Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad/Ei droedigaeth
| ← Ei febyd a'i ieuenctid | Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad gan Henry Hughes, Bryncir |
Ei flynyddoedd cyntaf gyda chrefydd → |
PENOD V.
EI DROEDIGAETH.
Diwygiad Beddgelert.—Yn dechreu gyda phregeth Rhisiart William, Brynengan—Y Parch. R. Ellis, Ysgoldy, yn rhoddi yr hanes.—Nad oedd J. Elias yn pregethu yn Nhremadog yr un adeg—Mr. Ellis yn rhoddi hanes y seiat gyntaf ar ol y bregeth.—Effeithiau rhyfedd yn yr Ysgol Sabbothol—Y diwygiad yn dechreu yn Eifionydd yn y flwyddyn 1818.—Pregethwyr grymus yn codi—Henry Rees, John Jones, Talysarn, &c.—Y diwygiad yn ardaloedd Pencaenewydd, Fourcrosses, a Brynengan.—John Williams, Llecheiddior, o dan ddylanwadau cryfion, ac yn gorfoleddu—Evan Richardson yn pregethu yn Mrynengan.—Owen Owens yn cael troedigaeth o dan bregeth John Humphreys, Caernarfon, yn Mrynengan.—Yn gweddio mewn corlan drwy y nos.—Ychydig o hanes John Humphreys.—Adgofion y Parch. David Williams, Conwy, am dano.
OND pan yr oedd Owen Owens a'i gyfeillion ieuainc annuwiol yn myned ymlaen yn eu hoferedd, a phan yr oedd efe yn ddeunaw mlwydd oed, daeth diwygiad grymus i'r wlad, y diwygiad mwyaf grymus a fu erioed yn Nghymru, sef yr un a elwir yn "Ddiwygiad Beddgelert," am mai yn y lle hwnw y dechreuodd. Yr oedd wedi dechreu yno yn y flwyddyn 1817, gyda rhyw nerth dwyfol ac anorchfygol. Ar nos Sabboth yn mis Awst yn y flwyddyn hono y dechreuodd, gyda phregeth yr hen bregethwr syml hwnw, Rhisiart William, Brynengan, ar Ioan vi. 37, "A'r hwn a ddel ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim." Rhoddodd y diweddar Barch. Robert Ellis, Ysgoldy, ddarluniad byw ac effeithiol iawn o'r bregeth fythgofiadwy hono; a chredwn na ddigia y darllenydd wrthym am ei roddi i mewn yma. Fel hyn y mae:
"Y nos Sabboth dan sylw, dyna drigolion y nentydd a'r cymoedd cyfagos, a rhai o'r pentref, yn cyfeirio tua hen ffermdŷ Hafod y Llan. Gan fod yr hin yn hyfryd, mae pawb yn hen ac ieuanc yn codi allan; nid yn gymaint er clywed yr hen frawd o Brynengan yn pregethu, oherwydd meddwl cyffredin iawn oedd ganddynt o'r pregethwr ac o'i bregethu, eithr peth dymunol gan drigolion cymoedd anghysbell a fyddai cyfleusdra fel hyn i weled eu gilydd. Mae yr hen ffermdŷ yn llawn; ciliai y rhai ieuainc a difeddwl i'r siamber a'r tŷ llaeth, ac i rywle o'r golwg. Safai Richard Williams ar fainc wrth y bwrdd mawr yn y gegin, a bwrdd bychan crwn ar hwnw, er ffurfio math o bulpud at ddal y Beibl. [Mae yr hen dŷ a'r gegin yn aros eto, megis cynt, a'r ysmotyn lle y safai yr hen bregethwr. Safai, mae yn ddiau, yn y pen nesaf i'r tân i'r bwrdd, er mwyn bod mewn lle cyfleus i'r gynulleidfa i'w weled a'i glywed]. Mae yn dyfod drwy y dechreu yn fyr a hwylus; mae y canu a'r gweddio yn gafael. Mae pobpeth yn addaw y caiff yr hen frawd bregeth rwydd. Ond cyn pen y chwarter awr, y mae yma rywbeth rhagor na rhwydd. Mae nerthoedd y byd a ddaw—"y peth yma" y galwai Pedr ef yn ymdywallt ar y pregethwr a'i wrandawyr—mae yn ddifrifol! mae yn