Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad/Owen Owens o ran ei ddyn oddiallan
| ← Owen Owens yn cael ei godi yn flaenor, ac yn priodi | Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad gan Henry Hughes, Bryncir |
Owen Owens o ran nodweddion ei feddwl a'i gymeriad fel dyn a christion → |
PENOD XIII.
OWEN OWENS O RAN EI DDYN ODDIALLAN.
Hynodrwydd ei wynebpryd.—Yn debyg i John Evans o'r Bala.—O gyfansoddiad cryf a chadarn.—Yn hardd a heinyf o gorff.—Ei lygaid, &c—Ei wisg.—Yn siarad mewn Cyfarfod Misol.
BYDDAI llyfr ar Owen Owens, heb gynyg rhoddi darluniad o'i ddyn oddiallan yn anfaddeuol; oblegid yr oedd y fath hynodrwydd ynddo ag oedd yn tynu sylw pawb ato ar unwaith. Nis gallai y mwyaf dwl a difeddwl beidio craffu arno ar yr olwg gyntaf. Ac yr oedd braidd yn anmhosibl ei anghofio ar ol ei weled ond unwaith. Os ydyw y darlun sydd ar gael o'r hen brege:hwr hynod hwnw, John Evans, o'r Bala, yn weddol gywir, credwn fod llawer o debygrwydd yn ngwynebpryd Owen Owens i'r hen batriarch nodedig hwnw. Yr oedd gwyneb a phen y naill a'r llall yn hir anarferol, Nid ydym yn gwybod i ni erioed weled gwyneb a phen mor hir ag oedd gan Owen Owens; a diau y gallesid dweyd rhywbeth yn debyg am John Evans. Yr oedd gan Owen Owens hefyd gnwd trwchus o wallt ar ei ben, a hwnw yn gyffredin yn tyfu yn syth; yr hyn oedd yn peri fod ei ben yn ymddangos yn hwy nag ydoedd mewn gwirionedd. Ond gallem feddwl mai ychydig o wallt oedd gan John Evans. Ac y mae yn hysbys fod John Evans yn un a golwg nodedig o dywysogaidd a pharchedig arno. Sylwir arno yn y "Cyffes Ffydd," fel " y gwr hynaf a pharchedicaf yn y Corff;" a diameu fod ystyr arbenig i'r gair " parchedicaf" yn y cysylltiad hwn; yr oedd yn dra pharchedig yr olwg arno. Arferai y diweddar Barch. Henry Rees ddweyd am dano, fod ei ymddangosiad yn peri iddo feddwl am Abraham, tad y ffyddloniaid. Nid ydym yn dywedyd fod Owen Owens mor benderfynol, mawreddog, a thywysogaidd yr olwg a'r hen dywysog hwnw; eto, mae yn bur amlwg fod yna debygrwydd mawr yn y naill i'r llall.
O ran maintioli, yr oedd Owen Owens yn tueddu yn hytrach at fod yn dal, gan ei fod oddeutu pum' troedfedd a naw modfedd o daldra, gallem feddwl. Yr oedd yn bur esgyrnog, a chanddo gyfansoddiad nodedig o gryf a chadarn. Tueddai at fod yn deneu yn hytrach nag yn dew. Ac os byddai rhyw orchwyl yn yr ardal yn galw am nerth corfforol mwy na'r cyffredin, byddai Owen Owens yn bur sicr o gael rhan o hono. Pan oedd efe yn ieuanc, nid oedd ond ychydig o bontydd yn y wlad, a dim ond sarnau i fyned dros yr afonydd. Mewn angladdau y pryd hwnw, y dull cyffredin o gario yr elor a'r arch oedd, ar ysgwyddau. Ac nis gallai ond dau, un ymhob pen, gario yr elor dros y sarnau. Yr oedd y gwaith hwn yn gofyn am y dynion cryfaf yn yr ardal. Ac Owen Owens a'i frawd, Roger Owen, fyddai yn gwneyd y gwaith bob amser, meddir. Gweithiodd yn galed ar hyd ei oes. Gwelid ef gyda'i wallt gwyn yn gwneyd y caledwaith ar hyd ei dyddyn, ymron i'w ddiwedd. Un diwrnod, yr oedd yn y cae yn aredig, a hen wr ffraeth yn cerdded y llwybr heibio iddo. "Gwaith go drwm ydy' hwn hefo'r gwallt gwyn yna, Owen Owens," meddai "'Dydw i yn clywed mo'no fo ddim tipyn trymach na phan yr oedd o yn ddu," meddai Owen Owens, yn y fan.
