Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad/Ei deulu
| ← Yr ardal y ganwyd ef, y treuliodd ei oes, ac y bu farw ynddi | Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad gan Henry Hughes, Bryncir |
Ei febyd a'i ieuenctid → |
PENOD III.
EI DEULU.
O deulu lled hynod.—Ei dad a'i fam ymysg hen Fethodistiaid cyntaf Talygarnedd, ger Llanllyfni. Hynodrwydd ei daid, Roger Thomas.—Yn berthynas agos o du ei fam i'r Parchn. John Jones, Talysarn; David Jones, Treborth; Cadwaladr Owen, &c. Ei frodyr, a'i berthynasau eraill.
NID dinod oedd Owen Owens o ran ei deulu ychwaith. Yr oedd ei dad a'i fam, Owen Roger, a Chatherine Robert, ei wraig, Pantglas ucha, ymysg yr hen Fethodistiaid cyntaf yn Llanllyfni, neu Talygarnedd, yn agos i Lanllyfni Ac yr oeddynt yn meddu ar nodweddion yr hen Fethodistiaid cyntaf, sêl i ddilyn moddion gras, a chysondeb i gadw y ddyledswydd deuluaidd. Gallem feddwl i Owen Roger, tad Owen Owens, gael ei eni a'i fagu yn Mhenbryn, ffermdy yn agos i gapel Pencoed, Eifionydd; a hen gartref y Parch. W. O. Jones, B.A., Lerpwl. Enw ei dad oedd Roger Thomas. Yr oedd Roger Thomas yn wr o wroldeb meddwl a nerth corphorol mawr, a hynododd ei hun fel un o ymladd wyr penaf ei oes. Mae beddrod Roger Thomas yn aros eto yn mynwent Llanarmon, Eifionydd; a'r argraff yn eglur arno. Bu farw yn y flwyddyn 1761, yn 43 oed. O du ei fam yr edd Owen Owens yn berthynas agos i'r tri brawd enwog, y Parchn. John Jones, Talysarn; David Jones, Treborth; a William Jones, gynt o Ryd-ddu, ac ar ol hyny o'r America; ac hefyd i'r Parch. Cadwaladr Owen, Dolyddelen. A chredwn ei fod yn lled debyg i'r diweddaf yn ei ben a'i wynebpryd,—gwyneb hir a lled gul, a gwallt trwchus, a hwnw wedi troi yn wyn pan yr oedd yn lled ieuanc; ac y mae llawer o berthynasau y naill a'r llall felly eto. Yr oedd Owen Owens yn gyfyrder i'r pedwar gwr enwog uchod. Robert Owen oedd enw taid Owen Owens, o du ei fam, a chredwn oddiwrth register eglwys plwyf Clynog, mai Lowri Michael[1] oedd enw ei nain, sef gwraig Robert Owen; ac yr oedd efe yn frawd i daid John a David Jones, a Chadwaladr Owen, o du eu mam, enw yr hwn oedd Richard Owen, yr hwn oedd yn byw yn Bertheos, Dolyddelen. A dywedir yn Nghofiant Cadwaladr Owen mai rhai o Feddgelert oeddynt, ac mai Owen Evan oedd enw eu tad. Yr oedd Richard Owen hefyd yn hen-daid i'r Parchn. Dr. David Roberts, Wrexham; Samuel Roberts, Bangor; John Williams, ieuengaf, Dolyddelen (yr hwn oedd yntau yn bregethwr melus a phoblogaidd, ond a fu farw yn ieuanc); D. Lloyd Jones, M.A., Llandinam; a Griffith Owen, Rhosddu, Wrexham. A bu yr hen bregethwr hynod, John Williams, hynaf, Dolyddelen, yn briod â merch i Richard Owen, yr hon oedd yn chwaer i fam John Jones, Talysarn. Clywsom Mr. Owen Owens, Tyddyn y graig, blaenor yn Garn Dolbenmaen, a mabi Roger Owen, brawd Owen Owens, yn dweyd ei fod ef yn cofio clywed Cadwaladr Owen yn gofyn i'w dad ef, Roger Owen, yn nhy Capel-isaf, y Garn, a oedd efe yn cadw Jane yn y teulu, am mai Jane oedd enw mam Cadwaladr Owen. Bu i dad a mam Owen Owens nifer mawr o blant; ac efe oedd un o'r rhai ieuengaf, os nad yr ieuengaf oll. Y mae y Parch. Robert Owen, Tydraw, y Wyddgrug (gynt o Gadairelwa, a Dolwgan), yn fab i chwaer Owen Owens, ac felly ei fab, y Parch. William Owen, Webster Road, Lerpwl, yn wyr i chwaer iddo. Ac y