Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad/Ardal Bwlchderwin
| ← Ei flynyddoedd cyntaf gyda chrefydd | Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad gan Henry Hughes, Bryncir |
Eglwys Bwlchderwin → |
PENOD VII.
ARDAL BWLCHDERWIN.
Ystyr y gair.—Darddiad boreuol.—Eglwys yn y lle yn foreuol iawn—William Richard Llwyd yn pregethu yma.—Marwnad Williams Pantycelyn iddo.—Ffrwythau y pregethau.—(1). Ysbryd cenhadol—Catrin ach Rhisiart yn rhybuddio John Morris.—Lowri Williams a Jane Griffith.—(2). Awydd am addysg.—Ysgolion Griffith Jones, Llanddowror.—Yn fendithiol i'r teuluoedd lle y cynhelid hwy—Humphrey Parry.Yn dadleu o blaid awdl Dewi Wyn.—Rhisiart William, Brynengan—Yr athraw, Thomas Gough.—Y Parch. Richard Nanney.—Y Parch. Richard Tibbot—Merch ieuanc yn ymuno â theulu Trefecca.—Yn berthynas i Sion Wyn o Eifion.—Hynodrwydd Robert Sion Dafydd.
MAE ffurf y gair, Bwlchderwin, yn wahanol ar lafar gwlad i'r hyn ydyw mewn argraph yn gyffredin. Y ffurf ar lafar gwlad yn ddieithriad ydyw Bwlchderwin, neu Bwlchderwyn; ond mewn argraff ceir Bwlchderwydd yn fwy mynych o lawer. Mae y ffurf ddiweddaf yn awgrymu fod cysylltiad wedi bod rhwng y lle ar ryw adeg â'r Derwyddon. Ond yr hyn sydd yn myned yn erbyn hyn ydyw nad oes yn yr ardal unrhyw olion derwyddol o gwbl. Barna eraill fod y gair yn tarddu o der a wyn (gwydn), ac yn golygu lle gwydn, gwyllt, a diffaeth. Ond barna y Parch. D. Silfan Evans, yn ei Eiriadur, fod y gair yn tarddu o derw, a bod derwin yn golygu yn ansoddair o derw; a dyfyna engreifftiau o hen ysgrifau a llyfrau Cymreig i ddangos hyn, megis: barilau derwin—oaken barrels; estyll derwin—planks, a Brynderwin bryn wedi ei orchuddio a choed derw—oak hill. Dyma yr ystyr a geir i'r gair hefyd yn Ngeirlyfr Dr. W. Richards, o Lynn Credwn mai yr ystyr olaf sydd yn gywir. A pha le y ceir awdurdod uwch na Silfan Evans? Feallai i'r bryn bychan sydd yn yr ardal a elwir yn awr yn Foelderwin, ac a elwid gynt yn Frynderwin, fod yn orchuddiedig er's amseroedd pell yn ol gan goed derw, ac iddo oblegid hyny gael ei alw yn Frynderwin. Feallai hefyd i'r rhan hono o'r bwlchmawr a elwir yn Fwlchderwin gael ei alw felly am yr un rheswm, sef am ei fod yn orchuddiedig gan goed derw, neu ynte i'r bwlch gael ei enw oddiwrth y bryn sydd yn cyffwrdd âg ef. Mae yn amlwg fod yr enw Brynderwin o darddiad boreuol iawn, ac feallai Bwlchderwin yr un modd. Mor foreu ag amser y Tywysog Llewelyn (nis gwyddom pa un o'r ddau Lewelyn ydoedd, pa un ai Llewelyn ap Iorwerth, neu Llewelyn Fawr; ynte Llewelyn ap Griffith, neu Llewelyn ein Llyw Olaf), sef yn y ddeuddegfed ganrif neu y drydedd ganrif ar ddeg, crybwyllir am yr enw Brynderwin. Mae awdl ar gael gan un a eilw ei hun yn "Llygad Gwr," ar y tywysog hwnw. A gwneir y cyfeiriad canlynol at Frynderwin ynddi:
"Breisclen Môn, mwynfawr Wyndodydd,
Brynderwin clô byddin clodrydd,
Ni bu edifar i dydd y cyrchawdd,
Cyrch eofn essillydd."
