Neidio i'r cynnwys

Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad/Ei flynyddoedd olaf

Oddi ar Wicidestun
Sylwadau, dywediadau, a ffraethebion Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad

gan Henry Hughes, Bryncir

PENOD XVII
EI FLYNYDDOEDD OLAF.

Ei hen ddyddiau yn ddibrofedigaeth.—Yn gynrychiolydd i'r Sasiwn.—Ei anrhegu â spectol aur.—Cyfarfod i'w chyflwyno.—Hyn yn sirioli ei feddwl.—Englynion ar yr achlysur.—Yntau yn rhoddi ei ddarlun yn y ty capel.—Ei wythnosau olaf a'i farwolaeth.Ei gladdedigaeth.—Sylwadau arno gan y diweddar Barchn. Robert Jones, Llanllyfni, a Roger Edwards.—Yr argraff ar ei fedd.

Y Roedd hwyrddydd einioes Owen Owens yn dawel a di-brofedigaeth. Yr oedd yn fwy felly na boreuddydd a phrydnawnddydd ei fywyd. Nid oedd ei foreu a'i brydnawn heb gymylau yn ei awyrgylch; ond yr oedd hwyr ei ddydd yn nodedig o ddigymylau. Yr oedd haul ei fywyd yn machlud mewn awyrgylch hynod o glir a digwmwl. Un o'r pethau mwyaf pruddaidd ydyw gweled dyn duwiol yn cael hir-ddyddiau ar y ddaear, a'r rhai hyny yn ddibrofedigaeth hyd yn agos i'w ddiwedd, ond yn y diwedd yn cyfarfod a llawer o filinderau. Mae baich blinderau henaint yn drwm iawn i'w ddwyn heb ychwanegu ato faich blinderau y byd. A mynych y gwelir dyn gwir dduwiol felly; ond nid felly yr oedd Owen Owens. Yr oedd ei amgylchiadau bydol ef yn gwella yn ei flynyddoedd olaf, fel yr oedd yn ei ddiwedd yn perchen cryn lawer o dda y byd hwn, ag ystyried ei sefyllfa. Yr oedd ei fywyd teuluaidd yn hynod o hapus a dedwydd. Yr unig beth a dywyllodd ryw gymaint arno oedd marwolaeth geneth fach iddo, fel y cyfeiriwyd. Ond wedi i hyny fyned heibio nid oedd dim chwerwder na cholyn yn aros. Anrhydeddwyd ef, fel y soniwyd o'r blaen, trwy gael ei ddewis yn gynrychiolydd i'r Sasiwn ryw ddwy flynedd cyn ei farwolaeth.

