Neidio i'r cynnwys

Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad/Owen Owens o ran nodweddion ei feddwl a'i gymeriad fel dyn a christion

Oddi ar Wicidestun
Owen Owens o ran ei ddyn oddiallan Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad

gan Henry Hughes, Bryncir

Owen Owens fel gweddiwr

PENOD XIV.
OWEN OWENS O RAN NODWEDDION EI FEDDWL A'I GYMERIAD FEL DYN A CHRISTION.

Yn hynod o ran cynheddfau ei feddwl.—Ei arabedd.—Mewn priodas.—Ei nelllduolion fel dyn yn aros ar ol dyfod at grefydd.—Ei iselder ysbryd—Actor hynod.—Diffyg hyder ynddo ei hun.—O synwyr cryf.—Hen wraig a'r afal.—Yr ymborth wedi darfod, a'r ganwyll a'r lantar—Y teithiau Sabbothol a'r helyntion gyda hwy.—Owen Owens a Mr. Jones, Ynysgain.—Yn y gorlan.—Cyflymdra ei feddwl.—Meddwl ei fod yn y nefoedd.—Yn cydfyned â'r oes.—Cyfarfod i holwyddori.—Yn y Cyfarfodydd Ysgolion, a'r Cyfarfodydd Dirwestol a Llenyddol.—Cymanfa Ysgolion yn Nghastell Criccieth.—Ei ddawn yn taro ymhob man.—Yn weithgar gyda'r byd.—Yn dyner fel disgyblwr.Thomas Parry a M—.—Yn onest a phlaen.—Yn hynod am ei ffyddlondeb i foddion gras.—Ei dduwioldeb.

PE na buasai dim i'w ddweyd am Owen Owens ond ei fod yn anghyffredin o ran ei ddyn oddiallan, er mor hynod oedd yn hyny, ni buasai wedi tynu nemawr o sylw, nac yn wir yn werth ei goffâu. Ond yr oedd hynodrwydd dyfnach a mwy cuddiedig yn Owen Owens na hyny. Yr oedd yn hynod hefyd o ran ei feddwl. Yr oedd hynodrwydd yn ngalluoedd a chynheddfau ei enaid yn gystal ag yn ffurf ac aelodau ei gorff. Yn wir, y mae yn anhawdd gwybod pa un ai ei gorff ynte ei feddwl oedd y mwyaf gwreiddiol. Ond rhwng y naill a'r llall yr oedd yn gymeriad hollol ar ei ben ei hun. Ac yr ydym yn credu mai gresyn fuasai i un o'i fath ef gael ei ebargofi. Yn wir, yr ydym bron a meddwl y buasai hyny yn ymylu ar fod yn bechod. Gan hyny, y mae yr ysgrifenydd am anturio ei adgyfodi, a pheri iddo siarad a rhodio eto, megis cynt, yn nhir y rhai byw. Nis gallai fod yn llonydd heb ymdrechu gwneyd hyn, pa un bynag a ydyw wedi llwyddo ai peidio. Darfu i'r hen batriarch ddifyru llawer yn ystod ei ymdaith hir ar y ddaear; ac ni a obeithiwn y gall y darlun a geir o hono yn y llyfr hwn wneyd rhyw gymaint yn y cyfeiriad hwnw i'r genhedlaeth bresenol, sydd wedi codi ar ol ei farwolaeth. Os na wna hyny ni bydd yn gynrychiolydd teilwng i Owen Owens. Bwriadwn i'r llyfr hwn fod yn fath o ddarlun o hono; ac yn y benod hon yr ydym am dynu darlun bychan o hono yn nghanol y darlun mawr,—rhyw ddarlun ar gerdyn bychan, megis.

Un o'r pethau mwyaf amlwg yn Owen Owens, os nad yn wir yr amlycaf oll, oedd ei arabedd, a'r arabedd hwnw yn llawn o'r digrifol. Yr oedd hyn mor naturiol iddo ag anadlu. Yr oedd hyn ynddo er yn blentyn ac yn ddyn ieuanc, a glynodd ynddo ar hyd ei oes ac i'w ddiwedd. Gallai gadw pawb yn ddifyr o'i ddeutu hyd a fynai. Yr oedd hyn ynddo fel y gwelsom pan yn blentyn bychan. Ac wedi tyfu i fyny yn llanc, ni byddai unrhyw gwmni yn ardal ei enedigaeth yn gyflawn heb Owen, Pantglas-ucha, ynddo i beri difyrwch. Yr oedd wedi ei wahodd un tro i briodas, oblegid nid ystyrid hi yn gyflawn heb ei bresenoldeb ef. Trodd yr ymddiddan am bris yr anifeiliaid, a dywedodd rhywun fod y moch yn isel iawn. "Nag ydy' nhw wir," meddai Owen Owens; "mi wel'is i fochyn yn uchel iawn rwan wrth ddwad. Yr oedd o mor uchel a phen tô rhyw dŷ." Yr oedd bargod tô y tŷ hwnw yn gyd-wastad â'r ddaear o'r tucefn iddo. A phan yr oedd Owen Owens yn myned heibio yr oedd mochyn wedi dringo arno, ac yn cerdded ar hyd-ddo. Ac yr oedd y dywediad hwn yn ddigon i wneyd y briodas hono yn llawen am gryn ysbaid. Ac wedi dyfod at grefydd yr oedd y ffraethineb a'r digrifwch hwn yn aros yn Owen Owens; oblegid nid yw crefydd yn dinystrio dim sydd yn naturiol mewn dyn. Nid yw gras yn lladd dim ond y drwg a'r llygredigaeth sydd yn y natur ddynol. A deallodd Owen Owens natur crefydd ar unwaith. Deallodd nad oedd yn galw am iddo dynu gwyneb hir, fod natur wedi gwneyd ei wyneb ef yn llawn ddigon hir yn barod. Ac am blygu pen fel brwynen, ni wybu ddim am dano ar hyd ei oes faith. Yr oedd y bachgen a'r llanc direidus a ffraeth Owen, Pantglas-ucha, yn aros yn yr hen flaenor doniol Owen Owens, Cors-y-wlad, ar hyd ei oes. A da iawn hyny, neu buasem wedi ein hamddifadu yn y wlad hon o un o'r cymeriadau crefyddol mwyaf hynod yn y ganrif bresenol, ac un a dreuliodd oes faith yn dra defnyddiol gyda chrefydd.