Mae yn debyg felly fod un o fyddinoedd y tywysog enwog hwnw wedi bod yn gwersyllu ar Foelderwin, a bod y lle yn cael edrych arno fel gwersyllfa gadarn a chref i wrthsefyll y gelynion.
Ymhen oddeutu pum' can' mlynedd ar ol yr hanes uchod, yr ydym yn cael rhywbeth pur wahanol i'r hyn y cyfeiriwyd ato wedi ymsefydlu a gwersyllu ar ochr Foelderwin, mewn tŷ o'r un enw. Yn lle bod tywysog milwrol wedi gosod ei fyddin yma, gyda'r amcan o ddinystrio cyrff dynion, yr ydym yn cael Tywysog Tangnefedd yn gosod eglwys fechan yn y lle i ymosod ar dywyllwch, anwybodaeth, ac annuwioldeb yr ardal. Tybir fod yma eglwys fechan mor foreu a'r flwyddyn 1747, os nad cyn hyny. Yn mis Mehefin yn y flwyddyn hono, yr oedd un o'r rhai enwocaf o'r cynghorwyr cyntaf, sef William Richard Llwyd, o Langeitho, yn pregethu yn Foelderwin, ac fel hyn y rhydd yr hanes wrth ysgrifenu ar yr 20fed o'r mis hwnw at Howel Harris:—"Dydd Gwener, ar fy nychweliad o Leyn, yr oedd genyf gyhoeddiad rhwng Caernarfon a Phwllheli. Mi a bregethais yno i nifer o eneidiau tlodion ac anwybodus, a chefais odfa felus iawn. Hyderaf fod yr Arglwydd wedi agoryd drws yn y lle hwnw [Helygirion]. Gofynodd un o'r brodyr am dy arall i bregethu ynddo rhwng y lle yma a Phenmorfa, ond gomeddwyd ef. [Credwn mai Derwinucha oedd y lle hwn]. Ond cawsom le mewn bwthyn bychan yn agos i'r tŷ hwnw. Pregethais yno [sef Foelderwin], i tua dwsin o bobl, a chawsom odfa hapus iawn. Felly dychwelais drachefn i'r Bala, ac arosais yno hyd ddydd Llun; ac yr oedd yn ogoneddus iawn yno." Mae yn amlwg fod arddeliad neillduol ar odfeuon William Richard Llwyd y pryd hwn. Dywed eu bod yn "felus, yn hapus, a gogoneddus." A diau fod y geiriau hyn yn ddarluniad cywir o'r odfeuon; oblegid yr oedd efe yn un o'r goreuon o'r cynghorwyr. Cyfansoddodd Williams, Pantycelyn, farwnad ragorol iddo, yr hon sydd yn dangos ei fod o ysbryd cynes a gwresog anarferol. Dyma ddau benill o'r farwnad:—
"Gwelais ef ar oriau hyfryd
Yn moreuddydd haf ei fywyd,
Yn molianu, yn proffwydo,
Yn flaena' o'r werin yn Llangeitho;
Chwys fel nentydd clir yn llifo,
Tarth trwy ei wisgoedd tew yn suo,
Cariad pur, gwerthfawr clir, yn gwir enynu,
Nes oedd corff yn gorfod helpu
Enaid allan i'w fynegu."
"Mi fu'm unwaith wrth ei wely,
'Roedd ei wledd, fel gwleddoedd gwindy,
A'i holl eiriau'n tarddu'n gyson,
O grediniaeth heb ddim ofon:
Gwyr yn twymo wrth y siarad,
Merched hwythau'n wylo cariad;
Minau f'hun, waelaf ddyn, gwanaidd yn gwenu
Ac yn hyfryd eiddigeddu,
Weled plentyn arna' i'n blaenu."
