Neidio i'r cynnwys

Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad/Ei febyd a'i ieuenctid

← Ei deulu Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad

gan Henry Hughes, Bryncir

Ei droedigaeth →

PENOD IV.
EI FEBYD A'I IEUENCTID.

Yn llawn bywyd, ffraethineb, a direidi o'i febyd.—Ei gyfrwysdra yn gochel cerydd ei dad.—Yn rhoi y lŷr ar y maen llifo.—Yn ateb ei dad yn ei coin ei hun.—Ei ardal enedigol yn amddifad o foddion gras.—Ysgol Bwlchderwin.—Arferion ieuenctid yr ardal—Yn ddi-barch i'r Sabboth.—Yn ddynion mawrion a chryfion.—Eu direidi.—Y bachgen a'r ceiliog.—Ysgol Taiduon yn dechreu.—Yn symud o'r naill dŷ i'r llall.—Y dull o'i chynal.—Cael ei chynal mewn cwt mochyn.—Yn foddion i wneyd daioni mawr er hyny.

DECHREUODD neillduolion cymeriad Owen Owens ddyfod i'r golwg ynddo yn ei fabandod,—pan yn blentyn, ac yn fachgen ieuanc iawn. Yr oedd yn llawn bywyd, direidi, a ffraethiweb er yn blentyn. Byddai yn berwi o ddigrifwch hyd yn nod y pryd hwnw. Yr oedd cyflymdra ei feddwl, hefyd, wedi dadblygu yn foreu iawn, ynghyd a'i graffder a'i gyfrwysdra. Yr oedd wedi gwneyd rhyw ddrwg unwaith, a'i dad yn myned i'w geryddu, a chymhwyso y wïalen ato. Dywedir fod ei dad yn dyfod ato a golwg pur fygythiol a mileinig arno, ac fel pe buasai yn benderfynol o roddi curfa iddo, y cofiai am dani yn hir. Ond syrthiodd Owen ar ei liniau o'i flaen, a gwaeddodd allan,—"Ysbryd aflan, dos allan o'r dyn yma." Torodd ei dad allan i chwerthin ar unwaith, a methodd a gweinyddu y ddisgyblaeth angenrheidiol arno. Mae cyfrwysdra Owen Owens i'w weled yn hyn yn gystal a'i ffraethineb, a chyflymdra ei feddwl. Gwyddai y buasai hyn yn foddion effeithiol i ochelyd y wïalen. Fel pob mam, byddai mam Owen Owens yn cael cryn drafferth i gael gan ei phlant i fwyta yr ymborth a osodid ger eu bron. Traethai gryn lawer ar y pwys iddynt ddysgu bwyta pob peth a osodid o'u blaen, erbyn yr äent i fwyta ar fwrdd pobl eraill. Un diwrnod, ar giniaw, digwyddodd i ddarn o lŷr[1] ddyfod i ran Owen, a dangosai anfoddlonrwydd mawr i'w fwyta; ond dywedai ei fam fod yn rhaid iddo wneyd, cyn y cai ddim yn ychwaneg o ymborth. Yn bur fuan, gwelid Owen yn rhoddi y lŷr ar y maen llifo, ac yn troi cymaint ag y gallai, a gofynai ei fam iddo beth oedd yn ei wneyd. "Rhoi y lŷr yma ar y maen llifo," meddai yntau, 'mae rhyw obaith cael ymwared ag o fel hyn;" gan awgrymu fod yn rhaid cael danedd ac ystumog fel maen llifo i'w gnoi a'i dreulio. Dywedodd ei dad wrtho un diwrnod, pan yr oedd yn blentyn lled ieuanc,—"Owen, dos i nol y gyllall wair i mi." "Lle mae hi?" meddai Owen "Yn y pot llaeth," meddai y tad, yn lled goeglyd. Aeth yntau yn syth ac i'r tŷ llaeth, a chododd y llechan oedd ar y pot llaeth, a daeth yn ol ar unwaith. "Mi fum i yn edrych y pot llaeth, a 'doedd hi ddim yno," meddai. Er nad oedd ond plentyn, yr oedd, yn ol y gorchymyn Dwyfol, yn ateb yr ynfyd yn ol ei ynfydrwydd; a diau iddo ddysgu gwers i'w dad, y cofiodd am dani am hir amser. Atebodd ef yn ei coin ei hun, fel y dywedir. Mae yn amlwg oddiwrth yr hanesyn hwn, fod ei dad hefyd yn llawn ffraethineb, fel yntau.