A'r hyn sydd yn dra hynod yn amgylchiad Owen Owens, fel ymhob un tebyg iddo ydyw, y byddai ar adegau yn hynod o isel ei feddwl. O gymaint ag y byddai ei ysbryd yn uwch na'r lliaws, o gymaint a hyny y byddai yn myned yn is na neb ar adegau. Bu felly am dymor pan yn lled ieuanc. Yn fuan wedi priodi y tro cyntaf, deallodd nad oedd amgylchiadau ei briod mor dda ag yr oedd wedi meddwl. Ac effeithiodd hyny gymaint arno, fel y syrthiodd i iselder meddwl mawr; mor fawr, fel yr effeithiodd ar ei iechyd am gryn amser, ac y tybiodd llawer mai colli y dydd a wnai. A'r hyn a'i gwaredodd yn y diwedd, ar ol treulio llawer ar feddygon, meddir, oedd yfed llaeth gafr. Prynwyd un i'r amcan hwnw, a chadwyd hi, nes iddo lwyr wellhau. Ac ymhen llawer blwyddyn ar ol hyny, syrthiodd i'r un iselder drachefn. Bu farw geneth fach iddo o bedair i saith mlwydd oed. Yr oedd yntau wedi rhoddi ei galon yn gymaint arni, fel y bu y brofedigaeth bron a bod yn ormod iddo. Cyfaddefodd y bu bron iddo daflu ei hun i ryw lyn, sef llyn corddi Maesog, wrth fyned i chwilio am le beddrod iddi. Ac nis gallwn anghofio hanesyn a ddywedodd wrthym ryw ddwy neu dair blynedd cyn ei farwolaeth. Yr oedd Owen Owens i fod yn llywydd i gyngherdd Mynyddog yn Nghapelisaf y Garn, ryw nos Sadwrn; ond ni ddaeth Mynyddog at ei gyhoeddiad. Ac felly trethwyd doniau a ffraethineb yr hen frawd i raddau pell iawn, ac yntau, erbyn hyn, mewn cryn oedran. Yr ydym yn cofio ei fod yn dweyd yn ystod y cyfarfod: "Yr yda ch'i wedi gofyn i mi ddyfod yma yn llywydd, ond 'does yma ddim llong i'w llywio." Ond er iddo gael ei adael yn unig ymron yn y cyfarfod, ac er y siomedigaeth, llwyddodd er hyny i beri ei fod yn gyfarfod lled fywiog a dyddorol. Yr oeddym yn cyd-letya ac yn cyd-gysgu gydag ef y noson hono; a dywedai ei fod yn teimlo ei feddwl yn isel iawn, ac mai felly y byddai bob amser wedi bod mewn cyfarfod o'r fath. Dywedai. hefyd, y byddai yn meddwl llawer ar adegau felly am hanesyn a glywsai am actor yn Paris rywbryd. Edrychid arno fel y mwyaf enwog yn y dref hono yn y gwaith hwnw. Ond syrthiodd i iselder meddwl mawr, ac i wendid corfforol anghyffredin. Ac er myned at y meddygon mwyaf medrus ac enwog, nid oeddynt yn gallu gwella dim arno. O'r diwedd, dywedodd un meddyg wrtho heb wybod pwy ydoedd, na pha beth oedd ei enw, mai yr unig beth y gwyddai efe am dano fuasai yn debyg o'i wella fuasai myned i edrych a gwrando ar—yn actio, gan ei enwi ef. "Y fi ydy' hwnw," meddai yntau, yn anobeithiol iawn, nes yr oedd y meddyg wedi rhyfeddu yn fawr. Yr ydym yn deall fod yr hanesyn hwn yn cael ei gysylltu hefyd â Garrick, y chwareuydd adnabyddus ac enwog.

Feallai hefyd mai dyma y lle priodol i ddweyd nad oedd ganddo ryw lawer o hyder ynddo ei hun. Yr oedd ganddo ddawn anarferol i gadw Seiat, fel y mae yn hysbys. Ond, eto, os na byddai y blaenoriaid eraill yno ar y dechreu, syrthiai ei feddwl, ac ymollyngai ei ysbryd yn y fan. Llawer gwaith y caed trafferth fawr gydag ef ar adegau felly, rhag dianc adref yn ei ol, a pheidio myned i'r capel o gwbl. Ond gwyddai y cyfeillion ond ei gael yno y byddai pob peth yn iawn. A llawer gwaith y caed Seiat ragorol mewn amgylchiad felly.