Derbyniodd lawer o barch a sylw hefyd yn ystod y flwyddyn y bu yn gynrychiolydd, sef y flwyddyn cyn y flwyddyn y bu farw. Ond ni bu dim yn fwy o galondid iddo, nac yn foddion i sirioli mwy ar ei feddwl a'i ysbryd yn ei henaint, na gwaith pobl Bwlchderwin yn ei anrhegu a spectol, a hono yn un aur. Mae ei fynych gyfeiriadau at hyn yn dangos ei fod wedi teimlo yn fawr oddiwrth y parch a'r caredigrwydd hwn. Yr oedd ganddo ddosbarth o ferched mewn oedran tua'r adeg hon. Rhoddai y spectol i bob un o honynt, y naill ar ol y llall, i edrych drwyddi ac i ddarllen gyda hi; a dywedir y byddai yn cael boddhad mawr wrth edrych arnynt yn ei gwisgo ac yn ei defnyddio. Wrth anog rhai i ddyfod i'r Ysgol Sabbothol, dywedai,—"Ni fydda i byth yn leicio siarad llawer am danaf fy hun. Ond y mae pobl Bwlchderwin yn dweyd fy mod i wedi bod yn ffyddlon iawn hefo'r Ysgol Sul, ac y maent wedi fy anrhegu i â spectol aur am fy ffyddlondeb iddi. Welwch ch'i, y mae bod yn ffyddlon i'r Ysgol Sul yn dwad ag aur i bobol." Byddai yn erbyn physig a doctor yn anghyffredin. "Pan y bydd rhywbeth arna' i," meddai, "dim ond i Catrin [y wraig] wneyd tipyn o ddw'r camomile, a dangos y spectol aur i mi, mi fendia i yn union." Cynhaliwyd y cyfarfod i'w chyflwyno iddo nos Lun, Ebrill yr 17eg, 1876, sef ymhen y tridiau ac wythnos ar ol Sasiwn Rhuthyn. Llywydd y cyfarfod oedd Hugh Jones, un o flaenoriaid Bwlchderwin ar y pryd, ond sydd yn awr yn flaenor yn nghapel pentref Clynog. Siaredid yn y cyfarfod gan y diweddar Evan Roberts, y Pwll, Penmorfa, blaenor ffyddlawn yn y lle hwnw, yr hwn a ddigwyddai fod yn gweithio yn yr ardal ar y pryd, a'r diweddar Owen Hughes, y Caerau, yr hwn oedd yn gyfaill mawr i Owen Owens, ac yn edmygwr mawr o hono. Canwyd yn ystod y cyfarfod gan Hugh Williams (Hugh Peris), Bryncoch, Llanberis. Un o'r caneuon a ganodd oedd "Hen ffon fy nain," ac i effeithioli y gân cymerai fenthyg ffon Ellin Evans, yr hon y cyfeirir ati yn un o'r brawddegau nesaf. Canodd John Griffith, Terfynau, "Cwymp Niagara," hefyd. Cyflwynwyd y spectol mewn case prydferth gan Ellin Evans, Gyfelog-ucha, yr hon oedd ar y pryd yn ddeg a phedwar ugain oed, a'r hon hefyd oedd yn weddw i'r hen flaenor Robert Prichard, yr hwn a fu yn cydweithio ag Owen Owens am lawer o flynyddoedd. Yr oedd hefyd yn fam i Mrs. Mary Owen, priod Robert Owen, at yr hwn y cyfeirir yn y llyfr hwn. Mae y geiriau canlynol yn argraffedig ar y case:"Anrheg cyflwynedig gan gynulleidfa Bwlchderwin i Owen Owens am ei ffyddlondeb gyda'r achos crefyddol am dros 50 mlynedd. 1876." Gwnaeth Mr. H. Tudwal Davies saith o englynion ar yr achlysur, yr hwn, ynghyd a'i frawd, Mr. John Davies, a fu yn ddisgyblion i Owen Owens am lawer o flynyddoedd, a'r rhai yn ddiau a dderbyniasant argraffiadau oddiwrtho sydd yn aros hyd heddyw. Ni chaniata ein gofod i ni roddi yr oll o'r englynion i mewn yma, ond ni a roddwn le i dri o honynt:

Mi wnaf fydr,—mwynhaf edrych—ar henwr
Yn ei spectol orwych,—
Hen flaenor roes gyngor gwych
I fy enaid mor fynych.

I henadur, rhyw nodwedd—oruchel
Rydd drychau aur glanwedd;
Mae spectol dda yn gwella gwedd
Y llygaid, a'r holl agwedd.

Hwyrddydd oes, mor hardd i ddyn—yw edrych
Drwy wydrau aur melyn;
Y rhai'n a ddaw a'r hen ddyn
Efo'i lygaid fel hogyn.


Yn fath o gydnabyddiaeth am yr anrheg hon, rhoddodd Owen Owens, yntau, ei ddarlun ei hun, i fod yn y tŷ capel, ac y mae yn aros yno hyd yn awr. Mae y geiriau canlynol wedi eu hysgrifenu o dan y darlun gan Owen Owens ei hun,—Owen Owens, y Gors. Gwelir hwy fel y maent yno, o dan y darlun ar ddechreu y llyfr hwn. Mae y geiriau canlynol hefyd o dan y darlun, wedi eu hysgrifenu gan law arall:—"Anrheg i aros yn nhŷ capel Bwlchderwin. Medi 18fed, 1876."