Heblaw bod yn gryf a chadarn, yr oedd Owen Owens hefyd yn hardd nodedig, a heinyf iawn o gorff. Braidd na allesid meddwl hyny wrth edrych ar ei ddarlun sydd yn y llyfr hwn. Nid ydym yn awr yn cyfeirio at ei ben, gan fod hyny wedi ei wneyd eisoes. Ni byddai yntau yn meddwl rhyw lawer o'i ben. Yn wir, y mae genym ryw adgof ei fod yn cywilyddio o'i ben, os nad yn tueddu i'w anmharchu, gan ei gymharu i ben y creadur cyndyn hwnw ymysg yr anifeiliaid. Ond gwell peidio myned ryw lawer yn y cyfeiriad yna, feallai. Ond yr oedd yn ymfalchio cryn lawer yn ei gorff, yn enwedig ei goes a'i droed. Pan yr oedd efe yn weddol ieuanc yr oedd y clôs pen—glin mewn cryn fri; ac felly byddai y goes yn y golwg i gyd, pa lun bynag fyddai arni. A'r neb a fyddai wedi ei fendithio â chroth fawr a meilwng bychan, a throed hardd, ystyrid y dyn hwnw yn lled wynfydedig. Ac yr oedd Owen Owens yn perthyn i'r dosbarth gwynfydedig hwn. Ni welid corff a choes harddach yn yr holl wlad; ac am ei groth, ei feilwng, a'i droed, yr oeddynt yn berffeithrwydd tegwch. Yr oedd hefyd yn gyflym, chwimwth, a heinyf ar ei droed. Rhedai fel ewig. Os byddai rhyw greadur ar y tir yn dianc, os gallai traed dynol ei ddal, byddai Owen Owens yn bur debyg o wneyd hyny. Digwyddodd i ddau borchell cryf ddianc o'r sach ar Forfa Saint, Caernarfon, unwaith. Ond mewn ychydig eiliadau yr oedd Owen Owens a Roger ei frawd wedi eu sicrhau, er fod yn rhaid cael cyflymdra yr ewig at y gorchwyl.
Pan yn ieuanc yr oedd gwallt Owen Owens yn "ddu lo'wddu, fel y frân." Pan yn weddol ieuanc, trodd ei wallt yn lâs, a darluniai rhywun ef "a'i ben glâs a'i glôs pen glin." Ond er's llawer o flynyddoedd cyn marw yr oedd wedi myned yn wyn "fel eira yn Salmon." Fel y gwelir yn y darlun, llygaid gweddol o ran maintioli oedd ganddo, ond hynod o fywiog, ac o liw melynddu. Yr oedd ganddo drwyn lled fawr, Rhufeinig neu fwäog, sef a chrwbi yn ei ganol, a golwg awdurdodol arno. Ac yr oedd ganddo wefusau lled deneuon, a hollol at ei alwad, i'w trin fel y mynai. Yr oedd rhyw fywiogrwydd hynod yn nghyhyrau ei wyneb hyd yn nod wedi myned yn hen wr. Dywedir y gallai drin ei wefusau, ei eiliau, a hyd yn nod ei glustiau fel y mynai, ymron. Deuai direidi i'r golwg yn fynych yn nghil ei lygaid, yn nghwr ei wefusau, ac yn ysgogiadau ei wynebpryd. Yr ydym y funyd hon yn cofio am dano yn gwrando mewn Cyfarfod Misol un tro, a "hancas" wedi ei thaflu dros ei ben, a hen weinidog sydd eto yn fyw yn pregethu ar y gair hwnw, "Pa fodd y diangwn ni os esgeuluswn iachawdwriaeth gymaint?" Dangosai y pregethwr fawredd yr iachawdwriaeth oddiwrth y ffaith fod yr angylion yn gwasanaethu er mwyn y rhai a gânt etifeddu iachawdwriaeth. "Beth," meddai, "ydyw y gomed sydd yn y golwg y nosweithiau hyn? [Yr oedd comed yn y ffurfafen y pryd hwnw]. Onid mintai o angylion ydyw yn dyfod i gyfeiriad y ddaear i wasanaethu y saint?" "Nage wir, nage wir," meddai Owen Owens yn lled uchel, gan ysgwyd ei ben, a'i holl wynebpryd a'i lygaid yn llawn bywyd a direidi. Dywed ein hen gyfaill, Mr. Robert Owen, Bwlchderwin, y gallai wneyd golwg pur lym ac awdurdodol arno ei hun os byddai raid, gyda'i lygaid melynddu, ac yn enwedig wrth ostwng ei eiliau, ac hyd yn nod ei glustiau, ar adegau. Ac i'r cyfaill hwn yr ydym yn ddyledus am lawer o'r manylion hyn.
