryg hyn.
II.—Fod yr Arglwydd wedi rhoddi arwyddion gyda golwg ar lawer o'i weithredoedd nerthol. Y mae felly gyda chreadigaeth y byd. Wedi iddo orphen creu a gwneud dyn ar wyneb y ddaear"uchder llwch y byd"—fe roes ddiwrnod, y seithfed dydd, i gofio gorpheniad y gwaith ac yn ddarpariaeth gogoneddus ar gyfer dyn. Yr un modd gyda'r diluw. Dyna amgylchiad rhyfedd a phwysig yn rhagluniaeth Duw a fu ar y byd yma, a gosododd yr Arglwydd beth i fod yn dŵr byth o hwnw, yn arwydd parhaus i oesoedd y ddaear fod diluw wedi bod ar y ddaear, ac hefyd o'r cyfamod a wnaeth yr Arglwydd â Noe na byddai diluw mwy.
Fe wnaeth Duw gyfamod gydag Abraham y byddai yn Dduw iddo, a rhoddes arwydd o hyny yn yr enwaediad. Felly am waredigaeth meibion Israel o'r Aipht, yr oedd Oen a Gwyl y Pasg yn arwydd ohoni, ac o'r dyogelwch a gafwyd noson fawr y dinystr, pan oedd cyntafanedigion y genedl yn yr amddiffyn yn nghysgod y gwaed. Wedi dyfod i'r anialwch drachefn, yr ydym yn cael fod yr Arglwydd yn ymddangos mewn modd hynod iawn i'w bobl, ac y mae yn rhoi arwydd yn y tabernacl o roddiad y ddeddf ac o sefydliad ei addoliad yn eu plith; ac felly yr oedd y golofn niwl a thân i'w harwain. Ac wedi hyny ar ol iddynt fyned i Ganaan y mae yr Arglwydd yn gorchymyn iddynt adeiladu colofn ar fynydd Ebal, ac ysgrifenu ar hono y gyfraith i fod yn dyst i'r bobl o'r cyfamod a wnaeth Jehofah a hwy yr oedd Ef i fod yn Dduw iddynt hwy, a hwythau i fod yn bobl iddo yntau, yn ufudd i'w orchymynion ac yn ei wasanaethu. Yr un ffunud y mae y ceryg hyn yn dŵr coffa o'r man y croesodd meibion Israel yr Iorddonen yn ddyogel. Ac nid yn unig o dan yr Hen Destament y gwneir hyn, ond y mae eto i barhau. Dyna ydyw yr ordinhad o Swper yr Arglwydd, rhyw arwydd fel y ceryg hyn—tŵr coffadwriaeth o'r hyn a wnaeth yr Iesu ac a ddyoddefodd yn ein lle ar Galfaria. "Efe yw yr iawn dros ein pechodau ni," ac yn haeddiant hwnw y mae yr Anfeidrol yn maddeu a chyfiawnhau y penaf o bechaduriaid. Felly y dydd Sabboth, wedi ei newid o'r seithfed i'r dydd cyntaf o'r wythnos yn ddydd tŵr adgyfodiad yr Arglwydd Iesu o'r bedd. Yr un ffunud y mae y bedydd hefyd yn arwydd o'r iachawdwriaeth gyflawn sydd gan Dduw yn dri pherson—yn Dad, Mab ac Ysbryd Glan—ar gyfer pechadur colledig i'w ymgeleddu, er ei holl lygredigaeth, a'i berffaith gymhwyso i dragwyddol ogoniant. Dwfr yn y bedydd ydyw yr arwydd, ac mewn rhyw ystyr dwfr ydyw yr ymgeledd i greadur o ddyn, a dyna yr ymgeledd gyntaf y mae yn ei gael ar ol dyfod i'r byd yma. Y mae arwyddion o bethau mawrion yn debyg i'r ceryg hyn.
III.—Gwelwn hefyd fod yr Arglwydd yn ewyllysio i ddyn wneud ymofyniad. Dyna amcan yr arwyddion, codi ymofyniad. Yr oedd yn naturiol i bawb a ganfyddent y garnedd, neu yr allor, hon, ofyn, "Beth yw y ceryg hyn?" Mae yr Arglwydd yn disgwyl i ddynion ymofyn, a dyna brif neges dyn yn y byd yma ydyw ymofyn. Fe glywir ambell un yn dweyd wrth y plentyn, "Taw a holi, fachgen." Na, y mae y bachgen wedi ei eni i holi, ac arwydd obeithiol iawn ar blentyn ydyw ei fod yn dueddol i holi. Holi, chwilio, ac ymofyn ydyw prif waith dyn yn y byd; a lle i ofyn cwestiynau ydyw y byd yma. Ac nid rhyw ymchwil ofer ydyw amcan ein bywyd. Na, y mae genym ni y cwestiynau pwysicaf i'w gofyn, "Pa fodd y cyfiawnheir dyn gyda Duw ?' "Pa fodd y bydd yr hwn a aned o wraig yn lân?" O, feistriaid, beth. sydd raid i mi ei wneuthur fel y byddwyf gadwedig ?" "Beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragwyddol ?" Dyna y cwestiynau mawrion a phwysig a phriodol ag y dylem feddwl yn ddifrifol am eu gofyn; ac y mae yna lawer o foddion ac ordinhadau, fel y "ceryg hyn," i'n cymhell i'w gofyn.
IV. Mae yr Arglwydd wedi trefnu modd i ateb cwestiynau dyn. Fe drefnodd ateb i ymofyniad y bobl yn y fan hon. Y mae gan yr Arglwydd eto atebion i'n cwestiynau mwyaf difrifol a phwysig. Diolch iddo fod modd ateb y cwestiynau pwysig. Fe drefnodd ateb i'r holl gwestiynau gyda golwg ar y greadigaeth, y diluw, cyfamod Abraham, ac y mae hefyd wedi rhoddi yr ateb yn ngenau meibion Israel gyda'r Pasg, a lluaws o bethau eraill, a'r " ceryg hyn." Ac i'r pethau anfeidrol eu pwys i ninau y mae wedi trefnu ateb. "Pa beth a wnawn ni fel y gweithredom weithredoedd Duw?" Y mae ateb croyw i'r gofyniad—"Hyn yw gwaith Duw; credu ohonoch yn yr hwn a anfonodd efe." Mor eglur oedd yr ateb i geidwad y carchar, "Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig fyddi, ti a'th deulu." Cael ateb i'n cwestiynau pwysig oedd y peth penaf a wnaeth yr Anfeidrol ei hunan, ac o'i dragwyddol gariad y gwnaeth Efe hyny. Nid oes yr un ateb i'w roi gyda golwg ar ei gynhyrfiol achos, ond y geiriau hynny—"Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd Efe ei uniganedig Fab, fel na choller pwy bynag a gredo ynddo Ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol." "Yr hwn a draddodwyd dros ein pechodau, ac a gyfodwyd i'n cyfiawnhau." Fe draddododd ei Fab i farw ar y croesbren yn ein lle ni, fel y gallem ni gael atebion i'n cwestiynau mwyaf difrifol. Peth ofnadwy ydyw myned i ymyl tragwyddoldeb a gofyn yn y fan hono, "Beth a wnaf?" Rhyw gwestiwn mewn iechyd, aç hyd y gellir, yn moreu yr oes, ydyw hwn—cwestiwn heddyw ydyw. Y mae y rhai sydd wedi cael atebiad yn teimlo eu hunain yn bur dawel, ac yn edrych ar bethau y byd yma yn bethau o ychydig ganlyniad, fel Abraham "Trwy ffydd yr ymdeithiodd efe yn nhir yr addewid canys disgwyl yr ydoedd am ddinas ac iddi sylfeini." Beth a wnaeth ei feddwl yn dawel yn ei holl ymdaith? Dyn wedi cael ateb i'w gwestiwn mawr ydoedd. Yr un ffunud am Moses, "Wedi myned yn fawr, a wrthododd ei alw yn fab merch Pharaoh." Cadwai ei olwg yn y fan hono bob dydd gyda "thaledigaeth y gwobrwy "—yr oedd ei lygad yn sefydlog i fynu. Yr oedd wedi cael ateb i gwestiwn mawr ei enaid yn nhrugaredd a grâs Duw. Yn nghanol ein cwestiynau bychain, "Beth a fwytawn ? neu beth a yfwn? neu â pha beth yr ymddilladwn?" mor anmharod yr ydym i ofyn ein cwestiynau mawrion?
V.—Mae gan bob dyn rhyw bethau hynod yn ei daith yn y byd. Gobeithio fod genym allor fel Abraham, colofn wedi ei heneinio fel Jacob, perth yn llosgi fel Moses, a'r "ceryg hyn" fel Josua, a "haner dydd ar y ffordd" fel Paul—rhyw farciau hynod ar y daith, ôl gwneud cyfamod â Duw. Y mae hanes y dyn duwiol yn debyg i wythnos y creu—rhyw gyfnodau hynod yn hanes gwaith Ysbryd yr Arglwydd ar ei enaid. Y peth cyntaf yn y greadigaeth yma oedd Bydded goleuni;" felly yn achubiaeth pechadur; daw goleuni i'w feddwl ar ei gyflwr, a'i fater, a'i angen, ac ar yr iachawdwriaeth sydd yn Nghrist ar gyfer hyny. Yr ail ddydd wele yr Arglwydd yn dweyd, Bydded ffurfafen," y mae yn gwella. Nid oedd y goleuni blaenorol ond goleuni ar dryblith y ddaear, ond dacw "nefoedd " yn ymddangos. Y trydydd dydd y mae y dyfroedd yn ymgasglu i'r un lle, ar sychdir yn ymddangos, a'r egin yn dechreu tarddu, a'r prenau yn dechreu tyfu a dwyn ffrwyth wrth eu rhywogaeth. Yn debyg i waith yr Ysbryd tragwyddol, wedi cael goleuni i mewn, a chael golwg ar ffurfafen y nefoedd uwchben, dacw rhyw egin bychain o weithredoedd da, a rhyw brenau yn dwyn ffrwyth, mewn ymarferiad â moddion gras ac ordinhadau yr efengyl, yn ymddangos. Y pedwerydd dydd, drachefn, y mae yn well eto. Dyma oleuadau yn y nefoedd, y goleuad mwyaf i lywodraethu y dydd a'r lleiaf y nos, fel y pechadur yn cael golwg ar Grist a'i eglwys yr haul a'r lleuad yn y byd ysprydol. Y pumed dydd dyma y pysgod yn heigio yn y dyfroedd, a'r corau asgellog wedi eu creu—y môr—feirch yn chwareu yn nyfroedd y môr, a'r adar yn canu a phyncio nes llenwi y coedwigoedd â mawl a cherddoriaeth. Y chweched dydd, yn foreu iawn, dacw y creaduriaid yn codi yn eu maint—y gwartheg a'r defaid, ac aneirif luoedd o greaduriaid, a'r oll yn agor eu llygaid yn nghanol llawnder. A dyna ddyn yn cael ei greu, a hwnw yn agor ei amrantau yn nghanol y greadigaeth fawr wedi ei dodrefnu ar ei gyfer, ac yn llawn o breswylwyr, a'r holl greaduriaid o'i amgylch mewn addfwynder perffaith. Y "creadur newydd" yn dyfod yn amlwg sydd yma. Y seithfed dydd, Sabboth o orphwysdra ydyw, i roddi gogoniant i'r Arglwydd am ei waith. Y mae holl hanes y greadigaeth newydd i ddybenu mewn Sabboth.
Mae taith y dyn duwiol hefyd yn debyg i daith Israel o'r Aipht. Ystyr y daith ar ei hyd ydyw Duw yn gwaredu—y ceryg ar hyd y ffordd yn pregethu y waredigaeth. Y mae taith y dyn a gedwir yn dechreu fel taith y genedl mewn Pasg. Yn mha le y cychwynodd meibion Israel? Gyda'r Pasg. Y maent yn ffarwelio â thŷ y caethiwed yn ngŵyl y Pasg. Felly mae crefydd yn dechreu yn ngolwg trefn Duw i fyned heibio i bechadur mewn Iawn, a'r euog yn cael cuddio ei ben yn ei gysgod. Yn mlaen wedi hyny a chroesi y môr o dir y caethiwed; felly y mae dynion yn croesi, ac yn gadael y byd ac yn bwrw eu coelbren yn nghynulleidfa y saint. Ant i'r anialwch, ond anialwch â'r Golofn ynddo ydoedd, ac mor gysurus i blant Israel oedd y Golofn y dydd a'r nos. Bendigedig fyddo enw yr Arglwydd, y mae peth fel yna gyda'i deulu eto. Yr oedd y Golofn wrth eu harwain yn eu hamddiffyn ac yn eu cysuro. Gallwn ninau eto ganu mewn anialwch
Mae dy air yn abl fy arwain
Trwy'r anialwch mawr yn mlaen;
Mae yn golofn oleu, eglur,
Weithiau o niwl ac weithiau o dân;
Mae'n ddi-ble ynddo fe
Fwy na'r ddaear, fwy na'r ne'.
Y mae arweiniad Duw yn eu dyogelu ar hyd y daith. Yr arch sydd i fod yn y golwg wrth groesi yr Iorddonen—y Golofn wedi cilio o bosibl ond croesasant yr afon heb gael dim niwed yn ngolwg Arch y Cyfamod, a dygasant geryg o waelod yr afon i dir yr addewid.
Fel yna y mae pobl dduwiol eto yn croesi yr Iorddonen—dilyn yr arch a'r Offeiriad mawr y mae yr Offeiriad a'r arch yn lle dyfnaf yr afon, ac y mae y saint yn codi ceryg o'r gwaelod. Yr hen bererin Edward Williams a ddywedai pan yn ei chroesi, "Yr Hwn yw ein tangnefedd ni." Careg oedd hona o waelod yr afon. Gallem enwi lluaws o hen frodyr a hen chwiorydd a godasant geryg o waelod yr Iorddonen. Rhodded yr Arglwydd i ninau gael dilyn yr arch. Ond hwyrach fod yma rhywun yn barod i ddweyd, "Ni chafodd fy mhriod i ddim codi careg wrth fyn'd drosodd i fyd arall. Colli ar y môr a ddarfu." Eraill, y clefyd mor boeth nad oedd yno ddim codi careg. Wel, un o bob llwyth oedd yn gwneud hyn o feibion Israel; ond yr oedd y ceryg yn ateb drostynt igyd. Y mae yna lawer a adwaenem yn yr hen gapel wedi cael y fraint o godi careg wrth fyned trosodd i Wlad yr Addewid. Rhoed yr Arglwydd i ni gael crefydd a'n dygo yn ddyogel trwy bob môr a phob afon nes cyrhaedd Canaan.
Wel, dyma fi yn terfynu. A ydych chwi wedi cychwyn? A oes yma Basg wedi bod? A ydyw gwaed yr Oen ar y ddau ystlysbost ac ar gapan y drws? A ydych wedi gadael yr Aipht gyda theulu Duw, ynte yn aros yn nhŷ y caethiwed? Mi fydda i yn gwel'd ceryg yr afon, wedi eu codi o'r gwaelod, mewn llawer lletty yn y wlad yma—y ceryg a godwyd gan rieni rhai ohonoch—yn arwydd i'r Arglwydd fod yn dda wrthynt. Na ato y nefoedd i neb ohonom fyw a marw yn nhŷ caethiwed pechod, ond cychwyn y byddom gyda'r teulu. Gwylia, enaid anwyl, golli y cyfle i gychwyn. Bydded gras yr Arglwydd Iesu Grist gyda chwi. Bendithied yr Arglwydd hyn at ein holl freintiau, er mwyn ei Enw. Amen.PREGETH VI.—Brenhiniaeth Duw.[4]
"Ac yn nyddiau y brenhinoedd hyn, y cyfyd Duw y nefoedd frenhiniaeth, yr hon ni ddistrywir byth: a'r frenhiniaeth ni adewir i bobl eraill; ond hi a faluria, ac a dreulia yr holl frenhiniaethau hyn, a hi a saif yn dragywydd.
"Lle y gwelaist dori careg o'r mynydd, yr hon ni thorwyd â llaw, a malurio ohoni yr haiarn, y pres, y pridd, yr arian, a'r aur; hysbysodd y Duw Mawr i'r brenin beth a fydd wedi hyn: felly y breuddwyd sydd wir, a'i ddehongliad yn ffyddlawn.—Daniel ii. 44, 45.
DYMA y frenhiniaeth a gyfyd Duw y nefoedd mewn modd neillduol, a darluniad o'r frenhiniaeth hono ydyw y geiriau hyn. Duw sydd yn ei chyfoditeyrnas ddwyfol ydyw. Crist ydyw ei brenin, ac y mae ganddo hawl ddwyfol i deyrnasu. Fe sonir am frenhinoedd yn eistedd ar eu gorseddfeinciau trwy divine right, ac y mae eu hanes yn fynych yn gabledd ar yr enw a'r awdurdod a hònir ganddynt; ond dyma Frenin Dwyfol, ac awdurdod ddwyfol wedi ei osod yn ei swydd, ac nid ydyw yr enw yn cael ei ddarostwng wrth ei gwisgo.
Y saint ydyw deiliaid y frenhiniaeth hon. Y mae y rhai hyn wedi eu troi a'u haileni, ac y mae egwyddorion y deyrnas yn eu heneidiau, yn eu calonau. Dyma hen wrthryfelwyr wedi eu gwneud yn ddeiliaid "ufudd ac ewyllysgar "—" Oddieithr eich troi chwi, a'ch gwneuthur fel plant bychain, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nefoedd." Yr eglwys ydyw y deyrnas ag y mae y Brenin yma yn llywodraethu arni. Dyna fel y dywed am dani: "Fy mrenhiniaeth i nid yw o'r byd hwn. Pe o'r byd hwn y byddai fy mrenhiniaeth i, fy ngweision i a ymdrechent, fel na'm rhoddid i'r Iuddewon." Dyna drefn y byd; y mae gweision pob rhyw frenin daearol yn ymdrechu gyda'r cleddyf ac offerynau rhyfel. "Canys pob câd y rhyfelwr sydd mewn trwst a dillad wedi eu trybaeddu mewn gwaed;" ond nid felly am deyrnas yr Arglwydd Iesu Gristteyrnas ysbrydol ydyw, yn cael ei gwneud i fynu o dangnefeddwyr, o'i bobl Ef ei hun. Er ei bod yn y byd nid ydyw o'r byd, ac ni elwir hi yn deyrnas gan y byd am nad ydyw delw y byd arni.
Y mae y deyrnas hon, er ei bod fel yma, yn un anorchfygol. Y mae yn deyrnas nerth a gallu, ac y mae iddi ei threfn ogoneddus. Yr Efengyl ydyw ei chyfraith. Y mae rhyw reolau i bob teyrnas, ac felly y mae i frenhiniaeth Crist. Y Beibl ydyw llyfr cyfraith y frenhiniaeth hon. Dyma y frenhiniaeth yn ei chyfraith, yn ei deddf; ac yn ol y gyfraith yma y bydd pawb yn cael eu barnu yn y dydd diweddaf. Bydd deddfau daearol wedi ymddatod, a phob cyfreithiau eraill wedi darfod yn " y dydd y barno Duw ddirgeloedd dynion yn ol fy efengyl i." Perthynas â'r efengyl—cyfraith y deyrnas—fydd yn penderfynu dy dynged am byth. Anufudd—dod i'r Efengyl—ufudd—dod i'r Efengyl—yn ol yr Efengyl y bernir yn y dydd diweddaf.
Y mae breintiau uchel hefyd i'r frenhiniaeth hon. Fe geir yn nglŷn â rhai teyrnasoedd daearol gryn lawer o fanteision mewn rhyddid, a llawnder, a heddwch. Y mae i frenhiniaeth yr Iesu ei breintiau, ac y maent yn nghyrhaedd yr holl ddeiliaid. Nid oes yma wahanol ddosbarthiadau—gwreng a boneddig—na, y mae pawb yn dyfod i mewn am ei holl fanteision; y mae y tlawd a'r cyfoethog yn cydgyfarfod yma. Breintiau brenhiniaeth yr Arglwydd Iesu ydyw ordinhadau ei deyrnas.
Y mae yn briodol i ni sylwi hefyd ar nodwedd y frenhiniaeth hon. Y nodwedd neillduol ac amlwg a berthyn iddi ydyw cariad. Dyma farc y deyrnas. "Wrth hyn," medd yr Arglwydd Iesu Grist, y gwybydd pawb mai dysgyblion i mi ydych, os bydd genych gariad i'ch gilydd."
Y mae i'r deyrnas yma ei meddianau. Y mae i bob teyrnas rhyw feddianau; ond fe sonir am rai teyrnasoedd a fu yn gwneud cryn swn yn y byd gynt wedi tori i fynu, y meddianau i gyd wedi myned ymaith, a hwythau yn rhy dlawd i gyfarfod â'r gofynion. Ond dyma deyrnas na welir byth mohoni yn dlawd. Yr hyn sydd yn eiddo, yn feddiant cyffredinol, i'r gwir ddeiliaid ydyw bywyd tragwyddol. Nid oes neb o'r deiliaid, pwy bynag ydyw, nad ydyw yn etifedd bywyd tragwyddol. Dyna a ddywed yr Arglwydd Iesu, "A minau ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd tragwyddol." Y mae yn rhoddi i bob un sydd yn credu ynddo. "Yr hwn y mae y Mab ganddo y mae y bywyd ganddo," " y mae y bywyd ganddo" yn awr: nid fe fydd ganddo, na, y mae yn feddiant iddo heddyw, "y mae y bywyd ganddo." Nid ydyw wedi ei berffeithio eto. Y mae ynddo lawer o anmherffeithrwydd. O oes, ond y mae yr anmherffeithrwydd hwnw yn gwneud mwy o boen iddo ef ei hun nag i neb arall, ac eto, yn nghanol ei wendid a'i annheilyngdod, y mae yn etifedd bywyd tragwyddol.
Ni a gawn ddarluniad o'r frenhiniaeth yn y geiriau hyn:
1. Y mae yn oruwchnaturiol. Fel yna y dywed y geiriau, "Ac yn nyddiau y brenhinoedd hyn y cyfyd Duw y nefoedd frenhiniaeth." Y mae yn oruwchnaturiol yn ei chyfodiad, yn ei dechreuad. Nebuchodonosor a gododd frenhiniaeth Babilon i'w gogoniant; ond "cyfyd Duw y nefoedd frenhiniaeth." Duw yn ei chyfodi ac yn diystyru yr offerynau sydd gan y byd i sefydlu brenhiniaethau. "Yn nyddiau y brenhinoedd hyny" y mae Duw y nefoedd yn cyfodi brenhiniaeth heb alw am help nac ymgynghori a'r un o'r "brenhinoedd hyny."
Careg ydyw hon "yr hon ni thorwyd a llaw," hyny ydyw, nid oes yna ddim gallu dynol i'w ganfod. Na, y mae yma fwy na gallu dynol. Fel yna y cychwynodd achos yr Arglwydd, ac y mae y wedd yma yn parhau arno, gallu goruwchnaturiol y tu cefn iddo bob cam. Dyna oedd yn y dechreu, yr hon a "gyfyd Duw y nefoedd;" ac fel yna y mae wedi myn'd yn mlaen, pe baech yn edrych arni yn mhob tref a chwm, dyna yr hanes—" yr hon a gyfyd Duw y nefoedd."
2. Y mae y dechreuad yn fychan hefyd. "Careg". Maen mawr, clogwyn anferth? Nage, nage, careg, ac ni chlywir neb yn galw darn o glogwyn yn gareg. Dyna hanes y cychwyn. Edrychwch ar Mair Joseph yn gadael Nazareth, a chanddynt daith o tua chan' milldir i ddyfod i Bethlehem i'w trethu. Erbyn cyrhaedd Bethlehem yr oedd pob man yn llawn, a dim i'w wneud ond troi i letty yr anifail, ac yno y ganwyd Brenin y deyrnas. Y mae rhai enwog wedi eu geni mewn lleoedd cyffredin iawn. Dyna ddywedir am dano, "Chwi a gewch y dyn bach wedi ei rwymo mewn cadachau a'i ddodi yn y preseb."
3. Golwg gyffredin a diaddurn sydd arni—"careg o'r mynydd". Perl wedi ei gael. Nage, nid perl. Nid un o emau gwerthfawr y byd yma. Na, dim ond careg, a hono wedi ei thori o'r mynydd. Ni fuasai neb ohonom yn meddwl fawr ohoni. Y mae nerth cynydd y deyrnas yn ei dwyfoldeb ei hun. Y mae ei gogoniant yn aros ynddi ei hun. Nid yn nghymhwysder yr offerynau y mae sail ei llwyddiant. Yr oeddynt yn annghymhwys, ond fel y mae yr Arglwydd yn eu darparu ac yn eu cymhwyso. Ac nid yn yr ordinhadau chwaith y mae ei nerth a'i chynydd. Rheswm ei chynydd ydyw ei dwyfoldeb. Dyma nerth ein holl wasanaeth: nid yr addurn o amgylch, ond y gogoniant yn y canol, "Duw sydd yn ei chanol hi." Y cyfarfod gweddi llwydaidd, y seiat syml a diaddurn, y Dwyfol sydd ynddynt ydyw eu nerth a'u gogoniant.
4. Y mae yn anorchfygol, "Yr hon ni ddistrywir byth." Er ei bychander ymddangosiadol, ac er mor gyffredin i'r golwg ydyw, dyma ddywedir am dani, "Yr hon ni ddistrywir byth," ac y mae y gair wedi ei wirio yn ei hanes. Y mae yna lawer wedi amcanu am ei distrywio; ond trwy y cyfan dyna'r gair am dani, "Yr hon ni ddistrywir." Bu pob dyfais ar waith, ond "ni ddistrywir byth." A dyma sydd yn ei sailgallu Duw. "Ar y graig hon," medd yr Iesu, "yr adeiladaf fy eglwys, a phyrth uffern nis gorchfygant;" " Yr hon ni ddistrywir byth."