Yr oedd yr ardal lle y ganwyd ac y magwyd Owen Owens ynddi, ochr Nantcall a Nant-y-Cwmbran, yn hynod o amddifad o fanteision crefydd ac addysg y pryd hwn. Nid oedd capel nac eglwys o fewn llai na thair i bedair milldir i'w gartref: y Garn ar un llaw, a Brynengan ar y llaw arall; Llanllyfni mewn un cyfeiriad, a Chapel uchaf, Clynog, mewn cyfeiriad arall. Yr oedd Ysgol Sul fechan yn ardal Bwlchderwin, ond yr oedd yn hynod o wanaidd ac eiddil. Yr oedd mor wan fel y byddai yn darfod yn hollol am dymor, ac yna yn dyfod i'r golwg drachefn. Ac er fod ambell un o benauteuluoedd yr ardal yn aelodau yn Llanllyfni, yr oedd yr ieuenctid yn tyfu i fyny yn hynod o ddigrefydd ac annuwiol. Yr oedd lliaws ohonynt yn ddynion mawrion, cryfion, ac esgyrnog, oddeutu dwy lath o daldra, megis, Owen Owens a Roger Owen, ei frawd; meibion Nantcall-uchaf, Nantcall-ganol, Nantcall-isaf, Tanyffordd, a lliaws eraill. Yr oeddynt yn ymroddi i oferedd, a champau gwag ac ofer. Nid oedd ganddynt unrhyw barch i'r Sabboth. Ymgasglent at eu gilydd ar y Sabboth i ddilyn rhyw oferedd, a chwareuon, ac i wneyd pob math o gampau gweigion. Un Sabboth aethant i weled gwaith hwn a'r llall yn aredig. Wedi gweled fod un cymydog yn ddiffygiol iawn mewn darpariaeth i aredig,—у ceffyl yn wan, a'r aradr yn wael,—beth a wnaethant ond myned ati i aredig. Daliai un yr aradr, ac yr oedd y lleill yn ei dynu. A dywedir iddynt aredig darn helaeth o gae y Sul hwnw, heb yr un anifail. Yr oeddynt yn ddynion cryfion anghyffredin. Ac yr oeddynt yn hoff iawn o wneyd ryw ddireidi a chastiau cellweirus. Yr oedd yno un pur ddiniwed yn eu mysg, o'r enw J—— T——, yr hwn oedd hefyd yn un pur orchestol, fel y dywedir Nid oedd ei olygon yn dda, yn enwedig ymhell oddiwrtho. A hoff hyfrydwch y bechgyn eraill oedd gwneyd ryw fân gastiau âg ef. Yn y dyddiau hyny holl fryd pobl ieuainc oedd ymryson mewn gwneyd rhyw fath o gampau. A rhagori yn y pethau hyny oedd holl uchelgais pob dyn ieuanc. Yr un modd ieuenctid yr ardal hon, yr oeddent yn llawn o'r un ysbryd. Ac nid oedd neb yn fwy felly na J—— T——. Gan fod y lleill yn llawn direidi rhoddai hyn fantais iddynt arno. Byddai ganddynt ryw gampau yn feunyddiol, yn y rhai y mynai y naill a'r llall ragori. Un camp neillduol oedd yr hyn a elwid ganddynt yn 'enill ei bedolau.' Ac yr oedd gwneyd hyn oddiar le uchel yn orchestwaith anarferol. Yr oedd gwneyd hyn oddiar drawst cwpwl yr ysgubor yn un o'r gorchestion penaf. Yr oedd J—— T——yn llawn awydd am ragori yn y peth hwn. Ai i fyny ar y trawst, tra y byddent hwythau yn ei ganmol, ac yn ei anog i fyned ymlaen. Ond chwareu teg iddynt, byddent yn gofalu am roddi gwellt ar y llawr o dan y lle y byddai y camp yn cael ei wneyd, rhag iddo gael niwed. Ond diwedd yr ymdrechfa bob amser fyddai i J—— gael codwm i'r gwellt; a byddai y lleill y pryd hwnw wedi cyrhaedd eu hamcan, a mawr fyddai y crechwen yn eu plith. Mynych y byddai Owen Owens, ar hyd ei oes, yn tynu gwersi oddiwrth ryw bethau fyddai wedi eu gweled ymysg ei gyfoedion pan yn fachgen ieuanc. I ddangos fel y mae arferion boreu oes yn glynu mewn dyn ar ol tyfu i fyny, dywedai am un o'i gyfoedion oedd yn dra hoff o ffeirio a bargeinio pan yn fachgen, yr hyn oedd wedi glynu ynddo ar hyd ei oes, nes yr oedd wedi myned yn hynafgwr. Yr oedd y llanc hwnw yn dra hoff o ffeirio a newid ceiliogod, ymysg pethau eraill. Ac un boreu daeth i Bantglas-ucha a cheiliog o dan ei gesail. Gwelai Owen Owens yn eistedd ar gyfer y drws. Yr oedd Owen Roger, tad Owen Owens, yn cadw dyledswydd deuluaidd pan y daeth at y drws. Ac heb feddwl beth oedd yn myned ymlaen, aeth y bachgen i mewn i'r tŷ, a thaflodd y ceiliog ar y llawr, gan ddweyd, 'd-d-ddyna i ti Owen beth ydi ceiliog iawn.' Yr oedd tipyn o ataldywedyd ar y bachgen. A chanodd y ceiliog yn y fan, ar ganol y llawr, a hyny pan oedd Owen Roger wrthi yn darllen. Gallem chwanegu rhai pethau eraill o'r un natur a'r uchod, ond efallai fod hyn yn ddigon. Prin hwyrach y mae y pethau uchod yn werth eu hadrodd, ond fel y maent yn dangos agwedd pethau yn y dyddiau hyny, a'r hyn oedd yn myned a bryd pobl ieuainc yn yr oes hono.