ofnadwy! Ei ddesgrifio nis gellir. Er mai Richard Williams sydd yn llefaru, eto, rywfodd, nid ei leferydd ef ydyw; nid ei lais ef yw y llais, na'i ddawn ef yw y dawn, ac nid ei bregeth ef chwaith yw y bregeth! Yr oedd gan yr hen bregethwr ei bregeth ar y testyn; yr oedd wedi ei phregethu, mae'n debyg, lawer gwaith o'r blaen. Yr oedd ei sylwadau yn hyddysg i'w feddwl; a'r hen bregeth hono a fwriadai bregethu y tro hwn. Ond nid yr hen bregeth hono sydd yn dyfod allan, eithr rhyw bregeth newydd hollol nad oedd ganddo ddim o honi o'r blaen, ac nas gallodd gael gafael ar ddim o honi drachefn. Cenadwri Duw am y tro ydoedd. Mae rhyw UN ARALL yn llefaru wrth gydwybod y gynulleidfa, ac mae yr hen bregethwr wedi colli ei hun yn hwnw! Dywedai Richard Williams ar ol hyn, ei fod yn petruso ar y pryd, pa un ai efe oedd yn pregethu, ynte gwrando yr ydoedd ar rywun arall. Wel, mae pawb wedi eu meddianu gan ddifrifwch a dychryn. Mae y bobl ieuainc a gwamal oedd wedi cilio i'r siamber a'r tŷ llaeth wedi eu dal gan ddychryn y farn; tybiant mai angel ac nid dyn sydd yn llefaru. A'r hyn oedd yn hynod, yn ol fel ein hysbyswyd: yr oedd y lliaws wedi eu meddianu gan ormod o ddychryn i wylo. Ac ni waeddodd neb chwaith. ond un gwr ieuanc, William Roberts, y Clogwyn, fel yr adwaenid ef wed'yn. Ac o'i enau ef yn benaf y cawsom yr hanes, a hyny ragor nag unwaith. Addefodd iddo yn ei ddychryn waeddi yn groch, ond ni ddywedodd wrthym pa beth. Mae yr hen bregethwr, er wedi colli ei hun, yn diweddu trwy ryw lun o weddi. Mae yn rhoddi penill allan i'w ganu; ac os yw ein hadgof yn gywir, dywedodd William Roberts fod y lliaws wedi eu meddianu gan ormod o ddifrifwch i ganu, ond pawb yn prysuro ymaith mewn distawrwydd a dychryn. Ni ddywedai neb air y naill wrth y llall ar hyd y ffyrdd a'r llwybrau wrth fyned adref, nac ar ol myned, ond a fyddai raid. Nos Sabboth ddigwsg a fu y noswaith hon i amryw. A'r un distawrwydd prudd oedd i'w gael hyd y cymoedd hyn dranoeth. Dydd Llun tywyll ydoedd i lawer; mater enaid wedi llyncu pobpeth iddo ei hun, a'r wawr eto heb dori."
Dywed Mr. Ellis fod John Elias yn pregethu yn Nhremadog y nos Sabboth hwnw; ac y mae hyn wedi ei adrodd lawer gwaith cyn ac wedi hyny; ond nis gall fod yn wir. Nid oes hanes i Mr. Elias bregethu ond unwaith yn Nhremadog y flwyddyn hono, a hyny ar y Sabboth olaf yn mis Tachwedd. Cofnodai Mrs. Jones, priod y diweddar Barch. John Jones, Tremadog, bob pregeth a draddodwyd yno am lawer o flynyddoedd, a hyny gyda'r manylwch a'r cywirdeb mwyaf; ac y mae yn sicr na buasai yn anghofio pregeth i John Elias. Gwelsom hefyd lawer o ddyddlyfrau Mr. Elias, ac nid oes cyfeiriad ynddynt ei fod wedi bod yn Nhremadog tua'r adeg uchod. Clywsom y diweddar Barch. Ddr. Owen Thomas yn dweyd ar bregeth er's llawer o flynyddoedd yn ol yn Sasiwn Pwllhel', sef yn y flwyddyn 1861, mai Robert Sion Hugh oedd yn pregethu yn Meddgelert y Sul yr oedd John Elias yn pregethu yn Nhremadog. Dyna hefyd y traddodiad yn ardal Beddgelert, yn ol barn y bobl y gellir rhoddi mwyaf o bwys ar eu barn a'u côf.