Yr oedd hefyd yn un o synwyr cryf a chyfrwysdra anarferol. Nid yn fynych y mae ffraethineb mawr a synwyr cryf yn cydgyfarfod yn yr un person; ond yr oedd y naill mor gryf a'r llall yn Owen Owens. Yr oedd hyn yn peri ei fod yn un medrus, iawn i drin dynion. Yr oedd ganddo fedr mawr i drin pobl Bwlchderwin. Ond cwynai fod yno un hen wraig ag yr oedd yn methu yn lân a gwneyd dim o honi, er treio pob ffordd ati. Clywai ei bod yn ei gablu er pob peth. O'r diwedd, meddyliodd, tybed na buasai caredigrwydd yn ei gorchfygu. Chwiliodd am yr afal mwyaf a phrydferthaf y gallai gael gafael arno—un coch braf. A gwyliodd am gyfleusdra i'w roddi iddi yn y modd mwyaf siriol. "Fuasech ch'i yn leicio cael afal, hon a hon," meddai, gan ei estyn iddi. Trwy hyny, prynodd yr hen wraig, fel na chlybu mwy am ei gwrthwynebiad iddo. Yn amser y "Clwb Du," gyda dirwest, tua 1845—8, byddai corau yn dyfod i ganu i wahanol ardaloedd. Yr oedd Owen Owens wedi bod yn areithio ar ddirwest mewn cyfarfod felly yn ardal Nant Nantlle, a gwahoddodd bobl y lle i ddyfod i Fwlchderwin i gynal cyfarfod, y byddai yno ddigon o ymborth i'w gael. Daeth y cyfarfod, a daeth tyrfa fawr o'r ardal hono iddo. Ond ar y diwedd, aeth Owen Owens i dipyn o brofedigaeth. Wedi i nifer o'r dieithriaid fwyta, gwelai fod yno nifer mawr yn y capel yn disgwyl am ymborth. Aeth at y merched i'r tŷ, gan ofyn sut yr oedd hi yno am ymborth. "Beth oedd eich meddwl ch'i, Owen, mewn difri', yn hel yr holl bobl yma, mae'r bwyd ymron wedi darfod; 'does yma ddim chwarter digon o ymborth iddy' nhw," meddai Margaret Thomas, hen wraig y tŷ capel, yr hon oedd yn dipyn o feistres arno. "Mi wn i beth i'w wneyd," medddai yntau, "Newch ch'i estyn canwyll a lantar i mi, Margiad?" meddai. Estynwyd hi iddo. Aeth yntau at ddrws y capel, a gwaeddodd, "Pawb sydd yn myned dros sarnau yr Ynys, mae yma ganwyll a lantar yn myn'd 'rwan." Gan mai dyna yr unig le i fyned o Fwlchderwin i gyfeiriad Nant Nantlle, a bod yn anmhosibl myned heb oleuni, rhuthrodd pawb allan ac ar ei ol. Ac felly y daeth Owen Owens o'r brofedigaeth hono.

Bu cryn helynt yn Eifionydd yn y blynyddoedd 1868 a 1869, gyda'r teithiau Sabbothol. Yr oedd amryw gapelau newyddion yn cael eu hadeiladu, ac achosion newyddion yn cael eu cychwyn, megis Brynkir, Llanystumdwy, Penmorfa, Prenteg, Pantglas, &c. Cynhaliwyd amryw bwyllgorau ar y mater mewn gwahanol fanau, megis yn Nghriccieth, y Garn, Brynkir, &c. Byddai trafodaeth mynych yn y Cyfarfodydd Misol ar hyn, ac yr oedd Owen Owens yn ffugro cryn dipyn yn y trafodaethau hyn. Yr ydym yn cofio mewn un Cyfarfod Misol fod rhywun yn gofyn, er mwyn dyfod i ryw oleuni ar y mater, pan yr oedd Owen Owens ar ei draed, pa faint o ffordd oedd o Fwlchderwin i un o'r capelau eraill. "Wn i yn y byd w'lwch chi," meddai yntau, gan edrych mor ddiniwed a cholomen; "'does dim cerig milldiroedd yn y corsydd acw, dim ond myn'd, myn'd, o hyd w'ch ch'i." Ni fynai Owen Owens yn y mater yma "symud mor hen derfyn, yr hwn a osododd y tadau." Brynengan, Bwlchderwin, a Thaiduon oedd efe wedi ei weled. A braidd nad oedd yn barod i ddweyd, "Melldigedig yw yr hwn a symudo derfyn ei gymydog;" os nad hefyd i chwanegu, a dyweded yr holl bobl, Amen." Ond yr oedd Brynkir yn achos newydd, ac yr oedd yn rhaid ei gysylltu gyda rhywle. Ac ni welai y Cyfarfod Misol yr un llwybr esmwythach na rhoddi Brynkir a Brynengan gyda'u gilydd, a Bwlchderwin a Phantglas (sef Taiduon) gyda'u gilydd. A chan fod y ddau le diweddaf yn lled wan, yr oedd y Cyfarfod Misol yn addaw eu cynorthwyo i gynal y weinidogaeth. Ond erbyn Cyfarfod Misol Tydweiliog, dyma lythyr o Fwlchderwin "yn gwrthod y rhodd o ddeuddeg punt a basiwyd iddynt yn Nghyfarfod Misol Brynbachau." A'r adgof diweddaf sydd genym am hyn ydyw yr hyn a ddigwyddodd yn Nghyfarfod Misol Bwlchderwin, Mai 31, 1869. Mae yr olygfa yn fyw o flaen ein meddwl y funyd hon:—Owen Owens a'i ben gwyn mawr yn sefyll ar y llawr gan gydio yn ymyl y sêt fawr, a'i wyneb i'r un cyfeiriad, a'r hen foneddwr cywir a chrefyddol, y diweddar Mr. Jones, Ynysgain, yn sefyll yn ei wyneb, o fewn ryw lathen iddo, gan ei gyfarch gydag awdurdod Ustus Heddwch:—"Mae hi'n dyrysu'n lân hefo'r teithiau, yn enwedig yn Mwlchderwin yma. Ac mae nhw yn dweyd allan yna mai arnoch ch'i, Owen, y mae'r bai i gyd. Ac os felly, mi ddylach altro, ac mi ddylach edifarhau." Ond yr oedd tafod Owen Owens mor ddi-lywodraeth a'r asyn gwyllt y sonia Job am dano, yr hwn "a chwardd am ben lliaws tref: ni wrendy ar lais y geilwad." Mae yn ateb ar un gwynt:—"Mi fedrwn ni setlo y mater yma heb yr un Ustus Heddwch; ac am edifarhau, mi edifarha pan ga i amser." Ar ddiwedd y cyfarfod, dywedai un arall wrth Owen Owens, yr hwn oedd yn bur hyf arno:—"Yr o'n i yn dy weled di heddyw, Owen, yn debyg iawn i fel y byddem ni pan yn blant, yn troi o amgylch 'cocyn hitio,' ac yn y diwedd yn syrthio ar ei draws." "Fel yna y mae hunan, yn medru cael tamaid lle na fedr ceiliogwydd," meddai Owen Owens yn ol. Ond yr hyn "a ysgrifenwyd a ysgrifenwyd;" yr oedd yn rhaid i'r hen frawd ymostwng i benderfyniad y Cyfarfod Misol. Ond mynych y clywsom ef yn cwyno ar ol hyn mewn Cyfarfodydd Misol, mai bod ar y plwyf oedd derbyn yr arian hyn gan y Cyfarfod Misol. Ac os byddai rhyw un yn grwgnach fod Bwlchderwin yn cael yr arian hyn, dywedai yn y fan, "Peidiwch a'u lliwiad (edliw) nhw i ni, da ch'i. Mae yn ddigon bod ar y plwyf heb liwiad hyny i ni wed'yn."