Cyn hir ar ol dechreu cynal Ysgol Sabbothol yn Mwlchderwin, dechreuwyd cynal un yn nes i gartref Owen Owens, yn ardal Nant-y-Cwmbran a Nantcall. Mewn tai y dechreuwyd ei chynal; a byddai yn dyfod yn ei thro i Bantglas-ucha, cartref Owen Owens. Yn Nghwmbran y mae cof am dani gyntaf; bu hefyd yn Brynmarsli, Tanyffordd, a Thaiduon. Byddai rai misoedd yn un o honynt, ac yna symudid hi i un arall. Nid oedd rhai o'r tai hyn ond bychain a thywyll; ac nid oedd ynddynt na meinciau nac eisteddleoedd. Weithiau, eisteddent ar ben hen brenau mawnog, a phryd arall, gosodent blanciau i fyny, fel eisteddleoedd. Ac ar adegau, byddai y rhai hyn yn tori, neu ynte yn colli eu gafael, nes y byddai y rhai fyddai yn eistedd arnynt yn syrthio yn bendramwnwgl i'r llawr. A byddai hyn yn codi ysgafnder a chwerthin mawr drwy y lle ar y pryd. Caed meinciau pwrpasol ar ol i'r ysgol fyned i Taiduon. A daeth yn fwy llewyrchus, drwy fod y ty yn helaeth, goleu, a chyfleus; ac yma y bu am tuag ugain mlynedd, hyd nes yr adeiladwyd ysgoldy Taiduon. Byddai y plant yn hynod o afreolus yn y tai hyn. Clywsom Owen Owens yn dweyd y byddent yn ymladd law-law ar adegau, a gollyngid hwy allan i orphen yr ymladdfa; yna, deuent yn ol, ar ol gorphen, i'r ysgol drachefn. Byddai brodyr o Fwlchderwin, y Garn, a Llanllyfni yn dyfod i'w chynal yn eu tro. Yr oedd un 'Thomas Robert, y Teiliwr, Bwlchderwin, yn selog a ffyddlon iawn yn dyfod yma. Yr oedd un bachgen yn hynod afreolus un Sabboth, a gofynai Thomas Robert mewn tymer pur wyllt,—"Beth ydyw ryw hyfr gwyllt o'r goedwig fel hyn?" Yr oedd rhyw greadur annuwiol, a barbaraidd yr olwg arno, yn y Garn, a fyddai yn myned o gwmpas y wlad i ffeirio watches &c. Byddai yn dilyn y gorchwyl hwn 'Sul, gwyl, a gwaith,' heb wneyd un gwahaniaeth mewn dyddiau. Un Sabboth, heb wybod dim am yr Ysgol Sul oedd yno, daeth i mewn i ganol tŷ Taiduon, ac er ei syndod a'i fraw, gwelai lonaid tŷ o bobl a phlant. Ciliodd yntau allan heb ddweyd nemawr air wrth neb. Dywedai Owen Owens, yn ei ddull ffraethbert a chartrefol ei hun, ei fod ef yn cofio ysgol Taiduon mor isel, fel yr oedd yn cael ei chynal mewn cwt mochyn. Ac felly y bu. Yr oedd dau neu dri wedi dyfod iddi un Sabboth pur anghyfleus oblegid oerni, neu wlybaniaeth, neu rywbeth. Ac wrth gerdded oddiamgylch, gwelent gwt mochyn yn llawn o wellt. Ac meddai y naill wrth y llall,—"Dyma le brâf i ddarllen." Gorweddodd y ddau yn y gwellt, a dechreuasant ddarllen. Ac yn y fan hono y caed hyny o ysgol a gaed y Sabboth hwnw.