Mae y fath swyn yn yr hanes fel y rhoddir ef gan Mr. Ellis fel yr ydym yn cael ein tueddu i roddi dau ddyfyniad chwanegol. Y cyntaf sydd ddarluniad o'r Seiat gyntaf ar ol y bregeth uchod:
"Rywbryd yn yr wythnos ganlynol, cynhelid cyfarfod eglwysig yn y capel yn y pentref. Er fod yno dri lle i bregethu, nid oedd yno ond un cynulliad eglwysig, a chynhelid hwnw y pryd hyny yn y dydd. Yr oedd y byd hwn eto heb lwyddo i hel yr hen 'seiat brofiad' i'r nos. Eisteddai y ddau hen flaenor, Rhys Williams, Hafod y Llan, a William Williams, Hafod y Rhisgl, yn y tŷ capel i aros y dechreu; yr oedd eu ffordd hwy ymhell, ac felly deuent yn brydlawn. Ac yn wir, felly y ceir hyd heddyw: y rhai pellaf a fydd y rhai prydlonaf. Yr oedd William Williams yn ddyn prysur. Mae yn myned, ac yn brathu ei ben i'r capel i weled a ddaethai y cyfeillion ynghyd, er mwyn cael dechreu y cyfarfod. Mae yn dyfod yn ol yn sydyn, ac yn dywedyd wrth ei frawd, 'Yn siwr dda, mae y bobl wedi camgymeryd: maent yn disgwyl am bregeth; mae'r capel yn llawn, mae pobl y plwyf i gyd yma,' gan olygu, mae'n debyg, pob math ar bobl, a phobl nad oedd neb wedi meddwl eu gweled mewn seiat byth. Bid a fo, aeth y ddau flaenor i mewn, a mawr eu syndod: yn lle rhyw ddyrnaid wedi ymgasglu, fel y byddai arferol drwy y blynyddoedd, yr oedd y capel yn rhwydd lawn. Nid oedd dim i'w wneyd ond hwylio rhyw frawd i ddechreu'r cyfarfod. Caed hamdden i ddarllen rhyw gyfran o'r Beibl, yna rhoed penill allan i'w ganu. Gyda llaw, mae rhywbeth mwy toddiadol a swynol wedi bod o oes i oes yn nghanu Beddgelert nag yn un man y gwyddom am dano. Pa un oedd y penill a genid ar ddechreu y cyfarfod hynod hwn, ni chlywsom. Ond tybiwn mai rhyw benill llawn o efengyl ydoedd, fel y mae genym gyflawnder yn ein hiaith. Wrth ganu y penill, mae yr argae yn tori yn un floedd fawr! Erbyn deall, llon'd capel o ddynion ar ddarfod am danynt oedd yno. Nid oedd ar y teimladau cynhyrfus a derfysgai oddifewn ond eisiau rhyw agorfa i dori; a rhoes y syniad o obaith, a geid yn y penill a genid, y rhyddid hwnw iddynt. Rhyfeddol fu y canlyniad! rhai yn llefain am drugaredd—rhai yn gorfoleddu wedi derbyn ymwared—rhai yn gweddio—rhai yn canu—pobpeth yn blith draphlith—neb yn gofalu—neb yn meddwl am drefn! Trefn yn wir! dan ddylanwadau mor nerthol a hyn! rhaid i Meistar Trefn gadw draw am dro. Aeth y newydd am y cyffro yn y capel yr ebrwydd drwy y pentref, ac o dŷ i dŷ o gwm i gwm trwy y fro, a phawb yn prysuro i'r lle, a phawb yn syrthio i afael yr un dylanwad cyffrous. Yn hwyr y dydd, neu yn hytrach yn hwyr y nos, mae y rhai mwyaf pwyllog yn llwyddo i hwylio eu cyfeillion mwy cynhyrfus tuag adref. Bellach, mae y gorfoleddu oedd yn y capel yn ymdaenu i wahanol gyfeiriadau, hyd y ffyrdd a thrwy y cymoedd. Mae adsain y gorfoleddu yn cael ei gymeryd i fyny hefyd gan hen greigiau oesol y Wyddfa, y naill graig yn ymryson i ateb i'r llall. Gwaith newydd a dieithr iawn i'r hen greigiau tragwyddol hyn oedd cael y cyfle hwn i gymeryd rhan yn nghlodforoedd eu Creawdydd! O! na chaent ei gyffelyb drachefn."