5. Y mae yn ymosodol hefyd. "Hi a faluria, ac a dreulia yr holl frenhiniaethau hyn." Pan y mae crefydd mewn sefyllfa lwyddianus y mae yn ymosodolyn malurio delwau ac yn treulio ymaith hen frenhiniaethau cedyrn mewn llygredigaeth. Ni lyncir hi i fynu byth gan un gallu; ond fe orchfyga hi ac fe ddarostynga bob gallu iddi ei hun.
Y mae yn frenhiniaeth â'i hegwyddorion yn sefydlog ac ansigledig—" A'r frenhiniaeth ni adewir i bobl eraill." Fe ddaw "pobl eraill" a fydd yn gwybod mwy na ni, ac yn gallu barnu pethau yn well; ond, ar yr un pryd, "y frenhiniaeth ni adewir i bobl eraill." Yr un math o bobl fydd deiliaid y deyrnas bythpobl wedi eu troi, wedi eu cadw. Nid pobl ddysgedig, nid pobl alluog, ond pobl wedi ymostwng. Y mae yr egwyddorion yn rhai digyfnewid. Bydd yr hen bynciau yna o gyfiawnhad trwy ffydd, maddeuant pechodau trwy yr Iawn, mabwysiad a sancteiddhad trwy y gwaed—hen sylfeini eglwys y Duw byw—yr egwyddorion sydd yn ol duwioldeb, bydd y rhai hyn yn parhau holl ddyddiau y ddaear. Yr un egwyddorion, yr un gwirioneddau, yr un adnodau sydd am ein bywyd ni fydd am eu bywyd hwythau sydd yn ein dilyn. Y geiriau sydd genym ni yn y seiat, dyna y geiriau y bydd y dynion mawr sydd yn d'od yn eu hadrodd ac yn ymaflyd yn dyn ynddynt am eu bywyd. Y mae adnodau y mil blynyddoedd genym yn awr. Y gwirioneddau sydd i ddarostwng annuwioldeb yn y byd, ac i gael "Teyrnasoedd y byd yn eiddo i'n Harglwydd ni a'i Grist ef" ydyw sylfeini ein gobaith yn y dyddiau hyn.
6. Y mae y deyrnas yma yn un gynyddol. Dywedir fod y gareg a dorwyd o'r mynydd i lanw yr holl ddaear. "A'r gareg yr hon a darawodd y ddelw a aeth yn fynydd mawr, ac a lanwodd yr holl ddaear." "Yn fynydd mawr," ni wn i ddim beth ydyw ystyr hyny. Paham y sonir am fynydd? Nid mynydd o ran codiad tir, mi dybiwn, er fod hyny yn bod; ond nid hyny yn unig, ond mynydd fel lle cyffredinmynydd i bawb i gymeryd hyfdra arno, heb fod yn etifeddiaeth i neb mwy na'u gilydd.
Y mae y deyrnas yma yn cyrhaedd pawb, tlawd a chyfoethog, hen ac ieuainc, mynydd ydyw yn ei heangder a'i llwyddiant. Mae hi i barhau byth, "a hi a saif yn dragywydd." Y mae y gair "byth" yn fy syfrdanu, a'r ymadrodd "yn dragywydd" yn peri i mi ddychryn yn fynych; ond dyma deyrnas sydd i aros byth. Dyma bethau a pharhad tragwyddol ynddynt. Y mae heddwch y deyrnas yn heddwch a bery yn dragwyddol. Dyma ffynon o gysur na welir mohoni wedi sychu i fynu yn oes oesoedd. Y mae yr orsedd yn ddisigl a'r Brenin i fyw byth, ar ei "lywodraeth ni bydd diwedd."
"Gorfoledded meibion Seion yn eu Brenin." Nis gall y gorfoledd droi yn dristwch i dragwyddoldeb,
Mae ffrydiau 'ngorfoledd yn tarddu
O ddisglaer orseddfainc y ne'.
Dyma ffrydiau na welir mohonynt wedi sychu i fynu, y mae holl rym yr orsedd ddigyfnewid y tu cefn iddynt. Fe ddeil y canu yn y deyrnas byth. Y mae rhai wedi dechreu yn wan yr ochryma; ond rhyw daro y cyweirnod megys y mae teulu Duw i lawr; ond wedi dringo i'r làn fe ddeil y gân yn mlaen heb ddim anhwylus am dragwyddoldeb.
Dechreu canu, dechreu canmol,
Yn mhen mil o filoedd maith,
Iesu, bydd y pererinion,
Hyfryd draw ar ben eu taith;
Ni cheir diwedd
Byth ar swn y delyn aur,
Y mae rhai dynion nad ydynt "bell o deyrnas nefoedd," ond nid ydynt i mewn. Pobl yn colli oddiar y terfyn. Rhoed y Nefoedd i ni gael bod i mewn yn y deyrnas.
PREGETH VII.—Y wraig ag ynddi ysbryd gwendid.
"Ac wele yr oedd gwraig ag ynddi ysbryd gwendid ddeunaw mlynedd, ac yr oedd wedi cydgrymu, ac ni allai hi mewn modd yn y byd ymuniawnu.
"Pan welodd yr Iesu hon, efe a'i galwodd hi ato, ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, rhyddhawyd di oddiwrth dy wendid."
"Ac efe a roddes ei ddwylaw arni: ac yn ebrwydd hi a uniawnwyd, ac a ogoneddodd Dduw."—Luc xiii. 11-13.
FE dybir fod yr Arglwydd Iesu yr adeg yma yn Perea, y tu hwnt i'r Iorddonen. Yn mha dref neu bentref yn y wlad hono, nid oes gwybodaeth; ond yr oedd yno ar y Sabboth, ac yr oedd yn y lle synagog gan yr Iuddewon, ac fe aeth yr Iesu i mewn iddi. Nid oedd y synagog yn arferedig gan y genedl, fel y bernir, hyd ar ol y caethiwed yn Babilon. Ceir y gair yn Llyfr y Salmau (lxxiv. 8), "llosgasant holl synagogau Duw yn y tir." Salm ydyw hon, fel y tybia rhai, wedi ei chyfansoddi yn amser Judas Maccabeus. Ystyr y gair synagog ydyw tŷ cyfarfod, neu dŷ cwrdd—cydgasgliad cynulleidfa, neu gymanfa.
Y mae lle i feddwl fod Llyfr Cyfraith yr Arglwydd cyn hyn yn brin iawn. Fel y cawn hanes yn nyddiau Jehosaphat, "A hwy a ddysgasant yn Judah "—sef y dysgawdwyr a enwir yn yr adnod o'r blaen—"a chyda hwynt yr oedd llyfr cyfraith yr Arglwydd" (2 Chron. xvii. 9). Ymddengys mai yn meddiant y dysgawdwyr yn unig yr oedd "Llyfr y Gyfraith" y pryd hwnw. Prinion iawn oedd Llyfrau Cyfraith yr Arglwydd yn mhlith y bobl, os oedd ganddynt rai o gwbl, ac felly y parhaodd hyd ar ol dyddiau Ezra; ac yna fe ddechreuwyd adeiladu synagogau i ddarllen Llyfr Cyfraith yr Arglwydd, ac hefyd fe gyfieithiwyd y llyfr o'r Hebraeg am nad oedd y bobl gyffredin yn deall yr iaith hono wedi y caethgludiad. Y mae y lluosogiad Beiblau yn mhlith y bobl, ac adeiladu tai i'w darllen, yn nglŷn â'u gilydd yn hanes ein gwlad ninau.
Adeiledid y synagog yn debyg i ffurf y deml, ac addolai y bobl ynddi â'u hwynebau tua'r deml, a gwneid hon ar y ffurf i'r pwrpas hwnw. Nid oes hanes am yr un gorchymyn dwyfol pendant i adeiladu synagogau; ond yr oeddynt, fel y mae yr Ysgol Sabbothol a Chymdeithas y Beiblau a'r Gymdeithas Genhadol a phethau eraill, yn codi o fywyd ysbrydol a chrefyddol y genedl mewn tymhor o adfywiad. Ac yn mhen ychydig ugeiniau o flynyddoedd yr oedd canoedd ohonynt wedi eu hadeiladu ar hyd y wlad ac yn mhob gwlad lle yr oedd Iuddewon. Dywedir gan un ohonynt fod ar un adeg gynifer â phedwar cant chwech a phedwar ugain yn Jerusalem, tair ar ddeg yn Tiberias, a deg yn Damascus.
Yr un pryd y deml oedd y brif synagog i'r genedl; ond yr oedd yr adeiladau hyn, yn ddiau, o werth mawr i'r grefydd Iuddewig. Er nad oedd yn perthyn iddi nac allor nac aberth, yr oedd yno addoli Arglwydd Dduw Israel. Fel yr oedd y trefniadau hyn yn heneiddio, yr oedd yr holl genedl bron yn myned yn ffurfiol a thraddodiadol iawn. Pan y mae y bywyd a roddodd fod i unrhyw sefydliad yn colli, y mae yn berygl i'r sefydliad hwnw fyned yn ffurf wag ac ofer. Yn y synagog yr oedd y merched y tu draw i derfyn dellt, yn eistedd a'u cefnau at y meibion; ac yr oedd y lle i ddarllen ar y canol, ac yno y byddai y Rabbi a'r dynion eraill a'u hwynebau tuag ato. Fodd bynag, erbyn dyddiau ein Hiachawdwr yr oedd y synagogau yn yr holl wlad, ac yntau yn arfer myned iddynt, ac wedi arfer hyny o'i febyd. Arferai fyned i'r un yn Nazareth, ac yn hono yr oedd wedi derbyn llawer o'i addysg, fel yr oedd yn cael ei dderbyn yn ddeuddeng mlwydd oed i gael bwyta o'r Pasg yn dair ar ddeg fel bechgyn eraill y genedl.
Ni a gawn ei hanes yn y fan yma, yn ol ei arfer, yn myned i'r synagog. Gallesid dwyn llawer o resymau i brofi na fuasai waeth iddo beidio:—
- 1. Am fod y synagog ar y pryd yn llawn rhagrith.
- 2. Am fod yno anwybodaeth mawr.
- 3. Am ei bod yn llawn o ddefodau cnawdol.
Gallesid tybio y buasai darllen neu fyfyrio gartref yn ateb gwell dyben iddo. Na, yr oedd yn ystyried fod y gair yno ac y gallasai ddysgu y bobl yno, ac yr oedd hefyd yn parchu tŷ ei Dad, er fod pethau annheilwng yn fynych o'i amgylch. Mae cynulleidfa y saint yn ordinhad Duw, ac ni ddylai neb ei hesgeuluso.
Yn adnod nawfed dywedir ei fod "yn dysgu yn un o'r synagogau," a dysgawdwr heb ei gyffelyb ydoedd. Dichon fod llywodraethwr y synagog yn eiddigeddu wrth waith yr Iesu yn dysgu, oblegyd yr oedd yn "dysgu fel un âg awdurdod ganddo." Y mae ffurfioldeb oer gwasanaeth y synagog yn cael tori arno gan nerth ei eiriau a phwysigrwydd ei athrawiaeth. Ac nid dysgu yn unig y mae, ond cyflawni gweithred o gymwynasgarwch hefyd. Yr oedd yr Arglwydd Iesu yn cysylltu addysg â gweithredoedd da. Dyma sydd yn gwneud addysg yn dderbyniol ac effeithiol—ei fod wedi ei gylymu wrth weithredoedd da. Mae yr efengyl i barhau fel hyn—dysgu a gwneuthur a gwneuthur a dysgu.
Yn y testyn ni a gawn ddau beth i sylwi arnynt:—
- I. Cyflwr ac arfer y wraig.
- II. Sylw a bendith yr Iesu.
I.—Cyflwr ac arfer y wraig. Yr oedd cyflwr naturiol y wraig hon yn ddangosiad o gyflwr ysprydol llawer o wrandawyr yr efengyl.
1. Yr oedd ei hafiechyd yn un annymunol iawn. Yr oedd gan Satan law ynddo, "Yr hon a rwymodd Satan." Y mae pob peth ag y mae gan Satan law ynddo yn chwerw iawn. Un diymarbed hollol ydyw ef ar ddyn, ac nid ydyw byth yn blino nac yn cael ei ddigoni ar boenydio dynion. Felly y gwnaeth gyda Job; pan gafodd ganiatad, fe aeth hyd eitha ei derfyn. Dylem ddiolch fod yr Arglwydd yn gosod terfyn iddo, "Yr hwn ni ad eich temtio uwchlaw yr hyn a alloch." Bydd y diafol yn siwr o fyned hyd eitha ei derfyn, fel y dywedai Job, "A chroen fy nannedd y diengais;" ac ni chawsai mo hwnw onibae ei fod yn disgwyl iddo gablu Duw â'i dafod. Bobl! y mae gan y diafol law yn eich anufudd-dod chwi, " Yr yspryd sydd yr awrhon yn gweithio yn mhlant anufudd-dod," ac fe ddywedir fod "nerth marwolaeth ganddo."
2. Yr oedd rhwymau Satan yn yspryd gwendid ynddi. Rhwymau yn peri gwendid ydyw rhwymau Satan. Nid oddiallan y mae yn rhwymo, ond y mae yn yspryd gwendid. Dyma yr hyn a wna y diafol, trwy ei holl demtasiynau a'i hudoliaeth, magu yspryd gwendid. Dyma sydd ar lawer yn eu cadw oddiwrth grefydd—yspryd gwendid, meddwl y bydd rhywun yn gofyn rhywbeth iddynt, ac y gwesgir arnynt i addoli Duw yn y teulu, a bod â'u hysgwydd o dan yr arch mewn rhyw le cyhoeddus. Beth! Oni fyddai yn fraint i'r dyn wneud hyn a phethau eraill? Oni wyr y dyn hyn yn burion? Gŵyr, ond y mae yspryd gwendid ynddo. Diolch fod Iesu Grist yn gallu datod rhwymau Satan, ac yn gollwng dynion yn rhydd yn y dyddiau hyn.
3. Yr oedd y wraig hefyd yn wan i olwg pawb. Yr "oedd wedi cyd—grymu"—yn crymu yn mhob man, yn gam drwyddi oll. Mae pechod a Satan yn peri diffrwythdra trwy holl gorph ac enaid dyn. Mae y deall yn dywyll, yr ewyllys yn gyndyn, y serch yn gnawdol a daearol, y côf yn bwdr a llygredig, a'r gydwybod yn seriedig.
Yr oedd hon yn annghyfleus at bob peth; nis gallai na sefyll, na gorwedd, nac eistedd; yr oedd "wedi cyd-grymu," a beth allai hi wneud ?
Mae y diafol yn gwneud dyn nad ydyw yn dda i ddim, ac nid ydyw yn gysurus yn un man. Dyn anesmwyth a phoenus ydyw i ba le bynag yr aiff. Edrychwch ar Cain yn ei afael yn ceisio ffoi, ond i dir Nod yr aiff, ac ystyr hwnw ydyw crynu—a thir y crynu ydyw pob tir i'r dyn yn rhwymau anwiredd. Gwelwch Judas yn dyn yn y rhwymau, yn methu cael esmwythder, ac yn hyrddio ei hun yn ei boenau i wlad y poenau tragwyddol.
4. Rhwymo yn dyn iawn y mae Satan, "Ac ni allai hi mewn modd yn y byd ymuniawnu." O! fel hyn y mae miloedd yn methu gadael eu chwantau, methu gadael y gyfeddach, a'r diotta, a'r cwmni drwg. O! gynifer sydd fel hyn yn dyfod i'r synagog, i foddion gras, ac yn addunedu. Mae bywyd dyn yn fywyd o addunedau
Addunedau fil
I gadw'r llwybr cul.
Ond yn methu cyflawni. Addunedu iddo ei hun fwy nag a ŵyr neb, ac addunedu wrth ei deulu a'i gymydogion; a gwneud ei addunedau yn hollol ddifrifol. Paham na chyflawnai? Y mae rhwymau Satan y fath fel nad all "mewn modd yn y byd ymuniawnu." Y mae arfer y wraig, yn y cyflwr hwn, yn haeddu moment o'n sylw hefyd.
1. Hi a ddaeth i'r synagog. Y mae yn debyg ei bod yn methu myned i lawer man y dymunasai fyned, ac efallai fod y synagog yn anhaws myned iddo na llawer un o'r manau hyny. Fe geir rhai yn medru myned i luaws o fanau, ond yn methu myned i foddion gras. Y dyn yn methu dyfod i'r oedfa ar y Sabboth, ond yn gallu myned i'r ffair, ddeng milldir o'i gartref, dranoeth. Daeth hon i'r synagog.
2. Hi ddaeth yno trwy lawer o boen a gwendid mawr. Gwyddai hefyd fod yr olwg arni yn hynod anffurfiol, oblegyd yr oedd wedi cyd-grymu. Y mae peth bychan yn cadw ambell un o'r synagog. Rhyw gyfnewidiad, heb fod yn bwysig, yn ymddangosiad corphorol y dyn, y wraig heb gael y dilledyn newydd a ddisgwyliai, ychydig wynt a gwlaw, yn rhwystro pobl i'r moddion.
Bu y wraig y mae son am dani yn y testyn, yn y synagog lawer gwaith o'r blaen, heb i neb ddal sylw arni; ond er pob gwendid a gwaeledd, dacw hi yn ymlusgo yno y tro hwn eto, a dyma'r tro y daeth i afael iachawdwriaeth.
II.—Sylw a bendith yr Iesu. Fe welodd yr Iesu hon. Yr oedd yno luaws heb weled hon tra yr oeddynt yn gweled rhywrai, ac yn eu cyfarch yn barchus tua'r drysau; ond dacw y Meddyg Mawr â'i lygaid ar hon, ac ni ddywedir am ei sylw ar neb arall yn y lle, "Pan welodd yr Iesu hon."
Ni ofynodd hi ddim iddo; ond yr oedd wedi dyfod i'r fan fwyaf tebyg iddi gyfarfod âg ef ar y Sabboth, er nad oedd hi hwyrach yn gwybod am hyny. Yr oedd yn "ferch i Abraham," ac yn credu yn Nuw Abraham; ac y mae yn gwneud ymdrech i gyflawni ei dyledswydd er nad oedd yn disgwyl y buasai yn cael y fath fendith. Pan y mae dyn yn cerdded llwybr ei ddyledswydd y mae yn cyfarfod â'r fendith, oblegyd y mae bendithion y nef fel angylion yn rhodio ar hyd y llwybrau hyny.
I. Fe'i canfyddwyd gan yr Iesu. Nid oedd yn yr un fan a'r Iesu—yr oedd y dellt rhyngddi ag ef; ond y mae ei lygaid craff yn ei gweled trwy y rhwyllau. Nid oedd yn beth arferol i wragedd ymddangos mewn un rhan arall o'r synagog; yr un pryd, yr oedd y wraig yn y lle y dylasai fod; ac os bydd dyn yn y fan lle y dylai fod, gall fod yn bur dawel na bydd yn ol o un fendith sydd yn werth ei derbyn. Y mae conglau y synagog yn agored i'w lygaid Ef, "Pan welodd yr Iesu hon."
2. Fe'i galwodd hi ato. Y mae yn bwysig i ni ufuddhau i'r Iesu, beth bynag fydd yr anhawsderau. Dywed wrth y dall, "Dos i lyn Siloam ac ymolch;" y mae yn gorchymyn i'r gwahangleifion fyned a dangos eu hunain i'r offeiriaid. Gallasai pob un ohonynt wneud esgus am beidio ufuddhau nes cael rhyw arwydd; ond wrth ymolchi y cafodd y naill ei olwg, ac wrth fyned at yr offeiriaid y cafodd y lleill iachâd. Cofiwn mai ar ffordd ufudd-dod y mae cael bendithion gan yr Iesu. Y mae yr Iesu yn galw y wraig hon ato. Gallasai hithau ddadleu ei gwendid a rheolau y synagog; ond dyfod ato i'r man lle yr oedd a wnaeth hi, a dyfod ato fel yr oedd, yn ei gwendid.
'Doedd neb o'r gwragedd yn ei chymhell i fyned ato, na'r meibion yn dweyd, "Tyred yma at yr Iesu." Peidiwch disgwyl wrth ddynion; y mae Ef yn eich galw, ac yn eich galw yn eich trueni a'ch helynt, heb wella dim arnoch eich hunain. Sut yr wyt ti yn galw ar y wraig gam yna, Waredwr mawr? I unioni rhai wedi camu gan bechod y daethum i'r byd, ac i gael dynion yn rhyddion o gadwynau Satan. "I hyn yr ymddangosodd Mab Duw, fel y datodai weithredoedd diafol "—dyna fuasai ateb yr Iesu.
3. Fe gyhoeddodd ryddhad iddi. "Ha wraig, rhyddhawyd di oddiwrth dy wendid." Hi gafodd y peth oedd arni fwyaf o'i eisiau o bob peth. Cwestiwn mawr yr Iesu i bobl anghenus ydoedd, "Beth a fyni i mi ei wneuthur iti?" Yr angen mawr yn gyntaf, yr eisiau dwfn yn mlaen pob peth. Mae yr Arglwydd Iesu yn myned at wraidd y drwg, at ffynon y dyfroedd gwenwynig, yr angen mawr. "Taflu dwfr trwy y mŵg" y mae dynion yn gyffredin yn lle ei daflu ar ben y tân. Ond diffodd y tân fe dderfydd y mŵg.
4. Fe roddes ei ddwylaw arni hefyd, fel y rhoddes ei ddwylaw ar y plant bychain. Y mae mor llawn o fendithion fel y maent yn dyferu fel olew tyner oddiwrth ei fysedd. Dyma ollynga y dyn yn rhydd o rwymau y diafol, dwylaw yr Iesu; a braint ddigyffelyb ydyw gwrando ei eiriau a bod o dan ei ddwylaw. Y mae yr effaith a gafodd hyn ar y wraig yn hollol naturiol. Eglurir ef mewn dau beth:
1. "Yn ebrwydd hi a uniawnwyd." Nis gall neb wadu y dylanwad. Yr oedd yr Arglwydd Iesu wedi gosod ei farc ar y cyfarfod nad allai neb ei ddileu. Nid yn unig fe ddysgodd, ond efe a osododd hefyd sêl ddwyfol ar ei ddysgeidiaeth. Efallai nad oedd pawb yn gallu canfod dwyfoldeb ei ddysgeidiaeth, ond yr oedd llygaid pawb yn canfod y wraig wedi ymuniawnu.
2. Fe ddechreuodd y wraig glodfori Duw—"Ac a ogoneddodd Dduw." Wedi gwella y mae y diolch yn llifo allan. Fe deimlodd yn ei chorph ac yn ei henaid fod iachawdwriaeth yn eiddo iddi, ac y mae yn tori allan i ogoneddu Duw. Dyma rywbeth newydd spon yn y synagog y pryd hwn, ac y mae y gynulleidfa a'r llywodraethwr yn cael eu cyffroi. Tipyn yn hen ffasiwn yr ystyrir gorfoleddu gan luaws yn y dyddiau hyn. Y mae eto rai yn tori allan, rhai i weddio eraill i ganu. Mae canu diwedd ambell i oedfa yn doriad allan mor wirioneddol ag yn amser y diwygiad mawr dair blynedd a thriugain yn ol. Pan y mae yr Arglwydd Iesu yn dyfod ac yn gosod ei farc ar y moddion, mae yno rai yn tori allan i ogoneddu Duw mewn rhyw ffordd neu gilydd. O deued i'n synagogau eto. O tyred, Iesu mawr, i synagogau Cymru i beri fod miloedd yn gogoneddu Duw.
Pob pechadur anghenus, pob un âg ysbryd gwendid ynddo, pobl hyd yn nod wedi cydgrymu, y mae genyf genadwri i chwi. Ewch at yr Iesu heibio i bawb a thros bob clawdd—heibio i lywodraethwr y synagog a'r cwbl, ac ar draws pob rheolau dynol. Nid oes yr un rheol ddwyfol ar ffordd y pechadur mwyaf at yr Iesu. Na, mae y ddeddf wedi ei boddloni ynddo, a thrugaredd bellach at ei ryddid i'th ymgeleddu.
Mae lleferydd a dwylaw yr Iesu yn ordinhadau yr efengyl eto. Dyma dyr eich rhwymau, ddynion. Yn anwyl. O, dowch dan ei ddwylaw galluog. geimion, o dewch dan ei ddwylaw grasol. Y mae pawb yn unioni o dan ei ddwylaw ef.
- Μai 17, 1881.
PREGETH VIII.—Y Gronyn Gwenith.[5]
"Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni syrth y gronyn gwenith i'r ddaear, a marw, hwnw a erys yn unig; eithr os bydd efe marw, efe a ddwg ffrwyth lawer."—Ioan xii. 24.
MAE yr Arglwydd Iesu yn llefaru y geiriau hyn am dano ei hun, Yr achlysur o'u llefariad ydoedd fod "rhai Groegiaid" wedi dyfod at un o'i ddysgyblion gan ddymuno ei weled. Yr oedd yr adeg yma, debygaf, yn dranoeth i'r diwrnod yr oedd wedi marchogaeth i Jerusalem, ac, fe ddichon, y diwrnod y bu yn y boreu yn melldithio y ffigysbren ddiffrwyth. Am y Groegiaid hyn, fe feddylir mai proselytiaid oeddynt i'r grefydd Iuddewig. Yr oedd llawer iawn o boblmiloedd, os nad ugeiniau o filoedd yn Jerusalem ar y pryd, oblegyd yr oedd yn Wyl y Pasg, a byddai llawer o gyrchu i'r ddinas yr adeg hono o'r gwledydd cymydogaethol, rhai yn cael eu dwyn yno gan un peth a'r lleill gan beth arall. Tynid lluaws yno gan y canu, ac yn Jerusalem yr oedd y canu mwyaf rhagorol ar wyneb yr holl ddaear ar y pryd. Ond am y rhai hyn, fe feddylir eu bod wedi dyfod yno i addoli Arglwydd Dduw Israel; ac yr oedd amryw bethau, gallem dybio, yn tynu eu sylw at yr Arglwydd Iesu.