mae yn hysbys fod Mr. Ellis Jones—Griffith, yr Aelod Seneddol ieuanc a gobeithiol dros Fôn, yn briod a merch i'r Parch. Robert Owen. Ac y mae gweddw Owen Owens, Mrs. Catherine Owen, a'i unig fab, Mr. Owen Roger Owen, yr hwn sydd i raddau helaeth yn ddelw o'i dad, yn aros eto yn Nghors-y-wlad; ac y mae efe yn flaenor yn yr un eglwys ag yr oedd ei dad yn flaenor ynddi, sef Bwlchderwin. Yr oedd i Owen Owens ddau frawd, Roger Owen, Tyddynygraig, ac Evan Owen, Tirdewin, y rhai oeddynt yn wyr tra chrefyddol; ac y mae llawer o'u disgynyddion yn yr ardaloedd hyn, y rhai sydd oll yn bobl tra chyfrifol. Ac y mae ŵyr i Evan Owen, y Parch. O. Roger Owen, yn weinidog adnabyddus gyda'r Annibynwyr yn sir Aberteifi Ganwyd Owen Owens, fel y cyfeiriwyd o'r blaen, yn y flwyddyn 1800, a bedyddiwyd ef yn eglwys plwyf Clynog, Ebrill y 6ed, yn y flwyddyn hono. Fel yna ni raid i neb gywilyddio o'r cyff o ba un y tarddodd Owen Owens, nac o'r canghenau a darddodd o'r cyff hwnw. Ac nid oes eisieu dweyd wrth neb sydd yn gydnabyddus â'r teulu, fod callineb, talent, a dawn, yn gystal a chrefydd, yn rhedeg trwy ei holl ganghenau.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Os felly, credwn ei fod yn berthynas heb fod ymhell i'r Parch. Michael Roberts; ac hefyd i fardd ieuanc gobeithiol iawn o'r enw Michael Prichard, Llanllyfni. Credwn fod Lowri Michael yn chwaer i'r bardd. Os felly, yr oedd Owen Owens yn gyfyrder i Michael Roberts, hefyd, yn gystal ag i John Jones, Talysarn; oblegid yr oedd Michael Prichard yn frawd i nain Michael Roberts, o du ei fam. Gwelir yn hyn. fel y mae talent yn rhedeg mewn teulu am genedlaethau lawer.Michael Prisiart oedd fardd ieuanc athrylithgar, a anwyd yn Llanllyfni, yn y flwyddyn 1710. Enw ei dad oedd Risiart Prisiart, o Lanllyfni. Gwehydd oedd Michael wrth ei alwedigaeth, ac yr oedd yn ddisgybl barddonol i Owen Gruffydd, o Lanystumdwy, ar ol yr hwn hefyd y cyfansoddodd gywydd marwnad rhagorol, ac a gyhoeddwyd ar ol ei farwolaeth yn y Gwladgarwr. Yn yr un cyhoeddiad, hefyd, ymddangosodd ei gywydd i'r "Wyddfa," ynghyda lliaws o gyfansoddiadau eraill o'i eiddo.'Digwyddodd i'r bardd ar ryw achlysur neu gilydd fod mewn swyddfa cyfreithiwr yn Beaumaris, ac yno y cyfarfyddodd â'i hen gymydog, Ffowc Jones, yr Udganwr, yr hwn a anerchodd Michael fel hyn :"Michael, pa le mae'r meichie?" "Y mae wrth law draw'n y dre," ebai Michael yn ddi ymaros. Pwy ddamweiniodd fod yn clywed yr atebiad parod, ond W. Bulkeley, Ysw., o'r Bryn du, Mon, yr hwn ei hun oedd yn fardd, ac yn achleswr beirdd a barddoniaeth; a chan ei fod yn foneddwr cyfoethog a haelfrydıg, efe a gymerodd Michael ato i'r Bryn du yn arddwr iddo. Yn fuan ar ol iddo symud yno, daeth angau, yr hwn ni eiriach na bardd, na garddwr, heibio i'r ardd, ac a dorodd y planhigyn tyner hwn i lawr, a Michael, druan, a fu farw, a chladdwyd ef yn mynwent sech Llanfechell, lle nad oes ond y dywarchen lâs yn unig yn gorchuddio ei fedd. Cymerodd hyn le yn 1731, cyn iddo gyraedd ei 22ain mlwydd oed. Rhyfedd na fuasai y boneddwr hael a charedig yn cyfodi gwyddfa iddo, ac y mae yn annawdd genym gredu pe claddesid ef yn ei lan enedigol, y gadawsai chwarelwyr llenorol Nantlle feddrod un o'u bechgyn athrylithgar heb gof-golofn deilwng o'i enwogrwydd.'—Nant, Nantlle, gan y diweddar Barch. W. R. Ambrose (B.), Talysarn.