Y dyfyniad arall y cyfeiriem ato sydd yn cynwys hanes ryw effeithiau rhyfedd a ddisgynodd ar yr Ysgol Sabbothol yn fuan ar ol y digwyddiadau blaenorol. Digwyddodd yr hyn y cyfeiriwn ato yn y mis dilynol, sef yn mis Medi. Dywed Mr. Ellis i hyn ddigwydd o flaen y bregeth; ond nis gall hyny fod yn wir; a rhaid dweyd hefyd fod Mr. Ellis yn lled ddiofal gyda'i ddyddiadau, yr hyn sydd yn bwysig iawn mewn hanes. Ysgrifenodd John Jones, yr hen flaenor hynod o Feddgelert, hanes y diwygiad i Oleuad Cymru, yn fuan ar ol iddo fyned heibio, a dywed efe mai yn mis Awst yr oedd y bregeth. Ac y mae lliaws yn fyw yn ardal Beddgelert yn gwybod yn dda mai y Sul o flaen ffair a gynelid yn Meddgelert yn mis Medi y digwyddodd yr hyn a gymerodd le yn yr Ysgol Sabbothol. Fel hyn y mae Mr. Ellis yn adrodd yr hanes yn ei ddull tarawiadol ei hun:
"Yr oedd yno ferch ieuanc grefyddol yn athrawes ar ddosbarth o ferched ieuainc. Wrth ddarllen y penodau diweddaf yn efengyl Ioan, daeth rhyw wylo rhyfedd arnynt oll; nis gallent fyned ymlaen gyda'u darllen gan wylo. Peth go hynod, onide, mewn dosbarth o ferched ieuainc yn yr Ysgol Sul! Yn y diwedd yr oedd brawd, Richard Roberts, Caeygors, wrth ei enw, yn holi yr ysgol [ar y seithfed benod o'r Hyfforddwr]. Yr oedd gan y brawd hwn deimlad gwresog a dawn ystwyth. Ar ddiwedd yr holi, yr oedd yn rhybuddio y bobl ieuainc i ymddwyn yn weddaidd mewn ffair oedd i fod yn Beddgelert yr wythnos ganlynol. Ac wrth ddweyd a dweyd, disgynodd rhywbeth arno ef a'r holl ysgol. Daeth ar draws y llinell hono o ryw hen benill, 'Mae'r afael sicraf fry.' Ac a'i ddawn ystwyth a'i deimlad gwresog, chwareuai ar y gair 'fry.' 'Oddi fry y daw pobpeth o werth i ni—oddi fry y daw y goleuni, y gwres, a'r gwlaw—oddi fry y daw bendithion iachawdwriaeth i'r ddaear—o'r uchelder y mae Duw yn tywallt ei Ysbryd; dyma obaith am ddynion caled Beddgelert. Os ydyw yn dywyll yma, mae yn oleu fry; os yn wan yma, mae yn gadarn fry.' Gyda'i eiriau yr oedd rhywbeth mor ddwys, mor rymus, yn disgyn ar yr holl ysgol, yn hen ac ieuainc, fel y gwelid pawb yn tori allan i wylo. Mor rymus oedd y dylanwad, nes yr oedd y plant mewn dychryn; rhedai un bachgen bychan at ei dad a llefai, 'Nhad anwyl, dyma ddydd y farn wedi dyfod.' Wyło dwys a distaw oedd yn llenwi'r lle. Dywedir na thorodd neb allan mewn llef gorfoledd ar y pryd ond y llances a nodwyd."