Ond dyddiau Owen Owens, fel eraill, a nesasant i farw. Tarawyd ef gan ergyd o'r parlys, ychydig wythnosau cyn iddo farw. Suddodd yn arafaidd, a bu farw, dydd Gwener, Tachwedd 9, 1877, yn ddwy ar bymtheg a thriugain oed, Isel iawn ei feddwl ydoedd yn ystod ei gystudd. Yr oeddym yn pregethu yn Mwlchderwin y Sabboth diweddaf y bu byw; a buom yn ymweled âg ef. Ychydig o eiriau a geid ganddo; a chredwn fod y parlys creulon wedi ysigo ei feddwl a'i ysbryd. Y dydd Mercher canlynol, gwyr bucheddol a ddygasant Owen Owens i'w gladdu. Darllenwyd a gweddiwyd wrth y tŷ gan y Parch. John Jones, Bryn'rodyn. Claddwyd ef yn mynwent Capel Ucha, Clynog. Siaradwyd yn y capel ac wrth y bedd, gan y Parchn. Thomas Ellis, Llanystumdwy; John Owen, M.A., Criccieth; a Robert Jones (B.), Llanllyfni. Fel y cyfeiriwyd o'r blaen, yr oedd Owen Owens a Robert Jones yn gyfeillion mawrion; a dangosodd Robert Jones ei gyfeillgarwch drwy ddyfod i angladd ei hen gyfaill. Dywedai air ynddo hefyd yn ddoniol, ac yn ei ffordd ei hun. "Yr oedd Owen Owens," meddai, yn ddyn mawr. Yr oedd yn rhy fawr i fod yn ddyn plaid. Fe gafodd yntau, fel pob dyn go fawr, lawer o rwystrau ac anhawsderau; ond fe'u gorchfygodd i gyd. Rhaid i bob dyn a rhywbeth ynddo ladd llewod wrth fyn'd trwy y byd yma. Rhaid i ch'itha," meddai, gan godi ei ffon, a'i tharo ar ymyl y sêt, ac edrych yn ffyrnig, "rhaid i ch'itha', ladd llewod os yda ch'i am wneyd rhyw ddaioni yn y byd. Dyn oedd Owen Owens laddodd lewod wrth fyn'd trwy y byd yma." Er's rhai blynyddoedd yn ol, anfonasom at Robert Jones i ofyn a oedd ganddo ychydig o adgofion a fuasai yn ei ysgrifenu am Owen Owens. Cawsom lythyr helaeth yn ol yn fuan. Ymysg pethau eraill, dywed fel hyn:—" Yr oedd Owen Owens yn un o'r dynion hynotaf. Nid oedd efe yr un fath a neb; ac nid oedd neb ond anfynych yr un fath ag yntau. Yr oedd ei bethau goreu, mae yn ddiau, yn bethau ardderchog; y mae pethau gwaelaf y dynion goreu a a fuont yn y byd erioed yn bethau tra annheilwng. Ceir rhai pethau dymunol, weithiau, mewn dyn tra annuwiol, tra y mae y dyn goreu yn ei funydau gwaethaf, yn colli cryn lawer mewn gair a gweithred."

Fel hyn, y mae y diweddar Barch. Roger Edwards yn ysgrifenu am dano yn y Drysorfa, ymhen tua deufis ar ol ei farwolaeth, sef yn mis Ionawr, 1878:

"Collwyd un o hen flaenoriaid hynotaf y Cyfundeb yn marwolaeth y diweddar Mr. Owen Owens, Cors-y-wlad, Eifionydd. Yr oedd yn nodedig am ei ffraethineb; ond yr oedd efe yn ffrwyno y dawn bywiog hwnw, ac yn ei dywys at wasanaeth crefydd. Yn ei gartref, yr oedd yn ofalus iawn am y cyfarfodydd eglwysig a'r Ysgol Sabbothol. Yn y Cyfarfodydd Misol, edrychid tuag ato ef fel hen wr profedig am farn dda a chrefydd dda. Ac yr oedd wedi dyfod yn gydnabyddus i'n Cymdeithasfaoedd yn Ngwynedd; a hir gofir am rai o'i sylwadau a'i weddiau yn Nghymdeithasfaoedd y flwyddyn ddiweddaf. Yr oedd ei goffadwriaeth yn wir beraroglaidd yn Nghyfarfod Misol Tremadog, a gynhaliwyd ddechreu y mis diweddaf."

Mae yr argraff ganlynol ar ei fedd:

Er cof am
OWEN OWENS,
CORS-Y-WLAD.
Yr hwn a fu farw Tachwedd, 9, 1877,
YN 77 MLWYDD OED.
Bu yn ddiacon ffyddlawn a defnyddiol gyda y Methodistiaid
Calfinaidd am dros 50 mlynedd.

Gwas gwiw Iesu gwsg isod,—ef oedd wr
Feddai eiriau parod;
Gwres ei ddawn wnai'r Gors ddinod
Yn amlwg mewn gloyw glod.

—TUDWAL.





ARGRAFFWYD GAN E. W. EVANS, SWYDDFA'R 'GOLEUAD, DOLGELLAU.



Nodiadau

[golygu]