Mor ddyddorol ydyw edrych trwy niwl cant a haner o flynyddoedd ar yr hen bregethwr gwresog hwn yn pregethu yn y bwthyn bychan' ar ochr Foelderwin i tua dwsin o bobl; ac yn enwedig wrth feddwl iddo gael 'odfa hapus iawn.' Fel ffrwyth yr odfa hon ac ambell i odfa arall, oblegid yr oedd gair yr Arglwydd yn werthfawr a phrin iawn yn y dyddiau hyny, yr ydym yn cael arwyddion bywyd yn fuan yn yr eglwys fechan oedd yn y lle hwn, ac un o'r arwyddion hyny oedd fod ysbryd cenhadol yn fyw yn y lle. Cariodd un o'r aelodau y tân nefol yn fuan iawn i'r ardal agosaf, sef ardal Brynengan. Fel hyn y mae y diweddar Mr. Robert Roberts, Hendre Cenin, yn adrodd yr hanes:—"Daeth yr hedyn yma o Foelderwin yn nghalon hen ferch o'r enw Catrin ach Rhisiart. Yr oedd teulu wedi dyfod i'r ardal hon (i Hendre Cenin) o Maesllêch, yn ardal Cwmystradllyn. Aeth un o'r bechgyn yn sâl o glefyd trwm. Teimlodd Catrin awydd i'w rybuddio o'r perygl o farw yn annuwiol. Gwellhaodd John Morris oddiwrth y clefyd, ond gadawodd y cyngor effaith arno ar hyd ei oes. A'r John Morris yma (yr hwn oedd ewythr frawd ei daid i Robert Roberts), oedd y crefyddwr cyntaf yn yr ardal. "Mor syml, ac eto mor ddwyfol, y llanwyd rhanau helaeth o siroedd Caernarfon a Meirionydd ag efengyl Crist. Yr hen ferch syml Catrin ach Rhisiart yn myned a'r tân nefol i Frynengan; a'r ddwy wraig, Lowri Williams, Pandy, Chwilog, a Jane Griffith, Erwbach, Dolbenmaen, drachefn yn ei gario oddiyno, ac yn ei wasgar yn ardaloedd Maentwrog a Dolgellau, hyd nes o Jerusalem Ffestiniog, ac o amgylch hyd Ilyricum Aberdyfi, y llanwyd holl Orllewin Meirionydd âg efengyl Crist. Credwn i droedigaeth John Morris, drwy offerynoliaeth Catrin ach Rhisiart gymeryd lle ymhen tua blwyddyn neu ddwy ar ol pregeth William Richard Llwyd.
Ffrwyth arall i'r bregeth hon, ac ambell i bregeth arall oedd yr awydd oedd yn yr ardal am addysg, a hono yn addysg grefyddol. Yn fuan ar ol hyn dechreuwyd cynal ysgolion cylchynol Griffith Jones, Llanddowror, yn yr ardal, a hyny gyda chysondeb mawr. Dechreuwyd eu cynal yn y plwyf yn fuan iawn. Yn y blynyddoedd 1750, 1751, a 1752 cynhelid hwy yn ngwaelod y plwyf, yn yr eglwys, ac felly gryn bellder, sef oddeutu pedair milldir oddiwrth, y fan lle y saif capel Bwlchderwin. Ond yn y blynyddoedd 1754 a 1755, cawn fod ysgol yn cael ei chynal yn ardal Bwlchderwin, a hyny yn Derwinucha, ac yr oedd nifer lled dda yn dyfod iddi, sef triugain. Cynhelid ysgol yn yr un lle hefyd yn y blynyddoedd 1755, 1756, a 1757. Nifer yr ysgolheigion yn y blynyddoedd hyn oedd deugain, a'r nifer yn 1757 a 1758 un ar ddeg ar hugain. Yn 1761 a 1762, cynhelid ysgol yn Foelderwin, a'r nifer oedd saith ar hugain; ac yn y blynyddoedd 1756, 1757, 1758 a 1759, yr oedd un yn cael ei chynal mewn tŷ bychan o'r enw Ysgubor Bach, ar dir Hendre Nantcall, yn ardal Pantglas. Diau i'r ysgolion hyn wneyd daioni dirfawr yn y gymydogaeth. Digon prin, yr ydym yn ofni, y mae y Methodistiaid wedi sylweddoli maint eu dyled i'r ysgolion hyn. Yr ydym oll yn barod i gydnabod ein dyled i ysgolion cylchynol Mr. Charles, ac i'r Ysgol Sabbothol; am eu bod yn foddion i gadw gwres y diwygiadau yn fyw yn y wlad, ac i. ddysgu ieuenctid mewn pethau crefydd. Diau fod ysgolion Griffith Jones yn gwneyd