Yr ydym yn tueddu i feddwl mai yn y flwyddyn ganlynol, sef yn y flwyddyn 1818, y daeth y diwygiad yn ei nerth i ardal Owen Owens, ac i'r capel y cyrchai efe iddo, sef Brynengan. Ond pan ddaeth, yr oedd yr un nerth ynddo yn Mrynengan ag oedd yn Meddgelert. A buan y daeth yntau o dan y dylanwadau rhyfedd,—dylanwadau a wnaethant eu hol arno tra y bu byw. A llawer o wyr ieuainc eraill oddeutu yr un oedran ag ef, a fedyddiwyd yn helaeth a'r un dylanwadau, y rhai a ddaethant ar ol hyny yn brif bregethwyr Cymru am lawer o flynyddoedd, megis y Parchn. Henry Rees, John Jones, Talysarn; David Jones, Treborth; Cadwaladr Owen, John Williams, Llecheiddior; Moses Jones, Robert Owen, Rhyl, &c. Yr oedd tân y diwygiad hwn yn aros yn ysbryd y gwyr hyn hyd ddiwedd eu hoes. Nis gallwn yma lai nag adgoffa sylw hen amaethwr hynod o Fôn, y diweddar Mr. Griffith Jones, Cefn Mosoglan. Yr oedd efe wedi ei eni a'i fagu yn ardal Clynog, a dywedai ei fod yn cofio llawer o hen dduwiolion yr ardal hono oeddynt yn cydoesi a'r pregethwr hynod, Robert Roberts. "Yr oedd rhyw grac effeithiol ynddy' nhw i gyd," meddai. Felly y gellir dweyd am y pregethwyr, y blaenoriaid, a'r crefyddwyr, a gychwynasant gyda chrefydd yn niwygiad Beddgelert, "Yr oedd ryw grac effeithiol ynddy' nhw i gyd." Ac felly Owen Owens. Ond dweyd yr oeddym, mai yn y flwyddyn 1818 y daeth y diwygiad yn ei rym a'i nerth i ardaloedd Eifionydd, ac oddeutu cartref Owen Owens. Ond yr oedd yr un dylanwadau yn ei ganlyn yn yr ardaloedd hyn ag yn Meddgelert. Gellir cyfeirio at ardaloedd Pencaenewydd, Fourcrosses, a Brynengan, mewn modd arbenig. Yr oedd John Williams, Llecheiddior, y pryd hwn yn ardal Pencaenewydd; a dyma yr adeg y cafodd ei argyhoeddi Ac y mae hanes ei argyhoeddiad yn dangos fod rhyw nerth rhyfedd yn y weinidogaeth ac yn y moddion ar y pryd. Dywedir ei fod mewn odfa yn ysgoldy y lle hwn yr adeg yma, a ffroc lian laes am dano. Fel yr oedd y pregethwr yn myned rhagddo defnyddiai odreu ei ffroc i guddio ei wyneb a sychu ei ddagrau. Yna dechreuodd waeddi, "O! O!," fel pe buasai y poenau mwyaf dirdynol wedi ymaflyd ynddo. Ai yn wysg ei gefn gan waeddi, nes y syrthiodd yn nghongl yr ysgoldy, pan y daeth un o'r brodyr ac a ymaflodd yn ei law i'w gyfodi. Neidiodd yntau i fyny, gan waeddi,"Bywyd newydd yn angeu Mab y dyn! bywyd newydd, bobol anwyl." Byddai cyfarfod gweddi yn rhywle bob nos ar y pryd, a mynych y byddai yntau yn gwaeddi, nid yn unig yn y cyfarfod, ond hefyd parhai i waeddi ar hyd y ffordd adref. Dechreuodd weddio yn y cyfarfodydd hyn ar unwaith. Un tro aeth yn dywyll iawn arno, fel y methodd a dweyd ond ychydig iawn o eiriau. Yna cododd oddiar ei liniau, ac eisteddodd a'i ben i lawr, a golwg hynod ddigalon arno hyd ddiwedd y cyfarfod Ar y diwedd pa fodd bynag, goleuodd ar ei feddwl; neidiodd yntau ar ei draed gan waeddi,—"Bendigedig byth am un wawr eto! mi feddyliais ei bod wedi darfod arnaf am byth bythoedd." Aeth adref o'r cyfarfod gan neidio a molianu ar hyd yr holl ffordd. Cafodd y fath oleuni ar ei gyflwr ei hun fel y credai y deuai pawb yn y wlad i geisio crefydd ar unwaith. Y dydd Sadwrn cyntaf ar ol ei droedigaeth dywedai wrth ei frawd, "Yr wyf