Yr oeddynt wedi clywed am dano ac am y gwyrthiau a gyflawnid ganddo cyn cychwyn oddicartref, ac wedi hyny ar hyd y ffordd, ac ar ol dyfod i mewn i'r ddinas, oblegyd yr oedd trwst y son am ei ryfeddodau yn llanw y wlad o gwr-bwy-gilydd. Gyda hyny, yr oedd newydd farchogaeth i Jerusalem mewn rhwysg mawr, a'r gynulleidfa yn tori cangau o'r coed ac yn taenu dail ar hyd y llwybr fel yn dymuno gwneud carped o dan ei draed, a lle nad oeddynt yn cael y dail y maent yn tynu eu dillad ac yn eu taenu ar y ffordd i ddangos eu parch iddo a'i anrhydeddu. Ac wedi eu dyfod i Jerusalem, y mae yn ddiau fod yr holl ddinas yn adsain gan lef y plant ac eraill oeddynt yn bloeddio, "Hosanna i Fab Dafydd. Bendigedig yw yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd."
Peth arall hefyd, yr oedd yr Arglwydd Iesu Grist, y mae yn sicr, wedi boddhau y Cenedloedd hyn yn fawr wrth lanhau y Deml. Bu yn nechreu ei weinidogaeth gyhoeddus yn glanhau y Deml o'r blaen, hyny ydyw, Cyntedd y Cenedloedd. Yr oedd yr Iuddewon, yn eu rhagfarn at y Cenedloedd, yn caniatau ac yn goddef pob math o bethau yn y rhan hono o'r Deml oedd wedi ei neillduo iddynt, tra, y mae yn debyg, y cedwid y rhan a berthynai iddynt hwy eu hunain yn lân ac yn barchus. Ond yn Nghyntedd y Cenedloedd fe oddefid i rai ddyfod i werthu colomenod ac i newid arian. Dywed yr Iesu ei fod wedi cael y lle hwn yn "ogof lladron;" ac y mae trwy awdurdod anwrthwynebol yn troi y cwbl allan. Y mae yn clirio y lle er mantais i'r Cenedloedd, druain, i ddyfod yn mlaen i addoli y gwir Dduw yn ol y cyfleusdra a roddid iddynt o dan yr Hen Destament.
Daw y Groegiaid hyn, mewn modd parchus iawn, at un o ddysgyblion Iesu Grist gan ddywedyd, "Syr, ni a ewyllysiem weled yr Iesu." Beth oedd yn peri iddynt ddyfod at y dysgybl hwn mwy na'r lleill? Efallai ei fod yn un hawdd myned ato. Y mae ambell i ddyn a llai o rew o'i gwmpas ac yn haws myned ato nag eraill. Heblaw hyny, yr oedd Phylip o Bethsaida, fel y dywedir yn yr hanes, ac y mae yn debyg fod ganddynt gydnabyddiaeth â Bethsaida a'u bod wedi ei ganfod yntau o'r blaen. Hefyd, y mae enw Phylip yn enw Groegaidd, ac y mae yn naturiol fod hyny yn rhyw swyn iddynt. Pe baem ninau yn mhell iawn oddicartref a phe clywem rhyw enw Cymreig, byddem yn bur siwr o godi ein hwynebau ac edrych o'n hamgylch gan dybied fod yno rywun yn perthyn i'n cenedl ni.
Y mae Phylip yn myned ac yn dweyd wrth Andreas—y mae hwn hefyd yn enw Groegaidd ac y mae y naill a'r llall yn myned ac yn dweyd wrth yr Iesu. Y maent yn cynorthwyo eu gilydd i ddwyn achos y dynion hyn at y Ceidwad. Dyma swn chwalu yr hen derfynau ac arwyddion llwyddiant mawr. Fe ddaeth Cenedloedd o'r dwyrain ato pan y ganwyd Ef, a dyma Genedloedd o'r gorllewin yn dyfod eto pan y mae yn ymyl marw. Ac y mae eu dyfodiad hwy ato. yn awr yn cyffroi ei enaid sanctaidd. "Yr awr hon y cynhyrfwyd fy enaid; a pha beth a ddywedaf? O Dad, gwared fi allan o'r awr hon; eithr oherwydd hyn y deuthum i'r awr hon." Y mae yn gyfyng arno hyd oni orphener. Gwel awr ei lwyddiant ac awr ei ing wedi eu cylymu yn anwahanol, awr cadw ac awr clirio y ddyled yn ymyl eu gilydd. "Os ydynt am fy ngweled fel Gwaredwr," meddai yr Iesu, "y mae yn rhaid i mi ymwisgo mewn mantell dyoddefaint a myned i lawr i Gethsemane ac esgyn i'r Groes." Ar y Groes y mae y nerth i dynu, "A minau, os dyrchefir fi oddiar y ddaear, a dynaf bawb ataf fy hun." Y mae yr Iesu yn y fan hon yr hysbysu ei ddysgyblion fod yr adeg wedi dyfod pryd yr oedd y Cenedloedd i dderbyn moddion yr iachawdwriaeth, ond yr oedd y cwbl i gael ei sylfaenu yn ei farwolaeth. Iachawdwriaeth ar goel megys oedd cyn hyn; ond yn awr y mae y Duw Hollgyfoethog yn suddo cyfoeth tragwyddol ei hanfod i ddwyn yn mlaen y gwaith. Dyma waith mwyaf yr Anfeidrol ei hun yn cael ei roddi i lawr yn offrymiad Crist unwaith. Fe gyrhaeddir y llwyddiant trwy draul fawr. "Oni syrthy gronyn gwenith i'r ddaear, a marw, hwnw a erys yn unig; eithr os bydd efe marw, efe a ddwg ffrwyth lawer." Am dano ei hun, ac am dano ei hun yn ei farwolaeth, y llefara yr Iesu y geiriau hyn. Y mae y gydmariaeth a ddefnyddir yn un dra phriodol—"y gronyn gwenith."
Gronyn gwerthfawr iawn ydyw y gronyn gwenith. Yr un ffunud mewn ystyr ysbrydol, y mwyaf ei werth o bawb ydyw yr Arglwydd Iesu Grist. Y mae cymaint o werth ynddo nas gall y byd wneud hebddo ac na thraethir ei glod byth.
Gronyn hardd iawn ydyw y gronyn gwenith. Yr un modd y gallwn ddweyd am yr Arglwydd Iesu. Y mae yn harddach na thywysogion penaf llywodraeth Duw, ac yn decach na meibion dynion. Y mae y rhai sydd yn ei adnabod yn hollol foddlawn i ddweyd, fel y dywed yr eglwys yn Llyfr y Caniadau, "Fy anwylyd sydd yn wyn a gwridog, yn rhagori ar ddeng mil. Ie, y mae efe oll yn hawddgar."
Y mae yn ronyn defnyddiol iawn hefyd. Felly y mae yr Iesu: dyma y mwyaf defnyddiol o bawb. Bechadur, hwn sydd o fawr werth yn y byd hwn a'r hwn a ddaw. Nis gelli gael neb a wna ei le i fynu byth. Y mae ein bywyd ni yn y Person bendigedig hwn.
Gronyn cynyrchiol iawn hefyd ydyw y gronyn gwenith. Y mae cynyrch mawr i godi o'r Iesu a'i angau. Ni fu erioed y fath ffrwyth. Fe ddygir "meibion lawer i ogoniant, ac fel y byddwn yn canu weithiau
Yn ol amldra gwlith y wawr
Fe ddaw tyrfa at y Tad,
a'r dyrfa i gyd wedi ei chynyrchu gan y gronyn gwenith bendigedig hwn. Ond y mae yn rhaid i'r gronyn gwenith syrthio i'r ddaear a marw. Rhaid marw, a thrwy hyny y mae yn rhaid achub. Dyna bwnc yr adnod.
- I.—Darostyngiad yr Arglwydd Iesu.
- II.—Y canlyniad angenrheidiol i hyny.
I.—Darostyngiad yr Arglwydd Iesu—"Oni syrth y gronyn gwenith i'r ddaear, a marw, hwnw a erys yn unig." Cynwysa ei ddarostyngiad rhyfedd (1) Ei ddyfodiad i'r byd; (2) ei ddyoddefaint a'i farwolaeth yn y byd. Yr ydym yn myned i gofio ei angau ar ddiwedd y cyfarfod. Rhoed yr Arglwydd i ni deimlad yn ei le a ffydd i gofio am dano, a'r gogoniant a ddelo i'r golwg, nes y byddom yn ei garu ac yn credu ynddo yn fwy hollol nag erioed.
Daeth y Mab i'r byd yn un ohonom ni. Y mae y Person yn anfeidrol a'r daith a wnaeth yn anfesurol fel mai ofer ydyw ceisio egluro. Nid oes genym ddim i'w wneud ond addoli mewn syndod uwchben dyfnder nas gallwn ei blymio byth, a dweyd, "Mawr yw dirgelwch duwioldeb, Duw a ymddangosodd yn y cnawd." Ond er nas gallwn ei sylweddoli na'i esbonio, y mae yn ffaith. Daeth y Mab o fynwes ei Dad, o blith angylion ac archangylion, ac fe dabernaclodd yn ein plith ni. Y fath ddarostyngiad, o fynwes tragwyddoldeb i rodio ein daear fach ni! Cymerodd arno ei hunan ein gwendidau dibechod ni—"Gan fod y plant yn gyfranogion o gig a gwaed, yntau hefyd yr un modd, a fu gyfranog o'r un pethau;" "Wedi ei wneuthur o wraig, wedi ei wneuthur dan y ddeddf; fel y prynai y rhai oedd dan y ddeddf, fel y derbyniem y mabwysiad." Nid dyfod yma ar ymweliad am dymhor a wnaeth. Na, fe ddaeth yn un ohonom ni, yr un o ran natur, o'r un teimladau, gorph a meddwl, a ninau. Ac y mae yn ein natur ni y foment yma yn nef y nefoedd, ac y mae yn dda genyf fi gofio nad oes ysgar i fod bellach rhwng y ddwy natur yn ei Berson byth, ond fod y briodas i barhau.
Heblaw hyny, fe ddaeth i'r byd yma i ddyoddef a marw. Nid Bethlehem Juda oedd cam isaf ei ddarostyngiad. Na, fe aeth i lawr yn is, a bu yn "ufudd hyd angau, ie, angau y groes." Ac yr oedd angenrheidrwydd am hyny, fel y dengys yr Ysgrythyr. Os oedd dynion i gael eu cadw, yr oedd yn rhaid i'r Gwaredwr farw. Yr oedd yn rhaid oherwydd pethau yn perthyn i Dduw.
Dyma gynghor a bwriad Duw. Nid damwain yn hanes y byd oedd Calfaria a'r Groes; na, yr oedd hyny i mewn yn y plan er dyddiau tragwyddoldeb, Hwn, wedi ei roddi trwy derfynedig gynghor a rhagwybodaeth Duw, a gymerasoch chwi, a thrwy ddwylaw anwir a groeshoeliasoch, ac a laddasoch." A thra yn cyflawni cynghor a bwriad ei Dad, y mae yn cyflawni ei ewyllys ei Hun yr un pryd. " Y gorchymyn hwn a dderbyniais i gan fy Nhad," meddai, pan yn myned i lawr mewn ufudd—dod i bantiau dyfnion ei ddarostyngiad. Nid dyna y cwbl, ond yr wyf yn aberthu fy hun yn wirfoddol. Y mae fy ewyllys fy hun yn yr offrwm. " Y mae genyf feddiant i'w dodi hi i lawr, ac y mae genyf feddiant i'w chymeryd hi drachefn."
Ei arwain i Galfari fryn,
A'i hoelio ar groesbren o'i fodd; o'i fodd;
Pa dafod all dewi am hyn?
Pa galon mor galed na thôdd?
Yr oedd yn rhaid oherwydd cyfiawnder hefyd. Y mae rhaid mewn cyfiawnder ac uniondeb. Y mwy mewn pechod na gwneud y pechadur yn druenus, a rhywbeth heblaw gwneud y dyn yn llygredig: y mae yn annghyfraith, yn taflu anfri ar gyfiawnder a chwmwl ar orsedd Duw. Nis gall cyfiawnder gau ei lygad arno, na gadael iddo ddianc yn ddigosb. Ond dacw y diniwed yn myned i ddeddfle yr euog, ac yn cymeryd rhaid euogrwydd a rhaid uffern y pechadur i'w gwpan ei hun. Pe buasai pechod yn cael ei arbed yn rhywle, fe fuasai Duw yn ei arbed yn ei anwyl Fab, ond y mae rhaid cyfiawnder yn galw am gosbi pechod. Bendigedig fyddo y Meichiau Mawr am sefyll yn fy lle mewn anfeidrol lid, "Yr hwn ei hun a ddug ein pechodau ni yn ei gorph ar y pren." Y mae gwawr gobaith wedi tori ar achos yr euog o dywyllwch y groes. "Yr hwn a osododd Duw yn iawn, trwyffydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder ef, trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o'r blaen, trwy ddyoddefgarwch Duw; i ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn, fel y byddai efe yn gyfiawn ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu." Gair a'i lon'd o fywyd ydyw hwn, ac yr wyf yn teimlo fy enaid yn dawel i bwyso arno, ac i sentro y farn a'r byd mawr tragwyddol yn ei gysgod—"Yn gyfiawn ac yn cyfiawnhau." Yr orsedd fawr yn wen a'r pechadur du yn rhydd trwy yr un drefn.
Heblaw hyny, yr oedd yn rhaid dyoddef a marw i ddistrywio y gelynion. "Fel trwy farwolaeth y dinystriai efe yr hwn oedd a nerth marwolaeth ganddo." Os ydyw marwolaeth yr Iesu wedi clirio yr awyr i fynu, y mae wedi llorio y gelynion i lawr hefyd. Ti elli edrych i wyneb yr orsedd, yn ymyl y groes, heb wrido, ac edrych i wyneb pob gelyn heb arswydo. Y mae yr heddwch wedi ei enill i fynu ac i lawr, oddiallan, oddifewn, yn ol, yn mlaen am byth.
Yr oedd yn rhaid i'r Iesu farw i selio ei destament hefyd. Mae gan y Ceidwad destament mawr, ac y mae yn llawn o addewidion a bendithion. O, ni fu erioed y fath destament! Y mae cyflawnder yr Anfeidrol a'r Hollgyfoethog ei hun yn cael ei gynwys ynddo; ond yr oedd yn rhaid i'r Testamentwr farw er mwyn i ni gael y bendithion a'r addewidion sydd yn y testament. Ar ffordd yr Iawn a'r Aberth y mae y bendithion anmhrisiadwy yn llifo tuag atom.
Bu farw, medd rhai, i osod argraph foesol ar feddwl ei greaduriaid. Fe gymerodd ein hachos. Fe'i gwnaed yn Fechnïydd drosom, ac onibae fod yna rhyw wirionedd dwfn a thragwyddol yn y cytundeb a fu rhyngddo â'i Dad yn achos pechadur, ni fuasai y dylanwad moesol yn bosibl. Marwolaeth iawnol Crist sydd yn cyfrif am y dylanwad moesol cryf a berthyn iddo. Ei farwolaeth dros bechadur sydd yn gosod effeithiolrwydd i bob peth arall a gyflawnodd, megys ei enedigaeth, ei fedydd, ei wyrthiau, a'i fywyd yn ei bobpeth. Dyma waith y chweched dydd, megys, yn hanes yr lesu. Buasai y creu bob dydd cyn hyny yn ofer heb waith y chweched. Yn mlaen at greadigaeth dyn yr oedd y cwbl yn edrych. Felly buasai y gwerth i ni yn holl hanes yr Iesu yn colli heb iddo farw dros ein pechodau ni. Dyma y gareg glo yn mwa y bont, offeiriadaeth ac Iawn Crist. Dyma drefn igadw wedi ei gorphen. Bendigedig a fyddo ei Enw am y drefn i faddeu ein beiau a'u cuddio o'i olwg ei hun am byth. Fe bery ein rhwymedigaeth i'w glodfori am dragwyddoldeb. Os cedwir chwi, bobl anwyl, chwi a fyddwch yn nyled y Gwaredwr tra bydd nefoedd yn bod.
"Does mesur amseroedd byth fry,
Dim oriau cyffelyb i'r byd;
Myn'd heibio ryw oesoedd y sy
Wrth ganu i'r Drindod yn nghyd;
R'holl nefoedd wrth weled ei ras
Sy'n synu, yn canu'n fwy hy
Ganiadau newyddion eu Llas;
Wel, dyna'r digrifwch sydd fry.
II.—Y canlyniad angenrheidiol i hyny. "Eithr os bydd efe marw, efe a ddwg ffrwyth lawer." Bydd yna ffrwyth mawr mewn amgylchiadau pwysig yn codi o'i farwolaeth. Dyna ydyw anfoniad yr Ysbryd Glân, derbyniad y Cenedloedd i mewn, sêl a llafur yr Apostolion, nerth i ddyoddef erlidiau a merthyrdod, pob diwygiad crefyddol, ffrwyth y gronyn gwenith sydd wedi syrthio i'r ddaear a marw. Mae "ffrwyth lawer" yn addewid Duw ar gyfer y byd yma, ac y mae yn anmhosibl i'r cynhauaf mawr yma droi yn fethiant—"Ni phalla efe ac ni ddigalona, hyd oni osodo farn ar y ddaear." Na, y mae y caledi wedi ei ddal eisoes. Y mae y gauaf a'i ystormydd wedi myned heibio Peidiwch pryderu ac ofni disgwyl llawer.
Ffrwyth mewn dynion hefyd, a dyma olygir yn benaf yma—"Efe a ddwg ffrwyth lawer." Ffrwyth marwolaeth yr Iesu ydyw y saint. O'i farwolaeth Ef y maent wedi cael eu bywyd a'u bôd. Ac nid yn unig y maent yn cael eu bywyd yn y dechreu oddiyma, ond yma hefyd y mae defnydd parhad a chynaliaeth a chynydd eu bywyd. Cynyrch marwolaeth yr Iesu ydyw bywyd y saint o ran ei achos, ei ddefnydd, ei gynydd, a'i gynaliaeth—"Byw ar haeddiant gwaed yr Oen." Dyna air llawn a melus.
Y mae y gronyn gwenith yn dwyn ffrwyth o'r un natur âg Ef ei hun. Gronyn gwenith a fu farw, a ffrwyth o wenith sydd yn dyfod i fynu. "Beth bynag a hauo dyn, hyny hefyd a fêd efe;" "Ac megys y dygasom ddelw y daearol, ni a ddygwn hefyd ddelw y nefol;" "Ac i bob hedyn ei gorph ei hun." Fel yna y mae yr Iesu yn codi pechaduriaid y byd yma ar ei ddelw ei hun. Rhai o'r un natur âg Ef ei hun, yr un cariad, yr un egwyddor. Nid ydyw eu bywyd ond parhad o fywyd Crist. Y mae yr Iesu yn byw ynddynt a thrwyddynt, " Efe a wêl ei hâd, efe a estyn ei ddyddiau."
Hefyd, rhai newydd fyddant—newydd yn nghreadigaeth yr Anfeidrol ei hun. "Gan hyny od oes neb yn Nghrist y mae efe yn greadur newydd"—yn greadigaeth newydd spon. Ffrwyth y gair "Bydded" ydyw yr holl greadigaeth; ond dyma greadigaeth ag y bu raid cael mwy na gair y Creawdwr i'w dwyn i fod. Ffrwyth marw Calfaria ydyw y greadigaeth newydd. Dywedir fod mewn rhyw lanerch yn yr Alban, lle yr ymladdwyd brwydr fawr ac y tywalltwyd llawer o waed dynion, rhyw lysiau yn tyfu nad ydynt i'w gweled mewn un man arall ar y ddaear hyd y gwyddis. Dyma ffrwyth wedi codi o'r gwaed a dywalltwyd ar Golgotha na welir ei debyg yn holl ymherodraeth Duw.
"Ffrwyth lawer" hefyd. Y mae yma ffrwyth, ac nid yn unig hyny ond ffrwyth lawer. "Am hyny y rhanaf iddo ran gyda llawer," neu "rhoddaf y llawer iddo yn rhan." O ie, er cymaint ydyw caledwch calonau dynion, a dichellion y diafol, bydd ffrwyth lawer. Gellid meddwl mai dechreu y mae cynhauaf achub yn y byd yma; a bydd yn rhaid i ni fyned i orphwys bron ar ei gychwyn, ac fe barha y cynhauaf yn hir iawn nes gwneud y saint yn llawer, a'r annuwiolion yn ychydig.
Gwelwn fod awdurdod a nerth yn marwolaeth yr Iesu, ac yn y fan hon y mae ein gobaith am y ffrwyth.
Y mae yma obaith i'r hwn sydd wedi syrthio ac wedi digaloni. Y mae ambell i hen long wedi suddo yn y clai. Dyma obaith i'w chael i nofio eto, am fod digon o nerth yn llanw y Groes i'w chodi.
Y bobl sydd wedi sefyll yn gyndyn hyd heddyw,—dyma wawr gobaith eto cyn eich claddu. Y mae y gronyn gwenith wedi syrthio i'r ddaear a marw, ac y mae nerth bywyd yn ei farwolaeth i goncro pob cyndynrwydd ac annghrediniaeth,
Seion Duw, paid a digaloni, y mae gobaith am adgyfodiad i'r achos cyn yr adgyfodiad yn y dydd diweddaf. Swn digalon sydd yn mhrofiad ambell i sant ar hyd y wlad yma. "Rhodio yn alarus" ydyw hanes llawer ohonom. Y mae yma lawer o chwiorydd yn wylo am eu brawd fel Mair a Martha; llawer gwraig yn cwyno am ei phriod, a rhieni yn wylo oherwydd eu plant. Peidiwn ag anobeithio am y bechgyn gwylltion, a llawer sydd wedi myned yn bell iawn. Mae y gronyn gwenith wedi syrthio i'r ddaear a marw, ac "efe a ddwg ffrwyth lawer." Dyma obaith i Indiaid cochion yr America, ac Indiaid duon Affrica, miloedd a myrddiynau China, Tartary, Japan, a Tibet. Parhawn i lafurio, i weddio, i gynghori a rhybuddio, i gyfranu at anfon Beiblau a chenhadon. Y mae marw y Groes yn sicrhau "ffrwyth lawer."
Dyged y Duw mawr ni i undeb agos a bywiol â'r Iesu yn ei angau drud fel y gwneler ni yn ffrwyth y bydd yn werth ei gadw byth. Ni fydd dim ond gwenith ar gael yn yr ysgubor y dydd mawr a ddaw. Y mae yna ddiwrnod nithio yn dyfod, a phwy fydd yn dal y diwrnod hwnw? Y gwenith sydd yn y fan yma heno. Hwy ddaliant bob prawf a chesglir hwynt i'r ysgubor i fod mewn parch, ac urddas, a gogoniant byth. Duw a'n gwnelo oll yn ffrwyth angau ei Fab, ac felly gallwn fyned yn mlaen trwy bob rhwystrau, a chanu
Byth ni chollir
Neb a gredo ynddo Ef.
PREGETH IX.—Ffydd Nое.[6]
"TRWY ffydd Noe, wedi ei rybuddio gan Dduw am y pethau nis gwelsid eto, gyda pharchedig ofn a ddarparodd arch i achub ei dŷ: trwy yr hon y condemniodd efe y byd, ac a wnaethpwyd yn etifedd y cyfiawnder sydd o ffydd." Hebreaid xi. 7.
HANES ffydd Noe a gawn ni yma, a'r ffydd hono yn rhoi ufudd-dod i orchymyn Duw ac yn adeiladu arch i gadw ei fywyd naturiol. Nid gwneud arch oedd yn cadw ei enaid. Yr un peth sydd yn cadw enaid pechadur o ddechreu y byd hyd ei ddiwedd, a dyna ydyw hyny—ffydd mewn Cyfryngwr, mewn Aberth, mewn Iawn, neu, yn ol iaith ein goruchwyliaeth ni erbyn hyn, credu yn yr Arglwydd Iesu Grist; dyna y peth sydd yn cadw.