Fel y cyfeiriwyd, yr oedd yn hynod o wyllt ei dymer, a byddai yn colli pob llywodraeth arno ar adegau. Ond yr oedd yn ddigon call i gymeryd gwers oddiwrth hyny. Yr oedd efe ac eraill wedi cau y defaid mewn corlan un tro, er mwyn eu marcio. Safai efe yn nrws y gorlan, a'r pot tar yn ei law; ond neidiodd rhai o'r defaid heibio iddo ac ar ei draws; syrthiodd yntau, a chollwyd holl gynwys y pot. Collodd ei dymer hefyd, a dywedir ei fod wedi rhegi. Ond ar ol hyny nis gellid ei gael ef byth mwyach i sefyll yn nrws y gorlan; byddai yn rhaid i rywun arall sefyll yno. Daeth cymydog ato unwaith mewn ffair, pan yn ceisio gwerthu buwch i Sais, ac heb fedru dim Saesneg. "Owen Owens," meddai, "dowch yma, mae gyno ch'i Saesneg." "Na, dim ond tipyn at fy Ie, dim i spario i neb," meddai yntau, ac ymlaen ag ef. Ni fynai gael edrych arno fel un yn honi rhywbeth nas gallai, ar un cyfrif. Byddai rhai weithiau yn y train yn ceisio ei dynu allan drwy ymosod ar y Methodistiaid, neu ar rai o'r pregethwyr mwyaf a feddent. Ond byddai Owen Owens yn hollol ddistaw. Ni chaent ganddo ddweyd yr un gair felly. Ni chodai byth i siarad yn y Cyfarfod Misol heb ei gymell. Nid ydym yn cofio ei weled yn codi erioed heb i rywun alw arno. Ond pan godai, gallesid meddwl ei fod wedi bod yn darparu llawer ar gyfer hyny, gan mor briodol fyddai yr hyn a ddywedai.

Nodwedd arall amlwg iawn ynddo oedd parodrwydd a chyflymdra ei feddwl a'i ymadrodd. Byddai yn arfer dweyd y gwnai efe araeth tra y byddai y crochan uwd yn berwi cystal ag y gwnai hi byth, hyny yw, mewn rhyw ugain munyd o amser. Byddai yn rhaid iddo gael edrych Gurnal cyn myned i bob Seiat. A thrwy ryw reddf deuai o hyd i'r gemau oedd ynddo gyda'r cyflymdra mwyaf. Mewn rhyw ddau funyd neu dri byddai wedi eu gweled, ac wedi eu rhoi yn ddiogel yn ei gof. Ac wedi myned i'r Seiat, byddai yn troi ac yn trosi y rhei'ny o flaen y seiat nes dotio pawb yn y lle. Dyma oedd yn ei wneyd yn gymaint o favourite yn y Cyfarfodydd Llenyddol. Gwelai rywbeth priodol a digrifol i'w ddweyd ar darawiad llygad, a gosodai ef allan yn yr ymadrodd mwyaf pert new ysmala ar unwaith. Clywsom y Parch Edward James (A.), Nefyn, yn dweyd er's ychydig ddyddiau yn ol ei fod yn llywydd mewn Cyfarfod Llenyddol unwaith yn Nghapel Helyg. Yr oeddis wedi cynyg gwobr am araeth ddifyfyr ar ryw fater na'i gilydd, ond ni ddaeth neb ymlaen. A gwnaeth Owen Owens araeth ei hunan. Dywedodd un o'r beirniaid ei fod yn haeddu y wobr, a chynygiwyd llyfr iddo yn dwyn y teitl, "Y ffordd i uffern." "Na," meddai yntau yn y fan, "'fyna i mono fo, scapio (escape) y lle hwnw ydy' mhwnci." "Ni ddywedodd o ddim tebyg i hynyna y noson hono," meddai Mr. James, "ond gwelwn ar unwaith fod yr hen ddawn yno." A chlywsom Mr. Rees Roberts, Harlech, yn dweyd er's ychydig wythnosau yn ol, ei fod mewn Cyfarfod Llenyddol yn y Garn tua'r flwyddyn 1853 neu 1854, ac Owen Owens yn llywydd. Yr oedd côr yn canu. Ymddangosai Owen Owens tra yr oedd y canu yn myned ymlaen fel un yn cysgu, yn hollol lonydd, a'i lygaid yn nghauad. Ond y foment yr oeddynt yn darfod, neidiodd i fyny yn sydyn, a golwg gynhyrfus arno, ac meddai, "Bobol anwyl, mi 'ddyl'is i mai yn y nefoedd yr oeddwni: y clock wedi stopio, a chanu ardderchog." Nid oedd y clock yn myned ar y pryd. Nid allai aros bod yn ara' deg gyda dim, yn enwedig yn moddion gras. Yr oedd hen flaenor o'r enw Sion Jones, Llwyngwanad, yr hwn oedd yn ysgrythyrwr a duwinydd rhagorol, ond oedd yn hynod bwyllog ac araf gyda phob peth. Galwai Owen Owens arno i fyned i weddi. Ond hwyrfrydig iawn oedd Sion Jones i godi, er nad oedd yn meddwl peidio ufuddhau. "Ddowch ch'i ynte, Dafydd Phylip," meddai Owen Owens, "tra y bydd Sion Jones yn hel ei bac?”