O ran ei wisg, gwisgai Owen Owens yn debyg i hen amaethwr gwledig a phlaen ar hyd ei oes, ond yn hynod o drwsiadus a glân bob amser. Het ffelt uchel fyddai am ei ben, a gwisg o frethyn cartre' da am dano. Clôs pen glin a wisgai ymron i'w ddiwedd, a hosanau llwyd-las yn gyffredin, ac esgidiau isel, os ydym yn cofio yn iawn, bob amser. Penodwyd ef yn gynrychiolydd i'r Sasiwn am y flwyddyn 1876, sef y flwyddyn cyn ei farwolaeth; a dyma yr unig adeg yn ei oes y bu heb wisgo ei glôs pen glin. Gresyn hefyd na buasai yno fel ymhob man arall fel efe ei hun, yn Owen Owens, Cors-y-wlad, hollol, yn ei wisg a phob peth, gyda'i glôs pen glin a'r cwbl. Ni welodd pobl y Sasiwn felly mo Owen Owens yn hollol fel yr oedd. Yr oedd y clôs penglin yn hanfodol i wneyd i fyny Owen Owens, Cors—ywlad, fel yr edrychem ni arno yn Eifionydd. Yr ydym yn ofni mai rhyw ddylanwad oddiallan iddo ef ei hun, a fu yn foddion i wneyd i ffwrdd â'r clôs yr adeg hon.
Dychymyged y darllenydd am dano, yn ol y darluniad blaenorol, yn codi i fyny i siarad mewn Sasiwn, neu Gyfarfod Misol, neu Gyfarfod Ysgol, neu Gyfarfod Llenyddol, neu Gyfarfod Dirwest, neu unrhyw gyfarfod arall. Gellid dweyd am dano y foment y codai ar ei draed.—"A llygaid pawb oll yn y synagog oedd yn craffu arno." Ac mor sicr a'u bod yn craffu arno ar y foment gyntaf, byddent yn sicr o graffu arno hyd y foment olaf, oblegid ni flinai neb â meithder Yr ydym wedi cyfeirio yn barod at y tebygolrwydd oedd yn Owen Owens i John Evans o'r Bala, o ran ei wynebpryd, sef yn hir anarferol. A phan welwn ddyn a gwyneb hir ganddo, byddwn yn naturiol yn disgwyl i'r cyfryw fod yn araf ei ymadrodd a'i ysgogiadau; ac felly yr oedd John Evans. Yr oedd yn hynod o araf a phwyllog ei ymadroddion. Yr oedd yn boenus felly, fe allesid meddwl. Ond yr oedd Owen Owens yn yr eithaf arall. Yr oedd yn gyflym anarferol ei edrychiad a'i holl ysgogiadau, a'i barabl yn hynod o hwylus, cyflym, ac ystwyth. Ac hwyrach fod hyn yn peri iddo dynu mwy o sylw, ei fod o ran ei ddull yn hollol wahanol i'r hyn y disgwylid iddo fod. Codai i fyny gyda sydynrwydd y fellten. Odid fawr nad y peth cyntaf a wnai fyddai crafu ei ben, fel pe buasai wedi dyrysu gan y cynhyrfiad. Ac äi ymlaen mor gynhyrfus, fel pe buasai yn siarad yn nghanol taranau a mellt. Cymharai rhywun ef i "afr ar daranau," os ydyw y creadur hwnw yn fwy cynhyrfus na rhyw greadur arall ar adeg felly. Os yn y sêt fawr y byddai yn siarad, byddai yn sicr o sefyll wrth y "pulpud bach," a churai hwnw yn gyflym gyda'i ddwrn chwith, oblegid llaw—chwith ydoedd. A byddai ei fraich ddehau ar yr un pryd yn gwneyd math o haner cylch gwastad, hyny ydyw, cydwastad a gwyneb y llawr; neu ynte byddai ei law ddehau yn pwyso ar ei ochr; neu feallai mai yn mhoced ei wasgod y byddai. Yr oedd ganddo hefyd ryw ddull hynod o wasgu ei ddau ben glin at eu gilydd. A byddai pawb erbyn hyn, nid yn unig yn craffu arno a'u llygaid, ond hefyd, byddai gwên foddhaol ar wyneb pawb yn y lle. Byddai yntau mor gynhyrfus ac mor gyflym ei ysgogiadau a'i