Dyma yr unig foddion crefyddol o fath yn y byd oedd o fewn cyrhaedd i Owen Owens, pan yr oedd yn fachgen o wyth i ddeuddeg oed; oblegid yr oedd o dair i bedair milldir i'r capel agosaf iddo, fel y cyfeiriwyd o'r blaen. Ond—er mor syml, gwledig, annhrefnus, ac aflywodraethus oedd yr ysgol hon, bu yn foddion i roddi cychwyniad yn yr iawn gyfeiriad i rai dynion rhagorol, y rhai a fu o wasanaeth mawr i grefydd yn yr ardaloedd hyn am amser maith; megis Owen Owens a Roger ei frawd, yr hwn a fu yn arwain y canu yn y Garn am lawer o flynyddoedd, ac yn un blaenllaw iawn gyda'r achos yn y lle hwnw; Mr. Owen Humphreys, gynt o'r Gesail, yr hwn a fu yn flaenor ffyddlawn am flynyddau lawer yn Bethel a Chriccieth, yr hwn hefyd a gafodd hir-ddyddiau ar y ddaear, i weled a gwneuthur daioni; ynghydag eraill nas gallwn eu henwi. Ond er nas gallwn ni eu henwi, diau fod eu henwau yn ysgrifenedig yn llyfr bywyd yr Oen. "Pwy a ddiystyrodd ddydd y pethau bychain?" Pa faint o ddaioni a wnaed mewn canoedd o leoedd fel hyn, yn y ffordd syml yma, yn Nghymru, yn yr amser a basiodd, y dydd mawr diweddaf yn unig a'i dengys.

Nodiadau

[golygu]
  1. ↑ pwrs (tethau) buwch