Yr oedd yn ieuangaidd ei ysbryd, ac yn cydfyned â'r oes yn dda. Yr oedd yn eang ei ysbryd, ac yn gyfaill calon i'r bobl ieuainc. Yr oedd felly ar hyd ei oes, ac yr oedd felly i'w ddiwedd. Yr oedd yn llawn o ysbryd cyhoeddus. Pa symudiad bynag er daioni fyddai yn y wlad, ni byddai trafferth yn y byd i gael Owen Owens i ysgogi gydag ef. Na, byddai efe yn un o'r rhai cyntaf i ymgymeryd ag ef, ac i daflu hyny o ddylanwad a feddai o'i blaid. Yr oedd yn ddwy-ar-bymtheg oed pan ddechreuodd y Cyfarfodydd Ysgolion yn y wlad, a gweithiodd yn rhagorol gyda hwy am yn agos i driugain mlynedd. Bu yn llywydd arnynt, yn ymwelwr a'r ysgolion, ac areithiodd fwy na mwy ynddynt. Cynhaliodd hefyd lawer o gyfarfodydd ar nos Sabbothau, oeddynt yn fath o Gyfarfodydd Ysgolion, ar raddeg fechan. Diau iddo wneyd llawer o ddaioni gyda'r cyfarfodydd hyn yn ardaloedd Eifionydd. Cynhelid hwy yn lle cyfarfod gweddi mewn manau na byddai pregeth ynddynt. Byddai parotoi mawr ar eu cyfer, a disgwyliad mawr am danynt. Yr oedd cyfarfod felly un tro yn Nghwmcoryn, ac yr oedd Owen Owens wedi cymeryd yn gwmni gydag ef ddyn ieuanc, y diweddar Mr. Owen Roberts, Hendy, meddyg anifeiliaid adnabyddus yn y rhan yma o'r wlad. Ar y diwedd yr oedd Owen Owens yn bwyta yn y tŷ capel, ac Owen Roberts yn ei aros wrth y drws oddiallan. "Ydy' o'n proffesu?" gofynai rhywun o bobl y lle i Owen Owens. "Wel, mae o'n proffesu y medr o fwyta," oedd yr ateb ar unwaith. Mewn ambell ysgol fechan ni cheid Cyfarfod Ysgol rheolaidd. A'r hyn a geid yn lle hyny fyddai un o'r cyfarfodydd hyn gan Owen Owens. Cynhaliodd amryw o honynt yn ysgol y Gwindy. Dywedir y byddai yn cael hwyl anghyffredin i holwyddori ar yr achlysuron hyn.. Dywedir y bu yma gyfarfod hynod iawn tua'r flwyddyn 1846. Y mater yr holid arno oedd y benod gyntaf yn y llyfr bychan hwnw, "Oriau olaf Iesu Grist," gan Lewis Jones o'r Bala. Yr oedd y teimlad dipyn yn ddwys ar hyd y cyfarfod wrth adrodd am ing Gethsemane, yn null tyner a hapus y llyfr bychan hwnw; ond ar waith gwraig y tŷ, Mrs. Owen, priod y diweddar Barch. John Owen, yn adrodd y geiriau hyny gydag aceniad clir, pwyslais priodol, a theimlad tyner, tua diwedd y cyfarfod, "Sethrais y gwinwryf fy hunan, ac o'r bobl nid oedd un gyda mi. Edrychais hefyd ac nid oedd gynorthwywr; rhyfeddais hefyd am nad oedd gynhaliwr," torodd pawb yn y lle i wylo. Dro arall yr oedd Owen Owens yn yr hwyl fawr yn holi, a throes at wr y tŷ, y diweddar Mr. John Roberts, a gofynodd iddo, "Tybed a fydd hi yn well yn y nefoedd, deudwch, nag ydy' hi yma heddyw?" Ac meddai yntau yn ol, "Ni welodd llygad, ac ni chlywodd clust, ac ni ddaeth i galon dyn, y pethau a ddarparodd Duw i'r rhai a'i carant ef." Parhaodd Owen Owens i ddilyn y Cyfarfodydd Ysgolion hyd o fewn ychydig wythnosau i'w ddiwedd. Er nad oedd ganddo unrhyw swydd ynddynt er's blynyddoedd, eto yr oedd y fath ymlyniad ynddo wrthynt, a'r fath groesaw iddo ynddynt, fel y daeth i un o'r rhai diweddaf, os nad y diweddaf oll, a ddigwyddodd yn ystod ei fywyd. Yr oedd yn agos i ddeugain oed pan ddaeth dirwest i'r wlad. Ond ymunodd Owen Owens a'r symudiad ar unwaith, er na bu y ddiod feddwol yn un demtasiwn iddo erioed. Dywedodd mewn lle mor gyhoeddus a'r Sasiwn na ddarfu iddo feddwi yn ystod ei fywyd. Areithiodd lawer mewn cyfarfodydd dirwestol ar hyd ei oes. Byddai yn areithio mewn cyfarfodydd poblogaidd iawn. Cynhelid Cymanfa Ddirwestol bwysig iawn yn Nhremadog bob blwyddyn am saith neu wyth mlynedd, sef tua 1837-1845. Byddai oddeutu dwy fil o bobl yn bresenol yn y cyfarfodydd hyn, a chynhelid hwy yn mis Medi neu Hydref bob blwyddyn. Bu Owen Owens yn areithio mewn mwy nag un o'r cyfarfodydd hyny. Dywedai un tro fod Dirwest yn cael gwrthwynebiadau mawrion, ond nad oedd pob gwrthwynebiad a gai yn ddim ond peri iddi lwyddo mwy, a pheri i'w phleidwyr fod yn fwy selog a gweithgar drosti. "Yr oedd hen wr unwaith," meddai, "yn cau rhan o'r mynydd allan. Wedi iddo godi y clawdd o gwmpas y lle, byddai rhywrai yn barhaus yn ei chwalu erbyn dranoeth. Ond daliai yr hen wr ati o hyd i ail adeiladu. Ac yn lle ei adeiladu yn yr un man, byddai yn ei adeiladu yn mhellach ac yn uwch i'r mynydd bob tro. Ac felly yr oedd eu gwaith hwy yn chwalu y clawdd, nid yn unig heb ddigaloni yr hen wr, a pheri iddo roddi y cwbl i fyny, ond yr oedd hyny yn peri iddo awyddu am eangu ei derfynau yn barhaus; ac felly gwelent mai gwell oedd iddynt beidio ei rwystro, ac mai gwell oedd iddynt adael iddo. Felly y mae Dirwest. Po fwyaf o rwystrau y mae yn ei gael, mwyaf yn y byd y mae yn myned rhagddi. Ac os ydyw y gelynion am iddi beidio llwyddo, gwell iddynt adael llonydd iddi, a pheidio ceisio chwalu ei chloddiau, neu y mae yn siwr o eangu ei therfynau, a gwneyd ei chloddiau yn uwch i'r mynydd o hyd."