Y mae yn ddiamheu i'r Arglwydd ddatguddio y drefn o gyfryngdod i'r byd yn foreu iawn. Gallem feddwl iddo amlygu yr iachawdwriaeth trwy Gyfryngwr yn fuan iawn wedi i ddyn gwympo. Yn Eden, pan y pechodd ein rhieni gyntaf, cawsant siomedigaeth, a phrofedigaeth, a gofid, a helbul, a chywilydd, a gwaradwydd na fedr neb ohonom ddychymygu am ei faint. Y mae yn anmhosibl desgrifio y teimladau a brofwyd ganddynt y munyd hwnw, wedi pechu yn erbyn Duw—tad y celwydd wedi dweyd y caent rhyw ddaioni, ond yn lle hyny dyma yr amddiffyn dwyfol yn cael ei dynu a'i daflu ymaith fel mantell oddiwrthynt. A dyna a ddywedir, "A hwy a wybuant eu bod yn noethion." Y maent yn gweled eu hunain yn noethion i bob drwg, i bob profedigaeth a gofid yn y byd hwn, ac i uffern dragwyddol yn y byd arall, yn noeth i'r holl angylion drwg, fel y maent yn cywilyddio i godi eu penau. Nis gallent edrych yn wynebau eu gilydd oherwydd y gwaradwydd. Ac yn eu gofid a'u gwarth, dacw nhw yn myned at rhyw bren—nid oedd ganddynt ddim gwell—rhyw goeden oedd a'i dail dipyn yn lletach na'r lleill, ac yn y fan hono yn treio gwneud arffedogau rhag cywilydd: ond wedi eu gwneud nid oeddynt yn ateb y dyben. Pan y clywsant lais yr Arglwydd yn yr ardd ni wyddent yn y byd pa le i fyned, ac y maent yn dianc i gysgod y twmpath yma a'r twmpath arall; ond yn y diwedd yn gorfod anturio yn noethion, yn euog, mewn cywilydd a gwarth, gerbron y Duw yr oeddynt wedi pechu yn ei erbyn. Ac fe ddatguddiodd Duw yr adeg hono yr hen feddyliau oedd ganddo am y ffordd i gadw dyn. Fe'i gwisgodd hwy mewn peisiau crwyn—gwell gwisg na'r dail. Croen pa greadur oedd defnydd y wisg a wnaeth Duw i'n rhieni, tybed? Y mae yn bur sicr, debygem, mai nid crwyn bwystfilod ysglyfaethus—nid crwyn eirth, na llewod, na llewpariaid a chreaduriaid felly. Na, mwy tebyg o lawer ei fod wedi eu gwisgo mewn crwyn defaid a gwartheg—rhyw greaduriaid glân. Wel, o ba le y daeth y croen? Ond odid nad oedd yr un creadur wedi marw mor foreu a hyny. Tebyg yw fod yr Arglwydd yn datguddio iddynt mai trwy aberth—cael person diniwed, glân, a dihalog i ddyoddef a marw yn eu lle—mai dyna y ffordd iddynt gael eu gwisgo, ac nid yn unig hyny, ond mai dyna y ffordd hefyd am ffafr a chymod â'r Duw yr oeddynt wedi ei ddigio, Mae yn bur debyg fod yr Arglwydd wedi dysgu i'r dyn cyntaf aberthu a chymeryd croen yr aberth i'w wneud yn fantell i guddio ei noethni. Wedi hyny bu y dyn yn aberthu lawer gwaith—dyna y ffordd oedd ganddo i addoli ac i gyfarfod y Duw yr oedd wedi pechu yn ei erbyn. Yn y man, yr ydym yn cael fod y gwr a'r wraig gyntaf wedi magu dau o feibion, a'r rhai hyny wedi tyfu i'w maint yn myned i aberthu fel y gwelsant eu tad yn gwneud laweroedd o weithiau, y mae'n sicr. Fel y mae yr hanes yn dangos i ni, yr oedd yr ieuengaf wedi cymeryd ei ddysgu yn well na'r hynaf, a dywedir fod yr Arglwydd wedi dangos ei gymeradwyaeth o aberth yr ieuengaf, ond ni chymeradwyodd aberth Cain; a gwyddoch oll y canlyniad. Dyna y ffordd oedd gan ddynion i addoli am filoedd o flynyddoedd addoli Duw mewn aberth. Yn bur fuan yn Llyfr Genesis, yr ydym yn cyfarfod â geiriau felly, " Dechreu galw ar enw yr Arglwydd." Y mae yn lled siwr mai nid dechreu gweddio oedd hynyna. Yr oedd Adda, y mae yn sicr, yn gweddio am fendith yr Arglwydd, ac felly ei deulu. Ond wrth "alw ar enw yr Arglwydd" yn y fan hon y golygir—dechreu y cyfarfod gweddi—teuluoedd wedi cyfarfod â'u gilydd i weddio am i Dduw faddeu iddynt a thrugarhau wrthynt, a'u bendithio yn rhinwedd Aberth ac Iawn, yn ol fel yr oedd wedi eu dysgu. Felly yr oedd Enoc yn addoli, ac felly Noe cyn y diluw, ac ar ol dyfod allan o'r arch y gwaith cyntaf a gyflawnodd oedd aberthu; a gŵyr pawb fod y defnyddiau yn brinach nag o'r blaen. Nid oedd dim ond saith o'r rhai glân yn yr arch, a'r rhai hyny eto i fyned tros wyneb yr holl ddaear; ond er mor brin oedd desnyddiau aberth, cymerth Noe rai ohonynt a lladdodd hwynt yn aberth ar yr allor, a chymerodd yr Arglwydd hyn yn garedig iawn oddiar ei law. Dywedir fod yr Arglwydd wedi "arogli arogl esmwyth ar yr aberth, a dangosodd Duw ei gymeradwyaeth, a gwnaeth gyfamod âg ef a bendithiodd ef. Y mae Duw yn parhau i gofio y cyfamod hwn: cawsom brawf o hyny eleni. Fe gofiodd yr Arglwydd yn ei drugaredd am hen gyfamod Noe y flwyddyn hon eto: diolch iddo.
Wel, dyna oedd am gymod a heddwch â Duw o ddechreu y byd. Yr ydym yn cael hyn yn myned yn mlaen yn nyddiau Abraham, ac yn enwedig yn nyddiau Moses, ac ar ol hyny. Ffydd mewn aberth am gyfiawnhad, a heddwch am gymod a maddeuant a derbyniad i ffafr Duw—ffydd mewn Cyfryngdod ac iawn a gawn yn sylfaen a hanfod addoliad trwy yr oesoedd. Nid oes dim yn cadw enaid ond ffydd yn yr Arglwydd Iesu Grist. Cynifer á gadwyd o feibion a merched Adda i fywyd tragwyddol, dyma y ffordd y cadwyd hwy, a chynifer ag a gedwir eto fe wneir hyny trwy yr un ffordd. Ac os cedwir chwi a minau, yr un modd yn union y rhaid gwneud, sef trwy gredu yn Iesu Grist. Nid un ffordd o lawer ydyw hon, ond dyma yr unig ffordd. Dyma ffydd Noe yn y cynfyd pell.
I.—Ffydd yn nglŷn â gwaith ydyw y mae ufudd-dod yn tarddu ohoni. Y mae y dyn sydd yn ei meddu yn barod i ufuddhau i bob gorchymyn o eiddo yr Arglwydd. Ewyllys ei Dduw ydyw ei reol yn mhob peth a wna, mor bell ag y mae yn ei deall. Fel yna yr oedd Noe: credu am ei fywyd mewn Cyfryngwr, ac yr oedd yn nglŷn â hyny yn barod i wneud pobpeth a orchymynir gan ei Arglwydd iddo, ac felly y gwnaeth yr arch. Y mae ffydd yn dweyd wrth y bobl sydd yn ei meddu, fel y dywedodd Mair yn y briodas yn Cana, "Beth bynag a ddywedo efe wrthych, gwnewch." Pobl ufudd ac ewyllysgar ydyw perchenogion ffydd, ac y maent wedi enill y caritor o fod yn weithwyr ardderchog.
II.—Ffydd yn nglŷn â phrawf tanllyd ydyw hefyd. Ni a gawn yma hanes y prawf a fu ar ei ffydd. Dyma grefydd wedi ei phrofi, a rhywbeth yn gweithio trwy brawf ydyw duwioldeb. O, Arglwydd, dyro hi ini! Y mae hi yn sicr o goncro ei ffordd ond ei chael hi. Y prawf a fu ar ffydd Noe ydoedd, "Wedi ei rybuddio gan Dduw am y pethau nis gwelsid eto." "Y pethau nis gwelsid eto"—dyma rym y prawf, y peth na chlywodd neb erioed son am dano o'r blaen, rhyw lifeiriant mawr a rhyw ryferthwy ofnadwy yn chwyddo i fynu nes cuddio penau y mynyddoedd uchaf, difodi y tai a chwalu y coedwigoedd, a dinystrio yn mhob cyfeiriad—gorchuddio pob man a boddi pob cnawd. Ni chlybuwyd am y fath beth a hyn o'r blaen. Nid oedd Enoc wedi cael yr un awgrym am hyn, ac nid oedd y bobl dduwiol oeddynt yn cydoesi â Noe wedi clywed yr un gair yn ei gylch. A dyma yr Arglwydd yn dweyd wrth Noe. Rhan bwysig o'r prawf hefyd ydoedd nad oedd y peth ddim i fod wedi hyny am chwech ugain mlynedd, ac y mae oedi cyflawni yn brawf caled i ffydd. Gwyddom fel y mae peth yn heneiddio yn ein meddwl yn ystod ugain mlynedd, ac yn colli ei afael a'i awdurdod arnom. Ond beth a wnawn ni yn son am ugain mlynedd; dacw ddau ugain yn pasio—y gair heb gael ei wirio; a dacw ben y triugain mlynedd wedi d'od, a'r peth mor annhebyg ag erioed. Dyna bedwar ugain mlynedd wedi myned, ie, a chan' mlynedd. Dyna gant a phedwar ar bymtheg wedi treiglo yn mlaen; ond er na chlybu Noe ddim ond unwaith, yr oedd y peth mor fresh yn ei feddwl ag oedd yn mhen pedair awr ar ol ei glywed. Ffydd sydd yn cadw y rhybudd am y "pethau nis gwelsid eto" yn bren îr ar hyd y blynyddoedd, ac yn atal i'w ddalen grino; ond fe aeth trwy brawf tanllyd iawn. Rhoed yr Arglwydd ffydd i ninau a fyddo yn gweithio yn mlaen trwy bob anhawsder, ac yn credu ei Air yn ngwyneb pobpeth.
III.—Peth arall a welwn yma ydyw yr ansawdd neu y ffurf oedd ar ei ffydd a'i ufudd-dod. "Gyda pharchedig ofn." Credu a gweithio "gyda pharchedig ofn." Dyma elfen ag y mae arnaf fi a chwithau eisiau ychwaneg ohoni—"parchedig ofn." "Gallwn fod yn hyfion, ddiofn, meddai rhywun, "yn y dirgel." Na, enaid anwyl, myned gerbron Duw "gyda pharchedig ofn" sydd yn weddus. Yn y teulu, er nad oes yno ond perthynasau agos, agoshau at Dduw "gyda pharchedig ofn." Yn y cyfarfod gweddi, lle nad oes ond rhyw ddeg ar hugain (nid ydyw y nifer yn un gwahaniaeth gan fod Duw yno) y mae yn rhaid plygu "gyda pharchedig ofn." Ac y mae yr ansawdd hon i fod ar ein hysbryd, a'r ffurf hon i fod ar ein crefydd, yn mhob man. "O," meddai rhywun, "yr oedd galw am hyny yn arbenig o dan yr Hen Destament, am y cymerai pethau ofnadwy le," megys y diluw a'r farn ar ddinasoedd y gwastadedd, a'r barnau ar Pharaoh a gwlad yr Aipht, a'r meirch a'r marchogion yn cael eu taflu i'r môr yn y diwedd. A dacw feibion Israel yn cael eu harwain, ganoedd o filoedd ohonynt, yn wersyll trwy yr anialwch sych, lle nad oedd llysiau na dwfr, dim ond tywod gwyn heb yr un gwelltyn yn tyfu trwyddo; ac arweinir hwynt am filldiroedd nes iddynt ddyfod at fynyddoedd mawrion, daneddog, a chribog, a myned rhyngddynt i wastadedd bychan a gwersyllu yno. Dyma rybudd oddiwrth Dduw, trwy Moses, atynt yn yr amgylchiad hwn am iddynt wneud eu hunain yn barod erbyn y trydydd dydd i gyfarfod a'r Arglwydd; ac y maent yn dechreu arni gyda'r fath ymroddiad, na welwyd mwy o barotoi erioed, gan wneud eu hunain mor drefnus ag y gallent. A dyma wawr y diwrnod mawr yn tori, a rhyw gwmwl du ar gopa y mynydd, ac mae y mellt yn gwibio a'r taranau yn rhuo, a'r tân byw yn dyfod trwyddo hyd ei waelodion, a'r mynydd yn crynu, a swn udgorn i'w glywed oddiar ei ben, ac hefyd lais na chlywsant ei fath yn llefaru, hyd nes yr oedd y miloedd ar filoedd yn disgyn mewn gwasgfeuon ar y ddaear; dynion cryfion yn gwaeddi, "Llefared Moses, ac na lefared Duw, rhag i ni feirw;" "Pwy a ddichon sefyll?" Beth oedd yno? Duw wedi ymddangos ar Sinai, ac yr oedd yn lle i'w gofio. Yr oedd pethau fel hyn o dan yr Hen Destament, a gweddus iawn yw y "parchedig ofn." Ond y mae y mae y gwylder a'r parch a'r ofn i fod o dan y Testament Newydd hefyd, a dyma a ddywedir, Oherwydd paham, gan ein bod yn derbyn teyrnas ddisigl, bydded genym râs, trwy yr hwn y gwasanaethom Dduw wrth ei fodd, gyda gwylder a pharchedig ofn; oblegyd ein Duw ni sydd dân ysol." Y Duw oedd ar Sinai, ag yr oedd meibion Israel yn methu sefyll ger ei fron, "ein Duw ni" ydoedd. Rhoed yr Arglwydd i ni, gan hyny, lawer o'r elfen yma—"parchedig ofn." O, mechgyn anwyl i, a'r genethod siriol yma, wedi i chwi ddyfod i bresenoldeb neillduol yr Arglwydd yn ei gynteddau, gostyngwch eich penau mewn gwylder a chuddiwch eich wynebau mewn parch gan ddisgwyl ei fendith a'i drugaredd Ef. Rhoed y Duw Mawr yr arswyd priodol a theilwng yn ein meddyliau ac ar ein hagweddau yn mhob man gyda'i waith a'i achos –" gyda pharchedig ofn."
Y " parchedig ofn" yma a symudodd Noe at yr anturiaeth fawr o wneud arch. Am a wyddom ni, na fu yr un cais at wneud llong o'r blaen; ac yr oedd yr anturiaeth nid yn unig yn un newydd spon, ond yn un fawr iawn hefyd. Yr oedd i fod yn llestr eang, ei gwaelod i gludo creaduriaid mawrion a thrymion, llawr yn uwch i osod rhai ysgafnach ynddo, a'r uchaf i gario adar, ac yno yr oedd Noe a'i deulu. Darparwyd hi ar gyfer rhyferthwy y diluw. Sut yr anturiodd? Pa le y cafodd ddefnydd yr ystyllod i'w gwneud? Heblaw hyny yr oedd yn wrthrych gwawd ei oes. Yr oedd y bobl wrthi hi yn bwyta ac yfed ac mewn gloddest hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i'r arch. Yr oeddynt yn ddynion cryfion—un ohonynt cyn gryfed a haner cant o'r dynion cryfaf a fedd y wlad yma—ac yn ddynion celyd, anystyriol, ac annuwiol iawn—yn gablwyr enw Duw o'r fath waethaf a fu ar y ddaear erioed. Yr oeddynt yn planu ac yn adeiladu, ac yr oeddynt yn ddiamheu yn adeiladwyr medrus, ac yn eu hymffrost yn planu gelltydd o goed; a Noe yn eu golwg yn greadur mympwyol, penfeddal, yn tori coed y wlad i lawr, ac yn eu llusgo i'r fan yma, ac yn eu defnyddio i wneud y llestr fawr. Sut y darfu iddo gychwyn? "Gyda pharchedig ofn?" Parchedig ofn" a roes nerth iddo fyned yn mlaen gyda'r gwaith trwy gawodydd o wawd ac erledigaeth nes ei orphen yn mhen chwech ugain mlynedd.
Byddai gwell llun arnom ninau pe y caem fwy o'r elfen yma. Mae rhai ohonoch yn addaw rhoi eich hunain i'r Arglwydd Iesu, ac felly bob nos Sabboth bron. Teimlad cryfaf ambell un wrth fyned allan o'r oedfa ar lawer nos Sabboth ydyw, " Y mae fy nghalon ar ol," ac eto, rywfodd, myn'd a myn'd. Beth sydd arnom ei eisiau? Y "parchedig ofn yma. Rhoed yr Arglwydd y gras yma i ni, ac se'n dygai hyn ni i roi ufudd—dod i lais ein cydwybodau a llais Duw. Gwnai ninau hefyd yn well crefyddwyr, yn ddynion mwy sanctaidd o lawer, a byddai ein crefydd yn fwy cyflawn yn mhobpeth. O Arglwydd! dyro Di ef.
Gwaith ei ffydd ydoedd darparu arch. A oes dim byd arall a wnaiff y tro os daw y rhyferthwy mawr? Oni allwn fyned i fynu i ben y mynydd uchel? Na, fe guddir y mynydd gan y dyfroedd—pymtheg cufydd goruwch yr uchaf. Onid oes digon o amser i gludo meini mawrion, trymion, a gwneud tŵr â'i nen hyd y nefoedd? Na, nid mynydd, nid tŵr, arch neu foddi, Duw sydd yn trefnu, ac arch mewn ufudd—dod i'w orchymyn a raid gael, neu golli bywyd. Yr un fath i ninau, crefydd neu ddim; nid oes a wna y tro yn ei lle. Byddaf cystal hebddi a'r rhai sydd yn ei meddu. Na, enaid anwyl, arch i tithau neu golli. Y mae crefydd, mae yn wir, yn talu am dani ei hun bob dydd, fel na wn i pa lun a fuasai arnom onibae hyny o grefydd sydd genym. Y mae ganddi y "can cymaint" yn y byd sydd yr awr hon. Beth bynag a ddaw arnom eto, yr ydym wedi cael yn dda: ni fydd y nefoedd byth yn ein dyled. Ond er fod crefydd yn talu fel hyn yn awr, mae yn darparu yn mlaen; y mae ynddi beth sydd yn edrych hwnt at y diwrnod du sydd i'n cyfarfod—diwrnod cymylog a niwliog— diwrnod na welsom yr un tebyg iddo erioed. Y mae y dydd hwnw i gyfarfod pob un ohonom, pan fydd y ddaear yn suddo i lawr o dan ein gwadnau, a ninau yn cael ein hunain mewn byd mawr dyeithr, dyeithr. Beth a wnei y diwrnod hwnw, enaid anwyl! Y mae yn nghrefydd yr Arglwydd Iesu Grist ddigon ar ein cyfer erbyn hyny, ac i fyned yn mlaen, i'r tragwyddoldeb pell: y mae ganddi "Addewid o'r bywyd sydd yr awr hon, ac o'r hwn a fydd."
IV.—Gwobr ei ffydd "Achub ei dŷ." Y mae hynyna yn bwnc go fawr. Nid oes yr un ohonom a fedr ddweyd sut y gallem fod yn ddedwydd yn y nefoedd a rhai o'n teulu heb fod yno. Byddaf fi yn ymgolli mewn dirgelwch pan yn ceisio esbonio y peth; ond nid oes eisiau i'r un ohonom ei ddeall, y mae crefydd yn lledu ei breichiau am y teulu, a diolch byth am hyny. Yr ydych yn cofio y noswaith fawr yn ngharchar Philippi, pan y mae y ddau bregethwr wedi eu dal; yr hen jailer yn cydio ynddynt gyda'i ddwylaw geirwon, a ffwrdd a hwy i'r gell fwyaf annghysurus oedd yno, a'u traed wedi eu rhoi yn sicr yn y cyffion. Ffarwel am danynt i ddyfod oddiyno byth; ond ar haner nos aethant i weddio a chanu mawl, a dyna yr hen garchar yn dechreu dawnsio i'w sylfeini a rhwymau pawb yn myned yn rhyddion. Deffrodd yr hen jailer, ac yn ei fraw a'i ddyryswch, gan dybied fod y carcharorion wedi ffoi, ymaflodd mewn cleddyf i ladd ei hun, a buasai wedi gwneud hyny onibae i Paul waeddi arno, "Na wna i ti dy hun ddim niwed; canys yr ydym ni yma oll." Yn y fan, dyna rhyw oleuni arall yn tywynu i'w feddwl, ac y mae yn llefain yn ei dristwch a'i ofid, "O, feistriaid, beth sydd raid i mi ei wneuthur, fel y byddwyf gadwedig?" Y mae wedi dyfod i deimlo ei hun yn ddyn colledig, yn ddyn euog gerbron Duw, ac uffern yn barod i'w dderbyn. Beth ydyw yr ateb? "Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist a chadwedig fyddi." A bu yn dda genyf ganwaith nad ydyw yr adnod yn dybenu yn y fan yna. Na, y mae yna ddarn arall, "ti a'th deulu." Dowch i mewn i'r arch gyda'ch gilydd, oblegyd "i chwi mae yr addewid ac i'ch plant." Y mae crefydd yn cymeryd gafael yn y teulu. Gwnewch gyfamod i gael y plant i mewn. Y mae yna rhywbeth difrifol yn y gair "achub ei dŷ"—achub y bachgen, achub yr eneth. Y bachgen i gael ei ddamnio o gartref yr arch, yr eneth i gael ei cholli oddiar yr aelwyd ag y mae son am y ddarpariaeth i gadw! Y mae yn bosibl eu hachub—"achub ei dŷ." O, Arglwydd, achub ein teuluoedd ni.
V.—Dylanwad ei ffydd—"Trwy yr hon y condemniodd efe y byd." Fe ddaw hen grefyddwyr y Bermo a manau eraill, a barhasant yn ffyddlawn, i fynu yn y farn i gondemnio pobl ddiweddi, pobl dreuliodd eu dyddiau heb geisio duwioldeb—y bobl, hwyrach, sydd wedi enill y byd, ond ni fydd y byd yma werth yr un botwm iddynt y diwrnod hwnw. Tra y mae ei ffydd yn condemnio y byd, y mae yn ei wneud ef yn etifedd, ac O! y fath etifeddiaeth. "A wnaethpwyd yn etifedd y cyfiawnder sydd o ffydd. Beth yw yr etifeddiaeth? " Y cyfiawnder sydd o ffydd "cyfiawnder haeddiant yr Arglwydd Iesu Grist yn ei fywyd a'i angau yn ein lle.
Cyfiawnder marwol glwyf,
A haeddiant dwyfol loes;
Y pris, y gwerth, a'r aberth drud
A dalwyd ar y groes.
Ac y mae hon yn etifeddiaeth digon mawr i lenwi y nefoedd a'r ddaear, yn llon'd tragwyddoldeb maith ei hun. Cyfiawnder i ddieuogi y pechadur a gwneud y brwnt yn lân, ac i'w osod yn mhlith pendefigion ei bobl ef. Nid etifeddiaeth i'w rhanu ydyw hon, ond y mae yr oll ohoni yn eiddo i'r perchenog—holl haeddiant yr iawn a holl ras y drefn i gadw, a bendigedig fyddo y nefoedd ei bod yn rhad i bob un a gredo. Y mae etifeddion yn yr oedfa yma nad ydynt eto wedi gweled prin gŵr eu hystad; ond ni a gawn ei gweled, a bydd yno rhyw ganu a neidio a molianu heb ei fath yn yr olwg arni. Gair Duw wrth bawb ohonom—pob dosbarth a phob un yn mhob dosbarth—y bachgen a'r eneth ieuanc, y dyn canol oed, a'r hen wr—ydyw, "Gwna i ti arch." A dyna ydyw crefydd: gwneud arch. Beth ydyw gweddio yn y dirgel, yn y teulu, gwasanaethu yr Arglwydd a bod yn selog gyda'i achos yn mhob cylch? Gwneud arch. O! Arglwydd, dyro gymhorth i'w gwneud hi. Bydd y Duw Mawr yn dweyd gair arall yn o fuan—"Dos i mewn i'r arch." Hwyrach y gallasai Noe ddweyd fod ganddo lawer iawn o bethau i'w gwneud cyn myned i mewn. Beth a wyddom ni nad oedd ganddo balas ac ystâd; ond beth bynag oedd ganddo, erbyn y diwrnod hwnw nid oeddynt yn werth dim iddo—yr arch oedd y cwbl. Fel yna y bydd hi am danom ninau pan ddaw y diwrnod, ac nid ydyw yn mhell, hyny o grefydd sydd genym dyna fydd y cwbl. Yr oedd gan y dyn dai newyddion, yr oedd yn pentyru cyfoeth y byd yma, ond dacw yr alwad yn ei gyrhaedd. Beth a wnaiff? Beth sydd ganddo i'w enaid? Pa fodd y mae hi rhyngddo a Duw? Crefydd, cymod â Duw, heddwch trwy waed y groes, bywyd wedi ei guddio fydd o werth. Arch ydyw pobpeth. Ymofynwch, ddynion anwyl, am dani yn awr, ac mor felus fydd clywed Duw yn dweyd, pan y mae swn y ddrychin yn dechreu tori ar dy glust, "Dos i mewn i'r arch."
Dyma y gair olaf a ddywedaf, a gair i berchen arch ydyw hwn—"A'r Arglwydd a gauodd arno ef." Gallasai rhywun ddweyd, "Y mae yna ddrws mawr anferth yn ei hochr hi, a phwy a wnaiff gau hwnw pan y daw yr helynt?" Nid ydyw Noe yn pryderu yn nghylch ateb y cwestiwn. Beth pe bai y llong fawr yn myned ar ei thalcen i'r graig, neu ar draws rhyw bren mawr a myned yn ddrylliau? Na, nid ydyw Noe yn gofalu, am fod Duw wedi cymeryd yr holl gyfrifoldeb bellach. Duw gynlluniodd y llestr, a orchymynodd iddi gael ei hadeiladu, ac wedi ei gorphen y mae Duw yn cau y drws ac yn gwystlo ei gymeriad i ofalu am dani. Y mae ei gymeriad a'i anrhydedd rhwng y drefn a methu byth. Dyma y fan i'n bywyd ninau, "Gyda Christ yn Nuw," ac yna
Syfled iechyd, syfled bywyd,
Cnawd a chalon yn gytun,
Byth ni syfla amod heddwch,
Hen gytundeb Tri yn Un.
Dyma beth nad oes tori arno,
Dihangol byth heb soddi,
Am fod yr Arch yn Dduw.
Y mae Duw wedi cymeryd gofal am dani, odditani, ac oddiarni i'w hwylio yn mhob man. Pa un bynag ai gwan ai cryf oedd rhai o'r teulu oddifewn, y maent yn ddyogel yn y cysgod bendigedig. I'r dyogelwch heno, enaid anwyl,
I'r arch mewn pryd,
Fe lysg y byd yn lân;
O ddinas distryw brysiwch, ffowch,
Ar y gwastadedd nac ymdrowch.
Rhowch eich hunain i Dduw ac i'w bobl yn ol ei ewyllys Ef. Amen.
PREGETH X.—Un peth eto yn ol.
"A'R Iesu pan glybu hyn a ddywedodd wrtho, Y mae un peth eto yn ol iti; gwerth yr hyn oll sydd genyt, a dyro i'r tlodion; a thi gei drysor yn y nef: a thyred canlyn fi.