yr un gwasanaeth, gan belled ag yr oedd yn myned, i Fethodistiaeth yn ei gychwyniad cyntaf, sef yn ystod y deugain mlynedd cyntaf o'i hanes. Ond wrth gwrs, yr ydym yn cymeryd i mewn hefyd barhad yr ysgolion hyn ar ol marwolaeth Griffith Jones, gan Madam Bevan. Er mai amcan Griffith Jones, a'i gefnogwyr, oedd gwneyd daioni i'r Eglwys, eto credwn eu bod wedi gwneyd llawer mwy o ddaioni i Fethodistiaeth ac Ymneillduaeth. Ac yr oeddynt yn parhau hyd tua'r flwyddyn 1776, pan y bu farw Madam Bevan, ac felly o fewn rhyw ddeng mlynedd i gyfodiad ysgolion cylchynol Mr. Charles. Oni bai ysgolion Griffith Jones a Mr. Charles, buasai golwg pur wahanol ar Gymru heddyw. Yr un modd gwnaeth yr ysgolion hyn ddaioni dirfawr i Fethodistiaeth yn yr ardaloedd hyn. Buont yn foddion i gadw y tân rhag diffodd, ac yn gynorthwy mawr i bregethu yr efengyl, a chredwn na chafodd neb fwy o fendith oddiwrthynt na theuluoedd y tai lle y cynhelid yr ysgolion. Tybiwn fod hyn i'w weled yn nheuluoedd Derwinucha a Foelderwin. Y teulu oedd yn byw yn Nerwinucha y pryd hwn oedd tad a mam Edward Parry, y Cwm, a'i hynafiaid. Enw ei dad oedd Harri William, ac yr oedd ei blant ymhell o flaen y cyffredin mewn gwybodaeth; yn enwedig Humphrey Parry, yr hwn, meddir, oedd athraw ysgol wrth ei alwedigaeth, ac yn ddyn dysgedig a gwir wladgarol a Chymroaidd ei ysbryd. Dywed Dewi Wyn ei fod yn ddigon o athraw i'r goreu o'r Gwyneddigion, yn Llundain. Efe a gododd i fyny yn Nghymdeithas y Gwyneddigion i wrthwynebu pleidgarwch y gymdeithas hono yn cynyg rhoddi y wobr i un arall ar draul gwneyd cam â Dewi Wyn. Testyn yr awdl oedd "Molawd Ynys Prydain," yr hon a welir yn ngwaith Dewi Wyn. Gwrthwynebodd Owain Myfyr, Dr. W. Owen Pughe, ac eraill o'r prif ddynion, yn eu hwynebau a gorchfygodd hwy. Bu Humphrey Parry, farw yn ddisymwth, wrth ddarllen, yn Llundain, lle yr oedd yn dilyn ei alwedigaeth fel ysgolfeistr, Ebrill 1809, yn 37 mlwydd oed. Yr un modd daeth bendith gyda hi i deulu Foelderwin. Un o deulu Foelderwin oedd yr hen bregethwr[1] Rhisiart William, Brynengan, ac felly ei fab Robert Williams. Ac y mae disgynyddion y teulu hwn yn lliosog iawn yn y rhan yma o'r wlad, ac argoelion arnynt oll eu bod yn garedigion oblegid y tadau. Yr un a fyddai yn athraw yn yr ysgolion hyn braidd bob amser oedd Thomas Gough, yr hwn oedd yn athraw rhagorol, ac a ddysgodd ganoedd o blant yr ardaloedd hyn i ddarllen. Dyma y cymeriad a roddir iddo gan yr Hybarch Richard Nanney, hen offeiriad duwiolfrydig Clynog:—"Gyda golwg ar yr ysgolfeistr, Thomas Gough, nid yw wedi bod yn ddiffygiol mewn un rhan o'i ddyledswyddau i wneyd yr ysgol mor fendithiol i'r plwyf ag y gallasai, gan ei fod yn ddyn sobr, gofalus, a chydwybodol; ac ymhob modd mor gymwys a neby gwn i am dano i fod yn ysgolfeistr mewn ysgol o'r fath yma." Ac y mae yn auhawdd gwybod pa le yr oedd daioni yr ysgolion yn darfod, gan y byddai y plant hyn drachefn yn dysgu eu rhieni gartref, y rhai oblegid gwyleidd-dra, na fynent ddyfod i fysg y plant i gael eu dysgu. Byddai l'awer hefyd o Feiblau a llyfrau da eraill yn cael eu rhoddi yn rhad, neu ynte eu gwerthu yn rhad yn yr ysgolion hyn. Yr oedd hyn hefyd yn ffynhonell o ddaioni mawr i'r gwahanol ardaloedd lle y byddai yr ysgolion yn myned.