Yr oedd Owen Owens yn agos i bymtheg a deugain oed pan ddechreuodd y Cyfarfodydd Llenyddol yn y wlad; ond yr oedd efe yn un o'r rhai cyntaf a ymunodd a hwy. Ac er fod ei ben erbyn hyn yn lâs, yr oedd mor fywiog ynddynt ag un bachgen deunaw oed, a thaflodd fwy o fywyd ac ysbryd iddynt na neb yn y wlad. Pan yr oedd wedi cyraedd ei ddeg a thriugain oed, cynhelid Cymanfa Ysgolion (yr hyn oedd yn beth newydd yn yr ardaloedd hyn) yn Nghastell Criccieth i Ddosbarth Eifionydd am ddwy neu dair blynedd; ac yr oedd Owen Owens ynddynt yn selog, er nad oedd braidd neb arall yno o Fwlchderwin. Ymliwiai â hwy y Sul cyntaf ar ol hyny, gan ddweyd, "Pe buasai Castell Criccieth wedi dyfod i Bantglas, yr ydw' i yn ofni nad aethai rhai o honoch ch'i ddim yno." Ni ddechreuodd Undeb yr Ysgol Sabbothol, y Safonau, a'r Arholiadau, am rai blynyddoedd ar ol ei farwolaeth; ond credwn y buasai Owen Owens mor selog drostynt a neb, pe buasai yn fyw. Yr un fath am bob symudiad yn ei gapel ei huu. Yr oedd yn ystwyth iawn i gyd—fyned â phob symudiad da. Un peth y clywsom y caed tipyn o drafferth gydag ef oedd, cael casgliad at y weinidogaeth yn y gynulleidfa. Dangosai gryn wrthwynebiad i hyny. Ymliwiai un o'r gwrandawyr gydag ef, gan ddweyd, "Beth sydd gynoch ch'i yn erbyn cymeryd ein harian ni at y weinidogaeth, os yda ni yn leicio eu rhoi nhw? Mae nhw cystal arian a'ch rhai chwithau." "Na," meddai yntau, "mi fedrwn ni fyn'd ymlaen hebddoch ch'i, os nad yda ch'i am roi eich hunain." Chwareu teg iddo, onide? Onid oedd ganddo reswm lled dda? Yr oedd hefyd yn erbyn rhoddi Seiat ar ol y bregeth. Ond, onid oedd rhai o ddynion goreu a doethaf y Cyfundeb o'r un syniad?

Yr oedd doniau Owen Owens hefyd yn amrywiol iawn. Nid mewn un cylch yr oedd ei ddawn yn taro. Gwelir llawer yn dra chymwys mewn un cylch, ond yn ddigon anfuddiol mewn cylchoedd eraill; ond yr oedd dawn Owen Owens yn gymwys i gyfarfod â chyfarfodydd tra gwahanol i'w gilydd. Yr oedd ei ddawn yn gymwys i'r cyfarfod eglwysig, ac i'r Cyfarfod Llenyddol; i'r cyfarfod gweddi, fel y cyfarfod dirwestol; i'r angladd, yn gystal ag i'r cyngerdd. Ac yr oedd yn anhawdd gwybod ymha le yr oedd fwyaf; yn ei weddiau, ynte yn ei areithiau. Yr oedd lawn mor hynod yn y naill gylch a'r llall. Ac os byddai yn ddigrifol yn ei areithiau weithiau, ac yn cynyrchu chwerthin, ceid odid fawr ryw sylw bachog a gwir ymarferol yn ymyl hyny.

Yr oedd yn ddiwyd, ymroddgar, a gweithgar gyda'r byd. Er mor weithgar ydoedd gyda chrefydd, nid oedd felly ar draul esgeuluso ei amgylchiadau. Yr oedd yn un o'r bobl fedrus hyny sydd yn gallu gwneyd y goreu o'r ddau fyd. Er fod ei amgylchiadau yn dra isel a chyfyng, fel y cyfeiriwyd, pan yr oedd yn ieuanc, eto, cyn marw, yr oedd yn dra chlyd arno, ac yn werth llawer o ganoedd o bunau. Credai ac actiai gyngor hen Ficer Lianymddyfri, i'w fab:

"Cod y bore ar y wawr—ddydd,
Am cyntaf a'r uchedydd;
Hyn a'th helpia i gael hir iechyd,
Dysg, a dawn, a chyfoeth hefyd."


Elai i'w wely rhwng wyth a naw o'r gloch y nos, a chodai rhwng pedwar a phump yn y boreu. A byddai yn rhaid i bawb fyddai yn ei wasanaeth wneyd yr un modd. Gwnai hyn hefyd ar y Sabboth fel pob diwrnod arall.