"Ond pan glybu efe y pethau hyn, efe a aeth yn athrist: canys yr oedd efe yn gyfoethog iawn."—Luc xviii. 22. 23.
Yr oedd y gwr ieuanc y sonir am dano yma, â lluaws o bethau dymunol yn perthyn iddo—pethau oedd yn ei wneud yn wrthrych hoffder neillduol yr Athraw mawr.
I. Gwr ieuanc ydoedd. Dyn â'i wyneb ar fywyd, a'i obeithion yn dechreu ymagor. Addewidion fel dyffrynoedd eang, prydferth, yn ei demtio yn mlaen, a disgwyliadau mawrion yn canolbwyntio ynddo.
2. Yr oedd yn llywodraethwr. Meddai ddylanwad, ac yr oedd yn wr o sylw ac ymddiried. Os bydd gan ddyn ragoriaethau, y mae swydd yn fantais i'r rhagoriaethau hyny lewyrchu a bod o ddefnydd.
3. Gwr ieuanc cyfoethog ydoedd. Y mae hyn eto yn troi yn fantais neu yn anfantais; ac yn anfantais a rhwystr yn fwyaf cyffredin. Dinystriwyd llawer dyn da gan ormod o ddaear o'i amgylch, ac aeth y byd, yn lle bod yn gymhorth iddo weled Duw a llesoli ei frawd, i guddio Duw a'i frawd o'i olwg. Fe geir llawer dyn cyfoethog yn ymddiried mewn arian am beth na ellir ei gael am arian. Rhodd Duw, yn ei ragluniaeth, i ddyn ydyw cyfoeth; ond fe dderbynir y gras hwn yn ofer gan luaws.
4. Yr oedd hwn yn wr ieuanc moesol hefyd. Fe gadwodd y gorchymynion o'i ieuenctyd, ac yr oedd hwn yn flodeuyn prydferth yn ei gymeriad naturiol. Yr oedd y pethau a nodwyd yn bethau da yn y gwr ieuanc, ond os rhoddir hwy yn lle pethau gwell, y mae yna berygl. Dyna berygl y gwr ieuanc, y mae yn amlwg, gwneud gormod o'i gyfoeth a'i foesoldeb.
Ni a welwn hefyd rai rhinweddau prydferth yn dyfod i'r golwg yn ei ymddygiad y tro hwn:
1. Mae yn achub y cyfle. Fe ddaeth i'r ffordd i gyfarfod â'r Iesu, ac fe redodd ato. Beth a achlysurodd hyn, nis gwyddom; ond y mae yn awyddus ac mewn brys i achub y cyfle.
2. Fe ymostyngodd iddo. Y mae yn plygu ar ei liniau ger ei fron, fel y cyfieithir y gair mewn dau le arall. Yr oedd yr ymostyngiad yn un difrifol.
3. Y mae yn parchu yr Iesu. "Athraw da," mor barchus y mae yn ei gyfarch. Yr oedd ganddo feddwl mawr am yr Iesu, a chredai ei fod yn fwy nag ef ei hun, er nad ellir meddwl ei fod yn ei gydnabod yn Fab Duw. Yr oedd y gwr ieuanc wedi teithio yn mlaen yn dda; ond ei ddiffyg pwysig ydoedd ei fod heb gyrhaedd y pen gyda phobpeth.
4. Y mae ei gwestiwn yn un difrifol a phriodol—"Beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragwyddol?" Yr oedd rhyw deimlad ynddo ef ei hun fod rhywbeth yn ychwaneg yn eisiau, ond yr oedd yno hen elyn i'w enaid yn y tŷ nad oedd efe yn gwybod am dano, ac nad allai ei droi allan. Fel y dywedai Dafydd Cadwaladr am Hazael, "Ni wyr dyn dwyll ei galon ei hun."
Y mae yr Iesu yn ei adwaen yn drwyadl, ac yn ei drin fel meddyg cyfarwydd.
1. Y mae yn datguddio ei hun iddo trwy ofyn cwestiwn, "Paham y'm gelwi yn dda?" Pa reswm arall a roddwn am y gofyniad ond fod yr Athraw yn awyddus am i'r dyn ei adnabod. Dyma y wers gyntaf yn Ysgol Crist ydyw adnabod yr Athraw.
2. Y mae yn ei gymeryd yn ei ffordd ei hun, "Ti a wyddost y gorchymynion," ac y mae yn hollol gydnabyddus â hi, ac yn ei theithio yn mlaen yn hynod o rwydd.
3. Yn y testyn y mae yn dangos y ffordd yn mhellach nag yr oedd ei ffordd ef ei hun yn cyrhaedd; ac mor anwybodus ydyw yn ei chylch a hynod mor drwsgl y mae yn ceisio ei cherdded. Y mae yn dyfod at riniog bywyd tragwyddol ac yn tynu ei draed yn ol yn lle camu drosti.
4. Mae yn cael cynyg ar y ffordd i'r bywyd a'r ffordd fwyaf anrhydeddus, sef trwy fod yn ddysgybl i'r Iesu. Mor urddasol a fuasai ei enw heddyw, ac mor ddedwydd a fuasai yntau, pe y derbyniasai y cynyg yn llawen a diolchgar.
"Gwerth yr hyn oll sydd genyt, a dyro i'r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi." Dyna yr unig wall, yr unig ddiffyg—dim ond "un peth yn ddiffygiol." Y mae rhyw un peth y rhaid i bawb ei orchfygu i'r dyben o etifeddu bywyd tragwyddol. Rhaid i bob dyn dori dros rhyw un peth i gytuno â thelerau bywyd tragwyddol, ac y mae yr un beth hwnw yn fwy na phobpeth arall yn nghyd. Un peth sydd yn damnio, a gorchfygu yr un peth hwnw a dry yn fywyd byth i'r dyn.
Dyma y geni drachefn y mae yr Arglwydd Iesu yn son am dano wrth Nicodemus—gwneud i fynu yr un peth ydyw. Dyma y porth cyfyng ag y dylem ymdrechu myned i mewn trwyddo, un peth y gŵr ieuanc yma. "Haws yw i gamel fyned trwy grai y nodwydd ddur nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw,"—yrun peth sydd yn ei rwystro. Dyma borth nad all y camel ddim myned trwyddo, er iddo ymostwng o dan ei bwn; ac nid all efe ddim myned i mewn i'r ddinas trwy y porth hwn heb ei bwn. Porth y dynion ydyw hwn ac nid y camelod, fel hwnw yn Jerusalem gynt. Y dyn sydd i fyned i mewn trwyddo; nid y dyn a'i ffarm, a'i siop, a'i fasnach, na'i weithredoedd da. Nage, dyn a'i fywyd, a dim arall. Os myn y dyn a'i gamel fyned, y mae yn rhaid iddo droi at rhyw borth arall.
Dyma borth bychan y Cristion yn Nhaith y Pererin. Fe droes Cyndyn yn ol cyn ei weled, ac fe ddigalonodd Meddal yn y gors, aeth yn rhy Feddal i ddyfod at y Porth. Bu Cristion ei hun mewn cryn drafferth i gyflawni yrun peth. Ac wrth y Porth yma y bu Trugaredd, morwyn Cristiana, yn petruso; ac oherwydd gwendid i gamu dros yrun peth, yn mron a llewygu.
Nid oes dim modd dyfod i borthladd yr efengyl heb dori dros y bar yma, ac y mae llawer yn methu wrth geisio ei groesi. Fel y dywedai tad y bachgen yr oedd yspryd mud ynddo wrth yr Iesu, "Os gelli di ddim, cymhorth ni, gan dosturio wrthym." "Os gelli di gredu," meddai y Gwaredwr, "pob peth a all fod i'r neb a gredo." "Yr wyf fi yn credu, O! Arglwydd; cymhorth fy annghrediniaeth i" ebai yntau. Fel pe dywedasai, "Yr wyf wedi hwylio cyn belled ag y gallaf, ond y mae arnaf ofn y bar, ac yr wyf yn ymddiried fy llong i ti fel pilot i ddyfod drosodd, ac i'w hwylio i'r porthladd, "Cymhorth fy annghrediniaeth." Y mae yn rhaid croesi y bar wrth gychwyn ar y fordaith, yn ogystal ag wrth ddyfod i mewn i'r harbour. Ac ond i ni edrych ar oes grefyddol dyn fel mordaith, y mae yn rhaid croesi y bar wrth gychwyn allan i'r môr. A dyma lle y methodd y gwr ieuanc hwn, ac oherwydd hyny yr ydym yn ei adael fel hen long, neu gwch, yn braenu wedi haner suddo mewn rhyw gornel yn y porthladd, wedi methu troi allan, ac am hyny yn ddiddefnydd hollol. Mae yn rhaid fod rhyw un peth mawr ar gychwyn pob un ar ol yr Iesu, er na fydd hyny ddim mwy na digon i gychwyn; ond dyma y peth sydd yn eisiau ydyw croesi y bar i'r mor i ddechreu y fordaith.
Gwelwn Abraham, ar alwad Duw, yn gadael ei wlad, "Trwy ffydd, Abraham, pan y'i galwyd, a ufuddhaodd;" ac yr oedd yr un weithred hono o ffydd yn yr Arglwydd, yn nerth iddo at bob amgylchiad wedi hyny.
Felly Moses, fe wnaeth yntau lawer o bethau hynod iawn trwy ffydd yn yr Arglwydd; ond dyma yr un peth a roes gychwyn ynddo at yr holl bethau eraill, "Trwy ffydd, Moses, wedi myned yn fawr, a wrthododd ei alw yn fab merch Pharaoh. Gan ddewis yn hytrach oddef adfyd gyda phobl Dduw, na chael mwyniant pechod dros amser." Yn y tro yma yr aeth dros y bar; ac wedi hyny y mae yn gadael yr Aipht, yn gwneud y Pasg, ac yn myned trwy y môr; ond y ffydd gyntaf ydoedd yr un peth y gwnaeth ei ffordd drwyddo, ac y derbyniodd ynddo nerth at y pethau eraill.
Y mae Caleb a Josua hefyd yn egluro yr un gwirionedd. Fe fawrhaodd yr Arglwydd y dynion hyn yn fwy na neb a aeth allan o'r Aipht; ond fe sicrhawyd y llwyddiant a'r ffafrau mawrion a gawsant trwy un peth, sef trwy sefyll mewn ffydd yn yr Arglwydd, pan yr anfonwyd hwy i yspio gwlad Canaan. Safasant yn erbyn y deg eraill o blaid y gwirionedd; ac yn y tro hwn, yr oeddynt wedi gorchfygu yr un peth. "Yr amser a ballai i ni fynegi " am luoedd eraill a lwyddasant i wneud yr un peth; ond y mae genym hefyd esamplau difrifol o ddynion wedi methu mewn un peth, ac y mae eu coffadwriaeth yn rhybudd arswydus i ni byth.
Methu gorchfygu yn y cyntaf, fel y gwr ieuanc hwn, a wnaeth Saul brenin Israel. Hen blentyn mawr oedd Saul yn pwyso ar Samuel, fel Iuddew yn pwyso ar y pared. Yn ei anesmwythdra byrbwyll, fe anturiodd offrymu poeth offrwm i'r Arglwydd, ac y mae Samuel yn dweyd wrtho mai y pryd hwnw yr oedd Duw yn myned i'w sicrhau ar orseddfainc Israel; ond fe fethodd yn y tro, a chamgymerodd mewn un peth. Mae yn cael cynyg cyffelyb drachefn, wrth ddinystrio Amalec, ond fe gollodd ei olwg ar yr un peth, ac arbed y goreu a wnaeth ef y tro hwnw. Syrthio ar ei gleddyf a fu ei ddiwedd yn nghanol y rhai dienwaededig, wedi colli y frwydr. Nid oes dim enill wedi colli yn yr un peth.
Nid ydyw yr un peth yn beth cyhoeddus ac amlwg bob amser; ond mae y peth hawsaf i'w adael ar ol yn wastad. Yr oedd gan y morwynion ffol lamp, ac olew yn hono, a thân ar yr olew, a'r lamp yn cyn eu cystal a lamp y morwynion call. Ond llestr ac olew ynddo yn y llaw arall oedd yn eisiau. Yr oedd yr un peth, erbyn y waedd haner nos, wedi ei esgeuluso. Yr oedd y gwr a ddaeth i'r briodas wedi gwneud llawer, wedi cerdded ffordd bell, a cherdded o hyd y nos, a gadael ei amgylchiadau gartref, ac wedi rhagori ar lawer o'i gymydogion; ond yr oedd, er hyny, yn ddiffygiol yn yr un peth.
Fe geir lluaws yn dyfod yn mlaen hyd nes cyrhaedd yr un peth, ac yna yn troi i'r ffordd lydan, gam. Felly yr oedd Herod gydag Ioan yn ei wrando ef yn ewyllysgar. "Canys Herod oedd yn ofni Ioan, gan wybod ei fod yn wr cyfiawn, ac yn sanctaidd; ac a'i parchai ef: ac wedi iddo ei glywed ef, efe a wnai lawer o bethau, ac a'i gwrandawai ef yn ewyllysgar." Ond pan ddaeth at yr un peth, fe gauwyd y pregethwr yn y carchar; ac yn lle tori pen yr un peth, fe dorwyd pen Ioan yn y carchar. Gwaith caled iawn i lawer ydyw gwneud i fynu yr un peth. Tynu ymaith y llygad de a thori y fraich dde a'r troed de—tori aelod er mwyn arbed yr holl gorph—yr un peth. "Byddwch esmwyth er fy mwyn i wrth y llanc Absalom;" ond efe oedd yr un yr oedd yn rhaid ei gael i'r dderwen a than y garnedd i gael heddwch yn Israel. Yr un peth yma sydd yn damnio dynion. Y "fantell Fabilonig dêg, a dau can sicl o arian, ac un llafn aur," &c. Dyma gostiodd ei fywyd i'r dyn, ac i amryw o feibion Israel, yr un peth.
Yr oedd y cynyg yn uchel i'r gwr ieuanc yma"Gwerth yr hyn oll sydd genyt, a dyro i'r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi." Gosodir Crist a hoff eilun y dyn, un yn mhob pen i'r glorian, ac y mae Duw a mammon yn ymladd am yr uwchafiaeth ar faes ei galon. Gwaith pwysig mewn teyrnas ydyw newid brenin—taflu un brenin oddiar ei orsedd a choroni brenin arall. Y mae newid llywodraeth yn chwyldroad mewn gwlad. Aiff yn chwyldroad yn yr enaid pan ddelo un cryfach na'r cryf—arfog "arno a'i orchfygu," gan ei droi allan o'i neuadd. Rhaid cael gras i'r llywodraeth yn lle pechod, heb hyn fe fydd yr un peth yn ddiffygiol." Curo fydd ar furiau y ddinas hyd nes y ceir pen Seba dros y mur. Efe ydyw yr un peth.
Yn ddystaw y try y glorian yn fwyaf cyffredin—"Efe a aeth yn athrist." Beth a ddywedodd? Nid oes ganddo ddim i'w ddweyd yn yr achos. Aiff ymaith heb ffarwelio na diolch am y cynyg. Y mae yn colli bywyd tragwyddol yn y dystawrwydd am un peth. Ochr wan ydyw ochr y dyn euog. Nis gall ddal i siarad. Yr oedd y gŵr ieuanc yma yn siarad fel pistyll melin nes yr aed at yr un peth; ond fe glodd hyny ei wefusau ar unwaith. Fel y gŵr heb y wisg briodas, "Ac yntau a aeth yn fud," medd yr hanes, heb yr un gair i'w ddweyd dros ei ymddygiad. Ddyn anwyl, a fydd absenoldeb un peth yn peidio a dy wneud yn fud byth?
Yr oedd canolbwynt crefydd y gŵr yma o'i le. Nid oedd dim lle i'r Ceidwad yn ei grefydd. Am wneud da ac nid credu nid credu yn yr unig Un sydd yn dda yr oedd. Y mae yn planu y pren a'i wraidd i fynu. Nid oedd dim lle agored i dderbyn yr Iesu, ac ni wna yr Iesu yn unman ond yn gareg sylfaen. Nid Un i fod rhywle yn yr adeilad ydyw y "maen profedig." Na, careg sylfaen neu ddim.
Efe "a aeth ymaith yn athrist." Y mae yn troi cefn ar y Ceidwad heb enill. Nid ydyw y daith wedi ateb y dyben. Mae y ffrwyth yn rhy uchel ar bren y bywyd iddo ef allu ei gyrhaeddyd, ac nid all roddi pethau y byd yma o dan ei draed er mwyn dringo i ben y garnedd i ymaflyd yn y ffrwyth. Nid allai feddwl am werthu y cwbl a rhoddi. Gwerthu a chadw oedd ffordd ydyn. Efe "a aeth ymaith yn athrist," am fod y pris yn rhy uchel. Ni all neb dderbyn trysor yn y nef heb werthu. Fe gychwyna ambell un weithiau heb werthu y cwbl oll. Felly yr oedd gwraig Lot; yr oedd ganddi rywbeth ar ol yn fwy nag o'i blaen; a dyna yr achos fod ambell un yn troi yn ol ac yn gwrthgilio yn y dyddiau hyn, heb werthu yr hyn oll sydd ganddynt y maent.
Nid pryn y trysor yn y nef a ddywedir, ond "A thi a gei drysor yn y nef. Gwerth," "a thi gei. Dyma delerau yr efengyl, "Ti a gei;" "a thyred, canlyn fi." Nid oes dim lle i'r nefoedd roi, nes i'r dyn werthu, Gwerth, er mwyn i'r nefoedd gael lle i roi. Gwerth, y mae y Gwr a'r trysor yma i'w roi. Pa faint sydd rhyngwyf a chael y trysor yn y nef? Hyny sydd rhyngot a gwerthu yr hyn oll a feddi. "Yr hyn oll." Yr haner? Nage, yr hyn oll," i ganlyn yr Iesu. Treia hi yn dlawd am unwaith. Y mae yn rhaid i râd ras dy gael di yn dlawd cyn y medr wneud dim ohonot. Ond pe bae gras yn dy gael di yn dlawd, fe wnae bendefig y nef ohonot cyn pen dau funyd. Pa faint o bobl sydd yma wedi bod heb ddim? Hyny o bobl wir gyfoethog sydd yma. Nid oes ryfedd fod ambell un yn bur ddiras; ni welodd gras y nefoedd mohono erioed ond yn wr mawr. Pe cae trugaredd râd di at y drws i gardota, hi a'th wnai yn wr boneddig yn y fan. Awn yn mlaen heb ddim, gan gyfrif pob peth yn dom ac yn golled er mwyn enill Crist.
1864.PREGETH XI.—Codi ymaith y maen.[7]
"CODWCH ymaith y maen." Ioan xi. 39.
MAEN rhyfedd oedd hwn, yr oedd y marw un ochr iddo a'r bywyd yr ochr arall. Y marw oedd Lazarus, brawd Mair a Martha, a'r bywyd oedd yr Arglwydd Iesu. Ogof oedd y bedd a maen ar y drws. Ni a sylwn oddiwrth y geiriau
- I.—Y Marw.
- II.—Y Bywyd.
- III.—Y Maen oedd rhwng y byw a'r marw.
I.—Y marw. Y mae cyflwr dyn fel pechadur yn debyg i'r cyflwr yr oedd Lazarus ynddo, pan yn gorwedd yn y bedd, ac y mae yr Ysgrythyr yn golygu y pechadur yn farw mewn camweddau a phechodau.
1. Dygwyd ef i'r sefyllfa hon gan amgylchiadau, a dyna y gwir am ddyn fel pechadur. Y mae holl deulu dyn wedi eu dwyn i gyflwr pechadurus a thruenus. "Am hyny, megys trwy un dyn y daeth pechod i'r byd, a marwolaeth trwy bechod; ac felly yr aeth marwolaeth ar bob dyn, yn gymaint a phechu o bawb;" "oblegyd pawb a bechasant, ac ydynt yn ol am ogoniant Duw." Dyna yr amgylchiadau a'u dygasant i'r cyflwr hwn—cyflwr o farwolaeth ysprydol, ac o dan gondemniad marwolaeth dragwyddol. Mae dyn yn y carchar, a'i achos wedi ei setlo gan y gyfraith, ac y mae o dan ei chondemniad hi. "Mae yn cael rhodio yn rhydd," meddai rhywun. Ie, ie, ond yn nghwrt y carchar y mae yn rhodio, ac y mae arogl y condemniad ar bob cam a gerdda. Ni waeth yn y byd pa ddillad a rowch am dano, y mae marc y condemniad arno, ac arogl trwm y condemniad ar ei fwyd, a'i ddiod, a'i bobpeth. Mae y dyn fel y marw yn y bedd, a maen condemniad deddf Duw yn gorwedd arno.
2. Sefyllfa ydoedd hefyd ag yr oedd y marw ei hun yn analluog i'w gwella. Felly ninau, y mae ein sefyllfa, o'n rhan ein hunain, yn anobeithiol. Er fod dynion yn amcanu ac yn ceisio gwella eu hunain, nid ydynt yn llwyddo. Pa faint bynag a drefnir ar y bedd ac a blenir o fiodeu arno, bedd a'r marw yn gorwedd ynddo heb ei gyffro ydyw. Y mae y waredigaeth o'i gyrhaedd am byth o'i ran ei hun. Nid oedd neb o'i berthynasau a allasai wneud lles iddo. Er iddynt dristau a wylo, ni ddaw ef i fynu. Y mae llawer yn ceisio adfer y pechadur, ond yn medd pechod y mae yn gorwedd er pobpeth.
3. Sefyllfa ag y mae yr hwn sydd ynddi yn rhwym o fyned yn waeth. Tybiai Martha fod ei brawd wedi myned yn rhy bell mewn llygredigaeth fel na buasai yn weddus codi y maen. Cyflwr felly ydyw eiddo y pechadur. Nid oes neb yn myned yn fwy gobeithiol wrth aros mewn pechod; na, y mae awdurdod pechod yn ymaflyd yn dynach, a'r llygredigaeth yn enill tir bob dydd.
4. Y mae yn sefyllfa ag y mae pawb sydd yn hoffi yr hwn sydd ynddi yn galaru o'i herwydd ac yn tosturio wrtho. Galar mawr oedd yn Bethania, ac yr oedd rhai o Jerusalem wedi dyfod yno i gyd alaru â Mair a Martha am eu brawd. Swn galar sydd o bob cyfeiriad ar ol i ddyn fyned ar goll. Y mae y ddaear yn gruddfan o'i herwydd, ac y mae y nefoedd yn wylo o'i blegyd. Dywedir yn foreu yn hanes y byd, "A'r Arglwydd a welodd mai aml oedd drygioni dyn ar y ddaear, a bod holl fwriad meddylfryd ei galon yn unig yn ddrygionus bob amser. Ac edifarhaodd ar yr Arglwydd wneuthur ohono ef ddyn ar y ddaear, ac efe a ymofidiodd yn ei galon;" a hanes gofid Duw am dano a'i dosturi tuag ato ydyw pob datguddiad a rydd ohono ei hun. Ac am Dduw mewn cnawd fe ddywedir, "Ac wedi iddo ddyfod yn agos, pan welodd efe y ddinas, efe a wylodd drosti." Daeth i Bethania y ddaear yma i wylo ac i chwysu ac i farw o gariad at y pechadur. Gofid o'i herwydd a dorodd ei galon.
5. Y mae yn sefyllfa isel a darostyngol iawn hefyd. Dyma sefyllfa isaf creadur o ddyn, yn farw yn ei fedd. Y mae afiechyd yn darostwng y dyn yn fynych, gwneud y dyn cryf yn wan, gosod marc y caethiwed ar y dyn rhydd ac ymlid ei harddwch ymaith; ond yn ei fedd y mae yn cyrhaedd y step isaf. Dyma gyflwr pechadur yn mhwll llygredigaeth. Yr ydym yn adnabod ambell un ag y mae pawb wedi ei roddi i fynu; dyn marw ac yn ei fedd ydyw gan ei holl gydnabod. Y mae mewn annuwioldeb ac anystyriaeth fel wedi ei gladdu yn nheimlad pawb, ac wedi ei roddi yn y lle y gadewir y meirw i lygru. Mae rhyw adeg claddu ar ddyn yn ngobaith ei gydnabod a'i berthynasau crefyddol; a phan y mae yn myned dros rhyw farc a rhyw derfyn, y mae pawb yn ffarwelio âg ef. Y mae lluaws yn eu beddau nad oes neb yn disgwyl dim tro na chyfnewidiad arnynt, nac yn medru gobeithio am eu dychweliad.
6. Hefyd y mae yn sefyllfa bell oddiwrth fywyd. Dyma y tir pellaf oddiwrth fywyd. Bywyd â marwolaeth ydynt y ddau eithaf, ac y mae lled mawr rhwng y ddau begwn. Darlunir y pechadur yn y Beibl yn y sefyllfa bellaf oddiwrth Dduw, ffynonell bywyd a goleuni—yn elyn, yn dywyllwch, ac yn farw.
II.—Y bywyd. Er mor bell mewn ystyr naturiol ydyw bywyd oddiwrth farwolaeth, ni a welwn yma ei fod wedi dyfod yn agos. Y mae yr "Adgyfodiad a'r Bywyd" wrth ddrws y bedd, fel nad oes ond y maen rhyngddynt. Dyma yr enw sydd gan Iesu Grist arno ei hun yn nghanol byd y beddau—y fynwent fawr—yr "Adgyfodiad a'r Bywyd."
1. Y mae yn un sydd yn meddu bywyd ynddo ei Hun—"Ynddo ef yr oedd bywyd;" "Hwn ydyw y gwir Dduw a'r bywyd tragwyddol." Efe ydyw ffynon bywyd, a ffrydiau ohono Ef a welir yn mhawb arall. Bywyd dibynol ydyw bywyd creadur ar y goreu; ond dyma fywyd yn ei wreiddyn—hunanfodol a thragwyddol.