ymadroddion, fel nad oedd amser gan neb i edrych i un man ond arno ef. Ond wedi iddo ddarfod, byddai pawb yn edrych ar eu gilydd gyda gradd o syndod a boddhad, ac fel yn methu deall pa le y buont tra y bu yn siarad. Mynych y gwelsom rai o ddynion penaf y Cyfundeb yn cael y mwynhad mwyaf wrth wrando arno, megis Dr. Owen Thomas, Dr. Hughes, &c. A chlywsom Dr. Thomas yn coffa ei sylwadau ar ol hyny mewn lle cyhoeddus iawn, sef yn Seiat y Sasiwn, gan ddangos mor briodol a phwrpasol oedd y sylwadau. Ac nis gallwn anghofio yr olwg foddhaol oedd ar Dr. Hughes wrth wrando arno mewn Cyfarfod Misol yn Fourcrosses unwaith. Cynhelid y Cyfarfod Misol hwnw ddydd Llun, Mawrth 9fed, 1874. Yr oedd yr Etholiad Cyffredinol newydd fyned heibio, a'r ymgeisydd Rhyddfrydol, Mr. L. Jones Parry, Madryn, wedi colli. Yr oedd siomedigaeth fawr oblegid hyn yn y wlad, yn enwedig yn Lleyn, a rhai yn teimlo yn archolledig iawn. A chyn i'r wlad oeri, dyma Gyfarfod Misol Fourcrosses yn dyfod. Mynai rhywrai ddyfod a'r peth o flaen y Cyfarfod Misol. Pasiwyd dau neu dri o benderfyniadau, ac un i fyned i'r Sasiwn. Yr oedd y diweddar Barchn. Griffith Hughes a Robert Hughes, un yn cynyg a'r llall yn cefnogi y penderfyniadau, ac yn eu hafiaeth yn ymosod yn erwin ar y rhai a dybid oedd wedi cefnogi yr ymgeisydd Toriaidd. Yn ystod y drafodaeth, cododd Owen Owens ar ei draed i siarad, a dywedodd, "Yr oedda nina tua Chlynog a Bwlchderwin acw yn teimlo yn anarferol pan gollodd Jones Parry. Ac yr oedd rhai yn myn'd i ysbryd ofnadwy iawn. Yr oedda nhw yn dweyd fod gweision ffermwyr ffordd acw yn rhegi yn anghyffredin. Ni ddar'u mi ddim rhegi w'ch ch'i," meddai, gan wneyd ystum a golwg arno ei hun, a rhoddi pwyslais, fel pe buasai hyny yn rhyw rinwedd mawr ynddo. Aeth pawb i chwerthin drwy y lle, ac nid oedd neb yn mwynhau y peth yn fwy na Dr. Hughes, a chwarddwyd y teimlad drwg i ffwrdd i raddau helaeth. Ond yr oedd Owen Owens yn edrych mor sobr a difrifol a sant yn nghanol y cwbl. Yr oedd Dr. Hughes yn eistedd mewn sedd yn ymyl y drws. Ac yr oedd Owen Owens yn myned heibio iddo wrth fyned allan. Ysgydwai Dr. Hughes law ag ef yn hynod o gynes a siriol, gan ddweyd, "Sut yr yda ch'i? Yr oedda ch'i yn ddoniol anghyffredin." Yr oeddym yn cyd-letya ac yn cyd-gysgu gydag Owen Owens y noson hono yn nhŷ y diweddar Mr. John Parry, Fronerch, blaenor parchus yn y lle. Y drefn y pryd hwnw mewn Cyfarfodydd Misol oedd rhoddi un mewn oedran, ac un ieuanc i gyd-letya gyda'u gilydd. Ymhen y tair blynedd ar ol hyn, sef Ebrill 9fed, 1877, y flwyddyn y bu farw Owen Owens, yr oedd Cyfarfod Misol drachefn yn Fourcrosses. Dechreuai Owen Owens yr odfa y noson gyntaf, o flaen y Parchn. Thomas Owen, Porthmadog, ac Evan Jones, Caernarfon. Lletyai gyda'i hen gyfaill, y diweddar Griffith Owen, Plas-bel; a mawr y mwynhad a gafodd y teulu gydag ef. Dywedai un llanc oedd yn gwasanaethu yno, yr hwn oedd fachgen lled anystyriol, y buasai efe yn barod iawn i dalu am lety ac ymborth Owen Owens, er mwyn cael ei glywed yn cadw y ddyledswydd deuluaidd.