Yr oedd yn dyner fel disgyblwr. Dywedir am y diweddar Barch. Joseph Thomas, nad oedd yn ddisgyblwr llym, ac nad oedd ganddo feddwl mawr o'r bobl oedd yn gryfion yn y cyfeiriad hwnw. "Dywedai, hefyd, i ni golli canoedd o'n haelodau oherwydd ffolineb, ac ysbryd angharedig rhai pobl gyda disgyblu." Gallesid meddwl fod Owen Owens yn debyg iddo yn hyn; o leiaf, y mae genym engreifftiau o'i dynerwch a'i gallineb gyda hyn; a hyny yn effeithio er daioni ar y rhai yr arferid tynerwch tuag atynt. Gallwn gyfeirio at ddwy engraifft o hyn, y rhai sydd yn gredyd i'w ben a'i galon, ac yn berarogl i'w goffadwriaeth. Yr oedd bachgen ieuanc o Sir Fon, o'r enw Thomas Parry, wedi dyfod i wasanaethu i'r ffarm agosaf i Owen Owens, sef ffarm arall o'r enw Cors-y-wlad, lle yr oedd Edward Parry yn byw. Daeth a phapyr aelodaeth i Fwlchderwin ar ddechreu y tymor; ond trwy esgeulusdra a dylanwad cwmni drwg, ac yntau yn fachgen llawn bywyd a direidi, aeth y tymor heibio heb iddo ef fod yn y Seiat ymron o gwbl. Yr oedd ei dad yn hen wr duwiol iawn, a'r peth diweddaf a ddywedodd wrtho wrth ei ddanfon dros y Fenai oedd, am iddo ofalu am gael papyr aelodaeth i ddyfod yn ol. Ond erbyn diwedd y tymor, meddyliodd mor sobr fyddai gwynebu ei dad heb yr un papyr. Aeth at Owen Owens yn ei brofedigaeth i ddweyd ei gwyn. Anogodd yntau ef i ddyfod i'r Seiat ei hunan, ac y rhoddai efe y peth o flaen y Seiat mor dyner a thirion ag y gallai. Wedi i'r cyfarfod ddechreu, rhoddai Owen Owens y peth gerbron yn ei ddull plaen a deheuig ei hun:—"Mae Twm Parri wedi dwad ato ni heno fel y gwelwch ch'i, ni bu yma er's cryn amser o'r blaen. Mae wedi bod mewn tir lled bell. Ond y mae hyny wedi dyfod i boeni cryn lawer arno. Mae myned oddiyma heb bapyr aelodaeth wedi dwad i bwyso yn lled drwm ar ei feddwl. Mae meddwl am ddywediad olaf ei dad wrtho wrth adael Sir Fon yn pwyso yn drwm ar ei feddwl, am iddo ofalu am gael papyr aelodaeth i ddyfod yn ol. Dyna'r peth o'ch blaen ch'i, frodyr. Beth yda ch'i yn feddwl?" Fe ddywedodd amryw frodyr air, gan ddangos awydd am iddo gael papyr. Ac, meddai Owen Owens ar ol pawb:—"Wel, fe ro'wn ni bapyr i ti, Twm bach, ar goel," gan awgrymu eu bod yn rhoddi papyr iddo, gan obeithio y deuai yn well. A "choel" rhagorol fu hwnw i Thomas Parry. Adwaenem ef yn dda. Bu yn aelod am dymhorau ar ol hyny yn Mrynengan, un o'r eglwysi yr ydym mewn cysylltiad a hwy. Yr oedd yn fachgen tyner, caredig, a gwir grefyddol. Ac yr oedd yn un a llawer o dalent ynddo, yn ddatganwr ac adroddwr rhagorol. Yr oedd hefyd yn meddu y dalent hynod hono i raddau, sef taflu y llais. Ni bu fyw yn hir iawn ar ol hyny. Bu farw ag arwyddion arno ei fod yn myned i le gwell. Mae yn anhawdd gwybod beth a ddaethai o hono onibai tynerwch a doethineb Owen Owens tuag ato yn yr adeg hono. Yr engraifft arall oedd merch ieuanc ddymunol o'r enw M——. Yr oedd si allan ei bod yn siarad â dyn ieuanc digrefydd. Yr oedd amryw wedi bod yn ceisio dylanwadu arni i beidio, ond mewn ffordd rhy lym, a cheryddol, ac awdurdodol. Nid oedd y dull hwnw yn tycio dim gyda hi, a deallodd Owen Owens hyny. Ymddiddanodd â hi mewn dull tyner, a dywedodd wrthi yn ei ddull didaro ond doeth ei hun,—"Wel, waeth i ti beidio am wn i." Ni chlywyd y gwyn hon byth mwy am M——. Priododd yn anrhydeddus âg un arall cyn hir. Mae yn wraig barchus er's llawer blwyddyn, ac erbyn hyn yn weddw alarus.