2. Efe a roddes fywyd i bobpeth, ac Efe sydd yn ei gynal—"Hwn oedd yn y dechreuad gyda Duw. Trwyddo ef y gwnaethpwyd pob peth; ac hebddo ef ni wnaethpwyd dim ar a wnaethpwyd. Ynddo ef yr oedd bywyd; a'r bywyd sydd oleuni dynion." Efe ydyw Gair y Bywyd a Thywysog y Bywyd a Bara y Bywyd; ac y mae yn faen bywiol ac yn ffordd newydd a bywiol. Efe sydd yn cynal bywyd yn y nefoedd a'r ddaear. Efe sydd yn rhoddi "bywyd ac anadl a phob peth oll," ac Ef sydd "yn cynal pob peth trwy air ei nerth." Y mae Efe yn abl i roddi bywyd drachefn i'r neb sydd wedi ei golli. "A chwithau, pan oeddych yn feirw mewn camweddau, a dienwaediad eich cnawd, a gydfywhaodd efe gydag ef, gan faddeu i chwi yr holl gamweddau." Efe ydyw yr adgyfodiad mawr, efe yw gwawr y bywyd." Y mae yn rhaid cael y meddyg i geisio helpu y bywyd cyn i ddyn ei golli, a'r helynt fawr a wneir i'w gyrchu cyn iddi fyned yn rhy ddiweddar. Y mae terfyn ar allu a dysgeidiaeth ac ymdrech y meddyg. Ond dyma hanes y Meddyg mawr, "A chwithau a fywhaodd efe, pan oeddych feirw mewn camweddau a phechodau." A wellhaodd Efe pan oedd yn afiach gan glefyd pechod. Na, anfeidrol fwy, "A fywhaodd ese, pan oeddych feirw." Diolch iddo; ni raid i ni gerfio y geiriau "rhy ddiweddar" ar feddau dynion "meirw mewn camweddau a phechodau."
3. Daeth i'r byd sydd yn llawn marwolaeth gyda'r amcan o gyfranu bywyd. "Myfi a ddaethum fel y caent fywyd, ac y caent ef yn helaethach." Dyma amcan mawr ei ddyfodiad. Y mae dynion yn cael gwneud pob peth a allant i'w gilydd, perarogli cyrph y meirw, ac adeiladu a gwyngalchu eu beddau; ond nis gall neb roi bywyd ond hwn. A welwch chwi y bobl yna yn myned i'r fynwent. Y mae yna rhyw lanerch gysegredig iddynt yno. Beth ydyw amcan eu taith i'r fangre dawel? I eneinio bedd rhyw un hoff â'u dagrau ac i harddu y lle â blodeu, a dyna yr eithaf; nis gallant gyrhaedd mwy, er gwneud eu goreu. Ond daeth yr Iesu yma, nid i wylo yn unig, nid i drefnu y beddau yn unig, ond i roddi bywyd i'r meirw—i ddatod dorau hen garcharau angau, "A hon yw y dystiolaeth; roddi o Dduw i ni fywyd tragwyddol: a'r bywyd hwn sydd yn ei Fab ef. Yr hwn y mae y Mab ganddo, y mae y bywyd ganddo." Credwn yn amcan mawr ei ddyfodiad i'r byd, a chredwn yn ei allu a'i awdurdod i gyflawni y gwaith.
4. Hefyd, y mae bywyd yn ei gyflawnder mwyaf yn ei feddiant. Y mae yn llawn bywyd. Y mae bywyd yn mhob peth yr Iesu. "Geiriau bywyd tragwyddol" ydyw ei eiriau; ac y mae bywyd yn ei lais, "Pan glywo y meirw lef Mab Duw, y rhai a glywant a fyddant byw;" ac y mae bywyd o gyffwrdd ynddo; pan y mae yn cyffwrdd yn elor y gŵr ieuanc o Nain, dacw y bachgen yn fyw yn y fan. Yr oedd mor llawn o fywyd fel na fedrai symud heb wasgaru bywyd ar fin ei lwybr; mor llawn o fywyd, fel nad allai angau ddim dal gafael yn ei ysglyfaeth yn ei bresenoldeb. Pan y mae yn cyfarfod claddedigaeth ar y ffordd, y mae bywyd yn llenwi y ffordd o glawdd i glawdd, fel nad oes lle i'r angladd fyned heibio.
Iesu, ti wyt ffynon bywyd,
Bywyd dedwydd i barhau.
III.—Y maen oedd rhwng y byw a'r marw. Gorchymyn yr Iesu ydyw, "Codwch ymaith y maen." Y mae Lazarus farw un ochr i'r maen, a'r Iesu byw yr ochr arall; ac o ochr y bywyd y daw y dymuniad am godi ymaith y maen. Cawsai orwedd yno am byth o ran y marw. Felly y mae pechaduriaid, y mae yna rhyw faen rhyngddynt ag efengyl Crist, ac y mae eisiau ei godi. Y mae yr Iesu yn gwaeddi arnom ninau heddyw, "Codwch ymaith y maen." Symudwn y meini sydd rhwng y byw a'r marw; yr Iesu fedr godi y meirw, ond y mae yn gofyn i ni dreiglo llawer o feini ymaith. Beth yw y meini yma?
1. Maen anwybodaeth. Gwnawn ymdrech i godi hwn ymaith. Dyma amcan pregethu ac yn enwedig felly yr Ysgolion Sabbothol, symud ymaith y maen hwn. Y mae y cyfrifoldeb o ddysgu y plant yn gorphwys arnom, eu dysgu am Dduw, am eu cyflyrau ger ei fron, ac am drefn Duw i'w cadw. Ymddiriedir hwy i'n gofal, ac yr ydym yn cael ein galw i "godi ymaith y maen" yn yr ystyr hwn. Priodol yw dweyd wrth rieini y plant, ac wrth swyddogion yr eglwysi, ac wrth athrawon ac athrawesau yr ysgolion, ac wrth eglwys Dduw yn gyffredinol, "Codwch ymaith y maen." Beth ydyw anfon gair y bywyd i wledydd paganaidd y byd? Codi ymaith y maen sydd rhwng y byw a'r marw.
2. Maen anystyriaeth. Dyma faen arall ag y mae llawer marw yn gorwedd odditano, fel y rhai hyny, "A hwy yn ddiystyr ganddynt, a aethant ymaith;" "A Pharaoh a drodd ac a aeth i'w dŷ, ac ni osododd hyn at ei galon." Nid oes dim, yn ein dyddiau ni, sydd yn fwy o rwystr i'r efengyl i ddylanwadu ar ddynion, nag anystyriaeth.
3. Maen annghrediniaeth. "Am nad ydynt yn credu ynof fi," dyna gŵyn yr Iesu am ddynion—y maen rhyngddo a'r meirw. Dyna hanes y byd yn mhob cenhedlaeth hefyd. Gwrthodai y cynddiluwiaid eu hiachawduriaeth, am na chredent air Duw trwy Noe, y maen ar eu beddau. Gwatwerid Lot gan ei ddawon, pan y ceisiai eu gwaredu, "Ac yn ngolwg ei ddawon yr oedd efe fel un yn cellwair." Pan y dywedai wrthynt am y gawod fawr oedd ar ddisgyn arnynt, ac mai yr unig ddiangfa rhag y brwmstan tanllyd oedd gadael y ddinas, ac mai amser byr oedd ganddynt i ffoi, ond ni chredent,—maen annghrediniaeth yn gorwedd yn drwm arnynt.
4. Maen rhagfarn. Dyma faen eto sydd rhwng llawer a bywyd tragwyddol. Y mae rhai yn coledd rhagfarn yn erbyn plaid o grefyddwyr, yn erbyn eglwys, yn erbyn swyddogion eglwys, neu yn erbyn rhai o'r aelodau, neu yn erbyn y pregethwr. Paham na ddaw y dyn i'r cyfarfodydd? O, rhyw ragfarn sydd yn ei barlysu. Paham na dderbynia fwy o fendith pan y daw? Y mae ei ragfarn am rywbeth yn ei wneud yn ddall ac yn fyddar i bob peth. Rhagfarn y dyn sydd yn difwyno y fendith iddo, ac yn ei gadw draw oddiwrth bob daioni; ac y mae yn rhaid codi ymaith y maen hwn, cyn y daw y marw a'r bywyd y naill at y llall. Y mae rhagfarn dyn yn tyfu o'r peth lleiaf, ac nid oes yr un soil fwy cynyrchiol iddo na dychymyg afiach y dyn ei hun.
5. Maen dirmygu crefyddwyr. Dynion hunanol, hyfion, ac "yn ddiserch i'r rhai da." Yn eu golwg y mae rhyw fai ar hwn, a rhyw fai ar y llall, a rhaid cael rhyw fai ar bob un. Ac nid oes ganddynt ddim parch i'r rhai goreu, a'r rhai mwyaf pur, a diniwed, a didramgwydd—gair bach am hwn, a gair bach am arall, ac nid oes dim gair da i neb. Maen ydyw hwn i gadw y marw yn ei fedd.
6. Maen moesoldeb yn lle crefydd. Y mae crefydd yn cynwys moesoldeb, ond nid yw moesoldeb arwynebol yn cynwys crefydd. Yr oedd y Phariseaid yn enwog yn y moesoldeb hwn: Golchent y tu allan i'r cwpan a'r ddysgl, ac adeiladent feddau yr hen brophwydi er mantais i labyddio y prophwydi presenol. Dyn yn hyderu fod pob peth yn dda am fod yr allanol yn weddol drefnus,—beddau wedi eu gwyngalchu—os ydyw y calch gwyn yn ymddangos oddiallan, esgyrn y meirw sydd yn pydru oddimewn. Esgus ambell un tros beidio dyfod at bobl yr Arglwydd ydyw ei fod cystal a hwythau, a beth sydd yn eisiau yn fwy na thalu i bawb bob dimai o ddyled, a chau pob llidiart. Y maent yn dda ynddynt eu hunain, ac nid oes crefydd hebddynt; ond pan yr aiff y dyn i bwyso ar y pethau hyn, yn lle bod yn gymhorth, y maent yn myned yn dramgwydd yn faen i gadw y dyn yn ei fedd. Y mae yn rhaid symud y maen hwn cyn y daw y cyfryw i afael â bywyd.
7. Maen bywyd penrhydd. Fe geir miloedd yn cashau pob cyfrifoldeb a rhwymedigaeth. Meibion Belial ydynt,—rhai di—iau—ac yn llefaru mewn balchder," Drylliwn eu rhwymau hwy, a thaflwn eu rheffynau oddiwrthym." Dywed yr Arglwydd Iesu Grist, "Cymerwch fy iau arnoch, a dysgwch genyf." Na, y mae y dyn yn caru bywyd penrhydd a diddysgyblaeth; yn caru teithio y ffordd lydan, a'r ffordd fer, sydd yn arwain i ddistryw. Anufuddhau i orchymynion Duw holl ddyddiau ei fywyd, ac eto yn disgwyl trugaredd Duw yn y diwedd. Enaid anwyl, yr wyt ti yn disgwyl trugaredd, yn union ar yr un tir ag y gallai y diafol ddisgwyl am dani. Nichlyw y marw lais ceidwad y byd hyd nes codi ymaith y maen hwn.
8. Annghysondeb bywyd proffeswyr. Dyn yn proffesu pethau gogoneddus ac yn gwneud pethau isel a gwael. Y mae hwn yn faen trwm ar fedd llawer marw. Bywyd afler a difater ac annghyson llawer crefyddwr ar y ffordd i ambell un marw i gael ei fywyd. Y mae yn rhaid symud y maen.
"Codwch ymaith y maen." Wel, pwy sydd i wneud hyn?" Ni waeth pwy ymgymer â'r gwaith— rhywun sydd yn ewyllysio yn dda i'r marw yn ei fedd. Y mae yn rhaid codi ymaith y maen sydd yn atal y fendith; a chymwynas werthfawr ydyw gallu tynu ymaith rywbeth sydd yn tori rhwng y byw a'r marw, yn anfantais i ddyn am ei fywyd. "Codwch ymaith y maen," y mae yr Iesu ei hun wrth ddrws y bedd. Efe sydd yn deisyf arnoch godi ymaith y maen, a gallwch chwi wneud hyn; ac ond i chwi wneud y peth a ellwch, fe wna yr Arglwydd Iesu yr hyn na ellwch. Ni chymer y Gwaredwr y gwaith a fedrwn ni ei gyflawni, ond pan yr aiff i'r pen arnom ni, fe ddaw y fraich fawr Hollalluog allan i weithio.
Wedi iddynt godi ymaith y maen, " Yr Iesu a lefodd â llef uchel, Lazarus, tyred allan." "Llef uchel" ydyw llef yr Iesu, digon uchel i fyned i waelod bedd, a digon treiddgar i gyrhaedd dros y terfyn i'r byd ysbrydol. Yr oedd y llef yn y fan hon mor uchel ac mor awdurdodol fel, onibae iddo ddweyd enw Lazarus," medd un hen esboniwr, fe ddaethai y meirw i gyd allan.
Fe gododd Lazarus yn chwyrn iawn yn ei ddillad bedd. "Gollyngwch ef yn rhydd," meddai yr Iesu, "a gadewch iddo syned ymaith." Chwi a gewch ei weled yn cerdded bellach. Y mae wedi codi, y mae yn fyw. "A gadewch iddo fyned ymaith "—ymaith oddiwrth y bedd, o olwg hen ddillad claddu, ymaith o gyrhaedd angau a'i holl gelfi. Bywyd yr adgyfodiad oedd ei fywyd ef. Yn mha le y cawn ni ef nesaf? Yn y wledd yn nhŷ Simon, lle yr oedd Mair a Martha a'r Iesu. Ac O! wledd ogoneddus fydd yn y nefoedd; yr hwn a gyfodwyd o'r bedd, a'r rhai a fu yn codi ymaith y meini a'r Adgyfodiad a'r Bywyd; yn mwynhau eu gilydd byth, a'r clod i gyd i'r Iesu. Cynorthwyed Duw ni i gyflawni ein gwaith, trwy Iesu Grist. Amen.
PREGETH XII.—Mynediad i mewn i'r dragwyddol deyrnas.[8]
"CANYS felly yn helaeth y trefnir i chwi fynediad i mewn i dragwyddol deyrnas ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist."—2 Pedr i. II.
DYMA ail reswm yr Apostol dros yr anogaeth a roddir ganddo i fod yn ddiwyd gyda chrefydd. Y rheswm cyntaf ydyw, mai trwy fod yn "ddiwyd i wneuthur ein galwedigaeth a'n hetholedigaeth yn sicr," y cedwir ni rhag llithriadau gofidus a niweidiol. Canys tra fyddoch yn gwneuthur y pethau hyn, ni lithrwch chwi ddim byth." Ac nid yn unig fe'n cedwir rhag llithro yn waradwyddus, ond hefyd "fe drefnir i ni fynediad helaeth i mewn i'r dragwyddol deyrnas." "Chwanegwch at eich ffydd rinwedd," &c., yna fe drefnir, neu fe chwanegir i chwithau—fe'n cynysgaeddir â mynediad helaeth, fe drefnir yn oludog i ni ddigonol fynediad. Gofalwn ni am chwanegu, fe ofala Duw am chwanegu ar ein cyfer. Gwelwn oddiwrth eiriau y testyn:
I.—Fod gan yr Arglwydd Iesu Grist deyrnas yn y byd tu draw i angau. Yr Iesu ydyw Brenin y deyrnas, ac y mae Ef yn "Frenin tragwyddol, anfarwol, anweledig." Y mae teyrnas y tywyllwch yn bod, ond ni sonir am frenin ar hono. Fe ddywedir am "benaeth y cythreuliaid," a " thywysog llywodraeth yr awyr," ond nid oes son fod y diafol yn frenin, ac nid ydyw yn dywysog ond yn y byd yma—"duw y byd hwn ydyw. Iesu Grist ydyw y brenin tragwyddol, ac Efe ydyw yr unig Frenin yn y byd mawr, a'i deyrnas Ef ydyw yr unig deyrnas dragwyddol. Gwrandewch ar y prophwyd yn dweyd hanes y Brenin a'r deyrnas, "Canys bachgen a aned i ni, mab a roddwyd i ni, a bydd y llywodraeth ar ei ysgwydd ef; a gelwir ei enw ef Rhyfeddol, Cynghorwr, y Duw cadarn, Tad tragwyddoldeb, Tywysog tangnefedd. Ar helaethrwydd ei lywodraeth a'i dangnefedd ni bydd diwedd, ar orseddfa Dafydd ac ar ei frenhiniaeth Ef i'w threfnu hi, ac i'w chadarnhau â barn ac â chyfiawnder o'r pryd hwn a hyd byth. Sêl Arglwydd y lluoedd a wna hyn" (Esaiah ix. 6, 7). Yr ydym hefyd yn cael un arall o'r prophwydi yn traethu am y frenhiniaeth mewn hwyl hyderus—"Ac yn nyddiau y brenhinoedd hyn, y cyfyd Duw y nefoedd frenhiniaeth, yr hon ni ddistrywir byth; a'r frenhiniaeth ni adewir i bobl eraill; ond hi a faluria, ac a dreulia yr holl frenhiniaethau hyn, a hi a saif yn dragywydd" (Daniel ii. 44). Pan y mae yr angel yn hysbysu genedigaeth Iesu y Brenin, dywed, "Hwn fydd mawr, ac a elwir yn Fab y Goruchaf: ac iddo y rhydd yr Arglwydd Dduw orseddfa ei dad Dafydd." "Ac efe a deyrnasa ar dŷ Jacob yn dragywydd; ac ar ei frenhiniaeth ni bydd diwedd" (Luc i. 32, 33). "Canys, rhaid iddo deyrnasu hyd oni osodo ei holl elynion dan ei draed." A dyna ei waith ar hyd yr oesoedd: sefydlu ei frenhiniaeth, datguddio ei hawliau fel brenin, a darostwng ei holl elynion. Pan yr ymddangosodd ar y ddaear, y mae holl allu y tywyllwch wedi ymfyddino yn ei erbyn. Y mae gwlad Canaan, gallem dybio, yn fwy llawn o ysbrydion aflan y pryd hwnw nag y bu erioed, na chyn hyny nac wedi hyny. Pa gyfrif a roddir am hyny? A oes rhyw reswm dros fod yr ysbrydion drwg wedi cymeryd meddiant mor neillduol mewn cynifer o ddynion yn Ngwlad Canaan y pryd hwnw? Ai er mwyn poeni y Brenin yn unig y daethant? A oedd arnynt arswyd yn nghylch y diriogaeth y meddent rhyw gymaint o awdurdod ynddi? Ynte a oedd pethau yn waeth arnynt yn y byd arall, pan y mae y Mab wedi ymddangos yn ein byd ni, a hwythau oherwydd hyny yn ffoi oddiyno yn heidiau? Pa reswm bynag a allasai fod, yr oeddynt yn ymgynull yma yn dyrfaoedd: llechai cynifer a thua deuddeng mil ohonynt yn mynwes rhyw greadur truenus yn ngwlad y Gadareniaid, ac yr oedd yno luaws o ogofeydd heblaw hon yn mha rai y llechent. Fodd bynag, gwr bach ydyw y diafol yn ei wlad ei hun; mewn cadwynau, o dan dywyllwch, y mae ef a'i holl bleidwyr yn y byd hwnw. Yr Arglwydd Iesu Grist ydyw y brenin yno. Hyny o deyrnas sydd gan y diafol, yr ochr yma y mae hono; ond yn y byd y tu draw i angau, y mae tiriogaeth fawr y Brenin Iesu: yno y mae y ddinas a'r llys brenhinol a'r orsedd a'r goron. Teyrnas y gogoniant ydyw y deyrnas, a Brenin y gogoniant ydyw y Brenin, a gweled ei ogoniant y bydd ei bobl dros byth.
II.—Teyrnas dragwyddol ydyw. "I dragwyddol deyrnas." Mae pobpeth y deyrnas hon yn dragwyddol. Y mae bywyd y deyrnas yn fywyd tragwyddol, "Ac efe a ddywedodd wrthynt, yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a'r a adawodd dŷ, neu rieni, neu frodyr, neu wraig, neu blant, er mwyn teyrnas Dduw, a'r nis derbyn lawn cymaint yn y pryd hwn, ac yn y byd a ddaw fywyd tragwyddol" (Luc xviii. 29, 30). Etifeddiaeth dragwyddol yw ei hetifeddiaeth—"Y cai y rhai a alwyd dderbyn addewid yr etifeddiaeth dragwyddol" (Heb. ix. 15). Tragwyddol bebyll" sydd yn y deyrnas hon. Tŷ tragwyddol, sef "Tŷ nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd" (2 Cor. v. 1). Iachawdwriaeth dragywyddol, "Ac wedi ei berffeithio, efe a wnaethpwyd yn Awdwr iachawdwriaeth dragwyddol i'r rhai oll a ufuddhant iddo" (Heb. v. 9). A gogoniant tragwyddol, "Am hyny yr ydwyf yn goddef pob peth er mwyn yr etholedigion, fel y gallont hwythau gael yr iachawdwriaeth sydd yn Nghrist Iesu, gyda gogoniant tragwyddol" (2. Tim. ii. 10). Tragwyddol deyrnas"—yr un awel wenwynig yn ei hawyr, yr un pren crin yn ei daear, yr un fynwent na bedd o'i mewn. Y mae pobpeth crefydd Mab Duw â stamp tragwyddol arnynt,—
Tragwyddol Sabboth gyda'r Oen,
Heb friw, na phoen, na gofid.
III.—Teyrnas i fyned i mewn iddi ydyw hefyd. Y mae lluaws a adwaenech chwi wedi myned i mewn; ac y maent wedi gadael bylchau mawrion ar eu hol yma. Ofer edrych am danynt yn y lleoedd yr arferid eu gweled, oblegyd y maent wedi myned i mewn; ac y mae eraill ar y ffordd. Canys, yr ydym ni, y rhai a gredasom, yn myned i mewn." Y mae llawer o deyrnasoedd y byd nad oes neb i gael myned i mewn iddynt heb pass o'r deyrnas y byddant yn myned ohoni, a hono ar amodau heddychol â'r deyrnas y byddant yn myned iddi. Y mae yn rhaid cael pass i fyned i mewn i'r dragwyddol deyrnas, a hwnw o dan law ac yn enw Brenin y deyrnas; a dyma gynghor yr Apostol yn yr adnodau o flaen y testyn, "Byddwch ddiwyd i wneuthur eich galwedigaeth a'ch etholedigaeth yn sicr"—mynwch y pass. "Yn mysg y rhai," medd yr Apostol wrth y Rhufeiniaid, "yr ydych chwithau yn alwedigion Iesu Grist"—pobl wedi eu trwyddedu gan y Brenin i fyned i mewn. Bydd yn rhaid i ambell long weithiau, er ei bod wedi cyrhaedd i ymyl y porthladd, a hawl i fyned i mewn ganddi, i aros mewn quarantine,—bod am ddeugain niwrnod yn disgwyl y cyhoeddiad o ryddhad. Y mae yn rhaid i ambell ddyn duwiol, er fod y pass ganddo, aros ar y tonnau i'w brofi fod pobpeth yn iawn. Fe gaiff rhai o ddeiliaid teyrnas Iesu Grist "gystudd am ddeng niwrnod," ac am ddeugain niwrnod, i'w profi; ond nid oes dim damnedigaeth yn y quarantine, " Eithr pan y'n bernir y'n ceryddir gan yr Arglwydd, fel na'n damnier gyda'r byd."
IV.—Mae yn bosibl cael mynediad helaeth i mewn i'r deyrnas hon. Nid ydyw pawb sydd yn myned i mewn yn cael mynediad helaeth. Na, "o'r braidd " y mae gyda rhai—rhai yn cyrhaedd yno "megys trwy dân," a'u gwaith wedi ei losgi. "Efe ei hun a fydd cadwedig; eto felly megys trwy dân, tân poeth cystuddiau a phrofedigaethau—"eto felly cadwedig megys trwy dân" o brofiad llym a chaled. "Mynediad helaeth i mewn" fydd yn gysurus; nid fel un wedi ei orchfygu mewn brwydr, yn dianc yn lladradaidd i'r ddinas, ac yn diolch i leni'r nos am ei guddio; ond fel tywysog wedi enill buddugoliaeth ardderchog, ac yn myned i mewn â'i ben i fynu, yn nghanol croesaw pawb. Neu fel llong marsiandwr yn dychwelyd o wlad bell, wedi bod allan am fisoedd lawer, ac ar ol mordaith lwyddianus—y morwyr ar gael bob un, a'r llestr yn llawn o drysorau gwerthfawr—y mae yn myned i mewn i'r porthladd gyda rhwysg, a phawb yn llawen ar y bwrdd Y mae y mynediad helaeth yma yn cael ei drefnu gan y nefoedd, a braidd na thybiem mai â'r gair trefnu y cysylltir yr helaeth yn y fan yma,—y trefnu yn helaeth, ac yn nglŷn â hyny y mae pob peth yn helaeth. Y mae Duw yn trefnu yn helaeth ar gyfer y pethau nad ydyw y byd yma yn medru trefnu dim ar eu cyfer. "Canys felly y trefnir," &c., "wrth wneuthur y pethau hyn," a thra fyddoch yn eu gwneuthur. Y mae y dyn yn ychwanegu, yn myned rhagddo, yn tyfu, ac y mae y nefoedd yn trefnu yn helaeth ar ei gyfer. Nis gall y rhai sydd yn dyfod at grefydd, ac yn sefyll yn eu hunfan, byth gael hyn. Na, y dyn sydd yn tyfu hyd ei farw, i hwnw y trefnir yn helaeth y mynediad i'r deyrnas. Y mae ambell un yn cychwyn ar ol yr Iesu, y maent fel cawod o eira, yr olwg gyntaf ydyw yr oreu arnynt; ond am y dyn all edrych yn mlaen am gynwys y testyn, un diwyd ydyw, ac un a rhyw ychwanegu yn ei grefydd yn barhaus. Dywedir am y crocodile ei fod yn tyfu hyd ei farw, ac wrth wneud sylwadau coffadwriaethol ar ol y diweddar Barch. Richard Jones, y Wern, gwnai rhywun ddefnydd o'r gydmariaeth wrth son am dano yn ddyn oedd yn tyfu hyd y diwedd. Fe gafodd y dyn mawr hwnw fynediad helaeth i mewn i'r deyrnas. Dywedai dau ŵr, a gredid gan bawb yn Nhalysarnau, eu bod wedi clywed rhyw ganu na chlybuwyd ei fath o amgylch y tŷ yr elai y gŵr sanctaidd ohono i ogoniant. Yr oedd yr hynod William Ellis o Faentwrog, wedi clywed yr hanes, yn taeru mai angylion oedd yno, a'u bod wedi dyfod ychydig yn rhy fuan, ac wedi rhoddi tune allan i'w chanu i aros i Richard Jones ddyfod gyda hwy. Fodd bynag, fe gafodd fynediad helaeth i mewn. Ο! beth pe y gwelem y croesaw mawr y mae y rhai diwyd yn ei gael ar eu mynediad i mewn. "A bu i'r cardotyn farw," medd yr Iesu yn y ddameg, a dyna y swn i gyd yr ochr yma, ond y mae yr Un a wyddai am yr ochr draw yn ychwanegu, "a'i ddwyn gan angylion i fynwes Abraham." Y mae y pyrth yn ymddyrchafu, a'r dorau yn cael eu hagoryd o led y pen, i'w dderbyn mewn sain cân a moliant. Carwn wneud rhai sylwadau ar hyn yn mhellach:
1. Fod yn rhaid cael pass gan deyrnas sydd mewn heddwch. Nid yw teyrnas Satan a gwasanaethu pechod mewn heddwch â'r nefoedd, ac nid ydyw y naill deyrnas yn ymddiried dim i'r llall. Y mae y byd annuwiol a'r deyrnas fawr yr ochr draw yn rhy bell, yn rhy annghymodlawn â'u gilydd i roddi hawl i groesi drosodd. Ond y mae rhai wedi llafurio llawer yn mhlaid teyrnas ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist," ac y mae yn hawdd iddynt gael y pass.