yn credu y daw pawb yn y wlad i gredu y Sabboth nesaf yma." Gwaeddai mor uchel wrth ddyfod adref o'r odfa y nos Sabboth hwnw, fel yr oeddynt yn ei glywed ddwy filldir o ffordd. Clywsom hen frawd yn dweyd yn ddiweddar, yr hwn sydd yn fyw eto, ei fod yn gwasanaethu am y terfyn i John Williams ar y pryd, y cyntaf mewn lle o'r enw Bryn Llangedwydd, a'r llall yn Glasfryn-fawr Gwelodd ef lawer gwaith, meddai ef, yn dyfod i dori baich o eithin i ymyl tŷ y Bryn. Ar ol gwneyd y baich i fyny ai ar ei liniau i weddio. Cyn hir codai i fyny gan waeddi a'i holl nerth, a mynych y byddai yn dal i orfoleddu yn hir. Dywedai yr hen frawd hefyd ei fod yn cofio y byddai John Williams, a dynion ieuainc eraill o'r un ysbryd ag ef, yn gorfoleddu yn nghapel Fourcrosses ar nos Suliau, ac yn cynal cyfarfodydd gweddi ar y croesffyrdd wrth fyned tuag adref. Safai John Williams ar ei draed ar ben y fainc yn nghanol llawr yr hen gapel, a'i holl natur o dan y dirdymadau mwyaf. Yna rhoddai floedd, a neidiai i ganol ei gyfeillion oedd ar y llawr oedd o'i gwmpas. Enwai yr hen frawd un man neillduol lle y byddent yn cynal cyfarfod gweddi, a dau o honynt yn myned i weddi, sef ar y ffordd fawr wrth gamfa, a elwir camfa Angharad, sydd yn troi at ffermdy o'r enw Pwllponthren. Enwai hefyd dri neu bedwar o'i gyfeillion oeddynt o'r un ysbryd ag yntau, sef Thomas Owen, Bryn Llangedwydd, yr hwn a fu ar ol hyny yn flaenor yn Fourcrosses: Robert Griffith, Bryn Marchog, ger capel Llwyndyrus, yr hwn a fu yn grefyddwr selog a ffyddlawn ar hyd ei oes; ac un a elwid Hugh, Dulwyn. Dywedai yr hen frawd, hefyd, nad oedd dim hynotach yn John Williams y pryd hwnw na rhai o'i gyfeillion, ond iddo ddyfod yn fwy felly ar ol hyny. Hwyrach y dylem ddweyd enw yr hen frawd a adroddodd y pethau dyddorol hyn i ni, gan fod y pethau hyn wedi cymeryd lle er's yn agos i bedwar ugain mlynedd. Ei enw yw John Davies, Ty'nypant, ger capel Llwyndyrus, ac y mae yn awr dros ddeg a phedwar ugain mlwydd oed. Mae yn ewythr frawd ei dad i'r Parch. D. E. Davies, yn awr o Gaernarfon.
Yr un modd, yr oedd y diwygiad yn hynod o wresog yn ardal Brynengan. Byddai Evan Richardson, Caernarfon, yn arfer dyfod i daith Brynengan ar Sul y Pasg bob blwyddyn am lawer o flynyddoedd i bregethu; ac yr oedd yma ar yr adeg hono yn y flwyddyn 1818. Clywsom hen wraig nodedig o grefyddol, sef Mrs. Williams, Tyddynyberth, ger Brynbachau, yn dweyd ei bod yn bresenol yn yr odfa. A'r fath oedd y gwres oedd yn y gynulleidfa, ac yn ysbryd y pregethwr, fel mai prin y cafodd ddweyd ei destyn nad aeth yn un floedd fawr trwy y gynulleidfa i gyd, ac ni chafodd y pregethwr ddweyd yr un gair yn ychwaneg. Oddeutu yr adeg hon yr oedd pregethwr o'r enw John Humphreys, Caernarfon, yn pregethu yn Mrynengan am ddau o'r gloch un Sabboth. Aeth Owen Owens yno i wrando. Ymaflodd rhywbeth yn ei feddwl gyda nerth ac effeithiolrwydd mawr. Yr oedd hyny yn beth hollol ddieithr iddo. Nid oedd wedi teimlo dim erioed cyn hyny. Yr oedd yn dyfod o'r odfa ei hun, ac wedi ei ddal â braw a dychryn mawr, ac ofn myned i uffern. Ar ei ffordd adref yr oedd yn pasio heibio i gorlanau defaid ar dir ffarm o'r enw Tuhwnt-i'r-mynydd. Trodd i mewn