Yr oedd hefyd yn onest a phlaen. Nid oedd dim yn Phariseaidd o gwmpas Owen Owens yn ei grefydd. Ni fedrai wisgo ryw ffug-sancteiddrwydd am dano, o leiaf ni wnaeth hyny. Ni wyddai ddim am dynu gwyneb gor-sanctaidd, na gwneyd rhyw don or-grefyddol. Yr oedd yr hen Fethodistiaid yn cael y gair—o fod felly, o wneyd y pen yn gam, a gwneyd rhyw dôn grefyddol. Pe buasai yntau yn fwy felly, diau y buasai yn fwy cymeradwy yn ngolwg rhyw bobl. Ond er gwybod hyny, ni fynai Owen Owens fod yn neb ond efe ei hun. Mynai fod yn—efe ei hun yn ei holl noethder, fel y daeth o law ei Greawdwr, heb ystumio dim arno ei hun. Dywedai yn onest pa fodd y byddai yn teimlo yn ngwyneb troion Rhagluniaeth, er bod yn y perygl o gael ei gamddeall, a chael priodoli iddo feddyliau annuwiol a grwgnachlyd. Yr oedd mewn Cyfarfod Misol rywbryd yn Llanllyfni, un o'r cyfarfodydd hyny a elwid yn Gyfarfod Chwarterol. Byddai Cyfarfod Misol Arfon a Chyfarfod Misol Lleyn ac Eifionydd yn cyfarfod eu gilydd bob chwarter am dymor. Yr oedd ar y pryd yn adeg cynhauaf gwair, ac yn dywydd gwlyb anarferol, un o'r tymhorau mwyaf felly oedd wedi ei wneyd er's llawer o flynyddoedd. Bu yno lawer o siarad ar hyn, gan anog eu gilydd i beidio grwgnach yn erbyn llywodraeth y Brenin Mawr; a phenderfynwyd cynal cyfarfod gweddi ar yr achos Galwodd y diweddar Barch. John Owen, Gwindy, y pryd hwnw, yr hwn, mae'n debyg, oedd llywydd y cyfarfod, ar Owen Owens i ddweyd gair. Cododd ar ei draed, a dywedodd eiriau tebyg i hyn,—" Wel, gyfeillion, mae hi'n bur sobr, ac yn arwyddo myned yn gyfyng iawn ar yr anifeiliaid, ac yr yda ch'i yn ein hanog ni yn gryf i beidio ag ymwylltio a gwarafun. Wel, rhaid i mi ddweyd mai ar ryw adeg fel hyn y bydda' i yn myn'd o'm tymer yn lân. Meddyliwch am adeg pan fydd hi wedi sychu am ddiwrnod neu ddau. A phan yn dechreu myned i gario y gwair, dyma gawod drom o wlaw yn dyfod, yn dyrysu pawb, ac yn gwneyd y gwair yn waeth nag yr oedd cyn hyny. Ni 'ddyliech ch'i byth mor an'odd ydy' i ddyn ddal ei ysbryd yn agos i'w le ar adeg felly." Teimlai pawb yn y lle ei fod yn darlunio agwedd ei feddwl yn onest, a chafodd ei eiriau effaith ddymunol ar bawb. Yr oedd y tymor y bu farw yn dymor pur debyg i'r uchod. Yr oedd y flwyddyn hono (1877) yn flwyddyn ddigalon iawn i amaethwyr. Nid oedd wedi gwneyd tywydd i dyfu ffrwythau y ddaear, nac ychwaith i'w casglu. Ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth yr oedd "Dydd Diolchgarwch." Yr oedd yntau yn bur isel ei feddwl ar y pryd, ac wedi ei feddianu i raddau gan ysbryd anghrediniol. Tybir hefyd ei fod wedi cael cyffyrddiad ysgafn o'r parlys. Ar Ddydd Diolchgarwch byddai yn arfer dweyd gair ar y mater. A'r flwyddyn hono fe ddywedai fel arfer. "Mi obeithia i," meddai, "y byddwch ch'i yn onest wrth ddiolch. Peidiwch a rhagrithio. 'Dyda ni ddim wedi cael ffrwyth eleni, a 'dyda ni ddim wedi cael tywydd chwaith i'w gasglu. Peidiwch a rhagrithio beth bynag wrth ddiolch. 'Dyda ni ddim wedi cael tatws nac ŷd." Yr ydym yn dweyd hyn i ddangos mor onest, ac unplyg, a naturiol ydoedd, a hyny hyd yn nod mewn lleoedd cyhoeddus.

Yr oedd Owen Owens hefyd yn hynod am ei ffyddlondeb i foddion gras yn ei gartref. Pa mor hynod bynag oedd am ei ffraethineb, a'i synwyr cyffredin cryf, yr oedd yn llawn mor hynod am ei ffyddlondeb. Mae llawer yn ymddangos yn rhai pur hynod pan oddicartref, ond heb fod o nemawr o werth yn eu cartrefi. Ond nid un o'r dosbarth yna oedd Owen Owens. Na, er y byddai mewn cyfarfodydd yn fynych oddicartref, nid oedd yn gwneyd hyny ar draul esgeuluso y moddion yn ei gartref. Ni chollai nemawr i foddion. Yr oedd yn meddu ar y cymeriad prydferth hwnw a roddir i Hananiah, "Efe oedd wr ffyddlawn, ac yn ofni Duw yn fwy na llawer." Ac y mae y pwysigrwydd i flaenor fod yn ffyddlon yn amlwg. Nis gallwn anghofio darluniad y diweddar Mr. David Roberts, Hope Street, Lerpwl, o bwysigrwydd ffyddlondeb mewn swyddog eglwysig. Dywedai,—"Beth yw y cymhwysder cyntaf mewn blaenor? Fyddlondeb. Beth yw yr ail gymhwysder? Ffyddlondeb. Beth yw y trydydd cymhwysder? Ffyddlondeb." Hyny ydyw, dyna y cymhwysder penaf ynddo, a'r hyn sydd yn gosod gwerth ar bob cymhwysder arall. Ac os bydd yn amddifad o ffyddlondeb, mae pob cymhwysder arall yn myned ymron yn hollol ddiwerth. Ac y mae y Methodistiaid wedi eubendithio â llu o'r dosbarth yna; a gellir eu galw yn "ardderchog lu" mewn gwirionedd. Mae llwyddiant Methodistiaeth i'w briodoli i raddau helaeth i'r fintai ragorol yma. Pa mor ddyledus bynag ydyw Methodistiaeth i'w phregethwyr, y mae hefyd yn ddyledus i raddau mawr i'w blaenoriaid. Ac y mae i Owen Owens le anrhydeddus ymysg y dosbarth hwn.

Ond uwchlaw y cwbl, credwn fod Owen Owens yn ddyn duwiol. Oni b'ai ein bod yn hollol argyhoeddedig o hyn, ni buasem yn ysgrifenu y llyfr hwn. Po agosaf yr aem ato, tebycaf yn y byd a fyddem o gredu yn ei dduwioldeb. Y rhai pellaf oddiwrtho fyddai debycaf o ameu hyn, a'i ganddeall. Ni welai y rhai hyn ddim ymron ond y dywediadau digrifol, a'r effaith a ganlynai hyny, sef y chwerthin a'r mwynhad. Tystiolaeth unfrydol, ymron, pobl ei ardal ef ei hun, sef Bwlchderwin, ydyw, mai dyn wedi cael gras oedd Owen Owens. Ac wedi myned yn nes eto ato, sef i'w deulu, y mae yr argyhoeddiad yn myned yn gryfach fyth mai dyn duwiol ydoedd. Yr oedd yr allor deuluaidd i fyny yn ddifwlch yn Nghors-y-wlad. Dyna dystiolaeth unfrydol y rhai a fu yn gwasanaethu yno. A dyma goron yr holl ragoriaethau eraill—duwioldeb, a'r hyn sydd yn gosod gwerth arnynt oll.

Nodiadau

[golygu]