2. Mae adnabyddiaeth o ddyn weithiau mewn gwlad arall yn sicrhau iddo groesaw ar ei fynediad yno. Mae ganddo berthynasau yn ei ddisgwyl i lanio yn y wlad. Efallai ei fod wedi bod yn gwneud gwasanaeth i'r deyrnas y bydd yn myned iddi, ac y mae hyny yn sicrhau iddo fynediad helaeth i mewn. Felly am aml un o'r saint, y maent wedi gwneud gwasanaeth i'r deyrnas yma yn yr Ysgol Sabbothol a'r cyfarfodydd gweddiau ac mewn bywydau sydd yn canmol egwyddorion mawr y deyrnas, ac, o ganlyniad, y mae eu croesaw yno yn rhwym o fod yn fawr. Y mae cymaint o ddelw ac ysbryd gwlad arall—gwlad well ac un nefol—ar ambell un fel y mae pawb o'r ochr yma ac o'r ochr draw yn foddlawn iddo ymfudo. Y mae ei serch ar y wlad hono, a'i ymadroddion yn ei chylch, fel y mae wedi myned yn annghymhwys i bob gwlad ond un nefol, "Canys ein hymarweddiad ni sydd yn y nefoedd." Y mae pobpeth yn eu gweithio i son am ac i ymserchu yn y nefoedd, "Canys ein byr ysgafn gystudd ni sydd yn odidog ragorol yn gweithredu tragwyddol bwys gogoniantini; Tra na byddom yn edrych ar y pethau a welir, ond ar y pethau ni welir," 2 Cor. iv. 17, 18.
Ystyriwn, cyn terfynu, fod yn rhaid i ni fyned oddiyma. A oes genym le i fyned? I ba le yr ydym yn gymhwys? Faint o gydnabyddiaeth sydd genym â'r nefoedd? Faint o ddelw ac ysbryd y wlad a feddwn? Pa beth a wnaethom o blaid y wlad? Ac, yn enwedig, a ydyw y deyrnas yr ydym yn byw ynddi yn awr mewn heddwch a chyfamod â'r nefoedd? Y mae yn rhaid cael lamp a hono yn oleu i fyned i mewn gyda'r priodfab i'r briodas. Gan hyny, frodyr, byddwch ddiwyd, "Canys felly yn helaeth y trefnir i chwi fynediad i mewn i dragywyddol deyrnas ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist."
Penrhyn, Ionawr 28, 1887.
Y Cynghor[9]
A draddodwyd yn y Gwasanaeth Ordeinio yn Nghymdeithasfa Llangollen, Mehefin, 1873.
ANWYL FRODYR,—Oddiar yr ystyriaeth fy mod yn fwy priodol i dderbyn nag i roddi Cynghor, yr wyf yn codi i fynu yn wan a chrynedig. Ond gan i'r Gymdeithasfa yn Llanidloes fy mhenodi i sefyll fel hyn yn "lle Crist," ac yn enw holl eglwysi Crist yn Nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngogledd Cymru, ar yr adeg arbenig hon, dymunaf am gymhorth Yspryd yr Arglwydd i ddweyd gair a fyddo yn fuddiol. Os ydyw yn ddoeth ac yn fanteisiol nodi ar ryw ran o'r Ysgrythyr yn fwy na'i gilydd, dymunaf eich sylw at 2 Timotheus iv. 2:—
Pregetha y gair; bydd daer mewn amser, allan o amser; argyhoedda, cerydda, anog gyd â phob hirymaros ac athrawiaeth."
Dyma yr epistol diweddaf, a chynghor diweddaf yr Apostol i Timotheus. Mae efe wedi bod yn yr epistol hwn, ac yn yr epistol o'i flaen, yn cynghori llawer ar Timotheus, gan gydnabod ei gymhwysderau a'i fanteision. Ac i raddau helaeth, fy anwyl frodyr, yr ydych chwithau yn gyfranog o'r un manteision.
Un fantais y mae yn ei nodi oedd, ei fod wedi ei fagu yn ngeiriau y ffydd: "Ac i ti er yn fachgen wybod yr Ysgrythyr lan." Yr oedd hyn yn fantais i Timotheus, nid yn unig fel Cristion, ei fod yn hyddysg yn ngair y gwirionedd, ond hefyd fel gweinidog yr efengyl. Yr oedd y diweddar Barchedig a dysgedig Simon Llwyd o'r Bala yn dweyd wrthyf, "Llafuriwch chwi am fod yn Ysgrythyrwr da, o ran nis gall neb fod yn dduwinydd da heb fod yn Ysgrythyrwr da; a rhaid bod yn Ysgrythyrwr da i fod yn bregethwr da." Fe ddywedir fod Whitfield yn fwy medrus i ddefnyddio y Beibl nag oedd Garrick, y chwareuwr, i ddefnyddio Shakespeare.
Mae yr Apostol yn cydnabod hefyd fod Timotheus yn meddu "ffydd a chydwybod dda"—"Gan fod genyt ffydd a chydwybod dda." "Y ffydd ddiffuant sydd ynot ti, yr hon a drigodd yn gyntaf yn dy nain Lois, ac yn dy fam Eunice, a diamheu genyf ei bod ynot tithau hefyd." "Eithr bydd yn esiampl i'r ffyddloniaid mewn gair, mewn ymarweddiad, mewn cariad, mewn ysbryd, mewn ffydd, mewn purdeb." "Ffydd a chydwybod dda:" cydwybod yn cael ei chadw yn "ddirwystr." Mae un o'r tadau gynt, wrth sylwi ar y geiriau, "Geiriau y doethion sydd megys symbylau, ac fel hoelion wedi eu sicrhau gan feistriaid y gynulleidfa," yn dweyd fod pregethwr yn debyg i saer yn curo hoel i fwrdd caled. Digwydd weithiau na bydd ganddo hoel o werth; pregethwr yw hwnw yn amddifad o bregeth. Un arall sydd a chanddo hoel, ond heb forthwyl: pregethwr heb ddawn i draddodi yw hwnw. Mae arall gyda hoel a morthwyl, ond heb ebill i dyllu y bwrdd o flaen yr hoel: pregethwr heb gymeriad da ydyw hwnw. Un arall sydd a chanddo yr holl bethau hyn, eto gyru yr hoel yn afrwydd y mae, am nad oes ganddo olew i drochi yr hoel ynddo: pregethwr yn fyr o'r eneiniad ar ei ysbryd ydyw hwnw drachefn. Ond nodai un arall oedd fwy anhapus na'r cwbl; un yn meddu hoel a morthwyl da, ond pan fyddai yn amcanu taro yr hoel yr oedd yn taro ei fŷs yn wastad: byddai yn taro yn lled galed weithiau, ond taro ei fŷs y byddai. Yr hyn yr oedd y pregethwr yn ei gondemnio mewn eraill, yr oedd efe ei hun yn euog ohono. Bydded genych ffydd a chydwybod dda." Cymhwysder arall y mae yr Apostol yn gydnabod fod Timotheus yn ei feddu oedd, mesur o ddawn y weinidogaeth, "Yr ydwyf yn dy goffhau i ail enyn dawn Duw yr hwn sydd ynot." "Nac esgeulusa y ddawn sydd ynot." Yr oedd amryw ddoniau yn cael eu golygu gan yr Apostol yn y geiriau, ond yn eu plith ac yn benaf, dawn y weinidogaeth. Yr ydwyf yn tybied fod dawn neillduol i'r weinidogaeth: dawn i bregethu. Y mae yn gysylltiedig â dawn i weddio a chynghori; a lle mae mesur helaeth o ddawn ac ysbryd gweddi, y mae y ddawn i bregethu. Mae y ddawn yma yn cynyddu yn y gwaith. A lle y byddo dawn ac ysbryd y weinidogaeth, y mae yn gorchfygu pob rhwystrau ac anfanteision. Pe byddai un yn safn—drwm a thafod—drwm ac atal dweyd arno, y llais yn grug ac aflafar, a'r " ymadrodd yn ddirmygus," eto o dan eneiniad yr ysbryd hwn, y mae pob anfantais a rhwystr yn cael eu gorchfygu, a'u gorchfygu i'r fath raddau weithiau ag y gallai rhai feddwl mai manteision ydynt yn hytrach nag anfanteision, fel y dywedai Eben Fardd am John Elias,
'R oedd hyd yn nod ei atal dywedyd
Yn gyfwng o hyawdledd cu;
ac fel y mae y diweddar Barch. John Hughes yn coffhau ei ddywediad am dano yn Methodistiaeth Cymru: "Yr oedd yn feistr arno ei hun, yn feistr ar ei fater, yn feistr ar ei lais, ac yn feistr ar y gynulleidfa." Yr oedd ysbryd a dawn y weinidogaeth wedi ei wneud yn feistr ar bobpeth. Mae y ddawn yma fel gorlifiad llawer o ddyfroedd ar ben y goriwaered, yn mynu ei ffordd yn mlaen trwy y naill a heibio i'r llall, a chan symud y peth arall, ac yn fuan iawn yn tori gwely neillduol i'w redfa ei hun. Felly mae'r ddawn yma yn y tywalltiad helaeth ohoni ar yspryd y pregethwr. Hi a fyn ei ffordd; ac heblaw hyny, fe fydd ganddi ei ffordd ei hun.
Yn yr adnod flaenaf o'r bennod hon, mae yr Apostol yn cymeryd Timotheus gerbron Duw, a'r Arglwydd Iesu Grist, a cher ei fron yn ei ymddangosiad a'i deyrnas, yr hwn a farna y byw a'r meirw, ac yn gorchymyn iddo, ie, yn ei dynghedu, yn debyg fel y gwnaeth Hamilcar â Hannibal ei fab pan yn fachgen naw mlwydd oed; aeth âg ef at allor y duwiau, ac a'i tynghedodd na byddai iddo byth lesghau yn ei elyniaeth at y Rhufeiniaid. A gelyn annghymodlawn a fu Hannibal. Felly y mae yr Apostol Paul yma yn tynghedu Timotheus gerbron Duw a Iesu Grist. Ei dynghedu i ba beth meddwch. Ei dynghedu i " bregethu." Felly y dymunwn inau dynghedu pob un ohonoch chwithau yn ol amcan y geiriau a ddarllenwyd, "Pregetha y gair," &c.
"PREGETHA." Dyma ordinhad benaf yr eglwys. Nid pregethu heb weddio, canu, darllen, cynghori, dysgu, a gweinyddu sacramentau o fedydd a Swper yr Arglwydd; ond yn mlaenaf ac yn benaf oll, "pregetha y gair." Y pregethu grymus, effeithiol sydd wedi dwyn ein cenedl ni i'r hyn ydyw, a'r pregethu a alwodd lawer o bethau eraill i fod: y cyfarfodydd eglwysig a'r cyfarfodydd gweddi, yr Ysgol Sabbothol, y Feibl Gymdeithas, y Cymdeithasau Cenadol, a'r cymdeithasau i wrthweithio annghymedroldeb, a'r cyffelyb; ni buasai y pethau hyn o gwbl onibae am y pregethu. A'r pregethu raid eto eu cynal mewn bod. I'r efengyl yn yr ordinhad o bregethu yn benaf y mae ein gwlad yn ddyledus am bob daioni moesol a chrefyddol sydd o'i mewn. Dyma hefyd yn benaf yr hyn y mae eglwysi ein gwlad yn sychedu am fwy ohono. Mae newyn a syched am fugeiliaeth fwy manwl, cyson, a thrwyadl; ac y mae amgylchiadau yr achos ac ansawdd yr amseroedd yn galw yn uchel am hyn, ac y mae lluaws yr aelodau yn yr eglwysi yn deall beth a ddylai Israel wneud gyda hyn, i raddau mwy neu lai, drwy yr holl siroedd. Ond nid bugeiliaeth heb y pregethu a ddymunir, eithr bugeiliaeth mwy manwl a chyson yn nghyda mwy o bregethu—mwy o bregethu ar y Sabbothau a dyddiau gwaith, mwy o bregethu nerthol ac effeithiol. Rhaid wrth bregethu fel yr eiddo Whitfield a'r bugeilio fel yr eiddo Wesley i wneud gwaith efengylwr a chyflawni y weinidogaeth: bugeilio y defaid a phorthi yr wyn; ac y mae y naill a'r llall yn fantais i ysbryd a phrofiad y pregethwr. Wrth fugeilio caiff lawer o ddefnyddiau a chyfarwyddyd at y gwaith o bregethu.
Mae pobpeth a berthyn i'r pregethwr i fod i'r dyben o bregethu; pob mantais y mae wedi ei chael a phob peth a all gael mewn dysg a phob manteision, mae i gyflwyno y cwbl ar allor y weinidogaeth. Y pregethwr ydyw i fod yn mhob man; llygaid y pregethwr yn gweled, a chlust y pregethwr yn clywed, côf y pregethwr a myfyrdod y pregethwr—pobpeth berthyn iddo i fod yn bethau y pregethwr. "Nid yw yr hwn sydd yn milwrio yn ymrwystro a negeseuau y bywyd hwn, fel y rhyngo fodd i'r hwn a'i dewisodd yn filwr." Nid masnachwr, amaethwr, nac unrhyw neges arall, ond milwr. A beth bynag y mae yn ymdrafferthu âg ef, y mae hyny er mwyn rhyngu bodd i'r hwn a'i dewisoedd yn filwr." Milwr ydyw i fod yn mhob peth ac yn mhob man. Felly yr oedd yr Apostol ei hun. "Milwrio milwriaeth dda" oedd ei amcan, "ymdrechu ymdrech deg," "gweinidog da i Iesu Grist." Pa un bynag ai edrych ar y campwr ar y mynydd, ynte y llafurwr yn y dyffryn, neu y rhyfelwr dan arfau yn y maes, neu y caethwas yn y tŷ, y dinesydd yn y ddinas, neu y morwr yn ei long, neu ai edrych i fynu i'r nefoedd, ynte i lawr ar y ddaear, neu o tan y ddaear, y mae yr Apostol yn edrych ar y cwbl â llygad y pregethwr, ac yn defnyddio y cwbl at ei wasanaeth fel y cyfryw.
Ond paham y soniaf am nag apostol neu efengylwr mewn un wlad neu oes? Edrychwn ar yr Athraw Mawr ei hun, "yr hwn a gerddodd oddiamgylch gan wneuthur daioni," gyda llygad y pregethwr yn sylwi, clust y pregethwr yn gwrando, a chalon y pregethwr yn teimlo. Mae pobpeth y pregethwr yn y Person berndigedig hwn. Mor fanwl yr oedd wedi darllen yr Ysgrythyrau ac yr esbonia y gyfraith yn ei bregeth ar y mynydd! Yr oedd yn treiddio i lawr at egwyddorion digyfnewid sancteiddrwydd a gwir foesoldeb. Yn ei atebion i'r Phariseaid a'r Saduceaid, yr oedd wedi sylwi yn graff a manwl, fel yr oeddynt yn cywilyddio ger ei fron, "Ac ni feiddiodd neb o'r dydd hwnw allan ymofyn âg ef mwyach." Fel pregethwr edrychai Crist ar y maes ac ar yr arddwr yn aredig, yr hauwr yn hau ei hâd, a'r hâd da, a'r efrau a hauedd y gelyn-ddyn, y ddau yn cyd-dyfu, y sylw gan y gweision, y meusydd yn wynion i'r cynhauaf, y medelwyr yn casglu y gwenith, ac yn rhwymo yr efrau, yr ysgubau, y wyntyll a'r nithiwr. Yr oedd yr Arglwydd Iesu yn edrych fel pregethwr ar y cwbl. Dyna y bugail drachefn a'i ddefaid, y defaid yn adnabod llais y bugail, ac yn ei ganlyn; y gorlan, y drws, a'r drysawr yn agoryd, y lleidr a'r yspeiliwr yn dringo ffordd arall, amcan y lleidr a'r yspeiliwr, sef lladd a dyfetha; y gwas cyflog, yr hwn nid eiddo y desaid, yn ffoi; y bugail yn eu harwain i mewn ac allan, y gwahanol ddeadelloedd yn cael eu casglu ar ddiwedd yr haf, a phob deadell o dan ofal yr un bugail yn un ddeadell fawr. Y winllan hefyd y gwinllanydd a'r llafurwyr a'u cyflogi i'r winllan; gosod y winllan i lafurwyr, a rhan o'r ffrwyth yn ardreth, a'u canghenau a'u triniaeth, a'r ffigysbren yn y winllan a'r driniaeth pan yn ddiffrwyth. Edrychodd yr Arglwydd Iesu ar y pethau hyn oll, a gwnaeth ddefnydd ohonynt fel pregethwr. Yn gyffelyb gyda'r môr a'r llongau, y pysgodwyr a'u rhwydau, a'r pysgod, pa un bynag ai bychain ai mawrion, ai drwg ai da; pysgota gyda rhwyd, neu bysgota gyda bâch, a'r rhwyd yn "casglu o bob rhyw beth." Ac am y farchnad, yr oedd yr Iesu yn gwybod am bris hyd yn nod aderyn tô; ac fel y mae Bengel yn sylwi, yr oedd yn gwybod pan oedd ei bris yn codi: yr oedd wedi clywed y plant yn y farchnad yn llefain ar eu cyfeillion, a sylwi ar y "marchnatwyr yn ceisio perlau teg," ac ar y cyfnewidwyr arian yn eu derbyn, ac yn mhen amser yn eu dychwelyd gyda llôg. A gellir nodi hefyd y swper mawr, priodas mab y brenin, y ddafad a gollasid, a'r dryll a gollasai gwraig, "mab ieuengaf yn casglu y cwbl yn nghyd, ac yn cymeryd ei daith i wlad bell;" yr oedd y pethau hyn oll, a llawer mwy, yn bethau oedd yn bod ac a allasai fod yn arfer yr oes a'r wlad hono. Ac yr oedd yr Arglwydd Iesu yn edrych ar y cwbl ac yn eu defnyddio i'w amcan fel pregethwr. Y mwyaf tebyg i'r Arglwydd Iesu eto, hwnw yw y goreu. Fe ddywedir fod Solomon wedi llefaru tair mil o ddiarhebion, a bod ei ganiadau yn fil a phump. "Llefarodd hefyd am brenau a'r cedrwydd yn Libanus, hyd yr isop a dŷf allan o'r pared; ac efe a lefarodd am anifeiliaid, ac am ehediaid, ac am ymlusgiaid, ac am bysgod." Ond "wele un mwy na Solomon yma," "yr hwn a esgynodd i'r mynydd; ac wedi iddo eistedd, ei ddysgyblion a ddaethant ato, ac efe a agorodd ei enau, ac a'u dysgodd hwynt, gan ddywedyd." Dyma y pregethwr, "ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn." Dylai yr efengylwr wneud ei holl waith a'r gweinidog gyflawni ei weinidogaeth; ond prif waith yr efengylwr a'r gweinidog ydyw pregethu.
Yn nesaf, cawn yn y testyn yr hyn sydd i'w bregethu, sef y "gair.""Pregetha y gair;" yr holl air. Nid seryddiaeth, na daearyddiaeth, na morwriaeth, nac athroniaeth, na gwleidyddiaeth, ond y "gair." Y mae pob peth o'r nefoedd i'r ddaear, a than y ddaear, at wasanaeth y pregethwr i bregethu "gair y ffydd;" gair y deyrnas;" "gair y bywyd;" "gair y cymod; " gair yr iachawdwriaeth; " gair yr efengyl;" "gair Crist;" "gair Duw." Dyma y gair yr ydych i'w bregethu. Chwi ellwch draddodi cynghor, anerchiad, araeth, darlith, ar rhyw bethau eraill; ond pan yn pregethu, cofiwch mai y gair sydd i'w bregethu. Mae Duw am i ninau "fawrhau ei air uwchlaw ei enw oll." Fel y dywedai y diweddar Barch. James Richards, "Fe gaiff y gwirionedd a lefarodd Duw yn ei Fab wisgo enw y Mab; 'a'r gair yr hwn oedd o'r dechreuad gyda Duw,' wisgo y gair; oblegyd ynddo ef yr oedd bywyd, yr hyn sydd yn y gair hefyd." "Bywiol yw gair Duw a nerthol." Llythyren yw'r gyfraith, ond gair yw yr efengyl. Peth ar lechau ac ar bapyr yw'r llythyren, ond anadl bywyd yw'r gair. Nid oes dim gair lle nad oes bywyd. Ni fu gwirionedd yn enw ar Iuddewiaeth; ond fe fu Iuddewon am oesau yn disgwyl am y gair, a thyma fe, "Pregetha y gair."
Yn nesaf eto, mae y wedd neu y ffurf neu y dull i bregethu y gair yn cael ei nodi: Bydd daer." Mae y gair taer yn cael ei gyfieithu mewn rhai manau, dyfod arno" (Luc xxi. 1.). "A daethant arnynt hwy" (Actau iv. 6.). Mae hyn yn golygu ymosod; pregethu ymosodol. Ymosod i aflonyddu, i berswadio; ymosod ar annghrediniaeth, calongaledwch, anystyriaeth, ac annuwioldeb yn mhob ffurf. "Arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol, ond nerthol trwy Dduw i fwrw cestyll i'r llawr';" ymosod ar gestyll i'w bwrw i lawr. "Y rhai sydd yn aflonyddu y byd," yw yr hen enw ar y gwir bregethwyr. Dyma y pregethu "sydd yn troi y byd," pregethu ymosodol, dyfod ar ddynion a'u dal. "O hyn allan y deli ddynion;" gwaith ymosodol ydyw hwn. Mae yn debyg mai dyma y diffyg ynom y dyddiau hyn rhagor yr amser a aeth heibio; yr ydym yn cario yr achos yn mlaen yn llai ymosodol. Rhai yn ymosod oedd y Diwygwyr Protestanaidd, Wickliff a Huss, a Luther a Chalfin, a'r diwygwyr Methodistaidd, Whitfield Wesley, Harris a Rowlands, gyda y rhai oddiwrthynt hwy hyd heddyw a wnaethant lawer yn eu dydd. Felly y rhaid i chwithau hefyd wneud. "Ewch" ydyw y commission. Yr oedd gan y diwygwyr Methodistaidd feddwl mawr o bregethu mewn tai, ysguboriau, ar y ffyrdd a'r meusydd; ac fe ysgrifenai yr enwog Wesley yn fynych mai y pregethwr allan oedd yn dyfetha teyrnas y diafol. "Os mynwn ni andwyo teyrnas y tywyllwch, rhaid i ni droi allan i bregethu." A dyma yr amcan: er mwyn i'r achos fod yn ymosodol ar y werin gyffredin. Ac felly y dywed yr apostol yma, Bydd daer." Bydd daer" am wrandawyr; gwahodd pawb i wrando, a myned atynt i'r man lle y ceir hwynt.
"Bydd daer" am wrandawiad; y cwbl hyd y galler yn enillgar ac eglur. Pa ddyben gwrando os na byddwn yn deall yr hyn fyddo yn cael ei lefaru? Mae llefaru yn eglur yn un peth hanfodol er cael gwrandawiad; a llefaru yn ddifrifol. Mae pethau difrifol, pwysig, wrth gael eu llefaru yn ddifrifol, yn rhwym o gael gwrandawiad.
"Bydd daer" am dderbyniad i'r gaır: "Gwir yw y gair, ac yn haeddu pob derbyniad." Dywedir am y Parch. Daniel Rowlands, Llangeitho, y byddai yn ofidus iawn i'w feddwl os byddai yn ofni fod un oedsa wedi myned heibio heb i rywun o'r newydd gael ei ddychwelyd. Cymhellwch" neu dirgymhellwch hwy i ddyfod i mewn." Os mynwn lwyddo, mae yn rhaid i ffurf yr holl achos, ac yn arbenig y bregeth, fod yn ymosodol.