Mae traddodiad yn yr ardal y byddai yr enwog a'r Parchedig Richard Tibbot, Llanbrynmair, yn talu ymweliad â Derwinucha yn fynych dros ryw dymor. Yr oedd hyn, mae yn debyg, cyn yr ymraniad rhwng Daniel Rowlands a Howel Harris, yr hyn a ddigwyddodd yn y flwyddyn 1750. Bu efe yn arolygwr cyffredinol ar holl eglwysi Gogledd Cymru am dymor, sef oddeutu 1746—50. Ymwelai â phob eglwys yn y dosbarth hwn bob tri mis, a dygid pob mater o bwys ato ef i'w benderfynu. Neu gallai hyn fod ar ol iddo ymuno â'r Annibynwyr, a chael ei wneyd yn weinidog sefydlog ar eglwys Llanbrynmair, yr hyn a gymerodd le yn y flwyddyn 1762; oblegid byddai efe yn teithio llawer hyd yn nod ar ol iddo gael ei wneyd yn weinidog sefydlog ar yr eglwys hono
Peth arall sydd yn dangos fod cysylltiad agos rhwng yr ardal hon a Methodistiaeth er yn foreu iawn ydyw, fod un ferch ieuanc o'r ardal wedi ymuno â theulu Trefecca. Merch ydoedd i Robert Sion Dafydd, Llwyngwanad isa (gwahaniad dyfroedd, un ffrwd yn rhedeg i'r mor yn ochr Criccieth, a'r llall yn ochr Clynog), ac yr oedd yn haner chwaer i Sian Roberts, Llwyngwanad, yr hon a fu yn garedig iawn i'r achos bychan a gwanaidd yn Mwlchderwin yn ei fabandod. Drwg genym nas gwyddom ei henw. Bu i Robert Sion Dafydd dair neu bedair o wragedd, ac ymffrostiai y byddai yn enill ryw gymaint gyda phob priodas; ac y byddai pob gwraig a a gafodd yn dyfod a rhyw gymaint o gyfoeth i'w chanlyn iddo. Bu farw Robert Sion yn y flwyddyn 1785. Bu iddo lawer o ferched, ac yr oedd un o honynt (Ellin), yn fam i'r bardd enwog a'r gwr hynod hwnw, Sion Wyn o Eifion. Un arall o'i ferched a gafodd oes hir, ac a fu farw tua'r flwyddyn 1860, pan o fewn blwyddyn i fod yn ferch canmlwydd, ac a ddibenodd ei gyrfa hir yn Nhuhwnt-i'r-mynydd, yn ardal Brynengan. Diau fod yr un a aeth i Drefecca yn un o'r rhai hynaf o'i ferched. Mae yn debyg iddi fyned yno oddeutu y flwyddyn 1755, gan y bu rhai o bregethwyr Howel Harris (Evan Moses ac Evan Thomas) yn Nghlynog yn y flwyddyn hono, ac aeth cryn nifer o wahanol ranau yn y Gogledd gyda hwy yn ol i aros yn Nhrefecca. Nid ydym yn tybied i ond ychydig iawn fyned i Drefecca i aros o'r Gogledd ar ol yr adeg hono. Daeth yn ol oddiyno un tro am ychydig. Cwynai mai byw yn lled galed yr oeddynt yno, a bod yr ymborth yn syml iawn, ac nad oedd ond un math o ymborth i'w gael ar y pryd, ond myned yn ol a fynai er pob peth, ac yno y bu farw. Cawsom lawer o'r hanes dyddorol sydd yn y paragraph hwn, gan y ddiweddar Mrs. Williams, Pencaenewydd, mam y Parch. John Williams, Dwyran, yr hon oedd yn wyres neu orwyres i Robert Sion Dafydd, ac fu yn aros yn Llwyngwanad am lawer o flynyddoedd, gyda'i modryb Sian Robert.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Credwn fod tad Rhisiart William, sef William Prichard, yn frawd i'r hynod Catrin ach Rhisiart.