i un o honynt i dreio gweddio am y tro cyntaf erioed. Aeth ar ei liniau, a. dywedai ei fod yn dychryn wrth weled ei hunan ar ei liniau. Ond bu yno am oriau mewn ymdrech â Duw. Dywedir ei fod wedi bod yno unwaith hyd doriad gwawr y boreu dranoeth. Nis gwyddom ai y tro cyntaf hwn oedd y tro hwnw ai peidio. Nis gallai byth basio yr hen gorlan, tra y bu byw, heb gofio am yr hyn a gymerodd le rhyngddo â Duw ynddi. Drwg genym nas gwyddom ond ychydig am y gwra fu yn offeryn troedigaeth Owen Owens, sef John Humphreys. Ond mor bell ag y gwyddom ni, yr oedd yn wr parchus, ac yn bregethwr lled dda. Nailor ydoedd wrth ei alwedigaeth, ac y mae yn ymddangos y gwnai lawer o fusiness. Gwyddom am hen flaenor arall ag y bu yn foddion ei droedigaeth, sef Henry Jones, Gof, Bethel, yr hwn a fu yn flaenor ffyddlon a gweithgar am oes faith yn y lle hwnw, ac yn Golan. Pe na wnaethai John Humphreys ddim ond bod yn foddion troedigaeth y ddau wr defnyddiol hyn, buasai ei weinidogaeth wedi ateb diben da. Ond y mae y ffaith ei fod wedi bod yn foddion troedigaeth y gwyr hyn yn brawf fod ei weinidogaeth yn un fuddiol, ac felly iddo fod yn foddion troedigaeth i lawer eraill. Ac er i ni fethu gweled yr un gair o'i hanes mewn argraff yn un man, diau ei fod er hyny yn cael ei gyfrif ymysg y rhai hyny,—"A'r doethion a ddisgleiriant fel disgleirdeb y ffurfafen; a'r rhai a droant lawer i gyfiawnder, a fyddant fel ser byth yn dragywydd."
Wedi ysgrifenu yr uchod daethom i wybod mwy am y gwr hwnw, a hyny trwy y Parch. David Williams, Conwy, gwr ag sydd yn meddu ar lawer o adgofion dyddorol am yr hen Fethodistiaid. Fel hyn y mae Mr. Williams yn adrodd ei adgofion am dano:—"Yr wyf yn ei gofio yn dda yn pregethu, ond yn rhy ieuanc i ffurfio barn am dano fel pregethwr. Byddwn yn ei hoffi, a rhaid ei fod yn barchus yn yr eglwys. Yn ol Day Book bychan ddaeth i'm rhan ar ol un o'r cyn-drigolion, byddai yn pregethu ddwy a thair gwaith yn y flwyddyn yn yr hen gapel cyntaf. Gwr tew, graenus ydoedd pan y gwelais ef gyntaf, nailor wrth ei alwedigaeth; a'r ddiod a'i taflodd o'r pulpud. Ar ol gwneyd Moriah yn 1826 y bu hyn; canys clywais ef yno droion. Signiodd ddirwest yn fuan ar ol sefydliad y gymdeithas yn y dref; ar ol hyny aeth i Liverpool i fyw, a daeth yn ol wedi tair blynedd o fyw yno. Daliodd yn dda at ei ymrwymiad, a bu farw yn Gristion gloew, er yn dlawd. Yr wyf yn cofio y tro olaf y bum yn edrych am dano. 'Dafydd bach,' meddai, 'y mae y Graig yma, ond bod llawer o bridd arni.' Yr oedd iddo wyr yn flaenor o'r radd oreu yn Beaumaris. Bu farw tua blwyddyn yn ol, sef Mr. Richard Lloyd Humphreys."
Yr ydym yn deall i John Humphreys fod yn pregethu am oddeutu ugain mlynedd, sef o tua'r flwyddyn 1809 hyd tua'r flwyddyn 1829, a bu farw Hydref 17eg, 1845, yn 70 oed, a chladdwyd ef yn Llanbeblig. Gan nad ydym yn deall i ddim gael ei argraffu am y gwr hwn o'r blaen, yr ydym yn cymeryd y cyfleusdra i roddi hyn o hanes am dano, gan ystyried ei fod yn haeddu hyn o goffhad. Mae Mr. John Humphreys, Bangor, gohebydd medrus a galluog yn perthyn i'r Liverpool Daily Post, yn wyr i John Humphreys, a chanddo ef y derbyniasom y manylion am farwolaeth yr hen bregethwr.