Y gair nesaf yn y testyn, sydd yn nodi allan yr amserau a'r prydiau i bregethu, sef, "mewn amser, allan o amser;" hyny yw, bob amser. Fe ddylai y pregethwr fod a'i bregeth yn barod ar bob adeg; pa un bynag ai mewn cyfleusdra ai ynte mewn annghyfleusdra; pa le bynag y caffo ddynion i wrando; fel y milwr yn barod dan arfau, neu yr heliwr â'i ddryll gyda'r ergyd yn barod pryd bynag y bydd yr aderyn yn codi; pregetha nos a dydd, Sabboth a dyddiau gwaith, " mewn amser, allan o amser." Mae y geiriau nesaf eto yn y testyn yn dangos yr amcan yn nglŷn â phregethu y gair: "Argyhoeddi, ceryddu, anog." Argyhoeddi" y tywyll a'r anwybodus, y caled a'r anystyriol. Ceryddu" y troseddwr a'r pechadur rhyfygus. "Anog" i edifeirwch a ffydd, a phob gweithred dda.
Eto, "gwna hyn gyda phob hir ymaros," parhau gyda'r gwaith er yn aflwyddianus, sefyll dros y gwirionedd yn wyneb pob cyfeiliornad. "Gyda phob hirymaros"—sefyll yn bybyr dros yr hyn sydd gyfiawn ac uniawn. Fel yr oedd Mr. Gladstone, y Prif Weinidog, yn adrodd hanesyn am deulu o Saeson yn amser y rhyfeloedd fu yn y deyrnas hon yn dymuno cael dysgu y gelfyddyd o ryfela; anfonasant am swyddog milwrol i ddyfod atynt i'w dysgu; ac fe aeth yntau, a rhoddodd amryw gyfarwyddiadau iddynt mewn byr amser am y modd i drin yr arfau. "Bellach," ebe efe, "mae y cwbl mewn un gair; pan eloch i'r maes, stand as a brick wall." Felly, meddaf, dros wirionedd, uniondeb, a chyfiawnder, sefwch, fy mrodyr, fel mur ceryg, ie, sefwch fel gwyneb y graig yn benderfynol ac eto yn dyner; mewn mwyneidd—dra doethineb." О, у tynerwch a'r llareidd—dra sydd yn ysbryd yr efengyl! "Mewn addfwynder yn dysgu y rhai gwrthwynebus." Yn y tynerwch toddedig, teimladol, y mae nerth gweinidog yr efengyl. Y fath dynerwch nawsaidd fel yr olew a'r mêl oedd yn y diweddar Barch. Henry Rees, ac eto y fath nerth nes peri fod y gallestr galed, afrywiog yn llyn dwfr ger ei fron! A dyna yr hybarch Daniel Jones, Llandegai, yn ei ddydd maith, llwyddianus iawn. Adroddir y bu y diweddar Barch. John Jones o Edeyrn yn foddion i ddychwelyd naw ugain yn sir Fon dan yr un bregeth. "Tri ugain am bob mil i Pedr," meddai ysgrifenydd yr hanes. Ond o holl bregethwyr effeithiol Gogledd Cymru yn yr oes a aeth heibio, yr wyf yn gostyngedig dybio, gyda golwg ar nifer y dychweledigion, fod yn briodol cyfeirio at Daniel Jones a dywedyd, "Ti a ragoraist arnynt oll." Wedi i bregethwr neu flaenor ddechreu yr oedfa, ac weithiau bregethu o'i flaen, pan y cymerai efe ei destyn wele bob peth mor dawel, dystaw, tyner, a meddalaidd, fel boreu tesog gyda'r wybren glir ar hirddydd hâf, heb un awel i'w theimlo nac un ddeilen o'r goedwig yn ysgwyd. Y mae yn dawel; ond yn y man y mae tawch i'w ganfod yn cyfodi uwchben, ac y mae yn hynod fwll; mae yn tewychu ar wyneb y ffurfafen; mae yn dylu, a chymylau yn ymgasglu ac yn duo. Ar hyn, dyma fellten yn llamu allan o'r cwmwl—un o fygythion gair Duw; yr oedd yn danllyd; yn y fan dyna daran drom, y mae pobpeth yn crynu; dyna fellten eto a tharan drachefn, a'r ffurfafen yn coch—wrido, y cymylau yn codi fel mynyddau y naill ar y llall, ac fel byddin ar ol byddin yn ymgasglu i faes y frwydr fawr; mae'r nefoedd yn rhuo, y ddaear yn crynu, y mynyddoedd yn siglo, a'r creigiau bron a chael eu bwrw i lawr. Y mae gloewon saethau bygythion Duw wedi dyfod ar y gynulleidfa; mae'r mamau a'r plant wedi annghofio y naill a'r llall; mae'r gwŷr a'r gwragedd wedi eu taro â syndod, a phob un gyda'i fater ei hun; nid oes neb trwy y gynulleidfa yn gwybod pwy sydd yn ei ymyl; mae calon pob dyn yn curo, ei gydwybod yn crynu; pawb mewn arswyd a braw. Ar hyn, dyma'r gwlaw yn disgyn yn ddefnynau breision, mawrion, "addewidion mawr iawn a gwerthfawr," yn hyfryd a thyner, fel y llefrith newydd odro, ac yn tywallt y bras—wlaw claear, cynes; mae y ddaear yn mwydo, pobpeth a phawb yn mwydo, pob llyn yn llenwi, pob nant yn llwydo, a phob afon yn gorlifo hyd y ceulanau; y taranau heb ddystewi yn hollol ond yn pellhau, a
Llais hyfryd rhad râs yn gwaeddi diangfa,
Yn nghlwyfau Mab Duw i'r euog mae noddfa.
Dyna y bregeth wedi myned heibio; a bellach mae y weddi dyner, lawn o gariad Crist, ac ar ol y weddi dyma y blaenor i fynu, a'i wyneb yn amlygu ei fod yntau wedi bod yn y dymhestl, a'i lais yn grynedig a thoddedig yn cyhoeddi "Seiat i fod ar ol canu." Yna'r canu—
Dyma Geidwad i'r colledig,
Meddyg i'r gwywedig rai.
Mae'r canu yn dyner: "Mae fel yr enaint gwerthfawr ar y pen yn disgyn ar hyd y farf, sef barf Aaron, yr hwn oedd yn disgyn ar hyd ymyl ei wisgoedd ef." Mae y canu eto wedi dystewi; ac yn bresenol, pwy a fedr fyned allan? "O, pa sut yr af fi," medd degau o galonau ar unwaith, "sut y codaf fy mraich i gyrhaedd fy het? Mae Duw yma; mae Crist yma; mae'r nefoedd yma. O, beth a wnaf fi? Yr wyf yn bechadur mawr, yr wyf yn dywyll, ond—
Er tywylled, pwy a ŵyr, os caf aros,
Na ddaw goleuni yn yr hwyr i ymddangos?
Grym i aros yn dy dŷ, Arglwydd, dyro."
Pwy sydd yma wedi aros? Mae yma amryw wedi aros: pump, deg, ugain, deg ar hugain, a mwy. Dyma oedfa i Daniel Jones! Nage, dyna eiliw gwan o oedfeuon Daniel Jones, a thair oedfa yn y dydd am dair wythnos. O ba ley daeth y fath nerth a dylanwad? O'r tynerwch: "argyhoeddi, ceryddu, anog, gyda phob hir ymaros;" ffrydiau "cariad Duw, yr hwn a dywalltodd Efe yn ein calonau trwy yr Yspryd Glân, yr hwn a roddwyd i ni." "Mellt sydd yn lladd," medd rhyw Sais; ie, mae'n wir, ond y mellt hyny sydd yn peri taranau a gwlaw hefyd. Mae rhyw fath o fellt nad oes na tharanau na gwlaw yn dilyn, a dreigiau y mae llawer o'r Cymry yn galw y rhai hyny. Ond mellt a tharanau a gwlaw taranau oedd mellt Daniel Jones, a'r cwbl yn codi o'r tynerwch teimladol ac ystyriol.
Y gair olaf o'r testyn ydyw y gair "athrawiaeth." Argyhoedda, cerydda, anog gyda phob hir ymaros ac athrawiaeth; " athrawiaeth iachus, athrawiaeth dda, yr hon a ddilynaist. Sefyll ar egwyddorion a thros egwyddorion; egwyddorion cedyrn ac annghyfnewidiol yn sylfaen y cwbl. Fel y dywedodd y diweddar Barch. John Hughes o Liverpool, ei fod wedi taro pan yn ieuanc ar gynifer o egwyddorion mawr, sefydlog, a digyfnewid. ac i hyny fod yn ddefnyddiol iddo, yn ei lafur cyhoeddus a dirgel, ar hyd ei oes. Mae y cwbl er athrawiaeth—yn "athrawus"—yn diweddu yn ymarferol; y cwbl i amcan a dyben teilwng. Mae pregeth ddiamcan fel y gôd a'r ffon dafl, heb un gareg i gyfarfod y cawr, neu, fel bwa heb un saeth, neu linyn pysgota heb yr un bâch arno, neu aradr yn myned i'r maes heb yr un sŵch iddi. Bydded y cwbl gan hyny i bwrpas teilwng.
Cadwer eich gwisgoedd yn wynion heb eu llychwino. Gwyn fyd yr hwn sydd yn gwylio, ac yn cadw ei ddillad." "Tydi, gan hyny, goddef gystudd megys milwr da i Iesu Grist." Hwyrach y gall temtasiynau cryfion ddyfod oddiwrth y byd yn ei olud a'i barch, wrth weled dynion mwy dyeithr, a diddysg, a llai eu manteision na chwi yn llwyddo, ac yn myned dros feddwl calon o gyfoethog, a chwithau a'ch teuluoedd yn byw, megys, ar ddogn dydd yn ei ddydd. Ond y pryd hwnw, cedwch eich golwg ar yr amcan: "Milwr da i Iesu Grist—rhyngu bodd i'r hwn a'ch dewisodd yn filwr," onide, fe wna yspryd y byd i'ch "mwynder ymado fel cwmwl y boreu, ac fel gwlith boreuol." Dywedai y Parch. Henry Rees y gellid gofyn am ambell un fel y gofynodd Ionadab i Amnon, mab Dafydd, "Ti, fab y brenin, paham yr ydwyt yn curio fel hyn beunydd? Ac Amnon a ddywedodd, 'Caru yr ydwyf fi Tamar, chwaer Absolom, fy mrawd."" Felly y gellid gofyn, Paham y mae ysbryd a phregethau a phobpeth ambell un yn curio fel hyn beunydd? Dyma fyddai yr ateb, "Caru yr ydwyf fy chwaer, yr hen ddaear." Cadwer chwithau rhag bydolrwydd.
Ac, feallai, y bydd ambell un yn edrych arnoch, fel y dywedodd Mr. Rees dro arall, gan ddisgwyl i chwi chwyddo fel yr oedd y barbariaid hyny wedi i'r wiber ddyfod allan o'r gwrês, ac yn ymaflyd yn llaw Paul, "eithr wedi iddynt hir ddisgwyl, a gweled nad oedd dim niwed yn digwydd iddo, hwy a newidiasant eu meddwl, ac a ddywedasant mai duw oedd efe." Felly, wedi hir ddisgwyl a gweled na bydd dim ymchwydd arnoch, eithr yn hytrach eich bod yn fwy gostyngedig ac ymroddgar i waith yr Arglwydd byddant hwythau yn newid eu meddwl, ac yn dweyd, "fod Duw yn wir ynoch."
Bellach, anwyl frodyr, dyweded pob un ohonoch yn ei galon yn ddifrifol, fel y Pen Bugail, "Y golledig a geisiaf, y darfedig a ddychwelaf, y friwedig a rwymaf, a'r llesg a gryfhaf." Y mae coron yn nghadw i'r rhai sydd yn ymdrechu ymdrech deg. A daw y dydd i'w derbyn. Dyma y cynghor yr ochr yma; ond gair cyntaf y cyfarchiad yr ochr draw fyddo, " Da, was da a ffyddlawn, buost ffyddlawn ar ychydig, mi a'th osodaf ar lawer, dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd." Boed i chwi yn ymddangosiad y Pen Bugail gael derbyn anniflanedig goron y gogoniant. Amen. Dywedwch chwithau, Amen; a dyweded pawb sydd yn bresenol, Amen; felly y byddo.
CYNWYSIAD.
Ardal ei enedigaeth.—Adeg ei ymddangosiad yn y byd.—Ei rieni.—Y blaenoriaid eglwysig.—Ei fedydd.—Diwygiad crefyddol.—Dylanwad ei fam a'r golygfeydd o amgylch ei gartref yn ffurfiad ei gymeriad.
Cyfnod yr argraphiadau.—Prinder ysgolion dyddiol.—Yr ysgol gyntaf yr anfonwyd ef iddi.—Y teulu yn symud i'r Waen, gerllaw Rhiwabon, ac yn dychwelyd drachefn.—Yn yr ysgol ysgol yn Llanrwst. Ei awydd am ddarllen.—Y llyfrau cyntaf.—Ei gariad at y Beibl. —Ei duedd at ganu. John Ellis, yr athraw cerddorol.—Ei dderbyn yn gyflawn aelod.—Sais yn areithio yn Mhenmachno ac yntau yn cyfieithu.—Ei ddewis yn flaenor.—Awydd pregethu.—Diwygiad crefyddol.—Cymeryd rhan yn y Cyfarfodydd Gweddiau. —Yn pregethu i'w gyfoedion.—Ceidwad yr athrawiaeth. Mewn tywyllwch a phryder yn ei ymchwiliad am y gwirionedd.—Ysbryd dadleuol y cyfnod hwnw. Yn cyrhaedd y làn. Ei barch i enwadau eraill.
Yn dechreu pregethu.—Dwyn ei achos i'r Cyfarfod Misol.—Y bregeth gyntaf. Ei daith Sabbothol gyntaf.—Caniatau iddo holl gylch y Cyfarfod Misol i bregethu.— Barn goruchwyliwr Mr. Bankes.—Barn ei fam.—Ei benderfyniad.—Syched am wybodaeth.—Ei ofid am na chawsai fanteision athrofaol.—Yn Mon.—Pregethu yn y tai a'r ysguboriau.—Traddodi pregeth Watson.—Cynghor John Gruffydd.—Testynau pregethau cyntaf ei oes.—Ei briodas.—Yn amaethwr.—Ei ordeiniad.—Ei awydd i ymryddhau oddiwrth ofalon bydol.—Taith yn Mon.—Oedfa fawr yn Methesda.—Cronfa Athrofa y Bala.—Ei gysondeb yn y cyfarfodydd wythnosol.—Galwad ffurfiol i'w bugeilio gan eglwysi Penmachno.—Ei ofal am blant yr eglwys.
Diwygiad crefyddol grymus.—Cymydogaeth Penmachno yn cael tywalltiad mawr.—Yntau yn profi yn helaeth ohono.—Gweinyddu yr ordinhadau sacramentaidd.—Ei ddull o fedyddio.—Swper yr Arglwydd.—Taith yn sir Ddinbych.—Ysbryd pregethu.—Cyfansoddi pregethau newyddion.—Ffyddlawn yn yr holl dŷ.—Yn y cyfarfodydd eglwysig.—Yn parotoi i ymryddhau oddiwrth ofalon bydol.—Ei sel dros fugeiliaeth eglwysig.—Yn dyner a gofalus o bregethwyr ieuainc.—Yn ymroddi i lafur.—Yn parhau yn ieuanc ac yn newydd yn ei waith.—Cyfarfod yn Nhrawsfynydd.—Cyfarfod Misol Llidiardau.—Y blynyddoedd 1856 ac 1857 yn flynyddoedd y colledion i'n Cyfundeb.—Yn teithio llawer i Gymdeithasfaoedd a Chyfarfodydd Pregethu. Yn ymadael i Gorwen. Yn ysgrifenu gair o adgofion.—Ei haelioni.—Ү cybydd a'i gi.
Ei ymsefydliad yn Nghorwen.—Cael ei alw yn Fugail ar yr Eglwysi.—Yr achos yn llwyddo.—Ei boblogrwydd.—Eglwys Ucheldref.—Dilyn y Cyfarfod Misol.—Y Gronfa Gynaliaethol.—Pregethu yn y Cyfarfodydd Misol.—Cyfarfod Misol Cerygydruidion.—Cyfansoddi pregethau newyddion.—Ei ddychymyg bywiog. Pregethu yn y Pant.—Ei ddull cyffredin y pryd hwn.—Pregeth y wialen a'r ffon.—Cymdeithasfa Caernarfon.—Cyfnewid yn ei deimladau.—Addunedau a gweddiau.
Galwadau arno i symud o Gorwen.—Ei anmharodrwydd i wrando arnynt.—Cyfarfod Misol Aberdyfi.—Cyfarfod Misol Maentwrog.—Galwad o'r Abermaw,—Myned i edrych Hendre'r Coed.—Cymeryd y tŷ.—Trefnu gydag Eglwys Abermaw.—Ei deimlad ar y pryd.—Ei brofiad wrth adgofio hyny.—Cyfarfod Misol Rhydlydan. Cyfarfod Misol Seion.—Yn llwyddianus a chymeradwy yn ei gylch newydd.—Llythyr cyflwyniad yn Aberllefeni.—Ei bryder. Ei weddiau a'i addunedau.—Yr achos yn llwyddo.Adeiladu Capel newydd,—Cymhorth Mr. Williams o Ddolgellau.—Adgofion Mr. Lewis Lewis.
Ei drigiad yn yr Abermaw.—Ei ymdrechion yn y cylch.—Adgofion brawd o weinidog.—Yn boblogaidd gydag enwadau eraill.—Y Ddeddf Gladdu.—Ei sêl gyda Dirwest.—Gyda'r Ysgol Sabbothol.—Yn feirniad mewn Cyfarfod Llenyddol.—Ei boblogrwydd yn y tai.—Pob dosbarth yn hoffi ei gymdeithas.—Ei farn am fugeiliaid llwyddianus.—Y tŷ coed yn yr ardd.—Adgofion y Parch. R. H. Morgan, M.A.—Cyfansoddi pregethau newyddion.—Sabboth dilewyrch.—Effeithiau ei weinidogaeth.—Yn weddiwr mawr.—Ei weddi dros y morwr.—Ei anerchiad i'r morwyr.—Ei haelioni a'i gymwynasgarwch.
Ymroddi i lafur yn mhob cylch.—Ei lyfrgell.—Ei farn am lyfrau.—Yn ymgais i gyrhaedd y bobl mewn ffordd deg.—Gwneud cyfamod.—Dysgyblu ei hun yn barhaus.—Cyfamod arall.—Adduned a gweddi.—Myned am daith i Leyn.—Cyfarfod â damwain.—Ei brofiad yn ei gystudd.—Ei adgofion am hyny.—Yn methu cerdded fel cynt.—Yn siriol er y cwbl.
Yn traddodi y bregeth gyntaf ar ol y ddamwain.—Yn rhoddi ei ofal bugeiliol i fynu.—Ei dymher fywiog.—Yn cymhell yr Eglwys i ddewis olynydd.—Ei ymddygiadau tuag ato.—Cynghor i fyfyrwyr.—Cyfarfodydd sefydlu gweinidogion.—Llanidloes.—Gwrecsam.
Yn teithio llawer.—Yn ofalus am ei Sabbothau i gylch ei sir ei hun.—Yn gomedd rhoddi cyhoeddiad ond am flwyddyn yn mlaen—Yn cwyno.—Dwy daflen o'i gyhoeddiadau Sabbothol.—Yn teithio.—Ei adduned.—Yn y cymdeithasfaoedd.—Llangollen.—Penrhyn Deudraeth.—Adroddiad Ο hanes yr achos.—Cymanfa Lerpwl.—Y "Seiat Fawr."—Cymdeithasfa Llwynbrwydrau.—Ei bregethu yn y cyfnod hwn.
Yn gwylio arwyddion yr amseroedd.—Cymdeithasfa Pwllheli.—Ei ddewis yn Llywydd y Gymdeithasfa.—Ei deimlad ar y pryd.—Ei anerchiad wrth roddi y Gadair i fynu—Y Gronfa Gynorthwyol.—Y drafodaeth yn y Gymdeithasfa—Ei sel gyda'r achos yn ei Gyfarfod Misol ei hun—Cyfarfod Misol Llanbedr.
Yn ddyn cryf.—Yn llafurio yn ddiymarbed.—Arwyddion palldod ar ei nerth.—Ei atal i bregethu gan y meddyg am dri mis.—Yn cyfansoddi pregethau yn y cyfnod hwnw.—Pregethau neillduaeth.—Y brasluniau yn anmherffaith—Oedfa yn Llanwyddyn.—Stori y pot mêl.—Oedfa yn Nghyfarfod Misol Pennal.
Ei ysbryd yn fyw.—Yn bresenol yn Nghyfarfod Misol ei sir.—Yr anerchiadau a draddododd yno.—" Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd."—Gyda'i gyhoeddiadau.—Y Cyfarfodydd Misol. Ei sylwadau.—Yn Aberllefeni.—Y Cyfamod Gras.—Cyfarfod Misol Bethesda.—Cyfarfod Misol Esgairgeiliog.—Canmlwyddiant yr Ysgol Sabbothol.—Cyfarfod Misol Llanfachreth.—Parch dwfn i'w frodyr.—Anerchiad gyda'r Ystadegau.
Yn dal i brynu llyfrau a'u darllen.—Y llyfrau a hoffai.—Ysbryd pregethu yn fyw.—Ymosodiad o ddigalondid.—Rhanau o'i lythyrau.—Cymdeithasfa Llanrwst—Cymdeithasfa Bangor.—Cymdeithasfa Pont Menai.—Tynerwch teimlad—Addfedu a melysu.—Ei brofiad yn nechreu y blynyddoedd 1884 ac 1885.—Sylwadau am dano.—Ei ofal am y tlodion.—Anerchiad yn Nghyfarfod Misol Tanygrisiau.
Anesmwythder am symud.—Llythyr o eglwys Nazareth.—Symud i'r Penrhyn.—Ymlyniad wrth yr eglwys yn yr Abermaw.—Dechreu gweithio yn ei faes newydd.—Dymuno cael peidio ei gornelu.—Pregethu yn Nhalysarnau.—Oedfa rymus nos Sabboth.—Diwrnod ei farw.—Ei gladdedigaeth.—Pregethwr ar ei ben ei hun.—Angen am rai tebyg.—Ei briod.—Nodiad o'r Drysorfa.
Ei ymddangosiad yn urddasol.—Brwdfrydedd ei natur.—Braslun ohono.—Sylwadau a dywediadau.
Un Cyfarfod Misol i'r holl sir.—Llafur i deithio.—Y gydnabyddiaeth.—Heb ddechreu cyhoeddi ystadegau.—Cwestiynau yn cael eu gofyn yn y Cyfarfodydd Misol.—Enwau pregethwyr y sir.—Teithiau Sabbothol y Cyfarfod Misol.—Richard Jones, Bala.—John Williams, Dolyddelen—Cadwaladr Owen.—John Williams, ieuengaf.—David Rees—William Hughes.—John Jones.—Cyfarfod Dirwestol—Mantais ar gyfeillion.—Yr holl fintai wedi huno.
Safle y pwlpud.—Pregethu yn dal.—Cydmaru pregethwyr—Yr efengyl yr un—Y doniau yn amryw.—Nodweddion pregethu goreu Cymru.—Pregethu y Gair—Traethu yr holl gynghor.—Y genadwri yn brofiad.—Perswadio dynion.—Cwbl ymgysegriad i'r amcan.
Pregethau
I. "Y Wialen a'r Ffon"
II. "Tŵr y Pridd"
III."Y Ddau Dŷ "
IV. "Cytuno ar y Ffordd"
V. "Y ceryg hyn "
VI. "Brenhiniaeth Duw"
VII. "Y wraig ag ynddi ysbryd gwendid!"
VIII "Y Gronyn Gwenith"
IX. "Ffydd Noe"
X. "Un peth eto yn ol"
XI. "Codi ymaith y maen"
XII. "Mynediad i mewn i dragwyddol deyrnas"
Y CYNGHOR

Nodiadau
[golygu]- ↑ Y mae amryw o'r rhai a fuont yn gwrando y bregeth hon wedi datgan eu hawydd am ei gweled yn argraphedig, ac yr ydym yn rhoddi yr amlinelliad hwn ohoni fel y cafwyd ef yn mysg ei bapyrau.
- ↑ Traddodwyd y bregeth hon yn yr Abermaw, Tachwedd 28, 1878, ac ysgrifenwyd hi mewn llaw fèr, wrth ei gwrando, gan Mr. E. R. Jones, Llythyrdy, Abermaw.
- ↑ Pregethwyd ar agoriad y Capel Saesneg yn yr Abermaw.
- ↑ Traddodwyd hi yn yr Abermaw nos Sabboth, Mai 15, 1881, ac ysgrifenwyd hi mewn llaw fêr, wrth ei gwrando, gan Mr. E. Jones.
- ↑ Traddodwyd y bregeth hon yn yr Abermaw, nos Sabboth, Mawrth 20, 1881, ac ysgrifenwyd hi mewn llaw fèr, wrth ei gwrando, gan Mr. Jones, Llythyrdy.
- ↑ Traddodwyd y bregeth hon yn yr Abermaw, nos Sabboth, Medi 25, 1881, ac ysgrifenwyd hi mewn llaw fer, wrth ei gwrando, gan Mr. E. R. Jones.
- ↑ Traddodwyd y bregeth hon yn yr Abermaw, nos Sabboth, Ebrill 18, 1886, ac ysgrifenwyd hi mewn llaw fèr, wrth ei gwrando, gan Mr. E. R. Jones.
- ↑ Cafwyd y crynodeb o'r bregeth hon yn mysg ei bapyrau wedi ei ysgrifenu ganddo ef ei hun ychydig amser cyn ei farwolaeth. Yr ydym yn ei ddodi yma am mai hon oedd y bregeth a draddodwyd ganddo yn Nhalysarnau, nos Sabboth, Chwefror 6, 1887—y diweddaf iddo ar y ddaear.
- ↑ Ordeinid pedwar-ar-ddeg o frodyr ar y pryd.
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.